UNIVERSITY OF WALES INSTITUTE, CARDIFF
AT H R O FA P R I F Y S G O L C Y M R U, C A E RSubheading DYDD here Subheading here
Rhifyn 03 - 2011
alumni Cylchlythyr Cyn-fyfyrwyr Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd
Y tu mewn… Diolch Dilys tudalen 2
Dylunio i ddatblygu’r synhwyrau tudalen 7
Dadansoddi Perfformiad tudalen 9
Economeg Werdd tudalen 11
Rhwydweithio Cyn-fyfyrwyr tudalen 13
Addysg ar-lein tudalen 15
Byd o les mewn 45 munud! tudalen 3
22
Croeso
Enillwch docynnau i weld Lee Evans yng Nghaerdydd! Mae’r comedïwr enwog Lee Evans ar fin mynd ar ei daith fwyaf uchelgeisiol hyd yma, ac rydym yn falch o gynnig dau bâr o docynnau ar gyfer ei sioe yn y brifddinas fis Tachwedd – mae pob tocyn ar gyfer y sioe wedi’u gwerthu. Diolch i Motorpoint Arena, Caerdydd, am y tocynnau. Os hoffech chi ennill pâr o docynnau, anfonwch e-bost atom gyda’ch barn ar y cylchgrawn, manylion cyswllt ffrind, neu neges sydyn i
ddweud ble rydych chi erbyn hyn a beth rydych chi’n ei wneud! Dim ond cyfeiriadau e-bost hanner ein darllenwyr sydd gennym, sy’n golygu bod llawer ohonoch yn colli’r cyfle i dderbyn e-gylchlythyr chwarterol, gwahoddiadau a’r newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau gennym. E-bostiwch ni heddiw, da chi! Byddwn yn dewis enw’r ddau enillydd ar hap ddydd Gwener 2 Medi.
Croeso gan Swyddfa’r Cynfyfyrwyr Croeso i rifyn 2011 o Gylchgrawn Cyn-fyfyrwyr UWIC! Fel arfer, mae bleser gen i rannu rhai o’r straeon gwych am UWIC a rhai o lwyddiannau ein cyn-fyfyrwyr.
Uchod: Claire Grainger, Swyddog Cyn-fyfyrwyr UWIC 1
Efallai mai dyma’ch copi cyntaf o’r cylchgrawn, gan eich bod newydd raddio neu wedi ailgysylltu â ni. Os felly, croeso mawr! Mae Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr UWIC wedi tyfu, gyda rhyw 36,000 o aelodau y llynedd. Rydym wedi llwyddo i ddod o hyd i ragor o gynfyfyrwyr Cyncoed 1971, ac yn Llandaf, rydym wedi helpu graddedigion Iechyd yr Amgylchedd o’r 1990au i ailgysylltu â’i gilydd a’u cyn-ddarlithwyr. Os hoffech chi drefnu aduniad, darllenwch ein herthygl ar dudalen 17.
Cymrodorion Anrhydeddus
Ble fydden ni heb Dilly Dance? Byddai’r byd yn lle tipyn mwy diflas, heb os. Dyna pam ein bod yn falch o groesawu Dilys Price, OBE fel un o Gymrodorion Anrhydeddus UWIC eleni. Ymunodd Dilys â staff addysgu Cyncoed ym 1960, fel uwch-ddarlithydd. Addysgodd ddawns i genedlaethau o ddawnswyr, athrawon dan hyfforddiant a myfyrwyr ymarfer corff, a gwnaeth gyfraniad allweddol wrth greu’r cwrs Astudiaethau Symud Dynol a gychwynnodd ym 1981. Roedd ei maes ymchwil yn cynnwys manteision symud a dawns i fyfyrwyr ag anghenion addysgol arbennig. Fel rhan o’r gwaith hwn, torrodd dir newydd gyda chyrsiau Addysg Gorfforol a Addaswyd ar gyfer Astudiaethau Symud ac Addysg Gorfforol - y cyntaf o’u bath ym Mhrydain - gan hyfforddi athrawon yn y maes hwn a chynhgori cyrff llywodraethu ledled y DU ar chwaraeon i rai ag anghenion arbennig. Roedd Dilys yn rhan o’r criw a fu’n codi arian i adeiladu Canolfan Chwaraeon i’r Anabl Cymru yn UWIC ym 1984. Ar ôl ymddeol, aeth Dilys ati i sefydlu Touch Trust. Ei nod oedd creu ‘canolfan hapusrwydd’ – lle hyfryd a hwylus i blant ac oedolion ag anableddau, lle gellir cynnig cyfleusterau therapi cyffwrdd a sbarduno’r synhwyrau, a hyfforddi cynhalwyr yn y maes pwysig hwn a all newid bywydau pobl. Dechreuodd Dilys weithio o’i chartref, a chynnal sesiynau mewn ystafelloedd a llefydd eraill ar hyd a lled Caerdydd, cyn cael gwahoddiad i fod yn un o’r cwmnïau preswyl yn y ganolfan wych i’r celfyddydau ym Mae
Caerdydd, Canolfan y Mileniwm, a agorodd yn 2004. Erbyn heddiw, mae gan Touch Trust gyfres o ystafelloedd hyfryd wedi’u creu’n bwrpasol, gan gynnwys ystafell synhwyraidd, ac mae’r ymddiriedolaeth yn ymrwymo i sicrhau rhagoriaeth ac amrywiaeth ac i gynnwys pobl o bobl o bob cwr o Gymru. Yn 2003, cafodd Dilys anrhydedd yr OBE am ei gwasanaethau i bobl ag anghenion arbennig yng Nghymru. Bellach, mae gan Touch Trust ganolfannau rhagoriaeth ledled Cymru, sy’n cael eu rhedeg gan staff cymwys yr ymddiriedolaeth. Mae Dilys a’i thîm yn cynghori grwpiau yng Nghymru a thramor ar gyflwyno cyrsiau mewn colegau addysg bellach a sut i sefydlu canolfannau tebyg yn lleol. Nod Dilys yn y pen draw yw Canolfan Gymunedol a Choleg y Celfyddydau ar gyfer pobl ifanc sy’n chwilio am ddarpariaeth addysg a hamdden mwy ysgogol ar ôl gadael ysgol. Un o ddiddordebau mwyaf anghyffredin Dilys yw awyrblymio. Dros y blynyddoedd, mae Dilys wedi neidio 1,100 o weithiau o awyrennau, er mwyn codi arian i Touch Trust – ac mae’n denu cryn dipyn o sylw a hithau’n 78 oed. Yn 2003, cafodd ei henwi fel y fenyw hynaf yn y byd sy’n awyrblymio. Dyma a ddywedodd ar y pryd: “Pan ddechreuais i awyrblymio, wnes i erioed feddwl y byddwn i’n dal wrthi’n 70 oed – ond dwi wrth fy modd, a dwi ddim yn bwriadu rhoi’r gorau iddi!” Dymunwn yn dda i Dilys ar ei Chymrodoriaeth, ei hantur awyrblymio nesaf, a gyda Touch Trust!
Dilys Price, OBE - ein Cymrawd Anrhydeddus diweddaraf
Dilys yn awyrblymio eto
Cymrodorion Anrhydeddus eraill a enwebwyd:
Colin Jenkins addysgwr rhyngwladol
David Worthington dylunydd graffeg
Rt. Hon. Dr Kim Howells gwleidydd a beirniad celf
Professor Sir Lesek Borysiewicz Is-ganghellor, Prifysgol Caergrawnt
Professor Sir Steve Smith Is-ganghellor, Prifysgol Caerwysg
2
Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Byd o les mewn 45 munud!
Pe baech chi’n gallu gweddnewid eich bywyd mewn 45 munud gyda thystiolaeth wyddonol glir i gefnogi’ch newidiadau a chanlyniadau cadarnhaol, heb orfod cymryd unrhyw dabledi, byddwch yn siŵr o fynd amdani. Mae ymchwilwyr grŵp ymchwil i Ddiabetes ac Iechyd Metabolaidd, Ysgol Gwyddorau Iechyd UWIC – sydd â gradd Gwyddor Fiofeddygol (BMS) – yn casglu data sy’n awgrymu y gall 45 munud o ymarfer corff, deirgwaith yr wythnos, wneud byd o les i iechyd pobl. Yn ogystal â dangos bod “ymarfer corff yn dda i chi”, nod yr ymchwilwyr yw dangos bod yna resymeg wyddonol dros annog cleifion i wneud ymarfer corff, yn ogystal â – neu hyd yn oed yn lle – cyffuriau. Mae José Ruffino (BSc BMS 2009) a Nia Davies (BSc BMS 2008; MSc BMS 2009) yn fyfyrwyr PhD, y naill yn yr ail flwyddyn a’r llall yn y drydedd. Testun eu gwaith ymchwil yw’r manteision penodol i iechyd o wneud ymarfer corff, trwy edrych ar effeithiau genyn arbennig o’r enw PPARγ, sy’n aml yn cael ei dargedu gan gwmnïau cyffuriau i reoli clefydau fel diabetes math II (T2D). Os bydd eu gwaith ymchwil yn parhau i ategu’r hyn a welwyd hyd yma (h.y. bod ymarfer corff yn sbarduno genyn PPARγ
3
tebyg i’r un sy’n cael ei greu gan gyffuriau gwrthddiabetes), yna byddant yn gallu cyflwyno tystiolaeth i bwysleisio’r ffaith mai fel cam olaf yn unig y dylid defnyddio meddyginiaethau drud ac mai dos o weithgarwch corfforol ddylai gael y flaenoriaeth. Mae llu o fanteision iechyd yn gysylltiedig â gweithgarwch corfforol: llai o berygl o ddatblygu diabetes math II, clefyd coronaidd y galon, pwysedd gwaed uchel a chanser y colon; iechyd meddwl gwell; cynnal esgyrn a chyhyrau iach, a helpu pobl hŷn i fod yn fwy annibynnol. I’r gwrthwyneb, oherwydd ei effaith ar iechyd y cyhoedd, mae anweithgarwch corfforol yn faich economaidd enfawr, yn uniongyrchol, trwy gynyddu gwariant y GIG er mwyn trin a rheoli clefydau fel diabetes math 2, ac yn fwy anuniongyrchol oherwydd anweithgarwch economaidd yn sgil gwaeledd. Yn anffodus, mae lefelau anweithgarwch corfforol yn uchel yng Nghymru (gyda mwy na thraean o oedolion Cymru yn gwneud ymarfer corff llai nag unwaith yr wythnos, a dim ond 29% yn bodloni’r canllawiau swyddogol ar gyfer gweithgarwch corfforol). Felly, mae’r “epidemig diabetes” ac anhwylderau eraill sy’n codi yn sgil ffyrdd eisteddog o fyw, yn effeithio’n anghymesur ar Gymru.
Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Eto i gyd, dyw gwneud 45 munud o ymarfer corff, deirgwaith yr wythnos, ddim yn gwbl amhosibl. Dod o hyd i’r amser yw’r broblem i’r rhan fwyaf – a does dim rhaid gorwneud pethau chwaith. Trwy’r cynllun ‘Iechyd a Lles’, cafodd staff UWIC eu hannog i wirfoddoli ar gyfer astudiaeth ymarfer corff dan arweiniad Nia a José, a gynlluniodd raglenni ymarfer corff wedi’u teilwra i allu pob unigolyn. Cwblhaodd 22 o bobl raglen ymarfer corff dros 8 wythnos, y rhan fwyaf yn fenywod 33-50 oed a oedd yn teimlo eu bod ‘angen gwneud rhywbeth’. Roedd yr effeithiau’n drawiadol, nid yn unig o ran eu lefelau ffitrwydd corfforol ond hefyd o ran eu pwysau, mesuriad eu canol a’u lles cyffredinol. Er mai cerdded cyflym oedd y gweithgarwch caletaf a ‘ragnodwyd’, roedd pawb wedi cael budd o’r ymarferion.
a’r manteision mewn bywyd go iawn.” Roedd Nia hefyd yn teimlo fod cysylltu ag aelodau’r grŵp yn elfen bwysig a dylanwadol hefyd. Ar ôl meddwl mai gwaith labordy oedd o’i blaen, ei bryd bellach yw gweithio ym maes hybu iechyd gyda’r cyhoedd. Ar y llaw arall, hoffai José weithio ym myd polisi llywodraeth ar ôl cwblhau’i gwaith ôldoethuriaeth yn yr un maes. “Mae rhai o ddewisiadau’r llywodraeth yn hyrwyddo diogi” esboniodd, wrth gyfeirio at erthygl ddiweddar a oedd yn awgrymu y dylai pawb dros 55 oed gymryd tabledi statin, rhag ofn. “Yn hytrach, dylid eu hannog i fanteisio i’r eithaf ar ffordd o fyw iachach, trwy wneud mwy o weithgarwch corfforol fel cerdded, beicio neu hyd yn oed siopa (heblaw arlein wrth gwrs), garddio neu waith tŷ.”
Mae José yn hoffi’r ffaith mai ymarfer corff ‘dwyster isel’ ydyw. “Mae pobl angen rhaglen raddol, wedi’i theilwra, er mwyn eu helpu i arfer gwneud ymarfer corff, gan fod llawer yn teimlo eu bod dan bwysau i gyflawni gormod mewn byr amser. Ein nod yw hyrwyddo ffordd o fyw iachus yn hytrach na rhaglen ddeiet ac ymarfer corff, er mwyn i bobl deimlo eu bod yn gallu dal ati. Ac i ymchwilwyr labordy fel ni, mae’n wych ein bod yn gallu gweld y canlyniadau
Mae’r grŵp ymchwil i Ddiabetes ac Iechyd Metabolaidd yn gweithio ar lu o astudiaethau sy’n seiliedig ar y pwnc hollbwysig hwn o safbwynt iechyd cyhoeddus. Fe wnaeth un o raddedigion eraill UWIC, Lee Butcher (BSc SHES 2005) ymchwilio i’r modd y gall cerdded helpu i leihau lefelau colesterol ac LDL fel rhan o’i gwrs PhD (2005-09), ac mae gwaith arall y grŵp hefyd yn cynnwys ymchwil i ymarfer corff ar
sail gymunedol. Mewn astudiaeth arall (i gychwyn yn haf 2011), bydd cyfranwyr yn gwneud ymarferiad beicio dwyster uchel wrth gymryd ychwanegyn gwrthocsidydd. Y nod yw canfod a fydd yr ychwanegyn - sydd i fod i hybu un set o fanteision iechyd - yn dileu’r manteision hynny i’r genyn PPARγ a fyddai wedi’u creu yn sgil beicio beth bynnag. Mae’r grŵp hefyd yn ehangu i’r maes clinigol trwy gydweithio â staff clinigol Ymddiriedolaethau GIG lleol i weld sut y gall cleifion sydd mewn perygl o gael diabetes oherwydd eu hanoddefiad glwcos, hefyd elwa ar wneud ymarfer corff. Mae’r goblygiadau’n glir o ran polisi cyhoeddus: mae’r cyrsiau PhD yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol yr UE, mewn cydweithrediad â Pharc Rhanbarthol y Cymoedd, corff sy’n cynnwys dros 40 o bartneriaid gan gynnwys Groundwork Cymru, awdurdodau lleol, Chwaraeon Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, sy’n ceisio adfywio cymoedd y De yn bennaf trwy fanteisio ar amgylchedd naturiol eithriadol yr ardal. Rhowch gynnig ar ein her 45 munud y dydd – a chysylltwch â ni i ddweud sut hwyl rydych chi’n ei gael.
Helen Campling: “Gofynnwyd i mi ymuno ag astudiaeth gerdded Nia a José, y myfyrwyr PhD. Roeddwn i newydd ddychwelyd i’r gwaith ar ôl rhoi genedigaeth, ac yn meddwl y byddai’n ffordd dda o ailafael mewn ymarfer corff a chael gwared ar beth o’r pwysau a rois yn ystod fy meichiogrwydd. Fe wnes i fwynhau cymryd rhan yn yr astudiaeth, ac roeddwn i’n gweld fy hun yn gwella ar ôl pob sesiwn. Roeddwn i’n gallu cerdded yn gyflymach a phellach bob tro. Y rhan waethaf oedd gorfod rhoi gwaed. Ers cwblhau’r astudiaeth, dwi wedi parhau i gerdded adref fin nos, ac wedi ymuno â champfa UWIC. Dwi wedi colli pwysau, a dwi’n teimlo’n llawer mwy iach a heini erbyn hyn! ”
Ray Newbury: "Dechreuais i wneud y rhaglen gan nad oeddwn i’n gwneud fawr ddim ymarfer corff, ac yn amlwg eisiau colli pwysau. Doedd hi ddim yn anodd ymrwymo i’r rhaglen gan fod Nia a Jose yn wych ac yn ein hannog ni bob cam o’r ffordd. Bellach, dwi’n teimlo’n llawer gwell yn gorfforol ac wedi parhau i gadw’n heini trwy ddefnyddio’r llwybrau cerdded ger fy nghartref bob dydd. Dwi’n dal i golli pwysau, sy’n beth gwych i mi. Mae’n amlwg ’mod i wedi elwa ar y rhaglen. Pob lwc i Jose a Nia gyda’u gwaith ymchwil."
4
Sefydliad UWIC
Ar alwad Caerdydd yn galw…eto!
“Helo, Yasmin ydw i. Dwi’n fyfyrwraig yn UWIC, a hoffwn gael gair bach gyda chi...”
Roeddem ni’n wedi plesio gymaint gyda llwyddiant ymgyrch ffonio’r cyn-fyfyrwyr yn 2010, nes ein bod ni wedi penderfynu gwneud yr un peth eto. Yn ystod yr ymgyrch ddiwethaf, fe wnaeth y myfyrwyr ffonio dros 1,000 o gyn-fyfyrwyr dros gyfnod o 4 wythnos. Roedd yn gyfle gwych iddynt sgwrsio â graddedigion oedd wedi astudio’r un cwrs â nhw, a chafodd llawer ohonynt gyngor ac awgrymiadau gwych am yrfaoedd a sut i wneud y gorau o’u profiad yn UWIC. Hefyd, fe wnaeth ein cyn-fyfyrwyr addo cyfrannu £30,000 tuag at Gronfa Flynyddol UWIC, a fydd yn helpu myfyrwyr heddiw ac yfory gyda’u hastudiaethau. Diolch o galon i’r holl gyn-fyfyrwyr am gymryd rhan y llynedd roedd hi’n braf cael eich adborth a chlywed eich hanesion diweddaraf. Eleni, rydym yn bwriadu cynnal yr ymgyrch ffonio ym mis Hydref a Thachwedd, a byddwn yn ysgrifennu at bob cyn-fyfyriwr fydd yn cael galwad ffôn gennym. Yn anffodus, nid yw rhif ffôn pawb gennym, felly os hoffech chi gymryd rhan, a fyddech mor garedig â chysylltu â ni trwy ebostio uwicfoundation@uwic.ac.uk neu ffonio 029 2020 1590.
Cronfa Flynyddol UWIC
Yasmin (BA (Anrh.) Rheoli Twristiaeth a Lletygarwch Rhyngwladol) aelod o ymgyrch ffonio 2010
Eleni, bydd yr ymgyrch ffonio yn codi arian hollbwysig ar gyfer Cronfa Flynyddol UWIC. Rydym yn defnyddio’r arian hwn i gefnogi ysgoloriaethau a bwrsarïau newydd, adnoddau newydd i fyfyrwyr a gwaith ymchwil arloesol. Mae pob ceiniog yn cyfrif ac yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ac wrth i chi gyfrannu, rydym yn ychwanegu’ch enw i’n rhestr o gefnogwyr – ac mae rhestr hir o enwau yn hwb mawr i ni ddenu ffynonellau ariannu eraill.
Y Cynllun Arian Cyfatebol Nod y cynllun arian cyfatebol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru oedd cynyddu cyfraniadau dyngarol i brifysgolion, ac mae’n dod i ben ar 31 Gorffennaf 2011. Diolch i’r cynllun 3 blynedd hwn, roedd UWIC yn gallu hawlio o leiaf 50c am bob £1 a gyfrannwyd, ac roeddem yn ffodus o dderbyn dros £50,000 o’r gronfa hon! Er bod y cynllun wedi gorffen bellach, mae’ch cyfraniadau ariannol yr un mor bwysig, a gallwn barhau i hawlio 25c am bob £1 a gyfrannwch, trwy’r cynllun Cymorth Rhodd.
5
Sefydliad UWIC
Pam mae UWIC yn codi arian?
Tŷ’r Coleg cartref Sefydliad UWIC
Andrew Walker, Cyfarwyddwr Datblygu
Cwestiwn cyffredin gan ein rhanddeiliaid a’n cyfeillion yw, "pam mae UWIC yn codi arian?" Fy ateb i yw hyn – mae addysg uwch yng Nghymru yn bodoli diolch i gefnogaeth cymunedau lleol. Ganrif a mwy yn ôl, roedd ffermwyr, glowyr a chwarelwyr yn talu degwm, gan roi faint bynnag y gallant er mwyn rhoi cyfle i genedlaethau’r dyfodol osgoi tlodi trwy addysg. Rydym yn dal i ddibynnu ar bobl sy’n credu mewn cefnogi addysg. Heddiw, rydym yn dibynnu ar haelioni pobl sy’n deall gwerth yr hyn rydym ni’n ei wneud, ac sy’n
benderfynol o’n helpu i ddiogelu ac ehangu addysg, mewn cyfnod pan fo’r sefyllfa ariannol yn fwy bregus nag erioed. Erbyn heddiw, mae bron pob prifysgol yn y DU yn ceisio denu incwm gan gyn-fyfyrwyr, ymddiriedolaethau elusennol, busnesau ac unigolion eraill sy’n teimlo’n gwbl angerddol am addysg. Dyw UWIC ddim gwahanol. Dyna pam y gwnaethom ni sefydlu swyddfa codi arian Sefydliad UWIC yn 2009. Po fwyaf o bethau rydym yn ei gyflawni yn UWIC, po fwyaf o bethau sy’n bosibl. Byddem wrth ein
boddau pe baech chi’n penderfynu cyfrannu at ein dyfodol llewyrchus. I’r rhai ohonoch a fu’n astudio yma, mae gwneud cyfraniad yn gyfle i ddangos gwerthfawrogiad a chefnogaeth. I eraill, mae cyfrannu i UWIC yn ffordd o ddangos pa mor bwysig yw addysg, fel ffordd o rymuso pobl na fyddai’n cael cyfle i ddatblygu’u doniau fel arall, a chyfrannu at dwf rhagoriaeth addysgol yma yng Nghaerdydd.
cyn-fyfyriwr yn cyfrannu dim ond £20 y flwyddyn, gallem godi £1,000,000! O ysgoloriaethau ac adnoddau myfyrwyr i waith ymchwil o safon byd, gallai’ch rhodd arbennig chi gyfrannu at sawl maes. Ewch i www.uwic.ac.uk/ uwicfoundation am fwy o wybodaeth.
Efallai nad ydych yn meddwl y gallwch wneud rhyw lawer, ond mae pob cyfraniad yn cyfri a phob rhodd yn gwneud gwahaniaeth. Pe bai pob
6
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Datblygu’r Synhwyrau trwy Ddylunio Mae gweld eich symudiadau, synau neu’ch cyffyrddiadau eich hun yn trosglwyddo’n ddelweddau ar y sgrin yn dod yn fwyfwy cyfarwydd, yn oes Nintendo Wii, Xbox Kinnect ac iPad. Ond nid selogion gemau cyfrifiadurol a’r dechnoleg ddiweddaraf yw’r unig rai sydd wedi gwirioni’n lân ar hyn; mae arloeswyr cymdeithasol, athrawon, clinigwyr a dylunwyr hefyd yn manteisio i’r eithaf ar holl bosibiliadau’r cyfrwng. Mewn ysgol fach ym Mhenarth, mae cyfuniad rhyfeddol o gelf, technoleg ac addysg yn cyfuno i weddnewid bywydau’r plant.
7
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Wendy Keay-Bright Darllenydd mewn Dylunio Cynhwysol, Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd
Mae Wendy Keay-Bright yn Ddarllenydd mewn Dylunio Cynhwysol ac yn Uwchddarlithydd ar gwrs gradd Cyfathrebu Graffig yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, UWIC. Fel rhan o’i gwaith ym maes Technolegau Rhyngweithio a Dylunio Cyfranogol , dangosodd sut y gallai pobl ryngweithio â’i gilydd a’u hamgylchedd mewn ffyrdd cyffrous a diddorol. Yn ddiweddar, enillodd Wendy a’i phartner dylunio, Joel Gethin Lewis, wobr Include 2011 am y Dylunio Cynhwysol Arloesol Gorau.
Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar arferion chwarae’r plant wrth iddynt ryngweithio’n llawn mynegiant â’r dechnoleg. “Mae plant ag achosion difrifol o ASC yn aml yn cael eu diystyru wrth gyd-greu a defnyddio technolegau newydd,” esboniodd Wendy. “Ychydig iawn o gymhelliant sydd ganddynt yn aml i ddefnyddio iaith lafar, ac maen nhw’n bryderus iawn ac yn hynod sensitif i ysgogiad amgylcheddol.” Mae’r prosiect wedi derbyn cefnogaeth hael gan Sefydliad Rayne.
Yn y prosiect arbennig hwn, mae disgyblion Ysgol Ashgrove ym Mhenarth, sydd â Chyflyrau’r Sbectrwm Awtistig (ASC) yn rhan o brosiect peilot i ddatblygu meddalwedd rhyngweithiol i’w ddefnyddio yn yr ysgol.
Gan ddefnyddio gliniadur, taflunydd, a thechnoleg X-Box Kinect, mae Wendy a’i thîm o ddylunwyr meddalwedd dawnus wedi addasu un rhan o’r ysgol yn ‘Ystafell Adweithiol’ - ystafell ryngweithiol lle mae’r plant yn gallu defnyddio
sain a symudiadau i reoli’u hamgylchedd. Mae’r tîm wedi llwyddo i ddatblygu cyfres o raglenni hwyliog, rhyngweithiol a lliwgar, lle mae’r plant yn clapio’u dwylo yn lle clicio botwm, i achosi i siapiau ymddangos ar y sgrîn. Yna, mae’r plant yn cerdded, chwifio’u dwylo neu’n gweiddi yn lle defnyddio llygoden y cyfrifiadur, i symud y siapiau neu greu rhai newydd. Mae’r disgyblion yn rheoli’r hyn sy’n digwydd ar y sgrîn yn ôl eu lefel gallu neu pa mor gyfforddus ydynt, gan gynnig mwy o sicrwydd i’r disgyblion mwyaf swil, tawel a llai galluog, a phosibiliadau di-ri i’r rhai mwyaf anturus. Dyma ddisgrifiad Ben, un o’r athrawon, o’r gwaith: “Rwy’n addysgu’r disgyblion i greu ffilmiau, fel rhan o ddull integredig o wella sgiliau cyfathrebu, ymddygiad a hunan-barch. Mae’r prosiect hwn yn estyniad perffaith i hynny. Mae rhai o’n disgyblion ni’n swil a thawedog iawn, ac yn cael trafferth ymdopi â’r byd allanol. Mae codi braich i wneud i rywbeth ddigwydd ar sgrin yn gam mawr ymlaen i rai ohonynt felly, ac yn gwneud iddynt deimlo eu bod wedi cyflawni rhywbeth gwirioneddol wych. Po fwyaf y mae’r plant yn mynegi’u
hunain, boed ar lafar neu’n gorfforol - mwya’r byd o adborth maent yn ei gael ar sgrin”. Hefyd, mae’n eu helpu i ddeall y cysyniad o achos ac effaith yn well, gan mai nhw sy’n gwneud i bethau ddigwydd - neu beidio â digwydd - ar y sgrin.” Sylwodd athrawes arall, Ruth, fod y prosiect wedi ysgogi rhai o’r plant i archwilio’r byd o’u cwmpas. Roeddynt yn dechrau arsylwi ar eu cyfoedion, ac yn eu hefelychu, ar ôl peidio â dangos unrhyw ddiddordeb cyn hynny. Er mai tua 2 neu 3 gwaith yn unig oedd y plant wedi defnyddio’r feddalwedd, roedd yr athrawon a’r staff technegol yn gallu rhoi enghreifftiau o gynnydd yn ymddygiad y disgyblion. Er bod rhai o’r ymatebion a welwyd - copïo, arsylwi, cymryd rhan, cymryd eu tro - yn ymddangos yn weddol ddibwys i rai, maen nhw’n gerrig milltir pwysig iawn i’r disgyblion ag achosion mwy difrifol o ASC. Ar y pegwn arall, roedd myfyrwyr yn dangos dealltwriaeth soffistigedig o gyfyngiadau’r system, ac yn ei brofi trwy sefyll yn stond tan i’r sgrîn glirio neu ddarganfod rhannau o’r ystafell lle nad oedd y synwyryddion yn gallu eu holrhain mwyach .
Meddai Wendy, “Mae hi mor braf gweld y plant heriol hyn yn defnyddio’u dychymyg ac yn chwarae gemau gyda’r meddalwedd. Mae’n creu canlyniadau hollol annisgwyl weithiau.” Tra bod yr athrawon yn obeithiol iawn am botensial y feddalwedd a’r ‘ystafell adweithiol’, maent yn cyfaddef ei bod hi’n rhy gynnar i ddweud pa effaith a gaiff ar y myfyrwyr yn y dyfodol. Bydd yr ystafell ar gael i’r ysgol am hyd at chwe wythnos, i weld sut y gallai fod o fudd ar lefel datblygiadol, ac er mwyn annog y myfyrwyr i fynegi eu hunain. Fe allai’r rhaglenni hyn fod o fudd uniongyrchol i’r defnyddwyr, trwy wella eu hyder, hunanymwybyddiaeth, creadigrwydd a theimladau cadarnhaol dros amser. Mae’n creu manteision anuniongyrchol i’w teuluoedd, cynhalwyr a’u hathrawon. Hefyd, mae’n helpu i gyflwyno gwybodaeth newydd am enghreifftiau o ddylunio technoleg gynhwysol ac amgylcheddau addysgu synhwyraidd. Meddai Ben, wrth grynhoi, “Mae’n wych. Dyma ddechrau rhywbeth pwysig dros ben.”
8
Ysgol Chwaraeon Caerdydd
Dadansoddi Perfformiad yn UWIC Mae Dadansoddi Perfformiad ar flaen y gad o ran cymorth gwyddorau chwaraeon dros y blynyddoedd diweddar. Er ei fod yn faes eithaf newydd, mae datblygiadau technolegol yn golygu bod Dadansoddi Perfformiad yn ffactor cynyddol bwysig i sicrhau bod athletwyr elît a’r prif dimau chwaraeon yn perfformio o’u gorau yn gyson.
Dai Greene (BA (Anrh) Rheoli Hamdden a Chwaraeon, 2008) yn dathlu’i fuddugoliaeth yn ras 400m dros y clwydi dros Brydain ym Mhencampwriaethau Athletau Ewrop Gorffennaf 2010. Llun gan Mark Shearman.
Mae Canolfan Dadansoddi Perfformiad UWIC yn arwain y blaen ym maes ymchwil ac addysgu dadansoddi chwaraeon. Gyda thîm ymroddedig o’r hyfforddwyr, dadansoddwyr a thechnegwyr gorau, mae’r Ganolfan yn gwthio ffiniau Dadansoddi Perfformiad yn gyson, ac yn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf fel rhan o’u cyrsiau ôl-radd. Cyfarwyddwr y Ganolfan yw Darrell Cobner (BSc (Anrh) Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, 1998), sydd wedi bod yn ddarlithydd yn Ysgol Chwaraeon UWIC ers pum mlynedd. Cyn hynny, roedd Darrell yn aelod o’r tîm cymorth a helpodd dîm Lloegr i ddod yn bencampwyr Cwpan Rygbi’r Byd yn 2003. Cryfhawyd tîm y Ganolfan yn ddiweddar gyda phenodiad Huw Wiltshire (BA (Anrh) Astudiaethau Symudiadau Dynol 1985), sydd â phrofiad heb ei ail o chwaraeon perfformiad uchel, gan gynnwys gydag Undeb Rygbi Cymru yn fwyaf diweddar. 9
Ysgol Chwaraeon Caerdydd
Beth yn union yw Dadansoddi Perfformiad, a pham mae mor bwysig? Mae’n cynnwys casglu, dadansoddi a chyflwyno data fideo ac ystadegol. Fe’i defnyddir i lywio’r broses hyfforddi, helpu i wneud penderfyniadau a gwneud ymyriadau uniongyrchol er mwyn cael effaith gadarnhaol ar berfformiad chwaraewr, athletwr neu’r tîm. A yw’n cael ei ddefnyddio mewn pob math o chwaraeon? Mae dadansoddi fideos yn rhan hanfodol o waith hyfforddi pob chwaraeon, ac mae’r berthynas rhwng yr hyfforddwr a’r dadansoddwr yn fwyfwy pwysig. Mae hyfforddwyr yn gweithio gyda dadansoddwyr cyn gêm neu sesiwn hyfforddi, er mwyn gweld pa agweddau ar y gamp sydd angen canolbwyntio arnynt. Er enghraifft, mewn gêm bêl fasged, efallai fod hyfforddwr eisiau gweld beth sy’n digwydd pan fo chwaraewr yn rhwystro ymgais y gwrthwynebydd. Wrth i’r gêm ddechrau, mae ffrwd fideo fyw yn llifo i
gyfrifiadur y dadansoddwr. Mae’r dadansoddwr wedyn yn atodi’r tagiau priodol i’r fideo, fel bo’r hyfforddwr yn gallu gwylio’r holl glipiau perthnasol un ar ôl y llall, heb fod angen dirwyn y tap yn ôl neu ’mlaen drwy’r golygfeydd hir, diangen. Fel yr esbonia Damian Jennings, hyfforddwr cynorthwyol tîm pêl-fasged merched Prydain a Phrif Hyfforddwr UWIC Archers, “Mae’n rhan o weithgareddau’r chwaraewyr yma. Rydym yn derbyn gwybodaeth yn gyflym ac yn gallu ymateb i gwestiynau’r chwaraewyr yn syth – efallai ynglŷn â chael ein trechu gan ein gwrthwynebwyr (trwy gael mwy o rebounds) – yn hytrach na dweud ‘mi ddof yn ôl atoch chi yfory’. Mae’n datblygu’n rhywbeth rhyngweithiol, fel eu bod nhw’n gofyn am gael gweld agweddau penodol, a’n bod ninnau’n gallu gwneud hynny wrth bwyso’r botwm." Yn ogystal â monitro amser real, mae dadansoddi perfformiad yn gallu creu cronfa ddata ryngweithiol barhaol sy’n datblygu’r
genhedlaeth nesaf o chwaraewyr/athletwyr trwy fonitro eu cynnydd hirdymor yn rheolaidd. Beth yw cefndir y Ganolfan Dadansoddi Perfformiad yn UWIC? Sefydlwyd y fenter wreiddiol gan Keith Lyons ym 1992, a aeth ymlaen i arwain gwaith Dadansoddi Perfformiad yn Athrofa Chwaraeon Awstralia. Mae’r Ganolfan wedi ailymddangos yn y blynyddoedd diwethaf, gan wneud gwaith ymgynghori i glybiau, cyrff llywodraethu cenedlaethol a thimau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Rydym hefyd yn cynnig gwaith biwro i godio nifer fawr o gemau, yn ogystal â rhoi cymorth tymor byr mewn twrnameintiau a chymorth datblygu proffesiynol i ymarferwyr. Yn ogystal â gwaith ymgynghori, mae’r Ganolfan hefyd yn gwneud gwaith ymchwil cymhwysol i ddarganfod, deall a herio technoleg a thechnegau newydd. Mae cysylltiadau hirdymor â chleientiaid proffil uchel wedi arwain at rwydweithiau eang o gysylltiadau allanol a fydd yn
ein galluogi ni i ddatblygu a rhannu syniadau ac atebion hyfforddi arloesol gyda chleientiaid, fel enghreifftiau o arfer gorau. Faint o waith rydych chi’n ei wneud â myfyrwyr? Ysgol Chwaraeon Caerdydd oedd y cyntaf yn y byd i gynnig cwrs MSc mewn Dadansoddi Perfformiad. Wedi’i gynllunio i gwrdd â’r galw cynyddol am ddadansoddwyr perfformiad, mae’r cwrs MSc yn paratoi dadansoddwyr medrus a phrofiadol gydag egwyddorion gwyddonol cadarn yn sail i’w gwaith. Mae’r rhaglen yn unigryw, diolch i gyfuniad o syniadau damcaniaethol, profiad ymarferol a’r dewis cynyddol o feddalwedd a chaledwedd masnachol. Mae UWIC wedi cynhyrchu nifer sylweddol o ddadansoddwyr, gyda llawer ohonynt wedi’u recriwtio’n syth gan y Ganolfan, eraill wedi’u penodi i swyddi chwaraeon elît, fel timau rygbi rhanbarthol Cymru a thimau rygbi uwchgynghrair Lloegr, a sefydliadau chwaraeon cenedlaethol.
Mae staff y Ganolfan hefyd yn ddarlithwyr yn UWIC, ac mae myfyrwyr chwaraeon yn cael profiad gwaith rheolaidd (am dâl) yn y Ganolfan er mwyn helpu i gyflwyno gwasanaethau Dadansoddi Perfformiad i gleientiaid. Beth yw cynlluniau’r Ganolfan ar gyfer y dyfodol? Cenhadaeth allweddol y Ganolfan yw codi ymwybyddiaeth o ymarferoldeb prosesau dadansoddi ymhlith amrywiaeth ehangach o ddefnyddwyr posibl; gyda’r nod sylfaenol o greu rhagor o gyfleoedd gyrfa i raddedigion UWIC. Yn ogystal â chontractau gyda thimau chwaraeon elît ledled y byd, rydym hefyd yn cydweithio â’r partner meddalwedd allanol Jon Moore (Analysis Pro) fel bod cyfle i drosglwyddo ein profiadau a’n galluoedd i feysydd eraill heblaw chwaraeon, fel y gwasanaeth tân ac achub. Am ragor o wybodaeth am Ddadansoddi Perfformiad yn UWIC, ffoniwch 029 2020 1141 neu ewch i http://cpa.uwic.ac.uk
Pwy yw cleientiaid y Ganolfan? Mae’r cleientiaid diweddar yn amrywio o dimau lleol i ryngwladol, ac ymyriadau llai â chwaraeon unigol, fel athletau a sboncen. Rygbi’r Undeb: Gloucester RFC, Wasps RFC, Undeb Rygbi Cymru, Undeb Rygbi’r Alban, Undeb Rygbi Fiji, Rugby Canada Pêl-droed: Sporting Clube de Braga (Portiwgal) Hoci: England Hockey Rygbi’r Gynghrair: South Wales Scorpions Adam Cullinane, Darrell Cobner, a Huw Wiltshire Staff y Ganolfan a chyn-fyfyrwyr UWIC
Pêl-fasged: UWIC Archers, GB Basketball 10
Ysgol Reoli Caerdydd
Penwythnos gwyrdd?
Mynd ar wyliau, trip siopa, rownd o golff. Mae’r modd rydym ni’n ymlacio ac yn neilltuo amser i ni ein hunain yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i’n bywydau. I rai, mae trip siopa i’r dref naill ai’n nefoedd neu’n uffern ar y ddaear, felly hefyd rownd o golff! Ond pa mor aml ydym ni’n ystyried effaith ehangach ein gweithgareddau penwythnos, neu wythnos o wyliau yn yr haul? Mae’r Centre for Visioning Sustainable Societies (CViSS) yn rhan o Ysgol Reoli UWIC. Rhan sylweddol o waith ymchwil y Ganolfan yw’r economeg werdd, sydd yn ei thro wedi dylanwadu ar bolisi yng Nghymru. Dr Dino Minoli, John Dobson, Dr Molly Scott Cato a Dr Sheena Carlisle sy’n arwain gwaith ymchwil CViSS. Dyma gipolwg o’r modd y mae eu hymchwil nhw yn bwrw goleuni newydd ar eich ‘amser sbâr chi’! 11
Ysgol Reoli Caerdydd
Golf Mae Dr Minoli yn Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Reoli Caerdydd ac yn Ymgynghorydd Busnes a Datblygu Cynaliadwy. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys defnyddio rhaglenni amgylcheddol i gefnogi polisi amgylcheddol. Yn rhinwedd ei swydd fel Cyswllt Cynaliadwy yn Sefydliad Amgylchedd Golff, mae gwaith Dr Minoli yn canolbwyntio ar ‘Greening of Golf, mewn perthynas â rheoli, digwyddiadau, digwyddiadau a thwristiaeth. Mae’n annog clybiau golf ledled y wlad i ymuno rhaglenni
amgylcheddol gwirfoddol fel eu bod yn fwy ymwybodol o effaith eu diwydiant ar yr amgylchedd ehangach ac i helpu’r gymuned golff eang sefydlu arweinyddiaeth i chwyddo amgylcheddol a chyfrifoldeb corfforaethol. Bu Dino yn cynghori’r Gwesty Marriott a’r Clwb Gwlad, Cas-gwent, yn ogystal â chyflwyno Seminar Addysgiadol Rheolwyr Clwb a Cheidwadwyr y Grîn y De Ddwyrain.
Siopa Mae Dr Molly Scott Cato, sy’n arwain thema ymchwil Economïau
Llun John o siarc mawr gwyn yn nesáu at gwch yn ystod ei daith ddiweddar i Dde Affrica
Newydd Ysgol Reoli Caerdydd, yn Ddarllenydd mewn Economeg Werdd ac yn arbenigwraig ar yr economi gymdeithasol a chydweithredol. Mae ei hymchwil yn cwestiynu ein defnydd o adnoddau ac yn gofyn a allwn ni, mewn byd o adnoddau diddiwedd, ddysgu sut i fod yn hapusach wrth brynu llai o bethau a defnyddio llai o ynni. Sut gallwn ni sicrhau bod penderfyniadau o’r fath yn cael eu gwneud yn ddemocrataidd yn hytrach nag ar sail y gallu i dalu yn unig? Mae llyfr newydd Molly, The Bioregional Economy:Land, Liberty and the Pursuit of Happiness, a gyhoeddir y flwyddyn nesaf, yn cynnig bod rhagor o bwyslais yn cael ei roi ar ddarpariaeth leol a dibynnu llai ar gynhyrchion o bendraw’r byd, gyda’r holl gostau
economaidd ac amgylcheddol sydd ynghlwm wrth hynny. Yn syml, siopwch yn eich marchnad ffermwyr leol er mwyn helpu i achub y blaned!
Gwyliau Mae Dr Sheena Carlisle yn ymchwilio i oblygiadau datblygiadau twristaidd er mwyn lleihau tlodi a chyfiawnder cymdeithasol yn Affrica a gwledydd eraill llai datblygedig yn economaidd. Mae effeithiau globaleiddio a buddsoddiad tramor, yn ogystal ag effeithiau cymdeithasol a
diwylliannol presenoldeb twristiaid ar wledydd o’r fath, yn creu cyfres o amodau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol cymhleth. Mae gwaith ymchwil Sheena yn cyfrannu at y meddwl beirniadol ynglŷn â’r heriau sy’n wynebu llywodraethau a’r diwydiant ymwelwyr o ran cyfrannu’n fwy effeithiol at gynaliadwyedd, datblygu a lleihau tlodi. Mae ffactorau fel Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, Cynllunio Cydweithredol, egwyddorion Masnach Deg, a Phartneriaethau’r Sector Cyhoeddus a Phreifat a chynnwys a grymuso’r trigolion yn arbennig o bwysig, felly, er mwyn rheoli cyrchfannau’n effeithiol. Er nad yw gwyliau egsotig yn ddrwg i gyd, rhaid gweithredu polisïau doeth a chall er mwyn creu manteision gwirioneddol i’r economi leol.
Achubwch ein siarcod! Mae gwaith John Dobson yn y Ganolfan yn dipyn mwy cyffrous na’r cyffredin. Mae John yn ymchwilio i’r modd y gellir defnyddio twristiaeth i addysgu pobl am siarcod, er mwyn ceisio helpu i hyrwyddo gwaith cadwraeth. Mae ymchwil yn awgrymu fod siarcod yn cael eu herlid yn aml, ac nad oes ganddynt fawr o ddiogelwch cyfreithiol rhag arferion pysgota anghynaliadwy, gan fod pobl yn eu hofni ledled y byd.
12
Rhwydweithio gyda Chyn-fyfyrwyr
Beth yw Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr UWIC?
Mae un o’n Llysgenhadon Cynfyfyrwyr Tramor, Desiree Jones (BSc (Anrh) Seicoleg, 2003), yn byw yng Nghanada, byddai wrth ei bodd yn cysylltu ag unrhyw gyn-fyfyrwyr eraill yn ei hardal hi:
Efallai eich bod yn gofyn yr un cwestiwn ar ôl derbyn copi o’r cylchgrawn hwn am y tro cyntaf. Rhwydwaith cymdeithasol o’r iawn ryw yw Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr UWIC – un y gallwch gyfeirio ato gyda balchder. Mae Cymdeithas Cynfyfyrwyr UWIC yn ddilyniant o gymuned yr Athrofa a’ch croesawodd chi am y flwyddyn neu fwy y buoch chi’n astudio yma. Boed rhan-amser neu lawn amser, israddedig neu ôlradd, bydd eich ffrindiau coleg a’r sgiliau a gawsoch yma gennych chi am byth. Ond dyw bywyd prifysgol ddim yn gorffen ar ôl i chi gwblhau’ch arholiad olaf neu gamu o lwyfan y seremoni raddio. Mae’ch profiadau prifysgol yn para am byth, a’n nod ni yw eu gwella a’u datblygu ymhellach wrth i chi gychwyn ar eich gyrfa.
13
Meddyliwch am rai o’r meysydd y mae UWIC yn rhagori ynddynt – Podiatreg, Gwyddorau Biofeddygol, Diogelwch Bwyd, Iechyd yr Amgylchedd, Lletygarwch, Hyfforddi, Maetheg, Addysg, TG, Rheoli, Twristiaeth – ble bynnag rydych chi’n gweithio yn y diwydiannau hynny, rydych chi’n siŵr o gwrdd â rhywun a astudiodd yma, sy’n parchu’r darlithwyr gymaint â chi, yn ogystal â’r cwrs a’r cyfleoedd a gawsoch. Wrth i chi raddio, byddwch yn sylweddoli gymaint o gydfyfyrwyr rydych chi wedi eu hadnabod dros y blynyddoedd – ac wrth ymuno â Chymdeithas y Cyn-fyfyrwyr, bydd ‘ôl gatalog’ o gyn-fyfyrwyr ar gael i chi mwya’r sydyn. O gogydd ym mwyty’r Fat Duck i brif swyddog gweithredol B&Q, o grefftwyr a dylunwyr lleol i’ch contract tramor – mae graddedigion UWIC yn dylanwadu ar fywyd yng
Nghaerdydd, de Cymru, gweddill Prydain a’r byd. Enwch westy yng Nghaerdydd nad yw’n cyflogi un o raddedigion UWIC. Enwch dref yng Nghymru nad yw’n cynnwys athro wedi’i hyfforddi yng Nghyncoed. Enwch dîm rygbi yng ngwledydd Prydain nad yw’n cyflogi un o’n hyfforddwyr, chwaraewyr neu ddadansoddwyr perfformiad ni? Rydych chi’n gysylltiedig â nhw i gyd, yn syml trwy’r ffaith eich bod wedi astudio yma. Ac rydym yma i’ch helpu i sicrhau bod y rhwydwaith yn gweithio i chi. Ond doeddwn i ddim yn UWIC! Os buoch chi’n astudio yn un o’r colegau a ragflaenodd UWIC – Athrofa De Morgannwg, Coleg Technegol Llandaf, Coleg Addysg Caerdydd, Coleg Celf Caerdydd, neu rai tebyg – ac wedi mynychu Colley Ave,
Llandaf, Cyncoed neu Gerddi Howard, yna rydych chi’n un ohonom ni! Er bod yr enwau wedi newid, yr un yw’r lle yn y bôn. Os dyma’r tro cyntaf i chi dderbyn y cylchgrawn hwn, yna rydym yn falch eich bod wedi dod o hyd i ni (neu efallai mai chi ddaeth o hyd i ni?!) – gobeithio y byddwch yn cadw mewn cysylltiad am flynyddoedd i ddod. Dwi wedi hen adael Caerdydd! Os ydych chi’n byw dramor, efallai yr hoffech ymuno â’n grwpiau tramor sy’n prysur dyfu, dan arweiniad ein Llysgenhadon Cynfyfyrwyr Tramor. Mae mwy a mwy ohonynt wedi’u sefydlu mewn dinasoedd ledled y byd, gyda’r nod o greu digwyddiadiadau lleol a chyfleoedd i gadw mewn cysylltiad – am resymau cymdeithasol a phroffesiynol. Ewch i’n gwefan i weld a oes grŵp yn eich ardal chi.
“Dwi’n falch iawn o fod yn gyn-fyfyriwr UWIC, a byddwn i’n falch o helpu cyn-fyfyrwyr eraill yng Nghanada i gysylltu â’i gilydd. Dwi’n meddwl y byddai’n wych trefnu digwyddiadau yma yn Ontario, ble rwy’n byw – er mwyn dod â’r cynfyfyrwyr ynghyd i gael cinio, gwibdeithiau ac ati. Rwy’n barod i rannu fy ngwybodaeth am yr ardal a’r arferion lleol gydag unrhyw gynfyfyriwr arall: ac fel hanner Canadiaid hanner Cymraes, rwy’n teimlo ’mod i’n gallu helpu gydag unrhyw wahaniaethau diwylliannol.”
Cyngor i Gyn-fyfyrwyr
Cynigion a dewisiadau i Gyn-fyfyrwyr Sut alla i gymryd rhan? Ymuno â LinkedIn. Mae gennym grŵp arlein ar gyfer rhwydweithio gyrfaol. Dim lluniau, dim ‘hoffi’ pobl a phethau – dim ond cyfle i gysylltu â phobl rydych am weithio gyda nhw.
Ymuno â Facebook. Bydd eich grwpiau myfyrwyr wastad yno i chi ar-lein, ond a fyddwch chi’n dal i’w dilyn, a chithau wedi gadael y tîm? Ymunwch â grŵp a thudalen ‘UWIC Alumni’ ar Facebook, a chadwch mewn cysylltiad i gael y wybodaeth ddiweddaraf – ac ie, digonedd o luniau, trafodaethau a phethau i’w ‘hoffi’.
Dilynwch ni ar twitter @UWIC alumni. Gyda newyddion, sylwadau, digwyddiadau, hysbysiadau atgoffa, lluniau a hyd yn oed cyfleoedd gwaith!
Cynigion i Gyn-fyfyrwyr Mae llu o fanteision ar gael i chi fel cyn-fyfyriwr UWIC, gyda rhai ar gael yn fewnol – fel cyfle i ddefnyddio llyfrgelloedd UWIC am bris rhatach, a chyngor gyrfaoedd am ychydig o flynyddoedd ar ôl graddio. Mae cynigion eraill ar gael gan ein cyflenwyr trydydd parti, llawer ohonynt yn gyn-fyfyrwyr eu hunain, sy’n cynnig nwyddau a gwasanaethau am bris gostyngol. Am fwy o fanylion, ewch i’r dudalen “External Benefits for Alumni and Staff” yn www.uwic.ac.uk/alumni Os hoffech gynnig eich cynhyrchion am bris gostyngol i gyn-fyfyrwyr UWIC, cysylltwch â ni.
Gall pob un o’n cyn-fyfyrwyr ymuno â GradSpace, waeth ble’r ydych chi. Dyma fenter newydd sbon gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu, a gynlluniwyd i gefnogi’r broses o bontio o’r brifysgol i fyd gwaith a datblygiad
proffesiynol mewn busnes a rheoli. Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn gallu darganfod a defnyddio amrywiaeth eang o adnoddau dysgu byrion – rhai cyffredinol ac yn ymwneud â phynciau penodol – gan gynnwys pontio i fyd gwaith, dysgu yn y gweithle a myfyrio. Bydd gennych eich tudalen bersonol, lle
byddwch yn defnyddio e-portffolio i gofnodi eich cyflawniadau, creu proffil, datblygu cynlluniau gweithredu, ychwanegu tystiolaeth o’ch profiadau dysgu, creu rhwydweithiau â chyn-fyfyrwyr eraill UWIC a chydweithio â ffrindiau ar dasgau dysgu. Dyma rai o fanteision GradSpace: • cyfle i ennill credydau lefel Meistr • hwyluso’r broses ddysgu sy’n gysylltiedig â swydd
newydd • ategu’ch profiadau dysgu dysgol gydol oes a datblygiad personol • gwella’ch cyflogadwyedd wrth i chi barhau i feithrin sgiliau, gwybodaeth a’r gallu i ddysgu o brofiad Os hoffech gofrestru, cysylltwch â Swyddfa’r Cyn-fyfyrwyr trwy e-bostio: alumni@uwic.ac.uk
14
Ysgol Addysg Caerdydd
Addysgu yn yr unfed ganrif ar hugain
Ffantasi ar-lein Cyncoed
I’r rhai ohonoch sy’n cofio treulio oriau mewn ’stafelloedd darlithio, bydd y datblygiadau diweddaraf yng Nghyncoed yn swnio fel byd arall. Bydd dilynwyr gwaith J.R.R Tolkein a llenyddiaeth ffantasi yn mynd ar drywydd cwbl wahanol ers i UWIC lansio dau gwrs ar-lein newydd a chyffrous. Dr Dimitra Fimi sy’n arwain y cyrsiau, ac maen nhw’n agored i fyfyrwyr a dysgwyr o oedolion ym mhob cwr o’r byd. Mae Fantasy Literature: From Victorian Fairy Tales to Modern Imaginary Worlds yn archwilio rhyfeddodau llenyddiaeth ffantasi, o’i gwreiddiau Fictorianaidd i’r enghreifftiau diweddaraf un. Mae J.R.R Tolkien, Myth and Middle-earth in Context yn trin a thrafod straeon chwedlonol yr awdur
enwog hwnnw, o’r Hobbit a Lord of the Rings i’w fytholeg estynedig. Cawsom sgwrs gyda Dr Dimitra Fimi i drafod ei gwaith: “Mae’n deimlad cyffrous iawn bod yn rhan o faes ymchwil llenyddol sy’n prysur ddatblygu. Dyw rhai pobl ddim yn teimlo fod y genre ffantasi yn haeddu ymchwil academaidd ddifrifol, ond rwy’n anghytuno. Mae’r genre wedi datblygu cymaint dros y ganrif ddiwethaf, ac yn denu llu o ddarllenwyr, ac mae’r diddordeb academaidd yn cynyddu o hyd. Cychwynnodd y cyrsiau achrededig hyn, sy’n seiliedig ar ymchwil, ym mis Hydref 2010, a dechreuodd y bloc 10 wythnos diweddaraf ym Mai 2011. Does dim
Dr Katharine Cox, Dr Kate North and Dr Spencer Jordan, Cardiff School of Education
15
Ysgol Addysg Caerdydd
gofynion mynediad ffurfiol, ac mae rhai pobl yn dilyn y cwrs gan eu bod yn ddarllenwyr brwd o’r nofelau, tra bod eraill yn eu defnyddio fel cyrsiau rhagflas i weld a hoffent astudio llenyddiaeth yn llawn amser. Mae 50% o’r myfyrwyr yn dewis gwneud credydau y gallant eu defnyddio i ategu cyrsiau gradd eraill, ac mae un myfyriwr ar gwrs lefel Meistr yn bwriadu cyflwyno cais am radd PhD yn y pwnc. “Bu’r broses o ddatblygu deunyddiau ar-lein yn gyffrous a phrysur iawn, yn enwedig o ran adnoddau electronig a materion hawlfraint. Rydym wedi llwyddo i gyfoethogi llyfrgell electroneg UWIC (elyfrau, e-gyfnodolion ac ati) sydd hefyd ar gael i’n
myfyrwyr sy’n astudio gartref. Gwnaeth y myfyrwyr ddefnydd mawr ohonynt, yn ogystal â’r dogfennau digidol o lyfrau a chylchgronau print. Aethom ati i greu podlediadau fideo gydag Adobe Connect hefyd. “Cawsom sawl her hefyd, fel dysgu am gyfraith hawlfraint a gofyn am ganiatâd i uwchlwytho ffynonellau eilaidd trwy’n porth dysgu ar-lein i fyfyrwyr. Ymhlith yr uchafbwyntiau oedd bwrdd trafod bywiog iawn i’r myfyrwyr drin a thrafod y gwaith, a thrafodaethau wythnosol a beirniadol. Mae’n hynod gyffrous gweithio y tu allan i fodel arferol yr ystafell ddarlithio. Llwyddwyd i ddenu myfyrwyr o bob cefndir addysgol a diwylliannol,
sy’n gryfder mawr, gan ’mod i a gweddill y dosbarth wedi cael cyfle i gyfarfod a rhannu sylwadau mewn rhithamgylchedd gyda myfyrwyr eraill na fyddem wedi dod ar eu traws fel arall.” Meddai Matthew Taylor, Pennaeth Menter UWIC: “Cyflwynwyd y Gronfa Datblygu Hyfforddiant er mwyn helpu academyddion i ddatblygu cyrsiau datblygu proffesiynol newydd – 20 yn y ddwy flynedd diwethaf. Mae cyrsiau Dimitra yn enghraifft dda o lwyddiant y fenter hon. Mae’n brawf o ymrwymiad UWIC i ddarparu cyrsiau hyblyg ar-lein.” Cadwch lygad am fwy o ddatblygiadau cyffrous ar-lein yn y dyfodol.
Twristiaeth Lenyddol Gan adeiladu ar yr ymchwil a’r holl ddiddordeb yn y maes hwn, mae’r darlithwyr Ysgrifennu Creadigol, Dr Kate North a Dr Spencer Jordan yn ogystal â’r darlithwyr Saesneg, Dr Dimitra Fimi a Dr Katherine Cox, yn ystyried y cysylltiadau rhwng twristiaeth lenyddol a dinas Caerdydd. Canolbwynt eu gwaith ar hyn o bryd yw Bae Caerdydd, ac mae’r criw, ar y cyd â’r Athro Annette Pritchard a’r Athro Nigel Morgan o Ganolfan Twristiaeth Cymru, yn ymchwilio, ysgrifennu a datblygu ‘app’ ffôn deallus (smart phone application). Dr Katherine Cox sy’n ymhelaethu: “Mae’r cyfeiriad ymchwil newydd hwn yn gyffrous dros ben. Mae’n gyfle i weithio gyda chydweithwyr mewn meysydd eraill, a chreu ‘app’ a fydd yn ychwanegu at brofiadau ymwelwyr â’r Bae. Buom yn ddigon ffodus o gael cefnogaeth fewnol i’r prosiect, ac rydym yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r ‘app’ gyda’n myfyrwyr ni cyn ei lansio i’r cyhoedd.”
Proffil Staff Mae’r Dr Dimitra Fimi yn Ddarlithydd Llenyddiaeth Saesneg. Cwblhaodd ei hastudiaethau israddedig ym Mhrifysgol Athen, Gwlad Groeg, a pharhaodd â’i hastudiaethau ôl-radd ym Mhrifysgol Caerdydd lle cafodd radd MA mewn Astudiaethau Celtaidd Cynnar (2002) a PhD mewn Llenyddiaeth Saesneg (2005). Testun ei thraethawd doethuriaeth oedd gwaith J.R.R Tolkien, sydd bellach wedi’i ddiwygio a’i gyhoeddi fel monograff, Tolkien, Race and Cultural History: From Fairies to Hobbits (Basingstoke: Palgrave Macmillan, 2008). Enillodd y llyfr wobr y Mythopoeic Scholarship Award in Inklings Studies’ a chyrhaeddodd rhestr fer y Katherine Briggs Folklore Award. Mae Dr Fimi hefyd wedi cyhoeddi cyfres o erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid, ac wedi cyfrannu penodau a chyfeiriadau at sawl llyfr a gwyddoniadur.
Mae Dr Fimi hefyd yn arwain taith gerdded lenyddol yn ardal y Mynydd Du, dan y teitl ‘Tolkien’s Wales’, fel rhan o gyfres a drefnir gan Llenyddiaeth Cymru yr haf hwn. Cyfle i ymgolli’n llwyr ym myd yr awdur ffantasi yng nghanol cefn gwlad hudolus Cymru. Bydd manylion am deithiau’r dyfodol dan law academyddion UWIC i’w gweld ar wefan y cyn-fyfyrwyr.
* Cyfle
• MA Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
i awduron!
Rhagor o wybodaeth:
• MA Ysgrifennu Creadigol • MA Saesneg
uwic.ac.uk/humanities 16
Digwyddiadau ac aduniadau
Digwyddiadau ac aduniadau Digwyddiadau ac aduniadau Wrth i ni fynd i’r wasg, mae ’na gryn edrych ymlaen at nid un, nid dau, ond tri aduniad ym mis Gorffennaf! Dydd Sadwrn 9 Gorffennaf 2011 Dosbarth 1968/71, Cyncoed 3-11pm, Undeb y Myfyrwyr Cyncoed. Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu 40 mlynedd ers i griw 1968-1971 raddio, a hynny mewn steil ym mar Centro, UWIC.
Dydd Sadwrn 16 Gorffennaf 2011 Graddedigion Iechyd yr Amgylchedd 1991 Gwesty Radisson Blu, Caerdydd
Dydd Gwener 22 Gorffennaf a Dydd Sadwrn 10 Medi 2011 Rydym yn dathlu jiwbilî ddiemwnt Ysgol Chwaraeon Caerdydd - 60 mlynedd llwyddiannus ym myd y campau! Felly, hoffem wahodd cyn-fyfyrwyr a astudiodd neu a gyfrannodd at dimau chwaraeon UWIC, Cyncoed neu’r Mynydd Bychan dros y blynyddoedd, i noson o ddathlu ar ddau ddyddiad gwahanol. Cynhelir y cyfan yn adeilad newydd undeb y myfyrwyr, Canolfan Campws Cyncoed, sy’n dal 200 o bobl. Mae’r ciniawau hyn yn gyfle gwych i chi gael eich aduniad eich hun â hen gyfeillion, yng nghwmni darlithwyr y gorffennol a’r presennol a rannodd eich profiadau chi yng Nghyncoed. Mae ffurflenni archebu eisoes wedi’u hanfon – os nad ydych chi wedi cadw’ch sedd ar gyfer parti gorau’r brifddinas, mae llefydd ar gael o hyd yn aduniad mis Medi.
Darlithoedd Proffesiynol Mae croeso i’n cyn-fyfyrwyr a’u cyfeillion ymuno â ni y tymor nesaf, wrth i’n staff Athrawol newydd eu penodi gyflwyno eu pynciau dewisedig. Bydd rhagor o fanylion ar gael dros yr haf.
17
Digwyddiad Rhwydweithio Gyrfaoedd Dydd Mercher 8 Mehefin, cynhaliwyd ein digwyddiad Rhwydweithio Gyrfaoedd i Gyn-fyfyrwyr – y cyntaf o’i fath – yn Ysgol Reoli Caerdydd, campws Llandaf. Er mwyn helpu newydd-ddyfodiaid, fe wnaethom drefnu sesiwn rwydweithio am yr awr gyntaf, gyda byrddau wedi’u harwain gan gyn-fyfyrwyr a chefnogwyr UWIC sydd wedi hen wneud gyrfa iddynt eu hunain. Ar y noson, roedd hi’n braf ac yn bleser cyflwyno Zoe Harcombe, Llywodraethwr UWIC, cyn gyfarwyddwr Adnoddau Dynol a deietegydd, Andy Harcombe, entrepreneur o fri, Rob Oyston (TAR, 2008) ac Alex Lock o’r cwmni hyfforddiant chwaraeon Regional Sports Schools, Liam Giles ac Elwyn Davies (ill dau’n raddedigion BA Dylunio Graffig, 2005) o’r asiantaeth ddylunio Spindogs, a Sridhar Ponnuswamy (MBA, 2002) o Lywodraeth Cymru. Bu arweinwyr y byrddau yn sgwrsio gyda phob grŵp am 10 munud, gan roi cynghorion ar ysgrifennu CV, creu cysylltiadau busnes, datblygiad proffesiynol, a chyngor ar interniaethau a gwirfoddoli. Ar ôl y sesiynau rhwydweithio mewn grŵp, roedd cyfle i gael trafodaethau anffurfiol pellach dros wydraid o win a canapés, er mwyn rhoi cyfle i’r cynfyfyrwyr mwy profiadol feithrin cysylltiadau. Diolch i bawb am gymryd rhan – gobeithio y gwelwn ni chi’r tro nesaf!
UNIVERSITY OF WALES INSTITUTE, CARDIFF
AT H R O FA P R I F Y S G O L C Y M R U, C A E R D Y D D
Beth fydd eich rhodd chi? Oeddech chi’n gwybod fod gwaith yn UWIC, a noddir trwy ddyngarwch, yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i eraill?
SEFYDLIAD ON
Gyda’ch cymorth chi, gallwn helpu i newid bywydau gyda’n gilydd.
Os hoffech drafod y syniad o adael rhodd yn eich ewyllys i UWIC, cysylltwch â:
Ar ôl ystyried eich teulu a ffrindiau, beth am adael rhodd yn eich ewyllys i UWIC? Byddwch yn cefnogi traddodiad o roi cyfle, cyflawni ac arloesi.
Sheona Evans, Rheolwr Datblygu ffôn: 029 2020 1590 e-bost: uwicfoundation@uwic.ac.uk www.uwic.ac.uk/uwicfoundation
UNIVERSITY OF WALES INSTITUTE, CARDIFF
AT H R O FA P R I F Y S G O L C Y M R U, C A E R D Y D D
Creu cyfleoedd…
Cyrsiau llawn amser neu ranamser – mae UWIC yn cynnig dewis rhagorol i ôlraddedigion.
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd ôl-radd ac ymchwil mewn pum ysgol academaidd: Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd Ysgol Addysg Caerdydd Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd Ysgol Reoli Caerdydd Ysgol Chwaraeon Caerdydd 1
Rhagor o wybodaeth: uwic.ac.uk/postgraduate
029 2041 6044