01656 815322 | business@bridgend.gov.uk Uned Datblygu Economaidd
business.bridgend.gov.uk
N E R E S R TI YW’
Gwobrau busnes yn anrhydeddu ‘sêr disglair’ Pen-y-bont ar Ogwr! Dathlwyd y goreuon o blith busnesau Bwrdeistref Sirol Pen-ybont ar Ogwr yng Ngwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2015, a gynhaliwyd mewn cydweithrediad a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Choleg Penybont. Cyhoeddwyd y buddugwyr hollbwysig ym mhob un o’r 10 categori, ynghyd â gwobr gyffredinol Busnes y Flwyddyn Peny-bont ar Ogwr 2015, a ddewiswyd gan banel o feirniaid annibynnol a oedd yn cynnwys noddwyr a chynrychiolwyr Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr. Denodd y gwobrau, a gyflwynwyd gan gyflwynydd newyddion y BBC, Sian Lloyd, dros 200 o bobl fusnes, pob un yn awyddus i ddathlu llwyddiannau rhai o sefydliadau blaenllaw’r fwrdeistref sirol. Customised Sheet Metal Ltd enillodd y brif wobr ‘Busnes y Flwyddyn Pen-y-bont ar Ogwr 2015’ ar ôl ennill gwobrau ‘Busnes Gweithgynhyrchu y Flwyddyn’ a ‘Busnes Creadigol y Flwyddyn’ yn gynharach. Mae’r cwmni peirianneg, sydd wedi bod yn gweithredu o’i safle ar Ystâd Ddiwydiannol Bracla ers 1997, yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau peirianneg wedi’u teilwra i fusnesau bach a chanolig eu maint (BBaChau), o beirianneg metel dalen i fanylebau a ddarperir gan gleientiaid fel Amazon Abertawe, Zorba, Baraca Foods a Charchar y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr. Hefyd, comisiynwyd y cwmni i weithio gyda dyluniwr i gyflenwi’r coesau ar gyfer bwrdd cyfarfod a ddefnyddiwyd yn uwchgynhadledd NATO a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Celtic Manor y llynedd. Meddai Malcolm Pearce, Rheolwr Gyfarwyddwr Customised Sheet Metal: “Mae ein busnes yn canolbwyntio ar ddatblygu ein dylunio, ein technoleg, ein hoffer a’n sgiliau i sicrhau ymatebion cyflym ac effeithiol i ofynion penodol ein cwsmeriaid. “Mae gennym ni flynyddoedd lawer o brofiad yn y diwydiant ond rydym ni’n dal i fod yn hynod frwdfrydig am gynnig atebion arloesol i fusnesau i’w helpu i ddatblygu a thyfu.” “Roeddem ni wrth ein boddau ac wedi’n syfrdanu i ennill nid un ond tair gwobr yn y seremoni! Rydym ni’n ymdrin â chleientiaid ym mhob cwr o Ewrop, ond mae’n wych cael ein cydnabod am ein llwyddiannau yn lleol. Hoffem ddiolch i Fforwm Busnes Peny-bont ar Ogwr am y cyfle hwn i arddangos ein llwyddiant.” Meddai Alison Hoy, Cadeirydd Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr, a gyflwynodd y ‘Wobr Diwydiannau Creadigol’ ar ran Berry Smith Lawyers: “Mae bob amser yn foment falch i’r fforwm weld y gwobrau hyn yn dwyn ffrwyth – mae’r rhain yn wobrau arbennig iawn i Ben-y-bont ar Ogwr, gan eu bod yn canfod, yn cydnabod ac yn dathlu llwyddiannau llawer o unigolion a mentrau ar draws y fwrdeistref sirol. “Mae’r gymuned fusnes yma yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn dal i fod mor fywiog ac arloesol ag erioed a diben y gwobrau hyn yw arddangos cryfder ac amrywiaeth ein heconomi leol. “Mae beirniaid y gwobrau hyn yn cael eu synnu gan amrywiaeth y dalent fusnes yn y fwrdeistref sirol bob tro, ac rwy’n falch o fod yma heno i weld y dathliadau hyn a’r llwyddiannau helaeth niferus yn y gymuned fusnes leol.
2
Uned Datblygu Economaidd
“Hoffwn ddiolch i’r holl ymgeiswyr yng ngwobrau eleni, ynghyd â’r rhai a gyfrannodd at y gwobrau, gan gynnwys beirniaid, noddwyr a gwesteion.” Yn ystod y digwyddiad, gwrandawodd y gynulleidfa ar neges fideo gan AC Pen-y-bont ar Ogwr, Carwyn Jones, a ddaeth yn Noddwr Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar. Meddai Carwyn Jones AC: “Mae seremoni wobrwyo Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn ddigwyddiad gwych i arddangos a dathlu busnesau lleol. Hoffwn longyfarch yr holl fuddugwyr ar eu llwyddiannau a thalu teyrnged i fusnesau a ddaeth yn ail teilwng iawn. Mae’n galonogol gweld cymaint o fusnesau gwych yn ffynnu ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rwy’n gobeithio bod pawb wedi mwynhau’r noson.” Cefnogwyd y gwobrau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd ac roedd y Maer, y Cynghorydd Richard Young a’r Faeres, Mrs Annette Young o’r cyngor, Janice Gregory AC, y Cynghorydd Michael Gregory, Madeline Moon, AS a Phrif Weithredwr y cyngor, Darren Mepham yn bresennol. Meddai Arweinydd y Cyngor, Mel Nott, OBE: "Mae’r cyngor yn falch o gefnogi a hyrwyddo llwyddiannau’r gymuned fusnes leol. Rydym yn awyddus i annog menter ac mae Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn enghraifft ragorol o sut y gall y cyngor chwarae ei ran i arddangos y dalent a’r sgiliau gwych sydd gennym ni yn ein cymuned fusnes leol.” Noddwyd y gwobrau gan Goleg Penybont, Berry Smith Lawyers, Handelsbanken, kksolutions, United Graphic Design, Busnes mewn Ffocws, ISA Training Group, Rhaglen Datblygu Economaidd Cymunedol De Ddwyrain Cymru (Pen-y-bont ar Ogwr), ROCKWOOL Ltd, Graham Paul Chartered Accountants a Bridgend Tourism Association. Y buddugwyr ym mhob categori oedd: • ‘Myfyriwr Busnes y Flwyddyn’ – Geraint Robson a Caitlyn Corless, Ddraig Valley Farm Park • ‘Busnes Newydd y Flwyddyn’ – LouChi’s Tearoom • ‘Entrepreneur y Flwyddyn’ – Suzanne Bourne, Nemein Ltd • ‘Busnes Gweithgynhyrchu y Flwyddyn’ – Customised Sheet Metal Ltd • ‘Busnes Twristiaeth y Flwyddyn Pen-y-bont ar Ogwr’ – Gwesty a Sba Best Western Heronston • ‘Busnes Arloesol y Flwyddyn’ – Nemein Ltd • ‘Gwobr y Diwydiannau Creadigol’ – Customised Sheet Metal Ltd • ‘Menter Gymdeithasol y Flwyddyn’ – Gwasanaeth Cwnsela Tŷ Elis Porthcawl • ‘Busnes Gwasanaeth y Flwyddyn’ – ITCS Ltd • ‘Busnes y Flwyddyn Pen-y-bont ar Ogwr 2015’ - Customised Sheet Metal Ltd Os hoffech ragor o wybodaeth am y fforwm a gweld y ffotograffau a’r fideos swyddogol o noson Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2015, ewch i: www.facebook.com/bridgendbusinessforum neu dilynwch @bridgendforum ar Twitter. Ffotograffau gan Graham Davies Photography
“
“Mae derbyn gwobr ‘Myfyriwr Busnes y Flwyddyn’ yn deimlad anhygoel. Pan aethom ni at Ruth Rowe yn y coleg gyda’n syniad busnes, roedd braidd yn amrwd ac roedd angen gwneud llawer o waith arno. Cawsom gymorth gwych gan Goleg Penybont a Ruth Rowe, ac mae’n deimlad arbennig ein bod wedi cael ein henwebu, heb sôn am ennill y wobr!” Geraint Robson, Parc Fferm Ddraig Valley
IWR MYFYRES Y BUSN DYN FLWYD
m Park, less, Ddraig Valley Far Robson and Caitlyn Cor lege Col d gen Brid e, Sian Lloyd with Geraint h Row Year with sponsor Rut Business Student of the
BUSNES NEWYDD Y FLWYDDYN
“
“Rydym ni wrth ein boddau ein bod wedi ein rhoi ar y rhestr fer ac wedyn mynd yn ein blaenau i ennill gwobr Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer ‘Busnes Newydd y Flwyddyn 2015.’ Rwy’n ddiolchgar dros ben i’r fforwm am gynnal y gwobrau hyn er cydnabyddiaeth am yr holl waith caled sydd ynghlwm wrth redeg eich busnes eich hun.” Hannah Cirotto, Ystafell De LouChi
”
”
Sian Lloyd, Giovani Ciro tto and Hannah Cirotto, LouChi’s Tearoom, Sta Business of the Year with rt-up sponsor Andy Lee, Gra ham Paul Chartered Acc ountants
Ddaeth yn agos: Capitol Training Ltd & Mobile Stars
“ EUR N E R P ENTREWYDDYN Y FL
“Mae’n fraint enfawr cael derbyn gwobr ‘Entrepreneur y Flwyddyn’ a hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o greu noson anhygoel ac am y gefnogaeth yr ydw i wedi ei chael gan bartneriaid busnes ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rwyf wrth fy modd o fod wedi cael cydnabyddiaeth trwy’r wobr hon. Fel entrepreneur, rwy’n teimlo mai’r unig gyfyngiad arnoch chi yw eich dychymyg a’ch gallu i weithredu eich cynlluniau. Mae ennill y wobr hon yn dangos, ni waeth beth yw’ch sefyllfa, os oes gennych chi ddychymyg ac angerdd a phenderfyniad, mae unrhyw beth yn bosibl i chi!” Suzannah Bourne, Nemein Ltd
Bourne, Nemein Ltd – Sian Lloyd, Suzannah iness Wales r with Anne Salter, Bus Yea the of Entrepreneur
”
Ddaeth yn agos: Lisa Carter (Little Stars Daycare & Mobile Stars & All Stars) & Brian Stokes (ITCS LTD)
Uned Datblygu Economaidd
3
BUSNES GWEITHGYNHYRCHU Y FLWYDDYN
helle Pearce and Owain , Malcolm Pearce, Mic Sian Lloyd, Kevin Wykes acturing Business of nuf Ma – Ltd tal Sheet Me Wilcox of Customised ROCKWOOL Ltd s, iam Will l Pau nsor with the Year with main spo
Ddaeth yn agos: Nemein Ltd CPS Sewing Ltd
“
“Roeddem ni wrth ein boddau nid yn unig ein bod wedi cael ein dewis ar gyfer y rownd derfynol ond hefyd ein bod wedi ennill gwobr ‘Busnes Twristiaeth y Flwyddyn Pen-y-bont ar Ogwr 2015’! Mae wedi bod yn hwb ardderchog i’r tîm, yn newyddion gwych i’r gwesty, yn newyddion da o ran cysylltiadau cyhoeddus ac mae hefyd yn ein helpu i roi gwybod i fusnesau eraill beth allwn ni ei wneud!” Carolyn Powell, Best Western Heronston Hotel & Spa
BUSNES TWRISTIAETH Y FLWYDDYN Sian Lloyd, Paul Gallagh er, Carolyn Powell, Ma rk Burgess of the Best Western Heronston Hot el & Spa – Bridgend Tou rism Business of the Year with sponsor Kar l Schmidtke, Bridgend Tourism Association
PEN-Y-BONT AR OGWR
”
Ddaeth yn agos: Porthcawl Surf School & Ambassador Training Wales
“
“Rydym ni wrth ein boddau o fod wedi ennill y wobr hon. Roedd yn noson wych a diolch i drefnwyr Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr a noddwyr y gwobrau am ddigwyddiad anhygoel, yn ogystal ag i Uned Datblygu Economaidd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr am eu cefnogaeth barhaus. “Mae ennill y wobr hon, yn ogystal â dathlu posibiliadau chwyldroadol gwaith arloesol Nemein, hefyd yn cydnabod ymroddiad ein gweithlu medrus iawn. Mae hefyd yn helpu twf y busnes yn y dyfodol, trwy’r cyfleoedd sy’n dod yn sgil ennill gwobr busnes mor bwysig. “Gan gydweithio’n agos â’n partneriaid busnes ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae Nemein yn parhau â’i ymrwymiad i fuddsoddi ymhellach mewn arloesi, er gwaetha’r amodau masnachu anodd ar hyn o bryd, ac rydym ni’n awyddus i ehangu yn y dyfodol agos i safle mwy a chreu swyddi newydd yn yr ardal leol.”
S BUSNEOL Y S ARLOEDDYN FLWY
Suzannah Bourne, Nemein Ltd m at ah Bourne and the tea Sian Lloyd with Suzann the Year with of s ines Bus ve vati Nemein Ltd – Inno y, Handelsbanken sponsor Mark Standle
Ddaeth yn agos: New Vehicle Solutions Ltd & Daydream Education Ltd
4
Uned Datblygu Economaidd
”
RY GWOB NNAU IA DIWYDADIGOL CRE Sian Lloyd, Kevin Wykes , Owain Wilcox, Malcol m Pearce, Michelle Pea Sheet Metal Ltd – Creativ rce of Customised e Industries Award with sponsor Alison Hoy, Ber ry Smith Lawyers
Ddaeth yn agos: Wales Interactive Ltd & One Nine Design Ltd
M GYMDEENTER ITHASO L Y FLWYD DYN
“
“Rydym ni wrth ein boddau ein bod wedi ennill y wobr hon o ystyried safon uchel y rhai a gafodd eu henwebu gyda ni. Mae ein staff a’n gwirfoddolwyr yn gweithio’n hynod o galed i roi gwasanaeth o ansawdd i bob cleient trwy ein gwasanaeth ymgynghori cymunedol, ac mae cael y gydnabyddiaeth gyhoeddus hon am ein menter gymdeithasol gan Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn hwb enfawr i bawb.” Ted White, MBE – Tŷ Elis (Gwasanaeth Ymgynghori Porthcawl)
”
awl MBE of Tŷ Elis (Porthc ies and Edwina White nsor Sue spo with r Sian Lloyd with Val Dav Yea the of Social Enterprise Counselling Service) – ment programme Wales Economic Develop Whittaker, South East
Ddaeth yn agos: Halo Leisure Ltd & Emmaus (South Wales)
“
BUSNES GWASANAETH Y FLWYDDYN
“Mae’r wobr ‘Gwasanaeth Busnes Gorau’rFlwyddyn’ yn sefyll ar ben ein cwpwrdd tlysau erbyn hyn. Mae Gwasanaeth Cwsmeriaid wedi bod yn ganolog i ITCS ers dros ddeng mlynedd, a bydd y wobr ddiweddaraf hon yn ein helpu i gyfleu’r neges honno i gleientiaid newydd a'r rhai presennol. Mae bob amser yn bleser cael eich cydnabod am ddarparu gwasanaeth eithriadol i gwsmeriaid. Nid yn unig i’r tîm rheoli ar y noson wobrwyo hon, ond hefyd i'r holl staff sy’n cefnogi ein cwsmeriaid o ddydd i ddydd.
Sian Lloyd, Richard Dee re, Gareth John, Brian Stokes, Glyn Pearce and Matthew Mu tlow of ITCS Ltd – Service Business of the Year with sponso r Dawn Elliott, ISA Trai ning Group
“Ar ran ITCS hoffwn ddweud diolch o waelod calon i Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr am gynnal y digwyddiad ardderchog hwn, a hefyd i’r panel annibynnol o feirniaid am ddewis ITCS yn ‘Busnes Gwasanaeth y Flwyddyn.’ Roedd yn fraint fawr cael ein dewis ar gyfer y wobr hon, o wybod bod llawer o fusnesau eraill uchel eu parch hefyd wedi’u henwebu.” Brian Stokes, ITCS Ltd
Ddaeth yn agos: Avia Sports Cars Ltd & Datakom Ltd
”
Uned Datblygu Economaidd
5