Passed 020519
Cyfansoddiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor: Rhan 2- Isddeddfau Is-ddeddf 13 – UCM a Chynrychiolwyr UCM Mae’r is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, Cyngor Myfyrwyr a’r Cyfarfodydd Aelodau Myfyrwyr Undeb Bangor, ynghyd â’u gweithdrefnau.
1. Amlinelliad polisi 1.1 Mae’r polisi hwn yn berthnasol i gynhadledd UCM Cymru ac UCM y DU, gan gynnwys parthau, cynllun rhyddhad ac adrannau. 2. Arweinydd o’r cynrychiolwyr 2.1 Unwaith y caiff myfyrwyr eu hethol i’r gynhadledd, byddant yn ethol arweinydd o’u mysg a bydd yr arweinydd hwnnw’n gyfrifol am drefnu cyfarfod cynrychiolwyr cyn y gynhadledd i’r holl gynrychiolwyr ei fynychu. 2.1.1 Bydd y cyfarfod cynrychiolwyr hwnnw yn trafod gweithdrefnau UCM, materion y dylid eu trafod yn y gynhadledd ac unrhyw un o bolisïau’r Undeb sy’n cyfeirio at y materion hynny. 2.2 Bydd yr arweinydd yn ymgynghori â’r cynrychiolwyr eraill, a chynhyrchu adroddiad ynglŷn â’r penderfyniadau a’r materion y dylid eu trafod yn y gynhadledd. Ceir yr adroddiad hwn ei roi ar wefan Undeb Bangor, a’i drafod yng nghyfarfod nesaf Cyngor Myfyrwyr (UBC), neu bwyllgor Corff Gweithredol Undeb Bangor os nad oes mwy o gyfarfodydd gan yr UBC. 2.3 Mae’n rhaid i’r cynrychiolwyr ddarparu rhestr gyflawn o sut y pleidleision ar weithdrefnau UCM i Undeb Bangor. 2.3.1 Yn ystod y Sesiwn Holi Atebolrwydd y Swyddogion (Sesiwn Holi’r Swyddogion Sabothol), gall myfyrwyr ofyn sut y pleidleisiodd y cynrychiolwyr ar weithdrefnau penodol. 3. Pleidleisio’r cynrychiolwyr 3.1 Mae’n rhaid i gynrychiolwyr bleidleisio ynghyd â pholisi Undeb Bangor. Os nad oes polisi’n bodoli, caiff y cynrychiolwyr bleidleisio fel y mynnant, ond mae’n rhaid i’r bleidlais ddilyn moesau Undeb Bangor. 3.1.1 Yr eithriad yw cynrychiolwyr sydd wedi’u hethol at archiad penodol a all wrth-ddweud polisi Undeb Bangor. 3.1.2 Gall cynrychiolwyr ymatal rhag pleidleisio ar unrhyw fater. 3.2 Bydd y Llywydd yn sicrhau bod gan bob cynrychiolydd gopi cyfoes o bolisi Undeb Bangor i gyfeirio ato mewn cynadleddau. 4. Cynigion i UCM Cymru a Chynhadledd Genedlaethol UCM 4.1 Caiff Undeb Bangor argymell ffyrdd o wella i gynhadledd UCM. Mae’n rhaid bod unrhyw argymhelliad neu gynnig wedi’i dderbyn trwy Refferendwm, Cyfarfod Aelodau Myfyrwyr neu gyfarfod Cyngor Myfyrwyr. 4.1.1 Mae’n rhaid i Gadeirydd Pwyllgor Gweithdrefnau Democrataidd arwyddo pob cynnig ac argymhelliad cyn mynd â nhw i Gynadleddau UCM. Bangor University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws
Page 1 of 2
Passed 020519
5. Parthau UCM 5.1 Bydd Undeb Bangor yn danfon aelodau i gynadleddau Parthau, fel y cytunwyd yng nghyfarfod blynyddol cyntaf yr Aelodau Myfyrwyr. 5.2 Cynhelir etholiadau i barthau ar y we, ar undebbangor.com (neu yng nghyfarfod cyntaf Cyngor Myfyrwyr) ac maent ar agor i unrhyw aelod o Undeb Bangor. 5.3 Caiff Swyddogion Sabothol yr Undeb fynychu Parthau fel cynrychiolydd etholedig neu fel arsylwr. 5.4 Mae’n rhaid i gynrychiolwyr sy’n mynychu Parthau UCM ddilyn polisi Undeb Bangor yn yr un modd â chynrychiolwyr yn mynychu cynadleddau UCM Cymru a chynadleddau cenedlaethol. 5.4.1 Yn etholiadau pwyllgor y Parthau dylai cynrychiolwyr bleidleisio dros ymgeiswyr sy’n adlewyrchu polisi Undeb Bangor, eithr eu bod wedi’u hethol at ddiben penodol. 5.5 Gofynnir i gynrychiolwyr gyflwyno adroddiad Parthau yng nghyfarfod nesaf Cyngor Myfyrwyr.
6. Cynllun Rhyddhad UCM a Chynhadledd Adrannau 6.1 Bydd Undeb Bangor yn danfon aelodau i gynadleddau’r Cynllun Rhyddhad ac Adrannau, fel y cytunwyd yng nghyfarfod blynyddol cyntaf yr Aelodau Myfyrwyr. 6.2 Cynhelir etholiadau ar gyfer cynadleddau’r Cynllun Rhyddhad ac Adrannau ar y we, trwy undebbangor.com 6.3.1 Bydd y Cynghorwyr Undeb Bangor sydd wedi’u hethol i safleoedd rhyddhad neu adrannau yn mynychu’r gynhadledd UCM briodol yn rhinwedd eu swyddi. 6.3.1 Os oes unrhyw safleoedd gwag mewn cynadleddau, mae unrhyw aelod o Undeb Bangor, sy’n perthyn i unrhyw ran o’r Cynllun Rhyddhad neu Adran yn gymwys i ymgeisio yn yr etholiad. 6.3 Yn etholiadau pwyllgor y Cynllun Rhyddhad neu Adrannau dylai cynrychiolwyr bleidleisio dros ymgeiswyr sy’n adlewyrchu polisi Undeb Bangor, eithr eu bod wedi’u hethol at ddiben penodol.. 6.4 Gofynnir i gynrychiolwyr gyflwyno adroddiad Cynllun Rhyddhad neu Adrannau yng nghyfarfod nesaf Cyngor Myfyrwyr.
Bangor University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws
Page 2 of 2