2 minute read

Gair o Groeso

Next Article
Gwybodaeth

Gwybodaeth

Ar benwythnos y 5ed o Fawrth 2022 bydd hi’ n fraint i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor groesawu myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr Prifysgolion Cymru a thu hwnt ar gyfer yr Eisteddfod Ryng-golegol, yn dilyn blwyddyn o seibiant.

Dyma gyflwyno Llawlyfr swyddogol yr Eisteddfod i’ ch tywys chi drwy holl ddigwyddiadau ’ r penwythnos a cynnig yr holl wybodaeth angenrheidiol. Cystadlu wrth reswm, yw hanfod unrhyw Eisteddfod. Ond mae ’ n lawer mwy na hynny, mae ’ n gyfle i gymuned Gymreig o fyfyrwyr ddod at ei gilydd ac ymfalchïo yn eu hunaniaeth a chymdeithasu yn y modd Rhyng-golegol traddodiadol.

Advertisement

Mae ’ r Gymraeg yn fyw ac yn iach, fel erioed, a gyda ’ r byd ag amgylchedd newydd sydd ohoni ma hi’ n parhau i ffynnu. Mae ’ r ddwy flynedd ddiwethaf o gyfyngu ar gymdeithasu wedi bod yn heriol, ond mae ’ n ryddhad mawr i ni allu cynnal y Steddfod eleni yn enwedig, yn dilyn yr ansicrwydd os y byddai’ r Steddfod yn gallu cael ei chynnal ar droad y Flwyddyn Newydd.

Rydym yn disgwyl ymlaen yn fawr iawn i’ ch croesawu chi nol i’ r Parti Ryng-golegol a dwi’ n siŵr y gwnewch chi ymroi’ n llwyr i fwynhad y penwythnos. Rydym ni fel pwyllgor wedi mynd ati i geisio sicrhau bod testunau a chystadlaethau ’ r Eisteddfod yn amrywio gyda rhywbeth at ddant pawb, yn ogystal a chadw at thema ’ r ardal ddinesig Ogleddol. Mae yna ambell gystadleuaeth newydd megis y ‘Band Cegin ’ a parhad y Fedal Wyddoniaeth sy ’ n parhau ’ n gystadleuaeth gyfoes. Ond rydym hefyd wedi cadw at ein gwreiddiau gyda ’ r hen ffefrynnau megis ‘Bing Bong ’ , Meim a ’ r Seremonïau Eisteddfodol hanesyddol, wrth gwrs yn parhau ar yr arlwy.

Mae safonau ’ r Gymraeg yn parhau i wella mewn Addysg Uwch, a ’ n her ni fel myfyrwyr yw defnyddio ein llais i sicrhau bod y rheiny mewn grym yn gweithredu ac yn ateb ein dyheadau. Hoffai UMCB longyfarch Swyddog y Gymraeg a holl fyfyrwyr Cymraeg Prifysgol Caerdydd ar ei llwyddiant yn sicrhau Swyddog Llawn Amser ar gyfer y Gymraeg yn y Brifysgol erbyn y flwyddyn academaidd 2023/24. Bydd eich cymdeithas Gymraeg yn elwa ’ n aruthrol o ’ r swydd hon a ’ r cyfleoedd fydd yn cael eu cyflwyno i’ ch myfyrwyr trwy ’ r Gymraeg o ganlyniad. Mae ’ n gam mawr ymlaen i chi ac yn fuddugoliaeth nodedig arall i’ r iaith.

This article is from: