Y Selar - Ebrill 2005

Page 1

AM ddiM! RHIFYN 3 . EBRILL . 2005

bE di’R dEAL GydA GoGZ?

dWi isho bod yN

TU MEWN

GoGZ . sLEiFAR AR TEULU . GWiLyM MoRUs A LLAWER MWy !



LLun CLAWR: MC SAizMunDO FFOTOGRAFyDD: OWAin LLyR ^

GoLyGyddoL beth allai ddweud? … croeso i rifyn 3 o y Selar. i ddechrau, hoffwn estyn cydymdeimlad ... wel unrhyw fath o deimlad a dweud y gwir, i Francesca “hoffwn fynd i Lundain” Hughes. Colli yn ffeinal Wawffactor ar ol dweud peth mor dwp ... sexy uffernol ond dwl fel postyn...o wel ! Pa ru’n bynnag, gobeithio bod pawb wedi gwella ar ôl yr artaith flynyddol a elwir yn Cân i Gymru ac yn barod i ddarllen y gyfrol ddiweddaraf o’r Selar, cylchgrawn sydd bellach yn cael ei ystyried yn gylchgrawn rhyngwladol. (mwy - tud 7) yn y rhifyn yma fe gewch chi gyfweliad gyda’r dyn cegog, gwyllt o Lanuwchllyn MC Saizmundo, cyfweliad ecsgliwsif gyda Gogz am ei cytundeb newydd, dyddiadur o sesiwn Sleifar a’r Teulu yn Radio 1, a’r holl hanes o du ôl i lenni canolfan y Mileniwm wrth i lwythi o bopstars a rocars hen a newydd, ymgynnull i recordio fersiwn o Dewch at eich Gilydd. yn ogystal â hyn i gyd fe gewch chi hefyd adolygiadau gigs, enillwyr gwobrau Roc a Phop Radio Cymru, a cwpwl o bethau eraill. na fe, digon wrtha i. Fi off i Gaerffili nawr i chwilio am y boi ‘na ddaeth yn enwog ar ol i ni guro Lloegr. Fi ishe ysgwyd ei law e am gadw at ei air ! Parch !

‘hEi GWiL, MAE’R GiG NA’N ‘dEAd’ ! CyFWELiAd GWiLyM MoRUs - TUd 7

WELAi Chi yN y RhiFyN NEsA ! y GoLyGydd

GoGZ yN dWEUd bETh yW’R ‘dEAL’

- TUd 4

ALbyM NEWydd MC sAiZMUNdo

- TUd 8

GoLyGydd Owain Morgan-Jones

is-oLyGydd Llinos Wyn

dyLUNydd Elgan Griffiths

CyFRANWyR Owain Llyr, Lynsey Anne, Hefin Jones, Shon Williams, Trystan Pritchard, John Rhambo John Griffiths, Aneirin Karadog

...AC AR dUdALENNAU GodidoG ERAiLL y sELAR... Os am anfon demo, llythyr, neu unrhyw beth arall, y cyfeiriad yw :y Selar, Llawr un, Canolfan Sain, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd LL54 5TG neu e-bostiwch golygydd@yselar.com neu ewch i’n gwefan www.yselar.com

6 GWOBRWYO’R GOREUON Pwy aeth a beth a phwy wnaeth beth yn y Gwobrau Roc a Phop

12 COLOFN RAP JON-Z Dyddiadur sesiwn Sleifar a’r Teulu i sioe Huw Stephens ar Radio 1

11 DEWCH AT EICH GILYDD Holl hanes ail recordiad clasur Edward H.

14 ADOLYGIADAU O GIGS MIS CHWEFROR Pwy sy’n plesio ar lwyfannau’r wlad ?

Cynhyrchwyd gan gwmni RASAL Cyf, ariannwyd gan grant gan y Cyngor Llyfrau Cenedlaethol. Argraffwyd gan Wasg Dwyfor. RHybuDD - Defnyddir iaith gref mewn mannau, a iaith anweddus mewn mannau eraill yn y SELAR.

y SELAR 3


CYFWELIAD ychydig dros 5 mlynedd yn ôl sefydlwyd Gogz, band o fechgyn gyda diddordeb brwd mewn cerddoriaeth, a oedd yn ymarfer yn neuadd bentref bethel. Aeth Owain, un o'r aelodau, i'r brifysgol yn Stafford a chyfarfod Pearce Macintyre a ddaeth yn aelod o'r band. Ar ôl blynyddoedd o weithio'n galed mae’r dyfodol yn edrych yn ffafriol i Gogz ac mae'r band yn falch o ddatgelu ei bod nhw'n cael ei rheoli gan gynreolwr Muse. Dywedodd Chris Carr; "Mae'r band wedi cael cytundeb recordio gan gwmni best before Records yn Llundain. Mae'r cwmni yn derbyn arian gan bMG sy’n cael y 4 y SELAR

Mae’r Gogz newydd arwyddo cytundeb gyda chwmni recordiau best before yn Llundain. Lynsey Anne aeth i holi Chris Carr o’r band i gael gwybod mwy. dewis cyntaf ar fandiau’r label. Mae'r cwmni yn cael ei reoli o dan adain Channelfly sydd yn berchen ar glybiau barfly. Cytundeb 5 albym sydd genno ni, ond yn cael ei ail ystyried bob dwy flynedd." Er bod y cytundeb recordiau yn ei le, dydy'r cytundeb dosbarthu ddim yn gadarn eto gan y bydd angen iddynt ryddhau ei halbyms mewn gwledydd eraill yn Ewrop, America a Siapan. Felly

beth mae'r cytundeb yma yn ei olygu i Gogz? "Ein bod ni yn mynd i fod yn fand llawn amser," dywedodd Carr. "Rydan ni'n dechrau recordio demos yn gyntaf ac yna fyddwn ni'n gwneud sengl o dan gytundeb bMG. Mae'n bosib y byddwn ni'n gweithio gyda chynhyrchydd Oasis,Owen Morris!" Mae yna sî fod yn rhaid i Gogz newid ei enw, "Mae o'n wir," meddai

Carr, "ond dal ddim syniad i be, os oes gen rywun syniadau gadewch i ni wybod!!" ychwanegodd Carr, "Mae'r ‘album deal’yn mynd i’n heffeithio ni oherwydd, rwan mae'r gwaith caled yn dechrau. Da ni'n gorfod ysgrifennu albym newydd cyfan (mae o bron a chael ei neud yn barod). A dan ni'n mynd i fod yn dechrau teithio yn yr wythnosau nesaf, da ni'n edrych


GEiRiAu LynSEy AnnE ymlaen at hynny." Mae Rhys Mwyn wedi bod yn rhan annatod o ddatblygiad Gogz. Dyweodd Rhys; "beth mae Gogz yn dangosyw, os wyt ti'n fodlon gweithio'n galed o gwmpas ‘circuit’Lloegr am ddim prês, rwyt ti'n gwella dy siawns o gael cytundeb, a mae'r Gogz wedi profi hynny." ychwanegodd, "Mae profiad y Gogz yng nghymru wedi i ‘neud nhw ddeg gwaith yn fwy tynn na bandiau newydd sydd yn cystadlu yn ei herbyn yn Lloegr. Wrth gwrs, rwan mae'n nhw'n cychwyn o ddifri’, ac yn gadael y ‘bubble’Cymraeg i gystadlu yn erbyn y Libertines a'r Razorlights." "Da ni'n lwcus iawn fod Rhys wedi helpu ni," meddai Carr, "roedd yn trefnu gigs a mae o wedi helpu ni allan ers y cychwyn. Mae o dal i weithio efo ni drwy drefnu gigs yng nghymru ar y

funud. Genai lawer o barch i rhywun fel Rhys sydd yn rhoi ei galon yn y sîn roc Gymraeg ac yn helpu bandiau newydd allan." Mae'r band wedi newid dros y blynyddoedd ac mae hyn wedi newid sain eu cerddoriaeth. "Ers i Pearce ymuno efo'r band mae sain y band wedi newid lot. Mae o'n dod a llawer o syniadau newydd i fewn i'r gerddoriaeth, hefyd mae o’n ddiawl o ’guitarist amazing’sydd eto

yn gwneud y band hunna faint yn well." Mae gan Gogz ddilyniant da yng nghymru, ond mae wastad yn sefyllfa od gyda theimladau cymysg pan mae bandiau Cymraeg yn recordio caneuon Saesneg. Dywedodd Carr, "Pan gafodd 'Long way home' ei rhyddhau, roedden ni'n gwbod fod pobl yn mynd i siarad am y ffaith fod yr albym yn Saesneg, ond oedd o'n rhywbeth oeddan ni'n meddwl fod angen ei wneud i fynd a'r prosiect yma i lefel arall, hefyd dyma'r adeg cyntaf i Pearce recordio efo ni. "Dwi'n gwbod fod rhai pobl 'di deud wnaethon ni ryddhau 'Arferiad drwg' i guddio'r ffaith fod ni di rhyddhau albym Saesneg, ond dydi hynny ddim yn wir o gwbl. Doedd dim rhaid i ni ryddhau 'Arferiad drwg' os nad oeddan ni eisiau. Ond y gwir ydi fod ti methu stopio ysgrifennu cerddoriaeth yn dy iaith dy hun." ydy'r SRG wedi bod yn deg i'r Gogz dros y

blynyddoedd? Faint o barch sydd gan Gogz at y sîn? Meddai Carr [isod] "Dwi'n hoff iawn or sîn roc Gymraeg, dwi di bod yn rhan ohono ers y 5 mlynedd diwethaf ac yn gobeithio bod yn rhan ohono am flynyddoedd i ddod. Dwi'n meddwl fod y sîn yn mynd o nerth i nerth efo bandiau fel Frizbee a Poppies yn dod drwadd yn gryf rwan.” "Mae'r sîn wedi bod yn deg efo’r Gogz, da ni di cael tipyn o gymorth gan bobl fel Radio Cymru, boomerang, ond y bobl sy'n cadw'r sîn i fynd yn gryf ydi'r bobl sy'n dod i'r gigs i roi cymorth i'r bandiau. Mae o'n meddwl lot i rywun sydd fyny ar y llwyfan yn perfformio. Diolch i bawb sydd wedi prynu y cd’s a wedi dod i'r gigs. Da ni'n cael rhyddhau caneuon Cymraeg ar yr albym fel rhan o’r cytundeb sydd yn beth neis. Mae'n braf cael mynd i wlad arall a chanu yn y Gymraeg, does yna ddim teimlad gwell." nawr, mae’r Gogz angen gweithio'n galed, parhau i fwynhau beth mae'n nhw'n ei wneud ac i fynd a'r daith newydd cyffrous yma mor bell a phosib. y SELAR 5


UCHAFBWYTIAU!

yR hyFRyd A ThALENToG ELiN FFLUR

2 dLWs y TExAs RAdio bANd... A dAU Foi hyLL !

GWObRWyO’R

FoREARMs MWyA’R sRG : ALUN TAN LAN

GOREUON FRiZbEE: GWobR CANWR TEbyCA i sGoWsAR !

dAF dU yN CyFLWyNo

yn y chweched seremoni yn hanes gwobrau Roc a Phop Radio Cymru roedd neuadd PJ ym Mangor yn llawn i’r ymylon gyda phawb sy’n gysylltiedig â cherddoriaeth Gymraeg yno ( heblaw am bryn Fôn a Meinir Gwilym oedd mewn gig ar yr un noson. Efallai fod hyn am bod dim un ohonynt wedi’u henwebu am wobr....ond efallai ddim !) Alun Tan Lan enillodd wobr y cyfansoddwr gorau a gwobr artist gwrywaidd gorau. Enillodd Frizbee wobr y band a ddaeth i amlygrwydd a’r band pop gorau. Ac i ychwanegu at y gwobrau oedd yn mynd yn ôl i Flaenau Ffestiniog enillodd Anweledig y wobr am yr E.P. orau gyda ‘byw’. Texas Radio band gipiodd y ddwy wobr fwyaf. Albym y Flwyddyn am ‘baccta Crackin’a band y Flwyddyn. Elin Fflur gafodd Artist benywaidd Gorau a Sibrydion enillodd y wobr am eu sesiwn C2.

Aeth y teitl band byw i Pep Le Pew a Dyl Mei oedd y cynhyrchydd gorau am y canfed tro ar ddeg ! Gwobrwywyd Toni Schiavone am ei gyfraniad arbennig i’r sîn. Cafwyd perfformiadau byw gan Ashokan, Alun Tan Lan a Gwyneth Glyn, Frizbee a Pep Le Pew orffenodd y noson o flaen cynulleidfa llawn gwin ... sori ... bywyd. Dyna’n fras beth ddigwyddodd ar y noson, o ie, feddwodd Gethin KAFC yn beipen bost, eisteddodd Curig Huws( Lo-Cut) yn ei sêt yn edrych yn flin drwy’r nos ac fe gafodd Aron Pep Le Pew lot o sylw, gan lot o ferched. Amen tan 2006. John Rhambo

PLP yN GoRFFEN y NosoN

MEi sibRydioN

GWyNETh GLyN yN ChWARE GydA TAN LAN 6 y SELAR

AshokAN yN AGoR y NosoN


AR Y FFORDD ADREF Pan dwi'n glanio yn y caffi ym Mangor, mae Gwilym Morus yn yfed sudd ‘ceiriosen y wern’ [cranberry i chi a fi!]. Ac yntau newydd gyrraedd yn ôl o Gaerdydd, yn syth wedi ein cyfarfod caiff y pleser anffodus o fynychu darlith coleg. Mae'n fywyd prysur, ac mae'n siwr o brysuro. yn nes ymlaen eleni mae Drymbago, band mae Gwilym yn canu iddynt, yn gobeithio rhyddhau eu halbym gyntaf. Ond mae Gwil wedi rhyddhau ei albym ei hun yn barod. Mae Traffig, ar label Rasal, yn ddatblygiad o'r CD-r o'r un enw, y bu Gwilym yn eu dosbarthu trwy gydol llynedd. yn sgîl y CD-r honno a'i berfformiadau byw dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Gwilym Morus wedi llwyddo i swyno a hudo cynulleidfaoedd ar hyd a lled y wlad gyda'i ddoniau gwerinol. nawr mae'n bryd gweld os yw e' mor swynol a hudol pan mae e' yn y Selar. Ar 'y ffordd adref' ti'n canu; "a'r unig beth a welaf ar y ffyrdd di-ri yw hiraeth am fy nghartref i."

ydy'r gân am unrhyw achlysur arbennig? 'Mae'n gân hollol haniaethol i fod yn onest ... do'n i ddim rili'n trio sôn am y sefyllfa; fwy yn gyffredinol, sut bod cymdeithas yn y byd gorllewinol ddim yn berthnasol i un lle rhagor. 'Dan ni ddim jyst yn byw yn ein milltir sgwâr dim mwy. a 'dwi'n meddwl bod yna beryg inni golli cysylltiad." Lle mae adref i ti? "Dwi'n trïo creu cartref yng ngwynedd, ond dwi'm yn meddwl fydd genna'i gartref go iawn tan imi gael plant.” Wedi ei eni a'i fagu yn Wrecsam, mae Gwilym Morus, 28, hefyd wedi byw yng nghaerfyrddin, birmingham, Penmaenmawr a bangor. Dechreuodd gyfansoddi ar ôl torri ei fraich yn ddifrifol, bron i ddegawd yn ôl bellach. yna mi fu'n perfformio mewn bandiau, yn ogystal ag ar ben ei hun. 'Ond y peth pwyica' oedd canu mewn clybiau, mewn band oedd yn dynwared Otis Redding o'r enw Soul Agents.' Enillodd y wobr am gyfansoddi cân bop yn Eisteddfod Genedlaethol 2002, ac yn ystod yr un cyfnod, dechreuodd

Gwilym ymddangos ar raglenni radio a theledu, yn canu ar ei ben ei hun, neu fel rhan o Drymbago. Ers hynny, bu'n ceisio dal pob dim at ei gilydd. Ar ben hyn i gyd, mae'n dysgu sut i gynghaneddu, fel gallwch glywed ar 'yn y pen' ar yr albym. Ti'n aros i gymryd rhan yn Talwrn y beirdd am y tro cyntaf. Ti'n nerfys? 'ydw. uffernol. Achos mae o'n llawn o hen ddynion blin hefo llyg'id bach dieflig !' Mae'n awyddus iawn i chwarae yn fyw gyda'r caneuon oddi ar yr albym, gan obeithio cynnwys rhai o gyfranwyr yr albym yn eu setiau byw, megis Alun Tan Lan, a'r ddau Luke o Drumbago, yn ogystal â’r newydd-ddyfodiad - Lowri Cunnington yn canu. ydy, mae Gwilym Morus yn ddyn prysur. Ffeindiwch yr amser i wrando ar ei ganeuon, ar yr albym newydd, neu'n fyw yn ytod y misoedd nesaf.

i be a i ar ebay? Ar ôl i Celt rhyddhau yr albym @.com yn 1998 dyfeisiwyd rhywbeth a elwir ‘y We’. Ar y ‘we’ ma, chi’n gallu neud llwythi o stwff. un o’r rhain yw prynu a gwerthu pethau ar wefannau megis e-bay. Wrth bori drwy’r safwe yma cafodd un o ymchwilwyr y Selar sioc ar ei dîn. Copi o rhifyn mis Chwefror ar werth. Cadwyd llygad barcud ar yr ocsiwn, ac mae’r canlyniad yn codi mwy o ofn ar bobl na geirfa Gwyneth Glyn !

MAE’R FFWL dWL WEdi TALU £6.50 AM RhyWbETh sy’N dWEUd AM ddiM yN AMLWG AR y CLAWR ! 8 bid. TWPsod yN CysTAdLU AM y GoRAU i dALU AM y sELAR. CAERNARFoN - Fi’N siWR bydd PAWb sydd yN

GWEiThio AR y sELAR yN hAPUs iAWN EiN bod

WEdi Rhoi hWb i ECoNoMi CAENAFRoN WRTh Roi

ARiAN yM MhoCEd RhyW GoFi hAERLLUG.


CYFWELIAD 8 y SELAR


P

an ‘dwi’n cyrraedd y Cnu Aur yn nhremadog, i gyfarfod MC Saizmundo, ar brynhawn gaeafol heulog, mae’r lle ar gau. Mae Saizmundo yn ateb fy ngalwad, ac yn trefnu cyfarfod yn y Royal Madoc. Pum munud yn ddiweddarach mae e’trwy’r drws. Mae e’n edrych yn dda, yn iachus hyd yn oed, o ystyried bod gan Saizmundo allu i gael ei hun i mewn i drafferth ar adegau, heb ymdrech bron. Mae Deian ap Rhisiart yn serchog, yn alluog ac yn gyfeillgar. Ond mae MC Saizmundo yn nytar! “Rhaid i'r llais a'r stori gael ei chlywed...” ‘Saizmundo yn erbyn gweddill y byd’ Daw’r dyfyniadau uchod o albym gyntaf MC Saizmundo, ‘blaen Troedar.’Er gwaetha’r ffaith mai dim ond un albym mae MC Saizmundo wedi ei rhyddhau, mae’n ymddangos fel petai e’‘di bod o gwmpas am ^ achau. Creodd dipyn o stw r gyda’r albym hon, gafodd ei rhyddhau gan label Dockrad yn 2003. Fel rhyddhad o ddicter, does dim llawer o gasgliadau yn y Gymraeg ‘di cyrraedd uchelfannau ‘blaen Troedar.’y

Tystion a Datblygu yw’r esiamplau amlwg eraill. Fel Datblygu gynt, chi’n cael y teimlad bod Saizmundo yn llwyddo i godi gwrychyn y cyfryngau, yr union bobol sy’n hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg. Ar ddiwedd yr albym, mae swn canu côr yn cael ei ddifethaf gan ymosodiad dryll. Mae’n adlewyrchiad teg o weddill yr albym. ‘Terri a Huw’oedd y peth agosaf at ‘hit’ar ‘blaen Troedar,’ond does dim perygl o ‘Dim Job ar HTV’na ‘Saizmundo yn erbyn y byd,’sy'n llawn rhegfeydd, gael eu chwarae ar Radio Cymru yn y prynhawn. Cafodd yr albym sylw mawr, ond er gwaethaf cynhyrchiad Dyl Mei a rapio dyfeisgar, tanllyd Saizmundo, a’r syniad gwefreiddiol o lansio’r albym mewn blwch ffôn ar yr A470, mae’n ddigon teg dweud nad oedd hi’n llwyddiant masnachol syfrdanol, a dichon yw dweud na fydd Dyl Mei na Saizmundo yn ymddeol yn ei sgîl ... eto! Ond ‘dyw e’ddim fel petai e’'di bod yn dawel ers hynny. yn ogystal â’r gwaith

^

‘TACsi i’R CyNULLiAd i MR. MUNdo!’

newyddiaduraeth sy’n cadw Deian ap Rhisiart allan o drwbwl o ddydd i ddydd, mae’e’‘di bod yn cyfrannu at ganeuon Pep Le Pew a MC Mabon, yn ogystal â chyfrannu at gasgliadau Lladron 1 a 2. Fis Ebrill, mae'n rhyddhau ei ail albym, fydd yn cael ei chyhoeddi gan Recordiau Slacyr - label y dyn sy’n creu’r cyfeiliant i’r dilorni, Dyl Mei. Oes na syniad arbennig ar gyfer y lansiad y tro yma? “Wel, dwi’di bod yn meddwl gwneud rhywbeth ar pier Caernarfon, gyda wig rhywun, a rhoi hwnnw ar dân, ond dwi ddim yn mynd i ddweud pwy, rhag ofn

bo’nhw’n hel fi i’r llys... a lluchio hwnna i’r môr.” Lle wyt ti’n teimlo dy fod ti arni, erbyn nawr? "Mae'r albym bron a'i gorffen, mi fydd 'na 12 ne’13 o ganeuon a dwi di gorffen 10 yn barod. Mae'r caneuon yn fwy 'catchy' rywsut, yn fwy gorffenedig. Ond, mae'r hiwmor yn dal i fod yn reit dywyll. Dwi'n herio gwahanol genres cerddorol, mae'n dangos nad ydi rap yn rhywbeth Americanaidd - a bod modd 'i 'neud o'n hollol Gymreig; fatha ma' 'roc a rol' wedi cael ei dderbyn yn rhywbeth arferol yng nghymru bellach!"

MAE MC SAIZMUNDO FEL MARMITE. CHI NAILL A I YN EI GARU E NEU N EI GASAU E. IDDO RHYDDHAU

BLAENTROEDAR

CHWILIO AM DRWBWL.

NOL YN 2003 MAE E WEDI BOD ROWND CYMRU YN

NAWR MAE E WEDI FFEINDIO DIGON I LENWI ALBYM ARALL. OWAI

LLYR OEDD DDIGON DEWR I FYND I HOLI R RAPPAR GWYLLT. y SELAR 9


bydd albym newydd MC Saizmundo 'Malwod a Morgrug' yn y siopau yn fuan ym mis Ebrill.

Rwyt ti wedi bod yn weithgar iawn yn rapio ar draciau pobl eraill ers dy albym ddiwethaf, fel Pep le Pew a MC Mabon, ydy hyn wedi effeithio sut wyt ti’n gweld dy ail albym? “O’n i wastad yn deud, mai ‘learning curve’oedd yr albym gynta', a bo’fi’n dod i nabod sut i chwarae efo geiriau ac ati. Ond ‘wan, dwi’n deall mwy, a ma’Dyl ‘di perffeithio ei gynhyrchu ‘fyd. Ma' ‘na fwy o ‘tiwns’ynddo fo, a ma’pob dim lot mwy tynn rhywsut, a ma’n rapio fi’n dynnach 'fyd.” Mae pobl yn tueddu i weld ti fel rhywun sy’n gweithio ar dy ben dy hun, ond mae Dyl Mei wedi bod yn gweithio gyda ti erioed. Fuest ti’n perfformio gyda Gruff o’r Texas Radio band yn drymio ym Miri Madog. Pwy arall sy’n gweithio ar yr albym yma? "Mae Gruff Meredith yn rapio ar ‘Docfeistr’a MC Monty yn rapio dipyn ar ‘Chwerthin ar fy ngelyn'. Mae Mared Lenny o Doli gynt yn canu, ac mae Gruff Texas Radio band wedi rhoi dryms byw i lawr, so ma na gwpwl o bethe... a ma’Ed (Pep Le Pew) yn rapio ar 'GbH Mr urdd'."

10 y SELAR

A’r trac ‘GbH Mistar urdd,’am beth mae'r gân yma? "Pan o'n i'n fychan oedd yr urdd yn mynd ar fy nerfau, yn gwthio rhywun i wneud pethau nad oeddwn i'm o'i isio...ac yn dympio chdi os nad oeddet ti'n ddigon da, felly cân i gael gwared ar yr urdd ydi hi. Ond, ella mai dim ar Mr urdd yn uniogyrchol oedd y bai, ond ar yr athrawon!" “Mae ‘Pontypridd i baghdad’ eisoes wedi'i rhyddhau i'r cyfryngau ... esbonia'r cysylltiad rhwng Pontypridd a baghdad..." “ie, gyda honna, dwi’n rapio dros ferswin bob Delyn a'r Ebillion o'r gân draddodiadol 'ym Mhontypridd Mae'ng nghariad', a mae’n berffaith o ran hip-hop. Mae’n dangos bod ti’n gallu clymu caneuon traddodiadol i fewn gyda rapio, ynde? Dwi'n sôn am effaith rhyfel ac mai pobl ddiniwed sy'n cael eu heffeithio a'u niweidio. A

milwyr yn cael eu gyrru i ymladd fel ^ yn i'r lladd-dy^. yn amlwg, mae un w yn adre i rywun, ar llall yn faes y gad. Dwi di gneud fideo i bandit o’r gân yna yn barod. O’n i di gwisgo fel milwr, yn cario dryll, reit sinistr deud y gwir!” ( fel allwn ni weld ! - gol ) uchafbwynt eleni i ti hyd yn hyn? "yn sicr, teithio gyda Gruff Rhys - o'n i'n perfformio fel rhan o brosiect MC Mabon 'Kerrdd Dant'. Dwi'n edrych ymlaen i gychwyn teithio fy albym fy hun sy'n cael ei threfnu ar y cyd rhwng Maes b a Recordiau Slacyr ar gyfer dechrau Ebrill." GEiRiAu OWAin LLyR

... C N I GAEL GWARED AR YR URDD YDI HI ...


ADRODDIAD

DEWCH AT EiCH

GILYDD

AiL-RECORDiWyD CLASuR EDWARD H. AR GyFER APEL AFFRiCA/ASiA S4C 2005. DyMA DDiGWyDDOD PAn AETH PAWb AT Ei GiLyDD : Ar ddiwrnod oer o aeaf, yng nghanol y gragen fawr o lechi sy'n cael ei galw'n Ganolfan y Mileniwm, sydd a chawod arbennig i bryn Terfel y tu allan, daeth pawb a oedd yn rhywun yn yr SRG… a Gillian Elisa i roi diwrnod o'u hamser i gyfrannu tuag at sengl arbennig i hel arian at apêl S4C Asia/Affrica 2005. Doedd o ddim yn ddiwrnod o ganu cawslyd ac ego's, ond yn hytrach, yn ddiwrnod ble roedd cronfa dda iawn o artistiaid Cymraeg o Frizbee i Ashokan, Caryl P.J i Alun T. L yno. Er yr holl artistiaid gwahanol, heblaw am Aron P.L.P ar y bas Dwbwl, lle oedd y rappars i gyd? Erbyn meddwl lle 'oedd y KAFC a Meinir Gwilym? Atebion ar gerdynpost os gwelwch yn dda ! Mae'n eitha' trist ei bod hi wedi cymryd trychineb fel hyn i ddod a'r artistiaid hyn at ei gilydd achos fydde chi byth yn eu gweld fel arfer ar yr un 'bil'. yn yr ystafell werdd roedd Meic Stevens yn jammio mewn cylch yn canu penillion bob yn ail efo Dyl Mei, bryn Fôn, Huw Chiswell a Hefin Mattoidz. Alun Tan Lan mewn

dyFALWCh PA LiNELL dWi’N GANU? ... dA dE!

CLivE hARPWood cornel arall yn 'rihyrsio' cân gyda Gwyneth Glyn ar gyfer eu gig y noson honno ac Alun a Donut o Ashokan yn rhannu jôc efo Delwyn Siôn. Gwnaeth Meic Stevens ymdrech arbennig i jazzio'r gan i fyny wrth weiddi 'Wa wa wwwww' yn ei arddull blwsaidd rhwng bob 'Dewch at eich gilydd ' yn ystod perfformiad y côr , ac mae'n debyg fod bryn Fôn wedi bod yn eistedd wrth ymyl y gwîn am rhy hir hefyd gan ei fod yn slyrio'n uffernol yn ystod y côr ac yn gweiddi'n wirion o gwmpas y lle ! Dyna ddigon o gossip, y peth pwysicaf oedd fod pawb yno

er mwyn yr achos, a chredaf i'r achlysur droi allan yn ardderchog ac yn brofiad cyfoethog i bawb, roedd rhywun yn sylwi rywsut fod yr holl 'fitchan' ma sy'n mynd ymlaen rhwng genre's yn y sîn yn gwbl ddi-angen ac yn bitw iawn. Jyst digon o le ar ôl i sôn am y talent aruthrol o bob oed oedd yno hefyd. Roedd Elin Fflur a Tara bethan a cwpwl o ferched Waw Ffactor yn troi pennau pawb ac wrth gwrs y to hyn, Siân James a Sioned Mair ... still got it ladies ... mighty fine! John Rhambo

y SELAR 11

LLUNiAU : GRUFFydd dAviEs


COLOFN RAP JON?Z

dyddiAdUR

sLEiFAR A’R TEULU WEL sU’ MAE yR hALiWRs ?! yo! yo! JoN-Z yMA GydA CoLoFN ARALL AM RAP CyMRAEG. yN y RhiFyN yMA MAE’N ddos dWbWL o MC sLEiFAR. isod hoLL hANEs y sEsiWN JohN PEEL, sLEiFAR A’R TEULU. A dRAW oChR ARALL, CRoEso NoL i’R sLoT LLyFU TiN . . . A MAE sToRi AM y LLoFRUddioN hEFyd. diGoN? os ddiM . . . CAChWCh. WELAi Chi TRo NEsA’R JosGiNs.

HyDREF 6ED 2004 - GALWAD FFô n O LunDAin yn GOFyn inni WnEuD SESiWn AR GyFER RHAGLEn JOHn PEEL. PEnDERFynu GWADD CREME DE LA CREME y Sîn RAP. HyDREF 26 2004 - JOHn PEEL yn MARW. iOnAWR 18 2005 - nOS FAWRTH. yMARFER MunuD OLAF yn STiWDiO nEuD niD DEuD. PAWb WEDi CyFFROi yn Lân. DAL HEb GAEL yMARFER GyDA'R TEuLu LLAWn, OnD MAE PEnDAFAD, SLEiFAR, CHEF, CynAn A’i CHAPEROnE yn yR ARDAL. MAE LuGG Ty GWyDR yMA yn LOETRAn AC yn RAnTiO.

iOnAWR 19 2005 Sleifar dal heb siafio. Codi cyn cwn Caer a chasglu'r bws mini. Paul b dal yn chwyrnu. Casglu pawb dros yr awr nesa. Sylwi nad oes na ddiesel yn y tanc ... tybed nawn ni gyrraedd yr M4 ... Ffeindio Paul b a throi trwyn y cerbyd tua'r dwyrain. Ed ac Aron Peps yn chwil gachu ar wîn coch. Dyw hi ddim eto'n 10yb. bwrw’r ddinas fawr ddrwg. Oni bai am Pendafad, fasa ganddon ni ddim syniad lle i fynd. Ffonio'r stiwdio i gadw nhw'n sweet achos dan ni hanner awr ar ei hôl hi. Ma nhw'n ^ cw l. Dan ni'n deulu.

GEiRiAU A LLUNiAU GAN JohN GRiFFiThs

Cyrraedd Mada Vale a ffeindio'r stiwdio. Setio'r meics a dechrau recordio. yn y cyfamser, mae Gwion yn mynd i chwilio am gwrw. Pump awr yn ddiweddarach, ac ar ôl lot o chwysu a dryswch, mae'r trac cyntaf, sy’n cynnwys 8 MC ac un DJ, yn y can.

MC Chef yn cyrraedd bump awr yn hwyr. Mae'n esgus ei fod wedi cael cyfarwyddiadau anghywir ond mae'n ARoN hollol amlwg bod yr hick stônd 'ma jyst ddim yn gallu handlo Llundain. Dydi Pendafad a Sleifar ddim yn synnu achos mae o'n hoples. Dyw Chef ddim yn nabod ei ffordd o amgylch Caerfyrddin, heb sôn am Lundain. Heb sôn am gorff menyw. Recordio Chef a pharhau i sginio fyny gyda George y peiriannydd. yn ôl pob sôn, bu Roots Manuva yma ddoe, yn rapio i'r un meic â Cofi bach. Dysgu wedyn bod George wedi gweithio gyda neb llai na'r brodyr loco, Cypress Hill. Mae Ed bron a dod yn ei drôns. Tra bo Tew Shady yn rhoi llais ar dâp, mae Cynan yn mynd ar goll. Daw i'r fei hanner awr yn ddiweddarach gyda brechdannau a chreision i bawb.

MC sLEiFAR

TEW shAdy

CyNAN kENAvo

Gorffen recordio pedwar trac yn ogystal â rhybudd iaith anweddus ddwyieithog. Mae'r ‘possy’yn mynd i'r pyb am beint haeddiannol. Er eu bod wedi bod yn yfed ers 10yb. O fewn cachiad, mae Pendafad yn diflannu i ganol y mwg i chwilio am ffleshpot neu opium den a'n gadael heb sherpa da i'n tywys adref. Dychwelyd i'r stiwdio i glywed y mics cynta. Dyma ddechrau ail hanner y sesiwn. Gyda dau turntable, llond cratsh o gwrw a bag mawr o reu, mae'r parti yn cydio go iawn. Erbyn diwedd y sesh gymysgu, dan ni i gyd, yn gerddorion, yn beirannwyr, yn ffans ac yn ffrindia, yn partio ar falconi'r stiwdio i gyfeiliant synau Paul b ac Ed Peps.

sLEiFAR, ChEF A PAUL b yN ARos AM y LiMo. 12 y SELAR

CoFi bACh

Gadael y stiwdio wedi llwyr ymlâdd. Gweld llun o John Peel ar y wal a chofio pam dan ni yma. Parch.


LLYFU TIN ....

Y TYSTION MAE LLYFU TIN YN Ô L YN Y SELAR, AC MEWN RHYW FATH O DWIST PYRFYRTLYD kINkY, NI ‘DI DECHRE LLYFU TINE CHWYSLYD HEN FANDIE HEFYD. TRO YMA ANEIRIN kARADOG SY’N GWTHIO’I DAFOD SEIMLLYD RHWNG BOCHE TIN Y TYSTION. Mae yna sawl rheswm pam fo’r Tystion yn haeddu sylw a thrafodaeth yn y golofn hon. yn arloeswyr, fe lwyddodd y Tystion i dorri mewn i blasdy’r sin roc Gymraeg, a twgyd y gwin, y cwrw a’r ffowlyn wrth ffridjrêdio. Felly un o’r prif rhesymau pam fod y Tystion yn wych yw eu bod nhw wedi llwyddo i wthio ffiniau’r sin roc i’r graddau ein bod ni yn gallu dweud fod gyda ni, yng nghmru, sin Hip-Hop unigryw Gymraeg gyda Pep Le Pew,

Skep, Saizmundo, Kenavo a Cofi bach i enwi ond ychydig. Er mwyn deall y dryswch o ddigwyddiadau, ffeithiau ac odlau a’n harweinodd at sin Hip-Hop gref, rhaid mynd yn ôl i 1996 pan rhyddhawyd albym cynta’r Tystion Rhaid i Rhywbeth Ddigwydd… Rhyddhaodd y Tystion fom o guriadau, synnau bas tew ac odlau ffraeth cwbwl Gymraeg ar bawb, gan gynnwys John ac Alun, Radio Cymru a lot fawr o Gymry ifanc a oedd wedi arfer

â Huw Chiswell. Dyma G-man ac MC Sleifar yn achosi helynt a chreu cynnwrf ym mhob ardal. Ar yr albym hon mae Gwyddbwyll. Perl o gân sydd â rhyw ddirgelwch ynghyd â dôs perffaith o agwedd ac odli clyfar. Elfen amlwg o’r albym yma yw’r hiwmor yn y geiriau mewn caneuon fel ‘Fferins nol mewn ffasiwn’. yn ogystal â’r hiwmor geiriol, mae’r egni sydd yn y gerddoriaeth yn fy atgoffa o Jump Around gan House of Pain neu break ‘em Off Some gan Cypress Hill. Mae’r gân Rhaid i Rhywbeth Ddigwydd yn enghraifft berffaith o’r bywiogrwydd a’r agwedd oedd gan y Tystion wrth gychwyn.

Er bod rhai o fy hoff ganeuon erioed gan y Tystion i’w clywed ar eu halbym cyntaf, rhaid cydnabod fod Shrug off Da Complex, sef yr ail albym yn hynod o dynn o ran gwead y caneuon. Mae caneuon fel Dyma’n Rheg yn swnio mor aeddfed a photel win ore 1972. Gyda’r aeddfedrwydd hyn y datblyga ochr newydd i’r Tystion oedd ddim mor amlwg yn yr albym gyntaf, eu hochr wleidyddol.

Mae’r bywiogrwydd cerddorol a ffraethineb o ochr G-Man (Gruff) a’r elfen wleidyddol a’r rapio llyfn gan Crav yn mynd gyda’i gilydd yn well na Ant and Dec neu Reg a Denzil. Roedd MC Chef, Dai L(Skep) a C(neu Curig) i gyd yn aelodau ymylol o’r Tystion, efallai wir mai’r Tystion a’u symbylodd nhw i rapio, ond yn awr mae’n nhw wedi ffurfio amryw o grwpiau a phrosiectau cerddorol. Mae rhain yn eu tro wedi ehangu’r sin hip-hop Gymraeg gyda hanner y Tystion wedi troi’n MC Mabon (a gyflwynodd ni i MC Saizmundo) a pharhau i recordio caneuon o safon uchel. A wnaiff pawb foesymgrymu; mae’r Tystion yn yr ardal!

Diwedd Pep le Pew? Ed Pep Le Pew, neu’r dyn sy’n ‘freestylio’mor effeithiol yn y beirdd vs Rapwyr. Dyna sut y mae’r rhan fwyaf o bobl yn nabod Ed Holden. nawr mae e am droi ei law at brosiect newydd o’r enw y Llofruddion. Mae Ed a dau o’i ffrindiau o Lanerchymedd, Huw a Siôn, ynghyd a DJ Gags wedi bod yn gweithio ar stwff y Llofruddion ers ychydig wythnosau. Maent wedi recordio rhyw bum cân eisoes ar

gyfrifiadur yn nhy Huw gyda meic Karaoke, ond y bwriad yw mynd i’r stiwdio yn Garndolbenmaen at Dyl Mei sydd, yn ôl Ed yn gorfod, “cael ei fat fingers stuck in the pie!” Mae Ed yn anelu at gael sawl arddull wahanol ar yr albym, o hip-hop tywyll, i ddrwm a bâs tywyll i ‘party hiphop/breakbeat’. Does dim dyddiad ar gyfer lansiad swyddogol eto, ond gyda Ed yn canolbwyntio ar ganeuon y

Llofruddion, ydi hyn yn golygu fod y diwedd wedi dod i Pep Le Pew ? “ na, dim o gwbwl, side project ydi y Llofruddion. Dwi isho trio neud marc fy hun ar y sîn, ac roedd yr amser wedi dod lle on i’n teimlo’n barod i gael crac ar ben ‘yn hun, gawn ni weld sut mae’n mynd.” Mi fydd y Llofruddion yn ymddangos yn gig Abri yng nghlwb y Toucan Caerdydd. Mehefin 24ain.

Ed hoLdEN

y SELAR 13


GIGS CHWEFOR

Gruff Rhys – Theatr y sherman 13/02/05 Heblaw am un ne ddau o ffyliaid oedd yn mynnu canu dros donau peraidd y dyn ei hun, roedd torf eiddgar yn y Sherman, ac yn sicr, chafodd neb ei siomi. Cafwyd awr a hanner o synnau, harmoniau a melodiau yn y modd unigryw y mae Gruff wedi naddu iddo’i hun dros y blynyddoedd. Ac unwaith eto, roedd cael props rhyfedd i’w helpu yn ormod o demtasiwn. Er hynny, fyddai neb wedi disgwyl iddo allu cael swn mor dda allan o gasgliad o degannau ac allweddell ail law. Rhoddodd Gruff wledd leisiol wrth fynd drwy’r casgliad diweddaraf ‘yr Atal Genhedlaeth’ ac roedd cyfle prin i glywed fersiynau acwstig o ‘Cryndod yn dy Lais’ a ‘y Teimlad’. braf oedd cael eistedd i werthfawrogi’r gwaith yn hytrach

na bod yn un o don wyllt pan mae gweddill yr anifeiliaid blewog yn ymuno yn y diddanu, Fe gafwyd cefnoagaeth abl gan broken Leaf (Teflon Monkey gynt), ac Alun Tan Lan. bron nad oes wythnos yn pasio ble nad yw Alun i’w weld ar ryw lwyfan neu’i gilydd ac fe gafwyd golwg fan hyn ar pam y mae’n datblygu’n berfformiwr poblogaidd. Sticio at yr hyn y mae’n wybod wnaiff e’ mae’n debyg ond mae ganddo ddeunydd gwreddiol sy’n ddigon pleserus i wrando arno heb or-gynhyrfu. O ia, rhywle yn y canol fe gawsom ni Saizmundo yn nadu a rhyw gasgliad o ryw fath o mocCerdd Dant oedd yn debyg i ysgol Glanaethwy ar acid. Trystan Pritchard.

Gig Maes-b, Toucan 18/02/05 Er nad oedd y lle yn orlawn, roedd digon yno i beidio creu embaras. beth ddywedwn am Gwyneth Glyn na ddywedwyd eisoes? Dim ond bod hi’n hen bryd iddi recordio rhywbeth, ac efallai gael band. Gallai ei chaneuon hardd a breuddwydiol elwa o gael mwy o wmff. Mae gan Gwyneth y ddawn a’r dychymyg i dorri’n rhydd o’r ystrydeb. Dyna mae Fflur Dafydd wedi ei sylweddoli, ac er bod y ddwy yn pori o’r un cae cerddorol, mae ychwanegu cerddorion i’r gymysgedd wedi rhoi cyffro i berfformiadau byw Fflur. bydd hen edrych ymlaen i’w recordiad cyntaf unigol hithau hefyd. Rwan, mae’r Gogz wedi cael eu camliwio fel Covi-chavs a’u llygaid ar y wobr fawr heb wneud y gwaith caib a rhaw. Annheg. Cafwyd storm o berfformiad heno, riffs a chydchwarae tynn ac alawon bachog. Does dim byd syfrdanol o newydd yma, ond mae digon o ffrynt a mwynhad amlwg yn eu chwarae i haeddu slot ‘hedleinio’mewn ambell i ^ yl eleni. w Shôn Williams

74%

14 y SELAR

Gyda cyn lleied o le ym mwyty’r black, y cyntaf i’r felin yw hi. Cymysgu cerddoriaeth, barddoniaeth a darlleniadau mewn awyrgylch clyd mae noson 4/6. Wrth i’r ystafell lenwi, mae DJ Dyl bili yn cychwyn ei set gyda hen ffefrynau fel Endaf Emlyn a chaneuon ffynci Tokyu wedi eu cymysgu’n arbennig. Roeddwn i’n disgwyl ymlaen yn eiddgar at glywed llais tyner Gwyneth Glyn unwaith eto. Mae ei llais Joni Mitchell-aidd yn hyfryd a hypnotig ac yn gweddu’r gerddoriaeth syml sy'n plesio’r gynulleidfa ac sy'n mynnu ei chael yn ôl am y 3ydd tro! Darllenodd Dafydd Apolloni ddarnau digri iawn allan o’i lyfr

‘Roma:Hen Wald fy nhad’. Mae'r set darlleniadau yn cymysgu'n berffaith ac yn gweddu'r gerddoriaeth sydd i ddilyn. Set broffesiynol gan y Poppies unwaith eto, a fesmereiddiodd y gynulleidfa gyda pherfformiad unigryw a chryf. Gyda sengl newydd a thaith ar drothwy’r drws o dan adain Ciwdod roedd hi’n sicr yn gyfle gwych i ddenu cwsmeriaid. Lynsey Anne

63%

RAdio LUxEMboURG, ANUbis, GWiLyM MoRUs – CLWb MEdi CAERNARFoN 25/2/05 Cymysgedd o’r swnllyd a’r distaw oedd yr arlwy am y noson. Roedd Gwilym Morus, fel y cwrs cyntaf perffaith, yn ysgafn, a hefyd yn fyr ... beth yw hyn? 4 cân yn unig? y dorf ^ n? yn gwneud gormod o sw Ond Gwilym, rydyn ni’n clywed yn iawn hyd yn oed os nad wyt ti’n clywed dim ond acen pêr y Cofi’n bytheirio doethinebau’n dy glustiau. Caglau! Anodd ystyried p’run oedd wedi achosi’r helaethaf o gur pen, y cwrw eithafol yntau set Anubis a barhaodd oddeutu 4 awr a chwarter! Roc hynod ddawnus yn wir, a dwi di

band ‘ceidwad safonau moesol hunan-apwyntiedig’ y sîn roc Gymraeg, Rhys Llwyd, a’i frawd yw Kenavo. Dwi’n digwydd cytuno efo llawer mae Rhys yn ei ddweud, ond fedrai’m cytuno bod Kenavo yn da i rywbeth. Digon teg, 14 oed yw Cynan y rapiwr, ond dydi rap yn da i ddim os na allwch chi ddallt sillaf o enau y rapiwr (gweler hefyd Aron PLP). band ysgol o Gaerfyrddin yw Supernauts, ac mae nhw’n swnio felly hefyd. Mae’r pynci power-pop eilradd wedi dyddio ers o leiaf 5 mlynedd bellach hogiau. Rhaid trio’n galetach. Mae Mattoidz wedi gigio fel nytars i haeddu eu lle ar y brig heno, ac mae’r symudiad graddol o

^ arfer hefo sw n ond roedd Anubis yn uchel eithriadol. yn amlwg roedd set Anubis mor hir oherwydd diflaniad sydyn Morus y Gwynt felly ni ddylid eu beio am hynny. Radio Lux – uchel iawn i’r feniw eto ond roedd mwy o amrywiaeth yn eu caneuon a maent yn cario’r tiwns unigryw hefo arddeliad a hygrededd. Perfformiad clodwiw i fand sydd a dyfodol, a phresennol rhagorol. Hefin Jones

55% LLUN GAN kEiTh MoRRis

Gogz, Fflur dafydd a’r barf a Gwyneth Glyn,

PoPPiEs, GWyNETh GLyN, dAFydd APoLLoNi, dJ dyL biLi

LLUN GAN EiNioN dAFydd

LLUN GAN MARTiN RobERTs

89%

NosoN 4/6, bLACk boy CAERNARFoN 17.02.05

Mattoidz, supernauts, kenavo, Gig Maes-b, Toucan 25/2/05 fand acwstig bach canol y ffordd i’r pync presennol yn dangos band sy’n dechrau darganfod trywydd eu hunain. Maent yn dal yn gadarn yn y categori ‘7 allan o 10’, a bydd

47%

angen i’r albym newydd fod yn rhywbeth arbennig i’w gwahaniaethu oddi wrth y dyrfa. Shon Williams


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.