Swydd Disgrifiadau Swyddogion Sabothol
Pob Swyddog Sabothol: Cyflog Blynyddol:
£ 20,092
Cyfnod Gwasanaeth: 1af o Gorffennaf 30ain o Fehefin
Yn ymddiriedolwr Undeb y Myfyrwyr. Yn cael ei ystyried yn 'ddeiliad un o brif swyddi'r undeb' fel y'i diffinnir gan Ddeddf Addysg 1994. Yn aelod llawn â phleidlais o Fwrdd Ymddiriedolwyr Undeb Bangor a Phwyllgor Gwaith Undeb Bangor. Yn cynnig arweinyddiaeth ar gyfeiriad ymgyrchoedd a phortffolio digwyddiadau Undeb y Myfyrwyr. Yn cynorthwyo ac yn cefnogi gweithgareddau'r Wythnos Groeso, gan gynnwys Ffair y Glas. Yn cefnogi gwaith swyddogion a staff yr Undeb. Ar brydiau gall hyn fod gyda'r hwyr ac ar benwythnosau, y tu allan i oriau swyddfa arferol. Yn hyrwyddo gwerthoedd yr Undeb ar bob adeg. Yn gweithio i sicrhau bod eu gwaith hwy, a gwaith Undeb y Myfyrwyr, yn cael eu cyfleu'n briodol ac yn effeithiol i fyfyrwyr. Disgwylir iddynt lunio erthyglau yn rheolaidd ar gyfer cyhoeddiadau'r Undeb, gan gynnwys y wefan. Yn gweithio i gefnogi a darparu cylch gwaith iechyd, lles, cynaliadwyedd a chymunedol Undeb y Myfyrwyr. Yn gweithio'n rhagweithiol ar syniadau a pholisïau myfyrwyr a basiwyd yng Nghyngor Undeb Bangor. Yn bresennol yng nghyfarfodydd lefel uchel y brifysgol ac yn cynrychioli myfyrwyr ynddynt, gan gynnwys; grwpiau strategol, grwpiau tasg a gorffen a phwyllgorau. Yn cysylltu ag adrannau perthnasol y brifysgol ar faterion sy'n bwysig i fyfyrwyr. Yn mynd i gynadleddau cenedlaethol. Yn eistedd ar baneli cyfweld Undeb y Myfyrwyr a'r brifysgol yn ôl yr angen. Yn cynorthwyo i gynrychioli myfyrwyr ym mhrosesau apêl a disgyblu'r brifysgol yn ôl yr angen. Yn mynd i gyfarfodydd Undeb y Myfyrwyr megis y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Chyngor Undeb Bangor, gan gyflwyno adroddiadau ac ateb cwestiynau myfyrwyr yn ôl yr angen. Yn cefnogi Undeb y Myfyrwyr trwy lunio adroddiadau. Yn ymwneud yn gyson â myfyrwyr ar draws y campws.
Swydd Disgrifiadau Swyddogion Sabothol Cyflog Blynyddol:
£ 20,092
Cyfnod Gwasanaeth: 1af o Gorffennaf - 30ain o Fehefin
Bydd yn brif swyddog yr Undeb ac yn bennaeth Tîm y Swyddogion Sabothol. Bydd yn brif gynrychiolydd yr Undeb i'r brifysgol, gan gysylltu rhwng Undeb y Myfyrwyr a Phwyllgor Gweithredu'r Brifysgol. Bydd yn brif gynrychiolydd yr Undeb i'r gymuned leol a'r cyfryngau lleol a chenedlaethol. Bydd yn cynnal cysylltiadau ag undebau myfyrwyr eraill a sefydliadau allanol perthnasol. Bydd yn gyfrifol am oruchwyliaeth ar lunio a drafftio cyllideb yr Undeb ar ran Bwrdd yr Ymddiriedolwyr. Bydd yn gyfrifol am ddrafftio a gweithredu strategaeth yr Undeb a bydd yn goruchwylio'r polisi gweithredol ar y cyd â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a Chyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr. Bydd yn cyflwyno adroddiad ar waith y Swyddogion Sabothol i bob cyfarfod o Gyngor Undeb Bangor a Chyfarfod Cyffredinol Undeb Bangor. Bydd ganddo/ganddi gyfrifoldeb rheoli llinell wedi'i ddirprwyo dros Gyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr rhwng cyfarfodydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Undeb Bangor. Bydd yn brif swyddog ar faterion yn ymwneud â staffio yn yr Undeb. Bydd yn cadeirio cyfarfodydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Undeb Bangor. Bydd yn brif swyddog ar faterion yn ymwneud â democratiaeth yr Undeb a bydd yn gyfrifol am gynnal a dehongli'r cyfansoddiad. Ef/hi fydd y swyddog sy'n gyfrifol am gylch gwaith cymunedol yr Undeb, gan gynnwys gwaith project myfyrwyr yn y gymuned, ymgyrchoedd cymunedol lleol a byd-eang, yr agenda ddinasyddiaeth a chysylltu â grwpiau preswylwyr a'r cyngor lleol. Bydd yn arwain ar faterion yn ymwneud â Sicrwydd Ansawdd y brifysgol. Bydd yn gweithio'n agos gyda'r Is-lywydd Addysg ar faterion yn ymwneud ag addysg.
Swydd Disgrifiadau Swyddogion Sabothol Cyflog Blynyddol:
£ 20,092
Cyfnod Gwasanaeth: 1af o Gorffennaf - 30ain o Fehefin
Ef/hi fydd y swyddog sy'n gyfrifol am gylch gwaith Addysg yr Undeb, gan ganolbwyntio'n benodol ar faterion polisi cenedlaethol a lleol, cyllid ac ansawdd addysg. Bydd hyn hefyd yn cwmpasu pob mater sy'n ymwneud ag addysg ôl-radd. Bydd yn cysylltu'n rheolaidd â Phwyllgor Gweithredu'r brifysgol ar faterion sy'n ymwneud ag addysg. Bydd yn gweithio'n agos gyda Llywydd UMCB ar faterion yn ymwneud ag addysg gyfrwng Cymraeg. Ef/hi fydd y swyddog sy'n gyfrifol am gydlynu trefn Cynrychiolwyr Cwrs Undeb y Myfyrwyr ac yn sicrhau cyswllt rheolaidd â'r brifysgol ac ysgolion academaidd unigol. Bydd yn cynllunio a hwyluso Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs. Bydd yn gweithio'n agos gyda Chabinet y Cynrychiolwyr Cwrs a Chynrychiolwyr Cwrs ar fentrau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd. Bydd yn gweithio'n agos gyda Llywydd UMCB i gydlynu agweddau cyfrwng Cymraeg trefn cynrychiolwyr cwrs y brifysgol. Bydd yn cefnogi gwaith Ymchwil Academaidd Undeb y Myfyrwyr. Bydd yn cefnogi Undeb y Myfyrwyr trwy lunio adroddiadau'n ymwneud â phrofiad academaidd.
Swydd Disgrifiadau Swyddogion Sabothol Cyflog Blynyddol:
£ 20,092
Cyfnod Gwasanaeth: 1af o Gorffennaf - 30ain o Fehefin
SEf/hi fydd y swyddog sy'n gyfrifol am gylch gwaith Cymdeithasau a Gwirfoddoli Undeb y Myfyrwyr, gan gysylltu'n agos â'r brifysgol a chynrychioli myfyrwyr ar faterion yn ymwneud â Chymdeithasau a Gwirfoddoli. Ef/hi fydd y swyddog sy'n gyfrifol am gylch gwaith cymdeithasau a gwirfoddoli'r Undeb, gan gynnwys bod yn gyfrifol am ei weithrediad a'i gyllid, a sicrhau bod gan ei gymdeithasau'r adnoddau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i weithredu. Bydd yn cysylltu â'r Is-lywydd Chwaraeon a'r Is-lywydd Myfyrwyr Cymraeg / Llywydd UMCB i gydlynu pecyn hyfforddi cynhwysfawr ar gyfer aelodau pwyllgor yr UA, Cymdeithasau, Grwpiau Gwirfoddoli a grwpiau UMCB. Bydd yn annog ac yn hyrwyddo gweithgareddau hamdden yn y brifysgol ac yn cynnig cymorth trwy Dîm Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor. Bydd yn gweithio'n agos gyda Phwyllgorau Gwaith y Cymdeithasau a Gwirfoddoli, ac yn eu cadeirio, ac yn cefnogi mentrau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd. Bydd yn gweithio'n agos gydag aelodau pwyllgorau'r cymdeithasau a gwirfoddoli i gefnogi mentrau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd. Bydd yn cynorthwyo i fonitro gweithgareddau'r cymdeithasau a gwirfoddoli. Ar brydiau gall hyn fod gyda'r hwyr ac ar benwythnosau, y tu allan i oriau swyddfa arferol. Bydd yn cynorthwyo i gynllunio a hwyluso digwyddiadau rhyng-golegol y Cymdeithasau a Gwirfoddoli.
Swydd Disgrifiadau Swyddogion Sabothol Cyflog Blynyddol:
£ 20,092
Cyfnod Gwasanaeth: 1af o Gorffennaf - 30ain o Fehefin
Ef/hi fydd y swyddog sy'n gyfrifol am gylch gwaith Chwaraeon Undeb y Myfyrwyr, gan gysylltu'n agos â'r brifysgol ac Adran Chwaraeon Bangor, a chynrychioli myfyrwyr ar faterion yn ymwneud â chwaraeon. Bydd yn mynd i bob cyfarfod perthnasol Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) a BUCS Cymru. Ef/hi fydd Llywydd yr Undeb Athletau, yn gyfrifol am ei weithrediad a'i gyllid ac am sicrhau bod gan ei glybiau'r adnoddau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i weithredu. Bydd yn cysylltu â'r gymuned leol a chyrff cenedlaethol ar faterion yn ymwneud â chwaraeon. Bydd yn cysylltu â'r Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli a Llywydd UMCB i gydlynu pecyn hyfforddi cynhwysfawr ar gyfer aelodau pwyllgor yr UA, Cymdeithasau, Grwpiau Gwirfoddoli a grwpiau UMCB. Bydd yn annog ac yn hyrwyddo cyfranogiad yr aelodau mewn chwaraeon cystadleuol a hamdden yn y brifysgol, gan gynnig cymorth drwy'r Undeb Athletau. Bydd yn gweithio'n agos gyda Phwyllgor Gwaith yr Undeb Athletau ac yn cefnogi mentrau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd. Bydd yn gweithio'n agos gydag aelodau pwyllgorau clybiau chwaraeon i gefnogi mentrau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd. Bydd yn cynorthwyo i fonitro'r Undeb Athletau a gweithgareddau chwaraeon. Ar brydiau gall hyn fod gyda'r hwyr ac ar benwythnosau, y tu allan i oriau swyddfa arferol. Bydd yn cynorthwyo i gynllunio a hwyluso digwyddiadau chwaraeon rhyng-golegol.
Swydd Disgrifiadau Swyddogion Sabothol Cyflog Blynyddol:
£ 20,092
Cyfnod Gwasanaeth: 1af o Gorffennaf - 30ain o Fehefin Bydd yn siaradwr Cymraeg ac yn cynrychioli pob siaradwr a dysgwr Cymraeg. Ef/hi fydd y swyddog sy'n gyfrifol am gylch gwaith cyfrwng Cymraeg Undeb y Myfyrwyr, gan gysylltu'n agos â'r brifysgol a chynrychioli myfyrwyr ar faterion yn ymwneud â'r iaith Gymraeg. Ef/hi fydd Llywydd UMCB, yn gyfrifol am ei weithrediad a'i gyllid, ac am sicrhau bod gan ei grwpiau'r adnoddau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i weithredu. Bydd yn cysylltu â'r brifysgol, cyrff lleol cymunedol a chenedlaethol ar faterion yn ymwneud â darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac ehangu cyfranogiad siaradwyr Cymraeg. Bydd yn gweithio'n agos gyda'r Is-lywydd Addysg i gydlynu agweddau cyfrwng Cymraeg trefn cynrychiolwyr cwrs y brifysgol, ac ar faterion yn ymwneud ag addysg gyfrwng Cymraeg. Bydd yn cwrdd yn rheolaidd â Chynrychiolwyr Cwrs Cymraeg eu hiaith. Bydd yn cysylltu â'r Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli a'r Is-lywydd Chwaraeon i gydlynu pecyn hyfforddi cynhwysfawr ar gyfer aelodau pwyllgor yr UA, Cymdeithasau, Grwpiau Gwirfoddoli a grwpiau UMCB. Bydd yn annog cynnwys a hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn holl faterion y brifysgol a'r Undeb. Bydd yn gweithio i gynnwys y gymuned Gymraeg leol yng ngwaith yr Undeb ac
ŷ
yn cysylltu â'r Llywydd a'r Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli yngl n â gwaith cymunedol. Bydd yn gweithio'n agos gyda Phwyllgor Gwaith UMCB ac aelodau pwyllgor cymdeithasau UMCB i gefnogi mentrau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd. Bydd yn cynorthwyo i fonitro gweithgareddau UMCB. Ar brydiau gall hyn fod gyda'r hwyr ac ar benwythnosau, y tu allan i oriau swyddfa arferol. Bydd yn cynorthwyo i gynllunio a hwyluso digwyddiadau rhyng-golegol cyfrwng Cymraeg. Bydd yn aelod o Gyngor y Brifysgol.