UNIVERSITY OF WALES INSTITUTE, CARDIFF
AT H R O FA P R I F Y S G O L C Y M R U, C A E R DY D D
CYNLLUN IAITH GYMRAEG UWIC ddwyieithog i Gymru ddwyieithog
Derbyniodd Cynllun Iaith Gymraeg Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC) gymeradwyaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg o dan Adran 14 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Mae’r Cynllun hwn yn disgrifio sut y bydd UWIC yn gweithredu’r egwyddorion a ymgorfforwyd yn y Ddeddf wrth i sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru weithredu gan drin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail gyfartal. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Daniel Tiplady Rheolwr Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg, UWIC Yr Uned Gymraeg, Campws Cyncoed Heol Cyncoed, Caerdydd, CF23 6XD
uwic.ac.uk
CYNNWYS GWEINYDDOL
1.
Rhagarweiniad
4
2.
Diben UWIC
4
3.
Ymrwymiad Polisi i Ddeddf yr Iaith Gymraeg
4
4.
Polisïau a Mentrau Newydd [Canllawiau 2-5]
4
5.
Delio â’r Cyhoedd sy’n siarad Cymraeg
5
6.
Delwedd Gyhoeddus UWIC
6
7.
Gweithredu a Monitro’r Cynllun
8
8.
Cyhoeddi’r Cynllun
10
9.
Targedau ar gyfer gweithredu’r Cynllun
11
10. Safonau Gwasanaeth
14
CYNNWYS ACADEMAIDD
1.
Rhagarweiniad
16
2.
Y ddarpariaeth gyfredol
16
3.
Cyd-destun cenedlaethol
17
4.
Myfyrwyr
18
5.
Staff
18
6.
Datblygiadau a gwelliannau yn y dyfodol
19
7.
Adnoddau a deunyddiau cyfrwng Cymraeg
21
8.
Crynodeb
21
9.
Cynllun gweithredu
22
ATODIADAU
Atodiad 1: Taliadau premiwm
28
Atodiad 2: Gallu’r staff i siarad Cymraeg
29
Atodiad 3: Myfyrwyr UWIC sy’n siarad Cymraeg
30
Atodiad 4: Canllawiau Cyfieithu ar gyfer staff UWIC
31
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
tudalen 1
uwic.ac.uk
tudalen 2
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
uwic.ac.uk
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
CYNNWYS GWEINYDDOL
1.
Rhagarweiniad
4
2.
Diben UWIC
4
3.
Ymrwymiad Polisi i Ddeddf yr Iaith Gymraeg
4
4.
Polisïau a Mentrau Newydd [Canllawiau 2-5]
4
5.
Delio â’r Cyhoedd sy’n siarad Cymraeg
5
6.
Delwedd Gyhoeddus UWIC
6
7.
Gweithredu a Monitro’r Cynllun
8
8.
Cyhoeddi’r Cynllun
10
9.
Targedau ar gyfer gweithredu’r Cynllun
11
10. Safonau Gwasanaeth
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
14
tudalen 3
uwic.ac.uk
CYNLLUN IAITH GYMRAEG AR GYFER UWIC PARATOWYD O DAN DDEDDF YR IAITH GYMRAEG 1993
1.
Rhagarweiniad
1.1
Mae Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC) wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd, wrth ymgymryd â’i gwaith cyhoeddus yng Nghymru, yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail gyfartal. Mae’r Cynllun yn amlinellu’r ffordd y bydd UWIC yn gweithredu’r egwyddor honno wrth ddarparu ei gwasanaethau.
1.2
Sefydlwyd UWIC ym mis Medi 1976 o dan y teitl Athrofa Addysg Uwch De Morgannwg. Fe’i ffurfiwyd drwy uno pedwar coleg: Coleg Addysg Caerdydd, Coleg Celf Caerdydd, Coleg Technoleg Bwyd a Masnach Caerdydd a Choleg Technoleg Llandaf. Ar Ebrill 1af 1992, newidiodd yr Athrofa ei henw a daeth yn Athrofa Addysg Uwch Caerdydd ac yn Gorfforaeth Addysg Uwch ac yn un o Sefydliadau Cysylltiol Prifysgol Cymru. Yn 1993, rhoddodd y Cyfrin Gyngor Rymoedd Dyfarnu Graddau a Addysgir i’r Athrofa. Fe’i derbyniwyd i Brifysgol Cymru yn Goleg y Brifysgol yn Ebrill 1996 pryd y newidiodd yr enw i Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd. Daeth UWIC yn Sefydliad Cyfansoddol o Brifysgol Cymru yn 2003 a chael ei hachredu gan y Brifysgol i ddyfarnu graddau’r Brifysgol. Yn 2006 daeth LSC (Ysgol Fasnach Llundain) yn Goleg Cysylltiol i UWIC. Rhoddodd y Cyfrin Gyngor Rymoedd Dyfarnu Graddau Ymchwil yn 2009.
2.
Diben UWIC
2.1
Mae UWIC yn un o’r prif ddarparwyr Addysg Uwch yng Nghymru sy’n annog datblygiad cymuned academaidd gref a chynhyrchiol ac amgylchedd dysgu ysgogol. Mae UWIC yn cynnig darpariaeth uchel ei safon ar lefel israddedig ac ôl-raddedig a hefyd ar lefelau HND. Mae’n ymgymryd ag ymchwil academaidd mewn nifer gyfyngedig o feysydd rhagoriaeth.
3.
Ymrwymiad Polisi i Ddeddf yr Iaith Gymraeg
3.1
Derbyniodd Cynllun Iaith cyntaf UWIC gymeradwyaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg ym mis Hydref 2003. Cymeradwywyd y fersiwn ddiwygiedig hon o’r Cynllun gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar y 13eg o Ragfyr, 2010. Mae UWIC yn cefnogi egwyddorion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac mae wedi mabwysiadu egwyddor trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.
3.1.1
Er mwyn gweithredu’r Cynllun hwn, mae UWIC yn ymgymryd â phroses raddol, wedi’i chynllunio, yn unol â’r amlinelliad yn y ddogfen bolisi hon. O fewn fframwaith y ddogfen hon, ystyr aelodau o’r cyhoedd yw’r bobl hynny yng Nghymru y bydd UWIC yn ymwneud â nhw wrth gyflawni a gweithredu ei swyddogaethau ac mae’n cynnwys y myfyrwyr, staff UWIC a’r cyhoedd. Mae UWIC yn sicrhau bod y Cynllun hwn yn cydymffurfio â gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.
3.1.2
Mae Uned Iaith Gymraeg gan UWIC er mwyn sicrhau y cyflawnir nodau’r Cynllun Iaith. Yn gymorth i waith yr Uned ac er mwyn monitro ei effeithiolrwydd, mae gan UWIC Gydlynwyr Iaith ym mhob Ysgol Academaidd ac Uned Weinyddol. Mae pob un o’r rhain yn aelodau o Bwyllgor Defnyddio’r Gymraeg UWIC sy’n fwrdd ymgynghorol i’r Is Ganghellor.
4.
Polisïau a Mentrau Newydd
Mae UWIC yn ymrwymo i asesu canlyniadau ieithyddol pob polisi a menter newydd â’r nod o hwyluso’r defnydd ar y Gymraeg lle bynnag y bydd hynny’n bosib. Fe asesir canlyniadau ieithyddol pob polisi a menter newydd gan isbwyllgor o Bwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth UWIC. Mae Rheolwr Darpariaeth Gymraeg UWIC yn archwilio pob asesiad fel aelod o’r is-bwyllgor a’r Pwyllgor. 4.1
Mae UWIC yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau o’r un safon uchel yn y ddwy iaith. Bydd pob aelod o staff a phob myfyriwr yn cael gwybod am Gynllun Iaith UWIC a’r angen i ymglywed yn sensitif â’r anghenion iaith drwy’r camau canlynol: • Gweithdai i roi gwybod i bob aelod o’r staff am y Cynllun a sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u dyletswyddau unigol a’r rhai ar y cyd o ran gweithredu’r Cynllun.
tudalen 4
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
uwic.ac.uk
• Asesu polisïau a mentrau newydd er mwyn deall eu heffaith o ran canlyniadau ieithyddol. • Dosbarthu’r Cynllun Iaith diwygiedig i bob Ysgol Academaidd ac Uned Weinyddol. Bydd pob aelod o’r staff yn gallu cael mynediad i’r Cynllun diwygiedig drwy borth SharePoint UWIC. Bydd y staff sydd heb fynediad i adnoddau electronig yn cael gwybod am y Cynllun diwygiedig mewn briffiau gan eu rheolwr llinell. • Disgwylir i bob Deon Ysgol a Phennaeth Uned friffio’u staff ar oblygiadau’r Cynllun yn eu maes hwythau.
5
Delio ag aelodau o’r cyhoedd sy’n siarad Cymraeg
5.1
Gohebiaeth Mae UWIC yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a/neu yn Saesneg. Ni fydd unrhyw ohebiaeth gyda UWIC yn Gymraeg ynddi ei hun yn golygu unrhyw oedi diangen. Bydd llythyrau a dderbynnir yn Gymraeg yn cael ateb yn Gymraeg lle bynnag y bydd angen ateb. Bydd unrhyw ohebiaeth a gychwynnir gan UWIC yn dilyn cysylltiad wyneb-yn-wyneb neu dros y ffôn yn Gymraeg, yn digwydd yn Gymraeg os dymunir. Bydd pob llythyr safonol a chylchlythyr a ysgrifennir at yr holl fyfyrwyr a/neu staff UWIC yn rhai dwyieithog. Ymdrinnir â phob e-bost yn yr un ffordd â llythyr drwy’r post.
5.2
Cyfathrebu dros y ffôn Gall pawb sy’n cysylltu â UWIC dros y ffôn wneud hynny yn Gymraeg neu yn Saesneg. Atebir galwadau ffôn â’r geiriau ‘Bore Da, Good Morning UWIC’ neu enw’r adran benodol yn ddwyieithog. Bydd UWIC yn cynnig cyngor i bobl sy’n delio ag ymholiadau dros y ffôn ynglŷn â’r weithdrefn hon. Pan atebir yr alwad gan aelod o’r staff nad yw’n siarad Cymraeg, bydd dymuniad y galwr i ddelio â UWIC yn Gymraeg drwy gynnig trosglwyddo’r alwad i siaradwr Cymraeg neu drwy drefnu bod siaradwr Cymraeg yn ffonio nôl cyn gynted ag y bydd modd. Os na ellir gwneud hyn, rhoddir y dewis i’r galwr naill ai i barhau yn Saesneg neu i ysgrifennu at UWIC yn Gymraeg. Mae’r derbynfeydd ym mhob un o gampysau UWIC yn cael eu staffio 24 awr y dydd, 365 ddiwrnod y flwyddyn. Lle bydd periannau ateb yn bodoli ar gyfer Ysgolion a Unedau Gweinyddol bydd negeseuon ar y rhain yn ddwyieithog.
5.2.1
Pan ddaw swyddi’n wag, bydd UWIC yn ceisio recriwtio a chyflogi gweithwyr switsfwrdd dwyieithog drwy nodi y Gymraeg fel hanfodol ar gyfer y swydd. Mae UWIC yn darparu cyfeiriadur siaradwyr Cymraeg yn y sefydliad y gellir trosglwyddo galwadau iddynt.
5.3
Cyfarfodydd mewnol UWIC Mae’r rhan fwyaf o gyfarfodydd UWIC o natur breifat rhwng aelodau’r sefydliad. Bydd yr iaith a ddewisir yn fater i’r rheiny fydd yn bresennol yn y cyfarfod. Mae UWIC yn dosbarthu agenda a dogfennau Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg yn ddwyieithog a chynhelir y cyfarfod yn Gymraeg. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael ar gyfer yr aelodau nad ydynt yn gallu siarad Cymraeg.
5.4
Cyfarfodydd cyhoeddus a darlithoedd cyhoeddus Mae’r rhan fwyaf o gyfarfodydd UWIC o natur breifat rhwng aelodau’r sefydliad. Bydd UWIC yn penderfynu ar iaith y cyfarfod (Cymraeg neu Saesneg) wrth drefnu cyfarfodydd. Fodd bynnag bydd croeso i aelodau o’r cyhoedd neu aelodau o staff UWIC siarad yn Gymraeg neu yn Saesneg mewn unrhyw gyfarfod cyhoeddus heb eisiau iddynt nodi hyn o flaen llaw. Bydd unrhyw ddeunyddiau sy’n marchnata cyfarfodydd cyhoeddus yn gwahodd pobl, cyn y cyfarfod, i nodi pa iaith hoffent ddefnyddio. Pan bydd eisiau cyfieithu bydd hyn ar gael drwy gyfieithu ar y pryd. Mae UWIC yn dosbarthu agenda a dogfennau Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg yn ddwyieithog a chynhelir y cyfarfod yn Gymraeg. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael ar gyfer yr aelodau nad ydynt yn gallu siarad Cymraeg.
5.5
Cyfarfodydd a gwrandawiadau cyfreithiol Mae’r hawl gan bob aelod o’r cyhoedd a phob aelod o’r staff neu fyfyriwr siarad yn Gymraeg neu yn Saesneg mewn gwrandawiad disgyblu ym mhob rhan o’r gwrandawiad hwnnw, p’un ai y byddant wedi’u cyhuddo neu yn dystion. Rhaid rhoi 7 diwrnod o rybudd ymlaen llaw o’r bwriad i siarad â’r gwrandawiad yn Gymraeg neu yn Saesneg er mwyn sicrhau bod cyfarpar cyfieithu ar gael os bydd ei angen.
5.6
Trafodion wyneb-yn-wyneb Bydd UWIC yn sicrhau bod y rheiny fydd yn dymuno ymgymryd â thrafodion â’r sefydliad wyneb-yn-wyneb yn gallu gwneud hynny yn Gymraeg. Mae’n bosib na fydd rhai o staff UWIC fydd wrth y gwasanaethau cownter
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
tudalen 5
uwic.ac.uk
a’r desgiau yn y derbynfeydd yn gallu ymateb yn Gymraeg ond byddant yn gwneud eu gorau i gysylltu pobl sydd yn gwneud holiadau yn Gymraeg ag aelod priodol o’r staff. Ceir arwyddion ar bob un o’r brif dderbynfeydd yn nodi bod UWIC yn cynnig gwasanaeth dwyieithog. Bydd staff y derbynfeydd yn cael eu hyfforddi i gyfarch ymwelwyr yn ddwyieithog a byddant yn gallu esbonio sut y bydd yn bosib cael ateb i ymholiad penodol yn Gymraeg. Pan na fydd yn bosib neu’n ymarferol cyfeirio ymholiadau at siaradwr Cymraeg, yna caiff yr ymholwyr ddewis parhau â’r drafodaeth yn Saesneg neu ohirio’r drafodaeth hyd nes y bydd cyfieithydd ar gael. Bydd UWIC yn rhoi canllawiau/cyfarwyddiadau ynglŷn â’r gweithdrefnau uchod i’w staff. 5.7
Cyfathrebu electronig Mae ardal benodol ar wefan UWIC sy’n cynnwys gwybodaeth yn Gymraeg. Ceir gwybodaeth gyffredinol am wasanaethau UWIC i fyfyrwyr, ei chyfleusterau a gwybodaeth am raglenni sydd ar gael yn Gymraeg. Mae UWIC yn ymrwymedig i ddatblygu’r ardal hon ac i ehangu’r cynnwys sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae UWIC yn ymrwymedig i ddatblygu a chynyddu’r ddarpariaeth ddwyieithog ar ei gwefan a bydd yn mabwysiadu cynllun gweithredu er mwyn cyflawni hyn yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu’r Cynllun newydd. • Y maen prawf pennaf er mwyn penderfynu a ddarperir gwybodaeth ar y wefan yn Gymraeg ac yn Saesneg fydd ei diddordeb penodol i’r cyhoedd yng Nghymru. • Bydd pob tudalen gwe yn cael ei gynllunio mewn ffordd fydd yn cydymffurfio ag egwyddorion cydraddoldeb o ran y Gymraeg a’r Saesneg. • Bydd tudalennau ar gyfer adrannau academaidd fydd yn golygu cyhoeddusrwydd a chyflwyno gwybodaeth gyffredinol i’r cyhoedd yng Nghymru, ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
6.
Delwedd gyhoeddus UWIC
6.1
Hunaniaeth Gorfforaethol
6.1.1
Bydd UWIC yn gweithredu egwyddor cydraddoldeb i’r Gymraeg a’r Saesneg o ran ei hunaniaeth gorfforaethol. Ble bynnag y bydd enw a chyfeiriad UWIC yn ymddangos yng Nghymru, gan gynnwys pennau llythyrau, ar gerbydau ac adeiladau, dangosir y wybodaeth hon yn ddwyieithog. Bydd y wybodaeth yn dilyn yr un patrwm ble bynnag y caiff ei dangos yn barhaol ar logos, arwyddion, cerbydau, adeiladau, arddangosfeydd a chyhoeddiadau. Bydd yr holl bennau llythyrau, slipiau cyfarch, bathodynnau adnabod a nwyddau eraill a gynhyrchir gan UWIC, yn ddwyieithog. Os oes enw swyddogaethol gan Ysgol, Adran neu Uned, h.y. enw sy’n dynodi ei natur, yna defnyddir ffurfiau Cymraeg a Saesneg yr enw. Ni fydd rhaid cyfieithu enwau adeiladau, canolfannau a neuaddau preswyl sydd ag enwau penodol Cymraeg. Bydd pob deunydd a ddangosir gan UWIC at ddibenion marchnata a gwaith hyrwyddo yng Nghymru, yn ddwyieithog.
6.2
Arwyddion
6.2.1
Bydd UWIC yn darparu arwyddion gwybodaeth parhaol yn ddwyieithog ar y safleoedd hynny y mae UWIC yn berchen arnynt neu’n eu meddiannu. UWIC ensures that temporary signs created by administrative units and the administrative sections of the academic schools are also bilingual.
6.3
Cyhoeddiadau ar-lein ac all-lein
6.3.1
Mae UWIC yn cytuno â’r farn ei bod yn ddymunol fel arfer gynhyrchu deunydd a gyhoeddir ar gyfer Cymru yn ddwyieithog, gyda’r Gymraeg a’r Saesneg gyda’i gilydd yn yr un ddogfen, naill ai gefn wrth gefn neu ochr yn ochr. Ond, o ystyried y symud tuag at gyfathrebu electronig a nifer sylweddol y dogfennau a gynhyrchir gan UWIC ar gyfer Cymru, y DU a thramor, mae angen dethol pa ddogfennau sy’n cael eu cynhyrchu’n ddwyieithog ac ym mha ffyrdd. Yn achos dogfennau sydd ar gyfer grwpiau penodol o ddarllenwyr, pennir dwyieithrwydd neu unieithrwydd y cyhoeddiad gan natur y deunydd, amlder a chost y cyhoeddiad, a’r gynulleidfa darged gan ddefnyddio y Canllawiau Cyfieithu a grëwyd gan yr Uned Gymraeg (gweler atodiad 4).
tudalen 6
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
uwic.ac.uk
6.3.2. Mae gweithgaredd recriwtio myfyrwyr UWIC yn canolbwyntio ar gyfeirio ymgeiswyr posib i wefan UWIC iddynt gael cyngor a chanllawiau. Mae gwefan Gymraeg ddynodedig ar gael gan UWIC sy’n cyrraedd y cynulleidfaoedd priodol drwy gyfrwng y Gymraeg drwy daflenni hysbysebu/ cardiau post/ hysbysebion, yn dibynnu ar ba ymgyrch sydd ar waith. Mae cynllun e-farchnata UWIC yn annog ymgeiswyr i gofrestru er mwyn derbyn cynnwys personoledig sy’n berthnasol i’w diddordebau yn UWIC. Gall ymgeiswyr ofyn eisoes am gael derbyn unrhyw ohebiaeth sy’n gysylltiedig â derbyn myfyrwyr, yn Gymraeg, ac mae’r tudalennau gwe personoledig ar gael yn Gymraeg. Mae UWIC yn ymrwymedig i ddatblygu ac i ehangu ei chysylltiadau ag ysgolion cyfrwng Cymraeg a gweithio’n agos â menter Mantais i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg. 6.3.3
Adroddiadau a chyfrifon blynyddol Mae UWIC yn cynhyrchu adolygiad a chyfrifon sy’n hollol ddwyieithog.
6.3.4
Taflenni Bydd taflenni (sef dogfennau un ddalen) fydd yn rhoi gwybodaeth am ddigwyddiadau sy’n cael eu trefnu gan UWIC yng Nghymru yn ganolog, e.e. darlithoedd proffesiynol, yn cael eu cynhyrchu’n ddwyieithog. Bydd pob taflen a ddefnyddir gan UWIC yn ddwyieithog ac ar ffurf briodol ac wedi’i thargedu ar gyfer cynulleidfa Gymraeg ei hiaith os bydd hynny’n briodol drwy ddefnyddio y Canllawiau Cyfieithu a grëwyd gan yr Uned Gymraeg (gweler atodiad 4).
6.3.5
Cylchlythyrau Mae UWIC yn cyhoeddi llawer o gylchlythyrau, rhai ohonynt yn cael eu dosbarthu’n eang ac eraill yn llai felly. Dyffinir cylchlythyr fel arfer fel dogfen sy’n cael ei ddosbarthu ar yr un pryd i bob aelod o’r staff a/neu bob myfyriwr neu fyfyriwr posib. Rhagdybir y byddai’r cylchlythyrau yma’n cael eu cynhyrchu yn Gymraeg ac yn Saesneg ac mewn ffurf briodol. Mae hyn yn berthnasol i gyfathrebu electronig hefyd.
6.3.6
Tystysgrifau Mae UWIC yn bwriadu paratoi pob tystysgrif ar gyfer dyfarniad academaidd a roddir yng Nghymru ar ffurf ddwyieithog. Bydd y rhan fwyaf o’r manylion ar drawsgrifiadau cyraeddiadau academaidd myfyrwyr yn ddwyieithog hefyd, er y gallai rhai o’r manylion sy’n ymwneud yn benodol ag unigolion fod yn Saesneg ar gyfer y myfyrwyr hynny nad ydynt yn siarad Cymraeg.
6.3.7
Posteri Bydd posteri ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus UWIC yn cynnwys manylion dyddiad, amser a lle yn Gymraeg ac yn Saesneg, p’un ai y cynhelir y digwyddiad yn Gymraeg neu yn Saesneg, gan gynnwys cyrsiau, darlithoedd a chyfarwyddyd ar yrfaoedd.
6.3.8
Datganiadau i’r Wasg Er mwyn mwyafu adnoddau a thargedu ein cynulleidfa yn y ffordd fwyaf effeithiol, bydd datganiadau newyddion fydd wedi’u targedu ar gyfer y cyfryngau Cymraeg yn Gymraeg a’r rheini sydd yn ymweud yn benodol â Chymru yn ddwyieithog
6.4
Gweithdrefnau, Rheolau a Rheoliadau Bydd UWIC yn cyhoeddi rheoliadau cyffredinol i fyfyrwyr, rheoliadau llyfrgell, rheoliadau parcio ceir, polisi cyfle cyfartal a’r polisi ar aflonyddu a bwlio, yn ddwyieithog yn llawlyfrau UWIC (staff a myfyrwyr).
6.4.1
Ffurflenni a deunyddiau esboniadol cysylltiedig Mae UWIC yn bwriadu cynhyrchu pob ffurflen a deunyddiau esboniadol cysylltiedig a ddosberthir ymhlith y staff a’r myfyrwyr yn ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg).
6.4.2
Marchnata, deunyddiau arddangosfeydd ac ymgyrchoedd hysbysebu Bydd deunydd hyrwyddo a ddefnyddir mewn ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd neu mewn arddangosfeydd neu ar stondinau arddangos sydd ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru, yn cynnwys deunyddiau dwyieithog neu fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Bydd UWIC yn sicrhau bod 70% o hysbysebion yng Nghymru mewn fformat dwyieithog neu â fersiynau Cymraeg a Saesneg. Bydd ymgyrchoedd hysbysebu yn y cyfryngau yn iaith arferol y cyfrwng penodol a ddefnyddir (e.e. yn Gymraeg ar S4C neu yn Saesneg ar ITV). Caiff ymgyrchoedd fod yn ddwyieithog pan fydd hynny’n gydnaws â’r deunydd a/neu’r gynulleidfa darged.
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
tudalen 7
uwic.ac.uk
6.4.3
Hysbysebion recriwtio staff Bydd UWIC yn mabwysiadu’r arfer o sicrhau bod hysbysebion a gyhoeddir mewn papurau newydd a chylchgronau fydd â chylchrediad yng Nghymru yn bennaf, yn ddwyieithog ac y caiff y ddwy iaith eu trin yn gyfartal o ran fformat, maint, ansawdd, darllenadwyaeth ac amlygrwydd. Pan hysbysebir swyddi lle y tybir bod y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol, bydd hysbyseb yn Gymraeg yn unig yn briodol ynghyd â throednodyn yn Saesneg yn esbonio diben yr hysbyseb. Caiff hysbysebion a gyhoeddir y tu allan i Gymru eu hargraffu yn Saesneg yn unig oni bydd y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd ac felly bydd angen i’r hysbyseb fod yn ddwyieithog.
7.
Gweithredu a Monitro’r Cynllun
7.1
Yr Uned Gymraeg Mae Uned Gymraeg gan UWIC sy’n darparu gwasanaethau yn Gymraeg i bob Ysgol ac Uned drwy UWIC i gyd. Mae gwasanaeth cyfieithu ar gael drwy’r Uned hefyd. Bydd yr Uned yn darparu copi o unrhyw gyfieithiad fydd ei angen mewn fformat terfynol fydd yn briodol ar gyfer ei anfon at ohebydd. Mae’r Uned Gymraeg yn cynnwys dau aelod o staff, Rheolwr Darpariaeth Gymraeg UWIC a’r Cyfieithydd Gweinyddol. Mae’r Rheolwr Darpariaeth Gymraeg yn delio â gweinyddu y Cynllun Iaith o ddydd i ddydd tra bod y Cyfieithydd Gweinyddol yn cefnogi gweinyddu’r Cynllun tra yn gweinyddu gwasanaeth cyfieithu UWIC. Mae’r ddau aelod o staff yn gweinyddu Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg ac yn adrodd yn uniongyrchol i Gyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu UWIC, sydd yn aelod o Fwrdd yr Is-Ganghellor.
7.1.1
Dysgu Cymraeg Mae UWIC yn cynnig cymorth i aelodau o’r staff gael dysgu Cymraeg ac mae dosbarthiadau Cymraeg ar gael i’r staff. Mae rhaglenni CBAC ar bedair lefel ar gael i’r staff a chânt eu haddysgu gan diwtoriaid sy’n brofiadol ym maes dysgu Cymraeg i oedolion. Mae’r opsiynau ar gyfer hyfforddi’r staff yn y Gymraeg yn rhan o Gynllun Adolygu Perfformiad Staff UWIC. Caiff Ysgolion ac Unedau eu hannog i anfon y staff ar raglenni ychwanegol i wella safon eu Cymraeg hyd yn oed yn fwy. Bydd yr Uned Gymraeg yn gweithio gydag Ysgolion UWIC i gael adnabod pa aelodau o’r staff allai elwa o’r cynllun sabothol a drefnir gan CAUCC i ddatblygu sgiliau Cymraeg staff academaidd.
7.2
Recriwtio a Staffio Mae UWIC yn sicrhau bod mynediad ganddynt i ddigon o staff sydd â’r sgiliau priodol ac sy’n siarad Cymraeg ar gyfer swyddi lle yr ystyrir bod y gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol a’r swyddi lle yr ystyrir ei fod yn ddymunol. (i) Mae UWIC yn adnabod gallu ieithyddol ei staff drwy archwiliad blynyddol o sgiliau iaith Gymraeg ei staff, sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer datblygiad staff yn y dyfodol. (ii) Mae cyfeiriadur siaradwyr Cymraeg gan UWIC ar gyfer pob Ysgol ac Uned Weinyddol.
7.2.1
Mae profiad UWIC o recriwtio staff sy’n siarad Cymraeg yn awgrymu y byddai’n ddigon anodd darparu gwasanaeth cyflawn drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond bydd UWIC yn adnabod y swyddi hynny lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol a’r rhai lle mae’n ddymunol er mwyn darparu gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd polisi staffio UWIC yn parhau i benodi’r person gorau ar sail cymwysterau a phrofiad yn unol â’r disgrifiadau swydd a pherson.
7.2.2
Mae’n bosib y bydd rhaid i’r rhai a benodir i rai swyddi yn y dyfodol ddysgu’r Gymraeg hyd at lefel hyfedredd lle y byddai’r hyfedredd hwnnw yn fanteisiol iddynt wrth ymgymryd â dyletswyddau’r swyddi hyn. Bydd UWIC yn parhau i fonitro’r angen i ddarparu staff sy’n siarad Cymraeg ac mae’n bwriadu cwrdd â’r ddyletswydd statudol i gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg. Felly, lle y bydd hyfedredd yn y Gymraeg yn amod neu’n ofynnol ar gyfer swydd, a lle y bydd yn cwrdd ag anghenion rhesymol y cyflogwr, ni fydd hyn yn enghraifft o wahaniaethu ar sail hil.
7.2.3
Er mwyn sicrhau bod yr ymrwymiadau a wnaethpwyd gan UWIC yn y Cynllun yn cael eu cyflawni bydd UWIC yn sicrhau ei bod hi’n mabwysiadu Strategaeth Sgiliau Ieithyddol yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu’r Cynllun.
tudalen 8
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
uwic.ac.uk
7.3
Hyfforddiant Galwedigaethol Ar hyn o bryd, cynhelir bron pob cwrs datblygiad staff drwy gyfrwng y Saesneg. Bydd yr Uned Datblygu Staff yn ystyried a oes galw am gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae UWIC yn cynnig mwy a mwy o ddatblygiad staff ar-lein. Mae pecyn hyfforddiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth sy’n orfodol i’r staff ei gwblhau, ar gael yn ddwyieithog. Bydd UWIC yn ymchwilio i’r posibilrwydd o ddefnyddio pecynnau hyfforddiant ar-lein ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod flwyddyn gyntaf o weithredu’r Cynllun. Mae aelodau o staff UWIC yn ymgysylltu â chyfleoedd datblygu staff sydd ar gael drwy’r Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg (CAUCC). Bydd UWIC yn parhau i gefnogi CAUCC a bydd yn cynnal nifer o sesiynau bob blwyddyn.
7.4
Trefniadau Gweinyddol (i) Mae elfennau academaidd Cynllun Iaith diwygiedig UWIC wedi’u cymeradwyo gan Fwrdd Academaidd UWIC, ac mae’r Cynllun Iaith cyflawn, gan gynnwys elfennau academaidd a gweinyddol y Cynllun, wedi’i gymeradwyo gan y Corff Llywodraethol cyn ei gyflwyno i Fwrdd yr Iaith. (ii) Mae’r cyfrifoldeb cyffredinol dros weithredu a monitro’r Cynllun o dan ofal Cyfarwyddwr sy’n adrodd wrth yr Is Ganghellor, ac mae’r gwaith o reoli’r Cynllun o ddydd i ddydd yn gyfrifoldeb i’r Uned Gymraeg. Mae’r Uned yn gyfrifol am gynhyrchu adroddiad blynyddol i’r Bwrdd Academaidd a’r Corff Llywodraethol. (iii) Mae Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg yn monitro’r gwaith o weithredu Cynllun Iaith UWIC. Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn ac mae wedi’i ffurfio o aelodau o bob Ysgol ac Uned yn UWIC ac Undeb y Myfyrwyr. Cadeirydd y Pwyllgor yw’r Cyfarwyddwr sy’n gyfrifol am weithredu a monitro’r Cynllun. (iv) Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg fydd yn derbyn unrhyw gwynion o safbwynt gweithredu Cynllun Iaith UWIC a sianelir y cwynion drwy’r Uned Gymraeg. Bydd y Pwyllgor, drwy ei Gadeirydd a’i Ysgrifennydd, yn cymryd unrhyw gamau priodol. Mae gweithdrefn gwynion rymus gan UWIC sy’n cael ei gweinyddu gan Ddeon y Myfyrwyr. Bydd yr Uned Gymraeg yn cefnogi gweithdrefn gwynion UWIC i sicrhau yr ymdrinnir ag unrhyw gwynion a dderbynnir drwy gyfrwng y Gymraeg yn y ffordd briodol ac i’r un safon â chwynion a dderbynnir drwy gyfrwng y Saesneg. (v) Mae UWIC yn croesawu awgrymiadau oddi wrth y cyhoedd o ran gwelliannau i’r Cynllun a bydd yn cynghori’r cyhoedd ar y ffordd y bydd yn bwriadu delio â’r awgrymiadau hyn drwy ddatganiadau mewn cyhoeddiadau megis yr Adroddiad Blynyddol ac ati.
7.5
Gwasanaethau o dan Gontract
7.5.1
Atgoffir aelodau UWIC y dylai unrhyw gytundeb neu drefniadau a wneir gyda thrydydd parti sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau o dan y Cynllun hwn gydymffurfio ag amodau’r Cynllun. Dylai cytundeb ysgrifenedig fod wedi’i baratoi i’r perwyl hwn wrth ddelio ag asiantau a chontractwyr. Yn ogystal, bydd unrhyw wasanaeth i’r cyhoedd yng Nghymru a roddir drwy asiant, contractwr neu isgontractwr UWIC yn gweithredu yn unol â’r Cynllun Iaith a bydd yn adrodd nôl yn rheolaidd ar eu perfformiad. Dylai pob Ysgol Academaidd ac Uned Weinyddol dderbyn cyfarwyddiadau i’r perwyl hwn. Bydd unrhyw ddogfennau tendro, manylebau a chytundebau yn cynnwys canllawiau ar gyfer darparu gwasanaeth sy’n cydymffurfio ag agweddau perthnasol y Cynllun Iaith a, lle bo’n briodol, gofynnir am ddatganiad fydd yn dangos sut y cyflawnir y gwasanaethau hyn. Mewn enghreifftiau lle y bydd sefydliad neu asiantaeth allanol yn cynnig gwasanaeth cyfieithu neu wasanaeth i fyfyrwyr sy’n dilyn eu rhaglen(ni) yn Gymraeg, bydd UWIC yn sicrhau bod y gweithdrefnau hyn yn cydymffurfio â’r Cynllun Iaith. Er mwyn sicrhau bydd UWIC yn cwrdd â’r gofynion hyn bydd yr Uned Gymraeg yn monitro hyn yn flynyddol. Bydd hyn yn digwydd o ddiwedd y flwyddyn gyntaf o weithredu’r Cynllun.
7.6
Monitro gweithrediad y Cynllun (i) Bydd Uned Gymraeg UWIC yn paratoi adroddiadau ar gynnydd mewnol i gael goruchwylio’r gwaith o weithredu’r Cynllun ac yn cyflwyno gwybodaeth i Bwyllgor Defnyddio’r Gymraeg ar gyfer pob cyfarfod.
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
tudalen 9
uwic.ac.uk
(ii) Darperir Adroddiad Monitro yn flynyddol gan Uned Gymraeg UWIC fydd yn boddhau’r nodau canlynol: • • • • •
Mesur a yw UWIC yn cydymffurfio â’r Cynllun; Mesur ansawdd ei gwasanaeth Cymraeg; Mesur a yw’r Cynllun yn cael ei reoli mewn ffordd ddigonol; Mesur a yw ei sgiliau iaith yn ddigonol drwy gymharu adnoddau ag anghenion; Dadansoddi ei pherfformiad fesul adran/ gwasanaeth/ uned ac yn thematig, yn ogystal ag yn gorfforaethol er mwyn sicrhau cysondeb; • Adnabod unrhyw wendidau sylfaenol a sefydlu cynllun gweithredu ynghyd ag amserlen. Bydd angen i’r Adroddiad Blynyddol i UWIC adrodd yn benodol ar yr elfennau canlynol: • • • •
Ymgymryd ag arolwg o ymwybyddiaeth y staff o’r Cynllun ; Paratoi adroddiad ffocws ar y gwasanaethau a ddarperir ar ran UWIC gan drydydd parti; Datblygu a mireinio’r prosesau monitro; Nifer a chanran y myfyrwyr sy’n derbyn rhan o’u haddysg (megis modiwl, tiwtorial, lleoliad gwaith, ac ati) a’u haddysg i gyd gan UWIC yn Gymraeg / yn ddwyieithog, yn ogystal â’r nifer (a’r canran) a asesir yn Gymraeg. Cyflwynir y wybodaeth hon mewn ffordd fydd yn galluogi UWIC i gymharu’r gwahanol flynyddoedd academaidd â’i gilydd.
Drwy wneud hyn, bydd UWIC yn cael darlun cyflawn o’i pherfformiad. Bydd UWIC yn ystyried defnyddio’r penawdau a’r targedau blynyddol sydd wedi’u gosod yn y Cynllun i gael adrodd yn llawn o flwyddyn i flwyddyn. Ond y nod fydd prif-ffrydio anghenion adrodd ar y Cynllun Iaith hyd y gellir o fewn y prosesau arferol a diwylliant monitro a chofnodi UWIC. (iii) O ran blwyddyn olaf gweithredu’r Cynllun, bydd angen i UWIC baratoi adroddiad fydd yn cynnwys gwerthusiad llawnach o’i pherfformiad o ran gweithredu’r Cynllun yn ystod y tair blynedd ddiwethaf a bydd yn: • darparu trosolwg a dadansoddiad thematig o’r cydymffurfiad a’r perfformiad dros dair blynedd gyntaf y Cynllun o safbwynt ansawdd y gwasanaeth a rheoli’r Cynllun; • amlinellu’r blaenoriaethau ar gyfer tair blynedd nesaf y Cynllun ynghyd ag amserlen ddiwygiedig ar gyfer gweithredu’r mesurau yn y Cynllun. Dylai’r adroddiad amlinellu unrhyw welliannau/ ychwanegiadau y bydd angen eu cynnwys ym marn UWIC yn y Cynllun diwygiedig.
8
Cyhoeddi’r Cynllun
8.1
Wedi i’r Cynllun hwn gael ei dderbyn gan Fwrdd yr Iaith, bydd UWIC yn cyhoeddi crynodeb o’r ddogfen hon yng nghylchlythyr y staff ac yn sicrhau bod y ddogfen hon ar gael i bawb ar gais. Anfonir copïau electronig i bob aelod o’r staff drwy Weinyddwr UWIC (y system gyfathrebu electronig) a bydd ar gael i aelodau o’r cyhoedd ar wefan UWIC. Wedi i’r Cynllun gael ei gymeradwyo, cyhoeddir taflen fer ar y Cynllun hefyd. Rhoddir gwybodaeth ynglŷn ag argaeledd y Cynllun Iaith ym mhrosbectysau UWIC, ar wefan UWIC ac mewn gwahanol lawlyfrau yn ogystal ag yn yr Adroddiad Blynyddol.
tudalen 10
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
uwic.ac.uk
9
Targedau ar gyfer gweithredu’r Cynllun
Amcanion
Targedau Mesuradwy (Ansoddol a Meintiol)
Erbyn
Yn gyfrifol am weithredu
Yn gyfrifol am fonitro
Sicrhau bod staff priodol ar gael er mwyn gweithredu’r Cynllun diwygiedig
Penodi Rheolwr y Ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg
Medi 2009
Cyfarwyddwr
Bwrdd yr Is Ganghellor
Rhoi gwybod i’r staff am y Cynllun diwygiedig
Cynnal cyfres o weithdai fydd yn rhoi gwybod i’r staff am y Cynllun ac yn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau unigol ac ar y cyd o ran ei weithredu
Diwedd y Flwyddyn Academaidd 2009/10
Uned Gymraeg / Uned Datblygu Staff
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Sicrhau bod copi o’r Cynllun Iaith ar gael i bob aelod o’r staff
Pan fydd y Cynllun diwygiedig yn cael ei lansio
Uned Gymraeg, Deoniaid yr Ysgolion, Penaethiaid yr Unedau
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Sicrhau bod polisïau newydd yn cydymffurfio â Chynllun Iaith diwygiedig UWIC
Bydd angen bod effaith polisïau a mentrau newydd a lunnir yn cael eu hasesu o ran y canlyniadau ieithyddol
Ar waith
Uned Gymraeg, Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg, Pwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Delio â’r cyhoedd sy’n siarad Cymraeg drwy eu dewis gyfrwng:
Ymateb yn Gymraeg i ohebiaeth a dderbyniwyd yn Gymraeg o fewn 2 wythnos
Ar waith
Uned Gymraeg, pob aelod o’r Staff
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Gohebiaeth
Sefydlu a chynnal cronfa ddata o’r rheiny y mae’n well ganddynt ohebu drwy gyfrwng y Gymraeg
Yn ei le ac ar waith
Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Rhoi canllawiau i bob aelod o’r staff ynglŷn â sut i gael pob gohebiaeth a dderbynnir ac a ddanfonir wedi’u cyfieithu
Yn ei le ac ar waith
Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Cylchlythyrau a llythyrau safonol a ysgrifennir at y staff a’r myfyrwyr yn ddwyieithog
Ar waith
Uned Gymraeg, Unedau Cefnogi, Gweinyddiaeth yr Ysgolion
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Derbyn galwadau ffôn naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg pryd y bydd aelod o’r staff yn trosglwyddo’r alwad i siaradwr Cymraeg neu drwy drefnu galwad nôl yn y Gymraeg cyn gynted ag y gellir
Yn ei le ac ar waith
Gwasanaethau Campws, Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Ffôn
parhad »
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
tudalen 11
uwic.ac.uk
9
Targedau ar gyfer gweithredu’r Cynllun - Parhad
Amcanion
Targedau Mesuradwy (Ansoddol a Meintiol)
Erbyn
Yn gyfrifol am weithredu
Yn gyfrifol am fonitro
Darparu hyfforddiant ar gyfer y rheiny nad ydynt yn gallu siarad Cymraeg er mwyn iddynt gael cyfarch ymwelwyr yn Gymraeg
Yn ei le ac yn cael ei ailadrodd bob blwyddyn
Gwasanaethau Campws, Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Darparu cyfeiriadur aelodau o’r staff sy’n gallu delio â’r cyhoedd yn Gymraeg
Yn ei le ac yn cael ei ddiweddaru bob blwyddyn
Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Rhoi canllawiau i’r croesawyr ac i aelodau eraill o’r staff ar sut i ateb y ffôn yn ddwyieithog
Yn ei le ac yn cael ei ailadrodd bob blwyddyn
Gwasanaethau Campws, Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Pan ddaw swyddi’n wag, bydd UWIC yn ceisio cyflogi gweithwyr switsfwrdd dwyieithog
Pan fydd yn berthnasol
Gwasanaethau Campws, Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Cyfarfodydd UWIC
Rhoi canllawiau i’r staff ynglŷn â threfniadau’r Brifysgol o ran cyfarfodydd y Brifysgol
Yn ei le ac ar waith
Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Sicrhau bod delwedd gyhoeddus UWIC yn ddwyieithog:
Arwyddion gwybodaeth o fewn safleoedd UWIC
Yn ei le ac ar waith
Ystadau, Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Hunaniaeth Gorfforaethol
Cerbydau, adeiladau ac arwyddion eraill, gan gynnwys arwyddion dros dro
Yn ei le ac ar waith
Ystadau, Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Cyhoeddiadau a deunydd argraffedig wedi eu cyfeirio at y cyhoedd yng Nghymru fel a nodir yng nghorff y Cynllun
Yn ei le ac ar waith
Cyfathrebu, Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr, Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Adroddiadau a chyfrifon blynyddol
Yn ei le ac yn cael ei ddiweddaru bob blwyddyn
Cyfathrebu, Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr, Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Cyhoeddiadau ar-lein/ all-lein
Cynyddu’r ddarpariaeth ddwyieithog ar wefan UWIC drwy fabwysiadu a gweithredu cynllun gweithredu
Erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf o weithredu’r Cynllun
Cyfathrebu, Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr, Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Marchnata, deunyddiau arddangosfeydd ac ymgyrchoedd hysbysebu
Sicrhau bod 70% o hysbysebion UWIC yng Ngymru mewn format dwyieithog neu â fersiynau Cymraeg a Saesneg
Erbyn diwedd cyfnod gweithredu’r Cynllun
Cyfathrebu, Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr, Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
tudalen 12
parhad »
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
uwic.ac.uk
9
Targedau ar gyfer gweithredu’r Cynllun - Parhad
Amcanion
Sicrhau y darperir datblygiad staff digonol er mwyn gwireddu gofynion y Cynllun
Targedau Mesuradwy (Ansoddol a Meintiol)
Erbyn
Yn gyfrifol am weithredu
Yn gyfrifol am fonitro
Cynhyrchu llyfrynnau a thaflenni yn ddwyieithog yn unol â’r Cynllun
Ar waith
Uned Gymraeg, pob Uned Gefnogi
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Cylchlythyrau, codau ymarfer, dogfennau ymgynghorol a nodiadau canllaw, tystysgrifau, posteri
Ar waith
Uned Gymraeg, pob Uned Gefnogi
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Gweithdrefnau, rheolau a rheoliadau
Yn ei le ac yn cael eu diweddaru bob blwyddyn
Pob Uned Weinyddol, Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Ffurflenni a deunydd esboniadol cysylltiedig a gyhoeddir gan y weinyddiaeth ganolog
Yn ei le ac yn cael eu diweddaru bob blwyddyn
Pob Uned Weinyddol, Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Deunyddiau arddangos, marchnata ac ymgyrchoedd hysbysebu yn Gymraeg ac yn Saesneg fel yn briodol
Ar waith
Cyfathrebu, Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr, Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Datblygu ac ehangu’r cysylltiadau â’r ysgolion cyfrwng Cymraeg drwy gynllun gweithredu
Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd 2010/11
Cyfathrebu, Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr, Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Sicrhau bod hysbysebion recriwtio staff yng Nghymru yn ddwyieithog
Yn ei le ac ar waith
Adnoddau Dynol, Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Darparu canllawiau ysgrifenedig priodol ar gyfer staff sy’n delio â gwasanaethau dan gontract er mwyn sicrhau mai rhannau perthnasol y Cynllun yn unig sy’n cael eu hamlinellu yn nogfennau tendro contractau unigol
Yn ei le ac ar waith
Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Asesu gallu ieithyddol staff UWIC
Diweddaru’r wybodaeth bresennol yn ystod y flwyddyn academaidd 2010/11
Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Mabwysiadu strategaeth sgiliau ieithyddol
Yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu’r Cynllun
Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
parhad »
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
tudalen 13
uwic.ac.uk
9
Targedau ar gyfer gweithredu’r Cynllun - Parhad
Amcanion
Gwasanaethau dan gontract
10.
Targedau Mesuradwy (Ansoddol a Meintiol)
Erbyn
Yn gyfrifol am weithredu
Yn gyfrifol am fonitro
Parhau â’r ddarpariaeth bresennol o ran hyfforddiant yn y Gymraeg i’r staff ar draws y pedair rhaglen a gymeradwyir gan CBAC
Ar waith
Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Adnabod pa hyfforddiant galwedigaethol cyfrwng Cymraeg sydd ar gael ar-lein
Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd 2010/2011
Adnoddau Dynol, Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Darparu hyfforddiant Gloywi Iaith ar gyfer y staff
Yn ystod y flwyddyn academaidd 2011/12
Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Y gwasanaethau cyhoeddus sydd o dan gontract i gydymffurfio ag elfennau penodol y Cynllun
Yn ei le ac ar waith
Pob aelod o’r Staff, Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Safonau Gwasanaeth
Bydd UWIC yn sefydlu, cyhoeddi ac adolygu’n gyson y safonau gwasanaeth a gynigir wrth ddelio â’r cyhoedd ac â myfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae system Sicrwydd Ansawdd UWIC yn sicrhau ansawdd ein darpariaeth academaidd. Drwy Bwyllgor Defnyddio’r Gymraeg mae UWIC yn gallu adolygu a monitro gweithrediad y Cynllun Iaith. Bydd UWIC yn sicrhau cysondeb yn y ffordd y gweithredir y Cynllun drwy roi cymorth drwy ymgynghori’n rheolaidd â Deoniaid yr Ysgolion a Phenaethiaid yr Unedau.
tudalen 14
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
uwic.ac.uk
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
CYNNWYS ACADEMAIDD
1.
Rhagarweiniad
16
2.
Y ddarpariaeth gyfredol
16
3.
Cyd-destun cenedlaethol
17
4.
Myfyrwyr
18
5.
Staff
18
6.
Datblygiadau a gwelliannau yn y dyfodol
19
7.
Adnoddau a deunyddiau cyfrwng Cymraeg
21
8.
Crynodeb
21
9.
Cynllun gweithredu
22
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
tudalen 15
uwic.ac.uk
CYNLLUN IAITH GYMRAEG UWIC DATBLYGU A GWELLA’R DDARPARIAETH ACADEMAIDD DDWYIEITHOG
1.
Rhagarweiniad
1.1
Mae traddodiad hir gan UWIC o ddarparu addysg ddwyieithog o safon uchel o fewn meysydd allweddol. Nod yr adran hon yn y Cynllun Iaith yw amlinellu sut y bydd UWIC yn bwriadu cyfnerthu a gwella’i darpariaeth ddwyieithog bresennol a datblygu darpariaeth newydd.
1.2
Mae UWIC yn diffinio addysg ddwyieithog yn rhaglenni neu fodiwlau a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae addysg ddwyieithog o fewn rhaglenni yn cyfeirio at gyfuniad o fodiwlau o fewn rhaglen sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae addysg ddwyieithog o fewn modiwl yn cyfeirio at elfennau o fewn modiwl sydd ar gael naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mae’r diffiniad hwn yn cynnwys darpariaeth sy’n cynnig credydau gan ddechrau ar isafswm o 2 gredyd.
1.3
Mae’r gwaith cyfnerthu a gwella darpariaeth ddwyieithog UWIC yn unol â’i chenhadaeth: • Darparu cyfleoedd dysgu â’r myfyriwr yn y canol, sy’n hygyrch, yn hyblyg, yn gynhwysol, yn rhai gydol oes ac o’r safon uchaf. • Darparu gwasanaethau sy’n cwrdd ag anghenion Cymru a chymunedau ehangach drwy weithio mewn partneriaeth â chyrff dinesig, cenedlaethol a rhyngwladol.
1.4
Nod Cynllun Iaith Gymraeg UWIC yw gwella cyflogadwyedd myfyrwyr UWIC. Drwy wneud hynny, bydd UWIC yn ymateb hefyd i adroddiad Llywodraeth y Cynulliad Er Mwyn Ein Dyfodol: Strategaeth a Chynllun Addysg Uwch ar gyfer Cymru yn yr Unfed Ganrif ar Hugain lle y gosodir her gerbron pob sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru i: ‘hyrwyddo ymwybyddiaeth a hunaniaeth ddiwylliannol Cymru, mewn amgylchedd o ymwybyddiaeth fydeang; meithrin cyfleoedd i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac ymchwilio iddi, gan hybu yr un pryd werthfawrogiad o ddiwylliannau a thraddodiadau o bob rhan o'r byd.’
1.5
Mae’r ddarpariaeth bresennol a’r ddarpariaeth newydd arfaethedig yn cydymffurfio â’r Cynllun Datblygu Cenedlaethol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg (gweler isod am fwy o wybodaeth ar y Cynllun Datblygu Cenedlaethol). Mae Uned Gymraeg UWIC yn gweithio’n agos gyda CAUCC er mwyn sicrhau bod pob datblygiad yn cydymffurfio â’r cynllun cenedlaethol.
2.
Y Ddarpariaeth Bresennol
2.1
Mae 5 Ysgol Academaidd ac un ganolfan ymchwil ddynodedig gan UWIC sy’n darparu ystod o gyfleoedd i fyfyrwyr ar lefel israddedig, ôl-raddedig ac ymchwil, sef: • • • • • •
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd Ysgol Addysg Caerdydd Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd Ysgol Reoli Caerdydd Ysgol Chwaraeon Caerdydd Dylunio Cynhyrchion ac Ymchwil i Gynhyrchion
Mae’r ddarpariaeth ddwyieithog yn UWIC ar gael ar hyn o bryd o fewn yr Ysgol Addysg, Yr Ysgol Gwyddorau Iechyd a’r Ysgol Chwaraeon. 2.1.1
Ysgol Addysg Caerdydd Ysgol Addysg Caerdydd yw darparwr addysg ddwyieithog mwyaf UWIC. Mae darpariaeth ddwyieithog ar gael ar y rhaglenni addysg yn yr Ysgol ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. O ganlyniad i ailstrwythuro diweddar ar y ddarpariaeth HCA yng Nghymru yn dilyn Adroddiad Furlong, newidiodd portffolio’r Ysgol. Trosglwyddwyd y rhaglen BA Addysg Gynradd i israddedigion i Brifysgol Cymru Casnewydd ac mae Ysgol Addysg Caerdydd bellach yn cynnwys rhaglen TAR Cynradd Casnewydd a’r TAR Uwchradd Drama a’r TAR Uwchradd TGCh yn rhan o’i phortffolio o raglenni. Ni chafodd y newid hwn effaith sylweddol ar nifer y myfyrwyr sy’n dilyn rhaglenni drwy gyfrwng y Gymraeg.
tudalen 16
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
uwic.ac.uk
Mae UWIC yn ymrwymedig i gyfnerthu ei darpariaeth ddwyieithog yn Ysgol Addysg Caerdydd ac i ddatblygu darpariaeth newydd lle y bydd hynny’n bosib drwy weithio gyda CAUCC i gael mynediad i gyllid a thrwy gydweithredu â sefydliadau AU eraill yng Nghymru drwy’r Panel Addysg a Hyfforddiant a weinyddir gan CAUCC. 2.1.2
Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd Mae Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd yn darparu peth ddarpariaeth ddwyieithog ar ei rhaglen Gwaith Cymdeithasol a hefyd drwy Ysgoloriaeth a dderbyniwyd yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cenedlaethol o fewn y Gwyddorau Biofeddygol. Bydd yr Ysgoloriaeth hon yn arwain at swydd ddarlithio newydd lle y bydd addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn elfen graidd i’r swydd.
2.1.3
Ysgol Chwaraeon Caerdydd O fewn yr Ysgol Chwaraeon, cynigir addysg ddwyieithog ar draws nifer o raglenni i israddedigion. Mae tair Ysgoloriaeth Ôl-raddedig gan yr Ysgol sydd wedi’u cyllido drwy’r Cynllun Datblygu Cenedlaethol. Bydd deiliaid yr Ysgoloriaethau hyn yn gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan o bortffolio’r Ysgol i israddedigion. Yn y pen draw, bydd yr Ysgoloriaethau hyn yn arwain at greu swyddi y bydd addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn elfen graidd iddynt.
3.
Cyd-destun Cenedlaethol
3.1
Yn 2000/2001, addysgwyd 5% o fyfyrwyr o Gymru oedd mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru i ryw raddau drwy gyfrwng y Gymraeg. Gwnaeth Y Wlad sy'n Dysgu: Gweledigaeth ar Waith (Llywodraeth y Cynulliad) ymrwymiad i darged bod cyfran y myfyrwyr o Gymru mewn Sefydliadau AU yng Nghymru fyddai’n ymgymryd â rhai elfennau o’u cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg yn cynyddu i 7% erbyn 2010.
3.2
Adroddodd UWIC i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn rhan o’i adroddiadau HESA yn 2007/08 i 2.1% (116 o fyfyrwyr) ymgymryd â rhyw elfen o’u rhaglen drwy gyfrwng y Gymraeg. (Gweler atodiad 1 ar gyfer taliadau premiwm CCAUC yn ôl y Sefydliadau.) Nod UWIC yw dyblu’r ffigur hwnnw i 5% dros y tair blynedd nesaf. Yr arian ychwanegol a dderbyniwyd gan UWIC drwy’r Premiwm Cyfrwng Cymraeg yn 2007/08 oedd £92,830. Â’r cynllun arfaethedig i ddyblu’r ddarpariaeth ac o ystyried chwyddiant dylai’r ffigur hwn godi i fwy na £200,000 erbyn diwedd y Cynllun hwn (gweler adran 6 ar gyfer y datblygiadau fydd yn arwain y twf hwn).
3.3
Yn dilyn datblygiadau cynharach, gan gynnwys sefydlu Grŵp Llywio cyfrwng Cymraeg gan CCAUC yn 2003 i ddatblygu strategaeth gychwynnol, gwnaeth Sefydliadau AU yng Nghymru ymrwymiad yn 2006 i sefydlu Fframwaith Strategol a Chynllun Datblygu Cenedlaethol. Drwy wneud hyn, sefydlwyd sbardun newydd ar gyfer cynllunio ac ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg addysg brifysgol mewn ffordd strategol.
3.4
Yn ystod 2007/08 cytunodd y Grŵp Sector AU (a grëwyd yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cenedlaethol) ar batrwm cenedlaethol ar gyfer datblygu ystod eang o bynciau a disgyblaethau. Roedd y patrwm hwn yn cydnabod mai’r ffordd orau o ddarparu rhai pynciau yw drwy fframwaith cydweithredol. Cytunwyd ar gynlluniau cydweithredol ar gyfer llawer o bynciau, gan gynnwys Chwaraeon a Hamdden. Yn y maes hwn, UWIC yw’r prif ddarparwr ac ysgogwr wrth wraidd y datblygiadau. Mae cynlluniau datblygu ar y gweill hefyd mewn meysydd eraill gan gynnwys Astudiaethau sy’n gysylltiedig â Iechyd, a Busnes. Mae Panel Addysg a Hyfforddiant CAUCC, sydd wedi’i hen sefydlu erbyn hyn, yn adolygu ei gynllun datblygu ac mae gan Ysgol Addysg UWIC rôl flaenllaw.
3.5
Yn yr haf yn 2006, yn unol â’r ymrwymiad yn Cymru’n Un, cyhoeddodd Gweinidog APADGOS sefydlu Bwrdd Cynllunio Coleg Ffederal o dan gadeiryddiaeth yr Athro Robin Williams. Bydd y Bwrdd yn adeiladu ar y datblygiadau a gafwyd eisoes a bydd ei rôl yn ymwneud ag archwilio modelau posib er mwyn datblygu’r Coleg Ffederal o fewn addysg uwch.
3.6
Mewn ymateb i argymhelliad y Bwrdd Cynllunio hwn, nodir gan Er Mwyn Ein Dyfodol: Strategaeth a Chynllun Addysg Uwch ar gyfer Cymru yn yr Unfed Ganrif ar Hugain Llywodraeth y Cynulliad: ‘Bydd model y Coleg Ffederal yn darparu dull annibynnol o oruchwylio, rheoli a datblygu addysg uwch cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru, gan weithredu argymhellion adroddiad yr Athro Robin Williams.’ Mae’r ddogfen yn nodi hefyd y bydd Llywodraeth y Cynulliad, drwy weithio gyda rhanddeiliaid a CCAUC, yn hwyluso ‘astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ... mewn amrywiaeth ehangach o raglenni a lleoliadau yng Nghymru.’
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
tudalen 17
uwic.ac.uk
3.7
Mae UWIC yn ymrwymedig i weithio gyda Llywodraeth y Cynulliad a rhanddeiliaid perthnasol eraill ar weithredu’r argymhellion a wnaed yn adroddiad yr Athro Robin Williams â’r nod o ddechrau sefydlu Bwrdd Cysgodol ar gyfer y Coleg Ffederal yn 2010.
4.
Myfyrwyr
4.1
Yn 2009/10 mae 10,601 o fyfyrwyr wedi ymrestru ar raglenni UWIC (nid yw’r ffigur hwn yn cynnwys myfyrwyr ar raglenni cydweithredol). O’r myfyrwyr hyn, mae 1,495 wedi datgan naill ai eu bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl neu eu bod yn gallu siarad Cymraeg, sef 14.1% o boblogaeth myfyrwyr UWIC. Mae’r nifer yma wedi aros yn gyson dros y tair blynedd ddiwethaf. (Gweler atodiad 3 i gael dadansoddiad o ystadegau myfyrwyr UWIC sy’n siarad Cymraeg.)
4.2
Daw 48.6% o fyfyrwyr UWIC o Gymru ac, o’r rhain, mae 23.4% yn gallu siarad Cymraeg. Mae UWIC yn recriwtio ei myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg o bob rhan o Gymru. Mae 63.1% o’r myfyrwyr o Ogledd Cymru yn gallu siarad Cymraeg, 63.2% o Ganolbarth Cymru a 20.4% o Dde Cymru. Dwedodd 16.4% o fyfyrwyr UWIC sydd â chod post Caerdydd eu bod yn gallu siarad Cymraeg, sef cyfanswm o 521 (gweler Atodiad 3 i gael dadansoddiad pellach o’r ffigurau hyn).
4.3
Er mai o fewn yr Ysgol Addysg y ceir y nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg (432 o fyfyrwyr, 22.3% o fyfyrwyr yr Ysgol), mae mwy na 200 o fyfyrwyr ym mhob Ysgol Academaidd yn gallu siarad Cymraeg.
4.4
7% yw targed Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer addysg drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2010. Yn 2007/08, gwnaeth 2.1% o fyfyrwyr UWIC ran o’u hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel y nodwyd uchod, mae UWIC yn ymrwymedig i godi’r ffigur hwn drwy’r gwaith sy’n cael ei wneud gan ddeiliaid yr Ysgoloriaethau ôlraddedig a hefyd drwy gydweithredu gyda Sefydliadau AU eraill drwy’r Paneli Rhwydwaith.
4.5
Er mwyn sicrhau bod myfyrwyr UWIC sy’n siarad Cymraeg yn cael y gefnogaeth academaidd a bugeiliol briodol pan fyddant yn UWIC, bydd yr Uned Gymraeg yn gweithio gyda’r Ysgolion Academaidd, yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a Gwasanaethau Myfyrwyr i adnabod ffyrdd y gellid gwella’r cymorth hwn.
4.6
Mae UWIC yn ceisio cael adborth gan ei myfyrwyr ble bynnag y bydd hynny’n bosib. Bydd Uned Gymraeg UWIC yn gweithio’n agos gydag Undeb y Myfyrwyr a Chymdeithas Gymraeg UWIC i gasglu gwybodaeth ar anghenion a dyheadau’r myfyrwyr o safbwynt eu hanghenion yn y Gymraeg. Yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf (2009/10), bydd Uned Gymraeg UWIC yn cynnal grwpiau ffocws gyda myfyrwyr Cymraeg i gasglu gwybodaeth ar y rheiny sy’n gwneud rhan o’u rhaglen drwy gyfrwng y Gymraeg a’r rheiny sy’n astudio’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Saesneg.
4.7
Defnyddir y wybodaeth hon i sicrhau bod myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yn derbyn y cymorth priodol tra byddant yn UWIC.
5.
Staff
5.1
Ar Fehefin 24, 2009 roedd 1,270 aelod o staff parhaol a thymor sefydlog gan UWIC, 484 yn staff academaidd a 786 yn staff gweinyddol. Dangosodd arolygon diweddar o staff UWIC fod 35 o’r staff cymorth a 35 o’r staff academaidd yn siaradwyr Cymraeg. Nodwyd gan 24% o’r staff academaidd sy’n siarad Cymraeg eu bod yn fodlon darlithio drwy gyfrwng y Gymraeg ac roedd 32% yn barod i gynnal seminarau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae UWIC yn ymrwymedig i ddatblygu sgiliau ei staff presennol i alluogi’r rheiny sydd am weithio drwy gyfrwng y Gymraeg i gael gwneud hynny (gweler Atodiad 2 i gael dadansoddiad o ystadegau’r staff sy’n siarad Cymraeg).
5.2
Bydd UWIC yn gweithio i adnabod aelodau o’r staff sy’n barod i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg nad ydynt yn gwneud hynny ar hyn o bryd. Bydd yr Uned Gymraeg yn asesu a oes cyfleoedd priodol ar gael iddyn nhw gael cyflawni rhyw ran o’r ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
5.3
Mae UWIC yn bwriadu gwneud hyn drwy ehangu’r dosbarthiadau Cymraeg presennol ar gyfer y staff i gael cynnwys dosbarthiadau Procio’r Cof a hefyd i ddefnyddio ystod y cyfleoedd datblygu staff sydd ar gael drwy CAUCC. Yn ogystal, bydd UWIC yn canfod pa aelodau o’r staff priodol fyddai am fynd ar gwrs preswyl a gynigir gan y Ganolfan ar gyfer staff sydd ag awydd i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r rhaglen hon wedi’i meincnodi yn erbyn Fframwaith Safonau Proffesiynol Academi Addysg Uwch y DU.
tudalen 18
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
uwic.ac.uk
5.4
Mae’r Cynllun yr Ysgoloriaethau Ôl-raddedig a Chynllun y Cymrodoriaethau Addysg Cyfrwng Cymraeg yn gynlluniau pwysig sy’n mynd i’r afael â’r angen i godi nifer yr academyddion sy’n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector AU. Mae UWIC wedi gwneud cais llwyddiannus am bedair Ysgoloriaeth Ôl-raddedig, tair mewn Chwaraeon ac un yn y Gwyddorau Biofeddygol. O ganlyniad i’r cynllun hwn, bydd pedair swydd newydd yn cael eu creu â’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn elfen greiddiol iddynt. Yn rhan o’r gwaith o ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg, bydd UWIC yn adnabod meysydd lle y bydd yn briodol iddi wneud cais yn y dyfodol i gael rhagor o Ysgoloriaethau a/neu Gymrodoriaethau. Bydd ceisiadau ar gyfer y Cynlluniau hyn yn dibynnu ar gyllideb ddigonol oddi wrth y cyngor cyllido neu gyrff cyllido eraill fydd yn galluogi UWIC i gwrdd â gofynion y Cynlluniau.
5.5
Er mwyn gweithredu Cynllun Iaith UWIC a sicrhau bod UWIC yn dal ar bob cyfle newydd i ddatblygu’n academaidd fydd ar gael drwy’r Cynllun Datblygu Cenedlaethol, bwriedir creu Rheolwr Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda’r Cyfieithydd Gweinyddol sydd eisoes yn ei swydd ac yn adrodd wrth y Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu.
6.
Datblygiadau a gwelliannau yn y dyfodol
6.1
Er mwyn adnabod mannau lle y gellid datblygu addysg ddwyieithog, cafwyd cyfnod o ymgynghori gyda phob Ysgol Academaidd. Bydd y datblygiad mewn addysg ddwyieithog yn amrywio o Ysgol i Ysgol, yn dibynnu ar y galw, y gallu, nifer y myfyrwyr a’r ddarpariaeth ar y pryd.
6.1.1
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd Ar hyn o bryd, ceir ychydig o addysg ddwyieithog yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ar ei rhaglen BA Celfyddyd Gain. Cefnogir myfyrwyr sy’n dymuno cyflwyno eu traethodau hir drwy gyfrwng y Gymraeg gan aelod o’r staff sy’n siarad Cymraeg. Caiff myfyrwyr wybod pan fyddant yn dechrau ar y cwrs bod yr hawl ganddynt i gyflwyno gwaith yn Gymraeg a chael rhywfaint o gefnogaeth tiwtorial yn Gymraeg os bydd aelodau o’r staff sy’n siarad Cymraeg ar gael. Bwriad yr Ysgol yw ffurfioli’r gefnogaeth diwtorial hon drwy adnabod yn glir pa feysydd o fewn yr Ysgol y gall y staff sy’n siarad Cymraeg ymdrin â nhw. Bydd Rheolwr Darpariaeth Gymraeg UWIC yn gweithio gyda’r Ysgol a chynrychiolwyr CAUCC i adnabod unrhyw waith cydweithredol a gyllidir drwy’r Cynllun Datblygu Cenedlaethol y gellid ei defnyddio gan Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.
6.1.2
Ysgol Addysg Caerdydd Ysgol Addysg Caerdydd yw’r darparwr addysg ddwyieithog fwyaf UWIC. Mae gan y rhaglenni canlynol fodiwlau/grwpiau a addysgir drwy’r Gymraeg: TAR Uwchradd, TAR Cynradd, BA Addysg Gynradd a BA Addysg Uwchradd, BA Astudiaethau Addysg a Chymraeg. Gall myfyrwyr ar bob un o’r pum rhaglen HACA wneud eu modiwlau lleoliad ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg (h.y. eu rhoi mewn ysgol cyfrwng Cymraeg, wedi’u cefnogi gan fentoriaid ysgol/tiwtoriaid UWIC sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a chael pob asesiad yn yr ysgol yn Gymraeg). Bydd y ddarpariaeth hon yn newid oherwydd ad-drefnu HCA yn ddiweddar. Mae’r Ysgol yn darparu dogfennau dwyieithog ar gyfer pob rhaglen HACA. Er y caiff rhai dogfennau eu cynhyrchu yn Gymraeg yn y lle cyntaf (e.e. pan fydd llwybr cyfrwng Cymraeg penodol megis TAR Cymraeg Uwchradd), yn Saesneg y caiff y rhan fwyaf o’r dogfennau eu cynhyrchu i ddechrau ac yna bydd angen eu cyfieithu a’u dosbarthu’n ddwyieithog. Oherwydd nifer sylweddol y myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol, ynghyd â’r ffaith bod cydrannau rhaglenni’n cael eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg, a’r angen i weinyddu trefniadau partneriaeth gydag ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg, mae angen i’r Ysgol gyflogi staff cymorth sy’n gallu cyfathrebu (ar lafar ac yn ysgrifenedig) drwy gyfrwng y Gymraeg. Darperir dosbarthiadau cymorth iaith i’r myfyrwyr i gyfnerthu eu sgiliau yn y Gymraeg ac mae’r rhain yn cynnwys defnyddio’r derminoleg addysgol gyfredol. Cyflogir darlithwyr cyfrwng Cymraeg, sy’n cael eu talu wrth yr awr, gan yr Ysgol yn ôl y galw er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth a’r anghenion asesu dwyieithog yn cael eu cyflawni.
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
tudalen 19
uwic.ac.uk
Oherwydd y newidiadau diweddar yn y maes hwn yng Nghymru, mae’r Ysgol yn bwriadu cyfnerthu ei darpariaeth bresennol a gweithio gyda CAUCC ar adnabod y prosiectau cydweithredol allweddol er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth a/neu’r adnoddau sydd ar gael i’r myfyrwyr. 6.1.3
Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd Gwaith Cymdeithasol Adnabuwyd gwaith cymdeithasol yn faes ar gyfer datblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cenedlaethol. Mae pob darlith a’r holl ddeunyddiau cefnogol sydd gan UWIC ar gael yn Gymraeg ar Blackboard (amgylchedd rhith ddysgu UWIC). Mae dwy ddarlith a roddir i bob myfyriwr Lefel 1 yn ystod modiwl Polisi Cymdeithasol o fewn y rhaglen, ynghyd â thaflenni sy’n cael eu dosbarthu a chyflwyniadau PowerPoint, i gyd yn ddwyieithog. Cyfieithir y ddwy ddarlith ar y pryd. Mae UWIC yn bwriadu parhau i roi’r darlithoedd hyn yn ddwyieithog. Mae UWIC yn bwriadu gwneud cais am arian o gronfeydd yr Ysgoloriaethau/Cymrodoriaethau sydd ar gael drwy CAUCC er mwyn bod yn gallu darparu mwy o addysg cyfrwng Cymraeg yn y maes hwn a hefyd er mwyn cynhyrchu a diweddaru adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg. Bydd ceisiadau i’r cynlluniau hyn yn dibynnu ar sicrhau digon o gyllid oddi wrth y cyngor cyllido neu gyrff cyllido eraill fydd yn caniatáu i UWIC gwrdd â gofynion y cynlluniau. Mae UWIC yn bwriadu cyfnerthu’r gwaith a gyflawnwyd eisoes yn y maes hwn a gweithio gyda CAUCC a’r darlithydd a benodwyd i Brifysgol Bangor drwy gyllid gan y Ganolfan a datblygu’r ddarpariaeth yn y maes hwn ymhellach drwy adnabod cyd-fentrau cydweithredol. Gwyddorau Biofeddygol O fewn canolfan y Gwyddorau Biofeddygol mae deiliad Ysgoloriaeth Ymchwil ôl-radd sy’n cynnal tiwtorialau, sesiynau ymarferol a gwaith labordy drwy gyfrwng y Gymraeg â’r nod o ddatblygu darpariaeth newydd yn ystod blwyddyn y Gymrodoriaeth. Therapy Iaith a Lleferydd Mae yn bwriadu gwneud cais am arian oddi wrth y Cynlluniau Ysgoloriaeth/Cymrodoriaeth er mwyn hwyluso datblygiad yn y maes hwn am fod prinder ymarferwyr sy’n siarad Cymraeg. Mae Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd yn bwriadu rhedeg tiwtorialau clinigol misol ar gyfer myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg. Therapyddion Iaith a Lleferydd sy’n siarad Cymraeg fyddai’n rhoi’r tiwtorialau cyfrwng Cymraeg hyn. Ni fyddent yn ceisio ailadrodd y tiwtorial clinigol byddai myfyrwyr yn eu derbyn eisoes ond yn hytrach eu nod fyddai trafod materion clinigol fyddai’n ymwneud yn benodol â’r Gymraeg/ dwyieithrwydd.
6.1.4
Ysgol Reoli Caerdydd Ar hyn o bryd, nid yw Ysgol Reoli Caerdydd yn darparu dim addysg ddwyieithog ffurfiol. Mae nifer gyfyngedig o’r staff yn gallu dysgu drwy’r Gymraeg. Mae cnewyllyn da o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yn Ysgol Reoli Caerdydd ond nid oes ond ychydig o gyfle iddynt gael eu haddysgu drwy’r Gymraeg. Bydd yr Ysgol yn adnabod y staff sy’n gallu siarad Cymraeg a allai elwa o gyfleoedd datblygu i gael gwella safon eu Cymraeg. Bydd yr Ysgol yn parhau i gyfrannu i banel rhwydwaith Busnes a Thwristiaeth ar ddatblygu’r gyd-ddarpariaeth ar draws y sector. Er mwyn datblygu’r ddarpariaeth hon, mae CSM yn bwriadu adnabod meysydd/modiwlau o fewn portffolio’r Ysgol fyddai’n briodol ar gyfer dysgu o bell drwy gyfrwng y Gymraeg ac ymgeisio am gyllid i ddatblygu’r ddarpariaeth hon. Mae Ysgol Reoli Caerdydd yn ceisio datblygu ei chynllun tiwtorial personol i gefnogi myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg ar y cyd â’r gefnogaeth a nodwyd yn 4.5.
6.1.5
Ysgol Chwaraeon Caerdydd Mae’r Ysgol yn parhau i arwain ym maes datblygu darpariaeth ddwyieithog ym maes Chwaraeon yn genedlaethol a chafodd ei hadnabod yn ffocws ar gyfer pwnc Chwaraeon a Hamdden o dan y Cynllun Datblygu Cenedlaethol. Yr Ysgol sy’n cadeirio’r panel pwnc yn y maes hwn. Llwyddodd yr Ysgol i gael tair Ysgoloriaeth PhD ac mae’r tri deiliad yn cyflawni eu hymrwymiadau’n llwyddiannus o ran ymchwil a datblygu’r cwricwlwm. Mae deiliaid yr Ysgoloriaethau yn gweithio i gael ehangu’r ddarpariaeth ar draws y rhaglenni Chwaraeon i israddedigion ar Lefelau 1, 2 a 3 drwy ehangu’r ystod fodiwlau sydd ar gael yn Gymraeg. Maent yn ymwneud hefyd â marchnata a recriwtio myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr i’r modiwlau hyn.
tudalen 20
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
uwic.ac.uk
Bu Ysgol Chwaraeon Caerdydd yn llwyddiannus hefyd yn sicrhau arian ar gyfer prosiectau i ddatblygu adnoddau cyfrwng Cymraeg ac mae dau brosiect arall, tebyg eu gwerth, ar y gweill. Cynhyrchodd y prif brosiect werslyfr cyfrwng Cymraeg a gyhoeddwyd gan Wasg UWIC a fydd ar gael yn fuan iawn i’w ddosbarthu i lyfrgelloedd, sefydliadau AU ac ysgolion yn ogystal â bod ar gael i fyfyrwyr ei brynu. Bydd yr ysgol yn parhau i chwilio am ragor o gyllid i ddatblygu ei darpariaeth ddwyieithog ymhellach. Bydd Ysgol Chwaraeon Caerdydd ar y cyd â Rheolwr Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg UWIC yn creu strategaeth ar gyfer datblygu’r ddarpariaeth ddwyieithog yn yr Ysgol.
7.
Adnoddau a Deunyddiau cyfrwng Cymraeg Mae adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gael yn llyfrgelloedd UWIC. Mae’r casgliad yng Nghampws Cyncoed wedi’i rannu yn ddwy ran, y prif gasgliad a’r casgliad profiad ysgol. Yn y ddau gasgliad, mae adran arbennig ar gyfer deunyddiau Cymraeg sy’n cynnwys llyfrau, cylchgronau, papurau newydd a llyfrau plant yn Gymraeg. Yn yr Ysgol Addysg, mae llyfrgell yn arbennig ar gyfer rhaglenni a addysgir yn Gymraeg. Mae gwybodaeth ar raglenni dwyieithog sy’n perthyn i’r modiwlau sydd ar gael drwy’r Gymraeg i’w gweld ar Blackboard. Bydd UWIC yn parhau i fonitro addasrwydd yr adnoddau cyfrwng Cymraeg hyn drwy ei gweithdrefnau sicrwydd ansawdd. Yn rhan o raglen i ychwanegu at nifer y deunyddiau addysgol ar draws y sector yng Nghymru, mae UWIC, mewn cydweithrediad â CAUCC, wedi cyfieithu’n llwyddiannus destunau craidd ar gyfer rhaglenni Chwaraeon ac Addysg i’r Gymraeg. Bydd UWIC yn parhau i wneud cais am arian i gyfieithu deunyddiau ond hefyd bydd yn cynhyrchu deunyddiau newydd drwy waith deiliaid yr Ysgoloriaethau ôl-raddedig. Mae’n ofynnol ar bob deiliad Ysgoloriaeth yn UWIC eu bod yn creu modiwl 20 credyd newydd a deunydd cefnogol yn ystod blwyddyn eu Cymrodoriaeth. Felly bydd isafswm o 80 credyd a deunydd cefnogol ar gael drwy’r Gymraeg ar draws Ysgol Chwaraeon Caerdydd a Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd erbyn diwedd y Cynllun diwygiedig hwn. Mae UWIC yn bwriadu gweithio’n agos gyda CAUCC i sicrhau bod yr adnoddau sydd ar ‘Y Porth’ (amgylchedd rhith ddysgu UWIC) ar gael i fyfyrwyr UWIC lle y bydd hynny’n briodol.
8.
Crynodeb
8.1
Bydd y Cynllun hwn yn gwireddu uchelgais tymor-hir i gyfnerthu a gwella lefelau’r ddarpariaeth ddwyieithog ar draws y sefydliad.
8.2
Bydd UWIC yn parhau i weithio o fewn nodau’r Cynllun Strategol Corfforaethol i gael datblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg er gwella cyfleoedd a phrofiadau dysgu ei myfyrwyr a’u cyflogadwyedd.
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
tudalen 21
uwic.ac.uk
9.
Cynllun Gweithredu
Er mwyn sicrhau’r twf a nodwyd uchod, mae UWIC yn ymrwymedig i’r targedau a nodir isod: Mae’r targedau hyn yn dibynnu ar gyllid digonol oddi wrth y Cyngor Cyllido a chyrff cyllido eraill.
Targedau Academaidd Corfforaethol
Amcanion
Targedau Mesuradwy (Ansoddol a Meintiol)
Erbyn
Yn gyfrifol am weithredu
Yn gyfrifol am fonitro
Codi nifer y myfyrwyr yn UWIC sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
Codi nifer y myfyrwyr sy’n gwneud rhan o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg o 2.1% i 5%
2013 (erbyn diwedd tymor y Cynllun Iaith hwn)
Yr Ysgolion, Yr Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Cynyddu gallu UWIC i ddarparu addysg ddwyieithog
Ehangu’r dosbarthiadau Cymraeg sydd ar gael eisoes i’r staff i gynnwys sesiynau procio’r cof
2009 (ar ddechrau’r flwyddyn academaidd hon)
Yr Uned Gymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Adnabod staff fyddai am fynychu’r rhaglenni sabothol
2010 (erbyn diwedd y flwyddyn academaidd 2009/10)
Yr Ysgolion, Yr Uned Gymraeg
SMPT, Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Adnabod meysydd ar gyfer ceisiadau am Ysgoloriaethau/ Cymrodoriaethau
2010 (erbyn diwedd y flwyddyn academaidd 2009/10)
Yr Ysgolion, Yr Uned Gymraeg
SMPT, Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Sicrhau bod pedair swydd academaidd newydd yn cael eu creu yn sgil y Cynlluniau Ysgoloriaethau
I ddechrau pan ddaw pob Ysgoloriaeth i ben
SMPT
VCB
Sicrhau bod y staff priodol gan UWIC i gefnogi datblygiad academaidd
Penodi Rheolwr Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg
Dechrau’r flwyddyn academaidd 2009
Cyfarwyddwr Marchnata a Recriwtio
VCB
Sicrhau cefnogaeth hyd y gellir i fyfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg
Rheolwr Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg i weithio gydag Ysgolion UWIC i adnabod gweithdrefnau er mwyn cefnogi myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg
Diwedd y flwyddyn academaidd 2009/10
Rheolwr Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg, Deoniaid yr Ysgolion
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
tudalen 22
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
uwic.ac.uk
Targedau Academaidd Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd Amcanion
Targedau Mesuradwy (Ansoddol a Meintiol)
Erbyn
Yn gyfrifol am weithredu
Yn gyfrifol am fonitro
Cynyddu faint o addysg ddwyieithog sydd ar gael i’r myfyrwyr
Adnabod unrhyw fentrau cydweithredol gan y Panel Rhwydwaith Pwnc y gallai’r Ysgol elwa arnynt
2009/10 (diwedd y flwyddyn academaidd)
Cydlynydd y Gymraeg yn yr Ysgol, Rheolwr Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg
SMPT, Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Sicrhau cefnogaeth hyd y gellir i fyfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg
Dadansoddi’r data ar aelodau o’r staff o fewn yr Ysgol sy’n siarad Cymraeg
2009/10 (diwedd y flwyddyn academaidd)
SMPT
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Ffurfioli’r gweithdrefnau ar gyfer tiwtorialau myfyrwyr i roi cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg lle y bydd staff ar gael
2009/10
SMPT
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd Amcanion
Targedau Mesuradwy (Ansoddol a Meintiol)
Erbyn
Yn gyfrifol am weithredu
Yn gyfrifol am fonitro
Cynyddu’r ddarpariaeth ddwyieithog sydd ar gael i’r myfyrwyr
Gweithio ar y cyd â’r darlithydd mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor a gyllidir gan CAUCC ar brosiectau cydweithredol
2009/10
Rheolwr Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg, SMPT
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Gwneud cais am arian i gael Ysgoloriaeth/ Cymrodoriaeth mewn Therapi Iaith a Lleferydd
2009/10 (diwedd y flwyddyn academaidd)
SMPT
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Cynyddu’r ddarpariaeth sydd ar gael yn y Gwyddorau Biofeddygol i 40 credyd drwy gyfrwng y Gymraeg
2012/13 (blwyddyn olaf yr Ysgoloriaeth)
SMPT
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Creu swydd yn y Gwyddorau Biofeddygol a swyddogaeth ddwyieithog yn elfen graidd iddi
2013 (erbyn dechrau’r flwyddyn academaidd hon)
SMPT
VCB
Gwella gallu’r Ysgol i ddarparu addysg ddwyieithog
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
tudalen 23
uwic.ac.uk
Ysgol Addysg Caerdydd
Amcanion
Targedau Mesuradwy (Ansoddol a Meintiol)
Erbyn
Yn gyfrifol am weithredu
Yn gyfrifol am fonitro
Cyfnerthu’r ddarpariaeth ddwyieithog bresennol
Sicrhau bod y ddarpariaeth ar TAR Uwchradd a BA Astudiaethau Addysg a Chymraeg yn parhau
Ar waith
SMPT
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Sicrhau bod modiwlau lleoliad ysgol yn parhau i fod ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cael eu cefnogi drwy gyfrwng y Gymraeg
Ar waith
SMPT
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Sicrhau bod cydrannau rhaglenni mentora’r Ysgol yn parhau i gael eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg
Ar waith
SMPT
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Sicrhau bod y myfyrwyr sydd am gael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg yn parhau i gael gwneud hynny
Ar waith
SMPT
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Sicrhau bod dosbarthiadau iaith yn dal i fod ar gael i’r myfyrwyr fel y gallant wella eu sgiliau yn y Gymraeg
Ar waith
SMPT
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Gweithio gyda'r Panel Rhwydwaith Pwnc i adnabod cyd-fentrau cydweithredol a allai fod o fudd i’r Ysgol
2009/10 (ar waith, i’w fonitro’n flynyddol)
Cydlynydd y Gymraeg yn yr Ysgol, Rheolwr Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg
SMPT, Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Gwneud cais am gyllid oddi wrth y Panel Rhwydwaith Pwnc i gael datblygu darpariaeth newydd
2009/10 (ar waith, i’w fonitro’n flynyddol)
Adnabod meysydd lle y mae angen darlithwyr cyfrwng Cymraeg (a delir wrth yr awr) er mwyn sicrhau y gellir cyflawni’r gofynion gweithredu ac asesu drwy gyfrwng y Gymraeg
2009/10 (erbyn diwedd y flwyddyn academaidd)
SMPT
VCB
I adnabod yr angen am staff cymorth ychwanegol yn yr Ysgol i weithredu gwasanaethau dwyieithog services
2009/10 (erbyn dechrau’r flwyddyn academaidd)
SMPT
VCB
Cynyddu’r ddarpariaeth ddwyieithog sydd ar gael i’r myfyrwyr
Sicrhau bod y staff cymorth priodol gan UWIC i gynorthwyo’r datblygu academaidd
tudalen 24
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
uwic.ac.uk
Ysgol Reoli Caerdydd
Amcanion
Targedau Mesuradwy (Ansoddol a Meintiol)
Erbyn
Yn gyfrifol am weithredu
Yn gyfrifol am fonitro
Cynyddu’r ddarpariaeth ddwyieithog sydd ar gael i’r myfyrwyr
Gweithio gyda'r Panel Rhwydwaith Pwnc i adnabod cyd-fentrau cydweithredol a allai fod o fudd i’r Ysgol
2009/10 (erbyn diwedd y flwyddyn academaidd)
Cydlynydd y Gymraeg yn yr Ysgol, Rheolwr Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg
SMPT, Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Adnabod meysydd/modiwlau posib ar gyfer dysgu o bell drwy gyfrwng y Gymraeg a gwneud cais am arian i’w gyllido
2009/10 (erbyn diwedd y flwyddyn academaidd)
Cydlynydd y Gymraeg yn yr Ysgol, Rheolwr Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg
SMPT, Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Adnabod meysydd ar gyfer ceisiadau am Ysgoloriaethau/ Cymrodoriaethau
2009/10 (erbyn diwedd y flwyddyn academaidd)
Cydlynydd y Gymraeg yn yr Ysgol, Rheolwr Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg
SMPT, Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Adnabod staff fyddai am fynychu’r rhaglenni sabothol
2010 (erbyn diwedd y flwyddyn academaidd 2009/10)
SMPT
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Ehangu ei Chynllun Tiwtorialau Personol i gefnogi myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg
2009/10 (erbyn diwedd y flwyddyn academaidd)
SMPT, Rheolwr Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Gwella gallu’r Ysgol i ddarparu addysg ddwyieithog
Sicrhau’r cymorth priodol ar gyfer myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
tudalen 25
uwic.ac.uk
Ysgol Chwaraeon Caerdydd
Amcanion
Targedau Mesuradwy (Ansoddol a Meintiol)
Erbyn
Yn gyfrifol am weithredu
Yn gyfrifol am fonitro
Cynyddu’r ddarpariaeth ddwyieithog sydd ar gael i’r myfyrwyr
Codi cyfanswm y credydau dwyieithog sydd ar gael i fyfyrwyr i 120 ar draws yr Ysgol
2013
SMPT
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Sicrhau arian ar gyfer adnoddau dwyieithog ychwanegol oddi wrth y panel pwnc
2009/10 (ar waith, i’w fonitro’n flynyddol)
SMPT
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Creu tair swydd â swyddogaeth ddwyieithog yn elfen graidd iddynt
I ddechrau pan ddaw pob Ysgoloriaeth i ben
SMPT
VCB
Adnabod a oes angen rhagor o Ysgoloriaethau yn yr Ysgol
2009/10 (erbyn dechrau’r flwyddyn academaidd)
SMPT
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Cynhyrchu strategaeth i arwain datblygiad yr Ysgol dros y blynyddoedd nesaf
2009/10 (erbyn diwedd y flwyddyn academaidd)
SMPT, Rheolwr Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg
Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg
Gwella gallu’r Ysgol i ddarparu addysg ddwyieithog
Mabwysiadu dull strategol tuag at ddatblygu addysg ddwyieithog yn yr Ysgol
Allwedd: VCB = Bwrdd yr Is Ganghellor SMPT = Tîm Cynllunio a Rheoli’r Ysgol
tudalen 26
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
uwic.ac.uk
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
ATODIADAU Atodiad 1: Taliadau premiwm
28
Atodiad 2: Gallu’r staff i siarad Cymraeg
29
Atodiad 3: Myfyrwyr UWIC sy’n siarad Cymraeg
30
Atodiad 4: Canllawiau Cyfieithu ar gyfer staff UWIC
31
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
tudalen 27
uwic.ac.uk
Atodiad 1:
Taliadau Premiwm
Addysgu: Dyraniadau’r Fformwla Cyllido 2007/08 Tabl 1(i) Taliadau Premiwm a Per Capita
Premiwm £
Per Capita £
Sefydliad
Ehangu Mynediad
Cyfrwng Cymraeg
Anabledd
Prifysgol Morgannwg
1,422,156
14,200
72,160
740,386
Prifysgol Aberystwyth
284,643
250,083
90,420
424,522
Prifysgol Bangor
278,443
514,274
88,440
346,837
Prifysgol Caerdydd
588,844
7,062
114,400
963,425
Prifysgol Cymru, Llanbed
186,031
5,881
30,360
155,047
Prifysgol Abertawe
531,241
18,842
76,120
464,957
UWIC
476,302
92,838
83,160
342,498
Prifysgol Cymru, Casnewydd
826,657
14,187
56,980
417,921
Athrofa AU Gogledd Ddwyrain Cymru
390,501
14,981
74,580
260,058
Prifysgol Fetropolitan Abertawe
360,629
5,172
36,520
247,272
Coleg y Drindod Caerfyrddin
107,130
432,194
10,120
93,056
Coleg Pen-y-bont
4,215
Coleg Sir Gâr
9,675
20,020
9,324
Coleg Llandrillo
60,515
1,100
38,266
Coleg Menai
1,376
Coleg Castell Nedd Port Talbot
215
46
Coleg Abertawe
731
877
Cyfanswm
5,529,306
tudalen 28
2,031
1,015
5,437
1,375,153
754,380
4,507,539
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
uwic.ac.uk
Atodiad 2:
Gallu’r staff i siarad Cymraeg Sgiliau iaith staff UWIC sy’n siarad Cymraeg 38% Yn rhugl ac yn fedrus o ran ysgrifennu a siarad
25%
Yn siarad ac yn ysgrifennu Cymraeg yn rhugl Cymraeg llafar yn unig
5%
Ychydig o Gymraeg
32% Os yw’n berthnasol, fyddech chi’n fodlon: 32% Darlithio drwy gyfrwng y Gymraeg?
44%
Dysgu seminarau drwy gyfrwng y Gymraeg? Cynnig cymorth i’r myfyrwyr drwy gyfrwng y
24%
Os yw’n berthnasol, hoffech chi gael rhywfaint o hyfforddiant yn y Gymraeg: 43% 3%
Dim Canolradd
27%
Uwch Arall
27%
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
tudalen 29
uwic.ac.uk
Atodiad 3:
Myfyrwyr UWIC sy’n siarad Cymraeg
Dadansoddiad o’r myfyrwyr sy’n gallu siarad Cymraeg yn UWIC i gyd 2009–10
Disgrifiad y siaradwyr Cymraeg
Nifer y Myfyrwyr
Siarad Cymraeg yn rhugl
885
Siarad Cymraeg, heb fod yn rhugl
610
Ddim yn siarad Cymraeg
9106
Atebion eraill neu’n wag
-
Cyfanswm y myfyrwyr sy’n gallu siarad Cymraeg
1495
Cyfanswm y myfyrwyr
10601
Dadansoddiad y siaradwyr Cymraeg yn ôl yr Ysgol
Ysgol
Disgrifiad y siaradwyr Cymraeg
Nifer y Myfyrwyr
Gwyddorau Iechyd
Siarad Cymraeg yn rhugl
212
Siarad Cymraeg, heb fod yn rhugl
160
% yr Ysgol sy’n gallu siarad Cymraeg
14.6%
Siarad Cymraeg yn rhugl
146
Siarad Cymraeg, heb fod yn rhugl
74
% yr Ysgol sy’n gallu siarad Cymraeg
12.3%
Siarad Cymraeg yn rhugl
127
Siarad Cymraeg, heb fod yn rhugl
103
% yr Ysgol sy’n gallu siarad Cymraeg
8.5%
Siarad Cymraeg yn rhugl
241
Siarad Cymraeg, heb fod yn rhugl
191
% yr Ysgol sy’n gallu siarad Cymraeg
22.3%
Siarad Cymraeg yn rhugl
159
Siarad Cymraeg, heb fod yn rhugl
82
% yr Ysgol sy’n gallu siarad Cymraeg
15.1%
Celf a Dylunio
Rheoli
Addysg
Chwaraeon
% myfyrwyr UWIC sy’n gallu siarad Cymraeg
tudalen 30
14.1%
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
uwic.ac.uk
Atodiad 4:
Canllawiau Cyfieithu ar gyfer Staff
Canllawiau ar y dogfennau a ddylai fod yn ddwyieithog (neu yn uniaith Gymraeg ac yn uniaith Saesneg) Eitemau Categori A: i fod yn ddwyieithog (neu yn uniaith Gymraeg ac yn uniaith Saesneg) • • • • • • • • • • • • • • • •
Hysbysebion Swyddi Cardiau Busnes Papur Pennawd Papur Ffacs Ffurflenni ar gyfer y cyhoedd Ffurflenni ar gyfer y myfyrwyr Eitemau i’w harddangos yn gyhoeddus e.e. sticeri, posteri, tocynnau caniatâd, rhybuddion Bathodynnau Adnabod Datganiadau i’r wasg Negeseuon Gweinyddwr Cylchlythyrau i aelodau o’r cyhoedd a/neu fyfyrwyr Taflenni un ddalen Cardiau Awgrymiadau Arwyddion - parhaol a thros dro Arolygon Blynyddol Logos
Eitemau Categori B: Eitemau Categori B: defnyddir y meini prawf ar y ddalen nesaf i bennu eu statws • • • • • • • • • • •
Codau ymarfer Ffurflenni ar gyfer diwydiant neu grwpiau arbenigol Cylchlythyrau newyddion Pamffledi / Taflenni yn rhoi canllawiau i’r Staff Pecynnau Gwybodaeth Cyhoeddiadau Marchnata Deunydd Marchnata Pamffledi/Taflenni yn rhoi canllawiau i Fyfyrwyr Rheolau a rheoliadau gweithredu Gwybodaeth i’r cyhoedd ar gyfleusterau Llawlyfrau’r rhaglenni
Eitemau Categori C: bydd y rhain yn uniaith Saesneg fel arfer • • • •
Hysbysebion Swyddi i’w dosbarthu y tu allan i Gymru Hysbysebion Marchnata wedi’u targedu at y wasg y tu allan i Gymru Agendâu a phapurau’r pwyllgorau (ar wahân i Bwyllgor Defnyddio’r Gymraeg) Yr holl ddeunydd marchnata sydd wedi’i anelu at y farchnad ryngwladol
SYLWER: Mae’n anochel na fydd yr uchod yn cwmpasu pob math o ddogfen. Dylai’r staff ddefnyddio’u barn i sicrhau eu bod yn dewis categori addas drwy gymharu â’r uchod wrth benderfynu a ddylai eitemau fod yn ddwyieithog neu beidio. Os yw’r dogfennau’n rhan o set, rhaid ystyried pob eitem yn unigol.
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
tudalen 31
uwic.ac.uk
Categori A Ni fydd pob eitem yng Nghategori A yn cael ei chynhyrchu yn ddwyieithog neu yn uniaith Gymraeg ac yn uniaith Saesneg ond os ydynt yn mynd i fod ar gael yng Nghymru. Yn ddelfrydol dylid cynhyrchu’r eitemau i gyd sydd yng Nghategori A yn ddwyieithog. Os na fydd digon o adnoddau ar gael i gynhyrchu fersiwn dwyieithog, dylid cynhyrchu fersiwn Cymraeg a fersiwn Saesneg a’r un amlygrwydd yn cael ei roi i’r ddau fersiwn.
Categori B Mae’n ddymunol bod yr eitemau i gyd yng Nghategori B yn cael eu cynhyrchu’n ddwyieithog. Os nad oes digon o adnoddau ar gael i gynhyrchu’r eitemau i gyd yn ddwyieithog, yna wrth benderfynu beth dylid ei gynhyrchu dylid rhoi’r ystyriaeth bennaf i’r farchnad sy’n cael ei thargedu. Marchnad: B1.
Y Cyhoedd yng Nghymru Argymhellir yn gryf fod yr eitemau a gynhyrchir ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru yn cael eu cynhyrchu’n ddwyieithog neu mewn fersiwn uniaith Gymraeg a fersiwn uniaith Saesneg. Mae mwy na 20% o boblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg ac felly, drwy gynhyrchu fersiwn uniaith Saesneg, ni fyddem yn gweld i’w hanghenion hwy.
B2.
Myfyrwyr UWIC Argymhellir yn gryf fod yr eitemau a gynhyrchir ar gyfer myfyrwyr UWIC yn cael eu cynhyrchu’n ddwyieithog neu mewn fersiwn uniaith Gymraeg a fersiwn uniaith Saesneg. Mae bron 15% o fyfyrwyr UWIC yn siarad Cymraeg ac felly, drwy gynhyrchu fersiwn uniaith Saesneg, ni fyddem yn gweld i’w hanghenion hwy.
B3.
Marchnadoedd penodol siaradwyr Cymraeg Argymhellir yn gryf fod yr eitemau sy’n cael eu targedu at farchnadoedd penodol o siaradwyr Cymraeg, e.e. deunydd marchnata ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn cael eu cynhyrchu yn ddwyieithog neu yn uniaith Gymraeg.
B4.
Marchnadoedd lle nad oes ond ychydig o alw am ddeunydd yn y Gymraeg Argymhellir y dylid rhoi gwybod bod fersiwn Cymraeg ar gael ac, os bydd digon o ddiddordeb, dylid eu cynhyrchu’n ddwyieithog.
Categori C Ar hyn o bryd yn uniaith Saesneg y bydd yr eitemau hyn i gyd ond mae’n bosib y gwelir y sefyllfa hon yn newid yn y dyfodol. Os oes unrhyw ymholiadau gennych parthed y gofynion cyfieithu, a wnewch chi gysylltu â’r Rheolwr Darpariaeth Gymraeg.
tudalen 32
CYNLLUN IAITH GYMRAEG
UNIVERSITY OF WALES INSTITUTE, CARDIFF
AT H R O FA P R I F Y S G O L C Y M R U, C A E R DY D D