Ymateb UMCB i'r Achosion Dros Newid 2020

Page 1

Ymateb Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor i’r Achosion Busnes dros Newid Prifysgol Bangor

Tachwedd 2020


2

Cynnwys

Cyflwyniad

4

Datganiad Agoriadol Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor

4

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

6

Achosion Busnes y Colegau

6

Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes

7

Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas

8

Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

9

Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaeth ac Ieithyddiaeth Uned Technolegau Iaith a Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin Coleg Gwyddorau’r Amgylchedd a Pheirianneg

13 13 13

Ysgol Gwyddorau Eigion

14

Ysgol Gwyddorau Naturiol

15

Coleg Gwyddorau Dynol

15

Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol

15

Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer

15

Ysgol Gwyddorau Meddygol

15

Ysgol Seicoleg

16

Gwasanaethau Proffesiynol

16

Canolfan Bedwyr

17

Gwasanaethau a Gweinyddiaeth Myfyrwyr

18

Gwasanaethau Digidol a Llyfrgell

18

Gwasanaethau Ystadau a Champws

19

Marchnata, Cyfathrebu a Recriwtio

20

Casgliad

21


3

Atodiad

Atodiad 1 - Cwestiynau UMCB i Goleg y Celfyddydau Dyniaethau a Busnes Atodiad 2 - Cwestiynau UMCB i'r Coleg Gwyddorau’r Amgylchedd a Pheirianneg Atodiad 3 - Cwestiynau UMCB i'r Coleg Gwyddorau Dynol Atodiad 4 - Llythyr gan fyfyriwr Atodiad 5 - Llythyr gan fyfyriwr Atodiad 6 - Llythyr gan fyfyriwr Atodiad 7 - Llythyr gan fyfyriwr Atodiad 8 - Llythyr gan fyfyriwr Atodiad 9 - Llythyr gan fyfyriwr Atodiad 10 - Llythyr gan fyfyriwr Atodiad 11 - Llythyr gan fyfyriwr Atodiad 12 - Llythyr gan gyn-fyfyriwr Atodiad 13 - Llythyr gan fyfyriwr Atodiad 14 - Llythyr gan fyfyriwr Atodiad 15 - Llythyr gan fyfyriwr Atodiad 16 - Llythyr gan fyfyriwr Atodiad 17 - Llythyr gan fyfyriwr Atodiad 18 - Llythyr gan fyfyrwyr yr Ysgol Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Atodiad 19 - Llythyr gan fyfyriwr Atodiad 20 - Llythyr gan fyfyrwyr yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas


4

Cyflwyniad Yn dilyn cyflwyno’r achosion busnes dros newid gan Brifysgol Bangor er mwyn datrys problemau ariannol y sefydliad, dyma adroddiad wedi’i lunio gan Bwyllgor Gwaith Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB). Mae UMCB ac Undeb Bangor wedi mynd ati i sicrhau bod llais y myfyrwyr yn cael eu mynegi yn ystod y cyfnod hwn trwy amryw o ddulliau, yn cynnwys grwpiau ffocws, er mwyn sicrhau fod yr holl fyfyrwyr yn ymwybodol o’r newidiadau sydd wedi’u cynnig. Roedd yn bwysig fod y myfyrwyr yn derbyn y wybodaeth yma, er mwyn iddynt allu leisio eu barn ar y cynigion a allai o bosib gael effaith sylweddol ar eu hastudiaethau a’r profiad myfyrwyr. Mae UMCB ac Undeb Bangor, wedi gweithio gyda'i gilydd i lunio adroddiad Undeb Bangor, ac adroddiad UMCB sy'n canolbwyntio'n llawn ar y Gymraeg. Mae Undeb Bangor ac UMCB yn rhannu'r pryderon a amlinellir yn y ddau adroddiad. Pwrpas ymarferiad UMCB oedd i wrando ar fyfyrwyr Cymraeg gan fesur yr effaith ragdybiedig a gaiff yr achosion busnes ar ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg y Brifysgol ac ar brofiad ein myfyrwyr. Datganiad Agoriadol Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor yn deall fod y Brifysgol yn wynebu sialensau ariannol sydd wedi codi yn sgil effaith lledaeniad Covid-19 yng Nghymru a’r angen i’r Brifysgol sicrhau arbedion ariannol, ond hefyd rydym yn awyddus i warchod yr elfennau o'r ddarpariaeth Gymraeg sy’n greiddiol i’r hyn mae Prifysgol Bangor yn ei gynnig i fyfyrwyr ac sy’n un o USP’s y Brifysgol. Anogwn y Brifysgol i gyflawni ei blaenoriaeth strategol sy’n ymwneud â’r Gymraeg hyd eithaf ei gallu. Mae’n anorfod bod toriadau’n mynd i ddigwydd yn y misoedd nesaf ond gofynnwn i’r Brifysgol beidio â defnyddio’r sefyllfa fel arf i ymosod ar y ddarpariaeth Gymraeg. Mae’r Gymraeg yn rhan ganolog o weledigaeth a strategaeth y Brifysgol ac yn iaith weithredol ar draws y Brifysgol, yng ngoleuni hyn mae UMCB o’r farn y dylai hyn gael ei adlewyrchu ar lefel Uwch Dîm Rheoli’r Brifysgol, gan gynnwys aelodau’r Pwyllgor Gweithredu, Deoniaid y Colegau a Cyfarwyddwr Gwasanaethau Proffesiynol. Rydym yn bryderus bod prinder staff cyfrwng Cymraeg yn y swyddi hollbwysig yma, er enghraifft o dan y cynllun gwreiddiol ar gyfer Gwasanaethau Proffesiynol, mae 6 allan o’r 7 cyfarwyddiaeth yn cael eu harwain gan unigolion di-Gymraeg, rydym yn cwestiynu faint o ystyriaeth gafodd ei roi i’r iaith Gymraeg wrth benderfynu ar y strwythurau yma. Prifysgol yw hon sy’n cyfrannu gymaint i’r Gymru gyfoes, boed hynny’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Dymunwn weld y Gymraeg yn derbyn y parch a’r buddsoddiad mae’n ei haeddu yn ei gwlad ei hun. Nid baich na gorfodaeth dylai’r Gymraeg fod ar ein Prifysgol, ond yn hytrach dymuniad a dyletswydd. Mae’r berthynas rhwng gymuned Cymraeg y brifysgol â’r ddinas yn un i’w amddiffyn, dim ei fygwth.


5

Mae’r Gymraeg yn ganolog i hunaniaeth y Brifysgol, ac mae’r Polisi Iaith yn atgyfnerthu hyn hefyd: • • •

Y bydd ein myfyrwyr yn cael cyfleoedd i astudio eu meysydd pwnc drwy’r Gymraeg ac yn derbyn cefnogaeth i wneud hynny. Y bydd ein polisïau a systemau recriwtio staff yn sicrhau bod capasiti dwyieithog y Brifysgol yn cael ei gynnal ar draws ystod a graddfeydd swyddi. Y bydd ein polisïau, ein cynlluniau a’n prosiectau yn ystyried yn llawn sut i roi lle canolog a naturiol i’r Gymraeg heb danseilio statws na defnydd o’r Gymraeg.

O ganlyniad i hyn, mae dyletswydd ar y Brifysgol i beidio mynd yn groes i’w haddewidion a’i pholisïau gan sicrhau bod myfyrwyr Cymraeg yn cael y profiad gorau posib. Mewn ymgynghoriad gyda myfyrwyr, daeth UMCB i’r casgliad bod manteision ‘busnes’ ac ariannol yn perthyn i gadw staff dwyieithog, •

• •

• •

Mae siaradwyr Cymraeg yn gallu gweithio’n hyblyg gyda myfyrwyr Cymraeg a Saesneg, a maent yn gallu darparu gwasanaeth a chefnogaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Nid dysgu yn unig a wnâi staff y Brifysgol ond hefyd cynnig gofal bugeiliol, ymweld ag ysgolion, mynychu dyddiau agored, cydlynu cyfryngau cymdeithasol gwahanol. Rhaid felly ystyried y golled o fwy na dysgu’n unig, gallai colli darlithwyr Cymraeg eu hiaith gael effaith negyddol ar hyn. Mae staff dwyieithog yn rhannu ewyllys da y Brifysgol ar y cyfyngau Cymraeg (y cyfrwng allanol sydd, heb os, yn rhoi’r mwyaf o sylw i’r Brifysgol) Gall yr effaith a gaiff y newidiadau hyn gael ar recriwtio myfyrwyr fod yn niweidiol. Mae’r Gymraeg yn USP i’r Brifysgol. Mae angen datblygu strategaeth o ran recriwtio myfyrwyr Cymraeg a myfyrwyr o Gymru, rydym yn credu’n gryf bod cyfle yma i recriwtio mwy o fyfyrwyr Cymraeg er mwyn datblygu man sy’n tyfu yn y Brifysgol, mae’n hanfodol fod y Brifysgol yn cadw’u staff dwyieithog i ymestyn y llwyddiant ymhellach. Mae cael awyrgylch Gymraeg (hyd yn oed os nad ydynt yn astudio trwy’r Gymraeg) yn ychwanegu gymaint at brofiad myfyrwyr. Mae llawer o’n staff Cymraeg yn arweinwyr yn eu maes yng Nghymru ac felly’n cynnig darlun atyniadol iawn i ddarpar-fyfyrwyr.

Mae’n hanfodol bwysig fod y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a’r profiad yn gyfartal ym mhob ffordd i’r myfyrwyr di-gymraeg. Mae’n rhaid hefyd ystyried llwyddiant y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r Brifysgol wedi datblygu a chryfhau ei safle fel y Brifysgol arweiniol o ran y Gymraeg ac addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Mae’r cryfder hwn hefyd yn faes o ragoriaeth i’r Brifysgol, fel y pwysleisiwyd gan ganmoliaeth y QAA yn ei adolygiad ansawdd diweddar i’r “dwyieithrwydd sydd wedi ymwreiddio'n ddwfn ym mhob


6

agwedd o fywyd y Brifysgol ac sy'n effeithio'n bositif ar brofiad ei myfyrwyr”. Roedd dwyieithrwydd a chryfder y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg hefyd yn greiddiol i’r wobr aur a ddyfarnwyd i Fangor yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu. Dyma osod dymuniad craidd myfyrwyr UMCB 1. Mae’n hanfodol bod y ddarpariaeth (academaidd a bugeiliol) yn gytras o ran ansawdd i’r ddarpariaeth ar gyfer myfyrwyr di-Gymraeg. 2. Dylid gwneud pob ymdrech posib i warchod y ddarpariaeth arbennig sydd ar gael. 3. Dylid cadw at bolisi iaith y Brifysgol heb lastwreiddio unrhyw fodiwlau Cymraeg. 4. Dylid gwneud pob ymdrech posib i warchod credydau presennol sy’n gymwys i ysgoloriaethau neu fwrsariaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 5. Dylid ystyried y Coleg Cymraeg fel prif ran-ddeiliad ac ni dylid gwneud unrhyw benderfyniadau sy’n peryglu buddsoddiad y Coleg a’r grantiau pynciol sydd dan sylw. 6. Dylid gosod y farchnad leol yn flaenoriaeth i’r strategaeth farchnata. Bydd UMCB yn parhau i gyfathrebu gyda’r myfyrwyr tu hwnt i’r cyfnod ymgynghori ac yn parhau i adrodd yn ôl i’r Brifysgol. Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r rhai hynny o blith swyddogion y sefydliad sydd wedi bod yn barod i drafod y materion hyn o ddifri. Nid mater bach yw’r Gymraeg i Brifysgol Bangor a gofynnwn i’r Brifysgol ystyried y datganiad hwn a sylwadau’r adroddiad o ddifri. Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Mae’n bwysig ein bod ni’n tynnu sylw at fewnbwn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae UMCB yn gwerthfawrogi cyfraniad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i’r Brifysgol yn fawr iawn, a’r teimlad yw y dylid gwneud bob ymdrech i sicrhau’r berthynas gref sydd rhwng y brifysgol a’r Coleg. Mae’n deg nodi fod buddsoddiad sylweddol sy’n gyfateb a tua £1 miliwn wedi bod yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg gan y CCC dros y blynyddoedd. Mae’r CCC wedi cefnogi myfyrwyr isradd ac ôl-radd mewn ystod eang o bynciau ac wedi caniatáu cyflogi 30 aelod o staff trwy’r cynllun staffio gwreiddiol a 7 aelod o staff cyfredol. Mae’r staff academaidd dwyieithog yma yn cyfrannu ac yn darparu addysg Gymraeg o’r radd flaenaf. Mae UMCB yn credu’n gryf y dylid gwneud popeth posib i sicrhau bod y Brifysgol yn diogelu’r grantiau pynciol sydd wedi’u clustnodi gan y CCC ar gyfer Bangor yn 2020/21. Mae UMCB yn awyddus i weld cydweithrediad effeithiol gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn sicrhau perthynas dda i’r dyfodol, a hynny gan fod Prifysgol Bangor yn brif ddarparwr addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru ac yn gyfrifol am 46% o’r niferoedd cenedlaethol sy’n astudio 80 credyd neu fwy trwy gyfrwng y Gymraeg. Ar ôl cyhoeddiad Ystadegau HESA ar gyfer y flwyddyn 2019/20 gwelwyd cynnydd yn nifer y myfyrwyr a ddewisodd astudio 40 credyd o’u gradd o 880 i 919, â’r nifer a ddewisodd i astudio o leiaf 5 credyd yn codi o 1313 i 1319.


7

Achosion Busnes y Colegau Mae’n siomedig fod dau o’r tri achos busnes yn adnabod effaith drymach ar siaradwyr Cymraeg mewn cymhariaeth â chanran siaradwyr Cymraeg y colegau yn gyffredinol. Yng ngholeg Gwyddorau Dynol gwelwn 30% o staff yn siaradwyr Cymraeg ond fod 48% ar risg o golli swyddi. Yn yr un modd fod Coleg Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg fod 15% o staff yn siaradwyr Cymraeg rhugl ond fod 25% ar risg o golli swyddi. Yn ein grwpiau ffocws gyda myfyrwyr Cymraeg roeddent yn nodi bod enghreifftiau o ddysgu cyfrwng Cymraeg yn digwydd ar draws ysgolion, felly mae’n bwysig nodi nad yw darpariaeth bynciol yn bodoli mewn seilo unigol o fewn ysgolion penodol a bod rhannu arbenigedd academaidd rhwng ysgolion yn digwydd. O ganlyniad mae effaith colli un aelod o staff sy’n darparu addysg yn y Gymraeg yn mynd llawer iawn ymhellach na’r un ysgol honno. Mae’n bwysig cydnabod mai nid dysgu yn unig mae staff y Brifysgol yn ei wneud, a bod staff sy’n siaradwyr Cymraeg yn gallu darparu gwasanaeth a chefnogaeth fugeiliol i fyfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n hawl cyfreithiol i fyfyrwyr Cymraeg gael tiwtor personol sydd yn medru’r Gymraeg, fel sydd wedi ei amlinellu’n glir fel rhan o ymgyrch ‘Mae Gen i Hawl’ Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. Rhaid felly ystyried y byddai colli unrhyw staff cyfrwng Cymraeg yn cael effaith ar fwy na dim ond y dysgu’n unig. Gallai colli darlithwyr Cymraeg eu hiaith gael effaith negyddol ar y profiad myfyriwr i fyfyrwyr Cymraeg. Yn ein grwpiau ffocws gyda myfyrwyr, roeddent yn pryderu’n fawr am effaith y newidiadau arfaethedig ar y ddarpariaeth bugeiliol cyfrwng Cymraeg. Credai UMCB bod diffyg ystyriaeth lawn ar effaith y Gymraeg yn yr achosion busnes a dyna pan anfonodd Llywydd UMCB cyfres o gwestiynau i bob coleg yn ymwneud â’r effaith ar y Gymraeg, sydd i’w gweld yn yr atodiadau. Ein pryder yw bod effaith ymddiswyddo staff unigol yn bellgyrhaeddol dros ben o fewn cyswllt darpariaeth addysg a phrofiadau academaidd ein myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a’r gymuned academaidd Gymraeg yn ehangach. • •

Dylid cymryd ystyriaeth lawn o’r effaith ar ddarpariaeth academaidd yn y Gymraeg wrth benderfynu ble mae toriadau yn disgyn. Dylid asesu effaith yn erbyn nodau ac amcanion strategol a’r Polisi Iaith Gymraeg y sefydliad wrth benderfynu ble mae toriadau yn disgyn.

Mae’r gwanhau a’r diddymu posibl i'r dysgu cyfrwng Cymraeg mewn rhai pynciau fel Gwyddorau Eigion, Hanes Cymru a Chymdeithaseg yn destun pryder ac mae gan y newidiadau y potensial i effeithio ar ddarpariaeth Gymraeg y Brifysgol a recriwtio myfyrwyr Cymraeg. Credwn y dylid gwarchod y meysydd hyn. Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes Yn draddodiadol, mae Prifysgol Bangor wedi arwain yng Nghymru o ran darpariaeth y Gymraeg yn y meysydd celfyddydol a’r Dyniaethau. Hoffa UMCB bwysleisio pwysigrwydd cadw hyn yn rhan ganolog o’r astudiaethau. Yn ychwanegol ar hynny, ein


8

dymuniad yw gweld y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech posib i sicrhau fod y cyddestun Cymreig yn cael eu hanwytho fel rhan naturiol o’r cwricwlwm. Yn Ysgol y Gyfraith, Ysgol Busnes ac yr Ysgol Gerddoriaeth a’r Cyfryngau, nid oes gofidiau mawr ymysg myfyrwyr ynghylch effaith y newidiadau arfaethedig ar y ddarpariaeth Gymraeg. Dywedodd myfyrwyr ymhob ysgol y dylid gwneud bob ymdrech i sicrhau parhad yn yr ychydig fodiwlau Cymraeg sydd ar gael. Nododd y myfyrwyr sy’n astudio Cerddoriaeth bod yn rhaid amddiffyn elfennau Cymraeg darpariaeth cerddoriaeth oherwydd mai Bangor yw'r unig le yn y byd lle gallwch astudio rhai o'r pynciau hynny - er enghraifft, opera Gymraeg, fe wnaeth nifer o’r myfyrwyr yma benderfynu dod i Fangor oherwydd mae dyma’r unig brifysgol yng Nghymru sy’n cynnig cerddoriaeth drwy’r Gymraeg, ac ei fod yn hollbwysig gwarchod y ddarpariaeth yma. Rydym yn cymryd yn ganiataol na fydd effaith ar y ddarpariaeth gan nad yw hynny wedi’u nodi’n yr achosion busnes. Mae 63 o fyfyrwyr y Coleg yn derbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac er mwyn bod yn gymwys i dderbyn yr ysgoloriaeth mae’n rhaid iddynt astudio o leiaf 40 credyd trwy’r Gymraeg ymhob blwyddyn academaidd. Mae darparu credydau digonol ar gyfer trothwyon ysgoloriaethau’r CCC mewn ystod eang o bynciau yn ddibynnol ar arbenigedd academaidd a gallu ieithyddol niferoedd bach iawn o unigolion sy’n cynyddu’r risg a’r effaith â lefel y darpariaeth. Rydym yn falch bod y Coleg wedi ymrwymo i sicrhau bod ein myfyrwyr am barhau i fod yn gymwys i gael ysgoloriaethau'r CCC ac ei bod nhw’n hyderus na fydd y newidiadau arfaethedig yn peryglu cymhwysedd ar gyfer yr ysgoloriaeth hon

Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas Mewn perthynas â Hanes, roedd myfyrwyr yn poeni ei fod yn ymddangos bod y Brifysgol yn symud tuag at gynnig gradd hanes generig. Mae myfyrwyr yn credu nad oes gan radd hanes generig yr un marchnadwyedd nac apêl i fyfyrwyr. Roedd teimlad cryf ymysg y myfyrwyr bod yr Ysgol Hanes wedi colli ei hunaniaeth yn yr ailstrwythuro diwethaf drwy uno gyda ysgol fwy ac maent yn credu y bydd hi'n anodd meithrin teimlad o gymuned yn yr ysgol gydag ysgolion mwy ac uno yn digwydd unwaith eto. Fe wnaeth y myfyrwyr nodi mai ychydig iawn o leoedd sydd yng Nghymru lle gallwch astudio hanes canoloesol a'i fod yn teimlo fel petai'r hyn sydd ar ôl o Hanes Cymru yn cael ei ddatgymalu. Mae Bangor yn ganolfan flaenllaw ar gyfer astudio Hanes Cymru ac mae’n faes o bwysigrwydd hanesyddol i’r Brifysgol. Roedd pryder mawr ymysg y myfyrwyr y byddai’r newidiadau i’r cwrs Hanes Cymru sy’n cynnig colli aelod o staff Hanes Cymru a’r Oesoedd Canol yn cael effaith andwyol ar y ddarpariaeth Gymraeg. Nododd y myfyrwyr eu pryderon y gall y newidiadau gael effaith ar y grant Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac os fydd y newidiadau yn arwain at lai o ddarpariaeth a modiwlau cyfrwng Cymraeg y gallai hyn gael effaith ar y ddarpariaeth sy’n sicrhau bod rhai myfyrwyr yn gallu derbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.


9

Cwestiynodd y myfyrwyr a fyddai’r newidiadau yn arwain at roi mwy o bwysau ar y staff cyfrwng Cymraeg fydd ar ôl, i ddysgu mwy drwy’r Saesneg, gallai hyn o bosib arwain at lai o flaenoriaeth yn cael ei roi i’r dysgu cyfrwng Cymraeg. Yn yr ymateb gan y Coleg i gwestiynau UMCB ar yr effaith posib ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Coleg, maent yn nodi bod risg posib i staff cyfrwng Cymraeg sy’n dysgu Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol. Roedd hyn yn peri pryder mawr i’r myfyrwyr gan bod y ddarpariaeth Gymraeg sy’n cael ei gynnig o ran Cymdeithaseg gyda Pholisi Cymdeithasol yn rhagorol, a eu bod nhw’n gallu astudio ei holl gwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, roeddent yn poeni y byddai’r newidiadau yn cael effaith ar y ddarpariaeth yma. Cododd ambell fyfyriwr gwestiwn ynglŷn â’r effaith o 1 CALl Cymdeithaseg a Polisi Cymdeithasol yn symud i Adran y Iaith Gymraeg, Diwylliant, a’r Gymdeithas. Nid oedd y myfyrwyr yn glir â fyddai modd i fyfyrwyr yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas ddal i astudio rhai o fodiwlau’r darlithydd yma, ac roedd pryder am golli arbenigedd. Mae datblygiad wedi bod yn ystod y pum mlynedd diwethaf o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg ym maes Gwyddor Cymdeithas a Pholisi Cymdeithasol. Ar hyn o bryd gellir astudio 120 o gredydau y flwyddyn yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ac fel rhan o Gynllun Pwnc Gwyddor Cymdeithas a Pholisi Cymdeithasol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae targed erbyn 2021-22 i gynnig ystod o ddarpariaeth Gymraeg gan gynnwys o leiaf 120 credyd ym mhob blwyddyn. Rydym yn gobeithio’n fawr na fydd y newidiadau arfaethedig yn cael effaith ar y targedau yma nac yn peryglu unrhyw fuddsoddiad gan y CCC. Roeddem yn falch o ddeall gan Dirprwy Is-ganghellor a Phennaeth y Coleg, a Deon Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes yn ystod y cyfnod ymgynghori, bod y Brifysgol am amddiffyn darpariaeth sy'n dod o dan fuddsoddiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a ei bod nhw wedi ymrwymo i sicrhau bod myfyrwyr yn gymwys i gael ysgoloriaethau'r CCC, ac eu bod nhw’n hyderus na fydd y newidiadau arfaethedig yn peryglu cymhwysedd ar gyfer yr ysgoloriaeth hon.

Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Roedd hi’n amlwg fod y myfyrwyr yn gofidio’n arw ynghylch y newid arfaethedig ar gyfer Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, ac wir yn poeni am ddyfodol yr ysgol. Mae’r rhan hon o’r adroddiad yn seiliedig ar y sylwadau yn y grŵp ffocws a gynhaliwyd gyda myfyrwyr yr Ysgol, ac yn yr atodiadau mae nifer o lythyrau gan fyfyrwyr yr ysgol lle mae myfyrwyr yn ymhelaethu ar y themâu hyn ac yn trafod pethau amgenach. Mae UMCB yn cefnogi llais bob un myfyriwr ar draws y Brifysgol ac yn hyderu y bydd y Brifysgol yn rhoi bob chwarae teg i’r sylwadau hyn. Mae’n deg nodi bod ysbryd y myfyrwyr yn y grŵp ffocws yn isel a hynny gan bod yr Ysgol wedi bod trwy gyfnod tymhestlog, gyda hwn fel y trydydd ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig ac ailstrwythuro i’r Ysgol dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys ail-sefydlu Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Roedd y myfyrwyr yn


10

teimlo bod hwn yn fygythiad arall eto i ddyfodol yr ysgol, ac yn poeni y byddai mwy o newidiadau yn golygu y byddai profiad y myfyrwyr yn dioddef, ac na fyddai'n helpu i ddenu darpar fyfyrwyr. Uno'r Ysgol Astudiaethau Cymraeg a Cheltaidd fel rhan o'r ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau a Diwylliannau Cododd myfyrwyr sawl pryder ynghylch y cynnig i uno'r Ysgol Astudiaethau Cymraeg a Cheltaidd fel rhan o'r ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau a Diwylliannau newydd, fel yr Adran Iaith, Diwylliant a Chymdeithas Gymraeg. Roedd myfyrwyr yn poeni am golli hunaniaeth ac annibyniaeth yr ysgol, ac mai annibyniaeth a brand Ysgol y Gymraeg sydd wedi denu myfyrwyr i astudio Cymraeg ym Mangor, fel un o’r adrannau gorau yng Nghymru ac fel conglfaen i ddiwylliant a llenyddiaeth Cymru. Roedd y myfyrwyr hefyd yn teimlo’n gryf y dylid cadw ‘Ysgol y Gymraeg’ fel enw i’r ysgol sy’n frand adnabyddus ar draws Cymru a thu hwnt. Mae cymuned yr ysgol yn eithriadol o bwysig, a chodwyd pryderon y bydd y newidiadau i'r ysgol, a’r cynnig o uno'r Ysgol gyda ysgol fwy yn arwain at golli'r hunaniaeth hon ac yn effeithio ar hunaniaeth a chymuned yr ysgol. Nododd myfyrwyr pwysigrwydd cadw y teimlad o deulu a chymuned sydd o fewn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Cheltaidd, sydd â rhwydweithiau rhagorol rhwng myfyrwyr a staff. Yr Effaith ar y Ddarpariaeth drwy golli staff Mynegwyd pryder ynghylch colli 2 CALl ym maes Cymraeg a Llenyddiaeth Fodern a Chyfoes a maes Cymraeg a Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol sy'n cyfateb i 40% o'r lefelau staffio cyfredol. Roedd myfyrwyr yn pryderu y byddai colli staff yn arwain at golli gwybodaeth arbenigol ac felly'r cynnig academaidd, a allai arwain at ddiffyg dewisiadau modiwlau. Gofynnwyd y cwestiwn os collir aelodau staff, beth fydd yn digwydd i'r modiwlau a addysgir ganddynt. Roedd myfyrwyr yn gweld y colledion staff arfaethedig hyn fel toriad i'r ddarpariaeth draddodiadol gan arwain at lai o bwyslais ar iaith a llenyddiaeth Gymraeg, sef yr hyn a'u denodd i astudio ym Mhrifysgol Bangor yn y lle cyntaf. Roedd rhywfaint o ddryswch ynghylch sut y byddai'r newidiadau hyn yn ehangu'r ddarpariaeth ar draws Llenyddiaeth fel a amlinellir yn yr achos busnes dros newid. Nododd y myfyrwyr bod y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn faes eang gyda’r Ysgol yn cynnig arbenigedd mewn llu o wahanol feysydd - barddoniaeth o’r chweched ganrif tan heddiw, byd y ddrama, ysgrifennu creadigol, athroniaeth, y Mabinogion, Gwyddeleg, y nofel draddodiadol a chyfoes, hanes yr iaith, Cymraeg Proffesiynol, llenyddiaeth Gymraeg America a llawer mwy. Roedd consensws cyffredinol o blith myfyrwyr a fuodd ymhob diwrnod agored ar gyfer y cwrs ar draws Cymru mai prif atyniad Ysgol y Gymraeg ym Mangor oedd yr amrywiaeth o fodiwlau oedd ar gael. Dywedodd y myfyrwyr bod pob darlithydd yn arbenigo mewn meysydd gwahanol a byddai colli dau ohonynt yn effeithio ar faes penodol, ac yn sgil hynny yn effeithio ar y cwrs gradd. Roedd y myfyrwyr yn ymhyfrydu’n y ffaith eu bod nhw’n cael astudio amrywiaeth o fodiwlau ond yn gallu arbenigo wrth gyrraedd yr ail a’r drydedd flwyddyn. Pwysleisiwyd y


11

pwynt hwn o safbwynt myfyrwyr ôl-radd hefyd gan fod yr arbenigedd hynny yn allweddol i sicrhau’r profiad rhagorol i fyfyrwyr. Mynegodd y myfyrwyr eu pryder y gallai cwtogi ar drawstoriad arbenigedd y staff effeithio ar ymchwil myfyrwyr ôl-raddedig. Datblygiad Astudiaethau Celtaidd Mae penderfyniad y Brifysgol i ychwanegu Astudiaethau Celtaidd wedi bod yn fuddiol iawn i'r ysgol ac wedi cryfhau'r adran, nid oedd y myfyrwyr yn gweld synnwyr mewn ehangu maes addysgu tra’n crybwyll gwneud toriadau i’r lefel staffio fydd yn cael effaith ar y ddarpariaeth astudiaethau Celtaidd, fydd yn tanseilio’r holl gynnydd sydd wedi ei wneud. Credai’r myfyrwyr y gallai hyn gael effaith negyddol ar recriwtio myfyrwyr. Mae Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn arbennig o bwysig i Brifysgol Bangor ac yn draddodiadol mae’r Ysgol wedi bod gyda'r gorau yn y byd. Fel a nodir yn yr achos busnes mae’n arwyddocaol yn y Sunday Times Good University Guide 2021 mai’r unig Brifysgol yng Nghymru a sgoriodd uchaf yn ôl pwnc oedd Prifysgol Bangor a hynny am Astudiaethau Celtaidd. Symud staff Polisi a Chynllunio Iaith, Ieithyddiaeth Gymraeg, Seineg a Dwyieithrwydd, a Newyddiaduraeth i'r adran newydd Mewn ymateb i'r cynnig i symud staff Polisi a Chynllunio Iaith, Ieithyddiaeth Gymraeg, Seineg a Dwyieithrwydd, a Newyddiaduraeth i'r adran newydd, nid oedd myfyrwyr yn deall rhesymeg y cynnig o golli staff fel mesur arbed costau gan hefyd drosglwyddo staff o ysgolion eraill i'r adran newydd. Nid oedd myfyrwyr yn glir ble roedd y dystiolaeth i ddangos bod y meysydd astudio hyn yn apelio at fyfyrwyr ac y byddent yn cynyddu niferoedd recriwtio. Mae polisi a chynllunio iaith yn faes astudio sydd eisoes yn cael ei gynnig gan yr ysgol, ac mae ‘Cymraeg Proffesiynol’ yn cael ei gynnig fel cwrs israddedig. Lle mae myfyrwyr yn dymuno astudio rhai o'r meysydd pwnc hyn mae'r opsiwn yn bodoli iddynt wneud hynny trwy gyrsiau cyd-anrhydedd. Nid oedd y myfyrwyr yn teimlo y byddai'r newidiadau hyn yn helpu i recriwtio mwy o fyfyrwyr, ac roedd ganddynt bryderon ynghylch yr ysgol yn newid i fod yn Ysgol ‘Cyfrwng Cymraeg’ yn hytrach nag Ysgol y Gymraeg, gyda llai o bwyslais ar iaith a llenyddiaeth a mwy o bwyslais ar strategaeth a chynllunio iaith, a nid dyna'r hyn a'u denodd nhw i astudio ym Mangor. Roedd teimlad cryf ymysg y myfyrwyr y dylid canolbwyntio ar yr arbenigedd sydd yn yr ysgol yn barod a ehangu ar hynny, llenyddiaeth Gymraeg a sgwennu creadigol ydy’r arbenigedd gwirioneddol ardderchog mae’r adran yn ei ddarparu, dydy’r myfyrwyr ddim yn meddwl bydd ehangu’r cynnig i gynnwys cynllunio iaith, a dwyieithrwydd ac ati yn helpu i gystadlu ag ysgolion Cymraeg eraill yng Nghymru. Recriwtio Myfyrwyr Mae Brifysgol yn nodi yn yr achosion busnes bod Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn faes hollbwysig i’r Brifysgol, o ystyried ei sylfaen yn y Brifysgol fwy na chan mlynedd yn ôl, a’i gyfraniad at addysg, llenyddiaeth a diwylliant Cymraeg; dyna pam ei fod wedi cael ei ddiogelu rhag ymarferiadau arbed costau blaenorol. Cydnabyddir ei bod yn anodd


12

defnyddio gwybodaeth am farchnad y DU yn y maes pwysig hwn oherwydd y farchnad gyfyngedig. Roedd myfyrwyr yn teimlo’n gryf y dylid parhau i ddiogelu’r Ysgol a ei bod yn annheg beirniadu’r ysgol o ran niferoedd recriwtio a’i chymharu gyda ysgolion eraill o fewn y Brifysgol, oherwydd y farchnad gyfyngedig mae’n cystadlu ynddi. Nododd y myfyrwyr bryder mawr y byddai colli staff yn arwain at golli arbenigedd, a fydd yn ei dro yn arwain at golli diddordeb myfyrwyr, a gostyngiad pellach yn nifer y myfyrwyr. Credai’r myfyrwyr y bydd darpar fyfyrwyr yn gweld gostyngiad mewn staff fel gostyngiad yn narpariaeth yr ysgol, a bod hyn yn digwydd ar adeg pan mae Ysgolion Cymraeg eraill yng Nghymru yn buddsoddi yn y ddarpariaeth, h.y. dros y flwyddyn ddiwethaf mae Prifysgol Caerdydd wedi penodi dau ddarlithydd Cymraeg newydd ac mae Ysgol y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth wedi penodi athro proffil uchel, gallai'r newidiadau ym Mangor effeithio ar niferoedd recriwtio gan wthio darpar fyfyrwyr i fynd i Ysgolion Cymraeg mewn prifysgolion eraill. Teimlai’r myfyrwyr y byddai’r newidiadau arfaethedig yn arwain at ostyngiad yn nifer y myfyrwyr Cymraeg, a fyddai yn ei dro yn cael effaith ar gymuned y myfyrwyr Cymraeg sy'n bodoli ym Mangor, sy’n cyfrannu gymaint at UMCB a'i chymdeithasau perthnasol, fel Aelwyd JMJ. Roedd y myfyrwyr yn credu’n gryf y dylid canolbwyntio ar yr arbenigedd sydd yn yr ysgol yn barod, doedden nhw ddim yn meddwl y byddai ehangu’r cynnig i gynnwys cynllunio iaith, a dwyieithrwydd ac ati yn helpu i gystadlu ag ysgolion Cymraeg eraill yng Nghymru. Yr Effaith Gymdeithasol Mae gan Ysgol y Gymraeg arwyddocâd hanesyddol ers ei sefydlu ym 1889, ac mae wedi gwneud cyfraniad aruthrol i ysgolheictod, llenyddiaeth a diwylliant Cymru, gan wneud cyfraniad pwysig i'n hunaniaeth fel cenedl. Un o’r pwyntiau a godwyd gydag angerdd gan fyfyrwyr oedd yr effaith y bydda’r newidiadau arfaethedig yn eu cael ar y Gymdeithas a’r Gymuned. Mae darlithwyr yr Ysgol yn cyfrannu at y byd llenyddol ehangach yng Nghymru ac mae'r ysgol yn cyfrannu cymaint at lwyddiant parhaus hyrwyddo iaith, diwylliant a hanes y Gymraeg yn y cymunedau cyfagos ac ar draws Cymru, gyda gwerth blynyddoedd o ymchwil academaidd, beirniadaethau eisteddfodol, darlithoedd cyhoeddus, ymddangosiadau ar y cyfryngau a gweithiau creadigol a llawer mwy. Clodforodd y myfyrwyr staff yr Ysgol am eu hymroddiad i’r gymuned, cred y myfyrwyr bod yr effaith mae hyn yn ei gael ar Brifysgol Bangor yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo a bod eu cyflawniadau wedi dod â bri ac enw da i’r ysgol a’r Brifysgol. Nododd y myfyrwyr hefyd bod y gwaith y maent yn ei gyflawni o ddiddordeb mawr i’r cyhoedd, a bod mwy o bobl o’r tu allan i academia yn dod i gysylltiad â gweithgarwch yr ysgol hon nag o bosib yr un ysgol arall ym Mhrifysgol Bangor. Roedd hi’n amlwg o blith y myfyrwyr bod cenhadu yn y modd hwn yn bwysig i’r Ysgol a’r Brifysgol, gan gwestiynu a fyddai modd cenhadu Prifysgol Bangor i’r un graddau pe byddant yn symud ymlaen gyda’r newidiadau arfaethedig. Yn ei dro, teimlodd y myfyrwyr y byddai’r newidiadau hyn yn cael effaith ar enw da a bri yr Ysgol yn y gymuned gan y cysylltir yr holl staff fel arbenigwyr yn eu meysydd priodol.


13

Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaeth ac Ieithyddiaeth Prifysgol Bangor yw’r brifysgol arweiniol yng Nghymru o ran dysgu cyfrwng Cymraeg a mae’n bwysig bod yr Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaeth ac Ieithyddiaeth yn ceisio darparu cymaint o gyfleon â phosib i fyfyrwyr astudio ieithoedd tramor trwy’r Gymraeg. Mae’r achosion busnes yn nodi bod gostyngiad o 1 CALl mewn Sbaeneg, a 1 CALl mewn Ffrangeg, ond nid yw’n amlwg yn yr achosion busnes os ydy staff cyfrwng Cymraeg sy’n gallu dysgu ieithoedd tramor trwy’r Gymraeg mewn perygl o gael eu heffeithio. Roedd pryder ymysg y myfyrwyr ynglŷn a’r risg i’r ddarpariaeth Ffrangeg drwy gyfrwng y Gymraeg gan mae dim ond un aelod o staff sy’n dysgu’r pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd. Roedd y myfyrwyr yn gobeithio y bydd dal modd astudio o leiaf 40 credyd trwy’r Gymraeg, a na fyddai perygl i’r grant pynciol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Wedi i ni dderbyn ymateb y Coleg i gwestiynau UMCB ar yr effaith posibl ar y ddarpariaeth Gymraeg o fewn y Coleg, roeddem yn falch i weld nad oes perygl i unrhyw staff cyfrwng Cymraeg o fewn y ddarpariaeth ieithoedd tramor. Uned Technolegau Iaith a Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin Roedd myfyrwyr o’r farn y byddai trosglwyddo y swyddogaeth Technolegau Iaith o Ganolfan Bedwyr i’r Ysgol Ieithoedd, Dwyieithrwydd, Llenyddiaethau a Diwylliannau Ganolfa yn gwanhau Canolfan Bedwyr, gan effeithio ar y brand sydd wedi ei sefydlu. Nid ydym yn gweld synnwyr mewn newid rhywbeth sy’n gweithio mor dda yn barod. Mae’r ganolfan Cymraeg i Oedolion yn y Brifysgol yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd dysgu ar draws Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac mae nhw’n gwneud gwaith rhagorol sy’n cyfrannu at y Strategaeth Miliwn o siaradwyr Cymraeg Llywodraeth Cymru. Nid oedd myfyrwyr yn deall y rhesymeg o symud Cymraeg i Oedolion i adran Academaidd, a mae UMCB o’r farn efallai y byddai’n eistedd yn well fel swyddogaeth o fewn Canolfan Bedwyr, fel canolfan sy’n arbenigo ar y Gymraeg. Roedd myfyrwyr yn bryderus y byddai’r swyddogaethau yma yn mynd ar goll o fewn ysgol Academaidd. Coleg Gwyddorau’r Amgylchedd a Pheirianneg Dylai’r Brifysgol ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn cynnig addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn Gwyddorau’r Amgylchedd a Pheirianneg, dyma feysydd lle mae cynnydd wedi bod yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, ond dylem fod yn anelu i gynnig hyd yn oed mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg. Mae 20 o fyfyrwyr yn y coleg yn derbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy’n golygu bod modd iddynt astudio o leiaf 40 credyd trwy’r Gymraeg ymhob blwyddyn academaidd, a rydym yn gobeithio’n fawr na fydd y ddarpariaeth yma yn cael ei beryglu. Fe noddodd rai o fyfyrwyr y Coleg bod enghreifftiau o ddysgu cyfrwng Cymraeg yn digwydd ar draws yr ysgolion, felly mae’n bwysig nodi nad yw darpariaeth bynciol yn bodoli mewn seilo unigol o fewn


14

ysgolion penodol a bod rhannu arbenigedd academaidd rhwng ysgolion yn digwydd. O ran y newidiadau arfaethedig yn achos busnes y Coleg yma, prif bryder myfyrwyr oedd y risg i’r ddarpariaeth gyfrwng Gymraeg yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion.

Ysgol Gwyddorau Eigion Wrth ymateb i’r Achosion Busnes ar gyfer newidiadau posib i’r Ysgol Gwyddorau Eigion, lle cynigwyd colli 3 CALL (allan o 6) o’r adran Geoffiseg, mae’n rhaid inni leisio ein pryderon mae yn yr adran yma y mae’r unig ddarlithydd cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol gyfan. Byddai colli’r aelod yma o staff felly’n golygu na fyddai unrhyw aelod o staff yn yr ysgol sydd yn medru’r Gymraeg ac yn gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddai colli’r aelod yma o staff yn cael effaith ar y ddarpariaeth Gwyddorau Eigion cyfrwng Cymraeg, sgiliau gwyddonol a chyfathrebu, gan gynnwys sesiynau tiwtorial. Mae hyn yn achosi llawer o bryder i ni wrth ystyried gallu’r ysgol i gynnig darpariaeth Cymraeg ddigonol i’w myfyrwyr. Eleni mae yna 2 fyfyriwr yn yr ysgol (yn y flwyddyn gyntaf) sydd yn derbyn ysgoloriaeth cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, lle maent yn astudio 40 credyd trwy’r Gymraeg gan gynnwys modiwlau Tiwtorial a Dadansoddi Data Amgylcheddol. Wedi i ni dderbyn ymateb y Coleg i gwestiynau UMCB ar yr effaith posibl ar y ddarpariaeth Gymraeg o fewn y Coleg, yn achos y deiliaid ysgoloriaeth, mae’r Coleg wedi nodi y posibiliad byddai’r risg i’r modiwlau ail-flwyddyn yn peri risg i deilyngdod y myfyrwyr yna i dderbyn yr ysgoloriaeth. Mae’r Coleg yn cydnabod pe ddewiswyd swydd yr aelod o staff sy’n cyflwyno’r modiwlau ail-flwyddyn cyfrwng Cymraeg ar gyfer ymddiswyddiad yna y byddai effaith posib ar y ddarpariaeth yn yr ysgol Gwyddorau Eigion. Prifysgol Bangor yw’r unig Brifysgol sy’n cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn Gwyddorau Eigion, ac felly pe ddewiswyd swydd yr aelod o staff cyfrwng Cymraeg am ymddiswyddiad, bydd dim darpariaeth cyfrwng Cymraeg i gael yn yr ysgol o gwbl. Byddai hyn yn mynd yn erbyn yr hyn sydd wedi ei nodi yn un o’r pum Piler Strategol: ‘Cynnal a datblygu portffolio cwricwlwm eang, sy’n cael ei lywio gan ymchwil neu ymarfer’ i gynnig mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr fanteisio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a gwella eu sgiliau Cymraeg. Byddai hyn hefyd yn mynd yn erbyn yr hyn sydd wedi ei nodi ym Mholisi Iaith y Brifysgol y - bydd ein myfyrwyr yn cael cyfleoedd i astudio eu meysydd pwnc drwy’r Gymraeg ac yn derbyn cefnogaeth i wneud hynny. Ni fyddai chwaith gan fyfyrwyr Cymraeg y cyfle i gael tiwtor personol sy’n arbenigwr yn y maes sydd hefyd yn medru’r Gymraeg. Mae hyn yn hawl cyfreithiol i bob myfyriwr Cymraeg, felly mae’n rhaid i’r ysgol ddarparu’r gwasanaeth yma. Nid ydym yn teimlo ei fod yn deg i’r myfyrwyr yma gael tiwtor Cymraeg sydd ddim yn arbenigwr yn y pwnc, gan na all y tiwtor gynnig cefnogaeth lawn ac arbenigol i’r myfyriwr.


15

Ysgol Gwyddorau Naturiol Ni godwyd unrhyw faterion mawr gan fyfyrwyr Cymraeg am yr Ysgol Gwyddorau Naturiol, yr unig gwestiwn gafodd ei godi gan fyfyrwyr oedd a fyddai yna effaith ar y ddarpariaeth dysgu cyfrwng Cymraeg o beidio llenwi swyddi gwag. Coleg Gwyddorau Dynol Mae gan Goleg y Gwyddorau Dynol enw da am addysgu cyfrwng Cymraeg, ac mae amlygrwydd yr iaith Gymraeg yn gryfder arbennig yn rhai o ysgolion y Coleg yma. Mae dros 75% o fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol yn fyfyrwyr yn y Coleg yma, felly mae’n hollbwysig cynnal y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Wedi i ni dderbyn ymateb y Coleg i gwestiynau UMCB ar yr effaith posibl ar y ddarpariaeth Gymraeg o fewn y Coleg, roeddem yn falch i weld mae’r strategaeth yw i gynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y Coleg. Mae’n galonogol gweld bod y Coleg wedi datblygu Strategaeth Iaith Gymraeg a ei bod nhw’n nodi mai’r nod yw gwella’r ddarpariaeth. Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol Ni godwyd unrhyw faterion mawr gan fyfyrwyr Cymraeg yr ysgol yms, er hyn gyda rhai staff a darlithwyr o dan fygythiad yn yr achos busnes arfaethedig hoffem bwysleisio pwysigrwydd sicrhau capasiti dwyieithog. Mae gan y Brifysgol gyfrifoldeb i hyfforddi’r gweithlu addysg sydd mor allweddol i strategaeth miliwn o siaradwyr Llywodraeth Cymru. Un mater mae UMCB yn pryderu amdano yw’r bwriad i apwyntio 6 aelod o staff ymchwil, a’r posibilrwydd i’r swyddi yma fynd i unigolion uniaith Saesneg os na fydd ymgeiswyr cyfrwng Cymraeg digon profiadol yn trio am y swyddi sydd efo profiad ymchwil ac addysgu. Oes newid cyfeiriad yma, gan arwain at y risg posib y bydd y pwyslais ar bwysigrwydd addysgu’r ysgol yn cael ei wanhau er mwyn pwysleisio mwy ar yr elfen ymchwil. Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Rydym yn falch iawn o weld nad oes bygythiad i’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Mae Prifysgol Bangor wedi datblygu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y maes yma ac wedi llwyddo i ddenu niferoedd cynaliadwy o fyfyrwyr, calonogol iawn oedd deall bod 22 o fyfyrwyr blwyddyn 1af, Cymraeg yn astudio yn yr Ysgol eleni. Ysgol Gwyddorau Meddygol Y prif sylw a wnaed gan fyfyrwyr yr ysgol am y ddarpariaeth Gymraeg, oedd bod dim llawer o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn cael eu gynnig iddynt ar hyn o bryd, a sut byddai cwtogi ar staff yr ysgol yn cael effaith ar yr ychydig ddarpariaeth Gymraeg sy’n cael ei gynnig.


16

Mae UMCB a’r myfyrwyr yn yr ysgol yn gefnogol o’r bwriad i ddatblygu ysgol feddygol ym Mhrifysgol Bangor ar gyfer Gogledd Cymru. Byddai ysgol feddygol newydd yn y gogledd yn gwasanaethu cymunedau gwledig Cymru yn uniongyrchol ac yn darparu ar gyfer anghenion a hawliau siaradwyr Cymraeg. Gofynnodd y myfyrwyr pa ystyriaeth sydd wedi ei roi i recriwtio staff cyfrwng Cymraeg ar gyfer yr Ysgol Feddygol, a y dylai hyn fod yn flaenoriaeth er mwyn gwella y ddarpariaeth Gymraeg yn y maes fydd o fudd wrth hyfforddi myfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Ysgol Seicoleg Ymysg myfyrwyr Cymraeg yr Ysgol Seicoleg nid oes gofidiau mawr ymysg myfyrwyr ynghylch y ddarpariaeth Gymraeg. Ond dywedodd y myfyrwyr y dylid gwneud bob ymdrech i sicrhau parhad y ddarpariaeth wych sy’n cael ei gynnig yn yr ysgol ar hyn o bryd. Mae cynnydd arwyddocaol wedi bod o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg ym maes Seicoleg ym Mangor a gyda chydweithrediad a chymorth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae’r ysgol wedi llwyddo i gynnig nifer o fodiwlau Cymraeg a dwyieithog, ac wedi ymrwymo i gynyddu’r ddarpariaeth yng Nghynllun Pwnc Seicoleg y CCC. Gwasanaethau Proffesiynol Fel sefydliad cwbl ddwyieithog, mae llawer o fyfyrwyr yn dewis Prifysgol Bangor fel lle i astudio oherwydd y gymuned Gymraeg, a'r gallu nid yn unig i astudio trwy'r Gymraeg, ond hefyd i dderbyn gwasanaethau a cefnogaeth myfyrwyr trwy eu hiaith gyntaf, a byw eu bywyd prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n bwysig fod y Brifysgol yn ystyried profiad myfyrwyr tu hwynt i’r ochr academaidd yn unig. Mae achos busnes y Gwasanaethau Proffesiynol yn nodi fod 59% o staff yn y gwasanaethau hyn yn rhugl yn y Gymraeg ac wrth ystyried niferoedd y dysgwyr, fod 85% o’r staff hynny yn meddu ar rhywfaint o Gymraeg. Mae cynnal lefel uchel o allu yn y Gymraeg yn hynod bwysig wrth gynnal a chefnogi myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth weinyddol dydd i ddydd ond yn bwysicach, fod cefnogaeth argyfwng ar gael yn eu hiaith gyntaf i fyfyrwyr Cymraeg. Yn yr achos yma nid yw‘r broses o adnabod effaith ar y ddarpariaeth Gymraeg wedi ei nodi. Yn yr un modd ag achosion busnes y colegau, mae diffyg ystyriaeth lawn ar effaith y Gymraeg wrth gynllunio gweithgareddau’r dyfodol yng Ngwasanaethau Proffesiynol y Brifysgol yn bryder. Mae cynllun busnes y Gwasanaethau Proffesiynol yn amlygu sawl swydd wag sydd â’r potensial i israddio’r ddarpariaeth weinyddol yn y Gymraeg i fyfyrwyr yn sylweddol. • • •

Dylid cwblhau’r asesiad effaith yn erbyn y meincnodau cydraddoldeb Dylid sicrhau nad yw lefel gwasanaethau cefnogol i fyfyrwyr sy’n dymuno gwneud hynny yn y Gymraeg yn dirywio ymhellach Dylid sicrhau fod gwasanaethau brys ar gael i fyfyrwyr Cymraeg yn eu mamiaith.


17

Mae Pwyllgor Gweithredu’r Brifysgol a Phwyllgor Dwyieithrwydd y Cyngor wedi cymeradwyo cynllun strategol ar gyfer Hyrwyddo Defnydd o'r Gymraeg yn y Gweithle. Un o amcanion canolog y cynllun hwnnw oedd “cynnal màs critigol o beuoedd sy’n gweinyddu drwy’r Gymraeg”. Rydym yn gobeithio’n fawr na fydd yr amcan yma yn cael ei beryglu os fydd y newidiadau arfaethedig yn cael ei gweithredu, mae gennym bryder penodol ynglŷn a effaith y cynigion dan ystyriaeth ar Celfyddydau Pontio lle mae’r holl staff yn siaradwyr Cymraeg ac yn gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg a dwyieithog ar hyn o bryd. Canolfan Bedwyr Roedd UMCB yn siomedig ac yn bryderus i weld bod bwriad yn y cynllun gwreiddiol ar gyfer Gwasanaethau Proffesiynol, i drosglwyddo rhai o swyddogaethau Canolfan Bedwyr i rannau eraill o'r brifysgol. Er ein bod yn falch iawn bod y brifysgol ers hynny wedi cadarnhau ei hymrwymiad i Ganolfan Bedwyr, fydd yn parhau yn elfen bwysig o strwythur y Gwasanaethau Proffesiynol, rydym dal yn bryderus bod bwriad i symud rhai swyddogaethau i’r Colegau Academaidd, fyddai yn ein barn ni yn arwain at wanhau’r Ganolfan. Rydym yn croesawu’r cynnig y bydd rôl Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr yn cael ei hehangu er mwyn cael swyddogaeth ar gyfer y Brifysgol gyfan, fel ‘Deon Datblygu’r Iaith Gymraeg a Chyfarwyddwr gan roi mwy o bwysigrwydd i’r Gymraeg ar lefel rheoli’r Brifysgol. Rydym hefyd yn bryderus iawn bod y papur sy’n crynhoi’r strategaeth y tu ôl i’r cynigion yn yr achosion busnes ‘Covid-19: Mynd i’r afael â’r Heriau Ariannol’ yn nodi “yn dilyn adolygiad allanol o swyddogaethau iaith Gymraeg y Brifysgol”. Gan fod Llywydd UMCB yn eistedd ar holl bwyllgorau’r Brifysgol sy’n ymwneud â’r Gymraeg, rydym yn ymwybodol na fu’r adroddiad hwn o flaen unrhyw un o bwyllgorau’r Brifysgol cyn i’r achosion busnes gael ei ffurfio, ac felly ni fu unrhyw drafodaeth arno nac unrhyw graffu ar ei fethodoleg na’i argymhellion. Rydym felly yn cwestiynu sut ei fod yn bosib bod yr adolygiad yma wedi bod yn sail i rai o’r cynigion yn yr achosion busnes. Does dim llawer o ystyriaeth o effaith y cynigion ar brofiad myfyrwyr yn yr achosion busnes. Yn ein grŵp ffocws gyda myfyrwyr fe wnaethant nodi yn glir bod unrhyw beth sydd am wanhau Canolfan Bedwyr yn annerbyniol, ac mai fel un endid ac un Canolfan sy’n cynnwys yr holl swyddogaethau presennol y mae hi gryfa ac ar ei gorau i neud pethau ar ran myfyrwyr, gyda’r holl gefnogaeth mewn un man canolog. Roedd myfyrwyr o’r farn bod Canolfan Bedwyr yn cryfhau sefyllfa’r Brifysgol o ran y Gymraeg, mae cyfraniad Canolfan Bedwyr fel Canolfan wedi bod yn sylweddol a mae’r Ganolfan yn frand yn ei hun. Mae UMCB’n credu’n gryf bod model Canolfan Bedwyr o grynhoi arbenigeddau a’r gwahanol swyddogaethau sy’n ymwneud a’r Gymraeg yn fodel effeithiol sydd wedi bod yn llwyddiannus, a sy’n gael ei gydnabod fel model effeithiol ar lefel genedlaethol. Byddai trosglwyddo y swyddogaethau Technolegau Iaith a Datblygu Sgiliau Iaith gan dynnu’r arbenigeddau yna o’r Ganolfan yn ei gwanhau, gan effeithio ar y brand sydd


18

wedi ei sefydlu. Nid ydym yn gweld synnwyr mewn newid rhywbeth sy’n gweithio mor dda yn barod, a roedd y myfyrwyr yn bryderus y byddai’r swyddogaethau yma yn mynd ar goll o fewn ysgolion Academaidd. Gwasanaethau a Gweinyddiaeth Myfyrwyr Rydym yn bryderus iawn am unrhyw gynigion a allai arwain at ostyngiad mewn cynghorydd iechyd meddwl neu adnodd cwnsela, yn enwedig os bydd gostyngiad yn y ddarpariaeth Gymraeg, ond nid yw’r effaith yma’n glir yn yr achos busnes. Mae'r gwasanaethau hyn yn feysydd hanfodol o gefnogaeth i fyfyrwyr, yn enwedig ar adeg pan rydyn ni'n gwybod bod bywyd Prifysgol yn fwy heriol nag erioed i fyfyrwyr ar hyn o bryd. Wrth drafod iechyd meddwl, un o’r pethau pwysicaf yw gallu cyfathrebu’n effeithiol er mwyn mynegi teimladau meddyliau ac emosiynau, felly mae darparu gwasanaeth i fyfyrwyr Cymraeg allu gwneud hynny yn eu hiaith gyntaf yn hanfodol. Dylid hefyd sicrhau fod gwasanaethau brys ar gael i fyfyrwyr Cymraeg yn eu mamiaith. Mae UMCB wedi gweithio’n agos gyda’r Brifysgol i wella cefnogaeth Iechyd Meddwl a Lles i fyfyrwyr drwy gyfrwng Gymraeg, yn wir mae Prifysgol Bangor yn arwain ac yn arloesi o ran y ddarpariaeth sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, felly rydym yn gobeithio’n gryf y bydd hyn yn cael ei ddiogelu, mae gan fyfyrwyr ddisgwyliadau uchel o ran y ddarpariaeth a’r gwasanaeth Cymraeg sydd ar gael iddynt yma ym Mangor. Fel rhan o gynlluniau’r Gwasanaethau Proffesiynol mae cynnig i golli rôl un Swyddog Cymorth Myfyrwyr Cynorthwyol, ein dealltwriaeth ni yw mai un o’r swyddogion yn yr adran tai yw’r swydd yma. Drwy golli’r swydd yma, rydym yn pryderu y gall beryglu’r ddarpariaeth cymorth tai sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Rhaid ystyried bod nifer sylweddol o fyfyrwyr Bangor yn byw mewn tai a neuaddau sector breifat a mae nifer o broblemau yn aml yn codi iddynt, lle maent angen cefnogaeth, felly nid ydym yn deall y rhesymeg o gwtogi ar yr adnodd yma, a rydym yn pwyso ar i’r Brifysgol sicrhau y bydd gwasanaeth cymorth tai ar gael i fyfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg. Nid yw’n glir o’r achos busnes os fydd yn cynnig i golli rhai swyddi gan gynnwys - rôl Rheolwr Cymorth Academaidd; Pennaeth Datblygu Sgiliau; rôl Technolegydd Dysgu; rôl Swyddog Datblygu Sgiliau, yn cael effaith ar y gwasanaeth Cymraeg. Dylid sicrhau nad yw lefel gwasanaethau cefnogol i fyfyrwyr yn y meysydd yma sy’n dymuno gwneud hynny yn y Gymraeg yn dirywio ymhellach. Gwasanaethau Digidol a Llyfrgell Roedd myfyrwyr yn bryderus am yr effaith posib byddai’r colledion swyddi yn ei gael ar y gwasanaeth Cymraeg yn y llyfrgell. Mae cynnig i golli dau Gynorthwyydd Llyfrgell, un rôl Gweinyddwr Llyfrgell a dau Swydd diogelwch, ond unwaith eto nid yw effaith hyn ar y gwasanaeth Cymraeg i fyfyrwyr wedi cael ei fesur. Ein dealltwriaeth ni ydy bod un o’r swyddi yma yn gynorthwyydd llyfrgell Cymraeg sy’n golygu lleihad posibl yn y gwasanaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i fyfyrwyr, ni ddylid gweld dirywiad gwasanaeth Cymraeg yn y maes yma.


19

Gwasanaethau Ystadau a Champws Mae gennym bryder penodol ynglŷn â effaith y cynigion dan ystyriaeth ar Celfyddydau Pontio lle mae’r holl staff yn siaradwyr Cymraeg ac yn gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg a dwyieithog ar hyn o bryd. Pontio yw un o brif Ganolfannau Celfyddydau’r Gogledd Orllewin sy’n gadarnle i’r Gymraeg, mae Bangor yn ddinas ddwyieithog ac mae’n hollbwysig bod y gwasanaethau yma’n cael eu darparu’n naturiol ddwyieithog i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd. Y prif bryder oedd gan fyfyrwyr oedd yr effaith ar golli swyddi Blaen Tŷ Pontio a’r swydd Swyddfa Docynnau. Un o brif bryderon UMCB am y cynigion i’r gwasanaethau yma ydy’r newidiadau i wasanaethau blaen tŷ. Mae’r cynigion yn nodi colli un swydd gan Oruchwylwyr Blaen Tŷ Pontio, tair swydd gan Gynorthwywyr Busnes a Gwasanaethau Cwsmer, Derbynwyr yng Nghanolfan Brailsford a Chynorthwywyr Blaen Tŷ a Swyddfa Docynnau Pontio. Nid yw’n glir yn yr achosion busnes os fydd y cynigion yma yn cael effaith ar y gwasanaeth Cymraeg sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd, a dylid sicrhau nad yw lefel gwasanaethau cefnogol i fyfyrwyr yn y meysydd yma sy’n dymuno gwneud hynny yn y Gymraeg yn dirywio. Mae’n bwysig cofio bod rhai o’r gwasanaethau yma gan gynnwys Pontio a Chanolfan Brailsford yn cynnig gwasanaethau i’r cyhoedd hefyd, a mae’n hynod bwysig sicrhau bod y gwasanaeth yma ar gael yn y Gymraeg. Fel siaradwr Cymraeg yng Nghymru, mae gan fyfyrwyr a’r cyhoedd hawliau i ddelio â sefydliadau cyhoeddus yn Gymraeg ac i dderbyn gwasanaethau Cymraeg ganddynt, mae hyn yn cynnwys galwadau ffôn a gwasanaethau derbynfa, felly mae’n hanfodol bod y gwasanaethau blaen tŷ yn gallu cynnig y gwasanaeth yma yn y Gymraeg. Unwaith eto nid yw’n glir os fydd colli pedwar Gweithredwr Diogelwch ac Ymateb Dydd a Nos yn cael effaith ar y gwasanaeth Cymraeg i fyfyrwyr, ond mae’n hollbwysig bod y gwasanaeth Diogelwch ar gael yn y Gymraeg, a dylid sicrhau fod gwasanaethau brys ar gael i fyfyrwyr Cymraeg yn eu mamiaith. Mae’r bwriad o symud swyddogaethau cynaliadwyedd o’r Gwasanaethau Corfforaethol i’r Cyfleusterau Ystadau a’r Campws yn achosi pryder i UMCB, rydym ar ddeall y bydd y tîm Lab Cynaliadwyedd yn lleihau yn sylweddol, a mae’r tîm yma wedi neud cymaint i hyrwyddo ethos o ‘Gymraeg i bawb’ a normaleiddio’r profiad o fyw mewn amgylchedd amlieithog. Mae’r tîm yma’n gweithredu bron yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg a dwyieithog, a rydym yn poeni fod hyn am gael ei golli drwy weithredu’r cynigion arfaethedig. Os ydy’r Brifysgol yn trio gwerthu ei hun fel y Brifysgol mwyaf Cymraeg sydd yma yng Nghymru, mae’n bwysig cael amrywiaeth o ran darpariaeth academaidd a gwasanaethau dydd i dydd, sy’n cael effaith o ran y Gymraeg o’ch cwmpas o ddydd i


20

ddydd, mae yna fwy i’r profiad myfyrwyr Cymraeg na derbyn addysg drwy’r Gymraeg yn unig. Marchnata, Cyfathrebu a Recriwtio Rydym yn bryderus am yr effaith bydd y newidiadau arfaethedig yma yn eu gael ar lefelau recriwtio myfyrwyr. Mae’r Gymraeg yn USP i’r Brifysgol a gwelwn yn ôl yr ystadegau bod y niferoedd yn cynyddu. Prifysgol Bangor yw'r brifysgol fwyaf Cymreig a Chymraeg yng Nghymru, ac mae’n arweinydd clir ym maes addysg gyfrwng Cymru, ac yn gyfrifol am 46% o’r niferoedd cenedlaethol sy’n astudio 80 credyd neu fwy trwy gyfrwng y Gymraeg yn 2019/20, mae hyn yn gyflawniad aruthrol. Fodd bynnag, mae'n teimlo fel nad yw'r brifysgol wedi ystyried y statws y mae hyn yn ei roi inni dros brifysgolion eraill wrth recriwtio myfyrwyr o Gymru. Mae angen datblygu strategaeth o ran recriwtio myfyrwyr Cymraeg a myfyrwyr o Gymru, rydym yn credu’n gryf bod cyfle yma i recriwtio mwy o fyfyrwyr Cymraeg er mwyn datblygu man sy’n tyfu yn y Brifysgol, mae’n hanfodol fod y Brifysgol yn cadw’u staff dwyieithog i ymestyn y llwyddiant ymhellach. Roedd yn siom i UMCB weld wrth edrych yn fanwl ar strwythur newydd yr adran marchnata, bod dim swydd benodol ar gyfer recriwtio yng Nghymru. Mae yna swydd Swyddog Recriwtio y DU, ond mae’n glir fod angen targedu myfyrwyr yng Nghymru a myfyrwyr Cymraeg a gweddill y DU mewn ffyrdd hollol wahanol, efo’r elfen Gymraeg yn arf holl bwysig i ddenu myfyrwyr o Gymru. Yn ystod y grwpiau ffocws roedd myfyrwyr yn nodi mae’r elfen Gymreig a Chymraeg yn y Brifysgol â’r teimlad o gymuned oedd un o’r prif resymau iddynt benderfynu dod i Fangor. Felly mae’r adborth yma yn dangos y dylid defnyddio hyn wrth farchnata’r brifysgol. Methiant fyddai colli ar y cyfle i gael strategaeth recriwtio benodol ar gyfer recriwtio myfyrwyr o Gymru, a ystyried Cymru ar wahân i’r strategaeth recriwtio DU, gan bod gwahaniaethau mawr i’r negeseuon sydd angen eu hyrwyddo. Rydym yn teimlo’n gryf bod angen unigolion o fewn yr adran yma sydd yn arwain ar recriwtio yng Nghymru. Roedd UMCB yn siomedig ac yn bryderus i weld bod swyddi yn yr adran gan gynnwys swyddi Cyfarwyddwr Cyfathrebu (Graddfa 10), Pennaeth y Cyfryngau a Chyfathrebu (Graddfa 9) a Swyddog Marchnata Brand (Graddfa 7) wedi cael eu hysbysebu fel ‘Cymraeg yn ddymunol’ yn unig. Mae’n gwbl hanfodol bod modd i’r unigolion yn y swyddi yma allu gweithredu’r drwy’r Gymraeg a dwyieithog ac nid ydym yn deall y rhesymeg dros osod y gofynion iaith fel ‘Cymraeg yn dymunol’ yn unig. Mae’r adran farchnata wedi bod yn un o’r adrannau hynny oedd yn gallu gweithredu’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg a dwyieithog a mae’r newidiadau diweddar wedi effeithio ar hynny. Mae gallu gweithredu yn ddwyieithog yn y maes Marchnata a Chyfathrebu yn hanfodol yn enwedig gan y bydd rhai o’r swyddogion yma yn gorfod delio’n uniongyrchol gyda’r wasg Gymraeg mewn ardal lle mae’r mwyafrif o’r boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg. Roeddem yn falch o weld i’r swydd Graddfa 9 newid i ‘Cymraeg yn hanfodol’ ond ddigwyddodd hyn yn unig ar ôl i Grŵp Strategaeth y Gymraeg godi pryderon. Fel y


21

Brifysgol mwyaf Cymraeg a Chymreig yng Nghymru ac fel arweinydd sector o ran addysg Gymraeg, mae’n hollbwysig bod staff yn gallu neud eu gwaith drwy’r Gymraeg a’r Saesneg ac ein bod yn rhoi cyfleoedd gwaith i siaradwyr Cymraeg yn y maes yma.

Casgliad I gloi, mae gan UMCB farn cryf y dylid gwneud popeth o fewn gallu’r Brifysgol i sicrhau bod y ddarpariaeth Gymraeg yn parhau i fod yn destun o glod i’r Brifysgol. Mae ymrwymiad y Brifysgol tuag at y Gymraeg dros y blynyddoedd wedi bod yn arloesol. Mae’r gwasanaeth y mae’r Brifysgol yn cynnig i Gymru yn amhrisiadwy. Dyma hefyd yw barn Undeb y Myfyrwyr. Er gwaethaf y toriadau, mae UMCB o’r farn y dylid gwarchod y ddarpariaeth gan fod y Gymraeg yn faes o dwf. Mae drws UMCB yn agored at drafodaeth pellach os fydd y pwyllgor gweithredu’n dangos y parch sy’n ddyledus i’r Iaith Gymraeg


22

Atodiad 1 Achos Busnes Dros Newid Coleg y Celfyddydau Dyniaethau a Busnes – Yr Effaith Posib ar y Ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg (At sylw Dirprwy Is-ganghellor a Phennaeth y Coleg, Yr Athro Andrew Edwards, a Deon y Coleg Yr Athro Martina Feilzer) Ysgrifennaf atoch i ofyn am fwy o wybodaeth a manylion o ran yr effaith posib bydd y cynigion yn Achos Busnes dros Newid Coleg y Celfyddydau Dyniaethau a Busnes yn ei gael ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y Coleg. Mae UMCB a’r myfyrwyr Cymraeg yn naturiol yn gofidio ynghylch dyfodol y ddarpariaeth Gymraeg, ond ar hyn o bryd mae’n anodd deall yn llawn o’r achos busnes be fydd yr effaith posib. Mae’n galonogol gweld bod y Brifysgol yn nodi o dan un o’i bileri strategol ‘Cynnal a datblygu portffolio cwricwlwm eang, sy’n cael ei lywio gan ymchwil neu ymarfer’ bod bwriad i gynnig mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr fanteisio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a gwella eu sgiliau Cymraeg. Mae’r Brifysgol hefyd yn nodi yn 5 piler strategol y byddant yn cynnal a datblygu profiad rhagorol i fyfyrwyr, ac yn amlwg mae hyn yn cwmpasu profiad myfyrwyr Cymraeg eu hiaith. Roeddwn yn falch o glywed yn y fideo Cwestiwn ac Ateb y gwnaeth Henry Williams, Llywydd yr Undeb ei gynnal gyda Yr Athro Martina Feilzer fel Deon y Coleg, eich bod wedi nodi bod yna fwriad i: • • •

geisio diogelu’r ddarpariaeth Gymraeg yn y Coleg sicrhau ystod ehangach o diwtoriaid cyfrwng Cymraeg ehangu a cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg ar draws y Coleg gan ddatblygu cyfleoedd newydd o bwysigrwydd hanfodol o ran y Gymraeg

Yng nghyd destun yr uchod a fyddai modd i chi ymateb i’r cwestiynau isod: Cwestiwn/Sylw 1. Faint o staff sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg sydd mewn perygl o gael eu heffeithio yn seiliedig ar y newidiadau arfaethedig?

2. Ym mha adrannau a meysydd pwnc mae’r staff yma’n dysgu? 3. A fydd y newidiadau arfaethedig yn peryglu unrhyw fuddsoddiad

Ymateb y Brifysgol Mae'r cynigion presennol yn rhoi 5.4 cyfwerth amser llawn (6 aelod staff) mewn risg o ran gostyngiadau staff (mae'n bwysig nodi nad dyma'r gostyngiad CALl arfaethedig - hynny yw 3.4 CALl ac yn cynnwys staff nad ydynt yn gyfrwng Cymraeg mewn risg). Ysgol y Gymraeg; Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol; Hanes Cymru Na, rydym yn amddiffyn darpariaeth sy'n dod o dan fuddsoddiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.


23

gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o fewn y Coleg? 4. Mae llawer o’n myfyrwyr yn derbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac er mwyn bod yn gymwys i dderbyn yr ysgoloriaeth mae’n rhaid iddynt astudio o leiaf 40 credyd trwy’r Gymraeg ymhob blwyddyn academaidd. Yn eich coleg chi mae 63 o fyfyrwyr yn derbyn yr ysgoloriaeth yma ar hyn o bryd. Ydych chi’n gallu cadarnhau gall y newidiadau yn cael effaith ar y ddarpariaeth yma gan atal y myfyrwyr rhag derbyn eu hysgoloriaethau? 5. Ar ôl ystyried y swyddi gwag a fydd yn cael eu dileu, ymddeoliadau cynnar/wedi’u trefnu, a/neu ddiswyddo gwirfoddol, pa effaith fydd hyn yn ei gael ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg?

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein myfyrwyr yn gymwys i gael ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac rydym yn hyderus na fydd y newidiadau arfaethedig yn peryglu cymhwysedd ar gyfer yr ysgoloriaeth hon.

Rydym wedi ystyried yn ofalus effaith gostyngiadau staff ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod bod unrhyw ostyngiadau staff yn cael effaith. Serch hynny, rydym yn hyderus bod y cynigion yn anelu at gryfhau ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg a chaniatáu ar gyfer darpariaeth ychwanegol a newydd. 6. Rydym yn poeni am yr effaith Bydd y strwythurau newydd arfaethedig anuniongyrchol gall y newidiadau ac, yn benodol, ychwanegu cydweithwyr yma gael ar y ddarpariaeth i'r Adran y Gymraeg newydd arfaethedig Gymraeg e.e o ganlyniad i yn cynyddu ein gallu i gynnig modiwlau ostyngiad mewn staffio, bod a rhaglenni cyfrwng Cymraeg newydd disgwyl i staff sy’n dysgu drwy ac arloesol. Mae'n galluogi staff sydd ar gyfrwng Gymraeg ddysgu mwy hyn o bryd yn addysgu trwy gyfrwng y drwy gyfrwng y Saesneg a allai Saesneg gynnig modiwlau cyfrwng gael effaith anuniongyrchol ar y Cymraeg. Yr amcan yw cryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg, sut ydych ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. am liniaru yn erbyn yr effaith posib yma? 7. Mae 35% (allan o sampl o 236), Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i o fyfyrwyr Cymraeg ar draws y sicrhau bod 100% o fyfyrwyr sy'n siarad brifysgol wedi nodi yn yr Arolwg Cymraeg yn cael tiwtor personol Croeso nad oes ganddynt diwtor cyfrwng Cymraeg. Rydym wedi cynyddu personol sy’n siarad Cymraeg, er ein hymdrechion i sicrhau bod myfyrwyr ei fod yn hawl cyfreithiol iddynt sy'n siarad Cymraeg yn cael cynnig gael un. Rydym yn poeni y bydd tiwtoriaid Cymraeg ac yng Ngholeg y gostyngiadau mewn staffio yn Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes


24

dirywio’r sefyllfa yma’n mhellach, yn enwedig mewn meysydd academaidd sydd ddim efo llawer o ddarlithwyr Cymraeg. Sut fydd y Coleg yn sicrhau fod gwasanaethau i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg a’r hawl i gael tiwtor personol Cymraeg ddim yn cael eu peryglu? 8. Beth yw’r cynlluniau ar gyfer y ddarpariaeth yn y dyfodol - sut ydych am ddiogelu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a darparu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr fanteisio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg fel a nodir o dan y piler strategol a nodi’r uchod?

credwn nad cwestiwn capasiti yw hwn ond yn hytrach cwestiwn o fynediad at ddata cywir i sicrhau dyrannu cywir. Rydym yn gweithio gyda Chyfarwyddwr Materion Cymraeg y Coleg i wella adnabod siaradwyr Cymraeg yn gynnar a chael data mwy cywir am yr iaith Gymraeg i sicrhau bod y mater hwn yn cael sylw Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn tyfu dros y blynyddoedd i ddod. Yn naturiol mae angen i ni 'amddiffyn', ond mae angen i ni hefyd nodi twf darpariaeth mewn meysydd sy'n ddeniadol i fyfyrwyr ac sy'n werthfawr i gyflogwyr yng Nghymru. Credwn fod ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn dda, ond ni allwn sefyll yn yr unfan, a rhaid i ni nodi potensial twf arloesol a pherthnasol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf os ydym am ddenu niferoedd uwch o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith i Fangor.

Mae UMCB ac Undeb Bangor yn mynd ati i sicrhau bod llais y myfyrwyr yn cael ei fynegi yn ystod yr ymgynghoriad, ac rydym wrthi’n cynnal grwpiau ffocws ar hyn o bryd. Ond mae’r myfyrwyr wedi nodi ei bod yn anodd mesur yr effaith ragdybiedig a gaiff yr achosion busnes ar ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg y Brifysgol heb dderbyn mwy o wybodaeth a manylion. Gan ystyried yr amserlen dyn sydd gennym i ymateb i’r ymgynghoriad, gobeithiaf dderbyn ymateb gennych cyn gynted ag y bo’n bosib er mwyn i ni a’r myfyrwyr allu gyfrannu’n llawn i’r ymgynghoriad. Iwan Evans Llywydd UMCB 2020-21

Atodiad 2


25

Achos Busnes Dros Newid Coleg Gwyddorau’r Amgylchedd a Pheirianneg – Yr Effaith Posib ar y Ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg (At sylw Dirprwy Is-ganghellor a Phennaeth y Coleg, Yr Athro Paul Spencer, a Deon y Coleg Yr Athro Morag McDonald) Ysgrifennaf atoch i ofyn am fwy o wybodaeth a manylion o ran yr effaith posib bydd y cynigion yn Achos Busnes dros Newid Coleg Gwyddorau’r Amgylchedd a Pheirianneg yn ei gael ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y Coleg. Mae UMCB a’r myfyrwyr Cymraeg yn naturiol yn gofidio ynghylch dyfodol y ddarpariaeth Gymraeg, ond ar hyn o bryd mae’n anodd deall yn llawn o’r achos busnes be fydd yr effaith posib. Mae’n galonogol gweld bod y Brifysgol yn nodi o dan un o’i bileri strategol ‘Cynnal a datblygu portffolio cwricwlwm eang, sy’n cael ei lywio gan ymchwil neu ymarfer’ bod bwriad i gynnig mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr fanteisio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a gwella eu sgiliau Cymraeg. Mae’r Brifysgol hefyd yn nodi yn 5 piler strategol y byddant yn cynnal a datblygu profiad rhagorol i fyfyrwyr, ac yn amlwg mae hyn yn cwmpasu profiad myfyrwyr Cymraeg eu hiaith. Roeddwn yn falch o glywed yn y fideo Cwestiwn ac Ateb y gwnaeth Henry Williams, Llywydd yr Undeb ei gynnal gyda Yr Athro Paul Spencer, eich bod wedi nodi: •

eich bod wedi cynnal asesiadau effaith, a bod dim tystiolaeth y bydd unrhyw effaith sylweddol ar y Gymraeg.

Yng nghyd destun yr uchod a fyddai modd i chi ymateb i’r cwestiynau isod: Cwestiwn/Sylw 1. Faint o staff sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg sydd mewn perygl o gael eu heffeithio yn seiliedig ar y newidiadau arfaethedig? 2. Ym mha adrannau a meysydd pwnc mae’r staff yma’n dysgu? 3. A fydd y newidiadau arfaethedig yn peryglu unrhyw fuddsoddiad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o fewn y Coleg?

4. Mae llawer o’n myfyrwyr yn derbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant

Ymateb y Brifysgol Un

Gwyddorau Eigion, sgiliau gwyddonol a chyfathrebu, gan gynnwys sesiynau tiwtorial. Yn achos un o’r modiwlau, mae 4 aelod arall o staff cyfrwng Cymraeg yn dysgu’r modiwl ar y cyd hefo’r aelod o staff sydd mewn perygl. Mewn dau fodiwl arall, yr aelod o staff mewn perygl yw arweinydd y modiwl, sydd yn peri risg i’r modiwlau yna. Yn achos y deiliaid ysgoloriaeth sydd yn yr ysgol Gwyddorau Eigion (2 yn y


26

gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac er mwyn bod yn gymwys i dderbyn yr ysgoloriaeth mae’n rhaid iddynt astudio o leiaf 40 credyd trwy’r Gymraeg ymhob blwyddyn academaidd. Yn eich coleg chi mae 20 o fyfyrwyr yn derbyn yr ysgoloriaeth yma ar hyn o bryd. Ydych chi’n gallu cadarnhau os bydd y newidiadau yn cael effaith ar y ddarpariaeth yma gan atal y myfyrwyr rhag derbyn eu hysgoloriaethau? 5. Ar ôl ystyried y swyddi gwag a fydd yn cael eu dileu, ymddeoliadau cynnar/wedi’u trefnu, a/neu ddiswyddo gwirfoddol, pa effaith fydd hyn yn ei gael ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg? 6. Rydym yn poeni am yr effaith anuniongyrchol gall y newidiadau yma gael ar y ddarpariaeth Gymraeg e.e o ganlyniad i ostyngiad mewn staffio, bod disgwyl i staff sy’n dysgu drwy gyfrwng Gymraeg ddysgu mwy drwy gyfrwng y Saesneg a allai gael effaith anuniongyrchol ar y ddarpariaeth Gymraeg, sut ydych am liniaru yn erbyn yr effaith posib yma? 7. Mae 35% (allan o sampl o 236), o fyfyrwyr Cymraeg ar draws y brifysgol wedi nodi yn yr Arolwg Croeso nad oes ganddynt diwtor personol sy’n siarad Cymraeg, er ei fod yn hawl cyfreithiol iddynt gael un. Rydym yn poeni y bydd gostyngiadau mewn staffio yn dirywio’r sefyllfa yma’n mhellach, yn enwedig mewn meysydd academaidd sydd ddim efo llawer o ddarlithwyr Cymraeg. Sut fydd y Coleg yn sicrhau fod gwasanaethau i fyfyrwyr cyfrwng

flwyddyn gyntaf eleni), mae posibiliad byddai’r risg i’r modiwlau ail-flwyddyn yn peri risg i deilyngdod y myfyrwyr yna i dderbyn yr ysgoloriaeth.

Pe ddewiswyd swydd yr aelod o staff sy’n cyflwyno’r modiwlau ail-flwyddyn cyfrwng Cymraeg ar gyfer ymddiswyddiad yna byddai impact posib ar y ddarpariaeth yn yr ysgol Gwyddorau Eigion, fel y disgrifiwyd uchod. Bydd penaethiaid ysgolion ar draws y coleg yn sicrhau, wrth bwyso a mesur baich gwaith pob unigolyn yn yr ysgol, bod effeithiau negyddol anuniongyrchol ar y ddarpariaeth yn cael ei leihau gymaint â phosib.

Ar wahân i’r mater sydd wedi ei godi uchod, mae pob ysgol gyda’r gallu i benodi tiwtor sy’n medru Cymraeg i bob myfyriwr sydd eisiau un. Pe cyfyd yr angen, gellid apwyntio tiwtor o ysgol arall yn y coleg.


27

Cymraeg a’r hawl i gael tiwtor personol Cymraeg ddim yn cael eu peryglu? 8. Beth yw’r cynlluniau ar gyfer y ddarpariaeth yn y dyfodol - sut ydych am ddiogelu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a darparu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr fanteisio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg fel a nodir o dan y piler strategol a nodi’r uchod?

Yn y tymor byr bydd y pwyslais ar barhau i ddarparu ar lefel sy’n ennill ysgoloriaethau cymhelliant. Bydd y cynlluniau ar dymor hirach yn cael eu adolygu’n flynyddol, gan gydweithio gyda’r CCC. Yn achos yr Ysgol Gwyddorau Eigion, mae hynny yn cynnwys cynllun i recriwtio aelod ychwanegol o staff ar gyfer addysgu cyfrwng Cymraeg ym 2022/3 yng nghyflwyniad cynllunio yr ysgol.

Mae UMCB ac Undeb Bangor yn mynd ati i sicrhau bod llais y myfyrwyr yn cael ei fynegi yn ystod yr ymgynghoriad, ac rydym wrthi’n cynnal grwpiau ffocws ar hyn o bryd. Ond mae’r myfyrwyr wedi nodi ei bod yn anodd mesur yr effaith ragdybiedig a gaiff yr achosion busnes ar ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg y Brifysgol heb dderbyn mwy o wybodaeth a manylion. Gan ystyried yr amserlen dyn sydd gennym i ymateb i’r ymgynghoriad, gobeithiaf dderbyn ymateb gennych cyn gynted ag y bo’n bosib er mwyn i ni a’r myfyrwyr allu gyfrannu’n llawn i’r ymgynghoriad. Iwan Evans Llywydd UMCB 2020-21


28

Atodiad 3 Achos Busnes Dros Newid Coleg Gwyddorau Dynol – Yr Effaith Posib ar y Ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg (At sylw Dirprwy Is-ganghellor a Phennaeth y Coleg, Yr Athro Nichola Callow, a Deon y Coleg Yr Athro John Parkinson) Ysgrifennaf atoch i ofyn am fwy o wybodaeth a manylion o ran yr effaith posib bydd y cynigion yn Achos Busnes dros Newid Coleg Gwyddorau Dynol yn ei gael ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y Coleg. Mae UMCB a’r myfyrwyr Cymraeg yn naturiol yn gofidio ynghylch dyfodol y ddarpariaeth Gymraeg, ond ar hyn o bryd mae’n anodd deall yn llawn o’r achos busnes be fydd yr effaith posib. Mae’n galonogol gweld bod y Brifysgol yn nodi o dan un o’i bileri strategol ‘Cynnal a datblygu portffolio cwricwlwm eang, sy’n cael ei lywio gan ymchwil neu ymarfer’ bod bwriad i gynnig mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr fanteisio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a gwella eu sgiliau Cymraeg. Mae’r Brifysgol hefyd yn nodi yn 5 piler strategol y byddant yn cynnal a datblygu profiad rhagorol i fyfyrwyr, ac yn amlwg mae hyn yn cwmpasu profiad myfyrwyr Cymraeg eu hiaith. Roeddwn yn falch o glywed yn y fideo Cwestiwn ac Ateb y gwnaeth Henry Williams, Llywydd yr Undeb ei gynnal gyda Yr Athro Nichola Callow, eich bod wedi nodi bod • •

y ddarpariaeth Gymraeg yn bwysig iawn i'r Coleg, yn enwedig oherwydd y nifer uchel o fyfyrwyr Cymraeg yn y coleg ac sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. bod yna fwriad i amddiffyn y ddarpariaeth Gymraeg a datblygu ansawdd y ddarpariaeth a chyfleoedd newydd.

Yng nghyd destun yr uchod a fyddai modd i chi ymateb i’r cwestiynau isod: Cwestiwn/Sylw 1. Faint o staff sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg sydd mewn perygl o gael eu heffeithio yn seiliedig ar y newidiadau arfaethedig? 2. Ym mha adrannau a meysydd pwnc mae’r staff yma’n dysgu? 3. A fydd y newidiadau arfaethedig yn peryglu unrhyw fuddsoddiad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o fewn y Coleg?

Ymateb y Brifysgol Rydym wedi atodi (i'r e-bost) yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb ar gyfer ein BCfC sy'n rhoi manylion yr ateb i'r cwestiwn hwn. Addysg a Seicoleg Na, rydym yn amddiffyn swyddi presennol a ariennir gan CCC.


29

4. Mae llawer o’n myfyrwyr yn derbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac er mwyn bod yn gymwys i dderbyn yr ysgoloriaeth mae’n rhaid iddynt astudio o leiaf 40 credyd trwy’r Gymraeg ymhob blwyddyn academaidd. Yn eich coleg chi mae 149 o fyfyrwyr yn derbyn yr ysgoloriaeth yma ar hyn o bryd. Ydych chi’n gallu cadarnhau os bydd y newidiadau yn cael effaith ar y ddarpariaeth yma gan atal y myfyrwyr rhag derbyn eu hysgoloriaethau? 5. Ar ôl ystyried y swyddi gwag a fydd yn cael eu dileu, ymddeoliadau cynnar/wedi’u trefnu, a/neu ddiswyddo gwirfoddol, pa effaith fydd hyn yn ei gael ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg?

6. Rydym yn poeni am yr effaith anuniongyrchol gall y newidiadau yma gael ar y ddarpariaeth Gymraeg e.e o ganlyniad i ostyngiad mewn staffio, bod disgwyl i staff sy’n dysgu drwy gyfrwng Gymraeg ddysgu mwy drwy gyfrwng y Saesneg a allai gael effaith anuniongyrchol ar y ddarpariaeth Gymraeg, sut ydych am liniaru yn erbyn yr effaith posib yma? 7. Mae 35% (allan o sampl o 236), o fyfyrwyr Cymraeg ar draws y brifysgol wedi nodi yn yr Arolwg Croeso nad oes ganddynt diwtor personol sy’n siarad Cymraeg, er ei fod yn hawl cyfreithiol iddynt gael un. Rydym yn poeni y bydd gostyngiadau mewn staffio yn dirywio’r sefyllfa yma’n mhellach, yn enwedig mewn meysydd

Ni fydd y newidiadau, fel y cynigir ar hyn o bryd, yn effeithio ar hyn.

Rydym wedi ystyried yn ofalus effaith gostyngiadau staff ar yr holl staff o fewn eu cwmpas gan gynnwys y rhai sy'n cefnogi darpariaeth gyfrwng Cymraeg. Serch hynny, rydym yn hyderus bod y cynigion yn anelu at gryfhau ein darpariaeth gyfrwng Gymraeg a chaniatáu ar gyfer darpariaeth ychwanegol a newydd. Ein strategaeth yw cynyddu darpariaeth Gymraeg yn y Coleg. Dyluniwyd ein hailstrwythuro arfaethedig, ynghyd â'n Strategaeth Iaith Gymraeg, i atal effaith negyddol rhag digwydd. Yn wir, ein nod yw gwella ein darpariaeth Gymraeg yn y Coleg.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg yn gallu dewis tiwtor Cymraeg. Yn wir, credwn ein bod yn gallu gwneud hyn nawr, ac y byddwn yn gallu gwneud hyn yn dilyn yr ailstrwythuro.


30

academaidd sydd ddim efo llawer o ddarlithwyr Cymraeg. Sut fydd y Coleg yn sicrhau fod gwasanaethau i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg a’r hawl i gael tiwtor personol Cymraeg ddim yn cael eu peryglu? 8. Beth yw’r cynlluniau ar gyfer y ddarpariaeth yn y dyfodol - sut ydych am ddiogelu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a darparu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr fanteisio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg fel a nodir o dan y piler strategol a nodi’r uchod?

Cyfeiriad at ein Strategaeth Iaith Gymraeg Coleg (ynghlwm wrth e-bost) sy'n parhau i fod yn sbardun allweddol ar gyfer dyfodol y Coleg.

Mae UMCB ac Undeb Bangor yn mynd ati i sicrhau bod llais y myfyrwyr yn cael ei fynegi yn ystod yr ymgynghoriad, ac rydym wrthi’n cynnal grwpiau ffocws ar hyn o bryd. Ond mae’r myfyrwyr wedi nodi ei bod yn anodd mesur yr effaith ragdybiedig a gaiff yr achosion busnes ar ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg y Brifysgol heb dderbyn mwy o wybodaeth a manylion. Gan ystyried yr amserlen dyn sydd gennym i ymateb i’r ymgynghoriad, gobeithiaf dderbyn ymateb gennych cyn gynted ag y bo’n bosib er mwyn i ni a’r myfyrwyr allu gyfrannu’n llawn i’r ymgynghoriad. Iwan Evans Llywydd UMCB 2020-21


31

Atodiad 4

Gyda siom a thristwch y deuthum i ddeall am fwriad Prifysgol Bangor i waredu dau aelod o staff yn Ysgol y Gymraeg, 1 CALI ym maes Cymraeg a Llenyddiaeth Fodern a Chyfoes ac 1 CALI ym maes Cymraeg a Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol. Fel y gwyddoch, mae hyn yn gyfystyr a diswyddo 40% o holl staff yr Ysgol. Mae ymgais amlwg i geisio bychanu'r golled yma i’r Ysgol Gymraeg gan y Brifysgol gan hyrwyddo syniadaeth ffuantus na fydd llawer o wahaniaeth. Bydd hyn yn ergyd lem ar Adran mor uchel ei pharch ac yn dangos diffyg dealltwriaeth o werth a chyfraniad yr Adran i ddiwylliant a Chymreictod y Wlad. Rydym fel Cymry wedi hen arfer bod yn “werin gaeth” a bod yn daeog a diogel, sy’n mynd yn ôl i gaethiwed y Dywysoges Gwenllïan a boddi Tryweryn. Teimlaf fod yr ymgais yma yn gam arall i lawr y ffordd. Gwlad fechan yw Cymru ac mae’r iaith Gymraeg dan ormes. Mae cwtogi Adran mor bwysig yn dangos diffyg dealltwriaeth o’r sefyllfa. Rydym yn byw mewn byd economaidd gyda ffeithiau caled a dewisiadau dyrys ond teimlaf y dylai Adran y Gymraeg gael ei neilltuo o’r toriadau hyn. Mae’n sefyllfa eithriadol oherwydd bod Adran Gymraeg Bangor yn un o ychydig adrannau sydd yn dysgu’r myfyrwyr am ei hiaith a hanes ei diwylliant drwy gyfrwng llenyddiaeth. Dychmygwch Adran Saesneg sydd ddim yn astudio gwaith William Shakespeare? Mae’r Cynulliad yng Nghaerdydd yn honni eu bod dros yr iaith ac yn anelu at filiwn o siaradwyr Cymraeg. Oni fyddai hyn yn faen prawf i’r Sefydliad pe gwyddent beth sydd ar y gweill ym Mangor. A fyddent yn fodlon helpu gan fod sut mae’r iaith yn cael ei siarad yn bwysig hefyd. Ni ddylid darnio Adran Gymraeg Bangor dan unrhyw amgylchiadau!

“Llinyn byw pellen ein bod Yw edefyn cerdd dafod”

Yr eiddoch yn gywir, Ffion Medi Ellis


32

Atodiad 5 Rwy'n ysgrifennu'r e-bost hwn i leisio fy ngwrthwynebiad ffyrnig i'r newidiadau arfaethedig i Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Honnir bod lleisiau'r myfyriwr yn flaenoriaeth yn y brifysgol, ond cyflwynwyd y ddogfen newidiadau heb unrhyw ymgynghori na chyfathrebu ymlaen llaw. Yn waeth fyth, ymddengys na fu unrhyw ymgynghoriad â darlithwyr chwaith, sy’n warthus. Ar adeg pan mae pawb dan gymaint o straen fel ag y mae, llwyr annheg yw taro ergyd o'r fath yn erbyn y gymuned Gymraeg ym Mangor. Mae'r ailstrwythuro'n teimlo'n ddryslyd, yn fympwyol ac yn fyr ei olwg. Sut ar wyneb y ddaear oes modd cyfiawnhau diswyddo dau aelod o staff yr ysgol, dim ond i gyflwyno pedwar yn ychwanegol? Ar y naill law, gallaf ddeall egwyddorion y bwriad i ehangu darpariaeth o wahanol bynciau yn yr ysgol. Ond ar y llaw arall, rwy'n ofni y bydd symud staff o adrannau eraill nid yn unig yn golled fawr i'w hadrannau nhw, ond yn y tymor hir yn gwanhau safle Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd drwy ddyblu modiwlau sydd eisoes ar gael (a rheini drwy gyfrwng y Gymraeg) ar draws gwahanol ysgolion, gan arwain at fwy o doriadau yn y dyfodol. “Mae’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn faes hollbwysig i’r Brifysgol, o ystyried ei sylfaen yn y Brifysgol fwy na chan mlynedd yn ôl, a’i gyfraniad at addysg, llenyddiaeth a diwylliant Cymraeg.” Pam felly awgrymu cam sydd, i bob pwrpas, yn dileu'r ysgol? Hyd y gwn i, dim ond ers mis Hydref 2018 y cafodd y teitl ei newid i "Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd", a hynny mewn pryd i’r brifysgol gynnal cynhadledd ryngwladol ar gyfer Astudiaethau Celtaidd. Roedd y gynhadledd yn llwyddiant ysgubol, a rhoddodd i Brifysgol Bangor safle mawreddog ar lwyfan academaidd rhyngwladol, diolch i waith caled ac ymroddiad staff Ysgol y Gymraeg. Bydd ei weddnewid unwaith eto, a hynny mor fuan, nid yn unig yn dibrisio holl arbenigedd a sgiliau'r darlithwyr, ond yn tanseilio unrhyw ffydd ac ymddiriedaeth sydd gan fyfyrwyr yn rheolwyr y brifysgol. “Ar ôl ystyried y swyddi gwag a fydd yn cael eu dileu, ymddeoliadau cynnar/wedi’u trefnu, a/neu ddiswyddo gwirfoddol, disgwylir y bydd yr adran hon sydd newydd ei ffurfweddu yn arwain at golli 1 CALl ym maes Cymraeg a Llenyddiaeth Fodern a Chyfoes ac 1 CALl ym maes Cymraeg a Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol.” Amwn i does dim ymgynghori wedi bod gyda darlithwyr, felly sut y gellid rhagweld ymddeoliadau cynnar, neu ddiswyddiadau gwirfoddol, a chyrraedd y casgliad hwn? Mae'n ysgol fach yn y brifysgol, yn enwedig o'i chymharu â lefelau staffio ysgolion eraill, a bydd colli dau aelod i bob pwrpas fel colli dau aelod o deulu clos. Sarhad o'r radd uchaf yw rhoi Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd dan warchae a’i gorfodi i amddiffyn a chyfiawnhau ei gwerth i'r byd academaidd dro ar ôl tro.


33

Ar lefel bersonol, mae ceisio ymchwilio ac astudio o bell, ynghyd â cheisio ymdopi â chyfnodau cloi, a phryderon am fy nheulu, gwaith a'm iechyd wedi bod yn hynod heriol hyd yn hyn. Mae fy nhiwtor personol nid yn unig yn allweddol i'm cynnydd academaidd, ond mae'n gyswllt hanfodol ar fy lles meddyliol hefyd, o ystyried y cyflwr ynysig rwyf ynddi, i ffwrdd o'r brifysgol. Mae wynebu'r posibilrwydd real iawn o gael fy ngadael heb oruchwyliwr, ac un sy'n arbenigwr rhagorol yn fy maes astudio, yn dorcalonnus ac yn peri pryder aruthrol. Rwy’n barod i amddiffyn yr ysgol yn erbyn y newidiadau hyn mewn unrhyw ffordd, ac yn eich annog i rhoi unrhyw gyfle posibl i staff a myfyrwyr gymryd rhan mewn ymgynghoriadau a chynnig awgrymiadau. Diolch am gymryd yr amser i ddarllen hwn, Llinos


34

Atodiad 6 Ysgrifennaf atoch er mwyn lleisio fy marn ar y newidiadau arfaethedig sydd wedi eu cyhoeddi ar gyfer Prifysgol Bangor, ac yn benodol i’r newidiadau yn ymwneud ag Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, a’r Gymraeg yn fwy eang yn y Brifysgol. Y mae’r ddogfen dan sylw yn cynnig newidiadau sylweddol i strwythur Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, ac yn nodi mai ‘ailddychmygu darpariaeth y Gymraeg’ yr ydych am wneud. Er mwyn gwneud hynny, rydych yn bwriadu colli dau aelod o staff yr Ysgol, ‘1 CALl ym maes Cymraeg a Llenyddiaeth Fodern a Chyfoes ac 1 CALl ym maes Cymraeg a Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol.’ Y mae dau aelod y staff yr ysgol gyfwerth â 40% o holl staff yr ysgol. Yn sgil hyn, bydd llai o gyfle i astudio llenyddiaeth y Gymraeg, llai o amrywiaeth yn y modiwlau fydd yn cael eu cynnig i fyfyrwyr israddedig, a llai o drawstoriad mewn arbenigedd yn yr Ysgol. Nodir fod Prifysgol Aberystwyth newydd benodi Mererid Hopwood yn Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, tra mai colli dau aelod o staff Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y mae Prifysgol Bangor yn bwriadu ei wneud. Yn dilyn trafodaeth â staff yr Ysgol wythnos diwethaf, rwyf ar ddeall nad oedd unrhyw gyfathrebu nac ymgynghori gyda’r Ysgol a’i staff er mwyn llunio’r ddogfen hon a’i newidiadau arfaethedig, ac mai drwy ddarllen y ddogfen hon y daethant i wybod am y cynlluniau hyn. Yn bersonol, fel myfyriwr sydd wedi bod yn rhan o’r Ysgol hon ers dros bum mlynedd bellach, y mae’r newidiadau arfaethedig hyn yn peri gofid mawr ac yn siom aruthrol. Yr hyn sy’n gwneud Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd mor arbennig ym Mangor yw’r amrywiaeth eang o arbenigedd sydd ar gael ymysg y darlithwyr, a byddai colli un ohonynt yn golygu colli talp sylweddol o’r arbenigedd hwnnw. Mi fyddai colli’r amrywiaeth mewn darpariaeth yn yr ysgol yn siom, yn golled wirioneddol, ac yn ergyd i’r Gymraeg fel pwnc. Y mae llenyddiaeth yn rhan annatod o’r pwnc, ac y mae meddwl am astudio’r Gymraeg heb astudio llenyddiaeth fel meddwl am astudio mathemateg heb rifau. Mae’r arbenigedd sydd ar gael yn yr Ysgol heb ei ail ac y mae hyd yn oed ystyried ail-strwythuro yn tanseilio ei gwerth a’i chyfraniad nid yn unig at brofiad myfyrwyr yr Ysgol ym Mhrifysgol Bangor, ond i’r Gymraeg yn ehangach, i’w diwylliant a’i pharhad. Rhaid nodi hefyd fod yr Ysgol wedi ei gosod ar lefel rhyngwladol erbyn hyn ac wedi datblygu cysylltiadau â phrifysgolion ag adrannau Cymraeg a Cheltaidd ledled y byd, gan gynnwys Prifysgol Harvard (y mae’r Athro Aled Llion yno ar hyn o bryd yn gweithredu fel Athro ar Ymweliad!) Trueni o’r mwyaf byddai colli’r statws a’r cysylltiadau hyn, sydd wedi eu magu a’u sefydlu yn dilyn blynyddoedd o waith caled, a phryder gwirioneddol yw eu bod mewn perygl o gael eu colli dros nos. Yn ogystal â’r colledion academaidd, bydd y newidiadau i’r strwythur yn achosi colled aruthrol i ymdeimlad yr Ysgol agos a chlos hon, un sy’n gofalu am ei holl fyfyrwyr yn


35

unigol ac yn gwneud pob ymdrech i sicrhau ein bod yn fodlon ac yn llwyddo hyd eithaf ein gallu. Y ‘sbin’ a roddir yn yr achos busnes yw mai cryfhau’r ddarpariaeth yw bwriad y newidiadau arfaethedig hyn, ‘ailddychmygu’, ond nid wyf yn gallu gweld ym mha ffordd y byddai lleihau nifer y staff a bwrw o’r neilltu nifer o bynciau, modiwlau ac arbenigedd, yn cryfhau’r Gymraeg fel pwnc. Rwy’n deall bod rhaid gwneud newidiadau er mwyn symud ymlaen a chryfhau, wrth gwrs, a dwi’n sicr y byddai staff Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd a’i myfyrwyr yn fwy na pharod ac yn awyddus i drafod ffyrdd o wneud hynny. Ond nid yw’r newidiadau arfaethedig hyn yn cynnig cyfle i gryfhau, i wella nac i symud ymlaen, ac y mae’n amlwg iawn o ddarllen yr achos busnes nad ystyriwyd effaith gwirioneddol hyn ar yr Ysgol. Teimlir mai ffordd hawdd o wneud arbedion ariannol ydyw’n unig. Y mae’r ansicrwydd sy’n deillio o gynnig newidiadau arfaethedig fel hyn yn eithriadol, ymysg staff a myfyrwyr unrhyw Ysgol neu adran, ac y mae’n dorcalonnus gweld morâl Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd mor isel ers i’r achos busnes gael ei ryddhau. Nid yw’n deg ar y staff, ac yn sicr nid yw’n deg ar y myfyrwyr sydd wedi dewis dod i astudio’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mangor oherwydd statws arbennig Ysgol y Gymraeg yma, ac sydd nawr (yng nghanol Pandemig!) yn gorfod brwydro dros werth a phwysigrwydd ei hysgol i’w Prifysgol eu hunain. Y mae’r newidiadau arfaethedig hyn, yn ogystal â’r rhai sy’n ymwneud â Chanolfan Bedwyr a Chymraeg i Oedolion yn dangos yn glir nad oes gan y Brifysgol unrhyw ymwybyddiaeth na pharch tuag at gwerth y sefydliadau hyn, nid yn unig i Brifysgol Bangor, ond i Gymru gyfan. Y mae cyfraniad Canolfan Bedwyr, sydd wedi tyfu a datblygu’n eithriadol ers ei sefydlu dros ugain mlynedd yn ôl, a Chymraeg i Oedolion, yn amhrisiadwy, ac y mae’r newidiadau arfaethedig hyn yn tanseilio’r rhain yn llwyr. Mae’r Brifysgol hon yn honni ei bod hi’n gwrando ar lais ei myfyrwyr. Os yw hynny’n wir, byddwch yn ystyried gwir effaith y newidiadau arfaethedig hyn ar Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, ar y Gymraeg fel pwnc ac ar y Gymraeg yn ei rhinwedd ei hun. Dwi wir yn gobeithio yr ail-ystyriwch eich cynigion, a sylweddoli mai nad dyma’r ffordd orau i symud ymlaen yn yr hir-dymor, er mor apelgar ydyw yn ariannol yn y tymor byr, dwi’n siŵr.

Yn gywir, Manon Gwynant Myfyriwr PhD Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd


36

Atodiad 7 Ysgrifennaf atoch oherwydd fy mhryder dybryd yn y bwriad o wneud toriadau a newidiadau i Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Cantores Opera ydw i wrth fy ngalwedigaeth ac rydwyf wedi canu’n broffesiynol gyda nifer o gwmnîau opera led-led y byd am dros bum mlynedd ar hugain. Ar hyn o bryd rydw i’n canu’n llawn amser gydag Opera Cenedlaethol Cymru ond hefyd y tymor hwn wedi dewis dechrau cwrs MA Ysgrifennu Creadigol yn rhan amser dros ddwy flynedd gyda’r Ysgol Gymraeg ym Mangor. Mae’n fraint imi ail- ddychwelyd i’r Adran ers imi ddechrau astudio yno’n wreiddiol fel glas-fyfyriwr ym 1987. Gallwn yn hawdd fod wedi penderfynu ymgeisio i fynychu cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd, Abertawe neu Aberystwyth, ond fe ddewisais Fangor; hyn oherwydd yr arbenigedd a gynigir gan yr academyddion, llenorion a beirdd penigamp sydd yn yr adran. Mae fy mhrofiad hyd yn hyn yn wirioneddol gadarnhaol ac mae’n anrhydedd imi gael fy nhiwtora gan Yr Athro Gerwyn Williams sydd yn fardd ac awdur arbennig iawn, ynghyd â’r darlithwyr eraill i gyd - bob un ohonynt yn awduron, ysgolheigion blaenllaw. Roedd hi felly’n sioc anferth imi ddeall am y newidiadau arfaethedig sydd ar y gweill. Darllenais y papur yn amlinellu eich cynlluniau ac mae’r ‘ail-ddychmygu’ yn fy mhoeni yn ddirfawr. Pe byddwn wedi gwybod am yr ‘ail-ddychmygu’ hwn fe fyddwn efallai wedi ail-feddwl dod i Fangor, yn enwedig pe byddai rhai o’r darlithwyr ddim yno bellach. Mae’n achosi pryder hefyd i ddeall bod newidiadau mor fawr yn cael eu penderfynu heb unrhyw ymgynghori. Oni ddylai bod amser i drafod a chyd-gysylltu ar y dull orau o sicrhau dyfodol Ysgol y Gymraeg a hynny drwy drafodaeth ac ymgynghori gyda’r staff sy’n adnabod yr adran? Ac oni ddylai y myfyrwyr sydd ar eu hennill o dderbyn yr addysg ac sydd yn talu am yr addysg hynny gael lle haeddiannol yn y drafodaeth? Fe ddywedoch chi eich hun wrth gael eich penodi eich bod yn ‘credu’n gryf mewn dull o reoli sy’n gynhwysol ac yn seiliedig ar bartneriaeth fel cymuned...’ felly hyderaf y byddwch yn rhoi mwy o amser i’r cyfnod ymgynghorol yn y sefyllfa hon ac yn mynd ati ar fyrder i sicrhau bod y darlithwyr yn cael eu cynnwys yn y trafodaethau. Credaf yn gadarn bod Ysgol y Gymraeg yn allweddol i’r Brifysgol ac y dylid ei gwerthfawrogi a’i harddel. Byddai colli dau aelod o’r staff yn drychinebus, yn enwedig gan eu bod i gyd yn dod â’u cryfderau a’u harbenigedd eu hunain i’r adran. Yn ogystal, cryfder yr adran yw’r canolbwyntio cadarn ar Lenyddiaeth Gymraeg a hefyd yr Ysgrifennu Creadigol- dwy elfen hollol anhepgorol yn yr addysg werthfawr mae’r ysgol yn ei chyflwyno. Pe byddai lleihau a gwanio ar yr elfennau hyn, byddai hynny’n golled enfawr i’r genedl ac inni fel myfyrwyr o bob oed. Ac o be welaf yn y ddogfen fe fydd y newidiadau yn peri i’r modiwlau hyn wanhâu yn sicr. Byddai hyn yn wirioneddol drist ac yn golled o ran awduron a beridd y dyfodol. Mae angen inni sicrhau fel Cymry


37

bod ein traddodiadau mwyaf cyfoethog yn cael eu trysori ac yn datblygu a’n bod ninnau yn gwneud popeth yn ein gallu i fod o gymorth yn eu ffyniant. Felly hoffwn yn garedig ofyn ichi gysidro o waelod calon i fynd ati i amddiffyn yr Ysgol Gymraeg FEL AG Y MAE, ei chadw’n gadarn fel bo’r niferoedd o Gymry dawnus yn parhau i fynychu a dewis dod i Fangor. Diolch ichi am wneud popeth o fewn eich gallu nawr i amddiffyn Ysgol y Gymraeg, dros ein Llên a thros ein cenedl; credaf y byddai Cynan, Waldo, Saunders, Bedwyr Lewis Jones a Gwyn Thomas (a’r mawrion i gyd) yn uno gyda mi yn eu diolch cywiraf pe byddech yn cadw’r darlithwyr ac yn cadw ystrwythr bresennol wych yr Ysgol Gymraeg.

Yn gywir, Sian Meinir


38

Atodiad 8 Annwyl gyfeillion, Rwy'n fyfyriwr Americanaidd yma ym Mhrifysgol Bangor, ar bedwaredd flwyddyn a blwyddyn olaf fy ngradd (BA Cymraeg, gan ddechrau gyda Cymraeg i Ddechreuwyr) yn ysgrifennu atoch ar ran aelodau fy ysgol; Ysgol y Gymraeg, ac awgrymaf ichi ailystyried gwneud toriadau i Ysgol y Gymraeg. Mae’r Ysgol wedi bod yn asgwrn cefn i'r gymuned Gymreig am y 100 mlynedd diwethaf ac mae'n gwbl hanfodol ar gyfer llwyddiannau parhaus hyrwyddo'r iaith, diwylliant a hanes Cymraeg yn y cymunedau cyfagos a Chymru yn gyffredinol. Ar wahân i Aberystwyth, Bangor yw'r unig brifysgol arall sy'n cynnig addysg eithriadol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae lefel yr arbenigedd a ddarperir gan yr athrawon yn Ysgol y Gymraeg, pob un yn ased amhrisiadwy i'r maes ac yn arbenigo mewn ystod eang o genres mewn llenyddiaeth Gymraeg, yn ddigyffelyb a rhaid ei chadw a’i gwaarchod fel ei bod ar gael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol o fyfyrwyr Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Ni ellir pwysleisio digon pa mor bwysig yw hi, bod dyfodol y Gymraeg a'i llenyddiaeth yn goroesi ac yn ffynnu i addysgu, ysbrydoli a chyfoethogi'r gymuned am lawer mwy o genedlaethau i ddod. Fel myfyriwr Americanaidd a deithiodd dros 3000 milltir yn bwriadu dysgu’r Gymraeg 3 blynedd yn ôl i lefel academaidd o ruglder, rwyf wedi talu ac wedi mynd i filoedd o ddoleri o ddyled er mwyn derbyn yr addysg eithriadol hon a ddarperir gan Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor yn unig. Nid yw hyn yn rhywbeth i gael ei danbrisio neu ei dan-werthfawrogi, yn hytrach, mae'n gryfder ac yn ased i'r brifysgol a'r wlad annwyl hon. Yn gryno, mae'r arbenigedd un-o-fath y mae pob darlithydd unigol yn ei ddarparu i'w myfyrwyr, a myfyrwyr y dyfodol i’r brifysgol hon, yn hyrwyddiad o hunaniaeth Gymreig a hanfod a chyfoeth diwylliant Cymru, nid yn unig i'r Cymry eu hunain, ond y byd i gyd. Peidiwch â newid hyn a dinistrio'r hyn y mae cymaint wedi gweithio ac ymdrechu amdano ers mor bell yn ôl â'r 14eg ganrif, pan geisiodd Owain Glyndŵr sefydlu prifysgol yng Nghymru ar gyfer cynhyrchu deallusion, gan warchod y diwylliant cyfoethog y genedl a lles economaidd ei phobl. Rwy'n gwerthfawrogi'r amser a gymerodd i chi i ddarllen y llythyr hwn ac efallai ailystyried gwneud toriadau a newidiadau i Ysgol y Gymraeg. Diolch yn fawr iawn, Andrew Edwards


39

Atodiad 9 Hoffwn ddechrau’r ymateb hwn drwy nodi’r ffaith nad wyf yn hapus bod angen cael y drafodaeth hon o gwbl. Nid dyma’r tro cyntaf i mi fod yn rhan o drafodaeth o’r fath ers i mi fod yn fyfyrwraig ym Mangor. Cofiaf frwydro dros beidio â thorri aelodau staff o Ysgol y Gymraeg nol yn 2018, ailstrwythuro i gynnwys Ysgol y Gymraeg fel rhan o Ysgol Ieithoedd, Ieithyddiaeth a Llenyddiaethau a hefyd roeddwn yn rhan o’r drafodaeth yn sgil newid enw Ysgol y Gymraeg i Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd a’r hyn a ddisgwylid o wneud newid o’r fath. Nid wyf yn hapus felly ein bod yn cael yr un drafodaeth eto eleni. Pwysleisia Prifysgol Bangor pwysigrwydd adborth myfyrwyr, profiad myfyrwyr a barn myfyrwyr yn gyhoeddus ond mae’n amlwg i mi, pan ddaw hi i wneud y penderfyniadau go iawn, nid yw arweinwyr y brifysgol yn gwrando dim nac yn malio dim am ein barn ni na chwaith am foddhad myfyrwyr, neu ni fuasem yn troi mewn cylchoedd â’r drafodaeth hon. Nid yw hyn yn adlewyrchu’n dda ar y brifysgol, na chwaith yn gwneud i ni fel myfyrwyr presennol ymddiried yn y system nac arweinyddiaeth y brifysgol. Yn ail, hoffwn grybwyll iaith y ddogfen dan sylw. Deallaf mai bwriad arweinwyr y brifysgol yw i staff a myfyrwyr y brifysgol ddarllen y ddogfen a mynegi eu barn arno. Fodd bynnag, nid yw geiriad y ddogfen yn awgrymu hynny o gwbl. Mae’n amlwg i mi fod iaith y ddogfen yno i’n perswadio bod arweinwyr y brifysgol yn gwybod yn well ac wedi llwyr ystyried pob newid posib, yn ogystal â’r effaith y buasai’r newidiadau arfaethedig hyn yn cael arnom ni fel myfyrwyr a hefyd staff y Brifysgol. Ond o dan y wyneb proffesiynol, academaidd, fflwfflyd, nid oes sail i hynny o gwbl. Nid yw’r brifysgol wedi ystyried pob opsiwn. Nid yw’r arweinwyr wedi holi barn staff na myfyrwyr (hy mewn modd llai ymosodol nag y ddogfen dan sylw) na chwaith wedi ceisio meddwl ‘outside of the box’ am ffyrdd o wella’r sefyllfa ariannol. Maent wedi neidio yn syth i’r un ffordd ag arfer- sef torri nifer staff ac uno ysgolion academaidd, sydd, hyd yma, yn amlwg heb weithio i helpu gyda gostwng costau, na chwaith yn bendant helpu profiadau myfyrwyr. Fel cynrychiolydd cwrs, alla i ddweud fod myfyrwyr cyd-anrhydedd yn gweld y diffyg sydd yn yr ysgolion sydd wedi’u huno ac o brofiad felly, maent yn gwybod nad ydynt eisiau i Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd gael yr un ffawd. Yn drydedd, hoffwn gyfeirio at gyflymder y penderfyniadau hyn. Mae’r brifysgol wedi bod yn wynebu problemau ariannol enfawr ers rhai blynyddoedd erbyn hyn (i sôn am dŷ llawn dodrefn gwerthfawr a difrod a achoswyd i sylfaeni’r Prif Adeilad wrth adeiladu Pontio, i enwi dim ond rhai o’r problemau mwyaf amlwg). Eto yn sgil llai o fyfyrwyr tramor ac effaith Covid-19 mae’r arweinwyr yn penderfynu bod angen ymateb brys (a byrbwyll) i leihau nifer staff cyn 2021 (sydd felly am gael effaith enfawr ar gwricwlwm pob myfyriwr presennol yn ogystal â myfyrwyr newydd!). Nid yw hynny yn ddigon o amser i wneud penderfyniad o’r math hwn, heb ymgynghori o’r radd flaenaf â staff, myfyrwyr, y gymuned ac eraill y gall hyn effeithio arnynt. Nid oes ymgynghori o’r fath wedi bod, felly rwy’n gofyn i chi newid hyn ac arafu’r broses (yn enwedig o ystyried bod pawb yn gweithio o adref (yn staff a myfyrwyr) ar hyn o bryd.


40

Hoffwn droi at y newidiadau i Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn benodol. Yn gyntaf, hoffwn ddweud, ers i’r enw newid i gynnwys mwy o fodiwlau Astudiaethau Celtaidd trwy ychwanegiadau at y cwricwlwm gael eu gwneud mae Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd wedi denu mwy o fyfyrwyr yn gyffredinol ac o dramor felly nid yw’n gwneud synnwyr i mi i’r Ysgol hon gael ei thynnu’n ddarnau wrth golli 2 aelod o staff. Yn ogystal, hoffwn ddweud y dylai arweinwyr Prifysgol Bangor agor eu llygaid i realiti sefyllfa’r byd ar hyn o bryd. Mae gen i le i gredu nad yw’r arweinwyr eisiau troi Prifysgol Bangor yn ‘brifysgol ar-lein’ ac felly nad ydynt yn recriwtio myfyrwyr i’w llawn botensial, er mwyn ceisio cyflawni’r ddelfryd o brifysgol fel ag yr oedd hi nôl yn 2019. Fodd bynnag, rydym ar drothwy 2021 ac yng nghanol pandemig byd-eang, lle nid yw’r delfrydol yn bod o gwbl. Anodd iawn fel myfyrwraig yw teimlo bod y baich yn disgyn arna i i atgoffa arweinwyr y brifysgol o hynny. Onid fuasai’n well syniad i arweinwyr y brifysgol geisio mynd ati i sicrhau fod Prifysgol Bangor (a’i holl staff, myfyrwyr ac ysgolion academaidd (sydd yn graidd i brifysgol lwyddiannus)) yn llwyddo i oroesi’r tymor heriol hwn, hyd yn oed os yw hynny yn golygu bod angen i fwy o bethau na fuasai’n ddelfrydol cael eu gwneud dros y we (h.y. nes bod sefyllfa dyngedfennol ein gwlad yn fwy sefydlog) yn hytrach na cheisio creu prifysgol ffantasiol aflwyddiannus, a fydd efallai ddim yn llwyddo i oroesi’r tymor hwn o gwbl? Mae torri 2 aelod o staff yn gyfystyr â 40% o staff Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Mae hyn yn hurt. Mae staff yr ysgol eisoes wedi bod o dan straen anferthol dros y blynyddoedd diwethaf gyda’r holl symud aelodau staff a’r toriadau. Nid yw ailstrwythuro yn lleihau baich staff, ond yn hytrach yn ychwanegu ato. Yn enwedig pan nad yw’r arweinwyr wedi llwyddo i gynllunio’r ailstrwythuro yn ddigon trylwyr a hynny yn rhannol oherwydd eu bod wedi gwneud penderfyniadau byrbwyll a ffôl. Mae staff yr ysgol wedi ymdopi yn hynod o dda gyda hyn oll ac alla i ond eu hedmygu am ddal ati a brwydro trwy’r holl waith ychwanegol a phwysau a gafodd ei roi arnynt gan wastad feddwl amdanom ni y myfyrwyr. Er hynny, nid yw’r hyn a ddisgwylid ganddynt yn deg o bell ffordd, ac nid yw hi’n deg disgwyl mwy fyth ganddynt am ein bod ni yn ddigon ffodus yn Ysgol y Gymraeg i gael staff mor gydwybodol a llawn angerdd. Yn bendant, teimlaf fod arweinwyr y brifysgol yn cymryd mantais yma. Rydym yn byw mewn sefyllfa o argyfwng. Wn i ddim pam fod y brifysgol eisiau ychwanegu at boen staff a myfyrwyr ar adeg mor anodd. Soniwyd mai diffyg yn nifer y myfyrwyr newydd sydd yn rhannol ar fai am y newidiadau posib hyn. Fodd bynnag, wn i fod nifer y myfyrwyr MA yn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ar ei fyny ers y llynedd a thybiaf bod twf hefyd yn y niferoedd o israddedigion. Cyn i fater mor enfawr â hyn gael ei godi, credaf y dylai pob myfyriwr a phob aelod o staff gael gweld y niferoedd hyn, nid yn unig ar gyfer ysgolion unigryw ond niferoedd holl ysgolion y brifysgol, y cyfartaledd a hefyd y ffigyrau am y llynedd yn ogystal â gweddill prifysgolion Cymru, cyn gallu mynegi barn yn llawn ar hyn. Am nad yw’r ffigyrau hynny, ar hyn o bryd (ond erfyniaf arnoch i ryddhau’r manylion hynny), ar gael i mi, fe wna i fynegi fy marn dros rhai o’r posibiliadau. Os oes llai o ymgeiswyr llwyddiannus wedi dod i Fangor eleni, credaf y buasai’r niferoedd hynny yn ddigon


41

cytbwys ar draws y brifysgol fel nad oes lle i feio ysgol benodol. Gall hyn fod ynghlwm i’r ffaith nad yw bywydau pobl fel ag yr oeddynt yn disgwyl pan wnaethant gais prifysgol. Efallai bod pobl wedi penderfynu mynd i brifysgol agosach i adref er mwyn cael parhau i weld eu teuluoedd. Efallai bod pobl wedi penderfynu cymryd blwyddyn allan o’u hastudiaethau oherwydd y sefyllfa fyd-eang. Mae’n bosib fod rhai teuluoedd wedi colli swm enfawr o arian dros y cyfnod hwn (o ystyried sefyllfa’r economi ar hyn o bryd) ac efallai bod hynny wedi effeithio ar argaeledd darpar-fyfyrwyr. Neu, fe all fod yn nifer enfawr o bosibiliadau yn gysylltiedig ag iechyd, iechyd meddwl, arian a thoreth o bethau eraill. Ni chredaf fod Prifysgol Bangor yn wahanol i weddill prifysgolion Cymru (a’r DU) yn hyn. A gobeithiaf, drwy onestrwydd yr arweinwyr felly, y cawn weld y ffigyrau i brofi neu wrthbrofi hynny. Gyda thoriad o 40% o staff yr ysgol, ni fydd modd i fyfyrwyr barhau i dderbyn yr addysg hynod werthfawr y maent yn derbyn gan staff Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ar hyn o bryd. Rwy’n gwybod hynny i sicrwydd. Ni all unrhyw ddogfen na ffigwr sydd wedi cael ei rhoi at ei gilydd heb gyfraniad staff yr ysgol dan sylw wrthbrofi hynny i mi. Dewisais ddod i astudio yn Ysgol y Gymraeg ym Mangor am y rhesymau canlynol : -

Cyfeillgarwch y staff a’r ymdeimlad o berthyn i gymdeithas yn yr ysgol dan sylw Brwdfrydedd ac angerdd y staff Y dewis eang o fodiwlau yn ymwneud ag iaith, llên ac ysgrifennu creadigol Arbenigedd y staff

Felly mae’n drist iawn gen i weld bod pob un o’r rheiny yn y fantol gyda’r cynllun hwn. Mae Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn ysgol sy’n cael ei chlodfori hyd Gymru gyfan a hynny am arbenigedd y staff, lefel yr addysg sy’n cael ei ddarparu a hefyd am yr ymdeimlad o gymuned sydd yn yr ysgol. Oherwydd hynny, nid yw’n gwneud unrhyw fath o synnwyr i mi fod arweinwyr Prifysgol Bangor yn ystyried gwneud unrhyw fath o newid i’r ysgol hynod lwyddiannus hon. Nid oes sail i gael gwared â 2 swydd yn yr ysgol er mwyn ychwanegu 4 aelod o staff o adrannau eraill yn eu lle. Lleihau yn unig ar y dewis eang o fodiwlau a wnaiff hynny. Ar hyn o bryd mae myfyrwyr Ysgol y Gymraeg ac astudiaethau Celtaidd yn gallu gwneud cymysgedd o fodiwlau o’r ysgol honno ynghyd ag ysgolion eraill trwy wneud gradd cyd-anrhydedd. Mae hyn yn rhoi’r dewis i fyfyrwyr i ddilyn gradd (a dewis modiwlau) o’u dewis nhw (gan gynnwys ystod eang o fodiwlau yn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd neu o ysgolion eraill) a theilwra eu graddau yn unol â’r hyn y maent eisiau astudio. Trwy ddiswyddo 2 aelod o staff yr ysgol bydd hyn yn sicr yn newid. Nid oes modd i 60% o weithlu’r ysgol wneud swydd 100%. Mae i bob darlithiwr ei arbenigedd ac yn ein hysgol rydym yn ffodus iawn o gael cymaint o amrywiaeth. Dyna rywbeth sydd yn denu myfyrwyr i Fangor. Nid oes pwrpas mewn ceisio cystadlu ag ysgolion neu adrannau eraill drwy’r wlad drwy geisio cynnig yr union yr un peth ond â darlithwyr gwahanol. Ni fydd hynny yn ennill myfyrwyr i’r brifysgol. Ffolineb llwyr yw ceisio meddwl gall hynny weithio. Mae i bob ysgol ac adran ei gryfder, a thynnu ar hynny sydd ei angen i ddenu myfyrwyr, nid


42

ceisio ehangu’r posibiliadau yn artiffisial gan wanhau’r union bethau y mae myfyrwyr eu heisiau. Mae Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn gyfrifol am ledaenu enw da Prifysgol Bangor ledled Cymru a thu hwnt. Cynhaliwyd Y Gyngres Geltaidd ym Mangor y llynedd dan arweiniad yr ysgol ac roedd yn llwyddiant dros ben. Ar ben hynny, mae nifer fawr o fyfyrwyr yr ysgol yn cyhoeddi yn gyson, yn ennill cystadlaethau ysgrifennu creadigol yn ogystal ag ennill mewn meysydd eraill megis cerddoriaeth. Dyma rywbeth sydd yn adlewyrchu yn dda ar yr ysgol ond hefyd ar y Brifysgol. Felly, pam newid rhywbeth sydd yn amlwg yn gweithio mor dda â hynny? Yn ychwanegol i hynny, mae darlithwyr yr ysgol hefyd yn brysur yn cyhoeddi eu gweithiau, gyda nifer wedi cyhoeddi eleni. Mae hyn yn dangos pa mor frwdfrydig ydynt ac yn creu enw ledled Cymru a thu hwnt i Brifysgol Bangor. Cynhalid gweithdai i ddisgyblion chweched dosbarth gan y staff yn flynyddol, yn ogystal â’r ffaith bod un o’r darlithwyr ar hyn o bryd wrthi yn darlithio draw yn yr UDA. Plîs ystyriwch yr effaith da y mae’r ysgol hon yn cael ar y gymuned ehangach a’i phwysigrwydd a’i statws ymysg y Cymry. Rydym fel Cymry wedi brwydro dros ei statws o ‘ysgol’ a ni ddaw da o’i dymchwel. Felly, rwy’n erfyn arnoch i plîs ail-ystyried eich syniadau am ailstrwythuro Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd a diswyddo aelodau staff yr ysgol er mwyn gwneud toriadau. Gofynnaf i chi plîs holi staff (a myfyrwyr) yr ysgol am unrhyw syniadau ffres eraill sydd ganddynt ynghylch helpu’r sefyllfa ariannol bresennol yn ogystal ag ymgynghori cyson a theg â staff a myfyrwyr am ddyfodol ein hysgol. Mae croeso i chi i gysylltu â mi os hoffech drafod unrhyw un o’r pwyntiau uchod neu unrhyw beth sy’n ymwneud â’r newidiadau arfaethedig hyn. Buaswn wirioneddol yn hapus i gael y cyfle i drafod gyda chi a helpu sicrhau ffyniant yr ysgol, yn ogystal â ffyniant Prifysgol Bangor.


43

Atodiad 10 Helo! Swni di licio sgwennu ebost hir a ffurfiol ar y pwnc ond dwi'm yn meddwl fydd o'n digwydd. Ond o'n i dal isio cyflwyno safbwynt myfyriwr rhyngwladol/UE yn ogystal â safbwynt myfyriwr ysgol y Gymraeg. Dwi'n siŵr oedd rhai wedi penderfynu dod i Bangor yn barod oherwydd pethau eraill ella er mwyn byw efo'i rieni neu achos mae nhw'n nabod pobl yn yr ardal. Ond wnes i, fel llawer o fyfyrwyr eraill, gorfod gwneud y ddewis. Yn fy achos i, rhwng Aberystwyth a Bangor oedd y dewis, a gan eu bod nhw mor agos o ran safon y dysgu, wnes i seilio'r dewis ar y darlithwyr. O'n i di cyfarfod cwpl yn barod ac wedi clywed pethau da am y rhei eraill hefyd, ac o'n i'n gwybod arbenigedd pob un i raddau. Dwi'n gwybod am ffaith swni di dewis Aberystwyth tasa'r toriad wedi cael ei wneud yn barod. Mae cael amrywiaeth o bynciau a diddordebau a hyd yn oed steiliau darlithio a dysgu gwahanol yn mor bwysig, ac efo dim ond 3 darlithydd llawn amser, swni di stryglo i gyfiawnhau dewis Bangor yn hytrach nag Aber. Dwi'n meddwl bod y toriadau yn mor amlwg yn ddatrysiad tymor byr a fydd yn arwain at llai a llai o geisiadau dros y blynyddoedd i ddod ac efallai at ddinistr Ysgol y Gymraeg Bangor? Dwi'n dallt bod rhaid i'r arian dod o rywle, ond nid 200 o doriadau ydy'r ateb. Dwi yn amlwg ddim yn gwybod y manylion ariannol, ond mae cynnig yr undeb o ostwng tâl am ddwy flynedd yn swnio fel ymateb tymor byr gwell sy'n arwain at llai o ddifrod yn y tymor hir yn ogystal â rhoi mwy o amser i gynllunio am y dyfodol a gweld be sy'n digwydd. Yn y bôn, dwi'n teimlo mai cyfrifoldeb y llywodraeth ydy hyn, gan ei bod wedi cael ei achosi gan Brexit a Covid i raddau o be dwi'n dallt. Ond dwi'n cytuno eich bod chi'n annhebyg o gael llawer o help ganddyn nhw efo sut mae pethau. Ond, waeth i chi drio rhoi mwy o bwysau arnyn nhw? Fel myfyrwyr rhyngwladol, dan ni efo'r rhyddid i ddewis unrhyw brifysgol. Dwi'n meddwl mae'n deg i ddeud bod safon y ddysgu yn ystyriaeth bwysig iawn wrth ddewis prifysgol, ac mae'r effaith negatif arni yn siŵr o effeithio ar y nifer o fyfyrwyr rhyngwladol hyd yn oed mwy. Kai


44

Atodiad 11 Rwyf yn ysgrifennu er mwyn erfyn arnoch i ail-ystyried y newidiadau niweidiol i’r Ysgol Gymraeg sydd ar y gweill. Mi rydw i’n fyfyrwraig sydd newydd ddechrau astudio’r Gymraeg yn fy mlwyddyn gyntaf yma ym Mangor ac yn mwynhau’r cwrs yn ofnadwy, o ystyried yr amgylchiadau. Rydym ni fel myfyrwyr newydd wedi cael dechrau sigledig iawn yn barod, heb sôn bod ein hysgol a’n darlithwyr ni o dan y fath fygythiad. Fel pob myfyriwr arall yn y Brifysgol, mi rydw i’n talu oddeutu naw mil y flwyddyn i gael astudio’r cwrs rydw i wedi bod yn edrych ymlaen at gael ei astudio ers blynyddoedd lawer. Nid wyf yn bwriadu parhau i dalu’r swm yma am gwrs fydd yn cael ei newid, a fydd ddim yn cynnwys popeth rydw i fel myfyriwr y Gymraeg yn fod i’w dderbyn o ran addysg. Rwy’n siŵr eich bod yn gallu dychmygu fy nirmyg wrth sylweddoli nad yw Ysgol y Gymraeg, sydd wedi’i sefydlu ac wedi bod yn rhan allweddol o’r Brifysgol ers 1889, yn ennyn unrhyw barch na chydraddoldeb. Nid wyf i na fy nghyd-fyfyrwyr yn hapus o gwbl bod y fath newidiadau hyd yn oed yn cael eu hystyried, a hynny heb ymgynghori gyda’r Ysgol i ddechrau. Y rheswm y gwnes i benderfynu astudio’r Gymraeg ym Mangor, ac nid unrhyw brifysgol arall, oedd oherwydd yr enw eithriadol o dda y mae’r Ysgol yn ei hawlio. Mae Prifysgol Bangor yn ddigon ffodus i gael darlithwyr Cymraeg sydd yn meistroli’r iaith a’r modiwlau, ac yn cynnal darlithoedd sydd yn ddifyr, unigryw, yn dreiddgar ac yn arbennig. O’r holl ddiwrnodau agored y bues i ynddynt hwy, Ysgol y Gymraeg ym Mangor oedd yr un oedd yn disgleirio yn fwy nag unrhyw un. Mae ganddi fwy o ddarpariaeth ac opsiynau nag unrhyw brifysgol arall sydd yn cynnig y cwrs, ac mae’n syndod ac yn siom enfawr i mi eich bod yn ddigon parod i roi hyn i gyd yn y fantol. Ni fuasai Prifysgol Bangor wedi gallu bod heb gyfraniad hael ac anhunanol y Cymry Cymraeg a oedd ceisio byw ar gyflog truenus ffermwyr a chwarelwyr yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Tybed beth fuasen nhw, ag aberthodd arian prin dros ein hawl ni, y Cymry Cymraeg, i gael addysg uwch safonol yn ei wneud o hyn? O ran yr Ysgol Gymraeg, ei staff a’i holl fyfyrwyr, boed yn rhai o’r gorffennol, presennol neu fyfyrwyr y dyfodol, ail-ystyriwch. Yn Bryderus, Catrin Lois Jones


45

Atodiad 12 Annwyl Is-Ganghellor, aelodau’r Cyngor ac amryw aelodau eraill y Brifysgol, Testun tristwch mawr i mi ydy gorfod llunio’r e-bost yma wrth i Goleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes unwaith eto fod dan gysgod torriadau staff. Rhwng 2017 – 2020, treuliais dair blynedd hynod hapus ym Mhrifysgol Bangor yn astudio’r Gyfraith gyda’r Gymraeg. Heb amheuaeth, arbennigedd ac enw da Ysgol y Gymraeg oedd y rheswm y deuais i Fangor i astudio, gan ychwanegu at fy hanes deulol wrth fod yn rhan o’r bedwaredd genhedlaeth yn fy nheulu i astudio ym Mangor. Afraid dweud, felly, bod y newidiadau arfaethedig a amlinellir yn y cynllun busnes fydd yn effeithio ar Goleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes, yn peri pryder mawr i mi yn bersonol. Yn wahanol, efallai, i sawl ysgol ac adran arall o fewn y Brifysgol, mae’r arbennigedd a geir yn Ysgol y Gymraeg yn ddi-gymar. Mewn rhai meysydd, mae sawl arbennigwr yn eu maes ledled y byd, gan rannu diddordebau ymchwil. Nid yw hyn yn wir o fewn Ysgol y Gymraeg. Yn wir, anos fuasai gwahanu’r arbennigedd rhag y darlithydd, gan mai nhw (fel rheol) ydy’r awdurdod, a’r unig awdurdod, yn eu maes. Mae bob Athro a darlithydd o fewn Ysgol y Gymraeg yn cynnig cefndir a chorff o ymchwil a gwybodaeth unigryw, na ellir ei efelychu ymaith. Dyma, I mi, ydy gwir “USP” Bangor yng Nghymru. Mae gan Ysgol y Gymraeg enw da ledled Cymru a thu hwnt. Mi fuasai colli dau aelod o staff, ac amsugno’r Ysgol o fewn adran llawer ehangach, yn peryglu colli myfyrwyr i Brifysgolion eraill yng Nghymru, gan ychwanegu at y straen ariannol bresennol yn yr hir dymor. Rhaid yw mynegi hefyd, bod yma ddefnydd hynod greadigol o’r term “ail-ddychmygu” yn y cynllun busnes. Nid “ailddychmygu” ydy colli chwarter staff academaidd Ysgol sydd â hanes a thraddodiad o’r fath. Nodaf hefyd bod y torriadau yn effeithio ar Ysgol y Gyfraith, gan hefyd golli dau aelod o staff. Gwyddwn nad oes rhaid i mi bwysleisio yng ngwydd arbennigedd yr Is-Ganghellor, pwysigrwydd ymwybyddiaeth fasnachol o fewn y byd cyfreithiol heddiw. Siom enfawr felly ydy gweld cynlluniau arfaethedig i ddiswyddo aelodau o staff yn y meysydd cyfraith eiddo ddeallusol rhyngwladol a chyflafareddu masnachol, masnach rhyngwladol a chyfraith yswiriant. Fel cyn-fyfyriwr o Ysgol y Gyfraith hefyd, a fydd yn cymhwyso fel cyfreithiwr o fewn cwmni masnachol rhyngwladol yn y Ddinas, roedd y sgiliau a’r wybodaeth a gefais ar fodiwlau o’r fath yn hollol allweddol i’m gyrfa. Elfen sy’n gyffredin rhwng y ddwy Ysgol y bum mor ffodus I gael astudio dan eu hadain, ydy’r dewis eang o fodiwlau sydd ar gael I’w hastudio. Testun balchder mawr I mi oedd cal y cyfle unigryw i ddechrau fy niwrnod yn edrych ar y theatr fodern Gymraeg, cyn symud i fod yn edrych ar gyfraith caffael rhyngwladol rhai oriau wedyn. Dyma nodwedd unigryw yma ym Mangor, ac heb yr ystod eang yma o fodiwlau (ac arbennigedd y staff


46

sy’n darparu’r modiwlau hynny), mi fuasai’r ddarpariaeth gradd cymaint yn llai cyfoethog a llawn na’r ddarpariaeth y bues i mor ffodus i’w dderbyn. Felly, yn sgil y dadleuon uchod, dyma ddatgan fy marn tu hwnt i unrhyw amheuaeth, bod diswyddo dau aelod o staff Ysgol y Gymraeg yn sgil yr ailstrwythuro, yn gam hynod wag gan awdurdodau’r Brifysgol. Gwyddwn ei bod yn gyfnod hynod ansicr yn economaidd, ond nid dyma’r tro cyntaf I staff yr Ysgol ddod dan gysgod torriadau, dadleuon undebol ayyb. Cryf hefyd ydy fy marn na ddylid diswyddo dau aelod o staff Ysgol y Gyfraith chwaith am y rhesymau a roddir uchod. Mi fuaswn yn hynod ddiolchgar pe byddech yn ystyried y rhesymau uchod wrth i’r cyfnod ymghynghori dynnu at ei derfyn.

Yr eiddoch yn gywir, Awen Edwards


47

Atodiad 13 Rwy’n fyfyriwr PhD yn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, ac yn yr ysgol honno y cwblheais fy ngraddau BA ac MA hefyd. Rwyf hefyd yn diwtor rhan amser yn yr ysgol, yn cynorthwyo i ddysgu un modiwl. Dyma sylwadau yr hoffwn eu rhannu â chi yn yr ymgynghoriad presennol ar ddyfodol yr ysgol. Hoffwn ddechrau drwy nodi fy mod yn llawn werthfawrogi fod Prifysgol Bangor mewn sefyllfa ariannol anodd ar hyn o bryd, fy mod yn deall yn llwyr fod penderfyniadau anodd yn ei hwynebu, ac na ellir osgoi gwneud toriadau. Serch hynny, teimlaf yn gryf iawn fod y bwriad i gael gwared ar ddwy swydd lawn amser ar lefel athro yn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd (40% o’r holl staff presennol) yn un annheg i staff a myfyrwyr, ac yn gwbl wrthgynhyrchiol o safbwynt gobaith y Brifysgol o arbed arian. Oes, y mae bwriad i symud aelodau o staff o ysgolion eraill i Ysgol y Gymraeg ac nid oes dim o’i le ar hynny ynddo’i hun, ond gall myfyrwyr ddewis astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth, Cymraeg a Chymdeithaseg neu Gymraeg a Ieithyddiaeth ar hyn o bryd – nid oes angen symud staff o gwmpas er mwyn rhoi’r opsiwn iddynt wneud hynny, ac felly ni ddenid unrhyw fyfyriwr newydd i Fangor ar sail y newid hwn. Ond yr un mor sicr â hynny yw y bydd llawer iawn o ddarpar fyfyrwyr yn dewis peidio â dod i Fangor os ceir gwared ar ddau aelod o’r staff presennol ac os cwtogir yn sgil hynny ar y ddarpariaeth gyfredol. O’m profiad i, y tri maes traddodiadol – hanes llenyddiaeth, beirniadaeth lenyddol, ac ysgrifennu creadigol – yw prif ddiddordebau myfyrwyr Cymraeg israddedig, a’r ffaith bod Bangor yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau o safon uchel yn y tri maes hyn sy’n eu denu yma. O dorri dwy swydd byddai’n gwbl amhosibl i’r ysgol barhau i gynnal y ddarpariaeth bresennol a byddai darpar fyfyrwyr yn heidio i Gaerdydd neu Aberystwyth lle gallent astudio elfennau o Newyddiaduraeth, Ieithyddiaeth neu Gymdeithaseg fel rhan o’u cwrs Cymraeg os hoffent wneud hynny, a lle byddai’r ddarpariaeth draddodiadol yn dal yn gryf. Yn wir, rwyf wedi clywed sawl myfyriwr israddedig presennol yn dweud pe gwyddent flwyddyn, ddwy neu dair yn ôl y byddai Bangor yn torri dau aelod o staff a Chaerdydd ac Aberystwyth yn penodi rhagor o staff, fel y maent wedi’i wneud yn ddiweddar, mai yng Nghaerdydd neu Aberystwyth y byddent hwy heddiw, ac nid ym Mangor. Byddai’r toriadau’n effeithio ar fyfyrwyr ôl-raddedig hefyd. Fel myfyriwr ôl-raddedig fy hun yr wyf, dros y blynyddoedd, wedi dod i adnabod nifer fawr o bobl a aeth i Gaerdydd neu Aberystwyth i astudio’u gradd gyntaf a hynny’n bennaf am eu bod yn hoff o Gaerdydd neu Aberystwyth fel lleoedd i fyw ynddynt neu eu bod am astudio'u gradd gyntaf mewn prifysgol ymhellach o gartref. Ond unwaith iddynt raddio a phenderfynu gwneud ymchwil, tyrrent i Fangor am mai dyma’r lle gorau i ddilyn eu diddordebau ymchwil, gan eu bod am gydweithio gydag ysgolhaig penodol, am mai yma y mae’r


48

arbenigedd angenrheidiol. Byddai’r llif hwnnw’n arafu os nad yn peidio pe torrid dwy swydd yn yr ysgol. Ni allaf yn fy myw feddwl am unrhyw sefyllfa lle na byddai’r torri swyddi’n arwain at gwymp yn nifer y myfyrwyr, ac o golli myfyrwyr collid incwm, ac felly ni fyddai’r toriadau hyn yn arbed unrhyw arian o gwbl i’r Brifysgol. Yn hynny o beth, mae torri swyddi yn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Cyntaf yn golygu’i thrin yn annheg o’i chymharu ag ysgolion academaidd eraill. Pe collai bron unrhyw un o’r ysgolion eraill ddau aelod o staff gallent barhau i weithredu’n effeithlon, ond yn yr ysgol hon, lle mae nifer y staff yn fychan beth bynnag – byddai torri dwy swydd yn cael gwared ar 40% o’r staff – byddai torri dwy swydd, fel yr wyf wedi’i nodi eisoes, yn arwain at lai o fyfyrwyr, llai o incwm, ac at doriadau pellach yn nes ymlaen. Byddai’r toriadau hynny’n parhau’r un cylch dieflig ac yn cael gwared ar yr adran yn gyfan gwbl yn y pen draw. A pheth arall sy’n golygu bod y toriadau arfaethedig yn annheg â’r ysgol hon yn benodol yw y byddai darlithydd a gollai ei swydd yn yr ysgol hon mewn sefyllfa anos na darlithydd a fyddai wedi colli ei swydd mewn ysgol academaidd arall. Pe torrid swyddi mewn ysgol academaidd arall, gallai’r staff a gollai eu swyddi symud i ddysgu’r un pwnc mewn prifysgol arall yng Nghymru neu yn unrhyw le arall yn y byd, bron. Nid yw hynny’n wir yn achos darlithwyr Cymraeg. Mae’r ddisgyblaeth wedi’i chyfyngu i dair prifysgol arall yng Nghymru, a chan fod y sector addysg uwch ar draws y wlad yn wynebu’r un heriau, mae’n annhebygol y gallai darlithydd a gollai’i swydd ym Mangor ddod o hyd i swydd debyg yn unrhyw le arall. Golyga hyn nad colli darlithydd o Brifysgol Bangor yn unig y byddem, ond eu colli o’r byd academaidd yn llwyr. Dyna werth blynyddoedd o ymchwil academaidd, beirniadaethau eisteddfodol, darlithoedd cyhoeddus, ymddangosiadau ar y cyfryngau a gweithiau creadigol yn diflannu mewn eiliad. Mae’r rhain yn feysydd y mae darlithwyr Cymraeg Bangor wedi bod yn eithriadol o gynhyrchiol ynddynt dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae eu cyflawniadau ynddynt wedi dod â bri ac enw da i’r ysgol a’r Brifysgol. Pwynt pwysig arall yw bod y gwaith y maent yn ei gyflawni o ddiddordeb mawr i’r cyhoedd, a bod mwy o bobl o’r tu allan i academia yn dod i gysylltiad â gweithgarwch yr ysgol hon nag odid yr un ysgol arall ym Mhrifysgol Bangor. Pe ceid gwared ag un swydd yn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, nid dim ond yr ysgol, y staff, y myfyrwyr a’r Brifysgol fyddai’n dioddef, ond diwylliant cenedl gyfan. Rhaid cofio nad dim ond cyfrannu at y diwylliant hwnnw eu hunain y mae darlithwyr yr ysgol hon yn ei wneud ychwaith, ond meithrin pobl eraill sy’n cyfrannu ato hefyd: rhyngddynt, mae myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Bangor wedi ennill 12 o brif wobrau llenyddol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ystod y deng mlynedd diwethaf; 40% o’r cwbl. Mae hon yn gamp aruthrol i ysgol fach mewn


49

cystadleuthau sy’n agored i unrhyw un dan 25 oed, ac nid myfyrwyr Cymraeg yn unig. Bydd cyfran dda o'r enillwyr hynny'n mynd yn eu blaenau i fod yn awduron, beirdd a dramodwyr toreithiog, ac mae hynny'n deyrnged i sut y mae diwylliant Ysgol y Gymraeg a chefnogaeth darlithwyr unigol yn cymell myfyrwyr i greu a llwyddo a chyfrannu at ddiwylliant Cymru. Ac os nad yw Prifysgol Bangor am warchod y cyfraniad hwnnw a wneir i ddiwylliant Cymru’n ehangach, rhaid gofyn beth yw ei phwrpas. Beth yw pwrpas y Brifysgol os yw Ysgol y Gymraeg a chyfraniad myfyrwyr a darlithwyr yr ysgol honno i ddiwylliant Cymru yn rhywbeth nad oes ots ganddi gael gwared arnynt? Beth, o weithredu’r toriadau hyn, o ran pynciau ac ethos a gwerthoedd, fyddai’n ei gosod ar wahân i brifysgolion taleithiol, eilradd Lloegr? Nid wyf yn rhywun sy’n gwrthwynebu pob newid. Rwy’n deall bod ymgynghori ac ailstrwythuro weithiau’n angenrheidiol ac rwy’n ceisio ymagweddu’n gadarnhaol a gweld y cyfleoedd newydd ym mhob her. Nid yw wylofain a rhincian dannedd fel hyn, a darogan diwedd Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd os gweithredir y toriadau hyn, yn rhoi dim pleser imi, ac mae’n gwbl annodweddiadol ohonof. Ond eto, gan y bydd y toriadau hyn yn arwain at gwymp yn nifer y myfyrwyr, ac na fyddant yn arbed arian i’r Brifysgol yn y tymor hir, ni allaf ragweld dim ond mwy a mwy o doriadau yn y dyfodol hyd nes na fydd dim ar ôl i’w dorri. Dyma’r trydydd ymgynghoriad mewn ychydig flynyddoedd, ac mae mynd drwy’r broses hon dro ar ôl tro yn flinderus a diflas. Hoffwn, felly, roi her i’r weithrediaeth i ddatrys problemau cyllido Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd (os oes problemau cyllido o gwbl – mae mwy o fyfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf eleni nag a oedd yn y flwyddyn a raddiodd fis Gorffennaf) unwaith ac am byth er mwyn sicrhau dyfodol sicr a llewyrchus i un o’r ysgolion sy’n gwneud Prifysgol Bangor yr hyn ydyw, ac i’r diwylliant sy’n dibynnu ar yr ysgol honno am gyfran nid ansylweddol o’i fywiogrwydd.

Yn gywir, Elis Dafydd


50

Atodiad 14 Ysgrifennaf atoch fel myfyriwr ôl-raddedig yn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd i fynegi yn y modd cryfaf posib fy ngwrthwynebiad i’r newidiadau arfaethedig yn yr Ysgol, ac yn wir ar draws y Brifysgol. Rhaid nodi hefyd nad ydi’r broses ymgynghori wedi bod yn un dderbyniol gyda chyfarfod byr-rybudd yn cael ei gynnig fel yr unig gyfle i ni fyfyrwyr wyntyllu’n barn ar y mater. Deuthum i Fangor i wneud fy ngradd BA bron i ddegawd yn ôl bellach a hynny am ddau reswm— arbenigedd y staff a natur groesawgar, gartrefol yr adran. Nid oedd gan leoliad Prifysgol Bangor na’i chynigion allgyrsiol ddim oll i wneud â’r penderfyniad hwnnw. Doeddwn i’n poeni dim am y trafod cyson ar fynyddoedd cyfagos yn y prosbectws na’r honiadau y byddai canolfan Pontio wedi ei chodi mewn blwyddyn. Y casgliad ar y pryd gan athrawon, darlithwyr a gan unigolion yr oedd gen i barch at eu barn oedd mai Bangor oedd y lle i fynd os oedd rhywun am astudio Cymraeg o ddifri. Ymhellach at hynny ymhlith fy nghyfoedion y teimlad oedd bod rhywun yn mynd i Aberystwyth neu Gaerdydd dyweder os am brofiad myfyriwr ac i Fangor os am brofiad academaidd o safon. Afraid dweud y byddai’r newidiadau sydd wedi eu cynnig yn difrodi’r canfyddiad hwn yn ddifrifol. Doedd dim amheuaeth gen i pan fynychais ddiwrnod agored mai i Fangor y byddwn yn dod i astudio a diolch i’r staff yn yr Ysgol oedd hynny. Mae sgoriau uchel yr Ysgol mewn arolygon barn myfyrwyr ers blynyddoedd lawer yn tystio i’r awyrgylch cartrefol hwn a gallu ein darlithwyr. Rwyf wedi aros ym Mangor i wneud MA ac rwy’n gorffen doethuriaeth yma ar hyn o bryd ac unwaith eto dewis bwriadol oedd aros yma gan sicrhau nawdd KES a’r AHRC. Unwaith eto diolch i arbenigedd y staff a natur gartrefol yr adran oedd hynny. Pe byddai’r newidiadau hyn ar droed wrth i mi feddwl ynghylch lle byddwn yn parhau fy ymchwil byddent wedi gwneud i mi feddwl ddwywaith am aros yma ym Mangor. Cyfri’r geiniog a cholli golwg ar y bunt fyddai cael gwared ar ddau aelod o staff gan ddifrodi enw da’r Ysgol a thanseilio ei gallu i gynnig ystod eang o fodiwlau gan unigolion sydd yn cael eu hadnabod ar draws Cymru a thu hwnt fel arbenigwyr yn eu maes. Bydd recriwtio myfyrwyr newydd yn anorfod anoddach yn enwedig o gofio bod Prifysgol Aberystwyth wedi cyflogi enw mawr fel Mererid Hopwood ac nad oes sôn am doriadau yng Nghaerdydd nac Abertawe. Breuddwyd gwrach hefyd yw’r honiad parhaus gan y Brifysgol na fydd profiad myfyrwyr yn cael ei effeithio gan doriadau, yr wyf i a fy nghyd fyfyrwyr wedi sylwi eisoes ar y newidiadau ar draws y brifysgol dros y blynyddoedd diwethaf a’u natur niweidiol, a does dim amheuaeth y bydd y cynigion presennol yn difrodi profiad y myfyrwyr ac enw da’r Brifysgol ymhellach. Rwyf wedi cael cyfleoedd amhrisiadwy yma, gan gynnwys cyfnod preswyl ym Mhrifysgol Harvard, profiad na fyddai, unwaith eto, wedi bod yn bosib heb gysylltiadau personol aelodau o staff â Adran Astudiaethau Celtaidd yno. Drwy leihau’r aelodau staff a’r


51

arbenigedd sydd gan yr Ysgol byddech hefyd yn lleihau’r gallu sydd ganddi i gydweithio â sefydliadau o’r fath. Mae’r gefnogaeth academaidd a phersonol wedi bod yn gyson ac yn werthfawr iawn i mi ers bron i ddeng mlynedd, nid yn unig gan fy nhiwtor ond gan holl staff yr Ysgol. Rwy’n hyderus y gallwn droi at unrhyw un ohonynt am gyngor a chymorth. Mae cof da gennyf hefyd i’r staff fynychu digwyddiadau allgyrsiol gennym fel myfyrwyr gan gynnwys perfformiadau y Gymdeithas Ddrama Gymraeg (Cymdeithas John Gwilym Jones bellach) a ail-sefydlwyd gyda chymorth rhai ohonynt. Ar nodyn fwy personol cefais hefyd gyngor ac anogaeth gyda fy ngwaith creadigol ac mae canran uchel o fy ngwaith ysgrifennu yn deillio’n uniongyrchol o’r seminarau ysgrifennu creadigol ac o’r gefnogaeth a’r anogaeth dderbyniais yn yr Ysgol. Mae’r cynnyrch hwn yn cynnwys tair nofel, gyda un yn eu plith wedi ei chyhoeddi ac wedi ennill gwobr Tir-Na-Nog, cyfrol ffeithiol am hanes Cwmni Theatr Bara Caws a dwy ddrama — aeth un a aeth ar daith genedlaethol ac a ennill gwobr y Dramodydd Gorau yr Iaith Gymraeg yng Ngwobrau Theatr Cymru tra bod y llall wedi ei pherfformio yn Pontio y llynedd. Yn hynny o beth rwyf mewn cwmni da gan fod nifer fawr o sgwennwyr, dramodwyr a beirdd wedi cyhoeddi gwaith tra’u bod nhw’n fyfyrwyr ym Mangor neu’n nodi dylanwad eu cyfnod yma ar eu gwaith. I nodi dim ond canran fechan; Y Prifardd a’r Prif Lenor Guto Dafydd, Caryl Bryn, Elis Dafydd, Mared Lewis, Cefin Roberts, Y Prif Ddramodydd Gareth Evans Jones , heb sôn am fuddugwyr mewn Eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Rhaid cofio hefyd am gynnyrch creadigol y staff eu hunain sydd i’w weld mewn siopau llyfrau ar draws Cymru. Nid haeriad di-sail yw mai heb amrywiaeth arbenigedd y staff sydd yn yr Ysgol na fyddai’r gwaith hwn wedi gweld golau dydd fel ac y mae. Mae ôl troed ‘impact’ yr Ysgol yn llawer iawn mwy nac y tybid ar yr olwg gyntaf. Gobeithiaf yn wir y bydd y cynigion annoeth yn cael eu gwyrdroi, byddai newidiadau o’r fath nid yn unig yn niweidiol i enw da’r Ysgol a’r Brifysgol ond i brofiad myfyrwyr a’u dyfodol academaidd. Bydd hefyd yn difrodi’r ewyllys da tuag at y Brifysgol mewn sawl carfan ac afraid dweud gan na allaf gefnogi’r Brifysgol yn y penderfyniadau arfaethedig na fyddaf yn mynychu fy seremoni raddio fel safiad cydwybodol pe byddai iddynt gael eu gweithredu. Yn gywir, Llŷr Titus


52

Atodiad 15 Ysgrifennaf atoch parthed y newidiadau arfaethedig yng Ngholeg Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes y brifysgol. Gwn fod amgylchedd ariannol y brifysgol dan fygythiad cynyddol yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, ac i atal pethau rhag gwaethygu, mae’n amlwg bod rhaid gweithredu. Ond tybed a fedrwch ddweud gyda gonestrwydd hollol eich bod wedi dihysbyddu pob opsiwn arall cyn mynd i’r pellafion o dorri swyddi ac uno ysgolion academaidd? Rydw i’n ymwybodol eich bod wedi ystyried pedwar opsiwn arall ac yn gwerthfawrogi hynny, ond mater o’r pwys mwyaf rŵan yw rhoi ystyriaeth drylwyr i gynnig Undeb Prifysgolion a Cholegau Bangor o dorri cyflogau dros dro fel aberth casgliadol. Mae yna deimlad o fregusrwydd parhaol yn deillio o fod yn Gymraes. Gyda chymdoges mor rymus â’r Saesneg, mae’r Gymraeg yn gorfod brwydro’n galetach i ddal ei thir. Dyma pam ei bod hi’n allweddol bwysig ein bod ni, fel Cymry, yn gwneud pob ymdrech i roi gofod teilwng i’r iaith lewyrchu. Dyma pam fod dychmygu darostwng yr ysgol i fod yn adran yn unig o fewn ysgol ieithoedd ehangach yn brifo cymaint. Mae fy niolch yn ddiddiwedd i Ysgol y Gymraeg. Ynghyd ag Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, fe wnaeth y darlithwyr bopeth o fewn eu gallu i sicrhau fy mod i’n mynd i raddio yn fy ngwaeledd. Gallaf ddweud gyda sicrwydd diysgog y byddai fy iechyd wedi fy ngorfodi i adael pe bawn i’n fyfyrwraig mewn unrhyw brifysgol arall. Oes, mae cyfoeth dihafal yn Ysgol y Gymraeg, ond mae yna hefyd empathi gan ddarlithwyr a staff sy’n mynd allan o’u ffordd i ofalu am eu myfyrwyr. Y trueni mwyaf fyddai colli hynny.


53

Atodiad 16 Annwyl Is-Ganghellor, Ysgrifennaf atoch er mwyn lleisio fy mhryderon ynghylch y newidiadau arfaethedig ym Mhrifysgol Bangor, ac Ysgol y Gymraeg yn benodol. Rwyf yn fyfyrwraig yn fy mlwyddyn olaf yn astudio’r Gymraeg yma ym Mangor, a thanosodiad y ganrif fyddai dweud fy mod yn pryderu ynghylch y newidiadau a awgrymwyd. Mae swyddi dau o’n darlithwyr arbennig ni (sef 40% o’r staff presennol) yn y fantol yn y cynlluniau a gyhoeddwyd, ac mae hyn yn destun siom mawr i mi. Mae holl athrawon a darlithwyr Ysgol y Gymraeg yn arbenigwyr yn eu maes, yn byw eu pynciau os mynnwch. Maent yn aelodau brwd o’r gymdeithas lenyddol yng Nghymru, ac yn cyfrannu’n helaeth ac yn gyson e.e. Angharad Price a Gerwyn Williams yn cyhoeddi llyfrau o fewn y misoedd diwethaf. Dyma un o’r prif resymau dros fy mhenderfyniad i ddod i Fangor yn y lle cyntaf, am fod y darlithwyr yn angerddol am yr hyn maent yn ei ddysgu - rhywbeth anghyffredin. Onid ydyw dileu swyddi o’r adran felly yn effeithio ar gwricwlwm a’r ddarpariaeth o fodiwlau o fewn gradd y Gymraeg? Dywed yn ddogfen mai ehangu posibiliadau astudio ydyw’r nod, ond wir, ni fedraf ddeall sut y gall colli arbenigwyr pwnc arwain ar ddarpariaeth ehangach. Mae hyn wir yn fy mhryderu a minnau ar fy mlwyddyn olaf gan nad wyf eisiau colli’r cyfle i astudio’r modiwlau sydd o wir ddiddordeb i mi. Teimlaf hefyd ei bod hi’n gwbl annheg dweud bod angen gwneud y toriadau yma i ‘adlewyrchu’r cwymp yn nifer y myfyrwyr’. Nid eithriad yw’r Gymraeg ym Mangor yn hyn o beth i unrhyw brifysgol arall yng Nghymru. Ers blynyddoedd bellach, mae ffigyrau’n dangos fod llai a llai o bobl ifanc yn penderfynu astudio’r Gymraeg fel pwnc. A pha ryfedd os mai dyma agwedd ein prifysgolion tuag at ein hiaith a’n diwylliant ein hunain? Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi yn ddiweddar fod Mererid Hopwood yn ymuno gydag adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Prifardd dwbl a phrif lenor. Dywedant fod ei phenodiad yn “adlewyrchu ein hymrwymiad ac uchelgais ar gyfer Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, a phwysigrwydd yr adran i’n sefydliad”. Ni ellir dweud yr un peth am Brifysgol Bangor. Ofnaf na fydd dyfodol i’r pwnc yma ym Mangor os caiff y swyddi yma eu torri - byddai’r atyniad at Aberystwyth yn llawer cryfach. Pryder arall i mi oedd darllen y cynlluniau i drawsnewid Ysgol y Gymraeg i adran fel rhan o ysgol ehangach. Er bod y syniad o ddatblygu Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau a Diwylliannau yn ddiddorol, nid wyf o’r farn bod uno Ysgol y Gymraeg yn rhan o hyn yn syniad da. Byddai disodli Ysgol y Gymraeg i fod yn adran yn unig yn dileu holl fri a mawredd ein hysgol. Ar wefan Prifysgol Bangor ceir y cyflwyniad canlynol i Ysgol y Gymraeg: “Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yw un o’r rhai hynaf ym Mhrifysgol Bangor, ac er ei sefydlu yn 1889 bu ei chyfraniad i fywyd llenyddol a diwylliannol Cymru yn gwbl allweddol”. Os yw’r brifysgol wir yn credu yn yr hyn maent yn ei hyrwyddo, pam mynd yn gwbl groes i hyn, ei ddileu yn llwyr? Mae Ysgol y


54

Gymraeg yma ym Mangor wedi meithrin nifer o enwogion llenyddol Cymraeg megis Kate Roberts a R Williams Parry. Mae hanes yn ei darlunio fel eicon o fewn llenyddiaeth a diwylliant Cymraeg a Chymreig. Ond beth am y dyfodol sydd wedi ei lunio ar ei chyfer? Ofnaf mai adran sydd yn gweithredu trwy’r Gymraeg fyddai’r canlyniad yn hytrach nag adran anfarwol fel yr oedd o’r blaen. Hoelen arall yn arch y Gymraeg ym Mangor, ac yn genedlaethol fyddai caniatáu i’r fath newidiadau ddod i rym. Byddai torri staff yr Ysgol a’i israddio yn adran yn ergyd fawr i ysgolheictod Cymraeg, ac o’r herwydd, erfyniaf ar fwrdd y brifysgol i ailystyried eu cynlluniau. Yn gywir, Mared Fflur Jones


55

Atodiad 17 Ysgrifennaf atoch i fynegi fy siom ynglŷn â’r cynlluniau presennol i dorri darlithwyr o’r Ysgol Gymraeg. Mae’r cyhoeddiad hwn wedi achosi pryder mawr i fi fel myfyriwr newydd. Rwyf wedi gorfod ymdopi gydag amgychiadau cwbl unigryw oherwydd Covid fel y mae, ac mae’r straen sydd wedi dod yn sgil y cyhoeddiad hwn yn sylweddol. Bangor oedd fy newis cyntaf. Fel darpar-myfyriwr gradd gyfun Cymraeg a Cherddoriaeth, dim ond Caerdydd a Bangor oedd ar agor i mi. Roedd gan y ddwy brifysgol ei chryfderau, ond dewisais ddod i Fangor oherwydd y modiwlau Cymraeg a gynigwyd i mi yn y Diwrnodau Agored. Gwerthwyd cwrs eang iawn ac roedd hynny’n un o fy mlaenoriaethau pennaf wrth ddewis fy lleoliad. (Doedd dim awgrym bryd hynny y gallai’r modiwlau hyn gael eu torri o’r cwrs.) Ar ôl fy ymweliad cyntaf, roeddwn yn llawn cyffro a brwdfrydedd, wedi cael cyflwyniad hynod o ddifyr a buddiol ar Chwedl Branwen gan yr Athro Peredur Lynch. Roedd naws gartrefol a theuluol yr Adran Gymraeg (a Cherddoriaeth) yn apelio ataf, diolch i’r darlithwyr twymgalon am eu croeso. Nid wyf wedi edrych yn ol ers cyrraedd – rwy’n derbyn addysg o’r radd flaenaf ac yn mwynhau pob agwedd o’m gwaith gan ddarlithwyr hynaws a phroffesiynol. Ychydig yn hwyrach, fe es i i Ddiwrnod Agored Caerdydd – ac ar un adeg, ystyriais yr Adran Gerddoriaeth yno’n well opsiwn i mi. Serch hynny, roedd rhaid pwyso a mesur rhwng y cyrsiau Cymraeg. Cyflwynwyd cwrs a oedd yn ieithyddol yn ei grynswth, a phwyslais ar foderneiddio a herio’r ffyrdd mwy traddodiadol o astudio’r hen lenyddiaeth. Bach iawn o waith canoloesol a’r hengerdd a gynigwyd. Gwyddwn yn syth, cyn gadael yr ystafell, na fyddwn yn astudio yno. Mae astudio’r Gymraeg heb y chwedlau a’r cywyddwyr fel astudio Cerddoriaeth heb Mozart, Beethoven, Bach neu Haydn! Nid yw astudio cwrs ieithyddol yn apelgar o gwbl, a gyda’m llaw ar fy nghalon, ni fyddwn yn gallu argymell Adran Gymraeg newydd Bangor petai’r addasiadau hyn yn mynd yn eu blaen. Fel darpar-myfyriwr, roedd gwrando ar leisiau a barn y myfyrwyr presennol yn bwysig iawn i mi. Hoffwn wybod ar ba sail rydych wedi penderfynu eich bod yn diwallu anghenion eich myfyrwyr presennol? Nid wyf wedi ymateb i unrhyw holiadur hyd yn oed! Hefyd, petai’ch newidiadau arfaethedig yn mynd yn eu blaen – beth fyddai teitl fy ngradd? Fy mwriad oedd astudio Cymraeg a Cherddoriaeth. A fyddai hynny’n newid? Rydym, fel adran yn teimlo siom ddirfawr, ac fel cwsmer – sy’n talu am fy addysg – nid dyma’r pecyn a archebais! Ni chafwyd rhybudd o unrhyw fath pan wnes i fy mhenderfyniad i ddod i Fangor, y gallwn fod yn y sefyllfa hon o fewn wythnosau ac yn anffodus, teimlaf fy mod wedi fy nhwyllo gan y Coleg. Yn ol dogfen gov.uk ‘Higher Education: Consumer Law advice for providers and students’, 2.6: ‘Universities must provide you with clear and correct information it should not contain any inaccuracies that are likely to affect your decisions.’ Yna: ‘gives a misleading impression at an Open Day…’ Teimlaf fy mod wedi cael fy ngham-arwain gan y Coleg - ni allaf bwyntio bys at yr Adran am hyn. Gobeithiaf, rhyw ddydd, y câf ddysgu Cymraeg a Cherddoriaeth – ond sut gallwn wneud hynny heb y modiwlau hanfodol hyn? Mae’r newidiadau


56

arfaethedig yn ymosodiad ar statws y Gymraeg fel pwnc academaidd ac yn ei israddio. Hoffwn i chi sylweddoli yr effaith mae hyn wedi ei gael arnaf. Cyn hyn, roeddwn yn hapus iawn fy myd yma, yn bell oddi cartref, yn gwbl ffyddiog fy mod wedi dod i’r lle cywir. Nawr, mae pethau’n wahanol. Nid hawdd oedd archebu llety ar gyfer blwyddyn nesaf – mae fy nyfodol yma’n ansicr erbyn hyn. Rwyf wedi treulio cryn dipyn o amser yn sgwrsio’n anffurfiol, yn darllen ac yn paratoi’r llythyr hwn. Cefais ambell noson ddigwsg ac rwyf wedi colli amser astudio oherwydd hyn oll. Erfyniaf arnoch, os gwelwch yn dda, i wrando ar leisiau’r Ysgol Gymraeg a rhoi pob tegwch i ni â’r cyfle i astudio’r cwrs a werthwyd inni. Mae Bangor yn lle arbennig iawn, ac rwyf am gael aros yma. Yn gywir, Myfyriwr y Flwyddyn Gyntaf.


57

Atodiad 18 Annwyl Iwan Davies, Ysgrifennwn atoch fel myfyrwyr Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd er mwyn mynegi ein pryder gwirioneddol ynghylch y newidiadau arfaethedig sydd wedi eu cyflwyno yn yr achosion busnes. Er ein bod wedi anfon ein llythyrau atoch yn unigol eisoes, roeddem yn teimlo ei bod hi’n bwysig datgan ein bod fel carfan yn llwyr wrthwynebu’r cynlluniau sydd gennych ar y gweill ar gyfer Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Y mae’r flwyddyn hon wedi bod yn un anodd ac yn un llawn straen ers ei chychwyn gan ein bod yn wynebu pandemig byd-eang sydd wedi effeithio ar bob agwedd o fywyd, ac nid yw bywyd yn y Brifysgol yn eithriad, wrth reswm. Ychwanegwyd at y straen sydd eisoes ar fyfyrwyr Prifysgol Bangor felly, gan y newidiadau a’r toriadau arfaethedig sydd i’w cael yn yr achosion busnes, a’r rheiny wedi eu creu a’u cyflwyno heb unrhyw gyfathrebu nac ymgynghori gyda myfyrwyr na darlithwyr. Nid yw’n ymddangos yn deg o gwbl i a) ymateb i’r heriau ariannol sy’n wynebu’r Brifysgol hon yn dilyn heriau’r pandemig presennol a phroblemau ariannol a oedd eisoes ganddi drwy dynnu’r cyllid oddi ar y myfyrwyr yn uniongyrchol, calon a chraidd y Brifysgol, a b) gwneud hynny yn ystod cyfnod pan nad yw’n bosibl i’r myfyrwyr hynny ymgynnull a thrafod wyneb yn wyneb. Teimlir mai manteisio ar y sefyllfa bresennol y mae’r Brifysgol er mwyn ceisio gweithredu’r newidiadau eithriadol hyn heb lawer o ymateb na gwrthwynebiad. Er hyn, yr ydym fel myfyrwyr Ysgol y Gymraeg wedi llwyddo i ddod at ein gilydd drwy ddulliau amgen gan ein galluogi i ddirnad maint rhwystredigaeth, siom a phryder diymwad ein holl gyd-fyfyrwyr. Rydym yn teimlo ei bod hi’n ddyletswydd arnom leisio ein barn a brwydro dros ein hysgol, nid yn unig er mwyn sicrhau ein bod ninnau yn cael parhau â’n haddysg fel y mae hi (sydd heb ei hail, rydym oll yn cytuno), ond er mwyn sicrhau bod darpar fyfyrwyr yn cael yr un profiadau arbennig, ac nad ydym yn colli un o bileri ein cenedl fel Cymry. Rydym yn llawn werthfawrogi fod Prifysgol Bangor yn wynebu heriau ariannol difrifol, a bod gwneud toriadau’n angenrheidiol ac yn anochel. Teimlir, fodd bynnag, mai casgliadau brysiog ac arwynebol yn unig yw’r hyn a geir yn yr achosion busnes, atebion dros dro a fydd yn y tymor hir yn arwain at lawer fwy o golledion ariannol ac yn creu cylch dieflig o golledion a thoriadau i’r Brifysgol. Y mae hyn yn hynod berthnasol i Ysgol y Gymraeg sy’n wynebu colli dau aelod o staff llawn amser – 40% o’i holl staff – gan roi dyfodol yr Ysgol yn y fantol. Yr hyn sy’n amlwg yw nad yw’r rheiny sy’n gyfrifol am lunio’r achosion busnes yn deall arwyddocâd ac effaith andwyol colli dau aelod o staff ar ysgol fechan fel Ysgol y Gymraeg. I ddechrau, fel yr amlygwyd gan nifer o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yr Ysgol (sydd newydd wneud y penderfyniad i ddod yma i astudio), yr hyn sy’n atynnu myfyrwyr i astudio yn Ysgol y Gymraeg ym Mangor yw’r amrywiaeth o fodiwlau a gynigir, a hynny yn sgil arbenigedd yr holl ddarlithwyr yn unigol. Pwysleisiwyd gan fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf mai ‘enw eithriadol o dda’ yr Ysgol a’r ‘dewis gwych ac eang o fodiwlau’ sydd ar gael a’u denodd i astudio ym Mangor. Nododd un myfyriwr: ‘Byddai dewis mynd i Brifysgol


58

Aberystwyth neu Gaerdydd gyda fy ffrindiau sy’n agosach at adref wedi bod llawer haws i mi, ond cymerais risg i ddod i Fangor ar ben fy hunan gyda’r bwriad o astudio modiwlau llenyddiaeth Gymraeg gan ddarlithwyr sydd ag enw da ac sydd hefyd yn uchel eu parch.’ Nid oes unrhyw adran Gymraeg arall yng Nghymru yn cynnig yr un amrywiaeth o fodiwlau ag y mae Ysgol y Gymraeg Bangor, sy’n amrywio o fodiwlau Llenyddiaeth Oesoedd Canol, i Gyfieithu, i Ysgrifennu Creadigol, i enwi rhai yn unig, gyda’r cyfle i astudio gradd cydanrhydedd mewn newyddiaduraeth, ieithyddiaeth ayyb yno eisoes i’r rheiny sydd â diddordeb dilyn y llwybrau hynny. Byddai colli dau aelod o staff o Ysgol mor fach yn sicr yn arwain at gwtogi’r ddarpariaeth gyfredol, ac felly’n naturiol yn effeithio ar nifer y modiwlau, yn ogystal ag arwain at golled mewn arbenigedd nad yw ar gael mewn unrhyw fan arall yn y byd. Teimlir mai gwrthgynhyrchiol yw colli dau aelod o staff o’r ysgol gan mai unig ganlyniad hynny fyddai colli mwy byth o fyfyrwyr yn y dyfodol, gan arwain at dranc adran sydd wedi bod yn rhan ganolog o’r Brifysgol hon ers degawdau. Y mae’r newidiadau arfaethedig hyn yn peri gofid gwirioneddol ynghylch natur yr addysg fydd ar gael, a dyfodol Ysgol y Gymraeg. Pa fodiwlau fydd ar gael i fyfyrwyr israddedig pe collid dau o ddarlithwyr yr Ysgol? Pe bai goruchwyliwr traethawd hir, M.A. neu PhD myfyriwr yn cael ei golli, rhywun sy’n arbenigo’n benodol yn eu pwnc arbennig hwy, a fyddai’n rhaid iddynt roi’r gorau i’r gwaith, neu symud i brifysgol arall? A fydd y pwysau gwaith cynyddol yn sgil colli dau aelod o staff yn effeithio ar safon y darlithio ac ar yr ymdeimlad cartrefol ac unigryw sydd yn rhan mor annatod o’r Ysgol? Dyma’r math o gwestiynau sydd gan fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg, i restru rhai yn unig, a’r gwir amdani yw bod holl fyfyrwyr yr Ysgol yn teimlo’n wirioneddol bryderus, siomedig ac ofnus ers i’r achosion busnes gael eu cyhoeddi ynghylch eu dyfodol yn y brifysgol. Ni ddylai unrhyw fyfyriwr deimlo felly ar unrhyw adeg yn ystod eu hamser yn y brifysgol ynghylch dyfodol eu hysgol a’u haddysg. Yn ail, rhaid ystyried dylanwad Ysgol y Gymraeg y tu allan i Brifysgol Bangor, ei phwysigrwydd a’i hymroddiad aruthrol i lenyddiaeth a diwylliant Cymru. Y mae cyfraniad darlithwyr Ysgol y Gymraeg ym Mangor at ddiwylliant Cymru yn eithriadol, oherwydd fel y noda un myfyriwr, y mae’r ‘gwaith y maent yn ei gyflawni o ddiddordeb mawr i’r cyhoedd,’ gyda ‘mwy o bobl o’r tu allan i academia yn dod i gysylltiad â gweithgarwch yr ysgol hon nag odid yr un ysgol arall ym Mhrifysgol Bangor. Pe ceid gwared ag un swydd yn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, nid dim ond yr ysgol, y staff, y myfyrwyr a’r Brifysgol fyddai’n dioddef, ond diwylliant cenedl gyfan.’ Arweinia hyn at drafodaeth ynghylch effaith andwyol y newidiadau hyn ar yr iaith Gymraeg. Y mae’r Ysgol yn un o gonglfeini’r iaith a phopeth sy’n gysylltiedig â hi, ac amhosibl yw mantoli maint ei dylanwad, ei gwerth a’i phwysigrwydd yn hynny o beth. Y mae’r newidiadau arfaethedig a’r achosion busnes yn arddangos diffyg dealltwriaeth y bobl a’u lluniodd o safle’r Gymraeg yn y Brifysgol ac yn genedlaethol, a pha mor hanfodol yw Ysgol y Gymraeg i’w pharhad. Mae’r Ysgol yn meithrin ymchwilwyr, ieithyddion, athrawon, beirdd, llenorion, actorion, newyddiadurwyr, gwleidyddion, cyfarwyddwyr – a llawer mwy – o’r radd flaenaf, sy’n rhan annatod o’r gymdeithas Gymraeg a ffyniant yr iaith, ac felly drwy weithredu’r newidiadau hyn, nid yn unig


59

peryglir dyfodol y Gymraeg fel pwnc ym Mangor, ond fe beryglir yr iaith yn ei rhinwedd ei hun. O gofio mai cwta ddwy flynedd sydd ers i’n hysgol gael ei hailfedyddio’n Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, anodd yw credu ein bod unwaith eto yn wynebu ailstrwythuro di-sail a di-nod. Nid yw cyfnod o ddwy flynedd yn ddigon i weld a yw ailstrwythuro wedi gweithio, er ein bod fel myfyrwyr yn teimlo mai buddiol oedd y newid a’n bod wedi ein gosod yn ei sgil ar lefel ryngwladol, ochr yn ochr ag adrannau Celtaidd prifysgolion megis Harvard, Rhydychen, Glasgow, a Chaergrawnt, ac yn y blaen. A oes unrhyw sail i’r penderfyniad o symud Ysgol y Gymraeg i Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau a Diwylliannau? Teimlir mai unig effaith ail-strwythuro unwaith eto eleni fyddai dibrisio gwerth a safon nodedig Ysgol y Gymraeg a’i darlithwyr, yn ogystal â thanseilio unrhyw ffydd ac ymddiriedaeth sydd gan fyfyrwyr, darpar-fyfyrwyr a’r gymdeithas yn ehangach yn rheolwyr ac uwch-dîm rheoli Prifysgol Bangor. Yn wir y mae’r newidiadau di-ben-draw hyn yn ei gwneud hi’n hynod anodd ymddiried ym Mhrifysgol Bangor a’i huwch-dîm ac yn cyfleu ymdeimlad o ansefydlogrwydd parhaus. Y mae gorfod brwydro dros werth ein hysgol am y trydydd tro mewn ychydig flynyddoedd yn flinderus ac yn ddiflas. Ysgol y Gymraeg, a sefydlwyd yn 1889, yw un o adrannau hynaf y Brifysgol hon ac y mae’r addysg a gynigir ganddi o’r radd flaenaf. Y mae’r Ysgol uchel ei pharch hon yn parhau i ddenu myfyrwyr o bob cwr o’r byd, ac yn nodedig am ei harbenigedd, ei hamrywiaeth a’i hagosatrwydd. Y mae hi’n barod ac yn awyddus i ddatblygu ac i dderbyn newidiadau fydd yn ei galluogi i ffynnu ac i dyfu, ond yn anffodus, ac er mawr siom, nid yw’r newidiadau arfaethedig hyn yn gwneud hynny. Yn hytrach, defnyddir geiriau fel ‘ail-ddychmygu’ er mwyn cuddio’r ffaith mai ei thanseilio, ei gwanhau a’i diraddio y mae’r newidiadau arfaethedig hyn. Er y honnir yn yr achos busnes: ‘Mae’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn faes hollbwysig i’r Brifysgol, o ystyried ei sylfaen yn y Brifysgol fwy na chan mlynedd yn ôl, a’i gyfraniad at addysg, llenyddiaeth a diwylliant Cymraeg,’ nid adlewyrchir hynny yn y newidiadau. Rydym yn gofyn yn daer i chi ail-ystyried eich achosion busnes a chymryd y cyfle hwn i brofi unwaith ac am byth nad geiriau gwag mohonynt, a phrofi mai llais y myfyrwyr sydd wrth graidd eich holl benderfyniadau. Rydym yn fyfyrwyr balch o Brifysgol Bangor, ac felly nid ydym yn awyddus i fynd yn ei herbyn nac ennyn unrhyw sylw negyddol o’r tu allan. Fodd bynnag, y mae gan Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor le yng nghalonnau’r genedl gyfan ac felly yn naturiol y mae aelodau o’r gymdeithas yn gwylio symudiadau’r Brifysgol yn ofalus ac yn barod i gamu i’r adwy pe bai angen. Erfyniwn ar y Brifysgol i ail-ystyried eu hachosion busnes ac i wyntyllu pob opsiwn posib cyn gwneud toriadau i staff a darlithwyr y Brifysgol, ac i ystyried gwir effaith y newidiadau hyn ar enw da a bri Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Bangor, a’r Brifysgol yn ei chyfanrwydd. Yn gywir, Myfyrwyr Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Bangor.


60

Atodiad 19 Ysgrifennaf y sylwadau hyn o bryder i’ch sylw, fel myfyriwr, a rhiant i gyn fyfyriwr, Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Bangor. Unwaith eto, a hynny o fewn cyfnod eithaf byr, mae Prifysgol Bangor yn wynebu toriadau. Mae rhywun yn ddigon doeth i ddeall ei bod yn anochel fod sefyllfa bresennol y pandemig yn achosi heriau. Mae’n anorfod iddo effeithio ar allu myfyrwyr tramor i astudio ym Mangor. Hynny yn achosi cwymp mewn niferoedd i rai ysgolion o fewn y Brifysgol, sy’n arwain i gwymp ariannol. Fodd bynnag, ni ellir dweud mai’r pandemig yn unig sy’n gyfrifol am y problemau ariannol cyfredol. Yn amlwg roedd eu bodolaeth yn bresennol ddwy flynedd yn ôl. Gan iddynt eto ddod i’r amlwg, teimlaf y dylid gwir edrych ar bob rheng o’r Brifysgol cyn ystyried toriadau pellach, o’r rheng uchaf i’r isaf, yn ogystal â’r ysgolion a’r adrannau hynny sy’n llwyr ddibynnol ar fyfyrwyr tramor. Yn yr hinsawdd bresennol sydd ohoni, efallai na ellir cyfiawnhau cadw’r swyddi rheiny oll yn llawn, na dyrchafu unigolion, wyneb yn wyneb a cholli darlithwyr o safon mor arbennig. Sgil effaith colli darlithwyr fyddai’n amharu ar les academaidd ac emosiynol myfyrwyr. Ac fel Prifysgol sy’n rhoi lle canolog i les myfyrwyr, dylai’r ‘lles’ hwnnw fod yn flaenoriaeth. Y tro diwethaf i ni wynebu toriadau, ni allwn beidio â theimlo bod elfen o ‘frys’ yn perthyn i’r holl drafodaethau a phenderfyniadau. Heb os teimlwn hefyd elfen o ddiffyg cyfathrebu effeithiol a diffyg tryloywder. Eleni eto, mae’r un elfennau yn dod i’r wyneb, sy’n peri pryder a diffyg ffydd. Ni fu unrhyw gyfathrebu â staff Ysgol y Gymraeg yn y cyfnod yn arwain i gyhoeddi’r achosion busnes. Mae hyn ynddo’i hun yn amlygu diffyg parch at ddarlithwyr a myfyrwyr, yn ogystal â diffyg cyfathrebu ac ymdriniaeth effeithiol o’r sefyllfa. Nid yn unig mae’r darlithwyr wedi, ac yn parhau i roi addysg o’r radd flaenaf i’r myfyrwyr, maent hefyd, trwy eu harbenigedd, wedi dwyn sylw ardderchog i Brifysgol Bangor, ledled Cymru a thu hwnt. Yn 2013 penderfynodd fy merch hynaf astudio yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Fel pob rhiant roeddwn yn cymryd diddordeb yn ei hastudiaethau, a buan y sylweddolais fod yr arlwy oedd ger ei bron, yn un o’r radd orau. Cafodd y cyfle i astudio sawl elfen o’r Gymraeg, yn farddoniaeth, llenyddiaeth, dramâu, hanes, tarddiad,


61

gramadeg a chyfieithu. Gwyddwn ei bod yn mynychu ysgol Gymraeg orau Cymru. Derbyniodd yr addysg a’r gefnogaeth orau posib, a bu’n hynod hapus yn yr ysgol glos a phroffesiynol hon. Er iddi symud ymlaen i wneud gradd Meistr yn Lerpwl, dychwelyd i Gymru fu ei hanes, a bellach mae’n defnyddio’r arfau a’r wybodaeth a roed iddi ym Mangor, yn ei gwaith dyddiol fel cyfieithydd, a hynny heb fod ymhell o adref. O bosib, pe byddai wedi dewis Prifysgol Caerdydd, na fyddwn fel rhiant heddiw, yn gallu ymfalchio yn y ffaith ei bod yn parhau i fyw yn ei bro enedigol ac yn cadw’r Gymraeg yn fyw. O sylweddoli cymaint y bu i fy merch elwa wrth fynychu Bangor, penderfynais innau adael gwaith llawn amser a dod yn fyfyriwr i Ysgol y Gymraeg yn 2015. Mae’r ddogfen ddaeth i fy sylw’n ddiweddar, yn datgan fod angen ‘ailddychmygu darpariaeth y Gymraeg’ yn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Dyna ddweud ynfyd os bu un erioed. Os nad ydi rhywbeth wedi malu, pam mynd ati i’w dorri? Yn sgil yr ‘ailddychmygu’ bwriedir colli dau aelod o staff, (1 CALl ym maes Cymraeg a Llenyddiaeth Fodern a Chyfoes ac 1 CALl ym maes Cymraeg a Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol). Mae dau aelod o staff Ysgol y Gymraeg yn gyfwerth â 40% o holl staff yr ysgol. Onid ydi’r tîm rheoli yn sylwi mai’r hyn sy’n gwneud Ysgol y Gymraeg yn ysgol mor arbennig, ydi’r amrywiaeth sydd ar gael yno, ac arbenigedd bob un o’r darlithwyr i gyflwyno’r amrywiaeth hwnnw? Mae Llenyddiaeth Fodern a Chyfoes a Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol yn rhan annatod o’r Gymraeg, a byddai ystyried peidio eu cynnwys yn sarhad o’r mwyaf i’r iaith, i’r genedl ac i’r wlad. Yn wir, byddai unrhyw ‘newid’ i’r ysgol yn ei ffurf bresennol, yn niweidiol, ac yn sicr nid arf i’w chryfhau fyddai’r ‘newid’ ond arf i lesteirio’i dyfodol. Mae’r anochel fod yr ansicrwydd sy’n deillio o gynnig y newidiadau, yn codi ofn, siomiant a diffyg ymddiriedaeth o fewn myfyrwyr a staff yr ysgol. Nifer dda o fyfyrwyr, newydd ddechrau ar dair blynedd o astudio yma am fod y modiwlau’n apelio’n fawr. A chyn i’r semester cyntaf ddod i ben, maent yn wynebu siom a phryder, o sylweddoli fod posibilrwydd na fydd y modiwlau hyn ar gael iddynt am weddill eu hastudiaethau. Diolch byth, a hynny er gwaetha’r pandemig, ymddengys fod ffigurau myfyrwyr Ysgol y Gymraeg yn ffynnu. Anodd felly ydi deall pam fod swyddi dau o’r darlithwyr dan fygythiad.


62

Er mai ysgol fechan o ran nifer myfyrwyr a staff ydi hi, mae hi hefyd yn ysgol ‘fawr’. Mae’n ennill ei lle yn haeddiannol ar lwyfannau rhyngwladol. Eto, byddai colli’r cysylltiadau hyn yn hynod niweidiol. Dylai’r tîm rheoli ymhyfrydu gyda balchder yn ei llwyddiant, yn hytrach nag amharu’n dragwyddol ar ei bodolaeth. Perthyn elfen o ‘deulu’ iddi, rhywbeth cynhenid Cymreig, ac mae’r gefnogaeth a geir gan y darlithwyr yn arbennig, sy’n cael ei adlewyrchu yn y graddau. Does dim modd i neb ddarbwyllo unrhyw un y byddai’r newidiadau ‘ailddychmygus’ hyn o fudd i neb. Rwy’n derbyn fod rhaid wrth newid weithiau, er mwyn symud ymlaen a datblygu, a hynny er lles pawb. Ychydig flynyddoedd sydd ers i deitl Ysgol y Gymraeg gael ei newid i Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Mae’n angenrheidiol rhoi blynyddoedd i’r ‘Astudiaethau Celtaidd’ werthu a sefydlu ei hun ym Mangor. A rŵan, bwriedir newid y teitl hwnnw eto, gan roi iddi is-deitl o fewn ysgol fwy. Os digwydd unrhyw newid i deitl yr ysgol eto, os bydd dau aelod yn colli gwaith, os bydd newid i’r arlwy bresennol, yna bydd dinistr i ddyfodol Ysgol y Gymraeg, Bangor. Heb os byddai hefyd yn ddinistr i ddyfodol y Brifysgol, i’r iaith Gymraeg ac i Gymru. Fel prifysgol sy’n llafar am bwysigrwydd llais myfyrwyr, boed iddynt heddiw ‘wrando’, a hynny yng ngwir ystyr y gair. Ac nid gwrando’n unig, ond hefyd sylweddoli, derbyn, a chofio ffeithiau pwysig. Sylweddoli nad ysgol gyffredin o fewn ryw brifysgol fawr mewn gwlad arall ydi Ysgol y Gymraeg, Bangor. Yn hytrach ysgol ydi hi fu’n garreg sylfaen wrth sefydlu’r Brifysgol. Ysgol sydd a’i gwreiddiau’n ddwfn yn nhir y ddinas a thir Cymru. O ganlyniad i’r ‘sylweddoli’ hwnnw, yna rhaid derbyn a chofio mai arian prin Cymry Cymraeg diwylliedig fu’n sail i’r ‘Coleg ar y Bryn’. Balch fyddent fod eu haberth wedi rhoi cyfle i ni heddiw feddu ar Ysgol y Gymraeg o’r radd flaenaf ym Mangor. Felly yn hytrach na bygwth a thanseilio’i phwysigrwydd a’i hunaniaeth, rhoddid iddi’r statws, y clod, y diolch, y parch a’r llonnydd sy’n haeddiannol iddi. Hynny er mwyn ein plant a phlant ein plant. Bethan Lloyd Dobson (Myfyriwr Ymchwil Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd)


63

Atodiad 20 Annwyl Mr. Iwan Davies, Parthed – Toriadau arfaethedig i’r Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas (YHAGC). Ysgrifennwn y llythyr hwn mewn ymateb i’r toriadau arfaethedig yn y Brifysgol, a’r rhai sy’n ymwneud â’r Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas yn benodol. Ni, fel cynrychiolwyr cwrs, yw llais myfyrwyr yr Ysgol, ac rydym ni i gyd yn pryderu’n fawr am oblygiadau’r toriadau yma – nid yn unig ar y darlithwyr a’u pwysau gwaith, ond, yn fwy arwyddocaol, efallai, ar brofiad myfyrwyr yr Ysgol. Fel y gwelwch, ’rydym ni, fel cynrychiolwyr cwrs, wedi penderfynu ysgrifennu’r llythyr hwn ar y cyd. O gofio fod ein hysgol ni’n cwmpasu nifer fawr o adrannau amrywiol, ac o ystyried hefyd bod y chwe ohonom ni sydd wedi ysgrifennu’r llythyr hwn yn fyfyrwyr mewn adrannau gwahanol, ’rydym wedi penderfynu rhannu dyletswyddau’r ysgrifennu rhyngom ni, yn y gobaith y gallwn bwysleisio effaith neilltuol a phellgyrhaeddol y toriadau arfaethedig hyn ar yr adrannau hynny y mae pob un ohonom ni’n perthyn iddynt. Fy enw i yw Lisa Sparkes, ac rydw i’n fyfyriwrwraig ym mlwyddyn gyntaf fy noethuriaeth yn yr Ysgol. Fi hefyd yw Uwch Gynrychiolydd cynrychiolwyr cwrs yr Ysgol. ’Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i dreulio pedair blynedd yn astudio yr Adran Droseddeg, Cyfiawnder Troseddol a Chymdeithaseg. Llynedd, derbyniais radd is-raddedig anrhydedd dosbarth cyntaf, ac ’rwy’n aros i glywed dosbarthiad fy ngradd Meistr. Oni bai am y gefnogaeth ’rwyf wedi’i derbyn gan ddarlithwyr yr ysgol, dwi’n siŵr na fyddwn i’n y sefyllfa freintiedig yr wyf ynddi heddiw. Yn wir, ’rwyf wedi derbyn cefnogaeth a chymorth gan nifer o staff yr Ysgol – nid yn unig gan staff o fewn maes fy nisgyblaeth fy hun, ond hefyd gan aelodau staff adrannau eraill yr Ysgol. Mae staff yr Adran Droseddeg a Chymdeithaseg yn cefnogi’u gilydd yn ogystal â myfyrwyr yr adran honno. Er hynny, teimlaf fod staff YHAGC wedi, ac yn parhau i fod, dan bwysau eithriadol i gefnogi myfyrwyr. Hyd yma, heb unrhyw amharch, maent wedi gor-gyflawni yn hynny o beth. O ystyried effaith yr argyfwng iechyd fyd-eang ar ein bywydau ni oll, mae pwysau cynyddol bellach ar bob aelod o staff YHAGC. Ymateb byrbwyll, gen i ofn, yw’r toriadau arfaethedig hyn, ac ’rwy’n ofni goblygiadau’r toriadau 2 arfaethedig hyn yn fawr. Byddai’r strwythur addysgu yn cael ei grebachu, ac o gofio’r pwysau ychwanegol sydd ar staff i gynnal y safon addysgu arbennig sydd gennym, beth fyddai’n digwydd? Mae gennyf barch mawr at bawb o fewn yr Ysgol, yn enwedig y staff. Ni fu, ac nid yw safon yr addysg erioed wedi bod mewn unrhyw amheuaeth – os bu angen prawf erioed o safon uchel yr addysg ’rydym ni’n ei derbyn, nid oes ond angen i chi edrych ar yr holl enwebiadau y mae aelodau staff yr Ysgol wedi’u derbyn yn y Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr dros y pedair blynedd diwethaf. Pan ddechreuais fy nghyfnod fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, cefais anawsterau gyda Chyllid Myfyrwyr Cymru – ac oni bai am yr Uned Gymorth Arian a ddarperir gan Wasanaethau Myfyrwyr, ni fyddwn yma heddiw yn gwireddu fy uchelgais. Hoffwn roi cydnabyddiaeth arbennig i Gwenda Blackmore yn benodol am ei chefnogaeth i mi. O fy mhrofiad blaenorol fel cynrychiolydd cwrs yn yr Ysgol, ’rydw i’n ymwybodol bod llawer o fy nghyd-fyfyrwyr wedi derbyn


64

cefnogaeth gan yr adran hon hefyd, yn ogystal â chefnogaeth ychwanegol gan wasanaethau fel y Gwasanaethau Cwnsela a’r Uned Dai. Heb yr unigolion yn yr adrannau yma, dwi’n grediniol na fyddai llawer o fyfyrwyr wedi ac yn parhau â’u haddysg ym Mhrifysgol Bangor. Byddai unrhyw doriadau i’r adrannau hyn nid yn unig yn ddinistriol i brofiad myfyrwyr Prifysgol Bangor, ond hefyd, yn fwy arwyddocaol fyth, yn peri niwed i’r Brifysgol ei hun yn y pen draw. Fy enw i yw Catherine, ac ’rydw i’n fyfyrwraig israddedig yn fy ail flwyddyn yn astudio Hanes ac Archaeoleg. Yn ogystal â bod yn gynrychiolydd cwrs, ’rwyf, yn anffodus, yn dioddef ag ambell i anabledd hefyd. Byddai’r toriadau hyn yn cael effaith ddigamsyniol ar fy addysg. Nid oes bryd gennyf i astudio Hanes Modern: pe bawn i’n cael dewis, byddai llawer gwell gennyf i ddilyn modiwlau sy’n ymwneud â chyfnod y Canol Oesoedd a chyfnodau cynharach – cyfnod y Dadeni, y Tywysogion, neu Gymru yn yr Oes Geltaidd neu Rufeinig, er enghraifft. Trwy ganolbwyntio ar agweddau Hanes Modern, serch hynny, ’rwy’n teimlo bod posibiliad y gallwch chi, yn anfwriadol, ddadrithio rhai o haneswyr disgleiriaf y dyfodol a fyddai’n teimlo na fyddai ganddynt le ym Mhrifysgol Bangor. Yn ychwanegol, nid pawb sy’n astudio Archaeoleg sy’n dymuno gwneud hynny mewn perthynas ag agweddau’n ymwneud â thwristiaeth a threftadaeth trwy gydol eu cwrs. Fel un hefyd sydd wedi gorfod defnyddio’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anabledd a ddarperir gan Wasanaethau 3 Myfyrwyr yn aml, gallaf dystio i’r ffaith nad ydynt wedi cael digon o gefnogaeth ariannol. Pe byddent yn colli mwy o aelodau o staff, mae potensial y byddai’r cyfnod ymaros presennol o dair wythnos yn treblu. Byddai’r colledion hynny, o ganlyniad, yn cael effaith negyddol ar iechyd meddwl myfyrwyr a’u haddysg. Hoffwn nodi hefyd, ar ran staff yr ysgol, y gallai gormod o doriadau gynyddu eu baich gwaith. Gall y colledion arfaethedig i staff gael effaith difrifol arnynt – maen nhw’n ei chael hi’n anodd i ddarparu darlithoedd o safon fel ag y mae hi, heb sôn am y marcio di-ddiwedd sydd ganddynt. Pe byddai’r achosion busnes hyn yn cael eu gweithredu, byddai llai o staff yn golygu mwy o bwysau gwaith i’r darlithwyr fyddai’n aros, a dwi’n pryderu y byddai hyn yn mynd yn ormod i rai darlithwyr. Yn olaf, pe baent yn gorweithio o ganlyniad i’r lleihad mewn aelodau o staff, byddai hyn nid yn unig yn gostwng ansawdd yr addysg y byddem ni’n ei derbyn, ond byddai hyn, yn ei dro, yn cael effaith niweidiol ar brofiad myfyrwyr Prifysgol Bangor ac ar iechyd meddwl myfyrwyr a staff fel ei gilydd. Fy enw i yw Samantha Tipton, ac ’rydw i’n fyfyrwraig yn fy nhrydedd flwyddyn yn dilyn cwrs israddedig Hanes ac Archaeoleg. Gall y naid o goleg neu chweched dosbarth i’r Brifysgol fod yn heriol i unrhyw un – mae’n gyfnod o ennill annibyniaeth, o faich gwaith trymach, ac o ymaddasu i fodd mwy academaidd o ysgrifennu – i gyd tra’n ceisio gwneud ffrindiau newydd a chymdeithasu. Roeddwn i, fy hun, yn bryderus am y naid hwn. Fel rhywun sydd ag awstistiaeth, mae cymdeithasu’n heriol i mi. Ni theimlais yn rhan o unrhyw gymdeithas yn ystod fy amser yn yr ysgol nac ychwaith, ar adegau, yn y coleg chweched dosbarth, a chefais i lawer o nosweithiau ar ddi-hun yn pryderu a fyddwn i’n dioddef eto yn y Brifysgol. Er hynny, ’rwy’n hynod ffodus o fedru dweud bod fy mhrofiad i fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn un arbennig. ’Rwyf wedi mwynhau a pherchnogi pob eiliad o fy amser yma fel myfyriwr. Afraid dweud fy mod


65

wedi mwynhau fy mhynciau’n arw, ac mae’r holl adnoddau sydd ar gael yn y Llyfrgell a’r Archifau wedi cyfoethogi fy mhrofiad yn ddiau. Er gwaethaf ffactorau eraill sydd wedi cyfrannu at fy mhrofiad fel myfyriwr, y prif elfen sy’n gyfrifol am fy mwynhad a’m hapusrwydd yma ym Mhrifysgol Bangor yw’r staff. Gallaf eich sicrhau fy mod yn siarad ar ran holl fyfyrwyr Hanes ac Archaeoleg wrth haeru bod holl 4 aelodau staff yr Ysgol yn mynd yr ail filltir er mwyn cefnogi anghenion y myfyrwyr. Mae’r brwdfrydedd a’r angerdd sydd gan bob un o’r aelodau yn eu pwnc yn rhywbeth y mae pob un ohonom yn ei werthfawrogi ac yn ei drysori – gallaf eich sicrhau nad oes un ohonom ni’n cymryd hyn yn ganiataol. Y prif beth a’m dennwyd i Brifysgol Bangor oedd y cwrs Hanes ac Archaeoleg. O ystyried y ffaith nad oes llawer o brifysgolion ym Mhrydain yn cynnig cwrs sy’n cwmpasu amrywiaeth mor amlhaenog o destunau, tra’n ffocysu’n benodol ar hanes Cymru a Phrydain, mae’r cwrs a gynigir ym Mhrifysgol Bangor yn hynod unigryw. Mae dylanwad y staff archaeolegol arnaf fi a fy astudiaethau wedi bod yn ddi-ben-draw. Mae pob aelod o’r staff yn cynnig rhywbeth gwahanol – o arbenigedd pwnc amrywiol; persbectifau theoretig cyferbyniol; dulliau ymchwil newydd ac arloesol – i enwi dim ond rhai agweddau. Pan ddeallais gyntaf am y toriadau arfaethedig hyn, yn enwedig y rhai i’r adran Archaeoleg, fe’m synnwyd. Mae’r Adran Hanes ac Archaeoleg yn bartneriaid agos – mae’n ein gwneud ni, fel myfyrwyr, yn galonnog o’u gweld yn plethu gyda’i gilydd. O fy safbwynt i, mae’r staff Archaeoleg wedi, ac yn parhau, i weithio’n andros o galed i feithrin amgylchedd gynnes a chynhwysol yn yr Ysgol. Mae’r darlithwyr yn eich trin nid yn unig fel myfyrwyr, ond, yn bwysicach fyth, fel ffrind. Maent wedi gweithio gyda’i gilydd, a gyda ni fel myfyrwyr, i greu adran llewyrchus a ffyniannus. ’Rydw i wir yn digalonni o feddwl am y posibiliad y byddai unrhyw un o’n haelodau’n cael eu diswyddo. ’Rwy’n erfyn arnoch chi i ail-ystyried eich toriadau arfaethedig i staff yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas – er mwyn ein profiad ni fel myfyrwyr, ein perthynas ni â’n staff arbennig sydd wedi gweithio’n hynod o ddyfal i feithrin ac i warchod ein lles ni fel myfyrwyr. Maent yn gofalu ac yn amddiffyn ein hangenion yn barhaus – dyma gyfle i ni dalu’r gymwynas yn ei hôl. David Ellis ydw i, ac rydw i’n ysgrifennu atoch fel myfyriwr Crefydd ac Athroniaeth. ’Rwyf yn fy nhrydedd blwyddyn yn dilyn cwrs doethuriaeth yma. ’Rwyf wedi astudio ym Mangor am flynyddoedd lawer, ac wedi dilyn cwrs gradd israddedig, meistr a doethuriaeth yma, ac ’rwyf wedi gwneud hynny oherwydd ansawdd safonol y dysgu, ethos y gymuned o fyfyrwyr, a’r hyn y mae’r adran yn ei gynrychioli. Nid oes dwywaith y byddai’r tri pheth hyn yn cael eu tanseilio pe byddwch yn gweithredu’r achosion busnes dan sylw. ’Rwy’n pryderu bod yr 5 achosion busnes hyn yn bygwth nid yn unig safon a marchnadwyedd academaidd yr Adran, ond, yn fwy arwyddocaol, yn tanseilio’r gwerthoedd a’r egwyddorion sylfaenol yr wyf i wedi’u trysori yn ystod fy nghyfnod yma fel myfyriwr. Mae Prifysgol Bangor yn ymfalchïo ym mhrofiad ei myfyrwyr, ac agwedd hanfodol o hynny yn ein hadran ni – yr Adran Grefydd ac Athroniaeth – yw’r gallu i deilwra eich cwrs gradd heb orfod cyfaddawdu ar ansawdd, gwerth na’r ysbryd gymunedol ymhlith myfyrwyr yr Ysgol. Mae’r hyblygrwydd hwn yn y dysgu wedi, ac yn parhau i fod, yn du hwnt o apelgar, ac mae gwybod eich bod chi’n cael eich dysgu gan arbenigwyr yn y maes yn galonogol iawn. Er gwaethaf hynny, byddai unrhyw golledion i


66

staff yr Ysgol yn arwain nid yn unig at lai o ddewis mewn modiwlau, ond hefyd at lai o arbenigwyr i’w dysgu. Y rhychwant hwn yn y testunau, a’r gallu i ddewis a dethol rhyngddynt, yw’r hyn a’m denodd i Brifysgol Bangor yn y lle cyntaf, ac rwyf i o’r farn y byddai colledion i staff yn cael effaith andwyol ar allu’r Adran i recriwtio myfyrwyr yn y dyfodol. Mae’r Adran Grefydd ac Athroniaeth yn un hynod o groesawgar a chynhwysol; adran fechan ydy hi ble y mae myfyrwyr yn medru cyfathrebu gyda’u darlithwyr yn ystyrlon heb orfod trefnu cyfarfodydd wythnosau o flaen llaw. Yn fy marn i, nid oes unrhyw amheuaeth y byddai fy addysg yn wahanol iawn pe bawn i mewn adran gyda llai o gysylltiad personol. Fel un sydd ag anawsterau dysgu, ’rwy’n hynod ddiolchgar i’r Adran Grefydd ac Athroniaeth, â’u profiad dysgu hyblyg a chyfannol, am eu bod wedi gwneud llawer i ddiwallu’u haddysg i fy anghenion arbennig i. ’Rydw i’n pryderu y byddai hyn yn cael ei beryglu pe byddech yn rhoi’r achosion busnes dan sylw ar waith. Mae’r cynlluniau busnes hyn, ’rwy’n ofni, yn peryglu hunaniaeth y Brifysgol yn gyfan gwbl. Dywedir yn aml nad oes modd cael prifysgol heb adran athroniaeth yn rhan ohoni. Mae’r rhesymeg y tu ôl i’r gwirionedd hwn yn un syml sy’n cael ei hesgeuluso’n fynych: mae’r athronydd yn cynrychioli’r unigolyn hwnnw sy’n ymroi i addysg, gwybodaeth a dysg. Un pryder arbennig sydd gen i, yn bersonol, yw’r bwriad i gael gwared ar enw ein hadran ni o enw arfaethedig yr ysgol gyfunedig newydd – yr Ysgol Hanes, Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith. Er mai adran gymharol fechan yw hi, mae’r Adran Athroniaeth a Chrefydd yn symbol bwerus o egwyddorion sylfaenol unrhyw brifysgol – mae’r Adran hon wedi, ac yn parhau, i feithrin 6 hunaniaeth ac ysbryd gymunedol hynod arbennig. Dewisais i, a myfyrwyr eraill, ddod i Brifysgol Bangor yn union oherwydd yr egwyddorion hyn. Byddai colli enw, colli staff, a cholli presenoldeb yn peryglu nid yn unig yr adran hon, ond hefyd, yn bwysicach fyth, yr egwyddorion a’r gwerthoedd y sefydlwyd y Brifysgol hon arnynt. Fy enw i yw Sophie, ac ’rydw i’n fyfyriwraig yn fy ail flwyddyn yn astudio Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol. Hoffwn fynegi fy mhryderon i am y toriadau arfaethedig hyn. Hoffwn ddechrau gyda’r newidiadau arfaethedig ar gyfer fy ysgol i’n benodol. Er fy mod i’n cytuno â’r egwyddor sydd gennych i ehangu agweddau proffesiynol a galwedigaethol y gwasanaethau gweinyddol, ’rwyf wedi’m drysu gan eich bwriadau i gyfyngu ar arweiniad ymchwil. Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis gradd neu fodiwlau penodol o ganlyniad i’r arbenigedd ymchwil a’r profiad gwaith sy’n cyd-fynd â hwy. ’Rwyf i o’r farn y gall gyfyngu ar arweiniad ymchwil arwain at ostyngiad mewn niferoedd myfyrwyr gan na fyddai ganddynt y dewis i wneud gwaith maes: rhywbeth sydd, yng nghyd-destun pynciau Gwyddorau Cymdeithas, yn hynod bwysig. I mi, pe byddai unrhyw newid yn strwythur yr addysg, ni fyddwn yn ystyried Bangor fel opsiwn ar gyfer fy astudiaethau ôlradd, gan y byddai gwell gennyf i astudio cwrs a fyddai’n canolbwyntio fwy ar ymchwil. Hoffwn i gymryd y cyfle hwn hefyd i fynegi fy siomedigaeth a’m syndod at eich cynlluniau i dorri aelodau staff y Gwasanaethau Myfyrwyr. Trwy gydol fy amser fel myfyriwr ym Mangor, ’rwyf wedi derbyn cymaint o gefnogaeth gan wasanaethau Neuadd Rathbone, a’r gwasanaethau Anableddau a Iechyd Meddwl yn arbennig. ’Rwyf hefyd yn ymwneud â Rhwydwaith Lles Undeb Bangor, ac ’rwy’n ymdrechu at ddechrau Cymdeithas Myfyrwyr Anabl. Hoffwn i chi ystyried pam y mae’r ddwy gymdeithas yma’n


67

cael eu ffurfio. Dyma’r ateb: fel myfyrwyr, nid ydym ni’n teimlo bod digon o gefnogaeth gan y Brifysgol. Nid yw myfyrwyr yn gwybod at bwy i droi i dderbyn cymorth, felly ’rydym ni wedi gorfod cymryd hyn i’n dwylo ein hunain. Mae rhestr aros y Gwasanaethau Iechyd eisoes yn dair wythnos, ac ’rwy’n bryderus y byddai hwnnw’n cael ei hymestyn pe byddwch yn gweithredu’r cynlluniau dan sylw. ’Rwyf wedi’m drysu gyda’ch bwriad i dorri adnoddau a gwasanaethau sydd mewn defnydd ac angen: â ninnau ynghanol pandemig lle mae myfyrwyr yn gorfod aros mewn neuaddau gyda phobl sy’n ddieithriaid iddynt, mae angen y rhain yn fwy nag erioed. Dylai gwasanaethau iechyd meddwl fod yn flaenoriaeth ymhob prifysgol, ond, o ystyried y cynlluniau busnes hyn, ’rwy’n bryderus nad ydynt yn flaenoriaeth gennych. Cai Fôn Davies ydw i, ac ’rydw i’n fyfyriwr yn fy nhrydedd blwyddyn yn astudio Cymraeg a Hanes. ’Rydw i’n gwrthwynebu cynlluniau’r Brifysgol am amryw resymau. Yn bersonol, ’rydw i’n pryderu y byddai gweithredu’r toriadau arfaethedig yn ergyd enfawr i’r enw da haeddiannol hwnnw y mae Prifysgol Bangor wedi’i hennill yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Yn ogystal â hynny, byddai gweithredu’r cynlluniau dan sylw’n niweidiol i brofiad myfyrwyr y Brifysgol – sut, tybed, y gellir cynnal, heb sôn am wella, profiad myfyrwyr gyda llai o aelodau o staff? Pe bai’r cynlluniau hyn yn cael eu rhoi ar waith gennych, ’rwy’n ofni mai dim ond niweidio’r Brifysgol y byddech yn ei wneud yn yr hirdymor, gan y byddai effaith y toriadau’n andwyol ar safon addysg eithriadol y Brifysgol. Wrth geisio gweithredu cynlluniau mor ddadleuol yn ddi-wrthwynebiad, a hynny ynghanol pandemig, dwi’n teimlo eich bod wedi cymryd mantais o ddryswch y sefyllfa bresennol. Nid yn unig yw hyn yn annemocrataidd, ond hefyd yn anfoesol. Er fy mod i’n cydymdeimlo eich bod mewn sefyllfa anodd wrth geisio dal dau pen llinyn ynghyd, mae’ch cynlluniau byrbwyll i dorri staff yn achosi straen ychwanegol dianghenrhaid ar bawb, a hynny mewn cyfnod sydd, fel y gwyddwn yn dda, yn un hynod ansefydlog. Mae 6.6 o swyddi cyflogaeth llawn amser dan fygythiad yn yr Ysgol, a theimlaf y byddai’r bwriad i ddiswyddo dau aelod o’r Ysgol Hanes (swydd 0.4 cyflogaeth llawn amser mewn Hanes Cymru a’r Oesoedd Canol, ac 1 swydd cyflogaeth amser llawn mewn Hanes Modern Ewrop) yn ergyd drom i’r Ysgol ac i Gymru gyfan. Does dim amheuaeth y byddai diswyddo dau aelod o staff llawn amser yn cael effaith ddinistriol ar ddarpariaeth Gymraeg y Brifysgol, ac yn ergyd i ysgolheictod Cymraeg. Adnabyddir Prifysgol Bangor trwy Gymru fel un o brif ganolfannau dysg Hanes. Afraid dweud bod yr Ysgol Hanes a Hanes Cymru, fel un o’i hysgolion hynaf, wedi bod yn gaffaeliad i’r Coleg. Mae’r Ysgol wedi chwarae rhan hynod arwyddocaol yn hanes y Brifysgol. Mae cyfraniad bywiog yr Ysgol i fywyd diwylliannol Cymru wedi bod, ac yn parhau i fod, yn gwbl ddigamsyniol. Ond o ystyried y bygythiadau a’r heriau sy’n wynebu’r Gymraeg yn ddyddiol, ’rwy’n ofni y byddai gwireddu’r cynlluniau hyn yn tanseilio statws a pharhad y Gymraeg ei hun fel cyfrwng academaidd. 8 Mae holl staff, darlithwyr a phenaethiaid yr ysgol yn mynd y filltir ychwanegol i sicrhau ein bod ni’n cael yr addysg orau posibl. Er hynny, ar hyn o bryd, maent at eu clustiau wrth geisio delio â gofynion eu gwaith heb sôn am geisio darparu’r profiad gorau i ni fel myfyrwyr. ’Rydym ni i gyd yn hynod bryderus. Pe bai unrhyw swyddi’n cael eu torri o’r ysgol hon, a phe byddwch yn addrefnu’r ysgol hon am yr ail waith mewn tair blynedd, ’rydym yn ofni y byddai hyn yn


68

cael effaith ddinistriol nid yn unig ar brofiad myfyrwyr, ond hefyd ar staff yr Ysgol. Byddai gweithredu’r cynlluniau gwaith yn cynyddu baich gwaith darlithwyr sydd eisoes dan bwysau, a byddai hyn yn niweidiol i brofiad dysgu’r myfyrwyr, ac yn y pen draw, yn ddinistriol i enw da’r Brifysgol. Yn gywir iawn, ar ran holl fyfyrwyr, staff a chynrychiolwyr cwrs yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas, Lisa Sparkes, Catherine Maskrey, Samantha Tipton, David Ellis, Sophie Paget a Cai Fôn Davies.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.