Is-ddedf 5

Page 1

Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-ddeddfau

Is-ddeddf 5 – Bwrdd Ymddiriedolwyr Mae’r is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a y Cyngor Myfyrwyr ynghyd â’u gweithdrefnau. 1 1.1 1.2 1.3 2

Amcan, Strwythur a Dirprwyo Amlinellir amcan y Bwrdd Ymddiriedolwyr yn Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor) Mae hawl gan yr Ymddiriedolwyr i strwythuro’u cyfarfodydd fel y mynnant, cyn belled â’u bod yn cyd-fynd â’r amodau yn yr Erthyglau Cymdeithasiad. Gall yr Ymddiriedolwyr ddirprwyo cyfrifoldeb gweithredol i staff priodol ac is-bwyllgorau fel y bod angen.

Penodiad Ymddiriedolwyr a Cyfnod yn y rôl Bydd Ymddiriedolwyr Lleyg yn cychwyn eu penodiad o ddyddiad eu derbyniad yn Cyngor Myfyrwyr ac yn parhau yn y rôl honno am gyfnod penodol fel yr amlinellir yn 23.2 a 24.2 yn yr Erthyglau Cymdeithasiad. 2.2 Cyfnod arferol Ymddiriedolwyr Swyddogion Sabothol ac Ymddiriedolwyr sy’n fyfyrwyr yw’r 1af o Orffennaf y flwyddyn cânt eu hethol hyd at y 30ain o Fehefin y flwyddyn ganlynol. 2.3 Os bo safle gwag ar gyfer Ymddiriedolwr o’r Swyddogion Sabothol neu o’r myfyrwyr, mae’n rhaid cynnal isetholiad gan ddilyn yr amodau a amlinellir yn yr is-ddeddf etholiadau. Bydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr yn penderfynu ar ddyddiad dechrau y penodiad a bydd yn gorffen ar yr un dyddiad â’r ymddiriedolwyr eraill. 2.1

3 Rôl, Cyfrifoldebau a Disgwyliadau’r Ymddiriedolwyr 3.1 Disgwylir i’r Ymddiriedolwyr: 3.1.1 Gynnal Amcan, Gweledigaeth a Moesau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor) ar bob adeg. 3.1.2 Glynu at saith Egwyddor Nolan am Fywyd Cyhoeddus wrth weithredu eu gwaith: Anhunanoldeb, Unplygrwydd, Gwrthrychedd, Atebolrwydd, bod yn agored, Gonestrwydd ac Arweinyddiaeth. 3.1.3 Fynychu bob cyfarfod y Bwrdd Ymddiriedolwyr, ac is-bwyllgorau neu ddanfon ymddiheuriadau ysgrifenedig o flaen llaw. 3.1.4 Hyrwyddo gwaith, amcan a meddylfryd yr Undeb, gan gadw cyfrinachedd pan fo angen. 3.1.5 Ddarlunio, monitor ac asesu cyfeiriad strwythurol yr Undeb. 3.1.6 Fod â diddordeb gweithredol yn yr Undeb a sicrhau eu bod wedi’u paratoi a’u briffio’n addas er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus a fydd yn fuddiol i fyfyrwyr Bangor. 3.1.7 Gyfrannu tuag at ddatblygiad parhaol y Bwrdd Ymddiriedolwyr 3.1.8 Gyfranogi mewn gweithgareddau ychwanegol addas fel y penderfynir gan y Bwrdd Ymddiriedolwyr. 3.1.9 Sicrhau bod yr Undeb yn: cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol, defnyddio arian elusennol ac asedion yn unig er mwyn gwthio’r Undeb i gyrraedd ei amcanion, a sicrhau diddyledrwydd parhaol. 3.1.10 Gymryd camau addas er mwyn osgoi gweithgareddau a allai fod yn risg o ran asedau, adnoddau neu enw da’r Undeb. 3.2

Gwerthusiad Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr 3.2.1 Fel nodir yn yr Erthyglau Cymdeithasiad, mae’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am ddarparu gwerthusiad addas o Gyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr. 3.2.2 Arweinir gwerthusiad Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr gan y Llywydd â chefnogaeth ‘Is-bwyllgor Gwerthusiad Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr’, bydd ei aelodaeth yn cynnwys y Llywydd; Dirprwy Gadeirydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr a bydd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol y Brifysgol hefyd yn bresennol. 3.2.3 Yn flynyddol, bydd ‘Is-bwyllgor Gwerthusiad Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr’ yn cynnig proses gwerthusiad i’w gymeradwyo yng nghyfarfod y Bwrdd Ymddiriedolwyr o flaen llaw cyn gweithredu’r broses gwerthusiad

University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws

Page 1 of 4


3.2.4

3.2.5 3.2.6 4

Dylid cwblhau’r gwerthusiad cyn cyfnod trosglwyddo’r Swyddogion Sabothol a’r Llywydd bydd yn arwain. Os nad yw’r Llywydd ar gael neu’n methu cyflawni’r dasg, mae’n rhaid i’r Bwrdd ddewis Ymddiriedolwr Swyddog Sabothol arall yn ei le. Os nad yw'r Dirprwy Gadeirydd ar gael neu'n methu â mynychu'r gwerthusiad, gall y Bwrdd Ymddiriedolwyr ddewis Ymddiriedolwr Lleyg i gyflawni'r rôl hon. Bydd y Llywydd newydd a etholir hefyd yn bresennol yn y gwerthusiad fel arsylwr

Is-bwyllgorau i’r Bwrdd 4.1 4.2

Gall y Bwrdd Ymddiriedolwyr ddechrau is-bwyllgorau os eu bod yn angenrheidiol er mwyn darparu fforwm manylach ar gyfer trafodaeth ac/neu i ddarparu anghenion gweithredol a gwyliadwriaeth. Dylai’r Bwrdd Ymddiriedolwyr sicrhau bod strwythur yr is-bwyllgor yn gweithio’n effeithiol ac effeithlon a dirprwyo pan fo’n addas. 4.2.1 4.2.2

4.3

4.4

Pan gaiff cyfrifoldebau eu dirprwyo i’r Pwyllgor Gwaith , mae croeso i aelodau o’r Bwrdd Ymddiriedolwyr fynychu eu cyfarfodydd ond nid oes hawl ganddynt i bleidleisio. Dylid cael copi o gofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith ym mhob un o gyfarfodydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr er gwybodaeth a thrafodaeth.

Pwyllgor Gwaith 4.3.1

Ffurfir yr aelodau sydd â’r hawl i bleidleisio ar y Pwyllgor Gwaith gan y Swyddogion Sabothol (cyfarfodydd cyson, ffurfiol a gweithredol). Prif swyddogaeth y pwyllgor yw trafod prosiectau a syniadau a fydd yn fuddiol i fywydau myfyrwyr Prifysgol Bangor.

4.3.2

Bydd Cyfarwyddwr yr Undeb Myfyrwyr (a chyfarwyddwyr eraill os cytunir ar hynny) yn aelodau heb hawl i bleidleisio o’r Pwyllgor Gwaith.

4.3.3

Mae’n rhaid i’r Pwyllgor Gwaith sicrhau bod holl weithgareddau’r Undeb Myfyrwyr yn glynu at yr holl bolisïau a gweithdrefnau.

4.3.4

Dylid cyhoeddi cofnodion cyfarfodydd ac agenda bob cyfarfod ar wefan yr Undeb Myfyrwyr yn gyson trwy gydol y flwyddyn academaidd.

4.3.5

Dylai’r Pwyllgor Gwaith gael ei arwain gan, bod yn atebol i, ac adrodd datblygiadau wrth Cyngor Myfyrwyr a chyfarfod yr Aelodau Myfyrwyr a gall fod yn gyfrifol am unrhyw waith wedi’i rhoi iddynt gan y Bwrdd Ymddiriedolwyr.

4.3.6

Mae hawl gan y Pwyllgor Gwaith i strwythuro eu cyfarfodydd fel y mynnant, gan lynu at yr amodau yr amlinellir yn yr is-ddeddf hon.

Pwyllgor Iechyd a Diogelwch 4.4.1 Amcan 4.4.1.1 Amcan y Pwyllgor Iechyd a Diogelwch yw darparu llywodraeth a dirnadaeth i weithgaredd a chydsyniad Iechyd a Diogelwch o fewn yr Undeb Myfyrwyr. 4.4.1.2 Bydd y Pwyllgor Iechyd a Diogelwch yn cwrdd yn ôl yr angen i gyflawni ei gylch gwaith gan gyfarfod o leiaf dwy waith y flwyddyn cyn cyfarfodydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr. 4.4.2 Aelodaeth 4.4.2.1 Penodir aelodau’r Pwyllgor Iechyd a Diogelwch yn flynyddol ond mae’n rhaid iddo o leiaf gynnwys y Llywydd, Ymddiriedolwr Lleyg (cadeirydd) ac Ymddiriedolwr Myfyriwr. arall. 4.5.2.2 Bydd Cyfarwyddwr yr Undeb Myfyrwyr yn aelod heb bleidlais o’r pwyllgor hwn.

4.5 Pwyllgor Cyllid 4.5.1Amcan 4.5.1.1 Amcan y Pwyllgor Cyllid yw darparu goruchwyliaeth strategol a chanllawiau gweithredol ar fecanweithiau ariannol, perfformiad ac adrodd Undeb Bangor; i gynnal craffu ariannol rhwng cyfarfodydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr a sicrhau bod Undeb Bangor yn rheoli ei adnoddau cyllid yn effeithiol ac yn cwrdd â'i ofynion University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws

Page 2 of 4


adrodd statudol. 4.5.1.2 Bydd y Pwyllgor Cyllid yn cyfarfod yn cwrdd yn ôl yr angen i gyflawni ei gylch gwaith gan gyfarfod o leiaf pedair gwaith y flwyddyn cyn cyfarfodydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr. 4.5.2 Aelodaeth 4.5.2.1 Penodir aelodau’r Pwyllgor Cyllid yn flynyddol ond mae’n rhaid iddo o leiaf gynnwys y Llywydd, Ymddiriedolwr Lleyg (cadeirydd) ac Ymddiriedolwr Myfyriwr. 4.5.2.2 Bydd Cyfarwyddwr a Rheolwr Cyllid yr Undeb Myfyrwyr yn aelodau heb bleidlais o’r pwyllgor hwn.

4.6 Pwyllgor Llywodraethu a Phenodi 4.6.1Amcan 4.6.1.1 Amcan y Pwyllgor Llywodraethu a Phenodi yw sicrhau bod Undeb Bangor yn gweithredu model llywodraethu sy'n addas at bwrpas sefydliadol ac yn unol â'r weledigaeth a'r gwerthoedd cyhoeddedig. 4.6.1.2 Pwrpas y Pwyllgor Llywodraethu a Phenodi yw chwilio am, enwebu ac argymell enwebeion ar gyfer rolau gwag Ymddiriedolwr Lleyg a Myfyrwyr yn unol ag Erthygl 23 a 24 o'r Erthyglau Cymdeithasu. 4.6.1.3 Bydd y Pwyllgor Llywodraethu a Phenodi yn cwrdd yn ôl yr angen i gyflawni ei gylch gwaith gan gyfarfod o leiaf pedair gwaith y flwyddyn cyn cyfarfodydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr. 4.6.2 Aelodaeth 4.6.2.1 Penodir aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu a Phenodi yn flynyddol ond mae’n rhaid iddo o leiaf gynnwys y Llywydd, Ymddiriedolwr Lleyg (cadeirydd) ac Ymddiriedolwr Myfyriwr. 4.6.2.2 Bydd Cyfarwyddwr yr Undeb Myfyrwyr yn aelodau heb bleidlais o’r pwyllgor hwn.

5

Tynnu Ymddiriedolwr oddi ar y Bwrdd: Panel Apêl Os bo Ymddiriedolwr yn cael ei dynnu oddi ar y Bwrdd ac yn gwneud cais am apêl ysgrifenedig i Gyfarwyddwr yr Undeb Myfyrwyr o fewn 14 diwrnod wedi iddo gael ei hysbysu o benderfyniad y Bwrdd Ymddiriedolwyr, ffurfir Panel Apêl er mwyn cyrraedd gofynion yr Erthyglau Cymdeithasiad. 5.1.1 Os bod y Bwrdd Ymddiriedolwyr yn penderfynu tynnu Ymddiriedolwr oddi ar y bwrdd, caiff yr Ymddiriedolwr hwnnw ei wahardd o’i holl gyfrifoldebau hyd at ddiwedd proses y Panel Apêl. Os bo’r Ymddiriedolwr yn un o’r Swyddogion Sabothol, byddant yn parhau i gael eu cydnabod hyd at ddiwedd y broses. 5.2 Aelodaeth 5.2.1 Caiff y Panel Apêl ei gynnull gan Swyddog yr Undeb sy’n dychwelyd, wedi’i ethol gan y Bwrdd yn flynyddol fel yr amlinellir yn yr Is-ddeddf Etholiadau. Os nad ydynt ar gael, byddant yn argymell rhywun i gymryd ei lle. 5.2.2 Pennir aelodau’r Panel Apêl gan y Swyddog sy’n Dychwelyd, a bydd yn cynnwys un aelod o staff y Brifysgol, un aelod o Gyngor Undeb Bangor a dau aelod arall o’r Undeb nad ydynt yn aelodau o Gyngor Undeb Bangor. 5.2.3 Bydd y Swyddog sy’n Dychwelyd yn sicrhau bod aelodau’r panel yn ddiduedd ac nad ydynt wedi bod yn rhan flaenorol o’r broses. 5.2.4 Gall Cyfarwyddwr yr Undeb Myfyrwyr dderbyn gwahoddiad gan y Swyddog sy’n Dychwelyd i fynychu’r panel heb bleidlais er mwyn darparu gwybodaeth a chyngor, ac i fod yn ysgrifennydd. 5.3 Modd Gweithredu 5.3.1 Pennir dyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod gan y Swyddog sy’n Dychwelyd a’i gyfathrebu i’r holl bobl briodol o leiaf wythnos o flaen llaw. 5.3.2 Bydd y Panel Apêl yn derbyn adroddiad ysgrifenedig gan y Bwrdd Ymddiriedolwyr yn amlinelli’r broblem, y broses ac eglurhad o’r penderfyniad. Bydd y ddogfen hon ar gael i holl aelodau’r panel o leiaf 48 awr cyn cyfarfod y panel. 5.3.3 Bydd aelod o’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn cyflwyno’r adroddiad ysgrifenedig i’r Panel Apêl ac ateb unrhyw gwestiynau perthnasol. 5.1

University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws

Page 3 of 4


5.3.4

Bydd gan yr Ymddiriedolwr sy’n wynebu cael ei dynnu oddi ar y bwrdd gyfle i leisio ei achos ac ateb cwestiynau’r Panel Apêl. Os ydynt yn dymuno cyflwyno adroddiad ysgrifenedig; bydd y ddogfen hon ar gael i holl aelodau’r panel a’r Bwrdd Ymddiriedolwyr o leiaf 48 awr o flaen llaw. 5.3.5 Gofynnir i’r ddau aelod o’r Bwrdd Ymddiriedolwyr adael yr ystafell tra bod y Panel Apêl yn gwneud eu penderfyniad. Gall y panel benderfynu: i. Cytuno â’r penderfyniad i dynnu’r Ymddiriedolwr oddi ar y bwrdd ii. Gwrthwynebu’r penderfyniad i dynnu’r Ymddiriedolwr oddi ar y bwrdd iii. Gofyn am wybodaeth bellach, gohirio’r broses, ac ail-ymgynnull ar ddyddiad hwyrach. 5.3.6 Gwneir penderfyniad yn seiliedig ar bleidlais fwyafrifol, ac mae penderfyniad y Panel Apêl yn derfynol. 5.3.7 Os bo’r Panel Apêl yn gwrthwynebu penderfyniad y Bwrdd Ymddiriedolwyr, caiff yr Ymddiriedolwr ei adfer i’w safle yn syth. 5.3.8 Os bo’r Panel Apêl yn penderfynu gwrthwynebu penderfyniad y Bwrdd Ymddiriedolwyr, ni ellir ailgyflwyno’r penderfyniad diffyg hyder gwreiddiol i’r Bwrdd Ymddiriedolwyr. 6 6.1

Gwahardd Ymddiriedolwyr ar sail Refferenda a Cyngor Myfyrwyr Nid oes proses apêl ar gyfer Ymddiriedolwyr sydd wedi’u gwahardd ar sail pleidlais ddemocrataidd gan Cyngor Myfyrwyr neu Refferendwm eithr pan ellir profi ni ddilynwyd proses gywir. 6.1.1 Dylid cyflwyno cwynion ynglŷn â phroses refferendwm diffyg hyder mewn Ymddiriedolwr neu ddiffyg hyder ar ran Cyngor Myfyrwyr o fewn 7 diwrnod o’r bleidlais. Gall y Bwrdd Ymddiriedolwyr benderfynu: i. Cytuno â’r penderfyniad i dynnu’r Ymddiriedolwr oddi ar y bwrdd ii. Gwrthwynebu’r penderfyniad i dynnu’r Ymddiriedolwr oddi ar y bwrdd iii. Gofyn am wybodaeth bellach, gohirio’r broses, ac ail-ymgynnull ar ddyddiad hwyrach. Mae penderfyniad y Bwrdd Ymddiriedolwyr yn derfynol.

6.2 Os bo Refferendwm neu benderfyniad diffyg hyder ar ran Cyngor Myfyrwyr yn cael ei basio, bydd yr unigolyn dan sylw’n cael ei wahardd yn syth. Os taw’r unigolyn dan sylw yw un o’r Swyddogion Sabothol; byddant yn gorffen cael eu cydnabod fel Ymddiriedolwr 7 diwrnod wedi’r bleidlais heblaw bod apêl yn dod i law, yn yr achos hwnnw bydd yn stopio wedi i’r broses apêl ddod i ben os caiff yr apêl ei wrthod. 7 Ymddiriedolwyr wedi eu gwahardd 7.1 Unwaith y gwaharddir Ymddiriedolwr o’i rôl, nid oes hawl ganddynt i ymgeisio ar gyfer safle ar y bwrdd fyth eto.

University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws

Page 4 of 4


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.