Is-ddeddfau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor) Is-ddeddf 11 - Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) Mae'r is-ddeddf hon yn eiddo Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a gall y Bwrdd hwnnw a Chyngor Undeb Bangor wneud newidiadau iddi, yn unol â'u gweithdrefnau. Cyfeirir at yr 'Undeb Cymraeg' fel y diffinnir yn Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor fel Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) a chaiff ei lywodraethu gan yr is-ddeddf hon. 1.
2.
Aelodaeth 1.1
Bydd unrhyw fyfyriwr Prifysgol Bangor sy'n siarad Cymraeg yn ôl rhestr o'r cyfryw fyfyrwyr a gedwir gan Brifysgol Bangor yn dod yn Aelod yn awtomatig. Yr aelodau hyn yn unig fydd â'r hawl i bleidleisio mewn unrhyw gyfarfod cyffredinol, refferendwm neu etholiad yn UMCB.
1.2
Bydd gan bawb sy'n aelodau o UMCB hawl i eithrio o fod yn aelod o UMCB drwy roi gwybod yn ysgrifenedig i UMCB.
1.3
Gall unrhyw fyfyriwr a all siarad Cymraeg neu sy'n dysgu Cymraeg, neu sydd â diddordeb yn yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig, ond nad ydyw ar y rhestr o siaradwyr Cymraeg a gedwir gan Brifysgol Bangor, hefyd ymuno gydag UMCB fel Aelodau Cysylltiol. Gellir rhoi Aelodaeth Gyswllt hyd at ddiwrnod cyntaf y cyfnod enwebu etholiadau ffurfiol.
1.4
Gall unigolion nad ydynt yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, a all siarad Cymraeg neu sy'n dysgu Cymraeg, neu sydd â diddordeb yn yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig, hefyd ymuno gydag UMCB am £15 y flwyddyn fel Aelodau Cysylltiol, neu'r cyfryw swm arall a nodir mewn cyfarfodydd cyffredinol UMCB, ond ni fyddant yn dod yn aelodau o'r Undeb.
1.5
Ni all mwy na 25% o aelodau UMCB fod yn aelodau cysylltiol. Ni fydd gan Aelodau Cysylltiol hawl i bleidleisio yng nghyfarfodydd cyffredinol, refferenda nac etholiadau UMCB.
Pwyllgor Gwaith UMCB 2.1
Bydd Erthygl 30.1 ac Erthygl 30.3 yr Undeb yn berthnasol i'r Pwyllgor Gwaith, a bydd yn gyfrifol am y canlynol: 2.1.1
llywodraethu UMCB;
2.1.2
cyllideb UMCB;
2.1.3
strategaeth UMCB;
2.1.4
a'i weithgarwch cyffredinol.
2.2
Caiff y pwyllgor ei ethol yn flynyddol yng Nghyfarfod Cyffredinol Mai, ac eithrio dwy swydd, sef cynrychiolydd blwyddyn gyntaf a chynrychiolwyr cartref, a gaiff eu hethol yng Nghyfarfod Cyffredinol Hydref ar ddechrau'r flwyddyn.
2.3
Mae'r canlynol yn swyddogion ar y Pwyllgor Gwaith (14 swydd): 2.3.1
Llywydd UMCB a fydd yn gweithredu fel cadeirydd;
Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddf 11 - UMCB
Tudalen 1 o 7
2.3.2
Llywydd JMJ;
2.3.3
Cynrychiolydd Blwyddyn 1;
2.3.4
Cynrychiolydd yr ail flwyddyn;
2.3.5
Cynrychiolydd y drydedd flwyddyn;
2.3.6
Cynrychiolydd ôl-raddedigion;
2.3.7
Cynrychiolydd galwedigaethol;
2.3.8
Cynrychiolydd cartref;
2.3.9
Cynrychiolydd dysgwyr Cymraeg;
2.3.10 Cynrychiolydd LHDT+; a 2.3.11 Y Cymric (2 swydd);
3.
2.4
Bydd y ddwy swydd pleidleisio'r Cymric yn cael ei phenderfynu ar o fewn y Cymric ar ddechrau pob flwyddyn Academaidd
2.5
Penodir cymerwr cofnodion yn y cyfarfod cyntaf ar ôl cyfarfod blynyddol Mai i gymryd cofnodion. Caiff is-gadeirydd ei benodi o blith aelodau'r Pwyllgor Gwaith yn y cyfarfod cyntaf.
Trafodion 3.1
Bydd disgwyl i holl aelodau'r pwyllgor ddod i bob cyfarfod o'r pwyllgor a phob Cyfarfod Cyffredinol oni bai eu bod yn anfon ymddiheuriad.
3.2
Bydd y Pwyllgor Gwaith yn cwrdd unwaith y tymor. Bydd gan bob aelod o’r pwyllgor bleidlais yr un a bydd gan gynrychiolwyr Y Cymric ddwy bleidlais rhyngddynt.
3.3
Bydd Llywydd UMCB yn cadeirio cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith, ond os na fydd yr unigolyn hwnnw yn bresennol, bydd yr Is-gadeirydd yn llywyddu.
3.4
Bydd gan y Pwyllgor Gwaith Is-Bwyllgor Cymdeithasol a fydd yn cael cyfarfodydd misol
3.5
Bydd yr Is-Bwyllgor Cymdeithasol yn gorff i sicrhau bod dyddiaduron UMCB a’i chymdeithasau mor ddeniadol a hygyrch â phosibl. Bydd yr Is-Bwyllgor yn sicrhau bod digwyddiadau digonol yn cael eu trefnu.
3.6
Bydd caniatâd i aelodau o’r Is-Bwyllgor Cymdeithasol eistedd ar y Pwyllgor Gwaith fel arsylwyr.
3.7
Rhaid i'r Is-bwyllgor Cymdeithasol gael ei gynnwys fel a ganlyn 3.5.1 Is-bwyllgor Cymdeithasol (9 swydd): 3.7.1
Llywydd JMJ;, yn gweithredu fel cadeirydd
Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddf 11 - UMCB
Tudalen 2 o 7
4.
3.7.2
Llywydd UMCB;
3.7.3
Y Cymric (x4);
3.7.4
Golygydd Y Llef; a
3.7.5
Cynrychiolydd Chwaraeon
3.7.6
Cadeiryddion unrhyw gymdeithasau sy’n berthnasol i UMCB (Penderfynir ar berthnasedd yn ôl disgresiwn llywydd UMCB)
3.8
Gall y Llywydd neu ddau aelod o’r Pwyllgor Gwaith neu is-bwyllgor alw cyfarfod o'r Pwyllgor Gwaith neu is-bwyllgor.
3.9
Rhaid rhoi pum niwrnod gwaith o rybudd cyn cynnal cyfarfod pwyllgor neu is-bwyllgor oni bai bod pob aelod o'r pwyllgor/is-bwyllgor yn cytuno ar rybudd llai.
3.10
Bydd gan bob aelod o’r is-bwyllgor bleidlais yr un. Bydd Llywydd UMCB yn gweithredu fel cadeirydd, ond os na fydd Llywydd UMCB yn bresennol, bydd aelodau'r is-bwyllgor sy'n bresennol yn penodi cadeirydd i'r cyfarfod.
Amcanion Dyma amcanion UMCB:
5.
6.
4.1
Hyrwyddo cydweithrediad rhwng yr aelodau, a diogelu a hyrwyddo eu budd academaidd, ieithyddol, diwylliannol, cymdeithasol ac allgyrsiol.
4.2
Hyrwyddo'r iaith Gymraeg a gweithgareddau cyfrwng Cymraeg yn y Brifysgol a'r gymuned ehangach.
4.3
Darparu ar gyfer lles yr aelodau a’u cynrychioli ym mhob agwedd a fydd a wnelo â’u buddiannau.
4.4
Cynrychioli myfyrwyr y Brifysgol a hoffai ymdrin â gweinyddiaeth y Brifysgol yn llwyr neu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg.
Iaith 5.1
Iaith swyddogol UMCB fydd Cymraeg.
5.2
Bydd cyhoeddiadau swyddogol UMCB (e.e. llawlyfr UMCB ac Y Llef) yn uniaith Gymraeg.
5.3
Cymraeg fydd prif iaith UMCB ar y cyfryngau cymdeithasol (Instagram, Trydar, Facebook).
5.4
Darperir gwasanaeth cyfieithu i’r Saesneg i aelodau yn ystod cyfarfodydd UMCB os gwneir cais o fewn 7 diwrnod cyn y cyfarfod, ac eithrio cyfarfodydd brys.
Cyfle Cyfartal Mae UMCB yn ymrwymo i gynnig cyfleoedd cyfartal. Ni fydd unrhyw aelod o UMCB yn dioddef rhagfarn o fewn yr Undeb ar sail rhywedd, anabledd, tueddfryd rhywiol, iaith, hil, crefydd, oedran,
Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddf 11 - UMCB
Tudalen 3 o 7
tarddiad ethnig neu ddosbarth cymdeithasol. Bydd y Llywydd yn cynrychioli unrhyw aelod o UMCB sy'n wynebu rhagfarn yn y Brifysgol. 7.
Pwyllgor Ymgynghorol UMCB Gall y Pwyllgor Gwaith wahodd cyn Llywyddion UMCB i fod yn aelodau o Bwyllgor Ymgynghorol o gyn llywyddion UMCB. Ni fyddant yn cwrdd yn rheolaidd, ond gall y Pwyllgor Gwaith alw arnynt am gyngor ar unrhyw fater, unrhyw bryd, a bydd y Llywydd presennol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am weithgarwch UMCB ar ddiwedd pob tymor. Gall y Pwyllgor Gwaith ymddeol cyn llywydd hefyd o'r Pwyllgor Ymgynghorol os yw dros 50% o aelodau'r Pwyllgor Gwaith yn cytuno.
8.
Trefn Lywodraethu 8.1
8.2 9.
Bydd trefn lywodraethu UMCB fel a ganlyn: 8.1.1
y Cyfansoddiad hwn;
8.1.2
Cyfarfod Cyffredinol UMCB, sydd â'r grym i basio polisïau a diwygio’r Cyfansoddiad, yn amodol ar gymeradwyaeth yr Ymddiriedolwyr a Chyngor Myfyrwyr yr Undeb;
8.1.3
Y Pwyllgor Gwaith a’i is-bwyllgor, i weithredu polisi;
8.1.4
Y Llywydd, y dirprwyir y cyfrifoldebau o ddydd i ddydd iddo; a
8.1.5
Pwyllgor Ymgynghorol UMCB.
Bydd copi o’r cyfansoddiad diweddaraf ar gael i bob aelod UMCB o swyddfa Llywydd UMCB.
Cyfarfodydd Cyffredinol 9.1
Bydd gan Gyfarfod Cyffredinol UMCB awdurdod i wneud y canlynol: 9.1.1
cynrychioli llais aelodau UMCB;
9.1.2
gosod polisi UMCB, yn amodol ar Erthygl 30.3 yr Undeb;
9.1.3
gwneud, diddymu a diwygio'r Cyfansoddiad, yn amodol ar Erthygl 49 yr Undeb; ac
9.1.4
ethol y Pwyllgor Gwaith.
9.2
Y cworwm ar gyfer cyfarfodydd cyffredinol fydd 50 o aelodau UMCB.
9.3
Ni fydd gan aelodau ymgynghorol yr hawl i bleidleisio mewn cyfarfodydd cyffredinol nac mewn refferenda.
9.4
Gellir galw cyfarfod cyffredinol gyda dim llai na 5 diwrnod gwaith o rybudd, a hynny gan: 9.4.1
Y Llywydd; neu
9.4.2
un hanner o aelodau o'r Pwyllgor Gwaith; neu
9.4.3
rhaid i'r Llywydd neu’r Pwyllgor Gwaith ei alw yn dilyn deiseb a lofnodir gan ugain neu fwy o aelodau yn nodi busnes y cyfarfod.
Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddf 11 - UMCB
Tudalen 4 o 7
10.
9.5
Gall y Llywydd neu'r Pwyllgor Gwaith alw Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol gyda dim llai na dau ddiwrnod gwaith o rybudd, yn nodi'r busnes i'w drafod yn y cyfarfod hwnnw.
9.6
Bydd rhaid i’r Llywydd drefnu cyfarfod cyffredinol bob tymor yn Ystafell Gyffredin JMJ neu leoliad cyfleus arall i aelodau.
9.7
Bydd y Llywydd yn cadeirio cyfarfodydd cyffredinol. Os na fydd y Llywydd yn bresennol, bydd yr Is-gadeirydd yn gweithredu fel cadeirydd, ac os na fydd yr Is-gadeirydd yn bresennol chwaith, bydd yr aelodau sy'n bresennol yn penodi cadeirydd i'r cyfarfod.
Llywydd UMCB Bydd gan y Llywydd y pwerau a'r dyletswyddau canlynol yn unol â disgrifiadau swyddi Swyddogion Sabothol fel y diffinnir yn Is-ddeddf 3:
11.
12.
10.1
Mae'r Llywydd yn atebol i’r Pwyllgor Gwaith ac i’r Cyfarfod Cyffredinol.
10.2
Bydd y Llywydd yn gyfrifol am gynrychioli aelodau UMCB.
10.3
Bydd Y Llywydd yn gyfrifol am gydlynu ymgyrchoedd UMCB.
10.4
Y Llywydd yn unig fydd â'r hawl i siarad â’r wasg ynghylch UMCB. Yn absenoldeb y Llywydd bydd y cyfrifoldeb hwn yn mynd i gynrychiolydd a ddewisir gan y Pwyllgor Gwaith.
10.5
Bydd y Llywydd yn gyfrifol am gadw'r rhestr ddiweddaraf o aelodau.
10.6
Bydd y Llywydd yn gweithio o swyddfa UMCB yn Undeb Bangor yn Pontio yn ogystal â chynnal oriau galw heibio yn swyddfa UMCB yn Neuadd John Morris-Jones.
10.7
Bydd y Llywydd yn gyfrifol am sicrhau bod y Cyfansoddiad a’r Ddogfen Bolisi yn cael eu diweddaru yn gyson.
10.8
Yn aelod â phleidlais o’r bwrdd ymddiriedolwyr yr Undeb Myfyrwyr
Etholiadau UMCB 11.1
Caiff y Pwyllgor Gwaith ei ethol mewn Cyfarfodydd Cyffredinol am dymhorau o flwyddyn yn unol â'r is-ddeddf hon.
11.2
Caiff Llywydd UMCB ei ethol fel rhan o Dîm Sabothol yr Undeb yn unol ag Is-ddeddf 2 Isddeddfau'r Undeb.
Cyhoeddiadau UMCB Y Llef 12.1
Caiff Y Llef ei gyhoeddi o leiaf unwaith bob tymor.
12.2
Bydd y Golygydd ar Bwyllgor Gwaith UMCB.
12.3
Bydd gan Y Llef is-olygyddion a fydd yn helpu’r golygydd gyda’i swydd.
Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddf 11 - UMCB
Tudalen 5 o 7
12.4
13.
Bydd Llywydd UMCB yn gweithredu fel Golygydd Gweithredol Y Llef a rhaid iddynt arwyddo cyn ei gyhoeddi yn unol â'r Cytundeb Cyfryngau Myfyrwyr.
Cod Ymddygiad Bydd y Cod Ymddygiad a gweithdrefnau disgyblu ar gyfer aelodau sy'n fyfyrwyr yn berthnasol i bob Aelod ac Aelod Cysylltiol UMCB.
14.
Refferenda 14.1
Gellir galw refferendwm ar unrhyw fater yn gysylltiedig ag UMCB trwy’r dulliau canlynol: 14.1.1 penderfyniad y Pwyllgor Gwaith; 14.1.2 pleidlais fwyafrifol yr Aelodau mewn Cyfarfod Cyffredinol; neu 14.1.3 Deiseb Ddiogel wedi'i llofnodi (neu y cytunwyd arni) gan o leiaf 35 o AelodauFyfyrwyr, yn amodol ar Erthygl 30.3 yr Undeb.
15.
14.2
Gellir pasio penderfyniad drwy Refferenda os bydd o leiaf 110 o Aelodau yn bwrw pleidlais yn y Refferenda ac y bwrir mwyafrif syml o'r pleidleisiau o blaid y penderfyniad, yn amodol ar Erthygl 30.3 yr Undeb..
14.3
Cynhelir Refferenda yn unol â'r Erthyglau a'r Is-ddeddfau.
14.4
Gall yr aelodau osod polisi UMCB drwy Refferenda, yn amodol ar Erthygl 30.3 yr Undeb. Gall polisi a osodir drwy Refferenda wrthdroi polisi a osodir gan y Pwyllgor Gwaith a pholisi a osodir gan yr Aelodau mewn Cyfarfod Cyffredinol.
Diswyddo Llywydd fel Swyddog Sabothol Gellir diswyddo’r Llywydd o'i ddyletswyddau os bydd y canlynol yn berthnasol: 15.1
os bydd yn ymddeol neu'n marw; neu
15.2
os caiff ei ddiswyddo o'i ddyletswyddau fel Swyddog Sabothol: 15.2.1 drwy gynnig o ddiffyg hyder yn y Swyddog Sabothol yn cael ei basio gan fwyafrif o'r Aelodau sy'n pleidleisio mewn Refferendwm, cyhyd â bod o leiaf 110 o Aelodau yn bwrw pleidlais yn y Refferendwm. Dim ond Deiseb Ddiogel wedi'i llofnodi (neu y cytunwyd arni) gan o leiaf 35 Aelod a all arwain at gynnig o'r fath; neu 15.2.2 drwy gynnig o ddiffyg hyder yn y Swyddog Sabothol yn cael ei basio gan fwyafrif dwy ran o dair mewn pleidlais o'r Cyfarfod Cyffredinol. Dim ond Deiseb Ddiogel wedi'i llofnodi (neu y cytunwyd arni) gan o leiaf 35 o Aelodau-Fyfyrwyr, neu drwy Gyfarfod Cyffredinol a elwir gan y Pwyllgor Gwaith, a all arwain at gynnig o'r fath; cyhyd â bod y cyfryw ddiswyddo yn amodol ar yr Undeb yn cymryd unrhyw gamau y mae'n ofynnol iddo'i gymryd yn gyntaf dan gontract cyflogaeth y Swyddog Sabothol a/neu'r drefn ddisgyblu berthnasol ac fel arall yn unol ag arfer cyflogaeth dda.
Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddf 11 - UMCB
Tudalen 6 o 7
15.3
16.
Bydd Swyddog Sabothol a ddiswyddir o'i ddyletswyddau yn unol ag Is-ddeddf 15 yn rhoi'r gorau i fod yn Ymddiriedolwr Sabothol ar unwaith.
Darpariaethau sy'n Gwrthdaro Os digwydd bod y Cyfansoddiad hwn ac Erthyglau'r Undeb yn gwrthdaro, gweithredir Erthyglau’r Undeb. Cytunwyd ar undeb UMCB ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor trwy ewyllys da ac awydd i gydweithio i ffurfio perthynas barhaol. Os bydd y berthynas hon yn torri i lawr, rhaid ystyried ewyllys democrataidd aelodau UMCB wrth wneud penderfyniadau ynghylch dyfodol eu Hundeb.
17.
Diffiniadau Yn y Cyfansoddiad hwn, oni bai bod y cyd-destun yn gofyn yn wahanol, bydd gan y geiriau canlynol yr ystyron canlynol: Cyfansoddiad - is-ddeddfau UMCB UMCB - Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor Undeb - Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor
Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddf 11 - UMCB
Tudalen 7 o 7