Course Rep T C

Page 1

UNDEB BANGOR

Pecyn Recriwtio Hyfforddwyr

Cynrychiolwyr Cwrs Swyddi

www.undebbangor.com/swyddi

Croeso

Rydym am recriwtio staff sy ’ n fyfyrwyr i weithio yn Undeb Bangor a hoffem ichi ystyried gwneud cais.

Croeso i becyn recriwtio Undeb Bangor i swyddi staff sy ’ n fyfyrwyr, fydd yn ddechrau taith gyffrous i chi gobeithio. Rydym yn cynnig cyfleoedd cyffrous i chi weithio i Undeb Bangor

(Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor) a fydd yn eich helpu i ennill sgiliau a phrofiad gwerthfawr ynghyd â chyflogaeth â thâl.

Mae Undeb Bangor yn sefydliad llwyddiannus, bywiog a chyffrous, ac mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn - dyna pam ein bod yn bodoli. Ein nod yw cynrychioli a darparu gwasanaethau i'n myfyrwyr; trwy weithio gyda ni byddech chi'n helpu i gyflawni'r nod hwnnw.

Fel sefydliad rydyn ni eisiau amgylchedd sy ' n hwyl, yn broffesiynol ac yn darparu gwasanaeth gwych i'n haelodau. Os credwch y gallwch chwarae rhan yn hyn ac y gallwch wneud cyfraniad, anfonwch eich cais atom.

Dyddiad Cau: Hanner dydd

/12.00pm Dydd Llun, 14 Awst

Ni dderbynnir ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn

Cyfradd Cyflog yr Awr: :

Byddwch yn cael y Cyflog Byw Go Iawn sydd ar hyn o bryd yn £10.90 yr awr.

Yn ogystal â hyn byddwch yn derbyn lwfans gwyliau yr awr o 12.07% gan ddod â chyfanswm eich cyfradd fesul awr i £12 22, felly ni fyddwch yn cael eich talu am unrhyw ddiwrnodau gwyliau blynyddol y byddwch yn eu cymryd. Os ydych chi'n gweithio shifft 9-5, bydd disgwyl i chi gymryd egwyl ginio o 45 munud a bydd hyn yn cael ei dynnu o 'ch cyflog os ydych chi'n cymryd yr egwyl ai peidio

DISGRIFIAD SWYDD

DWYIEITHOG & HYFFORDDWYR SAESNEG)

2023/24

Nod y rhaglen yw

Grymuso ac uwchsgilio tîm o fyfyrwyr i fod yn hyfforddwyr sy ’ n fyfyrwyr.

Datblygu hyfforddiant cynrychiolwyr cwrs i fod yn fwy perthnasol i gynrychiolwyr sydd wedi'u recriwtio, gan eu helpu i deimlo'n fwy cyfforddus ac wedi'u grymuso yn eu swydd.

Cefnogaeth i leihau pwysau ar staff yn ystod y cyfnod croeso a ' r tymor cyntaf.

Creu mwy o swyddi myfyrwyr cyflogedig i gynorthwyo yn yr argyfwng costau byw

Y swydd ddisgrifiad

Cefnogi darparu hyfforddiant Undeb Bangor a darparu hyfforddiant cynrychiolwyr cwrs i garfannau o fyfyrwyr yn ystod cyfnodau derbyn trwy gydol y flwyddyn yn ôl yr angen. Cynhelir hyn yn bennaf ym mis Hydref gyda'r posibilrwydd o hyfforddiant gloywi ac i fyfyrwyr a dderbynnir canol blwyddyn

Byddwch yn

Gweithio am hyd at 30 awr i ddatblygu eich sgiliau, cyflwyno hyd at 6 sesiwn hyfforddi dros 3 prynhawn, a chymryd rhan mewn mesurau adrodd ar ôl hyfforddi myfyrwyr

Cael hyfforddiant hanfodol cyn dechrau’r tymor i ddatblygu eich sgiliau a dod yn

gyfarwydd â’r rhaglen hyfforddi ac yn gallu ei chynnal yn hyderus

Gweithio ochr yn ochr â thîm o hyfforddwyr sy ’ n fyfyrwyr i gyflwyno hyfforddiant i

gynrychiolwyr cwrs mewn parau, ar draws disgyblaethau, lefelau, a dulliau astudio, trwy

gydol y flwyddyn academaidd yn ôl yr angen

Darparu hyfforddiant i fyfyrwyr yn y Gymraeg a Saesneg (hyfforddwyr dwyieithog)

Darparu hyfforddiant i fyfyrwyr yn Saesneg (hyfforddwyr Saesneg)

Sicrhau bod cynrychiolwyr cwrs yn deall pwysigrwydd cynrychiolwyr myfyrwyr i wella'r

modd y darperir hyfforddiant

HYFFORDDWYR CYNRYCHIOLWYR CWRS (HYFFORDDWYR

Cydweithio’n hapus â staff y brifysgol a staff yr undeb ac arweinwyr myfyrwyr i

ddarparu hyfforddiant

Paratoi eich sesiwn hyfforddi ymlaen llaw a chyrraedd pob sesiwn – os yn y cnawd – o leiaf 20 munud cyn yr amser dechrau a sicrhau eich bod yn gadael y lle fel yr oedd

cyn i chi ei ddefnyddio

Adrodd i Dîm Llais y Myfyrwyr gydag unrhyw gwynion neu themâu o bryder neu

syniadaeth sy ' n dod i’r amlwg dro ar ôl tro

Cyfeirio myfyrwyr at yr adran berthnasol fel bo’r angen (gwasanaethau iechyd meddwl, cefnogaeth ariannol) os bydd materion yn codi yn ystod hyfforddiant neu os bydd cynrychiolwyr yn cysylltu â chi y tu allan i'r hyfforddiant

Cynnal polisïau a delfrydau Undeb y Myfyrwyr i sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael lle blaenllaw yn eich gwaith.

Sicrhau bod pob gweithgaredd yn hygyrch a bod myfyrwyr ag anableddau, anawsterau dysgu neu ofynion arbennig yn cael eu cefnogi.

Cymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu dealltwriaeth gydag Undeb y Myfyrwyr i ddatblygu swydd Hyfforddwr Cynrychiolwyr Cwrs.

Y manylion

Hanfodol

Hyd at 10 awr o hyfforddiant wedi'u rhannu rhwng sesiynau a diwrnodau.

12 - 15 awr o hyfforddiant cynrychiolwyr cwrs, paratoi ar gyfer hyfforddiant, a diweddariadau byr ar gyfer Undeb y Myfyrwyr yn ystod y tymor cyntaf, yn bennaf Hydref/Tachwedd yn dibynnu pryd fyddwch ar gael.

5-10 awr o hyfforddiant, paratoi, a diweddariadau byr ar gyfer Undeb y Myfyrwyr yn yr ail dymor ar gyfer cyfnodau derbyn llai.

Dymunol

Cyfle i wneud gwaith arall trwy gydol y flwyddyn.

Applicant Criteria

Able to deliver training to students in the medium of English (Welsh is desirable) for this role (Applications from Bilingual trainers would be welcomed)

Experience of being a Course Rep, or other representative role at Undeb Bangor or other University, college or association is desirable but not essential. Experience of being in a leadership role desirable.

Able to confidently present and speak to large groups of people and present training clearly and with understanding, both online and in person Training included

Able to attend training on 5th September.

Able to attend the Course Rep Training days on the afternoons of:

4th October

11th October

18th October

If you have difficulties with these dates, please get in touch with frances.hollins@undebbangor.com

Able to deal with sensitive situations appropriately. Training is included but willingness and capacity to participate is essential

Perks of the role

A Real Living Wage employer (£10.90 hourly rate)

Personal and professional development

Training and networking opportunities

Paid, flexible work on the national living wage

Work alongside experienced staff and discover learning opportunities within the education sector.

Sut i wneud cais

Mae'n hawdd iawn neud cais am swydd. Dilynwch y cyfarwyddiadau a llenwch y ffurflen gais ar www.UndebBangor.com/swyddi

Y STWFF CYFREITHIOL

Mae pob swydd yn amodol ar i’r ymgeiswyr sicrhau eu bod ar gael i fynychu cyfweliadau, sesiynau sefydlu a diwrnodau hyfforddi.

Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gyflwyno prawf cymhwysedd i weithio yn y DU cyn cael eu cyflogi. Bydd y ddogfen a gyflwynir yn cael ei llungopïo a'i chadw yn unol â Deddf Diogelu

Data 1998 Gwneir hyn ar ôl i gynnig cyflogaeth gael ei wneud

DIOGELU DATA

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu data ac mae ' n bwysig gwybod beth sy ' n digwydd gyda'ch data pan

fyddwch chi'n gwneud cais am swydd Mae hyn yn golygu y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu at ddibenion datblygu'ch cais yn unig (neu i gyflawni gofynion cyfreithiol neu reoliadol os oes angen)

Dyddiad Cau: dydd Llun 14

Awst am 12.00pm.

Ni dderbynnir ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn.

Diolch a Phob Lwc

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.