Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddfau
Is-ddeddf 10 –Gweithdrefn Ddisgyblaethol Aelodau sy’n Fyfyrwyr ac Aelodau Gohebol Mae’r is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Cyngor Myfyrwyr ynghyd â’u gweithdrefnau. At ddiben Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor), y broses hon fydd y Cod Ymddygiad. Amcan Gweithia Undeb Bangor yn ddi-ffael er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau, digwyddiadau a’n gofodau’n ddiogel ac yn hyrwyddo profiad cadarnhaol i bawb sy’n eu defnyddio. Er mwyn amddiffyn hynny mae Gweithdrefn Ddisgyblaethol gennym er mwyn cyfeirio at faterion o gamweinyddiad. Caiff y weithdrefn ei defnyddio er mwyn delio â gweithredoedd gan y canlynol:
Aelodau Undeb Bangor Grwpiau Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor Aelodau Gohebol Undeb Bangor yn cyfranogi yng ngweithgareddau Undeb Bangor neu ddefnyddio gofodau Undeb Bangor.
Os cynhelir honiad o gamweinyddiad a darganfyddir eich bod chi neu’ch grŵp wedi ymddwyn yn anaddas byddwch yn derbyn rhybudd neu gosb. Mewn achosion pan dry at y Weithdrefn Ddisgyblaethol o ganlyniad i weithredoedd Grŵp Cyfleoedd Myfyrwyr, bydd yr arweinydd yn cynrychioli’r grŵp a chaiff unrhyw gosb ei rhoi i’r grŵp yn uniongyrchol neu arweinydd y grŵp yn y safle hwnnw ac nid yn erbyn myfyrwyr unigol. Ni ddylid defnyddio’r broses hon os taw gweithredoedd y canlynol sy’n cael eu hymchwilio:
Etholiadau neu Refferenda Undeb Bangor (delir â rheini trwy Weithdrefn Cwynion Etholiadau a Refferenda Undeb Bangor) Staff sy’n fyfyrwyr neu gyflogedig Undeb Bangor (delir â rhain trwy Weithdrefnau HR Prifysgol Bangor) Ymddiriedolwyr o’r Swyddogion Sabothol neu Ymddiriedolwyr sy’n fyfyrwyr Undeb Bangor (delir â rhain trwy’r Weithdrefn Atebolrwydd Aelodau Etholedig) Allanol Undeb Bangor (delir â rhain trwy Is-ddeddf Bwrdd yr Ymddiriedolwyr) Cynghorwyr Undeb Bangor (delir â rhain trwy Weithdrefn Atebolrwydd Aelodau Etholedig Undeb Bangor)
Am fwy o wybodaeth ac i ddarllen polisïau a gweithdrefnau ewch i’n gwefan www.undebbangor.com Cymorth Gall bod yn destun i ymchwiliad disgyblaethol fod yn gyfnod anodd i’r rheiny sy’n gysylltiedig. Sicrhawn fod unrhyw ymchwiliad yn gyfrinachgar, ac wedi’i gweithredu â gofal ac ystyriaeth. Bydd Undeb Bangor yn sicrhau bod pob cam o’r ymchwiliad yn dilyn polisïau a gweithdrefnau Undeb Bangor. Camweinyddiad Fel arfer, cyfeiria camweinyddiad at:
Ymddygiad anghymdeithasol Defnyddio neu ddosbarthu sylweddau anghyfreithlon Torri polisi neu weithdrefnau Undeb Bangor Lladrata Ymddygiad a all niweidio enw da Gweithgaredd troseddol arall sy’n ymwneud â gweithgaredd, gofodau neu bobl Undeb Bangor.
University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws
Page 1 of 4
Proses Gwneir y penderfyniad i ddechrau ar y broses hon gan y Llywydd neu ei gynrychiolydd, wedi’i gynorthwyo gan Gyfarwyddwr yr Undeb Myfyrwyr neu Reolwr Undeb Bangor priodol, fel arfer yn dilyn:
Derbynneb adroddiad digwyddiad gan un o Swyddogion Sabothol Undeb Bangor neu aelod o staff Canlyniad Gweithdrefn Cwynion Ffurfiol Undeb Bangor Ailgyfeiriad gan Brifysgol Bangor Ailgyfeiriad gan Brifysgol neu Undeb arall Llwybr arall rhesymol.
Cam un: Bydd y Llywydd, neu ei gynrychiolydd yn adolygu’r dystiolaeth ac yn penderfynu ar y canlynol:
Nad oes achos i’w hateb ac nid oes camau pellach i’w cymryd. Ar sail y dystiolaeth rydym wedi’i derbyn, eich bod am dderbyn rhybudd ffurfiol a allai gynnwys awgrymiadau i gywiro’r camweinyddiad. Bod angen ymchwiliad pellach. Dylid mynd â’r dystiolaeth yn syth i Banel Disgyblaethol iddyn nhw ei hystyried. Bydd y Llywydd, neu ei gynrychiolydd yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gweithiol o ddechrau’r weithdrefn i’ch hysbysu ynglŷn â beth sy’n digwydd. Yn dibynnu ar natur yr honiad mae’n bosib cewch eich gwahardd yn syth rhag ein gofodau neu ddigwyddiadau wrth aros am ymchwiliad disgyblaethol. Ni fydd gwaharddiad yn effeithio ar ganlyniad yr ymchwiliad. Cyfarwyddwr yr Undeb Myfyrwyr fydd yn penderfynu os oes angen gwaharddiad neu beidio. Ar unrhyw adeg yn ystod y gweithdrefnau disgyblaethol, gall Undeb Bangor drosglwyddo’r achos i’r Brifysgol, yr Heddlu neu unrhyw gorff arall priodol e.e. Cyrff Llywodraethu Chwaraeon Cenedlaethol. Dosbarthu Rhybudd Ffurfiol. Os caiff rhybudd ffurfiol gan y Llywydd neu unigolyn o’u dewis nhw, mae hawl gennych herio’r rhybudd o fewn 15 diwrnod gweithiol o’i dderbyn a gofyn am ystyriaeth lawn o’ch achos gan Banel Disgyblaethol. Os na caiff rhybudd ei herio, bydd y weithdrefn yn dod i ben. Byddwn yn cadw cofnod o’ch rhybudd am 1 flwyddyn.
Cam dau: Os bo’r Llywydd neu unigolyn o’u dewis nhw yn penderfynu bod angen ymchwiliad pellach, penodir Ymchwilydd Cwynion, fel arfer un o reolwyr Undeb Bangor nad ydynt wedi bod yn gysylltiedig â’r achos fydd hwn. Byddwch yn derbyn llythyr gennym ni’n cadarnhau’r canlynol:
Yr honiad. Enw a manylion cyswllt yr Ymchwilydd Cwynion. Bod cyfle gennych i ymateb yn ffurfiol i’r gwyn, ac os bo’r cyfle hwnnw am fod yn ysgrifenedig neu wyneb yn wyneb. Os bo gofyn ichi gwrdd â’r Ymchwilydd Cwynion. Trefnir cyfarfodydd o leiaf deuddydd o flaen llaw. Os bo gofyn ichi fynychu cyfarfod, mae hawl gennych i ddod â ffrind neu gynrychiolydd gyda chi, ond nid oes hawl iddyn nhw fod yna at ddiben cyfreithiol.
Os nad ydych yn ymateb neu’n gwrthod cysylltu â’r broses ymchwilio, dyfarnir nad oes unrhyw beth gennych i’w ychwanegu at yr ymchwiliad. Bydd yr Ymchwilydd Cwynion yn ystyried y gosodiadau ac unrhyw dystiolaeth arall maent wedi’u derbyn ac yn eu cyflwyno i’r Llywydd, neu unigolyn o’u dewis nhw er mwyn iddynt wneud penderfyniad; fel arfer o fewn 15 diwrnod wedi iddynt ddechrau ar yr ymchwilio. Os disgwylir ei bod am gymryd hirach i ymchwilio byddwn yn gadael ichi wybod. Cam tri: Bydd y Llywydd, neu unigolyn o’u dewis nhw yn adolygu’r dystiolaeth ac yn penderfynu pa un o’r canlynol fyddai’r cam nesaf mwyaf addas:
Nad oes achos i’w hateb ac ni ddylid cymryd unrhyw gamau pellach. Yn seiliedig ar y dystiolaeth maent wedi’i derbyn, byddwch yn derbyn rhybudd ffurfiol gall gynnwys argymhellion ar sut i wella’r camweinyddiad. Bod angen cyfeirio’r dystiolaeth at banel disgyblaethol i’w hystyried. Byddwn yn ysgrifennu atoch o fewn 10 dydd wedi i’r Llywydd dderbyn yr adroddiad gan yr Ymchwilydd Cwynion.
University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws
Page 2 of 4
Cam pedwar: Os cewch eich cyfeirio at Banel Disgyblaethol Undeb Bangor caiff 3 person eistedd ar y panel hwnnw. Caiff yr unigolion hynny eu dewis o’r grwpiau canlynol, a bydd hefyd yn cynnwys o leiaf un myfyriwr o Fangor:
Cyfarwyddwr yr Undeb Myfyrwyr neu Reolwyr Undeb Bangor Ymddiriedolwyr sy’n Swyddogion Sabothol Undeb Bangor Swyddogion Sabothol o Undebau Myfyrwyr eraill Aelodau Cyngor Myfyrwyr
Os bo’ch achos yn mynd at Banel Disgyblaethol Undeb Bangor cewch wybod o leiaf 5 diwrnod gweithiol o flaen llaw. Cewch gopi o osodiadau gan unrhyw dystion neu unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig caiff ei ddefnyddio. Mae hawl gennych i ddod â ffrind neu gynrychiolydd i’r gwrandawiad, ond nid mewn modd cyfreithiol. Bydd y panel yn penderfynu ar y canlynol:
Os cynhelir yr honiad. Ac os ei gynhelir, Os bo’r camweinyddiad yn fychan, cymedrol neu’n ddifrifol. Beth yw’r gosb.
Byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau penderfyniad y panel fewn 3 diwrnod gweithiol wedi diwedd y gwrandawiad (pan fo’r panel wedi gorffen ei ystyriaethau).
Bydd y llythyr hwn yn cynnwys: o
Manylion y camweinyddiad ag arweiniodd at wrandawiad.
o
Unrhyw gosbau disgyblaethol.
o
Os cewch rybudd, yr hyd y bydd yn para.
o
Os cewch eich gwahardd rhag aelodaeth Undeb Bangor / hawliau Undeb Bangor / aelodaeth BUCS, yr amser sy’n gysylltiedig â’r gwaharddiad.
o
Unrhyw awgrymiadau/gweithred angenrheidiol er mwyn osgoi gweithred ddisgyblaethol yn y dyfodol.
o
Cadarnhad os bo’r achos wedi’i drosglwyddo i’r Brifysgol neu awdurdod priodol arall.
o
Rhesymau cryno yn cefnogi’r penderfyniadau uchod.
o
Os bo’r gosb yn debygol o effeithio ar y gymuned myfyrwyr ehangach, cadarnhad ynglŷn â sut caiff y gosb honno ei chyfathrebu.
o
Manylion y broses apêl.
Apelio Mae hawl gennych wneud apêl wedi penderfyniad y Panel Disgyblaethol ar un neu fwy o’r telerau isod:
Penderfyniad gwbl afresymol (e.e. un nad yw’n rhesymol o gwbl wrth ystyried y dystiolaeth). Os bo tystiolaeth o wall gweithdrefnol sylweddol yn yr ymchwiliad i’ch cwyn, a bod hynny wedi effeithio ar y canlyniad. Os bo tystiolaeth briodol newydd yn dod i’r fei nad oedd ar gael yn ystod yr ymchwiliad gwreiddiol.
Dylid gwneud apêl mewn ysgrifen i Gyfarwyddwr yr Undeb Myfyrwyr o fewn 10 diwrnod gweithiol wedi’ch hysbysu ynglŷn â phenderfyniad y panel. Bydd y Cyfarwyddwr, neu gynrychiolydd o’u dewis nhw yn dewis y modd mwyaf addas o gynnal yr arolygiad, ac yn cyfathrebu ei benderfyniad mewn ysgrifen ynglŷn â chanlyniad yr apêl a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw o fewn 28 diwrnod gweithiol. Canlyniadau posib apêl yw:
Caiff yr apêl ei gwrthod a chynhelir y penderfyniad gwreiddiol. Cynhelir yr apêl a chaiff y gosb ddisgyblaethol ei thynnu neu ei newid.
University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws
Page 3 of 4
Os na chynhelir eich apêl byddwn yn ysgrifennu atoch yn esbonio bod hawl gennych i godi’r gwyn â Phrifysgol Bangor.
Diogelu Cyfrinachedd Mae Undeb Bangor yn ymroddedig i ddelio â materion disgyblaethol yn gynnil, gan ddiogelu cyfrinachedd y rheiny sy’n gysylltiedig. Ni ddylai unrhyw Swyddog Sabothol, Staff neu Ymddiriedolwr wneud sylw cyhoeddus ynglŷn ag unrhyw fater y delir ag ef dan y weithdrefn hon, ac ni chyhoeddir unrhyw adroddiadau ffurfiol. Pan benderfynir ar gosb a fydd yn effeithio ar gymuned myfyrwyr ehangach, caiff modd cyhoeddi’r gosb honno ei esbonio wrth y person/personau sy’n cael eu cosbi.
Cofnodi Disgyblaeth Cedwir cofnodion cywir yn manylu’r canlynol:
Unrhyw doriadau o’r ddisgyblaeth briodol. Amddiffyniad neu leddfiad y myfyriwr. Y gosb ddisgyblaethol y penderfynir arni a’r rhesymau dros hynny. Os gwnaethpwyd apêl a’i chanlyniad.
Cedwir y cofnodion hyn yn gyfrinachol a’u cadw ynghyd â’r Gweithdrefn Ddisgyblaethol uchod a’r Ddeddf Diogelu Data 1998. Dosbarthir copïau o unrhyw gyfarfodydd i’r myfyriwr o dan sylw.
University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws
Page 4 of 4