Llawlyfr Eisteddfod Ryng-gol Bangor 2022

Page 3

Ar benwythnos y 5ed o Fawrth 2022 bydd hi’n fraint i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor groesawu myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr Prifysgolion Cymru a thu hwnt ar gyfer yr Eisteddfod Ryng-golegol, yn dilyn blwyddyn o seibiant. Dyma gyflwyno Llawlyfr swyddogol yr Eisteddfod i’ch tywys chi drwy holl ddigwyddiadau’r penwythnos a cynnig yr holl wybodaeth angenrheidiol. Cystadlu wrth reswm, yw hanfod unrhyw Eisteddfod. Ond mae’n lawer mwy na hynny, mae’n gyfle i gymuned Gymreig o fyfyrwyr ddod at ei gilydd ac ymfalchïo yn eu hunaniaeth a chymdeithasu yn y modd Rhyng-golegol traddodiadol. Mae’r Gymraeg yn fyw ac yn iach, fel erioed, a gyda’r byd ag amgylchedd newydd sydd ohoni ma hi’n parhau i ffynnu. Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf o gyfyngu ar gymdeithasu wedi bod yn heriol, ond mae’n ryddhad mawr i ni allu cynnal y Steddfod eleni yn enwedig, yn dilyn yr ansicrwydd os y byddai’r Steddfod yn gallu cael ei chynnal ar droad y Flwyddyn Newydd. Rydym yn disgwyl ymlaen yn fawr iawn i’ch croesawu chi nol i’r Parti Ryng-golegol a dwi’n siŵr y gwnewch chi ymroi’n llwyr i fwynhad y penwythnos. Rydym ni fel pwyllgor wedi mynd ati i geisio sicrhau bod testunau a chystadlaethau’r Eisteddfod yn amrywio gyda rhywbeth at ddant pawb, yn ogystal a chadw at thema’r ardal ddinesig Ogleddol. Mae yna ambell gystadleuaeth newydd megis y ‘Band Cegin’ a parhad y Fedal Wyddoniaeth sy’n parhau’n gystadleuaeth gyfoes. Ond rydym hefyd wedi cadw at ein gwreiddiau gyda’r hen ffefrynnau megis ‘Bing Bong’, Meim a’r Seremonïau Eisteddfodol hanesyddol, wrth gwrs yn parhau ar yr arlwy. Mae safonau’r Gymraeg yn parhau i wella mewn Addysg Uwch, a’n her ni fel myfyrwyr yw defnyddio ein llais i sicrhau bod y rheiny mewn grym yn gweithredu ac yn ateb ein dyheadau. Hoffai UMCB longyfarch Swyddog y Gymraeg a holl fyfyrwyr Cymraeg Prifysgol Caerdydd ar ei llwyddiant yn sicrhau Swyddog Llawn Amser ar gyfer y Gymraeg yn y Brifysgol erbyn y flwyddyn academaidd 2023/24. Bydd eich cymdeithas Gymraeg yn elwa’n aruthrol o’r swydd hon a’r cyfleoedd fydd yn cael eu cyflwyno i’ch myfyrwyr trwy’r Gymraeg o ganlyniad. Mae’n gam mawr ymlaen i chi ac yn fuddugoliaeth nodedig arall i’r iaith. Mabon Dafydd Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor 2021-22

3


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.