Llawlyfr Eisteddfod Ryng-gol Bangor 2022

Page 1

Llyfryn Gwybodaeth


Cynnwys Gair o Groeso...................................3 Rheolau Cyffredinol.......................4 Materion Gwleidyddol....................6 Strwythur Marcio............................7 Cystadlaethau Gwaith Cartref......8 Twrnament Chwaraeon..............10 Cystadlaethau Llwyfan................11 Map.................................................12 Gwybodaeth..................................13 Cyswllt/Diolchiadau.....................14

2


Ar benwythnos y 5ed o Fawrth 2022 bydd hi’n fraint i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor groesawu myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr Prifysgolion Cymru a thu hwnt ar gyfer yr Eisteddfod Ryng-golegol, yn dilyn blwyddyn o seibiant. Dyma gyflwyno Llawlyfr swyddogol yr Eisteddfod i’ch tywys chi drwy holl ddigwyddiadau’r penwythnos a cynnig yr holl wybodaeth angenrheidiol. Cystadlu wrth reswm, yw hanfod unrhyw Eisteddfod. Ond mae’n lawer mwy na hynny, mae’n gyfle i gymuned Gymreig o fyfyrwyr ddod at ei gilydd ac ymfalchïo yn eu hunaniaeth a chymdeithasu yn y modd Rhyng-golegol traddodiadol. Mae’r Gymraeg yn fyw ac yn iach, fel erioed, a gyda’r byd ag amgylchedd newydd sydd ohoni ma hi’n parhau i ffynnu. Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf o gyfyngu ar gymdeithasu wedi bod yn heriol, ond mae’n ryddhad mawr i ni allu cynnal y Steddfod eleni yn enwedig, yn dilyn yr ansicrwydd os y byddai’r Steddfod yn gallu cael ei chynnal ar droad y Flwyddyn Newydd. Rydym yn disgwyl ymlaen yn fawr iawn i’ch croesawu chi nol i’r Parti Ryng-golegol a dwi’n siŵr y gwnewch chi ymroi’n llwyr i fwynhad y penwythnos. Rydym ni fel pwyllgor wedi mynd ati i geisio sicrhau bod testunau a chystadlaethau’r Eisteddfod yn amrywio gyda rhywbeth at ddant pawb, yn ogystal a chadw at thema’r ardal ddinesig Ogleddol. Mae yna ambell gystadleuaeth newydd megis y ‘Band Cegin’ a parhad y Fedal Wyddoniaeth sy’n parhau’n gystadleuaeth gyfoes. Ond rydym hefyd wedi cadw at ein gwreiddiau gyda’r hen ffefrynnau megis ‘Bing Bong’, Meim a’r Seremonïau Eisteddfodol hanesyddol, wrth gwrs yn parhau ar yr arlwy. Mae safonau’r Gymraeg yn parhau i wella mewn Addysg Uwch, a’n her ni fel myfyrwyr yw defnyddio ein llais i sicrhau bod y rheiny mewn grym yn gweithredu ac yn ateb ein dyheadau. Hoffai UMCB longyfarch Swyddog y Gymraeg a holl fyfyrwyr Cymraeg Prifysgol Caerdydd ar ei llwyddiant yn sicrhau Swyddog Llawn Amser ar gyfer y Gymraeg yn y Brifysgol erbyn y flwyddyn academaidd 2023/24. Bydd eich cymdeithas Gymraeg yn elwa’n aruthrol o’r swydd hon a’r cyfleoedd fydd yn cael eu cyflwyno i’ch myfyrwyr trwy’r Gymraeg o ganlyniad. Mae’n gam mawr ymlaen i chi ac yn fuddugoliaeth nodedig arall i’r iaith. Mabon Dafydd Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor 2021-22

3


1. Polisi Iaith 1.1. Diben yr Eisteddfod yw hyrwyddo, dathlu a gwarchod y diwylliant Cymreig a Chymraeg, Cymraeg fydd iaith yr Eisteddfod. 1.2. Mae'n rhaid i'r cyfansoddiadau a'r cystadlu fod yn Gymraeg ag eithrio cystadleuaeth y Dawnsio Disgo a’r Dawnsio Stepio. Yn achos y gwaith cartref, caniateir geiriau Saesneg o fewn darluniau ffotograffiaeth. 1.3 Mewn cystadlaethau hunan-ddewisol dylai’r mwyafrif helaeth o’r gosodiad fod yn Gymraeg, ond caniateir defnydd o iaith arall at ddiben y gosodiad. Ni chaniateir gorddefnydd o’r iaith honno. Bydd y beirniad priodol yn penderfynu ar hyn yn unol â rheolau’r Eisteddfod.

2. Cystadlu 2.1 Bydd yr Eisteddfod yn agored i holl fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr mewn colegau Prifysgol a cholegau Addysg Uwch yng Nghymru a thu hwnt. 2.2 Mewn cystadlaethau lle nodir amser penodol, rhaid cadw oddi fewn i’r amser a osodwyd. Nid yw’n dderbyniol cynllunio’n fwriadol i berfformio dros yr amser penodedig. Ni fydd yr Eisteddfod yn diarddel cystadleuwyr sydd dros eu hamser, ond fe fydd beirniaid y gystadleuaeth honno’n ystyried y ffaith i’r cystadleuydd fynd dros ei amser yn ei ddyfarniad. 2.3 Bydd yn rhaid i’r cystadleuydd/cystadleuwyr ymateb heb unrhyw oedi i gystadlu ar lwyfan, os nad ydyn yn gwarantu hyn, gallent golli’r hawl i gystadlu. 2.4 Dylid ymdrechu i ddarparu copi ar gyfer y beirniad mewn cystadlaethau hunan-ddewisol lle bo hynny’n briodol. 2.5 Caniateir defnydd o gopïau yng nghystadlaethau llwyfan yr Eisteddfod gan leiafrif y cystadleuwyr a gymerant ran. 2.6 Yn achos y gystadleuaeth ‘Bing Bong’ eleni, ni chaniateir darn o bapur i gynorthwyo’r cystadleuwyr er mwyn tegwch ac i’r gystadleuaeth lifo’n naturiol.

4


CYFRIFOLDEB Llywydd Cymdeithas Gymraeg/Undeb myfyrwyr Cymraeg pob prifysgol yw cyflwyno gwaith cartref myfyrwyr, a rhestr o gystadleuwyr llwyfan a thimau chwaraeon o’u prifysgolion eu hunain. Os nad oes darpariaeth ffurfiol o’r fath mewn coleg, dylai unigolion gyflwyno’r gwaith eu hunain.

3. Gwobrwyo 3.1 Dyfernir pwyntiau yn holl gystadlaethau’r Eisteddfod yn unol â’r Strwythur Marcio. 3.2 Y coleg â’r nifer uchaf o bwyntiau ar derfyn yr Eisteddfod fydd yn fuddugol. 3.3 Rhoddir gwobrau i’r buddugwyr (os bydd teilyngdod) yng nghystadlaethau’r Gadair, y Goron, Tlws y Cerddor, Medal y Dysgwyr, y Fedal Ddrama, Y Fedal Gelf a'r Fedal Wyddoniaeth. Cyflwynir gwpan i'r Brifysgol sy'n ennill y nifer fwyaf o bwyntiau yn y Chwaraeon ar Ddydd Gwener. Yn ogystal cyflwynir wobr i Athletwr ac Athletwraig y diwrnod yn y Chwaraeon ar Ddydd Gwener, yn ogystal ag i arweinydd y Côr SATB buddugol. 3.4 Ni wobrwyir os na bydd teilyngdod. 3.5 Bydd dyfarniad y beirniaid yn derfynol yng nghystadlaethau’r Eisteddfod. 3.6 Ni cheir cydradd buddugol yn y cystadlaethau llwyfan nac yn y Gwaith Cartref. Caniateir, fodd bynnag, osod cydradd ail a/neu cydradd drydydd.

5


4. Materion Gwleidyddol 4.1 Bydd penderfyniad Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod yn derfynol ym mhob achos o anghydweld yn yr Eisteddfod. 4.2 Cyfrifoldeb myfyrwyr unigol a/neu pwyllgor Cymdeithas Gymraeg/Undeb Myfyrwyr Cymraeg y colegau yw sicrhau bod unrhyw reoliadau hawlfraint wedi eu boddhau. Eu cyfrifoldeb hwythau ydyw cael gafael ar gopïau. 4.3 Os oes unrhyw anghyfleuster gyda’r cyfleusterau. Bydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod yn penderfynu a yw’r cystadlaethau chwaraeon yn mynd yn eu blaenau yn dilyn ymgynghori gyda swyddogion y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. 4.4 Cedwir pob hawl i ddiwygio’r testunau gwreiddiol ar alw Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod am ba reswm bynnag. Gwneir pob ymdrech i hysbysu’r colegau o newid o’r fath cyn gynted ag y bo modd. 4.5 Gall y Pwyllgor Gwaith ddiwygio’r rheolau hyn os oes galw. Gwneir pob ymdrech i hysbysu’r colegau o newid o’r fath cyn gynted ag y bo modd. 4.6 Mewn achosion arbennig, gall y Pwyllgor Gwaith ystyried ceisiadau gan golegau a ddymunent ddod ynghyd a chystadlu fel Ffederasiwn e.e. Casgliad o golegau Lloegr. 4.7 Cedwir pob hawl darlledu a thynnu lluniau o ddiwrnod yr Eisteddfod fel y dymunir. Dylid cyflwyno unrhyw wrthwynebiad yn ysgrifenedig i Lywydd UMCB. 4.8 Cedwir pob hawl i gyhoeddi gwaith cartref buddugol mewn unrhyw fodd os y dymunir. 4.9 Gall unrhyw fath o gam-ymddwyn ymysg Myfyrwyr arwain at gosbi Prifysgolion o ran Pwyntiau yn yr Eisteddfod. Mwynhewch yn y modd priodol.

Mae holl geisiadau Gwaith Cartref yr Eisteddfod bellach wedi cael eu dosbarthu i’r beirniaid, ac yn y broses o gael eu marcio a'u dyfarnu. Bydd enillwyr yr holl destunau yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr Eisteddfod, naill ai trwy gyhoeddiad gan y cyflwynwyr neu drwy’r seremonïau traddodiadol.

6


Dyfernir pwyntiau ar gyfer y cystadlaethau Gwaith Cartref fel a ganlyn: 1af- 10 Pwynt 2il- 6 Pwynt 3ydd- 4 Pwynt Yn achos y prif gystadlaethau Gwaith Cartref, dyfernir y pwyntiau fel a ganlyn: 1af- 50 Pwynt 2il- 30 Pwynt 3ydd- 20 Pwynt Noder: “Y Prif gystadlaethau” yw Y Gadair, Y Goron, Tlws y Cerddor, Medal y Dysgwyr, Y Fedal Ddrama, Y Fedal Gelf a’r Fedal Wyddoniaeth. Noder hefyd y caiff unrhyw ddarn o waith a gyflwynwyd Bwynt am yr ymdrech.

Dyfernir pwyntiau ar gyfer y cystadlaethau Llwyfan fel a ganlyn: 1af- 10 Pwynt 2il- 6 Pwynt 3ydd- 4 Pwynt Yn achos cystadlaethau’r Corau dyfernir pwyntiau fel a ganlyn: 1af- 30 Pwynt 2il- 20 Pwynt 3ydd- 10 Pwynt

Dyfernir pwyntiau ar gyfer y cystadlaethau Chwaraeon oll fel a ganlyn: 1af- 30 Pwynt 2il- 15 Pwynt 3ydd- 7 Pwynt

7


Y Gadair: Cerdd gaeth neu rydd heb fod dros 100 llinell ar y testun - 'Mynydd'. Beirniad: Osian Owen. Crewyd y Gadair gan Callum Evans a Peredur Williams Englyn: 'Pont' Englyn Ddigri: 'Prydain' Parodi: 'Mardi Gras ym Mangor Uchaf' Cerdd Ddychan: 'Boris Johnson' Limerig: 'A oeddech chi yno nos Wenar?'

Y Goron: Darn neu ddarnau o ryddiaith heb fod dros 5,000 o eiriau ar y testun: 'Môr'. Beirniad y Goron: Angharad Price. Crewyd y Goron gan Ann Catrin Evans, noddir gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Beirniad y testunau eraill: Erin Hughes Stori Fer- 'Chwyldro' Casgliad o lên micro dim mwy na 10 darn- 'Arian' Brawddeg- 'TAFARN Y GLOB' Araith- 'Annibyniaeth'

Cyfansoddi darn a fyddai'n addas i'w pherfformio ar lwyfan. Caiff fod ar gyfer grwp lleisiol neu grwp offerynnol heb fod yn fwy na 10 munud. Dylid cyflwyno'r gwaith ar ffurf trac digidol a chopi print o'r gerddoriaeth gyda'i gilydd. Beirniad: Huw Foulkes

8


Bydd y gystadleuaeth hon yn mynd i'r afael â'r ystod eang o bosibiliadau o Gelf a Dylunio. Gwahoddir ceisiadau gan fyfyrwyr mewn ymateb i'r thema: 'Plastig'. Caiff hyn fod mewn unrhyw broses celf a dylunio (e.e ffotograffiaeth, peintio, argraffu, cerameg, tecstiliau, dylunio cynnyrch, dylunio moduro, ffilm, cyfryngau, dylunio graffeg, gwaith digidol, darlunio, animeiddio). Dylid cyflwyno un darn o waith ar y thema. Dylid cyflwyno'r gwaith yn electronig mewn cyfres o hyd at 4 ffotograff digidol neu ffilm fer neu animeiddiau nad yw'n fwy na 4 munud o hyd sydd yn dangos: Y darn yn ei gyfanrwydd Manylder y darn Maint y darn Ac os yn berthnasol agwedd arall o'r darn (yn enwedig mewn gwaith 3D) Bydd y darnau llwyddiannus yn nhyb y beirniaid yn cael eu harddangos yn ystod yr Eisteddfod, trefnir hyn gyda'r enillwyr o flaen llaw. Beirniad: Lisa Eurgain Taylor

Drama fer a chymer rhwng 15 a 20 munud i'w pherfformio. Beirniad: Gareth Evans Jones

Poster yn egluro pwnc llosg mewn unrhyw faes gwyddoniaeth, mathemateg, meddygaeth, technoleg neu beirianneg. Bydd posteri yn cael eu beirniadu yn ôl dau faen prawf sydd wedi'i pwysoli'n gyfartal. Felly mae'n rhaid i'r ceisiadau fynd i'r afael â'r ddau beth yn gyfartal. i. Dylunio Poster- Y cyflwyniad gweledol a sut y caiff syniadau eu cyfathrebu. ii. Cynnwys y Poster- ansawdd y cynnwys gwyddonol a gaiff ei rannu yn y poster a pha mor hawdd a gall rhywun nad sy'n arbenigwr ei ddeall. Dylid cyflwyno y poster ar gyfer cystadleuaeth y Fedal Wyddoniaeth ar ffurf electronig ac ar ffurf poster papur hefyd. Beirniad: Deri Tomos

1. Cerddi/ Stori Fer- 'Teulu 2. Blod/Erthygl- 'Cartref Bydd y darn gorau o'r ddwy gystadleuaeth yn derbyn Medal Y Dysgwyr Beirniad: Francesca Sciarrillo

9


Pêl Rwyd: Canolfan Brailsford 12:00 - 14:05, Merched Treborth (3G) 12:30 - 14:30 - Pêl Droed Bechgyn 14:00 - 15:00 - Pêl Droed Merched 15:00 - 16:00 - Rygbi Bechgyn 16:00 - 17:00 - Rygbi Merched

10 7


1. Unawd Offerynnol – Hunan Ddewisol 2. Llefaru Unigol - Hunan Ddewisol 3. Unawd Cerdd Dant – Hunan Ddewisol 4. Clocsio Unigol 5. Band Cegin (Darn o gerddoriaeth yn defnyddio offer cegin yn unig). 6. Unawd Alaw Werin – Hunan Ddewisol 7. Grŵp Dawnsio Gwerin 8. Grŵp Llefaru – Hunan Ddewisol 9. Deuawd – Hunan Ddewisol 10. Y Seremonïau 11. Unawd Merched – Hunan Ddewisol 12. Unawd Bechgyn – Hunan Ddewisol 13. Ensemble Lleisiol – Hunan Ddewisol 14. Parti Cerdd Dant – Hunan Ddewisol 15. Unawd Sioe Gerdd – Hunan Ddewisol 16. Cyflwyniad Theatrig Digri Unigol 17. Deuawd/Triawd Ddoniol 18. Sgets 19. Grŵp Dawnsio Creadigol/Disgo 20. Meimio i unrhyw gân / Caneuon Cymraeg 21. Bing Bong (Un cystadleuydd o bob Prifysgol i gystadlu. Ni fydd hawl i chi gael papur gyda penillion i’ch helpu chi ar y llwyfan! 22. Côr Sioe Gerdd - (Unrhyw gân gan Cwmni Theatr Maldwyn 23. Côr Bechgyn - Safwn yn y Bwlch 24. Côr Merched – Strydoedd Aberstalwm 25. Côr SATB – Yma Wyf Innau I Fod

11


ENILLWYR DIWEDDAR 2021 – (Cwpan Her Rhyngol) Prifysgol Bangor 2020 – Prifysgol Bangor 2019 – Prifysgol Bangor 2018 – Prifysgol Bangor 2017 – Prifysgol Bangor 2016 – Prifysgol Bangor 2015 – Prifysgol Aberystwyth 2014 – Prifysgol Bangor 2013 – Prifysgol Aberystwyth 2012 – Prifysgol Bangor Lleoliadau Nesaf 2022 – Prifysgol Bangor 2023 – Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant 2024 – Prifysgol Abertawe 2025 – Prifysgol Aberystwyth

12


MANYLION CYSWLLT Dylid cyflwyno unrhyw ymholiadau ynghylch y testunau hyn, neu yn wir yr Eisteddfod Ryng-golegol yma ym Mangor yn gyffredinol, i UMCB neu Bwyllgor Gwaith Rhyngol drwy Mabon Dafydd, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor. mabon.dafydd@undebbangor.com DIOLCHIADAU Hoffai UMCB ddiolch i’r beirniaid, cyflwynwyr a’r noddwyr am ei cyfraniad i’r Eisteddfod eleni. Hoffwn hefyd ddiolch i Bwyllgor Gwaith yr Eisteddfod ac i Staff yr Undeb am ei gwaith a’u hymroddiad di-flino wrth gyfrannu i drefnu’r Eisteddfod.

13


14



13


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.