Wales View Cymru 2014

Page 1

Golwg ar Gymru alesView

14 2014

Arfordir a Chefn Gwlad: traethau wedi’u gwobrwyo a rhaeadrau mynyddig Hanes dwy ddinas: arweiniad i Abertawe a Chaerdydd gan bobl leol Chris Packham: clodfori rhyfeddodau naturiol Cymru Cae chwarae llawn antur: beicio mynydd yng Nghymru Matthew Rhys: dathlu bywyd Dylan Thomas

A gwybodaeth am deithio a gwyliau –– cymru.visitwales.co.uk


Er ei bod yn rhan mor fechan o’r blaned, mae ‘na gryn lawer i’w weld ac i’w wneud yng Nghymru. Rydyn ni’n hoffi diddanu ein hunain, gyda gwyliau, dathliadau a chwaraeon cystadleuol. Fe allwch weld hyn ym mrwdfrydedd naturiol pobl Cymru. Rydyn ni’n defnyddio’r wlad fel ein cae chwarae. Mae’n cynnig bwyd arbennig i ni ac yn ein hysbrydoli i greu celf a llenyddiaeth gwych. Mae Cymru yn wlad fodern, amrywiol gydag etifeddiaeth wych i bawb ei mwynhau; ac edrychwn ymlaen at gael rhannu’r profiadau cofiadwy yma â chi.

Clawr blaen ^ Rhosili, Penrhyn Gwyr Y dudalen hon Sied Ysgrifennu Dylan Thomas, y Ty^ Cwch, Talacharn

Y dudalen gyferbyn, o’r top i’r gwaelod Matthew Rhys Ynys Skomer, Sir Benfro Oriel Mission, Abertawe Castell Conwy, Conwy Parc Coedwig Afan Cynnyrch Cymreig


Cynnwys 2

Dylan Thomas Yr actor Matthew Rhys yn trafod un o feirdd amlycaf Cymru, gan gychwyn blwyddyn o ddathliadau canmlwyddiant yn 2014.

2 6

Cymru yn y ffilmiau

Ewch i weld y llecynnau a ddenodd Johnny Depp, Keira Knightley a Dobby, Harri Potter i Gymru.

8

8

Arfordir a chefn gwlad

Y cyflwynydd teledu ar y BBC, Chris Packham yn trafod bywyd gwyllt Cymru, gyda’n canllaw i’w gerddi, traethau, ynysoedd a rhaeadrau gwych.

20

20 Hanes dwy ddinas Yr athletwr cadair olwyn rhyngwladol a’r cyflwynydd teledu Liam Holt yn archwilio’r atyniadau i ymwelwyr yng Nghaerdydd ac Abertawe.

40

26 I’r dre Dathlu trefi marchnad hanesyddol Cymru.

28 Dyddiadur digwyddiadau Pam na wnewch chi archebu eich gwyliau yng Nghymru o gwmpas un o’r digwyddiadau cyffrous sy’n digwydd yma yn 2014?

46 54 Ni all Croeso Cymru warantu cywirdeb na dibynadwyedd y wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn ac felly maent yn ymwadu o unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw wall, esgeulustod neu gam-gynrychioli. I’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith eithrir pob atebolrwydd am golled, siom, esgeulustod neu niwed arall a achosir trwy ddibynnu ar y wybodaeth yn y canllaw hwn. Cynghorir chi i wirio’r holl fanylion a’r wybodaeth gyda’r busnesau dan sylw cyn cadarnhau eich archeb. Cedwir pob hawl. Rhaid peidio ag atgynhyrchu’r deunydd sydd yn y cyhoeddiad hwn heb ganiatâd gan berchnogion yr hawlfraint – cysylltwch â Croeso Cymru. Nid yw’r farn a fynegir yn Golwg ar Gymru o angenrheidrwydd yn farn Croeso Cymru.

42 Gwlad y chwedlau Storïau hudolus o bob rhan o Gymru, yn cynnwys amrywiaeth o ddreigiau, angenfilod a thylwyth teg.

44 Cysylltiadau brenhinol Dilynwch yn ôl troed y teulu brenhinol ar hyd y canrifoedd ac fe’ch arweinir i Ynys Môn yn y pen draw, cyn gartref y Tywysog William a Kate.

46 Beicio mynydd Darganfyddwch pam bod Cymru erbyn hyn yn gyrchfan amlwg i feicwyr mynydd o bob rhan o’r byd.

50 Adrenalin yn llifo yng Nghymru

Cyfrannwr ieuengaf Golwg ar Gymru yn sôn am y teimlad o hedfan 500 troedfedd (152 metr) yn yr awyr ar hyd gwifren zip hiraf Ewrop.

54

Bwyd a diod Os byddwch chi’n chwilota neu’n gwledda, mae’r cynnyrch naturiol sy’n cael ei dyfu yng Nghymru yn ddigymar o ran ffresni a blas.

60 Mwydo mewn

moethusrwydd

Dewch yn eich blaen, sbwyliwch eich hun...

40 Cestyll Cymru

62 Gwybodaeth hanfodol

Arweiniad i dynnu dwr ^ o’r dannedd i’r 641 o gestyll hanesyddol sydd gennym yng Nghymru.

Gwybodaeth teithio, arweiniad i ardaloedd Cymru.

Cyhoeddir Golwg ar Gymru gan Croeso Cymru, adran Dwristiaeth a Marchnata Llywodraeth Cymru ©2014. Croeso Cymru, Llywodraeth Cymru, Canolfan QED, Prif Rodfa, Ystâd Ddiwydiannol Trefforest, Trefforest, Pontypridd CF37 5YR (WG18041) Golygyddion sy’n Rheoli Iestyn George a Charles Williams. Dyluniwyd gan Croeso Cymru. Argraffwyd gan MWL Print Group. ISBN Print: 978 1 4734 0425 0 ISBN Digidol: 978 1 4734 0417 5

65

Map o Gymru

Ffotograffiaeth: Hawlfraint y goron (2013) Croeso Cymru. Ffotograffiaeth Ychwanegol: Bwyd Cymru Bodnant, Celtic Manor Resort, Grace Elliott, David Frost, Getty Images, Steve Hartley/ CBMWC, Charles Hawes, Gweldd Conwy Feast, Ian Jones, Rainy Day Films, Steve Read, Kiran Ridley, Lee Miller Archives, S4C, Nick Treharne, Universal Studios, Wales Screen Commission, Wright’s Independent Food Emporium, Ynys-Hir RSPB.

Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael hefyd mewn Braille, print bras, a/neu ffurf sain gan Croeso Cymru.

info@visitwales.co.uk Argraffwyd ar bapur wedi ei ailgylchu

Dyfyniad ar y clawr ôl: O Idyll of Unforgetfulness gan Dylan Thomas – © Yr Ymddiriedolwyr dros hawlfraint Dylan Thomas, 1929.

Hawlfraint y goron (2013) Croeso Cymru.

cymru.visitwales.co.uk

1


Bod yn

Dylan

Felly pam bod Dylan Thomas mor bwysig i Gymru? Pwy well i’w holi na Matthew Rhys, yr actor o Gaerdydd a fu’n actio’r bardd bywiog mor wych yn ‘The Edge of Love’. Cyfweliad gan Charles Williams

Prif lun Matthew Rhys fel Dylan Thomas yn ‘The Edge of Love’ Gyferbyn, yn nhrefn y cloc o’r chwith uchaf Matthew Rhys a Sienna Miller yn ‘The Edge of Love’ Sienna Miller a Keira Knightley yn ffilmio yng Nghymru Ffrindiau Gorau Matthew Rhys ac Ioan Gruffudd

2

cymru.visitwales.co.uk

A

r fore dydd Sul mae lonciwr mewn dillad duon yn cyrraedd drws golygyddion Golwg ar Gymru. Mae’r lonciwr yn tynnu’r cap oddi am ei ben ac mae mop cyrliog yn neidio ohono, a gwên lydan heb fod ymhell oddi tano. ‘Dwi di bod ar hyd Llwybr y Taf,’ byrlyma Matthew Rhys, sydd newydd fod yn rhedeg ar hyd y llwybr hir sy’n mynd hyd gyrion y faestref yng Nghaerdydd lle’i ganed. ‘Dwi wrth fy modd hefo fo, dwi’n rhedeg ar ei hyd pryd bynnag y byddai gartre.’ Yn 39 mlwydd oed, mae’n byrlymu o iechyd a hapusrwydd. Mae’n bresenoldeb hyfryd, sy’n creu egni, gan siarad yn gyflym yn ei lais bariton melfedaidd. Wrth siarad mae’n taflu dynwarediadau ac acenion i mewn i’w frawddegau am ddim (llawer ohonyn nhw’n Americanaidd, ^ yn achos dyna lle mae o’n byw r wan, Los Angeles). Mae’n chwerthin, llawer. Nid yw Matthew Rhys yn un o’r actorion dioddefus hynny, mae’n amlwg. ‘Mae bywyd yn dda,’ mae’n cytuno. Ar hyn o bryd mae’n seren yn un o gyfresi teledu mwyaf y byd, ‘The Americans’, ac

mae’n actio ysbïwr KGB Sofietaidd sy’n byw bodolaeth lawn arswyd dan gochl yn Washington DC yn ystod y Rhyfel Oer. Ond wedyn, nid yw hynny hanner mor frawychus ag actio Dylan Thomas. Matthew oedd yn actio’r bardd eiconig yn ‘The Edge of Love’, rhan oedd yn gofyn iddo fod yn un traean o driongl cariad gyda dwy o’r sêr ffilm Prydeinig harddaf, Keira Knightley a Sienna Miller. Gwaith anodd? Oedd, a deud y gwir. ‘Roedd gen i ofn ofnadwy’ meddai Matthew. ‘Mae gan bawb yng Nghymru’r ymdeimlad cryf iawn yma o bwy ddylai Dylan fod. Ond does ‘na ddim darnau ffilm ohono, dim ond recordiadau o’i lais. Felly does ‘na neb yn ei adnabod go iawn. Pan oeddwn i’n ymchwilio i’r rhan, fe wnes i geisio darllen cymaint o ddisgrifiadau ohono ag y gallwn i, i drio cael delwedd ohono. Fe fues i’n siarad hefo’i ferch, Aeronwy hefyd, a roddodd rai awgrymiadau i mi. Fe ddywedodd hi, ‘Roedd ei ddwylo fel dau bysgodyn marw,’ ac roeddwn yn meddwl bod hynny’n wych’.


Celfyddyd a diwylliant Dylan Thomas

Fel actor, mae dawn goeth Dylan gyda geiriau wedi rhyfeddu Matthew. Ond ydio’n meddwl hefyd y byddai’r bardd yn foi difyr i rannu peint hefo fo? ‘A dweud y gwir, ydw, ond o’r hyn dwi wedi ei ddarllen, doedd pawb oedd yn ei gyfarfod ddim yn ei hoffi. Roedd ganddo’r ffraethineb, a’r tywyllwch Cymreig hollbresennol, ac ychydig iawn o amynedd.’ Felly pam ei fod o’n parhau’n ffigwr mor eiconig yng Nghymru? ‘Oo, ryden ni wrth ein bodd gyda’n archeteips yng Nghymru,’ meddai Matthew. ‘Yr yfwr mawr, y carwr, y boi da i ddim. Roedd delwedd Dylan yn gweddu i’r dim. Ac roedd yn amharchus mewn cyfnod pan nad oeddech chi i fod felly, yr 1950au. Dio ddim yn y DNA Cymreig mewn gwirionedd. Ychydig iawn o rai sy’n codi helynt sydd gennym ni, ond roedd Dylan yn codi dau fys ar bopeth ac yn byw’r

‘Roeddwn yn benderfynol o gael noson wirioneddol Gymreig, felly mi es i dros ben llestri o twee a dod o hyd i’r dafarn ^ wych ‘ma yn Aberaeron a chael gr wp gwerin i mewn,’ meddai Matthew. ‘Yr hyn oedd yn rhoi mwyaf o bleser oedd cymaint yr oedden nhw’n hoffi’r peth. Roedd y merched [Knightley a Miller] wrth eu boddau yng Nghymru, roedden nhw’n dweud, “ O, mae’n rhaid i ni symud yma!” Petaen nhw wedi gwneud, fyddai dwy o actoresau harddaf y byd ddim wedi effeithio dim ar y ffermwyr lleol, yn ôl Matthew. Yn sicr roedd cysylltiadau ffermio Matthew yn gwneud dipyn mwy o argraff na’i actio arnyn nhw. ‘Fe ddywedodd un ffarmwr wrthai, “Dwi’n gwybod pwy wyt ti. Ti’n gefnder i Kevin Evans yn dwyti? Mae o’n cadw rhyw fil o erwau lan tua Aberystwyth, yndyw e? Llaethdy perffaith ganddo fe....”

‘Fe wnaeth Dylan fyw’r bywyd yr oedd am ei fyw, ar ei delerau ei hun. Mae hynny’n cael ei edmygu yn dawel bach yn y capeli.’ bywyd yr oedd yn ei ddymuno. Roedd Richard Burton yn union yr un fath. Roedden nhw’n byw eu bywydau ar eu telerau eu hunain. Yn psyche ein cenedl, mae hynny’n cael ei edmygu yn dawel bach yn y capeli.’ Rhyw ychydig o godi helynt oedd yn ystod ffilmio ‘The Edge of Love’, a ffilmiwyd ar leoliad yng Ngorllewin Cymru, ardal hynafiaid Matthew ei hun.

Mae’n nodwedd Gymreig iawn – y duedd i beidio â gwirioni – fydd hynny byth yn peidio â gwneud i Matthew wenu, hyd yn oed pan fydd yn gweld ochr arall y peth...sydd yn digwydd, bob tro y bydd yn dod adref ac yn mynd i’r dafarn gyda’i ffrindiau ysgol. ‘Maen nhw’n teimlo bod dyletswydd arnyn nhw i sicrhau na fydda’i fyth yn breuddwydio codi fy hun yn uwch na’m lle, y dylwn i

i Magwyd Matthew Rhys yng Nghaerdydd, lle’r oedd ei ddau riant yn athrawon. Fe aeth i’r un ysgol Gymraeg â’i ffrind gorau Ioan Gruffudd, ac fe wnaeth y ddau hyfforddi gyda’i gilydd yn RADA. Enillodd glod yn y gyfres deledu Americanaidd ‘Brothers & Sisters’ ac ar hyn o bryd mae’n ymddangos yn y gyfres am ysbiwyr ‘The Americans’. Mae ei waith llwyfan yn cynnwys ‘The Graduate’ gyda Kathleen Turner, nifer o gynyrchiadau gan y Royal Shakespeare Company, a pherfformiad diweddar o Look Back In Anger yn Efrog Newydd.

cymru.visitwales.co.uk

3


gael fy rhoi yn fy lle – neu’n is, i wneud ^ yn hollol siwr. Mae o bron fel “hazing”, fel maen nhw’n ei ddweud yn America. Mae’n rhaid i chi fynd trwy’r 15 munud cyntaf yn y dafarn pan fyddwch chi’n cael eich tynnu’n ddarnau, ac wedyn fe allwch chi symud ymlaen i holi hanes pawb.’ Mynychodd Matthew ei ysgol uwchradd Gymraeg leol yng Nghaerdydd, lle’r oedd flwyddyn yn iau na’i ffrind gorau, yr actor Ioan Gruffudd. Roedd y ddau yn mynd i’r un capel, ac yn cystadlu yn yr un eisteddfod ysgol, y mae pob plentyn yng Nghymru bron – yn arbennig y rhai mewn ysgolion Cymraeg – yn cymryd rhan ynddyn nhw. ‘Rydyn ni’n cael ein taflu ar y llwyfan, neu i bulpud, yn ifanc iawn,’ dywedodd Matthew. ‘Doeddwn i ddim bob amser yn hoffi hynny yn blentyn, ond pan fyddwch chi’n edrych yn ôl, mae’n rhyfeddol. Mae’r lefel yna o ddathlu diwylliant, gyda’r ymdeimlad o draddodiad a hanes – yn wych, cyn belled â’i fod yn dal i ddatblygu. A hyd yn oed os byddwch chi’n casáu bod ar y llwyfan, yn rhywle yn eich psyche fe fydd yn eich helpu. Mae’n rhoi hwb i hyder a gwaith tîm, sy’n swnio fel ystrydeb gorfforaethol, ond dwi wirioneddol yn credu hynny.’ Dilynodd Matthew daith Ioan Gruffudd i’r Royal Academy of Dramatic Art (RADA), profiad fu’n amhrisiadwy ac yn rhyfeddol o galed i’r ddau. Tra roedd eu ffrindiau yn y prifysgolion yn ymddangos fel petaent yn byw bywydau o ryddid gwyllt, roedd RADA yn chwe diwrnod caled o waith yr wythnos, a nosweithiau hir o ddysgu llinellau.

4

cymru.visitwales.co.uk

Mae Matthew yn byw yn Los Angeles erbyn hyn, ac mae’n rhan o lwyth cyfan o actorion o Gymru sy’n cynnwys Ioan Gruffudd, Michael Sheen, Andrew Howard a Catherine Zeta Jones. ^ mwy eto ‘Fe wnes i ddarganfod gr wp o Gymry yno yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad,’ dywedodd Matthew. ‘Mae ‘na dafarn yn Santa Monica o’r enw King’s Head sy’n dangos y gemau yn fyw, tua hanner awr wedi pump y bore fel arfer. Dwi’n cofio cerdded i mewn ac mae ‘na fôr o goch, ac yn sydyn mae yno gymuned Gymreig barod. Yn rhyfedd iawn mae ‘na lawer iawn o fechgyn o Ferthyr Tudful yno yn adeiladu.’ Mae Cymreigrwydd – a’r iaith Gymraeg yn arbennig – yn ganolog i gymeriad Matthew. A dyna pam, ar y penwythnos rhydd gwerthfawr hwn yng Nghaerdydd, nad yw’n gwrthod helpu ... trwy agor gwyliau mawr ar eiliad o rybudd, er enghraifft, fel y gwnaeth y diwrnod ^ Gymraeg Tafwyl. cynt yn yr Wyl ‘Dwi’n barod iawn i helpu lle gallai,’ dywedodd Matthew. ‘Y Gymraeg yw fy iaith gyntaf, dyna fyddai’n ei siarad hefo’r teulu a ffrindiau fel Ioan. Ond pryd bynnag y byddai’n gwneud rhywbeth fel ^ mae wastad rhywun siarad mewn g wyl, yn y cefn y byddai’n ei adnabod, un o’m ffrindiau ysgol, sy’n dal fy llygad ac yn gwneud hyn...’ Yna mae Matthew yn dynwared cyfres o arwyddion gwych o anllad na ellir, diolch byth, eu hailadrodd mewn print. ‘Y Cymry yn fy rhoi yn ôl yn fy lle.’ Mae’n chwerthin eto. ‘Mae’n digwydd trwy’r amser!’

r

‘In Country Sleep’: ble i aros ar daith Dylan Thomas

Gwesty Browns, Talacharn Mae hoff gyrchfan Dylan wedi ei adfer a’i ail-eni fel gwesty bwtîc sy’n gyforiog o swyn. browns-hotel.co.uk 1 Coastguard Cottage, Rhosili Daeth Dylan a’i ffrindiau ysgol i wersylla yma, ond fe allwch chi aros yn y bwthyn yma gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. nationaltrustcottages.co.uk Quay West, Ceinewydd Mae’r parc carafannau hwn ar ben y clogwyn yn cynnig golygfeydd bendigedig o’r dref a ysbrydolodd Dylan i ysgrifennu ‘Under Milk Wood’. haven.com Trehyddion Barns, Sir Gaerfyrddin Treuliai Dylan Thomas ei wyliau haf ar ffermydd fel hyn, gyda thraeth tywodlyd a chastell Llansteffan ar drothwy’r drws. trehyddionbarns.com Ty^ Mawr, ger Aberaeron Wrth ffilmio ‘The Edge of Love’ roedd y sêr yn aros yn y maenordy Sioraidd hyfryd hwn yn nyffryn Aeron. tymawrmansion.co.uk

Uchod o’r chwith Castell Talacharn Gwesty Browns, Talacharn Talacharn Dylan Thomas


Celfyddyd a diwylliant Dylan Thomas

Dylan Thomas 100

Mae Dylan Thomas yn un o feirdd a llenorion amlycaf Cymru. I nodi canmlwyddiant ^ 100 Dylan geni Dylan, mewn t^y bychan yn Abertawe yn 1914, mae Gwyl Thomas yn ddathliad o’i fywyd a’i waith am flwyddyn gyfan. Tywysog Cymru ^ sydd wedi ymuno yn ysbryd yr wyl ^ trwy recordio yw Noddwr Brenhinol yr wyl, darlleniad arbennig o’i hoff gerdd gan Dylan Thomas, ‘Fern Hill’. Mae cannoedd o ddigwyddiadau, yma ac o gwmpas y byd. Dyma i chi ychydig o’r uchafbwyntiau, ond edrychwch ar y wefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf: dylanthomas100.org

Ty^ Cwch Dylan Thomas

Odyssey Dylan

^r Mae cartref hyfryd y bardd ar ymyl y dw yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ^ 100 Dylan a darlleniadau trwy gydol Gwyl Thomas. Chwiliwch am sied ysgrifennu Dylan hefyd wrth iddi deithio’r wlad. Trwy’r flwyddyn, Talacharn a mannau eraill ar draws Cymru dylanthomasboathouse.com

Bydd y gyfres hon o ddigwyddiadau twristiaeth llenyddol yn dilyn ôl troed Dylan yng Nghymru, Rhydychen ac Efrog Newydd. Byddant yn cynnwys ceufadu, teithiau mewn trap a cheffyl, cerddoriaeth jazz, Barddoniaeth ‘beat’, a chwmni awduron cyfoes fel Owen Sheers a Gillian Clarke. Mai – Medi, Cymru ac ar draws y byd literaturewales.org/a-dylan-odyssey/

Arddangosfa Peter Blake: Llareggub

Arddangosfa Dylan Thomas

^ Gwyl Abertawe i Gerdd a Chelfyddydau

^ yl flynyddol yn cynnwys y Mae’r w perfformiad cyntaf yng Nghymru o ‘A Dylan Thomas Trilogy’ gan John Corigliano, a’r perfformiad cyntaf yn y byd o ‘Three Images from Dylan Thomas’ Karl Jenkins gyda Cherddorfa Ffilharmonig Genedlaethol Rwsia. 4 – 18 Hydref, Abertawe swanseafestival.org ^ Gwyl Dylan Thomas

Mae’r arlunydd pop uchel ei barch, Peter Blake, yn angerddol am ddrama Dylan i leisiau ‘Under Milk Wood’, ac mae’r sioe hon yn cynnwys portreadau o bob un o’r 60 o gymeriadau, ac mae sawl collage yn darlunio pentref dychmygol Llareggub. Hyd 16 Mawrth yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd amgueddfacymru.ac.uk/cy/Caerdydd

Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru arddangosfa fawr o’i harchif o ddeunyddiau Dylan Thomas, sy’n cynnwys eitemau personol unigryw, ynghyd ag eitemau sydd ar ymweliad o’r Unol Daleithiau. 28 Mehefin – 20 Rhagfyr, Aberystwyth llgc.org.uk

^ yl flynyddol hon, a gynhelir dros Yr w bythefnos lawn digwyddiadau, yw canolbwynt y dathliadau trwy’r flwyddyn sy’n llunio Dylan Thomas 100. 27 Hydref – 9 Tachwedd, Abertawe dylanthomas.com

Penwythnosau Talacharn

Lleisiau/Voices

Tri phenwythnos yn Nhalacharn yn dathlu bywyd a gwaith Dylan Thomas, pob un ar thema sy’n adleisio hoff ffurfiau celfyddyd Dylan – yr union fath o ddigwyddiadau y byddai Dylan ei hun wedi eu mwynhau. Bydd Barddoniaeth a Bywgraffiadau, dan ofal Patti Smith a Simon Armitage (11 – 13 Ebrill), Comedi a Radio, dan ofal Robin Ince a Stuart Maconie (19 – 21 Medi), a Cherddoriaeth a Ffilm, dan ofal Richard James ac Euros Childs (26 – 28 Medi). Talacharn dylanthomas100.org

Bydd y digwyddiad byw, rhyngwladol hwn yn dathlu hanes traddodiadau llafar. Fe’i cyflwynir yn y Chapter yng Nghaerdydd, gyda llif byw o Westy Browns yn Nhalacharn a’r Chelsea Hotel yn Efrog Newydd. 20 Medi , Canolfan Chapter, Caerdydd chapter.org

Bydd addasiad Michael Bogdanov o’r stori glasurol yn cael ei pherfformio gan Gwmni Theatr Cymru mewn theatrau trwy Gymru. Tachwedd a Rhagfyr, ledled Cymru thewalestheatrecompany.com

‘A Child’s Christmas in Wales’

‘Dylan Thomas 100 yw’r ffordd berffaith o gyflwyno lleoliadau a chymeriadau ym marddoniaeth a rhyddiaith fy nhaid, ac i bobl ddarganfod pam bod y pentrefi a threfi glan môr llawn cymeriad wedi ei ysbrydoli ^ gymaint. Rwy’n gobeithio y bydd yr wyl yn tanio cariad at eiriau mewn cenhedlaeth newydd ac yn gadael etifeddiaeth barhaol i Gymru.’ Hannah Ellis, noddwraig er anrhydedd ac wyres Dylan Thomas

cymru.visitwales.co.uk

5


Weithiau bydd sêr Hollywood hyd yn oed yn gorfod bod yn ail i’r golygfeydd. Mae Cymru wedi bod yn lleoliad ar gyfer cannoedd o ffilmiau. Yma rydyn ni’n talu teyrnged i’n perfformiadau mwyaf trawiadol.

Dŵr duwiol!

6

cymru.visitwales.co.uk

Ar lan y môr...

Roedd Matthew Rhys yn ffilmio ‘The Edge of Love’ (2008) mewn nifer o leoliadau o gwmpas Gorllewin Cymru, yng Nghei Newydd yn fwyaf arbennig. Y dref lan môr hyfryd hon a ysbrydolodd glasur Dylan Thomas, ‘Under Milk Wood’, er i’r fersiwn ffilm yn 1972, gyda Richard Burton yn serennu, gael ei ffilmio i lawr yr arfordir yn Abergwaun, ac yno y ffilmiwyd yr enwog ‘Moby Dick’ yn 1955 hefyd. discoverceredigion.co.uk visitpembrokeshire.com pembrokeshirecoast.org.uk

Yn y ffilm o 2012 ‘The Dark Knight Rises’, mae ogof yr ystlumddyn wedi ei chuddio tu ôl i’r llen 88 troedfedd (27 metr) o ^ byrlymus a elwir yn Sgwd Henrhyd, ddwr yr uchaf o ddwsinau o raeadrau yn rhan orllewinol Bannau Brycheiniog. midwalesmyway.com breconbeacons.org

Cod ‘Dai’ Vinci

Mae Parc Margam yn barc gwledig 850 erw gyda’i abaty ei hun o’r 12fed ganrif a phlasty Neo-gothig. Bydd hefyd yn ddarn o Tysgani heulog y Dadeni – pan fyddan nhw’n ffilmio’r ddrama o’r UDA ‘Da Vinci’s Demons’. visitswanseabay.com


Celfyddyd a diwylliant Cymru yn y Ffilmiau

O Hollywood i Gelyn Prif lun Freshwater West, Sir Benfro, lleoliad Shell Cottage yn ‘Harry Potter and the Deathly Hallows’ Trwyddedig Gan: Warner Bros. Entertainment Inc. Cedwir Pob Hawl

Harddwch hudol Cymru

Adeiladwyd ‘Shell Cottage’, lle mae Harry Potter a’i gyfeillion yn cysgodi yn ‘Harry Potter and the Deathly Hallows’, ar lan traeth milltir (1.6 km) o hyd Freshwater West, ac yno y daeth Russell Crowe hefyd i ffilmio ‘Robin Hood’. Ffilmiwyd rhai o’r golygfeydd allweddol yn y chwedl dylwyth teg ‘Snow White and the Huntsman’, yn 2012 gyda Kristen Stewart, gerllaw ar Draeth Marloes ... a oedd hefyd yn y ffilm hanesyddol epig yn 1968, ‘The Lion in Winter’, gyda Peter O’Toole a Katharine Hepburn yn sêr ynddi. visitpembrokeshire.com pembrokeshirecoast.org.uk

Grymoedd y fall

Mae ein cyfres dditectif deledu dywyll mor dda, rydyn ni wedi ei ffilmio ddwywaith. Darlledwyd y fersiwn

Gymraeg, ‘Y Gwyll’, ar S4C yn 2013, tra bydd ‘Hinterland’ y fersiwn Saesneg a ffilmiwyd ar yr un pryd, yn cael ei darlledu ar BBC4 yn 2014. Mae lleoliad y gyfres yn aros yr un fath: y dirwedd hardd llawn awyrgylch o gwmpas Aberystwyth. discoverceredigion.co.uk

o Hollywood Robert Downey Jr yma yn ffilmio’r ffilm ddoniol-ddwys ‘Restoration’. Lleoliad arall allweddol ^ ger Crucywel, a yn y ffilm oedd Tretwr groesawodd Johnny Depp yn 2004 yn y ffilm ‘The Libertine’. thevalleys.co.uk, midwalesmyway.com

Llwch y sêr

Ar y copa

Mae yna ddarn yn y ffilm ffantasi o 2007, ‘Stardust’ pan fydd y seren Claire Danes yn teithio yn uchel uwch ben llyn hudol. Llyn y Fan Fach yw’r llyn, llyn rhewlifol hardd ar gyrion gorllewinol Bannau Brycheiniog. discovercarmarthenshire.com breconbeacons.org

Codi cestyll

Castell Caerffili yw’r ail o ran maint ym Mhrydain, ac yn 1995 bu’r seren

Mae mynyddoedd Eryri mor drawiadol fel bod gwneuthurwyr ffilmiau yn aml yn eu defnyddio i gynrychioli mannau eraill egsotig, pellennig: Tsieina yn ‘Lara Croft Tomb Raider: The Cradle of Life’ (2003) ac yn ‘The Inn of the Sixth Happiness’ (1958), Kazakhstan ar gyfer y ffilm Bond yn 1999 ‘The World Is Not Enough’, a Bwlch Khyber credadwy iawn yn y gomedi o 1968 ‘Carry On Up The Khyber’. visitsnowdonia.info eryri-npa.gov.uk cymru.visitwales.co.uk

7


Prif lun Ynys Skomer, Sir Benfro Lluniau llai, chwith i’r dde Pâl yr Iwerydd Clychau’r Gog ar Ynys Skomer, Sir Benfro Ynys Dewi, Sir Benfro

Wrth edrych ar ynys allwch chi ddim peidio â meddwl, os mai dim ond am eiliad, sut fyddai’n teimlo i fod yno, yn sefyll ar ei chlogwyni ymhlith y cymylau troellog o adar môr, yn edrych yn ôl ar y fan ^ yr ydych chi r wan.

Paradwys yr ynysoedd 8

cymru.visitwales.co.uk


Arfordir a chefn gwlad Ynysoedd

W

rth ddolennu ar hyd Llwybr Arfordir Cymru sy’n 870 milltir (1,400 km), byddwch yn cyfrif tua 50 o ynysoedd Cymru. Gallwch gerdded draw i rai ohonyn nhw ar drai. Bydd eraill yn denu trwy’r tes ar y gorwel pell. Mae rhai bron yn amhosibl eu cyrraedd, oni bai eich bod yn ddringwr creigiau rhagorol, neu, yn ddelfrydol, yn bâl. Ond fe allwch ymweld â nifer o’r rhai gorau, a hyd yn oed aros ar rai. Mae Skomer yn enghraifft wych, yn rhan o glwstwr o ynysoedd bach oddi ar arfordir Sir Benfro sy’n cynnal rhai o’r nythfeydd adar pwysicaf yn y byd.

Mae’n daith diwrnod ddelfrydol ar draws dyfroedd glas-wyrdd Jack Sound, lle mae gwely’r môr hyd yn oed yn warchodfa natur a ddiogelir. Yn ystod yr haf bydd yr ynys yn ferw o welygod, gweilch y penwaig, palod, tra bydd adar drycin y graig a gwylanod coes-ddu yn llenwi’r awyr fel lluwch eira. Mae’r morloi llwyd yn torheulo ar y creigiau dan y clogwyni sy’n cynnig un o’r arddangosfeydd blodau gwyllt mwyaf rhyfeddol ym Mhrydain. Gallwch lanio ar Ynys Dewi gerllaw hefyd – mae’n warchodfa natur hardd gan yr RSPB – neu ewch ar daith o gwmpas ei riffiau a’i rhaeadrau. Byddwch

yn sicr o weld morloi, ac mae’n debyg y gwelwch chi ddolffiniaid a llamhidyddion, hyd yn oed forfilod a siarcod weithiau. Yn ôl ar Skomer, os byddwch yn aros noson byddwch yn gweld un o olygfeydd mwyaf rhyfeddol natur: degau o filoedd o adar drycin Manaw yn llithro yn ôl i’w gwâl. Mae nythfa fawr arall o’r adar bach anhygoel yma ar Ynys Enlli, sydd oddi ar drwyn eithaf Penrhyn Lly^ n. Mae wyth o fythynnod hunanddarpar ar ‘Ynys yr 20,000 o Saint’, a fu’n gyrchfan ysbrydol ers blynyddoedd maith.

cymru.visitwales.co.uk

9


O’r top o’r chwith Ynys Enlli, Penrhyn Lly^ n Ynys Llanddwyn, Ynys Môn

r

^ Gwelyau dwr

Fferm Caerfai, Tyddewi Bythynnod, iwrt, safle carafannau a gwersylla, gwneud caws ... a’r cyfan ar ben clogwyn trawiadol, ychydig rownd y trwyn o Ynys Dewi. caerfaifarm.co.uk Parc Gwyliau Cenarth Falls Mae bythynnod a charafannau ar y parc gwyliau pum seren yma, a chyfleusterau gwych i’r rhai sy’n teithio ac yn gwersylla, ychydig funudau ar droed o’r rhaeadr enwog yn afon Teifi. cenarth-holipark.co.uk Fog Horn Cottage, Ynys Echni Peidiwch ag anghofio eich brwsh dannedd – mae hi’n daith bell yn ôl i’r tir mawr o’r bwthyn hunanddarpar chwaethus yma. flatholmisland.com Plas Rhianfa, Ynys Môn Mae’r trysor pensaernïol yma yn cynnig moethusrwydd pum seren yn edrych dros Afon Menai ar ynys fwyaf Cymru. chateaurhianfa.com Gwesty Gwledig Ty^ Newydd, Hirwaun Mae’r gwesty cyfforddus hwn ar drothwy Gwlad y Rhaeadrau, ac os ydych chi’n hoffi chwisgi yn ^ mae Penderyn, unig ddistyllfa Cymru eich dwr, gerllaw. tynewyddcountryhotel.co.uk

10

cymru.visitwales.co.uk

Wrth sôn am hynny, mae abaty gweithredol o fynachod Benedictaidd ar Ynys By^ r, taith ddiwrnod arall hynod boblogaidd o Ddinbych y Pysgod gerllaw. Gallwch brofi unigrwydd dedwydd ynys hefyd ddim ond bum milltir (8 km) o ganol dinas Caerdydd ar Ynys Echni, lloches bwysig arall i adar y môr. Mae’n hawdd iawn gwirioni ar ynysoedd Cymru. Fe brynodd yr awdures sgriptiau teledu, Carla Lane, ei hynys fechan ei hun, Ynys Tudwal, yr un ddwyreiniol, oddi ar ben deheuol Penrhyn Lly^ n, a’i throi yn warchodfa natur. Yna fe

i

brynodd yr anturiaethwr Bear Grylls ei chymydog, yr Ynys Tudwal arall, a – sôn am ddianc oddi wrth y byd – mae’n treulio ei wyliau teuluol ar ei herwau prin ar ben y clogwyni. Ond does dim rhaid i chi brynu ynys gyfan. Fe gewch chi fenthyg un. Fel rydyn ni’n deud, mae yma ddigon ohonyn nhw. walescoastpath.gov.uk flatholmisland.com bardsey.org caldey-island.co.uk welshwildlife.org/skomer-skokholm/ rspb.org.uk/reserves/guide/r/ ramseyisland/

Môn mam Cymru

Ynys fwyaf Cymru o bell ffordd yw Ynys Môn, a unwyd â’r tir mawr gan bont grog drawiadol Thomas Telford yn 1826. Roedd yr ynys yn gadarnle i’r derwyddon yn ystod goresgyniad y Rhufeiniaid, ac yn ffynhonnell fwyd hanfodol mewn rhyfeloedd ar ôl hynny – gan arwain at ei ffug enw Môn Mam Cymru. Erbyn hyn, mae’n gyrchfan wyliau boblogaidd, gydag atyniadau sy’n cynnwys plasty Plas Newydd, sw fôr, gweithfeydd copr, y castell canol oesol perffeithiaf ym Miwmares, a phentref gyda’r enw – anadlwch yn ddwfn – Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch. Ond y 125 milltir (201 km) o arfordir sy’n denu mwyaf i’r ynys, yn llawn o draethau gwych, gwarchodfeydd natur, a’r llecyn mwyaf rhamantus yng Nghymru, Ynys Llanddwyn, lle mae hen oleudy ac adfeilion capel sydd wedi ei gysegru i nawdd sant cariadon Cymru, Dwynwen. Does dim syndod bod y Tywysog William a Kate wedi ymgartrefu yma yn gyntaf. visitanglesey.co.uk


Arfordir a chefn gwlad

Troedio

glannau rhaeadrau

B

eth ydi’r hud am raeadrau? Mae ‘na rywbeth arallfydol o hudol ^ yn am lifeiriant o ddwr plymio dros glogwyn ac i bwll crisial. Ar gyrion gorllewinol Bannau Brycheiniog, mewn rhan o Gymru a elwir yn ‘Wlad y Rhaeadrau’, mae tair afon – Mellte, Hepste a Nedd Fechan – wedi naddu eu ffordd trwy’r creigiau meddal i greu ceunentydd coediog dyfnion sy’n llawn o ogofâu a rhaeadrau.

Mae’n boblogaidd gan ^ gwyn ac, yn geufadwyr dwr yr haf, grwpiau sy’n cerdded ceunentydd, ond mae hefyd yn lle gwych i brofi’r wefr o ^ gerdded tu ôl i len o ddwr yn taranu – yn benodol yn Sgwd yr Eira, y ‘rhaeadr o eira’ enwog. Er bod y nifer o raeadrau sy’n agos at ei gilydd ar ei uchaf yma, mae’r rhai uchaf o ran maint i fyny yn y mynyddoedd uchaf: Devil’s Appendix yn Eryri a Phistyll y Llyn ym

Rhaeadrau

^ nad oeddech chi wedi Dwi’n siwr meddwl y byddech yn gweld rhaeadr o eira a Devil’s Appendix ymhlith y golygfeydd yng Nghymru.

mynyddoedd Cambria. A’r mwyaf rhyfeddol? Wel, mater o farn yw hynny, ond mae Pistyll Rhaeadr 239 troedfedd (73 metr), yn y Berwyn, yn brolio o fod â maes parcio o fewn dau funud i’w waelod. Ac a dweud y gwir, mae’n gyfareddol. breconbeacons.org midwalesmyway.com pistyllrhaeadr.co.uk visitsnowdonia.info discoverceredigion.co.uk

Sgwd yr Eira, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog cymru.visitwales.co.uk

11


Y traeth

perffaith

12

cymru.visitwales.co.uk


Arfordir a chefn gwlad Traethau

Southerndown, Bro Morgannwg Weithiau mae clogwyni aml-haenog Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn gostwng i lawr i ambell fae tywodlyd. Mae hwn yn hoff gyrchfan i syrffwyr a theuluoedd, ac mae taith gerdded wych ar hyd y clogwyn i adfeilion Castell Dunraven. visitthevale.com

s C a st P o

cymru.visitwales.co.uk

13

a

le

W

walescoastpath.gov.uk

rfordir C rA

ru ym

Porthdinllaen, Eryri Dim ond pobl leol sy’n cael gyrru i’r pentref bychan perffaith yma. Ond peidiwch â phoeni – mae’n daith fer hyfryd ar hyd y traeth, neu trwy gwrs golff enwog Nefyn, i’w gyrraedd. Mae’n hafan ddelfrydol a naturiol, gyda’r bonws ychwanegol o dafarn arbennig, Tafarn T^y Coch, sydd newydd gael ei dewis yn un o’r tafarnau traeth gorau yn y byd. visitsnowdonia.info

Dinbych y Pysgod, Sir Benfro Rydyn ni’n twyllo ychydig yma, gan nad un traeth gwych sydd yma yn Ninbych y Pysgod, ond tri. Mae’r ‘Rough Guide to Wales’ yn disgrifio’r dref fach hardd hon fel ‘everything a seaside resort should be’ ac yn ddiweddar fe’i pleidleisiwyd yn un o bump o brif gyrchfannau traethau gan Tripadvisor. visitpembrokeshire.com

Wa

Benllech, Ynys Môn Mae’r dref wyliau fechan hon ar fae siâp cilgant, gyda thywod mân sy’n ymestyn am filltiroedd. Mae’n hynod o hawdd mynd iddo hefyd, hyd yn oed i gadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn. visitanglesey.co.uk

Cefn Sidan, Sir Gaerfyrddin Ar y traeth wyth milltir (12 km) anferth yma mae digon o le i bawb, a gall pobl ifanc sy’n ymddiddori mewn natur ddringo’r twyni i chwilio am geiliog y rhedyn a thrychfilod bach eraill. Mae’r cyfan yn rhan o Barc Gwledig Pen-bre, sydd ag ardaloedd chwarae a chanolfan farchogaeth, llethr sgïo sych a llwybr tobogan. discovercarmarthenshire.com

Llw

Bermo, Eryri Yn anferth a hardd, mae traeth y Bermo bob amser yn boblogaidd ond byth yn orlawn. Mae’r Bermo ei hun yn nodweddiadol o dref lan môr, gyda’r trampolinau, hufen ia, gemau hap chwarae, mulod i’w marchogaeth a hen reilffordd. visitsnowdonia.info

^ Rhosili, Penrhyn Gwyr Wel, roedd yn rhaid i ni sôn am y seren ar y clawr, ’doedd? Daw traeth euraidd tair milltir (4.8 km) Rhosili â’i longddrylliad go iawn ei hun, ac os gwnewch chi amseru’r llanw’n iawn, mae taith fendigedig allan i’r penrhyn a elwir yn Pen Pyrod. visitswanseabay.com

h

Barafundle, Sir Benfro Mae’n amhosibl dewis eich traeth tlysaf, ond mae’r trysor hwn yn Sir Benfro, gyda thwyni a choed pîn yn gefndir iddo, yn dod i’r brig yn aml. Mae ‘na rhywbeth bron yn debyg i’r Caribî am Barafundle, sydd yn well hyd yn oed gan ei fod hanner milltir (0.8 km) o’r maes parcio agosaf. visitpembrokeshire.com

Llangrannog, Ceredigion Does ‘na ddim byd yn ymffrostgar am y pentref – dim ond clwstwr o dai wedi eu gwasgu rhwng dau benrhyn, a’r tonnau’n golchi eu traed. Mae llwybr yr arfordir yn arwain trwy gymylau o flodau gwyllt sy’n fyw o ieir bach yr haf yn ystod yr haf. discoverceredigion.co.uk

at

Abersoch, Eryri Mae teimlad bywiog teuluol bob amser yn Abersoch, un o’r canolfannau ^ gorau. Bydd ar ei fwyaf chwaraeon dwr bywiog yn ystod y Regata ym mis Awst, sydd, ar wahân i’r gwaith hwylio o ddifrif, yn cynnwys cystadlaethau rasio rafftiau, dal crancod ac adeiladu cestyll tywod. visitsnowdonia.info

Llwybr Arfordir Cymru yw’r llwybr arfordir di-dor hiraf yn y byd. Ar hyd ei 870 milltir (1,400 km) mae cannoedd o harbwrs, traethau bychain, cilfachau – ac wrth gwrs, traethau mawr. Llaweroedd ohonyn nhw. A bydd un ohonyn nhw’n ffefryn i chi. Felly pa un fydd o? Dyma i chi ddeg i gychwyn arni.

Llwy b


Prif lun Gwarchodfa RSPB Ynyshir, ger Machynlleth Gyferbyn, yn nhrefn y cloc o’r chwith uchaf Gwylio Dolffiniaid oddi ar arfordir Ceredigion Llwybr Arfordir Cymru, ger Llangrannog Barcud coch

Bywyd gwyllt Mae hynawsedd pigog Chris Packham wedi ei wneud yn un o hoff naturiaethwyr Prydain. Ac mae’n meddwl mai’r hyn sydd ar Gymru ei angen ... ydi, wel, afancod.

M

ae ‘na ddau beth y mae arnoch angen ei ddeall am y cyflwynydd teledu gwahanol Chris Packham. Yn gyntaf, mae’n naturiaethwr o ddifri, gydag angerdd anhygoel am bwnc y mae’n ei ddeall tu chwith allan. Yn ail, roedd yn un o’r pyncs gwreiddiol yn yr 1970au, gyda’r gwallt a’r agwedd wrthwynebus i awdurdod i gyd-fynd â’i gilydd. Erbyn hyn, y dyn 52 oed o Southampton yw conglfaen rhaglenni bywyd gwyllt ar y teledu, ond nid yw’r pync a fu yn ei arddegau fyth yn bell o’r golwg. Mae’n enwog am gynnwys enwau caneuon ei hoff grwpiau yn ei gyflwyniadau ffraeth: mae’r Smiths, y Clash, a’r Manic Street Preachers oll wedi ymddangos yn annisgwyl. Fe wnaeth Packham, hyd yn oed, lwyddo i gynnwys 51 o deitlau caneuon David Bowie yng nghyfres 2012 o ‘Springwatch’ y BBC, y cyfan am hwyl. Roedd y gyfres wedi ei seilio ar warchodfa’r RSPB yn Ynyshir, ac yno y gwnaeth y BBC gynnal ei ddarllediad allanol mwyaf a mwyaf cymhleth am dair blynedd, gyda chriw o 100 yn llifo i aber hynod hardd afon Dyfi yng Nghanolbarth Cymru.

14

cymru.visitwales.co.uk


Arfordir a chefn gwlad Bywyd gwyllt

Sut wnaethoch chi fwynhau eich cyfnod yn Ynyshir? Roedd hi’n wych, yn drêt gwirioneddol. Mae gwarchodfa’r RSPB ei hun yn hardd iawn i edrych arni, ac mae yno amrywiaeth dda o gynefinoedd – ^ croyw, dwr ^ arfordirol, yr aber, y coetir derw, y dwr gors – y cyfan mewn safle cymharol fychan. Daw hyn ag amrywiaeth anferth o rywogaethau, a dalodd ar ei ganfed, oherwydd fe gawsom ni nifer o storïau a chyfranwyr gwych, yn anifeiliaid a phobl. Roedd yr RSPB a’r bobl leol yn hynod o groesawus, hefyd, felly fe wnaethom ni fwynhau ein hamser yno yn fawr.

brin iawn, ac fe gafodd hynny effaith ar yr holl greaduriaid eraill o’u cwmpas. Pan fyddwch chi’n cyflwyno anifail yn ôl i gynefin, rhaid i bopeth addasu. Ond bwyta ysglyfaeth marw yn bennaf y mae’r barcud, ac nid oes unrhyw un wedi profi bod eu hail gyflwyno wedi cael effaith negyddol ar adar eraill. Yn y pen draw, yr hyn sy’n iawn yw cael cymaint o rywogaethau ag sy’n gallu byw mewn ardal, i fyw yno. Dyna pam bod ail gyflwyno yn gyffredinol yn syniad da oherwydd mae’n ceisio ail greu’r fioamrywiaeth briodol ar gyfer yr ardal honno.

Felly nid hwn oedd eich ymweliad cyntaf â’r ardal yma? Nefoedd nage! Dwi wedi teithio llawer iawn yng Nghymru. Roeddwn i’n 15 oed y tro cyntaf, yng nghanol yr 1970au, pan wnes i ddal y bws National Express a mynd i Gwmystwyth i dreulio rhai wythnosau yn y gwanwyn, i weld beth oedd ar ôl o’r Barcutiaid Coch. Yr haf hwnnw fe es i’n ôl i Langrannog yn warden ar weilch tramor, oedd mewn perygl mawr ar y pryd. Mae’r ddwy rywogaeth wedi cryfhau ers hynny, diolch byth.

Beth am afancod? Mewn rhannau o Gymru mae ymgyrch i’w cael yn ôl... Oes! Fe ddylai hyn fod wedi digwydd flynyddoedd yn ôl! Bydd afancod yn newyddion gwych i Gymru ar sawl cyfrif. Yn gyntaf, fe fyddan nhw’n cael effaith bositif iawn ar fioamrywiaeth, gan ei gwneud hi’n llawer gwell i bysgod, pryfed, ymlusgiaid ac adar o sawl rhywogaeth. Yn ail, byddant yn atyniad mawr i dwristiaeth, oherwydd mae pobl yn hoffi afancod a byddant yn dod i’w gweld. A hefyd, os byddan nhw’n creu problem i unrhyw un o’n buddiannau fel pobl, sy’n annhebygol, rydyn ni wedi dysgu dros flynyddoedd maith sut i’w rheoli. Felly dwi’n gobeithio yn fawr y bydd hyn yn datblygu yn gyflym ac y byddwn yn cael yr anifeiliaid yma yn ôl.

Mae’r Barcud yn anhygoel o gyffredin yng Nghanolbarth Cymru yn awr. Allwch chi orwneud y busnes ail gyflwyno yma? Na. Ond mae’n rhaid i chi ddisgwyl newid. Rydyn ni wedi byw trwy gyfnod pan oedd y barcud yn

i

RSPB Ynyshir

Dewisodd ‘Springwatch’ y BBC Ynyshir fel ei ganolfan am resymau da iawn: mae’n un o’r lleoedd gorau yng Nghymru i weld adar, pryfed ac ieir bach yr haf mewn lleoliad bendigedig o goetir derw gyda glaswelltir gwlyb a morfeydd heli. rspb.org.uk

cymru.visitwales.co.uk

15


Wrth sôn am dwristiaeth, beth allwn ni ei wneud fel ymwelwyr i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd? Os byddwch chi’n ymweld â Chymru, gwariwch arian yng Nghymru! Gwariwch eich arian yn y llety gwely a brecwast, gwestai, tafarndai a bwytai. Ceisiwch roi cymaint o arian yn ôl i’r gymuned leol ag y gallwch. Felly, peidiwch â bwyta mewn bwyty sy’n gwerthu bwyd o’r Caribî, ewch i rywle lle byddwch chi’n bwyta cig oen o Gymru a llysiau o Gymru. Dyna’r peth cyfrifol i’w wneud. Gwnewch eich ymweliad yn un gwerth chweil i’r bobl sy’n byw a gweithio yno. Nid yw ffermio defaid yn fusnes hawdd, felly os ewch chi i dafarn lle maen nhw’n gwerthu bwyd gwirioneddol leol, felly mae hynny’n fanteisiol i’r dirwedd. A’r dirwedd sy’n cynnig y blociau sylfaenol i bopeth sy’n byw arno ac ynddo. Mae rhai amgylcheddwyr yn meddwl bod gennym lawer gormod o ddefaid, yn tydyn? Ydyn, ac maen nhw’n iawn, ond nid yw’n benodol i Gymru. Mae’r Deyrnas Unedig i gyd yn dirwedd a addaswyd gan bobl. Fe gliriwyd yr ucheldir o goed amser maith, maith yn ôl. Maen nhw wedi eu draenio ac mae’r glaswelltir wedi ei wella er budd y defaid. Mae defaid yn gorbori, sy’n atal coed rhag adfer yn naturiol. Felly, ydyn, mae defaid yn cael effaith. Yn yr un modd, am gyfnod maith iawn maen nhw wedi bod yn rhan bwysig o ffermio yng Nghymru, ac maen nhw’n chwarae eu rhan hefyd. Mae’n ymwneud â cheisio cael cydbwysedd rhwng manteision ac anghenion ffermio, a manteision troi’r tir yn ôl fel yr oedd. Felly fe fyddech chi’n hoffi gweld darnau o Gymru yn cael eu hadfer fel yr oedden nhw: Fforest law’r Iwerydd? Wrth gwrs, a ‘darnau’ yw’r gair cywir. Nid y cyfan ohoni. Dwi’n barod iawn i gefnogi

16

cymru.visitwales.co.uk

ffermwyr defaid, hefyd. Wrth gwrs, fe fyddwn yn hoffi eu gweld yn addasu’r ffordd y maen nhw’n gwneud rhai pethau, a dwi’n barod i dalu iddyn nhw am wneud hynny. Ond fe fyddai darnau o fforest law’r Iwerydd yn rhedeg i mewn o arfordir Cymru yn wych. Mae gan fannau fel Ynyshir ddarnau bach iawn, ac fe fyddai’n braf eu gweld yn llawer mwy. Beth am ein cynefinoedd eraill? A ddylen ni drysori ein corsydd gymaint â’n mynyddoedd? Mae pawb wrth ei fodd hefo mynyddoedd, ac maen nhw’n cynnig cerdyn post mwy trawiadol na’ch cors arferol, ond i’r naturiaethwr arferol mae ‘na lawer iawn yn mynd ymlaen yn y tirweddau llai atyniadol. Dwi’n cofio mynd allan ar Gors Caron am y tro cyntaf yn yr 1970au a chael fy nghyffroi yn llwyr gan y gwlypdir mawr, agored, mwdlyd wedi ei orchuddio mewn cen cerrig ac yn ferw o adar. Roedd hi’n wych, a’r un mor deilwng o gael ei diogelu. Ydech chi, fel naturiaethwr, yn ceisio defnyddio’r grym o fod ar y teledu? Dwi ddim yn ystyried fy hun yn seren, dim ond dyn sy’n sôn am fywyd gwyllt ar y teledu. Ond mae elfen alwedigaethol gref ym mhopeth dwi’n wneud. Dwi am i ychydig o’m brwdfrydedd ac angerdd i am y pwnc gael ei drosglwyddo i eraill, oherwydd dwi am i gymaint o bobl ag sy’n bosibl edrych ar ôl ein tirwedd. Ac yn y pen draw, dyna pam mod i’n codi yn y bore a gwneud pethau fel ‘Springwatch’. Dwi’n ceisio dweud wrth y gynulleidfa, edrychwch, mae hyn yn wych, mae ar eich trothwy, cymrwch beth ohono drosoch eich hun. A phan fyddwch chi wedi dysgu ei garu, edrychwch ar ei ôl. Dyna fy mantra i.

i

Cymru Chris Packham

Mae Cymru yn ardal gyfoethog a phopeth yn agos at ei gilydd, felly mae ganddi lawer iawn i’w gynnig o ran bywyd gwyllt (mae gen i ddiddordeb mawr mewn hanes, gyda llaw, felly dwi wedi bod yn gweld y cestyll hefyd). Roedd fy nheithiau cyntaf i Gymru ar y bws yn fy arddegau, ond cyn gynted ag y gallwn yrru fy hun, roeddwn ar fy ffordd. Mae gen i atgofion annwyl iawn am fy nhaith gyntaf i Ynys Skomer oddi ar arfordir Sir Benfro, oedd yn hudolus. Gerllaw mae Pyllau Lili Bosherston, ac yn yr haf, dyma un o’r mannau harddaf yn y Deyrnas Unedig heb unrhyw amheuaeth. Fe dreuliais i un haf yn edrych ar bob rhywogaeth o degeirian y gallwn ddod o hyd iddo, ac fe fûm ar y Gogarth ger Llandudno yn edrych ar y galdrist goch tywyll, sy’n brin iawn. Mae Cwningar Niwbwrch ar Ynys Môn yn un o’m hoff fannau yn y Deyrnas Unedig. Aeth systemau twyni tywod yn bethau prin y dyddiau hyn, ac mae Niwbwrch yn lle hardd yn llawn o blanhigion ac adar ffantastig. Ond mae ‘na gymaint i’w weld. Fe fyddwn wrth fy modd yn cael ychydig fisoedd o lonydd gyda’m ffrind [a chyd naturiaethwr] Iolo Williams i’m harwain, fel y gallai ddweud wrthyf am y mannau nad wyf wedi bod ynddyn nhw. visitpembrokeshire.com visitllandudno.org.uk visitanglesey.co.uk Yn nhrefn y cloc o’r top ar y chwith Aber afon Dyfi, ger Machynlleth Cwningar Niwbwrch, Ynys Môn Y Cyflwynydd, Chris Packham Dolffin, arfordir Ceredigion Dyfrgi Clychau’r Gog coetir ger Aberystwyth Fforest Tyndyrn, Dyffryn Gwy


Arfordir a chefn gwlad Teithiau diwrnod

Deg taith ddiwrnod wyllt yng Nghymru Barcutiaid yn hofran, dolffiniaid yn chwarae ac eogiaid yn llamu: mae gan Gymru’r math o fywyd gwyllt sy’n gafael yn y dychymyg. Ac mae’r cyfan yn hawdd i’w weld, dywed Phil Hurst o Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru. wtwales.org Gweilch y pysgod Bydd gweilch y pysgod yn nythu rhwng mis Ebrill a diwedd yr haf ar warchodfa Cors Dyfi ger Machynlleth. Mae’r adar ysglyfaethus eraill a welir yn gyson yno yn cynnwys y barcud, boda mêl a bod y gwerni a bod tinwen. Cedwir gyr o ychen yr afon yno hefyd i helpu i reoli’r gwlypdir. dyfiospreyproject.com

Dolffiniaid Er y gellir gweld dolffiniaid yn gyson o’r lan, mae Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion yn trefnu teithiau mewn cwch o fis Ebrill ymlaen. cbmwc.org

Skokholm sy’n enwog trwy’r byd, sy’n gartref hefyd i nifer fawr o forfilod llwyd. Bydd y cychod yn rhedeg yn ddyddiol o fis Mawrth i fis Rhagfyr. welshwildlife.org

Adar môr sydd wedi mudo 50,000 milltir Gydag ymhell dros 1,000 o barau o forwennol bigddu yn nythu, mae Cemlyn ar Ynys Môn yn safle pwysig yn rhyngwladol ar gyfer adar y môr. Mae morwennol y gogledd, sydd hefyd yn nythu yma, yn mudo hyd at 50,000 milltir (80,467 km) bob blwyddyn rhwng yr Arctig a’r Antartig. northwaleswildlifetrust.org.uk

Cymanfa o ieir bach yr haf Dyfrgwn Yn aml bydd ymwelwyr yn dweud eu bod wedi gweld dyfrgwn ar warchodfa natur hyfryd Fferm Gilfach, ger Rhaeadr. Yr amser gorau i fynd yno yw o fis Hydref i fis Rhagfyr pan fydd dyfrgwn yn dod at y rhaeadrau i ymlid yr eogiaid sy’n llamu yno. rwtwales.org

Gellir gweld mwy na 30 rhywogaeth o ieir bach yr haf yn yr hen chwarel yn Llanymynech, yn union ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Wrth lwc, mae’r ymddiriedolaeth bywyd gwyllt leol wedi cynhyrchu canllaw, felly gallwch wahaniaethu rhwng eich Gwibiwr Brith â’ch Brithribin Wen. shropshirewildlifetrust.org.uk

Llond caeau o degeirianau

Coed Clychau’r Gog hudolus

Uwchben harddwch Dyffryn Gwy, mae gwarchodfa Fferm Pentwyn yn cynnig golygfeydd trawiadol. Yn gynnar yn yr haf gwelir miloedd o degeirian y waun mewn caeau rhyfeddol o flodau gwyllt. gwentwildlife.org

Bydd carpedi o glychau’r gog yn gorchuddio coetiroedd hynafol mewn llawer rhan o Gymru, ond ychydig sy’n curo Coed y Felin, ychydig y tu allan i’w Wyddgrug yn Sir y Fflint. Yn y de ewch i warchodfa Coed Dyrysiog ychydig y tu allan i Aberhonddu. northwaleswildlifetrust.org.uk, brecknockwildlifetrust.org.uk

Y Barcud Er eu bod wedi bod ar fin diflannu ar un cyfnod, amcangyfrifir yn awr bod 1,000 o barau o farcutiaid yn magu yng Nghymru. Mae’r mannau bwydo lle gall ymwelwyr weld yr adar rhyfeddol yma yn agos iawn yn cynnwys Fferm Gigrin a’r Ganolfan Fwydo Barcud Coch yng ngorllewin Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. gigrin.co.uk, redkiteswales.com

Palod Amcangyfrifir bod 16,000 o balod a 300,000 o adar drycin Manaw ar ynysoedd Skomer a

Harddwch dail yr hydref Am ffrwydrad o liw’r hydref, mae cymoedd De Ddwyrain Cymru yn cystadlu â fforestydd Lloegr Newydd. Mae Gwarchodfa’r Cwm Tawel ger Glynebwy yn enghraifft berffaith, ac mae gan warchodfa Pwll-y-Wrach ger Talgarth liwiau hydrefol rhyfeddol mewn coetir hynafol sy’n ymestyn i lawr at raeadrau dwfn ar hyd afon Enig. gwentwildlife.org, brecknockwildlifetrust.org.uk

cymru.visitwales.co.uk

17


Mae ’na lawer gormod o erddi bendigedig a phrosiectau amgylcheddol i’w gwasgu i’r gofod maint stamp hwn yn y cylchgrawn. Ond dyma i chi rai o’r uchafbwyntiau. Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg Dychmygwch d^y 55 erw wedi ei wneud o blanhigion a blodau. Yr arlunydd tirwedd Thomas Mawson a greodd y gerddi yn y Dyffryn fel casgliad o ystafelloedd yng nghysgod plasty Fictoraidd crand o ddeunydd adeiladu mwy traddodiadol. nationaltrust.org.uk/dyffryn-gardens Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sir Gaerfyrddin Rhag ofn nad oedd adeiladu’r t^y gwydr un gromen mwyaf yn y byd yn ddigon, mae gerddi’r hen Fiddleton Hall o’r ail ganrif ar bymtheg yn lle gwych i ddarganfod blodau ac anifeiliaid o bob rhan o’r byd. Tu ôl i’r llenni mae llawer iawn o brosiectau amgylcheddol yn mynd ymlaen yma hefyd. gardenofwales.org.uk Plas a Gerddi Aberglasney, Sir Gaerfyrddin Deillia gwreiddiau’r plasty gwych hwn yn arddull y Frenhines Anne o’r cyfnod canol oesol. Gwnaed gwaith adfer sylweddol ar yr Ardd Glawstrog o gyfnod Elizabeth, Gardd y Pwll, yr Ardd Furiog Uchaf ac Isaf 18

cymru.visitwales.co.uk

Popeth yn a’r Ninfariwm – atriwm egsotig gyda tho gwydr gyda thegeirian, coed palmwydd a blodau magnolia – wedi ei ysbrydoli gan erddi Ninfa, i’r de o Rufain. aberglasney.org

Llanerchaeron, Ceredigion Adeiladwyd gan John Nash (pensaer Palas Buckingham), mae gardd furiog cegin y plasty hwn yn gweithredu fel yr oedd 200 mlynedd yn ôl – gan gynnig digonedd o ffrwythau, llysiau a pherlysiau organig, y gallwch eu prynu yn y siop yn y t^y. nationaltrust.org.uk/llanerchaeron Brondanw, Eryri Adnabyddir Syr Clough Williams-Ellis yn bennaf am greu’r pentref rhyfeddol ym Mhortmeirion, gerllaw, sy’n cynnwys coetir egsotig trawiadol sy’n werth eu gweld. Nid yw gerddi Brondanw mor enwog, ond roedd y rhain hefyd yn un o brosiectau bywyd Clough sy’n creu awyrgylch arbennig gan ddefnyddio’r dirwedd naturiol yn greadigol. brondanw.org

Plas Tan y Bwlch, Eryri Ei enw llai bachog yw Canolfan Astudiaethau Amgylcheddol Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r plasty trawiadol hwn, oedd yn cael ei oleuo o’i ffynhonnell hydro-electrig ei hun mor bell yn ôl â’r 1890au, yn ymffrostio mewn gerddi Fictoraidd hardd gyda lawntiau ar lechweddau, coed coniffer mawr a lliwiau llachar y rhododendron a’r asalea. Ceir rhai darnau o goetir rhannol wyllt gyda blodau ac anifeiliaid cynhenid wedi eu cymysgu â mewnforion egsotig o bellafoedd daear. eryri-npa.gov.uk/study-centre/gardens Veddw House, Sir Fynwy Fe’i disgrifir fel gardd ramantus fodern, a Veddw yw ffrwyth dychymyg yr awdur Anne Wareham a’r ffotograffydd Charles Hawes. Enillodd wobrau (Yr Ardd Fwyaf Gwreiddiol 2012 yng nghylchgrawn Readers Digest) ac mae wedi bod yn ddadleuol. Mae’n mynnu ymweliad bron i chi gael llunio eich barn eich hun am y dull blaengar, amgylcheddol gyfeillgar a ddefnyddiwyd. veddw.com


Arfordir a chefn gwlad Gerddi

Wyrdd Y Ganolfan Dechnoleg Amgen, Powys Dychmygwch ganolfan un stop i gael gwybodaeth ac arddangosfeydd am fyw yn gynaliadwy. Gallwch stopio dychmygu’n awr, oherwydd mae’r Ganolfan yn trafod y cwbl, gan gynnwys nifer o erddi yn cynnig syniadau i’ch ysbrydoli ar sut y gallwch gadw eich darn bach chi o dir gwyrdd. cat.org.uk

Gerddi Bodnant, Conwy Mae’r gerddi yma fel casgliad o stampiau garddwriaethol anferth, casglwyd amrywiaeth eang o hadau a thoriadau o bob rhan o’r byd dros ganrif yn ôl i greu’r lle. Yma ceir terasau ffurfiol gyda golygfeydd dros Ddyffryn Conwy, mae’r afon Hiraethlyn yn rhedeg trwy’r Cwm, ac mae’r tymhorau’n cynnig amrywiaeth ddramatig o ran lliw yn y borderi o lwyni. nationaltrust.org.uk/bodnant-garden Erddig, Wrecsam Plasty gwledig mewn dros fil o erwau o dir, mae’r gerddi muriog anferth o’r ddeunawfed ganrif yn cynnwys coed ffrwythau prin, cymesuredd parterre Fictoraidd ac un o’r borderi blodau hiraf ym Mhrydain. Gall ymwelwyr hefyd archebu sesiynau dysgu amgylcheddol gydag arweinydd. nationaltrust.org.uk/erddig/ cymru.visitwales.co.uk

19


Hanes dwy ddinas Mae’n dwy ddinas fwyaf yn dod yn fwy amlwg. Erbyn hyn mae gan Abertawe a Chaerdydd dimau pêl-droed yn y Brif Gynghrair am y tro cyntaf yn eu hanes, felly fe wnaethom ofyn i’r athletwr cadair olwyn a chyflwynydd teledu, Liam Holt ymweld â’r ddwy ddinas a gweld sut maen nhw’n cymharu. Abertawe

M

ae hi’n sefyllfa’r iâr a’r wy. Dwi’n methu penderfynu a yw arddull pêl-droed Dinas Abertawe – hyderus, trawiadol, amyneddgar – yn deillio o’r ddinas ei hun, neu a yw hi’n gweithio’r ffordd arall: a yw’r steil ar y cae pêl-droed yn cael dylanwad ar y ddinas. Beth bynnag sy’n wir, mae buzz pendant yn y lle, rydyn yn ei deimlo’r eiliad y byddwn yn camu allan o’r Marriott yn Abertawe, gwesty ar lan y ^ sydd yn y man delfrydol i archwilio dwr prif atyniadau’r ddinas. Rydyn ni’n dechrau gyda gwers hanes yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, sy’n adrodd stori diwydiant a blaengaredd yng Nghymru, yn awr a dros y 300 mlynedd diwethaf. Mae’n lle rhyngweithiol iawn, gyda chyfuniad perffaith o arteffactau gwreiddiol ac arddangosfeydd cyfrifiadurol cyffwrdd y sgrin, sy’n gadael i bobl archwilio hanes yr arddangosfeydd yn fanylach. Mae’n neilltuol o dda i blant, gan y gallan nhw weithio mewn amgylchedd technolegol sy’n apelio atyn nhw. Ar ôl yr holl wyddoniaeth, rydyn ni awydd dipyn o gelf, felly awn i Oriel Mission, gerllaw, sy’n gwasgu llawer iawn o rym creadigol i leoliad cymharol fach. Gellid dweud yr un peth am Pierre Donahue, canwr-gyfansoddwr lleol sy’n chwarae’r offerynnau taro yn The Dukes Box, y jiwc bocs dynol rhyfeddol. Yn y

bôn maen nhw wedi cymryd carafán hynafol fechan iawn, llifio’r tu blaen oddi arni a gosod haen persbecs yn ei le a botymau fel rhai jiwc bocs. Bydd pobl yn rhoi punt yn y slot, yn dewis eu cân, ac mae’r band byw yn ei chwarae! Mae The Dukes Box wedi chwarae mewn gwyliau ar hyd Ewrop, ac yn awr mae Pierre wedi sefydlu ei ddigwyddiad gwahanol ei hun yn Abertawe, dathliad ^ ‘Do Not o fywyd Dylan Thomas, gwyl Go Gentle’. ‘Mae’n dathlu bywyd y bardd chwedlonol o Gymru yn ei faestref enedigol, yr Uplands, Abertawe,’ esboniodd Pierre. ‘Rydyn ni’n anelu at fod ^ y byddai Dylan wedi ei hoffi, ac yn wyl ydi, mae hynny’n golygu cwrw, ond mae hefyd yn golygu lleoliadau cyfforddus llawn awyrgylch, perfformiadau gwych a phobl Abertawe a wnaeth ei ysbrydoli i ysgrifennu’r holl flynyddoedd hynny yn ôl’. Iawn, mae tic wrth ddiwylliant a gwyddoniaeth, felly beth am y corfforol. Mae Abertawe yn wyllt am chwaraeon, boed yn rygbi rhanbarthol a phêl-droed yn Stadiwm Liberty, criced sirol yn Sain ^ Os Helen, neu syrffio ar Benrhyn Gwyr. ydych chi’n mwynhau’r awyr agored a ^ yna mae’n rhaid i chi chwaraeon dwr ymweld â 360, canolfan weithgareddau newydd sy’n cynnig chwaraeon traeth a ^ trwy’r flwyddyn, beth bynnag yw’r dwr tywydd, ychydig ar hyd y traeth o ganol y ddinas.

Nid dim ond canolfan chwaraeon sydd yno chwaith – mae yno gaffi da, sy’n ychwanegu agwedd gymdeithasol ac yn agor y traeth i bawb o rai’n mynd â’u ^ am dro i rai’n chwifio barcud. Mae’n cwn werth sôn am hygyrchedd hefyd: fel arfer y traeth yw ‘gelyn naturiol’ y gadair olwyn ond mae 360 yn gorchfygu hyn trwy gael toiledau ac ystafelloedd newid hygyrch, a dyma’r lle cyntaf ar lan y môr yng Nghymru i gynnig cyfleuster ‘Changing Places’ – teclyn codi, byrddau newid, ac ati – i’r rhai sydd angen mwy o gymorth. Nid eistedd mewn caffi traeth, wrth ymyl y tywod, yn gwylio pobl yn ceufadu ac yn chwarae pêl foli ar y traeth oedd y ffordd yr oeddwn wedi dychmygu y byddai Abertawe. Ond dwi’n ei hoffi, yn fawr. marriott.co.uk amgueddfacymru.ac.uk/cy/Abertawe missiongallery.co.uk thedukesbox.com donotgogentlefestival.com 360swansea.co.uk

Swansea 20

cymru.visitwales.co.uk

Yn nhrefn y cloc o’r top ar y chwith ^ 360, Abertawe Chwaraeon Traeth a Dwr ‘Capten Cat’, Dylan Thomas, marina Abertawe Oriel Mission Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Oriel Mission


Trefi a dinasoedd Hanes dwy ddinas

Bwyta yn Abertawe

Yn fwy na’r un dref arall yng Nghymru, efallai, mae gan Abertawe feddwl mawr o’i bwyd (ynddi y mae’r farchnad dan do orau a mwyaf yng Nghymru) ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu mewn llwythi o fannau bwyta blasus o annibynnol. Mae’r Truffle Restaurant (truffle-swansea.co.uk) yn teimlo braidd fel mynd i barti mewn ty^ , diolch i’w bolisi o ddod â’ch diodydd eich hun a diffyg ffuantrwydd o unrhyw fath. Bydd y staff a’r cwsmeriaid yn mwynhau tynnu coes (fe wnaethon nhw hwyl am fy mhen i am beidio â dewis dechreufwyd mwy dynol!), mae’r bwyd yn fargen ac mae’r pwdinau yn rhyfeddol. Roeddwn yn hoffi Mosaic (mosaicswansea.com) hyd yn oed yn fwy: bwyty modern gwahanol, sydd, fel busnes annibynnol, yn deall pethau, o’r addurniadau i’r fwydlen

(mae’r enwau hyd yn oed yn ddoniol iawn!). Yn ystod y dydd mae’n lolfa dawel, ond ar fin nos mae’r lle’n cael ei drawsnewid yn fwyty tapas bywiog, gyda lluniau’n cael eu taflunio ar y waliau a cherddoriaeth fyw ar lwyfan uwch ben y bar. Nid yw’r bwyd yn y Grape & Olive (swansea. grapeandolive.co.uk) mor ddyfeisgar, ond o ystyried ei leoliad – llawr uchaf yr adeilad uchaf yng Nghymru – mae’n werth mynd yno am y golygfeydd gwych yn unig. Yn olaf, allwch chi ddim ymweld ag Abertawe heb daith i’r sefydliad lleol. Joe’s Ice Cream Parlour (joes-icecream.com) a sefydlwyd yn 1922 gan fab mewnfudwyr o’r Eidal. Cyflwynodd Joe Cascarini rysáit hufen ia cyfrinachol y teulu i’r ddinas, ac nid yw wedi gadael fyth. Yn syml iawn hwn ydi’r hufen ia mwyaf rhyfeddol dwi ERIOED wedi ei gael!

cymru.visitwales.co.uk

21


Yn nhrefn y cloc o’r chwith Castell Caerdydd Canolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd Royal Arcade, Caerdydd

Caerdydd

R

own i’n meddwl mod i’n adnabod Caerdydd yn eitha’ da. Fe wnes i symud yma naw mlynedd yn ôl, ac yn bendant dwi’n ystyried y lle yn gartref i mi. Ond, yn ôl yr arfer, pan fydd dinas yn dod yn gartref i chi rydych yn rhyw fath o’i chymryd yn ganiataol. Fyddwch chi ddim yn archwilio beth sydd ganddi i’w gynnig – mae yna a dyna fo! Felly roedd hi’n arbennig o ddiddorol treulio penwythnos yng Nghaerdydd fel ymwelydd eto ac ail ddarganfod pa mor wych yw hi. Mae’r holl eiconau yn bresennol a chywir: y castell, Stadiwm y Mileniwm sy’n teyrnasu dros yr olygfa yng nghanol y ddinas, y Ganolfan Ddinesig neo-glasurol, y canolfannau siopa newydd sbon. Gan fy mod yn bod yn ymwelydd, dwi’n cychwyn ar frig rhestr y rhan fwyaf o ymwelwyr: Castell Caerdydd. Gyda dros 2,000 o flynyddoedd o hanes, mae’n gyfuniad anhygoel o’r holl ddigwyddiadau hanesyddol o bwys sydd wedi siapio Caerdydd, o gyfnod y Rhufeiniaid hyd y goresgyniad Normanaidd, i’r cyfoeth anhygoel a ddaeth yma gyda’r glo. Y 3ydd Ardalydd Bute a gafodd y dylanwad mwyaf ar y ffordd y mae’r castell yn edrych heddiw. Fe gyflogodd Bute y dylunydd rhodresgar (a drud) William Burges i weithio gydag o i ddylunio’r gyfran lle’r oedd yn byw o’r castell sy’n adlewyrchu eu diddordeb ysol mewn popeth canol oesol. Trwy gyfuniad o weledigaeth Burges ac arian Bute, nid oedd cyfyngiadau ar eu dyluniadau moethus.

Ond y pethau bychain fyddwch chi’n eu cofio: Roeddwn i’n arbennig o hoff o’r cerfluniau bach o fwncïod yn darllen llyfrau, sef ffordd Bute o wneud hwyl am ben damcaniaeth esblygiad Darwin, mae’n debyg. Mae Caerdydd ei hun yn parhau i esblygu. Uchafbwynt y penwythnos i mi oedd gweld y busnesau annibynnol sy’n ffynnu yn yr hen ganolfannau siopa oedd yn gymysg â’r siopau mwy masnachol. Mae gan y siopau eclectig ym mhob arcêd eu naws arbennig eu hunain, o’r siop sglefrfyrddio leol City Surf i Spillers Records (a agorodd yn 1894 – y siop recordiau hynaf yn y byd). Fe wnes i hyd yn oed fanteisio ar y cyfle i wneud gwaith ymchwil ar gyfer fy mhriodas yn Hubbard’s Cupboard yn Arcêd y Castell, oedd yn gam peryglus braidd a’m dyweddi hefo fi! Ac nid canol y ddinas yw diwedd y stori yng Nghaerdydd erbyn hyn: mae’r bwrdeistrefi unigol yn cryfhau ac yn creu enw iddynt eu hunain – mannau fel Cathays, y Rhath, Treganna a Phontcanna sy’n cynnig eu stryd fawr eu hunain yn ystod y dydd a noson allan wahanol i bobl sy’n chwilio am rywbeth ychydig yn wahanol. Un enghraifft dda o’r genhedlaeth newydd yma o arloeswyr yw Simon Thomas, sy’n berchen ar siop recordiau o’r enw Catapult yn Arcêd Stryd y Dug. Ond mae’n fwy na hynny. Mae’n label recordiau hefyd, ac yn frand dillad. Ei fusnes diweddaraf yw bwyty ‘pop-up’ a elwir yn Chuck’s, a fu’n llwyddiant mawr

y llynedd mewn hen laethdy gwag. Mae gan Simon, fel llawer o’r cwmnïau ifanc annibynnol yng Nghaerdydd, genhadaeth: ysbrydoli. ‘Dwi ddim yma i wneud arian,’ dywed gan chwerthin. ‘Dwi’n ei wneud am fy mod i am ei wneud. Fe wnes i gychwyn Chuck’s oherwydd ei fod y math o le y byddwn i am fwyta ynddo. Ond ar yr un pryd mae busnes fel fy un i yn rhoi cyfle i ddatblygu gyrfaoedd pobl eraill o Gaerdydd, boed yn gerddorion ar y label neu’n gogyddion yn y gegin. ‘Dwi ddim yn erbyn busnesau masnachol,’ meddai Simon. ‘Dwi am i bobl gael y cyfle i ddewis ble maen nhw am fwyta a siopa – dewis gwahanol i’r brif-ffrwd sy’n safonol a chredadwy.’ Yn ôl yn y gwesty, dwi’n mwynhau fy nhaith i’r dref sy’n gartref i mi yn fawr. Rydyn ni’n aros yn y Park Plaza, gwesty tawel yng nghanol y ddinas, gyda’i sba a’i chlwb iechyd ei hun. Ar ôl rhai oriau yn yr ystafell ager a’r pwll dur gloyw, dwi’n teimlo’n ddyn newydd. O leiaf, ar ôl y massage dwfn, dwi’n teimlo bod gen i bâr newydd o ysgwyddau. Ar ben hynny, dwi wedi gweld y ddinas sy’n gartref i mi mewn ffordd newydd sbon. Ac mae’n teimlo’n dda, yn dda iawn.

Caerdydd 22

cymru.visitwales.co.uk

millenniumstadium.com cardiffcastle.com citysurfshops.co.uk spillersrecords.co.uk hubbardscupboardonline.co.uk catapult.co.uk parkplazacardiff.com


Trefi a dinasoedd Mynediad i bawb

Mynediad i bawb Yn meddwl bod gwlad sy’n enwog am ei harfordir a’i chestyll yn anaddas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn?

Bwyta yng Nghaerdydd

Mae gan Gaerdydd yr holl gadwyni enwog fel Jamie’s a Carluccio’s, yn ogystal â dewis gwych o gwmnïau annibynnol cartref. Mae Milgi Lounge (milgilounge. com) yn enghraifft berffaith: bwyty llysieuol ar City Road, rhyw filltir allan o’r dref. Mae teimlad cymunedol iawn iddo, gyda bwyd lleol a chwsmeriaid o bob oed a math, felly mae lle i bawb yma. Mae eu diodydd coctel yn rhyfeddol, yn arbennig Mojito Milgi, sy’n cynnwys blodau ysgawen a lychee. Nid dim ond bwyty ydi hwn chwaith: maen nhw’n cynnal nosweithiau cerddoriaeth fyw ac adrodd straeon yn yr iwrt yn yr ardd gefn, ac arddangosfeydd celf a marchnadoedd yn y lôn a’r modurdai yn y cefn. Mae gan Mint & Mustard (mintandmustard.com) enw da iawn yn lleol am ei brydau o Dde’r India, ac ar ôl bod yno mi allaf weld pam! Nid mynd yno i fwyta yn unig fyddwch chi; rydych yn mynd yno i gael profiad cyflawn. Bwyty Catalanaidd teuluol yw La Cuina (lacuina.co.uk) sy’n deli yn ystod y dydd ac yn fwyty yn ystod y nos. Mae’n gymharol newydd ond eisoes yn boblogaidd ymhlith y rhai sy’n gwirioni ar fwyd yn lleol (roedd yn llawn i’r ymylon pan aethom ni draw). Yna dyna i chi Torre Coffee, busnes ^ a gwraig Eidalaiddteuluol arall sy’n cael ei redeg gan wr Rwmanaidd. Mae’r cacennau yn wych, ac maen nhw yn groesawus iawn i deuluoedd – ac mae yn union gyferbyn â Chastell Caerdydd.

Am ragor o wybodaeth am Abertawe a Chaerdydd, ewch i: visitswanseabay.com a visitcardiff.com

D

wi’n eithaf hawdd fy mhlesio pan ddaw hi’n fater o bethau fel hyn. Dwi bob amser yn meddwl am hygyrchedd mewn ffordd ‘does ‘na ddim byd yn amhosibl’. Dros ddau benwythnos a dreuliais yn Abertawe a Chaerdydd fe ges fy nhrin yn union fel y byddai unrhyw ymwelydd – a dyna sut ydw i’n hoffi gweld pethau. Ni wnes i orfod goresgyn unrhyw rwystrau o ran mynediad i gadair olwyn. Roedd gan y ddau westy ystafelloedd gyda digon o ofod i gadair ac roedd yr offer angenrheidiol i gyd yn yr ystafelloedd ymolchi. Roedd y staff yn y bwytai yn barod iawn i helpu trwy gynnig bwrdd oedd yn hawdd mynd ato a sicrhau bod cadair yn cael ei symud er mwyn i mi allu mynd i mewn ar unwaith! Fe wnaeth Castell Caerdydd argraff arbennig arnaf. Mae’n adeilad rhestredig Gradd I â’i wreiddiau yn deillio yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid. Fyddech chi ddim yn disgwyl gallu mynd i bob rhan o’r castell, a dweud y gwir, ond os oes yna adeilad hynafol sy’n dangos yn union beth allwch chi ei gyflawni o ddangos ymrwymiad gwirioneddol i hygyrchedd, yna Castell Caerdydd yw hwnnw. Roedd yno lifftiau i gadeiriau olwyn nid yn unig i dwnneli’r castell ond hefyd i brif ystafelloedd y plasty! ^ 360 yn Abertawe yn Mae Chwaraeon Traeth a Dwr cynnig mynediad gwirioneddol ddyfeisgar i’r anabl. Mwyaf sydyn nid oes gennych unrhyw un o’r pryderon arferol: ‘Sut allai newid?’ neu ‘Sut allai fynd i’r toiled?’ Mae defnyddio cadair olwyn draeth yn cael gwared ar y problemau eraill trwy eich galluogi i gael mynediad rhwydd ar draws y tywod ac i’r môr. Mae’n wych gweld atyniad i ymwelwyr yn cynnig y fath gynhwysedd i bawb. Uchod Jamie’s Italian, Caerdydd Y cyflwynydd teledu Liam Holt ^ 360, Abertawe Chwaraeon Traeth a Dwr cymru.visitwales.co.uk

23


48

Awr

Lle i fynd, beth i’w wneud a sut i wneud hynny

Abertawe B

ydd Abertawe yn aml iawn ar frig arolygon ‘bodlonrwydd myfyrwyr’ o drefi prifysgol, ac mae’n hawdd iawn gweld pam bod myfyrwyr wrth eu boddau yma. Mae’r dref gyfan yn cofleidio cilgant anferth Bae Abertawe, gan roi ymdeimlad tawel glan y môr i’r ddinas yn ystod y dydd, a theimlad o fwynhad hwyliog yn ystod y nos, yn arbennig yn y bariau a’r clybiau ar Stryd y Gwynt a’r Kingsway. Felly lle i ddechrau? Mae’r ardal SA1 newydd cystal lle ag unrhyw un, ^ gydag datblygiad trawiadol ar lan y dwr, adeilad talaf Cymru yn ei ganol, sydd wedi trawsnewid ardal ddiolwg ar ôl y rhyfel a arweiniodd Dylan Thomas i ddisgrifio man ei eni fel ‘lovely, ugly town’. Mae Abertawe wedi newid llawer iawn ers i Dylan fyw yma, ac mae canol y ddinas wedi ei foderneiddio’n llwyr, gan ddadwneud y difrod a wnaed gan fomiau’r rhyfel, ac, yn waeth na hynny, ailadeiladu brysiog ar ôl y Rhyfel. Ond fe fyddai’n dal i adnabod nifer o nodweddion lleol: y castell, yr amgueddfa (swanseamuseum.co.uk), y farchnad dan do ragorol (swanseaindoormarket. co.uk) ac, wrth gwrs, y t^y lle ganed ef (5cwmdonkindrive.com). Efallai y byddai’n teimlo’n wylaidd o wybod bod yr hen ‘Guildhall’ yn Ganolfan Dylan Thomas erbyn hyn (dylanthomas.com). Gobeithio y byddai’n cymeradwyo rhai o’r newydd-ddyfodiaid hefyd, fel y fforest law egsotig dan do sy’n blodeuo dan y t^y gwydr siâp pyramid yn Plantasia (plantasia.

24

cymru.visitwales.co.uk

^ gyda’r dechnoleg org), y parc dwr ddiweddaraf, LC (thelcswansea.com), ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau (amgueddfacymru.ac.uk/cy/abertawe/), sy’n adrodd stori ein gorffennol diwydiannol a morwrol yn ogystal â’n dyfodol technolegol. Mae Abertawe yn borth arfordirol i ardal o gefn gwlad arfordirol wyllt heb ei difetha fyddai’n gallu cystadlu ag unrhyw un arall. Teithiwch tua’r gorllewin trwy bentref ffasiynol y Mwmbwls, gyda’i siopau a’i fwytai, ac fe ddylech gyrraedd ^ (visitswanseabay.com/ Penrhyn Gwyr gower), y lle cyntaf ym Mhrydain i gael ei ddynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn 1949. Mae yno draethau gwirioneddol ryfeddol, gan gynnwys Bae’r Tri Chlogwyn ac anferthedd Rhosili (gweler y llun ar y clawr), sydd i’w gweld yn gyson mewn rhestri o olygfeydd gorau Prydain. Mae’n werth ymweld ag ochr ddwyreiniol Bae Abertawe hefyd. Ym Mharc Gwledig Margam (margamcountrypark.co.uk) mae castell trawiadol, Orendy o’r ddeunawfed ganrif, gerddi addurnol, parc ceirw a chyfle i ddringo’r gwifrau uchel yn y coed yn ‘Go Ape’, y cyfan mewn 1,000 o erwau o gefn gwlad trawiadol. Abertawe hefyd yw man cychwyn rheilffordd Calon Cymru (heart-of-wales. co.uk), sy’n ymlwybro trwy ein cadarnle amaethyddol cyn diflannu i dwnneli trwy fynyddoedd ar ei thaith hardd i Amwythig.

Abertawe visitswanseabay.com


Trefi a dinasoedd 48 Awr

Y dudalen gyferbyn o’r top ^ Mwmbwls, y porth i Benrhyn Gwyr Abertawe yn erbyn Manchester Utd, Stadiwm Liberty, Abertawe Marchnad dan do Abertawe ^ Cerdded ar Benrhyn Rhosili, Penrhyn Gwyr Y dudalen hon o’r top Parc Bute, Caerdydd Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ^ ar Fae Caerdydd Prysurdeb glan y dwr Doctor Who Experience, Bae Caerdydd

Caerdydd I

awn, mae gennych 48 awr i ddarganfod ein prifddinas. Felly beth am...siopa. Mae Caerdydd yn un o ddinasoedd siopa gorau’r Deyrnas Unedig, diolch i Ganolfan Dewi Sant (stdavidscardiff.com), rhan o drawsnewidiad £700m i ganol y ddinas. Mae yno fwy na 160 o siopau – gan gynnwys John Lewis – bwytai a chaffis, y cyfan yn daclus yng nghanol y ddinas. Ceir hefyd saith hen arcêd siopa hanesyddol (visitcardiff.com) a Marchnad Caerdydd (cardiff-market.co.uk), hen farchnad to gwydr go iawn. Mae yno amgueddfeydd ac orielau di-ri hefyd yng nghanol y ddinas. Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (amgueddfacymru.ac.uk/cy/Caerdydd) yn adrodd hanes pedair miliwn a hanner o flynyddoedd o hanes Cymru ac yn gartref i un o’r casgliadau celf gain gorau yn Ewrop. Ychydig tu allan i’r ddinas mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru (amgueddfacymru.ac.uk/cy/sainffagan), amgueddfa awyr agored anhygoel ac yn haeddiannol mae’n un o’r atyniadau ymwelwyr mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Yn y ddinas mae mwy na 2,000 erw o barciau, gan ei gwneud yn brifddinas fwyaf gwyrdd Ewrop. Mae Parc Bute (cardiff.gov.uk) yn ddarn o dir gwyrdd trawiadol sy’n ymestyn i lawr i ganol y ddinas, lle mae’n cyffwrdd yn y ‘Wal Anifeiliaid’ o gerfluniau wrth ymyl Castell Caerdydd (cardiffcastle.com). Mae Caerdydd yn orlawn o gerdd a drama hefyd, o leoliadau fel Neuadd Dewi Sant (stdavidshallcardiff.co.uk), yr Arena Motorpoint (livenation.co.uk) a

Caerdydd

Chanolfan Mileniwm Cymru (wmc.org. uk) i leoedd llai fel Canolfan Chapter (chapter.org) – sydd hefyd yn cynnig caffi a bar rhagorol – a Chlwb Ifor Bach (clwb.net). Mae yma fannau di-ri i ymlacio gyda bwyd a diodydd da. Diolch i’r dociau yn Tiger Bay, hon oedd dinas aml-ddiwylliannol gyntaf Prydain, sy’n cael ei adlewyrchu yn y bwyd: cynrychiolir bron bob diwylliant, o Frasil i Fengal, ynghyd â’r cynnyrch Cymreig gorau lleol. Dyma ddinas sy’n dathlu bob penwythnos. Clybiau Heol y Santes Fair a Heol y Brodyr Llwydion yw canolbwynt yr hwyl, ond fydd dim rhaid i chi chwilio ymhell i ddod o hyd i dafarn Gymreig wirioneddol yn gwerthu cwrw Brain’s, fel y City Arms (thecityarms. com) chwedlonol, neu far tawel fel 10 Feet Tall (10feettallcardiff.com) sydd â dewis gwych o goctels a DJ yn creu cerddoriaeth dda. Gan eich bod yn treulio penwythnos yma, fe fydd gennych amser i grwydro ychydig. Ym Mae Caerdydd (visitcardiffbay.info) mae pensaernïaeth drawiadol i’w darganfod – yn hen a newydd – yn ogystal â digon o fannau i fwyta ac yfed, ac atyniadau fel yr amgueddfa wyddoniaeth Techniquest (techniquest.org), Dr Who Experience (doctorwhoexperience.com) a Chanolfan ^ Gwyn Rhyngwladol Caerdydd Dwr (ciww.com).

visitcardiff.com cymru.visitwales.co.uk

25


Arweinwyr yn y farchnad Draw o’r dinasoedd mawr a’r trefi glan môr, mae gan y Gymru wledig ddigon o drefi marchnad gwych. Fel y saith ardderchog yma, er enghraifft...

2

Y Fenni, Sir Fynwy

3

Llandrindod, Powys

Dyma dref farchnad wirioneddol – tair bob wythnos, dim llai – ac mae’n lle gwych i fusnesa o gwmpas siopau ac orielau unigryw. Mae’n ^ ganolfan gastronomaidd i Gymru hefyd, gyda gwyl fwyd a diod orau Prydain yn cael ei chynnal yma bob Medi. Gallwch losgi’r calorïau trwy gerdded ar un o’r saith bryn sy’n amgylchynu’r dref. visitwyevalley.com, abergavennyfoodfestival.com Ble i aros: Mae Gwesty’r Angel y math o dafarn y byddai pob tref yng Nghymru yn dymuno ei chael, ac mae’r bwyty sy’n cyd-fynd â hi, The Walnut Tree, yn un o’r rhai enwocaf yng Nghymru gyda dau fwthyn hunanddarpar gerllaw. angelabergavenny.com, thewalnuttreeinn.com

Byddai pobl yng nghyfnod Fictoria yn heidio i ‘Landod’ oherwydd y dyfroedd iachusol, ac mae ei leoliad yng nghanol Cymru yn ei gwneud yn dref boblogaidd i gynnal cynadleddau o hyd. Oherwydd hynny mae yma ddigon o bethau i’ch diddanu trwy’r flwyddyn (gan gynnwys marchnad wythnosol) ond ^ Fictoraidd flynyddol ym mis Awst yn ystod yr Wyl y mae’n disgleirio mewn gwirionedd. midwalesmywales.com, victorianfestival.co.uk Ble i aros: Y Metropole yw’r fwyaf o ddwsinau o ddewisiadau mewn tref sydd wedi ei pharatoi ar gyfer ymwelwyr. metropole.co.uk

26

cymru.visitwales.co.uk

2

4

3 5


Arfordir a chefn gwlad Arweinwyr yn y farchnad

1

Llandeilo, Sir Gaerfyrddin

4

Machynlleth, Powys

5

Llanrwst, Conwy

^ Sir Gâr’, fel mae’r wasg yn Llundain yn ei galw, sy’n eistedd yn dlws ar ‘Prifddinas cwl fryn yn cadw golwg ar un o ddyffrynnoedd harddaf Cymru. Mae digon o siopau a chaffis i ymlwybro o’u cwmpas, ac mae o fewn cyrraedd hawdd i warchodfa natur goediog Castell Dinefwr, canolfan frenhinol hynafol. Cynhelir gwyliau cerdd, jazz a llenyddol gwych yma hefyd. discovercarmarthenshire.com Ble i aros: Y Cawdor yw calon gymdeithasol y dref, tra mai Fronlas yw’r Gwely a Brecwast mwyaf chic. thecawdor.com, fronlas.com

Mae yna deimlad braf iawn i Fachynlleth, tref farchnad hardd – mae’r farchnad ar y stryd bob dydd Mercher – a daw ffermwyr lleol yno i gymysgu â’r hipis sy’n byw yn yr ardal. Mae yma oriel gelf fodern ragorol, MOMA, ac mae’r Ganolfan Dechnoleg Amgen gerllaw yn drysor. midwalesmyway.com, momawales.org.uk, cat.org.uk Ble i aros: Mae teimlad cymunedol cynnes i’r Wynnstay, ac nid yw Ynyshir Hall ymhell. wynnstay-hotel.com, ynyshirhall.co.uk

6

Yn 1947 fe wnaeth Llanrwst ddatgan ei bod yn dalaith annibynnol ac ymgeisio (â’i thafod yn ei boch i ryw raddau) am sedd yn y Cenhedloedd Unedig. Mae’n dal yn dref farchnad ryfeddol o annibynnol, yng nghanol Dyffryn Conwy, mewn lle perffaith i ymweld ag arfordir a mynyddoedd Eryri. visitsnowdonia.info Ble i aros: Mae Plas Maenan, y ‘plasty ar y graig’ yn blasty gwledig hardd gyda golygfeydd gwych o’r dyffryn islaw. plas-maenan-hotel.co.uk

6

Y Bont-faen, Bro Morgannwg

7

Rhuthun, Sir Ddinbych

Mae pobl grand Caerdydd yn teithio i mewn oddi yma, y cyfeiriad mwyaf crand sydd i’w gael ym Mro Morgannwg. Er gwaethaf yr holl siopau, orielau a chaffis, mae’r Bontfaen yn parhau yn ganolbwynt i gymuned amaethyddol y Fro, felly mae ganddi lawer iawn o dail gwirioneddol yn dal ar ei wellingtons. Y gorau o’r ddau fyd, wir yr. visitthevale.com Ble i aros: Gall tafarn y Bear olrhain ei hanes yn ôl i’r ddeuddegfed ganrif, ac mae’n dal i ffynnu heddiw. bearhotel.com

Mae’n galw ei hun yn ‘dref fechan fwyaf deniadol Cymru’, a wnawn ni ddim dadlau. Mae yno ganolfan grefftau ragorol, a hyd yn oed hen garchar, a gaewyd ym 1976, sy’n cynnig croeso cynnes i’w amgueddfa ddifyr iawn erbyn hyn. Ar y cyfan, y ganolfan berffaith i grwydro bryniau Clwyd. northeastwales.co.uk Ble i aros: Mae Manorhaus yn fwyty bwtîc gydag ystafelloedd sy’n oriel gelf hefyd, ac mae castell y dref yn awr yn westy sba moethus. manorhaus.com, ruthincastle.co.uk

7 cymru.visitwales.co.uk

27


Dyddiadur Digwyddiadau O wyliau cwrw i ddigwyddiadau chwaraeon o bwys, dathliadau diwylliannol i wleddoedd o fwyd, mae digon i’ch cadw yn brysur yng Nghymru eleni. Fel y gallwch weld yn glir, does gennym ni ddim ofn cynnal parti neu ddau. 2014 yw blwyddyn dathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas, y ffigwr llenyddol dylanwadol iawn yn ystod diwedd yr ugeinfed ganrif. Cynhelir pencampwriaeth golff Agored y Chwaraewyr H y^ n yng Nghymru am y tro cyntaf yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl, gan ddilyn yn ôl troed arloesol Cwpan Ryder yn 2010. Ynghyd â gwyliau llenyddol, dathliadau cerddorol niferus ac, wrth gwrs, pencampwriaethau snorclo mewn cors, pam na wnewch chi gynllunio eich taith yng Nghymru ar y cyd ag un o’r digwyddiadau byd enwog yma?

28

cymru.visitwales.co.uk


Dyddiadur Digwyddiadau 2014

11 Ionawr ^ Gwrw Saturnalia a Ras Gwyl Cerbydau Rhyfel, Llanwrtyd ^ fawr ganol gaeaf Saturnalia oedd gwyl y Rhufeiniaid. Yn y fersiwn hon, mae pawb yn cael ei annog i wisgo gwisg Rufeinig, bwyta bwyd Rhufeinig, profi cwrw rhagorol a chael parti gyda’i ffrindiau. Fe allwch chi hyd yn oed gystadlu ym Mhencampwriaeth Rasio Cerbydau Rhyfel Beiciau Mynydd y Byd. green-events.co.uk

4 – 14 Chwefror Quiltfest, Llangollen Unrhyw beth a phopeth sy’n ymwneud â gwneud cwiltiau: arddangosfeydd, cystadleuaeth, dangosiadau a gweithdai. quiltfest.org.uk

2 Mawrth Ras yr Ynys, Ynys Môn Mae Hanner Marathon Ynys Môn yn arwain y rhedwyr ar draws Pont Menai ac yn dilyn ffordd yr arfordir i Gastell Biwmares ac yn ôl. theislandrace.com

6 – 11 Chwefror ^ Abertawe i Gerddorion Ifanc, Gwyl Abertawe Digwyddiad cerddorol blynyddol yn cynnwys adrannau piano, llinynnau, chwythbrennau ac ensemble cystadleuol. afymswansea.co.uk

15 Mawrth Cymru v Yr Alban, Caerdydd Diwrnod olaf pencampwriaeth y Chwe Gwlad, a’r gêm y bydd y disgwyl mwyaf amdani eleni yn Stadiwm y Mileniwm. millenniumstadium.com

Chwefror Classic FM yn fyw yng Nghaerdydd Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, bydd Classic FM Live yn cyfuno’r perfformwyr rhyngwladol gorau â thalentau gorau Cymru, gan wneud cerddoriaeth glasurol yn hygyrch i gynulleidfa eang. classicfm.com

1 Mawrth ^ Dewi Gorymdaith Dydd Gwyl I ddathlu diwrnod ein nawdd sant, bydd gorymdeithiau a digwyddiadau yn cael eu cynnal ledled Cymru. Mewn trefi a dinasoedd mwy chwiliwch am wyliau bwyd, cyngherddau a phartïon stryd. stdavidsday.org

Yn dechrau 21 Mawrth ^ Ffilm Un Byd Cymru Caerdydd Gwyl ac Aberystwyth Mae Un Byd yn archwilio ymylon sinema gyfoes y byd ac yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd ddathlu sinema’r byd yn ei holl gyfoeth ac amrywiaeth. wowfilmfestival.com

1 Chwefror Cymru v Yr Eidal, Caerdydd Yn Stadiwm y Mileniwm bydd y gêm ryngwladol gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Fel y pencampwyr, bydd Cymru yn wynebu’r Eidal. millenniumstadium.com

1 – 9 Mawrth ^ Gerdded Crucywel Gwyl Teithiau cerdded gydag arweinydd o wahanol raddau, y cyfan yn cael eu harwain gan arweinwyr lleol profiadol ac amrywiaeth o ddigwyddiadau eraill. crickhowellfestival.com

Y dudalen gyferbyn, yn nhrefn y cloc o’r top ar y chwith ^ Elvis, Porthcawl Gwyl Eisteddfod Ryngwladol Llangollen Gêm rygbi ryngwladol Cymru v Yr Eidal, Caerdydd Neuadd Dewi Sant, Caerdydd Y Sioe Frenhinol, Llanfair ym Muallt Grand Prix Speedway Prydeinig, Caerdydd ^ y Gelli, Gelli Gandryll Gwyl Y dudalen hon o’r chwith Pont Menai, Ynys Môn Cerddor, Castell Caerdydd ^ Dewi Gorymdaith Dydd Gwyl cymru.visitwales.co.uk

29


11 – 13 Ebrill Sioe Flodau’r RHS, Caerdydd Cynhelir ym Mharc Bute, gyda Chastell Caerdydd yn gefndir, mae’r sioe yn cynnig arddangosfa ysbrydoledig o arddio bywiog, blodau hyfryd a chyngor arbenigol. rhs.org.uk

Dylan Thomas Eleni mae Cymru yn dathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas, a aned ar 27 Hydref 1914 yn 5 Cwmdonkin Drive, yn yr Uplands, Abertawe. Tyfodd yn y ddinas, ond byddai’n mynd yn gyson ar wyliau haf i fferm ei fodryb yn Sir Gaerfyrddin, ac fe ysbrydolodd y cefndir gwledig hwnnw lawer o’i waith. Gadawodd Dylan yr ysgol yn 16 oed i fynd yn ohebydd i’r papur newydd lleol, a daeth yn gwsmer cyson mewn tafarndai a siopau coffi lleol, lle byddai’n cymysgu ^ o awduron, cerddorion ac gyda gr wp arlunwyr a ddaeth i gael eu galw yn ‘The Kardomah Gang’. Yn 1936 cyfarfu â dawnswraig o’r enw Caitlin Macnamara mewn tafarn yn Llundain, ac yn ei gwrw fe ofynnodd iddi ei briodi yn y fan a’r lle. Fe wnaethant briodi yn 1937, a blwyddyn yn ddiweddarach symudodd y cwpl i Dalacharn, gan fagu tri o blant yno. Bu farw ar 9 Tachwedd 1953 yn Efrog Newydd, ar ôl sesiwn yfed faith. Dychwelwyd ei gorff i Gymru ac fe’i cladded ym mynwent eglwys Talacharn. Cofir Dylan fel un o’r beirdd mwyaf dyfeisgar yn y Saesneg. Yn ychwanegol at farddoniaeth, ysgrifennodd storïau byrion a sgriptiau ar gyfer ffilmiau a’r radio yn arbennig felly ei ‘ddrama i leisiau’ glasurol, Under Milk Wood.

Ebrill – Medi Penwythnosau Dylan Tri phenwythnos i ddathlu bywyd a gwaith Dylan Thomas, ar themâu i gyfateb â hoff ffurfiau Dylan o gelfyddyd: yn union y math o ddigwyddiadau y byddai Dylan ei hun wedi eu mwynhau:

26 – 27 Ebrill Wonderwool Wales, Llanfair ym Muallt Penwythnos hwyliog llawn o ffibr sy’n cynnwys arddangosfeydd, gweithdai a dangosiadau. wonderwoolwales.co.uk

11 – 13 Ebrill Barddoniaeth a Bywgraffiadau dan ofal Patti Smith a Simon Armitage 19 – 21 Medi Comedi a Radio dan ofal Robin Ince a Simon Maconie 26 – 28 Medi Cerddoriaeth a Ffilm dan ofal Richard James ac Euros Childs thelaugharneweekend.com dylanthomas100.org

Uchod Sioe Flodau’r RHS, Caerdydd Wonderwool Wales, Llanfair ym Muallt

30

cymru.visitwales.co.uk


Dyddiadur Digwyddiadau 2014

2 – 4 Mai ^ Gomedi Machynlleth Gwyl ^ Gomedi fyw flynyddol sy’n dod â’r Gwyl prif ddigrifwyr i’r dref hyfryd hon yng Nghanolbarth Cymru. machcomedyfest.co.uk 2 – 5 Mai Penwythnos Cerdded Bro Tregaron Mae Clwb Cerdded Tregaron yn gwahodd cerddwyr o bob oed a gallu i ymuno â nhw ar deithiau cerdded yn harddwch naturiol Mynyddoedd Cambria. walktregaron.co.uk

3 – 5 Mai ^ Fictoraidd Llandudno Gwyl Bydd y dref lan môr yn dychwelyd at ei gwreiddiau yn oes Fictoria mewn digwyddiad llawn o beiriannau stêm, organau Fictoraidd, hen geir, dilladau, difyrion a sioeau. victorian-extravaganza.com 16 – 18 Mai ^ Gerdded Prestatyn a Bryniau Gwyl Clwyd, Prestatyn Tri diwrnod o gerdded a hwyl yn y 9fed ^ flynyddol sy’n cynnig 25 o deithiau ar wyl themâu yn amrywio o’r hawdd i’r egnïol. prestatynwalkingfestival.co.uk

17 – 18 Mai Her Tri Chopa Cymru Eryri a Bannau Brycheiniog Cyfle unigryw i ddringo tri o fynyddoedd mwyaf trawiadol Cymru – Pen y Fan, Cader Idris a’r Wyddfa. snowdon500.co.uk 17 – 18 Mai Treiathlon Llanc y Llechi Eryri, Llanberis Treiathlon i’w chofio! Cynhelir y digwyddiad dros ddau ddiwrnod, gyda dau ddewis Llanc y Llechi llawn (1000m/51km/11km) neu’r Sbrint Llanc y Llechi (400m/20km/6km). snowdoniaslateman.com

22 – 29 Mai ^ Gelfyddydol Biwmares, Gwyl Ynys Môn Mae’r dref lan môr hon yn lleoliad ^ gelfyddydol sy’n wythnos perffaith i wyl o hyd. Mae’r digwyddiadau yn cynnwys cerddoriaeth glasurol a pherfformiadau jazz, sgyrsiau, digwyddiadau dramatig, darllen barddoniaeth ar arddangosfeydd celf. beaumarisfestival.com

22 Mai – 1 Mehefin ^ y Gelli, Gelli Gandryll Gwyl Galwodd cyn Arlywydd America, Bill Clinton y Gelli yn ‘Woodstock y meddwl’, sydd yn crynhoi’r casgliad anhygoel hwn o awduron a meddylwyr mwya’r byd. Bydd mwy na 900 o ddigwyddiadau dros 10 diwrnod, yn cynnwys beirdd a gwyddonwyr, awduron caneuon a chomedïwyr, nofelwyr ac amgylcheddwyr, gwleidyddion ac athronwyr, actorion a gofodwyr, haneswyr ac economegwyr – y cyfan yn dod at ei gilydd i drafod syniadau mawr a fydd yn trawsnewid eich ffordd o feddwl. Peidiwch â’i cholli. hayfestival.com

23 – 25 Mai ^ Feiciau Aberystwyth Gwyl Gyda rhai o feicwyr mwyaf Prydain ar ymweliad prin â Chanolbarth Cymru, ^ wylio’r holl gall ymwelwyr â’r wyl ddigwyddiadau a phrofi lonydd hardd a chudd Ceredigion ar eu beiciau eu hunain. abercyclefest.com

O’r chwith Biwmares, Ynys Môn Her Tri Chopa Cymru Bannau Brycheiniog ^ y Gelli, Gelli Gandryll Gwyl

cymru.visitwales.co.uk

31


24 Mai Rownd Derfynol Cwpan Heineken, Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd Chwaraewyd pedair rownd derfynol Cwpan Heineken hyd yn hyn yn y stadiwm hon o’r safon uchaf. Yn ystod rownd derfynol 2014 gwelir creu Pentref Pencampwyr Ewrop, gan gynnig canolbwynt i gefnogwyr flasu awyrgylch unigryw’r twrnamaint rygbi Ewropeaidd bwysig hon. Gallwch wneud penwythnos iawn o bethau trwy fynd i Rownd Derfynol Cwpan Amlin, y diwrnod cynt ym Mharc yr Arfau. ercrugby.com

25 – 26 Mai Rali Stêm a Hen Beiriannau Parc Bailey, Y Fenni Diwrnod gwych i’r teulu cyfan gyda cherbydau stêm a hynafol, maes chwarae i blant, pentref bwyd, crefftau gwledig a gwaith llaw. abergavennysteamrally.co.uk

4 – 7 Mehefin Treial Ceir Clasurol y Tri Chastell, Llandudno Yn denu mwy na 300 o geir clasurol o ddechrau’r 1900au hyd geir eithriadol heddiw. Stondinau, adloniant i blant, lluniaeth a jazz byw. three-castles.co.uk

26 – 31 Mai Eisteddfod yr Urdd, Y Bala Un o’r gwyliau ieuenctid mwyaf yn Ewrop, yn dathlu’r talentau gorau mewn canu, dawnsio, drama, llefaru a dylunio. urdd.org/eisteddfod

7 Mehefin Llwybr Mawr Cymru, Coed Llandegla Bydd llwybr hanner marathon a 6.3 milltir (10 km) yn mynd trwy lwybrau trawiadol yn yr 650 hectar o fewn y goedwig hardd hon. bigwelshtrail.com

24 – 25 Mai ^ Fwyd a Gwledig Gwirioneddol Gwyl Wyllt, Tyddewi Cyfle i weld dewis gwych o fwyd a dyfwyd ac a gynhyrchwyd yn lleol, gyda chynhwysion gwyllt wedi eu casglu o’r gwrychoedd, o’r arfordir, y traeth a’r afon. Digon i’w weld a’i wneud, AC i’w fwyta, wrth gwrs! reallywildfestival.co.uk

30 Mai – 1 Mehefin ^ Coed Cymru, Ystâd Cinmel Gwyl ger Llanelwy Mae’r dathliad rhyngweithiol hwn o sgiliau a chrefftau yn ymwneud â choed yn llawn o arddangosfeydd cyffrous gyda mwy na 150 o stondinau arddangos a masnachu, a chwe phabell yn llawn o nwyddau unigryw a gynhyrchwyd yng Nghymru. woodfestwales.co.uk

13 – 29 Mehefin ^ Gregynog, Gregynog, Powys Gwyl ^ hynaf Yn cael ei hystyried yn wyl ^ Gregynog yn un o’r Cymru, mae Gwyl digwyddiadau cerddoriaeth glasurol sy’n cael ei hystyried yn orau yn y Deyrnas ^ yn harddwch Unedig. Cynhelir yr wyl gororau Cymru ac mae ganddi thema wahanol bob blwyddyn gan ymdrin ag amrywiaeth o gerddoriaeth o’r canol oesol i siambr, yn cael eu perfformio gan artistiaid anhygoel, ar offerynnau o’r cyfnod. gregynogfestival.org

25 Mai Pencampwriaeth Taflu Cerrig Agored Cymru, Llanwrtyd Mae taflu cerrig fel eu bod yn bownsio ar ^ mor bell â phosibl yn hen wyneb y dwr grefft. Gallwch ymuno yn y gystadleuaeth neu fwynhau digwyddiadau eraill yn ymwneud â cherrig. green-events.co.uk

32

cymru.visitwales.co.uk

Mehefin ^ Rhuthun, Rhuthun Gwyl Amrywiaeth anhygoel o gerddoriaeth ddi-baid, o gerddoriaeth werin draddodiadol i’r clasurol, yn ogystal â’r gorau o fyd jazz a cherddoriaeth boblogaidd. ruthinfestival.co.uk

O’r chwith Cwpan Heineken, Stadiwm y Mileniwm Hel bwyd yng Nghymru ^ Coed Cymru, Ystâd Cinmel, Gwyl ger Llanelwy


Dyddiadur Digwyddiadau 2014

14 Mehefin Marathon Dyn v Ceffyl Llanwrtyd Marathon unigryw am 22 milltir (35 km) trwy gefn gwlad hardd pan fydd y rhedwyr a’r ceffylau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Dim ond ddwywaith y mae rhedwr wedi ennill yn hanes y digwyddiad ers 33 mlynedd. green-events.co.uk

28 Mehefin Taith y Porthmyn, Llanwrtyd Dilynwch yn ôl traed y porthmyn oedd yn gyrru’r defaid, gwartheg, moch a gwyddau ar draws y mynyddoedd o Gymru i drefi marchnad Lloegr. Mae dewis o deithiau, y cyfan trwy gefn gwlad hardd. green-events.co.uk

14 – 15 Mehefin ^ Gelfyddydau Eryri, Gwyl Betws-y-coed Dathliad o etifeddiaeth artistig yr ardal trwy weithdai a chystadlaethau. snowdoniaartsfestival.org.uk

28 Mehefin – 6 Gorffennaf Wythnos Bysgod Sir Benfro ^ anferth yma yn cynnig mwy Mae’r wyl na 250 o ddigwyddiadau yn dathlu bwyd môr gwych y sir a’r arfordir hardd. Dysgwch sut i bysgota pluen, dal crancod, mwynhewch y bwyd môr mwyaf ffres posibl, ewch i dyllu yn yr her castell tywod, a llawer mwy. pembrokeshirefishweek.co.uk

4 – 6 Gorffennaf Wakestock, Abersoch ^ gerdd donfyrddio fwyaf Ewrop G wyl gyda thonfyrddio i’w wylio am ddim yn ystod y dydd a cherddoriaeth yn ystod y nos. wakestock.co.uk

15 Mehefin Etape Eryri, Caernarfon Digwyddiad beicio na ddylid ei golli. Ni allai’r llwybr yma fod yn fwy rhyfeddol, yn archwilio’r ffyrdd mwyaf trawiadol a hardd yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. etapeeryri.com

Gorffennaf – Awst ^ Caerdydd Gwyl Bydd y brif ddinas yn dod yn fyw am fis o theatr stryd, cerddoriaeth fyw, comedi, drama a ffeiriau i’r plant. Mae’r cyfan yn ^ awyr agored fwyaf y Deyrnas rhan o wyl Unedig. cardiff-festival.com

20 – 22 Mehefin ^ Lenyddiaeth Dinefwr, Gwyl Parc Dinefwr Mwy na 100 o ddigwyddiadau yn cynnwys awduron, beirdd, cerddorion, artistiaid, actorion a chomedïwyr. dinefwrliteraturefestival.co.uk

4 – 6 Gorffennaf ^ Adrodd ‘Beyond the Border’, Gwyl Straeon Ryngwladol, Castell Sain Dunwyd, Sain Dunwyd Yng ngerddi castell tylwyth teg ger y môr, dathliad gwych o storïau a cherddoriaeth o Gymru a’r Byd. beyondtheborder.com

4 – 6 Gorffennaf Cwpan yr Enwogion yn Golf Live Celtic Manor, Casnewydd Mae Cwpan yr Enwogion yn gweld enwogion yn brwydro dros ddau ddiwrnod yn cynrychioli Lloegr, Iwerddon, yr Alban a Chymru, tra mae Golf Live yn cynnig dewis digymar o theatrau rhyngweithiol, lle gall ymwelwyr weld golffwyr gorau’r byd yn dangos eu talentau, dysgu gan arbenigwyr o’r diwydiant a rhoi cynnig ar yr offer diweddaraf. golfliveevent.com O’r chwith Marathon Dyn v Ceffyl, Llanwrtyd Wakestock, Abersoch Y ddau gyflwynydd Ant a Dec, Cwpan Enwogion 2013

cymru.visitwales.co.uk

33


Tymor y golff Mae golff i bobl hy^ n yn cyrraedd oes aur, gyda llawer o’r golffwyr amlycaf yn hanes golff yn brwydro unwaith eto. Pa amser gwell i ddod â’r Bencampwriaeth Agored Hy^ n i Gymru? 24 – 27 Gorffennaf Y Bencampwriaeth Golff Agored H y^ n Clwb Golff Brenhinol Porthcawl Yn gymharol ddiweddar dewiswyd Cymru fel Cyrchfan Golff Heb ei Darganfod y Flwyddyn trwy bleidlais. Yn awr mae’n dilyn llwyddiant Cwpan Ryder 2010 yn y Celtic Manor trwy drefnu ei Phrif Bencampwriaeth Golff gyntaf ei hun yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl. Mae’r gyfrinach wedi cael ei datgelu’n llwyr erbyn hyn. Bydd y Bencampwriaeth Agored Hy^ n yn cael ei chynnal rhwng 24 a 27 Gorffennaf a bydd rhai o golffwyr mwya’r byd dros yr hanner can mlynedd diwethaf yn cyrraedd un o gyrsiau twyni gorau’r byd. Dyna i chi Bernhard Langer, golffiwr gorau’r Almaen, gyda dwy fuddugoliaeth yn y Masters i’w enw ac 11 ymddangosiad yng Nghwpan Ryder, gan gynnwys ei gapteniaeth fuddugol yn 2004. Mae’n dal yn ddigon abl, ac yntau wedi ennill y Bencampwriaeth Agored Hy^ n a’r gystadleuaeth gyfatebol yn yr Unol Daleithiau yn 2010. ‘Mae Cwrs Brenhinol Porthcawl yn sicr yn lleoliad gwych ac yn haeddiannol o Brif Bencampwriaeth. Fe wnes i chwarae yno flynyddoedd yn ôl ac rwy’n ei gofio fel safle hardd a chwrs golff gwych. ^ y bydd y cwrs yr un mor Dwi’n siwr

34

cymru.visitwales.co.uk

heriol ac mewn cyflwr gwych i ni ym mis Gorffennaf.’ Mae’r golffiwr o Loegr, Roger Chapman, enillydd Pencampwriaeth PGA Hy^ n yr Unol Daleithiau a Phencampwr Pencampwriaeth Agored Hy^ n yr Unol Daleithiau yn 2012, yn ategu canmoliaeth Langer. ‘Ceir llawer o gyrsiau gwych yng Nghymru a dwi wedi bod yn ddigon ffodus i chwarae ar nifer ohonyn nhw – Clwb Brenhinol Porthcawl, Conwy, Clwb Brenhinol Dewi Sant i enwi dim ond tri – yn ystod fy ngyrfa broffesiynol. ‘Dwi’n cofio chwarae yn y Bencampwriaeth Amatur a enillwyd gan Duncan Evans yng Nghlwb Brenhinol Porthcawl yn 1980 a meddwl bryd hynny pa mor wych oedd y lle. Dwi wedi chwarae yno lawer gwaith ers hynny ac mae yno rai tyllau ffantastig, heriol iawn. Mae’n rhaid i chi haeddu eich llwyddiant yno!’ Mae Clwb Brenhinol Porthcawl lai nag awr o daith mewn car o Gaerdydd ac Abertawe. Lleoliad perffaith ar gyfer pencampwriaeth golff. Ymhlith enillwyr y Bencampwriaeth Hy^ n Agored mae Gary Player, Tom Watson a Bob Charles. Bydd rhai o’r enwau mawr yn gymwys i gystadlu yn 2014 gan gynnwys Davis Love III, Colin Montgomerie a Miguel Angel Jimenez. Bydd Clwb Brenhinol

Porthcawl yn sicrhau y bydd holl bencampwyr y cystadlaethau mawr, arwyr Cwpan Ryder ac enillwyr y Daith Ewropeaidd yn cael agoriad heriol i’w Pencampwriaeth Hy^ n Agored gyntaf. Mae gan y clwb hanes lliwgar yn dyddio yn ôl i 1891 ac mae’n cyfuno parch mawr i draddodiadau democrataidd y gêm gyda pharodrwydd i groesawu golffwyr sy’n ymweld. I raddau helaeth mae hynny’n adlewyrchu’r ffordd y mae golff yn cael ei chwarae yng Nghymru. O gyrsiau wedi eu tyllu i ochrau mynyddoedd i barcdir hardd; o gyrsiau pencampwriaeth i glybiau cymunedol, lle byddwch yn gadael eich ffi mewn blwch gonestrwydd. Mae golff yng Nghymru yn ddiymffrost, ddifrys ac yn llawn o brofiadau dymunol. Fel y mae’r hen air yn dweud: dyma i chi golff fel y dylai fod. Am docynnau a chyfle am becynnau lletygarwch, cysylltwch â: 0800 023 2557 neu senioropengolf.com royalporthcawl.com golfasitshouldbe.com Yn nhrefn y cloc o’r chwith Clwb Golff Brenhinol Porthcawl Bernhard Langer Colin Montgomerie


Dyddiadur Digwyddiadau 2014

8 – 13 Gorffennaf Eisteddfod Ryngwladol Llangollen Dathliad diwylliannol rhyfeddol yn cynnwys 4,000 o gystadleuwyr o bob rhan o’r byd yn canu, dawnsio a chreu cerddoriaeth. international-eisteddfod.co.uk

19 Gorffennaf Ras Ryngwladol yr Wyddfa Un o sialensiau anoddaf Ewrop, mae’r ras hon yn cynnwys rhedeg llwybr serth pum milltir (wyth km) i fyny ac i lawr copa uchaf Cymru a Lloegr. snowdoniarace.co.uk

12 Gorffennaf Grand Prix Speedway Prydeinig, Caerdydd Bydd Stadiwm y Mileniwm yn croesawu’r pedwerydd ar ddegfed Grand Prix Speedway Prydeinig FIM yn olynol. speedwaygp.com

21 – 24 Gorffennaf Y Sioe Frenhinol, Llanfair ym Muallt Nid dim ond gwartheg a pheiriannau dyrnu welwch chi yn y sioe amaethyddol yma. Gyda cherddoriaeth fyw, arddangosfeydd campau, stondinau crefftau, bwyd gwych a llu o atyniadau eraill, nid oes raid i chi fod yn ffarmwr i’w mwynhau. rwas.co.uk

13 Gorffennaf Sioe Sir Ceredigion Prif sioe amaeth Gorllewin Cymru. cardigancountyshow.co.uk

1 – 9 Awst Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Parc Arfordir y Mileniwm, Llanelli

Mae Aled Haydn Jones yn gynhyrchydd ac yn cyflwyno ar BBC Radio 1. Dwi wedi bod mewn llawer o wyliau erioed: mae’n rhan o’r gwaith pan fyddwch chi’n DJ. Ond mae ‘na rywbeth

yn arbennig o hyd am yr Eisteddfod, sydd wedi bod yn rhan o’m bywyd ar hyd fy oes. Mae pob plentyn yng Nghymru yn cael ei anfon ar lwyfan yn ifanc iawn, yn arbennig os oeddech chi’n mynd i ysgol Gymraeg fel fy un i. Os ydych chi ar eich gwyliau ac am gael blas gwirioneddol ar ddiwylliant Cymru, yna fe ddylech yn sicr ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol. Does dim rhaid i chi siarad Cymraeg, na dod o Gymru i gael amser gwych yno. Mae’r awyrgylch mor gyfeillgar a chroesawus, ac mae ’na gymaint yn digwydd – cerddoriaeth, llenyddiaeth, dawnsio, dramâu. Mae’n symud o amgylch Cymru i le gwahanol bob blwyddyn, ac mae yn Llanelli yn 2014, ond mae’r pethau sylfaenol yr un fath. I gychwyn mae ’na gae sy’n cael ei alw yn Faes, gyda llwythi o

26 – 27 Gorffennaf ^ Gaws Fawr, Caerffili Gwyl Cyfle i ddathlu hanes, etifeddiaeth a diwylliant Caerffili gyda sbloet o ddiddanwyr stryd, gwersylloedd hanes byw, cerddoriaeth, dawnsio, hebogyddiaeth, llyncu tân a llawer mwy, y cyfan o gwmpas Castell Caerffili, un o’r cestyll mwyaf yn Ewrop. thevalleys.co.uk/whats-on/the-big-cheese

stondinau a gweithgareddau. Yn y canol mae pabell fawr binc a elwir yn Bafiliwn lle bydd y rhan fwyaf o’r cystadlaethau a’r seremonïau yn digwydd. ^ Os gallwch chi ddychmygu Gwyl Fringe Caeredin wedi ei chroesi gyda Glastonbury, gyda blas Cymreig iawn – wel, fe fyddwch chi bron yna. Mewn rhai ffyrdd mae’n draddodiadol iawn, gyda’r orsedd a’r beirdd a’r seremonïau difrifol. Ond mae hefyd yn wych i deuluoedd, ac i bobl ifanc. Dwi wedi gweld bandiau Cymraeg gwych yno ar fin nos. Ond, yn fwy na dim, mae’n lle gwych i gael sgwrs hefo hen ffrindiau a gwneud rhai newydd. Bydd yno groeso cynnes i bawb bob amser, os byddwch yn gallu siarad Cymraeg neu beidio. eisteddfod.org.uk

cymru.visitwales.co.uk visitwales.com

35


Awst ^ Jazz Aberhonddu Gwyl ^ Jazz fyd enwog yng nghanol Gwyl harddwch Bannau Brycheiniog, gydag enwau mawr rhyngwladol yn perfformio. ^ 2013 yn cynnwys Roedd gwyl perfformiadau gan Jools Holland, Acker Bilk a Courtney Pine. breconjazz.com Awst ^ Fictoraidd, Llandrindod Gwyl Camwch yn ôl mewn amser i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r cefndir o bensaernïaeth anhygoel o’r cyfnod Fictoraidd pan oedd y dref sba ar ei hanterth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ychwanegu at y dathliadau. victorianfestival.co.uk

9 – 17 Awst ^ Afon Conwy Gwyl Os mai cychod hwylio bywiog gyda hwyliau coch llachar sy’n eich diddanu, yna bydd yr wythnos hon o rasio cychod a hwylio yn sicr yn addas i chi. Hyd yn oed os nad hwylio sy’n mynd â’ch bryd, mae digon o weithgareddau ar y lan i’ch diddanu. Erioed wedi bod awydd gwisgo fel môr-leidr? conwyriverfestival.org

O’r chwith Jazz Aberhonddu ^ y Dyn Gwyrdd, Crucywel Gwyl Rheilffordd Talyllyn, ger Tywyn 36

cymru.visitwales.co.uk

12 – 13 Awst Sioe Môn, Caergybi Y sioe ddeuddydd amaethyddol fwyaf yng Nghymru, sy’n sioe i bob aelod o’r teulu. Bydd yno fwy na 350 o stondinau, pabell adloniant ac ardal chwaraeon gwledig, a llawer, llawer mwy! angleseyshow.org.uk

15 Awst ^ Degeirianau Gardd Fotaneg Gwyl Genedlaethol Cymru, ger Caerfyrddin Bydd meithrinfeydd arbenigol o’r Deyrnas Unedig ac Ewrop yma, gyda sgyrsiau ac arddangosfeydd gan dyfwyr tegeirianau buddugol. gardenofwales.org.uk

13 – 17 Awst Sioe Gychod Gogledd Cymru, Conwy ^ i ddathlu pob gweithgaredd ar ddwr. ^ Gwyl northwalesboatshow.com

16 Awst Rasio’r Trên, Tywyn Mae’r digwyddiad unigryw hwn yn orfodol i bob rhedwr sy’n rhedeg dros dirweddau amrywiol. Fe’i cynhelir ar hyd ochr trac Rheilffordd Talyllyn, ar ei thaith i Abergynolwyn ac yn ôl. racethetrain.com

14 – 17 Awst ^ y Dyn Gwyrdd, Crucywel Gwyl Mae digon o wyliau yn brwydro am yr hawl i fod yn ‘annibynnol’ a ‘gwahanol’. ^ y Dyn Gwyrdd, a Ond mae Gwyl sefydlwyd yn 2003 fel digwyddiad gwerin o gwmpas tân gwersyll, yn dal i sefyll yn falch tua’r chwith. Mae’n fwy, mae hynny’n sicr – gall tua 20,000 fynd yno’r dyddiau yma – ond mae’n dal i fodoli yn ei fydysawd gwahanol hyfryd ei hun. Beth sy’n ei wneud yn arbennig. Y lleoliad, i gychwyn: Parc Glanwysg, amffitheatr naturiol ym Mannau Brycheiniog ger Crucywel, dyna’r lleoliad harddaf yn sicr ^ ym Mhrydain. Wedyn mae’r fath i wyl amrywiaeth o adloniant: deg ardal, 1,500 o berfformwyr, digwyddiadau 24 awr, comedi, barddoniaeth, llenyddiaeth, celf a gwyddoniaeth, sinema, teithiau bywyd gwyllt. Mae yno gasgenni lawer o gwrw a

seidr lleol, a bwyd rhagorol. Ac wedyn mae’r gerddoriaeth: Roedd ^ y Dyn Gwyrdd 2013 yn cynnwys Gwyl grwpiau ffasiynol fel Band of Horses, Kings of Convenience, British Sea Power, The Horrors a Ben Howard, ond hefyd yr eiconau chwedlonol Patti Smith, John Cale a Roy Harper. Mae’n ymwneud llawer iawn â’r bobl sy’n dod yma hefyd, y criw mwyaf amrywiol a chyfeillgar yr ydych yn debygol o’u cyfarfod, cynulleidfa eang sy’n croesawu pobl leol, hipsters Dwyrain Llundain, crusties, hipis, myfyrwyr, teuluoedd catalog Boden, pobl fusnes uchel-ael yn cyfnewid eu siwtiau streipiau am fandana – a’r cyfan yn cytuno yn iawn, diolch yn fawr. Bydd yr holl beth yn cyrraedd uchafbwynt, bythgofiadwy, pan fydd delw bren anferth o’r Dyn Gwyrdd ei hun yn cael ei losgi. Gwych. greenman.net


Dyddiadur Digwyddiadau 2014

18 – 23 Awst Pencampwriaeth Ewropeaidd y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol 2014, Prifysgol Abertawe Bydd tua 600 o athletwyr o 40 gwlad yn cystadlu yn y digwyddiad para-athletau mawr cyntaf i’w gynnal ym Mhrydain ers Gemau Paralympaidd Llundain 2012. paralympic.org

23 – 28 Awst Hwylio Eithafol, Bae Caerdydd, Caerdydd Sefydlodd Caerdydd ei hun fel lleoliad ar gyfer rownd y Deyrnas Unedig o daith fyd-eang y Gyfres Hwylio Eithafol ac mae’n cynnig rasys cyffrous iawn mewn ^ gyda miloedd yn gwylio. awyrgylch gwyl extremesailingseries.com

19 – 21 Awst Sioe Sir Benfro, Hwlffordd Y sioe sir fwyaf yng Nghymru yw un o’r rhai gorau o’i math ym Mhrydain, boed ceir, bwyd, dillad neu anifeiliaid o ddiddordeb i chi. pembsshow.org

24 Awst Pencampwriaeth Snorclo Cors, Llanwrtyd Bydd cystadleuwyr mentrus yn brwydro mewn mawnog 60-metr am y teitl Pencampwr Snorclo Cors y Byd. Mae’n ^ sychaf y rhaid mai dyma gamp ddwr flwyddyn! green-events.co.uk

Medi ^ Rhif 6 Gwyl Roedd y Manic Street Preachers a My Bloody Valentine yn fandiau amlwg ^ y llynedd, ond mae hon yn yn yr wyl ^ gerddorol. Daw fwy na dim ond gwyl pentref ffantasi Portmeirion yn fyw gyda darlleniadau a sgyrsiau, dangosiadau ffilm arbennig gyda thraciau sain byw, comedi, llwybrau celf trwy’r coed, adrodd storïau yn y llennyrch, dosbarthiadau meistr, ac arddangosfeydd celf. festivalnumber6.com

O’r chwith Y gorau o’r sioeau sirol Pencampwriaeth Snorclo Cors, Llanwrtyd Hwylio Eithafol, Bae Caerdydd

Trysorau cenedlaethol Nid dim ond un Amgueddfa Genedlaethol sydd gennym. Mae gennym saith. Maen nhw wedi eu gwasgaru yn deg ledled Cymru, a rhyngddyn nhw maen nhw’n trafod bron bob agwedd ar hanes a diwylliant Cymru: cloddio glo a llechi, y diwydiant gwlân, ein pensaernïaeth, technoleg, traddodiadau gwerin, y Rhufeiniaid, ffermio, mordwyo – y cyfan wedi eu cyflwyno gan arbenigwyr cyfeillgar. Yn Amgueddfa Lo Genedlaethol y Big Pit, gallwch wisgo helmed a mynd i lawr 300 troedfedd (91 metr) dan ddaear i’r pwll ei hun, gan gael eich arwain gan lowyr oedd yn arfer gweithio yno. Mae’r un peth yn wir yn yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol, lle bydd y crefftwyr llechi yn dangos crefftau a ddysgwyd dros genedlaethau.

Yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan cewch weld crefftau mwy traddodiadol, lle mae dros 40 o adeiladau gwreiddiol o Gymru wedi eu hail godi mewn safle 100 erw mewn coetir ychydig y tu allan i Gaerdydd. Ac er nad oes Rhufeiniaid go iawn yn gweithio yn Amgueddfa’r Lleng Rufeinig, mae gan Gaerllion yr amffitheatr fwyaf cyflawn a’r unig farics i Leng Rufeinig sydd i’w gweld yn unrhyw le yn Ewrop. Yn y cyfamser, mae gan yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd, gasgliadau o’r safon uchaf o hanes naturiol a chelf, gan gynnwys llawer o weithiau mwyaf eiconig yr argraffiadwyr a’r cyfnod ôl-argraffiadwyr. A dyma’r darn gorau: cewch ymweld â’r holl amgueddfeydd yma am ddim. amgueddfacymru.ac.uk

Uchod Big Pit: Yr Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Isod casgliad Argraffiadwyr, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

cymru.visitwales.co.uk visitwales.com

37


6 Medi Mardi Gras, Caerdydd ^ gelfyddydol wythnos o hyd yn Mae gwyl arwain at y dathliad mwyaf yng Nghymru i hoywon a lesbiaid. cardiffmardigras.co.uk 7 – 14 Medi Taith Prydain Ras feiciau broffesiynol fwyaf y Deyrnas Unedig a’r digwyddiad y gellir ei wylio am ddim mwyaf, y mae rhan ohoni yn dod trwy rai o olygfeydd gorau Cymru. tourofbritain.co.uk

20 – 21 Medi ^ Fwyd y Fenni Gwyl Un o’r digwyddiadau mwyaf yng nghalendr carwyr bwyd y Deyrnas Unedig, gyda chynnyrch lleol a blasusfwyd rhyngwladol, cogyddion amlwg, dosbarthiadau meistr, cyfle i flasu a stondinau ar y stryd i gyd ar gael. abergavennyfoodfestival.com 20 – 21 Medi ^ Fwyd a Diod yr Wyddgrug Gwyl Yn dangos cynnyrch lleol eithriadol, arbenigedd cogyddion enwog a cherddoriaeth fyw i greu penwythnos gwych o fwyd i’r teulu cyfan. moldfoodfestival.co.uk

14 Medi Ironman Cymru, Sir Benfro Ras sy’n cynnwys nofio 2.4 milltir (3.8 km), beicio 112 milltir (180 km), ac yna marathon, gyda dim ond 17 awr i orffen y cwbl. Dim ond rhyw ddydd Sul bach cyffredin a dweud y gwir... ironmanwales.com

26 – 28 Medi ^ Elvis, Porthcawl Gwyl Mae Elvis yn fyw, diolch i’r miloedd o gefnogwyr a’r artistiaid sy’n ei ddynwared sy’n dod i’r cynulliad blynyddol yma o sgidiau swêd glas, siwtiau gwynion, a gwallt du. elvies.co.uk

18 – 21 Medi Cystadleuaeth Agored ISPS Handa Cymru Celtic Manor Resort, Casnewydd Un o’r prif ddigwyddiadau yn nhaith Ewropeaidd golff, gan ddenu rhai o brif golffwyr y byd, fe’i chwaraeir ar y cwrs Twenty Ten, a ddyluniwyd ar gyfer Cwpan Ryder 2010. celtic-manor.com

28 Medi Fy Ffrind Dylan Thomas, Ysgol Gerdd Prifysgol Bangor ^ fechan o ddigwyddiadau yn Gwyl cwmpasu’r gweithiau cerddorol a ysgrifennwyd fel ymateb i waith Dylan o’i gyfnod ei hun hyd heddiw. bangor.ac.uk/music

38

cymru.visitwales.co.uk

Hydref ^ Caerdydd ^ SWN, Gwyl DJ Radio 1, Huw Stephens yw cyd^ gerddorol sefydlydd a churadur yr wyl drefol hon, gyda bandiau arloesol yn chwarae mewn lleoliadau ar draws Caerdydd. swnfest.com 8 – 12 Hydref ^ Gwobr Iris, Caerdydd Gwyl Bydd gwobr ffilmiau byr hoyw a lesbiaidd rhyngwladol Caerdydd yn croesawu’r dalent cynhyrchu ffilmiau newydd orau i’r brifddinas. irisprize.org O’r chwith ^ Rhif 6, Portmeirion Gwyl ^ Fwyd y Fenni, Y Fenni Gwyl Ironman Cymru, Sir Benfro

11 – 12 Hydref ^ Wystrys a Chynnyrch Cymreig Gwyl Ynys Môn, Biwmares Cychwynnodd fel digwyddiad anffurfiol lle byddai pobl leol yn casglu i fwyta wystrys a mwynhau, ond erbyn hyn mae’n denu miloedd o ymwelwyr yn flynyddol. angleseyoysterfestival.com 25 Hydref 2014 – 22 Chwefror 2015 Artes Mundi, Caerdydd – yr Amgueddfa Genedlaethol a Chapter Dyma sioe gelf weledol gyfoes fwyaf a mwyaf cyffrous Cymru. Bydd un o’r artistiaid ar y rhestr fer yn cael y wobr o £40,000, y wobr gelf fwyaf yn y Deyrnas Unedig ac un o’r rhai mwyaf arwyddocaol yn y byd. artesmundi.org


Dyddiadur Digwyddiadau 2014

25 – 26 Hydref Gwledd Conwy Feast, Conwy Bydd tref ganol oesol Conwy yn cael ^ benwythnos ei thrawsnewid gyda g wyl sy’n ymfalchïo yn y dathliad mwyaf o gerddoriaeth, celf a bwyd yng Nghymru. Bydd y cei, y castell a’r strydoedd canol ^ a golygfeydd. oesol yn llawn o flas, swn gwleddconwyfeast.co.uk 27 Hydref – 9 Tachwedd ^ Dylan Thomas, Abertawe Gwyl Canolbwynt Dylan Thomas 100 gyda digwyddiadau amlwg i nodi canmlwyddiant genedigaeth Dylan. Mae’r digwyddiad hwn yn ganolog i’r dathliadau trwy’r flwyddyn dros gyfnod dwys o bythefnos. dylanthomas.com

Tachwedd Rali GB Cymru Mae rhan Brydeinig Pencampwriaeth Ralïo Byd FIA wedi cychwyn o Gaerdydd ers 2000. Gwyliwch yrwyr gorau’r byd yn herio ffyrdd fforestydd anoddaf y byd ym mynyddoedd Canolbarth Cymru, ac yn gwirioni’r tyrfaoedd yn y camau arbennig. walesrallygb.com Canol Tachwedd ymlaen ‘Winter Wonderland’ Caerdydd a ‘Waterfront Wonderland’ Abertawe Sglefrio ar ia a reidiau, gwin cynnes a chnau castan rhost – dathliadau i godi hwyliau ym mhentrefi Nadolig Caerdydd ac Abertawe. cardiffswinterwonderland.com swanseachristmas.com

Trwy gydol mis Rhagfyr Trenau Stêm Siôn Corn Siôn Corn yw’r teithiwr pwysig ar nifer o drenau bach Cymru. greatlittletrainsofwales.co.uk 6 – 7 Rhagfyr Marchnad Nadolig y Coed-duon Dewch i weld canol y dref yn bywiogi gyda stondinau ar hyd y stryd fawr, hwyl yn y ffair ac adloniant traddodiadol. Gan fod ceirw go iawn yn dod draw, mae’n ^ y bydd Siôn Corn yn dod i’r golwg! siwr visitcaerphilly.com/events/item/50901/ Blackwood_Christmas_Market.html

11 Rhagfyr Marchnad Nadolig Wrecsam Mae’r digwyddiad hwn, y mae mawr ddisgwyl amdano ar galendr y dref, yn denu miloedd o siopwyr o flwyddyn i flwyddyn. Cerddoriaeth ac adloniant trwy’r dydd. wrexham.com/markets/wrexhamchristmas-market-7829.html 13 – 14 Rhagfyr Ffair Nadolig Ganol Oesol Caerffili Gyda chymysgedd o stondinau ffermwyr, stondinau marchnad o’r cyfandir a chynhyrchwyr bwyd a chrefftau gwirioneddol mae’r digwyddiad yma yn cynnig rhywbeth i bawb. Mae adloniant cerddorol, gweithdai i’r plant, theatr ar y stryd ac ogof i Siôn Corn yn sicrhau penwythnos difyr i’r teulu cyfan. caerphilly.gov.uk/events/

18 Rhagfyr Gorymdaith Afon o Oleuni, Caerffili Ymunwch yn yr Orymdaith Afon o Oleuni flynyddol yng nghanol tref Caerffili. visitcaerphilly.com/events/item/68889/ River_of_Light_Parade.html 31 Rhagfyr Rasys Ffordd Nos Galan, Aberpennar Mae’r ras flynyddol yma yn coffau’r rhedwr o Gymru yn y ddeunawfed ganrif, Guto Nyth Brân (a oedd mor gyflym, mae’n debyg, fel y gallai ddiffodd cannwyll a bod yn ei wely cyn iddi dywyllu). Mae rasys ar gael ar gyfer pob gallu, adloniant ar y stryd, ffair, arddangosfa tân gwyllt a rhedwr dirgel enwog ... nosgalan.co.uk

Gwnaed pob ymdrech i sicrhau cywirdeb yn y rhestr hon o ddigwyddiadau. Mae’r holl ddyddiadau a gwybodaeth wedi eu gwirio wrth fynd i’r wasg. Ni all Croeso Cymru gael eu dal yn atebol am unrhyw newid i’r wybodaeth yma.

O’r chwith Gwledd Conwy Feast, Conwy Rali GB Cymru ^ y Gaeaf Caerdydd Gwyl cymru.visitwales.co.uk

39


Gwlad y cestyll M

ae gan Gymru fwy o gestyll i bob milltir sgwâr nag unrhyw le arall yn y byd. Wrth gyfri’r tro diwethaf, roedd 641 ohonyn nhw, ac maen nhw o bob llun, maint a chyflwr. Dim ond olion prin ar gopa mynyddoedd yw rhai ohonyn nhw, lle bu ein hynafiaid Celtaidd yn adeiladu ceyrydd 3,000 o flynyddoedd yn ôl, neu adfeilion difyr mewn llennyrch coediog, sydd â’u chwedlau lleol ynghlwm wrthyn nhw. Nid yw eraill, fel llawer o’r cestyll Normanaidd mawr a adeiladwyd yn ystod goresgyniad Cymru, prin wedi newid mewn 800 mlynedd, heblaw am ambell graith lle tarodd pelen o ganon nhw. Mae digonedd o gestyll cynhenid hefyd, a adeiladwyd gan dywysogion Cymru i warchod eu tiroedd rhag yr Eingl, y Sacsoniaid, y Normaniaid, ac, yn aml iawn, ei gilydd. Nid dim ond lleoedd gwych i ymweld â nhw pan fydd hi’n braf ydyn nhw. Os edrychwch chi ychydig yn fanylach, mae holl stori Cymru a Phrydain wedi ei hysgrifennu yn y cerrig hynafol yma. Sut y gwnaeth y Rhufeiniaid, gyrraedd, goresgyn, a mynd. Sut y ciliodd y bobl Geltaidd yn ôl i’w cadarnleoedd yn y gorllewin. Sut y gwnaeth tywysogion Cymreig ymladd i gadw eu gwlad yn un, a sut y sefydlodd y byddinoedd oedd am oresgyn eu cadarnleoedd eu hunain. Mae yma gestyll newydd hefyd, – y rhai a adeiladwyd gan farwniaid diwydiannol a ymgyfoethogodd ar lo, llechi a haearn, gan lenwi eu plastai â chelfyddyd ryfeddol. Yna mae etifeddiaeth y bonedd Sioraidd a Fictoraidd, a adeiladodd blastai a gwestai yng nghanol adfeilion y cestyll h^yn (na fyddai’n cael ei ganiatáu yn awr, ond rydyn ni’n eithaf balch eu bod wedi gwneud hynny). Gyda chymaint o ddewis o gestyll, mae’n amhosibl i ni ddewis ein hoff un. Ond rydyn ni’n fodlon iawn i chi ddod draw i geisio gwneud hynny, felly dyma i chi ddewis bychan i chi gael cychwyn arni. cadw.wales.gov.uk

40

cymru.visitwales.co.uk

Prif lun Castell Llansteffan, Sir Gaerfyrddin Y dudalen gyferbyn, yn nhrefn y cloc o’r top ar y chwith Castell Powys, y Trallwng Castell Caernarfon, Caernarfon Castell Dolbadarn, Llanberis Ffair Ganol Oesol, Castell Caerffili Castell Biwmares, Ynys Môn Castell Carreg Cennen, ger Llandeilo Castell Caerffili, Caerffili Castell Cyfarthfa, Merthyr Tudful


Hanes Cestyll

Moethusrwydd yn y castell – Gallwch serennu yn eich stori dylwyth teg eich hun pan fyddwch r yn treulio noson mewn castell Cymreig rhamantus. Brecon Castle Hotel Mae’r gwesty Sioraidd hardd hwn wedi ei wau i mewn i’r castell Normanaidd a adeiladwyd i oresgyn hen frenhiniaeth Brycheiniog. breconcastle.co.uk Castell Deudraeth Ym Mhortmeirion y cewch chi ddewis o rai o’r mannau aros mwyaf gwahanol yng Nghymru. Mae’r plasty castellog Fictoraidd yma wrth y porth i’r pentref

wedi ei foderneiddio yn wych. portmeirion-village.com Home Farm Ar diroedd hen ganolfan frenhinol Gymreig Dinefwr, mae’r ffermdy hwn, sydd wedi ei adfer, yn agos at gastell hynafol a phlasty o’r ail ganrif ar bymtheg. nationaltrustcottages.co.uk Castell y Garn (Roch Castle) Ailadeiladwyd y castell i raddau helaeth

yn ystod yr 1900au, ac fe’i gwnaed yn safle pum seren yn y 2000au, ond mae’r gwesty bwtîc moethus yma yn dal i edrych fel cadarnle Normanaidd, fel y bu yn y gorffennol. rochcastle.com Castell Rhuthun Gosodwyd y gwesty sba hyfryd yma mewn castell a fu yn eiddo i Harri’r VIII, Edward I, ac yn ôl chwedl leol, y Brenin Arthur ei hun. ruthincastle.co.uk

cymru.visitwales.co.uk

41


Gwir chwedlau

Daw bron bob llyn, craig a bryn yng Nghymru â’i chwedl ei hun. Mae llawer o’r hen storïau yn deillio yn ôl filoedd o flynyddoedd, ymhell cyn y syniad o ‘Gymru’ ei hun – yn ôl cyn y Normaniaid, y Sacsoniaid, y Rhufeiniaid, yn ôl i’r gorffennol Celtaidd. Dros y milenia, aeth yn amhosibl gwahaniaethu rhwng yr hanes a’r chwedloniaeth – a dyna sut yr ydym yn hoffi i bethau fod. Y Ddraig Goch Ger Beddgelert, Eryri

Comin Southerndown Southerndown, Bro Morgannwg

Roedd Gwrtheyrn, Brenin o’r 5ed Ganrif yn ceisio adeiladu castell yn Ninas Emrys, ond roedd y waliau yn chwalu o hyd am ryw reswm. Fe wnaeth bachgen o ddewin – Myrddin – ddweud beth oedd y broblem: roedd dwy ddraig, un goch ac un wen, yn ymladd dan y castell. Y ddraig goch a orfu, a daeth yn symbol i Gymru. nationaltrust.org.uk, visitsnowdonia.info

Roedd merch Arglwydd Ogwr yn pledio ar ei thad i adael i bobl leol gael lle i hela ceirw. Fe gytunodd – ond dim ond ardal mor fawr ac y gallai hi ei cherdded yn droednoeth cyn iddi dywyllu’r diwrnod hwnnw. Mae’r ardal lle cerddodd hi yn dal yn dir comin heddiw. visitthevale.com

Derwen Myrddin Caerfyrddin

Nant Gwrtheyrn Ger Pwllheli, Penrhyn Ll y^ n

Yn ôl y chwedl leol, ‘Llan-llwch a fu, Caerfyrddin a sudd, Abergwili a saif.’ Yn 1978 symudwyd y darnau olaf o’r dderwen i’r amgueddfa leol ac yn sicr ddigon, yn fuan wedyn, fe welodd Caerfyrddin y llifogydd gwaethaf mewn cof... carmarthenmuseum.com discovercarmarthenshire.com

Trodd chwarae cuddio yn drasiedi erchyll pan aeth y ddarpar wraig, Meinir, yn gaeth tu mewn i goeden dderw. Darganfu ei chariad, Rhys, ei hysgerbwd 30 mlynedd yn ddiweddarach, ac mae ysbrydion y ddau yn dal i grwydro’r traeth hyd heddiw, yn ôl y sôn. nantgwrtheyrn.org visitsnowdonia.info

Pontarfynach Ger Aberystwyth, Ceredigion Codwyd tair pont dros y ceunant dwfn yma, un ar ben y llall. Yn ôl y chwedl y Diafol a gododd y bont wreiddiol o’r unfed ganrif ar ddeg a hynny am yr enaid cyntaf fyddai’n ei chroesi. Fe’i twyllwyd gan hen wraig a daflodd damaid o fara ar y bont, ac aeth ei chi ar ei ôl. rheidolrailway.co.uk, discoverceredigion.co.uk 42

cymru.visitwales.co.uk


Hanes Gwlad y chwedlau

Tylwyth Teg Pennard ^ Pennard, Penrhyn Gwyr Gadawyd adfeilion trawiadol Castell Pennard i’r tywod a’r gwynt tua 1400, oherwydd tylwyth teg dialgar, mae’n debyg. visitswanseabay.com

Twm Siôn Cati Ger Tregaron, Sir Gaerfyrddin Ganed Twm yn Nhregaron, tua 1530, roedd yn lleidr ffraeth ac mae ei ogof ar lethr serth yn edrych dros warchodfa natur yr RSPB Gwenffrwd-Dinas, sy’n cynnig un o’r teithiau cerdded harddaf yng Nghymru. rspb.org.uk discovercarmarthenshire.com Morwyn y Llyn Y Mynydd Du, Sir Gaerfyrddin

Barclodiad y Gawres Ger Rhosneigr, Ynys Môn Yn ôl y chwedl gadawyd y cerrig a ddefnyddiwyd i adeiladu’r siambr gladdu Neolithig hon gan gawres, fel mae ei henw yn awgrymu. cadw.wales.gov.uk, visitanglesey.co.uk Afanc Ger Betws-y-coed, Eryri

Mae Llyn y Fan Fach yn gartref i Forwyn hardd y llyn, a briododd fab fferm lleol gyda chymal cyn y briodas, petai’n ei tharo dair gwaith, y byddai’n mynd yn ôl i’w llyn ar unwaith. Gwahanu fu’n rhaid iddyn nhw, ond sefydlodd eu meibion y llinach o feddygon llysieuol a elwir yn Feddygon Myddfai. myddfai.org discovercarmarthenshire.com

Daliwyd yr afanc, anghenfil anferth gyda grymoedd goruwchnaturiol ac aed ag ef i lyn Glaslyn, yn uchel ar yr Wyddfa, lle mae’n byw o hyd. eryri-npa.gov.uk, visitsnowdonia.info Angelystor Ger Conwy, Eryri

Twmbarlwm Ger Cwmbrân, Cymoedd De Cymru

Bob Calan Gaeaf, mae Angelystor yn ymddangos wrth ywen 5,000 mlwydd oed eglwys Llangernyw, ac mewn llais cryf, mae’n cyhoeddi enwau’r plwyfolion fydd yn marw yn ystod y flwyddyn. churchinwales.org.uk visitsnowdonia.info

Dywedir bod y gaer yma o’r Oes Haearn yn fedd i gawr, a gladded gyda’i gelc o drysor. Ond byddwch yn ofalus na fyddwch yn mynd i chwilio am y trysor – dywedir ei fod yn cael ei warchod gan haid o wenyn hudol. thevalleys.co.uk cymru.visitwales.co.uk visitwales.com

43


i

Rebel dros yr achos

^ yw’r tywysog Cymreig Owain Glyndwr mwyaf eiconig o hyd, arweiniodd wrthryfel ryfeddol a unodd Gymru am gyfnod byr yn nechrau’r bymthegfed ganrif. Mae’n debyg bod Owain wedi ei eni yn Sycharth, ger Croesoswallt, yn yr 1350au. Astudiodd y gyfraith yn Llundain, ac ymladdodd dros frenin Lloegr cyn ymddeol i’w stadau yng Nghymru i dreulio gweddill ei oes mewn heddwch. Ond, fe’i tynnwyd i wrthdaro am diroedd gyda barwn oedd yn gymydog iddo, ac erbyn 1400 roedd hynny wedi troi yn wrthryfel lawn. Cyhoeddodd ei gefnogwyr ef yn Dywysog Cymru, ac yn 1404, cynhaliodd Owain ei senedd Gymreig gyntaf ym Machynlleth. Ond ni wnaeth ei lwyddiant barhau. Collwyd cefnogaeth y Ffrancwyr i’r gwrthryfel, ac fe wasgwyd byddinoedd Owain gan rwystrau economaidd a gwrthymosodiadau didostur. Ni fradychwyd Owain Glynd wr ^ o gwbl ac ni chafodd ei ddal: diflannodd yn 1412, a chredir ei fod wedi treulio gweddill ei oes yn Swydd Henffordd.

Yn nhrefn y cloc o’r top ar y chwith: Cofeb a baner Llywelyn ap Gruffydd, Cilmeri; Castell ^ Corwen; Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant, Harlech; Penfro, Penfro; Cofeb Owain Glyndwr, Senedd-dy, Machynlleth; y Tywysog Siarl a Duges Cernyw yn Llwynywermod; Pont Mynwy, Trefynwy; Ynys Llanddwyn, Ynys Môn. 44

cymru.visitwales.co.uk


Hanes Cysylltiadau brenhinol

Cymru Frenhinol I ble mae’r Tywysog Siarl yn mynd ar ei wyliau haf? Ble wnaeth William a Kate dreulio blynyddoedd cyntaf dedwydd eu bywyd priodasol? A ble’r oedd y Frenhines Fictoria yn prynu ei dillad isaf? Yma rydyn ni’n dathlu rhai o’n cysylltiadau brenhinol gorau.

Y safiad olaf Llywelyn ap Gruffydd oedd tywysog olaf y Gymru annibynnol cyn iddi gael ei goresgyn gan Edward I. O’i gadarnle yng Ngwynedd roedd yn rheoli’r rhan fwyaf o Gymru, nes iddo gael ei ladd yn 1282 gan filwyr o Loegr yng Nghilmeri. Mae carreg i gofio Ein Llyw Olaf a chynhelir seremoni yno yn flynyddol ar ben-blwydd ei farwolaeth. visitsnowdonia.info

Brwydr Frenhinol Ganed Harri’r V yng nghastell Trefynwy yn 1386, a threuliodd lawer o’i ieuenctid yng Nghymru, yn ymladd yn erbyn gwrthryfel Owain Glynd wr. ^ Erbyn i Harri olynu ei dad yn 1413, roedd yn hen filwr profiadol, a fu’n help iddo guro’r Ffrancwyr ym Mrwydr Agincourt, ac roedd gw y^r bwa o Gymru yn allweddol yn y frwydr. visitwyevalley.com

Y rhosyn Tuduraidd Ganed Harri Tudur yng Nghastell Penfro yn 1457, yn ddisgynnydd i nifer o deuluoedd brenhinol Cymreig. Yn ystod Rhyfel y Rhosynnau dihangodd i Lydaw, gan ddychwelyd gyda byddin fechan a laniodd ger Aberdaugleddau. Casglodd 5,000 yn fwy o filwyr ar ei orymdaith trwy Gymru, a churodd Richard III ym Mrwydr Bosworth i ddod yn Harri’r VII. Teyrnasodd y Tuduriaid am y 120 mlynedd nesaf. visitpembrokeshire.com

Uno’n swyddogol Er gwaethaf ei linach Gymreig, fe wnaeth Harri’r VIII gadw gafael tynn ar Gymru. Yn 1536 fe basiwyd y Ddeddf Uno, oedd yn ymgorffori Cymru yn gyfreithiol yn Lloegr. Roedd y Ddeddf yn

gwahardd siaradwyr Cymraeg na allent siarad Saesneg o swyddi cyhoeddus, ond ni lwyddodd i atal yr iaith Gymraeg, yn ei deulu ei hun hyd yn oed: mae’n debyg bod ei ferch Elizabeth I yn siarad Cymraeg yn rhugl! visitpembrokeshire.com

Parchusrwydd Brenhinol Syr Pryce Pryce-Jones oedd yn cyflenwi dillad isaf i’r Frenhines Fictoria, ac fe sefydlodd y cwmni archebu trwy’r post cyntaf yn y Drenewydd, canolbwynt diwydiant gwlanen Cymru. Roedd ei niceri gwlanen meddal yn ffefryn gan lawer o benaethiaid coronog Ewrop, gan gynnwys Brenhines Norwy ac Ymerodres Rwsia. Mae’n siwr ^ bod y Frenhines Fictoria wedi gwisgo ei rhai hi ar ymweliadau â’i thiroedd yng Nghymru, Ynyshir Hall, sydd yn awr yn westy gwledig moethus. midwalesmyway.com

Cuddfan Berti Yn y ffilm ‘The King’s Speech’ sonnir am frwydr y Brenin Siôr VI gyda’i atal dweud. Ond yn 1917, dihangodd y Tywysog Berti 22 mlwydd oed i stad Clochfaen, ychydig tu allan i Langurig, i wella ar ôl cael briw ar ei stumog. midwalesmyway.com

Brenin y golffwyr Roedd Edward VII yn golffiwr brwd, ac fe roddodd statws Brenhinol i ddau o’i hoff gyrsiau yng Nghymru: Porthcawl a Dewi Sant. Roedd wyr ^ y Brenin, Edward VIII yn ddiweddarach, hefyd yn golffiwr eiddgar, a bu’n gapten ar Glwb Brenhinol Dewi Sant yn 1934. visitsnowdonia.info, royalporthcawl.com, royalstdavids.co.uk

Owain yn fyw? Yn 1955, daeth y Frenhines Elizabeth II ifanc ar daith frenhinol o gwmpas Cymru oedd yn cynnwys ymweliad â sioe Cymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog. Dengys darllediad y BBC o’r digwyddiad y Frenhines yn cael ei chyflwyno i ferlyn mynydd Cymreig o’r enw Owain Glynd wr… ^ a geisiodd fwyta ei thusw o flodau. midwalesmyway.com

Aur Cymru Pan lithrodd y Tywysog William fodrwy briodas am fys Kate Middleton yn 2011, roedd yn gylch o aur pur Cymreig, gan ddilyn traddodiad a sefydlwyd gan y Fam Frenhines yn 1923. Ers hynny, mae pob priodas frenhinol o bwys wedi ei selio ag aur Cymru. Yn ystod blynyddoedd cyntaf eu priodas, roedd William a Kate yn byw ar Ynys Môn, lle’r oedd y tywysog yn gweithio fel peilot ar hofrennydd chwilio ac achub. visitanglesey.co.uk

Home Farm, Llwynywermod Pan ddaw’r Tywysog Siarl a Duges Cernyw i Gymru ar eu taith haf flynyddol, byddant yn aros yn eu ffermdy yng Nghymru, Llwynywermod, ger pentref Myddfai, yn Sir Gaerfyrddin. Adnewyddwyd y tyddyn 192 erw gan grefftwyr medrus o Gymru, gan ddefnyddio cerrig, llechi a deunyddiau lleol, ac mae’r gerddi a’r tiroedd yn cael eu rheoli gydag egwyddorion organig. Pan na fydd y Tywysog a’r Dduges yno, mae Llwynywermod ar gael i aros yno. discovercarmarthenshire.com

cymru.visitwales.co.uk visitwales.com

45


Parc Coedwig Afan, Castell-nedd Port Talbot

Gwibio i lawr yr allt Y

Mae mynyddoedd gwyllt Cymru yn ei gwneud yn faes chwarae naturiol i feicwyr mynydd ymroddedig. Ond fel y gwelodd y beiciwr newydd, Iestyn George, mae hon yn gamp sy’n croesawu pobl o bob oed a gallu.

46

cymru.visitwales.co.uk

peth cyntaf sy’n eich taro yw’r mân siarad. Gall ychydig ddyddie o feicio mynydd yng Nghymru eich arwain i goedwigoedd trwchus a chopaon mynyddoedd pellennig. Fyddech chi ddim yn meddwl mai dyma’r math o lefydd y byddech chi’n clywed lleisiau dynol ynddyn nhw. Ond fe fyddech yn anghywir. Mae Dave yn 67. Fe ddechreuodd feicio mynydd am fod ei fab wedi dweud na fyddai o byth yn dda iawn am wneud. Mae Ben a’i ffrindiau o Swydd Lincoln. Maen nhw wedi treulio wythnos yn beicio o gwmpas Cymru a ’rioed di profi dim byd tebyg i’r llwybrau yma. Mae’r un peth yn wir am Anna a Kris o Sheffield. Pob oed, pob gallu, yn rhannu profiadau’r un mor frwdfrydig â’i gilydd. Fe gychwynnwn ni ym Mharc Coedwig Afan yn Ne Cymru. Mae yno dros 62 milltir (100 km) o lwybrau ar draws 39 milltir sgwâr (64 km2) o goetir gan lynu at ochr y dyffryn cul, serth yma. Fyddwch chi ddim yn hir yn gweld pam eu bod nhw’n galw’r ardal yn Swistir Fach. Gall eich reid amrywio o’r llwybr 29 milltir (46 km) Skyline, sy’n cynnwys dringfa 6,561 troedfedd (2,000 metr), i un neu ddau o lwybrau i’r newyddddyfodiaid yng nghanol y cae chwarae naturiol yma. Dyma’r math o le sy’n cynnig rhyddid llwyr i ymwelwyr. Ar ôl i

chi daro eich punt yn y peiriant talu am barcio gallwch fynd i bron ble bynnag y dymunwch. Gall ymwelwyr sydd am gael ychydig o arweiniad arbenigol anelu’n syth at Sied Feiciau Cwm Afan, sy’n cynnig llogi a thrwsio beiciau, teithiau a hyfforddiant. Yr ymgorfforiad o’r holl sgiliau defnyddiol yma yw Ben Threlfall, gwr ^ bonheddig o Portsmouth, sydd â’r cariad angerddol hwnnw at y lle sy’n dod o ddewis ei wneud yn gartref iddo ei hun a’i deulu ifanc. Mae Ben yn ein harwain i’r ardal ymarfer. Yn fuan iawn byddwch yn sylweddoli bod unrhyw elfen anwastad neu’r cantel lleiaf (darn o’r trac sy’n uwch na’r gweddill) yn gofyn am hyder cyn mentro. Fel mae’n digwydd, NID yw beicio mynydd mor hawdd â syrthio oddi ar eich beic. Mae Ben yn amyneddgar, ac ymhen hir a hwyr mae’n ein harwain at lwybr sengl. Dyma’r fan lle mae Parc Coedwig Afan yn dangos ei liwiau mewn gwirionedd. Mae’n teimlo fel petai filiynau o filltiroedd o bob man, er mai dim ond ychydig filltiroedd ydyn ni o draffordd yr M4 a llai nag awr o ddwy ddinas fwyaf y wlad. Y wers gyntaf: er mwyn mynd i lawr mae’n rhaid mynd i fyny, ac mae reidio i fyny llwybr un trac yn sgil ynddi ei hun, gyda llwyth o gerrig rhydd, gwreiddiau


Antur Beicio mynydd

Antur Stiniog, ger Blaenau Ffestiniog

‘Mae hi’n wych gwylio’r beicwyr mynydd mentrus yma wrthi, yn hofran a hedfan fel gwenoliaid ar eu ffordd i lawr y llwybrau.’

coed a throadau crwn i’w meistroli. Maen nhw’n galw hyn yn dechnegol. Dwi’n ei alw yn waith caled, a than anadlu trwy fy nghlustie dwi’n addo’n dawel i gael rhyw fath o drefn ar fy nghoese. Y darn arall o gyngor amhrisiadwy gan Ben yw, pan fyddwch chi’n mynd ar i lawr yn gyflym, nad yw’n beth doeth gwasgu’r brêcs yn gyflym. ‘Os byddai’n clywed gwich y brêcs, dwi’n gwybod nad ydi’r beiciwr yn gallu rheoli’r beic,’ mae’n dweud ag awdurdod tawel. Rydyn ni’n dychwelyd i’r Sied Feiciau yn gyfoethocach ar ôl y profiad. Gofynna Ben i ble’r awn ni nesaf. Pan ddywedwn ni wrtho, mae’n ymateb gyda gwên a’r sylw: ‘Pob lwc ‘da hynny!’ Dros ddiod yng Ngwesty Afan Lodge, hafan yn arddull yr Alpau dafliad carreg o’r fynedfa i’r parc, dwi’n meddwl tybed beth oedd cyfarchiad swta Ben yn ei olygu. Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach mae’n amlwg iawn. afanforestpark.com Mae chwareli llechi Eryri yn enwog am doi tai dros y byd i gyd ac mae Chwarel Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog yn gefndir mor ddramatig ag y gallwch ei ddychmygu i unrhyw dref. Gweithiodd cenedlaethau o bobl yn galed yma a chwarae yn galed yma hefyd; ac mae’r llwybrau trac sengl yn ymgorffori’r ffordd honno o fyw.

Cawsant eu sefydlu gan Antur Stiniog, cymdeithas leol ddeinamig sy’n trefnu pob math o weithgareddau, gan gynnwys gwersylla gwyllt, pysgota, ceufadu a theithiau cerdded. I feicwyr mynydd, mae yma drac ymarfer gwych, canolfan ymwelwyr groesawus iawn a chaffi yn cynnig yr holl garbohydradau angenrheidiol i daclo’r pedwar llwybr: dau ddu a dau goch (mae’r teithiau’n cael eu graddio du-coch-glasgwyrdd, a du yw’r anoddaf). Mae yno fan a threlar wrth law hefyd i gynnig gwasanaeth i fynd â chi i fyny uwch ben Blaenau Ffestiniog, yn union gyferbyn â’r chwarel enwog. Dyma i chi lle mae llawer o’r siarad yn digwydd. Dychmygwch yr union gyferbyniad i daith yn y tiwb yn Llundain gyda phobl yn gwisgo arfbeisiau corff a helmedi wyneb cyfan ar eu gliniau. Mae ’na gymaint o adrenalin yn hedfan o gwmpas fyddai hi fawr o syndod petai’r fan ei hun yn rhedeg arno. ‘I mi, dyma beth mae beicio mynydd yn ei olygu,’ dywedodd Ben Swydd Lincoln. ‘Mae’r beicio yn her bur o’r dechrau i’r diwedd, mae’r cyfleusterau yn wych ac mae pawb yn gwenu.’ O fewn eiliadau, mae’n tynnu ei feic oddi ar y trelar ac mae’n cychwyn ar Y Du, llwybr du sy’n ei arwain yn ôl i’r ganolfan ymwelwyr tua dwywaith yn

gyflymach nag y daeth i’r copa yn y fan. ‘Mae hi’n wych gwylio’r beicwyr mynydd mentrus yma wrthi, yn hofran a hedfan fel gwenoliaid ar eu ffordd i lawr y llwybrau. Fe wnaeth un o brif feicwyr y wlad, Gee Atherton, rasio gwalch i lawr y llwybrau yma yn gynharach yn 2013. Edrychwch ar YouTube – mae’n wallgo’. Gallai malwen yn dioddef crud cymalau feddwl y gallai fy herio i, wrth i mi duchan a llyncu anadl i lawr Drafft, y lleiaf dychrynllyd o’r pedwar llwybr, gyda throadau tynn, cyflym a charpedi o grawiau llechen anwastad. Mae’n wireb wrth feicio i lawr mynydd, arafa’n y byd y byddwch chi’n mynd ar y llwybrau yma, anoddaf yn y byd fydd hi. Mae o leiaf hanner dwsin o bwyntiau pan fyddaf yn gadael rhan arbennig ac yn meddwl wrthyf fy hun, ‘Wnes i hynna mewn gwirionedd?’ Er gwaethaf popeth, dwi’n cyrraedd y gwaelod heb unrhyw niwed a dwi’n falch o wylio Ben a’i ffrindiau yn anelu yn syth yn ôl i fyny’r mynydd i chwilio am ragor o wefrau o ddiogelwch y caffi, ac yno cewch y bonws ychwanegol am gyrraedd y gwaelod ar ffurf y pastis Cwrdaidd chwedlonol o Bopty Model gerllaw. Llwyddodd Antur Stiniog i ddeffro’r gwestai a’r mannau aros lleol ym Mlaenau Ffestiniog i anghenion y beiciwr mynydd – y pennaf yn eu plith yw lle diogel i

cymru.visitwales.co.uk

47


‘Fe’i galwyd yn Whistler Cymru, cyfeiriad at y ganolfan fynydd enwog yng Nghanada. Ond bydd BikePark Wales yn gwneud y tro yn iawn, diolch.’ gadw eu beiciau hoff (a drud iawn). Rydyn ni’n aros mewn Gwely a Brecwast yng Nghapel Pisgah, capel wedi ei adnewyddu sy’n cael ei redeg gan Glenys Lloyd, yr oedd ei thad a’i thaid yn gweithio yn y chwarel. Dwi’n cael croeso cynnes, allwedd i’r drws ffrynt a gwahoddiad i fynd a dod fel y byddai’n dymuno. Ar ddiwrnod gwahanol, fe fyddwn yn anelu am Cell B, bar, canolfan gelfyddydau a lleoliad cerddorol gwych mewn cyn garchar a llys. Ond heno, mae’n cymryd hynny o egni sydd ar ôl i mi gyrraedd fy ngwely. anturstiniog.com Mae’r ychwanegiad diweddaraf at y rhestr orfodol o ran beicwyr mynydd yn y Deyrnas Unedig lai na 30 milltir (48 km) o ganol Caerdydd, lle mae llond dwrn o bobl wedi bod yn gweithio yn dawel yng nghanol Coed Gethin uwchlaw Merthyr Tudful. Canlyniad eu gwaith yw’r amrywiaeth mwyaf eang o lwybrau trac sengl a llwybrau addas i deuluoedd yn y Deyrnas Unedig. Fe’i galwyd yn Whistler Cymru, cyfeiriad at y ganolfan fynydd

48

cymru.visitwales.co.uk

enwog yng Nghanada. Ond bydd BikePark Wales yn gwneud y tro yn iawn, diolch. Hyd yn oed am 9 o’r gloch y bore mae’r lle yn fwrlwm o bobl yn tynnu beiciau o faniau ac oddi ar ben eu ceir, yn addasu pethau gydag offer cymhleth yr olwg ac yn brysio i’r ganolfan ymwelwyr am goffi cyflym cyn reid gyntaf y dydd. Eto, mae’r sgwrsio yn uchel ac yn gyfeillgar iawn. Gallaf glywed acenion o’r ochr draw i Lundain – cyn belled ag Essex. Mae yma griw o Wlad yr Haf, un arall o Northampton a haid o foneddigion coeth eu lleferydd o Surrey. Mae Dave, y beiciwr h^yn, yn byw yng Nghasnewydd, dim ond 30 milltir (48 km) oddi yma. Mae’n mynd allan dair neu bedair gwaith yr wythnos ac yn mynd ar deithiau misol i Ogledd Cymru yn ystod tymor yr haf. ‘Fe wnewch chi fwynhau heddiw,’ mae’n gwenu. ‘Mae’r lle yma yn arbennig.’ Mae BikePark Wales yn cynnig tocyn diwrnod i’ch cludo i fyny, neu gallwch dalu ychydig bunnoedd o ffi fynediad i’r parc a reidio i ben y mynydd ar y ffordd

Rhes uchaf BikePark Wales Gwaelod o’r chwith Antur Stiniog, Parc Coedwig Afan, Parc Coedwig Afan

neu ar y llwybr ar i fyny, Beast of Burden. O’r top gallwch ddewis eich llwybr ar i lawr. Yr hyn sy’n arbennig o glyfar yw bod nifer o fannau ar hyd y llwybrau lle bydd y llwybr glas, coch a du yn cyfarfod, a gallwch newid yn ôl eich hyder (ac maen nhw hefyd yn ganolfannau ar gyfer mwy fyth o sgwrsio). Mae’r cyfleusterau yn y ganolfan ymwelwyr yn cyd-fynd â’r llwybrau ffantastig. Ble arall allwch chi logi beic £3,000 am ffi ddyddiol resymol a mwynhau darn anferth o gacen foron ar yr un pryd? Dwi’n eistedd tu allan ac yn ymdrochi yn yr awyrgylch, wrth i blant ysgol gynradd wibio o gwmpas y trac ymarfer gyda’u helmedau lliwgar, disglair ar eu pennau. Nid yw’n fawr o syndod bod pobl yn gwirioni ar y gamp yma. Sibrydwch y peth, ond, wyddoch chi be, fe allai’r busnes beicio mynydd ‘ma fynd yn boblogaidd. bikeparkwales.com


Antur Beicio mynydd

2

5 4

1

6

Mae’r bryniau yn ferw… ^ Ac nid o swn canu yn unig, chwaith. Danny Walter, prif olygydd y cylchgrawn Mountain Biking UK yn dewis rhai o’r reidiau gorau yng Nghymru.

1. Yr Wyddfa (Llwybr Llyn Cwellyn), Eryri Pam? Mynydd uchaf Cymru – ac fe ddylai pob beiciwr mynydd gael y copa hwnnw ar ei restr. A’r wobr yw un o’r llwybrau ar i lawr mwyaf heriol a gorau yn y Deyrnas Unedig. Sylwer bod reidio beiciau wedi ei wahardd yn wirfoddol o hanner nos 31 Mai – 30 Medi. Bonws ychwanegol: Pete’s Eats yn Llanberis am lond plât a brecwast chwedlonol.

5. Bannau Brycheiniog, Powys Pam? Reidio mewn Parc Cenedlaethol ar ei orau gyda 14 o lwybrau traws gwlad wedi eu nodi yn amrywio o lefel sylfaenol i rai caled iawn trwy’r dydd. Digon i’w ddarganfod, ond holwch am y wybodaeth benodol yn Gateway Cycles, y Fenni. Bonws ychwanegol: Cerdded ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n hardd eithriadol neu fynd am reid ar Reilffordd Aberhonddu.

2. Coed-y-Brenin, Eryri Pam? Y ganolfan lwybrau beicio gyntaf a adeiladwyd i’r diben yn y Deyrnas Unedig. Amrywiaeth gwych o lwybrau ar gyfer bron pob lefel o feiciwr – dyma i chi un o’r rhai gorau, nid yng Nghymru yn unig ond yn y Deyrnas Unedig. Bonws ychwanegol: Cyfleusterau rhagorol: siop feiciau, caffi a thoiledau. Maes chwarae bach da i’r plant hefyd.

6. Coedwig Afan, Castell-nedd Port Talbot Pam? Gyda phedwar llwybr anhygoel o fewn cyrraedd hawdd i goridor yr M4, dyma’r lle ‘unig’ hawsaf ei gyrraedd, gan ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer anturiaethau ar benwythnosau. Bonws ychwanegol: Gorffennwch eich penwythnos o adrenalin trwy ^ syrffio yn Llangynydd neu Fae Langland ar Benrhyn Gwyr.

3. Cwm Doethie, Sir Gaerfyrddin Pam? Reidio naturiol gan deimlo ymhell o bobman heb fod filltiroedd oddi wrth bopeth! Mae’n cynnwys un o’r darnau hiraf o drac sengl yn y wlad. Bonws ychwanegol: Beiciau Mynydd Clive Powell yw’r siop i’w dewis gyda bwyty sy’n arbennig o dda a’r cynnig i gael bwyd ar gyfer teithiau penwythnos ar gael.

7. BikePark Wales, Rhondda Cynon Taf Pam? Dyma’r gyrchfan beiciau newydd fwyaf poblogaidd yn y Deyrnas Unedig a’r gwir Barc Beiciau cyntaf hefyd. Dewis gwych o lwybrau wedi eu gwneud i’r diben ar gyfer pob lefel o feiciwr, os byddwch chi newydd ddechrau neu awydd wynebu her fwy ar y lifft i fyny. Bonws ychwanegol: Canolfan ymwelwyr wych, gyda’r holl gyfleusterau a chyngor arbenigol y gallech eu dymuno.

4. Cwmcarn, Sir Fynwy Pam? Yn adnabyddus am ei drac DH a’r gwasanaeth cyflym i’ch cludo ar i fyny, ond i’r rhai sy’n gwybod y pethau yma mae’n baradwys i feic XC/llwybrau hefyd. Mae’r Llwybr Twrch naw milltir (15.5 km) yn un o’r dolenni mwyaf difyr ac mae’r daith ar i lawr ar y diwedd yn fwy difyr i raddau helaeth na’r llwybr ar i lawr gwirioneddol. Bonws ychwanegol: Bwyd da gan ferched o Gymru yng nghaffi’r ganolfan. A siop dda PS Cycles rownd y gornel.

8. Nant yr Arian, Ceredigion Pam? Mae yno dri llwybr gwych ar draws mawnogydd agored, a llwybr sengl tynn troellog trwy goetir – yn amrywio o 5.5 milltir (9 km) i 21.7 milltir (35 km). Bonws ychwanegol: Mae Gwesty George Borrow lai na milltir (1.5 km) o’r ganolfan, ac mae’n lle gwych i feicwyr mynydd aros yno.

Gallwch archwilio’r holl lwybrau yma a llawer mwy yn mbwales.com cymru.visitwales.co.uk visitwales.com

49


Hedfan ar y Wifren Sut deimlad yw hofran bum can troedfedd trwy’r awyr ar gan milltir yr awr? Gofynnwch i Finlay George, 13 oed, a aeth ar daith fythgofiadwy ar y wifren zip hiraf yn Ewrop.

D

‘Mae’n un peth sefyll ar ben y byd. Mae’n beth arall pan fyddwch chi’n gwybod eich bod ar fin taflu eich hun oddi arno ar 100 milltir yr awr.’

50

cymru.visitwales.co.uk

oeddwn i ddim yn disgwyl hyn a dweud y gwir. Bythefnos yn ôl roeddwn yn gorffen yr ysgol am yr haf. Dwi ddim yn meddwl i mi newid o’m pyjamas am y dyddiau cyntaf o’r gwyliau. Ond dyma fi yn sefyll ar ymyl gwacter yn y siwt ryfedd yma ar fin hedfan 500 troedfedd (152 metr) yn yr awyr am filltir (1.6 km) uwch ben chwarel yng Ngogledd Cymru. Dwi’n gallu gweld Ynys Môn o’r fan yma. ^ o tua 15 ohonom, o Mae ’na gr wp bob oed. Rydem ni yn y dillad ’ma sy’n gyfuniad o ddillad gofodwr a’r dillad y byddwch chi’n gweld carcharorion yn eu gwisgo. ’Den ni ddim yn ffasiynol iawn, ond rydyn ni i gyd yn hyn hefo’n gilydd. Mae Zip World yn Chwarel y Penrhyn ym Methesda, lle mae llechi wedi cael eu cloddio ers dros ddwy ganrif. Hon oedd y chwarel fwyaf yn y byd ar un adeg ac roedd yn cyflogi dwy fil o bobl. Mae’n cyflogi dau gant o bobl ar hyn o bryd ac mae’r ddwy wifren zip yn ymestyn ar draws rhannau o’r chwarel sydd wedi eu hen adael. Rydyn ni’n cael y manylion gan Helen ac mae’n mynd â ni at y Zipper Bach, sydd, er hynny, yn dal yn drydydd o

ran hyd ym Mhrydain. Dim ond blas ar bethau ydy hyn. Rydyn ni’n dod yn gyfarwydd â’r drefn o gael ein bachu wrth y peirianwaith sy’n ein cludo ar draws y wifren zip 1,640 troedfedd (500 metr) ar tua 40 milltir yr awr (65 kmh) ar uchder o 72 troedfedd (22 metr). Yn hytrach na hongian oddi wrth y wifren, byddwn yn gorwedd yn fflat, sy’n rhoi teimlad gwych o hedfan trwy’r awyr i chi. Mae’r Zipper bach yn tawelu unrhyw nerfau sydd gennych ac yn codi lefelau adrenalin pawb ar gyfer y Zipper Mawr. Cawn ein gyrru yn araf i fyny’r ffordd droellog i ben y chwarel mewn lorri goch, pawb yn gafael yn dynn yn ei helmed a’i gogls fel gofodwyr amatur. Mae pawb yn siarad, â’u llygaid yn llawn cyffro, gan weiddi pan fydd Kristiaan y gyrrwr yn methu cael y lorri i symud ar ambell i riw. Wrth inni nesu at y top fe welwn Gastell Penrhyn a’i diroedd ger Llandygai – castell ffug o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a adeiladwyd ar safle’r plasty gwreiddiol o’r bymthegfed ganrif. Y teulu Dawkins-Pennant oedd piau Chwarel y Penrhyn ac erbyn hyn mae’r castell ym meddiant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ond mae’n deg dweud


Antur Gwifren Zip

nad yw’r gwely tunnell o lechi a grëwyd ar gyfer ymweliad y Frenhines Fictoria yn 1859 yn poeni llawer arnom y funud yma. Wedi’r cwbl, mae’n un peth sefyll ar ben y byd. Mae’n beth arall pan fyddwch chi’n gwybod eich bod ar fin taflu eich hun oddi arno ar 100 milltir yr awr (160 kmh). Felly dyma fi, yn ôl lle gwnaethon ni gychwyn. Mae ’na lawer o ddrama yn ^ ffrio ar y radio digwydd. Clywaf swn ddwy ffordd wrth i’r drefn bendant o’m clymu a’m gosod yn y safle gael eu cyfleu yn gadarn ac awdurdodol. Does ’na ddim malu awyr. Wrth i mi orwedd i lawr a pharatoi fy hun i gael fy ngollwng, dwi’n sylweddoli bod y pen draw ymhell o’m golwg. Gallaf deimlo’r gwaed yn pwmpio ychydig yn gyflymach o gwmpas fy system. Mae’r radio yn ffrio eto ac mae’r gweithredwyr yn cyfnewid y geiriau ffurfiol ar ben a gwaelod y wifren. Mae’r clip diogelwch ar y wifren yn cael ei ryddhau. ‘Big base, safety is off,’ meddai Mark, yr hyfforddwr. ‘Wyt ti’n barod?’ Dwi’n barod. Tri... Dau... Un... Cer!!’ Y peth cyntaf y byddwch chi’n ei brofi

^ sy’n wefreiddiol. Mae’r yw whoosh o swn cyflymder yn taro’r anadl allan o’m brest yn llythrennol a fedrai ddim helpu fy hun, dwi’n tagu chwerthiniad fel dyn gwallgo’. Mae’n teimlo fel petaswn i’n torri trwy’r awyr. Mae’n llethol, dwi’n meddwl pa mor fach dwi a’r ffordd dwi’n gwibio trwy ganrifoedd o waith caled gan eraill. Dwi’n hedfan – yn rhuthro uwchben grisiau anferth y chwarel islaw, yn hofran uwchben glas tanbaid llyn y chwarel. Mae’n deimlad gwych. Ar draws y llyn, wrth fynd yn is wrth i’r wifren ymestyn tuag at y gwaelod, gallaf weld pobl yn craffu ar i fyny o’r ganolfan ymwelwyr. Dwi’n gallu mesur fy nghyflymder yn haws ar hyd traean olaf y daith, gan arafu ar waelod y rhediad. Ac yna mae wedi gorffen. Mae’r hyfforddwr yn fy nhynnu i mewn, gan wenu wrth fy nwyn yn ôl lawr at y ddaear. Mae’n wefreiddiol. Bythgofiadwy. Fe allwn i eistedd yma a ’sgwennu am oriau am y teimlad, ond fe fydde’n llawer gwell i chi fynd i brofi drosoch eich hun. zipworld.co.uk Yr holl ddelweddau Zip World, Chwarel y Penrhyn, Bethesda

cymru.visitwales.co.uk

51


Digonedd o weithgareddau Er ein bod ni i gyd yn dueddol o fwynhau diwrnod dan y dwfe ar ein gwyliau, mae’n werth sôn bod y darnau o Gymru sydd tu allan yn eithaf dymunol. Dyma i chi rai gweithgareddau i roi ’chydig o liw yn ôl ar eich gruddiau.

1 Arfordira yn Sir Benfro

Os yw neidio oddi ar glogwyni, dringo dros greigiau a chrwydro mewn ogofâu yn ymddangos ychydig yn rhy fentrus, anghofiwch yr ofn hwnnw ar unwaith. Gydag arweinydd profiadol wrth eich ochr, gall arfordira ddod yn brofiad fydd yn cynnig rhyddid newydd i chi. A ble well i wneud hynny nag yn Sir Benfro, y lle cyntaf ar y blaned i gynnig teithiau arfordira gydag arweinydd. Mae yma ddigonedd o ddewisiadau, o ^ neidio oddi ar glogwyni yn Abereiddi, i’r chwaraefa dwr gwyn o gwmpas Penmaen Dewi. visitpembrokeshire.com

2

^ Syrffio ar Benrhyn Gwyr

Dyma i chi ffordd o fyw i bobl a faged yn yr ardal, mae ^ ddewis eang o fannau i syrffio. Fe gan arfordir Penrhyn Gwyr gewch chi donnau bychan mewn baeau eang (Llangynydd), tonnau mawr yn torri (Bae Langland) a digon o rai eraill hefyd. Mae’r tonnau yn gymharol ganolig o ran maint, felly mae hwn yn lle delfrydol i ddysgu. Mae yma ddigonedd o fusnesau yn cynnig llogi byrddau a hyfforddiant. Awgrym call yw edrych ar amseroedd y llanw a mynd am dro ar hyd Llwybr yr Arfordir i weld y tonnau yn gyntaf. Mae’n arbed yr oriau anghyfforddus hynny yn eistedd ar y traeth yn eich siwt wlyb yn aros i’r llanw daro’r man cywir. visitswanseabay.com

Prif lun Arfordira, Bae Santes Non, Sir Benfro

52

cymru.visitwales.co.uk


Antur Adrenalin

3

Cerdded Llwybr Arfordir Ynys Môn

Mae Ynys Môn yn gyrchfan orfodol i gerddwyr, fforwyr ac ymlwybrwyr fel ei gilydd. Mae bron i 125 milltir (201 km) o lwybrau arfordir o gwmpas yr ynys ar ben gogleddol Cymru, a gallwch weld hen olion Celtaidd a golygfeydd dramatig o ben clogwyni yn edrych dros un o warchodfeydd natur yr RSPB. Wedyn dyna i chi un o’r cestyll enwocaf yng Nghymru ym Miwmares, siambrau claddu hynafol a goleudy trawiadol ar Ynys Lawd, Afon Menai a’i physgod cregyn niferus, a’r blodau a’r bywyd gwyllt prin. O ran natur, mae hi’n eithaf cyffrous. visitanglesey.co.uk

4

^ gwyn Rafftio dwr yng Nghaerdydd

Tra roedd yr holl bobl eraill yn y cyfarfod yn cael egwyl, fe gafodd rhywun y syniad gwych o adeiladu ^ gwyn yng ychydig o raeadrau dwr Nghaerdydd, prifddinas Cymru. ^ Gwyn Mae Canolfan Dwr Ryngwladol Caerdydd bron â bod yng nghysgod dau o adeiladau cyfoes gorau Cymru – Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru. Mae yno ^ gyfleusterau ar gyfer rafftio dwr gwyn, ceufadu a syrffio dan do ac mae wedi dod yn un o’r cyrchfannau mwyaf poblogaidd o’i fath yn y Deyrnas Unedig. ciww.com, visitcardiff.com

ym 5 Marchogaeth Mannau Brycheiniog

Mae digonedd o weithgareddau merlota, marchogaeth a neidio ceffylau ar gael ym Mannau Brycheiniog, gyda phum canolfan farchogaeth yn gweithio gyda’i gilydd i gynnig amrywiaeth o ddewisiadau i ymwelwyr. Mae un daith hyd yn oed yn cynnwys cyfle i gael saib mewn tafarndai ar y ffordd. Mae’r parc cenedlaethol yn cynnwys 500 milltir sgwâr (805 km sgwâr) ac mae’r Bannau yn uchel ar y rhestr o leoedd y mae’n rhaid ymweld â nhw. Felly pam ddim eu darganfod ar gefn ceffyl? midwalesmyway.com, breconbeacons.org Yn nhrefn y cloc o’r top ar y chwith Merlota, Priordy Llanddewi Nant Hodni, Bannau Brycheiniog Syrffio, Bae Caswell, Penrhyn Gwyr ^ Goleudy Ynys Lawd, Ynys Môn Canolfan Dwr ^ Gwyn Rhyngwladol, Bae Caerdydd cymru.visitwales.co.uk

53


Natur a Meithrin

Mae Cymru yn baradwys i’r rhai sy’n caru eu bwyd. Ond peidiwch â chymryd ein gair ni am y peth. O gogyddion amlwg i gynhyrchwyr cynnyrch organig o safon uchel, mae’r ddedfryd yn unfrydol.

54

cymru.visitwales.co.uk


Bwyd a diod Bwyd Cymru

Tyfwch o Mae Adam Vincent yn arwr bwyd lleol gwirioneddol. Allwch chi ddim prynu ei gigoedd bridiau prin heblaw eich bod ychydig filltiroedd o’i dyddyn yn Sir Benfro, Fferm Trehale. Ond mae’n werth cynllunio gwyliau cyfan o gwmpas ei selsig. Rydem ni’n gwybod am ein bod ni wedi’u profi. Ac maen nhw’n blasu, yn syml iawn, yn eithriadol.

G

aned fi yng nghyffiniau Llundain ond mae gwreiddiau’r teulu yn Sir Benfro. Roeddem yn ysu am gael dianc o’r ras ddiddiwedd yn Llundain, felly fe ddaeth tair cenhedlaeth ohonom yn ôl: mam, nain, fi a’m gwraig. Roeddwn i’n gweithio yn y byd adeiladu, ond roedd genni’r freuddwyd nodweddiadol honno o symleiddio bywyd trwy gael ychydig o dir a bod yn hunangynhaliol. Fe roeson ni fel teulu ein holl enaid yn y peth. Roedden ni’n tyfu ein llysiau ein hunain, ac yn magu moch, ^ a dofednod ar gyfer y bwrdd. Roedd wyn Mam yn pobi’r bara i gyd – roedd hi hyd yn oed yn gwneud ei sebon ei hun. Yn y dyddiau cynnar, roedd yna ddau beth roeddwn i’n dyheu amdanyn nhw: bacwn go iawn, a chrofen wedi ei rhostio go iawn. Felly fe wnaethon ni brynu ychydig o foch, ac fe dyfodd y cwbl o hynny. Fe wnaethon ni ddechrau rhoi ychydig i ffrindiau a chymdogion, ac roedd y blas yn syndod a rhyfeddod i bobl. Erbyn hyn mae gennym foch Saddleback, Berkshire a Tamworth a byddwn yn eu croesi hefo baedd gwyllt i gael ychydig mwy o flas y gwyllt arnyn nhw. Rydyn ni’n eu porthi ar farlys o ffermydd lleol, sy’n cael ei fwydo mewn maidd organig y byddaf yn ei gael gan [y gwneuthurwyr caws a enillodd wobrau di-ri] Caws Cenarth. Dwi hefyd yn cael barlys brag o fragdy lleol a gweddillion cwrw o dafarndai. Mae ffrind i mi yn gwneud seidr, ac mae o’n rhoi gweddillion yr afalau i ni. Er mwyn talu yn ôl ’dwinne wedi plannu 70 o’i goed afalau ar ein tir ni. Felly mae sgil gynnyrch gwneud seidr yn mynd i borthi’r moch, a phan fydd y seidr wedi ei gynhyrchu

dwi’n ei ddefnyddio i wneud ham wedi ei drin â seidr a selsig blas seidr. Dyna i chi’r ffordd gylchynol berffaith o wneud pethau sy’n gwneud popeth yn flasus iawn. Yr holl ddeunydd yma sydd fel arfer yn ddim ond gwastraff, rydyn ni’n ei roi i’r moch oherwydd mae’n gwneud iddyn nhw flasu’n well. Rydyn ni’n ffermio mewn modd organig, a fyddwn ni ddim yn defnyddio peiriannau – mae’r cyfan yn cael ei wneud â llaw. Rydyn ni’n gwneud popeth yma ar y fferm, heblaw am y lladd. Rydyn ni’n gwneud ein bacwn a’n selsig ein hunain yma i gyd. Fyddwn ni ddim yn defnyddio unrhyw ddarnau o fisgedi caled, a dim ond croen naturiol, ac rwyf yn cymysgu fy sbeisys fy hun iddyn nhw fod yn union fel y mae arna’i eu heisiau. Byddwn yn gwerthu’n uniongyrchol oddi ar y fferm, ac mewn marchnadoedd ffermwyr, ac i westai a bwytai lleol. Hyd yn ddiweddar, roedd popeth yn cael ei werthu o fewn 10 milltir (16 km) i’r fferm, a dim ond yn Sir Benfro y byddwn yn gwerthu o hyd. Mae gan rai cynhyrchwyr lleol uchelgais fawr, ond dwi am ddal ati gan gadw at ein crefft. Ond rydyn ni’n ehangu’n raddol. Mae gennym ni safle gwersylla, gydag ambell iwrt a thipi. Fe wnaethon ni hefyd dorri rhai coed aeddfed dros y gaeaf, eu troi yn estyll, ac rydyn ni’n adeiladu siop fferm hefo nhw. Ond mae’r holl bren yn cael ei dorri â llaw, fyddwn ni ddim yn defnyddio llif gadwyn. Rydyn ni hyd yn oed yn gwneud ein siarcol ein hunain i goginio’r selsig arno. Allwch chi ddim bod yn fwy gwyrdd na ni! Fferm Trehale, Mathri, Sir Benfro. Ffôn 01348 831037

Gyferbyn Adam Vincent, Fferm Trehale, Sir Benfro Top i’r gwaelod Wystrys Ynys Môn Cynnyrch ffres Caws Cenarth

‘Rydyn ni’n ffermio mewn modd organig, a fyddwn ni ddim yn defnyddio peiriannau.’

Adam Vincent

cymru.visitwales.co.uk

55


Ar y dde Afon Menai tuag Eryri

Daliwch o M

Roedd Roger Pizey yn rhan o’r tîm chwedlonol o gogyddion Prydeinig modern yn yr 80au hwyr a’r 90au cynnar, yn gweithio ochr yn ochr â Marco Pierre White a Gordon Ramsay ym mwyty Harvey’s. Mae’n brif gogydd yn ‘Marco’s Stamford Bridge’ yn Llundain ac yn awdur ar ‘Small Cakes’ a ‘World’s Best Cakes’. Mae’n caru Ynys Môn gymaint fe fyddai’n gallu ei bwyta.

‘Mae Ynys Môn yn amrwd iawn – a dwi wrth fy modd hefo hynny.’ Roger Pizey 56

cymru.visitwales.co.uk

ae Ynys Môn fel gwladwriaeth fwyd annibynnol ei hun. Ceir digonedd o bysgod a chregyn môr a chig oen morfa hallt gwych yno. Gallwch gael caws hyfryd ar yr ynys ac mae yma fygfa ragorol. Mae’r mêl yn fendigedig ac mae pobl amrywiol yn gwneud eu hufen ia a’u gelato eu hunain. Roedd teulu fy ngwraig wedi bod yn dod i Ynys Môn ers yr 1960au ac rydyn ni i gyd wedi dysgu ble i fynd i chwilio am y bwyd gorau. Yn ystod y Pasg rydyn ni’n cael llwyth o arlleg i wneud cawl a phan fydd hi’n drai rydyn ni’n casglu cregyn gleision a chocos o’r aber rhwng Fali a Rhoscolyn. Mae yma ddigon o lyrlys hefyd. Yn ystod yr haf, byddwn yn dal crancod, cimychiaid a macrell. Dwi ddim yn gwybod am gimwch gwell na’r un sy’n dod o Ynys Môn. Allwch chi ddim ei guro. Mae gennym ni ddau bot, mae gennym drwydded ac mae’r peth i gyd yn cael ei reoli yn wirioneddol dda. Mae’r macrell yn fendigedig hefyd. Ac fe allwch chi gael corgimychiaid o faint eich bawd. Fyddwn ni ddim yn gallu dod yma yn yr hydref oherwydd mae’n amser mor brysur yn y bwyty, ond rydyn ni wrth ein boddau yma yn y gaeaf. Mae’r t^y yma yn wynebu Eryri ac mae ’na

i

gymaint o ddrama yn digwydd rhwng y mynyddoedd a’r tywydd. Mae ’na siop cigydd ardderchog ar Ynys Môn – ym Modedern. Maen nhw’n lladd eu defaid eu hunain ac mae ganddyn nhw gig oen morfa hallt bendigedig yno. Dwi wedi gofyn iddyn nhw ei ddosbarthu i Lundain. Pan wnes i sefydlu’r popty i Peyton and Byrne yn Llundain roedden ni’n arfer gwerthu Mêl Môn. A pheidiwch â sôn am yr halen. Halen Môn yw’r gorau. Dwi’n ei brynu mewn tybiau hanner kilo. Mae eu halen wedi’i fygu yn wych hefyd. Weithiau fe fyddwch yn meddwl o ddifri a oes gan bobl unrhyw syniad pa mor lwcus ydyn nhw ar Ynys Môn. Bydd siopwyr yn gyrru i’r archfarchnadoedd yng Nghaergybi, ac ar eu ffordd yno byddan nhw’n pasio cigyddion, gwneuthurwyr caws a gwerthwyr annibynnol gwych, y cyfan yn gwerthu bwyd gwirioneddol dda wedi ei gynhyrchu’n lleol. Mae Ynys Môn yn amrwd iawn – a dwi wrth fy modd hefo hynny. Mae’r natur amrwd yna yn cael ei adlewyrchu yn y ffordd o fyw, natur y tir a’r cynnyrch sy’n dod oddi ar yr ynys. Mae hi’n wahanol i bobman arall – mae iddi ei blas arbennig ei hun. visitanglesey.co.uk

Gwyliau bwyd lleol

Mai ^ Fwyd a Gwledig Gwirioneddol Gwyl Wyllt, Tyddewi reallywildfestival.co.uk Mehefin Wythnos Bysgod Sir Benfro pembrokeshirefishweek.co.uk

Medi ^ Fwyd y Fenni Gwyl abergavennyfoodfestival.com Hydref ^ Wystrys a Chynnyrch Cymreig Gwyl Ynys Môn, Biwmares angleseyoysterfestival.com


Bwyd a diod Bwyd Cymru

Coginiwch o

‘Dwi’n credu yn ddiffuant bod yr hyn yr ydym yn ei wneud yng Nghymru ar y funud cystal ag unrhyw le yn y byd.’ Stephen Terry

Mae Stephen Terry yn un o gogyddion gorau Prydain. Hyfforddodd gyda Marco Pierre White, ennill ei seren Michelin gyntaf yn 25 oed, ac yn awr mae’n rhedeg bwyty Hardwick, yn agos i’r Fenni sy’n fawr ei glod.

F

e fyddwch yn clywed llawer am y bwyd mewn mannau fel Sonoma a Napa yng Nghaliffornia, ond dwi’n credu yn ddiffuant bod yr hyn rydyn ni’n ei wneud yng Nghymru ar y funud cystal ag unrhyw le yn y byd. Efallai mai’r newid mwyaf yn y 10 mlynedd diwethaf yw gwybodaeth y cyhoedd am fwyd. Mae gan bobl ddiddordeb mewn gallu olrhain eu bwyd a chynaliadwyedd, pedigri ac etifeddiaeth pethau. Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi cynhyrchwyr lleol, ac mae gennym ni berthynas bersonol iawn gyda’r bobl sy’n cyflenwi’r bwyty. Er enghraifft, mae gennym ni berthynas wych â Fferm Trealy, sy’n gwneud y gwaith charcuterie mwyaf rhyfeddol, a chaws gafr Dyffryn Cothi, y mae eu cawsiau o fath halloumi a

feta yn eithriadol. O Ogledd Cymru rydyn ni’n cael olew hadau rêp Blodyn Aur, sy’n anhygoel. Byddwn yn cael ein holl lysiau at y Sul gan foi lleol o’r enw Philip yn T^y Mawr Organics, a bydd yn gofyn, ‘be’ ’ydech chi am i mi ei dyfu?’ Ac mae’n ei dyfu. Rydyn ni i gyd yn helpu’n gilydd, ac mae hynny yn rhoi llawer o bleser i mi, yn arbennig ar ôl treulio cyfnod mor hir yn Llundain: does ’na ddim byd na allwch chi ei gael yno, ond ychydig iawn o gynnyrch lleol gewch chi, am resymau amlwg. Mae hi’n wahanol yng Nghymru, ac rydyn ni’n falch o roi enwau ein cyflenwyr ar ein bwydlen. Yn sicr mae yma glwstwr o leoedd bwyta da yma yn Sir Fynwy ac ymhell i Bowys, ond mae hynny yn bennaf oherwydd daearyddiaeth: rydyn ni mewn cornel gyfleus o dde ddwyrain Cymru, yn agos at Gaerdydd, gyda llawer o bobl yn dod trwodd ar eu ffordd i’r gorllewin. Ond a dweud y gwir, mae pocedi bach bendigedig o fwyd da ar draws y wlad. Mae’r Harbourmaster yn amlwg yn Aberaeron, ac wedyn mae delicatessen Ultracomida yn Arberth ac Aberystwyth,

Gwesty Druidstone i lawr yn ne Sir Benfro, ac Emporiwm Bwyd Annibynnol Wright ger Caerfyrddin. Petai’n rhaid i mi ddewis un pryd, fe fyddai’n rhaid iddo fod yn eog gwyllt Cymreig. Mae’n anhygoel. Byddwn yn ei fwyta gyda llyrlys a thatws newydd bach hyfryd Sir Benfro. Fe fyddwn yn ffrio ychydig o facwn lleol wedi’i halltu’n sych i’w gymysgu â’r tatws, ac yn ychwanegu ychydig o sibols coch T^y Mawr, ac ychydig o Halen Môn (sef halen gorau’r byd, gyda llaw). Fe fyddwn yn golchi’r cyfan i lawr gyda gwin o’r Ancre Hill Estates yn Nhrefynwy. Fe wnaethant ennill am y gwin gwyn pefriog gorau yn y byd y llynedd, mewn cystadleuaeth ryngwladol yn yr Eidal, yn erbyn rhai o gynhyrchwyr siampên gorau’r byd. Maen nhw hefyd yn gwneud gwin rosé pefriog gwych, pinot noir rhyfeddol, ac maen nhw wedi plannu rhai grawnwin albariño fydd yn barod erbyn 2015. Fedrai ddim aros. thehardwick.co.uk

cymru.visitwales.co.uk

57


Y blas gorau posibl Ni fu’r byd bwyd a diod erioed mewn gwell cyflwr yng Nghymru. Mae gennym gannoedd o gynhyrchwyr traddodiadol sydd wedi bod yn gwneud y gwaith ers cenedlaethau, ac yna mae llu o newydd-ddyfodiaid bywiog yn llawn o syniadau da wedi ymuno â nhw.

Bwyta’n ganolog Y Fenni, yn sicr, os ydych yn mwynhau eich bwyd, yw prifddinas Cymru. Bydd Gwyl ^ Fwyd y Fenni yn rheoli’r dref gyfan ym mis Medi, ac yna mae yma farchnad wych dri diwrnod yr wythnos, trwy’r flwyddyn. Mae rhai o fwytai gorau Cymru wedi clystyru o gwmpas y dref: The Walnut Tree, The Hardwick a The Foxhunter i enwi dim ond tri. abergavennyfoodfestival.com, abergavennymarket.co.uk, thewalnuttreeinn.com, thefoxhunter.com, thehardwick.co.uk Pleserau pysgod cregyn Mae Afon Menai yn cynhyrchu rhai o gregyn gleision ac wystrys gorau Prydain, ffaith sy’n cael ei ddathlu yng Ng wyl ^ Wystrys a Chynnyrch Cymru Ynys Môn, lle bydd digonedd o siampên yn arfer llifo gyda nhw hefyd. Mygiaid o de cryf yw’r partner perffaith i hoff frecwast De Cymru: cocos a bara lawr, wedi eu ffrio gyda bacwn lleol hallt. Fe welwch chi hyn ar y rhan fwyaf o fwydlenni brecwast, neu prynwch eich cynhwysion eich hun mewn marchnadoedd mewn mannau fel Abertawe, Llanelli a Caerfyrddin. angleseyoysterfestival.com, swanseaindoormarket.co.uk

58

cymru.visitwales.co.uk

Cynnyrch cartref Mae Canolfan Fwyd Bodnant a gostiodd £6.5 miliwn yn ganolfan rhagoriaeth goginio, fe’i sefydlwyd mewn hen adeiladau fferm ar Stad Bodnant ger Conwy ac mae’n arddangos y bwyd gorau un gan grefftwyr sydd gan Gymru i’w gynnig. Ceir siop fferm yno, ystafell de, bwyty, llaethdy, siop fara ac ysgol goginio – ac mae’r cyfan yn defnyddio cynnyrch cartref o’r stad ei hun, ffermydd lleol, ac o bob rhan o Gymru. bodnant-welshfood.co.uk Llwybr y bwyd Yng Ngheredigion fe welir cyfran o’n tir amaethyddol gorau gydag arfordir bendigedig. Yn bwysicach, mae’r sir yn llawn o gynhyrchwyr bwyd angerddol, ac mae tua 30 ohonyn nhw wedi dod at ei gilydd i greu Ceredigion o Flas i Flas. Mae’r daith epig i fwyd-garwyr yn cynnwys melinau blawd, cynhyrchwyr llysiau organig, siocledwyr, gwneuthurwyr caws, pysgotwyr crancod a bragdy. Pobl sy’n caru bwyd, yn y bôn. tastetrailwales.co.uk

Basgedi o bysgod Mae Wythnos Bysgod Sir Benfro yn ddathliad blynyddol o bopeth pysgodlyd, yn llawn o fwy na 150 o ddigwyddiadau i deuluoedd, carwyr bwyd, carwyr traethau, pobl yr awyr agored, pysgotwyr ... wel, pawb. Bydd yn digwydd ym mhobman bron, hefyd – bydd y sir gyfan y mynd yn wallgof am bysgod am wythnos yn niwedd Mehefin / dechrau Gorffennaf. pembrokeshirefishweek.co.uk Gwaedd y rebel Fe welwyd cynnydd aruthrol yn y nifer o fân fragdai yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Yn ogystal â’r enwau traddodiadol fel Brain’s a Felinfoel gwelwyd cwmnïau newydd sy’n tyfu yn gyflym fel Otley ac Evan Evans, a llwyth o fragdai arbrofol fel Bullmastiff, Jacobi, Pipes, Purple Moose, a The Kite. Ond y cwmni a wnaeth y sblash fwyaf oedd Tiny Rebel, cwmni modern o Gasnewydd a gipiodd y gwobrau yng Ng wyl ^ Seidr a Chwrw Cymru 2013 ac maen nhw newydd agor eu bar eu hunain, ‘Urban Tap House’ yng Nghaerdydd. tinyrebel.co.uk

O’r chwith Chwisgi Cymreig Penderyn Emporiwm Bwyd Annibynnol Wright’s, ger Caerfyrddin Otley Ale


Bwyd a diod Beth i’w fwyta

Gwneud pethau’r ffordd iawn Dychmygwch petai popeth y byddwch yn ei goginio gartref yn troi allan yn berffaith, bob tro. Pob cacen wedi codi fel y dylai, pob cig yn toddi yn eich ceg. Dyna sut le yw Emporiwm Bwyd Annibynnol Wright’s, ger Caerfyrddin, lle mae’r cogydd Maryann Wright a’i gwr ^ sy’n feirniad bwyd, Simon, yn cynhyrchu bwyd sydd wastad yn rhyfeddol yn eu caffi-deli. Maen nhw hefyd yn cynnig prydau misol gyda chogyddion enwog, os gallwch archebu bwrdd cyn iddyn nhw ddiflannu. wrightsfood.co.uk

Yn nhrefn y cloc o’r top ar y chwith Cig oen Cymru Canolfan Bwyd Cymru Bodnant, ger Conwy

Y bar ar y traeth Nid hon yw’r dafarn hawsaf ei chyrraedd. Oni bai bod gennych hawl i yrru i mewn i bentref bychan Porthdinllaen, sydd ym meddiant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, bydd raid i chi gerdded. Ond am daith gerdded! Bydd taith 20 munud ryfeddol ar hyd y traeth neu ar ben y clogwyni (eich dewis chi) yn eich arwain at Dafarn T^y Coch, tafarn gyfeillgar ar draeth tywodlyd, lathenni o’r môr. Dyw hi fawr o syndod, mewn arolwg diweddar o’r deg bar traeth gorau yn y byd, bod tafarn Ty^ Coch wedi cyrraedd y tri uchaf. tycoch.co.uk

Cofiwch flasu... Y pethau y mae’n rhaid i chi eu blasu yng Nghymru: Cig eidion Gwartheg Duon Cymreig; cig oen (mynydd a morfa hallt); sewin (pysgodyn rhwng yr eog a’r brithyll); Caws Cenarth (unrhyw fath, ond y cyfan os gallwch chi); cawl (yng nghartref rhywun os gallwch chi, wedi ei wneud yn ôl rysáit draddodiadol y teulu); cocos a bara lawr (gyda’i gilydd, i frecwast), Chwisgi Cymreig Penderyn. Does dim angen rhagor o esboniad. Mae’n rhaid i chi, iawn? welsh.whisky.co.uk, cawscenarth.co.uk

Porthdinllaen, Penrhyn Lly^ n Marchnad Abertawe Cregyn gleision Cymru Bara lawr a bacwn o Gymru The Foxhunter, Nant-y-deri cymru.visitwales.co.uk visitwales.com

59


Mwynhau moethusrwydd Dewch yn eich blaen, sbwyliwch eich hun. Gwestai moethus, bwytai pum seren, sba poeth, rhywbeth oer a phefriog – beth bynnag y mae Syr a Madam yn ei ddymuno, mae ar gael. A lle bynnag yr ewch chi, mae’r golygfeydd anhygoel am ddim. Mae Gwesty Sba St Brides yn y lleoliad perffaith ar gopa clogwyn yn edrych draw dros harbwr a thraeth Saundersfoot. Pan fyddwch yn ymlacio yn y pwll tu allan, sy’n cael ei gynhesu i wres gwaed ar ddyddiau rhewllyd hyd yn oed, fedrwch chi ddim peidio teimlo ychydig bach yn hunanfodlon. stbridesspahotel.com Mae’n debyg eich bod yn meddwl lle gallwch chi barcio eich hofrennydd. Wrth lwc, mae gan ddwsinau o westai Cymru eu mannau glanio eu hunain neu lawntiau digon mawr. Yn sicr byddwch yn glanio yn ddedwydd yn Bodysgallen, plasty gwledig perffaith o’r ail ganrif ar bymtheg yn Eryri sydd yn Westy’r Flwyddyn gan yr AA ar hyn o bryd. bodysgallen.com Rydyn ni’n llawer rhy ddoeth i ddatgelu pa sêr Hollywood a welwyd ar eu gwyliau ar gwch ar gamlas Llangollen. Ond mae digon o sêr (gan gynnwys un gan Michelin) yn Nhyddyn Llan, gerllaw, plasty gwledig gyda bwyty a enillodd lu o wobrau. tyddynllan.co.uk Mae gwerthiant mawr ar gwiltiau a blancedi hynafol o Gymru’r dyddiau yma, ond mae’r traddodiad yn dal yn fyw ac yn fywiog yng Ngorllewin Cymru. Ym Melin Tregwynt ger Hwlffordd cewch enghraifft wych o felin sydd wedi cyfuno crefftau hynafol gyda chynlluniau modern chwaethus, gan wneud dillad, bagiau a deunydd dodrefn yn ychwanegol at y blancedi a’r cwiltiau traddodiadol. melintregwynt.co.uk

60

cymru.visitwales.co.uk

Mae’r ymadrodd ‘golff miliwnydd’ yn disgrifio’r teimlad bendigedig pan fyddwch chi a’ch ffrindiau yn gweld eich hunain yn taro’r bêl heb neb tu ôl i chi na thu blaen i chi, gan fod y cwrs cyfan i chi, a chi yn unig. Mae gan Gymru rai o’r cyrsiau twyni gorau yn y byd, ond nid ydyn nhw yn agos mor brysur (nag mor ddrud) â rhai mewn mannau eraill. Ond a oes yna rywle mor drawiadol ac adran y penrhyn o gwrs Nefyn, neu’r 7fed yn Pennard? Den ni ddim yn meddwl. nefyn-golf-club.co.uk pennardgolfclub.com golfasitshouldbe.com Un o’r ffyrdd gorau o ddarganfod arfordir Cymru, yn ein barn ni, yw cwch preifat. Mae 14 marina lle gallwch dreulio’r noson, gan gynnwys yr un grand i 160 o gychod yn Aberystwyth, sydd yn gorwedd yn daclus hanner ffordd trwy eich taith. abermarina.com Fe brynodd y biliwnydd o Gymru Syr Terry Matthews yr ysbyty lle cafodd ei eni, ei drawsnewid yn westy moethus, adeiladu safle hamdden cyfan tu ôl iddo, ychwanegu canolfan gynadledda, bwytai o safon uchel a thri chwrs golff addas i bencampwriaeth, daeth â’r Gwpan Ryder i Gymru yn 2010, a...ydy hynny’n ddigon? Yn syml, mae’r Celtic Manor Resort yn lle eithriadol i dreulio penwythnos hir. celtic-manor.com

Tarwyd y fargen miliwn o bunnoedd gyntaf yn y byd yn y Gyfnewidfa Lo ym Mae Caerdydd. Mae’r cyn ddociau glo yma wedi eu haileni fel cyrchfan hamdden ddymunol, y gallwch ei edmygu o deras Gwesty a Sba Dewi Sant, bum seren. Yng nghanol y ddinas, mae casgliad amhrisiadwy o gelf yr Argraffiadwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. thestdavidshotel.com, amgueddfacymru.ac.uk/cy/caerdydd Mae afonydd eogiaid a sewin Gorllewin Cymru yn denu pysgotwyr o bob rhan o’r byd. Adeiladwyd Maesycrugiau, yn Sir Gaerfyrddin o fewn pellter gwialen i afonydd Teifi, Cothi a Tywi, ac mae’n cynnig llety Gwely a Brecwast pum seren. Bu ambell un o arlywyddion yr Unol Daleithiau a sêr Hollywood yma yn manteisio ar y cyfle i bysgota. manor-wales.com Efallai na fyddai cartref hyfforddi tîm rygbi Cymru yn swnio yn lle moethus lle cewch eich pampro. Ond mae’r Vale Resort, yn gae chwarae pedair seren o fewn 15 munud o Gaerdydd, prif-ddinas Cymru, gan gyfuno ymlacio moethus a gweithgareddau chwaraeon. Yma mae sba mwyaf Cymru a dau gwrs golff addas i bencampwriaeth, mewn 600 erw o diroedd. vale-hotel.com Mae’r rhan fwyaf o draethau Cymru yn wynebu’r gorllewin, felly gallwch fwynhau machlud gwych, am ddim. Amhrisiadwy.


Bwyd a diod Moethusrwydd

Gwesty Sba St Brides, Saundersfoot Porth Mawr, ger Tyddewi, Sir Benfro

Gwesty a Sba Dewi Sant, Bae Caerdydd

Traphont Pontcysyllte, Camlas Llangollen

Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd

Bodysgallen Hall

Melin Tregwynt

Clwb Golff Nefyn a’r Ardal

Afon Teifi

Celtic Manor Resort, Casnewydd

visitwales.com cymru.visitwales.co.uk

61


i

Dod i adnabod ein hardaloedd gwyliau Rhennir Cymru yn 13 ardal benodol, pob un â’i chymeriad unigol. Gadewch i ni eu cyflwyno i chi.

Ynys Môn 2 Llandudno a Bae Colwyn 3 Gogledd Ddwyrain Cymru 4 Eryri Mynyddoedd a Môr 5 Canolbarth Cymru Fy Ffordd fy Hun 6 Ceredigion – Bae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria 7 Sir Benfro – unig Barc Cenedlaethol Arfordirol Prydain 8 Sir Gaerfyrddin – Bae Caerfyrddin ^ Afan a Chwm Nedd 9 Bae Abertawe – Mwmbwls, Gwyr, 10 Y Cymoedd – Calon ac Enaid Cymru 11 Caerdydd – Prifddinas Cymru 12 Arfordir Treftadaeth a Chefn Gwlad Morgannwg 13 Dyffryn Gwy a Chwm Wysg

1 2

1

Ynys Môn Mae Ynys Môn yn cynnig harddwch digymar, anturiaethau anhygoel, llonydd llwyr a chroeso cynnes. Yn hawdd ei chyrraedd; mae’r ynys unigryw hon, gyda’i harfordir, traethau amrywiol a threfi hanesyddol yn gwneud canolfan wych i’r teulu cyfan. Nid oes raid dweud wrth y rhai a fu yma yn barod. Maen nhw’n dod yn ôl... 1

+44 (0)1248 713177 anglesey@nwtic.com visitanglesey.co.uk facebook.com/visitanglesey Llandudno a Bae Colwyn Llandudno, y dref fywiog, y trysor glan môr Fictoraidd sydd â hanes yn mynd yn ôl i’r Oes Efydd. Safle Treftadaeth Byd Conwy â’i gorffennol morwrol cyfoethog. ^ ym Mae Anturiaethau ar lan y dwr Colwyn. Gwyliau byr trwy’r flwyddyn, yn llawn o hwyl i’r teulu, bwyd da, cyfle gwych i gerdded, theatrau o’r safon uchaf a chalendr llawn o ddigwyddiadau cyffrous. Y cyfan o fewn cyrraedd hawdd i Eryri. 2

+44 (0)1492 577577 llandudnotic@conwy.gov.uk visitllandudno.org.uk

62

cymru.visitwales.co.uk

3 4 5

6

7

8

9

10

13

11 12

1 The Isle of Anglesey facebook.com/visitingllandudno eang o lety, atyniadau a gweithgareddau 2/2A Llandudno, Colwyn Bay, Rhyl & Prestatyn twitter.com/visit_llandudno o safon – cestyll, trenau bach, golff, 3 The North Wales Borderlands 4 Snowdonia Mountains &beicio, Coast/Eryri Mynyddoedd a Môr cerdded, traethau a wobrwywyd, 5 Mid Wales & the Brecon Beacons 3 Gogledd Ddwyrain6Cymru parciau gwledig, Llwybr Arfordir Cymru, Ceredigion – Cardigan Bay 7 rydyn Pembrokeshire Lai nag 20 milltir o Gaer, ni o fewn Safle Treftadaeth Byd, Ardaloedd o 8 Carmarthenshire – Carmarthen Bay cyrraedd hawdd i Ogledd Orllewin Naturiol ac Arfordir 9 Swansea Lloegr Bay – Mumbles,Harddwch Gower, Afan andthe Vale of Eithriadol Neath The Valleys – Heart and Soul of Wales a Gorllewin Canolbarth10 Lloegr. O siopau Treftadaeth. 11 Cardiff, capital of Wales The Most Southerly Point In Wales – The Glamorgan Heritage Coast and Countryside prysur a digwyddiadau12diwylliannol 13 Wye Valley & Vale of Usk ^ Fwyd Wrecsam i bleserau bwyd Gwyl +44 (0)1341 281485 a Diod yr Wyddgrug i Eisteddfod tourism@gwynedd.gov.uk Ryngwladol Llangollen sy’n enwog trwy’r visitsnowdonia.info facebook.com/visitingsnowdonia byd. Mae’r ardal yn cynnwys y Rhyl, un o twitter.com/visit_snowdonia drefi glan môr mwyaf cyfarwydd Prydain visitsnowdonia.wordpress.com a Bryniau Clwyd ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Dyfrdwy. Mae 5 Canolbarth Cymru Fy Ffordd fy Hun gennym hyd yn oed Safle Treftadaeth Byd 11 milltir o hyd – Traphont Yn cynnwys Parc Cenedlaethol Bannau Pontcysyllte a’r Gamlas a gallwch gerdded Brycheiniog, Biosffer Dyfi, Mynyddoedd hefyd ar hyd llwybr Clawdd Offa sy’n Cambria, Llyn Efyrnwy a’r Berwyn, a rhedeg o’r Waun i’r arfordir Gwlad Offa. Teithiau Cerdded Rhyfeddol ym Mhrestatyn. – dau lwybr cenedlaethol, llwybrau rhaeadrau a llawer o deithiau cerdded +44 (0)1978 292015 eraill hefyd. Olwynion Mwdlyd – cyfle tourism@wrexham.gov.uk i feicio ar ac oddi ar y ffordd. Enw da – pedair blynedd gyda Taith Prydain, +44 (0)1745 355068 cartref y Dyfi Enduro a Bwystfil y Bannau. rhyl.tic@denbighshire.gov.uk Llwybrau di draffig i deuluoedd a beicio northeastwales.co.uk mynydd eithafol yn aros amdanoch. 4 Eryri Mynyddoedd a Môr ^ Digwyddiadau trwy’r flwyddyn – o wyl Lenyddol y Gelli i Gomedi Machynlleth, Maes chwarae antur Gogledd Cymru o’r Dyn Gwyrdd i’r Sioe Frenhinol a sy’n cynnwys Parc Cenedlaethol Eryri, Sioeau Gaeaf, yn dathlu ein treftadaeth Penrhyn Ll^yn ac Arfordir Cambria. Dewis

The


amaethyddol. Arhoswch mewn plastai gwych neu wigwams gwahanol. Ac i ^ gwblhau’r darlun coginio i dynnu dwr i’r dannedd, chwisgi a gwinoedd lleol rhagorol. Dyna i chi Ganolbarth Cymru yn Fy Ffordd fy Hun! +44(0)1874 622485 tourism@powys.gov.uk midwalesmyway.com Ceredigion – Bae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria Darganfyddwch y tirlun, pentrefi a’r harbwr wnaeth ysbrydoli Dylan Thomas a darganfod hanes Cymru yng Nghastell Aberteifi. Cerddwch ar ddarnau hawdd neu heriol o lwybr arfordir Ceredigion o daith ar y prom yn Aberystwyth i ddringo bryngaerau yn Llangrannog. Chwiliwch am ddolffiniaid ac adar; mwynhau hwyl i’r teulu ar draethau enwog a phob math o ddigwyddiadau; ymlaciwch a blasu bwyd môr Ceredigion i gig oen Mynyddoedd Cambria. 6

+44 (0)1970 612125 brochure@ceredigion.gov.uk discoverceredigion.co.uk facebook.com/discoverceredigion Twitter: @visitceredigion Sir Benfro – unig Barc Cenedlaethol Arfordirol Prydain Dyfarnwyd gan gylchgrawn y National Geographic yn ail arfordir gorau yn y byd. Gyda 186 milltir (299 km) o arfordir gwych ac amrywiol a mwy na 50 o draethau, mae digon o le i bawb. Dewiswch rhwng bywiogrwydd Dinbych y Pysgod a Saundersfoot a heddwch Tyddewi a Threfdraeth. Perffaith ar gyfer gweithgareddau awyr agored neu i ymlacio. 7

Er mwyn cael gwybod mwy am Sir Benfro visitpembrokeshire.com Sir Gaerfyrddin – Bae Caerfyrddin Y lle olaf i Dylan Thomas ei alw yn gartref a’r lle gorau i fod i ddathlu a phrofi ei ddathliadau canmlwyddiant yn 2014. Ymestyn Sir Gaerfyrddin o Fae Caerfyrddin yn y de i orllewin Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd Cambria yn y gogledd, gerddi rhyfeddol, cestyll 8

i

trawiadol a thraeth hiraf Cymru, trefi marchnad yn llawn o gynnyrch lleol a siopa chic. +44 (0)1267 231557 marketing@carmarthenshire.gov.uk discovercarmarthenshire.com ^ Bae Abertawe – Mwmbwls, Gwyr, Afan a Chwm Nedd Darganfyddwch Dylan Thomas yn Ninas Arfordirol Cymru, man geni’r arwr barddonol a’r dramodydd. Byddwch yn rhan o’r dathliadau canmlwyddiant trwy gydol 2014. Treuliwch amser yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y Deyrnas Unedig. Ymlaciwch ar un o’r traethau gwych ac archwilio cefn gwlad yn ei gyflwr naturiol. Dewch â’ch bwrdd, beic ac esgidiau i fwynhau chwaraeon ^ beicio a cherdded. dwr, 9

+44 (0)1792 468321 tourism@swansea.gov.uk visitswanseabay.com Y Cymoedd – Calon ac Enaid Cymru Beicio mynydd o’r safon uchaf a gweithgareddau eraill ar, dros a than ein tirwedd na fydd byth yn brin o ddrama. Cymunedau balch yn eiddgar i ddweud eu storïau am gastell mwyaf Cymru, Safle Treftadaeth Byd, cwrw a seidr crefft a chast difyr o arwyr o’r gorffennol chwedlonol i’r byd cerddoriaeth fodern. Fyddwch chi ddim wedi gweld Cymru nes byddwch chi wedi bod yn y Cymoedd – Calon ac Enaid Cymru. 10

+44 (0)29 2088 0011 contactus@thevalleys.co.uk thevalleys.co.uk Caerdydd – Prifddinas Cymru Mae gan brifddinas Cymru atyniadau unigryw, adloniant o’r radd flaenaf, dewis eang o lety i weddu i anghenion pawb a siopa o safon sydd ychydig yn wahanol. Mae Castell Caerdydd, Stadiwm y Mileniwm, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Canolfan Mileniwm Cymru a’r Doctor Who Experience enwog gyda Bae Caerdydd yn cynnig adloniant awyr agored a than do i bawb trwy’r flwyddyn. 11

+44 (0)29 2087 3573 visitor@cardiff.gov.uk visitcardiff.com Arfordir Treftadaeth a Chefn Gwlad Morgannwg Mae’r Arfordir Treftadaeth dramatig a’r trefi glan môr poblogaidd yn Ynys y Barri a Phorthcawl ar gyrion hyfrydwch y Fro a chefn gwlad Pen-y-bont ar Ogwr a bryniau gwyrddion. Darganfyddwch gymeriad arbennig ardal sy’n llawn o hanes – ac mae’n agos at Gaerdydd, prifddinas gosmopolitan Cymru. 12

+44 (0)1446 704867 +44 (0)1656 815338 tourism@valeofglamorgan.gov.uk tourism@bridgend.gov.uk visitthevale.com bridgendbites.com Dyffryn Gwy a Chwm Wysg Golygfeydd anhygoel a bwyd a diod o safon uchel o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy. Crwydrwch drwy gestyll, trefi Rhufeinig a gerddi hardd; yna ewch i weld y gwinllannoedd buddugol, y trefi marchnad prysur a’r tafarndai lleol gwych. Gyda Gwyliau Bwyd enwog Casnewydd a’r Fenni, y bwytai amlwg a’r cynhyrchwyr unigol, darganfyddwch pam mai ni yw Prifddinas Bwyd Cymru. 13

+44 (0)1291 623772 tourism@monmouthshire.gov.uk visitwyevalley.com

& Darganfyddwch ragor trwy fynd i cymru.visitwales.co.uk neu ffoniwch +44 (0) 8701 211256.

cymru.visitwales.co.uk visitwales.com

63


i

A’r enillydd yw...

Mae Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru yn rhoi sylw i’r gorau un o’r hyn sydd gennym i’w gynnig yn y diwydiant twristiaeth. O westai moethus i Wely a Brecwast cyfforddus, atyniadau i fwytai, mae gan y cyfan yr un pethau yn gyffredin – ansawdd gwych, croeso cynnes ac agwedd wirioneddol broffesiynol at ofalu am ymwelwyr. Dyma ein pencampwyr ar hyn o bryd, ac fe’u gwobrwywyd mewn seremoni fawreddog yn Nhachwedd 2013: Mannau gorau i aros Gwesty Gwesty Sba St Brides, Saundersfoot stbridesspahotel.com Llety i Ymwelwyr Llwyn Helyg, ger Caerfyrddin llwynhelygcountryhouse.co.uk Hunanddarpar Plas Cadnant Hidden Gardens and Cottages, Porthaethwy plascadnant.co.uk Parc Gwyliau, Teithio neu Wersylla The Plassey Leisure Park, Wrecsam plassey.com Gwestai, Tai Bync a Llety Gwahanol Cosy Under Canvas, Newchurch cosyundercanvas.co.uk Digwyddiad Gorau ^ Fwyd y Fenni, Y Fenni Gwyl abergavennyfoodfestival.com Profiad Gorau i Ymwelwyr Celtic Quest Coasteering, Hwlffordd celticquestcoasteering.com Tîm Twristiaeth Mwyaf Llwyddiannus Trecco Bay Holiday Park, Porthcawl parkdeanholidays.co.uk Mannau Gorau i Fwyta Bwyty (Mawr) Signatures Restaurant, Aberconwy signaturesrestaurant.co.uk

Bwyty (Bach) Llansantffraed Court Country House Hotel & Restaurant, ger Y Fenni llch.co.uk Tafarn The Bell at Skenfrith, Ynysgynwraidd skenfrith.co.uk Caffi The Old Station, Tyndryn Tinternvillage.co.uk/seedo/tintern-oldstation/ Gwobr Dwristiaeth Ranbarthol Rhanbarth y Brif Ddinas Chwisgi Cymreig Penderyn welsh-whisky.co.uk De Orllewin Cymru Dan yr Ogof, Canolfan Ogofau Arddangos Cenedlaethol Cymru, ger Castell-nedd showcaves.co.uk Canolbarth Cymru Y Talbot, Tregaron ytalbot.com Gogledd Cymru Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru, Porthmadog festrail.co.uk Gwobr Gweithredwr Twristiaeth Busnes Gwesty Radisson Blu, Caerdydd radissonblu.co.uk/Cardiff Entrepreneur Twristiaeth Ifanc Phil Scott a Tom Ashwell, RibRide Ynys Môn ribride.co.uk Gwobr Technoleg mewn Twristiaeth Celtic Quest Coasteering, Hwlffordd celticquestcoasteering.org Gwobr Llwyddiant Eithriadol Gordon Green / Green Events Ltd green-events.co.uk

Top i’r Gwaelod ^ Fwyd y Fenni Gwyl Chwisgi Cymreig Penderyn Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru Er i ni wneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb yn y cyhoeddiad hwn, ni all Croeso Cymru dderbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw wallau, anghywirdeb neu wybodaeth a adawyd allan nag am unrhyw fater sy’n deillio mewn unrhyw fodd o gyhoeddi’r wybodaeth hon. Mae’r holl wefannau a restrir wedi eu gwirio wrth fynd i’r wasg. Ond, ni ellir dal Croeso Cymru yn atebol am unrhyw newid yng nghynnwys y gwefannau hyn.


II

I

I

I I II I II I

II

I

I I

I I

I I I

I

I

I

I II I I

I I

I

I

I I I II

I

II

I

II I IIII I

I II

I

I

II


‘The sea has been a breeze-serene sapphire, And blue-tipped birds have rippled it, And the sun smoothed it with quiet fire, And I have reflected its colours in the peace of my eyes…’ O ‘Idyll of Unforgetfulness’ gan Dylan Thomas, a ysgrifennwyd cyn ei ben-blwydd yn 16 oed


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.