Pecyn Recriwtio Ymddiriedolwr sy'n Fyfyriwr 2022

Page 1

PECYN RECRIWTIO YMDDIRIEDOLWR SY'N FYFYRIWR

2022

www.UndebBangor.com


ANNWYL FYFYRWYR BANGOR, RYDYM YN CHWILIO AM YMDDIRIEDOLWR SY'N FYFYRWYR A HOFFEM I CHI YSTYRIED GWNEUD CAIS. Mae Undeb Bangor (Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor) yn sefydliad llwyddiannus, bywiog a chyffrous sydd gyda dyfodol disglair iawn o’i flaen. Mae gennym berthynas ardderchog a'r Brifysgol, rydym wedi ennill gwobr Clybiau a Chymdeithasau Gorau What Uni teirgwaith yn y pedair blynedd diwethaf ac mae ein gwaith a llais myfyrwyr a chynrychioli myfyrwyr yn arwain y sector. Ond ni allwn fod yn hunanfodlon, a chydag anghenion a gofynion myfyrwyr yn newid drwy'r amser mae'n rhaid i ni sicrhauein bod yn ymdrechu'n barhaus i wella, ac i'ch gwasanaethu chi, ein haelodau, yn well. Byddwn yn sicrhau hynny trwy gyfraniad llawn gan fyfyrwyr i'n prosesau gwneud penderfyniadau a'n fframweithiau llywodraethu.

Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn ganolog i’n trefn lywodraethu. Mae 13 Ymddiriedolwr sy'n gwneud penderfyniadau holl bwysig am eich Undeb a'n Hymddiriedolwyr sy'n Fyfyrwyr sy'n cynnig persbectif myfyrwyr a dealltwriaeth o fywyd myfyrwyr i'r bwrdd. Mae gennym pedwar lle wedi'u cadw ar gyfer myfyrwyr ar ein bwrdd, sy'n eistedd ochr yn ochr a'n pum Swyddog Sabothol a pedwar Ymddiriedolwr Alianol. Rydym yn edrych i benodi un ymddiriedolwr sy'n fyryrwyr i ymuno â’r bwrdd, a bydd y rôl yn dechrau ar unwaith ar ôl cwblhau’r broses recriwtio.

I wneud cais bydd angen i chi anfon eich CV atom ynghyd â llythyr eglurhaol (dim mwy na dwy ochr A4) yn dweud ychydig amdanoch chi'ch hun a pham rydych chi eisiau bod yn Ymddiriedolwr i Undeb Bangor. Anfonwch i: llinos.gashe@undebbangor.com erbyn y 31ain o Fai 2022 ac fe ddown yn ôl atoch. Mae'r pecyn hwn yn cyflwyno popeth byddwch ei angen i chi ddeall mwy am y swydd a chwblhau eich cais. Diolch, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu


AYCHYDIG AM UNDEB BANGOR.... Rydym yn elusen ddemocrataidd a arweinir gan fyfyrwyr ac a gyllidir (yn bennaf) trwy grant bloc gan Brifysgol Bangor. Er ein bod yn gweithio’n agos gyda’r Brifysgol rydym yn sefydliad ar wahân ac annibynnol a chymerir penderfyniadau’n fewnol gan ein haelodau.

NI YW LLAIS Y MYFYRWYR YN BRIFYSGOL BANGOR! RYDYM YN BODOLI AR GYFER MYFYRWYR BANGOR AC RYDYM YN GWEITHIO I FYNEGI EU LLAIS, GALLUOGI EU CYFLEOEDD A DATBLYGU EU CYMUNEDAU.

MAE GENNYM WELEDIGAETH FENTRUS A SYML: I FOD YN GWBL BERTHNASOL I CHI AC RYDYM YN CAEL EIN LLYWIO GAN EIN GWERTHOEDD: CYFUNOLIAETH - gwneud gyda chi ac nid drosoch chi DEMOCRATAIDD - yn atebol ac yn dryloyw CYMRAEG – yn falch o fod yma HERIOL - dros gymdeithas well YN DDEWR – yn croesawu arloesi

Mae gennym dîm o pedwar o Swyddogion Sabothol etholedig sy’n cynrychioli agos at 11,000 o fyfyrwyr Bangor, i sicrhau bod syniadau, anghenion a gofynion myfyrwyr yn cael eu gweithredu arnynt, a thîm o 16 o staff sy’n cefnogi’r Tîm Swyddogion Sabothol etholedig i roi ein strategaeth a chynlluniau fel Undeb ar waith. Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn darparu trefn lywodraethu a goruchwylio i’r Undeb, yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â chyfraith gwlad ac yn gwario’n unol â’n cynlluniau a chyllidebau. Fel Undeb rydym wedi cyflawni newidiadau a datblygiadau enfawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a thrwy weithio gyda’r brifysgol rydym wedi gallu sicrhau: Clybiau a chymdeithasau am ddim Datblygu strategaeth iechyd meddwl dan arweiniad myfyrwyr Cadw prynhawniau mercher yn rhydd ar gyfer chwaraeon Gwell mannau astudio i fyfyrwyr Cynrychiolaeth gan fyfyrwyr ar bob pwyllgor prifysgol

MAE EIN TREFN LYWODRAETHU YN RHAN BWYSIG O’N GWAITH A CHYDA’R BOBL IAWN YN EU LLE GALLWN WNEUD PETHAU GWYCH.


PAM BOD YN YMDDIRIEDOLWR SY'N FYFYRIWR? Mae’r swydd yn un gwirfoddol a byddech yn rhoi eich amser i sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau ariannol cadarn, yn ufuddhau i fframweithiau cyfreithiol ac yn dilyn gofynion a osodir gan ein rheoleiddwyr (y Comisiwn Elusennau a’r Brifysgol). Yn bwysicaf oll mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn gwneud yn siŵr bod Undeb Bangor yn ymateb anghenion newidiol ein myfyrwyr.

CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL Y BWRDD: Sicrhau bod pob agwedd ar waith UM yn gyfreithlon ac yn ateb y gofynion rheoleiddiol, gan gynnwys y rheiny a ddisgrifir yn Neddf Elusennau 2010 a Deddf Addysg 1994 sy'n ymwneud yn benodol ag Elusennau ac Undebau Myfyrwyr. Argymell cyllideb ddrafftflynyddol i'r CyfarfodCyffredinol Blynyddol, gan ystyried adroddiadau a gwybodaeth ariannolreolaidd, a goruchwylio a chymeradwyo'r broses archwilio flynyddol.

Monitro systemau i reoli risg a pherfformiad sefydliadol. Sicrhau bod yr holl waith a ymgymerir gan Undeb Bangor yn ymwneud ag amcanion elusennol y sefydliad - gwneud yn siwr bod popeth er budd profiad myfyrwyr ym Mangor. Rheoli, cefnogi a gwerthuso Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr. Adnabod meysydd i'w datblygu a chreu mecanweithiau i gefnogi newid a hwyluso gwelliant.

Gwneud yn siwr bod UM yn ddiddyled ac yn ddiogel yn ariannol o flwyddyn i flwyddyn. Sicrhau body broses gwneud penderfyniadau yn glir a bod strwythurau llywodraethu yn briodol, yn dryloyw ac yn addasi'r diben. Llunio a monitro cynnydd tuag at nodau a amlinellir yng Nghynllun Strategol UM.

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn gwneud siŵr bod Undeb Bangor yn ymateb i'ch anghenion newidiol chi, ein myfyrwyr.


Fel Ymddiriedolwr, byddwch yn defnyddio eich sgiliau a phrofiad i sicrhau bod yr Undeb yn rhedeg yn effeithiol. Anogir ymddiriedolwyr i geisio cyngor o ffynonellau allanol tel cyfreithwyr neu arbenigwyr eraill os byddant ei angen. Mae'r hall ymddiriedolwyr yn gydgyfrifol am wneud penderfyniadau am yr Undeb, gan weithio tel tîm. Nid oes raid i benderfyniadau fod yn unfrydol fel rheol cyn belled bod mwyafrif yr ymddiriedolwyr yn cytuno. Mae'r Bwrdd yn cwrdd yn chwarterol dros y flwyddyn academaidd i osod nodau ac amcanion yr Undeb a monitro'r cynnydd tuag at eu cyrraedd. Mae'r Bwrdd yn cyd­-adolygu effaith gweithgareddau, yn monitro sut y rheolir adnoddau, ac yn sicrhau bod yr Undeb yn sicrhau budd clir i'w aelodau. Bydd yr ymddiriedolwyr yn bresennol ym mhob cyfarfod (neu'n anfon ymddiheuriadau ymlaen llaw os na allant fod yn bresennol), yn sicrhau eu bod wedi'u paratoi'n dda trwy ddarllen y ddogfennaeth a holi cwestiynau, yn cynnal cyfrinachedd ar bob adeg, ac yn ymgorffori gwerthoedd a chenhadaeth Undeb y Myfyrwyr trwy gydol cyfnod eu dyletswyddau. Rhaid i ymddiriedolwyr wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ystyriaethau am y sefydliad yn ei gyfanrwydd, a sicrhau bod yr Undeb yn parhau i fodoli er budd myfyrwyr Prifysgol Bangor. Disgwylir i'r ymddiriedolwyr ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau posibl yn unol a pholisi Gwrthdaro Buddiannau'r Undeb.

HOFFEM I CHI FEDDU AR Y NODWEDDION CANLYNOL:

Cymerwch olwg ar gyfarwyddyd y Comisiwn Elusennau ar gyfrifoldebau Ymddiriedolwr.

Bod yn ymrwymedig i genhadaeth, gweledigaeth a gwerthoedd yr Undeb Bod yn adeiladol am farn a chyfraniad eraill Bod yn chwilfrydig ac yn gallu dadansoddi a herio gwybodaeth Gallu ymddwyn yn rhesymol ac yn gyfrifol Gallu cadw cyfrinachedd Bod yn barod i gyfrannu mewn cyfarfodydd Deall y gwahaniaeth rhwng ymwneud strategol ac ymwneud gweithredol Ymgorffori Egwyddorion Nolan safonau ymddygiad mewn bywyd cyhoeddus


GWYBODAETH GYFFREDINOL... Nid oes tâl am y swydd hon ond gellir talu treuliau arian parod yn unol â Pholisïau a Threfnau Ariannol Undeb Bangor.

GOFYNION CYMHWYSEDD

CYNEFINO, HYFFORDDIANT A CHEFNOGAETH Bydd pob ymddiriedolwr yn mynd trwy raglen gynefino ynglŷn â gwaith Undeb Bangor ac yn derbyn gwahoddiad i Hyfforddiant Bwrdd yr Ymddiriedolwyr. Mae ein rhaglen gynefino yn hyblyg ac wedi’i chynllunio i gefnogi a datblygu’r ymddiriedolwr unigol.

Rydym yn chwilioam Ymddiriedolwr sy'n Fyfyriwr ac fel y cyfryw dim ond unigolyn sy'n fyfyriwr presennol ym Mhrifysgol Bangor a gaiff lenwi'r swydd.

HYD Y PENODIAD

ATELIR RHAI UNIGOLION RHAG GWEITHREDU TEL YMDDIRIEDOLWR OHERWYDD:

CYFLE CYFARTAL

Bod ganddynt gollfarn heb ddarfod am drosedd sy'n gysylltiedig ag anonestrwydd neu dwyll Wedi eu datgan yn fethdalwr ar hyn o bryd (neu'n ddarostyngedig i gyfyngiadau methdalwr ar orchymyn interim) Bod ganddynt drefniant gwirfoddol unigol (IVA) i dalu dyledion gyda chredydwyr Eu bod wedi eu diarddelrhag bod yn gyfarwyddwr cwmni Eu bod yn ddarostyngedig i orchymyna wnaed o dan adran429(2) Deddf Ansolfedd 1986 Eu bod wedi cael eu diswyddo'n flaenorol tel ymddiriedolwr gan y Comisiwn Elusennau, rheoleiddiwr elusennau'r Alban neu'r Uchel Lys oherwydd camymddwyn neu gamreoli. Eu bod wedi cael eu diswyddo o reolaeth unrhyw gorff o dan adran 34(5)(e) Deddf Buddsoddi Elusennau ac Ymddiriedolwyr 2005 (neu ddeddfwriaeth gynharach). Eu bod wedi eu gwaharddrhag bod yn ymddiriedolwr trwy orchymyny Comisiwn Elusennau o dan adran 181A Deddf Elusennau 2011.

Os oes unrhyw un o'r uchod yn effeithio arnoch chi dewch i siarad a ni a byddwn yn trafod eich opsiynau.

Fel rheol caiff Ymddiriedolwyr sy'n Fyfyriwr eu penodi am gyfnod o flwyddyn, yn rhedeg o Orffennaf i Orffennaf.

Mae Undeb Bangor wedi ymrwymo i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys heb ystyried rhyw, hil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol, neu feichiogrwydd a mamolaeth.

SUT YDW I’N GWNEUD CAIS? I wneud cais bydd angen i chi anfon CV diweddar atom ynghyd â llythyr eglurhaol (dim mwy na dwy ochr A4) yn dweud ychydig amdanoch a pham yr hoffech fod yn Ymddiriedolwr Undeb Bangor. Anfonwch y rhain at llinos.gashe@undebbangor.com erbyn y 31ain o Fai, 2022, ac fe ddown yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.


SUT BYDD Y BROSES RECRIWTIO YN CAEL EI CHYNNAL?

RHAGOR O WYBODAETH I gael rhagor o wybodaeth ac i drafod bod yn Ymddiriedolwr, cysylltwch â:

Bydd pob cais yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Penodi Undeb Bangor a bydd rhestr fer o ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gyfweliad anffurfiol lle byddant yn cwrdd â rhai o’r ymddiriedolwyr presennol a Chyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr. Bydd cyfweliadau’n canolbwyntio ar eich cefndir, profiad a gwybodaeth.

OS YDW I’N LLWYDDO BETH FYDD YN DIGWYDD NESAF?

James Avison – Llywydd Undeb Bangor a Chadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr james.avison@undebbangor.com Mair Rowlands, Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr mair.rowlands@undebbangor.com Byddem yn croesawu’r cyfle i siarad â chi yn bersonol os oes gennych ddiddordeb a gallwn ddarparu rhagor o fanylion am y swydd ac ati. Cysylltwch â ni i drefnu cyfarfod ar-lein.

Byddwch yn derbyn gwahoddiad i ddechrau ar y broses gynefino gyda Llywydd Undeb Bangor a Chyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr. Bydd gofyn i chi lenwi Ffurflen Datganiad Ymddiriedolwr Elusen i gadarnhau nad ydych wedi’ch gwahardd rhag gweithredu fel ymddiriedolwr elusen. Caiff hyn ei ddilyn gan Wiriad Datgelu Sylfaenol. Byddwn yn gofyn i Gyngor Undeb Bangor eich derbyn yn ffurfiol fel Ymddiriedolwr. Byddwch yn derbyn gwahoddiad i gyfarfod nesaf Bwrdd yr Ymddiriedolwyr.

DIOLCH A PHOB LWC...


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.