Pecyn recriwtio allanol

Page 1

PECYN RECRIWTIO YMDDIRIEDOLWYR ALLANOL 2023 www.UndebBangor.com

MAE UNDEB BANGOR (UNDEB MYFYRWYR

PRIFYSGOL BANGOR) YN

SEFYDLIAD LLWYDDIANNUS, BYWIOG A CHYFFROUS SYDD

GYDA DYFODOL DISGLAIR

IAWN O’I FLAEN.

Wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru rhwng y mynyddoedd a ’ r môr rydym yn cynrychioli tua 13,000 o fyfyrwyr Mae gennym berthynas ardderchog â’r Brifysgol, enwyd ein Clybiau a ' n Cymdeithasau yn y 3 uchaf yn Nhabl Cynghrair Student Crowd 2021 yn ogystal â bod yn y deg uchaf yn eu Tabl Cynghrair am yr Undeb Myfyrwyr Gorau

Mae gennym dîm o pedwar Swyddog Sabothol a etholwyd i sicrhau bod syniadau, anghenion a dymuniadau myfyrwyr yn cael eu gweithredu, a thîm o 15 o staff sy ’ n cefnogi’r Tim o Swyddog Sabothol i gyflawni ein strategaeth a ’ n cynlluniau ar draws yr Undeb

Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn ganolog i’n trefn lywodraethu a ’ r ymddiriedolwyr yw calon ein Bwrdd

Ymddiriedolwyr Mae'r 13 unigolyn hynny’n gwneud penderfyniadau hollbwysig am yr Undeb a mae ein Hymddiriedolwyr Allanol yn dod ag arbenigedd a phrofiad penodol i'r Bwrdd. Mae gennym bedwar lle ar gyfer ymddiriedolwyr allanol ar ein bwrdd (sy'n eistedd ochr yn ochr â'n pum Swyddog Sabothol a h d Y ddi i d l M f )

Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth a’n cefnogi i gynrychioli, grymuso, a chefnogi myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, gan eu paratoi ar gyfer y dyfodol, gan weithio gyda ni i adeiladu Undeb Myfyrwyr cryf a deniadol?

Rydym yn chwilio am un Ymddiriedolwr allanol newydd i'n helpu i ddatblygu Undeb Bangor, herio penderfyniadau, sicrhau ein bod gadarn yn ariannol ac yn llywodraethu'n yn y ffordd gywir. Rydym yn gwneud rhywfaint o waith ar gynyddu amrywiaeth ar draws y sefydliad gan gynnwys ein Bwrdd Ymddiriedolwyr er mwyn cael amrywiaeth o safbwyntiau ac rydym yn awyddus i gynyddu amrywiaeth ein Bwrdd. Mae gennym ni ddiddordeb arbennig mewn ymgeiswyr sydd â phrofiad ym maes cyllid a chynllunio strategol, ond efallai y bydd gennych chi hefyd rywbeth gwahanol i’w gynnig yr hoffem glywed amdano.

QUALITY IS THE BEST BUSINESS PLAN.

Dewch o hyd i ni ar-lein, dyma fwy o wybodaeth am y Brifysgol, a dewch o hyd i ni ar wefan y Comisiwn Elusennau Ar hyn o bryd, rydym yn bwriadu penodi un ymddiriedolwr allanol i ymuno â’r tri presennol, a bydd y rôl yn dechrau ar unwaith ar ôl cwblhau’r broses recriwtio Mae’r pecyn hwn yn cyflwyno popeth byddwch ei angen i chi ddeall mwy am y swydd a chwblhau eich cais

I wneud cais bydd angen i chi anfon llythyr eglurhaol (dim mwy na dwy ochr A4) yn dweud ychydig amdanoch chi'ch hun a pham rydych chi eisiau bod yn Ymddiriedolwr i Undeb Bangor, a siarad am eich sgiliau proffesiynol a phersonol a sut y byddant yn ein helpu ar y bwrdd.

Anfonwch i:

n

YCHYDIG AM UNDEB BANGOR....

Rydym yn elusen ddemocrataidd a arweinir gan fyfyrwyr ac a gyllidir (yn bennaf) trwy grant bloc gan Brifysgol Bangor. Er ein bod yn gweithio'n agos gyda'r Brifysgol rydym yn sefydliad ar wahân ac annibynnol a chymerir penderfyniadau’n fewnol gennych chi ein haelodau.

NI YW LLAIS Y MYFYRWYR YN Y BRIFYSGOL A

EIN DIBEN

Byddwn yn eich cynrychioli, eich grymuso a 'ch cefnogi ym Mhrifysgol Bangor, ac yn eich paratoi at eich dyfodol.

CHARTREF BYWYD

MYFYRWYR YM MANGOR!

Ni yw llais y myfyrwyr yn y Brifysgol a chartref bywyd myfyrwyr ym Mangor!

Amlinellir ein Diben, Addewid a ’ n Hegwyddorion sefydliadol yn ein. Mae ein strategaeth yn nodi amrywiol flaenoriaethau a meysydd ffocws ar gyfer Undeb Bangor dros y cyfnod 2021-24. Gyda'i gilydd mae ' r rhain yn ffurfio'r dull y byddwn yn ei ddefnyddio i gyflawni ein strategaeth a ' r ffordd yr ydym yn bwriadu gwella profiad myfyrwyr ar gyfer ein haelodau. Gweler copi o ' n strategaeth yma.

EIN HADDEWID

Rydym yn addo gwrando arnoch, ac addasu i'ch anghenion er mwyn eich cefnogi

EIN HEGWYDDORION

Bydd ein hegwyddorion yn rhychwantu ein gwaith a ' n dull gweithredu ac yn sylfaen iddynt dros gyfnod y strategaeth hon, a chaiff ein diwylliant ei dywys gan yr egwyddorion hyn:

1. RYDYM YN GYNHWYSOL AC YN AGORED I BOB MYFYRWYR YN Y BRIFYSGOL: Mae hyn yn golygu ein bod yno ar eich cyfer beth bynnag eich rhywedd, ethnigrwydd, dosbarth cymdeithasol, cyfeiriadedd rhywiol, gallu corfforol, hunaniaeth a chefndir diwylliannol.

2 RYDYM YMA I'CH CEFNOGI: Rydym yn siŵr y cewch chi amser gwych ym Mhrifysgol Bangor, ond rydym am i chi wybod y byddwn yma i gynnigcefnogaeth i chi pan fyddwch yn wynebu anawsterau bywyd

3 RYDYM YN CYNRYCHIOLI MYFYRWYR: Mae hynny’n golygu, trwy gynnal etholiadau bob blwyddyn, bod gennym arweinwyr myfyrwyr a fydd yn cynrychioli eich llais i'r brifysgol, y gymuned a ' r wlad!

4 RYDYM YN HYRWYDDO'R IAITH GYMRAEG: Rydym yn falch o ddathlu pwysigrwydd y diwylliant a ’ r hanes sy ' n ein galluogi i wneud yn fawr o ’ n Cymreictod

5 RYDYM YN RHOI GWERTH AR AMRYWIAETH: Rydym yn llawn gydnabod y gwahaniaethau rhwng ein haelodau a sut y gall hynny greu cryfder; rydym eisiau creu cymunedau a chysylltiadau amlddiwylliannol a fydd yn aros gyda ni trwy gydol ein bywydau

Mae gennym dîm o bump o Swyddogion Sabothol etholedig sy ’ n cynrychioli agos at 13,000 o fyfyrwyr Bangor, i sicrhau bod syniadau, anghenion a gofynion myfyrwyr yn cael eu gweithredu arnynt, a thîm o 15 o staff sy ' n cefnogi'r Tîm Swyddogion Sabothol etholedig i roi ein strategaeth a chynlluniau fel Undeb ar waith.

Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn darparu trefn lywodraethu a goruchwylio i'r Undeb, yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â chyfraith gwlad ac yn gwario’n unol â'n cynlluniau a chyllidebau.

Fel Undeb rydym wedi cyflawni newidiadau a datblygiadau enfawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a thrwy weithio gyda'r brifysgol rydym wedi gallu sicrhau:

Clybiau a Chymdeithasau Am Ddim

Mannau Astudio 24 awr

Hwb Gweithgareddau newydd sbon ar gyfer ein grwpiau myfyrwyr

Cyllid i gefnogi Iechyd a Lles myfyrwyr yn ystod Covid-19

Mynediad am ddim i Gynhyrchion Mislif ar draws y Campws

Gwell Mannau Astudio i Fyfyrwyr

Cynrychiolaeth gan Fyfyrwyr ar bob Pwyllgor Prifysgol

Mae ein trefn lywodraethu yn rhan bwysig o ' n gwaith a chyda'r bobl iawn yn eu lle gallwn wneud pethau gwych.

PAM BOD YN YMDDIRIEDOLWR ALLANOL?

Mae’r swydd yn un gwirfoddol a byddech yn rhoi eich amser i sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau ariannol cadarn, yn dilyn fframweithiau cyfreithiol ac yn dilyn gofynion a osodir gan ein rheoleiddwyr (y Comisiwn Elusennau a’r Brifysgol). Yn bwysicaf oll mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn gwneud yn siŵr bod Undeb Bangor yn ymateb anghenion newidiol ein myfyrwyr. Rydym yn darparu hyfforddiant, bydd yn gyfle i chi ddatblygu sgiliau a rhwydweithiau newydd a bod yn hyrwyddwr i Undeb Bangor.

CYFRIFOLDEBAU

ALLWEDDOL Y BWRDD:

Sicrhau bod pob agwedd ar waith UM yn gyfreithlon ac yn ateb y gofynion rheoleiddiol, gan gynnwys y rheiny a ddisgrifir yn Neddf Elusennau 2010 a Deddf Addysg 1994 sy ’ n ymwneud yn benodol ag Elusennau ac Undebau Myfyrwyr.

Sicrhau bod yr holl waith a wneir gan Undeb Bangor yn ymwneud ag amcanion elusennol y sefydliad - gan sicrhau bod popeth yn dod a budd i brofiad myfyrwyr ym Mangor.

Penderfynu ar gyfeiriad strategol cyffredinol Undeb y Myfyrwyr a datblygu’r sefydliad yn unol ag egwyddorion llywodraethu da.

Cynorthwyo i ddatblygu Undeb y Myfyrwyr trwy oruchwylio cynllunio strategol clir yn seiliedig ar ddealltwriaeth gydlynol o ’ r amgylchedd y mae ’ r sefydliad yn gweithredu ynddi

Sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr yn gweithredu mewn modd effeithiol, cyfrifol ac atebol o fewn gofynion cyfreithiol ac ariannol sefydliad elusennol

Cynnal goruchwyliaeth ariannol gadarn a rheoli arian ac adnoddau i sicrhau bod y sefydliad yn parhau i fod yn hyfyw

Adnabod a goruchwylio rheolaeth o risgiau ariannol, cyfreithiol neu unrhyw risg sylweddol arall i’r Undeb y Myfyrwyr

DYLETSWYDDAU PENODOL:

Mynychu o leiaf pedwar cyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolwyr bob blwyddyn academaidd. Mae opsiynau i fod yn bresennol modd electronig.

Darllenwch bob papur a anfonwyd i’w drafod yn drylwyr cyn cyfarfodydd a pharatoi syniadau a chyfraniadau, a chynnal cyfrinachedd bob amser.

Ymgorffori gwerthoedd a chenhadaeth Undeb y Myfyrwyr wrth wneud eu dyletswyddau.

Gosod y cyfarwyddyd ar gyfer staff a gwneud penderfyniadau ar faterion sy ’ n ymwneud â strategaeth, polisi, ariannu a gweithredu Undeb y Myfyrwyr.

Ar y cyd â aelodau eraill y Bwrdd, gosod amcanion strategol, ac adolygu gwaith Cyfarwyddwr Undeb Bangor

Cymryd rhan mewn is-bwyllgorau a grwpiau prosiect sy ’ n berthnasol i’ch arbenigedd

Ymgymryd a cyfnod cynefino ac unrhyw hyfforddiant arall i’ch cefnogi chi i wneud y gwaith dyletswyddau uchod

HOFFWN I CHI GAEL Y RHINWEDDAU DILYNNOL...

HANFODOL DYMUNOL

Brwdfrydedd am werthoedd Undeb Myfyrwyr Bangor fel sefydliad democrataidd, cyfranogol, dan arweiniad myfyrwyr.

Ymrwymiad i neilltuo amser a sylw angenrheidiol i rôl yr Ymddiriedolwr Allanol.

Ymrwybiad i ein hegwyddorion fel Undeb

Y gallu i weithio’n effeithiol fel aelod o dîm â lefelau amrywiol o brofiad.

Y gallu i fynegi barn yn annibynnol.

Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol mewn nifer o ffyrdd - rydym yn cael llawer o drafodaethau llafar ond gallwch hefyd gyfrannu ar ffurf ysgrifenedig

Gwerthfawrogiad o bwysigrwydd yr Iaith Gymraeg ac ymrwymiad i weithio mewn amgylchedd ddwyieithog.

Swydd ymddiriedolwr gyntaf yn dod â phersbectif newydd, neu gwybodaeth a phrofiad blaenorol o fod yn ymddiriedolwr

Profiad mewn cyllid a chynllunio strategol neu Gydraddoldeb ac Amrywiaeth neu efallai bod gennych rywbeth gwahanol i’w gynnig yr hoffem glywed amdano

Awyddus i ddysgu am Undebau Myfyrwyr, Prifysgolion a'r Sector Addysg Uwch

Dymuniad i annog cyfranogiad ac ymgysylltiad, gyda ffocws ar fentora perthnasoedd ag ymddiriedolwyr eraill o gefndiroedd gwahanol

GWYBODAETH GYFFREDINOL...

NID OES TÂL AM Y SWYDD

HON OND GELLIR TALU

TREULIAU ARIAN PAROD

YN UNOL Â PHOLISÏAU A

THREFNAU ARIANNOL UNDEB BANGOR.

CYNEFINO, HYFFORDDIANT A CHEFNOGAETH

Bydd pob ymddiriedolwr yn mynd trwy raglen

gynefino ynglŷn â gwaith Undeb Bangor ac yn derbyn gwahoddiad i Hyfforddiant Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Mae ein rhaglen gynefino yn hyblyg ac wedi’i chynllunio i gefnogi a datblygu’r ymddiriedolwr unigol

HYD Y PENODIAD

Fel rheol caiff Ymddiriedolwyr Allanol eu penodi am gyfnod o bedair blynedd

CYFLE CYFARTAL

Mae Undeb Bangor wedi ymrwymo i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys heb ystyried rhyw, hil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol, neu feichiogrwydd a mamolaeth.

SUT YDW I’N GWNEUD CAIS?

SI wneud cais bydd angen i chi anfon CV diweddar atom ynghyd â llythyr eglurhaol (dim mwy na dwy ochr A4) yn dweud ychydig

amdanoch a pham yr hoffech fod yn

Ymddiriedolwr Undeb Bangor. Anfonwch y rhain at llinos.gashe@undebbangor.com

erbyn y 10fed o Orffennaf 2022, ac fe ddown yn ôl atoch cyn gynted â phosibl

SUT BYDD Y BROSES RECRIWTIO YN CAEL EI CHYNNAL?

Bydd pob cais yn cael ei ystyried gan Bwyllgor

Llywodraethu a Phenodi Undeb Bangor a bydd

rhestr fer o ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i

gyfweliad anffurfiol lle byddant yn cwrdd â rhai

o ' r ymddiriedolwyr presennol a Chyfarwyddwr

Undeb y Myfyrwyr

Bydd cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn cael eu

cynnal ar-lein ac yn debygol o gael eu cynnal ar yr

wythnos yn dechrau y 12 o Fehefin

Bydd cyfweliadau’n canolbwyntio ar eich cefndir, profiad a gwybodaeth

OS YDW I’N LLWYDDO BETH

FYDD YN DIGWYDD NESAF?

Byddwch yn derbyn gwahoddiad i ddechrau ar y broses gynefino gyda Llywydd Undeb Bangor a Chyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr

Bydd gofyn i chi lenwi Ffurflen Datganiad

Ymddiriedolwr Elusen i gadarnhau nad ydych

wedi’ch gwahardd rhag gweithredu fel

ymddiriedolwr elusen Caiff hyn ei ddilyn gan

Wiriad Datgelu Sylfaenol

Byddwn yn gofyn i Gyngor Undeb Bangor eich

derbyn yn ffurfiol fel Ymddiriedolwr

Byddwch yn derbyn gwahoddiad i gyfarfod nesaf Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

I gael rhagor o wybodaeth ac i drafod bod yn Ymddiriedolwr, cysylltwch â:

Mair Rowlands, Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr

mair.rowlands@undebbangor.com

Nyah Lowe, Llywydd Undeb y Myfyrwyr

nyah.lowe@undebbangor.com

Byddem yn croesawu ’ r cyfle i siarad â chi yn bersonol os oes gennych ddiddordeb a gallwn ddarparu rhagor o fanylion am y swydd ac ati. Cysylltwch â ni i drefnu cyfarfod ar-lein.

RHAGOR O WYBODAETH DIOLCH A

PHOB LWC...

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.