1 minute read

Gweithgaredd Ymarfer Cynllunio a Threfnu

Cynllunio a chreu blog cydweithredol

Senario

Mae Cymru yn wynebu sawl her nawr ac yn y dyfodol. Er mwyn mynd i’r afael â’r rhain, mae angen i bob un ohonom gydweithio i ymdrin â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Un o’r nodau yw datblygu llesiant diwylliannol Cymru, gan sicrhau diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Mae’r nod hwn yn ceisio creu cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant a threftadaeth Cymru a’r Gymraeg. Gallai hyn gynnwys y celfyddydau, chwaraeon, a hamdden.

Yn y gweithgaredd hwn, byddwch yn cydweithio mewn grŵp â 3–6 aelod i gynllunio a chreu blog yn hyrwyddo llesiant diwylliannol

Cymru . Caiff blogiau eu defnyddio i ymchwilio i syniadau newydd neu i ddangos pynciau y mae’r awdur yn frwd drostynt. Fel arfer bydd blog yn cynnwys elfennau ysgrifenedig a gweledol wedi’u cyflwyno mewn fformat hawdd ei ddeall.

Rhaid i’ch blog:

• fod yn ddynamig ac yn ddiddorol

• cynnwys deunydd amrywiol gan gyfranwyr gwahanol

• cynnwys delweddau a/neu fideos.

Y nod yw sbarduno ymateb ac annog pobl i ryngweithio. Dilynwch y linc isod (yn Saesneg) ac edrychwch ar rai o’r blogiau.

BBC Media Action – Blog

I lwyddo yn y dasg hon, bydd angen i chi ddangos sgiliau cynllunio a threfnu effeithiol.

This article is from: