Is-ddeddf 11

Page 1

Is-ddeddfau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor) Is-ddeddf 11 – Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) Mae’r is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Cyngor Myfyrwyrynghyd â’u gweithdrefnau. Cyfeirir at yr ‘Undeb Cymraeg’ fel y’i diffinnir gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor fel Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) a caiff ei lywodraethu gan yr is-ddeddf hwn. 1.

2.

Aelodaeth 1.1

Bydd unrhyw fyfyriwr Prifysgol Bangor sy’n medru’r Gymraeg yn ôl rhestr myfyrwyr Prifysgol Bangor yn dod yn aelod yn awtomatig. Yr aelodau hyn yn unig fydd â hawliau pleidleisio mewn cyfarfodydd cyffredinol, refferendwm neu etholiad o fewn UMCB.

1.2

Bydd hawl gan unrhyw aelod UMCB i dynnu eu haelodaeth yn ôl trwy roi hysbysiad ysgrifenedig i UMCB.

1.3

Gall unrhyw un sy’n medru’r Gymraeg neu’n dysgu’r iaith, neu sydd â diddordeb yn yr iaith a diwylliant Cymru ond nad ydynt ar restr siaradwyr Cymraeg y Brifysgol ymuno ag UMCB fel Aelodau Cysylltiol. Gellir ymuno fel Aelod Cysylltiol hyd at ddiwrnod cyntaf y cyfnod etholiadau ffurfiol.

1.4

Gall unrhyw un nad ydynt yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor sy’n medru’r Gymraeg neu’n dysgu’r iaith, neu sydd â diddordeb yn yr iaith a diwylliant Cymraeg ymuno fel Aelodau Cyswllt am £15 y flwyddyn neu bris arall wedi’i osod yng nghyfarfod cyffredinol UMCB ond ni fyddant yn aelodau o’r Undeb.

1.5

Ni all mwy na 25% o aelodau UMCB fod yn Aelodau Cyswllt. Ni fydd hawl gan Aelodau Cyswllt bleidleisio mewn cyfarfodydd cyffredinol, refferenda neu etholiadau UMCB.

Pwyllgor Gwaith UMCB 2.1

Yn seiliedig ar Erthygl 30.1 ac Erthygl 30.3 yr Undeb, bydd y Pwyllgor Gwaith yn gyfrifol am: 2.1.1

Lywodraethu UMCB;

2.1.2

Cyllido UMCB;

2.1.3

Strategaethau UMCB; a

2.1.4

Digwyddiadau cyffredinol UMCB.

2.2

Etholir y pwyllgor yn flynyddol yng Nghyfarfod Cyffredinol mis Mai, heblaw am gynrychiolydd y flwyddyn gyntaf a chynrychiolydd myfyrwyr cartref (caiff y rhain eu hethol yng nghyfarfod cyffredinol cyntaf y flwyddyn academaidd briodol).

2.3

Y canlynol yw’r swyddogion fydd yn aelodau o’r Pwyllgor Gwaith (14 safle): 2.3.1

Llywydd UMCB- Cadeirydd;

2.3.2

Llywydd JMJ;

Bangor University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Law 11 - UMCB

Page 1 of 6


2.3.3

Cynrychiolydd y Flwyddyn Gyntaf;

2.3.4

Cynrychiolydd yr Ail Flwyddyn;

2.3.5

Cynrychiolydd y Drydedd Flwyddyn;

2.3.6

Cynrychiolydd Ôl-radd;

2.3.7

Cynrychiolydd Galwedigaethol;

2.3.8

Cynrychiolydd Myfyrwyr Cartref;

2.3.9

Cynrychiolydd Dysgwyr Cymraeg;

2.3.10 Y Cymric (4 safle); a 2.3.11 Golygydd Y Llef. 2.4

3.

Penodir unigolyn i gymryd cofnodion y cyfarfodydd yn y cyfarfod cyntaf wedi cyfarfod cyffredinol mis Mai. Penodir is-gadeirydd o blith aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn y cyfarfod cyntaf.

Gweithredoedd 3.1

Disgwylir i bob aelod o’r pwyllgor i fynychu bob cyfarfod ac i ddanfon ymddiheuriad ysgrifenedig os nad ydynt yn medru mynychu.

3.2

Bydd y Pwyllgor Gwaith yn cyfarfod unwaith y tymor. Bydd pleidlais yr un gan bob aelod ond 2 bleidlais gan 4 aelod y Cymric rhyngddynt.

3.3

Llywydd UMCB bydd cadeirydd y cyfarfodydd ond os nad yw’r person hwnnw’n medru bod yno bydd yr is-gadeirydd yn cadeirio.

3.4

Bydd Is-bwyllgor Cymdeithasau- bydd yr is-bwyllgor yn cwrdd yn fisol.

3.5

Bydd y canlynol yn aelodau o’r is-bwyllgor Cymdeithasau: 3.5.1

Is-bwyllgor Cymdeithasau (9 safle): 3.5.1.1 Llywydd UMCB; 3.5.1.2 Llywydd JMJ; 3.5.1.3 Y Cymric (x4); 3.5.1.4 Golygydd Y Llef; a 3.5.1.5 2 gynrychiolydd Chwaraeon

3.6

Gall y Llywydd neu ddau aelod o’r Pwyllgor Gwaith neu’r is-bwyllgor alw cyfarfod.

3.7

Dylid rhoi gwybod am gyfarfod i aelodau’r pwyllgorau 5 diwrnod o flaen llaw, heblaw am mewn achosion pan fo’r holl aelodau’n cytuno gyda llai o rybudd.

Bangor University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Law 11 - UMCB

Page 2 of 6


3.8 4.

Caiff bob aelod o’r is-bwyllgor un bleidlais yr un. Llywydd UMCB fydd y cadeirydd- os nad yw’r Llywydd ar gael bydd aelodau’r is-bwyllgor yn penodi cadeirydd ar ddechrau’r cyfarfod.

Amcanion Amcanion UMCB yw:

5.

6.

4.1

Hyrwyddo cydweithrediad rhwng aelodau, ac i amddiffyn a hybu eu diddordebau academaidd, ieithyddol, diwylliannol, cymdeithasol ac allgyrsiol.

4.2

Hyrwyddo’r iaith Gymraeg a digwyddiadau trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn y Brifysgol a’r gymuned ehangach.

4.3

Darparu ar gyfer lles yr aelodau a’u cynrychioli ym mhob agwedd sy’n ymwneud â’u diddordebau.

4.4

Cynrychioli myfyrwyr yn y Brifysgol a fyddai’n hoffi gweinyddiaeth gwbl neu’n rhannol Gymraeg gan y Brifysgol.

Iaith 5.1

Cymraeg yw iaith swyddogol UMCB.

5.2

Bydd cyhoeddiadau swyddogol UMCB (e.e. llawlyfr UMCB a’r Llef) trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig.

5.3

Cymraeg fydd prif iaith UMCB ar wefannau cymdeithasol (Instagram, Twitter a Facebook).

5.4

Bydd gwasanaeth cyfieithu Saesneg ar gael i aelodau UMCB yn ystod cyfarfodydd os derbynnir cais amdani o leiaf 7 diwrnod cyn cyfarfod, heblaw am gyfarfodydd brys.

Cyfleoedd Cyfartal Mae UMCB yn ymroddedig i gynnig cyfleoedd cyfartal i’r holl aelodau. Ni fydd unrhyw un o aelodau UMCB o dan anfantais yn seiliedig ar ryw, anabledd, rhywioldeb, iaith, hil, crefydd, oed, ethnigrwydd neu ddosbarth cymdeithasol. Bydd y Llywydd yn cynrychioli unrhyw aelod sydd yn wynebu niwed o fewn y Brifysgol.

7. 

8.

Pwyllgor Ymgynghorol UMCB Gall y Pwyllgor Gwaith wahodd cyn-lywyddion UMCB i fod yn aelodau o Bwyllgor Ymgynghorol. Ni fydd y pwyllgor hwn yn cwrdd yn gyson ond gall y Pwyllgor Gwaith alw arnynt am gyngor ar unrhyw fater, ar unrhyw adeg ac mi fydd y Llywydd presennol yn rhoi diweddariad iddynt bob tymor. Gall y Pwyllgor Gwaith dynnu cyn-lywydd oddi ar y Pwyllgor Ymgynghorol os bo dros 50% o’r Pwyllgor Gwaith yn cytuno mai dyna fyddai orau. Llywodraethu 8.1

Mae llywyddu UMCB yn cynnwys: 8.1.1

Y Cyfansoddiad hwn;

8.1.2

cyfarfod cyffredinol UMCB sydd â hawl i basio polisïau ac os bo’r Ymddiriedolwyr a’r Cyngor Myfyrwyr yn cytuno, i newid y cyfansoddiad;

Bangor University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Law 11 - UMCB

Page 3 of 6


8.2 9.

y Pwyllgor Gwaith a’r is-bwyllgor, i weithredu polisi;

8.1.4

y Llywydd, sydd yn gyfrifol am dasgau gweinyddol dydd i ddydd; a

8.1.5

Pwyllgor Ymgynghorol UMCB.

Bydd copi o’r cyfansoddiad presennol ar gael i bob un o aelodau UMCB yn swyddfa’r Llywydd.

Cyfarfodydd Cyffredinol 9.1

10.

8.1.3

Bydd awdurdod gan Gyfarfod Cyffredinol UMCB i wneud y canlynol: 9.1.1

cynrychioli llais aelodau UMCB;

9.1.2

ar sail Erthygl 30.3 yr Undeb, gosod polisi UMCB;

9.1.3

ar sail Erthygl 49 yr Undeb, creu, diddymu a diwygio’r Cyfansoddiad; ac

9.1.4

ethol y Pwyllgor Gwaith.

9.2

Cworwm cyfarfodydd cyffredinol fydd 50 o aelodau UMCB.

9.3

Ni fydd hawl gan Aelodau Cyswllt i bleidleisio mewn cyfarfodydd cyffredinol neu refferenda.

9.4

Gellir galw am gyfarfod cyffredinol o leiaf 5 diwrnod o flaen llaw gan: 9.4.1

Y Llywydd; neu

9.4.2

hanner aelodau’r Pwyllgor Gwaith; neu

9.4.3

Y Llywydd neu’r Pwyllgor Gwaith yn dilyn deiseb ynglŷn â mater penodol wedi’i harwyddo gan o leiaf 20 o aelodau.

9.5

Gellir galw am Gyfarfod Cyffredinol Brys gan y Llywydd neu’r Pwyllgor Gwaith o leiaf 2 ddydd o flaen llaw ynghyd ag esboniad o’r mater/materion i’w trafod yn y cyfarfod hwnnw.

9.6

Mae’n rhaid i’r Llywydd drefnu Cyfarfod Cyffredinol bob tymor yn Ystafell Gyffredin JMJ neu leoliad arall sy’n gyfleus i’r aelodau.

9.7

Y Llywydd fydd Cadeirydd y cyfarfodydd cyffredinol. Os nad yw’r Llywydd yn bresennol, bydd yr Is-lywydd yn cadeirio ac os nad yw’r Is-lywydd yn bresennol bydd yr aelodau yn penodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwnnw.

Llywydd UMCB Bydd gan y Llywydd yr awdurdod a’r dyletswyddau canlynol fel y manylir yn Is-ddeddf 3: 10.1

Bydd y Llywydd yn atebol i’r Pwyllgor Gwaith ac i’r Cyfarfod Cyffredinol.

10.2

Bydd y Llywydd yn gyfrifol am gynrychioli aelodau UMCB.

10.3

Bydd y Llywydd yn gyfrifol am gydlynu ymgyrchoedd UMCB.

Bangor University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Law 11 - UMCB

Page 4 of 6


11.

12.

10.4

Y Llywydd yn unig fydd â’r hawl i siarad â’r cyfryngau ynghylch UMCB. Yn absenoldeb y Llywydd, bydd y Pwyllgor Gwaith yn dewis cynrychiolydd arall i wneud hynny.

10.5

Bydd cyfrifoldeb gan y Llywydd i gadw rhestr aelodaeth wedi’i ddiweddaru.

10.6

Bydd y Llywydd yn gweithio o swyddfa UMCB yn Undeb Bangor, Pontio a bydd hefyd cynnal oriau swyddfa yn swyddfa UMCB yn Neuadd John Morris-Jones.

10.7

Bydd y Llywydd yn gyfrifol am sicrhau bod y Cyfansoddiad a’r ddogfen bolisi yn cael eu diweddaru’n gyson.

Etholiadau UMCB 11.1

Caiff y Pwyllgor Gwaith ei ethol mewn Cyfarfod Cyffredinol am dymor o flwyddyn yn unol â’r Is-ddeddf hon.

11.2

Caiff Llywydd UMCB ei ethol yn rhan o dîm y Swyddogion Sabothol yn unol â’r Is-ddeddf hon.

Cyhoeddiadau UMCB Y Llef

13.

12.1

Caiff y Llef ei gyhoeddi unwaith bob tymor.

12.2

Bydd y Golygydd yn aelod o Bwyllgor Gwaith UMCB.

12.3

Bydd is-olygyddion yn rhoi cymorth i’r golygydd.

12.4

Llywydd UMCB bydd Swyddog Gweithredol y Llef a bydd ef/hi yn sicrhau bod y Llef yn cydfynd â Chytundeb Cyfryngau Myfyrwyr cyn ei gyhoeddi.

Cod Ymddygiad

Bydd Cod Ymddygiad a gweithdrefnau disgyblaethol ar gyfer Aelodau Myfyrwyr yn cynnwys holl aelodau ac Aelodau Cyswllt UMCB. 14.

Refferenda 14.1

Gellir galw refferenda ar unrhyw achos sy’n briodol i UMCB gan: 14.1.1 gydran o’r Pwyllgor Gwaith; 14.1.2 bleidlais fwyafrifol gan yr aelodau mewn Cyfarfod Cyffredinol; neu 14.1.3 yn unol ag Erthygl 30.3 yr Undeb, deiseb wedi’i harwyddo gan o leiaf 35 o aelodau.

14.2

Yn unol ag Erthyglau 30.3 yr Undeb, er mwyn pasio datrysiad trwy refferenda mae’n rhaid i o leiaf 110 o aelodau bleidleisio mewn refferendwm a bod mwyafrif syml o blaid y datrysiad hwnnw.

14.3

Cynhelir refferenda yn unol â’r Erthyglau a’r Is-ddeddfau.

Bangor University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Law 11 - UMCB

Page 5 of 6


14.4

15.

Yn unol ag Erthygl 30.3 yr Undeb, gall yr aelodau osod polisi UMCB trwy refferenda. Gall polisi wedi’i osod trwy refferenda ddiddymu polisi wedi’i osod gan y pwyllgor gwaith a pholisi wedi’i osod gan yr aelodau mewn Cyfarfod Cyffredinol.

Diswyddo Llywydd UMCB o’r tîm Swyddogion Sabothol Caiff y Llywydd ei ddiswyddo os ei fod yn: 15.1

ymddiswyddo neu’n marw; neu

15.2

eu bod yn cael eu diswyddo fel Swyddog Sabothol: 15.2.1 o ganlyniad i fwyafrif syml mewn pleidlais diffyg hyder yn y Swyddog Sabothol mewn refferendwm, cyn belled a bod o leiaf 110 o aelodau wedi bwrw pleidlais. Cynhelir refferendwm os bo Deiseb Ddiogel wedi’i harwyddo gan o leiaf 35 aelod; neu 15.2.2 o ganlyniad i bleidlais diffyg hyder gan fwyafrif o ddwy ran o dair mewn Cyfarfod Cyffredinol. Cynhelir pleidlais os bo deiseb wedi’i harwyddo gan o leiaf 35 aelod neu gan Gyfarfod Cyffredinol a gelwir gan y Pwyllgor Gwaith; Bydd unrhyw ddiswyddiad yn unol â chamau priodol yr Undeb o ran diwygio cytundeb cyflogaeth ac/neu unrhyw weithdrefn ddisgyblaethol y dylid ei gweithredu yn unol ag arferion cyflogaeth dda.

15.3 16.

Bydd unrhyw Swyddog Sabothol caiff ei ddiswyddo o’i rôl yn cael ei ddiswyddo fel Ymddiriedolwr Sabothol hefyd.

Darpariaethau anghyson â’i gilydd

Os bo unrhyw wrthdaro rhwng y Cyfansoddiad hwn ac Erthyglau Cymdeithasiad yr Undeb, dylid dilyn erthyglau’r Undeb. Unwyd UMCB a’r Undeb trwy ewyllys da ac awydd i gydweithio er mwyn ffurfio perthynas barhaol. Os nad yw’r berthynas honno’n parhau, dylid ystyried ewyllys democrataidd aelodau UMCB wrth wneud penderfyniadau o ran dyfodol y berthynas. 17.

Diffiniadau

Yn y Cyfansoddiad hwn dylid defnyddio’r diffiniadau canlynol, heblaw bod y cyd-destun yn gofyn yn wahanol: Cyfansoddiad – is-ddeddfau UMCB UMCB – Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor Undeb – Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor

Bangor University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Law 11 - UMCB

Page 6 of 6


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.