Is-ddeddfau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor):
Is-ddeddf: Dwyieithrwydd
Mae’r is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Cyngor Myfyrwyr ynghyd â’u gweithdrefnau. Mae’r is-ddeddf hon yn unol â, ac yn barhad o’r ‘Language Statement’ cytunir arni gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ar y 18fed o Ionawr, 2018. 1. Mae Undeb Bangor yn defnyddio ac yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i diwylliant ym mhob agwedd o’u waith ac yn fudiad sy’n gweithredu’n ddwyieithog. 1.1 Mae Undeb Bangor yn ymroddedig i gadw at Safonau’r Iaith Gymraeg sydd gan y Brifysgol, polisi Iaith Gymraeg y Brifysgol ac is-ddeddf dwyieithrwydd yr Undeb. Bydd yn sicrhau bod yr holl wasanaethau ar gael yn ddwyieithog. 1.2 Mae Undeb Bangor yn ymroddedig i ddangos ymwybyddiaeth a pharch tuag at yr iaith a’r diwylliant ac yn gwneud ymdrech i drafod materion Cymreig a materion sy’n ymwneud â’r iaith gyda Llywydd UMCB. Bydd Undeb Bangor yn gweithio tuag at hybu’r iaith pryd bynnag bod cyfle. 1.3 Canolfan Bedwyr yw cyfieithwyr swyddogol Undeb Bangor a gellir lan lwytho unrhyw ddogfen i’w gwefan i’w cyfieithu, boed yn Saesneg neu’n Gymraeg. 1.4 Mae Undeb Bangor yn ymroddedig i sicrhau bod yr holl staff a swyddogion sabothol yn ymwybodol o’r is-ddeddfau Dwyieithrwydd a phwysigrwydd yr iaith Gymraeg trwy hyfforddiant cyson, a dylid hysbysu’r bobl yma o unrhyw newidiadau i’r Is-ddeddfau. 2. Gweithredu 2.1 Mae’r is-ddeddf hon yn briodol i bob agwedd o waith Undeb Bangor; yr eiddo caiff ei reoli gan Undeb Bangor, dosbarthiadau’r trydydd parti a digwyddiadau wedi’u trefnu neu’u rhedeg gan Undeb Bangor. 2.2 Ysgrifenedig 2.2.1 Mae’n rhaid i bob ddogfen ysgrifenedig fod yn ddwyieithog. 2.2.2 Mae’n rhaid i bob cyfatebiaeth swyddogol fod yn ddwyieithog, er gellir ateb cyfatebiaeth trwy gyfrwng yr iaith y derbyniwyd ymateb ynddi. Bydd Undeb Bangor yn gwneud ymdrech i amlygu’r ffaith y gellir cysylltu â nhw yn naill iaith. 2.2.3 Dylid cynhyrchu pob poster neu hysbyseb gan Undeb Bangor yn ddwyieithog, gyda’r fersiwn Gymraeg naill ai uwch ben neu i’r chwith
o’r fersiwn Saesneg. Pan ddaw at bosteri, gellir cynhyrchu dwy fersiwn, un yn y naill iaith a’u arddangos ochr yn ochr. 2.2.4 Os bod ymgais i gyfieithu neges mewn argyfwng (e.e. argyfwng meddygol, tywydd) yn methu, gellir arddangos y neges mewn un iaith gyda chaniatâd gan Gyfarwyddwr Undeb Bangor ac/neu Llywydd UMCB. 2.3 Galwadau Ffôn 2.3.1 Dylid ateb y ffôn â chyfarchiad dwyieithog, gyda’r fersiwn Gymraeg gyntaf. 2.3.2 Os bod y person sy’n galw yn dymuno cael sgwrs trwy gyfrwng y Gymraeg dylid delio â’r alwad drwy’r Gymraeg nes ei fod yn hollol angenrheidiol trosglwyddo’r alwad i aelod o staff nad ydynt yn siarad Cymraeg. 2.4 Gwefannau 2.4.1. Gweithreda Undeb Bangor wefan ddwyieithog. Pan caiff testun ei ychwanegu/newid ar y wefan, dylid diweddaru a chyhoeddi’r testunau Cymraeg a Saesneg ar yr un pryd. 2.5 Cyfryngau Cymdeithasol 2.5.1. Mae’r Cyfryngau Cymdeithasol yn fodd cyfathrebu swyddogol, felly dylid sicrhau bod y tudalennau swyddogol ar Facebook, Twitter ac Instagram (ac unrhyw gwefannau cyfryngau cymdeithasol swyddogol sydd gan Undeb Bangor) i gyd yn ddwyieithog. 2.5.2 Mewn achosion pan fo’r cyfryngau cymdeithasol yn gosod mwyafrif o eiriau y gellir eu rhoi, dylid uwch lwytho’r Cymraeg a’r Saesneg ar wahân. 2.6. Clybiau, Cymdeithasau a Gwirfoddoli 2.6.1 Mae Undeb Bangor yn ymroddedig i gefnogi’r holl glybiau, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli yn eu hymdrechion i fod yn ddwyieithog. 2.6.2 Bydd Undeb Bangor yn darparu hyfforddiant, cyngor a chefnogaeth pan ddaw at agweddau ymarferol a gweithrediadol defnyddio’r Gymraeg ar ddechrau bob blwyddyn academaidd, gan gyd-weithio â Llywydd UMCB. 2.6.3 Bydd Llywydd UMCB yn gyfrifol am gynnig cymorth i bob clwb a chymdeithas yn eu hymdrechion i weithredu’n ddwyieithog.
2.6.4 Os bod aelod o glwb neu gymdeithas yn gofyn am dderbyn cyfatebiaeth Gymraeg, mae’n rhaid i’r clwb neu gymdeithas ddarparu cyfatebiaeth ddwyieithog. 2.6.5 Disgwylir i bob clwb, cymdeithas a phrosiect gwirfoddoli sicrhau bod unrhyw ddeunyddiau hyrwyddo, boed yn ddigidol neu wedi’u hargraffu yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg naill ai uwch ben neu i’r chwith o’r Saesneg. Gyda phosteri, gellir argraffu un yn y naill iaith a’u harddangos ochr yn ochr.
2.7. Cyfarfodydd a Digwyddiadau 2.7.1 Bydd pob cyfarfod Undeb Bangor caiff eu cyhoeddi’n ddwyieithog: bydd hysbyseb y cyfarfod, yr agenda, papurau a munudau yn ddwyieithog a bydd cyfieithydd yn y cyfarfod. 2.7.2 Priodola pwynt 2.7.1 i gyfarfodydd adrannau o fewn yr Undeb (Cyfleoedd, Llais y Myfyrwyr) heblaw am y cyfieithydd. Bydd Undeb Bangor yn sicrhau bod pawb fydd yn mynychu’r cyfarfod yn gwybod bod angen gofyn am gyfatebiaeth Gymraeg o leiaf 5 diwrnod cyn y cyfarfod. 2.7.3 Pob digwyddiad arall cynhelir gan Undeb Bangor e.e. Cynhelir Seremonïau Gwobrwyo’n ddwyieithog.
2.8 Deunyddiau Allanol 2.8.1 Dylai Undeb Bangor ddefnyddio ei gysylltiadau ag asiantaethau eraill i hybu dwyieithrwydd gan sicrhau bod unrhyw deunyddiau yn ddwyieithog. 2.8.2. Ni fydd Undeb Bangor yn derbyn nac yn arddangos deunyddiau unieithog yn unol â pwynt 2-2.8. 2.8.3 Ble mae deunyddiau allanol yn unieithog, mae’n rhaid i’r cyrff allanol ddarparu cyfieithiad o safon uchel. Os nad yw’r cyfieithiad yn cyrraedd safonau Undeb Bangor mae hawl gan Undeb Bangor i wrthod ei arddangos. 2.8.4 Byddwn yn gweithio gydag Academi, yn ogystal ag annog a rhoi pwysau arnynt i sicrhau bod eu hysbysebu’n ddwyieithog. Gellir ychwanegu hwn rhywle o dan 2.8 ‘Deunyddiau allanol’.
3. Eithriadau 3.1 Teitlau 3.1.2. Pan yn hysbysebu darlith, trafodaeth, araith, cyngerdd ne ddadl ayyb gellir cadw’r teitl gwreiddiol. Dylai pob deunydd arall ddilyn amodau’r isddeddf hon. 3.2 Mudiadau Gwirfoddol 3.2.1 Caiff unrhyw ddeunyddiau unieithog y dymuna unrhyw fudiadau gwirfoddol neu elusennol eu defnyddio eu trosglwyddo i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith. 3.2.2 Cymraeg yn unig iaith weithiol Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB), sy’n rhan o Undeb Bangor, a dylai holl staff Undeb Bangor gefnogi UMCB er mwyn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg. Pan fo’n briodol bydd UMCB yn darparu gwybodaeth ddwyieithog. 3.3 Cyhoeddiadau 3.3.1 Gellir cadw erthyglau caiff eu hanfon i’r Llef neu’r Seren yn eu hiaith wreiddiol. Gall y golygydd ddewis os bod angen eu cyfieithu neu beidio. 3.3.2 Rhaid cyfieithu unrhyw un o gyhoeddiadau Undeb Bangor heblaw am y Llef a’r Seren. 4. Staf 4.1. Penodir pob aelod o staff Undeb Bangor yn unol â Chod Gweithredu Prifysgol Bangor. 4.2. Anogir pob aelod o staff yr Undeb (gan gynnwys Swyddogion Sabothol) i ddysgu Cymraeg gyda chefnogaeth lawn y tîm rheoli i wneud hynny yn ystod oriau gwaith, yn cydweithio gyda’r Brifysgol i ddysgu a datblygu sgiliau ieithyddol Gymraeg. 4.3. Bydd pob aelod o staff rheoli’r Undeb yn medru’r Gymraeg neu’n ymroi I ddysgu’r iaith.
5. Ymchwil 5.1. Os derbynnir cais gan y Brifysgol i gydweithio er mwyn gwneud ymchwil sy’n edrych ar ddatblygiad iaith a’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, bydd yr Undeb yn cefnogi’r Brifysgol.
6. Safonau Cyfieithu 6.1. Yn unol â’r is-ddeddf hon, mae Undeb Bangor yn cydnabod ac yn dilyn polisïau cyfieithu Canolfan Bedwyr. 6.2. Os bod amheuaeth o ran safon cyfieithiad mewnol, dylid danfon y testun i Canolfan Bedwyr. 6.3. Nid yw gwasanaethau cyfieithu ar lein (e.e. Google Translate) yn cyrraedd y safonau disgwyliedig ac ni ddylid eu defnyddio. 7. Ymdrin â Chwynion 7.1. Mewn achosion pan caiff yr is-ddeddf hon ei thorri a derbynnir cwyn, dylid dilyn gweithdrefn cwynion Undeb Bangor (is-ddeddf 9). 7.2. Trosglwyddir cwynion ynglŷn â’r iaith Gymraeg i Llywydd UMCB a’r rheolwr priodol. Os derbynnir cwyn ynglŷn â Llywydd UMCB, trosglwyddir y gwyn i’r Cyfarwyddwr.