Is-ddeddf 15

Page 1

Passed at GM 22/03/18

Cyfansoddiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor: Rhan 2 – Is-Ddeddfau Is-ddeddf 15 – Polisi Undeb Bangor Mae’r is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Cyngor Myfyrwyr ynghyd â’u gweithdrefnau.

1

Gosod a Phasio Polisi 1.1 Gellir gosod a phasio polisi’r Undeb gan; 1.1.1 Cyngor Myfyrwyr (yn unol ag Is-ddeddf 6 – Cyngor Myfyrwyr), 1.1.2 Cyfarfod Cyffredinol (yn unol ag Is-ddeddf 4), 1.1.3 Refferendwm (yn unol ag Is-ddeddf 3 – Refferenda). 1.2 Ni all polisi wrth-ddweud gwerthoedd a moesau Undeb Bangor.

2

Polisi wedi’i Basio 2.1 Bydd polisi a gaiff ei basio’n parhau am weddill y flwyddyn academaidd honno a’r flwyddyn ganlynol, heblaw am yn yr achosion canlynol; 2.1.1 Caiff ei ddatrys. 2.1.2 Caiff ei wrthod gan gorff uwch neu refferendwm yn unol â 4.1 2.1.3 Caiff ei ailddatgan yn unol â 3. 2.2 Bydd Cadeirydd ac Ysgrifennydd Cyngor Myfyrwyr yn cadw cofnod polisi ar lein ac yn sicrhau y caiff unrhyw newidiadau eu diweddaru o fewn 10 diwrnod gweithiol.

3

Ailddatgan Polisi 3.1 Gellir ailddatgan polisi yng Nghyngor Undeb Bangor cyntaf y flwyddyn academaidd honno. 3.2 Os na chaiff polisïau eu hailddatgan yng nghyfarfod cyntaf Cyngor Myfyrwyr y flwyddyn honno, caiff ei ystyried yn ddiffygiol.

4

Dymchwel Polisi 4.1 Gellir dymchwel polisi gan gorff uwch a gellir trio ei ddymchwel unwaith yn unig yn yr un flwyddyn academaidd. 4.2 ; Er eglurdeb, dyma hierarchaeth y cyrff eraill o’r uchaf i’r isaf; 4.2.1 Refferendwm 4.2.2 Cyfarfod Aelodau Myfyrwyr 4.2.3 Cyngor Myfyrwyr 4.3 Gall refferendwm ddymchwel canlyniad refferendwm cynt, ond nid yn yr un flwyddyn academaidd.

Bangor University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws

Page 1 of 1


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.