2 minute read
Gweithgaredd Ymarfer Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau
Ysgrifennu erthygl berswadiol
Senario
Llongyfarchiadau! Rydych chi wedi cael swydd yn ysgrifennu i’ch hoff wefan newyddion.
Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi amlinellu 17 o Nodau Datblygu
Cynaliadwy, sy’n cydnabod bod yn rhaid i ymdrechion i roi diwedd ar dlodi ac enghreifftiau eraill o amddifadedd fynd law yn llaw â strategaethau sy’n gwella iechyd ac addysg, yn lleihau cydraddoldeb, ac yn ysgogi twf economaidd – ochr yn ochr â mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a gweithio i warchod ein cefnforoedd a’n coedwigoedd.
Nod y gweithgaredd hwn yw tynnu sylw at un o nodau’r Cenhedloedd Unedig yn ogystal â bod yn berswadiol a chyflwyno erthygl sy’n ysgogi meddwl.
Rydych chi wedi cael y dasg o ysgrifennu erthygl yn seiliedig ar Nod 11: ‘Sicrhau bod dinasoedd ac aneddiadau pobl yn gynhwysol, yn ddiogel, yn gadarn ac yn gynaliadwy’.
Dewiswch ddinas y tu allan i Gymru ar gyfer eich erthygl.
Rhaid i’ch erthygl gynnwys y canlynol:
• pennawd ystyrlon
• dim mwy na 1000 o eiriau
• o leiaf bedair ffynhonnell
• cyfeiriadau priodol.
Dinasoedd A Chymunedau Cynaliadwy
Dylai eich erthygl drafod un o’r pynciau sy’n rhan o Nod 11 (er enghraifft, trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch a chynaliadwy, ansawdd aer, a rheoli gwastraff). Bydd angen i chi ymchwilio i amrywiaeth eang o wybodaeth eilaidd, gwerthuso ei hygrededd, a nodi unrhyw duedd a thybiaeth. Mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cyfosod eich gwybodaeth a bod eich pwyntiau allweddol yn amlwg. Mater i chi yw canfod ble mae’r nod hwn yn cael ei gyflawni, ble nad yw’n cael ei gyflawni, a pha ateb y gellid ei ddefnyddio i gyflawni targed y nod.
Gwyliwch y fideo canlynol (yn Saesneg) i gael awgrymiadau ar sut i ysgrifennu stori newyddion.
How to write a news story
Mae hwn yn gyfle gwych i arddangos eich doniau newyddiadurol. Bydd angen i chi wneud defnydd o amrywiaeth o sgiliau i gwblhau’r dasg hon yn llwyddiannus.
Profi Sgiliau Penodol
2.1 – Defnyddio cwestiynau ystyrlon i fynd i’r afael â phroblemau cymhleth.
2.3 – Dethol gwybodaeth briodol drwy werthuso hygrededd yn feirniadol ac adnabod tuedd a thybiaethau.
2.4 – Dadansoddi gwybodaeth gymhleth a chynnig pwyntiau allweddol.
2.6 – Gwneud defnydd manwl gywir o ddull academaidd o gyfeirnodi.
2.7 – Llunio ymatebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn berswadiol ac yn argyhoeddiadol.
2.8 – Cynnig datrysiadau priodol a’u cyfiawnhau.
Tasg 1
Tasg 1
Tasg 2
Tasg 3
Tasg 3
Tasg 3
Meini Prawf
Mae amodau ar gyfer eich erthygl: a. Mae’n rhaid i’r pennawd ofyn cwestiwn ystyrlon; un y bydd yr erthygl yn ceisio ei ateb. b. Ni ddylai eich erthygl fod yn hirach na 1000 o eiriau, a dylid ei hysgrifennu â brawddegau llawn. c. Dylid defnyddio o leiaf bedair ffynhonnell. Gallai’r rhain fod yn ffynonellau o unrhyw fath (fideo, erthygl newyddion, cyfnodolyn).
Tasgau
1. Ymchwilio – Bydd angen i chi ymchwilio i ffynonellau posibl i’w defnyddio yn eich erthygl. Cofiwch, mae angen i’r erthygl hon fod yn berswadiol a bydd angen i chi ddefnyddio dadleuon sy’n dangos yr agweddau cadarnhaol a negyddol – ceisiwch beidio â bod yn unochrog.
• Meddyliwch am bennawd drwy ofyn cwestiwn ystyrlon.
• Dewiswch ffynonellau gwybodaeth priodol a chredadwy.
Pa mor briodol a dibynadwy yw’r ffynonellau rydych chi wedi eu dewis yn ystod eich ymchwil?
2. Dadansoddi – Dadansoddwch y wybodaeth a dewiswch y pwyntiau allweddol yr hoffech eu gwneud yn yr erthygl.
• Nodwch unrhyw duedd a thybiaethau.
Ydych chi wedi defnyddio unrhyw un o’r canlynol: RURU, CRAPP, PESTLE, STEEPLE a PRESTLE?
3. Llunio eich erthygl – Gan ddefnyddio’r dystiolaeth, lluniwch yr erthygl gan ysgrifennu hyd at 1000 o eiriau.
• Defnyddiwch ddadleuon perswadiol ac argyhoeddiadol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
• Defnyddiwch dechneg cyfeirio gywir.
• Cynigiwch ateb i’r cwestiwn a ofynnir yn eich pennawd a’i gyfiawnhau.