Rhifyn 04 - 2012
alumni Y Cylchgrawn ar gyfer Graddedigion a Chyfeillion Met Caerdydd
Met Caerdydd yn y Gemau Olympaidd
Ein Cysylltiadau Olympaidd…
Ein Hanes Chwaraeon tudalen 3
Ein Hymgeiswyr Olympaidd tudalen 5
Olympiad Diwylliannol tudalen 7
Addysg a’r Gemau Olympaidd tudalen 11
Busnes yn y Gemau Olympaidd tudalen 13
Gweithio o gwmpas y Gemau Olympaidd tudalen 15
Llun gan Luke Jerram 11
Cyfarchion gan Swyddfa’r Cyn-fyfyrwyr Mae’n bleser cyflwyno ein cylchgrawn ar gyfer 2012 sy’n canolbwyntio ar y gemau Olympaidd. Eleni rydym yn rhoi sylw i’n holl gyfraniad at Gemau Olympaidd Llundain 2012, gan gynnwys ein hathletwyr uchelgeisiol, cysylltiadau busnes a chyfraniad ysgolion. Mae gennym dair stori wych yn ymwneud â’r Olympiad Diwylliannol, a byddwn hefyd yn bwrw golwg yn ôl dros ein hanes anrhydeddus o gystadlu a hyfforddi ar y lefel uchaf. Braint i ni oedd cael cwrdd rhai o’n cludwyr fflamau, Rhys Jenkins (chwith, BA Anrh Astudiaethau Busnes 2010) a Lynn Davies, CBE (Addysg Gorfforol, 1964) cyn iddynt ddechrau, ac rydym yn dymuno pob lwc i bawb sy’n cymryd rhan. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu storiâu i’r rhifyn hon. Mae gennym ddigon o resymau i ymfalchïo'r haf hwn.
Claire Grainger Met Caerdydd, Swyddog Cyn-fyfyrwyr
Amser Cystadlu! Unwaith eto, rydym yn ddiolchgar iawn i’n cyfeillion yn Motorpoint Arena am roi dau bâr o docynnau ar gyfer ein cystadleuaeth flynyddol i gyn-fyfyrwyr. Eleni, mae’r tocynnau ar gyfer taith Michael McIntyre ar ddydd Sadwrn 25 Awst!
“Sut mae cystadlu?” Sut alla i gystadlu?” meddech chi. Byddwch yn sylwi bod y rhifyn hwn o’r cylchgrawn yn cynnwys taflen gludo wen gyda Ffurflen Gwybodaeth Bersonol ar y cefn. Bydd pawb sy’n cwblhau ac yn dychwelyd eu Ffurflen Wybodaeth (neu’n cwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein gan nodi manylion eu swydd) yn cael cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Byddwn yn trin eich manylion yn gwbl gyfrinachol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data, ond rydym wedi sylwi bod mwy a mwy o fyfyrwyr a graddedigion diweddar yn hoffi gwybod mwy am yrfaoedd y rhai sydd eisoes wedi graddio. Wedi’r cwbl, mae’ch llwyddiant chi yn arwydd o’u llwyddiant posibl nhw! Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi eto i ofyn am broffil gyrfa ffurfiol i’w ddefnyddio ar ein gwefan. Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw dydd Llun 3 Medi 2012. Mae Cyn-fyfyrwyr Met Caerdydd hefyd yn gymwys ar gyfer gostyngiad o 20% ar docynnau Showplus cyn 23ain o Ragfyr 2012. Archebwch eich tocynnau gyda Swyddfa Docynnau’r Motorpoint Arena a nodi ‘UWIC Alumni’ i dderbyn eich gostyngiad. Mae tocynnau ShowPlus yn cynnwys mynediad i’r Lolfa ShowPlus cyn y sioe a phryd o fwyd cyn y sioe a bar diodydd.
1 1
Dilynwch y cod QR i fynd yn syth i’n tudalen gofrestru ar-lein!
Artist’s impression of the new School of Art and Design
Pob dymuniad da i’n holl ddarpar gystadleuwyr ar gyfer eu hyfforddiant dros yr wythnosau nesaf. Cofiwch edrych os ydyn nhw’n cyrraedd y Gemau! Fis Gorffennaf diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganfyddiadau adroddiad Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), ‘Strwythur Addysg Uwch yng Nghymru yn y Dyfodol’. Fis Tachwedd, derbyniodd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Leighton Andrews, argymhelliad yr adroddiad y dylai UWIC, Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd uno.
Yr Athro A J Chapman Is-Ganghellor
Byddai’r uno arfaethedig yn creu ‘prifysgol fawr’ â thros 45,000 o fyfyrwyr ar sawl campws ledled y de-ddwyrain. Ac eithrio’r Brifysgol Agored, hon fyddai’r brifysgol fwyaf yn y DU. Mae Bwrdd Llywodraethwyr y Brifysgol wedi mynegi pryder am y cynllun hwn, gan nodi bod diffyg rhesymau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer uno o’r fath. Yn ogystal, nid oes unrhyw achos busnes wedi’i gostio i gefnogi’r ad-drefnu wedi’i ddarparu hyd yma. Rydym yn ddiolchgar i’r holl gyn-fyfyrwyr a ymatebodd i’r broses ymgynghori trwy e-bost. Mae’r Bwrdd wedi datgan y bydd yn gwneud popeth posibl nid yn unig i drafod canlyniad sydd o fudd i Gymru, ond canlyniad sy’n diogelu buddiannau ein holl fyfyrwyr a staff. Fis Hydref diwethaf, newidiodd y Brifysgol ei henw i ‘Brifysgol Fetropolitan Caerdydd’. Meddai Barbara Wilding, Cadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr: “Mae’r Bwrdd wedi penderfynu bod angen brys i ni ddefnyddio ein pwerau i ddyfarnu ein graddau ein hunain a mabwysiadu’r enw newydd, a thrwy hynny ddatgan ein bod wedi gadael Prifysgol Cymru.
“Bydd mabwysiadu enw sy’n rhoi lle mwy amlwg i enw’r ddinas yn helpu i gynnal proffil Caerdydd fel Prifddinas Dysgu.” Mae’r ymrwymiad hwn i’r myfyrwyr a’r gymuned ehangach yn cael ei adlewyrchu yn y cyhoeddiad diweddar y bydd Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn elwa ar ddatblygiad mawr newydd. Codir adeilad newydd ar gampws y Brifysgol yn Llandaf diolch i fuddsoddiad gwerth £14 miliwn, a bydd y cyfleusterau presennol yn cael eu gwella yn sylweddol er mwyn creu cartref cyfoes i’r Ysgol hon sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol. Bydd y myfyrwyr a’r staff yn symud i’r adeilad yn barod ar gyfer tymor yr hydref 2014. Edrychwn ymlaen at heriau’r dyfodol, gan hyderu y bydd gennym gefnogaeth ein cyn-fyfyrwyr a’n cyfeillion fel partneriaid gydol oes i’r sefydliad.
60 Mlynedd o Gysylltiadau Olympaidd
3
D
eon Ysgol Chwaraeon Caerdydd, Dave Cobner, yn myfyrio ar 60 mlynedd o gysylltiadau Olympaidd… Mae’r bore ar ôl cinio’r Gwobrau Chwaraeon blynyddol yn amser da i gofio cyfraniad myfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, UWIC, SGIHE a Choleg Hyfforddi Caerdydd at y maes chwaraeon dros y blynyddoedd. Mae rhai o’n graddedigion wedi gadael Cyncoed yn llawn awydd i lwyddo, gan fynd ymlaen i gael llwyddiant arbennig ar y llwyfan rhyngwladol ym meysydd perfformio, hyfforddi, rheoli a gwyddorau chwaraeon. Neithiwr, cafodd y myfyrwyr y fraint o fod yng nghwmni dau Olympiad. Yn ogystal â Lynn Davies, a enillodd y Fedal Aur am y Naid Hir yng Ngemau Olympaidd Tokyo ym 1964, roedd y dyn a ysbrydolodd Lyn yn bresennol hefyd – sef ei gydfyfyriwr ar gampws Mynydd Bychan a’r dyn a enillodd ddwy Fedal Efydd yng Ngemau Olympaidd Rhufain 1960, Peter Radford. Yn ystod ei yrfa ddisglair fel academydd yng Nghanada a’r DU, gweithiodd Peter i’r asiantaeth atal dopio, cyn dod yn Gadeirydd y sefydliad sydd bellach yn UK Athletics ym 1993, a’i Gadeirydd Gweithredol ym 1994. Cymerodd Lynn yr awenau fel Llywydd UK Athletics yn 2003, ac mae’n parhau i fod yn y swydd yn y flwyddyn Olympaidd hon. Mae’n destun balchder i ni fod dau gyn-fyfyriwr Coleg Hyfforddi Caerdydd (rhagflaenydd yr Ysgol Chwaraeon ar gampws Mynydd Bychan) wedi bod ar flaen y gad gyda UK Athletics ers bron i ddau ddegawd.Nhw oedd rhagflaenwyr y llwyddiant Olympaidd. Bu Chris Hallam, OBE, yn cystadlu yn y gemau Olympaidd deirgwaith yn olynol ac enillodd fedalau am nofio Yr Athro Peter Radford a Lynn Davies, CBE
a rasio mewn cadair olwyn yng Ngemau Paralympaidd yr Haf yn Seoul ym 1988, Gemau Barcelona ym 1992 a Gemau Atlanta ym 1996. Enillodd Ian Barker Fedal Arian yn nosbarth Hwylio 49 yn Sydney yn 2000, ac mae’n un o hyfforddwyr Hwylio Prydain ar hyn o bryd. Mae athletwyr eraill wedi’n cynrychioli yn y Gemau hefyd, gan gynnwys Robin Baskerville (Deifio, Mecsico 1968), John Lear (Codi Pwysau), Michaela Breeze (Codi Pwysau 2004 a 2008), Stephen Thomas (Hwylio Paralympaidd 2004 a 2008) a Claire Wright (Trampolinio 2008). Mae’r holl hyfforddwyr a staff cynorthwyol sydd wedi’u meithrin gennym dros y blynyddoedd yn arwydd pellach o gyfraniad ein graddedigion at y Gemau Olympaidd. Mae llais eiconig Mitch Fenner, un o sylwebwyr y BBC, yn gyfarwydd iawn i lawer ohonom. Mae Mitch yn un o nifer o hyfforddwyr Gymnasteg Prydain sydd wedi’u meithrin gennym. Mae Dr Mike Peyrebrune yn hyfforddi Rebecca Adlington ymysg eraill, ac mae Simon Jones wedi hyfforddi beicio ar gyfer
Prydain ac Awstralia. Mae Scott Simpson, cyn- Gyfarwyddwr Athletau UWIC, ar secondiad i UK Athletics er mwyn helpu gyda pharatoadau Llundain 2012. Yn olaf, mae gennym sawl cynrychiolydd yn nhîm pêl-fasged y menywod, yr Archers, a enillodd bencampwriaeth Adran 1: Damian Jennings (Hyfforddwr Menywod Tîm Prydain), Lucy Power (Rheolwr y Tîm), Sarah Wagstaff (Is-reolwr y Tîm) a David Bailey (Dadansoddwr Perfformiad) Wrth edrych tua’r haf, rydym yn hynod falch bod 15 o’n myfyrwyr presennol a’n cyn-fyfyrwyr yn ceisio sicrhau lle yng Ngemau Olympaidd Llundain, gan gynnwys 2 aelod o’r garfan sy’n gobeithio chwarae yn ystod digwyddiad agoriadol y Gemau yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd. Ar ôl cystadlu dros UWIC yn ystod eu cyfnod yma fel myfyrwyr, maen nhw wedi dangos ymrwymiad i hyfforddi a datblygu ac wedi cael llwyddiant yn barod ar y llwyfan Cenedlaethol, Ewropeaidd a Bydeang. Gallwch ddarllen mwy am ein ‘Pobl i’w Gwylio’ ar Dudalen 5 & 6 neu gallwch ddilyn y cod QR i ddarllen mwy am ein dolenni Olympaidd ar-lein.
Hyfforddwyr Cenedlaethol Prydain Ddoe a Heddiw John Atkinson (Diploma mewn Addysg Gorfforol 1959) – Gymnasteg (Llywydd Am Oes y Ffederasiwn Gymnasteg Rhyngwladol) David Lease (Tysytsgrif Addysg 1966) Athletau Mitch Fenner (Tysytsgrif Addysg 1967) Gymnasteg John Beer (Tysytsgrif Addysg 1970) – Trampolinio Dr Mike Peyrebrune (BA (Anrh) Astudiaethau Symudiadau Dynol 1986) – Nofio Simon Jones (BA (Anrh) Chwaraeon ac Astudiaethau Symudiadau Dynol 1995) – Beicio Damian Jennings (BSc (Anrh) Datblygu Chwaraeon 2001) – Pêl-fasged Sarah Moon (BSc (Anrh) Datblygu Chwaraeon 2002) – Gymnasteg Rythmig Scott Simpson (BSc (Anrh) Gwyddorau Chwaraeon a Hyfforddiant 2003) – Athletau
4
Athletwyr Uchelgeisiol Gyda holl gyffro’r dewis terfynol eto i ddod, rydym yn cyflwyno ein myfyrwyr a’n cyn-fyfyrwyr sy’n gobeithio cynrychioli eu gwlad yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012. Joe Thomas - 800m BSc (Anrh) Hyfforddi Chwaraeon 2010
Dai Greene - 400m Dros y Clwydi Pencampwr y Byd, y Gymanwlad ac Ewrop BA (Anhr) Rheoli Hamdden a Chwaraeon 2008
5 5
Nadine Okyere - 400m BSc (Anrh) Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff 2008 ac MSc Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff 2010
Tom Parsons - Naid Uchel BSc (Anrh) Chwaraeon ac Addysg Gorfforol 2005
Nathan Stephens Gwaywffon Paralympaidd Myfyriwr BSc mewn Hyfforddi Chwaraeon
Brett Morse – Disgen Myfyriwr HND mewn Datblygu a Hyfforddi Chwaraeon
Helen Glover (left) - Rhwyfo Pencampwraig Dyblau’r Byd 2011 BSc (Anrh) Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff 2007
Georgina Geikie Saethu â Phistol BA (Anrh) Dylunio Cynnyrch 2007
Stephen Thomas Hwylio Paralympaidd BSc (Anrh) Datblygu Chwaraeon 2009
UWIC Archers sy’n aelodau o garfan Pêl-fasged Menywod Prydain: Jenaya Wade-Fray, Rose Anderson, Kate Butters a Stef Collins (MA mewn Datblygu a Hyfforddi Chwaraeon)
Wrth i ni fynd i’r wasg, mae 3 o aelodau ein Tim Pêl-droed Merched yn gobeithio cael eu dewis ar gyfer tîm Prydain Fawr, er mwyn cael cyfle i chwarae yn nigwyddiad cyntaf y Gemau Olympaidd 2012 yn Stadiwm Mileniwm yng Nghaerdydd. 6
Cerddorfa’r Awyr Fis Gorffennaf 2011 deffrodd pobl Llundain i sŵn cerddoriaeth yn dod o’r awyr, wrth i Gerddorfa’r Awyr hedfan dros y brifddinas i’w hatgoffa y byddai’r Gemau Olympaidd yn cychwyn ymhen blwyddyn. Cafodd Cerddorfa’r Awyr ei sefydlu gan Luke Jerram (Celfyddyd Gain 1997), fel prosiect ymchwil parhaol a gwaith celf arbrofol sy’n dod â pherfformio a cherddoriaeth ynghyd i greu gosodiadau clywedol a gweledol yn yr awyr ac yn y meddwl.
“Daeth y syniad o greu Cerddorfa Awyr i mi pan glywais y galw i weddïo yn Nhunisia am 3am. Llwyddodd y lleisiau yn galw o sawl rhan wahanol o’r dref i agor rhyw fath o fap cerfluniol yn fy nychymyg. Gallwn weld yr haenau o sain yn cydblethu. Nod Cerddorfa’r Awyr yw rhannu’r profiad hwn a chyflwyno gwaith celf ar ffurf perfformiad sain amgylchynol enfawr i gartrefi pobl. Gobeithio bod y gerddoriaeth sy’n cael ei chwarae gennym yn codi’r cyhoedd i’r gofod canfyddiadol ar ymyl cwsg, gan ysbrydoli eu dychymyg gyda sain.” Mae Cerddorfa’r Awyr yn cynnwys saith balŵn aer poeth gydag uchelseinydd, sy’n codi gyda’r wawr ac yn hedfan ar draws y ddinas. Mae pob balŵn yn chwarae elfen wahanol o sgôr cerddorol, wedi’i gyfansoddi’n arbennig ar gyfer y prosiect gan Dan Jones, cyfansoddwr a chynllunydd sain sydd wedi ennill gwobr BAFTA. Mae Cerddorfa’r Awyr yn defnyddio sain amgylchynol i roi profiad cerfluniol i’r cyhoedd drwy eu codi i’r gofod creadigol ar ymyl cwsg ac yn bwydo eu dychymyg â sain.
Llun gan Luke Jerram 7
Mae’r prosiect yn yr awyr yn berfformiad gwefreiddiol enfawr ac yn brofiad personol, dwys yr un pryd. Mae Cerddorfa’r Awyr eisoes wedi hedfan dros Fryste, Stratford-upon Thames a Birmingham, yn ogystal ag yng Nghanada, y Swistir ac Awstralia. Wrth i’r balwnau hedfan dros Lundain (dwywaith mewn 6 diwrnod) roedd modd i ddefnyddwyr ap Android pwrpasol olrhain y daith a chymryd rhan o bell.
Wonderbrass Cerddoriaeth Newydd 2012 Graddiodd Jenny Bradley gydag MSc mewn Rheoli Digwyddiadau yn 2009, a chyn bo hir roedd hi’n rheoli prosiect o faint Olympaidd. Buom yn sgwrsio â hi yn ei swyddfa ym Mhontcanna i ddysgu mwy.
Sut ddaethoch chi’n rhan o’r Olympiad Diwylliannol? Dwi wedi bod yn rheoli grŵp cerddoriaeth cymunedol o’r enw
Wonderbrass ers 6 blynedd. Dechreuais berfformio gyda’r grŵp pan oeddwn i’n 17 oed, a phan benderfynodd y rheolwr roi’r gorau i’r gwaith, fe gymerais yr awenau. Fis Hydref 2010 aethom ati i gyflwyno cais i’r Gymdeithas Hawliau Perfformio am grant i greu darn o gerddoriaeth newydd, ac yn ffodus iawn roedd ein cais yn llwyddiannus!
Sut fydd ech chi’n disgrifio’ch cais llwyddiannus? Roedd ein cais cyntaf yn disgrifio darn o waith o’r enw ‘Skip, Dash, Flow’ a fyddai’n ymgorffori ysbryd y Gemau Olympaidd ac egni’r amgylchedd cerddorol amlddiwylliannol
ym Mhrydain. Nid oedd y gerddoriaeth wedi’i chyfansoddi adeg ysgrifennu’r cais, ond roeddem eisoes wedi gweithio gyda’r cyfansoddwr, Jason Yarde, yn ôl yn 2002. Roedd y grŵp wedi’i ysbrydoli gan y broses o gydweithio â Jason, felly roedd gennym syniad da o’r hyn y gallem ni ei gyflawni.
lwyddiant y prosiect! Mae Wonderbrass yn wahanol i grwpiau eraill; er ein bod yn codi tâl i berfformio, nid yw’r cerddorion yn cael eu talu. Yn lle hynny, mae’r ffioedd yn cael eu defnyddio i dalu am ffioedd dysgu a phrosiectau ar gyfer y grŵp fel bod yr aelodau yn gallu perfformio
Pryd fyddwch chi’n perfformio’r darn o waith a gomisiynwyd?
gyda cherddorion blaenllaw o
Perfformiwyd ‘Skip, Dash, Flow’
A oes unrhyw gyn-fyfyrwyr yn aelodau o’r grŵp?
am y tro cyntaf yng Nghaerdydd ar 21 Chwefror 2012. Fel rhan o’r Gerddoriaeth Newydd 20x12, rydym yn un o’r 20 grŵp sy’n perfformio eu gwaith a gomisiynwyd yn y South Bank Centre dros benwythnos 13 – 15 Gorffennaf. Rydym yn perfformio yn Lichfield hefyd ar 9 Mehefin, yn Jamborî Druidstone ar 6 Gorffennaf, ac yn Proms Cymru yng Nghaerdydd ar 27 Gorffennaf.
Beth yw hanes Wonderbrass? Dechreuodd Wonderbrass fel prosiect cymunedol 10 sesiwn yng nghymoedd y De. Mae’r ffaith ein bod ni’n dathlu ein pen-blwydd yn 20 oed eleni yn arwydd o
gefndiroedd a ‘genres’ amrywiol, a dysgu ganddynt.
Mae dwy o fyfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn aelodau o’r grŵp – mae Kat Berridge (Pensaernïaeth Fewnol) yn chwarae’r trombôn ac mae Ann O’Neill (TAR Cynradd) yn chwarae’r clarinét. Byddai’n braf gweld rhai o’r cyn-fyfyrwyr ym mherfformiad Proms Cymru. Yn ogystal â pherfformio ‘Skip, Dash, Flow,’ fel rhan o’r cyngerdd yng nghanol Caerdydd byddwn ni’n perfformio detholiad unigryw o gerddoriaeth ffync, y felan, Lladin ac alawon treflannau Affricanaidd sy’n codi’r ysbryd.
Dawns sy’n Ysbrydoli
Mae Sally Varrall, Cyfarwyddwr y Rhaglen Ddawns, yn egluro rhagor am y prosiect.
Mae myfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd wedi cael cyfle unigryw i gymryd rhan mewn rhaglen sydd wedi ennill Marc Ysbrydoli’r Gemau Olympaidd. Cafodd y Prosiect Undod Corfforol ei wobrwyo am ganolbwyntio ar werthoedd Olympaidd ac am gynnwys myfyrwyr a grwpiau cymunedol
“Nod y prosiect oedd datblygu sgiliau perfformio yn ein meysydd arbenigol, sef Dawns, Gymnasteg a Thrampolinio, gan ychwanegu ‘rhywbeth gwahanol’. I wneud hynny, aethom at No Fit State Circus yma yng Nghaerdydd, a lwyddodd i ychwanegu symudiadau trapîs a symudiadau yn yr awyr at ein cryfderau ni. Mae’r myfyrwyr wedi llwyddo i greu coreograffi amrywiol ar sail dawns sy’n adlewyrchu arddull perfformiad seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd.” Mae ugain o fyfyrwyr wedi cymryd rhan mewn gweithdai 20 wythnos gyda No Fit State Circus, gan ddysgu sgiliau perfformio yn yr awyr gyda rhaffau, trapîs, sidanau a chylchoedd. Mae’r prosiect wedi’i ariannu diolch i haelioni Cyngor Celfyddydau Cymru. Meddai Sally: “Mae wedi bod yn wych cymryd rhan yn y prosiect hwn. Cymryd rhan yn y gweithdai yw profiad gorau’r wythnos. Mae cael cyfle i rannu’r teimlad hwn gyda’r myfyrwyr wrth i ni ddysgu’r sgiliau anhygoel hyn wedi fy ysbrydoli.”
9
Tudalen codi arian Cylchgrawn 2012
Newyddion codi arian Oeddech chi’n gwybod bod eich ymdrechion chi wedi’n helpu i sicrhau gwerth bron i £300,000 mewn rhoddion yn ystod blwyddyn academaidd 20102011? Mae’n edrych yn debyg y byddwn yn codi swm tebyg yn ystod y flwyddyn academaidd hon hefyd. Dyma newyddion ardderchog i’r Brifysgol gan ein bod yn gallu helpu mwy o fyfyrwyr nag erioed i wireddu eu potensial trwy ddarparu ysgoloriaethau a bwrsariaethau. Mae hefyd yn ein galluogi i ariannu ymchwil o’r radd flaenaf a fydd yn fuddiol i Gymru, y DU a thu hwnt. Diolch i’r haelioni hwn, rydym hefyd wedi gwella cyfleusterau ar y campws, sydd o fudd i bawb yn y gymuned leol. Uchafbwynt ein calendr codi arian yw’r Ymgyrch Ffôn flynyddol. Ers dechrau’r ymgyrch yn 2010, mae ein myfyrwyr wedi ffonio dros 2,000 o gyn-fyfyrwyr ac rydych chi wedi addo bron i £56,000 i gefnogi ein Cronfa Ddatblygu (y Gronfa Flynyddol gynt). Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ail-ddechrau’r ymgyrch yn yr
Jack Rees, galwr myfyriwr yn ystod yr Ymgyrch Ffon 2011
hydref. Mae mor braf cysylltu â chynifer o gyn-fyfyrwyr a chlywed am eu hanes ers graddio. Mae tua 30 o fyfyrwyr yn ymuno â’r tîm bob blwyddyn ac mae’n brofiad gwerthfawr iawn iddyn nhw. Mae llawer yn dysgu am lwybr gyrfa penodol neu’n cael cyngor ar beth i’w wneud ar ôl graddio. Rydym yn ceisio dewis myfyrwyr sy’n astudio’r un radd ac yn rhannu’r un diddordebau â’r cyn-fyfyrwyr fel bod modd cyfnewid cymaint o wybodaeth berthnasol â phosibl. Rydym yn awyddus i gysylltu â chynifer o gyn-fyfyrwyr â phosibl, ond yn anffodus nid yw manylion cyswllt cywir llawer o bobl gennym. I ddiweddaru’ch manylion personol a rhoi gwybod os ydych chi am gymryd rhan eleni, anfonwch e-bost i: developmentoffice@cardiffmet.ac.uk. Os hoffech wybod mwy am y prosiectau sydd wedi elwa ar eich haelioni, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/horizons i ddarllen cylchlythyr ein cefnogwyr.
Mae’n bosibl i chi sylwi bod yr enw Sefydliad UWIC wedi newid bellach. Ers newid ein henw i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, rydym wedi troi’n Swyddfa Ddatblygu, a’n rhif elusen yw 1140762. Rydym yn parhau i wneud yr un gwaith, sef gofalu am roddion cyn-fyfyrwyr, staff, ffrindiau a sefydliadau. I wybod mwy amdanom, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/supportus.
Rhoddion yn ystod y flwyddyn academaidd 2010-2011 O Blew daw ein rhoddin?
I ble’r aiff ein rhoddion?
31% 59% 16%
5%
15% 53%
21%
Ysgoloriaethau a Gwobrau Myfyrwyr Unigolion Busnesau Ymddiriedolaethau Elusennol
Prosiectau UWIC / Cymunedol Ymchwil Adnoddau a Chyfarpar 10
Addysg a’r Gemau Olympaidd
11
M
ae’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd wedi ysbrydoli ysgolion ledled y wlad i gymryd rhan yn ystod 2012. Mae’r Gemau yn seiliedig ar athroniaeth Pierre de Coubertin, sylfaenydd y Mudiad Olympaidd Modern. Gwelodd fod y Gemau yn gyfle delfrydol i ddatblygu set o egwyddorion neu werthoedd cyffredinol y byddai modd eu cymhwyso i faes addysg a chymdeithas yn ei chyfanrwydd, yn ogystal ag i chwaraeon.
Parch chwarae teg; deall ein cyfyngiadau ein hunain; a gofalu am ein hiechyd a’r amgylchedd
Rhagoriaeth sut i roi o’n gorau, ar y maes chwarae neu mewn bywyd; cymryd rhan; a datblygu yn unol â’n hamcanion ein hunain
Cyfeillgarwch sut i ddefnyddio chwaraeon i ddeall ein gilydd er gwaethaf ein gwahaniaethau
Mae’r gwerthoedd Paralympaidd yn seiliedig ar hanes y Gemau Paralympaidd a’r traddodiad chwarae teg a chystadleuaeth anrhydeddus mewn chwaraeon. Y gwerthoedd yw:
Dewrder Penderfyniad Ysbrydoliaeth Cydraddoldeb
Mae’r gwerthoedd hyn yn gwbl addas iawn ar gyfer ysgolion. Mae Pennaeth Ysgol Uwchradd Caerdydd, Stephen Jones (BA (Anrh) Astudiaethau Symudiadau Dynol 1988-91) ac Arweinydd Strategol yr Ysgol ar gyfer Sgiliau a’r Cwricwlwm, Alison Lambert (Cwrs Sylfaen mewn Celf a Dylunio 1988, PGATC 1994 ac MA mewn Addysg 2005) yn egluro sut mae’r ysgol wedi manteisio ar y cyfleoedd amrywiol i elwa ar yr ysbryd Olympaidd. “Fel yr Arweinydd Strategol ar gyfer Sgiliau a’r Cwricwlwm yn yr ysgol, rwyf wedi llwyddo i ymgorffori’r Gemau Olympaidd mewn sawl ffordd wahanol. Rydym eisoes wedi ymrwymo i Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang sy’n cyd-fynd yn dda iawn â’r gwerthoedd Olympaidd. Mae’r ysgol wedi ymuno â’r rhaglen Olympaidd, ‘Ar Eich Marciau’ (‘Get Set Schools’), sydd â gwefan ardderchog yn llawn adnoddau i’w defnyddio yn yr ysgol. Wrth ganolbwyntio ar themâu a gwerthoedd y Gemau, cawn ein hannog i hybu byw’n iach, cyfranogiad, parch, diwylliant a chelf trwy brosiectau a chystadlaethau addysgiadol amrywiol, yn ogystal â thrwy weithgareddau chwaraeon a chorfforol. Yn ystod sesiynau dosbarth boreol sy’n cyflwyno syniadau’r dydd, mae disgyblion wedi cael y cyfle i ganolbwyntio ar yr holl dimau gwahanol sy’n cymryd rhan yn y gemau trwy ymchwilio i’r holl wledydd gwahanol. “Rydym wedi ymuno â’r ymgyrch genedlaethol, Brecwast Gwell, er mwyn helpu i sicrhau bod bwyd, maetheg a gweithgarwch corfforol yn dod yn rhan annatod o holl werthoedd yr ysgol. Mae 600 o ddisgyblion Blynyddoedd 7, 8 a 9 wedi dysgu am frecwast maethlon trwy raglen ddifyr o dan arweiniad yr arbenigwr ffitrwydd John Thomson, arbenigwr crefftau ymladd Hollywood Dave Gentry a Holly Matthews o’r rhaglen deledu Waterloo Road! “Rydym yn trefnu noson fwyd amlddiwylliannol fel y gall pobl flasu bwyd o Gymru, rhannau eraill o’r DU a gweddill y byd. Mae hyn yn gyfle gwych i ni siarad am ddiwylliannau eraill, ac mae llawer ohonyn nhw eisoes wedi’u cynrychioli yn yr ysgol. “Un o’r pethau mwyaf cyffrous oedd y cyfle i roi 6 tocyn am ddim i rai o ddisgyblion yr ysgol. Fe wnaethom benderfynu defnyddio proses enwebu i wneud hyn, ar gyfer disgyblion sydd wir yn ymgorffori’r gwerthoedd Olympaidd,
naill ai yn y cartref, yn yr ysgol, neu rywle arall. Dyma gyfle gwych i gydnabod cyfraniadau gwirioneddol eithriadol, ac roedd llawer o waith y disgyblion yn agoriad llygad i ni.” Mae Pennaeth lleol arall, Gareth Rein (a raddiodd o UWIC yn 2000 gyda BA (Anrh) mewn Addysg Gynradd) yn disgrifio sut mae Ysgol Gynradd Babyddol Sant Joseff, Penarth yn cymryd rhan mewn cynllun gyda grŵp o ysgolion cynradd lleol: “Yn ystod misoedd Mai a Mehefin, bydd plant Cyfnod Allweddol 2 (7-11 oed) yn cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd Cymunedol. Mae 11 ysgol o ardal Penarth yn cymryd rhan mewn 9 gweithgaredd gwahanol. Mae’r cynllun hwn yn ffordd wych o ddathlu’r ffaith fod y Gemau Olympaidd yn cael eu cynnal yn y wlad hon, a’i nod yw hybu agweddau cadarnhaol tuag at chwaraeon a byw’n iach trwy gystadleuaeth gyfeillgar. “Yn debyg i’r Gemau Olympaidd, man cychwyn y gweithgareddau oedd taith gyfnewid y fflam, wrth i fflam arbennig gael ei chludo i’r holl ysgolion a oedd yn cymryd rhan. Fel rhan o’r Seremoni Agoriadol, cymerodd plant Blwyddyn 6 ran yn rhai o weithgareddau’r Gemau Paralympaidd, fel Rygbi Cadair Olwyn, Boccacia a Phêl-droed i’r Deillion. Roedd athletwraig Baralympaidd fwyaf llwyddiannus Prydain (a Chymrawd Anrhydeddus Prifysgol Fetropolitan Caerdydd), y Farwnes Tanni GreyThompson yn rhan o’r seremoni agoriadol hefyd. Bydd seremoni gloi ar 29 Mehefin yn dilyn gala nofio, a bydd unigolion ac ysgolion yn derbyn cwpanau a medalau.” “Adam Douglas (BA Astudiaethau Symudiad Dynol 1988) yw Pennaeth AG yn Ysgol Sheldon yn Wiltshire. Am nifer o flynyddoedd, mae’r ysgol wedi bod yn dathlu ‘Diwrnod Olympaidd’ ar 23ain o Fehefin. Ar y cychwyn, cafodd hyn ei arwain gan yr adran Addysg Gorfforol, ond mae nodweddion cymhelliant y Gemau Olympaidd wedi treiddio drwy holl adrannau’r ysgol. Mae’r disgyblion yn mynd i’w gwersi yn y bore, ac mae’r gwersi i gyd am y Gemau Olympaidd a’r Gwerthoedd, beth bynnag fo’r pwnc. Fel arfer mae Olympiad neu Bennaeth Adran yn rhoi anerchiadau i ysbrydoli’r disgyblion sy’n rhoi Gwerthoedd y Gamu mewn i gyd-destun. Rydym yn gobeithio y bydd ysbrydoliaeth y Gemau yn Llundain yn aros gyda’r disgyblion hyn - a disgyblion ar hyd a lled y wlad - drwy gydol eu bywydau. 12
Datblygu Busnes yn y Gemau Olympaidd Y Ganolfan Ddarlledu Ryngwladol. Llun gan Euroclad. 13
M
ae’r Parc Olympaidd a Phentref yr Athletwyr yn gartref i sawl arena a llety o’r safon uchaf, gyda phensaernïaeth hynod drawiadol a diogelwch heb ei ail. Er bod lleoliad y cyfleusterau hyn yn Nwyrain Llundain yn ymddangos yn bell iawn o Gaerdydd ar yr olwg gyntaf, mae deunyddiau rhai o adeiladau allweddol y Parc wedi’u darparu gan gwmnïau o Gymru a sefydlwyd gan un o gyn-fyfyrwyr Cyncoed. Mae Nick Williams, Cadeirydd Euroclad ac Eurobond, yn ogystal â nifer o fusnesau llwyddiannus eraill, yn disgrifio’r broses o wneud cais am gontractau gwaith y Gemau Olympaidd.
“Dechreuodd cyfnod cyntaf y broses dendro yn 2005, wrth i Bwyllgor Trefnu Gemau Olympaidd Llundain 2012 ofyn am geisiadau gan gwmnïau adeiladu Prydeinig. Buom yn gweithio’n agos gyda’r contractwyr a benodwyd a’r gosodwyr arbenigol, gan ennill contract i wneud gwaith yn y Ganolfan Ddarlledu Ryngwladol a’r Stadiwm Olympaidd ei hun. Mae’n werth cyfeirio at y paneli cyfansawdd alwminiwm a ddefnyddiwyd ar gyfer y brif stadiwm; dyma’r paneli mwyaf o’u bath i gael eu cynhyrchu erioed a bydd pawb sy’n ymweld â’r stadiwm yn gallu eu gweld nhw’n glir. “Er bod ein cais yn gosteffeithiol, ansawdd, manyleb a hyblygrwydd cynllun ein cynhyrchion oedd yn gyfrifol am ennill y tendr hynod gystadleuol hwn i ni yn y pen draw. Mae’r Pwyllgor Trefnu yn gorff effeithlon iawn ac mae ganddo ddisgwyliadau uchel, yn enwedig o ran ansawdd ac amserlenni gwaith. Aeth ati i ddefnyddio meincnodau allanol i brofi’r gadwyn gyflenwi, ac mae’r ffaith i ni lwyddo i fodloni gofynion y Pwyllgor wedi fy mhlesio’n fawr.
“Un o uchafbwyntiau cyfrannu at brosiect fel hwn yw’r ffaith ei fod yn unigryw - mae fel cael caniatâd llawn i fynd ar un o lwyfannau enwocaf Prydain, os nad y byd, yn enwedig eleni. Mae hefyd yn eithaf cyffrous meddwl y bydd miliynau o bobl ledled y byd yn gweld ein cynhyrchion ar y teledu; bydd enw Euroclad yn cael ei gysylltu â’r Stadiwm Olympaidd. Mae’r ffaith fod Euroclad ac Eurobond wedi cyflenwi’r to a’r muriau ar gyfer y Ganolfan Ddarlledu Ryngwladol lle bydd miloedd o newyddiadurwyr yn gweithio yn destun balchder i mi hefyd.” Mae Nick yn teimlo balchder hefyd wrth feddwl yn ôl i’w gyfnod yng Nghyncoed o dan ei diwtor Syd Aaron, mabolgampwr a disgyblwr o fri. “Dwi’n siŵr byddai Syd Aaron yn cael tipyn o sioc o glywed am fy nghysylltiad â’r Gemau Olympaidd – nid fi oedd y person gorau yn y gampfa! Gobeithio y byddai Syd yn falch ohonof –hyd yn oed os na fydda’ i’n cystadlu am fedal!”
Dyma rai o’n cyn-fyfyrwyr eraill sy’n gwneud gwaith y tu ôl i’r llenni yng Ngemau Olympaidd Llundain James Tombs
Lisa Hampton
Saad Khan
Swydd Pennaeth Gweithrediadau Masnachol a Busnes, Pêl-fasged Brydeinig
Swydd Rheolwr Cynllunio Taith Gyfnewid Fflam Baralympaidd Llundain 2012
Swydd Dadansoddwr Meddalwedd, Gwasanaethau Technoleg Canlyniadau, Llundain 2012
Gradd BA (Anrh) Astudiaethau Symudiadau Dynol 1998 ac MBA 2003
DGradd BA (Anrh) Rheoli Adloniant a Hamdden 2002
Gradd MBA 2006
Ceri Thomas
Emyr Kirkman
Swydd Swyddog Rhaglen Ysbrydoli Llundain 2012 ar gyfer Cymru
Swydd Panasonic - Yn cyflenwi camerâu diogelwch y tu allan i’r parc Olympaidd
Gradd BA (Anrh) Astudiaethau Symudiadau Dynol 1993 ac MA mewn Datblygu a Hyfforddi Chwaraeon 2006
Gradd Peirianneg, 1986
James Mildenhall Swydd Is-reolwr Lleoliadau Pwyllgor Trefnu Gemau Olympaidd Llundain 2012 Gradd BA (Anrh) Rheoli Hamdden a Chwaraeon 2007
14
Gweithio o gwmpas y Gemau Olympaidd Yr O2 yn nos. Llun gan AEG Global Partnerships 15
G
yda’r holl gyffro sy’n gysylltiedig â’r Gemau Olympaidd, mae’n hawdd gweld sut y bydd y rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau Olympaidd yn brysur iawn dros yr haf. I’r rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau sy’n cynnal digwyddiadau Olympaidd, nid yw hyn yn wir bob amser – fel y clywsom gan ddau o’n graddedigion yng Nghaerdydd a Llundain.
Siân Morse (BA Anrh mewn Rheoli Gwestai 2001) yw Pennaeth Gwerthiant Grŵp Compass yng Nghaerdydd, sy’n gwneud gwaith i Stadiwm y Mileniwm a Stadiwm Dinas Caerdydd. Gan fod gemau pêldroed dynion a menywod yn cael eu cynnal yn Stadiwm y Mileniwm– gan gynnwys digwyddiadau cyntaf y Gemau sy’n dechrau cyn y Seremoni Agoriadol – dyma holi Sian am yr haf prysur sydd ar y gweill. “Rydym yn y cyfnod tawel erbyn hyn a dweud y gwir – gêm rygbi’r Barbariaid ym mis Mehefin yw’r digwyddiad olaf tan y rasio beiciau modur ym mis Awst. Nid yw fy swyddfa yn gyfrifol am hyrwyddo a gwerthu tocynnau ar gyfer digwyddiadau’r Gemau Olympaidd, felly ein her dros yr
haf yw cyrraedd targedau gwerthiant ar gyfer digwyddiadau ar ôl y Gemau! Mae Pwyllgor Trefnu’r Gemau Olympaidd yn cyrraedd ddechrau mis Mehefin ac yn rheoli popeth o hynny ymlaen. Bydd ein timau gweithredol – y timau arlwyo, paratoi, staffio a diogelwch i gyd yn rhan o’r gwaith. Maen nhw wedi cael gwiriad diogelwch a’u hachredu i weithio ar ran y Pwyllgor Trefnu, ond bydd y tîm gwerthiant yn wynebu pwysau gwahanol dros yr haf.” Mae geiriau Siân yn cael eu hategu gan Christopher Marking (BA Anrh mewn Rheoli Adloniant a Hamdden 1999), Is-lywydd, Strategaeth Nawdd AEG, perchnogion Canolfan yr O2 yn Llundain. Bydd Canolfan yr O2 yn cael ei defnyddio i gynnal y
Gymnasteg a rowndiau terfynol y gystadleuaeth Bêl-fasged, ond tra bod y Gemau yn mynd rhagddynt, bydd popeth yn newid i dîm Christopher: “Er na fydda’ i’n gweithio yn uniongyrchol ar y gemau, byddan nhw’n cael effaith fawr ar ein gwaith yn 2012. Mae fy nhîm, AEG Global Partnerships, yn gyfrifol am ddenu a rheoli refeniw masnachol o bob math gan noddwyr a’r rhai sy’n llogi ystafelloedd yng Nghanolfan yr O2. Fodd bynnag, yn ystod y Gemau Olympaidd, bydd enw’r O2 yn newid i ‘Arena Gogledd Greenwich.’ O ganlyniad, bydd rhaid tynnu brandiau ein partner â hawliau i arddangos ei enw a brandiau’r holl bartneriaid eraill, gan mai brandiau Olympaidd swyddogol yn unig sy’n cael eu
caniatáu. Mae hefyd yn golygu na fydd y bocsys a’r tocynnau arferol ar gael i’r rhai sy’n llogi ystafelloedd neu’r aelodau VIP. “Felly, ar un ystyr mae cynnal digwyddiadau’r Gemau Olympaidd yn anrhydedd fawr, ond ar y llaw arall mae’n cynnig cryn her o safbwynt ein gwaith o ddydd i ddydd.” Wrth i’n hathletwyr, hyfforddwyr, dadansoddwyr, maethegwyr, gwestywyr, arlwywyr a newyddiadurwyr baratoi ar gyfer haf Olympaidd hynod brysur, efallai ei bod yn hollol iawn na fydd rhai o’n cyn-fyfyrwyr lawn mor brysur ym mis Gorffennaf 2012!
16
Ruby Reunion for the Class of 1971, July 2011
Awydd Aduniad?
M
ae aduniad llwyddiannus yn dibynnu ar lawer o waith trefnu manwl yn y dechrau, ac mae’n gallu cymryd hyd at flwyddyn i’w gynllunio. Dylech ystyried y camau canlynol os ydych chi’n meddwl trefnu aduniad, a byddwn ni’n hapus i’ch helpu i drefnu digwyddiad llwyddiannus.
Cynllunio
Llogi Ystafell ac Arlwyo
Chi fydd yn gwybod orau pa fath o weithgareddau y bydd eich grŵp yn eu mwynhau: a yw aelodau’r grŵp wedi ymddeol neu a oes ganddyn nhw deuluoedd ifanc? Faint allan nhw fforddio ei dalu am docyn? A fyddai’n well gan y cyn-fyfyrwyr fynychu digwyddiad yn y dydd neu gyda’r nos? A yw’ch aduniad yn debygol o wrthdaro â digwyddiadau mawr eraill?
Gallwn roi gwybodaeth am nifer o leoliadau, ac os ydych chi’n cynnal eich aduniad ar y campws, gallwn archebu bwyd, lleoliadau, taith o’r campws a llety i chi.
Rhestri o Fyfyrwyr Mae’n bosibl y bydd gennym fanylion eich cyd-fyfyrwyr blaenorol, ond hwyrach y bydd modd i chi ddefnyddio’ch rhwydweithiau personol i’n helpu i ganfod y rhai rydym wedi colli cysylltiad â nhw dros y blynyddoedd. Gallwn wahodd cyn aelodau o staff hefyd!
Gwahoddiadau Gall y Swyddfa Ddatblygu a Chyn-fyfyrwyr anfon llythyrau a negeseuon e-bost at y rhai sydd ar y rhestr bostio berthnasol. Fel arfer rydym yn anfon gwahoddiad tua dau neu dri mis cyn y digwyddiad, felly dylech ystyried hynny wrth gynllunio. . 17 17
Hyrwyddo Mae llawer o grwpiau aduniad yn dewis cyflwyno rhodd i Gronfa Ddatblygu’r Brifysgol. Dyma ffordd arbennig iawn o nodi pen-blwydd eich blwyddyn raddio. Gall eich rhodd wneud gwahaniaeth mewn sawl maes, gan gynnwys ysgoloriaethau, adnoddau i fyfyrwyr a gwaith ymchwil pwysig gyda’r gorau yn y byd.
Rhoddion Dosbarth Mae llawer o grwpiau aduniad yn dewis cyflwyno rhodd i Gronfa Ddatblygu’r Brifysgol. Dyma ffordd arbennig iawn o nodi pen-blwydd eich blwyddyn raddio. Gall eich rhodd wneud gwahaniaeth mewn sawl maes, gan gynnwys ysgoloriaethau, adnoddau i fyfyrwyr a gwaith ymchwil pwysig gyda’r gorau yn y byd.
Digwyddiadau Dydd Sadwrn 21 Gorffennaf 2012 - Dosbarth 1969-72 Cyncoed Dywedwch wrth bawb – nid yw’n rhy hwyr i archebu lle ar gyfer Aduniad Rhuddem y rhai a adawodd y coleg ym 1972. Bydd taith o’r coleg yn y prynhawn a bwffe yn y Centro, gyda digon o amser i hel atgofion. Dewch â’ch lluniau a’ch atgofion gyda chi! Dydd Sadwrn 22 Medi 2012, Newyddiaduraeth NCTJ 1988. Mae Alastair Milburn yn trefnu taith o gampws Cyncoed ar gyfer y rhai a astudiodd Newyddiaduraeth yn Rhodfa Colchester a llaw fer yn Taffy's Bar. Dydd Sadwrn 3 Tachwedd - Dosbarth 1962-65 Cyncoed Mae David Llewelyn yn trefnu aduniad i ddathlu 50 mlynedd ers i’r myfyrwyr cyntaf ddechrau yng Nghyncoed. Rydym yn annog Cyn-fyfyrwyr i ymuno â ni ar gyfer digwyddiadau’r Brifysgol drwy gydol y flwyddyn, megis Darlithoedd Proffesiynol a’n Gwasanaeth Carolau yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Am ragor o wybodaeth, sircrhewch eich bod ar ein rhestr post. 2013 - Hysbysiad ymlaen llaw - Dosbarth Astudiaethau Symudiadau Dynol 85-88 Mae Julia Goddard yn trefnu aduniad 25 mlynedd. Bydd yn gyfle hefyd i gofio’u cyd-fyfyrwraig a’r darlithydd Non Eleri Thomas (Evans cynt), a fu farw eleni.
“Pan dwi'n tyfu i fynydwi am fod yn wyddonydd”
Gall rhodd addysg newid bywyd.
Gyda'ch help chi, gallwn newid bywydau gyda'n gilydd. Ar ôl gofalu am eich teulu a'ch ffrindiau, ystyriwch adael rhodd yn eich ewyllys i gefnogi ysgoloriaethau ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Byddwch yn cefnogi traddodiad o gyfleoedd, cyflawniadau ac arloesedd.
Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar adael rhodd yn eich ewyllys i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, cysylltwch â: Sheona Evans, Rheolwr Datblygu ffôn: 029 2020 1590 e-bost: sjevans@cardiffmet.ac.uk www.cardiffmet.ac.uk/supportus
P’un a ydych am astudio llawn amser neu rhan-amser. Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn ddewis ardderchog ar gyfer astudiaet h ôlradd.
datblygu eich gyrfa Rydym yn falch iawn o’n ein enw da mewn ymchwil gymwysedig a’n cysylltiad agos gyda busnes a diwydiant., gan gynnig cyrsiau o’r radd flaenaf a chyfleoedd ymchwil ar draws pum ysgol academaidd.:
YSG O L YSG O L YSG O L YSG OL YSG OL
G E L F A DY L UNIO CAE R DY DD A DDYSG CAE R DYDD G WY DDO R AU IEC HY D CAE R DYD REO LI CAE R DY DD C HWA RAEO N CAE R DY DD
Ysgoloriaethau Ôlradd gwerth £3000 ar gael!
www.cardiffmet.ac.uk/scholarships
Gwybodaeth bellach a rhestr llawn o’r cyrsiau:
www.cardiffmet.ac.uk/postgraduate
029 2041 6044 facebook.com/ cardiff.metropolitan.university @cardiffmet