1 minute read
Gweithgaredd Ymarfer Creadigrwydd ac Arloesi
Creu cynrychiolaeth ddigidol o un o nodau’r Cenhedloedd Unedig
Senario
Ar gyfer y gweithgaredd hwn, bydd angen i chi greu collage digidol o’r hyn y mae un o Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yn ei olygu i’ch grŵp.
Mae’r 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy yn darparu cynllun o heddwch a ffyniant i bobl a’r blaned, heddiw ac ar gyfer y dyfodol. Maent yn cydnabod bod yn rhaid i ymdrechion i roi diwedd ar dlodi ac enghreifftiau eraill o amddifadedd fynd law yn llaw â strategaethau sy’n gwella iechyd ac addysg, yn lleihau cydraddoldeb, ac yn ysgogi twf economaidd – ochr yn ochr â mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a gweithio i warchod ein cefnforoedd a’n coedwigoedd.
Math o gelfyddyd gweledol yw collage lle caiff elfennau gweledol eu cyfuno i greu delwedd newydd sy’n cyfleu neges neu syniad. Gan ddefnyddio gwahanol fathau o gyfryngau, gallwch greu rhywbeth hollol wahanol i’r hyn a oedd gennych ar y dechrau.
Mae hwn yn gyfle gwych i ddefnyddio eich creadigrwydd a’ch arloesedd. Bydd angen i chi wneud defnydd o amrywiaeth o sgiliau i gwblhau’r dasg hon yn llwyddiannus.
Profi Sgiliau Penodol
Creadigrwydd ac Arloesi
3.3 – Creu cysylltiadau rhwng gwahanol wybodaeth i gefnogi deilliannau.
3.4 – Defnyddio meddwl creadigol i ddadansoddi gwybodaeth a syniadau.
3.8 – Datblygu dulliau cyfathrebu arloesol sy’n briodol i’r gynulleidfa.
Tasgau
Tasg 1
Tasg 2
Tasg 3
1. Cysyniad cychwynnol – Penderfynwch pa un o nodau’r Cenhedloedd Unedig yr hoffech ei gyflwyno mewn collage digidol ac ymchwiliwch i’r nod er mwyn meithrin dealltwriaeth. Sut y byddwch chi’n cyflwyno eich collage digidol?
Beth am ystyried sut i gynhyrchu eich collage gan ddefnyddio Prezzi, Canva, Sway, ac ati?
Ewch ati i ddwyn ynghyd y wybodaeth a’r syniadau rydych wedi’u casglu y gellid eu defnyddio yn y collage digidol a chrëwch gysylltiadau rhyngddynt.