Iss-ddeddf 3

Page 1

Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Isddeddfau

Is-ddeddf 3 – Refferenda Mae’r is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Cyngor Myfywyr ynghyd â’u gweithdrefnau. 1.

2.

Refferenda 1.1 Gellir galw refferenda er mwyn penderfynu ar unrhyw fater. Polisi 2.1

Gall y rhestr ganlynol alw am Refferendwm ar unrhyw fater: 2.1.1

cydran o Ymddiriedolwyr;

2.1.2

pleidlais fwyafrifol gan y Cyngor Myfyrwyr; neu

2.1.3

fel yr amlinellir yn Erthyglau 26.1 a 28.2.1, Deiseb Ddiogel wedi’i harwyddo gan, neu y cytunir bod, o leiaf 150 o Aelodau Myfyrwyr.

2.2

Fel yr amlinellir yn Erthyglau 26.1 a 28.2.1, er mwyn pasio penderfyniad mae’n rhaid i o leiaf 500 o Aelodau Myfyrwyr fwrw pleidlais a bod mwyafrif syml o’r pleidleisiau hynny’n cytuno â’r penderfyniad.

2.3

Cynhelir refferenda gan ddilyn yr Erthyglau a’r Is-ddeddfau.

2.4

Fel yr amlinellir yn Erthygl 30.3, gall yr Aelodau Myfyrwyr osod polisi yn sgil Refferendwm. Gall y polisi hwn ddod yn lle Polisi wedi’i osod gan y Cyngor Myfyrwyr a Pholisi gan yr Aelodau Myfyrwyr mewn cyfarfod Aelodau Myfyrwyr.

3.

Cyfrifoldebau 3.1 Y Swyddog sy’n dychwelyd, neu ei Ddirprwy, fydd yn gyfrifol am drefnu refferendwm.

4.

Trefn 4.1

5.

Y Swyddog sy’n dychwelyd bydd yn gyfrifol am ei dull o arwain a chydlynu’r refferendwm.

Cyhoeddi 5.1 Bydd y Swyddog sy’n dychwelyd yn cyhoeddi bod refferendwm wedi’i galw ynghyd â rheswm pam o fewn pum (5) diwrnod o’r galw. 5.2 Bydd y Swyddog sy’n dychwelyd yn: 5.2.1 Cyhoeddi’r cynnig a’r dyddiad(au) ar gyfer y refferendwm a dyddiad y cyfarfod. 5.2.2 Gofyn am gyngor gan Bwyllgor Gweithdrefnau Democrataidd pan ddaw at eirio’r cwestiwn caiff ei ofyn. 5.2.3 Trefnu cyhoeddi dwy ochr unrhyw ddadl ynghyd â’r cwestiwn. 5.2.4 Cyhoeddi’r cynnig a’r cwestiwn a hysbysebu dyddiadau’r pleidleisio ymhellach.

6. Pleidleisio 6.1 6.2 6.3

Bydd gan bob aelod yr hawl i bleidleisio. Fel arfer, bydd pleidleisio yn electronig. Dylai opsiynau’r pleidleisio galluogi’r aelodau i bleidleisio o blaid, yn erbyn neu ymatal eu pleidlais.

University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws

Page 1 of 2


7. Canlyniadau 7.1 Bydd y Swyddog sy’n dychwelyd yn gyfrifol am ddatgan canlyniadau’r refferendwm unwaith ei fod yn grediniol bod y refferendwm wedi’i chynnal yn gywir. 7.2 Dylid cyhoeddi’r canlyniadau ar wefan Undeb Bangor cyn gynted ag sy’n bosib, heb fod yn hwy na thri diwrnod gweithiol wedi’r refferendwm.

University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws

Page 2 of 2


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.