Y Selar - Tachwedd 2004

Page 1

AM DDIM! RHIFYN 1TACHWEDD 2004

YDY’CH HOFF ALBYM CHI O 2004 YN CYRRAEDD DEG UCHAF Y SELAR ?

SIBRYDION BAND NEWYDD, GWYNEBAU CYFARWYDD! TU MEWN

YR ANHREFN . MATTOIDZ . FRIZBEE . GOGZ . WINABEGO A LLAWER MWY !


4


LLUN CLAWR: SIBRYDION ^

FFOTOGRAFYDD: OWAIN LLYR

4

10 ALBWM 2004

8

OS DIO’N GACHU DIO DDIM YMA!

... YN Y SELAR

MATTOIDZ YR ANHREFN WINABEGO GOGZ TEXAS RADIO BAND LLYFU TIN

GOLYGYDD

^

SWN MAWR Y SIBRYDION CYFWELIAD ECSGLIWSIF

11

GIGS! Y SELAR YN GLUSTIAU I GYD

GOLYGYDDOL elo, a chroeso i’r Selar, cylchgrawn newydd sbon am gerddoriaeth Gymraeg. Ein bwriad ni yma yn Y Selar yw darparu cylchgrawn hynod ddiddorol, o’r safon uchaf posib, i lenwi’ch pennau gwag chi gyda pob math o straeon, newyddion, adolygiadau a chyfweliadau am unrhyw un neu beth sy’n gysylltiedig â cherddoriaeth Gymraeg, Tu mewn i gloriau godidog y rhifyn yma fe gewch chi gyfweliad gyda’r Sibrydion,

H

band y byddwch chi’n sicr o glywed mwy amdanynt yn y flwyddyn newydd. Cewch hefyd weld os ydy eich hoff albwm chi o 2004 yn cyrraedd 10 uchaf Y Selar, ac os ydych chi wedi bod mewn gig ym mis Hydref a methu cofio diawl o ddim, mae’n debygol iawn y bydd un o sbeis Y Selar wedi bod yno hefyd, yn aros yn eiddgar gyda’i beiro’s i werthuso’r cyfan a’ch hatgoffa. Rydyn ni’n chwilio am fwy o gyfranwyr, felly os oes gennych

ddiddordeb mewn cyfrannu i’r Selar mewn unrhyw ffordd, cysylltwch a ni, mae’r manylion i gyd ar waelod y dudalen hon. Mwynhewch weddill y cylchgrawn, mae’n rhaid i fi fynd nawr, mae’r gwaith yn dechrau’n barod ar rhifyn mis Ionawr....wel...fyddai nol o Barbados ddiwedd Rhagfyr ok ?! Saff !

WELAI CHI FLWYDDYN NESA ! Y GOLYGYDD

Owain Morgan-Jones

IS-OLYGYDD Llinos Wyn

CYFRANWYR Owain Llyr, Lynsey Anne, Hefin Jones, Non Tryfil, Trystan Pritchard, Geraint, Shon Williams, Rhys Wynne, Alun Chivers,

OS AM ANFON DEMO, LLYTHR, NEU UNRHYW BETH ARALL, Y CYFEIRIAD YW : Y Selar, Llawr Un, Canolfan Sain, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd LL54 5TG NEU E-BOSTIWCH GOLYGYDD@YSELAR.COM NEU EWCH I’N GWEFAN WWW.YSELAR.COM Cynhyrchwyd gan gwmni RASAL Cyf, ariannwyd gan grant gan y Cyngor Llyfrau Cenedlaethol. Y SELAR 3


BLWYDDYN O SWN!

^

4 Y SELAR

DYDW I DDIM YN CREDU FOD ANGEN PWYSLEISIO PA MOR LLWYDDIANNUS A CHYFFROUS YDI HI YN Y SIN ROC GYMRAEG AR HYN O BRYD. RHYDDHAWYD RYW 35 O RECORDIAU ELENI GYDA MWY AR Y GORWEL, I’W GYMHARU GYDA LLAI NA 10 ALBWM LLYNEDD. MAE’R SIN YN DIPYN MWY IACH A CHYSTADLEUOL ERBYN HYN A DYNA PAM ROEDD HI’N SYNIAD YSGRIFENNU AM DDEG O’R ALBYMS (NID BOCS SETS!) GORAU SYDD WEDI EU RHYDDHAU ELENI. PLESER OEDD CAEL Y TRAFFERTH I DDEWIS Y 10 UCHAF GAN FOD CYMAINT O ALBYMS SAFONOL WEDI’U RHYDDHAU.

10 2004 ALBYM GORAU

HIRNOS - FRIZBEE RECODIAU CÔSH Albwm gyntaf y band newydd yma yw ‘Hirnos’. Heb os, ‘Big Leaves’ yw dylanwad pennaf y band yma ac yn anffodus mae ambell drac gan Frizbee yn rhy debyg i ganeuon fel ‘Meillionen’. Ond, er hynny, rydw i'n dal i fwynhau ‘Hirnos’. Mae’n albwm syml a melodig iawn. Un o fy ffefrynnau yw ‘Da ni Nol’, a chredaf y gall y gân yma fod mor boblogaidd a ‘Ty ar y mynydd’ gan ‘Maharishi’. Mae’n amlwg fod yna frwdfydedd a thalent yma, a hyderaf y bydd erbyn eu halbym nesaf bydd gan Frizbee ei steil pendant eu hunain.,

10

MIWSIG I'CH TRAED A MIWSIG I'CH MEDDWL - LO CUT A SLEIFAR BOOBYTRAP Dyma ni, hanes yn cael ei greu unwaith eto ar ffurff hip hop Cymraeg i herio grwpiau eraill. Mae Steffan Cravos yn ffigwr amlwg sydd, ar hyd y blynyddoedd, wedi herio'r system mewn modd deallus drwy ei rapio, ond mae Curig Huws yn newydd i berfformio fel rapiwr a dyma sy'n gwneud y prosiect yma mor ddiddordol. Un peth wnaeth i mi wenu oedd cychwyn direidus yr albwm. Mae'n bleser gweld fod comedi wedi dychwelyd i'r sîn a hynny law yn llaw â’r pynciau dwys sydd hefyd yn cael eu trafod ar yr albwm. Mae’n amlwg fod Cravos yn parhau i herio'r system yn ‘Sefyll fel un’ tra bod Curig yn delio a phynciau mwy arwynebol fel ‘Ffwcio Dy Ffrind’. Dydw i ddim yn dweud mai dyma fy hoff albwm hip hop ond credaf ei fod yn CD pwysig sy'n angerddol a didwyll gyda digonedd o agwedd.

9

GIGS, CHIPS, A ‘TRIP’ MEWN TACSI MAES B / TACSI Crewyd yr albwm aml-gyfrannog yma gan MaesB a chylchgrawn Tacsi yn Eisteddfod Casnewydd. Mae’r albwm yn amserol iawn ac yn swnio fel cyfanwaith yn hytrach na chasgliad gan fod nifer o bytiau gan ‘Y Lladron’ sy’n glynu’r holl beth at ei gilydd mewn modd direidus a chlyfar. Mae’r grwpiau sydd wedi’u dewis i ymddangos ar yr albwm ar binacl y sîn; a phawb yma yn haeddu eu lle. Mae’r casgliad yn cynnwys traciau cynfyngedig gan ‘Jakokoyak’, ‘Poppies’, ‘Mwsog’, ‘Ashokan’ a ‘Y Lladron’.

8

BLAEN TROEDAR MC SAZIMUNDO RECODIAU DOCKRAD Dyn digon rhyfedd yw Deian ap Rhisiart neu ‘MC Saizmundo’, mae ganddo syniadau dwys ac angerddol am yr iaith a materion sy'n effeithio'r ddynol ryw. Un peth sy'n sicr yw bod yna dalent tu cefn i'r geiriau pwrpasol sy'n cael eu rapio dros gerddoriaeth ffafriol, ddychanol mewn mannau. Mae'r albwm yn gampwaith yn ei ffordd fach ei hun, ac yn tynnu hip hop Cymraeg i gyfeiriad gwahanol. Ein herio ni yw nod yr albwm. Mae Saizmundo wedi syrffedu ar fywyd cliché Cymreig ac ar waith sâl S4C yn y Siberia Cymraeg; mae Saizmundo eisiau "disgyn i fewn i goma" wrth wylio'r "Sioe Gelf a Croma", ac yn barnu George Bush yn ‘Pwy s'isio bod yn fawr?’ Rydw i’n amau eich bod chi naill ai yn hoff iawn o Saizmundo neu yn ei gasau, ond parch sydd gen i tuag ato am fod yn ddigon hyderus i godi ei lais a herio.

6

7 5


Baccta Crackin' Texas Radio Band Recordiau Slacyr

HENO - RYLAND TEIFI KISSIAN

8

Un o'r cryno ddisgiau sydd heb dderbyn digon o glod yw ‘Heno’ gan Ryland Teifi. Dyma dalent sy’n symud o un steil cerddorol i steil arall yn ddidrafferth. Mae'r gerddoriaeth yn arbennig, mae yma rywbeth at ddant pawb a 'dwi wrth fy modd yn clywed mandolins! Mae'r geiriau’n bwrpasol ac yn creu delweddau sy'n cydfynd a'r gân yn berffaith. Mae cyfnod Ryland allan yn Iwerddon yn dylanwadu’n amlwg ar ei gerddoriaeth. I mi, mae'r CD yn amrywiaeth prydferth iawn ac mae'n bleser gwrando arni. Mae uchafbwyntiau'r CD yn cynnwys ‘Si Hei’ a ‘Stori ni’ - mae'r ddwy yn tynnu ar eich hemosiynau ac yn ddigon i ddod â deigryn neu ddau i lygaid unrhyw soffdi fel fi!

6

KENTUCKY AFC - KENTUCKY AFC BOOBYTRAP Roedd album Kentucky AFC yn un hirddisgwyliedig gan mai dyma'r grwp sydd wedi bod ar binacl y sîn ers iddyn nhw ennill 5 gwobr yng Ngwobrau Roc a Phop Radio Cymru llynedd. Ar ôl cyfres o gigs cofiadwy a llwyddiant amlwg yn y sîn, roeddwn i’n ‘fodlon’ iawn o weld yr albwm yn cyrraedd y siopau. Un peth sy’n sicr yw bod sain ac awyrgylch byw y band wedi ei drosglwyddo’n wych i’r albwm. Albwm amrwd ydyw, heb ormod o 'bolish' - onid dyma yw Kentucky AFC? Mae'r traciau amrywiol yn cynnwys yr holl ffefrynnau fel ‘1’1, ‘Outlaw’ a hefyd fersiwn byw o'r gân a ddenodd sylw i'r band yn y lle cyntaf, ‘Bodlon’.

5

UN TRO YN Y GORLLEWIN - PEP LE PEW RECORDIAU SLACYR Dyma ail albwm yr hip hopwyr o Borthmadog. Mae’n fwy amrywiol, o well ansawdd a thipyn fwy safonol na’r albwm gyntaf. Mae dylanwad canu gwlad amgen a ffilmiau’r cowbois yn amlwg ar glawr ac ar arddull y CD. Mae’r albwm yma yn gyfanwaith clodwiw yn hytrach na chasgliad o ganeuon. Mae ffefrynnau sydd wedi cael eu perfformio yn set Pep le Pew ers peth amser yn ymddangos ar y CD gan gynnwys ‘Smocio’r Bush’, ‘Mwngrals’ a ‘Y Werin Bobl’. Mae yma rywbeth at ddant pawb, o hip hop i pync i roc a riffs gitâr tebyg i ‘The Darkness’. Mae’n wir dweud nad fi yw’r ffan hip hop mwyaf o bell ffordd ond nid hip hop yn unig sydd ar fwydlen Pep le Pew, mae gan y band lawer iawn mwy i’w gynnig.

4

Heb os nac oni bai, Baccta Crackin' yw fy hoff albwm i eleni. Dyma'r albwm sydd wrth ymyl y stereo ac sy'n cael ei chwarae yn amlach nag unrhyw CD arall yn fy nghasgliad. Mae Baccta' Crackin' yn amrywiol ac yn drifftio o ganeuon pop i ganu gwlad amgen a chaneuon y blues. Mae hyn i gyd yn cymysgu’n berffaith gyda seicadelia Gorky’s-aidd, geiriau od a s[n unigryw y Texas Radio Band. Un o fy hoff ganeuon yw “Push & Shove” (newyddion diweddaraf ar dudalen11) Mae’r gytgan fachog yn byggar am lynnu yn eich meddwl – ond dwi’n gaeth i’r dôn a methu stopio gwrando arni. Mae’r albwm yn cynnwys yr hen ffefrynnau ‘Fideo Hud’ a ‘Love is Informal’, ynghyd â chaneuon dwys a hudol fel ‘Father's Only Son’ a ‘Kilos’. Yr albwm yma sy'n haeddu'r wobr am albwm y flwyddyn mewn unrhyw seremoni wobrwyo cerddoriaeth Gymraeg.

1

TRAFFIG - GWILYM MORUS

ADERYN PAPUR - ALUN TAN LAN RASAL

Yn cael ei gymharu i lais Nick Drake, mae Gwilym Morus( Drymbago) wedi derbyn clod mawr am ei berfformiadau unigol. Prosiect unigol yw’r rhyddhad 7 trac yma sy’n cynnwys ambell i glasur fel ‘Ym Mhont-y-Pridd’. Mae Gwilym yn ysgrifennu tipyn o farddoniaeth ac mae hyn yn amlwg yn ei ffordd gelfydd, sensitif o drîn geiriau. Mae Gwilym yn rhan annatod o ddatblygiad ochr acwstig/gwerinol/gwlad y sîn ar hyn o bryd ynghyd ag artistiaid eraill fel Alun Tan Lan. Mae'n biti nad yw'r CD mor gyfarwydd â hynny i'r gynulleidfa ehangach gan nad ydyw wedi’i ryddhau yn swyddogol. Cawn ddisgwyl ymlaen felly at glywed ei albwm newydd (dan yr un teitl) fydd yn cael ei rhyddhau yn y flwyddyn newydd.

Un o’r artistiaid sydd wedi denu cryn dipyn o sylw eleni yw Alun Tan Lan. Daeth yr artist yma fel bollt i'r sîn roc Gymraeg gan lwyddo, mewn amser byr, i greu dilyniant ac ennyn parch i'w gerddoriaeth ddwys, werinol ei naws. Ei albwm gyntaf yw ‘Aderyn Papur’ ac mae’n CD syml ac effeithiol, Mae'r ffaith fod cyn aelod y ‘Cyrff’ a ‘Catatonia’, Mark Roberts, wedi cytuno i gyfrannu at yr albwm - ynghyd a’i chydgynhyrchu gyda’r cynhyrchydd o fri Toni Schiavone - yn glod mawr i Alun. Mae'r albwm yn cynnwys fersiwn ei hun o glasur Y Cyrff, ‘Pethau Achlysurol’. Mae'r synau’n llifo i’w gilydd ac mae hon yn albwm fydda’ i’n dal i wrando arni mewn blynyddoedd i ddod.

3

2

LYNSEY ANNE

Y SELAR 5


LLUN GAN JOHN GRIFFITHS

SLOT SEBONI

LLYFU TIN BOB RHIFYN BYDD Y SELAR YN RHOI CYFLE I SIWPYR FFAN DDWEUD WRTH Y WLAD BETH SYDD MOR UFFERNOL O DDA AM EI HOFF FAND. YN Y RHIFYN HWN HEFIN JONES SY’N GWTHIO’I DAFOD RHWNG BOCHAU TIN AELODAU NAR : ’nawn sul eithriadol o braf yn haf ’98. Eistedd ar lawnt yn Nolgellau yn dioddef o gur pen beiblaidd ar ôl penwythnos o’r Sesiwn Fawr. Holi pwy oedd y band ar y llwyfan ymysg y mwydro, oherwydd fod y gân yma yn dda iawn. Mae’r nesa’n wych hefyd, a’r nesa. Tiwns hollol fachog, unionsyth, pur, hefo gitârs tynn ond budur tu ôl i lais cwbl eithriadol esmwyth. Rhain oedd y caneuon oddi ar yr ep’s ‘Ethel’, ‘Lux’ ac ‘Ystafell Goch’ ar ben perlau coll bellach fel ‘Y Mighty John Holmes’ ac ‘Evil Kneivel’, a hyd heddiw does yr un band wedi rhoi gymaint o slap swnllyd o bleser llwyr annisgwyl ar fy ngwep gwybodus a phrofiadol. Ac mae’n eithaf gorffwyll fod y band yma’n mynd ers blynyddoedd a finnau’n eu hanwybyddu. Yn syml, does na neb sy’n naddu tiwns mor fachog a Nar (wel, oce, bosib bod gan Texas Radio Band rywbeth i’w ddweud am hynny erbyn heddiw ond anghofiwn amdanyn’ nhw am y tro). Mae pob cân yn felodi hynod gofiadwy. A Nar, ynghyd â’r diafol wrth gwrs, sy’n dal y tiwns gorau. Does dim enghraifft well na ‘Lux’. Mae’r sengl o ’96 i’w weld yn mynd am tua £40 ar e-bay bob hyn a hyn. Yn meddu ar riff gogoneddus, i safonau Nar hyd yn oed, mae’n berwi o b[er ac ing a jysd yn rocio i’r eithaf. Daeth Lux rhwng y caset (yndi, mor bell yn ôl a hynna) ‘Ystafell Goch’ a’r cd ‘Ethel’, ill dau hefyd yn 3 HOFF GAN – weithiau rhagorol. Mae’r grwp bellach yn dechrau denu’r 1. LUX dilyniant haeddianol yn dilyn 2. GOFODGARWYR albwm ’02

P

3. ROCIO’N HUN I GYSGU

‘Dewch i Ddawnsio gyda Nwshgi, Shnwgli a Dr Raulbic’, ( sy’n cynnwys y clasuron byw ‘Gofodgarwyr’ a ‘Meddyg Beryg’ ) sydd heb os yn cynyddu yn sgîl lawnsio ‘Narmagedon’. Mae’u halbwm ddiweddaraf ‘Narmagedon’yn llwyddo i gyfleu’n well na’r un arall eu s[n byw eithriadol. Mae’r cyfuniad o gitars blaen Gwern a Dylan yn gefndir p[erus a chynhyrfus i lais llyfn bendigedig Hefin, gyda thraciau fel ‘Reu’, ‘Rocio’n Hun i Gysgu’, ‘Curlew Tew’ yn fy marn bach amherthnasol i yn naddu clasur o albwm.

CLAWR GORAU’R FLWYDDYN DIM DOWT

GYDA’CH GILYDD NAWR : ”MAE’N HWYL I FOD YN Y Y.M.C.A.!”

TIWNS HOLLOL FACHOG, UNIONSYTH, PUR, HEFO GITARS TYNN OND BUDUR TU ÔL I LAIS CWBL EITHRIADOL ESMWYTH

18 awr ar ôl sgwennu’r frawddeg ola’ dw i’n gweld Nar yn chwarae yn Noson ‘Naws’ yn y C[ps Aberystwyth. Mae’r ffaith yma yn fy ngwneud i’n llawen. A galwch fi’n Guto os na fydd pawb arall yn y Cwps yn llawen hefyd. HJ

TEIMLO ‘NAWS’ NOSON NEWYDD Ers nos Wener, Hydref 1af mae cyfres newydd o gigs yn cael eu cynnal yn Nhafarn y C[ps, Aberyswyth. Mae nosweithiau ‘naws’ yn cael eu trefnu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar nos Wener cyntaf pob mis. Owain Schiavone sy’n trefnu ‘naws’, a’r rheswm dros sefydlu’r noson ? “Dwi wedi ei gweld yn biti nad oes gigs Cymraeg yn cael eu trefnu yn Aber yn gyson. Gyda ‘naws’ rydym yn gobeithio cynnal gigs o safon uchel a rhoi 6 Y SELAR

rhywbeth i ddilynwyr cerddoriaeth yr ardal edrych ymlaen amdano pob mis” Mi fydd y ‘naws’ nesaf ar y 3ydd o Rhagfyr, gyda Radio Luxemburg, Kenavo a Frizbee, fydd yn lawnsio eu e.p. newydd ‘Lennonogiaeth’ hefyd. Gallwch hefyd ddarllen am ‘naws’ yn y ffansîn sy’n cael ei gynhyrchu i gydfynd a’r noson, sydd hefyd ar gael ar y wê. AM FWY O WYBODAETH AM NAWS, NEU’R FFANSÎN EWCH I WWW.CYMDEITHAS.COM


LLUN GAN JOHN GRIFFITHS

BAND O’R 80AU CYN IDDYN NHW DDYFEISIO LLUNIAU LLIW

YR ANHREFN MAE’R BASDADS BLIN YN ÔL ...

ae nhw wedi bod yna. Mae nhw wedi prynu’r crys-T, ei wisgo fe unwaith, sychu’u tine gyda fe cyn ei rhoi i rhyw roadie tew ei wisgo am weddill y daith. Nawr, ddeng mlynedd ar ôl iddynt chwalu, mae’r gr[p pync arloesol Yr Anhrefn yn mynd i dynnu’r gitars, y siacedi lledr, a’r vests o’r cwpwrdd dan stâr a dechrau chwarae unwaith eto. Mae’r triawd a ddaeth yn enwog drwy Brydain ag Ewrop nôl yn yr wythdegau a’r nawdegau cynnar wedi bod yn ymarfer yn rheolaidd, ac yn ôl Rhys Mwyn “y plan ydi dechre recordio yn y flwyddyn newydd, a gobeithio neud taith theatrau tua Hydref 2005, gan gynnwys stwff newydd yn ogystal â stwff off Hen Wlad fy Mamau, ag ambell i cover version Meic Stevens neu Jarman.” Ond wrth i hen fandiau ddod yn ôl ag ail afael ynddi,

M

yn ’r

mae’n rhaid gofyn a oes unrhyw beth ganddynt ar ôl i’w gynnig. Beth allwn ni ddisgwyl gan Anhrefn 2004 felly? Rhys: “Rhaid bod yn onest i lle wyt ti heddiw, yn ein hoed ni, 40’au, dydy Angry Young Men ddim yn mynd i weithio. Ond dwi’n teimlo os yw’r caneuon yn y back catalogue yn ddigon da, yna mae modd ail wampio. Fyddwn ni’n mynd am feel mwy acoustic, unplugged yn hytrach na pync roc.” Gyda sôn hefyd am lyfr ‘Hanes yr Anhrefn’ a Cd o’u goreuon, gig Coffa John Peel yn ogystal â’r daith theatrau mae’n edrych yn debygol y bydd yr aeliau enwocaf ym myd cerddoriaeth Cymru, ynghyd ag ambell i wyneb arall cyfarwydd yn ôl cyn hir, mor belled a bod popeth yn cwympo i’w le yn drefnus i’r Anhrefn.

“ y plan ydi dechre recordio yn y flwyddyn newydd”


CYFWELIAD

^

SWN MAWR

SIBRYDION ^

GEIRIAU A LLUNIAU: OWAIN LLYR

8 Y SELAR


^

^

“DERE A STORI I FI AM Y SIBRYDION” DYNA’R BRIFF GAFODD OWAIN LLYR DRI MIS CYN I’R RHIFYN CYNTAF O Y SELAR FYND I’R WASG. BYTHEFNOS YN ÔL GLANIODD Y STORI AR DDESG Y GOLYGYDD. DIAWL O STORI DDA, OND BÔLS! STORI AM YSBRYDION OEDD HI. DYMA’R AIL GYNNIG :

“DWI’N CLYWED SIBRYDION, A NAWR MA’N DOD YN GLIR …” Dyma’r geiriau cyntaf ar sesiwn gyntaf band newydd Cymraeg; Sibrydion. Ma’ nhw ‘di chwarae dwy gig, ac ar wahan i’r sesiwn C2, a sesiwn fyw ar Bandit, dyw'r band heb ryddhau unrhyw beth eto.

‘deadline’ Y Selar, Rwy’n weddol ffyddiog bod y grwp yn hapus i wneud cyfweliad, ond er gwaetha’ negeseuon ffôn a text, yr unig ymateb ‘dwi ‘di ei gael mor belled yw text wrth Dan ‘Fflos’ Lawrence, gitarydd amryddawn Sibrydion; “Gret. Ond well i ti siarad da Mei ac Osh – nhw sy’n trefnu pethe.”

O fâs mochaidd y gân ‘Dafad Ddu,’ i ‘Mynd Drwy’r To,’ cân piano drist a thywyll, a swagro lolfaol ‘Rhedeg i Ffwrdd,’ sy’n disgyn i drobwll o harmoniau a gitar flaen hudolus, mae’r band yma’n swnio’n brofiadol, yn aeddfed, yn gwybod yn iawn be’ ma’ nhw’n ei wneud.

Rwy’ wedi cyrraedd y pwynt o ystyried hongian o gwmpas tai yr aelodau, ond yn anffodus, neu efallai yn ffodus, ‘sdim syniad ‘da fi ble ma’ nhw’n byw. Yna daw’r eiliad dyngedfennol pan ma’ Mei yn ateb y ffôn, ac yn cytuno i gyfarfod am gyfweliad ychydig ddyddiau yn hwyrach.

Dyw hyn ddim yn syndod pan sylweddolwch chi bod dau o’r grwp yn gyn-aelodau o Big Leaves. Cyfeiriaf at Meilir ac Osian Gwynedd.

“AI HYN YW RHEOLAETH? AI HYN YW FFYDD?”

Felly, pan ‘dwi’n cerdded i mewn i Westy’r Clive, yng Nghaerdydd, ma’ ‘na ychydig eiliadau o bryder pan ‘dwi’n sylweddoli bod dim sôn am Meilir nac Osian Gwynedd. Mae’r Sibrydion yn dal i fod yn ysbrydion, yn cuddio yn y cysgodion. ( Co fe off ‘to ! - gol )

Fel yw’r arfer gyda chyfweliadau roc, rwy’n cyfarfod Mei ac Osh ychydig ddyddiau cyn

Mae’r pryder yn parhau am rhyw funud tan i mi gael gafael ar Mei, a darganfod bod y ddau ‘di cael

eu galw bant i symud offeryn. Fel sy’n digwydd, yn amlwg, i gerddorion prysur. Awr yn ddiweddarach mae Meilir ac Osian wedi cyrraedd, ac mae’r tri ohonom yn ystafell gefn bar y gwesty, wedi encilio rhag y pêl- droed a’r cwis tafarn sy’n cystadlu am lefelau s[n yn yr ystafell flaen.

“O’N I’N MEDDWL BOD FY MHEN WEDI FFRWYDRO.” Reit, gwers hanes gyflym. Bu Osian a Meilir Gwynedd yn un hanner o’r ddau fand mwyaf erioed i ddod o Waunfawr, ger Gaernarfon, gyda Rhodri Siôn a Kevin Tame, y ddau aelod arall o Beganifs a Big Leaves, Ond fel ma’ popeth da yn ei wneud, daeth cyfnod y Big Leaves i ben. Osh: “Oeddan ni ‘di ‘neud cymaint ag oeddan ni’n gallu ‘neud rili ... ‘di bod yn byw yn pocedi’n gilydd am rhyw chwe mlynedd erbyn diwedd. Oedd o’n waith caled, yn waith oeddan ni’n fwynhau ar y pryd, ond, ma bob dim da yn gorfod dod i ben rhywbryd ... Yn sbio ‘nôl 'da ni’n reit falch rili am be naethon ni.”

Y SELAR 9


CYFWELIAD

Mei: “Hy, hy, hy ...ydi ... hy,... in theory de ... na be da ni’n trio’n gneud ydi bildio pethe’n slo bach i fyny, cychwyn heb Osh ella a jyst bits o’r drym machine, wedyn defnyddio dryms go iawn yn gig y Toucan, oedd Osh efo ni’r adeg yna. Felly oedd ganddon ni 3piece, wedyn 4-piece, ac ella ‘nawn ni ddyblu fo ar gyfer y gig nesa, neu treblu fo, neu beth bynnag ...”. Felly, ar hyn o bryd (ond gall hyn newid cyn y gig nesa’ ) aelodau’r band yw; Osian Gwynedd; Meilir Gwynedd, Daniel ‘Fflos’ Lawrence, a John ‘Catfish’ Thomas. Osh sy’n canolbwyntio ar y drymiau, tra bod Mei a Fflos yn rhannu’r dyletswyddau gitar, Mei ac Osh yn rhannu'r dyletswyddau allweddellau a Catfish yn chwarae bâs, gyda Mei yn canu ... mwy na thebyg.

“MAE’R ELFEN YNA O CHAOS MEWN GIG YN EITHA PWYSIG”

Wedi chwalfa Big Leaves, cychwynodd Meilir ac Osian gr[p arall, gyda Kevin Tame, o’r enw Third Light, tra bod Rhodri Siôn yn canolbwyntio ar actio. Rhyddhawyd sengl ar ddiwedd 2003,ac yna aeth pethau’n dawel. Mae Kev Tame yn brysur y dyddiau yma yn helpu rhedeg bwyty/ oriel y Capsule yng Nghaerdydd. Felly dyma Mei ac Osh yn cychwyn gr[p newydd, Sibrydion. Cafwyd ymateb da i’r gig Eisteddfod, yn TJ’s, ac roedd yr ail gig, (yng Nghlwb y Toucan) yn ddi-drefn, ond yn fywiog gyda naws fod rhywbeth newydd, cyffrous ar dro. Ymdrech ddigon teg o ystyried bod y band ond wedi ymarfer un waith gyda’i gilydd, a bod y drymiwr heb droi lan am y gig cynta’! Slacyrs !

Mae Dan Lawrence, sef Fflos, o Aberystwyth yn gyn-aelod o’r grwpiau Y Felan Fawr ac Albert Hoffman, ac mae e’ hefyd yn chwarae gitar gyda Ryland Teifi. Mae John ‘Catfish’ Thomas hefyd yn hen law, wedi chwarae gitar ‘pedal steel’ i’r Big Leaves, yn ogystal â chwarae gyda bandiau megis y Super Furry Animals a The Thrills. Felly pa fath o berthynas sy’ ‘da’r ddau ohonoch chi yn y band? Ydych chi’n cwmpo mas, o gwbwl, fel y brodyr Gallagher?

Nagyw hynny’n meddwl bod Osh, yn dechnegol, ddim yn aelod cychwynnol o’r band?

Pan o’ch chi’n chwarae yn y Toucan oedd ‘da chi deimlad eitha’ slac oedd efallai ddim ‘di bod yn eich bandiau cynt...

10 Y SELAR

Mei: “Ma o’n fath o awyr iach yndi, oeddan ni ond ‘di cael rhyw awr o ymarfer y noswaith cynt, ond oedd pawb yn gwybod be i neud, er bo ni dal i ddysgu wrth ein gilydd, a fydd o’n neis trïo gwneud stwff gwahanol, rhai gigs efo band mawr, a rhai gigs acwstig. Yr uchelgais efo’r band ydy peidio mynd yn ‘predictable,’ i wneud yn siwr bod dim un gig yr union ‘run fath. Mae’r elfen ‘na o chaos mewn gig yn eitha’ pwysig.”

Beth yw’r cynllun ‘da chi, o ran gigs? Chi ‘di chwarae dau gig llwyddiannus, y’ch chi’n golygu chwarae’n fyw yn amlach ? Osh: “ Y plan ar hyn o bryd ydi recordio albym, dwi'n meddwl ma’ dyna’r peth pwysica’ i’r Sibrydion. Ma’ gynnon ni rhyw bymtheg i ugain cân yn barod, sy’ yn y broses o gael eu ‘neud. Dwi’n meddwl bod o’n bwysig i ti gael dy record gynta’ de... 'da ni’n gobeithio rhyddhau hwnna’ yn y flwyddyn newydd, tua Mawrth, Ebrill, Mai ffor’ ‘na, a wedyn chwarae gigs o gwmpas hwnna’. ‘Da ni ddim yn mynd i brynu transit, na dim byd fel ‘na, dim ar hyn o bryd. Dim bod ni ddim am chwarae gigs, jyst bod y caneuon yn cael blaenoriaeth, dyna 'di'r ffocys jyst rwan.” O’r 15 neu 20 cân sydd ‘da chi, pwy sy’ ‘di eu hysgrifennu nhw? Mei: “Ma o jyst rhwng ni’n dau fwya’... dan ni’n ‘sgwennu caneuon yr un ffordd oedden ni arfer ‘neud, ond yn trio’u recordio nhw mewn ffordd hollol wahanol, a gweithio mewn ffordd sy’ ddim yn dibynnu ar system, achos bod ni mewn stiwdio, ac yn gorfod defnyddio’r amser, ella’n dechrau gyda’r melodi a’r drymiau, a gweithio o fan’na, trio pethau gwahanol.”

G

Osh: “O’n i ddim yn y gig, achos o’dd Mei ‘di trefnu fo tra bo’ fi ar fy ngwyliau !”

O le ddaeth yr enw Sibrydion? Mei: “Dwi’n licio fo achos tydi o ddim yn golygu un peth, ma’n gallu golygu lot o betha, a dwi’n meddwl mai chwarae ydan ni ar y syniad o Sibrydion... datblygu o rhywle, a fath o tyfu’n organic.”

Mei: “Na, dwi’n meddwl bod o’n iach i 'gwmpo mas,' fel ti’n ddeud, jyst bo’ chi’n gallu glynu at eich gilydd pan ma’n cyfri’ de ... ‘dan ni’n dallt ein gilydd yn ddigon da, neu faswn ni heb ddechrau’r prosiect yma, ti’n gwbod be dwi’n feddwl?”

"RHEDEG I FFWRDD, DI MYND RHY BELL ..." Mae'r gân 'Rhedeg i Ffwrdd,' yn stori sydd â gwraidd dywyll, wedi'i hysgrifennu am ddamwain car gafodd Mei yng Ngorllewin Cymru. Mae’n gân sy’n diffinio’r Sibrydion - creu caneuon sy’n pwysleisio prydferthwch pob eiliad, ac sy’n ein hannog ni i ddyfalbarhau ag i edrych ymlaen at yr antur nesaf.


STIWDIO NEWYDD YN AGOR:

STIWDIO UN YSTAFELL RHEOLI STIWDIO UN

chi selogion gigs Cymru mae’n siwr fod gweld dyn dros ei chwe troedfedd gyda gwallt hir yn fflachio torch mewn i speaker yn olygfa gyfarwydd. Sam Durrant yw dyn yma. Mae e wedi bod yn gweithio fel peirianydd sain gyda rhai o enwau mwyaf byd cerddoriaeth Cymru ers blynyddoedd, ond yn awr mae am fynd yn ol i’w wreiddiau recordio yn

I

LLWYTH O FOTYMAU, UN HIPPI!

GOGZ Ffordd Hirach Nôl! Teg dweud y bydd hi’n ‘FFordd Hir Nôl’ i’r Gogz yn y dyfodol agos wrth iddynt symud i fyw at ei gilydd i d] yn Stafford. Mae’r band sydd bellach yn bedwarawd ar ôl i Pierce, y gitarydd talentog ymuno, yn symud i Stafford fel ei bod yn haws iddynt gyrraedd eu gigs yn ninasoedd mawr Lloegr, ond hefyd ddigon agos i ddod ‘nôl i Gymru i gael ambell i ginio dydd Sul, neu lond bag o ddillad glân! Mae’r band wedi bod yn brysur yn gigio’i o amgylch Prydain ers peth amser bellach ac wedi chwarae yn Lerpwl, y Camden Festival, Llundain ac maent yn ymddangos yn y Limelight festival ym Manceinion ym mis Rhagfyr. Mae’r Gogz yn gweithio ar ganeuon newydd ond, ar hyn o bryd does dim cynlluniau pendant i rhyddhau CD. www.gogz.co.uk

RHY DDIOG I FYND I LOEGR I WELD GOGZ?! EWCH I ... CLWB IFOR BACH, CAERDYDD AR DACHWEDD Y 13EG 4 ALLS, CAERNARFON AR DACHWEDD Y 27AIN

hytrach na’r perfformiadau byw. Mae Sam wedi sefydlu stiwdio newydd yn Rachub, ger Bethesda, ac mae’n gobeithio denu llwythi o artistiaid i’w stiwdio wedi iddo ei agor yn swyddogol. Tra bod llawer o artistiaid bellach yn gallu prynu cyfrifiadur digon p[erus i recordio’i stwff ei hunain yn eu cartrefi, mae Sam yn ffyddiog bod digon alw o hyd am stiwdio broffesiynol, gan ei bod yn well gan lawer o gerddorion gael rhywun arall i wneud y gwaith peiriannu drostynt. Sam “Dydy’r stiwdio ddim wedi agor eto ond ... mor belled, rydw i wedi bod yn recordio sesiynnau prawf gyda Maharishi a Red Nature, rydw i hefyd wedi gwneud sesiwn byw i Bandit gyda MC Saizmundo a NAR. Profodd NAR fod y stiwdio’n 100% sound proof, gan eu bod yn fand mor uffernol o swnllyd!”

AM FWY O WYBODAETH AM STIWDIO UN samueldurrant@cdraig.freeserve.co,uk

Mae Stiwdio Un yn defnyddio system recordio Protools, desg gymysgu Americanaidd Mackie a hen beiriant tap analog “i’r audio purists allan yna!” yn ogystal a llwythi o offerynnau gwahanol a llwythi o degannau eraill. Mae’r stiwdio ar ddwy lawr gyda’r ystafell rheoli ar y llawr uchaf a’r stiwdio ei hun ar y lefel isa’. Mae’r lle wedi ei addurno’n chwaethus ag mae yna deimlad cynnes, cartrefol i’r lle. Mae’r soffa yn y ‘stafell rheoli yn un o’r mwyaf yn y Byd, ag yn sicr yn ddigon mawr i bob band eistedd yn gyfforddus arni, hyd yn oed holl aelodau Anweledig ochr yn ochr, heblaw am Arwel Trombôn wrth gwrs!

TEXAS RADIO BAND Ar ôl i fyd cerddoriaeth Cymru gael ei ysgwyd i’w seiliau yn dilyn ymadawiad sydyn y T.R.B. mae’r band hynod dalentog yn ôl. Wrth iddynt ymlacio ynghanol recordio fideo i’r gân ‘Chwaraeon’ fe gefais y cyfle i ddal lan gyda’r hyn oedd yn digwydd ym myd y T.R.B. Tra bod Mini wedi dilyn Michael Owen a mynd i slochian sangria yn Sbaen mae’r band wedi bod yn gweithio ar ganeuon newydd fydd yn y pen-draw yn ffurfio’u halbwm nesaf. Mae ganddynt o leiaf ddeuddeg cân newydd eisioes, a bydd rhain yn cael eu perfformio yn y gig cyntaf iddyn chwarae mewn misoedd, yng Nghlwb Ifor Bach, Nos Calan. Yn ôl Squids mae’r caneuon newydd yn “lot mwy focused, achos ni di cal lot mwy o amser i feddwl a datblygu.” Mae’r T.R.B. hefyd am rhyddhau sengl vinyl 7” o Push and Shove ar y cyd rhwng recordiau Slacyr a label annibynnol Bee and Smoke Records, Llundain, fydd yn cael ei rhyddhau ddiwedd mis Tachwedd. Am fwy o wybodaeth ewch i www.slacyr.co.uk. neu www.texasradio.co.uk

Y SELAR 11


GIGS MIS HYDREF 04

DRUMBAGO, UMMH, GWYNETH GLYN

RADIO LUXEMBURG, KENAVO A DAU CEFN

TOUCAN, CAERDYDD 13/10/04

NOSON SEBON CLWB IFOR BACH

Mae’n siwr mai funk ydy’r gair agosaf i ddisgrifio’r s[n unigryw mae Drumbago yn ei wneud y dyddiau yma. Yn sicr mae’n fachog ac yn cael y dorf i symud yn ddifael. A da o beth oedd hynny wrth i res o wynebau llwm gerdded i mewn ar ôl i’w breuddwydion gael eu chwalu yn Stadiwm y Mileniwm wedi colli yn erbyn Gwlad P[yl. Mae’n syndod fel mae proffil Drumbago wedi codi dros y flwyddyn ddiwethaf ac efallai mai nhw, nawr sy’n ddeiliaid ar deitl ‘Band mwyaf cyffrous Cymru’ wrth i sglein Pep le Pew bylu rywfaint. Fe gafodd Aaron PLP wahoddiad i’r llwyfan i ychwanegu ei gyfraniad ei hun a doedd Cravos ddim am adael i’r

noson basio heb gael cynnig ei slant ei hun ar bethau. Mwy o collaboration odd y noson hon gyda pawb yn helpu ei gilydd yn hytrach na thair set ar wahan, a hynny ond yn adio at y naws danddaearol a geir dan waliau tynn y Toucan. Mae Ummh fel pe bai nhw wedi cael deffroad o’r gwyll ers diwedd y 90’au. Ond dydy ei beats acid jazz yn sicr ddim at ddant pawb. Gwyneth Glyn oedd y trydydd cyfranydd swyddogol a hi gychwynodd y noson. Efallai mai blin ar ôl gweld breuddwyd bêl-droed arall yn cael ei chwalu oeddwn i, ond dwi di gweld digon ar y steil folky yma o’r blaen.

Trystan Pritchard

GABRIELLE TWENTY FIVE, GWILYM MORUS, ALUN TAN LAN ^

TY NEWYDD SARN 15/10/04 Mae torf wedi ei fesur yn y degau yn medru bod yn fendith. Yn fendith oherwydd fod torf o 60 yn medru cadw’n ddistaw a gwrando, ia, gwrando ar y gerddoriaeth. Radical. A phetai rhywun wedi meiddio fy styrbio ar ganol perfformiad Gwilym Morus byddent wedi bod yn hynod lwcus i ddianc ! Yn syml, distawrwydd

llethol a sylw diamod yw’r hyn mae Mr Morus yn ei haeddu ac yn deilwng ohono, gan ei fod, yn syml, yn hyfryd. Medrid dweud rhywbeth tebyg am Alun Tan Lan wrth gwrs, ac oherwydd ei gigio di-baid dwi wedi ei weld yn amlach na fy adlewyrchiad flwyddyn yma. Arbennig, fel arfer. O safonau hynod wych

arferol Gabrielle Twenty Five roedd heno, os caf feiddio, yn siomedig. Methodd y waldiwr a dod felly dyma gario peiriant drymio hefo hwy i’w drio. Nhw fyddai’r cyntaf i ddweud fod yr arbrawf wedi bod yn fethiant, yn enwedig a hwythau wedi arfer chwarae’n wefreiddiol heb unrhyw ddrymiwr.

12 Y SELAR

Gig Sebon arall yn y brif ddinas. Yn gynta, Radio Luxembourg. Amhosib peidio’u cymharu efo Mozz, am fod hanner y band yn gyn-aelodau. Yn parhau sdeil Mozz o roc 60/70au, mae ganddyn nhw lawer o riffs ardderchog. Er hyn, teimlaf fod y caneuon yn gyfres o riffs, ac nad oes digon o felodiau nac amrywiaeth. Mozz heb y tiwns, ond rhaid rhoi amser iddynt ddatblygu, hwn oedd ei hail gig erioed! Kenavo, band rap o Aberystwyth. Cefais fy siomi gan berfformaid Kenavo yn y ‘Sdeddfod, ond roedd heno yn welliant mawr. I mi, y traciau trwm sydd yn gweithio orau, roeddynt ar eu gorau gyda’r gitars yn uchel. Dwi ddim yn teimlo fod y traciau mwya ffynci yn gweithio cystal. Mae rapio Cynan Llwyd yn dda ac fe roddodd berfformiad egnïol. Mae yna botensial mawr fan hyn, i feddwl mae ond 14 mlwydd oed yw e! Dau Cefn. Band anghyfarwydd i mi ac mae’n anodd disgrifio’i cerddoraieth nhw. Trip-hop / dawns / breakbeat? Roedd y gerddoriaeth yn sicr yn swnio’n dda, ac dwi eisiau gwrando ar ei halbym newydd. Gydag ond dau berson ar y llwyfan, mae hi’n job anodd i ddal diddordeb y gynulleidfa, a lleihau wnaeth y niferoedd. Byddai mwy o ymdrech i gysylltu ‘da’r gynulleidfa ar ran y canwr wedi helpu. Nid y gig gore, ond yn dangos yr amrywiaeth sydd ein sîn roc y dyddie ma, a photensial mawr gan ddau fand ifanc.

Geraint

Hefin Jones

GWYL TYRFE TAWE, ABERTAWE 15,16,17 HYDREF 04

16/10/04

SADWRN 16TH O HYDREF

GWENER 15TH O HYDREF

Symudodd hwyl yr [yl Ddydd Sadwrn i 'Subterranea', seler 'No Sign Wine Bar'. Dechreuodd y diwrnod yn werinol gyda Y Bachgen Glas a Mari Lwyd ond fe boethodd pethau erbyn y nos ac roedd y lle'n rocio go iawn! Anelwyd y nos at stiwdants yn bennaf, gyda rapio gan Lo-Cut a Sleifar, bopio gan Frizbee a rocio caled Kentucky AFC, Y gwesteion arbennig oedd Bob Delyn a'r Ebillion a roddodd wefr i'r dorf gyda chymysgedd o draciau Cymraeg a Llydaweg.

Roedd yr Adam and Eve dan ei sang nos Wener ar ddechrau Tyrfe Tawe, ac roedd y dorf yn rocio i s[n band lleol, Niem gyda'u cymysgedd eclectig o jazz a hip-hop. Dilynodd Fflur Dafydd, o'r Panics gynt, gyda'i band, i greu awyrgylch bl[s-aidd i'r noson. Wedyn croesawyd Neil Rosser yn ôl i'w filltir sgwâr. Roedd pawb yn cyd-ganu i'r hen ffefrynnau sydd â geiriau wedi'u hysbrydoli gan Abertawe. I gloi'r noson, roedd y Brawd Houdini ar ei orau a chafodd y dorf wledd o glywed y goreuon yn steil unigryw Meic Stevens. Dechrau gwych i [yl newydd Abertawe.

SUL 17TH O HYDREF Roedd pawb yn barod am barti erbyn Dydd Sul a dyna a gafwyd yn Nh] Tawe gyda Mattoidz a Huw Chiswell. Setiau acwstig oedd gan y ddau yma mewn awyrgylch eitha' tawel. Aeth Mattoidz o 'Tan y Tro Nesa' i'w sengl newydd, 'Y Dyn Telesales' i brofi'u bod nhw'r un mor wych ag arfer yn acwstig. A beth all dyn ddweud am Huw Chiswell? Taith o'r dyddiau cynnar hyd heddiw, o 'Y Cwm' i 'Gadael Abertawe'. Diwedd ffantastig i dridiau o gerddoriaeth amrywiol a rhywiol!

Alun Chivers LLUN GAN MARTIN ROBERTS


MATTOIDZ, BECHDAN JAM, FENKS CLWB IFOR BACH - 23/10/04 Tri band cymharol newydd ac amhrofiadol oedd yma heno, Fenks ennillwyr Brwydr y Bandiau eleni, Bechdan Jam efo’u pync/metal/roc a Mattoidz sy’n pori o’r un cae i raddau helaeth. Roedd Fenks yn dynn, yn amlwg yn mwynhau chwarae o flaen cynulleidfa’r brifddinas, ond mymryn yn ddi-gyfeiriad, yn parhau i chwilio am steil eu hunain. Fe ddaw. Bechdan Jam efo caneuon eitha’ syml yn rocio efo set ddwyieithog, ôl ymarfer ar y chwarae a dylanwad y Foo Fighters yn treiddio drwyddo. Tro Tom Cruise, sori, Hefin Mattoidz, oedd gorffen y noson mewn steil, ac fe wnaeth gyda set llawn egni gan fand sy’n edrych yn deilwng o gymryd lle anrhydeddus yn llinach bandiau’r Gorllewin fel Dom a Jess. Diffyg anthem gofiadwy yw’r broblem ar hyn o bryd, efallai, ond mae ganddynt syniadau a dawn i adael argraff barhaol ar y sîn.

Shôn Williams

MAHARISHI, BOB, PALA CLWB RYGBI PWLLHELI - 22/10/04

LO-CUT A SLEIFAR, RUFFSTYLZ, MC SAIZMUNDO ABRI, CLWB Y TOUCAN, 29/10/04 Anodd erbyn hyn yw dychmygu bywyd heb Abri, ac roedd gwledd hip hopaidd o’n blaenau heno. Wedi i lan sdâr y Toucan lenwi ychydig, fe gafodd y ffyddloniaid brofiad ysbrydol arall gan y parchedig amharchus, MC Saizmundo. Roedd yn ymosodol a bywiog fel arfer. Nesaf ar y llwyfan oedd Ruffstylz, sy’n rapio mewn arddull hip hop Prydeinig pendant. Roedd y rapiwr yn disgwyl cynulleidfa tipyn mwy bywiog nag y cafodd dwi’n credu, er i fi fwynhau ambell i gân, roedd gormod o rantio a dim digon o guriadau at fy nant i. Felly roedd yn dipyn o ryddhad gweld Lo-Cut a Sleifar yn dod i’r llwyfan i gloi’r noson. Er mod i’n un o ffans mwyaf Y Tystion, doeddwn i erioed wedi gweld Lo-Cut a Sleifar yn chwarae’n fyw o’r blaen. Sicrhaodd y cyfuniad o’u rapio chwim a chrafu gwych DJ Monkey fod y mwyafrif o’r dorf ar eu traed yn dawnsio erbyn diwedd y noson.

Rhai rhyfedd yw Maharishi. Yn medru adegau o hyfrydwch anfarwol, neu rocio diguro, neu adegau hirfaith o ddiflastod aruthrol undonnog, anodd ydi darogan eich noson yn eu cwmni. Hefo Pala a Bob yn cefnogi roedd amrywiaeth ar yr arlwy yn sicr. Yn agor roedd Pala ac roedden nhw’n wirioneddol wych, y rocars a’r hedbangyrs hyd yn oed yn disgyn i lesmair ar diwns clyfar, hapus y band a llais prydferth Branwen. Os oedd presenoldeb Aled Eryr ar y bâs (gyda rôl yn hongian yn ddifater o’i geg a’i wallt yn doreth fel arfer) yn gymorth i hynna Duw a wyr, ond, heb os, tynged Pala yw plesio lot o bobl lawer o weithiau. Saff. Bob. Roedd Bob mor uchel nes fod haen o’r dorf yn ffendio hi’n anodd eu dioddef. Ar ôl eu perfformiad arbennig fis neu ddau nôl hefo Nar ac Eryr, roedd hen edrych ymlaen, ond dydi ei droi fyny i unarddeg ddim yn syniad da bob tro. Roedd y cario trwm yn ei gwneud hi’n llawer anoddach i’r riffs a’r tiwns rhagorol, amlygu eu hunain. Ond er

hynny, pync o’r radd uchaf, tynn, ac yn llawn agwedd. Cafwyd yr olygfa arferol o’r llawr ddawns yn llenwi i T] ar y Mynydd, cyn gwagio’r un mor ddisymwth, yng nghanol perfformiad Maharishi. Nid fod hynny ynddo’i hun yn feirniadaeth – dydi Maharishi ddim yn fand dawnsio. Ymddangosiad solet a hoel graen ymarfer yn amlwg, ond bosib fod s[n y gitars yn cario gormod ar y traciau uwch, gan wneud iddo ymddangos yn flerach, fel yr oedd efo Bob. Cymysgedd llwyddianus o’r hen a’r newydd yn gwneud ffans yn hapus, ond nid oedd ymysg setiau mwyaf cofiadwy y flwyddyn.

“RHAI RHYFEDD YW MAHARISHI ... ANODD YDI DAROGAN EICH NOSON YN EU CWMNI. “

Rhys Wynne rhyswynne@sgwarnog.com

AMY WADGE, ELIN FFLUR, ALUN TAN LAN CLWB Y RAILWAY, BANGOR 26/10/04 Noson siomedig oedd hi i'r trefnwyr, ond gwledd o noson i’r ychydig selogion oedd yno! Alun Tan Lan a’i fand oedd yn cychwyn y noson yn perfformio deunydd o'i albwm newydd. Ac er ma’ chwarae i neuadd chwarter llawn oedden nhw, roedd eu perfformiad yn wych! ^ n electrig Creodd Billy Thompson sw anhygoel ar ei ffidil yn ei solo i 'Aderyn Papur', uchafbwynt a diwedd eu set. Perfformiad da unwaith eto gan Elin Fflur a'r band, gyda phresenoldeb Elin yn llenwi'r neuadd ac yn denu grwpiau o ddawnswyr at flaen y llwyfan. Chwaraeodd y band i'w cynulleidfa gan ymateb yn fodlon i geisiadau am ffefrynnau fel 'Dim gair' ac 'Y llwybr lawr i'r dyffryn'. Dyma’r tro cyntaf i Amy Wadge a'i band

berfformio ym Mangor, a'r tro cyntaf i minnau eu clywed yn fyw. Er iddi wneud yn amlwg nad oedd hi'n hapus gyda'r diffyg gwrandawiad, parhaodd gyda'i set. O ferch sy'n ddim mwy na phum troedfedd o daldra, mae ganddi bresenoldeb ar lwyfan! Roedd ei chaneuon a'i ymadroddion yn deimladwy, a'i pherfformiad ar y cyfan yn dda iawn. Bechod am y diffyg cefnogaeth, ond roedd hi'n braf cael sbario ciwio i fynd i'r lle chwech a'r bar!

Non Tryfil

MMMM ... ALLAI WELD PAM BOD ELIN YN LLENWI’R ‘STAFELL! Y SELAR 13


EDRYCH ‘MLAEN

FRIZBEE WINABEGO L HYDER BREGUS

ENNONOGIAETH

Ar Dachwedd y 15fed, mae Winabego yn lawnsio eu e.p. cyntaf, Hyder Bregus ar label Rasal. Recordiwyd yr e.p. yn stiwdio Bryn Derwen gyda Dave Wrench a Dyfrig Evans. ‘Llawenydd Achlysurol’, ‘Dim Cytundeb’, ‘Symud Mewn Gofod’, ‘Unarddeg Dyn i Lawr’ a ‘Lucifer’s Lament’ yw’r caneuon sy’n ymddangos ar yr e.p. Mae’r hogiau o Wynedd wedi bod yn gigio’n gyson ers ffurfio ond dyma’r cryno ddisg gyntaf iddyn nhw rhyddhau o dan enw Winabego. Enwyd y band ar ôl i Aled

y drymiwr fod yn sownd tu ôl i camper van am oriau, ar ei ffordd i lawr i’r steddfod. Mae’r band sy’n rhestu Y Pixies, Ffa Coffi, a Pavement fel eu dylanwadau yn gobeithio recordio sengl cyn y Nadolig i’w rhyddhau cyn y Pasg, a recordio albwm newydd erbyn Eisteddfod 2005. Mi fydd ‘Unarddeg Dyn i Lawr’ yn ymddangos ar gryno ddisg aml-gyfrannog Sesiynnau C2 fydd hefyd yn cael ei rhyddhau ym mis Tachwedd. Am fwy o fanylion am Winabego ewch i www.rasal.net

Gyda’i halbwm gyntaf Hirnos wedi ei ryddhau ym mis Gorffennaf ac wedi cyrraedd 10 uchaf Y Selar, saff dweud fod Frizbee wedi cael dechrau da i’w gyrfa fel band. Mae’r band bellach am rhyddahu e.p. newydd o’r enw ‘Lennonogiaeth’ a fydd yn cael ei lawnsio yn noson ‘naws’ yn Aberstwyth ar y 3ydd o Rhagfyr. Mi fydd y band hefyd yn mynd ar daith i hyrwyddo’r e.p. i: Mawredd Mawr, Octagon, Bangor - Tachwedd 18 Plas Coch, Bala, Tachwedd 19 Yr Albion, Llanrwst - Tachwedd 24 Clwb Rygbi, Bethesda - Tachwedd 26 Llanast Llanrwst - Tachwedd 27 Cwps, Aberystwyth (Lansio Lennonogiaeth) Rhagfyr 3 Clwb y Twr, Trefor - Rhagfyr 4 Clwb Rygbi, Dolgellau - Rhagfyr 11 Drill Hall, Machynlleth - Rhagfyr 17

Am fwy o wybodaeth am gigs neu newyddion ewch i www.friz-b.co.uk

Ashokan Ashokan 2 DYDDIAD RHYDDHAU RHAGFYR 6ED 2004 Yn dilyn ‘Diolch am ddal y Gannwyll’ mae albym newydd sbon ar y gorwel. Recordiwyd yr ail albym ‘Ashokan 2’ gan Joe Gibb yn stiwdio Mighty Atom yn Abertawe. TAITH HYRWYDDO’R ALBYM NEWYDD I : Nos Wener, Tachwedd 26ed – T] Tawe, Abertawe Nos Sadwrn, Rhagfyr 11eg – Ystafell Clwyd, Theatr Clwyd Nos Fercher, Rhagfyr 17eg – Clwb Pêl Droed Aberystwyth Nos Iau, Rhagfyr 18ed – Academi, Prifysgol Bangor Nos Wener, Rhagfyr 19 – Toucan, Caerdydd Am fwy o fanylion ewch i www.dockrad.com neu www.ashokan.cjb.net

CYFWELIAD BACH

MATTOIDZ - GIGIO FEL NYTARS! Mae’n dipyn o bwnc llosg yng Nghymru ers blynyddoedd a ddylai bandiau Cymraeg ganu’n ddwyieithog, ond, yn syml iawn, ’dyw Mattoidz ddim yn becso o gwbl. Does dim angen dweud bod gwir gerddoriaeth yn dod o’r galon, a ’dyw deunydd Mattoidz ddim yn eithriad, o ‘Tan y Tro Nesa’ ac ‘All Loved Out’ i ‘Drown In You’. Byddech chi fel arfer yn meddwl am Mattoidz fel band gweddol drwm, ond mae’n nhw wedi dangos bod eu cerddoriaeth nhw’n bur amrywiol o’i chymharu â’r mwyafrif o fandiau Cymraeg. Dywed y prif leisydd Hefin Thomas, “… ddechreuon ni fel band oedd jyst yn gwneud stwff acwstig”. Fel bob band arall, roedd hi’n anodd i’r bois

14 Y SELAR

wneud enw iddyn’ nhw eu hunain yn broffesiynol (enw sydd, mae’n debyg, yn golygu ‘hanner call a dwl’!). Does dim amheuaeth mai eu gallu i chwarae amrywiaeth o gigs oedd yn gyfrifol am eu dyrchafiad i’r uchelfannau. Dim ots ble maen nhw’n perfformio nac i bwy, mae ganddyn nhw rywbeth i bawb. Roedd hynny’n amlwg yn gig Gwener y Grolsch yn y Abertawe rhai wythnosau yn ôl. Aeth y dorf ar daith o’r ysgafn i roc a rôl go ddifrifol. Peth arall sy’n amlwg iawn yn eu deunydd newydd yw eu bod wedi darganfod eu ‘roc’, ac mae eu sengl diweddaraf, ‘Y Dyn Telesales’ yn adlewyrchu hyn. Mae’n wahanol iawn i’w caneuon blaenorol. Ym marn Gareth Delve,

aelod arall o’r band, “erbyn hyn, mae s[n Mattoidz yn dod trwodd mwy”. Gyda cherddoriaeth Gymraeg ar gynnydd, mae bandiau cyfoes yn cael eu mesur wrth eu safon mewn gigs. Wrth gwrs, mae gwerthu CDs yn bwysig, ond gyda chynnydd yn y nifer o gigs a gwyliau cerddorol yng Nghymru ar hyn o bryd, dyma gyfle gwych i fandiau cymharol newydd fel Mattoidz gymysgu a’u ffans. Mae’n debygol y bydd Mattoidz yn boblogaidd am gyfnod hir i ddod, ond wrth iddynt berfformio ar lwyfannau ar hyd a lled y wlad, chwaeth a diddordeb y dorf mewn cerddoriaeth Gymraeg fydd yn penderfynnu tynged bandiau ifanc fel y rhain.

Alun Chivers


AWYRGYLCH ... SUPER !

Nos Fercher y 29ain o Fedi oedd hi ac roeddwn i’n mwynhau fy hun yn iawn yn gwylio Tim Lovejoy and the Allstars ar Sky One. Rhaglen ddigon di-fflach oedd hi, er bod y G.L.C. arni, ond roedd yr uchafbwynt ar ei ffordd, y Super Furry Animals. Fe benderfynodd Lovejoy, fel anrheg bach ychwanegol i ni’r Cymry, gael cyflwyniad Cymraeg i’r S.F.A. Pwy well meddech chi i gyflwyno’r band na sylwebydd Cymraeg gemau Cymru ar Sky, y pêl-droediwr amryddawn Iwan Roberts? Dyma fe’n brasgamu’i ffordd i’r llwyfan a dechrau cyflwyno’r band.

Da iawn ti Iwan ond tria gael ymarfer tro nesa ie? O wel, o leia mae’i eirfa fe’n well na’i ddeintydd e!

CYSTADLEUAETH FAWREDDOG Y SELAR! Awydd ennill 10 albym orau 2004, yn ogystal â C’mon Midffild! 1-10 ar DVD ?

Oes gen ti syniad busnes? Gwna rywbeth am y peth! Rho gynnig ar dreialu syniad busnes dy hun!

Ffatri Fenter CYNGOR

CEFNOGAETH ARIANNOL

LLUN GAN KMG

Iwan: “Foneddigion a boneddigesa, [dechre da, ma hyn yn hawdd] rhowch groeso i’r Anifeiliaid ... ymmm ... [o shit, beth ddiawl yw super yn Gymraeg eto?] ymmm ...[dwed rhywbeth nei di, ti’n edrych fel twat]… ymmm ... [brysia nei di, o shit!]...ymmm... Awyrgylch Blewog!”

● ●

CYMORTH

CYSYLLTA Â NI AM SGWRS ANFFURFIOL: post@ffatrifenter.co.uk

01970 63 65 65

Cyfle i dreialu dy syniad busnes

Atebwch y cwestiwn syml yma ac os mai chi fydd yr enw cyntaf i gael ei dynnu mas o wallt Alun Tan Lan yna chi bia’r blydi lot, syml ! REIT, BETH YW ENW IAWN Y RAPAR MC SAIZMUNDO ? Lot rhy hawdd! Nawr e-bostiwch yr ateb a’ch manylion i cystadleuaeth@yselar.com erbyn Rhagfyr 15fed.

Mi fydd yr ennillydd yn cael ei gyhoeddi ar www.yselar.com ar Rhagfyr y 19eg. Hwyl Chiiiiiiiii! Ond os nad ydych yn llwyddiannus, prynwch y CD’s ar y we - www.sebon.co.uk (DVD Cmon Midffild! diolch i Sain)

Y SELAR 15



Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.