Polisi a Threfnau ar gyfer Myfyrwyr ac Aelodau Cyswllt Dan 18 oed
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cydnabod y gallai rhai o fyfyrwyr Prifysgol Bangor fod o dan 18 oed pan fyddant yn dechrau ar eu cwrs. Dylai'r myfyrwyr hyn a'u teuluoedd ddeall bod Prifysgol Bangor ac Undeb Myfyrwyr Phrifysgol Bangor yn amgylchedd i oedolion a disgwylir i bawb sy'n cymryd rhan yng ngweithgareddau Undeb y Myfyrwyr ysgwyddo cyfrifoldeb oedolyn a bod â'r sgiliau angenrheidiol i gymryd rhan yn annibynnol yng ngweithgareddau Undeb y Myfyrwyr. Cyfrifoldeb yr unigolyn yw sicrhau bod ei riant neu rieni)/gwarcheidwad neu warcheidwaid yn deall y dybiaeth hon ac yn gwneud cais am gefnogaeth ychwanegol os oes ei angen. Bydd Undeb y Myfyrwyr yn llunio adroddiad o'n system Gwasanaethau Aelodaeth i nodi pa fyfyrwyr sydd o dan 18 oed a bydd y wybodaeth hon yn cael ei chyfleu i arweinwyr gweithgareddau perthnasol yr Undeb. Bydd arweinwyr gweithgareddau myfyrwyr hefyd yn hysbysu Undeb Myfyrwyr Bangor yn ysgrifenedig os bydd unrhyw unigolyn o dan 18 oed yn bresennol mewn unrhyw weithgareddau grŵp. Mae pob achos o gofrestru aelod cyswllt yn cael ei brosesu trwy ein system gwasanaethau aelodaeth a bydd hyn yn gyfrwng i hysbysu staff ac arweinwyr gweithgareddau perthnasol yr Undeb am unrhyw unigolion sydd o dan 18 oed. Gall Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor agor rhai o'i weithgareddau i fyfyrwyr o sefydliadau Addysg Uwch neu Addysg Bellach eraill sydd o dan 18 oed. Bydd gofyn i'r myfyrwyr hynny ymaelodi ag Undeb y Myfyrwyr fel Aelodau Cyswllt (gweler 1.6 am ragor o wybodaeth). Bydd aelodau o dan 18 oed yn ddarostyngedig i bolisïau a threfnau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor a byddant yn gallu cael mynediad at y mwyafrif o'i weithgareddau yn amodol ar ddarpariaethau'r polisi hwn ac awdurdodiad ysgrifenedig personol gan gynnwys unrhyw amodau penodol yn ymwneud â chyfranogiad a bennir gan y Rheolwr Adran perthnasol. Bydd unrhyw amodau'n cael eu nodi a'u cytuno arnynt ar sail unigol. 1.1
Cyfrifoldeb Rhieni
Nid yw Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn gallu ysgwyddo'r hawliau, y cyfrifoldebau a'r
awdurdod sydd gan rieni mewn perthynas â phlentyn ac ni fydd yn gweithredu in loco parentis mewn perthynas ag aelodau sydd o dan 18 oed. 1.2
Cyfathrebu ag Aelodau sydd o dan 18 oed
Polisi Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yw cyfathrebu ac ymateb i aelodau sydd o dan 18 oed yn uniongyrchol (neu gydag aelod perthnasol o gyfadran y sefydliad maent yn gofrestredig ag ef lle bo hynny'n briodol). 1.3
Cyfrifoldeb Aelodau sydd o dan 18 oed (neu Rieni/Gwarcheidwaid)
Bydd disgwyl i fyfyrwyr Prifysgol Bangor a myfyrwyr allanol sy'n cymryd rhan yng ngweithgareddau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor wneud fel a ganlyn: -
1.4
1.3.1
Ymddwyn fel oedolion a gallu edrych ar ôl eu hunain ym mhob mater ymarferol.
1.3.2
Nodi eu hoedran wrth lenwi'r ffurflen gais Aelodaeth Gyswllt.
1.3.3
Rhoi enw, cyfeiriad a manylion cyswllt rhiant/gwarcheidwad a fydd yn bwynt cyswllt Undeb y Myfyrwyr os bydd mater brys yn codi yn ymwneud â'r myfyriwr.
1.3.4
Ymlynu wrth holl Bolisïau a Threfnau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor.
1.3.5
Sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr wedi cael gwybod am unrhyw anghenion neu ofynion arbennig a all fod gan y myfyriwr.
1.3.6
Peidio â chymryd cyfrifoldeb dros gynnal digwyddiadau.
1.3.7
Peidio â chymryd rhan mewn teithiau dros nos a/neu wibdeithiau.
1.3.8
Peidio â chymryd swyddi o gyfrifoldeb h.y. fel swyddog pwyllgor neu swydd sabothol.
1.3 .9
Ar ôl cyrraedd 18 oed, yn derbyn yr un amodau aelodaeth â phob oedolyn arall.
Cyfrifoldeb Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor
Bydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn gwneud y canlynol:1.4.1
Rhoi manylion myfyrwyr o dan 18 oed i arweinwyr gweithgareddau perthnasol yr undeb a chytuno ar unrhyw amodau aelodaeth. Gall y rhain amrywio yn dibynnu ar y gweithgaredd.
1.4.2
Sicrhau y nodir enwau pob aelod staff ac arweinydd gweithgareddau y mae eu swyddi'n cynnwys mynediad sylweddol heb oruchwyliaeth at fyfyrwyr o dan 18 oed mewn gweithgaredd a ddiffinnir fel Gweithgaredd Rheoledig gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a bod gwiriadau perthnasol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cael eu cynnal.
1.4.3
Sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o bwy i gysylltu â hwy mewn achos pan fo anawsterau'n codi'n ymwneud â gweithgareddau Undeb y Myfyrwyr.
1.5
Aelodaeth i fyfyrwyr o sefydliadau eraill Addysg Uwch neu Addysg Bellach 1.5.1
Rhaid i fyfyrwyr o sefydliadau Addysg Uwch neu Addysg Bellach eraill sy'n cymryd rhan yng ngweithgareddau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor wneud cais i fod yn Aelodau Cyswllt Undeb y Myfyrwyr a chael eu cymeradwyo cyn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd.
1.5.2
Wrth gynnig Aelodaeth Gyswllt Undeb Myfyrwyr Bangor i fyfyrwyr o sefydliadau eraill Addysg Uwch neu Addysg Bellach, bydd staff o'r ddau sefydliad yn dod i ddealltwriaeth i amlinellu natur yr estyniad mewn aelodaeth, pryd a lle y bydd y gweithgareddau a ddarperir gan yr undeb ar gael a chyfrifoldebau'r ddwy ochr.
1.5.3
Bydd y Sefydliad y mae'r myfyriwr allanol wedi'i gofrestru ag ef yn gyfrifol am gyfleu Polisïau a Threfnau perthnasol Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor i rieni neu warcheidwaid eu myfyrwyr.
1.5.4
Dim ond gweithgareddau priodol fydd yn cael eu cynnig i fyfyrwyr allanol a chaiff hyn ei gymeradwyo fesul achos i sicrhau bod capasiti'r gweithgaredd yn cael ei reoli'n briodol. Bydd y gweithgareddau'n cael eu hadolygu'n flynyddol ym mis Mai.
1.5.5
Dim ond i fyfyrwyr 16 oed a hŷn y bydd gweithgareddau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn agored.