BA Documentary Photography · Cold Shoe · Graduate Publication 2023

Page 1

Photography is in crisis. Apparently. Although I thought it was in crisis last year, and the year before that, and the year before that too. Photography, it seems, is like Lazarus. If only it would stay dead. First it was video, then digital images and image manipulation. Now it’s AI that supposedly threatens to bury photography once and for all. Of course such statements are largely meaningless. Art theorists are nothing if not melodramatic, and it’s far more eye catching to claim the medium is on the verge of death than it is to point out what’s actually happening: That our relationship to photography is changing, as it has been ever since the first images were fixed onto glass plates.

There’s a lot here, ranging from the traditional to the unexpected, a tour of the landscape of contemporary photography in 10 artists. The course may have cut its teeth with social realism back in the 70s, but in a world where consensus based reality no longer exists, such terms no longer hold much meaning. Instead the work on show here is experimental and confrontational, questioning themes of identity and representation, bursting out of the frame into other disciplines and turning the camera back onto the medium itself. Some might dismiss such a variety of styles and disciplines as confused or overly eclectic, but they would be wrong. This is photography at its most profound, at its strangest and most sobering extremes andcrucially - at its most alive.

- Sam Gillibrand, on behalf of the Doc Phot class of 2023.

Mae ffotograffiaeth mewn argyfwng. Yn ôl pob sôn. Er roeddwn i’n meddwl ei fod mewn argyfwng blwyddyn diwethaf, a’r flwyddyn cyn hynny, a’r flwyddyn cyn hynny hefyd. Mae ffotograffiaeth, mae’n ymddangos, fel Lasarus. Buasai’n well os fyddai’n aros yn farw. Yn gyntaf roedd fideo, wedyn delweddau ddigidol a thrin delweddau. Nawr tybion nhw fod deallusrwydd artiffisial yn bygwth claddu ffotograffiaeth am byth. Wrth gwrs mae datganiadau felly yn bennaf heb ystyr. Mae damcaniaethwyr celf yn felodramatig fel proffesiwn, ac mae’n dal fwy o lygaid i broffesu fod y cyfrwng ar fin ei farwolaeth nag i esbonio beth sy’n digwydd mewn gwirionedd: Fod ein perthynas i ffotograffiaeth yn newid, yn union debyg ers i ddelweddau yn gyntaf wedi cael eu sefydlu ar blatiau gwydr.

Mae yna llawer yma, yn amrywio o’r traddodiadol i’r annisgwyl, cylchdaith tirwedd ffotograffiaeth cyfoes mewn 10 artist. Cafodd y cwrs ei ddechrau ar realaeth gymdaethasol yn y 70au, ond mewn byd lle nad oes ragor realiti wedi seilio ar gonsensws, nid yw termau felly yn cario llawer o ystyr. Yn lle, mae’r gwaith ar ddangos yma yn arbrofol a gwrthdarol, yn cwestiynu themâu o hunaniaeth a chynrychiolaeth, yn byrstio allan o’r ffram i fewn i ddisgyblaethau eraill ac yn troi’r camera yn ol ar ei hunan. Fydd rhai yn gwrthod gymaint o amrywiaeth mewn arddull a disgyblaethau yn ddryslyd, neu’n or-eclectig, ond fyddai nhw’n anghywir. Dyma ffotograffiaeth ar ei fwyaf dwys, ar ei eithafion ryfeddaf a fwyaf sober, ac - yn ollbwysig - ar ei fwyaf fywiol.

- Sam Gillibrand, ar ran dosbarth Doc Phot 2023.

Ellen Budd

Robin Chaddah-Duke

Callie Gale

Sam Gillibrand

Finn Green

Yasmina Husin

Sadhbh Lynam

Bella Macauley

Louis McAllister

Joseph Robertson

8 12 16 20 24 28 32 36 40 44

“Cold Shoe” is not only a clear nod to professional camera gear, but also to the many people the students have met on their journey of becoming documentary photographers. They have taught the students to walk in their subjects’ shoes, as well as how to share that experience through gripping photographs. We therefore hope that the stories collected under the banner of Cold Shoe will trigger an empathetic response in all who encounter them in the graduation show and publication, and will provide a flash of inspiration for others to follow in their footsteps.

Cold Shoe features the work of ten budding documentary photographers on the cusp of entering the professional world. The projects included are presented in a myriad of ways, including through photography, film, photobooks, site-specific installations, and soundscapes. Themes explored include the South Asian experience in the UK, the political and historical myths surrounding real life in Kosovo, the gentrification of London neighbourhoods, the vicissitudes of rural life in the Scottish Highlands, the search for the heart of Ireland as an émigré, and the taboos surrounding specific sexual practices.

The ten projects featured reflect both the variety of interests held by the group as well as the course’s tradition of rigorous and vibrant documentary practice. The work produced for this year’s show demonstrates the course’s continued dedication to creative and insightful storytelling. Cold Shoe offers viewers the opportunity to step into and explore documentary photography in new ways, as well as access worlds not previously encountered.

- Karin Bareman, on behalf of the teaching team of Doc Phot 2023.

Nid yn unig yw “Cold Shoe” yn gyfeiriant i offer camera proffesiynol, ond mae hefyd yn gyfeiriant i’r bobl mae’r myfyrwyr wedi cwrdd ar y taith hir i ddod yn ffotograffwyr ddogfennol. Maen nhw wedi dysgu’r myfyrwyr i gerdded yn esgidiau eu testunau, ond hefyd sut i rannu’r profiadau honno drwy ffotograffiau gwefreiddiol. Rydym ni’n gobeithio felly fydd y straeon sydd wedi eu casglu dan faner Cold Shoe yn tanio ymateb empathetig o fewn bob un sy’n eu cyfarfod yn yr arddangosfa a chyhoeddiad raddio, ac yn roi fflach o ysbrydoliaeth i eraill ddilyn yn eu camre.

Mae Cold Shoe yn amlygu gwaith deg ffotograffydd ddogfennol blagurol ar fin treiddio byd arfer proffesiynol. Dangosir y prosiectau cynwysedig mewn amrywiaeth o ffurfiau, gan gynnwys ffotograffiaeth, ffilm, ffoto-lyfrau, gosodiadau arbenigol-i’r-safle, a seinweddau. Archwilir themâu sy’n cynnwys y profiad De Asiaidd yn y DU, y mytholeg gwleidyddol a hanesyddol sy’n amgylchynnu bywyd yn Kosovo, boneddigeiddrwydd cymdogaethau Llundain, troeon ffawd ym mywyd gwledig Ucheldiroedd yr Alban, chwilio am galon Iwerddon fel émigré a’r tabŵs o gwmpas arferion ryw spesiffig.

Mae’r deg prosiect sy’n cael eu harddangos yn adlewyrchu’r amrywiaeth o ddiddordebau, yn ogystal â thraddodiad y cwrs o arfer ddogfennol drwyadl a bywiog.

Mae’r gwaith sydd wedi cael ei gynhyrchu ar gyfer yr arddangosfa yn tystio ymroddiad parhaol y cwrs i adrodd straeon creadigol a chraff. Cyflwynir darllenwyr Cold Shoe gyda chyfle i archwilio ffotograffiaeth ddogfennol mewn ffyrdd newydd a chyffrous, yn ogystal â mynediad i bydoedd sydd yn flaenorol heb eu ymgyfarfod.

- Karin Bareman, ar ran tîm dysgu a darlithwyr Doc Phot 2023.

David Barnes, Karin Bareman, Lisa Barnard, Mark Durden, Eileen Little, Fergus Thomas, Gawain Barnard, Ian Llewellyn, Sarah Barnes, Nate Davies, Chris Edwards.

Ellen Budd Bakerloo to Lewisham

This body of work finds its origins in the ambitious proposal to extend the Bakerloo Line, a vital underground railway system in London. The extension will connect Elephant and Castle to Lewisham, opening up relatively badly connected areas. As an artist, my goal is to document this transformative impact through photography, blending portraiture and architecture.

I aim to capture the evolving urban landscape and its inhabitants, illustrating the intersection of urban development, transportation, and human experience. By chronicling the transition, my visual narrative becomes a testament to the profound changes brought about by regeneration in Southeast London. Through my lens, I seek to encapsulate the spirit of this historic undertaking, creating a lasting visual legacy for London’s ever-evolving story.

Darganfir gwreiddiau’r prosiect hwn yn y cynnig uchelgeisiol i ymestyn y Llinell Bakerloo, system reilffordd tanddaearol yn Llundain. Bydd yr ychwanegiad yn cysylltu Elephant and Castle a Lewisham, ac agor ardaloedd tan-gysylltiedig. Fel artist, fy nod yw i ddogfennu’r impact trawsnewidol drwy ffotograffiaeth, gan gymysgu portreadaeth gyda pensaerniaeth.

Rwy’n anelu i ddangos y tirwedd drefol esblygiadol, yn ogystal â’r trigolion, gan ddarlunio’r croestoriad rhwng ddatblygiad trefol, trafnidiaeth, a’r profiad dynol. Drwy groniglo’r trawsnewidiaeth, mae’r naratif weledol yn creu testament i’r newid ddwys sy’n cael eu heffeithio gan adfywiad Deddwyrain Llundain. Trwy’r lens, rwy’n ceisio dal ysbryd yr ymgymeriad hanesyddol hon a chreu etifeddiaeth weledol ar gyfer stori parhaol Llundain.

8-9 @e.buddphotos

Robin Chaddah-Duke

Dyeing the Tiger's Stripes

These photographs bring together Muslim, Sikh and Hindu people from the Indian Subcontinent who now live in Britain. Their relationship is complex due to the backdrop of political and religious violence that was seen in the Indian Partition of 1947.

Over fifty years later, we are still seeing the aftermath of India’s partition. Communities once living side by side now stand separately. This work brings these estranged groups together in order to question the cause of these conflicts.

The fabrics dispersed throughout the work are from Pakistan, Bangladesh, and India. Their unique colours and traditional patterns allow us to move between community spaces and homes, uniting groups that are separated.

Mae’r ffotograffiau yma yn portreadu pobl Mwslimaidd, Sikh, a Hindu o’r Is-Gyfandir Indiaidd sydd nawr yn byw ym Mhrydain. Mae eu perthynas yn gymhleth oherwydd y cefndir o trais gwleidyddol a chrefyddol a welwyd yn Raniad Indiaidd 1947.

Dros pum deg mlynedd wedyn, rydym ni yn dal i weld canlyniadau rhaniad India. Unwaith yn byw ochr-wrth-ochr, mae cymunedau nawr yn wahaniedig. Mae’r gwaith yma yn dod a’r grwpiau yma sydd wedi dieithrio at ei gilydd er mwyn cwestiynu’r resymau dros eu gwrthdaro.

Drwy’r gwaith mae yna ffabrigau o Bacistan, Bangladesh ac India. Mae eu lliwiau unigryw a phatrymau traddodiadol yn ein gwahodd i symud drwy cymunedau a chartrefi gan uno grwpiau sydd wedi gwahanu.

12-13 @robinphotog

Callie Gale

The animals we love and the

animals we tear to pieces

This project revolves around my complicated family experience.

My mum was adopted at birth and later reconnected with her biological family. The project considers how the families she has surrounded me with have provoked me to confront feelings of frustration, insignificance and my sense of belonging.

The project also depicts the first time I met my father in seventeen years. This happened over a single week in which I lived with him in his house, during which time I experienced feelings of anger, comfort and fear. Being in his home whilst he was at work created tensions, which I explored by photographing his empty rooms. At the beginning I was lost, confused by who this character was; our connection had been distant, but was never completely broken. A new love grew from our reconnection, which replaced my instincts to protect myself.

Growing up, I have sometimes struggled to fit in. This project has been a way of me coming to terms with how my families have made me who I am, and allowed me to reconsider what family really means.

Mae’r prosiect hon yn amgylchynnu fy mhrofiad cymhleth o deulu.

Cafodd fy mam ei mabwysiadu ar enedigaeth, a chysylltodd hi yn ddiweddarach gyda ei theulu biolegol. Mae’r prosiect yn ystyried sut mae’r teuluoedd sydd yn fy amgylchynnu wedi fy mhryfocio i wynebu teimladau o rwystredigaeth, amhwysicrwydd, cysur, a teimlo’n perthyn.

Mae’r prosiect hefyd yn darlunio fy nhad dros gyfnod o un wythnos, pan fe arhosais yn ei gartref. Dyma’r tro cyntaf fe gwrddon ni mewn undeg saith mlynedd. Profais deimladau o ddicter, cysur, ofn, a chynhesrwydd. Roedd treulio amser yn ei gartref tra ei bod yn gweithio yn creu tensiynau, ac fe archwiliais rhain drwy ffotograffu’r ystafelloedd gwag roeddwn i tu fewn. Yn y dechrau, roeddwn i ar goll, wedi drysu gan y cymeriad hwn. Roedd ein cysylltiad wedi bod yn bell, ond byth wedi torri’n hollol. Drwy gydol broses y prosiect, tyfodd cariad newydd drwy ein hail-gysylltiad, a ddisodlodd fy nghreddfau i amddiffyn fy hun.

Yn tyfu lan, rydw i ambell waith wedi stryglo i teimlo’n perthyn. Mae’r brosiect hon wedi bod yn ffordd i fi dod i dermau gyda’r ffordd mae fy nheuluoedd wedi fy siapio, ac mae wedi helpu fi i ail-ystyried gwir ystyr teulu.

16-17 @calsgale

Sam Gillibrand Alamo

‘Alamo’ is a project about modern-day political mythology, and how our inability to process the complex and chaotic nature of existence causes us to revisit the past to create comfortable and understandable myths that help us cope with the unpredictable nature of the present.

Centring on the Balkan nation of Kosovo as it is gripped by political crises that threaten not only the nation’s fragile political system, but regional stability as a whole, ‘Alamo’ depicts a nation consumed by competing historical narratives spanning centuries of convoluted and frequently violent history. Here visions of the past refuse to disappear, instead manifesting themselves in a contested landscape that is simultaneously vital and detrimental to our understanding of the present.

Mae ‘Alamo’ yn brosiect am fytholeg gwleidyddol cyfoes, a sut mae’r anallu i brosesu natur cymhleth ac anhrefnus bodolaeth yn achosi i ni i ailymweld a’r gorffennol er mwyn creu mythau cyfforddus a dealladwy i’n helpu ni ymdopi â natur anrhagweladwy’r presennol.

Gan ganoli ar genedl Balcan Kosovo wrth iddo gael ei afael gan argyfyngau gwleidyddol sy’n bygwth nid yn unig ei system gwleidyddol ond ei sefydlogrwydd ar y cyfan, mae ‘Alamo’ yn darlunio cenedl sy’n cael ei hysu gan naratifau hanesyddol cystadleuol sy’n rychwantu canrifoedd o hanes trofaus, ac yn aml treisgar. Yma mae gwelediadau’r gorffennol yn gwrthod diflannu, ac yn amlygu eu hunain mewn tirwedd sy’n ornest, yn gydamserol yn hanfodol ac yn ddistrywiol i ddealltwiraeth y presennol.

20-21 @sam_gillibrand

Finn Green Towards

distance.

Time and the city

This series continues an ongoing conversation I have been developing between the photographic image and the sonic space to find a psycho-geographic relationship within the urban cityscape. Given the purpose, this literal and visual distortion of the material world can challenge the perceived characterisations of this space and our non-visual understandings of a fragmented environment into something more.

How do we identify the signifying factors of a cityscape, a zone of dilated time confronted by the unfortunate realisation that everything around us holds a temporary materiality? Do we illustrate pre-existing images and ideologies as a way of counteracting the fragmented realities that invade our fields of knowledge?

The project explores notions of love, life, friendship, urbanisation, transience, and fragmented narratives.

Portreir yn y gyfres hon ymgom parhaus rwyf wedi datblygu rhwng y ddelwedd ffotograffig a’r ofod sonig er mwyn darganfod perthynas seico-ddaearyddol o fewn y ddinaslun trefol. Gan ystyried ei bwrpas, mae’r afluniad llythrennol a gweledol hon o’r byd materol yn herio nodweddiadau canfyddiedig y gofod hwn, a’n dealltwriaethau anweledol o amgylchedd darniog i rywbeth bellach.

Sut ydym ni’n adnabod ffactorau arwyddocaol dinaslun, parth o amser ymledol sydd wedi ei gyfwynebu gan y sylweddolaeth anffodus fod popeth o’n cwmpas yn dal materoldeb dros dro. Ydym ni yn darlunio delweddau ac ideolegau cynfodol fel ffordd o wrth-wneud y gwirioneddau darniog sydd yn ymosod ar ein gwybodaethau?

Archwilir y brosiect hon cysyniadau cariad, bywyd, cyfeillgarwch, trefoli, byrhoedledd a naratifau darniog.

24-25 @ginn_freen

Yasmina Husin

Reverberations in the Digital Sea

Colourful dots of light taking on various abstract forms in a darkened space… It is the artificial intelligence’s re-representation of images sourced from the internet in the form of ‘data traces’: strings of dots copying the movements, contours and light patterns in these images as recognised by the machine.

The digital sea of the internet is the point where the two perceptions, human and machinic, meet and influence each other: where the world is reduced to its data. AI, standing behind most of our internet activities, is tasked with shuffling these traces and dots of data which acquire their meaning and significance from human beings.

Understood as such, the AI’s perception of the world can be viewed as reverberating waves of dreaming.

Dotiau lliwgar o olau yn cymeryd amrywiaeth o ffurfiau haniaethol mewn gofod tywyll... Dyma ail-gynrychiolaeth deallusrwydd artiffisial o ddelweddau o’r ryngrwyd yn ffurf ‘trasiau data’: tannau o ddotiau yn adlewyrchu’r symudiadau, cyfuchliniau, a phatrymau golau yn y ddelweddau fel caent eu cydnabod gan y peiriant.

Môr ddigidol y ryngrwyd yw’r pwynt y mae’r ddau canfyddiad, dynol a pheiriannol, yn cwrdd ac yn dylanwadu ei gilydd: lle mae’r byd yn cael ei lleihau i’w ddata. Caiff DA, sy’n sefyll tu ôl i’r ran fwyaf o’n gweithredau ryngrwyd, ei dasgio gyda shifflo’r trasiau a dotiau o ddata sydd yn ennill eu hystyr a phwysigrwydd drwy bodau dynol.

Gan ddeall hyn, gall ganfyddiad DA o’r byd gael ei weld fel tonau atseiniol o freuddwydio.

28-29 @yasminahusin.photography

Sadhbh Lynam

Don't Forget the Bush you

Dried your Shirt on

Over the past two centuries, close to ten million people have departed Ireland, including myself.

This series is a reflection on the importance of homeland and its impact on identity. As we unravel the ties that bind us, we are left with the fear of disconnection and loss of one’s homeland. There is an innate yearning within us to preserve a sense of ‘home’ in physical and emotional terms.

Memories of Ireland are clouded by a confabulated subconscious view of rural living, selectively forgetting my previous life, which was lonely and isolated. Exploring inner conflicts and complex relationships with home invites viewers to question the ephemeral nature of homeland, thereby gaining insight into feelings of disconnection, detachment and ostracization.

Dros y dau ganrif diwethaf, mae bron deg miliwn o bobl wedi ymadael o Iwerddon, yn cynnwys finnau.

Mae’r gyfres hon yn fyfyriad ar bwysigrwydd mamwlad a’i heffaith ar hunaniaeth. Wrth i ni ddad-wneud y clymau sy’n rwymo, rydym ni’n cael ein gadael gydag ofn ddatgysylltiad a cholled y famwlad. Mae yna hiraeth gynhenid i ni ddiogelu cysyniad o ‘gartref’ yn nhermau ffisegol ac emosiynol.

Mae atgofion o Iwerddon wedi eu cymylu gan safbwynt isymwybodol o fywyd wledig, gan anghofio’n ddetholus fy mywyd blaenorol a oedd yn unig ac ynysig. Gan archwilio gwrthdaro mewnol a pherthnasoedd cymhleth gyda’r cartref, gwahoddir darllenwyr i gwestiynu natur byrhoedlog mamwlad, felly’n ennill mewnwelediad i deimladau o ddatgysylltiad, datodiad ac alltudiad.

32-33 @s_lynam_shoots

Níl aon tionchar ag an eisimirce ar thír ar bith san Eoraip le dhá chéad bliain anuas ná mar atá ag Éirinn. Ó 1800 faoi leith d’fhág beagnach 10 mhilliún duine an t-oileán, mé fhéin san áireamh.

Is machnamh é ‘Don’t Forget The Bush You Dried Your Shirt on’ ar an tábhacht a bhaineann le dhúchais agus an tionchar a bhíonn aige ar fhéiniúlacht. Agus muid ag tosú ar na naisc seo a réiteach, is féidir linn a fhágáil faoi eagla go ndícheangal agus go gcaillfear ár dtír dhúchais. Tá fonn dúchasach ionainn chun meon an ‘bhaile’ a chaomhnú i dtéarmaí fisiceacha agus mothúchánacha araon.

Is minic a bhíonn na hidéil mhóréilimh de chultúr na hÉireann ag casadh timpeall, Guinness, reiligiún, agus prátaí. Ach domsa, níl aon athshondas acu seo. Tá cuimhní ar Éirinn scamallaithe ag radharc fo-chomhfhiosach ar shaol na tuaithe, ag déanamh dearmad go roghnach ar an saol a d’fhág mé a bhí uaigneach agus iargúlta. Scrúdaíonn an tsuiteáil suíomh-shonrach seo coinbhleachtaí laistigh agus caidrimh chasta leis an mbaile ag tabhairt cuireadh don bhreathnóir nádúr gearrshaolach thír dhúchais a cheistiú. Léargas a fháil ar mhothúcháin dícheangailteachta, agus dícheangail.

Bella Macauley Fluid

“The emphasis on sex that currently permeates our public life – especially the enormous demand for sexual advice and therapy – attests not to our sexual freedom but to our continuing sexual frustration. People who are not hungry are not obsessed with food” - Ellen Willis

Sex has been rejected, shamed, and ridiculed in our culture, and as time goes on there is less freedom and discourse of the repression that develops with the rise of capitalism.

This series comprises photographs of participants in the Berlin Fetish Week and individuals across South Wales into specific forms of sex. Having gained the subjects’ trust, these photographs were made collaboratively to challenge taboos around sexual desires and fetishes by capturing a sense of identity and community.

“Mae’r emffasis ar ryw sy’n bresennol yn treiddio ein bywyd cyhoeddus - yn enwedig y galw enfawr am gyngor rywiol a therapiyn tystio nid ein ryddid rywiol ond ein rwystredigaeth rywiol parhaol. Dydy pobl sydd ddim yn llwglyd ddim yn gwirioni dros fwyd” - Ellen Willis

Mae rhyw wedi cael ei wrthodi, cywilyddo, a gwawdio yn ein diwylliant ac wrth i amser fynd ymlaen mae yna llai o ryddid a disgwrs o ormes sy’n datblygu gyda chynnydd cyfalafiaeth.

Mae’r gyfres hon yn cynnwys ffotograffiau o gyfranogwyr yn Wythnos Ffetis Berlin ac unigolion ar draws De Cymru mewn amrywiaeth o ffurfiau o ryw. Wedi ennill y mddiried, creir y ffotograffiau yma yn gydweithredol er mwyn herio’r tabŵ ynghylch chwantau rywiol a ffetisiau gan ddangos synnwyr o hunaniaeth a chymuned.

36-37 @macauley.jpeg

Louis McAllister

Kill the Deer

Humankind’s activity in the Scottish Highlands has left it a heavily nature-depleted landscape.

In years following the extinction of Scotland’s large predators, the deer population has increased exponentially, doubling since 1990 to around a million. The grazing habits of these animals prevents land from regenerating.

For rewilding projects to succeed, all deer in the targeted areas must be killed. Though it seems counterintuitive to remedy problems caused by human intervention by intervening further, deer culls are broadly accepted to be a critical aspect of Highland rewilding.

This project follows a conservation group’s deerstalkers on the Knoydart peninsula as they hunt through late winter, picturing the tension inherent in killing to promote new life.

Mae gweithgareddau dyn yn Ucheldiroedd yr Alban wedi eu gadael yn tirwedd sydd wedi ei ddihysbyddu’n drwm.

Yn y blynyddoedd dilynol i ddifodiant ysglyfaethwyr mawr yr Alban, mae boblogaeth y ceirw wedi cynyddu’n esbonyddol, gan ddyblu ers 1990 i tua miliwn. Mae arferion pori’r anifeiliad yma yn atal y tirwedd rag adferu.

Er mwyn i brosiectau ailwylltio i lwyddo, mae’n raid i’r oll ceirw yn yr ardaloedd gael eu difa. Er ei fod yn ymddangos yn wrthreddfol i wella problemau a achosir gan ymyrraeth ddynol drwy ymyrru’n bellach, derbynir difa ceirw yn agwedd allweddol o ailwylltio’r Ucheldiroedd.

Dilynir y brosiect hon helwyr grŵp cadwraeth ar benrhyn Knoydart wrth iddyn nhw hela drwy’r gaeaf, gan ddarlunio’r tensiwn sy’n gynhenid mewn lladd er mwyn creu bywyd newydd.

40-41 @louismcallister

Joseph Robertson Downwind Twenty Nine

East Lothian is an area of Scotland that is widely recognised for its beautiful beaches and as the location for the Scottish Open golf tournament. Many visitors to the area may be unaware of the community of Microlight flyers who soar the skies above.

Since the 1980s, hobby enthusiasts who want to learn to fly have used ‘ultralight aircraft’ or ‘Microlights’.

‘Downwind 29’ is a series that aims to capture the thrill and enjoyment ‘microlight’ flyers get from flying, as well as to show the parts of the hobby that are often overlooked, such as the pre-flight checks, learner flyers, maintenance of the airfield and aircraft, and the cup of tea at the end of a flight.

Mae Dwyrain Lothian yn ardal o’r Alban sydd yn adnabyddiedig yn eang am ei draethau prydferth ac fel lleoliad twrnament golff y Twrnamaint Agored yr Alban. Mae’n bosib fod llawer o ymwelwyr i’r ardal yn ymwybodol o’r cymuned o hedfanwyr ‘Microlight’ sydd yn esgyn yr awyr uwchben.

Ers yr 1980au, mae pobl sy’n brwdfrydig i ddysgu i hedfan wedi defnyddio ‘awyrennau gor-ysgafn’, neu ‘Microlights’.

Mae ‘Downwind 29’ yn gyfres sydd yn ceisio dal y gwefr a mwynhad mae hedfanwyr ‘microlights’ yn dwyn drwy hedfan, yn ogystal ag agweddau’r hobi sy’n aml yn cael eu gor-edrych, er enghraifft y gwiriadau cyn-hedfan, cynnal a chadw’r maes awyr, yr awyrennau a’r cwpan o de ar ddiwedd hediad.

44-45 @spark_photography__

Since it was established by Magnum photographer David Hurn in 1973, BA Documentary Photography has become one of the leading documentary and photojournalism courses in the world. Our students have a passion for storytelling in all its forms. We are international, diverse and inclusive. We have an informal approach to teaching and closely support you to work on topics that you are passionate about; to produce powerful and visually distinctive photography.

Our assignments immerse you in fine printing, photobook and zine making, exhibition production, digital storytelling, documentary film, and much more. Our students and alumni are celebrated within the photographic industry: winning major awards, featuring in international exhibitions, publishing photobooks, producing documentary films and working as photojournalists for the world’s most prestigious news agencies including Associated Press, magazines like The New York Times, National Geographic, and Time Magazine.

BA Documentary Photography is part of a centre of excellence at USW including MA Documentary Photography and The European Centre for Documentary Research.

We have a bespoke, specialist department with full digital and analogue facilities in central Cardiff, Wales. We are also home to one of the largest specialist library collections of documentary photobooks in Europe.

Come join us! To find out more, please email course leader David Barnes: david.barnes@southwales.ac.uk.

Visit us at: docphotusw.com

www.southwales.ac.uk/docphotba instagram.com/docphotusw

twitter.com/docphotusw facebook.com/docphotusw

Scan the QR code for updates on the course, open days, and special events:

Ers ei sefydliad gan ffotograffydd Magnum, David Hurn yn 1973, mae’r cwrs BA Ffotograffiaeth Ddogfennol wedi datblygu i fod yn un o’r cyrsiau ffotograffiaeth ddogfennol a ffotonewyddiaduriaeth fwyaf blaenllaw y byd. Mae ein myfyrwyr yn angerddol dros adrodd straeon am faterion cymdeithasol ymhob ffurf. Rydym yn eich mentora’n agos a’ch annog i weithio ar bynciau rydych yn angerddol yn eu cylch; er mwyn creu delweddau pwerus a thrawiadol.

Mae ein aseiniadau yn eich ymdrochi i’r byd o brint cain a ffoto-lyfrau, cynnyrch arddangosfa, adrodd stori’n ddigidol ar gyfer y we, ffilmiau

dogfennol a llawer mwy. Mae ein myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr yn ennill clôd yn y diwydiant ffotograffiaeth: yn ennill gwobrau nodedig; yn arddangos eu gwaith mewn arddangosfeydd rhyngwladol; yn cyhoeddi llyfrau ac yn cynhyrchu ffilmiau dogfennol, yn gweithio fel ffoto-newyddiaduron i rai o asiantaethau newyddion mwyaf blaenllaw’r byd yn cynnwys Associated Press, cylchgronau fel y New York Times, National Geographic a Time Magazine.

Mae’r cwrs BA Ffotograffiaeth Ddogfennol yn rhan o lwybr gwaith ddogfennol yn PDC, sy’n cynnwys MA Ffotograffiaeth Ddogfennol a Doethuriaeth mewn Ymchwil Dogfennol yn The European Centre.

Mae gennym ni adran pwrpasol ac arbenigol yng nghanol Caerdydd, Cymru, gydag adnoddau digidol ac analog llawn ynghyd â llyfrgell sydd ag un o’r casgliadau mwyaf o ddeunyddiau dogfennol a ffotonewyddiadurol yn Ewrop.

Ymunwch â ni! I ddarganfod mwy, danfonwch ebost i arweinydd y cwrs David Barnes: david.barnes@southwales.ac.uk.

Ymwelwch â ni: docphotusw.com

www.southwales.ac.uk/cymraeg/cyrsiau/ba-hons-documentary-photography-cy/ instagram.com/docphotusw twitter.com/docphotusw facebook.com/docphotusw

Scaniwch y côd QR i dderbyn diweddariadau ar y cwrs, dyddiau agored a digwyddiadau arbennig:

Special thanks to / Diolch yn fawr i:

Brian, Offline Journal

Sian and/a’r staff, Ffotogallery

The team/y tîm, Cathays Sports and Social Club

Bronwen, National Museum Wales/Amgueddfa Cenedlaethol Cymru

Our friends at Transport for Wales/Ein ffrindiau yn Nhrafnidiaeth Cymru

The team/y tîm, CULTVR

Gareth Phillips and/ac Janire Janera

Charlotte Isherwood, Simon Cullen and the technical team at USW/a thîm technegol PDC

Paul Reas

Jeremy Cook

Chris Edwards

Gawain Barnard

Sarah Barnes

Ian Llewellyn

John and the team at/a tîm Shift Gallery

Steven Wright

Sebastian Bruno

Jude Wall

Nik Roche

#KeepingItRealist Podcast Interviewees/cyfweleion y podlediad:

Abbie Trayler-Smith

Stacy Kranitz

Jack Moyse

Fresh Baguettes and/ac Falafel Corner

Cold Shoe

Cyhoeddiad Graddio Ffotograffiaeth Ddogfennol

Argraffiad o 650, 2023

Prifysgol De Cymru

48 tudalen fewnol 170g/ms heb gôt, cloriau heb gôt 300g/ms

240mm x 320mm

Cold Shoe

Documentary Photography Graduation Publication

Edition of 650, 2023

University of South Wales

48 inner pages uncoated 170g/sm, covers uncoated 300g/sm

240mm x 320mm

Dyluniad: Nate Davies a David Barnes

Darluniadau: Arthur Williams

Print: Mixam, UK

Cyfieithu: Nate Davies a thîm cyfieithu PDC

Design: Nate Davies and David Barnes

Illustrations: Arthur Williams

Print: Mixam, UK

Translation: Nate Davies and the USW Translation Team

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.