Horizons Cylchlythyr i gefnogwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
Prosthesis a Biomecaneg: Eich cefnogaeth i waith ymchwil
Diolch i'ch rhoddion chi, mae'r Gronfa Ymchwil wedi gwneud dau ddyfarniad arall eleni. Mae'r Grŵp Cymwysiadau Meddygol yn ein Canolfan Ymchwil Dylunio Cynnyrch wedi elwa o ddyfarniad i brynu'r peiriant argraffu 3D diweddaraf. Mae'r Grŵp hwn wedi arloesi'r gallu i gynhyrchu prosthesis gwell o ran y fron a'r wyneb drwy nodi gofynion defnyddwyr a gofynion clinigol a defnyddio technolegau â chymorth cyfrifiadur i symleiddio'r broses gynhyrchu... Parhad ar Dudalen 3