Is-ddeddf 7

Page 1

Passed at UBC 25/01/18

Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Isddeddfau Is-ddeddf 7 - Etholiadau Mae’r is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Cyngor Myfyrwyr ynghyd â’u gweithdrefnau.

1 Etholiadau 1.1 Cynhelir etholiadau ar gyfer y safleoedd isod gan ddilyn yr is-ddeddf hon bob blwyddyn: 1.1.1 Cynrychiolydd Cynhadledd UCM Cymru a Chynrychiolydd Cynhadledd Cynllun Rhyddhad, 1.1.2 Cynrychiolwyr UCM y DU a Chynhadledd Cynllun Rhyddhad, 1.1.3 Swyddogion Sabothol, 1.1.4 Ymddiriedolwyr sy’n Fyfyrwyr (pan gytunir gan y Pwyllgor Penodi) 1.1.5 Cynghorwyr Undeb Bangor 2 Is-Etholiadau 2.1 Gan ddilyn Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor), llenwir unrhyw safle gwag yn ystod y flwyddyn academaidd trwy gynnal is-etholiad fel manylir yn yr isddeddf hon. 3 Hawliau Aelodau 3.1 Mae hawl gan bob aelod, fel diffinnir yn Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor) i ymgeisio mewn unrhyw etholiad, heblaw am yr eithriadau canlynol: 3.1.1 Mae’n rhaid i ymgeiswyr foddhau’r amodau cymhwyster a nodir yn Is-ddeddf 6 o’r Isddeddfau yma. 3.1.2 Cyfyngir Swyddogion Sabothol ac Ymddiriedolwyr sy’n fyfyrwyr i ddau dymor yn eu rôl. 3.1.3 Mae’n rhaid i ymgeiswyr ar gyfer Is-Lywydd Myfyrwyr Cymraeg / Llywydd UMCB foddhau’r meini prawf ymgeisio a’r meini prawf cymhwyster pleidleisio fel nodir yn Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor). 3.1.4 Mae hawl gan Aelodau Myfyrwyr sy’n cwblhau eu cwrs ym mis Ionawr a myfyrwyr PhD ym mlwyddyn eu hadolygiad i ymgeisio ar gyfer rôl un o’r Swyddogion Sabothol ar gyfer y flwyddyn academaidd honno. 4 Penodi Swyddog sy’n Dychwelyd 4.1 Penodir Swyddog sy’n dychwelyd yn flynyddol gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr 4.2 Bydd y Swyddog sy’n dychwelyd yn annibynnol ac ni fydd yn Aelod.

Bangor University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Law 7 - Elections

Page 1 of 5


Passed at UBC 25/01/18 5 Pwerau a Dyletswyddau y Swyddog sy’n Dychwelyd 5.1 Bydd y Swyddog sy’n dychwelyd yn gyfrifol am ymddygiad da a gweinyddiaeth yr etholiadau a bydd ganddo’r hawl i ddehongli’r Is-ddeddf Etholiadau fel y mynno. 5.2 Bydd y Swyddog sy’n dychwelyd yn penodi Dirprwy Swyddog sy’n dychwelyd a swyddogion etholiad eraill er mwyn sicrhau gweinyddiaeth dda a hyrwyddo’r etholiad. Bydd y Swyddog sy’n dychwelyd yn cyfarwyddo’r Dirprwy Swyddog sy’n dychwelyd a’r swyddogion Etholiad o ran eu dyletswyddau a byddant yn eu cyflawni mewn modd diduedd. 5.3 Gall y Swyddog sy’n dychwelyd dynnu unrhyw swyddogion nad ydynt yn cyflawni cyfarwyddiadau’r Swyddog sy’n dychwelyd neu’n ymddwyn mewn modd nad yw’n ddiduedd. 5.4 Gall y Swyddog sy’n dychwelyd ofyn am gyngor cyfreithiol os ydynt o’r gred y gallai gosodiadau a gwneuthur neu gynnwys y cyhoeddusrwydd adael Undeb Bangor yn agored i weithred gyfreithiol. 5.5 Gall y Swyddog sy’n dychwelyd wrthod unrhyw osodiad neu gyhoeddusrwydd y credant eu bod yn torri rheolau Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor) neu’r Is-ddeddfau. 5.6 Bydd y Swyddog sy’n dychwelyd yn dewis modd pleidleisio addas ar gyfer pob etholiad ac yn sicrhau bod yr holl aelodau’n ymwybodol ohono ac yn ei ddeall. 5.7 Bydd y Swyddog sy’n dychwelyd yn cyhoeddi unrhyw reolau etholiadol cyn unrhyw etholiad. Bydd y rheolau yn ffocysu ar greu proses etholiadol deg, eglur a chyfiawn a byddant yn darparu eglurdeb o ran ymddygiad wrth ymgyrchu, cyhoeddusrwydd a gwariant. Dylid cyflwyno’r rheolau yma i’r Pwyllgor Etholiadau cyn dechrau ar broses yr etholiad. 5.8 Bydd y Swyddog sy’n dychwelyd yn cyhoeddi Gweithdrefn Cwynion Etholiadau a Refferenda cyn unrhyw etholiad. Bydd y weithdrefn yn sefydlu modd clir i aelodau wneud cwyn ynglŷn ag ymddygiad unrhyw ymgeisydd a swyddogion yr etholiad ac yn amlinellu’r hawliau sydd gan y Swyddog sy’n dychwelyd a’r Dirprwyon. Disgwylir i’r weithdrefn hefyd gynnwys modd i ymgeiswyr wneud apêl os nad ydynt yn cytuno â phenderfyniadau’r Swyddog sy’n dychwelyd. Mae’n rhaid cyflwyno’r weithdrefn cwynion i’r Pwyllgor Etholiadau cyn dechrau proses unrhyw etholiad. 5.9 Gall y Swyddog sy’n dychwelyd rhoi unrhyw dasg i’r Dirprwy Swyddog sy’n dychwelyd neu Bwyllgor ond efe/hi sy’n gyfrifol am yr etholiad ar bob adeg. 6 Pwyllgor Etholiadau 6.1 Prif amcan y Pwyllgor Etholiadau fydd rhoi cymorth a chefnogi’r Swyddog sy’n dychwelyd er mwyn sicrhau bod yr etholiad yn llwyddiannus ac i sicrhau bod yr etholiad yn glynu at yr is-ddeddf hon ar bob adeg. 6.2 Aelodau’r Pwyllgor Etholiad fydd: 6.2.1 Y Swyddog Etholiadau sy’n dychwelyd, wedi’i benodi gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr gan ddilyn yr is-ddeddf hon. 6.2.2 Dirprwy Swyddog Etholiadau sy’n dychwelyd, wedi’i benodi gan y Swyddog sy’n dychwelyd gan ddilyn yr is-ddeddf hon. 6.2.3 Dau aelod llawn o Gyngor Undeb Bangor, wedi’u hethol yng Nghyngor Undeb Bangor. 6.2.4 Dau safle agored, wedi’u llenwi gan unrhyw aelod llawn o Undeb Bangor, wedi’u hethol yng nghyfarfod cyntaf yr Aelodau Myfyrwyr bob blwyddyn. Bangor University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Law 7 - Elections

Page 2 of 5


Passed at UBC 25/01/18 6.2.5 Swyddog Sabothol wedi’i ethol gan y Pwyllgor Gwaith. 6.2.6 Ymddiriedolwr sy’n fyfyriwr, wedi’i benodi gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. 6.2.7 Unrhyw bersonau ychwanegol wedi’u dewis gan y Swyddog sy’n dychwelyd oherwydd eu harbenigedd a’u cyngor, er dweud hynny dim ond yr aelodau y manylir yn rhan 6.2.3 – 6.2.6 sydd yn aelodau sydd â’r hawl i bleidleisio. 6.3 Mae’n hanfodol bod pob aelod o’r Pwyllgor Etholiadau yn annibynnol o unrhyw ymgeisydd ac ymgeiswyr posib mewn etholiad. Nid oes hawl gan unrhyw aelod o’r Pwyllgor Etholiadau gefnogi, neu ymgyrchu ar ran unrhyw ymgeisydd, ac mae’n rhaid iddynt wneud addewid o niwtraliaeth cyn dechrau unrhyw broses etholiadol. 7 Amserlen Etholiad 7.1 Bydd y Swyddog sy’n dychwelyd yn cynhyrchu Amserlen Etholiad, bydd yn cynnwys dyddiadau ac amseroedd ar gyfer hysbysiad ynglŷn â’r canlynol a chwblhau’r canlynol: 7.1.1 Enwebiadau 7.1.2 Hyfforddi Ymgeiswyr 7.1.3 Maniffestos 7.1.4 Amseroedd Holi’r Ymgeiswyr 7.1.5 Pleidleisio 7.1.6 Cyfri’r Pleidleisiau 7.2 Cyhoeddir yr Amserlen Etholiad ynghyd â deunyddiau hyrwyddo’r etholiad. 7.3 Dylai’r amserlen ddarparu amser digonol i sicrhau’r lefel cyfranogiad uchad posib yn yr etholiad. 8 Enwebiadau 8.1 Bydd ffurflenni enwebiadau ar gael ar wefan Undeb Bangor, a mannau eraill y penderfynir arnynt gan y Swyddog sy’n dychwelyd. 8.2 Bydd y cyfnod enwebi yn para lleiafswm o bump (5) diwrnod cyn dechrau cynfasu. 8.3 Pan fo’r Swyddog sy’n dychwelyd yn foddhaol, caiff pob ymgais dilys eu cadarnhau â’r ymgeiswyr. 9 Hyfforddi Myfyrwyr 9.1 Bydd y Swyddog sy’n dychwelyd yn trefnu hyfforddiant y disgwylir i bob ymgeisydd ei fynychu. 9.2 Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys briffiau ynglŷn â sgiliau ymgyrchu, cyhoeddusrwydd, rheolau’r etholiad, Sesiwn Holi’r Ymgeiswyr a rôl yr Ymddiriedolwyr. 10 Maniffestos 10.1 Bydd y Swyddog sy’n dychwelyd yn darparu cyngor ynglŷn â maniffestos yn rheolau’r etholiad. 10.2 Rhaid i bob ymgeisydd sy’n dymuno cyflwyno maniffesto wneud hynny erbyn y dyddiad a nodir ar Amserlen yr Etholiad. 10.3 Arddangosir y maniffestos ar wefan Undeb Bangor, ac unrhyw le arall y penderfynir arno gan y Swyddog sy’n dychwelyd. Bangor University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Law 7 - Elections

Page 3 of 5


Passed at UBC 25/01/18 11 Ymgeiswyr sy’n ddeiliaid presennol 11.1 Disgwylir i Swyddogion Sabothol hysbysu gwyliau â thal wrth y Swyddog sy’n dychwelyd os ydynt yn dymuno ymgyrchu yn ystod eu horiau swyddfa arferol yn ystod cyfnod etholiad. 11.2 Nid oed hawl gan Swyddogion Sabothol ddefnyddio unrhyw adnoddau sydd ganddynt yn eu safle presennol at ddiben ymgyrchu. 11.3 Bydd y Swyddog sy’n dychwelyd yn cynhyrchu canllaw ar gyfer Swyddogion Sabothol sy’n ailymgeisio er mwyn glynu at gymal 11 o’r is-ddeddf hon. 12 Sesiwn Holi’r Ymgeiswyr 12.1 Bydd y Swyddog sy’n dychwelyd yn trefnu o leiaf un Sesiwn Holi’r Ymgeiswyr. 12.2 Bydd y Swyddog sy’n dychwelyd neu unigolyn o’u dewis nhw yn cadeirio’r Sesiwn Holi’r Ymgeiswyr. Cynhelir y sesiwn gan ddilyn proses y cytunir arni yn hyfforddi’r ymgeiswyr. 12.3 Dylid cyfeirio pob cwestiwn at yr holl ymgeiswyr sy’n ymgeisio ar gyfer y rôl. Gall y Cadeirydd wrthod unrhyw gwestiwn nad ydynt wedi’u cyfeirio at yr holl ymgeiswyr. 12.4 Gall ymgeiswyr sydd ar leoliad, neu’n astudio dramor ethol dirprwy i siarad ar eu rhan. 13 Pleidleisio 13.1 Cyhoeddir manylion yr etholiadau a’r broses bleidleisio ar wefan Undeb Bangor, ac unrhyw le arall y penderfynir arnynt gan y Swyddog sy’n dychwelyd. 13.2 Bydd y bleidlais yn cynnwys enw pob ymgeisydd a’r rôl maent yn ymgeisio ar ei chyfer. 13.3 Bydd opsiwn pleidleisio dros ‘Re-open Nomination (RON)’. 14 Cwynion 14.1. Rhaid cyflwyno unrhyw gwynion ynghylch gweithrediad yr etholiad mewn ysgrifen i’r Swyddog cyn dechrau ar y cyfri. Bydd y Swyddog yn penderfynu ar unrhyw gwynion, a bydd modd gwneud apêl fel nodir yn Gweithdrefn Cwynion Etholiadau a Refferenda yng nghymal 5.8 o’r is-ddeddf hon. 15 Cyfri’r Bleidlais 15.1 Gall yr ymgeisydd neu gynrychiolydd o’u dewis nhw fynychu’r cyfri, fel gwylwyr yn unig. 15.2 Os bo unrhyw Aelod yn dymuno gwylio’r cyfri, mae’n rhaid iddynt wneud cais i’r Swyddog cyn diwedd y pleidleisio. 15.3 Y Swyddog, neu ei Dirprwy Etholedig yw’r unig bobl sy’n medru cychwyn y cyfri. 15.4 Bydd y cyfri yn dechrau os bo’r Swyddog yn hyderu fod pob cwyn ynglŷn â gweithredu’r etholiad a’r weinyddiaeth wedi’u datrys. Dim ond cwynion ynghylch modd y cyfri caiff eu derbyn wedi dechrau’r cyfri. 15.5 Cynhelir y cyfri gan ddilyn y canllawiau wedi’u gosod gan Gymdeithas Diwygio Etholiadol ble fo’n bosib, neu fel y cytunir gan y Pwyllgor Etholiadau pan nad oes canllawiau’n bodoli. 16 Cyhoeddi 16.1 Cyhoeddir canlyniadau’r etholiadau gan y Swyddog pan fo’r cyfri ar gyfer pob rôl wedi’u cwblhau’n llwyddiannus.

Bangor University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Law 7 - Elections

Page 4 of 5


Passed at UBC 25/01/18 16.2 Cyhoeddir canlyniadau’r etholiadau ar wefan Undeb Bangor o fewn un (1) diwrnod gweithiol wedi’r cyfri.

Bangor University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Law 7 - Elections

Page 5 of 5


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.