1 minute read
Materion Gwleidyddol
4.1 Bydd penderfyniad Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod yn derfynol ym mhob achos o anghydweld yn yr Eisteddfod.
4.2 Cyfrifoldeb myfyrwyr unigol a/neu pwyllgor Cymdeithas Gymraeg/Undeb Myfyrwyr Cymraeg y colegau yw sicrhau bod unrhyw reoliadau hawlfraint wedi eu boddhau. Eu cyfrifoldeb hwythau ydyw cael gafael ar gopïau.
Advertisement
4.3 Os oes unrhyw anghyfleuster gyda ’ r cyfleusterau. Bydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod yn penderfynu a yw ’ r cystadlaethau chwaraeon yn mynd yn eu blaenau yn dilyn ymgynghori gyda swyddogion y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr.
4.4 Cedwir pob hawl i ddiwygio ’ r testunau gwreiddiol ar alw Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod am ba reswm bynnag. Gwneir pob ymdrech i hysbysu ’ r colegau o newid o ’ r fath cyn gynted ag y bo modd.
4.5 Gall y Pwyllgor Gwaith ddiwygio ’ r rheolau hyn os oes galw. Gwneir pob ymdrech i hysbysu ’ r colegau o newid o ’ r fath cyn gynted ag y bo modd.
4.6 Mewn achosion arbennig, gall y Pwyllgor Gwaith ystyried ceisiadau gan golegau a ddymunent ddod ynghyd a chystadlu fel Ffederasiwn e.e. Casgliad o golegau Lloegr.
4.7 Cedwir pob hawl darlledu a thynnu lluniau o ddiwrnod yr Eisteddfod fel y dymunir. Dylid cyflwyno unrhyw wrthwynebiad yn ysgrifenedig i Lywydd UMCB.
4.8 Cedwir pob hawl i gyhoeddi gwaith cartref buddugol mewn unrhyw modd os y dymunir.
4.9 Gall unrhyw fath o gam-ymddwyn ymysg Myfyrwyr ddilyn i gosbi Prifysgolion o ran Pwyntiau yn yr Eisteddfod. Mwynhewch yn y modd priodol.
Mae holl Weithiau Cartref yr Eisteddfod bellach wedi cael eu dosbarthu i’ r beirniaid, ac yn y broses o farcio a gwobrwyo. Bydd enillwyr yr holl destunau yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr Eisteddfod, naill ai trwy gyhoeddiad gan y cyflwynwyr neu drwy ’ r seremonïau traddodiadol.