21 | MEINI BYWIOL, GOBAITH BYWIOL
ASTUDIAETH 3
DIWINYDDIAETH RHYDDHAD
O Asia symudwn i America Ladin ac ystyried diwinyddiaeth rhyddhad, a oedd yn chwyldroadol yn nhirlun diwinyddiaeth Gristnogol mewn llawer ffordd. Gyda’i gwreiddiau yn nhlodi America Ladin, fe gondemniodd diwinyddiaeth rhyddhad unrhyw
ffurf ar ddiwinyddiaeth oedd yn haniaethol ac nad oedd yn cymryd i ystyriaeth brofiad pobl. Man cychwyn diwinyddiaeth rhyddhad oedd ‘opsiwn ffafriol o blaid y tlodion’. Golygai hyn ddiwinydda o safbwynt y tlodion a chydag ymrwymiad i’w rhyddhad.