student staff rec cymraeg

Page 1

PecynRecriwtio Staffsy'nfyfyrwyr

www.undebbangor.com/swyddi

Yn y pecyn hwn byddwch yn dod o hyd i'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud cais am rôl myfyrwyr sy'n staff gydag Undeb Bangor

Dyddiad Cau: Hanner nos, Dydd Mawrth 25 Gorffennaf

Ni fydd ceisiadau’n cael eu derbyn ar ôl y dyddiad hwn

Dyddiad Dechrau: Y dyddiad cychwyn disgwyliedig fydd rhywbryd rhwng 21 Awst – 4ydd Medi.

Hours:

Rhwng 10-16 awr yr wythnos yn ystod y tymor, gyda’r posibilrwydd o rywfaint o waith gyda’r nos ac ar benwythnosau. Yn ystod cyfnodau prysur yn yr Undeb, efallai y bydd disgwyl i chi weithio'r uchafswm o 16 awr. Rydym am i'r oriau weddu i ddeiliad y swydd ac anghenion y sefydliad, felly byddwn yn eu trafod a'u cytuno ar y cyd.

Rydym yn gwerthfawrogi lles meddyliol a chorfforol ein holl weithwyr Mae'n ofynnol i bob cydweithiwr gymryd seibiant di-dâl o 45 munud o unrhyw shifft 95 i sicrhau eu bod yn cael eu hamser gorffwys a gwella angenrheidiol.

Gellir trafod gweithio hybrid a hyblyg: Gwyddom fod myfyrwyr yn gweithio o amgylch ystod o ymrwymiadau eraill; rydym yn ceisio darparu ar gyfer gweithio hyblyg lle bo modd.

Hourly Rate of Pay:

Cyfradd Cyflog yr Awr: Byddwch yn cael y Cyflog Byw Gwirioneddol sef £12 22 yr awr ar hyn o bryd, mae'r cyfraddau hyn hefyd yn cynnwys lwfans ar gyfer tâl gwyliau o 12.07%.

Mae'r disgrifiadau swydd hyn yn ganllaw i'r gwaith y disgwylir i chi ei wneud yn y lle cyntaf Gallent gael eu newid o bryd i'w gilydd i gwrdd ag amgylchiadau newidiol.

UNDEBBANGOR

A

A R G A E L

Cynorthwyydd Canolfan Myfyrwyr a Chyfathrebu

Cynorthwyydd Cynaliadwyedd

Cynorthwyydd Llais Myfyrwyr

Cynorthwyydd Gwirfoddoli a'r Gymuned

Cynorthwyydd Chwaraeon

Cynorthwyydd Cymdeithasau

Cynorthwyydd UMCB

MANYLEB PERSON:

HANFODOL:

Myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor

Yn angerddol am ddatblygu gweithgareddau a phrosiectau yn eich adran benodedig

Sgiliau TG cymwys (gwybodaeth am systemau Microsoft Office a Rheoli Ffeiliau)

Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol

Y gallu i weithio ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm

Sgiliau trefnu da gyda'r gallu i gynllunio gwaith a chwrdd â therfynau amser y cytunwyd arnynt

DYMUNOL

Y gallu i fod yn rhagweithiol, meddwl yn greadigol a defnyddio'ch menter eich hun

Profiad mewn amgylchedd democrataidd neu grŵp myfyrwyr (naill ai'n wirfoddol neu'n dâl)

CYNORTHWYYDD

CANOLFAN MYFYRWYR A CHYFATHREBU

Darparu cymorth gweinyddol a chyfieithu i Ganolfan y Myfyrwyr, Cyfathrebu a Marchnata a staff ehangach yr Undeb Bod yn bwynt cyswllt cyntaf i fyfyrwyr

PRIF DDYLETSWYDDAU A CYFRIFOLDEBAU:

Bod yn bwynt cyswllt yn y dderbynfa

Gwaith cyfieithu (Saesneg i Gymraeg a Chymraeg i Saesneg)

Delio ag ystod eang o ymholiadau cwsmeriaid

Ateb ymholiadau myfyrwyr ac ymwelwyr wyneb yn wyneb neu drwy e-bost

Cynorthwyo gydag archebion ystafelloedd

Darparu cefnogaeth weinyddol i'r timau Gweithrediadau a Chyfathrebu

MANYLEB PERSON YCHWANEGOL:

Y gallu i ddarparu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid mewn amgylchedd prysur, gan aros yn ddigynnwrf, yn gwrtais ac yn gyfeillgar bob amser

Y gallu i siarad Cymraeg

Profiad o weithio mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer neu rôl weinyddol

MAE POB RÔL YN RHANNU'R MANYLEBAU PERSON CANLYNOL GYDA RHAI MANYLEBAU YCHWANEGOL WEDI'U NODI WRTH YMYL POB RÔL UNIGOL.
S
F L E O E D D

CYNORTHWYYDD CYNALIADWYEDD

Arwain ar gyflwyno a chasglu gwobr Effaith Werdd Undeb Bangor, a chefnogi wrth ddarparu ymgyrchoedd, prosiectau a digwyddiadau sy'n gysylltiedig â chynaliadwyedd.

PRIF DDYLETSWYDDAU A CYFRIFOLDEBAU:

Cefnogi creu a darparu ymgyrchoedd, prosiectau a digwyddiadau sy'n gysylltiedig â chynaliadwyedd

Bod yn weladwy o amgylch y campws ac ar-lein wrth ymgysylltu â myfyrwyr a hyrwyddo gweithgareddau cynaliadwyedd.

Cysylltu ag adrannau Undeb Bangor ac adrannau Prifysgol yn ôl yr angen er mwyn

defnyddio gwybodaeth ynghylch cynaliadwyedd ar gyfer y cyflwyniad Effaith Werdd

Casglu a chyflwyno gwobr Effaith Werdd Undeb Bangor

Cynorthwyo gyda dod o hyd i gynnwys a deunydd o weithgareddau a phrosiectau

cynaliadwyedd gan weithio'n agos gyda'r tîm Cyfathrebu a Marchnata i'w hyrwyddo.

Cefnogi gwaith y tîm a Swyddogion Sabothol yn ôl yr angen

CYNORTHWYYDD LLAIS MYFYRWYR

Cefnogi gyda hyrwyddo, ymgysylltu a gweinyddu gweithgaredd Llais Myfyrwyr yn yr Undeb.

PRIF DDYLETSWYDDAU A CYFRIFOLDEBAU:

Cynorthwyo i gyflwyno, datblygu a hyrwyddo’r meysydd canlynol o fewn y tîm Llais

Myfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr - Cynllun Cynrychiolwyr Cwrs; Etholiadau; Cyngor

Myfyrwyr, Rhwydweithiau, Syniadau ac ymgyrchoedd a digwyddiadau

Bod yn weladwy o amgylch y campws ac ar-lein wrth ymgysylltu â myfyrwyr a hyrwyddo meysydd o waith Llais Myfyrwyr

Cefnogi cyfarfodydd Llais Myfyrwyr (gan gynnwys cyfarfodydd cynrychiolwyr cwrs, Cyngor y Myfyrwyr a Rhwydweithiau myfyrwyr) yn ôl yr angen.

Cefnogaeth gyda rhai tasgau gweinyddol cyffredinol o ddydd i ddydd..

Cynorthwyo gyda dod o hyd i gynnwys a deunydd sy'n berthnasol i waith Llais Myfyrwyr, gan weithio'n agos gyda'r tîm Cyfathrebu a Marchnata i'w hyrwyddo

Cefnogi gwaith y Llywydd a ‘ r Is-Lywydd Addysg a swyddogion Sabothol eraill pan fo angen

MANYLEB PERSON YCHWANEGOL:

Profiad mewn amgylchedd democrataidd (naill ai'n wirfoddol neu'n dâl)

Dealltwriaeth dda o ddemocratiaeth a chynrychiolaeth

Hyderus i ymgysylltu â myfyrwyr i gasglu adborth a hyrwyddo ymgyrchoedd a digwyddiadau Undeb y Myfyrwyr

CYNORTHWYYDD CYMDEITHASAU

CYNORTHWYYDD CHWARAEON

CYNORTHWYYDD UMCB

TMAE GAN Y ROLAU CANLYNOL DDYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU TEBYG

SY'N BERTHNASOL I'W HADRAN. RHESTRIR YR HOLL GYFRIFOLDEBAU

YCHWANEGOL ERAILL WRTH YMYL Y RÔL BENODOL.

PRIF DDYLETSWYDDAU A CYFRIFOLDEBAU AR GYFER HOLL ROLAY CYFLEOEDD MYFYRWYR:

Cefnogi i greu a darparu ymgyrchoedd, prosiectau a digwyddiadau ar gyfer yr adran perthnasol (chwaraeon, cymdeithasau, gwirfoddoli a UMCB)

Bod yn weladwy o amgylch y campws ac ar-lein wrth ymgysylltu â myfyrwyr a hyrwyddo

gweithgareddau, prosiect a chyfleoedd

Cefnogi gweithgareddau trwy ymweliadau rheolaidd gyda'r nos ac ar benwythnosau fel sy'n berthnasol.

Cefnogi gydag ateb ymholiadau gan gymdeithasau a thasgau gweinyddol cyffredinol o ddydd i ddydd

Cynorthwyo gyda dod o hyd i gynnwys a deunydd am weithgareddau a phrosiectau Cymdeithasau

gan weithio'n agos gyda'r tîm Cyfathrebu a Marchnata i'w hyrwyddo.

Cefnogi gwaith y tîm a'r Swyddogion Sabothol pan fo angen.

CYNORTHWYYDD CHWARAEON

Cefnogi gyda hyrwyddo, ymgysylltu a gweinyddu ein gwaith a'n gweithgaredd

Chwaraeon ac Undeb Athletau

GWELER TUDALEN 4 AM Y PRIF GYFRIFOLDEBAU A DYLETSWYDDAU.

GWELER TUDALEN 2 AM FANYLEB PERSON HANFODOL A DYMUNOL

CYNORTHWYYDD CYMDEITHASAU

Cefnogi gyda hyrwyddo, ymgysylltu a gweinyddu gwaith a gweithgaredd ein

Cymdeithasau

GWELER TUDALEN 4 AM Y PRIF GYFRIFOLDEBAU A DYLETSWYDDAU.

GWELER TUDALEN 2 AM FANYLEB PERSON HANFODOL A DYMUNOL

CYNORTHWYYDD
GWIRFODDOLI A’R GYMUNED
R O L A U C Y F L E O E D D M Y F Y R W Y R

CYNORTHWYYDD GWIRFODDOLI A’R GYMUNED

Cefnogi gyda hyrwyddo, ymgysylltu a gweinyddu ein gweithgareddau

Gwirfoddoli a Cymunedol.

GWELER TUDALEN 4 AM Y PRIF GYFRIFOLDEBAU A DYLETSWYDDAU.

DYLETSWYDDAU YCHWANEGOL:

Cefnogi'r broses o ddarparu DBS fel sy'n briodol

GWELER TUDALEN 2 AM FANYLEB PERSON HANFODOL A DYMUNOL

CYNORTHWYYDD UMCB

Cefnogi gyda hyrwyddo, ymgysylltu a gweinyddu ein gweithgareddau UMCB.

GWELER TUDALEN 4 AM Y PRIF GYFRIFOLDEBAU A DYLETSWYDDAU.

GWELER TUDALEN 2 AM FANYLEB PERSON HANFODOL A DYMUNOL

MANYLEB PERSON YCHWANEGOL:

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon gan y bydd deiliad y swydd yn cefnogi gwaith UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg)

SUT I WNEUD CAIS

Mae gwneud cais am swydd yn hawdd iawn Dilynwch y cyfarwyddiadau a llenwch y ffurflen gais ar www undebbangor com/cy/jobs

Beth i'w gynnwys yn eich cais?

Yr hyn rydym yn chwilio amdano o’ch cais: Efallai mai dyma'r tro cyntaf i chi gwblhau cais am swydd, neu efallai bod gennych lawer o brofiad; y naill ffordd neu'r llall, rydym am roi gwybod i chi am yr hyn yr ydym ni yn Undeb Bangor yn chwilio amdano.

Ar gyfer eich cais, darparwch ddatganiad ysgrifenedig neu fideo (uchafswm o 5 munud) gan gynnwys y wybodaeth ganlynol:

Dywedwch wrthym amdanoch chi'ch hun, rhowch ymdeimlad o'ch personoliaeth i ni - nid ydym yn recriwtio niferoedd, rydym am eich deall fel person.

Dywedwch wrthym pam rydych chi eisiau’r swydd a sut mae eich gwerthoedd personol yn cydfynd â’n gwaith fel Undeb Myfyrwyr.

·ywedwch wrthym sut rydych chi'n ffit dda ar gyfer y swydd - atebwch ofynion y disgrifiad swydd - nodwch eich profiad blaenorol (enghreifftiau bywyd cyflogedig, gwirfoddol a phersonol) i ddangos pa sgiliau sydd gennych sy'n diwallu ein hanghenion ar gyfer pob swydd y gwnewch

gais amdani .

tDiolch a Phob Lwc

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.