Passed GM 22/03/18 Cyfansoddiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor: Rhan 2 – Is-ddeddfau Is-ddeddf 14 – Cynrychiolaeth Myfyrwyr Mae’r is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Cyngor Myfyrwyr ynghyd â’u gweithdrefnau. 1. Egwyddorion 1.1 Mae Cynrychiolwyr Cwrs (Course Reps) yn rhan hanfodol o system addysgiadol y Brifysgol. 1.2 Mae Cynrychiolwyr Cwrs yn darparu adborth ar gynnwys cyrsiau ac asesu, strwythur cyrsiau ac agwedd at addysgu/dysgu, a phrofiad academaidd cyffredinol eu cyd-fyfyrwyr. Gellir trosglwyddo’r adborth hwnnw ar Ysgolion, Colegau, Undeb Bangor, Pwyllgor staff a myfyrwyr ac at staff uwch y Brifysgol. 2. Etholiadau 2.1 Gall unrhyw fyfyriwr cofrestredig ym Mhrifysgol Bangor ethol eu hunain i fod yn Gynrychiolydd Cwrs. Gellir gwneud hynny trwy undebbangor.com. 2.2. Gall pob myfyriwr yn yr ysgol bleidleisio dros Gynrychiolwyr Cwrs. 2.3 Wedi’r etholiadau, bydd Undeb Bangor yn hysbysu’r myfyrwyr, a’r staff yn yr ysgolion priodol. 3. Cyfansoddiad y Cynrychiolwyr 3.1 Dylai nifer y Cynrychiolwyr Cwrs adlewyrchu maint yr ysgol, yn sicrhau bod yr holl fyfyrwyr o bob blwyddyn a chwrs yn cael eu cynrychioli. 3.2 Disgwylir, fel lleiafrif, y bydd y canlynol gan bob ysgol; 3.2.1 Un cynrychiolydd o bob blwyddyn astudiaeth israddedig 3.2.2 Un cynrychiolydd o raglenni dysgedig ôl-raddedig 3.2.3 Un cynrychiolydd o raglenni ymchwil ôl-raddedig. 4. Cyngor Cynrychiolwyr Cwrs 4.1. Bodola Cyngor Cynrychiolwyr Cwrs Undeb Bangor er mwyn: 4.1.1.Amlygu problemau a rhannu’r arferion gorau ar hyd y Brifysgol. 4.1.2.Gwella bywydau myfyrwyr trwy drafod â nhw a deall anghenion y myfyrwyr. 4.1.3.Bod yn lysgenhadon i Undeb Bangor, trafod a dadlau yng nghylch problemau a syniadau, a chreu prosiectau newydd. 4.1.4.Darparu cyfleoedd i’r Cynrychiolwyr Cwrs fagu gwybodaeth a sgiliau pellach. 4.1.5.Darparu cyfle i’r Cynrychiolwyr Cwrs i drafod â’i gilydd ar hyd y Brifysgol. 4.2 Is-lywydd Addysg fydd cadeirydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs. 4.3 Gwahoddir Cynrychiolwyr Cwrs i Gyngor y Cynrychiolwyr Cwrs a byddant yn derbyn cofnodion yn fuan wedi bob cyfarfod. 5. Cyfrifoldebau Undeb Bangor 5.1 Bydd Undeb Bangor yn darparu tudalennau penodol, gan gynnwys mynediad i’r adnoddau digidol ar y wefan ar gyfer y system Cynrychiolwyr Cwrs. 5.2 Bydd Undeb Bangor yn cyfathrebu gwybodaeth berthnasol ynglŷn â chyfarfodydd y Cynrychiolwyr Cwrs gyda’r Uwch Gynrychiolwyr, Cynrychiolwyr Cwrs ac Ysgolion fel sy’n briodol. 5.3 Bydd Undeb Bangor yn darparu llawlyfr electronig gyda gwybodaeth wedi’i diweddaru ar gyfer Uwch Gynrychiolwyr a Chynrychiolwyr Cwrs er mwyn rhoi cymorth i’r myfyrwyr yn y rolau hynny. Bangor University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws
Page 1 of 2
Passed GM 22/03/18 5.4 Undeb Bangor yn darparu hyfforddiant ar gyfer Uwch Gynrychiolwyr a Chynrychiolwyr Cwrs ynglŷn â strwythur, cynrychiolaeth a democratiaeth yr Undeb. 5.4.1 Fel rheol, caiff yr hyfforddiant ei gwblhau o fewn y 3-5 wythnos gyntaf yn Semester 1. Cydlynir yr hyfforddiant gan y Cydlynydd Democratiaeth a Chynrychiolaeth. 5.5 Bydd Undeb Bangor yn darparu gwybodaeth ynglŷn â’r hyfforddiant a manylion am y llawlyfr i’r myfyrwyr priodol o fewn pythefnos (2) cyntaf Semester . 5.6 Bydd yr Is-lywydd Addysg yn adolygu’r wybodaeth y derbynnir gan yr Uwch Gynrychiolwyr, y Cynrychiolwyr Cwrs, Ysgolion a Cholegau. Codir unrhyw broblemau daw i’r fei gan Swyddogion Undeb Bangor yng nghyfarfod y pwyllgor priodol. 5.7 Bydd Undeb Bangor yn cysylltu ag unrhyw Gynrychiolwyr Cwrs nad yw eu hysgolion yn credu eu bod yn gwneud digon er lles y myfyrwyr eraill ac yn cynnig cymorth iddynt er mwyn parhau yn eu rôl. Os nad yw’r myfyriwr yn derbyn y cymorth hwnnw, bydd Undeb Bangor yn cydweithio gyda’r Ysgol a’r Cynrychiolydd Cwrs er mwyn cytuno ar ddatrysiad I bawb sy’n gysylltiedig. 6. Cyfrifoldebau Cynrychiolwyr Cwrs 6.1 Disgwylir i Gynrychiolwyr Cwrs fynychu holl gyfarfodydd Staff a Myfyrwyr, neu ddanfon ymddiheuriad os nad ydynt yn medru bod yno. 6.2 Disgwylir i Gynrychiolwyr Cwrs fynychu holl gyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs, neu ddanfon ymddiheuriad os nad ydynt yn medru bod yno. 6.3 Gwahoddir Cynrychiolwyr Cwrs i fynychu hyfforddiant Cynrychiolwyr Undeb Bangor, neu i gwblhau hyfforddiant ar lein os nad ydynt yn medru mynychu un o’r sesiynau. 6.4 Dylai Cynrychiolwyr Cwrs gyflwyno’u hunain I’r myfyrwyr ar eu cwrs mor fuan ag sy’n bosib yn Semester 1. 6.5 Dylai Cynrychiolwyr Cwrs ddarparu adborth I’r myfyrwyr wedi bob cyfarfod staff a myfyrwyr ac wedi Cyngor Cynrychiolwyr Cwrs Undeb Bangor. 6.6 Dylai Cynrychiolwyr Cwrs hysbysu Cydlynydd Democratiaeth a Chynrychiolaeth Undeb Bangor os nad ydynt yn dymuno parhau yn eu rôl fel Cynrychiolydd Cwrs. 7. Cyfrifoldebau Ysgolion 7.1Amlinellir cyfrifoldebau’r Ysgolion yng nghod ymarferol Prifysgol Bangor ar gyfer Cynrychiolaeth Cwrs.
Bangor University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws
Page 2 of 2