UNIVERSITY OF WALES INSTITUTE , CARDIFF
ATHROFA PRIFYSGOL CYMRU, CAERDYDD
RHIFYN 2
Dyluniad chwyldroadol yn tynnu gefeiliau i’r 21ain Ganrif TUD 13
Tud 8: Arbenigwr yn darganfod ei bod yn bosib ail-dyfu pengliniau
Tud 5: Y ganolfan arloesol sy’n barod i gefnogi’r diwydiant bwyd yng Nghymru
Tud 10: Yn frwd dros ddylunio
cynnwys UWIC GYDA’R GORAU YN Y DU RHEOLI HOLLOL FODERN CANOLFAN ARLOESOL SY’N BAROD I GEFNOGI’R DIWYDIANT BWYD YNG NGHYMRU ASTUDIO YN YR INDIA ARBENIGWR YN BEIRNIADU’R DIWYDIANT TEITHIO AM ‘RYWIOLI’ MENYWOD ARBENIGWR YN DARGANFOD BOD Y GALLU GAN Y BEN-GLIN I DYFU ETO MEDALAU I’R MYFYRWYR YN FRWD DROS DDYLUNIO UWIC YN CAEL EI GYDNABOD AM WAITH 2 |focus
03 04 05
06 07
08
09 10 10
YMCHWIL O SAFON BYD Y PRIF WEINIDOG YN 12 CEFNOGI ‘ARLOESI DRWY GYDWEITHREDU’ DYLUNIO GEFEILIAU 13 CHWYLDROADOL YN SICRHAU BOD MAMAU A’U BABANOD YN FWY DIOGEL PENDERFYNIADAU SY’N NEWID BYWYDAU ACADEMYDDION YN CYDWEITHIO AR FENTER SY’N TORRI TIR NEWYDD HERIO AGWEDDAU TUAG AT BOBL IFANC
14
MYFYRWYR YN DOD Â THESTUNAU ARHOLIADAU YN FYW CYN-FYFYRWYR LLWYDDIANNUS
17
15
16
18
Tud 18: Cyn-fyfyrwyr llwyddiannus Cynhyrchir Focus gan Uned Gyfathrebu, Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr, UWIC Campws Llandaf, Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd CF5 2SG Ffôn: 029 2041 6044 Golygwyd gan: Y Tîm Cyfathrebu Ffôn: 029 2041 7115 Dyluniwyd gan: Gwasanaethau Creadigol UWIC Ffôn: 029 2041 6056 Os bydd angen mwy o gopïau o Focus arnoch, cysylltwch â Ruth Walton, Swyddog Cyhoeddiadau UWIC, ar 029 2041 6294 neu rwalton@uwic.ac.uk
UWIC gyda’r gorau yn y DU
Mae arolwg o fyfyrwyr mewn mwy nag 80 o brifysgolion wedi gosod UWIC yn bedwerydd yn y DU ac yn gyntaf yng Nghymru o ran ansawdd y profiad y mae’n ei gynnig i fyfyrwyr rhyngwladol. Holodd ISB (International Student Barometer) farn myfyrwyr rhyngwladol ar fyw ac astudio yn UWIC mewn arolwg a wnaed mewn prifysgolion ar draws y DU, gan gynnwys prifysgolion traddodiadol, uchel eu safon, megis Prifysgol Manceinion a Phrifysgol Bryste, a chwe phrifysgol arall yng Nghymru. Cwblhaodd bron 200 o fyfyrwyr o bob un o 5 Ysgol academaidd UWIC yr arolwg ar foddhad ac yn eu plith roedd myfyrwyr o’r India, Oman, Tsieina a Brwnei - y grwpiau cenedlaethol mwyaf. Adroddodd yr arolwg hefyd y byddai myfyrwyr rhyngwladol UWIC yn fwy parod na myfyrwyr o’r un brifysgol arall
yng Nghymru i gymeradwyo’r brifysgol i’w ffrindiau a’u teulu gartref. “Mae llwyddo i gael canlyniadau boddhad da fel hyn, o ystyried y gystadleuaeth gref oddi wrth brifysgolion eraill ar draws y DU, yn wir amlygu ein hymrwymiad i gynnig profiad o’r safon uchaf i’n myfyrwyr rhyngwladol ac mae’n wir dyst i waith caled ein holl staff,” meddai John Phillips, Deon Myfyrwyr Rhyngwladol, UWIC. “A ninnau â myfyrwyr o fwy na 125 o wledydd yn astudio yn UWIC, bydd canlyniadau arolwg ISB yn ein helpu i ychwanegu at ein llwyddiant ac i sicrhau ein bod yn aros yn sefydliad blaengar o ran recriwtio myfyrwyr rhyngwladol,” ychwanegodd. Bellach, yr arolwg yma, a wnaed gan IGraduate, gwasanaeth ymchwilio annibynnol sy’n arbenigo yn y farchnad addysg ryngwladol, yw’r astudiaeth fwyaf ar fyfyrwyr rhyngwladol yn y byd a chafodd ei fabwysiadu gan brifysgolion yn y DU, Iwerddon, Awstralia, Seland Newydd, De Affrica, Singapôr, Ewrop ac UDA, ac mae’n cael adborth gan fwy na 400,000 o fyfyrwyr.
Beth mae’r myfyrwyr yn ei ddweud: “Mae UWIC yn lle cyfeillgar iawn, gallwch astudio â’ch meddwl yn rhydd ac mae digon o bobl ar gael drwy’r amser i’ch helpu.”
Anita Setarhnejad, myfyriwr PhD mewn Technoleg a Gwyddor Bwyd, sy’n dod o Iran
Rhoddwyd UWIC yn y 5 uchaf mewn 21 categori, gan gynnwys: •1af yn y DU (1af yng Nghymru) – llety’r brifysgol •1af yn y DU – Cymdeithasau a chlybiau rhyngwladol •1af yn y DU – cyfleusterau addoli •2il yn y DU (1af yng Nghymru) – cyngor ar fewnfudo a fisas a gynigir gan UWIC •2il yn y DU – gwasanaethau cyffredinol a ddarperir gan Swyddfa Ryngwladol UWIC •2il yn y DU (1af yng Nghymru) – darparu cludiant a chynllun UWIC Rider •2il yn y DU (1af yng Nghymru) – costau byw yng Nghaerdydd •3ydd yn y DU (1af yng Nghymru) – y gwasanaethau cymorth a gynigir i fyfyrwyr •3ydd yn y DU (1af yng Nghymru) – y broses ymgeisio ac ymrestru •3ydd yn y DU(1af yng Nghymru) – trefniadau byw •3ydd yn y DU (1af yng Nghymru) – y gwasanaeth gyrfaoedd
“Rwy’n wirioneddol hoff o UWIC, mae’r berthynas rhwng y myfyrwyr a’r staff yn un dda iawn. Fy ngoruchwyliwr yw’r prif reswm pam rwyf wedi parhau i astudio yma.” Suleiman Ahmed Isa, myfyriwr PhD mewn Gwyddorau Biofeddygol, sy’n dod o Nigeria
“Mae’r ffordd o addysgu yn UWIC yn wahanol iawn i’r ffordd yn yr India. Mae mwy o ryddid i astudio yn eich ffordd chi eich hun. Rwyf wrth fy modd â’r ysgol ac mae’r goruchwylwyr yn gefnogol iawn.” Rohit Naspal, myfyriwr MBA sy’n dod o’r India
focus | 3
Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrh. Rhodri Morgan yn Lansiad Canolfan newydd y Diwydiant Bwyd yn UWIC.
Rheoli hollol fodern
O’r chwith i’r dde: Ceri Preece (Is-Gadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr UWIC), Adrian Brewer a Gareth Turner (Willmott Dixon), David Pritchard (Deon, Ysgol Reoli, Caerdydd, UWIC) a Pam Ackroyd (Cyfarwyddwr Gweithrediadau, UWIC). O’r chwith i’r dde: Yr Athro Antony Chapman, (Is-Ganghellor, UWIC), Dr Maureen Bowen, (Deon, Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd, UWIC) gyda Phrif Weinidog Cymru, y Gwir Anrh. Rhodri Morgan a agorodd y ganolfan yn swyddogol.
Mae’r gwaith ar Ysgol Reoli Caerdydd, sy’n costio £20m i’w adeiladu, yn mynd yn ei flaen ar Gampws Llandaf. Bydd yr adeilad, sydd gyda’r mwyaf modern o’i fath, yn galluogi UWIC i ddod yn un o brif ganolfannau’r DU ar gyfer addysgu ac ymchwilio i bynciau gan gynnwys Busnes, Lletygarwch a Thwristiaeth. Bydd yn cynnig cyfleusterau newydd i fwy na 100 o staff a mwy na 2,000 o fyfyrwyr ar bedwar llawr a thros 7,800 m2. Bydd yn cynnwys darlithfa ar gyfer 200 ynghyd â systemau clyweled, mannau tawel, nifer o ardaloedd dysgu ffurfiol ac anffurfiol, caffi â gardd deras, bar, ty^ bwyta a chegin hyfforddi, a chyfleusterau menter ac ymchwil cyfoes. Cynlluniwyd yr adeilad i gael bod yn adnodd ar gyfer y gymuned fusnes bresennol yn ogystal ag yn fan i addysgu
4 |focus
rheolwyr y dyfodol. Gellir llogi ei ystafelloedd cyfarfod a chynadledda ar gyfer cynadleddau a chynigir cyrsiau ar arwain a rheoli i fusnesau a sefydliadau. Meddai Ceri Preece, Is-Gadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr UWIC: “Bydd yr adeilad newydd gwych yma yn rhoi’r cyfle i ni arloesi a datblygu enghraifft ragorol o’r hyn yw ysgol reoli fodern – yn gryf o ran dysgu ac addysgu, ymchwil a menter, ac yn hygyrch i’r gymuned leol hefyd. “Bydd rhan o’n cynllun ar gyfer y brifysgol yn sicrhau bod mwy na £50m yn cael ei fuddsoddi i wella ein hystadau, a bydd Ysgol Reoli newydd Caerdydd yn ein galluogi i barhau i ddenu myfyrwyr a staff o’r safon uchaf.” Bydd yr adeilad hwn yn cael ei ddefnyddio yn lle cartref presennol Ysgol Reoli Caerdydd sydd ar gampws Rhodfa Colchester, a disgwylir iddo fod yn weithredol yn yr Hydref yn 2010.
Y Swît Synhwyraidd cyntaf yng Nghymru.
Canolfan arloesol i gefnogi y diwydiant bwyd yng Nghymru Ym mis Ebrill, lansiwyd Canolfan arloesol newydd y Diwydiant Bwyd yn UWIC yn swyddogol gan Brif Weinidog Cymru, y Gwir Anrh. Rhodri Morgan. Nod y Ganolfan yw bod yn flaengar yn y gwaith o wella diogelwch bwyd a chefnogi’r diwydiant bwyd yng Nghymru. Bydd y ganolfan newydd yn effeithio ar yr economi wybodaeth drwy ymchwil gymhwysol, trosglwyddo gwybodaeth a thrwy roi’r sgiliau i raddedigion ac i ôl-raddedigion y bydd cyflogwyr yn gofyn amdanynt. Bydd hefyd yn helpu busnesau bwyd i roi’r prosesau cadarn sydd eu hangen arnynt yn eu lle i gael cwrdd â safonau diogelwch
bwyd byd-eang. Meddai Rhodri Morgan, y Prif Weinidog: Mae’r canlyniadau trist yn achos E.coli a chasgliadau ymchwiliad Pennington yn dangos yn glir mor bwysig yw’r datblygiadau hyn mewn rheoli diogelwch bwyd. “Ar ôl bod o gwmpas y cyfleusterau sydd ar gael, mae’n wych gweld ystod y gwaith sy’n digwydd yma a’r cysylltiadau â’r economi drwy Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth, sy’n un o gryfderau mawr UWIC”. “Pleser o’r mwyaf i fi yw cael agor y ganolfan yma, fydd hefyd yn cynnig cymorth i’r diwydiant bwyd yng Nghymru drwy dechnoleg ac ymchwil arloesol,” ychwanegodd. Bydd y Ganolfan yn cynnig cyrsiau ymarferol ar asesu a rheoli risgiau diogelwch bwyd i ddiwydiant, asiantaethau bwyd Awdurdodau Lleol a myfyrwyr gwyddor bwyd a iechyd yr amgylchedd.
“Rhaid i ni gael gwared ar yr arferion gwael a amlygwyd gan yr Athro Pennington yn ei adroddiad diweddar ar achos E.coli yng Nghymru,” meddai David Lloyd, Cyfarwyddwr Canolfan y Diwydiant Bwyd. “Yn ogystal â gweithio gydag ystod o sefydliadau i’w helpu i wella’u prosesau, byddwn yn parhau hefyd i ymgymryd â gwaith ymchwil blaengar i reoli halogi a diogelwch bwyd ac yn gweithio gyda diwydiant ar fabwysiadu’r arfer gorau wrth gynhyrchu bwydydd diogel a rheoli lefelau microbau mewn bwydydd” ychwanegodd. Yn ogystal, bydd yn cefnogi’r diwydiant bwyd drwy gynnig y cyfleusterau diweddaraf i gael datblygu a phrofi cynhyrchion newydd, gan gynnwys y Swît Synhwyraidd cyntaf yng Nghymru lle y gellir profi bwydydd o dan amodau fydd wedi’u rheoli’n llym. Ar ben hyn bydd cyswllt fideo a sain rhwng ystafell y bwrdd a’r gegin yn galluogi cynrychiolwyr y cwmnïau bwyd i ryngweithio â’r cogyddion i asesu sut mae eu cynhyrchion newydd yn cael eu paratoi a’u coginio mewn amgylchedd rheoledig. Bydd yr ymchwil yn y ganolfan, sy’n rhan o Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd, yn cynyddu’r ddealltwriaeth ynglŷn ag effaith deiet a dull byw ar y broses o heneiddio a llawer o’r clefydau sy’n gyffredin yng Nghymru, gan gynnwys Diabetes Math 2, Clefyd Cardiofasgwlar, Gordewdra ac Asthma.
focus | 5
Astudioyn yr India “Rwyf wedi gwneud ffrindiau oes, wedi cael profiadau bythgofiadwy ac wedi magu blas ac egni newydd at sefydlu fy musnes fy hun.” Sut rydych chi wedi elwa o’r profiad? Roedd yn gyfle anhygoel i astudio yn un o ysgolion busnes gorau’r byd. Roedd yn amgylchedd rhyngweithio ffantastig hefyd; nawr mae gen i ffrindiau mewn llawer o feysydd busnes ac mewn llawer o wledydd gwahanol.
Robert Jones, myfyriwr MBA yn UWIC, yn ystod ei gyfnod yn astudio yn yr India.
Yn ddiweddar, cafodd Robert Jones, myfyriwr MBA yn UWIC, gyfle i astudio yn IIMB (Athrofa Rheoli India) yn Bangalore sy’n cael ei hystyried yn un o’r 100 Ysgol Fusnes orau yn y byd. Robert oedd yr unig fyfyriwr yn y DU gafodd ei dderbyn ar y rhaglen acymunodd â 90 o gyd-fyfyrwyr o bob rhan o’r byd ar gyfnod cyfnewid tri mis.
Cawsom gyfweliad â Robert a gofyn y cwestiynau canlynol iddo yngl ^yn â’i brofiadau astudio yn yr India. Pa gymorth gawsoch chi o ran cyllido’r cyfnod cyfnewid? Cefais wobr Entrepreneuraidd gan Urdd Lifrai Cymru gwerth £1,000. Rwy’n ffodus hefyd fod fy rhieni yn fy helpu i fynd ymhellach â’m haddysg a’m gyrfa. Oedd gwahaniaethau o ran y ffordd roeddech yn cael eich addysgu yn yr India? Yn yr IIMB mae pwyslais mawr ar ddadansoddi astudiaethau achos ac fe wnes i fwynhau lefel ymgyfraniad y dosbarth yn fawr iawn; does neb yn swil pan fydd angen rhannu barn a syniadau. Mae’n ddiddorol bod 10% o radd derfynol y myfyrwyr yn cael ei seilio ar lefel eu hymgyfraniad yn y dosbarth a lefel eu presenoldeb. Beth oedd uchafbwynt y cyfnewid? Yr uchafbwynt oedd y cyfnod cyfan y treuliais yn astudio yn IIMB, roedd yn anhygoel. Roeddwn yn teimlo’n gyffyrddus iawn â bywyd ar y campws. Ar wahân i’r profiad dysgu, yr uchafbwyntiau oedd ymweld â busnes roedd teulu yn ei redeg ym Mumbai a gweld yr effaith bositif mae hyn yn ei gael ar y ddinas.
6 |focus
Fyddech hi’n cymeradwyo hyn i fyfyrwyr eraill? Byddwn, yn bendant! Mae astudio mewn gwlad arall yn agor eich llygaid i syniadau newydd, rydych yn cwrdd â phobl newydd ac mae’n rhoi amser i chi feddwl am eich dyfodol. Daliwch ar y cyfle os daw e i’ch rhan, fyddwch chi byth yn gwybod pa ddrysau y gallai eu hagor. Beth yw’r peth mwyaf gwerthfawr sydd wedi aros gyda chi yn sgil y profiad yma? Mae treulio amser yn yr India wedi helpu’r ffordd rwy’n deall diwylliannau gwahanol a’u hagwedd tuag at waith. Rwyf wedi gwella fy sgiliau cyfathrebu hefyd ac wedi gwerthfawrogi mor bwysig yw gosod targedau ar gyfer datblygu’n barhaol ac adeiladu perthnasoedd busnes tymor hir. Beth rydych chi’n ei wneud nawr a beth yw’ch nodau ar gyfer y dyfodol? Roedd y croeso a ges i yn y pentrefi gwledig y bues i’n ymweld â nhw yn rhyfeddol. Bues i’n ymchwilio i ffyrdd y gallem adael i dwristiaid weld y rhan honno o’r India oedd “heb ei chyffwrdd” heb amharu ar ei diniweidrwydd na’i distrywio mewn unrhyw ffordd. Bues i’n gwneud cryn dipyn o waith ymchwil ac yn dechrau datblygu perthnasoedd a allai hybu twristiaeth yn yr India tra’n gwella’r seilwaith, diogelwch teithwyr a’r safonau byw mewn pentrefi gwledig. O safbwynt y dyfodol, rwy’n gobeithio bod yn ddadansoddwr busnes pan fyddaf wedi cwblhau fy astudiaethau. Ymhlith fy nodau tymor hir mae dod yn entrepreneur llwyddiannus erbyn y byddaf yn 35 oed; bod yn gyfarwyddwr ar fwrdd sy’n gwneud penderfyniadau yn ystod cyfnod uno neu gaffael mewn cwmni rhyngwladol, cyn bod yn ymgynghorydd rheoli.
Arbenigwr yn beirniadu’r diwydiant teithio am ‘rywioli’ menywod “Ble bynnag yr edrychwch yn y wasg dwristiaeth – mewn pamffledi gwyliau, hysbysebion ar y teledu neu raglenni teithio – mae menywod yn cael eu rhywioli,” meddai’r Athro Pritchard. Mae hi’n cyfeirio at enghreifftiau megis hysbyseb Ryan Air ar gyfer y wasg a gafodd ei gwahardd, oedd yn defnyddio menyw oedd yn edrych yn rhywiol ac yn gwisgo gwisg ysgol fer â’r geiriau, “Hottest back to school fares.” Yr Athro Annette Pritchard.
Mae arbenigwr blaenllaw ar dwristiaeth wedi beirniadu’r diwydiant teithio am ei agweddau rhywiaethol tuag at fenywod yn ei ymgyrchoedd hysbysebu. Cyhuddodd yr Athro Annette Pritchard,o’r Ganolfan Ymchwil i Dwristiaeth Cymru yn UWIC, y diwydiant o rywioli a throi menywod yn wrthrychau yn ystod darlith a roddwyd ganddi mewn cynhadledd i fenywod sy’n arweinwyr byd a gynhaliwyd yng Ngwlad yr Iâ ac a drefnwyd gan Johanna Sigurdardottir, prif weinidog y wlad. Mae’r academydd yn credu bod hysbysebion mewn cylchgronau ac yn y wasg, pamffledi gwyliau a rhaglenni teledu i gyd yn defnyddio “corff perffaith amhosib ei ddynwared menyw” i werthu popeth, o geir ar log hyd at gyrchfannau gwyliau a chwmnïau awyrennau.
“Yn y pamffledi teithio, mae dynion yn llawn bywyd, yn nofio neu’n seiclo, ond mae menywod bob amser lawer yn fwy llonydd. Maen nhw’n eistedd wrth ochr pwll nofio yn darllen llyfr,” ychwanegodd yr Athro. “Maen nhw’n cyflwyno darlun unffurf o’r hyn yw twristiaid. Beth os ydych yn ddu, yn dew neu’n hŷn? Ble rydych chi’n ffitio? “Rwyf eisiau i bobl feddwl am y math o ddelweddau sy’n cael eu gwerthu iddyn nhw, mewn cylchgronau, pamffledi ac ar y teledu, ac i bwyso a mesur i ba raddau y maen nhw’n portreadu’r un “olwg” stereoteipyddol a’r cyrff sy’n allanol berffaith. “Mae rhywioli a phortreadu fel gwrthrychau o’r math yma’n tanseilio’r hyder a’r bodlonrwydd sydd gan unigolyn wrth feddwl am ei gorff ei hun. Gall hyn arwain at liaws o ganlyniadau emosiynol negyddol yn achos menywod a merched,” ychwanegodd. Mae’r Athro Pritchard yn credu hefyd fod y rhywiaeth a welir mewn cylchgronau teithio yn adlewyrchu’r amgylchedd gwrywaidd a macho sy’n rhan o gwmnïau hysbysebu lle mae dynion yn y swyddi pwysig.
focus | 7
Arbenigwr yn darganfod bod y gallu gan y ben-glin i dyfu eto Gallai darganfyddiad gan arbenigwr blaenllaw, sydd wedi’i leoli yn Ysgol Chwaraeon Caerdydd, chwyldroi’r ffordd y bydd poen yn y ben-glin a chyflyrau arthritig yn cael eu trin. Gallai darganfyddiad gan arbenigwr blaenllaw, sydd wedi’i leoli yn Ysgol Chwaraeon Caerdydd, chwyldroi’r ffordd y bydd poen yn y ben-glin a chyflyrau arthritig yn cael eu trin. Dangosodd yr Athro John Fairclough am y tro cyntaf fod gan y ben-glin y gallu i wella ei hun a’i bod 8 |focus
yn bosib y gall rhannau o’i arwyneb dyfu eto. Yn sgil y darganfyddiad hwn, efallai na fydd rhaid i gleifion wynebu llawdriniaeth lem neu gael pen-glin newydd ac mae’n bosib y gellir annog celloedd y ben-glin i ^ dyfu eto a gwella’r cymal yn fewnol. “G wyr pob un ohonom nad peth hawdd yw mynd ^ yn hyn; bydd corf athletaidd ein hieuenctid yn trawsnewid ac ni fydd yn gallu goddef ymarfer corff dyfal a grymus ein blynyddoedd cynnar. Byddwn yn mynd yn llai hyblyg, yn arafu ac yn dechrau gwynegu. I lawer ohonom, bydd ein cymalau’n dechrau mynd yn boenus, yn ei gwneud yn fwy anodd i ni wneud ymarfer corff yn hwylus ac yna byddant yn achosi poen a chyfyngu ar ein symud.”
“Bob blwyddyn yn y DU, ceir mwy na 5 miliwn o ymgynghoriadau yn ymwneud â phoen yn y ben-glin a’r peth pwysicaf i bob cyfranogwr meddygol a chwaraeon fyddai ei fod yn gallu mesur y draul ar gymalau a’i atal rhag gwaethygu ac i fod â’r nod o weld unrhyw ran o arwyneb y cymal sydd wedi’i niweidio yn tyfu eto,” ychwanegodd. Y gred cyn hyn oedd nad oedd hi’n bosib dileu unrhyw niwed a wnaed i arwyneb cymal y ben-glin drwy draul naturiol, ond mae darganfyddiad yr Athro Fairclough wedi dangos bod gan gelloedd byw yn yr asgwrn y gallu i beri i’r arwyneb a gollwyd dyfu eto ac y gellir gwella niwed i’r cymalau. O ganlyniad i’r darganfyddiad ac yn sgil yr enw da sydd gan yr Athro yn un o’r arbenigwyr mwyaf blaengar o ran trin anafiadau chwaraeon, cafodd Jonny Wilkinson, y seren o fyd rygbi, ei drin gan yr Athro Fairclough i’w helpu i wella problem â’i ben-glin sydd wedi bod yn dramgwydd iddo ar hyd ei yrfa.
Medalau i’r myfyrwyr
Yn ennill medal aur - tîm Pêl-fasged Menywod UWIC.
Mae UWIC yn dathlu mwy o lwyddiant cenedlaethol ym maes chwaraeon ar ôl ennill pum medal aur ym Mhencampwriaethau BUCS yn Sheffield eleni. Y pencampwyr o UWIC oedd tîm Pêl-droed y Menywod, tîm Pêl-fasged y Menywod, Sean Kilroy (Bocsio), Bryony Raine (Naid Bolyn) a Francis Baker (Naid Hir).
ennill am yr eildro ond hefyd am fod timau ^ y Pêl-droed, Athletau, Judo a Polo Dwr Menywod wedi ennill – mae hyn yn dangos trwch y ddawn a’r gallu sydd yn ein clybiau,” meddai Adam Painter, Llywydd UM, UWIC. “Roeddwn i yno drwy’r pencampwriaethau i gyd, ac yn ogystal â’r medalau a’r perfformiad uchel, mae’n rhaid i mi ganmol ein myfyrwyr am eu hagwedd tuag at y digwyddiad ar hyd yr amser. Gall UWIC ymfalchïo ynddynt i gyd,” ychwanegodd. Roedd mwy na 180 o fyfyrwyr yn cynrychioli UWIC, sef un o’r timau mwyaf oedd ym Mhencampwriaethau BUCS eleni. Mae Pencampwriaeth BUCS ar ei hail flwyddyn ac fe’i cynhelir dros 5 diwrnod. Dyma uchafbwynt blwyddyn chwaraeon y prifysgolion. Yn 2009, roedd mwy na 5,500 yn cystadlu mewn 24 camp mewn 14 lleoliad oedd yn golygu mai hwn oedd digwyddiad aml-gamp mwyaf y DU.
Yr Athro John Fairclough, Ysgol Chwaraeon Caerdydd, UWIC.
Francis Baker, enillydd y fedal aur yn y Naid Hir. Yn brawf o’r ffaith eu bod yn parhau ar y brig yn eu campau, roedd tîm Pêl-fasged y Menywod a Sean Kilroy yn fuddugol am yr ail flwyddyn yn olynol. “Roedd anfon mwy na 180 o fyfyrwyr i’r pencampwriaethau’n dipyn o dasg i Undeb y Myfyrwyr ac roedd y canlyniadau’n hollol wych, nid yn unig am fod tîm Pêl-fasged y Menywod a Sean wedi
Llwyddodd tîm Rygbi Menywod UWIC i aros ar y brig am flwyddyn eto drwy ennill Pencampwriaeth BUCS yn Twickenham. Cawson nhw dymor rhyfeddol, ag ond dau gais ac un cig gosb yn cael eu sgorio yn eu herbyn yn y gynghrair. Tîm UWIC oedd y ffefrynnau yn mynd i’r rownd derfynol ac roedden nhw’n gallu ymdopi â’r pwysau pan ddaeth y diwrnod mawr, gan guro Leeds Met Carnegie 32 – 12. Cawsant eu coroni’n Bencampwyr BUCS am y pedwerydd tymor yn olynol.
Tîm Rygbi Menywod UWIC - pencampwyr BUCS.
focus | 9
Yn frwd dros ddylunio
gwaith yn cael y sylw haeddiannol. Roedd hi’n teimlo hefyd fod rhai pobl heb ddeall beth yn union yw dylunio. “Pan gaiff y term dylunydd cynhyrchion neu ddylunydd graffig eu defnyddio, mae’n amlwg wrth ymateb y rhan fwyaf o bobl nad ydynt yn deall beth yw eu hystyr. Esboniad syml fyddai’r bobl sy’n gysylltiedig â brandio, ond bydd hyd yn oed hyn yn arwain i bobl dybied bod a wnelo hyn i gyd â marchnata; fodd bynnag, busnesau yw cwmnïau dylunio mewn gwirionedd, ac maen nhw’n perthyn yn agosach i fyd busnes nag i’r celfyddydau,” meddai Olwen. “Maen nhw’r un mor hanfodol i fusnes ag yw cyfreithiwr neu gyfrifydd. Mewn gair, datrys problem ar gyfer trydydd parti yw dylunio ac er mwyn gwneud y pwynt yna y ^ ddylunio yn y lle cyntaf,” sefydlais yr wyl ychwanegodd. ^ Cylch gwaith yr wyl ar y dechrau oedd ymgysylltu â’r diwydiant dylunio; roedd Olwen ac Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, UWIC, mewn sefyllfa ddelfrydol i gydlynu menter o’r fath o’r cychwyn cyntaf gan fod gan bob un o’r staff perthnasol wybodaeth am y sin dylunio lleol, ac roedd y gymuned ddylunio yn eu hystyried yn bartneriaid diduedd.
Olwen Moseley, Cyfarwyddwr Menter, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, UWIC.
Mae CV clodwiw gan Olwen Moseley: Cyfarwyddwr Menter Ysgol Gelf a Dylunio ^ Caerdydd, sefydlydd Gwyl Ddylunio Caerdydd, ac yn ddiweddar cafodd ei henwi’n un o’r 50 person mwyaf dylanwadol yn y diwydiant celf a dylunio yn y DU.
Mae brwdfrydedd Olwen at ddylunio yn ^ amlwg. Sefydlodd Wyl Ddylunio Caerdydd yn 2004 yn sgil y teimlad bod bwlch yn y cymorth a gâi’r bobl oedd yn gysylltiedig â’r diwydiant dylunio yng Nghymru, bod ymdeimlad o golli cyfleoedd ac nad oedd y doniau oedd ar gael yn cael eu hamlygu a bod awydd yn bodoli i gael bod yn rhan o gymuned broffesiynol. Roedd gwaith o ansawdd uchel yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru, yn enwedig yng Nghaerdydd lle roedd cryn nifer o gwmnïau dylunio wedi’u lleoli ac wedi datblygu, ond nid oedd y
^ Dwedodd yr wyl ddiweddaraf, a gafodd ei chynnwys ym 50 uchaf cylchgrawn Design Week, mai ei nod yn y tymor hir oedd dod â dylunio yng Nghymru i sylw cynulleidfa ryngwladol ehangach. Llwyddwyd i wneud hyn drwy gynnwys Gwobrau mawreddog Design Management Europe, a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Mileniwm dan nawdd ^ Ddylunio UWIC, yn rhan o raglen G wyl ^ yn Caerdydd. Drwy wneud hyn, roedd yr wyl gallu adeiladu ar y berthynas oedd yn bod eisoes gyda’r gymuned ddylunio ryngwladol.
Ag Olwen wrth y llyw, ynghyd ag enw da sy’n dal i gynyddu’n rhyngwladol, ac ymrwymiad i gydnabod talent a rhoi cyfleoedd gwych i ddylunwyr Cymru i arddangos eu gwaith, ^ Ddylunio Caerdydd yn prysur mae Gwyl fynd o nerth i nerth.
UWIC yn cael ei gydnabod am waith ymchwil o safon byd 10 |focus
Dyma rai o’r digwyddiadau sydd ar y gweill ar gyfer yr ŵyl ym mis Hydref 2009. (Dyddiadau i’w cadarnhau) Y Lansiad Cynhelir y lansiad yn y Senedd ym Mae Caerdydd a bydd yn arddangos y Dylunio gorau yng Nghymru. Ignite Cardiff #3 Bydd y digwyddiad hwn, sydd dan nawdd Web Scene Caerdydd a Nocci yng Nghanolfan y Mileniwm, ar gyfer bobl greadigol, cefnogwyr y we ac entrepreneuriaid, yn barod i drafod popeth: o ffurfdeipiau hyd at oroesi ymosodiad gan sombis. Type Talks - Dalton Maag Bydd y teipograffydd enwog, Bruno Maag, yn rhoi anerchiad difyr ac ysbrydoledig ar Deipograffeg.
Mae canlyniadau Ymarfer Asesu Ymchwil 2008 (RAE 2008) yn cydnabod llwyddiant UWIC yn cefnogi datblygiad ymchwil o safon byd, yn enwedig mewn celf a dylunio. Dwedodd yr Ymarfer, sy’n asesu ansawdd ymchwil mewn sefydliadau drwy’r DU, fod 95% o’r ymchwil a gyflwynwyd ar y cyd gan Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, UWIC, canolfan PDR UWIC, ac Ysgol Gelf, y
Greyworld Bydd Andrew Shoben o Greyworld yn rhoi anerchiad craff am brosiectau presennol ei gwmni a rhai o’i brosiectau yn y gorffennol. May you live in interesting times ^ Ddylunio Menter ar y cyd rhwng G wyl ^ Caerdydd a G wyl Technoleg Greadigol 2009, bydd hwn yn canolbwyntio ar gyflwyno gwaith arloesol yng Nghaerdydd a’r ardal o gwmpas. Bydd y rhaglen deuddydd yn cynnwys cynhadledd, comisiynau newydd, artistiaid preswyl, sesiynau sgrinio a phrosiectau artistiaid mewn mannau cyhoeddus ar draws y ddinas.
Design Circle, Reflecting Wales 09 Arddangosfa o waith arloesol yn yr amgylchedd adeiledig yng Nghymru. Gwahoddir penseiri, dylunwyr, artistiaid, damcaniaethwyr a myfyrwyr i gyflwyno gwaith sy’n herio’n feirniadol neu’n ymgysylltu â’r amgylchedd adeiledig yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â exhibition@designcirclersawsouth.co.uk.
Cyfryngau a Dylunio Prifysgol Casnewydd, o “Safon Ryngwladol”. Yn ôl cylchgrawn y Times Higher Education, UWIC yw prif ganolfan Cymru o ran ymchwil i gelf a dylunio ac mae yn y 12 gorau yn y DU. Cafodd 70% o’r ymchwil a gyflwynwyd ym maes celf a dylunio ei ystyried yn “Rhagorol yn Rhyngwladol” neu “ar y blaen ar lefel byd”. Gwnaeth Chwaraeon a Thwristiaeth yn UWIC yn dda yn yr asesiad hefyd, ac ystyriwyd bod 25% o’r ymchwil a gyflwynwyd gan y ddau yn Rhagorol yn Rhyngwladol neu ar y Blaen ar
Life form Mae BioArchitecture Foundation yn cyflwyno Life Form, eu cynhadledd gyntaf yn archwilio pensaernïaeth fiolegol, systemau adeiladu holistig, ac amgylcheddau adeiledig geomantig. Yn dilyn y rhain, cynhelir gweithdai mewn llunio tirweddau sy’n cydgordio’n egnïol a phensaernïaeth cynnal bywyd. Diolch i gyfranwyr cynnar: Hoffi, Elevator, Design Tribe, Sequence, Freshwater. Cefnogwyr cynnar: David Worthington, Cadeirydd adran ddylunio Media Square, sydd wedi cytuno ^ i feirniadu gwobrau’r wyl; Creative & Cultural Skills a Design Circle, Cangen De Cymru Cymdeithas Frenhinol Penseiri Cymru. ^
I gael rhagor o wybodaeth am Wyl Ddylunio Caerdydd neu sut i gymryd rhan, cysylltwch â info@cardiffdesignfestival.org
Lefel Byd. Llongyfarchodd yr Athro Antony Chapman, Is-Ganghellor UWIC, bob un o’r staff perthnasol a dwedodd: “Dyma ganlyniad sy’n dangos yn glir faint o waith a wneir gan ein staff a chymaint yw eu hymrwymiad, ac mae’n amlygu ymrwymiad UWIC i fuddsoddi i ymchwil sydd ar y blaen yn fyd-eang.” Ystyriwyd bod ychydig dros 28% o’r ymchwil a gyflwynwyd gan UWIC yn Rhagorol yn Rhyngwladol neu ar y Blaen ar Lefel Byd a bod 64% o’r ymchwil o Safon Ryngwladol.
focus | 11
Dale Harper â’i gefeiliau chwyldroadol
Y Prif Weinidog yn cefnogi “Arloesi drwy Gydweithredu”
O’r chwith i’r dde: Yr Athro Antony Chapman (Is-Ganghellor, UWIC), Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrh. Rhodri Morgan a Dr Pat Frain (Cadeirydd, ProTon Europe).
Croesawodd y Gwir Anrh. Rhodri Morgan AC, Prif Weinidog Cymru, ymarferwyr trosglwyddo gwybodaeth mwyaf llwyddiannus Ewrop a’r chwaraewyr allweddol sy’n gweithio ar y rhyngwyneb rhwng ymchwil cyhoeddus a diwydiant, i Gynhadledd ProTon Europe eleni. Cynhaliwyd y digwyddiad deuddydd pwysig hwn o’r enw “Arloesi drwy Gydweithredu” yn UWIC. Bu’n canolbwyntio ar y ffordd i wella gweithio drwy gydweithredu a phartneriaeth rhwng sefydliadau ymchwil neu brifysgolion a diwydiant a busnes. “Ni allech fod wedi amseru’r gynhadledd hon yn well,” meddai’r Prif Weinidog. “Mae’r economi mewn cyflwr gwael ac mae’n hanfodol bod y prifysgolion a byd busnes yn cydweithredu â’i gilydd os ydym i gael hyd i ateb i’r argyfwng economaidd byd-eang hwn.
12 |focus
“Dros y blynyddoedd, gwelwyd gwelliannau enfawr yn y prifysgolion yng Nghymru o ran maint yr ymchwil o safon byd a wneir y gellir ei drosglwyddo’n hawdd i’r byd gwaith. “Drwy ganolbwyntio ar arloesi, ymchwilio a datblygu a chael addysg a busnes i ymbriodi yn y ffordd iawn, gallwn greu swyddi a thynnu ein hunain allan o’r dirwasgiad hwn,” ychwanegodd. Mae’r gynhadledd flaenllaw hon, sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth y Cynulliad a’r Sefydliad Trosglwyddo Gwybodaeth, yn archwilio ffyrdd y gellir datblygu’r broses o drosglwyddo mwy o wybodaeth yn llwyddiannus hefyd, ac yn hyrwyddo arloesi a thrwy hynny fod o fudd i dimau ymchwil, prifysgolion, diwydiant a chymdeithas yn gyffredinol. Ymhlith y panel rhyngwladol o siaradwyr roedd cynrychiolwyr o fyd diwydiant, gweinyddiaethau cyhoeddus sy’n deddfu yn y sector, ac ymarferwyr trosglwyddo gwybodaeth o brifysgolion a chanolfannau ymchwil o wahanol rannau o Ewrop. ProTon Europe yw’r prif sefydliad yn Ewrop sy’n cynrychioli ymarferwyr trosglwyddo gwybodaeth mewn prifysgolion a chanolfannau ymchwil ar draws Ewrop.
Dylunio gefeiliau chwyldroadol yn sicrhau bod mamau a’u babanod yn fwy diogel Mae cynnyrch newydd bellach ar gael i achub bywydau mamau a babanod. Mae’n dod â’r gefeiliau traddodiadol, a gâi eu defnyddio i helpu ar enedigaeth anodd, i mewn i’r 21ain Ganrif. Mae’r Safeceps™ yn fersiwn chwyldroadol o’r gefeiliau obstetrig presennol sy’n mesur faint o bwysedd sydd ar ben babi. Drwy wneud hyn, mae’n lleihau’r risg o niwed difrifol a thrawma i’r fam ac i’r plentyn. Y ffaith bod y gefeiliau traddodiadol yn cael eu cysylltu â babanod yn marw neu’n dioddef niwed tymor hir sy’n cael y bai am fod mwy a mwy o famau a menywod beichiog yn aml yn dewis ffurfiau cynorthwyedig, dianghenraid yn aml, megis toriad cesaraidd, o eni eu plant. Y gobaith yw y bydd y Safeceps™ newydd, sy’n diogelu’r fam a’r plentyn, yn adfer hyder ac yn trawsnewid y ffordd y bydd pobl yn synied am esgoriad cyfryngol. Mae’r cwmni sy’n gyfrifol am y gefeiliau, PMI (PRO Medical Innovations Ltd), yn fenter a ddeilliodd o UWIC ac mae Dale Harper, a raddiodd yn ddiweddar (MSc), wrth y llyw. Dechreuodd Dale weithio ar y prosiect yn rhan o’i radd BSc Dylunio Cynhyrchion.
Meddai Dale, sydd erbyn hyn wedi’i benodi yn aelod o staff PDR: “Mae’n amlwg bod angen y cynnyrch yma a’n gyrrwr marchnad mwyaf yw diogelwch. Lles y plentyn yw’r ystyriaeth bennaf bob tro a bydd Safeceps™ yn eu diogelu drwy osgoi trawma mawr, niwed i’r ymennydd neu farwolaeth. Yna, mae’r angen i ofalu am y fam ac mae’r ffordd y caiff offeryn ei ddefnyddio yn gallu effeithio ar ei chorff hithau. Yn olaf mae Safeceps™ yn diogelu’r obstetregwyr y bydd eu swydd yn y fantol bob tro y byddant yn defnyddio offeryn i helpu’r fam i esgor. “Mae dyluniad y gefeiliau presennol heb esblygu fawr ers canrifoedd ac os bydd yr obstetregydd yn tynnu’n rhy galed gyda’r offeryn presennol yn ystod y geni, mae hyd yn oed yn bosib y gallai’r plentyn gael ei ladd. Bydd y defnydd arferol arno yn gallu achosi niwed i wyneb y plentyn a thrawma hefyd. Mae’r achosion hyn wedi gadael mamau yn ofnus iawn ac mae clinigwyr yn effro nawr i’r ffaith bod methu ag esgor yn llwyddiannus drwy ddefnyddio offer yn un o’r ffactorau mwyaf sy’n gyfrifol am fwy o doriadau cesaraidd. “Mae obstetregwyr am i’r offeryn y byddant yn ei ddefnyddio fod yn ddiogel, yn ddibynadwy ac yn gwneud iddynt deimlo y gallant fod â ffydd yn yr hyn y maent yn ei wneud. Maent am wybod na fydd neb yn dod nôl a’u siwio ymhen pum mlynedd. Aeth
rhai pobl ag obstetregwyr i’r llys yn y gorffennol o achos y niwed a wnaed gan esgor cyfryngol. Am fod ein hofferyn yn cofnodi faint o rym a ddefnyddir, mae’n lliniaru’r risg yn erbyn yr obstetregydd, er nad yw’n mynd â’r cyfrifoldeb oddi arno/arni,” ychwanegodd. Mae’r Safeceps™ yn fersiwn blastig o’r gefeiliau obstetrig sydd wedi’u cysylltu â chyfrifiadur monitro drwy gebl hyblyg. Pan fydd y Safeceps™ yn cael eu defnyddio, caiff y pwysedd allweddol sydd ar ben y babi ei fesur a chaiff y wybodaeth yma ei chyflwyno ar sgrin cyfrifiadur ag opsiwn sain clywadwy yn rhybudd. Gellir gwneud y system yn rhan o’r systemau cyfrifiadurol mamol presennol a gellir ei theilwra i gwrdd ag anghenion defnyddwyr unigol. Mae Dr Khaled Ismail sy’n uwch obstetregydd ymgynghorol (Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Swydd Stafford) a dau beiriannydd electro mecanyddol, yn ogystal â’r dylunydd cynhyrchion Dale, yn rhan o PMI. Dr Ismail yw awdurdod meddygol y tîm. Ffurfiwyd y cwmni ym mis Mawrth 2008 a dewisodd yn strategol ddod yn bartner gyda UWIC am fod gan UWIC yr arbenigedd a’r wybodaeth ddiwydiannol angenrheidiol. Yn y 10 mis oddi ar ei sefydlu, daeth PMI yn ail mewn cystadleuaeth cynllun busnes genedlaethol ac enillon nhw £10,000. Erbyn hyn mae’r Safeceps™ yn barod i’w rhoi ar y farchnad. Gan mai diben Safeceps™ yw arbed bywydau o gwmpas y byd, mae syniadau gan Dale eisoes i lansio fersiynau mecanyddol di-gyfrifiadur mewn gwledydd yn Affrica a Dwyrain Ewrop.
focus | 13
Penderfyniadau sy’n newid bywydau dysgwyr gydol oes UWIC Mae UWIC ar fin lansio rhifyn diweddaraf ‘Journeys’. Mae’r llyfr yn cynnwys hanesion ysbrydoledig gan oedolion o ddysgwyr a lwyddodd mewn addysg uwch er iddynt wynebu llawer o rwystrau mawr. Mae’r dysgwyr hyn yn rhoi esiampl ragorol i ddysgwyr o oedolion y dyfodol ac maent yn dyst y gallwch fod â rheolaeth dros y llwybr dysgu sy’n iawn i chi a’i ddatblygu. Isod ceir dyfyniad o un o’r hanesion personol sydd wedi’u cynnwys yn y llyfr.
Fy siwrnai: Sue Abram yw fy enw i. Rwy’n 48 oed ac rwy’n briod â dau blentyn sy’n oedolion erbyn hyn. Alla i ddim credu fy mod i’n eistedd yma yn ysgrifennu proffil o’m siwrnai ddysgu i UWIC a minnau wedi gadael ysgol â llond dwrn o TAU ac un lefel O mewn Saesneg. Fi oedd y myfyriwr â’i hadroddiadau ysgol yn dweud “Mae’r gallu gan Susan ond dyw hi ddim yn ei ddefnyddio”. Fy uchelgais pan adewais i’r ysgol oedd bod yn nyrs feithrin. Gwireddais fy uchelgais a bues i’n gweithio yn fy newis swydd am 23 mlynedd heb feddwl o gwbl am unrhyw addysg bellach. Cymerais y cam cyntaf nôl i addysg pan wnes i ymrestru ar gwrs Tystysgrif Addysg Cam Cychwynnol a dechreuais awchu am gael dysgu. Wedi cwblhau’r cwrs, cefais fy swydd addysgu gyntaf. Gydag amser, daeth mwy o gyfleoedd addysgu a phenderfynais roi’r gorau i’m gwaith gyda’r crèche a gwneud mwy o oriau addysgu. Er mwyn dod yn Swyddog Addysg Gymunedol, roedd angen i fi gwblhau’r TAR/Tyst Add mewn Addysg Gymunedol. Ac yn 2005 dechreuodd fy siwrnai gyda UWIC. Adewais i ddim i’m diffyg llwyddiant yn yr ysgol fy nal yn ôl a gwnes gais i gael
14 |focus
astudio yn UWIC. Mae fy mhenderfyniad i fynd i UWIC wedi newid fy mywyd ac rwyf bellach yn Swyddog Addysg Gymunedol. Er bod y cwrs yn un rhan-amser, mae mynd i’r brifysgol yn oedolyn yn hollol wahanol i astudio yn eich arddegau gan fod cymaint o bethau’n mynd ymlaen yn eich bywyd ar yr un pryd. Roedd teulu gen i i ofalu amdanyn nhw a swydd i’w wneud yn ogystal â bod yn gorfod rhoi tipyn o’m hamser i ysgrifennu aseiniadau. Roeddwn ynghlwm wrth fy nghadair wrth y bwrdd yn y tŷ yn ysgrifennu aseiniadau neu’n gweithio yn llyfrgell UWIC. Er bod hyn i gyd yn anodd, roedd yn werth pob munud ac fe wnes i fwynhau’r amser yn UWIC yn fawr iawn. Chewch chi byth well cefnogaeth gan diwtoriaid yn unman ac ni wnes i deimlo’n wahanol o gwbl i rai o’m cyd-fyfyrwyr oedd â graddau. Roedd y drysau ar agor bob amser. A minnau bellach yn Swyddog Addysg Gymunedol yng Nghanolfan Addysg Gymunedol Gabalfa, rwy’n gweithio mewn partneriaeth â UWIC i gynnig cyrsiau haf yn y gymuned. Rwyf mewn ffordd i ddangos i ddysgwyr sut i symud ymlaen i gyrsiau a gynigir yn UWIC gan fod gen i brofiad uniongyrchol o ddychwelyd i addysg yn
Sue Abram.
oedolyn o ddysgwr. Rwy’n teimlo’n ffyddiog felly y gallaf gynnig cyngor da i’r dysgwyr a dileu unrhyw ofnau a allai fod ganddynt ynglŷn â chymryd y cam cyntaf hwnnw yn ôl i ddysgu. Bydd y diwrnod pan sefais ar y llwyfan yn Neuadd Dewi Sant yn fy ngwisg academaidd yn aros ar fy nghof am byth. Roedd fy rhieni, fy ngŵr a’m dau fab yno yn fy nghefnogi ac er mai fi a’m gwaith caled innau oedd biau’r diwrnod, bu eu cefnogaeth hwythau ar hyd fy siwrnai astudio yn amhrisiadwy. Fy nghyngor i bawb sy’n ystyried ymgymryd ag addysg bellach yw: ewch amdani. Daliwch ar bob cyfle fydd yn cael ei gynnig i chi. Fyddwch chi byth yn gwybod beth allwch ei gyflawni os na fentrwch. Fe wnes i’r penderfyniad ac mae wedi newid fy mywyd am byth. Byddwch yn barod i weithio’n galed. Peidiwch bod ag ofn gofyn am gymorth a defnyddio strategaethau fydd yn eich helpu i drefnu’ch amser yn effeithiol. Byddwch yn ffrind arbennig i un o’ch cyfoedion a chefnogwch eich gilydd. Byddan nhw’n teimlo’n debyg i chi a byddant yn wynebu’r un heriau ac ofnau â chi. Yn anad dim, mwynhewch y profiad. Mae bod yn fyfyriwr yn 45 oed yn dipyn o brofiad!
Academyddion yn cydweithio ar fenter ymchwil sy’n torri tir newydd
Holi Tim Andradi, Prif Weithredwr LSC
Myfyrwyr LSC a raddiodd yn ddiweddar.
Mae argoelion y bydd y bartneriaeth arloesol newydd mewn ymchwil academaidd rhwng UWIC a’r LSC yn dod â mwy o glod eto i broffil rhyngwladol UWIC sy’n parhau i gynyddu. O dan y cytundeb a gynlluniwyd i ddenu myfyrwyr ymchwil o safon uchel o bob rhan o’r byd, bydd yr LSC yn ymrestru ac yn cynnig graddau ymchwil ar ran UWIC o hyn allan yn ei Athrofa Ymchwil i Fusnes ar ei gampws yn Llundain. Bydd yr Athrofa newydd yn cael ei hystyried yn athrofa ymchwil UWIC at ddibenion gweinyddol a sicrwydd ansawdd. Bydd UWIC yn rhyddfreinio’r LSC i gynnig graddau PhD, MPhil Prifysgol Cymru ynghyd â doethuriaethau proffesiynol yn unol â pherthynas sicrwydd ansawdd UWIC â Phrifysgol Cymru. Meddai’r Athro Antony Chapman, IsGanghellor UWIC: “Bydd y bartneriaeth hon yn torri tir newydd ac yn ychwanegu dimensiwn safonol arall i’n perthynas â’r
LSC. Bydd yn ychwanegu at gwmpas dylanwad ymchwil byd-eang UWIC a bydd yn denu myfyrwyr rhyngwladol uchel eu safon i ymchwilio i bynciau sy’n bwysig ar lefel byd. Bydd hyn o’r budd mwyaf i UWIC, i Gymru ac i’r DU.” Meddai Prif Weithredwr LSC,Tim Andradi: “Rydym yn sefydliad cryf ei ffocws sy’n arbenigo mewn disgyblaethau sy’n gysylltiedig â busnes. Mae perthynas broffesiynol ragorol rhyngom ni a UWIC, sy’n seiliedig ar barch at ein gilydd ac sydd ar sail cydymffurfiad cadarn ag ansawdd. Mae sefydlu’r Athrofa Ymchwil i Fusnes yn rhoi cyfle i bawb sy’n gysylltiedig â’r fenter i gystadlu’n llwyddiannus mewn amgylchedd lle mae gweithredu ar lefel ryngwladol yn mynd yn fwy ac yn fwy anodd.” LSC yw unig goleg cysylltiol UWIC ac mae’r berthynas yn mynd nôl hyd 2004. Erbyn heddiw maent yn cydweithio ar ystod eang o raglenni gradd israddedig ac ôl-radd. Mae’r bartneriaeth unigryw yma yn dal i dyfu ac eleni roedd dwywaith cymaint o fyfyrwyr o bob rhan o’r byd yn y seremoni raddio yng Nghaerdydd nag oedd ychydig o flynyddoedd yn ôl.
1. Mae’r LSC yn rhoi cyfle i astudio graddau Prydeinig yn y DU, yn Dhaka ac yn Kuala Lumpur, ond beth wnaeth i chi sefydlu’r ysgol yn y lle cyntaf? Roedd bwlch yn y farchnad addysgol o ran cynnig addysg Brydeinig o ansawdd mewn ffordd gost effeithiol. Roedd LSC yn gallu ffitio’n naturiol i’r bwlch. 2. Daeth yr LSC a UWIC at ei gilydd yn 2004. Sut digwyddodd hyn? Roedd LSC yn chwilio am bartner Prifysgol oedd â’r un weledigaeth â’r LSC, â diddordeb arbennig mewn myfyrwyr o wledydd oedd yn datblygu a gwledydd llai datblygedig. Bu’r ffaith bod gan yr LSC gysylltiadau agos â rhai o’r bobl yn UWIC eisoes yn gymorth i selio’r berthynas. 3. Mae’r berthynas rhwng UWIC a’r LSC yn un agos. Beth yw’r datblygiad nesaf i’r bartneriaeth? Bu cydweithredu a chynnig rhaglenni astudio arloesol y mae myfyrwyr o bob rhan o’r byd yn gofyn amdanynt, yn elfen allweddol yn natblygiad y berthynas. Ond y peth mwyaf fydd mynd ag addysg Brydeinig i fyfyrwyr tramor a’u galluogi i astudio heb fod angen iddyn nhw adael eu gwlad eu hun. Bydd gwneud hyn yn arwain at weld globaleiddio addysg mewn ffordd wirioneddol.
focus | 15
Herio agweddau tuag at bobl ifanc Keith Towler: Comisiynydd Plant Cymru.
Bu Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, yn siarad yng nghynhadledd Lles Plant: Y Blynyddoedd Cynnar hyd at yr Arddegau a gynhaliwyd yn UWIC yn ddiweddar. Nod y gynhadledd oedd ceisio herio agweddau cymdeithas tuag at bobl ifanc. Bu Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, yn siarad yng nghynhadledd Lles Plant: Y Blynyddoedd Cynnar hyd at yr Arddegau a gynhaliwyd yn UWIC yn ddiweddar. Nod y gynhadledd oedd ceisio herio agweddau cymdeithas tuag at bobl ifanc. Roedd y gynhadledd yn gyfle i ddod ag ymchwilwyr, llunwyr polisïau, ymarferwyr a phobl ifanc at ei gilydd i drafod a dadlau ynghylch materion sy’n gysylltiedig â lles plant 16 |focus
a phobl ifanc yn eu harddegau, a hynny o ystod o safbwyntiau – rhai cymdeithasol, addysgol a iechyd. Roedd y ffocws yn arbennig ar “Sut gallwn ni weithio mewn ffordd holistaidd gyda phlant a phobl ifanc er mwyn helpu eu hiechyd a’u lles? Roedd yn dda gen i gael rhoi mewnwelediad i’r cynadleddwyr i fywyd Comisiynydd Plant a rhannu gwybodaeth gyda nhw ar hawliau plant,” meddai Mr Towler. “Yn ogystal, roeddwn am alw eu sylw at rai meysydd gwaith penodol, gan gynnwys prosiect y byddaf yn ymgymryd ag ef i danseilio’r agwedd sy’n caledu tuag at blant a phobl ifanc.” Bu arbenigwyr eraill ar hyd y dydd yn siarad yn fanwl am ystod o bynciau sy’n gysylltiedig â lles plant a phobl ifanc, gan gynnwys “maeth ac ymddygiad” a “llythrennedd emosiynol”. Arweiniodd yr Athro David Egan, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Addysg Gymhwysol yn UWIC, sesiwn o’r enw Tlodi, Lles a Chyrhaeddiad Addysgol Plant yng Nghymru.
“Mae llwyddo yn addysgol yn hanfodol i les unigolyn,” esboniodd yr Athro Egan. “Bydd traean o’n plant sy’n byw mewn tlodi hefyd yn ‘methu’ ym myd addysg fel arfer hefyd. Dyma drasiedi personol a chymdeithasol y mae rhaid i ni, genedl y Cymry, fynd i’r afael â hi.” Meddai Shirley Hinde, darlithydd mewn Maetheg yn UWIC a deietegydd cofrestredig: “Roedd fy nghyflwyniad i yn ymwneud â’r cysylltiadau rhwng ymddygiad a maeth ac yn enwedig ar rôl olewau pysgod mewn ymddygiad aflonyddgar/problemau ymddwyn megis ADHD. “Rhoddais ddadansoddiad o’r astudiaethau a wnaed ar ychwanegu olewau pysgod ac ymddygiad; ystyried rhai o’r maetholion cysylltiedig eraill, megis sinc, yn y gwaith o brosesu’r olewau hyn o fewn y corff; pam mae’r maetholion hyn yn brin yn neiet pobl ifanc heddiw a gofyn a ddylen ni fod yn ceisio datrys problem mor amlweddog drwy ddefnyddio pilsen.”
Myfyrwyr yn dod â thestunau arholiadau yn fyw
Myfyrwyr Addysg Uwchradd Drama, UWIC.
Aeth darpar athrawon o UWIC ar lwyfan eu hunain i helpu disgyblion o bob rhan o Dde Cymru i ddeall testun arholiad cymhleth. Perfformiodd myfyrwyr Drama Uwchradd o Ysgol Addysg Caerdydd, UWIC, “Ofn a Thrallod yn y Drydedd Reich” gan Bertolt Brecht yn rhan o brosiect blynyddol Theatr Mewn Addysg. Aeth darpar athrawon o UWIC ar lwyfan eu hunain i helpu disgyblion o bob rhan o Dde Cymru i ddeall testun arholiad cymhleth. Perfformiodd myfyrwyr Drama Uwchradd o Ysgol Addysg Caerdydd, UWIC, “Ofn a Thrallod yn y Drydedd Reich” gan Bertolt Brecht yn rhan o brosiect blynyddol Theatr Mewn Addysg. Yn dilyn y perfformiadau, cymerodd disgyblion o ysgolion, gan gynnwys Ysgol Uwchradd Cas-gwent, Ysgol Gyfun Glyncoed a Choleg Dewi Sant, ran mewn gweithdai drama rhyngweithiol gyda myfyrwyr UWIC i archwilio’r testun ymhellach. Y grŵp o 20 o fyfyrwyr oedd yn gyfrifol am y cynhyrchiad cyfan a buon nhw wrthi’n ddyfal am dros ddeufis yn gweithio ar wisgoedd, golau, setiau a chelfi ac ati, yn ogystal ag yn rihyrsio a chynllunio’r
gweithdai wedi’r perfformiad. Meddai Bryan Shuman, sydd gyda Camille Black yn ffurfio’r tîm marchnata llwyddiannus: “Bu’n waith caled iawn ond mae’n llawer o hwyl ac yn werth ei wneud. Mae’r broses gyfan yn baratoad perffaith ar gyfer ein lleoliadau ysgol gan fod disgyblion yn cael ein gweld ni’n perfformio’r ddrama cyn i ni ei defnyddio mewn gweithdy gyda nhw, a gallwn ddefnyddio enghreifftiau o’r ddrama maen nhw newydd ei gweld.” Nod y myfyrwyr oedd gwneud drama fwyaf enwog Brecht am fywyd yn yr Almaen o dan y Natsïaid yn fwy hygyrch i ddisgyblion ac archwilio’r technegau theatr epig mae Brecht yn eu defnyddio i greu drama y mae’r gynulleidfa’n teimlo wedi’i datgysylltu wrthi. Meddai’r darlithydd Meryl Hopwood: “Bu’r Theatr Mewn Addysg eleni’n boblogaidd iawn a gwerthwyd pob tocyn yn gyflym i’r ysgolion gan eu bod yn frwd iawn ynglŷn â Brecht a’i waith – roedd rhaid i ni droi ysgolion i ffwrdd. “Mae’r prosiect yma mor fuddiol i’r myfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athrawon gan ei fod yn gyfle iddyn nhw weithio’n agos ar destun gosod. Yn yr achos yma, buon nhw’n astudio un o’r ymarferwyr y byddan nhw’n bendant yn dod ar ei draws yn yr ysgol gyda’u disgyblion. Roedd yn gyfle hefyd i ddatblygu eu sgiliau fel technegwyr ac mewn rolau cynhyrchu fel y byddan nhw â mwy o adnoddau i lwyfannu cynhyrchiad ysgol.” focus | 17
Cyn-fyfyrwyr llwyddiannus A ninnau ag enw da am feithrin talent a chynhyrchu graddedigion eithriadol ar draws ystod eang o ddisgyblaethau, mae’n dda gennym gynnwys llwyddiannau rhai o’n cyn-fyfyrwyr diweddar.
Llwyddiant yng ngwobrau BAFTA Mae Richard Jenkins, sydd â gradd BA Cyfryngau Darlledu o UWIC, yn dathlu llwyddiant y sgrin fach wedi iddo gipio un o wobrau mawr BAFTA Cymru yn ddiweddar. Enillodd Richard y wobr am waith rhyngweithiol ar ‘Merlin’, y sioe boblogaidd ar y BBC, ac ar hyn o bryd fe yw’r Cynhyrchydd Rhyngweithiol y tu ôl i sawl rhaglen deledu lwyddiannus dros ben, gan gynnwys Ashes to Ashes, Mistresses a The Sarah Jane Adventures (a ddeilliodd o Doctor Who). Cyn hyn bu’n gweithio ar Doctor Who a Torchwood. Yn ei waith yn Gynhyrchydd Rhyngweithiol, mae Richard yn gyfrifol am gynhyrchu’r holl waith fideo, sain a’r delweddau ar gyfer llwyfannau rhyngweithiol y rhaglen, gan gynnwys y We, ffonau symudol, y botwm coch rhyngweithiol, itunes, iPlayer, BBC Youtube a BBC Bebo. “Gall hyn gynnwys
18 |focus
popeth o gynhyrchu gemau ar gyfer y we, creu’r cynnwys y tu ôl i’r golygfeydd, hyd at ffilmio golygfeydd yn benodol ar gyfer cynnwys rhyngweithiol. Gall fy niwrnod amrywio o fod ar y set, ysgrifennu syniadau ar gyfer comisiynau yn y dyfodol, hyd at gydbwyso fy nghyllidebau,” esboniodd Richard. Meddai Richard, wrth sôn am ei gynlluniau ar gyfer ei yrfa yn y dyfodol: “Ar hyn o bryd rwyf am aros gyda’r BBC. Rwy’n ddigon ffodus i gael gweithio gyda thîm gwych ac mae Cymru’n dod yn ganolbwynt i’r BBC o ran cynnwys rhyngweithiol cyffrous. Rydyn ni’n ddigon ffodus hefyd fod gennym lif o sioeau eithriadol sy’n cael eu creu yma yng Nghymru ar gyfer Prydain i gyd.” Roedd Richard hefyd yn rhan o dîm a gafodd ei enwi ar gyfer prif wobr BAFTA yn y DU am ei waith ar Merlin. Mae hyn yn amlygu ei bwysigrwydd cynyddol ym myd darlledu, ac yntau ond wedi graddio yn 2005. Cyn hyn cafodd ei enwebu ar gyfer Emmy Rhyngwladol a BAFTA yn y DU am ei waith ar Doctor Who.
Laura’n cael ei choroni’n Weinydd Gwin y flwyddyn yn y DU Mae myfyriwr a raddiodd o UWIC wedi’i choroni yn Weinydd Gwin y Flwyddyn yn y DU 2009 yn dilyn rownd derfynol gyffrous a gynhaliwyd yn y Tate Modern yn Llundain. Mae Laura Rhys, a raddiodd yn 2004 â gradd BA Rheoli Lletygarwch Rhyngwladol, bellach yn Brif Weinydd Gwin yng ngwesty enwog TerravVina yn y New Forest. Llwyddodd i ennill y gystadleuaeth bwysig yma, a drefnir gan yr Academi Bwyd a Diod, yn erbyn gweinyddion gwin gorau’r DU. Dechreuodd y diwrnod wrth i’r 15 a gyrhaeddodd y rownd
gynderfynol (a phob un yn enillydd eu cystadlaethau rhanbarthol) yn cael eu barnu ar nifer o sgiliau technegol, gan gynnwys blasu ‘dall’ ac arholiad ysgrifenedig. Yn dilyn y cyhoeddiad yn y prynhawn fod Laura wedi ennill ei lle yn un o’r tri olaf, bu rhaid iddi gystadlu mewn cyfres o dasgau gan gynnwys sefyllfa chwarae rôl realistig mewn tŷ bwyta a oedd yn profi gallu’r gweinyddion gwin i ddelio â chwsmeriaid, eu sgiliau rheoli a’u gallu i ymdopi â phwysau; blasu ‘dall’; ymarfer paru bwyd a gwin; ac ymarfer yn erbyn y cloc i ddarganfod y camgymeriadau mewn rhestr winoedd. Yn y weithred olaf un, roedd rhaid i Laura a’r ddau arall (ill dau yn Ffrancwyr) arllwys magnwm o Champagne i 16 o wydrau, gan roi’r un faint ym mhob un heb fynd yn ôl at un o’r gwydrau. “Mae ennill y wobr wedi sicrhau fy mod yn cael fy nghydnabod gan fy nghyfoedion ac o fewn y diwydiant, ac am fod cyn lleied o bobl wedi ennill y wobr hon, rwyf mewn grŵp dethol iawn,” meddai Laura.
Rhagor o newyddion am gyn-fyfyrwyr... Mae Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr UWIC ar fin cyrraedd uchafbwynt arall yn ei hanes wedi’i hail-lansio’n ddiweddar yn rhan o UWIC Foundation, sef ymddiriedolaeth elusennol y coleg. Os oes diddordeb gennych i gael gwybod mwy am Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr, cysylltwch â Claire Grainger, Swyddog y Cyn-fyfyrwyr ar 029 2020 1592 neu cgrainger@uwic.ac.uk
Cyn-fyfyriwr yn ennill Artist y Flwyddyn yng Nghymru Mae Tim Freeman, a raddiodd o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, UWIC, wedi ennill gwobr bwysig Artist y Flwyddyn yng Nghymru 2009. Mae Tim yn artist digidol ac astudiodd Gelfyddyd Gain ar gyfer gradd gychwynnol
a gradd Meistr yn yr Ysgol. Derbyniodd y wobr a £2,000 mewn seremoni yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd. Curodd gwaith Tim, ‘Hidden System’ 500 o ymgeiswyr eraill i ennill y teitl. Mae’n dangos llun pibau diwydiannol anferth yn rhedeg drwy ran lonydd, hyfryd o Ardal y Llynnoedd. Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i UWIC fod â chysylltiad uniongyrchol ag enillydd y wobr. Cafodd Phillipa Lawrence, darlithydd Tecstilau Cyfoes yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, ei choroni’n Artist y Flwyddyn yng Nghymru yn 2008. Gwaith celf Tim oedd canolbwynt arddangosfa yn Neuadd Dewi Sant o waith yr holl enillwyr a mwy nag 80 o weithiau a gyrhaeddodd y rhestr fer.
Claire Grainger, Swyddog y Cyn-fyfyrwyr.
focus | 19
Rhodfa’r Gorllewin Caerdydd CF5 2SG Ffôn: +44 (0)29 2041 6070 Ffacs: +44 (0)29 2041 6286 e-bost: uwicinfo@uwic.ac.uk uwic.ac.uk
Daeth pob pren ac unrhyw fwydion a ddefnyddiwyd yn y cylchgrawn yma oddi wrth gynhyrchwyr cynaliadwy a fforestydd a reolir mewn modd cyfrifol er cael yr effaith leiaf posib ar yr amgylchedd. A wnewch chi ailgylchu’r cylchgrawn hwn os gwelwch yn dda.