Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Bae'r Gorllewin
Adroddiad Blynyddol
2016/17 Mae'r adroddiad hwn ar gael mewn fformatau gwahanol. Cysylltwch â Swyddog Rhaglen Bae'r Gorllewin â manylion eich gofynion: E-bost: western.bay@swansea.gov.uk1 Ffôn: 01792 633805
Rhagair Rydym yn falch o gyflwyno Adroddiad Blynyddol Rhaglen Bae'r Gorllewin ar gyfer 2016/17, sy'n amlinellu'r cynnydd sylweddol a wnaed gan y rhaglen dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ym mis Ebrill 2016 wedi bod yn ysgogwr allweddol ar gyfer newid dros y 12 mis diwethaf. Mae ei hegwyddorion yn seiliedig ar gydweithio, integreiddio, atal a grymuso'r rheiny sy'n derbyn gwasanaethau drwy sicrhau bod eu hanghenion a'u dyheadau'n parhau'n ganolog i gynllunio a chyflwyno gwasanaethau. Mae'r Ddeddf yn cynrychioli newid diwylliannol pwysig ar gyfer y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ym Mae'r Gorllewin, rydym wedi croesawu'r cyfle i dderbyn newid drwy ddod ynghyd, rhannu gwybodaeth ac adnoddau a llunio gwasanaethau cryf a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Enghraifft o hyn fyddai creu Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae'r Gorllewin, a sefydlwyd yn ffurfiol fel corff statudol yn 2016 ac sy'n adeiladu ar y gwaith partneriaeth sylweddol ar draws y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae aelodaeth y bwrdd yn cynnwys gofalwr, cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaeth, rhai o'r sector annibynnol, a'r trydydd sector ochr yn ochr ag awdurdodau lleol sy'n rhan o Fae'r Gorllewin a'r Bwrdd Iechyd. Yn wyneb hinsawdd ariannol heriol, newidiadau demograffig a galw cynyddol am wasanaethau gofal, mae partneriaethau rhanbarthol cynhyrchiol yn gwbl hanfodol i sicrhau rhagoriaeth gwasanaeth. Mae'n galonogol iawn gweld cynifer o ganlyniadau cadarnhaol i bobl sy'n defnyddio'n gwasanaethau, fel y gellir ei ddangos yn yr astudiaethau achos a gynhwysir yn yr adroddiad hwn. Mae gwaith Panel Dinasyddion Rhanbarthol Bae'r Gorllewin hefyd wedi cyflymu yn ystod 2016/17. Cynhelir cyfarfodydd panel mewn lleoliadau gwahanol ar draws y tair ardal awdurdod lleol ac maent yn cynnig y cyfle i ddinasyddion drafod amrywiaeth eang o faterion iechyd a gofal cymdeithasol, gan ddangos ymrwymiad y rhaglen i feithrin perthnasoedd cadarnhaol â rhanddeiliaid. Rydym hefyd yn falch iawn ein bod wedi gallu arddangos y gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan ein timau integredig yn y Canolfannau Rhwydwaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans AC, wedi ymweld â safleoedd yn Abertawe a Mhen-y-bont ar Ogwr a chanmoliaeth yn unig sydd ganddi am ymroddiad ac ysgogiad y staff. Yn olaf, rydym yn falch o gyhoeddi'n Hasesiad Poblogaeth cyntaf a gaiff ei gyflwyno mewn fformat dynamig ac a fydd yn darparu sylfaen gref ar gyfer cynllunio gwasanaethau'n well yn y dyfodol.
2
Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch unwaith eto i staff, cydweithwyr mewn sefydliadau partner a'r holl randdeiliaid rhanbarthol eraill am eu gwaith caled â'u hymrwymiad i'r rhaglen dros y flwyddyn ddiwethaf. Er bod llawer o waith i'w wneud o hyd, mae'n galonogol gweld cydweithio rhanbarthol yn arwain at welliannau go iawn i'n dinasyddion mwyaf diamddiffyn yn lleol.
Y Cyng. Rob Stewart Arweinydd - Cyngor Dinas a Sir Abertawe Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae'r Gorllewin
Yr Athro Andrew Davies Cadeirydd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Is-gadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae'r Gorllewin
3
Bae'r Gorllewin Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ein gweledigaeth: Gweledigaeth y rhaglen yw darparu gwasanaethau o safon uchel sy'n amddiffyn plant ac oedolion rhag niwed, yn hyrwyddo annibyniaeth ac yn cyflwyno canlyniadau cadarnhaol i bobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. I gyflawni hyn, mae Bwrdd Iechyd PABM ac awdurdodau lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Dinas a Sir Abertawe yn gweithio gyda'i gilydd drwy Gydweithfa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae'r Gorllewin, gyda phartneriaid y trydydd sector a'r sector annibynnol. Prif bwrpas y Gydweithfa yw darparu dull strategol ar gyfer cydlynu rhaglen o newid mewn cyfres o brosiectau y mae partneriaid wedi nodi eu bod yn bryder cyffredin.
Ein nodau allweddol yw: Hyrwyddo atal a lles o safbwynt y dinesydd, a fydd yn cefnogi ac yn cryfhau'r gofal a gyflwynir a'r buddion iechyd a lles i bobl Bae'r Gorllewin Integreiddio gwasanaethau'n fwy effeithiol er budd defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr Canolbwyntio ar y person drwy ymagwedd bersonol, annibyniaeth, cynhwysiad cymdeithasol a dewis Cyflawni cyfrifoldeb a rennir y diogelir oedolion a phlant mewn perygl o niwed ym Mae'r Gorllewin yn erbyn pob math o gam-drin drwy weithio gyda'n gilydd i gadw oedolion a phlant yn ddiogel a hyrwyddo'u lles. Gwella gwasanaethau, osgoi cynnydd mewn costau gwasanaeth a sicrhau bod gwasanaethau'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, yn wyneb galw cynyddol a'r hinsawdd ariannol bresennol.
Cyflwynir y rhain drwy: Raglen Gwasanaethau Cymunedol (Pobl Hŷn) Prosiect Contractio a Chaffael Partneriaeth Gofalwyr PABM System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (CCISC) Grŵp Llywio Datblygu'r Gweithlu Grŵp Llywio Asesiad o Boblogaeth Byrddau Comisiynu Anabledd Dysgu/Iechyd Meddwl Bwrdd Comisiynu Plant a Phobl Ifanc Grŵp Penaethiaid Gwasanaeth y Gwasanaethau Plant Byrddau Diogelu Rhanbarthol ar gyfer Plant ac Oedolion
4
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae'r Gorllewin: Sefydlwyd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae'r Gorllewin yn ffurfiol yn 2016, a chynhaliwyd y cyfarfod ffurfiol cyntaf ym mis Tachwedd 2016. Cyflwynodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 rôl statudol ar gyfer Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a rhagflaenwyd hyn gan Fforwm Partneriaeth Ranbarthol Bae'r Gorllewin, a sefydlwyd yn wreiddiol ar sail anstatudol yn 2014 i ddatblygu a goruchwylio Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae'r Gorllewin. Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae'r Gorllewin yn gyfrifol am reoli a datblygu gwasanaethau i sicrhau cynllunio strategol a gwaith partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a'r bwrdd iechyd i sicrhau bod gwasanaethau effeithiol, gofal a chefnogaeth ar waith i ddiwallu anghenion y boblogaeth orau. Mae aelodaeth yn cynnwys: Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae'r Gorllewin Enw Y Cyng. Rob Stewart Yr Athro Andrew Davies
Corff Partneriaeth/Sefydliad Partner Dinas a Sir Abertawe BI PABM
Y Cyng. Huw David Y Cynghorydd Ali Thomas Y Cyng. Phil White
CBS Pen-y-bont ar Ogwr CBS CNPT CBS Pen-y-bont ar Ogwr
Y Cyng. Hailey Townsend
CBS Pen-y-bont ar Ogwr
Y Cyng. John Rogers Y Cyng. Peter Richards Y Cyng. Jane Harris Y Cyng. Christine Richards Y Cyng. Mark Child Alex Howells Siân Harrop-Griffiths Maggie Berry Susan Cooper
CBS CNPT CBS CNPT Dinas a Sir Abertawe Dinas a Sir Abertawe Dinas a Sir Abertawe BI PABM BI PABM BI PABM CBS Pen-y-bont ar Ogwr
Nick Jarman
CBS CNPT
Dave Howes
Dinas a Sir Abertawe
Melanie Minty Gaynor Richards
Fforwm Gofal Cymru CGG CNPT
Emma Tweed
Gofal a Thrwsio
Carwyn Tywyn
Mencap Cymru
Rosita Wilkins
Defnyddiwr Gwasanaeth/Cynrychiolydd Dinasyddion
Rôl Arweinydd/Cadeirydd y BPRh Cadeirydd/is-gadeirydd y BPRh Arweinydd Arweinydd Aelod o CBS Pen-y-bont ar Ogwr/Daliwr Portffolio Aelod o CBS Pen-y-bont ar Ogwr/Daliwr Portffolio Aelod o CNPT/Daliwr Portffolio Aelod o CNPT/Daliwr Portffolio Aelod o DASA/Daliwr Portffolio Aelod o DASA/Daliwr Portffolio Aelod o DASA/Daliwr Portffolio Prif Weithredwr Dros Dro Cyfarwyddwr Strategaeth Swyddog nad yw'n aelod Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a 'Chyfarwyddwr Arweiniol' Bae'r Gorllewin Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol Ymgynghorydd Polisi Cynrychiolydd y Trydydd Sector (CGG) Cynrychiolydd y Trydydd Sector (Cenedlaethol) Cynrychiolydd y Trydydd Sector (Lleol) Defnyddiwr Gwasanaeth/Cynrychiolydd Dinasyddion
5
Linda Jaggers
Darren Mepham
Llysgennad Gofalwyr/Gwirfoddolwyr Gofalwyr Cymru Aelodau Cyfetholedig CBS Pen-y-bont ar Ogwr
Steven Phillips Phil Roberts Sara Harvey
CBS CNPT Dinas a Sir Abertawe Rhaglen Bae'r Gorllewin
Cynrychiolydd Gofalwyr
Prif Weithredwr/Cadeirydd Grŵp Arweinyddiaeth Bae'r Gorllewin Prif Weithredwr Prif Weithredwr Cyfarwyddwr Rhaglen Bae'r Gorllewin
Sut y cyflawnwyd amcanion y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol? Sefydlwyd Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae'r Gorllewin i ddechrau gan y pedwar Prif Weithredwr o'r tri awdurdod lleol a'r Bwrdd Iechyd ym mis Ionawr 2012, cyn unrhyw ddeddfwriaeth i orchymyn gwaith partneriaeth. Yn strategol, cydnabuwyd ganddynt, o ystyried y problemau economaidd ac ariannol sy'n wynebu'r maes iechyd a gofal cymdeithasol, fod gwaith partneriaeth cryf yn hanfodol er mwyn ceisio mynd i'r afael â rhai o'r problemau a'u datrys. Sefydlwyd Fforwm Partneriaeth a oedd yn cynnwys aelodau etholedig, Cadeirydd Bwrdd Iechyd PABM a phartneriaid ehangach yn 2014 i wreiddio cyd-weithio ymhellach a gweithredu fel rhagflaenydd i'r Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol. Mae gan bob rhaglen a phrosiect ym Mae'r Gorllewin gyfarwyddwr fel noddwr, sy'n helpu i ysgogi'r newid yn strategol ac yn wleidyddol. Er enghraifft, y maes gwaith mwyaf yw'r Rhaglen Gwasanaethau Cymunedol, a noddir gan Brif Swyddog Gweithredu'r Bwrdd Iechyd. Mae'r trefniadau llywodraethu wedi cael eu hadolygu a'u diwygio wrth i'r rhaglen ddatblygu, a chyflwynwyd deddfwriaeth newydd, gan sicrhau prosesau gwneud penderfyniadau cadarn. Mae'r grwpiau a'r byrddau ar gyfer amrywiol linynnau'r rhaglen yn cynnwys swyddogion o bob sefydliad partner, gan gynnwys y trydydd sector, a defnyddir y grwpiau hyn i rannu gwybodaeth am iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn cyfeirio newidiadau a fydd yn gwella ffyrdd o gyflwyno gwasanaethau, gofal a chefnogaeth. Cwblhawyd Asesiad Poblogaeth rhanbarthol ar gyfer rhanbarth Bae'r Gorllewin, y bwriedir ei gyhoeddi ar 1 Ebrill 2017 ynwww.westernbay.org.uk/?lang=cy Diben yr Asesiad Poblogaeth yw sicrhau bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol yn llunio sylfaen dystiolaeth glir a phenodol ar y cyd mewn perthynas ag anghenion gofal a chefnogaeth ac anghenion gofalwyr a fydd yn sail i gyflawni eu swyddogaethau statudol ac yn cyfeirio cynllunio a phenderfyniadau gweithredol. Bydd hyn yn sicrhau bod gwasanaethau wedi'u cynllunio mewn ffordd effeithlon 6
ac effeithiol gan bartneriaid y sector cyhoeddus i hyrwyddo lles pobl ag anghenion gofal a chefnogaeth. Bydd yr Asesiad Poblogaeth yn ysgogi newid drwy alluogi awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i ganolbwyntio ar ymagweddau ataliol at anghenion gofal a chefnogaeth. Bydd yn darparu'r wybodaeth y mae ei hangen i gefnogi penderfyniadau am adnoddau a'r gyllideb; ac yn sicrhau bod gwasanaethau a chanlyniadau wedi'u targedu, yn gynaliadwy, yn effeithiol ac yn effeithlon. Bydd yn sail i integreiddio gwasanaethau, ac yn arbennig yn cefnogi'r dyletswyddau a nodir yn Rhan 9 y Ddeddf. Sefydlwyd swyddfa rhaglen ar y cyd i gefnogi trefniadau partneriaeth, a nodwyd adnoddau hefyd. Mae gwaith yn datblygu i greu cyllideb a rennir i gefnogi'r isadeiledd hwn am y 3 blynedd nesaf. Datblygwyd nifer o drefniadau partneriaeth a threfniadau cronfa a rennir ar gyfer gwasanaethau Bae'r Gorllewin dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Sefydlwyd cytundeb partneriaeth (Adran 33) ar gyfer gwasanaethau gofal canolraddol ar gyfer pob ardal leol ym Mae'r Gorllewin, ac fe'i rheolir drwy Fyrddau Partneriaeth ar y Cyd ym Mhen y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Datblygwyd cytundebau partneriaeth (cytundebau rhwng awdurdodau) a chytunwyd arnynt hefyd ar gyfer y Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd Integredig, y Gwasanaeth Mabwysiadu rhanbarthol, y Storfa Cyfarpar ar y Cyd a'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid rhanbarthol. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ddatblygu cytundeb partneriaeth (Adran 33) ar gyfer y Bwrdd Cynllunio Ardal sy'n goruchwylio Gwasanaethau Camddefnyddio Alcohol a Sylweddau. Cwblhawyd strategaeth ranbarthol ar gyfer Cartrefi Gofal a cham nesaf y broses rhoi ar waith fydd datblygu cronfa a rennir ar gyfer llety cartrefi gofal. Mae partneriaid Bae'r Gorllewin yn ymrwymedig i roi System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru ar waith, gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eisoes ar waith. Bydd y system hon yn galluogi i iechyd a gofal cymdeithasol gael eu hintegreiddio ymhellach drwy rannu gwybodaeth a fydd yn sail i'r holl raglen waith ym Mae'r Gorllewin. Mae partneriaid Bae'r Gorllewin yn gweithio'n barhaus tuag at sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cyflwyno ac adnoddau'n cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol i wella canlyniadau i bobl yn eu rhanbarth, y ceir enghreifftiau ohonynt yn yr adroddiad hwn.
7
Panel Rhanbarthol Dinasyddion Bae'r Gorllewin Sefydlwyd Panel Rhanbarthol Dinasyddion Bae'r Gorllewin yn 2016, â'r nod o ddarparu llais strategol cryf i randdeiliaid, a chynnig mwy o ymwybyddiaeth o weithgareddau Rhaglen Bae'r Gorllewin a chyfranogaeth ynddynt, a dealltwriaeth gliriach o sut gall sefydliadau weithio gyda'i gilydd i gyflwyno yn erbyn gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Daw aelodaeth y panel o restrau postio'r tri Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Mae aelodaeth yn 'hyblyg' gan sicrhau bod cyfarfodydd ac unrhyw weithgareddau cynnwys yn agored i bob parti â diddordeb (defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, aelodau'r teulu, cynrychiolwyr o sefydliadau sy'n gysylltiedig â'r maes iechyd a gofal cymdeithasol ac aelodau etholedig awdurdodau lleol). Ffafriwyd yr ymagwedd hon gan y rhai a aeth i gyfarfod cyntaf y panel ym mis Chwefror 2016, a oedd yn teimlo ei fod yn cynnwys ysbryd egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ynghylch cynnig 'mwy o lais a rheolaeth'. Yn ystod sesiwn weithdy a gynhaliwyd yng nghyfarfod cyntaf y panel, cytunodd yr aelodau y byddai tri chyfarfod/tair sesiwn weithdy'r flwyddyn yn ddigonol, er y gellid trefnu cyfarfodydd ychwanegol pe bai angen.
8
Mae'r panel hefyd yn awyddus i gysylltu'n rhithiol pan fo'n briodol (e.e. cyfranogiad mewn arolygon, gweithgareddau ymgynghori arlein, etc.) Mae cyfarfodydd fel arfer yn cynnwys cyflwyniad byr ar agwedd benodol ar raglen waith Bae'r Gorllewin, ynghyd â gweithdy rhyngweithiol. Mae hyn yn rhoi'r cyfle i banelwyr rannu unrhyw sylwadau ac awgrymiadau ar sut gall gwasanaethau weithio mewn modd cyd-gynhyrchiol â dinasyddion i sicrhau bod anghenion a nodau lles defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn parhau'n ganolog i gynllunio a chyflwyno gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Panel Rhanbarthol Dinasyddion Bae'r Gorllewin wedi cwrdd pum gwaith ers ei sefydlu ym mis Chwefror 2016. Mae aelodaeth yn cynnwys defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a chynrychiolwyr o sefydliadau'r sector gwirfoddol. Cyflwynir sesiynau mewn partneriaeth â'r tri Chydlynydd Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles o'r trydydd sector (sy'n gweithio yng Nghyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe a Chymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-ybont ar Ogwr).
9
Meysydd Cynnydd Allweddol yn 2016/17 Trawsnewid Gwasanaethau Gofal i Bobl Hŷn Gwasanaethau Gofal Canolraddol Fframwaith Strategol Trosgynnol ar gyfer Cyflwyno Gwasanaethau Gofal Canolraddol Ysbyty/Cartrefi Gofal/Gofal Sefydliadol, Gofal Diwedd Bywyd Y Model GorauGorau Posib o Y Model OfalPosib Canolraddol o Ofal
Canolraddol
Haen ganolraddol integredig i ddarparu ymateb di-oed ar adeg o argyfwng Rheoli achosion/gofal rhagweledol wedi’i dargedu mewn Rhwydweithiau Cymunedol Hunanofal/Atal a Lles – ataliaeth sylfaenol i gefnogi pobl mewn perygl o wendid
Mae'r ymagwedd integredig rhwng iechyd a gofal cymdeithasol ym Mae'r Gorllewin wedi goresgyn heriau o gwmpas gweithio seilo (ar wahân) a syrthni mewn sefydliadau hen sefydledig, wrth weithio hefyd ar draws ffiniau daearyddol. Mae'r ffocws wedi bod ar ehangu timau 'Gofal Canolraddol' fel y gellir gofalu am bobl yn eu cartrefi eu hunain lle bynnag y bo modd, yn hytrach na'u bod yn gorfod mynd i'r ysbyty. Mae'r ymagwedd hon hefyd yn cefnogi'r rhai sy'n gadael yr ysbyty, gan eu helpu i ailymgartrefu mewn cartref diogel a chyfforddus. Mae'r Model Gorau Posib o Ofal Canolraddol yn cynnwys sawl nodwedd allweddol sydd wedi'u rhoi ar waith ar draws y rhanbarth i sicrhau mynediad teg a chyson i wasanaethau. Mae'n rhan o fframwaith strategol ehangach i gyflwyno gwasanaethau i bobl hŷn, fel a ddangosir uchod. Mae elfennau hanfodol y model yn cynnwys:
10
Pwynt Mynediad Cyffredin Mynediad drwy un rhif cyswllt, ac ar sail y sgwrs honno, cynigir naill ai ymateb cyflym, cyngor a gwybodaeth iddynt neu cânt eu cyfeirio i fannau eraill, gan gynnwys y trydydd sector, lle y bo'n briodol. Lle y bo'n berthnasol, ymgymerir ag asesiad cymesur i gael mynediad i'r ymateb neu'r ymyriad mwyaf addas. Ymateb Cyflym Mae'r gwasanaeth ymateb cyflym ar gael drwy ymateb clinigol cyflym (meddyg, nyrs a/neu therapydd). Bydd yr ymateb o fewn 4 awr rhwng 8am ac 8pm. Prif ddiben yr ymateb cyflym yw osgoi derbyn person i'r ysbyty lle y bo'n briodol neu gyflymu'r broses ryddhau. Mynediad i Bobl â Dementia Llwybr mynediad ymateb cyflym i berson â dementia y mae angen cefnogaeth arno gan weithiwr proffesiynol iechyd meddwl yn ystod argyfwng. Asesiad Camu i Fyny neu Gamu i Lawr Pecyn gofal sy'n para hyd at 6 wythnos, fel arfer mewn lleoliad preswyl sy'n darparu gofal a chefnogaeth i gynyddu annibyniaeth. Byddai hyn fel arfer yn cael ei gynnig lle mae angen cefnogaeth i osgoi derbyn person i'r ysbyty, neu pan fydd angen cefnogaeth ddwys ar rywun ar ôl ei ryddhau o'r ysbyty. Ailalluogi Mae ailalluogi'n canolbwyntio ar helpu pobl i adennill y sgiliau y maent o bosib wedi'u colli oherwydd cyfnod yn yr ysbyty neu salwch. Gall pecyn gofal sy'n para hyd at 6 wythnos gynnwys ymyriadau iechyd a gofal cymdeithasol i fynd i'r afael ag anghenion unigol y cleient. Broceriaeth Trydydd Sector Cynrychiolydd o'r trydydd sector sy'n gweithredu fel rhan o Bwynt Mynediad Cyffredin i ddarparu atebion amgen lle nad oes angen cefnogaeth statudol. Mae ein newid i wasanaethau'n helpu i reoli galw'n briodol ac yn ein helpu i gyflawni gwelliannau sylweddol i ddefnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys:
Y person, ei ddewis a'r hyn sydd orau ganddo sydd yng nghanol pob ymyriad, lle y bo'n briodol. Mwy o bobl yn aros yn annibynnol, yn hyderus ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain am hwy. Cynnal asesiadau ac ymyriad priodol yng nghartref person ac aildrefnu gallu fel y gall hyn ddigwydd. Cyfres o wasanaethau cefnogaeth a gofal ar gael fel y gofynnir i lai o bobl ystyried gofal cartref preswyl tymor hir neu gofal cartref nyrsio, yn enwedig mewn argyfwng.
11
Gofal Canolraddol: Pa wahaniaeth mae wedi'i wneud? Darparodd Lywodraeth Cymru Gyllid Gofal Canolraddol a oedd yn cynnwys cyfran sylweddol o gyllid i bobl hŷn. Ariannwyd amrywiaeth o gynlluniau a ddatblygwyd gan awdurdodau lleol, y bwrdd iechyd a phartneriaid y trydydd sector. Mae cyllid ar gyfer cyfarpar cymunedol, technoleg gynorthwyol ac addasiadau i gartrefi pobl hŷn wedi hwyluso rhyddhau'n gyflymach o'r ysbyty er mwyn cynnal annibyniaeth pobl ac mewn rhai achosion, wedi osgoi derbyniadau i'r ysbyty'n gyfan gwbl. Ceir cynlluniau penodol ar draws Bae'r Gorllewin sy'n darparu gofal preswyl fel dewis amgen i aros mewn gwely ysbyty, wrth i drefniadau gael eu gwneud ar gyfer pecyn gofal gartref. Mae'r cynlluniau hyn wedi bod yn llwyddiannus wrth leihau hyd yr arhosiad i bobl hŷn yn yr ysbyty ac mewn rhai achosion, atal aildderbyniadau i'r ysbyty ar gyfer pobl hŷn, eiddil. Ariannwyd Y Groes Goch Brydeinig i roi cynllun peilot ar waith yn Adran Argyfwng Ysbyty Treforys i ymdrin â phobl oedd yn mynd yno'n aml. Nod y cynllun oedd lleihau nifer yr ymweliadau amhriodol a diangen yn yr Adran Argyfwng (ED) yn ogystal â lleihau'r effaith ar y gwasanaethau cyhoeddus ehangach a'r defnydd ohonynt, gan gynnwys yr Heddlu a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Mae hyn wedi arwain at arbedion ariannol sylweddol, llai o bobl yn mynd yno a llai o amser yn cael ei dreulio yn yr Adran Argyfwng. Mae amrywiaeth o gynlluniau a ariennir sy'n mynd i'r afael ag unigedd ac unigrwydd cymdeithasol pobl hŷn, sydd yn ei dro'n cynyddu eu hymdeimlad o les, drwy gynlluniau cyfeillio a mentora, cymdeithion a grwpiau cymunedol a darparu prydau cymunedol. Mae cynlluniau eraill yn ariannu dosbarthiadau ymwybyddiaeth ofalgar a T'ai Chi i grwpiau cymunedol sy'n cynnwys pobl hŷn, gan ddod â phobl ynghyd i gynyddu eu lles. Mae nifer o gynlluniau ataliol, er enghraifft, cynllun sy'n ceisio nodi pobl hŷn sy'n teimlo ar wahân ac yn unig ac sy'n cysylltu â gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol sy'n gweithio'n rhagweithiol i osgoi problemau rhag dwysáu, sydd yn ei dro'n osgoi derbyniadau i'r ysbyty. Mae cynlluniau sy'n cefnogi gofalwyr yn yr ysbyty a thimau cymunedol sy'n sicrhau eu bod yn cael yr wybodaeth gywir ar yr adeg gywir i'w cefnogi yn eu rôl ofalu. Un enghraifft o gynllun a ariennir gan y Gronfa Gofal Canolraddol yw menter Hyrwyddo Annibyniaeth Gofal a Thrwsio. Mae'r achos enghreifftiol ganlynol yn amlygu'r gwahaniaeth y mae wedi'i wneud i ddinasyddion...
12
Mr a Mrs M Cysylltodd Mr a Mrs M â'r asiantaeth am gefnogaeth ar ôl i Mrs M gwympo a thorri ei dwy fraich a choes, gan arwain at arhosiad 7 wythnos yn yr ysbyty. Roedd Mr M hefyd wedi cael damwain beic modur oddeutu 50 mlynedd yn ôl, lle collodd ei goes dde. Yn dilyn ei harhosiad yn yr ysbyty, mae ffisiotherapydd yn ymweld â Mrs M unwaith y mis i'w harwain drwy ei hymarferion a gwirio'i chynnydd. Mae gan 'Gofal a Thrwsio' Bae'r Gorllewin a'r Porth (y man cychwyn ar gyfer holl ymholiadau Gofal Cymdeithasol ardal Castell-nedd Port Talbot) bartneriaeth waith agos iawn. Mae'r awdurdod lleol wedi goruchwylio hyfforddiant Aseswyr Dibynadwy Gofal a Thrwsio Bae'r Gorllewin, ac mae'n ymwybodol o'r lefel o gefnogaeth y gall y sefydliad a'i staff ei rhoi. Cysylltodd Mr a Mrs M â'r Porth i drafod materion mynediad a'r posibilrwydd o osod rheiliau i'w helpu â'u symudedd. Cynhaliwyd asesiad byr gan staff yn Y Porth a arweiniodd at atgyfeiriad uniongyrchol at Ofal a Thrwsio Bae'r Gorllewin. Trefnodd Gofal a Thrwsio Bae'r Gorllewin i weithiwr achosion ymweld i gynnal asesiad o anghenion y cleientiaid, a chynnal archwiliad cartref iach (ynddo edrychir ar bob ystafell yn y tŷ, yn ogystal â'r tu allan iddo, a thynnir sylw at y gwelliannau a'r addasiadau sydd eu hangen). Teimlai'r pâr fod ganddynt hyder yn y gweithiwr achosion a thrafodon nhw eu nerfusrwydd ynghylch eu problemau symudedd. Awgrymwyd y Clinig Cwympiadau yn yr ysbyty lleol, ond teimlai'r ddau nad oedd hyn yn addas iddynt ar y pryd. Argymhellodd y gweithiwr achosion y dylid ailadeiladu'r grisiau blaen ac ôl ac y dylid gosod rheiliau galfanedig allanol yng nghefn yr eiddo. Gwnaed cais i gronfa'r Grant Cartref Iach a chwblhawyd y gwaith hwn yn iawn. Trafododd y gweithiwr achosion a'r cleientiaid rai o'r peryglon baglu a nodwyd hefyd ynghyd ag argymhellion i leihau'r perygl o gwympiadau. Cwblhawyd Arolwg Diogeledd ac Archwiliad Diogelwch Tân. Roedd gwiriad iechyd budd-daliadau hefyd wedi amlygu bod y pâr yn derbyn eu holl hawliadau budd-dal. Mae canlyniadau'n cynnwys: Ymateb cydlynol gan weithwyr proffesiynol, Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol a Gofal a Thrwsio Bae'r Gorllewin, gan rannu gwybodaeth berthnasol er mwyn cael ymateb effeithiol gyda chymorth y Grant Cartref Iach Dim dyblygu yn y broses asesu Cefnogaeth gweithiwr achosion Gofal a Thrwsio Bae'r Gorllewin, gydag ateb a arweinir gan y cleient i'w problemau, gan gynnwys: o Gwiriad Iechyd Budd-dal o Gwiriad Cartref Iach o Arolwg Diogeledd o Archwiliad Diogelwch Tân o Mesurau Effeithlonrwydd Ynni awgrymedig.
13
Astudiaethau Achos ICF o bob rhan o'r rhanbarth: Stori Bob: Mae Bob yn 76 oed ac yn byw yn ardal y Clâs yn Abertawe. Trwy waith y gwasanaeth Ymateb Clinigol Acíwt (YCA), roedd modd iddo gael ei ryddhau'n gynnar o'r ysbyty a pharhau i dderbyn triniaeth yng nghysur ei gartref ei hun. Cliciwch yma i weld stori Bob ar 'Deledu Bae'r Gorllewin': www.youtube.com/watch?v=82nyzktUygg
Stori Rena: Mae Rena yn 93 oed ac yn byw ar ei phen ei hun yn Llandarcy, Castell-nedd Port Talbot. Yn y darn hwn, mae ei merch Catherine yn esbonio sut helpodd Tîm Clinigol Acíwt (TCA) Castell-nedd Port Talbot ei mam i osgoi gorfod mynd i'r ysbyty'n ddiangen ar ôl cwympo yn y cartref. Cliciwch yma i weld stori Rena ar 'Deledu Bae'r Gorllewin': https://www.youtube.com/watch?v=hQNzNkKmvM
Stori Mrs P: Tîm Adnoddau Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr (CRT) Mae Mrs P yn gyn nyrs y Groes Goch sy'n 91 oed sy'n byw gyda'i mab ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Roedd hi'n ymdopi'n dda nes i'w llid y cymalau ailgychwyn gan beri i'w choesau chwyddo.
"Fyddwn i ddim wedi bod eisiau mynd i'r ysbyty. Byddai'n well gennyf aros gartref."
Yn ystod yr amser hwn, datblygodd haint hefyd a olygodd ei bod mewn perygl o ddioddef niwed man gwasgu acíwt. Pan ddaeth y nyrsys ardal i wybod am ei sefyllfa, atgyfeiriwyd Mrs P at Dîm Adnoddau Cymunedol (TAC) Pen-y-bont ar Ogwr. Drwy weithio gyda Mrs P a'i mab, lluniodd y tîm gynllun gofal cynhwysfawr a oedd yn caniatáu i Mrs P gael ei thrin yn ei chartref ei hun, yn hytrach na gorfod mynd i'r ysbyty. Gwnaed trefniadau i roi gwely yn yr ystafell fyw a gosod cyfarpar arbenigol yn y cartref i alluogi Mrs P i fynd i'r gwely a chodi ohono'n ddiogel. 14
Daeth Nyrsys, Therapyddion a Gofalwyr CRT ynghyd i gefnogi Mrs P drwy'r cyfnod acíwt hwn, ac o fewn pythefnos, dangosodd wir arwyddion gwella. I helpu Mrs P i wella, daeth gwasanaeth galluogi tymor byr y TAC yn gyfrifol am ei gofal, gan weithio gyda hi i wella ei symudedd a chynyddu ei hyder. Cytunwyd ar nodau penodol hefyd gyda help y Therapydd TAC a gweithwyr cefnogi. Bellach, gall Mrs P symud o gwmpas llawr gwaelod ei chartref gan ddefnyddio ffrâm cerdded, defnyddio'r ystafell ymolchi ar ei phen ei hun a gwneud rhai tasgau cartref yr oedd yn anodd iddi ymdopi â nhw'n flaenorol. Roedd Mrs P yn hynod falch o osgoi derbyniad i'r ysbyty a bellach, mae'n ymdopi'n ddiogel yn ei chartref ei hun gyda chymorth gwasanaethau gofal cartref. Bydd ffurflen fonitro'r Gronfa Gofal Canolraddol, sy'n manylu ar y canlyniadau a gyflawnwyd o'r mentrau amrywiol, ar gael o ddiwedd mis Ebrill 2017.
Cynllunio Gofal Rhagweledol Nod cynllunio Gofal Rhagweledol yw cefnogi datblygiad gofal integredig, gan alluogi rheoli'n preswylwyr mwyaf diamddiffyn, sydd eisoes yn hysbys i'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, mewn ffordd ragweithiol. Ei nod yw osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty neu gartrefi gofal a galluogi pobl i fyw yn eu cartrefi eu hunain am hwy drwy ddarparu gwasanaeth cydlynus, ymatebol sy'n canolbwyntio ar y person. Mae'r ymagwedd yn cynnwys: Gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar boblogaethau o 20 i 50,000 o bobl (rhwydweithiau clwstwr) Timau aml-broffesiynol lleol Cysylltiadau cryf â'r sector gwirfoddol Un pwynt mynediad Dealltwriaeth o'r boblogaeth Ffocws ar y mwyaf diamddiffyn Rheoli gofal yn gyfannol 3 rhwydwaith clwstwr Dros 500 o gleifion 'a all fod yn ddiamddiffyn' yn cael eu hadolygu Cytuno ar Broses Gofal Rhagweledol Safonol a Chynlluniau Gofal Rhagweledol Protocol Rhannu Gwybodaeth a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer Gofal Rhagweledol, sy'n caniatáu i wybodaeth gael ei rhannu ag aelodau o'r Tîm Amlddisgyblaeth. O'r rhai â Chynlluniau Gofal Rhagweledol: Nid oes unrhyw gleifion wedi gorfod cael eu derbyn ar frys i'r ysbyty Cafwyd gostyngiad yn y cyswllt annisgwyl â'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cafwyd gwelliant mewn cyfathrebu rhagweithiol.
15
“ I ddechrau roedd gen i amheuon am hyn credais y byddai naill ai'n: 1) rhyw fath o siop siarad lle na fyddai dim yn cael ei wneud mewn gwirionedd, neu'n 2) rhywbeth a fyddai'n creu llawer o waith i ni. Mewn gwirionedd, doedd yr un o'r rhain yn wir, ac rwyf wedi cael fy siomi o'r ochr orau gan y broses”.
“Mae'n gwneud cymaint o wahaniaeth i berson sy'n byw ar ei ben ei hun heb unrhyw deulu wybod bod gan rywun ddiddordeb yn ei les, felly roedd eich galwad yn werth chweil”. Claf Gofal Rhagweledol
Meddyg Teulu
Strategaeth Cartrefi Gofal Dros y 5 mlynedd diwethaf, mae'r farchnad cartrefi gofal wedi dod yn gynyddol gymhleth, gyda nifer o heriau gwahanol megis newidiadau demograffig, cau cartrefi, cartrefi nad ydynt yn bodloni trothwyau ansawdd a niferoedd cynyddol o bobl hŷn ag anghenion cymhleth. Mae pob un o'r pedwar sefydliad yng nghydweithfa Bae'r Gorllewin wedi ymrwymo i fod yn rhan o ddatblygu strategaeth gomisiynu tymor hir ar gyfer cartrefi gofal i bobl hŷn, a'i rhoi ar waith. Mae'r strategaeth yn rhagweld amgylchedd sy'n mynd ati i hyrwyddo dewis a rheolaeth, wedi'i seilio gan offer sicrhau ansawdd cadarn sy'n sicrhau y cyflwynir canlyniadau effeithiol a chadarnhaol. Mae'n ceisio sicrhau y gall preswylwyr gael mynediad i wybodaeth a chyngor, gan gynnwys eiriolaeth, er mwyn gwneud dewisiadau gwybodus. Mae'r amcanion yn cynnwys: Gwell mynediad i wasanaethau cartrefi gofal sydd fwyaf addas i anghenion pobl - Gan gynnwys y lefel a'r math o ddarpariaeth a ffactorau eraill megis eu lleoliad, cynllun ac amgylchedd o ddewis. Agwedd benodol ar hyn yw bod partneriaid Bae'r Gorllewin yn gobeithio lleihau nifer y bobl sy'n byw mewn cartrefi gofal y tu allan i'r rhanbarth am nad yw'r gwasanaethau y maent am eu cael ac sydd eu hangen arnynt ar gael. Mwy o ddewis i ddefnyddwyr gwasanaeth - Mae hyn yn cynnwys rhoi dewis i berson o ran pa gartref gofal y mae am fyw ynddo. Mae hefyd yn cynnwys dewis i berson am y gwasanaeth mae'n ei dderbyn wrth fyw mewn cartref gofal, e.e. mewn perthynas â bwyd, gweithgareddau ac agweddau eraill ar eu ffordd o fyw. Lefelau uchel cyson o safonau ansawdd i ddefnyddwyr gwasanaeth - Mae hyn yn cynnwys glynu wrth y fframwaith safonau ansawdd rhanbarthol cytunedig ar sail monitro contractau yn ogystal â thystiolaeth gan ddefnyddiwr gwasanaeth, ei deulu ac adborth cadarnhaol staff.
16
Mwy o annibyniaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth - mae hyn yn canolbwyntio ar y ffordd y darperir gwasanaethau a dylai arwain at bobl yn byw mor annibynnol ag y gallant yn y cartref gofal sy'n gartref iddynt. Gwasanaethau sy'n cynnig gwerth am arian - Ceir eglurder, tryloywder a disgwyliadau a rennir ynghylch y ffioedd a delir i ddarparwyr cartrefi gofal a'r gwasanaethau a ddarperir i breswylwyr. Marchnad gofal cartref effeithiol a chynaliadwy - Bydd y farchnad cartrefi gofal a'r comisiynwyr a'r darparwyr sy'n rhan ohoni'n gallu gweithredu'n effeithiol, a bydd y model comisiynu'n cyflawni'r cydbwysedd iawn rhwng anghenion a gofynion yr holl bartïon i sicrhau bod y farchnad yn gynaliadwy yn y tymor hir. Denu darparwyr cartrefi gofal o safon i ardal Bae'r Gorllewin - Mae sicrhau'r cysyniad o ddatblygu ac ehangu arferion busnes ar gyfer darparwyr cartrefi gofal yn opsiwn deniadol ym Mae'r Gorllewin. Mae cynlluniau gweithredu lleol yn cael eu datblygu, gyda gwaith yn cychwyn ar greu cronfa a rennir ar gyfer llety cartrefi gofal rhwng awdurdodau lleol a'r Bwrdd Iechyd.
Fframwaith Ansawdd Rhanbarthol (FfARh) Dogfen yw'r FfARh a luniwyd gan Fy Mywyd Mewn Cartref Cymru mewn partneriaeth â Rhaglen Bae'r Gorllewin i asesu ansawdd y gofal a ddarperir i breswylwyr cartrefi gofal yn ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Mae'n helpu comisiynwyr i fonitro gwasanaethau gofal mewn modd mwy cyson, gan nodi system raddio glir o Aur, Arian ac Efydd. Mae pecyn cymorth wedi cael ei lunio hefyd i gyd-fynd ag ef, sy'n cynnig arweiniad ymarferol er mwyn i gartrefi gofal feincnodi ac ymdrechu i wella'n barhaus yn erbyn cyfres o feini prawf clir. Nodau allweddol y FfARh yw: sefydlu gweledigaeth glir ar gyfer ansawdd i unigolion sy'n byw mewn lleoliadau gofal cartref, er mwyn gwella bywydau pobl a hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol cynnig ymagwedd fwy cadarn a thryloyw i ddarparwyr gwasanaethau ar draws y rhanbarth o ran y disgwyliadau cydweithredol mewn perthynas ag ansawdd gofal monitro a chefnogi darparwyr fel y gallant gyflawni'r ansawdd bywyd gorau mewn cartrefi gofal mewn ffordd sy'n cyflawni egwyddorion gofal sy'n canolbwyntio ar y person/berthynas Amlygwyd sicrhau ansawdd fel maes gwella i gomisiynwyr fel rhan o ganfyddiadau'r adroddiad o'r adolygiad o gartrefi gofal gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn 2014, ac mae'r argymhelliad am yr angen i ddatblygu dulliau i brofi ansawdd a chanlyniadau i bobl hŷn mewn lleoliadau cartrefi gofal yn cyd-fynd yn glir â nodau'r FfARh. Mae'r FfARh yn cael ei roi ar waith ar draws y rhanbarth a chaiff ei gynnwys mewn 17
gweithgareddau comisiynu yn y dyfodol
Gwerthfawrogi a Chefnogi Gofalwyr Mae'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, wrth gydnabod pwysigrwydd gofalwyr, wedi ceisio rhoi mwy o amlygrwydd i Bartneriaeth Gofalwyr hen sefydledig PABM drwy ei chynnwys yn system llywodraethu Bae'r Gorllewin. Ym Mae'r Gorllewin, mae Partneriaeth Gofalwyr PABM yn gweithio'n gyd-gynhyrchiol i gynnig amrywiaeth o wasanaethau ac adnoddau gwerthfawr i ofalwyr o bob oed. Mae'r bartneriaeth, a sefydlwyd yn 2011, yn drefniant cydweithredol rhwng Bwrdd Iechyd PABM, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Dinas a Sir Abertawe, a'r Gwasanaethau Gofalwyr ym mhob ardal, sefydliadau'r trydydd sector a gofalwyr eu hunain. Mae rhai o gyflawniadau allweddol y bartneriaeth dros y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys cyhoeddi Pecyn Gwybodaeth i Ofalwyr PABM sy'n cynnwys llu o wybodaeth sy'n gysylltiedig â Budd-daliadau Lles, cael asesiad i ofalwyr a sut i gael mynediad i gymorth a chefnogaeth yn eich ardal leol. Mae arweiniad newydd wedi'i lunio'n benodol i ofalwyr pobl sy'n profi problemau iechyd meddwl wedi'i gynhyrchu hefyd a'i ddosbarthu drwy'r rhanbarth. Gwnaed gwaith a dargedir gyda Gofalwyr Ifanc yn y rhanbarth, gyda'r nod o gynyddu eu proffil a darparu cipolwg o'r problemau maent yn eu hwynebu. Mae Gofalwyr Ifanc yn Abertawe hefyd wedi bod yn rhan o lunio a chynhyrchu taflen sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Gofal Croesffyrdd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Bae Abertawe. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, gwnaed gwaith gyda 14 o feddygfeydd meddygon teulu lle mae gweithiwr o Wasanaeth Gofalwyr Ifanc Ymddiriedolaeth Gofalwyr Bae Abertawe wedi darparu sesiynau gwybodaeth, cefnogaeth a chynyddu ymwybyddiaeth i amlygu'r hyn y mae ei angen ar ofalwyr ifanc gan bractisiau meddygon teulu. Mae'r gweithiwr hefyd wedi cysylltu â 19 o ysgolion yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, hwyluso sesiynau cynyddu ymwybyddiaeth o Ofalwyr Ifanc i dros 1,000 o ddisgyblion ysgolion uwchradd. Sicrhawyd bod amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddiant ar gael i ofalwyr o bob oed ar draws y rhanbarth. Diben yr hyfforddiant yw naill ai ennill sgiliau sy'n cynorthwyo gofalwyr yn eu rôl neu ddysgu technegau newydd sy'n helpu gofalwyr i gynnal eu hiechyd a'u lles eu hunain. Un cwrs o'r fath yw ‘Reclaim Your Life’ - 12 o sesiynau 18
hyfforddiant a drefnir drwy drefniant partneriaeth rhwng Gwasanaeth Gofalwyr Castellnedd Port Talbot a MIND. Mae prosiect Addysg a Hyfforddiant Canolfan Ofalwyr Abertawe hefyd yn cynnig rhaglen fisol o hyfforddiant a gaiff ei darparu'n seiliedig ar anghenion gofal a nodwyd. Mae cyrsiau hyfforddiant yn amrywio o Reoli Straen a Chymorth Cyntaf Brys i Hyder Corff, T'ai Chi a Thechnegau Cysgu ac Ymlacio.
Oedolion ag Anableddau Dysgu ac Iechyd Meddwl Mae'r Prosiect Contractio a Chaffael yn ffrwd waith allweddol sydd wedi datblygu ac sydd yn y broses o ymgorffori Asesiadau sy'n Canolbwyntio ar Ganlyniadau i unigolion ag Anableddau Dysgu sy'n byw naill ai mewn Gofal Preswyl neu leoliadau Byw â Chymorth. Mae'r Asesiad sy'n Canolbwyntio ar Ganlyniadau yn ailasesu anghenion unigolyn, gan gydnabod ei gryfderau a nodi meysydd y gellid eu datblygu ymhellach. Mae'r broses yn sicrhau bod yr unigolyn yn cael pob cyfle i gyflawni ei botensial llawn, gan gynnwys nodi meysydd lle gellir hyrwyddo annibyniaeth. Yn ystod yr asesiad, sicrheir bod darparwyr yn gallu darparu gwasanaeth cynaliadwy. Mae'r prosiect hwn wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth wella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth, yn ogystal â chyflawni targed arbedion gwerth £1m yn ystod 2016/17. Darparodd Llywodraeth Cymru gyfran o'r Cyllid Gofal Canolraddol i bobl ag Anableddau Dysgu. Roedd un cynllun yn ariannu darpariaeth therapi ddynodedig yn yr uned asesu a thrin anableddau dysgu arbenigol gan nad oedd unrhyw therapyddion dynodedig yn yr uned hon. Roedd hyn yn golygu bod timau cymunedol yn gorfod gofyn am unrhyw asesiad neu ymyriad, ac roedd hyn yn aml yn arwain at oedi ac arosiadau hwy yn yr uned. Mae staff wedi'u recriwtio a rhagwelir y bydd ansawdd arhosiad claf, hyd ei arhosiad a'r broses ryddhau oll yn gwella, gan leihau'r risg o leoliad yn chwalu i'r defnyddwyr gwasanaeth. Cynllun arall i bobl ag anableddau dysgu oedd estyn y gwasanaeth ymddygiad arbenigol i wasanaeth saith niwrnod. Bydd hyn yn galluogi'r gwasanaeth i gefnogi gwasanaethau cymunedol drwy leihau'r angen am dderbyn i'r ysbyty y tu allan i oriau ac ar benwythnosau i'r unedau asesiadau acíwt . Bydd staff yn gallu cynnig gwasanaeth estynedig i gleifion a gofalwyr y tu allan i oriau craidd os bydd anawsterau ac angen dwysáu gofal. Mae'r tîm hwn sydd newydd ei sefydlu wedi derbyn adborth cadarnhaol ynghylch cefnogaeth y tu allan i oriau (penwythnos) gan gleifion a gofalwyr. Menter arall a ariannwyd gan y Gronfa Gofal Canolraddol yw cynllun ym Mhrifysgol Abertawe i ddatblygu cyfleoedd gwirfoddoli â chefnogaeth i bobl ag anableddau dysgu. Mae gwirfoddolwyr ag Anableddau Dysgu wedi cael eu recriwtio, ac mewn adborth diweddar, adroddodd cleifion a gofalwyr eu bod wedi sylwi bod y gwirfoddolwr wedi ennill sgiliau newydd, cynyddu eu hyder a gwella perthnasoedd ac roedd eu lles cyffredinol hefyd wedi gwella.
19
Sefydlodd Bwrdd Iechyd PABM y Bwrdd Comisiynu Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol. ac mae'n cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Dinas a Sir Abertawe, gofal sylfaenol a'r sector gwirfoddol. Mae'r Bwrdd Comisiynu Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu wedi cytuno ar ddatblygu tri fframwaith strategol ar y cyd, sy'n canolbwyntio ar wasanaethau iechyd meddwl i oedolion, gwasanaethau anableddau dysgu i oedolion a gwasanaethau i bobl â dementia. Yn ogystal, mae'r bwrdd wedi cytuno ar y pedwar maes blaenoriaeth canlynol, mynediad i wasanaethau, camddefnyddio sylweddau, lleoliadau preswyl a nyrsio drud a gwasanaethau asesu acíwt .
Eiriolaeth Dywed Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru fod yn rhaid i awdurdodau lleol drefnu i ddarparu eiriolwr proffesiynol annibynnol pan fydd person dim ond yn gallu goresgyn unrhyw rwystrau i gymryd rhan yn llawn yn y prosesau asesu, cynllunio gofal a chefnogaeth, adolygu a diogelu gyda chymorth gan unigolyn priodol, ond nid oes unigolyn priodol ar gael.
Eiriolaeth i Blant Mae uwch-swyddogion ym Mae'r Gorllewin wedi adolygu eu darpariaeth gwasanaeth bresennol ar gyfer eiriolaeth o ran sicrhau bod gwasanaeth eiriolaeth annibynnol ar gael i blant cymwys. Mae contractau gwasanaeth cyfredol ar waith gyda'r un darparwr gwasanaeth ym mhob un o ardaloedd awdurdodau Bae'r Gorllewin tan fis Mawrth 2017. Cytunwyd i fwrw ymlaen â rhoi rhaglen gomisiynu ar waith ar gyfer gwasanaeth eiriolaeth rhanbarthol sy'n seiliedig ar fabwysiadu'r ymagwedd genedlaethol.
Eiriolaeth i Oedolion Mae partneriaid Bae'r Gorllewin ar hyn o bryd yn gweithio gyda chefnogaeth Rhaglen Eiriolaeth Edau Euraidd Age Cymru a ddarperir gan Age Cymru ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru, i gefnogi partneriaid wrth gomisiynu eiriolaeth broffesiynol annibynnol i oedolion. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi sefydlu cynllun peilot cychwynnol ar gyfer eiriolaeth broffesiynol annibynnol (EBA) a gaiff ei gwerthuso er mwyn datblygu manylion gwasanaethau EBA a'r modd y cânt eu llunio yn y dyfodol. Mae'r gwaith ar gam cynnar yn Ninas a Sir Abertawe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Bwrdd Iechyd PABM.
Plant ag Anghenion Cymhleth O ganlyniad i gael cyllid o'r Gronfa Gofal Canolraddol, nodwyd ffrwd waith i ymgymryd ag asesiadau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau i blant ag anghenion cymhleth mewn gwasanaethau gofal a reolir ym Mae'r Gorllewin. Mae'r fethodoleg a ddefnyddir i adolygu unigolion mewn gofal i oedolion yn cael ei dreialu ar hyn o bryd gyda nifer bach o blant i asesu cryfderau, gwendidau a phriodoldeb defnyddio'r fethodoleg hon yn y maes gwasanaeth hwn. 20
Ariannwyd prosiect peilot gan y Gronfa Gofal Canolraddol sydd â'r nod o leihau'r effaith ar blant ethnig Tsieineaidd ag Anhwylder y Sbectrwm Awtistig (ASA) drwy wella'r ddealltwriaeth o awtistiaeth yn y gymuned Tsieineaidd a chefnogi'r teulu ag ASA i gael mynediad i ddarparwyr gwasanaeth lleol. Mae nifer o bobl hŷn ethnig Tsieineaidd wedi derbyn gwybodaeth a anfonwyd i aelwydydd a gwybodaeth a roddwyd ar y fforwm, ac mae rhai eisoes yn adrodd am well dealltwriaeth o awtistiaeth. Mae buddsoddiad o'r Gronfa Gofal Canolraddol wedi galluogi'r Tîm Plant Anabl yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi'i bartneru â'r gwasanaeth Atal a Lles a'r trydydd sector, i wella cyfleoedd seibiau byr a seibiannau i bobl ifanc anabl ag anghenion cymhleth, brodyr a chwiorydd a theuluoedd. Mae 10 - 12 sefydliad partner eisoes wedi ymroi i gymryd rhan yn y rhaglen, a rhagwelir bydd y rhaglen hon yn hwyluso mwy o bobl ifanc a theuluoedd i fanteisio ar gyfleoedd cymunedol ac ehangu eu rhwydweithiau cefnogi. Mae'r Gronfa Gofal Canolraddol wedi galluogi Dinas a Sir Abertawe i ariannu addasiadau i gartref gofalwr maeth er mwyn iddo allu cynnig seibiau byr i blant ag anableddau corfforol cymhleth. Mae cyllid hefyd wedi talu am hyfforddi staff y gwasanaethau cymdeithasol ym maes Adfer ar ôl Trawma a Chefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol i blant ag anableddau dysgu ac anghenion cymhleth yn Ninas a Sir Abertawe. Mae'r cyrsiau hyn wedi gwella sgiliau staff i allu gweithio gyda theuluoedd i fynd i'r afael ag ymddygiad a chefnogi teuluoedd i fagu gwydnwch a rheoli anghenion eu plant yn well. Mae'r prosiect Ymyriadau Blynyddoedd Cynnar yn gynllun arall a ariennir gan y Gronfa Gofal Canolraddol. Mae'n wasanaeth ataliol sy'n darparu ymyriadau cynnar i blant ag anableddau er mwyn sicrhau gwasanaeth sy'n fwy cynaliadwy ac yn llai dwys o ran argyfyngau yn y dyfodol. Mae'r cynllun wedi darparu cyfleoedd chwarae i blant 4 i 11 oed, a'r amcanion oedd gwella bywydau plant ifanc ag anableddau i'w galluogi i gael sgiliau cymdeithasol gwell, profiad o'r byd drwy chwarae, dysgu am sgiliau ar gyfer annibyniaeth yn y dyfodol a hefyd, wella bywyd teuluol drwy ddarparu gwasanaethau sy'n cynnig amser ar wahân. Byddai'r tîm yn gweithio gyda theuluoedd i hyrwyddo bwyta'n iach, annibyniaeth a lles. Mae Bwrdd Iechyd PABM wedi sefydlu'r Bwrdd Comisiynu Plant a Phobl Ifanc sy'n cynnwys partneriaid a rhanddeiliaid allweddol. Mae'r bwrdd wedi cytuno ar y tri maes blaenoriaeth trosgynnol canlynol ac mae rhaglen waith yn datblygu gydag amserlenni clir: Mae gan Blant a Phobl Ifanc iechyd a lles emosiynol da Lleihau'r bwlch mewn cerrig milltir datblygiadol ar draws y graddiant cymdeithasol i'r holl blant erbyn tair blwydd oed Cynyddu canran y babanod sy'n cael eu bwydo ar y fron adeg eu geni, pan fyddant yn chwe wythnos ac wedi hynny
21
Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd Gwasanaeth amlasiantaeth ar draws rhanbarth Bae'r Gorllewin yw'r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd (IFSS) sy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd y mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio arnynt. Mae'r gwasanaeth wedi bod yn weithredol ers 2013 ac mae wedi sefydlu cymorthfeydd ymgynghori ym mhob un o ardaloedd yr awdurdodau lleol. Lluniwyd y rhain i gynyddu ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol, a'u cynorthwyo wrth nodi atgyfeiriadau posib ac ymdrin â hwy. Mae llwyddiant y sesiynau hyn sy'n canolbwyntio ar atebion wedi arwain at ddatblygu ymgynghoriadau 'Gwerth Ychwanegol', y bwriedir iddynt gefnogi gweithwyr cymdeithasol sy'n ymdrin ag achosion lle nad yw'n glir a yw atgyfeiriad i'r GICD yn briodol. Mae sesiynau 'Gwerth Ychwanegol' yn helpu i nodi dulliau amgen o gynnwys teuluoedd, a chynnwys 'lle diogel' i staff ystyried yr hyn sy'n gweithio'n dda yn yr uned deuluol a pha gamau gweithredu sydd eu hangen i sicrhau'r canlyniad gorau ar gyfer y plentyn. Dyma rai o'r canlyniadau allweddol: Dros y 12 mis diwethaf, mae'r GICD wedi derbyn 107 o atgyfeiriadau (targed Llywodraeth Cymru ar gyfer Bae'r Gorllewin yw 100). O'r rhain, y brif broblem camddefnyddio sylweddau oedd cam-drin alcohol. Mae cyfanswm o 461 aelod o staff y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymryd rhan mewn cyfres o fodiwlau hyfforddiant GICD, gyda 130 yn cyflawni achrediad llawn.
Rhoi'r System Iechyd a Gofal Cymdeithasol Genedlaethol ar waith: System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (CCISC) Mae System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (CCISC) wedi'i chaffael yn genedlaethol i gefnogi trawsnewidiad y gwasanaethau Gofal Cymdeithasol, Iechyd Cymunedol, Iechyd Meddwl a Therapi ledled Cymru. Mae CCISC yn ateb unigryw a fydd yn caniatáu i awdurdodau lleol a gwasanaethau iechyd rannu cofnodion gofal a gwneud y gorau o wasanaethau i ddinasyddion ar draws Cymru. Mae partneriaid Bae'r Gorllewin yn ymrwymedig i roi prosiect cenedlaethol System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru ar waith fel rhanbarth. Gweithredodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel yr awdurdod arweiniol er mwyn caffael CCISC ac mae'n rheoli'r Prif Gytundeb Gwasanaethau ar ran Cymru gyfan. Pen-y22
bont ar Ogwr oedd yr awdurdod cyntaf i roi'r CCISC ar waith yn lleol gan wneud hynny'n llwyddiannus ar 26 Ebrill 2016. Bydd y system hon yn galluogi iechyd a gofal cymdeithasol i gael eu hintegreiddio ymhellach drwy rannu gwybodaeth a fydd yn sail i'r holl raglen waith ym Mae'r Gorllewin. Mae'r dyddiadau dangosol ar gyfer rhoi CCISC ar waith rhwng mis Rhagfyr 2017 a mis Chwefror 2019 ar hyn o bryd. Mae mwy o waith parodrwydd a chynllunio manwl bellach ar y gweill a chaiff dyddiadau rhoi ar waith eu cadarnhau unwaith y cânt eu cwblhau. Mae'r Gronfa Gofal Canolraddol wedi ariannu gweithgareddau parodrwydd sy'n cefnogi'r broses weithredu ar draws y rhanbarth.
Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Mae gwaith newydd ddechrau i ddatblygu Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig rhanbarthol a fydd yn gyson â'r model cenedlaethol sy'n cael ei gyflwyno yng Nghymru ar hyn o bryd. Bydd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ar gyfer pob oed, yn integredig, yn canolbwyntio ar ganlyniadau. Ei nod yw mynd i'r afael â'r bylchau a nodwyd yn yr ymgynghoriad cenedlaethol diweddar, er enghraifft gwasanaethau diagnosio ac asesu i oedolion, cefnogaeth ar gyfer problemau ymddygiad ac emosiynol, cefnogaeth ar gyfer problemau sy'n benodol i ASA a sgiliau bywyd a mynediad i gyfleoedd cymdeithasol a hamdden mewn cymunedau.
Gwasanaethau Rhanbarthol Sefydlwyd Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol Bae'r Gorllewin ers mis Chwefror 2015 ac mae wedi llwyddo i recriwtio mabwysiadwyr newydd a rhoi plant yng ngofal mabwysiadwyr. Er enghraifft, yn 2016/17 lleolwyd 65 o blant a chymeradwywyd 45 o fabwysiadwyr newydd (y ffigur ym mis Chwefror 2017). Cafwyd cydweithio yn y Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid, a sefydlwyd bwrdd Rheoli Gwasanaeth Ymyrryd yn Gynnar Cyfiawnder Ieuenctid Bae'r Gorllewin yn 2014 a phenodwyd Rheolwr Gwasanaeth a Rennir. Mae'r cydweithio wedi arwain at welliant mewn perfformiad drwy waith partneriaeth a thargedu adnoddau. Er enghraifft, mae nodi achosion yn gynnar er mwyn atal troseddu wedi cynyddu yn y flwyddyn ddiwethaf o 143 i 177. Mae hyn wedi cael effaith ar y rhai sy'n cael eu harestio ac yn mynd i'r ganolfan, gan leihau nifer y bobl ifanc o 389 i 312. Mae'r bobl ifanc hyn yn cael eu dargyfeirio o hyd, a'r effaith yn sgîl hyn yw bod gostyngiad yn nifer y bobl ifanc sy'n ymddangos gerbron y llysoedd, o 148 i 116.
Sefydlwyd y Byrddau Diogelu Plant ac Oedolion Rhanbarthol, ac maent wedi bod yn weithredol ers mis Ebrill 2013. Cymeradwywyd cynlluniau busnes a lluniwyd adroddiadau blynyddol.
23
Atal a Lles Egwyddorion y Fframwaith Atal Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cydnabod rĂ´l ganolog ymyrryd ac atal cynnar wrth ddarparu system iechyd a gofal cymdeithasol gynaliadwy. Yn ogystal, mae tystiolaeth gymhelloll yn genedlaethol ac yn rhyngwladol y gall ymyrryd yn gynnar, os caiff ei roi ar waith yn iawn, weithio i wella canlyniadau a chyflwyno manteision cost. Mae partneriaid Bae'r Gorllewin felly wedi cytuno ar nifer o egwyddorion o ran y gwasanaethau atal a lles, a'u mabwysiadu, a chytuno i nodi lle y gellir ymgorffori egwyddorion yn y broses cynllunio a chomisiynu gwasanaethau. Mae'r prosiect Gofal Rhagweledol, a gynhwyswyd yn gynharach yn yr adroddiad yn ymagwedd ataliol. Yn ogystal, mae'r Gronfa Gofal Canolraddol wedi ariannu nifer o gynlluniau ataliol, er enghraifft cydlynu'r ardal leol a ddisgrifir isod.
Mentrau Cymunedol Lleol: Bae'r Gorllewin Cydlynu Ardaloedd Lleol (CALl) - Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe Cydlynu Cymunedau Lleol (CCLl) - Pen-y-bont ar Ogwr Mae CALl a CCLl yn ymagweddau tymor hir, ataliol at gefnogi pobl (oedolion a phlant) y gallant fod yn unig, wedi'u heithrio neu sy'n wynebu heriau oherwydd eu hoed, eu hiechyd corfforol neu eu hiechyd meddwl. Mae'r sylfaen dystiolaeth wedi'i dogfennu'n dda, ac yn dangos bod CALl a CCLl yn grymuso pobl i gyflawni eu nodau lles personol drwy gydnabod bod unigolion ag anghenion gofal a/neu gefnogaeth yn cael eu cefnogi'n aml yn y fan a'r lle drwy wneud defnydd o'r cryfderau sydd y tu mewn iddynt hwy, eu teuluoedd a'u cymunedau. Ym Mae'r Gorllewin, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Dinas a Sir Abertawe yn cymeradwyo'r model 'Cymdogaethau Cynhwysol' o Gydlynu Ardaloedd Lleol. Mae ymagwedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei datblygu fel Cydlynu Cymunedau Lleol.
24
Pa wahaniaeth mae wedi'i wneud?
Mae tystlythyron Cydlynu Cymunedau Lleol ar gael ar y wefan www.lcc.community dan ‘Personal Stories’.
Astudiaeth Achos - Castell-nedd Port Talbot Emma Jones yw Cydlynydd Ardaloedd Lleol Castell-nedd Port Talbot ar gyfer ardaloedd Sgiwen, Longford a Mynachlog Nedd. Mae ei rôl yn cynnwys cefnogi pobl i adeiladu a datblygu eu gweledigaeth am fywyd da drwy ddod i adnabod y person, ei deulu a'r gymdogaeth a helpu unigolion i fagu hyder a theimlo cysylltiad â'u cymuned leol. Yma , mae'n dweud wrthym am ei thaith gyda Zoe, sy'n 19 oed, sy'n gwneud cynnydd gwych o ganlyniad i'r ffordd hon o weithio sy'n canolbwyntio ar y person... Mae Zoe yn 19 oed ac mae ganddi anableddau dysgu. Fe'i hatgyfeiriwyd at Gydlynu Ardaloedd Lleol gan ei meddyg ar ôl iddi dderbyn meddyginiaeth i drin iselder. Roedd Zoe'n treulio llawer o amser yn cysgu ac roedd wedi colli pob ysgogiad i gymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau cymdeithasol. Ar ôl i'r atgyfeiriad gael ei dderbyn, trefnais gwrdd â Zoe gartref, gan dreulio ychydig oriau'n sgwrsio â hi a'i mam am CALl a'i brif egwyddorion. I ddechrau, roedd Zoe'n nerfus ac yn amharod i sgwrsio, ond cyn bo hir ymlaciodd a dechrau siarad. Dywedodd Zoe ei bod yn teimlo'n isel a bod ei hwyliau'n newid yn gyflym drwy gydol y dydd; "Un funud, rwy'n teimlo'n iawn, a'r funud nesaf, yn isel iawn". Esboniodd, er ei bod wedi diflasu, doedd hi ddim yn gallu mynd i'r drafferth o wneud unrhyw beth ac roedd wedi colli hyder.
25
Yn ystod y drafodaeth, gofynnais i Zoe am y pethau roedd yn ymddiddori ynddynt a'r hyn fyddai'n gwella'i bywyd. Ar ôl ystyried hyn, dechreuodd Zoe nodi gweithgareddau yr hoffai roi cynnig arnynt. Roedd y rhain yn cynnwys gweithio gydag anifeiliaid a'u helpu, gwneud ei gwaith celf ei hun a gwneud rhywfaint o ymarfer corff. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, cwrddais â Zoe'n rheolaidd ac roeddwn wedi gallu datblygu perthynas gadarnhaol, ymddiriedus â hi. Roedd hyn wedi caniatáu iddi siarad am ei phroblemau, mynd i'r afael â rhai materion, chwalu rhwystrau a chynllunio'i gweledigaeth ar gyfer bywyd gwell. Gyda'n gilydd, roedden ni wedi gallu edrych ar gyfleoedd creadigol lle'r oedd yn gallu canolbwyntio ar ei diddordebau a mynd ar drywydd ei nodau. Cefnogais Zoe gyda'i chyflwyniadau gan dreulio amser gyda hi gyda'i holl weithgareddau nes iddi deimlo'n ddigon hyderus i'w gwneud yn annibynnol. Helpais Zoe hefyd i gysylltu â phobl ifanc eraill â diddordebau tebyg. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod bywyd Zoe wedi dechrau trawsnewid. Mae'n ymgymryd â nifer o weithgareddau sy'n helpu i gynyddu ei hyder a'i hysgogiad. Erbyn hyn, bydd wythnos nodweddiadol i Zoe'n cynnwys: Gwirfoddoli yng Nghanolfan Achub Anifeiliaid Llys Nini. Gwirfoddoli yn y 'Dognasiwm', lle mae ei rôl yn cynnwys mynd â chŵn am dro, eu bwydo a'u hyfforddi, yn ogystal â manteisio ar gyfleoedd hyfforddiant y sefydliad. Cymryd rhan mewn grŵp 'cerdded a siarad' cymunedol wythnosol newydd a sefydlwyd gan Gydlynu Ardaloedd Lleol mewn partneriaeth â'r prosiect 'Go Green for Health’. Creu ei gwaith celf ei hunan fel rhan o fenter 'uwchgylchu' Celf a Dysg y Ddraig. Mae Zoe wedi cyflawni cymaint ac mae wedi bod yn wych gweld hyn. Mae wedi mynegi diddordeb yn ddiweddar mewn dechrau chwarae rygbi, felly ein cynllun nesaf yw dod o hyd i dîm rygbi menywod lleol er mwyn iddi roi cynnig arno. Does dim modd rhoi stop arni nawr!
26
Astudiaeth Achos - Abertawe Yng ngeiriau Ronan Ruddy, Cydlynydd Ardal Leol Cwrddais â Barbara am y tro cyntaf ym mis Hydref, ar ôl cael y cyflwyniad gan ei meddyg teulu. Mae'n ofalwr i'w mab sy'n oedolyn y bu'n rhaid iddo fynd i'r ysbyty'n ddiweddar. Roedd ei gŵr wedi marw deng mis cyn hynny. Roedd hi'n cael anhawster ymdopi. Treuliais amser hir gyda Barbara y tro cyntaf i mi ymweld â hi. Roedd ganddi ddigon ar ei phlât ac roedd angen rhywfaint o help arni. Ers colli ei gŵr, roedd wedi dod yn unig iawn. Mae gan ei mab, sy'n 50 oed, anhawster dysgu a phroblemau alcohol. Roedd wedi gorfod mynd i'r ysbyty'n ddiweddar gyda gwaedlif ar ei ymennydd. Roedd hi'n poeni'n fawr amdano ac yn y broses o drefnu ei fflat wag ac ymdrin â llawer o'i ohebiaeth. Mae ei merch yn byw yn Lloegr ac yn galw heibio pan fydd yn gallu gwneud hynny. Y peth cyntaf y gwnaethon ni gyda'n gilydd oedd mynd trwy'r pentwr o bost roedd ei mab wedi'i dderbyn a helpais i hi i'w ddarllen a'i ddeall. Roedd hi'n cael peth anhawster wrth ddarllen y post, hyd yn oed gyda'r cymhorthion oedd ganddi. Trafodais hyn gyda hi a dywedodd bod ei golwg wedi gwaethygu'n ddiweddar. Dywedodd hefyd ei bod wedi llosgi ei hun wrth lenwi potel dŵr twym. Penderfynom wneud atgyfeiriad i'r Tîm Synhwyraidd a fyddai'n gallu ei hasesu a rhoi cyngor a chymhorthion ychwanegol iddi i sicrhau ei bod yn gallu gweld yn well ac aros yn ddiogel. Dywedodd hefyd y byddai'n cysylltu â Specsavers a gofyn iddynt am brawf llygaid newydd, er mwyn cael chwyddwydr cryfach i ddarllen. Yn ystod y tasgau hyn, roedd Barbara'n siarad amdani hi ei hun a'i hanes. Roedd wedi bod yn gantores boblogaidd iawn ac wedi ennill cystadleuaeth yn yr Eisteddfod deirgwaith pan oedd yn ferch ifanc. Roedd bob amser wedi mwynhau gweithio ac roedd yn siaradwr Cymraeg brwd. Roedd yn mwynhau mynychu ei heglwys leol yn fawr ond doedd hi ddim wedi bod yno ers tro am fod cymaint ganddi ar ei meddwl. Roedd hi'n gweld eisiau ei gŵr yn fawr ers iddo farw. Atgyfeiriais Barbara i'r gwasanaeth cwnsela yn y Ganolfan Gofalwyr ar ôl iddi ddweud wrtha i gymaint o ryddhad oedd hi i gael rhywun i siarad ag ef am ei phroblemau â'i mab a chymaint yr oedd o fudd iddi. Roeddwn i'n credu y byddai rhywun ag arbenigedd cwnsela'n gallu rhoi gwasanaeth gwych iddi, a fyddai'n cael budd ar unwaith. Adroddodd fod y cwnselwr wedi'i helpu llawer. Ym mis Ionawr, roedd hi'n amser i fab Barbara adael yr ysbyty a symud i leoliad byw â chymorth. Siaradais â merch Barbara pan gafwyd pryderon am hyn. Roedd ei hwyliau'n amrywio ac roedd yn anodd dweud ai dyma'r hyn yr oedd ei eisiau neu beidio, ac a oedd yn addas iddo. Doedden nhw ddim yn teimlo bod ganddynt linellau cyfathrebu da â'r gweithiwr cymdeithasol hwn, ac roedd Barbara'n arbennig yn teimlo nad oedd hi'n cael y diweddaraf ar yr hyn oedd yn digwydd. Cysylltais â'r gweithiwr cymdeithasol a siarad ag ef am sut roedd Barbara'n teimlo, a dywedodd nad oedd wedi sylweddoli hyn. Cysylltodd ef â hi ar unwaith a thrafod rhai pethau gyda hi. 27
Ymwelais â'i mab yn yr ysbyty hefyd, ac roedd e'n hynod falch o hyn am nad oedd yn cael unrhyw ymwelwyr. Symudodd i'r lleoliad byw â chymorth, a hyd yn hyn, mae pethau wedi bod yn iawn, gyda rhai mân bryderon yn dod i'r amlwg. Bydd gwybod bod ei mab yn byw yn rhywle diogel lle mae'n hapus yn mynd â'r baich oddi ar feddwl Barbara. Mae tîm Cydlynu Ardaloedd Lleol Abertawe hefyd wedi creu fideo sy'n disgrifio'r model a'r buddion i unigolion a chymunedau:
https://www.youtube.com/watch?v=8R8nSUx7Ufo Comisiynwyd gwerthusiad ffurfiannol o flwyddyn gyntaf gweithredu Cydlynu Ardaloedd Lleol (yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot a Chydlynu Cymunedol Lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr) gan Bartneriaeth Ranbarthol Bae'r Gorllewin ac fe'i cynhaliwyd gan Sefydliad Gwyddorau Bywyd Prifysgol Abertawe. Mae'r gwerthusiad yn canolbwyntio ar y modd y sefydlir gweithgareddau cychwynnol y mentrau hyn, gyda ffocws penodol ar ganlyniadau sy'n dod i'r amlwg ar gyfer unigolion, cydlynwyr a chymunedau, arwyddion cynnar o gostau/buddion ariannol a sefydlu rhwydweithiau cymunedol. Mae'r gwerthusiad yn dangos bod CALl/CCLl yn mynd i'r afael ag amrywiaeth eang o faterion cymdeithasol a phersonol, a bod cydlynwyr yn ychwanegu gwerth ychwanegol ar draws ystod o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus. Mae'r canfyddiadau o'r gwerthusiad ffurfiannol yn cefnogi tystiolaeth ymchwil o safleoedd Cydlynu Ardaloedd Lleol eraill yn y DU (a Gorllewin Awstralia). Mae pobl yn adrodd eu bod yn teimlo'n fwy cysylltiedig, yn llai unig ac yn fwy gobeithiol ar gyfer y dyfodol. Caiff galwadau am gefnogaeth gweithiwr cefnogi eu hosgoi, ceir llai o ymweliadau diangen â'r meddyg teulu a llai o alwadau ar y gwasanaethau iechyd meddwl. Mae'r gwerthuswyr wedi gwneud cyfres o argymhellion ar draws y themâu ar gyfer datblygu CALl/CCLl ymhellach yn rhanbarth Bae'r Gorllewin.
Darparu Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) Mae Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i'r gronfa ddata Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth Cenedlaethol, sef DEWIS Cymru. Mae Castell-nedd Port Talbot yn defnyddio'i System Gwybodaeth i Deuluoedd (GiD). Mae sefydliadau'r trydydd sector yn defnyddio cronfa ddata gwybodaeth o'r enw Info-engine, ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i sefydlu cysylltiadau rhwng DEWIS Cymru ac Info-engine. Lansiwyd cynllun peilot 111 Cymru ym mis Hydref 2016 gan Fwrdd Iechyd PABM, ac mae bellach ar waith ar draws holl ranbarth Bae'r Gorllewin. 111 yw'r rhif newydd i'w ffonio am ddim i bobl gael mynediad i gyngor ar iechyd gan y gweithiwr proffesiynol cywir yn yr amser cyflymaf posib, ac mae'n rhan o gynllun i wella gofal brys, ac annisgwyl. 28
Mae grŵp Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) rhanbarthol sy'n cynnwys swyddogion o'r holl sefydliadau partner wedi cael ei sefydlu hefyd er mwyn datblygu egwyddorion rhanbarthol ar gyfer IAA a chytuno arnynt, i sicrhau cysondeb ymagwedd ar draws rhanbarth Bae'r Gorllewin.
Cynllun Peilot Cyd-gynhyrchu ar gyfer y Gwasanaeth IAA Ymgymerwyd â chynllun peilot i gyd-gynhyrchu llunio a datblygu gwasanaethau IAA ar gyfer Dinas a Sir Abertawe er mwyn treialu'r ymagwedd a rhannu'r canlyniadau a'r egwyddorion â'r partneriaid eraill. Roedd hyn yn cynnwys gweithio'n gyd-gynhyrchiol gydag amrywiaeth o randdeiliaid er mwyn gwella lles pobl ag anghenion gofal cymdeithasol. Roedd y cynllun peilot wedi llunio cyfres o ganlyniadau ac egwyddorion a luniwyd ar y cyd a gaiff eu defnyddio i gyfeirio bwriadau comisiynu a dylunio gwasanaethau yn y dyfodol. Yn ogystal, mae arweiniad comisiynu mewn perthynas â chyd-gynhyrchu ac ail-lunio gwasanaethau'r gwasanaeth IAA wedi cyfeirio'r broses yn Abertawe. Mae partneriaid Bae'r Gorllewin wedi cytuno i fabwysiadu egwyddorion cyd-gynhyrchu a chanfyddiadau ail-lunio'r IAA ar draws y rhanbarth.
Parhau i wella integreiddio a gwaith partneriaeth Digwyddiad Grymuso Pobl drwy Arfer Blaengar Ddydd Gwener 21 Hydref 2016, daeth gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol o Ben-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe ynghyd i ddathlu cyflawniadau prosiect Contractio a Chaffael y rhaglen. Roedd y digwyddiad, â'r teitl 'Grymuso Pobl drwy Arfer Blaengar' yn cynnwys siaradwyr gwadd a oedd yn cynrychioli pob un o sefydliadau partner Bae'r Gorllewin a rannodd eu profiadau o ddulliau mabwysiadu blaengar i gynnwys a chefnogi unigolion sy'n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol. Ers ei gychwyn yn 2014, mae'r prosiect wedi cael effaith sylweddol ar fywydau defnyddwyr gwasanaeth ar draws y rhanbarth. Mae cyflwyno comisiynu sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau wedi galluogi asiantiaid newid Bae'r Gorllewin i weithio'n agos gyda darparwyr gofal i adolygu cynlluniau gofal presennol sy'n bod i nodi cyfleoedd datblygu a sicrhau bod anghenion a dyheadau personol defnyddwyr gwasanaeth yn aros wrth wraidd darparu gofal. Roedd agenda amrywiol y digwyddiad yn cynnwys: Cyflwyniad rhyngweithiol gan Sarah Day a Melys Phinnemore o Practice Solutions, a gyflwynodd eu menter ddigidol ‘SeeMe’, sy'n annog defnyddwyr gwasanaeth i greu eu proffil fideo eu hunain sy'n amlinellu eu nodau lles 29
personol, yn ogystal â'u gobeithion a'u dyheadau o ran eu hanghenion cefnogaeth. ‘Putting People and Innovation back into Commissioning’ - prif araith gan Jon Skone, cynghorydd ar gyfer Alder Advice ac aelod panel gyda Chyngor Gofal Cymru. Sesiwn weithdy fer, lle gofynnwyd i gyfranogwyr rannu eu barn ar yr hyn a glywyd ganddynt yn ystod y sesiwn, nodi rhwystrau i flaengaredd a gwneud awgrymiadau ar gyfer arferion gweithio mwy arloesol ac sy'n canolbwyntio'n fwy ar y person. Cyfres o straeon digidol a oedd yn hyrwyddo gweithio sy'n canolbwyntio ar y person ar draws y rhanbarth. https://www.youtube.com/watch?v=YsfrJh2nnyE https://www.youtube.com/watch?v=UxJYX0MYAXs&t=33s https://www.youtube.com/watch?v=6otBlt1fO5k&t=15s
Datblygu Modelau Cyflwyno Amgen Mae buddsoddiad o'r Grant Cyflwyno Trawsnewid ar gyfer Bae'r Gorllewin wedi ariannu tair swydd ar gyfer Swyddog Menter Gymdeithasol. Eu rôl yw canolbwyntio ar gefnogi datblygiad mentrau cymdeithasol sy'n cael effaith gadarnhaol ar flaenoriaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae'r Gorllewin, a helpu i gefnogi gwasanaethau, cyfleoedd a gweithgareddau newydd a fyddai'n gwella lles personol ac yn cyflwyno yn erbyn darpariaethau'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar ddatblygu cefnogaeth ac adeiladu gallu ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector, gan helpu i wella cynaladwyedd a datblygu gwasanaethau lleol ychwanegol i ddiwallu anghenion iechyd a lles dinasyddion. Mae'r cynllun wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y blynyddoedd blaenorol, gyda nifer mawr o sefydliadau'n cael eu cefnogi. Mae darparwyr presennol hefyd wedi derbyn cefnogaeth i greu gwasanaethau a mentrau newydd. Mae Surfability UK CIC, sy'n cynnig mentrau chwaraeon i wella galluoedd pobl ag anableddau er budd i'w hiechyd a'u lles, wedi derbyn gwybodaeth, help a chyngor ar gyllid. Mae Canolfan Iechyd a Lles Ystalyfera wedi derbyn cefnogaeth ddwys i helpu i sicrhau bod yr ased yn cael ei drosglwyddo i berchnogaeth newydd sefydliad sy'n ymddiriedolaeth ddatblygu leol. Mae Canolfan Wybodaeth Gymunedol The Food Shed, sy'n darparu dros 80 o brydau'r dydd ac yn cyflogi staff o bob cwr o Gastellnedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, wedi derbyn cyllid a chefnogaeth AD. Enillodd y fenter hon wobr 'Busnes y Flwyddyn' y Fforwm Busnes yn ddiweddar. Caiff adroddiad gwerthuso a chanlyniadau sy'n cynnwys astudiaethau achos ei gyhoeddi cyn bo hir.
Gweithlu Cynhaliwyd cryn dipyn o hyfforddiant ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol yn y sector Iechyd, awdurdodau lleol a darparwyr gofal preifat ar draws Bae'r Gorllewin o 30
ran Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), gan gynnwys hyfforddiant ymwybyddiaeth, hyfforddiant ar fodiwl craidd y Ddeddf a hyfforddiant ar feysydd penodol, megis eiriolaeth. Cynhaliwyd gweithdai 'Hyfforddi'r Hyfforddwr' y llynedd, ac yn dilyn hyn, cyflwynwyd hyfforddiant i gyfarwyddo staff gofal mewn awdurdodau lleol a'r sector preifat. Rheoleiddio ar gyfer Canlyniadau Llwyddiannus Ar 15 Chwefror 2017, daeth darparwyr gofal o Ben-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe ynghyd ar gyfer y digwyddiad rhanbarthol 'Rheoleiddio ar gyfer Canlyniadau Llwyddiannus'. Prif ffocws y digwyddiad, a gyflwynwyd gan Grŵp Llywio Datblygu Gweithlu'r Bae'r Gorllewin, oedd deddf newydd Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a'r newidiadau a ddaw yn ei sgîl i ddarparwyr gofal. Roedd yr agenda lawn yn cynnwys prif areithiau gan gynrychiolwyr o Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) a Chyngor Gofal Cymru, yn ogystal â seicolegydd busnes enwog sy'n arbenigo mewn rheoli newid. Roedd gan gynrychiolwyr y cyfle hefyd i gymryd rhan mewn sesiwn cwestiwn ac ateb gyda phanel o weithwyr proffesiynol.
Cyfathrebiadau'r Rhaglen Mae cynllun gwaith Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys dynodedig Bae'r Gorllewin wedi cynnwys: Datblygu Strategaeth Gyfathrebu ar gyfer y rhaglen, yn ogystal â strategaeth ychwanegol sy'n ymwneud â hyrwyddo Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar draws y rhanbarth. Roedd y Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys yn aelod o Grŵp Llywio Cyfathrebu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Llywodraeth Cymru a grëwyd yn 2015 i ddatblygu a goruchwylio cyflwyno'r ymgyrch cynyddu ymwybyddiaeth genedlaethol ar gyfer y ddeddf. Llunio cylchlythyr dwyieithog chwarterol sy'n amlygu cynnydd prosiectau a ffrydiau gwaith Bae'r Gorllewin, ac yn hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol i ddefnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd. Mae'r degfed rhifyn yn cael ei lunio'n awr a bwriedir ei ddosbarthu ar ddiwedd mis Ebrill 2017. Rheoli cynnwys gwefan Rhaglen Bae'r Gorllewin, ysgrifennu cofnod clir a chryno sy'n disgrifio prif feysydd gwaith y rhaglen, dod o hyd i adnoddau hyfforddiant/deunyddiau dysgu sy'n ymwneud â Deddf 31
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a drafftio eitemau 'Y Newyddion Diweddaraf' o bob cwr o'r rhanbarth. Cysylltu ag arweinwyr cyfathrebu a chydweithwyr perthnasol eraill o sefydliadau cyfansoddol Bae'r Gorllewin i hyrwyddo'r agenda integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol a chynyddu ymwybyddiaeth o'r rhaglen. Mae hyn ar ffurf bwletinau a datganiadau i'r wasg i'w cyhoeddi ar wefannau mewnol ac allanol y partneriaid. Cynorthwyo gyda threfniadau a goruchwylio hyrwyddo digwyddiadau i randdeiliad Bae'r Gorllewin (e.e. ymweliadau gan Weinidogion, sesiynau gweithdy Panel Dinasyddion Bae'r Gorllewin). Mae'r swyddog hefyd wedi paratoi byrddau arddangos gweledol sy'n amlinellu gwaith y rhaglen. Arddangoswyd y rhain yng nghynhadledd ADSS Cymru (mis Mehefin 2016) ac yn y digwyddiad Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn Theatr y Grand Abertawe (mis Hydref 2016) Hyrwyddo gweithgareddau'r rhaglen/profiadau defnyddwyr gwasanaeth yn ddigidol drwy sianel YouTube ‘Western Bay TV’ (www.youtube.com/channel/UCsOWHVVBy63xWHXHfNLXDxg). Mae'r Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys yn gyfrifol am recordio a golygu'r holl gynnwys fideo gan ddefnyddio camera â gallu fideo DSLR a meddalwedd golygu Movie Maker.
32