Quality Wales 2013 CYM

Page 1

Rhifyn arbennig Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol 2013 Dathlu rhagoriaeth o fewn y diwydiant twristiaeth

Ansawdd Cymru Rhifyn 7, 2013 cymru.gov.uk/twristiaeth


a darganfyddwch y gorau o ogledd Cymru

Ewch i’n gwefan newydd i gael syniadau yngly^n â phethau i’w gwneud, atyniadau i ymweld â nhw a llefydd i aros www.visitllandudno.org.uk


Rhagair gan y Gweinidog Busnes, Edwina Hart MBE CStJ AC

Roedd cael bod yn bresennol yn seremoni Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol 2013, a chael cyfarfod â rhai o'r busnesau a ddaeth i’r brig yn bleser o’r mwyaf. Does dim dwywaith bod y busnesau hynny’n dangos yn glir bod Cymru yn gallu cynnig amrywiaeth eang o gynhyrchion o’r ansawdd gorau.

Daeth mwy o geisiadau i law nag erioed o’r blaen, a gall y busnesau a ddaeth yn fuddugol ym mhob un o’r categorïau ymfalchïo yn eu llwyddiant. Roedd ansawdd y ceisiadau hynny’n eithriadol o uchel hefyd. Rydym yn ffodus iawn bod gennym sector twristiaeth o’r radd flaenaf yma yng Nghymru. Rhaid canmol y busnesau hyn am eu hymroddiad wrth iddynt fynnu bod yr hyn y maent yn ei gynnig o’r safon uchaf, ac wrth iddynt fynd ati i’w ailddatblygu er mwyn bodloni anghenion cwsmeriaid mewn hinsawdd economaidd anodd. Mae’r sector twristiaeth yn werth £5 biliwn i economi Cymru ac mae’n cyflogi dros 8% o’r gweithlu. Dyma un o’r marchnadoedd allweddol yr ydym am ei gweld yn tyfu. Mae gan y Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol ran

bwysig i’w chwarae o ran rhoi cydnabyddiaeth i’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig ac o ran gwella ansawdd. Mae hynny’n hanfodol os yw’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru am gyrraedd y targed twf o 10% a bennwyd yn y strategaeth twristiaeth newydd ar gyfer Cymru. Llongyfarchiadau mawr i’r holl fusnesau hynny a ddaeth i’r brig ac a gyrhaeddodd y rhestr fer. Mawr obeithiwn y byddwch yn elwa ar ennill gwobr mor fawr ei bri.

Edwina Hart MBE CStJ Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Pe bai tîm gorau yr asiantaeth Cysylltiadau Cyhoeddus fwyaf yn y byd yn gweithio ar garreg eich drws, byddech chi’n siarad â nhw. Oni fyddech chi? Wel, ni yw’r cwmni hwnnw. Felly, cysylltwch â Jo Leah a gadewch i ni siarad. 2 Jordan Street, Manceinion M15 4PY. Ffôn: 0161 238 9400 E-bost: jleah@webershandwick.com www.webershandwick.com


Ansawdd Cymru Rhifyn 7, 2013

Cyhoeddir Cylchgrawn Ansawdd Cymru gan Croeso Cymru,

Rydyn ni wedi ceisio’n galed iawn i wneud yn siwr ^ fod

Cafodd y cynnwys ei ymchwilio a’i lunio gan Quadrant

Is-adran Twristiaeth a Marchnata Llywodraeth Cymru

popeth yn gywir, ond ni allwn fod yn atebol am unrhyw

Media & Communications. Argraffwyd gan MWL Print

© 2013.

gamgymeriadau, neu am adael pethau allan. Rydyn ni wedi

Group. Darparwyd y lluniau gan Ganolfan Ddelweddau

gwirio pob un o’r gwefannau cyn cyhoeddi. Fodd bynnag,

Croeso Cymru a ffynonellau allanol eraill. © Hawlfraint y

Croeso Cymru, Canolfan QED, Ystad Ddiwydiannol

gan nad ni sy berchen arnyn nhw, ni allwn warantu na

Goron 2013. Mae’r cyhoeddiad hwn hefyd ar gael mewn

Trefforest, Trefforest, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf,

fyddan nhw’n newid. Cedwir pob hawl – peidiwch â chopïo

Braille, print fformat mawr, ac/neu ar dâp gan Croeso

CF37 5YR. Rhif ffôn: 0845 010 3300 /

pethau heb ofyn inni yn gyntaf. Nid barn Croeso Cymru

Cymru. Cafodd y cylchgrawn hwn ei argraffu ar bapur

Minicom: +44 (0)8701 211555

o angenrheidrwydd sy’n cael ei fynegi yng Nghylchgrawn

wedi’i ailgylchu.

Ebost: visitwales.communications@wales.gsi.gov.uk

Ansawdd Cymru.

ISBN argraffu 978 1 4734 0400 7 ISBN digidol 978 1 4734 0399 4

3

Ansawdd Cymru

WG19472

cymru.gov.uk/twristiaeth


Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2013 Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2013 oedd y gystadleuaeth fwyaf o'i math. Fe'i trefnwyd gan Croeso Cymru, yn gweithio mewn partneriaeth â Chynghrair Twristiaeth Cymru ac mewn partneriaeth fasnachol â Quadrant Media & Communications. Mae'r gwobrau'n ffenestr siop i ddiwydiant twristiaeth bywiog Cymru ar ei orau.

Rhifyn 7, 2013

O lefydd Gwely a Brecwast clyd i blastai gwledig moethus, o droeon tawel ar hyd Llwybr Arfordir Cymru i ruthr o adrenalin ar wifren wib – mae gan Gymru bopeth i'w gynnig a hynny i gyd yng nghanol rhai o dirweddau naturiol mwyaf syfrdanol y byd. Gan dorri ar y traddodiad eleni, cynhaliwyd pleidlais ymhlith y cyhoedd i benderfynu ar enillydd categori'r Lle Gorau i Fwyta. Cynigiwyd rhestr fer o'r llefydd gorau i fwyta yng Nghymru – yn gaffis, yn dafarndai ac yn fwytai – i'r cyhoedd benderfynu lle'r roedden nhw'n hoffi mynd. Llwyddodd yr ymgyrch bleidleisio ar-lein i ddenu dros 4,000 o bleidleisiau cyhoeddus – nifer fawr iawn ar gyfer pleidlais o’r fath a thystiolaeth o’r diddordeb angerddol sydd gan gynifer o bobl mewn bwyd a diod.

Ymhlith noddwyr y wobr eleni mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Croeso Conwy; Venue Cymru – lleoliad y seremoni wobrwyo; Afonwen; Eysys; Edwards Coach Holidays; y pedair partneriaeth twristiaeth ranbarthol – Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru; Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru; Partneriaeth Twristiaeth De-orllewin Cymru a Uwch Ranbarth Twristiaeth; Ceudyllau Llechwedd; Gr wp ^ Llandrillo Menai; Wrap Cymru; Safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte; RMG – Gr wp ^ Ymchwil a Marchnata; Gwinllan ac Ysgol Goginio Llanerch.

Ansawdd Cymru

4


Y Lle Gorau i Aros – Gwesty

Enillydd Gwesty a Sba St Bride’s

Ar lan y môr... mae gwesty moethus! Mae Gwesty a Sba St Bride’s yn edrych dros harbwr bychan Saundersfoot a’r traeth euraidd braf. Rhedir y gwesty hwn, sy’n gyfleus ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru, yn Sir Benfro gan Andrew a Lindsey Evans a’u tîm. Mae wedi ennill enw da fel lle perffaith i ymlacio a chael hoe fach o fywyd pob dydd. Dros fisoedd prysur yr haf, mae’r gwesty bron yn llawn bob nos. Mae pobl yn dod i brofi’r triniaethau sba gwych neu i ymlacio yn un o lecynnau prydferthaf Cymru. “Ein hagwedd ni yw y ceisiwn ni wneud unrhyw beth i sicrhau bod y cwsmer yn hapus,” meddai’r Rheolwr Blaen y Ty^ a Marchnata. Ac yn wir, mae’r cwsmeriaid yn derbyn pob gofal. Ceir 34 ystafell en-suite a chwe fflat dwy ystafell wely. Mae’r gwesty hwn, felly, yn ddelfrydol i bawb – pobl sengl, cyplau, teuluoedd a phobl fusnes. Mae gan y sba modern bum ystafell driniaeth ac ystafell ffitrwydd ac mae yna ddau fwyty yn y gwesty, ynghyd ag ystod o ystafelloedd cyfarfod a digwyddiadau. Yn gefndir i hyn oll, mae golygfeydd godidog o Saundersfoot a Sir Benfro. Am le i fynd – beth bynnag yw’r achlysur!

Mae llawer o gwsmeriaid y gwesty yn dod yn ôl dro ar ôl tro ac mae’r sba’n agored i ymwelwyr dydd yn ogystal â gwesteion y gwesty. Cymerodd Andrew a Lindsey awenau’r gwesty yn y flwyddyn 2000 gan greu’r lleoliad moethus a welwn heddiw gyda’r ardal yn gefndir hyfryd iddo. Mae’r gwesty hefyd yn gefnogol i artistiaid Cymru, a gellir gweld amrywiaeth o weithiau celf yn y gwesty – gyda phethau newydd yn cael eu harddangos yn aml. Hefyd, rhoddir pwys ar ddefnyddio cynhwysion lleol. Daw’r pysgod gan bysgotwyr Aberdaugleddau, daw’r cig cyw iâr o Abergwaun a daw’r caws, sawl gwahanol fath, o’r Rosebush, ger Arberth. “Ein nod yw gwneud pob ymweliad â’r gwesty mor arbennig â phosib,” meddai Alison. “Dyna pam mae cwsmeriaid rheolaidd yn cyfri am 60% o’n busnes. Rydyn ni’n ymdrechu i gadw mewn cysylltiad gyda’r bobl sy’n aros gyda ni ac mae hynny’n talu ar ei ganfed. Gwneud eu hamser gyda ni yn arbennig – dyna sy’n bwysig.”

5

Ansawdd Cymru

www.stbridesspahotel.com

cymru.gov.uk/twristiaeth


Hefyd ar y Brig Gwesty a Sba ‘The Vale’ Gwesty a Sba Neuadd Bodysgallen

Gwesty a Sba ‘The Vale’ Mae’r gwesty hwn wedi sefydlu ei hun fel un o leoliadau amlycaf Cymru ar gyfer digwyddiadau a chynadleddau. Mae hefyd yn amlwg iawn ym myd chwaraeon, gyda thimau enwog yn aros ac yn hyfforddi yno. Mae’n cynnig llety pedair seren ac mae’n ddelfrydol ar gyfer hamddena a chynnal busnes. Yng nghanol 650 erw o dir, mae’r gwesty’n dipyn o faint – mae yno 143 ystafell wely. Hefyd, mae 2 gwrs golff safon pencampwriaeth a’r sba mwyaf yng Nghymru, heb anghofio’r bwyty, sydd wedi ennill llu o wobrau. Er bod y gwesty’n teimlo fel pe bai yng nghanol cefn gwlad, gallwch yrru i’r brifddinas mewn cwta chwarter awr. Delfrydol! www.vale-hotel.com

Rhifyn 7, 2013

Ansawdd Cymru

Gwesty a Sba Neuadd Bodysgallen Mae Gwesty a Sba Neuadd Bodysgallen yn nythu mewn 200 erw o barcdir godidog. Mae ganddo erddi muriog braf ac mae heol fach droellog yn arwain at y neuadd. Mae gan y neuadd olygfeydd anhygoel dros fynyddoedd Eryri a chastell canoloesol Conwy. Ceir 15 o ystafelloedd gwely mawr yn y brif neuadd a phob un ohonynt wedi’u haddurno’n gain. Mae’r spa’n cynnig amrywiaeth o driniaethau iechyd a harddwch i westeion y gwesty, gwesteion dydd ac aelodau Clwb y Sba. Mae’r plasty gwledig hwn o’r 17fed ganrif wedi’i adfer i’w gyflwr godidog gwreiddiol ac mae yno bellach ddau fwyty – yr Ystafell Fwyta fawreddog, sydd wedi cael 3 rosette gan yr AA, a ‘Bistro 1620’, sy’n lle ychydig yn fwy anffurfiol. Mae’r ddau wedi ymrwymo i ddefnyddio cynnyrch lleol ar bob cyfle. www.bodysgallen.com

6


Y Lle Gorau i Aros – Llety i Westeion

Enillydd Gwesty Gwledig Llwyn Helyg Saif Llwyn Helyg yng nghalon brydferth Dyffryn Tywi, rhwng Sir Gâr a Llandeilo, yng nghanol tair erw o erddi hyfryd.

Mae perchnogion yr adeilad modern hwn, sydd â chyffyrddiadau clasurol, wedi gweithio’n galed arno dros y blynyddoedd. Bu’n rhaid bwrw’r hen adfail i lawr yn ôl ym 1996, cyn ailadeiladu Llwyn Helyg ac agor y busnes ym mis Mawrth 2013. Buddsoddwyd mwy na £1 miliwn i wneud Llwyn Helyg yn lle perffaith i aros ac ymlacio. Gwnaed llawer o’r gwaith ailadeiladu gan y perchennog Caron Jones – dyma’r trydydd ty^ y mae ef wedi adeiladu ei hun. Mae safon y llety, ynghyd â’r sylw y mae gwesteion yn ei gael gan Caron a’i dîm, yn golygu bod Llwyn Helyg wedi cael ei ddynodi’n llety pum seren yn gyflym iawn gan Croeso Cymru ac wedi cipio Gwobr Llety Gwesteion y Flwyddyn yng Nghymru ar gyfer 2013. Gwobr yw hon a roddir gan yr AA. Mae tair ystafell foethus ar gael i westeion; eu henwau yw Dryslwyn, Tywi a Paxton. Mae ynddynt setiau teledu modern

42 modfedd o faint gyda chwaraewyr DVD. Hefyd, ceir celfi marmor ac ithfaen ac mae’r ystafelloedd ymolchi, sy’n llawn marmor neu galchfaen, yn cynnwys baddonau trobwll jacwsi godidog. “Rydyn ni’n mwynhau cwrdd â phobl”, meddai Caron, “ac mae bod yn berchen ar Lwyn Helyg yn rhoi’r cyfle i ni fynegi’n cariad tuag at Gymru, ei cherddoriaeth a’i chelfyddyd a chroesawu gwesteion i’n cartref. Rydyn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod ein gwesteion yn hollol gyfforddus. Er enghraifft, rydyn ni’n cydweithio’n agos â Bwyty’r Polyn, sydd gerllaw, gan gynnig gwasanaeth cludo’r cwsmeriaid yno ac yn ôl, er mwyn iddyn nhw gael mwynhau eu bwyd heb orfod poeni am yrru adref.” Mae Caron Jones – sy’n Gymro balch – yn credu ei bod yn bwysig iawn fod Llwyn Helyg yn adlewyrchu

7

Ansawdd Cymru

diwylliant a thraddodiadau Cymru yn ogystal â sicrhau bod y gwesteion yn hollol gyfforddus. Ni chaiff pobl eu siomi gan y gerddoriaeth a’r gwaith celf sy’n rhan annatod o’r gwesty gwledig hwn. Yn ogystal â rhaglen brysur o ddigwyddiadau cerddorol, mae gan y gwesty “ystafell wrando” – ystafell sydd wedi ei dylunio ar gyfer cerddoriaeth gyda tho cromennog a thrawstiau nenfwd o bren glasdderw. I sicrhau’r profiad cerddorol perffaith, mae’r ystafell yn cynnwys yr hyn y mae Caron yn ei alw’n un o’r systemau stereo mwyaf sydd ar gael ar y farchnad, ynghyd â chasgliad estynedig o recordiau, cryno ddisgiau a DVDs.

www.llwynhelygcountryhouse.co.uk

cymru.gov.uk/twristiaeth


Hefyd ar y Brig Plasty Nanteos Gwely a Brecwast Bwtîc ‘Escape’ Gwely a Brecwast Bwtîc ‘Escape’ Agorwyd y gwesty gwely a brecwast bwtîc modern cyntaf yn Llandudno ar ôl i Sam Nayar a’i wraig Gaenor, benderfynu mynd ati i newid eu byd. Roedden nhw’n byw yn Swydd Gaer ac yn gweithio yn Birmingham pan benderfynodd y ddau symud i arfordir Gogledd Cymru i sefydlu’r gwesty modern hwn. Mae’r llety hwn yn llawn dros 70 y cant o’r flwyddyn, sy’n arwydd fod pobl yn dod yn ôl fwy nag unwaith, ac mae hynny’n arwydd o safon yr ystafelloedd a pha mor gyfforddus y mae’r cwsmeriaid yn teimlo yn y llety hwn gyda’i gelfi retro a’i naws unigryw. www.escapebandb.co.uk

Plasty Nanteos Mae Plasty Nanteos yn swatio yng nghefn gwlad ger Aberystwyth. Agorodd y llety gwledig pum seren hwn ei ddrysau ym mis Mai 2012 ar ôl buddsoddiad mawr i atgyweirio ac adfer y Plasty, a adeiladwyd yn wreiddiol ym 1739, i’w gyflwr gwreiddiol gogoneddus. Yn ôl Mark Rawlings-Lloyd, a ymunodd fel Rheolwr Cyffredinol y llynedd i reoli’r prosiect adfer a’r agoriad swyddogol, y peth pwysicaf i roi profiad bythgofiadwy i westeion yw canolbwyntio ar wasanaeth cwsmeriaid gan adael i naws a hanes yr adeilad wneud y gweddill: “Rydym yn ceisio trin ein gwesteion fel hen gyfeillion a chreu naws a fydd yn caniatáu iddynt ymlacio’n llwyr.” Mae’n mynd ymlaen i ddweud, “Ein nod ni yw cynnig profiad personol mewn lleoliad sy’n caniatáu i bobl ymlacio – os yw ein gwesteion am dynnu eu hesgidiau o flaen y lle tân a darllen y papur yn hamddenol neu fwynhau paned a sgonsen, mae croeso iddynt wneud hynny unrhyw bryd.” Mae balchder a brwdfrydedd y 30 aelod o staff yn ychwanegu at naws y gwesty. Mae staff y dderbynfa, y garddwr a’r staff cadw ty^ oll yn gyfeillgar ac yn barod am sgwrs – p’un a yw’r gwesteion am drafod eu diwrnod neu’n dymuno gwybod mwy am hanes yr adeilad:

Rhifyn 7, 2013

“Y nod yw gwneud i’r gwesteion deimlo’n rhan o’r lleoliad a’r adeilad”, medd Mark. Ar ôl diwrnod o ymlacio a chrwydro’r gerddi godidog, gall gwesteion fwynhau pryd ^ i’r dannedd gan y Prif o fwyd sy’n tynnu dwr Gogydd talentog, Nigel Jones. Gadawodd Nigel ei fywyd fel ffarmwr ifanc i fynd i goginio dan arweiniad a goruchwyliaeth y cogydd enwog, Antony Worrall–Thompson. Dysgodd beth wmbreth gan WorrallThompson ac, yna, aeth i redeg ei fwyty ei hun yng Ngheinewydd. Ef bellach yw pennaeth y tîm coginio ym Mhlasty Nanteos. Mae gan y Plasty nifer o ystafelloedd digwyddiadau hefyd, felly mae’n lle delfrydol i gynnal digwyddiad busnes ac i groesawu gwesteion corfforaethol. Gallwch chi hyd yn oed gynnal eich priodas yma gan gael yr ystâd gyfan i chi’ch hun a’ch gwesteion am 24 awr. Mae Plasty Nanteos yn enghraifft wych o bensaernïaeth Sioraidd – ac mae aros neu fwyta yno’n brofiad gogoneddus. Bydd croeso cynnes yn eich aros. www.nanteos.com

Ansawdd Cymru

8


Afonwen Laundry & Linen Hire, Wales’ national laundry supplier proudly supports the National Tourism Awards 2013. We wish everyone success in promoting the best of Welsh hospitality, an enjoyable evening and a squeaky clean night!

Falch o gael cefnogi’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru

www.afonwenlaundry.com


Lorem ipsum dolor sit amet Consectetur adipiscing elit.

GWYLIAU BWSmauris, sit amet egestas nibh ligula ut nisi.

[ XX ]

Gan gynnwys

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit. Duis ac ante eget diam mattis luctus. Vivamus auctor orci quis risus tempor convallis. Mauris nisi erat, cursus sit amet auctor eget, rhoncus at orci. Nam porta ullamcorper nibh, nec malesuada eros volutpat eget. Cras nec nisi in ante dictum Mordeithiau, Teithiau ar Afonydd tincidunt. Phasellus scelerisque vulputate lacus in pellentesque. Vivamus congue neque ac felis malesuada feugiat. In hac habitasse platea dictumst. Pellentesque malesuada felis venenatis ante faucibus eu rutrum velit suscipit. Duis fringilla lectus vel velit tincidunt pulvinar. Vestibulum congue sem quis lorem lacinia rutrum. Nullam gravida accumsan orci, sit amet mollis lectus ornare eget. Curabitur vulputate lacinia sodales. Quisque tempor eros at metus elementum semper. Suspendisse auctor feugiat dolor, sit amet vehicula orci volutpat id. Aenean a enim in nibh egestas pellent esque.

Gwyliau yn Ewrop

Proin consectetur tempus pharetra. In sed orci eros. Integer sit amet quam quam. Phasellus arcu sapien, porttitor sit amet iaculis eu, porta ac orci. In gravida leo in velit varius ac suscipit augue mattis. Vestibulum dignissim metus sem. Quisque molestie lacus sed ligula hendrerit dignissim. Aliquam erat volutpat. Nullam tellus massa, vulputate sed fermentum quis, eleifend fermentum sem. Morbi libero augue, luctus a pellentesque nec, facilisis mattis orci. Pellentesque sagittis commodo purus, sit amet sodales urna vestibulum in. Donec at mi tortor, eu congue neque. Phasellus eu mauris eu magna posuere mattis. Suspendisse non lorem libero, ut laoreet eros. Sed cursus cursus ipsum. Phasellus dictum ultrices dolor nec luctus. Nam egestas, lorem in congue molestie, nibh libero elementum mi, vel accumsan erat lorem a lectus. Phasellus consequat dignissim nulla vitae consectetur. Maecenas lacinia orci sed turpis lacinia sed adipiscing urna rhoncus. Aliquam vitae mi et lorem fringilla lobortis sed in tellus. Sed sollicitudin auctor dui ut rutrum. Duis ut egestas tortor.

Nam cursus porttitor tortor, a sagittis erat vulputate nec. Proin fringilla varius lacus. Aenean ac turpis eu nulla commodo porta. Integer ut massa id turpis malesuada dictum in eu urna. Vivamus scelerisque, velit eu luctus tortor massa eleifend ligula, non a suscipit, Gwyliau Hedfan fringilla dolor lectus quis enim. Aenean nisl libero, vehicula et tempus eu, facilisis eget justo. Phasellus ipsum magna, tincidunt in pretium eu, pretium non enim. Nulla convallis justo eu urna molestie pharetra blandit velit aliquet. Proin non mi quis odio iaculis molestie ut in est. Cum sociis natoque penatibus et magnis dis parturient montes, nascetur ridiculus mus. Aliquam consectetur nulla vel mauris consequat adipiscing interdum risus imperdiet. Morbi vestibulum faucibus porttitor. Proin elit dolor, semper in ornare a, lobortis in elit. Aliquam auctor augue sed lorem consectetur et mattis tellus convallis. Aliquam cursus quam augue, a consequat odio. Nulla in nulla sem, ut placerat odio. Donec nisl lacus, laoreet condimentum tempor in, condimentum non arcu. Suspendisse potenti. Vestibulum ante ipsum primis in faucibus orci luctus et ultrices posuere cubilia Curae; Sed id arcu velit. Vestibulum consectetur venenatis orci in pellentesque. Nunc mattis faucibus tempor. Nulla ultrices auctor metus, in dignissim quam pellentesque sit amet. Integer dignissim vestibulum tempus. Morbi sollicitudin ligula eget urna bibendum et ullamcorper justo feugiat. Aliquam quis nisi a massa sollicitudin rutrum. In venenatis tortor sit amet urna laoreet hendrerit ac faucibus risus. Morbi enim risus, gravida eget dapibus a, euismod in lorem.

Gadewch i ni eich helpu i ddod o hyd i’ch gwyliau perffaith! Dewch i ddarganfod Cymru ar un o’n teithiau Dig a little deeper… poblogaidd! Phasellus eu mauris eu magna posuere mattis. Suspendisse non lorem libero. Call: 01792 456600 Vestibulum consectetur venenatis: Duis volutpat, metus sed vestibulum tincidunt, Email: swansea@edwardscoaches.co.uk www.visitwales.co.uk nibh odio tincidunt leo, ut blandit turpis sem dignissim massa. Maecenas aliquam, eros non www.edwardscoaches.co.uk scelerisque porttitor, quam nisi sollicitudin Edwards Coaches, Ystad Ddiwydiannol Newtown, Llanilltud Faerdref, CF38 2EE Spring 2011

Ansawdd Cymru

10


Y Lle Gorau I Aros – Hunanarlwyo

Enillydd Gerddi Cudd a Bythynnod Plas Cadnant Ddwy flynedd ar bymtheg yn ôl, daeth Anthony Taverner, ffarmwr llaeth a oedd wrth ei fodd gyda phlanhigion, gerddi a thai hanesyddol, o hyd i Blas Cadnant ym Mhorthaethwy, Sir Fôn. Ar y pryd, casgliad o adeiladau fferm wedi mynd â'u pen iddynt oedd yno, gyda gardd furiog a rhwydwaith o lwybrau wedi tyfu'n wyllt mewn cwm cudd.

Gyda chryn benderfyniad ac ymdrech ddygn, aeth ati i ailgodi'r ty^ hir Cymreig ac adeiladau'r fferm. Roedd y perchennog blaenorol wedi bwriadu eu dymchwel. Adferwyd yr adeiladau rhwng 1997 a 2001, ac maent bellach wedi'u trawsnewid yn fythynnod hunanarlwy moethus 4 a 5 seren. Mae'r incwm o'r fenter honno wedi bod yn gefn i'w gynllun tymor hir – sef adfer gerddi diffaith 10 erw Plas Cadnant. Mae Anthony wedi llwyddo i wneud hyn fwy neu lai ar ei ben ei hun, gan adfer y waliau a'r llwybrau a phlannu miloedd o blanhigion a choed arbennig. Erbyn heddiw, mae safon eithriadol y Gerddi Cudd yn cael ei chydnabod ymhell ac agos ac yn denu ymwelwyr o bob cwr o'r Deyrnas Unedig ac o dramor. Erbyn hyn, mae Plas Cadnant hefyd yn cynnig canolfan ymwelwyr ac ystafell dê draddodiadol, ac mae wedi ennill gwobrau megis Gwobr Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig™ ac wedi'i roi ar restr fer gwobrau Gerddi Gwledig Country Life. Mae Kay Laurie, Rheolwr Gwasanaethau i Ymwelwyr a Marchnata Plas Cadnant, yn dweud eu bod bob tro'n treulio amser yn sicrhau bod popeth o'r safon uchaf. “Bydd ymwelwyr yn dweud yn aml mai'r sylw rown ni i fanylion yw'r hyn y byddan nhw'n sylwi arno ac yn ei werthfawrogi,”

meddai “Fe gawson ni gyngor gan bensaer a oedd yn arbenigo ar adfer adeiladau hynafol wrth inni fynd ati i adfer y bythynnod, ac fe ddefnyddion ni ddeunyddiau megis morter calch a phaent traddodiadol. “Rydym wedi defnyddio hen ddodrefn clasurol, tecstiliau a phaentiadau i ddodrefnu'r bythynnod, ac mae gennym welyau pedwar postyn a gwelyau o'r oes o'r blaen i greu awyrgylch gynnes ac arbennig. “Cadeiriau clasurol Lloyd Loom sydd yn ein hystafell de. Byddwn yn defnyddio tebotau arian ac yn gweini cacennau cartref hael eu maint. Mae cynnyrch lleol a ffres yn rhan bwysig o'r hyn sydd gennym i'w gynnig er mwyn sicrhau bod ein hymwelwyr yn cael y profiad gorau posib. Byddwn yn prynu cynnyrch i'r ystafell dê'n lleol lle bo modd, ac yn pobi cacennau a sgons yn y gegin. Byddwn yn chwarae cerddoriaeth Gymreig ar y delyn yno ac yn ein canolfan ymwelwyr – ac mae gennyn ni gerddor a fydd yn ymweld â ni hefyd sy'n chwarae yn y gerddi. “Mae'r bythynnod a'r gerddi'n agos iawn at galon y bobl sy'n rhan o'r busnes, ac mae'r teimlad angerddol hwnnw at y lle'n amlwg.”

11

Ansawdd Cymru

www.plascadnant.co.uk

cymru.gov.uk/twristiaeth


Hefyd ar y Brig Ffynnon Gron Lon Lodges

Ffynnon Gron T y^ gwledig Sioraidd hunanarlwy ger Cas-lai yw Ffynnon Gron a'i nod yw rhoi'r gorau sydd gan Sir Benfro i'w gynnig i'w westeion. – gan gynnwys postmon lleol sydd hefyd yn arbenigwr ar heboga a ffarmwr cynaliadwy o fri sy'n gadael i westeion helpu gyda'r godro. Mae lle i un ar bymtheg yn y ty^ mewn wyth o lofftydd hyfryd. Mae lolfa â lle tân agored mawr ar gael iddynt, cegin weithio enfawr ac ystafell gemau gyda digon o gyfarpar. www.ffynnongron.com

Lon Lodges Dechreuodd Lon Lodges groesawu gwesteion i'r ddau fwthyn yn 2007. Dros y blynyddoedd, datblygwyd cysylltiadau â busnesau – mae'n bosib archebu bwyd a gwin o flaen llaw gan gyflenwyr lleol, defnyddir cynnyrch lleol yn eu pecynnau croeso – er mwyn gwneud ymweliad y gwesteion mor gyfforddus ag y bo modd, ac mae llwybrau natur wrthi'n cael eu creu gyda help arbenigwr a darlunydd bywyd gwyllt lleol i gynhyrchu gwybodaeth a map ar gyfer pob un. www.lonlodges.co.uk

Rhifyn 7, 2013

Ansawdd Cymru

12


Y Lle Gorau i Aros – parc gwersylla, gwyliau a CARAFANNAU

Enillydd Parc Hamdden Plassey, Wrecsam Dros 50 mlynedd, mae’r parc gwyliau gwych hwn wedi sicrhau cwsmeriaid ffyddlon drwy roi croeso cynnes iddynt a thrwy sicrhau bod rhywbeth newydd a chyffrous yno ar eu cyfer.

“Mae’r gwasanaeth a’r croeso cynnes rydym yn eu rhoi i’r cwsmeriaid yn hollbwysig,” meddai’r Rheolwr-Gyfarwyddwr John Brookshaw. “Hynny, a’r ffaith ein bod yn ^ fod ail-fuddsoddi’n ddi-baid i wneud yn siwr yr hyn yr ydym yn ei gynnig yn ffres ac yn newydd – dyna sut tyfon ni o fod yn fferm fach i fod yr hyn rydym ni heddiw.” Mae’r teulu Brookshaw wedi gweithio'n galed i ddatblygu Parc Hamdden Plassey ar dir yr hen fferm wartheg. Mae’r parc, sydd ag adeiladau Edwardaidd prydferth, bellach yn lleoliad hyfryd a phoblogaidd. Mae’r wobr hon yn un o nifer y mae’r parc wedi’i hennill dros y blynyddoedd, gan gynnwys gwobr Safle Gorau i Deuluoedd yn y Deyrnas Unedig 2011 gan ‘Practical Caravan UK’ a phrif wobr y cylchgrawn, sef Enillydd Cyffredinol y Deyrnas Unedig yn 2004 a 2007. Mae’r parc yn boblogaidd gyda theuluoedd sydd â phlant ifanc a chyplau sydd wedi ymddeol ac sydd am fynd ati i

wneud gweithgareddau egnïol. Mae’n siwtio pawb. Mae mewn 247 erw o barcdir a choetir yn Nyffryn Dyfrdwy, ger pentrefi Owrtyn a Bangor-is-y-Coed. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys parc ar gyfer carafannau teithiol a pharc carafannau sefydlog 5 seren, cwrs golff 9 twll, llwybrau natur – sy’n cael eu defnyddio gan ysgolion lleol – llwybrau beicio, llynnoedd ar gyfer pysgota ac ardaloedd cadwraeth. Mae adeiladau Edwardaidd yr hen fferm ar y safle bellach yn gartref i ganolfan grefftau, siopau a bwytai. Mae yno 25 o fusnesau bychain, gan gynnwys bwyty, siop goffi a chlwb golff bychan. Mae’r rhain i gyd yn defnyddio cynnyrch lleol o Gymru – a chwrw o Fragdy Plassey, bragdy’r safle, wrth gwrs! Mae hyn oll yn helpu i sicrhau bod pobl yn ymweld dro ar ôl tro. “Rydyn ni’n cynnal ffeiriau bwyd a chrefftau bob haf a phob Nadolig. Mae’r ffeiriau hyn yn hyrwyddo cynhyrchwyr bwyd a chrefftau lleol ac mae gennym gegin arddangos lle gall cogyddion

13

Quality Wales

lleol arddangos eu sgiliau,” meddai John. “Digwyddiadau rhad ac am ddim yw’r rhain ac maen nhw wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda mwy na 4,000 o bobl yn dod i bob digwyddiad! “Rydyn ni’n ychwanegu at y parc yn rheolaidd – yn ddiweddar, rydym wedi paratoi 11 llain graean ar gyfer carafannau teithiol ac wedi ailwampio’r bwyty a’r ystafelloedd ymolchi, gan ddefnyddio coed derw ac ithfaen. “Yn y dyfodol, rydym yn bwriadu creu dwy ardal chwarae i blant ar y thema ‘cestyll’. Bydd gan yr ardaloedd chwarae fframiau dringo, gwifren hedfan, sleidiau a phontydd! Popeth! Hefyd, rydym yn bwriadu creu mwy o leiniau o safon uchel i garafannau teithiol a phodiau ‘glampio’! Mae digon o gynlluniau gennym!” www.plassey.com

cymru.gov.uk/twristiaeth


Hefyd ar y Brig Parc Gwyliau Quay West Parc Carafannau De Cymru, Fferm Llwynifan

Parc Gwyliau Quay West Mae cwmni Haven wedi bod yng Ngheinewydd ers dros 25 mlynedd ac maen nhw wedi bod yn adnewyddu'r parc yn rheolaidd gan fanteisio ar y golygfeydd gwych o'r môr ac yn ychwanegu troeon cerdded, maes chwaraeon “Picnic a Chwarae”, Canolfan Gweithgarwch Bywyd Gwyllt – a hyd yn oed tipi! Ac mae gan y cwmni gysylltiadau clos â'r gymuned. Bydd ysgolion lleol yn defnyddio'r Ardd Bywyd Gwyllt a'r cyfleusterau hamdden ar adegau tawel, ac fe anogir busnesau lleol i gynnal marchnadoedd i gynnig rhywbeth gwahanol i ymwelwyr a thrigolion. www.haven.com/parks/south-wales/quaywest/

Parc Carafannau De Cymru, Fferm Llwynifan Bum mlynedd ar hugain yn ôl, roedd rhieni Cathrin a Hywel yn meddwl y byddai pobl ar eu gwyliau o bosib yn hoffi aros ar eu fferm ger Llanelli ar eu ffordd i Sir Benfro neu Iwerddon. Fel y digwyddodd hi, roedd yr ymwelwyrmor hoff o Sir Gaerfyrddin nes iddyn nhw aros yno a mwynhau'r hyn a oedd gan y sir i'w gynnig.

Rhifyn 7, 2013

Ansawdd Cymru

Erbyn hyn, mae'r brawd a'r chwaer yn cadw'r parc hwn. Maen nhw'n cynnig lle tawel a heddychlon i ymwelwyr aros a golygfeydd syfrdanol o'r wlad o gwmpas i gyfeiriad Abertawe a'r Mynydd Du. www.southwalescaravansite.co.uk

14


Y Lle Gorau i Aros – Hosteli, tai bynciau a llety amgen

Enillydd ‘Cosy Under Canvas’, yr Eglwys Newydd, Powys Mae yna wersylla gosgeiddig ac wedyn mae yna wersylla gwirioneddol osgeiddig! Mae ‘Cosy Under Canvas’ yn nwfn yng nghefn gwlad Powys. Dyma faes glampio go iawn – y gwersylla gosgeiddicaf!

Y perchennog Emma Price sy’n rhedeg y busnes. Mae wedi’i leoli mewn 4 erw o goed ffawydd a thir corsiog prydferth ger y Gelli Gandryll ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Dywed Emma ei bod hi am i’r lle fod ychydig yn wahanol i bobman arall. “Mae ein safle ni yn berffaith ar gyfer ymlacio mewn ffordd ychydig yn wahanol; ffoi rhag bywyd prysur bob dydd” meddai. “Mae’n ddelfrydol os ydych yn hoffi’r syniad o wyliau gwersylla unigryw ac ecogyfeillgar gyda phopeth yn gyfleus a thipyn bach o foethusrwydd. “Un o amcanion ein busnes yw defnyddio technoleg amgen gymaint â phosib. Mae gennyn ni oleuadau tylwyth teg solar yn ein hardaloedd cymunedol, rydym yn defnyddio cawodydd sy’n cael eu cynhesu gan dân coed a thoiledau compostio ac ry'n

^ ni wrthi’n dylunio gorsaf wefru gyda phwer pedalau ar gyfer gwefru ffonau a’n lampau.” Dechreuodd ‘Cosy Under Canvas’ gyda dwy uned; sef cegin syml a chawodydd solar. Bum mlynedd yn ddiweddarach, mae yna bum uned, sef “tentipis” Sgandinafaidd a domiau geodesig, cegin fawr gyda’r offer i gyd, ardal fwyta ar wahân, cawodydd sy’n cael eu cynhesu gan dân coed a dwy set o doiledau compostio. Y pethau diweddaraf y mae Emma wedi’u hychwanegu at y safle i sicrhau’r profiad 'glampio' gorau posib yw twbâu twym – dau ^ poeth sy’n cael eu cynhesu gan faddon dwr dân coed at ddefnydd y gwesteion sy’n aros yn y domiau. “Mae’r rhain wir yn gwella’r profiad i’r ymwelwyr ac yn ein gwneud ni’n arbennig ac yn wahanol i’n cystadleuwyr – maen nhw’n ychwanegiadau gwych i’r safle!”

15

Ansawdd Cymru

Mae Emma’n manteisio i’r eithaf ar leoliad hyfryd y safle. “Rydyn ni wedi creu llwybr natur i blant ac rydyn ni wrthi’n dylunio llyfryn bach am chwarae yn y goedwig sy’n awgrymu gemau a gweithgareddau eraill y gall blant chwarae ar eu pen eu hunain, gyda phlant eraill a gyda’u rhieni. “Bydd y llyfryn yn cynnwys syniadau am bethau i’w casglu yn y goedwig, cyngor ar sut i adeiladu cuddfan a chanllawiau ar gyfer ymdrochi yn y nant. Hefyd, ceir ‘bocsys teimlo’ a gweithgareddau gwehyddu cyrs. Y nod yw rhoi dewis ecogyfeillgar yn lle eistedd o flaen cyfrifiadur!”

www.cosyundercanvas.co.uk

cymru.gov.uk/twristiaeth


Hefyd ar y Brig Hidden Valley Yurts Gwersylla yng Nghoetir Trellyn

Hidden Valley Yurts

Gwersylla yng Nghoetir Trellyn

Mae'r safle gwersylla moethus hwn yn rhif 5 yn Cool Camping Guide y Deyrnas Unedig, ac mae'r gwersyll yn Lower Glyn Farm ger Cas-gwent wedi trwytho’i hun a'i westeion yn athroniaeth cynaliadwyedd ers iddo agor yn 2007. Mae'r holl goed a ddefnyddir ar gyfer y gwaith adeiladu'n cael eu tyfu, eu cwympo a'u malu ar y fferm. Defnyddir ynni'r haul i ^ a rhoddir cyfle i westeion gyfarfod ag anifeiliaid y gynhesu'r dwr fferm a dysgu am gynhyrchu bwyd. www.hiddenvalleyyurts.co.uk

Sefydlodd Kev a Claire Bird Wersyll Coetir Trellyn yn Abercastell, Hwlffordd oherwydd eu bod yn casáu'r profiad traddodiadol o wersylla mewn cae, lle bydd pobl foch ym moch a lle gwaherddir cynnau tân. Felly os bydd ymwelwyr am gael profiad gwersylla nad yw'n amharu llawer ar yr amgylchedd a mwynhau llety amgen mewn iwrt, mewn cromen geodesig neu dipi, dyma'r gwersyll perffaith iddyn nhw: dim ond 40 o bobl wedi'u gwasgaru ar draws 16 erw – ac mae croeso i bobl gynnau tân. www.trellyn.co.uk

Rhifyn 7, 2013

Ansawdd Cymru

16


THE JOURNEY RARELY STARTS WITH TRAVEL... NID YW’R DAITH BOB AMSER YN CYCHWYN GYDA’R TEITHIO... …IN FACT, IT RARELY ENDS WITH TRAVEL. …A DWEUD Y GWIR, ANAML MAE’N GORFFEN GYDA’R TEITHIO. Regardless of where the tourist journey starts, at Research and Marketing Group we focus on providing a complete destination marketing service, meaning that your customers are never alone at any stage of their journey. Nid yw’n fater ble mae taith twristiaid yn cychwyn, yn Research and Marketing Group rydym yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth marchnata cyrchfan cyflawn, ac mae hynny’n golygu nad yw’ch cwsmeriaid byth ar pen eu hunnain ar unrhyw adeg yn ystod y daith.

Restaurant • Accommodation • Cookery School Bwyty • Llety • Ysgol Goginio www.llanerch-vineyard.co.uk

Did you know that every 240 litre bin of food waste you throw away costs your business £240?

k Fill one bin a wee and that’s £12,000 wasted every year.

Before visit service: Response handling and brochure distribution Gwasanaeth cyn ymweliad: Trin ymatebion a dosbarthu llyfrynnau During visit service: Tourism contact centre Gwasanaeth yn ystod ymweliad: Canolfan gyswllt twristiaeth After visit service: Customer satisfaction surveys Gwasanaeth ar ôl ymweliad: Arolygon boddhad cwsmeriaid

0800 138 9008 info@rmg-uk.co.uk

WWW.RMG-RESPONSE.CO.UK

RMG Tourism Advert.indd 1

£12,000

A oeddech chi’n gwybod bod pob bin 240 litr o wastraff bwyd rydych chi’n ei daflu yn costio £240 i’ch busnes?

24/09/2013 11:15

Mae llenwi un bin bob wythnos gyfwerth â gwastraffu £12,000 bob blwyddyn.

To discover how to waste less and cut costs contact WRAP Cymru Hospitality & Food Service Key Account Manager Hugh Jones on 0780 909 2897 or hugh.jones@wrap.org.uk or visit www.wrapcymru.org.uk I ddysgu sut i wastraffu llai a thorri costau, cysylltwch â Hugh Jones, Rheolwr Cyfrif Allweddol Gwasanaeth Lletygarwch a Bwyd WRAP Cymru, ar 0780 909 2897, hugh.jones@wrap.org.uk neu ewch i www.wrapcymru.org.uk/cy



Y Digwyddiad Gorau

Enillydd ^ Fwyd y Fenni Gwyl “Rydyn ni wedi tyfu dros y blynyddoedd ar ôl dechrau'n fach, ond rydyn ni wedi glynu'n glòs wrth yr egwyddorion oedd gennyn ni ar y cychwyn. Dyna’r sail i bopeth y byddwn ni'n ei wneud,” meddai Heather Myers, ^ Fwyd y Prif Weithredwr Gwyl Fenni.

“Felly rydyn ni'n dathlu crefft gwneud bwyd ar y fferm, mewn ffatri ac yn y gegin, amrywiaeth y bwydydd a'r traddodiadau sydd yng Nghymru ac o fannau eraill, a'r cymdeithasu a'r cyd-fwynhau sy'n rhan o fwyta ac yfed, boed hynny gyda ffrindiau neu gyda dieithriaid.” Mae'n amlwg bod y rhain yn egwyddorion ^ yn un o'r cadarn, gan eu bod wedi sefydlu'r Wyl rhai mwyaf adnabyddus yng Nghymru, ac mae hynny wedi helpu i greu delwedd amlycach i'r wlad, o ran ei stori fwyd a'i phwysigrwydd fel cyrchfan i ymwelwyr. Mae'r digwyddiad yn darparu ar gyfer pobl o bob math gan roi pwyslais ar y teulu, ac mae'n ceisio bod yn wirioneddol agored i bawb, o bob oed, cefndir a diwylliant. Gall ymwelwyr ymwneud â'r wyl ^ ar sawl lefel – mwynhau diwrnod i'r brenin sy'n llawn hwyl, siopa am fwyd o safon, adloniant a gweithdai rhyngweithiol; neu fe allan nhw gael profiad dyfnach yn y dosbarthiadau meistr, blasu dan arweiniad tiwtor, ymuno â sgyrsiau a thrafodaethau a chynadleddau am fwyd. Mae'r perfformwyr gwadd yn adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol enfawr – Prydeinig, Indiaidd, Swedaidd, Iddewig, Palesteinaidd, Persiaidd, Fietnameaidd, Ghaneaidd – a thrwy eu rhwydweithiau nhw, bydd y neges yn cael

ei lledaenu drwy'r byd am yr wyl ^ a'r bwyd a'r ddiod sydd gan Gymru i'w cynnig. “Oherwydd ein lleoliad, mewn gwirionedd, ni yw'r 'porth i Gymru' ac yn hynny o beth, rydym wedi llwyddo i ddod ag ymwelwyr o'r Deyrnas Unedig ac o dramor i Gymru am y tro cyntaf,” meddai Heather. “Bydd cyfran sylweddol yn dychwelyd i aros yn hwy a mwynhau agweddau eraill ar dirwedd a threftadaeth y wlad, sy'n help i herio rhagdybiaethau am yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig.” Mae enw da'r wyl ^ am fod yn arloeswr ym myd y gwyliau bwyd wedi golygu bod delwedd y digwyddiad yn dod yn fwyfwy amlwg. “Mae gennyn ni enw arbennig o dda ymhlith newyddiadurwyr bwyd y wasg genedlaethol sy'n dod i'r wyl ^ ac sy’n helpu i ledaenu'r gair, ac ymhlith newyddiadurwyr a chriwiau ffilmio sy'n ymweld o dramor. Rydym wedi cael sylw o Awstralia i Sgandinafia,” meddai Heather. “Ond fyddwn byth yn gorffwys ar ein rhwyfau ac yn meddwl ein bod ni wedi gwneud y cyfan. Rydyn ni bob tro'n ceisio symud ymlaen a chadw popeth yn newydd ac yn ddiddorol.” www.abergavennyfoodfestival.com

19

Ansawdd Cymru

cymru.gov.uk/twristiaeth


Hefyd ar y Brig Gemau Amgen y Byd Always Aim High Events Ltd / Triathlon Llanc y Llechi

Always Aim High Events Ltd / Triathlon Llanc y Llechi

Gemau Amgen y Byd Sefydlwyd Digwyddiadau Amgen y Byd yn sgîl y newyddion mai Llundain fyddai'n croesawu'r Gemau Olympaidd yn 2012, a'r bwriad oedd coleddu Ysbryd Corinth, hyrwyddo Cymru a Llanwrtyd, a denu'r gymuned i gymryd rhan. Daeth dros 2,000 o gystadleuwyr a bron 5,000 o wylwyr ynghyd i ddathlu digwyddiadau hwyliog a chwinclyd, a'r rheini'n amrywio o snorclo mewn cors a hudo mwydod i rasio cerbydau rhyfel a phencampwriaeth cludo'r wraig. www.worldalternativegames.co.uk

Rhifyn 7, 2013

Ansawdd Cymru

Mae Triathlon Llanc y Llechi ymhlith un o'r 5 triathlon gorau yn y Deyrnas Unedig ac mae'n gyfle i arddangos harddwch Eryri wrth i'r cystadleuwyr fynd drwy leoliadau eiconig megis Llyn Padarn, Bwlch Llanberis a Chapel Curig. Mae'n tynnu sylw at Gymru, ac mae'r trefnwyr, Camu i'r Copa, wedi taro bargen gyda chwmnïau teledu sy'n golygu bod cynulleidfaoedd y Deyrnas Unedig yn gwylio'r digwyddiad ar S4C a Channel 4, a miliynau mwy’n ei wylio yn Asia, Gogledd a De America, Awstralasia, Affrica ac Ewrop ar sianelau lloeren. www.alwaysaimhighevents.com

20


Y Profiad Gorau I Ymwelwyr

Enillydd Arforgampau ‘Celtic Quest’

Taith anturus gyda’r ysgol wnaeth i Cleopatra Browne sylweddoli y gallai hi wneud gyrfa o’i hobi. Yn y pen draw, arweiniodd hyn at lansio cwmni Arforgampau ‘Celtic Quest’ – gan fanteisio ar weithgaredd sydd wedi tyfu mewn poblogrwydd ers iddi gael ei gwneud gyntaf yn Sir Benfro yn y 60au. Aeth Cleopatra, a aned yn Portsmouth, i’r ysgol a’r coleg yn Llanelli ac, yn sgil ymweliad ysgol â Phentywyn, dechreuodd weithio i sawl cwmni antur yn Sir Benfro. Sefydlodd ‘Celtic Quest’ yn 2009 ac mae hi a’i wyth o hyfforddwyr yn edrych ar ôl hyd at 100 o ymwelwyr y dydd yn ystod misoedd prysur yr haf. Mae ‘arforgampau’, neu ‘coasteering’ yn Saesneg, yn golygu archwilio’r arfordir tua lefel y môr – cewch neidio, sleidio a phlymio i’r môr! Mae’r cwmni’n targedu teuluoedd, felly mae’n bwysig sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau’r gweithgareddau – pa mor ^ Mae’r hyderus bynnag yw pobl yn y dwr. gweithgareddau’n cael eu teilwra’n ofalus i anghenion a galluoedd yr unigolyn – gall hyn ^ neu naid fwy olygu naid fach hawdd i’r dwr anturus o tua 35 troedfedd.

Boed law neu hindda, mae staff ‘Celtic Quest’ yn barod amdanoch chi! Fel y mae Cleopatra'n dweud: “Chi’n bownd o ’lychu ta beth, so sdim ishe becso os yw hi’n bwrw glaw! Mae ’na bobol wedi plymio o uchderau mawr i’r ^ ar Ddydd Calan gydag eira ym mhobman!” dwr Mae’r cwmni newydd ddechrau ymgyrch farchnata sydd wedi’i hanelu at fusnesau sydd am ddiwrnod o hwyl a sbri i’w staff. “Mae ambell i gwmni wedi dod aton ni a dweud ei fod yn gyfle gwych i ddatblygu’r tîm a chael hwyl. Felly, gobeithio y gallwn ni ddenu mwy o fusnesau corfforaethol yn y dyfodol,” meddai Cleopatra. Mae tîm ‘Celtic Quest’ wedi gwneud camp ‘eithafol’ yn hygyrch i gynulleidfa ehangach – gall hyd yn oed bobl nad ydynt yn gallu nofio gymryd rhan gan wybod fod yna hyfforddwr cymwys a phrofiadol gerllaw.

21

Ansawdd Cymru

www.celticquestcoasteering.com

cymru.gov.uk/twristiaeth


Hefyd ar y Brig Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ‘Zip World’

Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd Sefydlwyd Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ym 1899. Yn ddiweddar, esgynnodd i Uwchgynghrair Lloegr – tipyn o gamp. Mae’r clwb yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd rhoi profiad gwych i gefnogwyr oddi cartref – yn hytrach na’u trin fel ychydig o boendod, fel sy’n digwydd yn eithaf aml. Fel rhan o hyn, mae eisteddle oddi cartref yr Adar Gleision – Eisteddle Croeso – bellach wedi’i orchuddio â lluniau o leoliadau enwog Cymru. Hefyd, mae pob cefnogwr yn cael pecyn croeso sy’n llawn gwybodaeth am Gymru a’i phrifddinas. Mae hyn oll wedi cyfrannu at gynnydd o 15% yn nifer y cefnogwyr oddi cartref sy’n dod i’r gemau. www.cardiffcityfc.co.uk

‘Zip World’ Yng nghanol golygfeydd gwych Eryri, mae ‘Zip World’ yn rhoi profiad tebyg i hedfan i bobl. Maent yn cael ‘sipio’ 500 troedfedd yn yr awyr ar gyflymder o hyd at gan milltir yr awr! Nid oes angen profiad na sgiliau arbennig a rhoddir cyfarwyddyd llawn bob amser. Mae’r ‘Zip World Experience’ wedi’i leoli mewn lleoliad dramatig iawn – Chwarel y Penrhyn. Y chwarel fwyaf o’i math yn y byd, ar un adeg. Bellach mae yno’r wifren sipio, hiraf yn hemisffer y gogledd. O fynd ar y wifren, gallwch weld golygfeydd mor bell ag Ynys Manaw! Dyma’r peth agosaf at blymio awyr y gallwch chi ei wneud heb wisgo parashiwt! www.zipworld.co.uk

Rhifyn 7, 2013

Ansawdd Cymru

22


Y Tîm Twristiaeth Mwyaf Llwyddiannus

Enillydd Canolfan Wyliau Bae Trecco Mae Canolfan Wyliau Bae Trecco yn ganolfan wyliau i deuluoedd ers tro byd ac mae'n eicon yn y gymuned leol – bydd teuluoedd heddiw'n dal i sôn yn hoffus am Bythefnos y Glowyr ym Mae Trecco. Ond mae pethau wedi newid cryn dipyn ers hynny. Yn 1999, prynwyd Bae Trecco gan y perchnogion presennol, Parkdean, ac maen nhw wedi buddsoddi symiau sylweddol yn y 13 mlynedd diwethaf – £12 miliwn yn y chwe blynedd diwethaf yn unig. Mae'r cyfleusterau wedi cael eu hadnewyddu, a rhai newydd wedi'u hychwanegu, gan gynnwys maes chwaraeon amlbwrpas awyr agored newydd sbon, cwrs ^ yn golff antur, maes chwarae a pharc dwr, ogystal â pharc cadwraeth a bywyd gwyllt a grëwyd gyda chymorth gwarchodfa natur leol. Mae'n fenter fawr, waeth beth yw'ch ffon fesur. Mae gan Fae Trecco ryw 2,000 o lecynnau i garafannau a chabanau cyfoes, y rhan fwyaf i'w llogi ar gyfer gwyliau ond llawer ohonynt hefyd yn eiddo preifat. Yn 2012, archebwyd 25,000 o wyliau, ac nid yw hynny ond yn cyfrif nifer y llefydd a logwyd. Mae hyn yn cyfateb i 105,000 o nosweithiau gwely. Mae angen tîm mawr ar gyfer hynny i gyd. Yn y cyfnod brig, mae 'na dros 350 o staff yno, y rhan fwyaf ohonynt yn byw'n lleol. Mae eu hymdrechion yn golygu bod 'na fwy na 250,000 o ymwelwyr hapus mewn blwyddyn, gan gynnwys ymwelwyr undydd, pobl ar eu gwyliau a pherchnogion – llawer ohonynt yn ymwelwyr rheolaidd dro ar ôl tro. Mae hefyd wedi sicrhau llu o wobrau gan y diwydiant. Ar ôl chwe blynedd o dwf cyson, cafodd canolfan Bae Trecco ei blwyddyn orau erioed y llynedd ac mae eisoes 10% ar y blaen i hynny y tymor hwn.

Dywed cyfarwyddwr rhanbarthol Parkdean, Karl Schmidtke, nad dim ond y buddsoddiad ariannol yn y cynnyrch sy'n gyfrifol am y ffaith bod pobl yn dal i ymweld â chanolfan wyliau sydd wedi bod yno gyhyd, ond y ffaith bod y cwmni'n canolbwyntio'n fawr ar hyfforddi. “Mae'r ddau beth yn mynd law yn llaw er mwyn sicrhau'r llwyddiant rydyn ni'n ei fwynhau ar hyn o bryd,” meddai. “Mae pob aelod o'r staff yn cael hyfforddiant Cerddwch Ffordd Hyn pan fyddan nhw'n ymuno â ni gyntaf. Y syniad yw eu bod nhw'n eu rhoi eu hunain yn esgidiau'r cwsmeriaid ac yn eu trin yn y ffordd y bydden nhw eu hunain yn disgwyl cael eu trin. “Yn eu tro, caiff ein cwsmeriaid gyfle i enwebu aelodau o'r staff os byddan nhw'n teimlo'u bod wedi mynd yr ail filltir. Os derbynnir yr enwebiad hwnnw, bydd yr aelod o'r staff yn cael bathodyn traed aur a thystysgrif am wasanaeth rhagorol i gwsmeriaid. “Yn ogystal â'r cynllun hwn, mae tua 100 o'n staff wedi llwyddo yn Rhaglen Aur y Cynllun Croeso, ac felly, rydyn ni'n falch iawn o'r gwasanaeth o safon y byddwn yn ei ddarparu.”

23

Ansawdd Cymru

www.parkdeanholidays.co.uk/walesholidays/trecco-bay/trecco-bayholiday-park.htm

cymru.gov.uk/twristiaeth


Hefyd ar y Brig Parc Antur a Sw^ Folly Farm Gwesty Cymru Gwesty Gwledig a Sba Neuadd Tre-Ysgawen

Gwesty Cymru Mae pob gweinydd yn y bwyty Cymreig hwn gyda llofftydd yn Aberystwyth yn cael ei ystyried yn ddarpar reolwr gwesty a bwyty; pob porthor cegin yn ddarpar brif gogydd. Drwy fynd ati fel hyn, mae aelodau'r staff wedi tyfu o 12 i 24 ers 2007, a dyma'r allwedd i'r gwasanaeth o safon sydd wedi denu cwsmeriaid yn ôl dro ar ôl tro, ac wedi golygu bod y trosiant yn rhagori ar y rhagamcanion o'r naill flwyddyn i'r llall. www.gwestycymru.com

^ Folly Farm Parc Antur a Sw “Un teulu mawr hapus” – dyna'r ethos sydd wedi sbarduno llwyddiant Folly Farm dros y blynyddoedd, ac mae 'na ddrws agored sy'n annog y staff i geisio camu 'mlaen a rhoi cynnig ar wahanol rolau o fewn y busnes. Dechreuodd busnes y teulu 25 mlynedd yn ôl gan gynnig cyfle i ymwelwyr weld y fuches laeth yn cael ei godro. Erbyn hyn, dyma un o'r prif atyniadau i dwristiaid yng Nghymru gan ddenu bron 400,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. www.folly-farm.co.uk

Rhifyn 7, 2013

Gwesty Gwledig a Sba Neuadd Tre-Ysgawen Gyda'i 29 o lofftydd a sba o'r math diweddaraf un, mae Tre-Ysgawen, ar Ynys Môn yn cael ei ystyried yn un o'r gwestai gwledig gorau yng Nghymru. Y staff yw'r unig gaffaeliad sy'n uniongyrchol gyfrifol am lwyddiant neu fethiant y busnes, ac felly mae'r gwesty'n sylweddoli bod buddsoddi mewn staff yn bwysicach nag unrhyw fuddsoddi materol yn yr adeilad. Mae'n asesu ac yn darparu hyfforddiant a gweithgareddau gan annog y staff i gyflawni NVQs. www.treysgawen-hall.co.uk

Ansawdd Cymru

24


Y Lle Gorau i Fwyta – Caffi

Enillydd Yr Hen Orsaf, Tyndyrn Os ydych chi’n chwilio am gaffi sy'n cynnig y teimlad hwnnw o gamu yn ôl i oes arall, a dianc rhag y byd, lle sy'n cynnig rhamant y ffilm Brief Encounter, a ffordd o fyw arafach, ystafell dê'r Hen Orsaf yn Nhyndyrn yw'r lle i chi.

Mae'n rhan o atyniad i ymwelwyr sy'n ymestyn dros 10 erw yng nghefn gwlad ac mae'n amlwg wrth ichi gyrraedd eich bod mewn hen orsaf drenau. Eto i gyd, nid yw wedi'i difetha o gwbl, ac mae'n osgoi unrhyw beth sy'n rhy dechnegol gyfoes. Cyngor Sir Fynwy biau'r caffi a nhw sy'n ei reoli hefyd. Yn hen ystafell aros yr orsaf Fictoraidd mae'r ystafell dê, a rhai o'r atyniadau eraill sydd ar y safle yw blwch signalau a ddefnyddir ar gyfer arddangosfeydd amrywiol, dau gerbyd trên sydd wedi'u hadfer i gynnwys siop roddion, arddangosfa am Ddyffryn Gwy, ac ystafell gyfarfod. Mae 'na dro sy'n filltir o hyd drwy ddolydd ar hyd glan yr afon hefyd a lle i bobl wersylla. Mae'r bwyd i gyd yn cael ei baratoi yng nghegin fechan y swyddfa docynnau gan ddefnyddio cynnyrch sy'n dod gan gyflenwyr o fewn 20 milltir. Mae’r prydau hefyd wedi’u seilio ar thema’r rheilffyrdd a chyfle i fwynhau Brecwast Rhaw'r Taniwr neu Blatiad yr Orsaf Feistr. Mae rheolwr y safle, John Sterry, yn dweud mai cyfrinach apêl yr Hen Orsaf yw'r ffaith ei bod yn darparu ar gyfer pobl o bob oedran, a'i bod yn rhoi sylw i'r cyffyrddiadau bach personol hynny sy'n gwneud ymweliad yn gofiadwy. “Mae pawb sy'n dod yma wrth eu bodd â'r lle,” meddai. “Byddwn yn sicrhau bod gennyn ni rywbeth at ddant pawb, yn ifanc ac yn hen, yn lleol ac yn deithwyr. “Byddwn yn ceisio gofalu am anghenion pawb – er enghraifft, bydd criwiau o feicwyr sy'n mynd o Land's End i John O'Groats yn galw heibio, felly rydyn ni wedi paratoi brechdan llawn egni ar eu cyfer sy'n cynnwys menyn pysgnau, mêl a banana. “Mae'r staff i gyd yn credu mewn rhoi croeso cyfeillgar a bydd pawb yn ceisio gwneud mwy na'r disgwyl a helpu pwy bynnag y mae angen help arnyn nhw. Oherwydd hynny, mae'r bobl sy'n dod yn ôl i'r ystafelloedd te dro ar ôl tro'n hoff iawn ohonynt. “Mae pawb yn dweud mai'r hyn sydd mor ddeniadol yw cynhesrwydd dilys y croeso, y naws hen ffasiwn a'r awyrgylch heddychlon.” www.facebook.com/oldstationtintern

25

Ansawdd Cymru

cymru.gov.uk/twristiaeth


Hefyd ar y Brig The Bakers' Table, Melin Talgarth Quayside Tearoom, Lawrenny Quay

Quayside Tearoom, Lawrenny Quay Roedd yr adeilad wedi mynd â'i ben iddo ond fe aeth y perchennog, Andy Knowles, ati i'w adnewyddu yn 2004 gan ddefnyddio'r arian roedd wedi'i gynilo ar hyd ei oes. ^ Mae'r caffi llawn cymeriad hwn ar lan y dwr wedi meithrin enw da iddo'i hun am brynu a gweini'r cynnyrch lleol gorau, a hynny gyda chwrteisi a gwasanaeth ardderchog. “Bwyd syml di-ffws y byddwn yn ei gynnig, gan adael iddo siarad drosto'i hun,” meddai. “Bydd gennym hyd at naw o Brydau Arbennig bob dydd ar ein bwrdd du, a phan fydd y rheini wedi mynd, byddan nhw wedi mynd – dyna beth yw Pryd Arbennig mewn gwirionedd – rhywbeth Arbennig!” www.quaysidelawrenny.co.uk

The Bakers' Table, Melin Talgarth Cwmni Budd Cymunedol yw'r popty a'r caffi hwn ym Melin Talgarth, adeilad o'r 19eg ganrif sydd newydd ei adnewyddu. Fe'i sefydlwyd ym mis Gorffennaf 2011 ac un o'i egwyddorion craidd yw defnyddio cynnyrch lleol. Mae'n gweini coffi a chacennau yn y bore a'r prynhawn, ac wedyn ciniawau ysgafn a pizzas o'r popty coed gan ddefnyddio blawd o'r felin drws nesaf ar gyfer ei fara a'i grwst. Daw'r cig, y caws a'r bwyd llysieuol gan gyflenwyr sydd o fewn wyth milltir i'r dref. www.talgarthmill.com/cafe/

Rhifyn 7, 2013

Ansawdd Cymru

26


Y Lle Gorau i Fwyta – Tafarn

Enillydd The Bell yn Ynysgynwraidd Mae'n llechu yng nghefn gwlad nefolaidd Sir Fynwy, wrth ymyl pont gefngrwm sy’n croesi afon hudol, nid nepell o gastell hynafol – felly pwy na fyddai'n gwirioni ar y syniad o aros yn y Bell yn Ynysgynwraidd a blasu ei bwyd hyfryd.

Mae'n anghysbell ond eto o fewn cyrraedd yn rhwydd, ac mae'r bwyty amheuthun a'r llety o safon hwn yn estyn croeso cynnes i ymwelwyr o bell ac agos ers 13 mlynedd. Yn ogystal â'r lleoliad rhyfeddol – yng nghanol caeau, ar lan Afon Mynwy, a thafliad carreg oddi wrth Gastell Ynysgynwraidd – mae'r bwyty 5 seren a'i llofftydd wedi meithrin enw da iddo'i hun am ei fwyd a'i restr gwinoedd “chwedlonol”, gan ennill nifer o wobrau o fri yn sgîl hynny, gan gynnwys Y Lle Gorau i Aros yng Nghymru, Tafarn Michelin y Flwyddyn, a Gwobr Win yr AA yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig drwyddi draw. Ar ôl mwynhau'r awyr iach wrth ddilyn un o'r troeon yng nghyffiniau'r dafarn (gallwch bicio i Loegr am dro bach os dymunwch chi – dwy wlad mewn un diwrnod!), mae

noson foethus yn eich disgwyl yn un o 11 ystafell wely'r Bell a'r rheini'n dwyn enwau sy'n ennyn chwilfrydedd mawr – fe all teithwyr o bell (mae ymwelwyr o America'n gyffredin) orffwys eu coesau a'u pennau blinedig yn Lough Arrow, Royal Wulff, Tups Indispensable, Whickham's Fancy, neu Heckham Peckham. Mae Janet Hutchins, sy'n gyd-berchen ar ^ William, yn y dafarn ac yn ei chadw gyda'i g wr, dweud bod y dewis o gynnyrch gwych sydd ar gael yn y cyffiniau'n anhygoel, ac mae'r prif gogydd, Kieran Gough, wrth ei fodd yn eu defnyddio i'r eithaf. “Y bwyd sy'n denu pobl – rydyn ni mewn ardal sydd wedi'i bendithio â chynnyrch lleol ardderchog – yn ffrwythau, yn gig ac yn llysiau. Rydyn ni'n enwi'n cyflenwyr ar ein bwydlenni, ac ar ein bwrdd cyflenwyr, sy'n rhestru enwau eu pentrefi lleol. A byddwn ni'n prynu'n

27

Ansawdd Cymru

cynnyrch yn ôl pa mor lleol yw'r cyflenwr ac ar sail ei ansawdd a chynaliadwyedd, nid ar sail pris. “Ar ben hyn, fe ddechreuon ni ein gardd gegin Fictoraidd enfawr ni'n hunain bum mlynedd yn ôl er mwyn lleihau'r milltiroedd bwyd eto fyth. Felly, fe allwn ni gael perlysiau ffres blasus, amrywiaeth dda o lysiau, dail salad, ffrwythau gwych y gwanwyn a'r haf a hel blodau i'w rhoi ar fyrddau'r bwyty – dim ond drwy gamu drwy'r drws cefn. “Mae wedi bod yn gymaint o lwyddiant, rydyn ni bellach wedi dechrau pesgi ein moch prin ni'n hunain ar gyfer cigoedd cartref a selsig yn ogystal ag ar gyfer cig rhost.” www.skenfrith.co.uk

cymru.gov.uk/twristiaeth


Hefyd ar y Brig The Stackpole Inn Bryn Tyrch Inn

The Stackpole Inn Mae'r Stackpole Inn yn manteisio i'r eithaf ar ei safle ar lwybr arfordir hyfryd Sir Benfro. Mae'r staff yn lleol ac wedi'u hyfforddi i roi cyfarwyddiadau a chyngor i bobl am deithiau cerdded lleol a mannau sydd o ddiddordeb. Fodd bynnag, ^ bod yr ardd gwrw ddeniadol, mae'n siwr powlenaid o gawl a pheint o gwrw Cymru a'r pwyslais ar fwyd da'n gyffredinol yn demtasiwn cryf i rywun aros yn y dafarn! www.stackpoleinn.co.uk

Bryn Tyrch Inn Ymrwymiad i goginio bwyd nad oes gan bobl yr amser i'w wneud gartref – er enghraifft confit o goes las neu gregyn gleision Afon Menai mewn dresin Thai – dyna sy'n gwneud y dafarn hon gyda llofftydd yng nghanol Eryri mor arbennig. Hynny, a'r ffaith ei bod yn mynnu defnyddio cynhwysion lleol a naturiol yn ei bwyd bistro o safon sydd wedi helpu'r Bryn Tyrch i droi'n dafarn Pedair Seren a hithau bum mlynedd yn ôl heb yr un. www.bryntyrchinn.co.uk

Rhifyn 7, 2013

Ansawdd Cymru

28


Y Lle Gorau i Fwyta – Bwyty – Bach

Enillydd Gwesty a Bwyty Gwledig Llansantffraed Court Gwesty gwledig mewn plasty rhestredig Gradd 2 ar 20 erw o dir ger y Fenni yw Llansantffraed Court. Mae’r perchennog, Mike Morgan a’i dîm yn cynnig gwasanaeth a gofal cwsmer o safon arbennig.

Mae’r bwyty wedi cael dwy rosette gan yr AA am 17 mlynedd yn olynol ac mae’r seler win wedi bod ar restr fer gwobr Rhestr Win y Flwyddyn yr AA am y saith mlynedd ddiwethaf. Mae tua 80% o gynnyrch y gegin yn dod o fewn 15 milltir i’r gwesty. Mae ffrwythau a llysiau’n cael eu tyfu yng ngardd furiog y gegin – mae yna 54 math o lysiau, 28 math o berlysiau a 22 math o ffrwythau’n tyfu yno. Mae’r ymrwymiad i fwydydd lleol i’w weld hefyd yn y fwydlen, lle nodir o ble mae’r bwyd yn dod. Yn aml, mae’r fwydlen yn newid ddwywaith y dydd er mwyn manteisio ar y cynnyrch ffres, a chesglir bwydydd gwyllt o'r ardal leol. Hefyd, mae yna fwydlen À La Carte, sy’n newid gyda’r tymhorau, lle gall y cwsmeriaid ddewis un cwrs yn unig os dyna’u dymuniad. Cynigir dwy fwydlen flasu 6 a 9 chwrs er mwyn arrdangos holl sgiliau'r cogyddion a chynnyrch gwych Sir Fynwy. Os oes unrhyw fwyd dros ben o’r ardd, mae’n cael ei werthu, ynghyd â marmalêd, jamiau, siytnis, cyffeithiau a phiclau a wneir yn y bwyty. “Mae ein cwsmeriaid yn ymwybodol o bwysigrwydd ‘milltiroedd bwyd’ a bod bwyd lleol yn beth da – felly rydyn ni’n rhoi digonedd o wybodaeth iddynt am ein polisi prynu bwyd,” meddai Mike Morgan.

“Mae'n bleser pur gallu cynnig cynhwysion sydd wedi teithio rhai metrau, heb sôn am filltiroedd! Mae ein cogydd yn gwneud arddangosiadau mewn digwyddiadau a gwyliau lleol ac yn gweithio gydag ysgol gynradd leol i ddangos bwyd iach go iawn i'r plant. Hefyd, rydyn ni’n cynnal nosweithiau blasu gwin gyda chynnyrch o Sir Fynwy i fynd gyda’r gwin. Rydyn ni'n cymryd brecwast o ddifrif; er enghraifft mae'r selsig yn cael eu creu i'n rysait arbennig ein hunain ac mae gennym eog afon Gwy wedi'i fygu, wyau wedi'u sgramblo, bacwn wedi'i halltu'n sych a dau sudd afal gwahanol o berllannau cyfagos. Mae’r gefnogaeth i fusnesau lleol yn amlwg hefyd yn y lluniau a’r gweithiau celf sydd i’w gweld drwy’r bwyty a’r gwesty. Mae llawer ohonynt gan artistiaid lleol a gall pobl eu prynu. Er yr holl lwyddiant, mae Mike Morgan yn dweud bod y busnes am barhau i wella: “Mae gennyn ni ganiatâd cynllunio am ysgol goginio, lle bwyta mwy anffurfiol fel ‘brasserie’ a phedair ystafell wely ychwanegol,” meddai.

29

Ansawdd Cymru

www.llch.co.uk

cymru.gov.uk/twristiaeth


Hefyd ar y Brig Gwesty a Bwyty’r Falcondale

Gwesty a Bwyty’r Falcondale Prynodd Chris a Lisa Hutton Westy a Bwyty’r Falcondale ym mis Awst 2000. Maent wedi ailwampio’r tu fewn i safon uchel iawn yn ogystal â gwella’r gerddi a’r coetir gerllaw. Yn 2007, cafodd y bwyty ddwy rosette gan yr AA ac mae wedi llwyddo i’w cadw bob blwyddyn ers hynny. Mae’r rhan fwyaf o fwyd y bwyty yn dod oddi wrth gyflenwyr a chynhyrchwyr yn siroedd Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro. Mae’r fwydlen yn rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid o ran o ble y daw’r bwyd ac mae’r staff sy’n gweini hefyd yn wybodus am y bwyd ac yn fwy na pharod i esbonio o ble y daw. Mae bwydlen y Falcondale yn ddwyieithog hefyd ac maent wrthi’n paratoi gwefan ddwyieithog. Mae Chris a Lisa a’r tîm yn ceisio sicrhau nad yw’r bwyd y maent yn ei ddefnyddio wedi teithio o bell ac mae cynllun gwledig wedi’i ddatblygu, sy’n cynnwys gwaith i ddatblygu gardd berlysiau. www.thefalcondale.co.uk

Rhifyn 7, 2013

Ansawdd Cymru

30


Y Lle Gorau i Fwyta – Bwyty – Mawr

Enillydd Bwyty ‘Signatures’ ^ Jimmy, y cogydd, eu bwyty ‘Signatures’ bron Pan agorodd Louise Williams a’i gwr bum mlynedd yn ôl, doedd dim syniad ganddynt pa mor boblogaidd fyddai’r lle! Mae’n rhan o Le Gwyliau a Spa Aberconwy ac mae’n fwyty o safon uchel iawn sy’n llwyddo i gyfuno steil dinesig ac awyrgylch cartrefol Cymreig.

O fewn tair blynedd i agor, roedden nhw yn y ‘Michelin Guide’ a bellach mae’n un o’r bwytai mwyaf poblogaidd yn yr ardal. Mae popeth wedi’i ysbrydoli gan dreftadaeth Gymreig y cwpwl a’r diwylliant sydd o’u hamgylch. Mae lleoliad hyfryd y bwyty’n cyd-fynd yn wych â’r fwydlen – mae pryd o fwyd da yn bownd o gyd-fynd â golygfeydd o Eryri a Phen y Gogarth! Mae’r cig, llysiau a physgod oll yn dod o’r cyflenwyr lleol gorau – mae hyd yn oed y gwinoedd yn rhai lleol! Mae llawer o’r staff yn medru’r Gymraeg ac mae’r bwyty’n hollol hygyrch i bobl mewn cadair olwyn. Mae’r bwyty’n denu cwsmeriaid ychwanegol drwy amrywiaeth o weithgareddau hyrwyddo a nosweithiau thema yn ogystal â Chlwb y Signature, sydd â mwy na 3,000 o aelodau bellach. Mae’r Clwb yn cynnig prisiau rhatach a chynigion diddorol bob mis. Mae’r cogydd, Jimmy, hefyd yn fwy na pharod i sgwrsio â’r cwsmeriaid gan ddysgu am yr hyn sy’n plesio’n arw a’r pethau llai

poblogaidd er mwyn gallu newid y fwydlen yn unol â hynny. Ymhlith y prydau sy’n tynnu dwr ^ i’r dannedd mae confit bacwn gyda phwdin gwaed cartref ar wely o stwnsh ffa gwynion gydag wy ^ sofliar wedi’i ferwi’n feddal a saws Hollandaise; neu beth am un o ffefrynnau’r cogydd – brest colomen ar stwnsh tatw melys gyda gnocchi a selsig sbeislyd. Dywedodd Louise: “Mae’n hollbwysig fod y cwsmer yn fodlon. Rydym yn ceisio gwella o hyd a deall yr hyn mae ein cwsmeriaid eisiau. Rydym yn gofyn barn y cwsmer yn aml. Mae’r gegin fel theatr fach – gall y cwsmeriaid wylio’r bwyd yn cael ei goginio! Mae gennym ni ffurflenni bach i gael barn y cwsmeriaid ac rydyn ni’n annog pobl i roi eu barn ar wefan Trip Advisor ac ar ein tudalen Facebook – mae barn y bobl yn hollbwysig!”

31

Ansawdd Cymru

www.signaturesrestaurant.co.uk

cymru.gov.uk/twristiaeth


Hefyd ar y Brig Bwyty’r Grove

Bwyty’r Grove Mae bwydlenni creadigol Bwyty’r Grove yn cyd-fynd yn berffaith â’r ystafelloedd moethus yn y gwesty gwledig hwn ar gyrion Arberth. Mae’r perchnogion Neil Kedward a Zoe Agar wedi ymrwymo i ddarparu bwyd o’r safon uchaf. Maent yn defnyddio cynhwysion cynaliadwy a, phan fo hynny’n bosibl, cynnyrch lleol; pethau fel cig oen o forfa leol, porc o Fferm Yeberston dair milltir i ffwrdd a physgod gan bysgotwyr lleol ynghyd â llysiau a pherlysiau ffres o ardd gegin y Grove (caiff ei alw’n ‘ardd gegin’, ond mae’n 2 erw o faint!) a mêl hyfryd o gychod gwenyn y bwyty. Maent hefyd yn arddangos celf a chrefft lleol, gan gynnwys gweithiau gan artistiaid lleol megis John Knapp Fisher a Gillian McDonald. www.thegrove-narberth.co.uk

Rhifyn 7, 2013

Ansawdd Cymru

32


dylanthomas100.org @dylanthomas_100

CELEBRATE THE

2014 CENTENARY OF WALES’

GREATEST POET _

YN 2014 DATHLWCH

GANMLWYDDIANT GENI

BARDD GORAU CYMRU


Croeso Canolbarth Cymru â–Ş Visit Mid Wales

www.visitmidwales.co.uk


Twristiaeth Ranbarthol – RHanbarth y Brifddinas

Enillydd Welsh Whisky Company Mae Canolfan Ymwelwyr Distyllfa Penderyn yn rhan o'r Welsh Whisky Company, cartref Wisgi Penderyn – yr unig wisgi brag sengl sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru.

Nod y teithiau tywys a gynhelir unwaith yr awr, saith niwrnod yr wythnos, yw addysgu ymwelwyr am hen gelfyddyd distyllu, gan egluro sut mae'r ffordd y gwneir whisgi yng Nghymru'n wahanol i'r ffordd mae'n cael ei wneud gan gynhyrchwyr mawr eraill yn yr Alban, Iwerddon a chan ddiwydiant bourbon Kentucky. Ar y teithiau hefyd, sonnir am hanes ^ gwneud wisgi yng Nghymru, pwysigrwydd dwr a choed ar gyfer ei aeddfedu, a bydd cyfle i weld y ddistyllfa ar waith (gan gynnwys y llinell botelu) a blasu cynnyrch Penderyn. Yn ogystal, mae yno siop sy'n gwerthu cynnyrch Penderyn ac amrywiaeth o gynhyrchion a llyfrau lleol. I'r rheini sy'n gwirioni ar wisgi, mae'r Ganolfan Ymwelwyr hefyd yn cynnig Dosbarthiadau Meistr am wisgi bron bob penwythnos o'r flwyddyn. Buddsoddwyd £850,000 yn y ganolfan ymwelwyr a godwyd at y diben ac fe enillodd honno Wobr Pensaernïaeth Ranbarthol gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain yn 2009. Mae'r Ddistyllfa mewn dwylo preifat a ffactor sydd wedi cyfrannu'n sylweddol at ei llwyddiant yw bod y bobl sy'n gyfrifol amdani'n teimlo mor angerddol am y lle. Mae'r angerdd hwn i'w weld yn y ffordd y darperir y teithiau tywys ac mae'n cael ei adlewyrchu hefyd yn ymateb cynnes, cadarnhaol yr ymwelwyr.

Ym mhob rhan o'r ganolfan, mae'r ymdeimlad o le'n amlwg iawn, o ddelwedd y brand sydd wedi'i seilio ar y geiriau Cymraeg ‘Aur Cymru’ drwodd i'r llu o nwyddau arbennig a gynhyrchwyd i ddathlu diwrnodau o fri yng Nghymru, megis digwyddiadau hanesyddol, Campau Llawn ac, yn fwy diweddar, dyrchafiad clybiau pêl-droed Caerdydd ac Abertawe i'r Uwch Gynghrair. Er mwyn sicrhau bod ymwelwyr yn cael yr ymweliad gorau posibl, mae staff y Ganolfan yn Genhadon Twristiaeth Gymunedol sydd wedi'u hyfforddi ac yn wybodus iawn am yr ardal leol. Er mai atyniad i oedolion yn bennaf yw'r ddistyllfa, fe neilltuir cyfnodau arbennig yn y dyddiadur ar gyfer ymweliadau gan ysgolion, colegau a grwpiau sy'n ei chael hi'n anodd clywed neu sydd â nam ar eu golwg. Mae nifer yr ymwelwyr tramor yn cynyddu'n gyson ac fe ddarperir teithiau mewn Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Lithwaneg a Rwsieg, yn ogystal ag yn yr ieithoedd cenedlaethol. Fe lansiwyd Wisgi Penderyn ar Ddydd ^ Dewi 2004 ac mae wedi cael ei ganmol Gwyl gan arbenigwyr o fri a chan gwsmeriaid cyffredin hefyd.

35

Ansawdd Cymru

www.welsh-whisky.co.uk

cymru.gov.uk/twristiaeth


Hefyd ar y Brig Profiad Doctor Who

Profiad Doctor Who Agorodd Profiad Doctor Who ym Mae Caerdydd yn 2012 a th卯m Digwyddiadau Byw BBC Worldwide sy'n gyfrifol amdano. Nid yw ond lathenni oddi wrth stiwdios y BBC ym Mhorth y Rhath lle y cynhyrchir y gyfres deledu. Mae'r atyniad yn cynnig ffordd unigryw i mewn i fydysawd Doctor Who. Bydd yr elw a gynhyrchir gan y Profiad yn cael ei fuddsoddi yn 么l i gynhyrchu'r rhaglen. Drwy ddefnyddio ffilm 3D, ffilmio darnau arbennig gyda chymeriadau allweddol Doctor Who ac effeithiau theatrig, bydd ymwelwyr yn sicr o gael eu tywys ar antur gyffrous. I'r rhai sy'n gwirioni ar Doctor Who, mae 'na arddangosfa fanwl hefyd o wisgoedd a chymeriadau. www.doctorwhoexperience.com

Rhifyn 7, 2013

Ansawdd Cymru

36


Twristiaeth Ranbarthol – Y De–Orllewin

Enillydd Dan yr Ogof – Canolfan Ogofâu Arddangos Cenedlaethol Cymru Dathlodd Dan yr Ogof ei ganmlwyddiant yn 2012, a theulu sy’n berchen ar y cwmni preifat hwn. Disgynyddion ydyn nhw i'r brodyr Morgan – ffermwyr a fforwyr cyntaf yr Ogofâu Arddangos.

Cafodd yr ogofâu eu dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac fe gyflogir 12 aelod o staff amser llawn a hyd at 50 o staff rhan-amser yno yn ystod y misoedd prysur. Yn ddiweddar, fe osodwyd offer trydan ^ 67kw gan ddefnyddio'r dwr ^ o'r Ogofâu dwr Arddangos, sydd wedyn yn dychwelyd i Afon Llynfell. Drwy ddefnyddio banc o baneli haul hefyd, llwyddir i gynhyrchu digon o drydan i'r safle fod yn hunangynhaliol ac yn garbon niwtral.

Mae'r cwmni hefyd wedi plannu 80,000 o goed llydanddail yn ddiweddar, ac yn ystod eu hoes o 100 mlynedd bydd y rhain yn cipio dros 80,000 tunnell o garbon deuocsid. Adeiladwyd llynnoedd mawr hefyd i gynyddu nifer yr adar gwlypdir ac fe blannwyd planhigion a blodau gwylltion. Mae defnyddio'r Gymraeg yn rhan bwysig o brofiad yr ymwelydd. Mae nifer o'r staff yn medru'r Gymraeg ac fe ddefnyddir yr iaith yn y sylwebaeth sain sydd ar gael i ymwelwyr. Mae'r atyniad yn cefnogi’r gymuned leol yn frwd a phobl leol yw'r rhan fwyaf o'i staff. Mae'n gweithio'n glos gyda'r ysgolion uwchradd lleol sy'n gallu darparu'r rhan fwyaf o'r gweithwyr rhan-amser – a bydd llawer o'r rheini'n mynd yn eu blaen i ddatblygu eu gyrfa yn y diwydiant twristiaeth. A dweud y gwir, pobl leol yw pedwar o gyfarwyddwyr yr Ogofâu Arddangos ac fe ddechreuon nhw weithio yno mewn swyddi rhan-amser. Buddsoddi'n rheolaidd, brwdfrydedd ac ymrwymiad i geisio gwella profiad yr ymwelydd o hyd – dyna'r allwedd i lwyddiant tymor hir yr Ogofâu Arddangos. Dywedodd James Price, y cyfarwyddwr: “Mae'r Ogofâu Arddangos newydd gael eu hailoleuo'n llwyr, gan agor ardaloedd newydd i'r ymwelydd eu harchwilio – ac rydym wedi defnyddio'r math diweddaraf o lampau sodiwm, sy'n defnyddio llai o ynni, yn Ogof

37

Ansawdd Cymru

yr Eglwys Gadeiriol. Mae gennym 10 profiad gwahanol i'w cynnig i ymwelwyr ac, yn ogystal â'r ogofâu, mae gennym dros 220 o fodelau maint llawn o ddinosoriaid ar y safle. Er mwyn ymateb i ddisgwyliadau cwsmeriaid a darganfyddiadau gwyddonol, bydd y modelau hyn yn cael eu hailasesu'n gyson gan ychwanegu atynt yn ôl y gofyn. Ni yw un o Barciau Dinosoriaid mwya'r byd.” “Yn ein Canolfan Ceffylau Gwedd, rydym yn datblygu rhaglen fridio: mae hyn wedi cael dylanwad da ar linellau bridio Ceffylau Gwedd ac rydym hefyd wedi cyflwyno ebolion ar ein safle – sy'n ychwanegiad poblogaidd iawn gyda'n hymwelwyr. Rydym yn gobeithio hyfforddi Ceffylau Gwedd i weithio ar ffermydd ac mewn coedwigoedd.” Mae Dan yr Ogof yn llwyddo i gysylltu'r gorffennol a'r presennol ac mae bob tro'n awyddus i goleddu technoleg newydd. Mae model dehongli wrthi'n cael ei baratoi ar gyfer y safle i'w ddefnyddio ar iPhones ac ar lechi ac mae codau QR wrthi'n cael eu cyflwyno i alluogi ymwelwyr i gysylltu â gwefannau ac â'r cyfryngau cymdeithasol yn rhwydd.

www.showcaves.co.uk

cymru.gov.uk/twristiaeth


Hefyd ar y Brig Ty^ Gwledig Llwyn Helyg

T^y Gwledig Llwyn Helyg Dim ond ar ddechrau 2013 yr agorwyd Llwyn Helyg yn ffurfiol i westeion ond mae eisoes wedi cael 5 seren gan Croeso Cymru a chan yr AA. Nod y perchnogion, Caron a Fiona Jones yw cynnig cyrchfan nid yn unig i dwristiaid rheolaidd, ond hefyd i'r rheini sy'n caru cerddoriaeth a'r celfyddydau. Gwely a Brecwast gwahanol iawn yw hwn – mae yma 'ystafell wrando' arbennig sy'n gartref i'r system HiFi fwyaf a mwyaf egsotig yn y wlad a honno ar gael i westeion. Cynhelir nosweithiau cerddorol a gwyliau byr ar themâu cerddorol yn rheolaidd. Hefyd, mae yma ystafell driniaeth sydd a'r holl gyfarpar angenrheidiol ac mae Fiona'n therapydd holistig a chlinigol cymwysedig. www.llwynhelygcountryhouse.co.uk

Rhifyn 7, 2013

Ansawdd Cymru

38


Twristiaeth Ranbarthol – Y Canolbarth

Enillydd Y Talbot

Mae’r Talbot wedi bod yng nghanol Tregaron ers mwy na 250 o flynyddoedd. Mae wedi’i ailwampio cryn dipyn, ond mae’r dafarn yn parhau’n un draddodiadol – gyda bwyd a diod da a llety croesawgar. Tafarn y porthmyn oedd yr adeilad rhestredig gradd 2 hwn yn wreiddiol ac mae’n parhau i fod yn lle poblogaidd gyda phobl leol ac ymwelwyr. Mae’r bwyd a weinir yn cael ei goginio’n ffres gan ddefnyddio cynhwysion lleol blasus. Mae’r cwrw a seidr sydd ar gael tu ôl i’r bar yn dod o fragdai sydd o fewn 40 milltir i’r Talbot. Enillodd y dafarn wobr Tafarn y Flwyddyn CAMRA ar gyfer Gorllewin Cymru yn 2012 ac mae yn y ‘Good Beer Guide’ a’r ‘AA Pub Guide’. Mae’r ymrwymiad i gynnyrch lleol yn bwysig iawn i’r perchennog, Michael Taylor, a’i dîm. Maent yn cadw mewn cysylltiad â chyflenwyr lleol er mwyn sicrhau cynhwysion da – mae’r rhan fwyaf o’r cig yn dod o ffermydd, marchnadoedd a chigyddion lleol, o fewn 5 milltir i’r dref. Mae gan westeion y

dewis o fwyta naill ai yn y dafarn glyd neu yn y bwyty – ‘Y Long Room’. Mae yna sawl ardal fach gyhoeddus – yn ogystal â’r dafarn hanesyddol a’r bwyty, mae yna stydi a lolfa. Mae yna fwy o seddi cyfforddus y tu allan ar y teras yn yr ardd gwrw. Mae storfa feics ac ystafell sychu yn golygu bod y gwesty’n lle cyfforddus i westeion beth bynnag yw’r tywydd. Mae’r gwaith ailwampio hefyd wedi bod yn gyfle i wella hygyrchedd yr adeilad. Mae’r Talbot yn frwd iawn o blaid y Gymraeg. Mae arwyddion, gwefan a holl ddeunydd marchnata’r dafarn yn ddwyieithog. Mae’r dafarn hefyd yn chwarae ei rhan drwy annog gweithwyr di-Gymraeg i ddysgu’r iaith a thrwy drefnu dosbarthiadau Cymraeg wythnosol a chynnal digwyddiadau Cymraeg i glybiau a chymdeithasau lleol yn rheolaidd.

39

Ansawdd Cymru

www.ytalbot.com

cymru.gov.uk/twristiaeth


Hefyd ar y Brig Bwlch Nant yr Arian

Bwlch Nant yr Arian Mae canolfan ymwelwyr coedwig Bwlch Nant yr Arian yn rhan o Gyfoeth Naturiol Cymru sy'n rheoli Ystâd Coetiroedd Llywodraeth Cymru ar ran pobl y wlad. Rhai o'r gweithgareddau ar y safle yw llwybr cylch i bobl o bob gallu, bwydo’r barcud coch, dau lwybr gwych wedi’u harwyddo, mannau chwarae i blant o wahanol oed, llwybrau beicio mynydd sydd gyda'r gorau yn y byd, cwrs cyfeiriannu a chalendr o ddigwyddiadau tymhorol i'r cyhoedd. Yn y ganolfan ymwelwyr, mae 'na gaffi sy'n gweini cynnyrch lleol ac iach a siop anrhegion sy'n gwerthu amrywiaeth o nwyddau lleol. Y datblygiad mwyaf diweddar yw'r siop a'r ddesg wybodaeth yn y ganolfan ymwelwyr. Rydym wedi datblygu Y Siop i arddangos rhai o'r cynhyrchion gorau sydd gan yr ardal i'w cynnig. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth helaeth o fwyd a diod lleol. www.forestry.gov.uk/bwlchnantyrarian

Rhifyn 7, 2013

Ansawdd Cymru

40


Twristiaeth Ranbarthol – Y Gogledd

Enillydd Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri Gyda’i gilydd mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri’n 40 milltir o hyd – y rheilffordd dreftadaeth hiraf ym Mhrydain. Mae’r rheilffordd yn cyflogi 85 o bobl yn llawn-amser ac mae 1,000 arall yn gwirfoddoli i gadw’r trenau i fynd!

Mae lein Ffestiniog yn mynd â theithwyr ar siwrnai 13 milltir a hanner o hyd o’r harbwr ym Mhorthmadog i dref chwarel Blaenau Ffestiniog. Mae’r rheilffordd hon wedi bod yn gweithredu ers y 1830au. Mae Rheilffordd Eryri’n fwy newydd; cafod ei hailagor yn 2011. Mae’r trenau’n cychwyn ar eu taith 25 milltir o orsaf nepell o Gastell Caernarfon. Mae’r trenau, sy’n cael eu tynnu gan injans stêm mwyaf pwerus y byd ar drac cul, yn dringo o lefel y môr i dros 650 troedfedd ar droedfryniau’r Wyddfa. Yna, mae’n igam-ogamu ei ffordd i lawr y bryniau serth i gyrraedd Beddgelert, yng nghalon y Parc Cenedlaethol, ac yna drwy Fwlch Aberglaslyn ac ymlaen i Borthmadog. Treuliwyd mwy na 10 mlynedd yn ail-greu’r rheilffordd, ar gost o £28 miliwn.

Casglwyd y rhan helaeth o’r arian hwn yn wirfoddol gan ychwanegu at tua £12.5 miliwn o gyllid grant a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, yr Undeb Ewropeaidd a Chronfa Loteri’r Mileniwm. Y canlyniad oedd ailsefydlu rheilffordd a oedd wedi’i cholli ers 70 mlynedd ac mae’n profi’n fwyfwy poblogaidd gydag ymwelwyr o bob cwr o’r byd. Ac nid yw wedi golygu llai o gwsmeriaid i Reilffordd Ffestiniog chwaith – mae’r ddwy lein wedi gallu manteisio ar y diddordeb mawr sydd yn y prosiect, sef y mwyaf o’i fath ym Mhrydain. Mae tua 300,000 o deithwyr y flwyddyn yn mynd ar y ddwy lein, gan fwynhau’r golygfeydd yn ardal harddaf Cymru. Mae’r cwmni wedi ymroi i hyrwyddo treftadaeth Cymru a defnyddir cynnyrch lleol gymaint â

41

Ansawdd Cymru

phosib yn y caffis, y bariau ac ar y trenau eu hunain. Mae llawer o’r staff yn siarad Cymraeg ac mae’r cwmni’n glynu’n dynn at ei bolisi iaith Gymraeg, gan sicrhau bod llawer iawn o’i ddeunydd marchnata a deunydd arall yn cael eu darparu’n ddwyieithog. Mae’r holl beth, sy’n rhwydwaith tipyn o faint, yn fuddiol iawn i’r ardal. Mae ymchwil gan Brifysgol Bangor yn dangos bod y cwmni’n cynhyrchu £25 miliwn y flwyddyn ac yn sicrhau 400 o swyddi i ardal Gwynedd.

www.festrail.co.uk

cymru.gov.uk/twristiaeth


Hefyd ar y Brig Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru Agorodd Amgueddfa Lechi Cymru, yr unig amgueddfa lechi yn y byd, ym 1972, dair blynedd ar ôl cau Chwarel Lechi Dinorwig. Yng ngweithdai peirianneg Fictoraidd y Chwarel y mae’r amgueddfa wedi’i lleoli – mae’n lleoliad dramatig sydd hefyd yn gartref i swyddfeydd Amgueddfa Cymru. Yng nghanol Parc Gwledig Padarn, Llanberis, mae’r amgueddfa’n denu dros 140,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Er ei bod yn amgueddfa genedlaethol, sy’n adrodd hanes y diwydiant llechi yng Nghymru, mae ganddi hefyd stori leol iawn i’w hadrodd – stori Chwarel Dinorwig, y chwarelwyr, a thrigolion Llanberis a'r cymunedau cyfagos. www.amgueddfacymru.ac.uk

Rhifyn 7, 2013

Ansawdd Cymru

42



Designated as a UNESCO World Heritage Site in 2009

11-Miles of historic canal

stretching through outstanding scenery in North Wales Mae’n and into the Shropshire Borderlands

bleser gan Grŵp Llandrillo Menai noddi Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2013. Mae’n holl ddarpariaeth twristiaeth yn canolbwyntio ar feithrin gwybodaeth, sgiliau a chyflogadwyedd ein dysgwyr er mwyn bodloni anghenion cyflogwyr yn lleol, yn rhanbarthol a thu hwnt. Caiff y Grŵp, mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, ei gydnabod yn ddarparwr sy’n arwain ym maes hyfforddiant proffesiynol tywys twristiaid yn y DU.

Proud to be part of the

O gyrsiauTourism lefel mynediad i raddau anrhydedd, nod y Grŵp yw troi National Awards dyheadau ein dysgwyr yn realiti.

for Wales 2013

\Pontcysyllte.Aqueduct

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch @Pontcysyllte â Nia Jones, Rheolwr Maes www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk Rhaglen Teithio a Thwristiaeth drwy ffonio 01492 546 666 est. 249 neu anfonwch e-bost i n.jones@gllm.ac.uk

Cafodd ei ddynodi’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn 2009

11-Milltir o gamlas hanesyddol

sy’n ymestyn drwy olygfeydd godidog yng Ngogledd Cymru a ffin Sir Amwythig

Yn falch o fod yn rhan o Wobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2013 \Pontcysyllte.Aqueduct

www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk

@Pontcysyllte


Gwobr Gweithredwr Busnes Twristiaeth

Enillydd Gwesty Radisson Blu, Caerdydd Mae Gwesty Radisson Blu yng Nghaerdydd yn rhan o gadwyn genedlaethol ond mae wedi bwrw gwreiddiau yng Nghymru yn llwyddiannus iawn dros y pedair blynedd diwethaf.

Mae'r gwesty pedair seren, 215 ystafell hwn yng nghanol y ddinas yn cael ei reoli gan ^ Gwestai Carlson Rezidor, a dyma'r Grwp Gwesty Radisson Blu cyntaf i ddod i Gymru. Fe'i hagorwyd ym mis Ionawr 2011, a dyma'r gwesty uchaf yng Nghaerdydd gyda 21 o loriau. Mae'n cynnig golygfeydd panoramig o ganol y ddinas, y Bae ac ar draws Môr Hafren. Mae darpariaeth dda i westeion busnes hefyd, gan fod yno chwech ystafell gyfarfod hyblyg o'r math diweddaraf a chyfleusterau ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau i hyd at 300 o bobl. Mae'r gwesty wedi gweithio'n galed i feithrin perthynas gref ac ystyrlon â busnesau, elusennau, cyrff twristiaeth, y cyfryngau, llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru ers iddo gyhoeddi ei fwriad i agor lle yng Nghaerdydd yn 2009. Mae gan y staff berthynas glos â Rhwydwaith Twristiaeth Caerdydd, ac maen nhw'n cefnogi ei ddigwyddiadau ac yn croesawu cynrychiolwyr a gwesteion busnes

y sefydliad sydd wedi teithio o'r tu allan i Gymru i ymweld â Chaerdydd. Mae'r un peth yn wir am eu perthynas â Croeso Cymru. Mae'r gwesty wedi croesawu trefnwyr teithiau o dramor sydd ar ymweliad cynefino gan helpu i hyrwyddo Caerdydd a De Cymru'n gyrchfan i dwristiaid. Yn lleol, mae gan Westy Radisson Blu gytundeb masnachol â Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, sy'n golygu mai dyma ddewis westy'r Clwb. Mae'n croesawu cynrychiolwyr y Clwb yn ystod gemau gartref ac yn rhoi cynigion a gostyngiadau arbennig i gefnogwyr drwy gydol y tymor. I ddathlu dyrchafiad diweddar y Clwb i'r Uwch Gynghrair, comisiynodd y gwesty artist bwyd Britain's Got Talent, Nathan Wyburn, i greu portreadau pizza o'r perchennog Vincent Tan, y rheolwr Malky Mackay a'r capten Mark Hudson. Mae'r gwesty wedi ymuno droeon â Chanolfan Siopa Dewi Sant mewn cydfentrau i gefnogi ei chalendr digwyddiadau blynyddol

45

Ansawdd Cymru

ac mae'n yn ymwneud â nifer o elusennau lleol gan gynnwys Barnardo's Cymru a Variety Wales. Mewn digwyddiad diweddar i gefnogi Apêl Arch Noah, helpwyd i godi dros £10,000 at yr achos da hwn. Ac os oedd angen rhagor o brawf o ymrwymiad y gwesty i Gymru, mae modd gweld hynny, wrth gwrs, yn y bwydydd a'r diodydd y mae'n eu gweini. Defnyddir cynnyrch o Gymru lle bo modd yn ei fwyty Eidalaidd, ac yn ddiweddar mae wedi partneru â Chwmni Bragu Otley, brand o gwrw llawn steil gan fragdy annibynnol ym Mhontypridd. I lansio'r bartneriaeth hon, cynhaliodd y gwesty noson paru cwrw a bwyd a daeth cyn chwaraewyr rygbi, blogwyr bwyd, newyddiadurwyr a gwesteion corfforaethol i’r achlysur.

www.radissonblu.co.uk/hotel-cardiff

cymru.gov.uk/twristiaeth


Hefyd ar y Brig Venue Cymru Bluestone National Park Resort

Bluestone National Park Resort Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Bluestone wedi tyfu a datblygu'n gyrchfan ac atyniad pwysig i dwristiaid yng Nghymru, ond mae'n dal yn ymfalchĂŻo yn y ffaith mai busnes lleol ydyw. Mae'r gymuned leol a rhanbarthol lle mae'n gweithredu'n hollbwysig i'r busnes, o gyflogaeth a chaffael, i ddarparu gwasanaethau gwerthfawr i'r gymuned leol eu mwynhau ac fe anogir y 400 o staff sy'n gweithio yno ar lefel broffesiynol a phersonol i fod yn rhan o'r gymuned o safbwynt cymdeithasol, elusennol ac wrth eu gwaith. www.bluestonewales.com

Venue Cymru Mae Venue Cymru'n ganolfan ers tro ar gyfer cynnal digwyddiadau yn Llandudno. Er hynny, mae'n sylweddoli ei bod yn rhaid iddi dyfu, datblygu ac arallgyfeirio er mwyn aros yn gryf ac yn gyfoes mewn cyfnod economaidd anodd. Yn ogystal â buddsoddi miliynau yn y cyfleusterau dros y blynyddoedd, maen nhw bellach wedi dechrau trefnu digwyddiadau, gwyliau a sioeau masnach eu hunain, gan gynnig gwasanaethau i'r farchnad busnesau twristiaeth, a darparu gwasanaeth cofrestru ar gyfer digwyddiadau mewn mannau eraill fel ffordd o ddatblygu'r busnes. www.venuecymru.co.uk

Rhifyn 7, 2013

Ansawdd Cymru

46


Entrepreneur Ifanc ym maes Twristiaeth

Enillydd Phil Scott a Tom Ashwell, RibRide Dau beth sy'n nodweddu gwaith yr entrepreneuriaid Phil Scott a Tom Ashwell wrth iddynt ddatblygu eu busnes hynod lwyddiannus ac egnïol ar Ynys Môn sef y ffordd y maen nhw'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol a'u hymrwymiad angerddol i greu cysylltiad â busnesau lleol eraill er mwyn cryfhau'r hyn sydd ganddyn nhw i'w gynnig.

Mae'r ddau'n gyfrifol am RibRide, sy'n mynd â dros 5,000 o bobl y flwyddyn ar deithiau cwch antur ar Afon Menai o leoliadau o gwmpas y gogledd mewn cychod chwyth cryf o safon. “Fe ddechreuon ni ym mis Mehefin 2005 gydag un cwch ail law, ychydig o daflenni a dim syniad a fyddai neb yn dod yno neu beidio,” dyna yw atgof Phil. “Fe dreulion ni'n haf cyntaf gan mwyaf yn eistedd ar y doc yn aros ac yn bachu ambell un diniwed a oedd yn cerdded heibio. “A ninnau bellach yn 2013, mae gennyn ni fflyd o bedwar o gychod newydd, dwy iard gychod parcio-a-lansio, pum aelod o staff amser llawn, dau o staff rhan amser a hyd at 10 o weithwyr hunangyflogedig sy'n cludo cleientiaid hapus drwy'r flwyddyn gron.” Felly sut mae RibRide wedi llwyddo gymaint? “Mae ein teithiau'n rhoi golwg ar hanes, cymdeithas, daearyddiaeth a bioleg yr ardal, gan weithio gyda'r gymuned leol a busnesau sy'n bartneriaid inni,” meddai Phil. “Er enghraifft, fe wnaethon ni greu rhaglen Bwyd Môr Cynaliadwy ar gyfer cogyddion dan hyfforddiant The Oyster Catcher, sef bwyty lleol sy'n darparu rhaglen hyfforddi cogyddion i bobl ifanc ddi-fraint. Mewn partneriaeth â Sw Môr Môn, bwyty Bwyd Môr Dylan's a Menter

Môn, fe ddangoson ni i'r bobl ifanc beth sy'n cael ei dynnu o'r môr, a sut mae modd ei ddefnyddio mewn ffordd gynaliadwy.” Mae mentrau fel hyn – byddan nhw hefyd yn cynnig llefydd am ddim i staff busnesau lleol, a theithiau'n wobrau i rafflau cymunedol – yn gwella delwedd RibRide yn fawr ymhlith busnesau lleol a'r gymuned ehangach. Mae'r ewyllys da sy'n cael ei greu'n rhan fawr o'u llwyddiant. Mae rôl y cyfryngau cymdeithasol yn bwysig hefyd. Ddechrau 2011, agorodd RibRide safle Facebook, gan fuddsoddi mewn camerâu ac offer fideo i'r cychod. Fe weithiodd hyn yn wych – dechreuodd cwsmeriaid lwytho delweddau ohonyn nhw'u hunain yn cael môr o hwyl i'r wefan. “Byddwn yn cael cannoedd o sylwadau gwych ar Facebook, ac mae ein hadolygiadau ar Trip Advisor yn ein rhoi ar frig teithiau tywys Gogledd Cymru,” meddai Phil. “Fel busnes, rydyn ni'n canolbwyntio ar ragori ar ddisgwyliadau ein cleientiaid bob tro, a gweithio gyda phobl eraill yw'r allwedd i'n llwyddiant tymor hir. Byddwch yn sicr ynghylch eich busnes eich hun, ac wedyn estynnwch allan i weld sut y gallwch chi fod o fudd i bobl eraill, ac fe gewch fwy na dwywaith yr ewyllys da yn ôl.”

47

Ansawdd Cymru

www.ribride.co.uk

cymru.gov.uk/twristiaeth


Hefyd ar y Brig Jethro Moore – Adventure Beyond Ryan Davies – Gwinllan Llanerch

Ryan Davies – Gwinllan Llanerch

Jethro Moore – Adventure Beyond Sefydlodd Jethro Moore Adventure Beyond 15 mlynedd yn ôl yn Llandysul “oherwydd doedd 'na ddim byd arall yn cael ei gynnig”, ac mae wedi adeiladu cwmni hynod lwyddiannus sy'n cynnig ^ rafftio dwr ^ gweithgareddau lumegis canwio, gwyn, cerdded y bryniau ac arforgampau, a hynny yng Ngorllewin Cymru ac ym mhob cwr o'r Deyrnas Unedig. Gan weithio gyda hyd at 30 o staff yn y tymor brig, mae Jethro a'i dîm yn ceisio trosglwyddo'u gwybodaeth i gleientiaid am yr amgylchedd, y dreftadaeth, fflora a ffawna, yn ogystal â sicrhau eu bod yn cael amser da. www.adventurebeyond.co.uk

Rhifyn 7, 2013

Ansawdd Cymru

Brwdfrydedd pur sydd wedi sbarduno Ryan Davies ers i'r cyn beiriannydd geodechnegol fentro a phrynu Gwinllan Llanerch ddwy flynedd yn ôl. Mae gan y gwesty bach moethus sydd wedi cael gradd 5 seren gan Croeso Cymru a'r AA 10 o lofftydd, bistro a bwyty a la carte, ysgol goginio sy'n cael ei chynnal gan Angela Gray a siop rhoddion. “Mae'n waith caled, ond rwy wrth fy modd. Bydda i'n deffro bob dydd yn llawn cyffro – mae 'na ryw her o hyd,” meddai. www.llanerch-vineyard.co.uk

48


Technoleg mewn Twristiaeth

Enillydd Arforgampau Celtic Quest

Drwy gynnig arforgampau i bobl o bob oed a gallu mae Celtic Quest wedi gwneud antur “eithafol” yn rhywbeth torfol, gan alluogi pobl i gymryd rhan mewn gweithgaredd sy'n rhoi rhuthr o adrenalin iddynt, a hynny ar lefel ac ar gyflymder sy'n addas ar eu cyfer. Mae'r perchennog Cleopatra Browne a'i thîm yn teimlo'n angerddol am eu gwaith ac am Gymru, ac maen nhw wrth eu bodd yn cael dangos i'w llu o ymwelwyr rai o dirweddau harddaf a mwyaf dramatig y byd wrth iddynt blymio, sleifio a llithro drwy ddyfroedd glannau Sir Benfro. Mae dros 80 y cant o gleientiaid Celtic Quest yn dod o'r tu allan i Gymru; gan gynnwys o Loegr, o Ewrop, o'r Unol Daleithiau, o Awstralia ac o Seland Newydd. Mae ymgyrchoedd marchnata'r cwmni'n cyfeirio ymwelwyr at ei wefan. Y bwriad gwreiddiol oedd mai taflen ar-lein fyddai hon, ond erbyn hyn mae wedi datblygu o'i bum tudalen gychwynnol ac wedi troi'n arf mawr rhyngweithiol sy'n llawn gwybodaeth. Gan goleddu'r tueddiadau diweddaraf megis codau QR a'r cyfryngau cymdeithasol, mae Celtic Quest wedi gweld cynnydd yn nifer y defnyddwyr ffonau symudol sy'n ymweld â'r wefan ac erbyn hyn, dyna yw oddeutu traean yr holl ymweliadau. Gan fod effaith weledol y gweithgareddau y mae'r cwmni'n eu cynnig mor gryf,

mae'n gwneud ymdrech fawr i farchnata ar Facebook, Twitter, YouTube a Flickr. Drwy ddefnyddio camerâu sy'n gallu ^ a Macbook Pro pan fyddan gwrthsefyll dwr nhw allan, gall Cleopatra a'i thîm bostio amrywiaeth o ddelweddau ar y wefan yn y fan a'r lle gan roi lluniau trawiadol i'w cleientiaid i'w hatgoffa am byth am eu hantur. Yn ôl ym mis Ionawr 2012, aeth Celtic Quest ati i gynllunio cod QR syml a oedd yn cyfeirio'r defnyddiwr at fideos YouTube. Fe alwyd yr ymgyrch yn 'Marchnata Gorila' ac fe ddefnyddiwyd y cyfryngau cymdeithasol i greu cryn sbloet. Wedi'u harfogi â channoedd o sticeri cod QR, ac wedi'u gwisgo fel gorilas, aeth Cleopatra a'i thîm ar grwydr o gwmpas strydoedd Sir Benfro, gan ymweld â channoedd o leoliadau. Roedd yr ymgyrch mor llwyddiannus nes bod codau QR bellach ar eu holl ddeunyddiau marchnata, a'r rheini'n cynnwys dolen at fideo. Fel y dywed Cleo: “Rhyw ddiwrnod, Celtic Quest fydd Coca Cola arforgampau!” Allwn ni ddim aros.

49

Ansawdd Cymru

www.celticquestcoasteering.com

cymru.gov.uk/twristiaeth


Hefyd ar y Brig The Celtic Manor Your Tourism Community Limited

Your Tourism Community Limited Mae Your Tourism Community (YTC) wedi ymrwymo i greu arfau marchnata i bartneriaethau twristiaeth ar-lein. Y prosiect diweddaraf yw TiM – system creu mapiau twristiaeth, sy'n galluogi busnesau twristiaeth i hyrwyddo'u hunain a busnesau eraill sy'n gweithredu yn yr un ardal. Mae'r cwmni'n credu mewn datblygu meddalwedd sy'n hawdd ei ddefnyddio – ac un nad yw'n dibynnu ar sgiliau TG y defnyddiwr er mwyn bod yn ddefnyddiol. Mae TiM yn gweithio ar ffonau symudol ac mae dros 50% o’r sawl sy’n ei ddefnyddio’n gwneud hynny ar ddyfeisiau o'r fath. Mae'r tîm yn YTC wedi cael cymorth gan Raglen Busnesau Twristiaeth Digidol Croeso Cymru. www.timwales.co.uk

Rhifyn 7, 2013

The Celtic Manor Gwesty Hamdden pum seren y Celtic Manor oedd lleoliad Cwpan Ryder yn 2010 ac mae'n sefyll yng nghanol dros 2,000 erw o barcdir panoramig yn y porth i Gymru yng Nghwm Wysg ger Casnewydd. Mae yma ddau westy – Gwesty Hamdden moethus â 330 o lofftydd a maenordy hanesyddol o'r 19eg ganrif sydd a 70 o lofftydd – tri chwrs golff ar gyfer pencampwriaethau, dau sba a chlwb iechyd, chwe bwyty, cyfleusterau pysgota, golff antur, cwrs rhaffau ar frig y coed, cyrtiau tenis, llwybrau beicio mynydd a cherdded. Felly mae Gwesty Hamdden y Celtic Manor yn cynnig profiad cyflawn i deithwyr busnes a hamdden. Anogir cwsmeriaid i gynnig adborth drwy holiaduron, rhai electronig ac ar bapur. Gadewir holiadur ym mhob ystafell wely ac fe anogir gwesteion hefyd i roi eu hadborth drwy negeseuon e-bost ar ôl iddynt aros yno. Gall ymwelwyr sy'n defnyddio'r bwytai hefyd gynnig sylwadau wrth y bwrdd drwy ddefnyddio'r llechi iPad a ddarperir. www.celtic-manor.com

Ansawdd Cymru

50


Gwobr llwyddiant eithriadol

Enillydd Gordon Green / Green Events Ltd Ddiwedd y 1970au, roedd y diwydiant merlota, conglfaen economi twristiaeth leol ardal Llanwrtyd yn y Canolbarth, yn dirywio'n ddychrynllyd. ^ o bobl fusnes leol at ei gilydd Daeth grwp i wneud rhywbeth ynghylch y peth – ac un o'r rhain oedd Gordon Green, perchennog Gwesty'r Neuadd Arms yn y dref ar y pryd. Byddai'r digwyddiadau hynod, od a difyr a drefnwyd ganddo ef a'i gyfeillion yn gwbl wahanol i unrhyw beth arall, ac yn newid byd yr ardal a hefyd y ffordd yr oedd yn cael ei gweld gan bobl. Mae hynny'n dal yn wir hyd heddiw. Eu syniad gwych oedd trefnu cyfres o ddigwyddiadau chwinclyd, anghyffredin a fyddai'n wir yn rhoi Llanwrtyd ar y map. Felly, cynhaliwyd y Marathon Dyn yn erbyn Ceffyl cyntaf erioed yn 1982, gan ddilyn hynny gyda Theithiau Cerdded Pedwar Diwrnod Rhyngwladol Cymru yn 1981, a Theithiau Cerdded y Porthmyn yn 1982. Wrth i bobl eraill fynd a dod, aeth Gordon a'i ffrind Ron Skilton rhagddynt i greu a threfnu gwahanol ddigwyddiadau dros y blynyddoedd – cyfanswm o dri ar ddeg o ddigwyddiadau anghyffredin nad oedden nhw'n rhan o'r “brif ffrwd” ac fe ddaeth y rhain yn rhan o gymeriad Llanwrtyd, gan gynnwys y gystadleuaeth honno sydd bellach yn eiconig, sef snorclo mewn cors (a snorclo mewn cors ar feic mynydd), sboncio cerrig a rasio cerbydau rhyfel – ar feiciau. Wrth i'r digwyddiadau fynd yn fwy ^ poblogaidd a thyfu, ffurfiolwyd y grwp anffurfiol o wirfoddolwyr pan aeth Gordon ati i helpu i sefydlu Green Events Limited yn 2001

yn gwmni dielw. Mae Green Events wedi tyfu wrth i'r digwyddiadau fynd yn fwy poblogaidd, ac erbyn heddiw mae gwahanol grwpiau o wirfoddolwyr lleol yn rheoli'r gwahanol ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn. Yn 2009, rhoddodd Gordon y gorau i fod yn gadeirydd Green Events, ond ni fu'n absennol am hir. Pan gyhoeddwyd y byddai Llundain yn croesawu'r Gemau Olympaidd yn 2012, penderfynwyd y dylai Llanwrtyd gynnal ei fersiwn hi ei hun o'r Gemau i ddathlu amrywiaeth o gampau gwahanol a disylw iawn, er bod y cystadleuwyr yr un mor ymroddedig i'w campau anghyffredin ag yr oedd eu cymheiriaid Olympaidd. Daeth Gordon Green i'r adwy, ac ailymunodd â’r pwyllgor trefnu gan sicrhau bod Gemau Amgen y Byd yn cael eu cynnal yn 2012 – mae eisoes yn gweithio ar raglen 2014. Ac yntau'n ddyn sydd wedi rhoi cymaint o'i amser personol dros flynyddoedd lawer i hyrwyddo Llanwrtyd a Chymru fel cyrchfan sy’n cynnal digwyddiadau, mae'n gwbl deilwng o'r Wobr Llwyddiant Eithriadol.

51

Ansawdd Cymru

www.green-events.co.uk

cymru.gov.uk/twristiaeth


Holistic_Advert_Welsh_PR.pdf

C

M

Y

CM

MY

CY

CMY

K

1

17/09/2013

14:35


cymru.gov.uk/twristiaeth


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.