business@bridgend Gwanwyn 2016

Page 1

01656 815322 | business@bridgend.gov.uk Uned Datblygu Economaidd

business.bridgend.gov.uk

gwanwyn 2016

Datgelu categor誰au rhagoriaeth busnes yn ystod lansiad gwobrau! Tudalen 2

Cwrdd ag Ian Pen-y-bont yn Jessopp, taro'r fargen! Cadeirydd Fforwm Tudalen 7 Busnes Pen-y-bont ar Ogwr Tudalen 3

Keltic Fires yn tanio Tudalen 6


Gwahoddir busnesau i ‘ddangos eu doniau’ mewn lansiad gwobrau!

Arweinydd y Cyngor, Y Cynghorydd Mel Nott OBE, Kathryn James – ROCKWOOL UK, Sian Lloyd, Ian Jessopp, Ian Kellie – ROCKWOOL UK.

Mae busnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael cyfle i ‘ddangos eu doniau’ yng Ngwobrau Fforwm Busnes Peny-bont ar Ogwr 2016. Ymunodd y gyflwynwraig deledu a newyddiadurwraig y BBC, Sian Lloyd, ag aelodau’r gymuned fusnes leol yng ngwesty Coed-yMwstwr, Llangrallo, yn ddiweddar, i lansio Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2016, a noddir gan Rockwool UK. Trefnwyd y digwyddiad gan Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr a’i gefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd llawer o fusnesau lleol, noddwyr a chefnogwyr y gwobrau busnes anrhydeddus hyn wedi mynychu’r digwyddiad, sydd bellach yn ddyddiad nodedig ar y calendr busnes. Mae gan fusnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y cyfle i ymgeisio yn yr wyth categori canlynol:• Myfyriwr Busnes y Flwyddyn • Busnes Newydd y Flwyddyn – wedi’i noddi gan Gyfrifwyr Siartredig Graham Paul • Busnes Gwasanaeth y Flwyddyn – wedi’i noddi gan Handelsbanken • Busnes Gweithgynhyrchu y Flwyddyn – wedi’i noddi gan Gyfreithwyr Berry Smith • Entrepreneur y Flwyddyn – wedi’i noddi gan Gyllid Cymru • Busnes Twristiaeth Pen-y-bont ar Ogwr y Flwyddyn • Gwobr y Diwydiannau Creadigol – wedi’i noddi gan Goleg Pen-y-bont • Busnes Arloesol y Flwyddyn Dewisir yr enillydd cyffredinol o blith arweinwyr y categorïau, a bydd yn derbyn gwobr Busnes Pen-y-bont ar Ogwr y Flwyddyn 2016, wedi’i noddi gan Rockwool UK. Bydd panel o feirniaid yn llunio rhestr fer o dri enillydd posibl, gyda’r enillydd cyffredinol yn cael ei gyhoeddi yn seremoni a chinio gala Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr, a gynhelir yng ngwesty Coed-y-Mwstwr, Llangrallo, ddydd Gwener 23 Medi 2016. Mae pob busnes ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gymwys i ymgeisio, ac mae ganddynt hyd at ddydd Gwener 8

2

Uned Datblygu Economaidd

Gorffennaf 2016 i wneud hynny. Dywedodd Ian Jessopp, Cadeirydd Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr: “Dyma’r bedwaredd flwyddyn i’r fforwm drefnu’r gystadleuaeth hon, ac mae dathlu rhagoriaeth yn parhau i fod wrth wraidd Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr. “Mae’n rhaid i berchnogion a rheolwyr busnes weithio’n galed i ennill y blaen ar eu cystadleuwyr, ac mae’r gymeradwyaeth gan gyfoedion a ddaw o ennill un o’r gwobrau hyn yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol pan ddaw at ddenu cwsmeriaid newydd ac ennill busnes newydd. “Rydym yn annog sefydliadau o unrhyw faint a statws i gymryd cymryd rhan yng ngwobrau eleni, naill ai drwy gyflwyno cais neu noddi categori – mae llawer o enillwyr y gorffennol wedi cydnabod bod y canlyniadau yn hynod fuddiol. Dywedodd Pennaeth Materion Cyhoeddus ROCKWOOL UK, Ólöf Jónsdóttir: “Mae ROCKWOOL UK yn falch iawn o noddi Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr eleni, sy’n ddathliad gwych o’r unigolion a’r busnesau ysbrydoledig yn ein cymuned leol. Hoffem ddymuno pob lwc i’r holl gystadleuwyr, ac rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod â’r enillwyr yn y seremoni ym mis Medi.” Mae noddwyr gwobrau 2016 yn cynnwys ROCKWOOL UK, Cyfreithwyr Berry Smith, Coleg Pen-y-bont, Cyllid Cymru, Cyfrifwyr Siartredig Graham Paul, Handelsbanken, kksolutions ac United Graphic Design. Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Mel Nott OBE: “Rwyf wedi bod yn dod i’r gwobrau hyn ers tair blynedd, a gallaf ddweud â’m llaw ar fy nghalon fod yr enwebiadau a safon y busnesau yn drawiadol bob blwyddyn. “Ni ddylem fyth gymryd yn ganiataol y swyddogaeth hanfodol sydd gan fusnesau bach a chanolig ym Mwrdeistref Sirol Pen-ybont ar Ogwr o ran gyrru ein heconomi leol. Dylid cydnabod a dathlu’r cwmnïau hyn - dyma pam y mae’r cyngor yn falch o gefnogi’r gwobrau, sy’n darparu llwyfan berffaith i wneud hyn. “Byddwn yn annog pob cwmni ledled y fwrdeistref sirol i gyflwyno cais er mwyn ennill y gydnabyddiaeth yr ydych chi a’ch gweithwyr yn ei wirioneddol haeddu.” Mae manylion am y gwobrau hyn, gan gynnwys ffurflenni cais, ar gael ar y wefan: www.bridgendbusinessforum.co.uk Gallwch hefyd glywed y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r gwobrau drwy ddilyn y fforwm ar Twitter @Bridgendforum #BBFAwards ac ar ein tudalen Facebook. Prif noddwr:


Dyma Ian Jessopp: y dyn yn y gadair… busnesau lleol ar y pryd. Cafodd y fforwm ei sefydlu ar adeg ddelfrydol i’m busnes gan fy mod i wrthi’n sefydlu kksolutions ar y pryd. Gan fod yr ardal yn newydd a dieithr i mi, roedd yn gyfle gwych i mi gysylltu â busnesau eraill a hyrwyddo ein henw – roedd pawb ar eu hennill felly. Dw i wedi cwrdd â llu o fusnesau a gwneud toreth o gysylltiadau trwy’r fforwm busnes, ac wedi cydweithio â nhw maes o law. Hefyd, sylwais ei bod hi’n fanteisiol nodi fy mod i’n aelod o’r fforwm busnes ac yn isgadeirydd wrth lenwi dogfennau tendr, a bod hyn wedi rhoi hygrededd ychwanegol i mi a’r busnes.

Ian Jessopp

Yn dilyn ei benodiad diweddar fel Cadeirydd Fforwm Busnes Pen-ybont ar Ogwr, fe gawson ni air gydag Ian Jessop am ei rôl newydd a beth fydd cyfeiriad y fforwm yn y dyfodol…

Ers pryd ydych chi’n rhan o Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr? Ymunais i â’r fforwm busnes pan ddechreuodd y cyfan bron i wyth mlynedd yn ôl. Dechreuais gyfrannu trwy noddi rhai o’r digwyddiadau busnes. Yna, cefais fy enwebu gan Alison Hoy, y cadeirydd ar y pryd, i fod yn is-gadeirydd. Cafwyd pleidlais ymhlith yr aelodau, a bues i’n ddigon ffodus i gael fy newis yn Is-gadeirydd yn 2014.

Sut ddechreuodd eich cysylltiad â’r Fforwm Busnes? Roeddwn i’n teimlo bod y Fforwm yn fenter wych i fusnesau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac nid oedd unrhyw sefydliad arall yn cynrychioli

Gyda 694 o aelodau, rhaglen o ddigwyddiadau busnes bywiog a llawn gwybodaeth, a thrafodaethau rheolaidd â’n haelodau, dw i’n credu i’r carn bod y fforwm wedi gosod safonau uchel iawn, ac y dylid ei ystyried fel esiampl gadarnhaol iawn i’r rhanbarth.

Beth yw blaenoriaethau’r Fforwm Busnes ar gyfer y dyfodol? Mae’r aelodaeth wedi mynd o nerth i nerth, a hoffem ddenu rhagor – rydyn ni’n gwybod bod tua 4,000 o fusnesau TAW cofrestredig yn sir Pen-y-bont ar Ogwr, felly mae cyfle o hyd i recriwtio aelodau newydd i’r fforwm – ac wrth gwrs, does dim tâl aelodaeth! Mwya'n byd o aelodau sydd gennym, cryfa'n byd fydd ein llais a gorau oll y gallwn gynrychioli busnesau, yn enwedig busnesau bach a chanolig, sef conglfaen yr economi leol yn y gwrdeistref sirol.

Beth yw’ch cynlluniau chi ar gyfer y Fforwm Busnes? Hoffwn adeiladu ar sylfeini cadarn y fforwm busnes, ac rydym yn ddiolchgar i’r cyngor am barhau i’n cefnogi ni.

Dw i’n bwriadu gwella’r dulliau cyfathrebu ag aelodau, trwy ofyn am eu barn a'u mewnbwn i gyfeiriad y fforwm yn y dyfodol. Mae’r fforwm wedi cael cyfle i gyfrannu at sawl cynllun strategol ar ran y gymuned fusnes yn y fwrdeistref sirol. Yn ddiweddar, cynhaliodd y cyngor a’r fforwm adolygiad annibynnol o wasanaethau cymorth busnes a gweithgareddau’r fforwm busnes yn y sir. Cawsom 200 o ymatebion i’r arolwg, a byddwn yn cyhoeddi’r canlyniadau yn fuan. Rydym yn bwriadu defnyddio’r wybodaeth o’r arolwg i’n helpu i siapio darpariaeth gwasanaethau Fforwm Busnes Peny-bont ar Ogwr yn y dyfodol. Dw i hefyd yn awyddus i Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr feithrin cysylltiadau â chlybiau a fforymau busnes eraill yn y De er mwyn rhannu arferion gorau neu weithio mewn partneriaeth ar fentrau a digwyddiadau busnes. Credaf y byddai gan gasgliad o fforymau / clybiau busnes gynrychiolaeth gref mewn mentrau cenedlaethol hefyd fel cytundeb Bargen Ddinesig Caerdydd. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at groesawu is-gadeirydd newydd i’r fforwm, a chyn hir, byddwn yn cysylltu â’n haelodau i ofyn am enwebiadau cyn trefnu pleidlais ar y mater. Unwaith eto, rwy’n eich annog i gyflwyno’ch enw chi neu gydweithiwr ar gyfer y rôl er mwyn cael rhywfaint o fewnbwn i weithgareddau’r fforwm yn y dyfodol. Os hoffech drafod y rôl, cofiwch gysylltu. Rydyn ni’n edrych ymlaen at flwyddyn brysur arall o ddigwyddiadau, rhwng lansio ein gwobrau busnes ym mis Mai a’r seremoni ei hun ym mis Medi – mae’n argoeli i fod yn gystadleuaeth frwd iawn!

Uned Datblygu Economaidd

3


Brecwast busnes gwib rwydweithio – ffordd gyflymach o rwydweithio

Dychmygwch wneud mwy o gysylltiadau mewn awr nag y mae rhai pobl yn eu gwneud mewn blwyddyn! Croeso i ddigwyddiad gwib rwydweithio cyflymach Pen-y-bont ar Ogwr - sesiwn ddwys o gyfarfodydd dwy funud o hyd. Mae’n debyg i syniad gwib ganlyn, ond ar gyfer busnesau, ac mae’n lle perffaith i ddechrau llenwi eich llyfr â chysylltiadau a phobl o amrywiaeth o wahanol sectorau a diwydiannau. Gwneud argraff yn gyflym sy’n bwysig - ar ôl i chi gael dwy funud yr un, bydd y chwiban yn chwythu, a rhaid newid partneriaid! A ydych chi’n chwilio am gyflenwr newydd neu rywun i becynnu eich cynnyrch? A hoffech chi gael mentor yn y diwydiant rydych chi wedi’I ddewis? Neu a ydych chi’n chwilio am bartner busnes posibl? Mae’r posibiliadau a’r canlyniadau’n ddiddiwedd.

Dyddiad:

Arddangos yn y digwyddiad: Pum cyfle yn unig sydd ar gael i gynnal stondin arddangos yn y digwyddiad hwn. Bydd brecwast busnes gwib rwydweithio Pen-y-bont ar Ogwr yn rhoi cyfle i’ch cwmni arddangos I gynulleidfa o dros 60 o gwmnïau ac i werthu eich cynnyrch a’ch gwasanaethau yn bersonol i’r bobl sy’n bresennol ar ddiwedd y sesiwn. Gwybodaeth am y stondin: 1 x stondin baner i bob cwmni. Darperir bwrdd bach. I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad cysylltwch â Mary Pope, Digwyddiadau a Rhwydweithiau Busnes ar 01656 815320. I drefnu eich lle anfonwch neges e-bost: business@bridgend.gov.uk neu ewch i www.bridgendbusinessforum.co.uk

22 Mehefin • 14 Medi • 16 Tachwedd Amser: 7.30am ar gyfer 8am tan 10am Lleoliad: Gwesty a Chlwb Hamdden Heronston Cost: Am ddim (gan gynnwys brecwast)

Dyddiadur digwyddiadau busnes 2016 22 Mehefin 2016

29 Medi 16

Brecwast busnes rhwydweithio cyflym Gwesty a Sba Heronston, Pen-y-bont ar Ogwr 7.30am ar gyfer 8am tan 10am

Seminar Seiberddiogelwch a diogelu data Canolfan Waterton, Ystad Ddiwydiannol Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr 8.30 ar gyfer 9am tan 11am Mewn partneriaeth gyda Barclays Bank a Berry Smith Lawyers

29 Mehefin 2016 Cyfryngau cymdeithasol ym myd busnes Canolfan Waterton, Ystad Ddiwydiannol Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr 8.30am ar gyfer 9am tan 11am

14 Medi 2016 Brecwast busnes rhwydweithio cyflym Gwesty a Sba Heronston, Pen-y-bont ar Ogwr 7.30am ar gyfer 8am tan 10am

23 Medi 2016 Cinio blynyddol a seremoni wobrwyo Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr Gwesty Coed-y-Mwstwr, 7pm ar gyfer 7.30pm tan 11.30pm Cost: £50.00 + TAW y person, byrddau i 10 ar gael Y cyflwynydd Teledu BBC Siân Lloyd fydd yn arwain y noson. Prif noddwr: ROCKWOOL UK Ltd

4

Uned Datblygu Economaidd

16 Tachwedd 2016 Brecwast busnes rhwydweithio cyflym Gwesty a Sba Heronston, Pen-y-bont ar Ogwr 7.30am ar gyfer 8am tan 10am

9 Rhagfyr 2016 Cinio Nadolig 2016 Fforum Busnes Pen-y-bont ar Ogwr Gwesty Coed-y-Mwstwr, 12noon ar gyfer 12.30pm tan 3pm Cost: £40.00 +TAW y person, byrddau i 10 ar gael. Bydd manylion y siaradwr gwadd yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.

I gadw eich lle, e-bostiwch: business@bridgend.gov.uk Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Mary Pope ar 01656 815320


Newyddion am fusnesau lleol

TSW yn ennill gwobr ‘Rhagoriaeth mewn Cysylltiadau Cymunedol’ Mae TSW, cwmni blaenllaw sy’n darparu atebion i fentrau datblygu sefydliadol, prentisiaethau a chynhwysiant cymdeithasol, ag enw da ledled Cymru am ei lwyddiant yn gwella effeithiolrwydd sefydliadau trwy gyfuno strategaeth, pobl a phrosesau. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd mai TSW oedd enillydd gwobr ‘Rhagoriaeth mewn Cysylltiadau Cymunedol’ Siambr Fasnach y De am eu hymrwymiad i raglenni cynhwysiant cymdeithasol sy’n newid bywydau - rhaglenni sydd wedi arwain at wahaniaethau cadarnhaol gwirioneddol a pharhaol i unigolion, teuluoedd a chymunedau Cymru.

mwyn datblygu mentrau cymunedol sy’n creu effaith go iawn. Mae canolbwynt yr holl brosiectau cymunedol, mentrau a buddsoddiadau sy’n cael eu rhoi ar waith gan TSW wedi’i seilio’n gadarn ar greu effaith gadarnhaol, adfywio cymunedau lleol a’u helpu i ffynnu a mynd o nerth i nerth mewn modd buddiol a chynaliadwy. I drafod unrhyw un o raglenni cynhwysiant cymdeithasol TSW neu fynd i bartneriaeth â TSW er mwyn datblygu prosiect, cysylltwch â Trystan Jones, Pennaeth Cynhwysiant Cymdeithasol i drafod ymhellach trwy e-bostio Trystan.Jones@tsw.co.uk neu ffonio 07720 740 023.

Mae TSW wedi cyfrannu at amryw o fentrau cymunedol y llynedd, gan helpu pobl sydd dan anfantais ac ar ymylon cymdeithas i ddatblygu sgiliau personol a throsglwyddadwy ac agweddau cadarnhaol. Trwy fentrau cynhwysiant cymdeithasol, mae TSW wedi gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion, elusennau, awdurdodau lleol a sefydliadau’r sector preifat er

Uned Datblygu Economaidd

5


Newyddion am fusnesau lleol

Gorau gweithio, cydweithio ym Mhen-y-bont gydag indycube CIC P’un ai’ch bod yn weithiwr llawrydd, yn gyfarwyddwr busnes neu’n rhan o dîm bach, mae gweithio o gartref yn gallu llethu rhywun. Heb gydweithwyr a chwmnïaeth, mae’n gallu bod yn brofiad digon unig, diflas a rhwystredig. Dyna pam mae indycube CIC wedi sefydlu gweithleoedd cydweithio costeffeithiol ledled Cymru, gan gynnwys un yma ym Mhen-y-bont. Mae indycube Pen-y-bont wedi’i leoli yng Nghanolfan Arloesi Pen-y-bont ar Ogwr, yn y Parc Gwyddoniaeth. Edward Shorney sy’n hwyluso’r gofod a fe sy’n rhedeg Go Rookie, platfform tebyg i UCAS sy’n rhoi cyfle i brentisiaid a chyflogwyr gysylltu â’i gilydd. Meddai Ed: “Mae gennym 15 o ddesgiau ac un ystafell gyfarfod ar gael i bawb, felly mae digon o le i fod yn weithgar! Fel ymhob indycube, mae yma hefyd WIFI cyflym iawn a digon o de a choffi am ddim i bawb! Ac yn bwysicach na dim, fe gewch chi gwmni wrth i chi weithio wrth i chi rannu swyddfa agored.”

“Mae dau fusnes yn gweithio’n rheolaidd o indycube ym Mhen-y-bont - Go Rookie a Mint Online Marketing. Mae yna hefyd rai sy’n dod ambell ddiwrnod ar y tro - gweithwyr ar eu liwt eu hunain neu bobl sy’n dechrau busnesau bach.” Mae Ed yn credu bod economi fusnes Cymru yn gwneud yn dda, gyda digonedd o bobl ifanc yn mynd yn hunangyflogedig ac yn lansio eu busnesau eu hunain, ac mae’n credu y gallai gweithio ar y cyd fod yn hwb mawr i sicrhau llwyddiant pellach. Ar hyn o bryd, mae indycube yn gartref i gwmnïau marchnata digidol, mentrau cymdeithasol, datblygwyr ac adroddwyr straeon digidol. Mae’n lle creadigol sy’n cynnwys ystafell gyfarfod ac mae yno awyrgylch braf a chyfeillgar. Gallwch roi cynnig ar weithio ar y cyd am ddim gydag un o Docynnau Diwrnod am ddim indycube – cysylltwch â mari@indycube.cymru am fwy o wybodaeth. Dilynwch indycube ar Twitter

Busnes yn tanio gyda stafell arddangos newydd Mae cwmni Keltic Fires yn codi stêm wrth agor ’stafell arddangos newydd i gyflwyno’r dulliau a thechnoleg gwres diweddaraf, diolch i gymorth ar y cyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac UK Steel Enterprise, un o isgwmnïau Tata. Nod y busnes teuluol yw bod yn gyflenwr blaenllaw tanau a llefydd tân nwy, trydan a llosgi coed, ar gyfer rhan ucha’r farchnad. Mae’r ystafell arddangos ar Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr, a lansiwyd yn ddiweddar gan y perchennog Jay Parry, eisoes wedi cyrraedd targedau gwerthiant yn gynt na’r disgwyl ym mlwyddyn gyntaf y fenter. Gyda 13 blynedd o brofiad yn y farchnad, mae gan Jay gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y fenter newydd. Meddai: “Nod Keltic Fires yw bod yn gwmni blaenllaw yn Ne Cymru ar gyfer gwerthu a gosod llefydd tân nwy a thrydan a stofiau coed. “Rydyn ni’n bwriadu agor ystafell arddangos ym Mryste o fewn tair blynedd a chyflogi tîm o ffitwyr i osod y tanau a’r llefydd tân.” Mae Jay yn teimlo bod bwlch yn y farchnad o ran cynhyrchion o’r radd flaenaf, gan ychwanegu: “Mae cartrefi yn dod yn fwy modern a chwaethus, a’r lle tân yw canolbwynt yr aelwyd. Mae pobl eisiau cynhyrchion mwy soffistigedig, sef yr union bethau rydyn ni’n bwriadu eu cyflenwi!” Mae’r busnes yn cyflenwi’r prif frandiau fel Dru, Gazco, Valor a Paramount, ac yn cynnig siop-un-stop o ran syniadau dylunio,

6

Uned Datblygu Economaidd

arolwg o safle a’r gwaith gosod. “Gallwn ni wneud y cyfan, fel bod y broses mor syml â phosib.” Dywedodd Jay iddo gael cymorth defnyddiol dros ben gan Gyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr a rhaglen Kickstart, yn ogystal â chefnogaeth Business in Focus. Cawsant grant o £1000 gan raglen Kickstart, sy’n cael ei rhedeg ar y cyd gan y cyngor ac UK Steel Enterprise o gwmni Tata, a fu’n help i ailwampio’r adeilad a chreu’r stafell arddangos newydd. Meddai: “Roedd y cymorth a gefais yn hollbwysig, ac mae wedi helpu i roi’r busnes ar ben ffordd”. Ychwanegodd Glyn Thomas o UK Steel Enterprise: “Mae Keltic Fires yn gwmni uchelgeisiol gyda chynlluniau i dyfu a datblygu, ac mae wedi cael cychwyn rhagorol ers agor y stafell arddangos newydd. Dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw.”


Pen-y-bont yn taro bargen â naw awdurdod lleol arall

Arweinwyr cynghorau a Gweinidogion yn llofnodi'r Cytundeb Dinesig

Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ymhlith deg awdurdod lleol y De-ddwyrain wnaeth lofnodi Cytundeb Dinesig gwerth £1.2 biliwn, gyda’r nod o wella rhagolygon twf economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR). Ymunodd Mel Nott OBE, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ag arweinwyr naw awdurdod lleol arall y De-ddwyrain, ynghyd ag Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb, Greg Hands Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, a'r Prif Weinidog Carwyn Jones AC, i lofnodi’n ffurfiol y telerau ar gyfer y Cytundeb Dinas ym mhrif swyddfa Admiral yng Nghaerdydd. Y gobaith yw y bydd y ‘Cytundeb Dinesig’ yn creu gwerth dros £1 biliwn o fuddsoddiad i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd – sy’n cynnwys Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – dros y 10 i 15 mlynedd nesaf, gyda disgwyl i bartneriaid lleol y rhanbarth ddarparu hyd at 25,000 o swyddi newydd a £4 biliwn o fuddsoddiad yn y sector preifat ar hyd a lled y rhanbarth. Bydd y Cytundeb Dinesig yn helpu i hybu twf economaidd trwy wella cysylltiadau trafnidiaeth, cynyddu sgiliau, helpu pobl i waith a rhoi’r cymorth angenrheidiol i fusnesau dyfu. Bydd hefyd yn pennu trefn lywodraethu gadarn ar draws y rhanbarth trwy gyfrwng Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Trwy hyn, bydd y deg arweinydd awdurdod lleol yn dod at ei gilydd i wneud penderfyniadau, cronni adnoddau a meithrin partneriaethau â byd busnes. Mae llywodraethau’r DU a Chymru yn cyfrannu £500 miliwn i Gronfa Fuddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Bydd y deg awdurdod lleol yn cyfrannu o leiaf £120 miliwn dros gyfnod y Gronfa. Cabinet y Brifddinas-Ranbarth fydd yn penderfynu ar flaenoriaethau’r cynlluniau arfaethedig, heblaw am y system Metro, ar y cyd ag arweinwyr busnes a gweithwyr proffesiynol ym maes addysg. Mae’r deg awdurdod lleol wedi ymrwymo i fabwysiadu fframwaith sicrwydd ansawdd ar gyfer y Gronfa Fuddsoddi, y

cytunir arni gan lywodraethau Cymru a’r DU, er mwyn sicrhau gwerth da am arian a bod achos busnes cadarn wrth wraidd y prosiectau arfaethedig. Er mwyn cyflawni ymrwymiadau Cytundeb PrifddinasRanbarth Caerdydd a’r strategaeth economaidd tymor hyw, mae’r deg awdurdod lleol wedi gofyn am fwy o annibyniaeth a hyblygrwydd ariannol. Fel rhan o’r Cytundeb Dinas hwn, bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried y canlynol o ran Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: • Datganoli incwm ardrethi busnes uwchlaw’r sylfaen twf y cytunwyd arno er mwyn darparu cyllid i raglen y Cytundeb Dinesig. • Darparu’r gallu i godi ategiad seilwaith. • Creu opsiwn i awdurdodau lleol ddefnyddio ffynonellau cyllid amgen. • Dileu’r amodau ar rai o grantiau penodol Llywodraeth Cymru, er mwyn caniatáu i gyllid gael ei rannu ar lefel ranbarthol mewn meysydd fel cymorth ysgolion ac ymyriadau i geisio mynd i’r afael â thlodi. Meddai’r Prif Weinidog: “Rydyn ni wedi lobïo’n galed dros Gytundeb Dinesig ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac wedi rhoi dros £500 miliwn ar y bwrdd er mwyn helpu i wella’r seilwaith trafnidiaeth yn y rhanbarth. Mae cyhoeddiad heddiw yn gwireddu’r weledigaeth honno – mae’n bleidlais o hyder yn y rhanbarth ac yn hwb economaidd enfawr. “Mae’r cydweithio agos a’r bartneriaeth rhwng y deg awdurdod lleol yn hanfodol i lwyddiant y Cytundeb Dinesig. Mae’n enghraifft wych o beth ellir ei gyflawni trwy ddod at ein gilydd er lles ein Prifddinas-ranbarth.” Mae rhagor o wybodaeth am y Cytundeb Dinesig ar gael yn: http://cardiffcapitalregioncitydeal.wales

Uned Datblygu Economaidd

7


Pontydd i Waith 2 – Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Pontydd i Waith 2 yn brosiect cyffrous sy’n cefnogi datblygiad economaidd ym Mhen-y-bont ar Ogwr trwy ddarparu cyfleoedd i feithrin sgiliau, hyfforddiant, ennill cymwysterau a lleoliadau gwaith. Mae prosiect Pontydd i Waith 2 yn mynd i’r afael â’r rhwystrau i unigolion rhag cyrchu’r farchnad waith trwy eu helpu i gael y profiad a’r sgiliau angenrheidiol i ddod o hyd i swydd tymor hir. Mae’r prosiect yn gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr lleol er mwyn chwilio am gyfleoedd gwaith i rai sy’n cymryd rhan ym mhrosiect Pontydd i Waith 2 ac yn paru pobl leol â busnesau lleol i’w helpu i gael gwaith a pharhau mewn gwaith.

Mae Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Aneurin Leisure a Merthyr Tudful wedi dod ynghyd i ddatblygu’n strategol a rhedeg Pontydd i Waith 2, gyda Thorfaen fel y prif noddwr. Mae partneriaid y prosiect yn bwriadu defnyddio’r cylch hwn o arian Ewropeaidd i helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i bobl y rhanbarth. Mae’r prosiect wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop ac yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau dysgu, hyfforddi a pharatoi at gyflogaeth. Mae’n rhoi hwb i unigolion a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau mewn meysydd sy’n bwysig i gyflogwyr. Mae cyrsiau galwedigaethol di-dâl fel hylendid bwyd, cymorth cyntaf, sgiliau iechyd a diogelwch a sgiliau trosglwyddadwy fel rhifedd a llythrennedd, magu hyder, TG a chymwysterau ffurfiol ar gael drwy’r prosiect. Mae’r prosiect yn agored i drigolion Pen-y-bont ar Ogwr sydd naill ai’n economaidd anweithgar neu’n ddi-waith yn y tymor hir, yn byw y tu allan i ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ac yn 25 oed neu drosodd. Nod y prosiect yw helpu dros 98 o bobl yn ôl i waith, a chynorthwyo dros 200 i ennill cymwysterau newydd. Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am y prosiect neu am recriwtio staff drwy’r prosiect, ffoniwch y tîm Pontydd i Waith ar 01656 815317. E-bost: Bridgesintowork2@bridgend.gov.uk

Busnesau Pen-y-bont ar Ogwr i elwa ar dechnoleg ddigidol – a gallech chi fod yn un ohonyn nhw! Mae 200 a mwy o fusnesau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar fin elwa ar fuddsoddiad gan Gronfa Strwythurol Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru i’w helpu i fanteisio i’r eithaf ar dechnolegau band eang cyflym iawn dros y pum mlynedd nesaf. Mae gwasanaeth newydd Cyflymu Busnesau Cymru yn darparu cyngor a chanllawiau annibynnol, am ddim, er mwyn helpu busnesau i nodi, mabwysiadu ac elwa ar gyfleoedd technolegol. Gallai’r gwasanaeth helpu busnesau i leihau costau, cynyddu gwerthiant i gwsmeriaid cyfredol, chwilio am gwsmeriaid newydd a chynyddu elw. Wedi’i greu’n unswydd i helpu busnesau bach a chanolig, mae’r gwasanaeth yn darparu: • Cyngor ar sut i ddefnyddio technoleg Cwmwl, y cyfryngau cymdeithasol, systemau CRM ac ati er mwyn cynyddu elw. • Adolygiad am ddim o’ch gwefan i werthuso pa mor effeithiol yw hi a sut mae’n cymharu â chystadleuwyr. • Gweithdai Ysgogi Gweithredu er mwyn rhoi’r hyder, y sgiliau a’r wybodaeth i fusnesau elwa ar fanteision technoleg ddigidol. • Cysylltiad â chynghorwyr busnes digidol arbenigol.

8

Uned Datblygu Economaidd

Meddai David Marnell, Rheolwr Rhaglen Cyflymu Busnesau Cymru: “Yn aml, fe welwn ni berchnogion busnes yn cael trafferth cystadlu â thwf a datblygiad technoleg busnes a gweld sut mae’n berthnasol i’w busnes nhw. Mae’n gwasanaeth ni yma i roi cyngor diduedd, rhad ac am ddim, er mwyn helpu busnesau i lywio’u ffordd drwy’r ddrysfa hon a chreu cynllun gweithredu realistig sy’n ceisio hybu cynhyrchiant a chynyddu effeithlonrwydd. “Mae’n tîm newydd yn swyddfa Parc Bocam yn edrych ymlaen at gydweithio’n agos â busnesau er mwyn gwella’r modd maen nhw’n defnyddio technoleg, trwy gyfrwng cymorth strategol ac ymarferol. Rydyn ni’n annog busnesau Pen-y-bont i gysylltu â ni i ddysgu mwy am y gwasanaeth.” Ffoniwch: 03000 6 03000 gan ddyfynnu ‘cyngor Band Eang Cyflym Iawn’. Ewch i: businesswales.gov.wales/superfastbusinesswales/cy E-bost: superfast@businesswales.org.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.