Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Isddeddfau
Is-ddeddf 8 – Tynnu’n ôl o Aelodaeth Mae’r is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Cyngor Myryrwyr ynghyd â’u gweithdrefnau. Dan orchymyn Rhan 22(2)c y Ddeddf Addysg 1994 mae hawl gan unrhyw fyfyriwr i beidio â bod yn Aelod o’r Undeb. 7.1.1 Er mwyn gweithredu’r hawl hwnnw mae’n rhaid i’r myfyriwr hysbysu’r Llywydd o’u dewis mewn ysgrifen. 7.1.2 Bydd y Llywydd yn hysbysu’r Brifysgol ynglŷn â dewis y myfyriwr. Os bo myfyriwr yn dewis tynnu’n ôl o’r Undeb ni fydd hawl ganddynt i: 7.1.3 fod yn rhan o grŵp Cyfleoedd Myfyrwyr, nac ethol eu hunain am unrhyw rôl yn yr Undeb; 7.1.4
gyfranogi yn nemocratiaeth yr Undeb;
7.1.5 gynrychiolaeth gan yr Undeb o dan unrhyw amodau (e.e. apêl ar ddosbarthiad eu gradd/canlyniadau arholiadau). • Ni fydd myfyriwr sy’n tynnu’n ôl o’r Undeb yn derbyn unrhyw arian y byddai’r Brifysgol wedi’i roi i’r Undeb i’w cynrychioli nhw. • Gall myfyriwr ddewis ail-ymuno â’r Undeb ar unrhyw adeg trwy ysgrifennu at y Llywydd ac wedyn byddant â’r hawl i holl fuddion aelodaeth. Bydd y Llywydd yn hysbysu’r Brifysgol ynglŷn â dewis y myfyriwr.
University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws
Page 1 of 1