Rheolaua Rheoliadau'r Etholiadau 2022

Page 1

Rheolau a Rheoliadau'r Etholiadau – 2021/22 Llywodraethir Etholiadau Cynghorwyr Undeb Bangor gan Is-ddeddf 7 Cyfansoddiad Undeb Bangor Etholiadau, (a gellir ei weld yma -) a chan y rheolau a'r rheoliadau a nodir isod, fel y cymeradwywyd gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Phwyllgor Etholiadau Undeb Bangor. Gall dorri unrhyw un o’r rheolau hyn arwain at osod sancsiynau ar ymgeisydd, ymgyrchydd neu ymgyrch. Enwebiadau 1. Dim ond pan fydd ymgeisydd wedi cyflawni'r meini prawf canlynol yn llwyddiannus y caiff ei gynnwys yn yr etholiad: 1.1. Enwebu ei hun gan ddefnyddio'r broses enwebu ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau. 1.2. Yn gymwys i sefyll yn yr etholiadau fel y diffinnir yn yr Erthyglau Cymdeithasu ac Is-ddeddfau. 1.3. Bod yn bresennol yng Nghyfarfod Briffio’r Ymgeiswyr, neu wedi derbyn cyfarwyddyd ar lafar gan y Dirprwy Swyddog Canlyniadau os nad oedd yn gallu bod yn bresennol oherwydd amgylchiadau arbennig. 1.4. Cytuno i ymrwymo i'r rheolau hyn ac i Is-ddeddf 7 Undeb Bangor - Etholiadau. Cyfarfod Briffio'r Ymgeiswyr 1. Rhaid i bob ymgeisydd fod yn bresennol yng nghyfarfod briffio’r ymgeiswyr. 2. Ni chaniateir i ymgeiswyr nad ydynt yn bresennol yng nghyfarfod briffio’r ymgeiswyr sefyll yn yr etholiadau. 3. Os na all unrhyw ymgeisydd fod yn bresennol yng nghyfarfod briffio’r ymgeiswyr, y broses fydd: 3.1. Rhaid i'r ymgeisydd gyflwyno amgylchiadau arbennig i'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau o fewn 2 ddiwrnod gwaith o ddyddiad cyfarfod briffio'r ymgeiswyr. 3.2. Rhaid i'r ymgeisydd ddarparu manylion yr amgylchiadau arbennig a pham nad yw/nad oedd yn gallu bod yn bresennol. 3.3. Bydd y Dirprwy Swyddog Canlyniadau yn penderfynu a ddylid cadarnhau’r amgylchiadau arbennig. 3.4. Pan na all ymgeiswyr fod yn bresennol yn y cyfarfod briffio oherwydd amgylchiadau arbennig, yn unol â'r uchod, bydd y Dirprwy Swyddog Canlyniadau yn trefnu cyfle arall i'r ymgeisydd dderbyn cyfarwyddyd llafar. 4. Rhaid i’r ymgeiswyr fod wedi derbyn cyfarwyddyd llafar i ymgeiswyr o fewn 4 diwrnod gwaith o’r cyfarfod briffio ymgeiswyr a gafodd ei amserlennu er mwyn cael eu cynnwys yn yr etholiad. Mae hyn yn cynnwys y rhai a allai fod wedi cyflwyno amgylchiadau arbennig yn unol â'r uchod. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn ôl disgresiwn y Dirprwy Swyddog Canlyniadau, y caniateir i ymgeiswyr sefyll yn yr etholiad os na chyflawnir yr uchod.

Testun y Maniffesto 1. Er mwyn sefyll gyda maniffesto yn yr etholiad rhaid i ymgeiswyr gyflwyno eu maniffesto, yn Gymraeg neu yn Saesneg, erbyn y dyddiad cau yn amserlen yr etholiadau. 2. Cyfyngiadau maniffesto: 2.1. Etholiadau Cynghorydd Undeb Bangor: dim mwy na 300 o eiriau ym mha bynnag iaith y caiff ei gyflwyno. 2.2. Etholiadau Swyddogion Sabothol: dim mwy na 350 o eiriau ym mha bynnag iaith y caiff ei gyflwyno. 1


Ymddygiad 1. Ni chaiff ymgeiswyr ac ymgyrchwyr yn sgil eu cysylltiad ag Undeb Bangor, neu yn rhinwedd y ffaith eu bod mewn swydd neu wedi dal swydd o gyfrifoldeb yn Undeb Bangor, ddefnyddio adnoddau sydd ar gael iddynt ond ddim ar gael i fyfyrwyr eraill. Mae hyn yn cynnwys offer a dillad a brynwyd gan Undeb Bangor, unrhyw restrau gohebu canolog Undeb Bangor a grwpiau cyfryngau cymdeithasol swyddogol Undeb Bangor. Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr ond nid yw'n cynnwys unrhyw gyfrifon cyfryngau cymdeithasol sydd gan glybiau neu gymdeithasau unigol. 2. Gall ymgyrchwyr ddefnyddio rhestrau gohebu dim ond pan ei bod yn gyfreithlon gwneud hynny. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen cydsyniad penodol yr aelodau ar y rhestr i ddefnyddio eu manylion. 3. Mae ymgeiswyr yn gyfrifol dros bob gweithgaredd ymgyrchu a wneir yn eu henw; mae hyn yn cynnwys gweithredoedd trydydd partïon ar eu rhan. 4. Cyn dechrau ymgyrchu, caniateir i dimau ymgyrchu ddefnyddio Facebook, WhatsApp neu grwpiau cyfryngau cymdeithasol eraill i gynllunio a threfnu'n fewnol, ond dylai'r grwpiau hyn fod yn gaeedig, yn breifat ac yn gyfyngedig i'r tîm ymgyrchu craidd. 5. Ni chaiff ymgeiswyr nac ymgyrchwyr wneud y canlynol: 5.1. Gorfodi, bygwth na rhoi pwysau o unrhyw fath ar fyfyrwyr i bleidleisio, yn enwedig pan fyddant yn agos at bleidleisio neu wrthi'n pleidleisio. 5.2. Pleidleisio ar ran myfyriwr arall 5.3. Codi ofn ar unrhyw un sy’n cymryd rhan yn yr etholiad 5.4. Tanseilio unrhyw ymgyrch yn fwriadol ac eithrio eu hymgyrch eu hunain. 5.5. Difwyno deunyddiau, cyhoeddusrwydd, cyfryngau ar-lein, gwefan rhwydweithio cymdeithasol etc. ymgeisydd arall 5.6. Gwneud unrhyw ymgais i dwyllo yn yr etholiad 5.7. Gwneud unrhyw ymdrech i ddylanwadu ar ddidueddrwydd y Swyddog Canlyniadau, y Dirprwy Swyddog Canlyniadau, y Pwyllgor Etholiadau neu staff Undeb Bangor 5.8. Trafod nodweddion personol ymgeisydd arall 5.9. Camliwio safbwyntiau ymgeisydd arall neu wneud honiadau sy'n anwir am eu hunain neu am unrhyw ymgeisydd arall 5.10. Sefydlu eu 'gorsaf bleidleisio' eu hunain, rhoi dyfais electronig i bleidleiswyr at ddibenion pleidleisio, goruchwylio neu wylio pleidleisiwr wrth iddynt bleidleisio, neu fynnu bod pleidleiswyr yn defnyddio eu dyfais electronig eu hunain i bleidleisio ar unwaith 5.11. Derbyn nawdd gan gwmni neu gorff allanol 5.12. Cael eu cymeradwyo gan adran Prifysgol, Ysgol, Gwasanaeth neu aelod staff 5.13. Cael mantais drwy i staff y Brifysgol anfon e-byst at fyfyrwyr ar eu rhan 5.14. Defnyddio grwpiau, tudalennau neu gyfrifon cyfryngau cymdeithasol canolog a swyddogol y brifysgol i gynorthwyo ag ymgyrchu, os nad ydynt ar gael i bob ymgeisydd arall hefyd. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r mathau canlynol o gyfrifon: Coleg, Ysgol, Neuaddau, Gwasanaethau Prifysgol ac ati. 5.15. Dwyn anfri ar broses yr etholiad 6. Rhaid i ymgeiswyr ac ymgyrchwyr: 6.1. Ymlynu wrth ystyr ac ysbryd rheolau'r etholiad a pholisi Cyfle Cyfartal, polisi Goddef Dim Aflonyddu a pholisi Dwyieithrwydd Undeb Bangor ar bob adeg. 6.2. Ymlynu wrth ddeddf gwlad a rheoliadau’r brifysgol ar bob adeg.

Gwariant Etholiadau 1. Cyfyngir ar wariant yr ymgeiswyr ac ni chaniateir gwario dros y trothwy hwnnw na’i gynyddu. 2


2. Mae'r cyfyngiadau gwario fel a ganlyn 2.1. Etholiadau Cynghorwyr Undeb Bangor - £10 2.2. Etholiadau Ymddiriedolwyr sy'n Fyfyrwyr - £10 2.3. Etholiadau Swyddogion Sabothol - £30 3. Bydd y Swyddog Canlyniadau, neu ei ddirprwy enwebedig, yn rhoi gwerth mewn arian parod ar bopeth a ddefnyddir yn yr etholiad (ac eithrio eitemau a restrir yn Adran 5.1 isod). Er eglurdeb, mae hyn yn cynnwys ‘rhoddion ymgyrchu’ na wnaeth gostio dim i chi o bosib, ond sy’n meddu ar werth ariannol ‘byd real’. 4. Dylai'r holl adnoddau a dulliau a ddefnyddiwch yn eich ymgyrch etholiadol y gellid rhoi gwerth ariannol arnynt fod ar gael i'r holl ymgeiswyr eraill. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw gwirio hynny gyda'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau cyn eu defnyddio. 5. Ni chaiff unrhyw ymgeisydd dderbyn nawdd gan gwmni neu gorff allanol. 6. Mae'r eitemau canlynol, er enghraifft, ar gael yn rhwydd i'r holl ymgeiswyr a'u cefnogwyr ac felly nid oes gwerth arian parod ar eu defnyddio'n deg: 6.1. Hen grysau-T; paent; hen gynfasau gwely; pennau marcio; Blu-tack; cardbord wedi'i ddefnyddio'n barod; hen bren; pensiliau; llinyn; tâp gludiog; pinnau, eitemau gwisg ffansi ail law. Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr a dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau at y Dirprwy Swyddog Canlyniadau. 6.2. Mae'r rheol hon wedi cael ei chynnwys er mwyn cynorthwyo ymgeiswyr i wneud y cyfnod etholiadau'n gyfnod cyffrous, bywiog ac uchel ei broffil. Mae'r Swyddog Canlyniadau a'i ddirprwy yn ymwybodol fod y rheol hon yn agored i'w chamddefnyddio a byddant yn monitro adnoddau'r ymgyrch yn agos oherwydd hynny. Cofiwch mai nhw yw'r bobl sy'n pennu 'defnydd teg'. Deunydd Cyhoeddusrwydd Printiedg 1. Etholiadau Cynghorwyr Undeb Bangor 1.1. Ni chaniateir deunydd cyhoeddusrwydd printiedig yn Etholiadau Cynghorwyr Undeb Bangor 2. Etholiadau’r Swyddogion Sabothol 2.1. Cyfyngir yr ymgeiswyr i 30 taflen A3 o gyhoeddusrwydd (dwy ochr) a gaiff ei argraffu gan Undeb Bangor. 2.2. Ni chaniateir i ymgeiswyr argraffu eu deunydd cyhoeddusrwydd eu hunain. 2.3. Mae pob ymgeisydd yn gyfrifol am ddylunio eu cyhoeddusrwydd eu hunain 2.4. Gall ymgeiswyr gynyddu eu hargraffu i uchafswm o 50 dalen A3, trwy drosglwyddo arian o'u cyllideb ar gost o 25c y ddalen. Er enghraifft, gellir ychwanegu uchafswm o 20 taflen A3 ar gost o gyllidebau ymgeiswyr o £5 (20 dalen x 25c). Deunydd Cyhoeddusrwydd nad yw'n Brintiedig 1. Rhwydweithio Cymdeithasol 1.1. Facebook: 1.1.1.Rhaid i enw eich tudalen fod yn ddwyieithog 1.1.2.Dylech arddangos eich cyflwyniad, eich maniffesto ac amserlen yr etholiad a chyfarwyddiadau pleidleisio yn ddwyieithog. 1.1.3.Gellir arddangos y diweddaraf am statws, nodiadau, negeseuon wal a phynciau trafod yn yr iaith a ddewiswch. 1.2. Twitter 1.2.1.Gellwch ymgyrchu yn yr iaith a ddewiswch 1.3. Cyfryngau cymdeithasol eraill 1.3.1.Lle bo'n berthnasol, dylech arddangos eich cyflwyniad, eich maniffesto ac amserlen yr etholiad a chyfarwyddiadau pleidleisio yn ddwyieithog. 1.4. Fideos Etholiadau 3


1.4.1.Rydym yn eich annog i gynhyrchu fideos etholiadol a rhoi cyhoeddusrwydd iddynt ar gyfryngau cymdeithasol. 1.4.2.Caiff fideos fod yn yr iaith a ddewiswch. 1.4.3.Gall unrhyw destun mewn fideos fod yn iaith dewis yr ymgeisydd hefyd. Deunydd Cyhoeddusrwydd Pellach 1. Caniateir i ymgeiswyr gynhyrchu a/neu brynu deunydd cyhoeddusrwydd ac ymgyrchu pellach yn unol â'r rheolau a nodir o dan wariant etholiadau. Polisi Dwyieithog a Chyfieithu 1. Rhaid i chi gyflwyno eich maniffesto a HOLL gynnwys eich deunydd cyhoeddusrwydd ac ymgyrchu (posteri/pamffledi/taflenni/baneri/crysau-t etc.) gyda’ch enwebiad erbyn dyddiad cau cyhoeddusrwydd. 2. Caiff eich testun ei gyfieithu, ei brawfddarllen a'i ddychwelyd atoch. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn rhoi amlygrwydd cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg yn eich deunydd cyhoeddusrwydd ac ymgyrchu. Er cysondeb rydym yn argymell bod y Gymraeg i'r chwith o'r Saesneg neu uwch ei ben. Mae enghreifftiau o gyhoeddusrwydd etholiadau blaenorol i'w gweld ar wefan Undeb Bangor fel arweiniad i'ch helpu. 3. Y cyfyngiad cyfieithu ar gyfer cyhoeddusrwydd a baratoir cyn dechrau’r cyfnod ymgyrchu yw: 3.1. Etholiad Cynghorwyr Undeb Bangor - Cyfanswm o 350 o eiriau. Mae hyn yn cynnwys y canlynol: 3.1.1.Eich maniffesto – 300 o eiriau 3.1.2.Eich slogan – 10 gair 3.2. Etholiadau Swyddogion Sabothol 3.2.1.Eich Maniffesto – 350 o eiriau 3.2.2.Eich Slogan – 10 gair 3.2.3.Testun cyhoeddusrwydd pellach - 300 gair 4. Yn dilyn cyfieithu’r holl gyhoeddusrwydd a dderbyniwyd erbyn y dyddiad cau, gall ymgeiswyr gyflwyno dyluniadau neu destun pellach i’w cyfieithu os dymunant ond dylent ganiatáu amser rhesymol i’r uned gyfieithu gyflawni’r gwaith. Ni ellir gwarantu y caiff cyfieithiad ei ddychwelyd, ond gwneir pob ymdrech i sicrhau hynny. Ymgeiswyr sy'n Ddeiliaid Swyddi 1. Rhaid i ymgeiswyr presennol beidio ag ymgyrchu yn ystod eu horiau gwaith a rhaid iddynt gymryd gwyliau blynyddol i ymgymryd ag unrhyw fath o ymgyrchu gweithredol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ymgyrchu ar lwyfannau ar-lein a chyfryngau cymdeithasol. 2. Rhaid cyflwyno amserlen i'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau yn rhoi manylion am oriau gwaith ac oriau ymgyrchu. Rhaid i hynny gynnwys oriau gyda'r hwyr. Rhaid cyflwyno'r amserlen hon cyn dechrau gweithgarwch ymgyrchu yn hytrach nag yn ôl-weithredol. Darperir templed i ymgeiswyr ei lenwi. 3. Ni ellir gwisgo dillad â brand Undeb wrth ymgyrchu. 4. Ni ellir defnyddio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Undeb, er enghraifft cyfrifon neu dudalennau Facebook Swyddogion Sabothol, i ymgyrchu nag i hyrwyddo etholiadau. 5. Ni ellir defnyddio rhestrau gohebu Undeb at ddibenion ymgyrchu. 6. Wrth ymweld â grwpiau i ymgyrchu, rhaid ei gwneud yn eglur nad yw'r ymgeiswyr sy'n ddeiliaid swyddi yn bresennol ar fusnes Undeb y Myfyrwyr yn eu swyddogaeth fel Swyddogion Sabothol. Rhaid cynnwys manylion yn yr oriau ymgyrchu ar yr amserlen. 7. Ni cheir defnyddio adnoddau Undeb y Myfyrwyr i gynorthwyo ag ymgyrchu. Cwynion

4


1. Rhaid i bob cwyn ynglŷn ag ymgeiswyr, ymgyrchwyr, swyddogion etholiadol neu’r broses bleidleisio gael eu cyflwyno i'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau gan ddefnyddio'r Ffurflen Cwynion Etholiadau ffurfiol drwy e-bost. Dim ond cwynion a gyflwynir wrth ddefnyddio'r Ffurflen Cwynion Etholiadau swyddogol a fydd yn cael eu hystyried. Rhaid i'r gŵyn fod yn ffeithiol a rhaid iddi gynnwys tystiolaeth glir o dorri'r rheolau ac amlygu'r rheol etholiadol a dorrwyd. 2. Yn y lle cyntaf bydd y Dirprwy Swyddog Canlyniadau yn ystyried y gŵyn ac yn gwneud dyfarniad o fewn 24 awr. Os bernir ei fod yn fater difrifol, gall y Dirprwy Swyddog Canlyniadau ei gyfeirio ar unwaith at y Swyddog Canlyniadau i'w ystyried. 3. Dylid gwneud cwynion ynglŷn ag ymddygiad y Dirprwy Swyddog Canlyniadau yn ysgrifenedig yn uniongyrchol i'r Swyddog Canlyniadau. 4. Rhaid cyflwyno cwynion cyn dechrau’r cyfrif etholiadau. Dim ond cwynion ynglŷn â phroses y cyfrif ei hun a gânt eu hystyried ar ôl i'r cyfrif ddechrau, a rhaid cyflwyno'r cwynion hynny o fewn 24 awr o gyhoeddi'r canlyniadau. 5. Dyma'r sancsiynau sydd ar gael i'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau: 5.1. Rhybuddio ymgeisydd ynghylch ei h/ymddygiad yn y dyfodol. 5.2. Cymryd camau i sicrhau amodau cyfartal i bawb i unioni achos o dorri rheoliad etholiad. 5.3. Dirwyo ymgeisydd trwy naill ai leihau faint o arian y gallant ei wario, neu drwy gael gwared â deunydd cyhoeddusrwydd printiedig. 5.4. Gwahardd ymgeisydd a’i ymgyrchwyr rhag ymgyrchu am gyfnod o amser (hyd at 24 awr). 5.5. Gwahardd ymgyrchydd o weddill yr ymgyrch (lle nad yw'r ymgyrchydd yn ymgeisydd). 6. Yn ogystal â'r holl sancsiynau uchod, mae'r canlynol ar gael i'r Swyddog Canlyniadau: 6.1. Diarddel ymgeisydd o’r etholiad nes bod ymchwiliad yn cael ei gynnal 6.2. Atal yr etholiad nes bod ymchwiliad yn cael ei gynnal 6.3. Argymell i’r pwyllgor etholiadau, a’r brifysgol, bod ymgeisydd yn cael ei ddiarddel 6.4. Argymell i'r pwyllgor etholiadau, ac i'r brifysgol, y dylid ail-gynnal yr etholiad neu ddirymu pleidlais. 7. Gall ymgeiswyr apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir gan y Swyddog Canlyniadau a'i Ddirprwy trwy gyflwyno eu hapêl yn ysgrifenedig, trwy e-bost, i etholiadau@undebbangor.com cyn pen 24 awr ar ôl gwneud y penderfyniad, gan ddilyn y drefn apelio a nodir isod: 7.1. Clywir cam cyntaf yr apêl gan y Swyddog Canlyniadau; os yw’r ymgeisydd yn parhau i fod yn anfodlon, yna 7.2. Mae'r cam apêl terfynol i Ddirprwy Is-ganghellor, neu ei ddirprwy enwebedig. 7.3. Dylai cais am apêl fod am y rhesymau a ganlyn, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: 7.3.1.Adolygiad o'r trefniadau a ddilynwyd yn ystod y cam cwyno 7.3.2.Ystyriaeth ynglŷn ag a oedd y canlyniad yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau 7.3.3.Unrhyw dystiolaeth berthnasol newydd nad oedd y myfyriwr, am resymau dilys, yn gallu ei darparu yn gynharach yn y broses. 8. Bydd unrhyw ohebiaeth e-bost i’r Swyddog Canlyniadau neu'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau yn cael ei chydnabod trwy e-bost o fewn 24 awr; os nad ydych yn derbyn e-bost o gydnabyddiaeth peidiwch â rhagdybio ein bod wedi derbyn eich neges - ffoniwch 01248 388000 i wirio hynny.

5


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.