Passed GM 22/03/18
Cyfansoddiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor: Rhan 2 - IsDdeddfau Is-ddeddf 12 – Atebolrwydd Aelod Etholedig
Mae’r is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Cyngor Myfyrwyr ynghyd â’u gweithdrefnau. 1. Amcan 1.1 Amcan yr is-ddeddf yw sicrhau bod pob un o swyddogion ac aelodau etholedig Undeb Bangor yn derbyn triniaeth deg ac yn darparu modd teg o ymdrin â phleidleisiau diffyg hyder. 2. Y broses 2.1 Os codir pleidlais ddiffyg hyder gan fyfyrwyr ynglŷn ag aelod etholedig sy’n rhan o glwb, gymdeithas neu brosiect wirfoddoli, dylid dilyn y weithdrefn yr amlinellir yn y cyfansoddiad priodol. 2.1.1
Os nad oes gweithdrefn yn bodoli, gellir codi gofidion trwy’r weithdrefn hon.
2.2 Dylid cyflwyno unrhyw bleidleisiau diffyg hyder (VONC) mewn ysgrifen i’r Llywydd. Os bo’r VONC ynglŷn â’r Llywydd dylid ei e-bostio at studentvoice@undebbangor.com. 2.2.1 Dylai’r VONC gynnwys manylion y person sy’n gysylltiedig, ynghyd â manylion ynglŷn â’r camweithrediad neu berfformiad o safon isel. Pan fo’n bosib, dylid cynnwys dyddiadau ac amseroedd unrhyw ddigwyddiadau. 2.3 Bydd y Llywydd yn enwebu aelod o staff i ymchwilio i’r VONC ar ei ran. 2.4 Bydd unrhyw aelod etholedig caiff ei ymchwilio yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig ynglŷn â’r ymchwiliad a byddant yn derbyn cyfle i leisio’u safbwynt nhw- caiff eu safbwynt nhw ystyriaeth lawn a theg cyn y gwneir unrhyw benderfyniad terfynol. 2.5 Mae hawl gan yr aelod etholedig fynychu unrhyw gyfarfodydd, ynghyd â myfyriwr arall neu aelod cyswllt i Undeb Bangor. 2.5.1 Cadeirir unrhyw gyfarfod a chynhelir gan Undeb Bangor ynglŷn ag atebolrwydd gan y Llywydd, heblaw bod y VONC ynglŷn â nhw. 2.5.2 Bydd aelod o dîm Llais y Myfyrwyr yn cymryd cofnodion ym mhob cyfarfod ac yn eu dosbarthu yn fuan wedi’r cyfarfod. 2.6 Hysbysir aelod etholedig ynglŷn â’r canlyniad o fewn 10 diwrnod gweithiol, eithr eu bod wedi’u cynghori fel arall. 2.6.1 Y canlyniadau posibl i’r Llywydd yw: 2.6.2 Rhybudd ffurfiol llafar 2.6.3 Rhybudd ffurfiol ysgrifenedig 2.6.4 Hyfforddiant pellach angenrheidiol 2.6.5 Gwaharddiad rhag digwyddiadau am gyfnod penodol 2.6.6 Diswyddiad o’i rôl
Bangor University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws
Page 1 of 1