2 minute read

Rheolau Cyffredinol

Next Article
Map

Map

1. Polisi Iaith

1.1. Diben yr Eisteddfod yw hyrwyddo, dathlu a gwarchod y diwylliant Cymreig a Chymraeg, Cymraeg fydd iaith yr Eisteddfod.

Advertisement

1.2. Mae ' n rhaid i' r cyfansoddiadau a ' r cystadlu fod yn Gymraeg ac eithrio cystadleuaeth y Dawnsio Disgo a ’ r Dawnsio Stepio. Yn achos y gwaith cartref, caniateir geiriau Saesneg o fewn darluniau ffotograffiaeth.

1.3 Mewn cystadlaethau hunan-ddewisol dylai’ r mwyafrif helaeth o ’ r gosodiad fod yn Gymraeg, ond caniateir defnydd o iaith arall at ddiben y gosodiad. Ni chaniateir gorddefnydd o ’ r iaith honno. Bydd y beirniad priodol yn penderfynu ar hyn yn unol â rheolau ’ r Eisteddfod.

2. Cystadlu

2.1 Bydd yr Eisteddfod yn agored i holl fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr mewn colegau Prifysgol a cholegau Addysg Uwch yng Nghymru a thu hwnt.

2.2 Mewn cystadlaethau lle nodir amser penodol, rhaid cadw oddi fewn i’ r amser a osodwyd. Nid yw ’ n dderbyniol cynllunio ’ n fwriadol i berfformio dros yr amser penodedig. Ni fydd yr Eisteddfod yn diarddel cystadleuwyr sydd dros eu hamser, ond fe fydd beirniaid y gystadleuaeth honno ’ n ystyried y ffaith i’ r cystadleuydd fynd dros ei amser yn ei ddyfarniad.

2.3 Bydd yn rhaid i’ r cystadleuydd/cystadleuwyr ymateb heb unrhyw oedi i gystadlu ar lwyfan, os nad ydyn yn gwarantu hyn, gallent golli’ r hawl i gystadlu.

2.4 Dylid ymdrechu i ddarparu copi ar gyfer y beirniad mewn cystadlaethau hunan-ddewisol lle bo hynny ’ n briodol.

2.5 Caniateir defnydd o gopïau yng nghystadlaethau llwyfan yr Eisteddfod gan leiafrif y cystadleuwyr a gymerant ran.

2.6 Yn achos y gystadleuaeth ‘Bing Bong ’ eleni, ni chaniateir darn o bapur i gynorthwyo ’ r cystadleuwyr er mwyn tegwch ac i’ r gystadleuaeth lifo ’ n naturiol.

CYFRIFOLDEB Llywydd Cymdeithas Gymraeg/Undeb myfyrwyr Cymraeg pob prifysgol yw cyflwyno gwaith cartref myfyrwyr, a rhestr o gystadleuwyr llwyfan a thimau chwaraeon o ’ u prifysgolion eu hunain. Os nad oes darpariaeth ffurfiol o ’ r fath mewn coleg, dylai unigolion gyflwyno ’ r gwaith eu hunain.

3. Gwobrwyo

3.1 Dyfernir pwyntiau yn holl gystadlaethau ’ r Eisteddfod yn unol â’ r Strwythur Marcio.

3.2 Y coleg â’ r nifer uchaf o bwyntiau ar derfyn yr Eisteddfod fydd yn fuddugol.

3.3 Rhoddir gwobrau i’ r buddugwyr (os bydd teilyngdod) yng nghystadlaethau ’ r Gadair, y Goron, Tlws y Cerddor, Medal y Dysgwyr, y Fedal Ddrama, Y Fedal Gelf a ' r Fedal Wyddoniaeth. Cyflwynir hefyd wobr i Athletwr ac Athletwraig y diwrnod yn y Chwaraeon ar Ddydd Gwener, yn ogystal ag i arweinydd y Côr SATB buddugol.

3.4 Ni wobrwyir os na bydd teilyngdod.

3.5 Bydd dyfarniad y beirniaid yn derfynol yng nghystadlaethau ’ r Eisteddfod.

3.6 Ni cheir cydradd buddugol yn y cystadlaethau llwyfan nac yn y Gwaith Cartref. Caniateir, fodd bynnag, osod cydradd ail a/neu cydradd drydydd.

This article is from: