Llyfryn Maniffesto Etholiad Swyddogion Sabothol 2022

Page 1

Llyfryn Maniffesto 2022


Ymgeiswyr Llywydd

Nyah Lowe

Ollie Coles

Elija Pereira

Michelle Francis


Pleidleisiwch

Nyah Lowe Nyah Lowe ydw i, myfyriwr Bioleg Môr ac Eigioneg blwyddyn olaf o Dde Cymru. Rwy'n sefyll am swydd y Llywydd i wella profiad myfyrwyr gan gynnwys yn academaidd, yn allgyrsiol ac o ran cefnogaeth lles. Trwy barhau ym Mhrifysgol Bangor yn y swydd hon, fy nod yw: Gwella adnoddau llyfrgell, mannau astudio (gan gynnwys mannau astudio grŵp) ac oriau agor, gan ganiatáu mynediad 24 awr i fyfyrwyr i'r cyfleusterau hyn. Annog mwy o gystadlaethau a chyfleoedd rhwng prifysgolion gyda mwy o gyllid, gan gynnwys math newydd o Bencampwriaeth Ryng-golegol i’r celfyddydau creadigol yn ysbryd yr Eisteddfod, yn agored i bob myfyriwr a chymdeithas. Rhoi mwy o bwyslais ac ariannu i gefnogaeth Iechyd Meddwl a Lles, gan sicrhau mynediad cyfartal a hawdd i bawb yn y brifysgol. Annog ysgolion i gynnal sesiynau dal i fyny a phrofiad ymarferol ychwanegol i'r rhai sydd wedi colli allan oherwydd Covid, gan sicrhau bod y brifysgol yn cyflawni ei chynnig gwreiddiol. Parhau ag effaith gadarnhaol y brifysgol ar yr amgylchedd gyda mwy o brojectau cymunedol, a darlithoedd agored am ddim fydd yn agored i bob myfyriwr. Gwaith diweddaru ar y campws gan roi’r gorau yn raddol i beiriannau golchi dillad Circuit yn y neuaddau preswyl a sicrhau mapiau cyfoes o gwmpas y campws, ar-lein ac mewn pecynnau croeso sy’n cynnwys cynlluniau o loriau adeiladau. Rwyf ar hyn o bryd yn Gynghorydd Ysgol (Hyrwyddwr Iechyd Meddwl), Mentor Neuaddau, aelod o Bwyllgor yr Undeb Athletau ac yn Gynrychiolydd Cwrs ym Mangor. Mae hyn wedi rhoi profiad i mi ar draws nifer o wahanol feysydd yn y brifysgol ac yn golygu y gallwn gamu’n hyderus i’r swydd hon. Rwyf eisoes wedi cynorthwyo gyda phrojectau Undeb y Myfyrwyr, yn hyrwyddo mynediad gwell a mwy cydradd i fyfyrwyr at gefnogaeth Iechyd Meddwl a Lles; gan gynnwys ymgyrch cyfryngau cymdeithasol a phroject ystafell synhwyraidd. Rwy'n credu bod hyn yn golygu fy mod yn fwy abl i gyflawni'r nodau uchod y flwyddyn nesaf ynghyd â nifer fawr o brojectau cyffrous eraill yn y dyfodol.





Ymgeiswyr Llywydd UMCB

Celt John



Ymgeiswyr IL Addysg

Elsie Pearce

Adam Calveley

Vidushi Sharma

Mat Bismark Osei Comfort Tutu






Bismark Osei Tutu Rwy'n chwaraewr tîm gyda phrofiad a gwybodaeth helaeth ym maes arweinyddiaeth. Bûm yn aelod cynulliad mewn cynulliad metropolitan a chynulliad dinesig dros gyfnod o chwe blynedd yn cynrychioli fy nghymuned i ddatblygu a gwneud penderfyniadau. Roeddwn yn aelod o Gyngor Polytechnig yn fy ngwlad enedigol. Fy ngweledigaeth yw cyfrannu at lwyddiant myfyrwyr a’r Brifysgol. Rwyf wedi gwneud hynny o'r blaen ac yn dal i wneud hynny. Byddwn yn cydweithio ar bob adeg i godi'r faner yn uwch. Ni fydd neb yn cael eu gadael allan nac ar ôl. Gwaith tîm yw'r allwedd i ddatgloi potensial pob bod dynol am fod pawb yn gwybod rhywbeth a all helpu i adeiladu cymdeithas a threfniadaeth well. Os cewch gyfle i bleidleisio, pleidleisiwch drosof fi os gwelwch yn dda. Yr enw yw Bismark Osei Tutu. Myfyriwr Ysgol Busnes


Ymgeiswyr IL Chwaraeon

Glenn Swain

Aidan Lewis Thompson Kuhlmannn


GLENN SWAIN CHWARAEON Rwyf wedi bod yn aelod gweithgar o Undeb Athletau Bangor ers 4 blynedd, o dan 3 gwahanol Is-lywydd Chwaraeon. Byddaf yn adeiladu ar y gorau o waith pob un o’r tri, ac yn datblygu ein Hundeb Athletau Prifysgol gwych. Rwy'n fabolgampwr brwd, yn falch o gynrychioli Bangor, gyda phrofiad personol a dealltwriaeth o'r hyn y byddwn yn dychwelyd ato a dymuniad i gyflawni mwy. Mae fy mhrofiad yn yr Undeb Athletau yn eang, o wythnos y Glas a Serendipedd fel myfyriwr newydd ac wedyn ymlaen i ymuno â chlwb chwaraeon, cynrychioli’r Brifysgol, hyfforddi, dyfarnu a bod yn aelod o’r pwyllgor yn recriwtio ac annog eraill. Rwyf mewn sefyllfa dda i helpu ac arwain myfyrwyr gydag empathi a phrofiad, beth bynnageu swydd neu safle. Blaenoriaeth allweddol fyddai gosod cae Astroturf 3G/4G ym Mhentref Ffriddoedd. Mae'r Astroturf yn Nhreborth wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ond mae llawer o glybiau'n parhau i fod ar drugaredd y tywydd o ran eu gemau a’u sesiynau hyfforddi. Byddai cae ychwanegol yn lleihau'r nifer o sesiynau hyfforddi a gemau sy'n cael eu canslo, yn cynyddu diogelwch myfyrwyr, yn lleihau'r niferoedd sy'n gorfod chwarae ar gaeau llawn dŵr, yn gwella hyblygrwydd amseroedd hyfforddi ac yn atal myfyrwyr rhag gorfod dewis rhwng sesiynau hyfforddi neu ddarlithoedd. Byddai pob un o’r uchod yn gallu rhoi mantais gystadleuol i'n timau yn erbyn gwrthwynebwyr. Fel myfyriwr Gwyddorau Chwaraeon rwy'n ymwybodol o’r manteision i ddiogelwch, lles a pherfformiad o fyw gyda mân anafiadau. Fy nod felly yw adfer y sesiynau ffisiotherapi am ddim, a gynigiwyd am gyfnod gan y brifysgol, trwy ymchwilio i gyfleoedd gyda’r Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol a phartïon allanol. Rwy’n cydnabod cyrhaeddiad rhagorol yr Undeb Athletau eleni yn hwyluso cymwysterau cymorth cyntaf a buaswn yn ymestyn hynny i gynnwys cymwysterau hyfforddi a dyfarnu. Mae gan y rhan fwyaf o glybiau niferoedd aelodaeth sy'n cyfiawnhau cynnig cyfleoedd trwy Brifysgol Bangor yn hytrach na gorfod mynd yn allanol a theithio. Byddai hynny o fudd i fyfyrwyr unigol, ein timau a’r Undeb Athletau yn ei gyfanrwydd. Gallai ein cyfleusterau gwych yng Nghanolfan Brailsford gael eu defnyddio’n well gan glybiau’r Undeb Athletau. Rwyf am ehangu’r sesiynau campfa presennol y mae rhai clybiau'n cael manteisio arnynt i bob clwb Chwaraeon, ac ymestyn y cyfle i bob clwb allu cael sesiwn hyfforddi wythnosol pellach yn defnyddio'r cyfleusterau campfa yno. Ac yn olaf, beth am groesawu’r Bencampwriaeth Ryng-golegol yn ôl i Fangor!



#YmddiriedYnThompson Fel Is-lywydd Chwaraeon

Amdanaf i

- Ymrwymedig, ymroddedig a threfnus - Myfyriwr Cymraeg - Capten Clwb Presennol - Aelod pwyllgor am 2 flynedd

-Cyn Gydlynydd Chwaraeon y Campws - menter pêl-droed anghystadleuol - Goruchwylio codi £3,000 fel clwb i ymgyrch Tashwedd, yn ogystal â chymryd rhan mewn digwyddiadau codi arian, fel eillio pen. - Yn astudio Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol ar hyn o bryd ac yn gobeithio dilyn gyrfa mewn chwaraeon!

Fy Maniffesto

Serendipedd 2 ddiwrnod! Ei osod fel drysfa sydd â dim ond un ffordd allan

fel bod pawb yn gorfod gweld pob clwb, i annog cymaint o fyfyrwyr â phosib i gofrestru. Dechrau mentrau i annog myfyrwyr i ennill profiad gyda chlybiau yn yr UA. Ailgyflwyno gweithdai therapydd chwaraeon Ambiwlans Sant Ioan am ddim Sefydlu cysylltiadau pellach â’r gymuned leol – cryfhau’r berthynas, y gefnogaeth a’r cyfleoedd i fyfyrwyr ennill profiad. Cynyddu cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr ennill cymwysterau hyfforddi – 1/3 ar hyn o bryd – gwell cyfleoedd i fyfyrwyr a chlybiau. Cyrsiau ychwanegol yn semester 2 - MIDAS, hyfforddiant pwyllgor, Cymorth Cyntaf Llwybr Perfformiad - codi ein safle yng nghynghreiriau BUCS - Targed o 6 chlwb i ddechrau ar y llwybr hwn gyda'r strwythur yn gallu ehangu - Helpu i sicrhau hyfforddwyr allanol, sesiynau Cryfder a Chyflyru a sesiynau dadansoddi i glybiau. Gwneud defnydd mor effeithlon â phosibl o Ardal Myfyrwyr - caniatáu mwy o archebion ystafell yn y Ganolfan Gyfleoedd newydd, Rathbone, Brailsford ac ati. Iechyd Meddwl - mwy o chwaraeon anghystadleuol i gymryd rhan ynddynt. Ehangu Chwaraeon Campws i fwy na Phêl-fasged a Phêl-droed, gyda’r posibilrwydd o newid camp bob wythnos? Cynyddu cydnabyddiaeth i glybiau sy'n llwyddiannus - hyrwyddo digwyddiadau fel gemau cartref i annog tyrfaoedd a chefnogaeth gartref. Prynhawniau Mercher i barhau'n rhydd. Gweithio ar y cyd â'r Is-lywydd Addysg i sicrhau bod darlithoedd bore Mercher yn cael eu recordio ar Panopto a bod y rhai sydd â gemau oddi cartref yn gallu cofrestru eu presenoldeb. Cytundeb Cymryd Rhan mewn Chwaraeon - hysbysu capteiniaid ac aelodau'r pwyllgor o'r gofynion ar gyfer y flwyddyn i ddod Cyflawni’r pwyntiau maniffesto na allai Tabitha eu cwblhau – ap i’r Undeb Athletau, lobïo dros ail gae 3G - i arbed canslo gemau a chaniatáu mwy o sesiynau hyfforddi. PARHAU I GYNNIG CHWARAEON AM DDIM.


Ymgeiswyr IL Cymdeithasau a Gwirfoddoli

Phoebe Iddon

Lucienne Harrison Roberts

Reimyail Malik

Samuel Dickins

Charlie Jones

Michelle Stearn

Mohd Mehedi Ikram




CHARLIE JONES CYMDEITHASAU A GWIRFODDOLI Rwy’n fyfyriwr Technolegau Creadigol, ac yn aelod o’r tîm Hyrwyddo a Marchnata yn y Gwasanaeth Cyflogadwyedd. Rwyf hefyd wedi bod yn Gynrychiolydd Cwrs, yn Arweinydd Cyfoed, ac yn rhan o Gymdeithas Makerspace. Bydd fy mhrofiad blaenorol fel Sgowt ac Arweinydd Cadetiaid Tân yn caniatáu i mi ddefnyddio sgiliau arwain a gweithio mewn tîm i adeiladu undeb cryfach rhwng ein cymdeithasau. Beth fyddwn yn ei wneud drosoch chi? Hyrwyddo Cymdeithasau: Mae profiad gyda'r Gwasanaeth Cyflogadwyedd yn golygu fy mod mewn sefyllfa dda i weithio'n agos gyda chymdeithasau ar wella eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn awyddus i gyflwyno gweithdai drwy gydol y flwyddyn ar waith hyrwyddo ar-lein i gynyddu aelodaeth pob cymdeithas. “Clybiau Nos” Di-alcohol: Nid alcohol yw pob dim mewn parti, yn arbennig os allwch chi gael bwyd am ddim yn ei le! Bydd cryfhau’r berthynas rhwng cymdeithasau yn rhoi’r cyfle i ni gynnal nosweithiau gemau diogel a hwyliog, nosweithiau ffilm, a mwy – i gyd gyda pizza am ddim! Gweithgareddau: Rwy’n awyddus i ddefnyddio Pontio i gynnal nosweithiau ffilm a sioeau am ddim, yn ogystal â chynnig teithiau rhad i lefydd fel Marchnad Nadolig Manceinion, Lerpwl, Alton Towers, Caerdydd, ac i Sŵau! Byddai gweithgareddau fel crefftau, coginio, cwisiau ac ati yn rhedeg trwy gydol y flwyddyn i'ch helpu a'ch cymell i ymlacio ar ôl diwrnod prysur yn y brifysgol. Profiad: Rydw i eisiau gwneud gweithgareddau'n agored i bawb trwy ddefnyddio bysiau mini'r brifysgol gan fod cludiant yn gallu bod yn broblem. Rwy’n awyddus i gyflwyno teithiau rheolaidd ar brynhawniau Mercher i Barc Gwyddoniaeth M-SParc yng Ngaerwen, a thrwy hynny gynnig amgylchedd gwahanol i weithio ynddo, a hefyd cyfleoedd i wella rhagolygon cyflogadwyedd trwy gyfarfod â'r tenantiaid yno. Iechyd Meddwl: Unwaith yr wythnos hoffwn gynnal ‘taith gerdded a sgwrsio’, gan roi cyfle i wahanol ysgolion ddod at ei gilydd i gymysgu ac ymlacio. Cynigion eraill yr hoffwn eu gwireddu yw gwersylloedd bŵt boreol, yn ogystal â theithiau cerdded amrywiol mewn cydweithrediad â'r clybiau chwaraeon i wella ffitrwydd a’r cymhelliant i weithio hefyd.


LUCIENNE HARRISON-ROBERTS Helo, fy enw i yw Lucienne (Lou neu Lucy i chi). Rwy’n fyfyriwr hŷn blwyddyn sylfaen yn astudio Gwyddor Biofeddygol ym Mangor. Fy mwriadwrth sefyll fel swyddog sabothol yw grymuso myfyrwyr i fynegi eu hunigoliaeth trwy wrando arnynt a bod yn agored i syniadau newydd i wella bywyd myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor. Bydd fy ngwaith cychwynnol fel swyddog sabothol yn blaenoriaethu iechyd meddwl trwy sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cefnogi gyda pharch a sensitifrwydd.Ymhellach, rwy'n credu mewn tegwch ac amrywiaeth o ran crefydd, rhywedd, oedran, a hil. Pwynt hanfodol arall, ers y pandemig, yw’r sefyllfa o ran dosbarthiadau digidol ar-lein. Mae angen i Fangor gynnal ansawdd ei darlithoedd trwy wella ei dulliau dysgu ar-lein at y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn cael mwy o fudd ohono, a bydd y brifysgol yn cael mwy o fyfyrwyr drwy sicrhau bod pawb yn derbyn yr un ansawdd cyson o ddarlithoedd ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae gan Brifysgol Bangor amgylchedd hudolus a gellid ei ddefnyddio i'w mantais yn ddigidol. Fel myfyriwr hŷn, ni allwn bob amser fforddio i deithio’n bell am resymau ariannol, neu efallai am resymau eraill, fel gwaith, ymrwymiadau teuluol ac iechyd meddwl. Mae’n bryd addasu; mae cymdeithas yn troi’n fwy digidol. Hoffwn gynyddu cynrychiolaeth ac ymroddiad ymysg myfyrwyr hŷn ac ôl-radd. Rwyf wedi bod yn ffodus fel person, a hoffwn roi rhywbeth yn ôl i gymdeithas trwy wneud gwahaniaeth, cefnogi fy nghyfoedion, a gwneud y pethau iawn gydag empathi a doethineb. Rwyf hefyd yn teimlo’n angerddol dros gynaladwyedd. Os caf fy ethol, hoffwn wella ar y sefyllfa o ran pwyntiau gwefru i gerbydau trydan ym Mhrifysgol Bangor a chyflwyno un yn y brifysgol a fyddai ar gael i bob myfyriwr ei ddefnyddio. Fy nghefndir: Cenedligrwydd Deuol, Y Deyrnas Unedig-Brasil, wedi gweithio ym maes rheolaeth manwerthu ac elusennau/codi arian Gofal Canser Marie Curie, Barnardos, a Phroject Newyn Brasil. Os ydych eisiau ymgeisydd sy'n gyfeillgar, yn sylwgar ac yn agosatoch, pleidleisiwch dros Lucie Ffaith hwyliog amdanaf. Rydw i'n dod yn wreiddiol o Frasil, rwy'n caru ZUMBA! Bûm yn byw yn LA am bum mlynedd ond fe gododd hiraeth ynof am dywydd Prydain. Diolch am ddarllen.




Mohd Mehedi Ikram Mynnwch ei wneud yn bosibl


16-18 MAWRTH pleidleisiwch arlein www.undebbangor.com/elections


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.