Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor):
Is-ddeddf 4 – Cyfarfodydd Aelodau Myfyrwyr Mae’r is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Cyngor Myfyrwyr ynghyd â’u gweithdrefnau.
1.
Amcan
1.1. Ceir cyfarfodydd Aelodau Myfyrwyr er mwyn: 1.1.1. Trafod, dadlau a chreu polisi Undeb Bangor. 1.1.2.
Arolygu, arwain, asesu gwaith a chreu prosiectau ar gyfer y Swyddogion Sabothol
1.1.3. Trafod materion sy’n berthnasol i fyfyrwyr y Brifysgol. 1.1.4. Cymeradwyo cyllid yr Undeb Myfyrwyr ym mis Hydref, a derbyn yr Adroddiad Blynyddol ac adroddiad y Pwyllgor Etholiadau ym mis Mawrth/Ebrill. 1.1.5. Cyflawni pob un o ofynion Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor). 2. Amseriad 2.1.
Ceir dau gyfarfod bob blwyddyn academaidd, fel arfer ym mis Hydref a mis Mawrth/Ebrill.
2.2.
Ni chynhelir unrhyw gyfarfod dros gyfnod o wyliau (hynny yw, unrhyw ddyddiad nad yw’n gynwysedig yn nyddiadau tymor argraffedig Prifysgol Bangor).
3. 3.1.
Archeb Sefydlog Ceir cyfarfodydd eu trefnu, eu hysbysebu a’u cynnal yn ôl y rheolau yr amlinellir yn yr Erthyglau Cymdeithasiad.
3.2. Caniateir i unrhyw aelod sy’n bresennol gynnig unrhyw un o’r gweithdrefnau canlynol: 3.2.1.
Diffyg hyder yn y Cadeirydd ar gyfer gweddill y cyfarfod
3.2.2.
Herio penderfyniad y Cadeirydd
3.2.3.
Rhannu’r weithdrefn yn ddarnau
3.2.4.
Dylid pleidleisio ar y mater
3.2.5.
Dylid ail-gyfri’r pleidleisiau
3.3.
3.2.6. Dylid newid trefn y cyfarfod Er mwyn pasio gweithdrefn, mae’n rhaid cyrraedd mwyafrif o’r rheini sy’n bresennol ac â’r hawl i bleidleisio.
3.4.
Agenda 3.4.1.
Mae cyfle gan unrhyw fyfyriwr cofrestredig ym Mhrifysgol Bangor a Swyddogion Sabothol i ychwanegu eitemau at yr agenda, a byddant yn derbyn yr agenda a’r papurau o leiaf wythnos cyn y cyfarfod.
3.5. Cynigion i’w trafod 3.5.1.
Trafodir cynigion yn y cyfarfod os eu bod: 3.5.1.1.
Wedi’u cyflwyno erbyn y dyddiad cau cywir, neu wedi’u derbyn gan Bwyllgor Gweithdrefnau Democrataidd.
3.5.1.2.
Wedi’u paratoi yn dilyn y fformat cywir, e.e. ‘Mae’r Undeb yn credu, mae’r Undeb bellach yn credu’.
3.5.1.3.
Wedi’u cynnig a’u hethol gan ddau fyfyriwr cofrestredig a/neu Swyddogion Sabothol.
University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws
Page 1 of 2
3.6. Trafod cynigion 3.6.1. Trafodir cynigion yn y modd hwn: 3.6.1.1. 3.6.1.2.
3.7.
(a.) Y person sydd yn cynnig syniad yn siarad o blaid ei syniad (2 funud) (b.) Siarad yn erbyn y syniad, sgwrs agored (2 funud)
3.6.1.3.
(c.) Trafodaeth – rhaid cael cydbwysedd, pery’r drafodaeth tra bod yno gydbwysedd neu nes i’r Cadeirydd benderfynu y dylid symud ymlaen (1 munud yr un)
3.6.1.4.
(d.) Cwestiynau anffurfiol, pawb sy’n bresennol yn medru cwestiynu hwnnw sy’n gwneud y cynnig er mwyn egluro’n llawn.
3.6.1.5.
(e.) Dod i gasgliad (1 munud)
3.6.1.6.
(f.) Pleidleisio.
Pleidleisio 3.7.1. Er mwyn dod i benderfyniad ynglŷn â materion sy’n ymwneud â pholisi a newidiadau i’r agenda os bo mwyafrif syml yn cytuno, mae’n rhaid bod mwyafrif o ddwy ran o dair yn cytuno er mwyn newid is-ddeddfau cyfansoddiadol. 3.7.2.
Defnyddir system codi llaw er mwyn pleidleisio, neu unrhyw fodd arall y cytunir arno gan Bwyllgor Gweithdrefnau Democrataidd.
3.7.3.
Amlinellir cworwm o ran pleidleisio yn yr Erthyglau Cymdeithasiad.
4. Is-bwyllgorau Cyfarfodydd Cyffredinol 4.1.
Mae’r isod yn is-bwyllgorau i Gyfarfodydd Aelodau Myfyrwyr: 4.1.2. Pwyllgor Gweithdrefnau Democrataidd. 4.1.2.1.
Bydd pwyllgor gweithdrefnau democrataidd yn cyfarfod o leiaf unwaith cyn bob cyfarfod Aelodau Myfyrwyr neu Cyngor Myfyrwyr.
4.1.2.2. Aelodau’r pwyllgor fydd: 4.1.2.2.1. Y Llywydd, nhw fydd y Cadeirydd 4.1.2.2.2. Dau aelod etholedig o’r Swyddogion Sabothol a’r Ymddiriedolwyr sy’n fyfyrwyr 4.1.2.2.3. Dau aelod o Cyngor Myfyrwyr, wedi’u hethol yng nghyfarfod cyntaf y cyngor bob blwyddyn. 4.1.2.2.4. Cadeirydd Cyngor Myfyrwyr 4.1.2.3. Bydd y Pwyllgor Gweithdrefnau Democrataidd yn gyfrifol am: 4.1.2.3.1. Cwblhau agenda cyfarfodydd Aelodau Myfyrwyr a Cyngor Myfyrwyr 4.1.2.3.2. Asesu cynigion o ran cywirdeb, amwysedd a chyfreithlondeb, ac awgrymu ailymweld â nhw ble bo angen 4.1.2.3.3. Rhoi cymorth i’r Cadeirydd wrth gyfri pleidleisiau a rhoi cyngor wrth iddo ddod i benderfyniad
University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws
Page 2 of 2