Selar - Mehefin 2006

Page 1

AM DDIM! RHIFYN 6 . MEHEFIN . 2006

TU MEWN

FRIZBEE . EUROS CHILDS . JAKOKOYAK A LLAWER MWY !



LLun CLAWR: FRiZBEE FFOTOGRAFYDD: EMMA GRiFFiTHS

gOLYgYDDOL

PWY SY’N RHOI’R ‘FRIZ’ YN FRIZBEE ? CYFWELIAD ECSgLIWSIF - TUD 16

Croeso i rhifyn arbennig, swmpus o’r Selar. unwaith eto, cyn i ni droi rownd mae’r haf ar ein pennau ni. Yr amser lle mae pawb yn tynnnu’r trow tri chwart o’r cwpwrdd, ffeindio’r babell yn nghrombil y shed a neidio i’r car er mwyn mynd i ffestifal. Yr amser yma o’r flwyddyn hefyd mae Alun Tan Lan yn tynnu’i sgidiau a cherdded o amgylch y lle’n droednoeth er mwyn mynd yn ôl at ei wreiddiau hipi...neu rhyw rheswm gwbwl wahanol ! Rhyfedd, ond gwir! Yn y rhifyn yma, fe gewch chi gyfweliad gyda’r triawd hynod boblogaidd o Flaenau, Frizbee. Cyfweliad gyda brenin byd cerddoriaeth electronic Cymru, Jakokoyak. A chyfweliad gyda’r Mwnci Zygotic ei hun Euros Childs. Mi fyddwn ni hefyd yn edrych nôl dros gampweithiau gorau llynedd yn ogystal ag edrych ymlaen at wyliau cerddorol Cymru lle gewch chi weld beth yn union fydd ar gael i’ch plesio chi ddilynwyr brwd yr SRG yn ystod yr haf yma. Os ydych chi mewn band, neu’n ymwneud mewn unrhyw ffordd ar SRG rydyn ni eisiau clywed oddi wrthych. Mi fydd rhifyn dwbwl arall yn cael ei gyhoeddi yn yr Eisteddfod yn Abertawe felly os oes gennych rhywbeth a fyddai o ddiddordeb i ddarllenwyr Y Selar, cysylltwch â ni er mwyn y nefoedd !

WELAI CHI YN ABERTAWE ! Y gOLYgYDD

EUROS CHILDS YN AgOR EI ‘CHOPS’ - TUD 4

WACO JACO CYMRU ! JAKOKOYAK - TUD 12

gOLYgYDD Owain Morgan-Jones

DYLUNYDD Elgan Griffiths

CYFRANWYR Owain Llyr, Lynsey Anne, Esyllt Williams Shon Williams, Trystan Pritchard, Saizmundo, John Rhambo, Angharad Griffiths, Barry Chips, Dyl Mei, Deian ap Rhisiart, Cai Dyfan,

...AC AR DUDALENNAU gODIDOg ERAILL Y SELAR... Os am anfon demo, llythyr, neu unrhyw beth arall, y cyfeiriad yw :Y Selar, Llawr un, Canolfan Sain, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd LL54 5TG neu e-bostiwch golygydd@yselar.com neu ewch i’n gwefan www.yselar.com

8 DEWIS DEg Edrych yn ôl ar ddeg can orau 2005 yng ngwmni’r bonheddwr Dyl Mei.

26 COLOFN RAP JON-Z Y diweddaraf o’r byd Hip-Hop a Rap Cymraeg gyda’r Mo-Ffo Jon-Z

24 FFEITHIAU’R FFESTIFALS Pwy sy’n chware, yn ble a pha bryd yn ystod Haf 2006?

28 ADOLYgIADAU CD’s Beth sy’n gachboeth a beth sy’n gachu mor belled yn 2006 ?

Cynhyrchwyd gan gwmni RASAL Cyf, ariannwyd gan grant gan y Cyngor Llyfrau Cenedlaethol. Argraffwyd gan Wasg Dwyfor. RHYBuDD - Defnyddir iaith gref mewn mannau, a iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y SELAR.

Y SELAR 3


Chwara

plan

Ar ôl gwneud enw i’w hunan gyda’r band gorky’s Zygotic Mynci a mwynhau llwyddiant ar draws gwledydd Prydain ac ardaloedd eraill o’r byd, mae Euros Childs yn mentro i dir newydd drwy rhyddhau ei albym gyntaf fel artist unigol. Wrth iddo baratoi at fisoedd o waith hyrwyddo a chyfweliadau di-ri yn sgîl rhyddhau Chops, Trystan Pritchard aeth i’w holi ar ran Y Selar. 4 Y SELAR


Euros Childs

O

’n i ddim isie rhywbeth trwm melancholy a ceisio edrych yn rhy ddyfn i mewn i bethau. Mae lot o bobl yn gwneud hynny gan feddwl fod pawb arall isie clywed amdano, ond fase hynny wedi bod yn boring i mi, heb son am bawb arall.” Yn lle hynny, fe daflodd Euros Childs ei hun i mewn i’r rhyddid o gael gwneud record gyfan ar ei ben ei hun. Penderfynodd fynd “mor agos a fedrwn at ryw fath o party music.” Y canlyniad yw hanner awr o wledd dan yr enw Chops, sydd mewn gwirionedd, yn unrhyw beth ond boring. O ddechrau disgo bywiog Donkey island i’r gymysgfa gwerin a thecno a geir yn y gân olaf First Time i saw You, mae ‘na rywbeth yma i bawb ac mae hyn yn dangos amrediad cerddorol neu wallgofrwydd llwyr Euros Childs i’r eithaf… ond dydw i ddim yn siwr pa un. Ar ôl treulio’r pymtheng mlynedd diwethaf fel rhan o Gorky’s Zygotic Mynci, (band y mae’n ei alw yn debycach i deulu rhyfedd na dim arall) roedd hi wastad am fod ychydig yn rhyfedd i Euros gynhyrchu rywbeth ar ben ei hun. Felly fe glodd ei hun mewn stafell yn nhyˆ ei rieni yn Sir Benfro am dri mis a rhoi’r holl albym at ei gilydd yn fras. Yna fe aeth at Gorwel Owen yn Stiwdio Ofn i wneud y sesiynau terfynnol. Mae’r canlyniad rhywle rhwng yr ysgafnder hoffus a bywiogrywydd stwff cynnar y Gorky’s â’r cyfuniad o ganu gwlad a pop a ddiffiniodd y grwp go iawn yn ddiweddarach. Mae Euros yn hyderus fel perfformiwr unigol ond wedi dweud hynny, caiff ddigon o gymorth gan ei chwaer, Megan a John Lawrence, un o gynaelodau’r Gorky’s. Wedi taith gerddorol o dros dair mlynedd ar ddeg, mae’r Gorky’s bellach wedi parcio’r fan am y tro olaf. Yn y cyfnod yna fe welsom naw albym. Mae’r ffigwr yma ei hun yn dangos pa mor ffrwythlon fu’r ffynnon ond mae yna berlau yn eu

plith fel Barafundle a Gorky 5. Efallai mai dim ond y ffans go iawn oedd yn gwerthfawrogi‘r talent amlwg ar y pryd ond wrth iddo gamu ymalen ar ei ben ei hun, mae Euros yn ffendio ei hun yn cael dipyn o sylw. Ryw fand rhyfedd ‘off the wall’ fu’r Gorky’s i lawer o bobl nad oedd yn gweld y grefft yn y melodiau swynol a’r ysbrydoliaeth wledig. Roedd rhai yn ei gweld fel band oedd ar ei hôl hi yn gerddorol ond mae gweld band yn y siartiau fel y Magic numbers sydd a’r un harmoniau heulog yn profi mai o flaen eu hamser fu’r Gorky’s ac nid ar ei hôl hi. Wrth dyfu fyny ym mhellafoedd Penfro, doedd dim peryg i Euros gael ei lyncu gan y peiriant cerddoriaeth prif-lif Eingl-Americanaidd: “Lle oeddwn i yn byw, roedd hi’n lot haws prynu records ail law. Os oeddet ti eisiau prynu albym newydd roedd rhaid i ti fynd i Abertawe neu Gaerdydd.” "Mae pawb yn tueddu i fod yn fwy agored eu meddwl am fiwsic y dyddie yma” meddai. “Pan ddechreuon ni roedd pobl yn gofyn sut ges di mewn i Robert Wyatt? (canwr psychedelic mental o’r 70a’u) Wel ti’n clywed e ar y radio a ti’n mynd mas i’w brynu yn dwyt? Ond roedd hynna yn dychryn pobl. Roedden nhw’n dweud ‘You’re nineteen – you should be listening to Blur.” ” Dwi wastad wedi casau’r syniad os ydy rywbeth yn acwstic roedd pobl yn credu fod o yn fwy real neu ‘authentic’. Dyna be’ ydy pwynt Donkey island really. O’n i’n trio cael y teimlad yma….rywbeth fel y stwff really drwg wnaeth Donovan yn y 70’au, stwff dylse byth fod wedi cael ei wneud…” Er ei fod yn dweud ei fod yn taflu ei hun yn gyfangwbl i mewn i’r gwaith o hyrwyddo ei record newydd dros y flywyddyn nesaf, mae Euros yn awyddus iawn i bwysleisio nad oedd hyn yn ffactor wrth gyhoeddi diwedd y Gorky’s: “Roedd o jyst yn amser da i bawb cael break ond does dim ffraeo wedi bod, rydyn ni yn dal i weld ein gilydd yn aml. O’n i jyst eisiau mynd ffwrdd am ychydig i weld os allwn ni wneud hyn ac felly mae rhaid i fi roi fy holl amser a egni i mewn i’r peth.

Y SELAR 5


Euros Childs y caneuon: Billy The Seagull Agoriad dioglyd i’r albym ble mae Euros yn deffro o’i drwmgwsg i roi darlun o’r awyr: “Saturday morning, flying so high.” “Fe ysgrifenais i honna yn fy nghwsg” meddai. “Dydy o ddim yn rywbeth i fi neud o’r blaen ond fe ddeffroais ar ôl bod yn breuddwydio’r gân. Roedd gen i dictaphone wrth ochr y gwely, so beth sydd i’w glywed yw fi yn canu mewn i hwnna am ddau neu dri o’r gloch y bore – dyw’r sw ˆn cysglyd ddim wedi roi mewn wedyn.”

O’N I DDIM ISIE RHYWBETH TRWM MELANCHOLY A CEISIO EDRYCH YN RHY DDYFN I MEWN I BETHAU… OND FASE HYNNY WEDI BOD YN BORINg I MI, HEB SÔN AM BAWB ARALL.”

Donkey Island “Ro’n i ar fy ngwyliau unwaith” meddai Euros. “Dydw i ddim yn cofio os na Twrci neu Groeg oedd o, ond roedd na foi yn gwerthu trips i ‘Donkey island’, a mi ddychmygais rywun yn stuck ar yr ynys ac yn gorfod addasu i fyw yno." Mae’r person yn y gân yn cael ei wrthod ar yr ynys ar y cychwyn: "A thousand miles over the ocean/i got a kicking at first" – ond daw i’r canlyniad yn y pendraw fod o ymysg ffrindiau: "donkeys are like you and me" Mae’n debyg felly bod Euros yn credu fod hi’n dda cael ei ddatganiad gwleidyddol allan o’r ffordd ar ddechrau’r record. Roedd y demo yn lot mwy disco” meddai Euros. “Ond nes i tonio fo lawr dipyn.” Dawnsio Dros Y Môr (Dancing Across The Sea) "Ro’n i wedi ei gael o mewn i fy mhen nad o’n i’n gallu sgwennu caneuon Cymraeg mwyach. Er bod y geiriau yma ddim yn gwneud llawer o sens, y tro cyntaf eisteddais i lawr

i’w sgwennu fe gymrodd o amser hir iawn.” Slip Slip Way Mae organ fach Yamaha yn rhoi un o‘r synnau allweddell gorau ar albym sy’n llawn ohonyn nhw. “Mae’n siwr fod hon yn profi fod yr holl gwestiwn iaith ddim yn meddwl llawer, gan fod rhai o’r geiriau Saesneg ddim yn meddwl jack-shit chwaith” Costa Rita un o felodiau pop gorau Euros. Mae rywun sy’n gweithio ar stondin hufen ia ei frawd yn cael perthynas fer gyda merch sy’n gwerthu cnau. Mae’r amser byr y mae nhw yn ei dreulio gyda’i gilydd yn cael ei ddangos ynghyd a gweledigaeth arbennig o graff o economeg trefi glan môr. "ice cream sells when it's hot/ But it don't sell so well when it's not". Stella Is A Pigmy pts 1-3 Can hollol gnau bost – mewn tair rhan. My Country Girl Can ramantus arall ond y tro yma efo dylanwad nashvilleaidd cryf iawn. “Fy nheyrnged i Rubber Soul ydy hon. Dydy o ddim yn swnio fel y Beatles o gwbl, ond rydw i yn hoff iawn o hen recordiau ble mae na jyst un cân country, felly o’n i’n meddwl faswn i’n gwasgu fy nhueddiadau country i mewn i un trac o funud a hanner. Circus Time "nes i gychwyn hon ryw bedair neu bum mlynedd yn ôi, dyna pam y mae Megan (chwaer hyn Euros a chyd-

Y CLAWR Gwledd o bob math o gig wedi ei siapio i ryw fath o arfbais sydd i’w weld ar glawr ‘Chops.’ Mae’n debyg mae’r teitl yr albym a ysbrydolodd yr alrunydd Mark James i roi’r cynllun gwahanol iawn yma at ei gilydd. Ac yn naturiol doedd Euros sy’n lysieuwr ers blynyddoedd ddim yn rhy hoff ohono i deechrau. “Ro’n i

6 Y SELAR

reit disgusted ganddo fo pan welais i o gyntaf” meddai “Ond erbyn nawr rwy wedi arfer ag e ac mae’n rhaid i mi gyfaddef fod e’n edrych yn drawiadol iawn.” Ac i’r rhai ohnoch sy’n poeni am bethau felly mae’r clawr hefyd yn nodi na niweidwyd unryw anifeiliaid wrth roi ‘Chops’ at ei gilydd.


Euros Childs aelod o Gorkys) yn chwarae’r darn fiolin - roedd o yn braf iawn i gael hi yn rhan ohono.” Cynhaef (Harvest) "Dyma’r gân gyntaf o’r albym i mi ei chlywed yn cael ei chwarae nôl i mi. Doedd gen i ddim hi-fi na dim, just cassette player a rhai o’r headphones ‘na sydd i’w cael am ddim ar awyrennau – ond mi oeddwn i yn hapus iawn i glywed fy mod i yn gallu ei wneud o a bod albym ar ben fy hun yn bosibl.” Hi Mewn Socasau Mae’r geiriau yn dipyn o syndod ar y trac piano gref yma gyda Megan yn lleisio eto. "Mae wedi ei gosod mewn pentref yng nghymru ym 1869” meddai Euros. “Mae’n rhaid i’r cymeriad yn y gân godi ar doriad y wawr i roi pedol ar droed ei geffyl. Felly mae o yn gorfod mynd i ymlwed a’r gôf lleol, sydd yn ferch â dipyn o enw drwg. Mae pawb wedi ei rybuddio fo i gadw oddi wrth y ferch ond basically mae’r gân yn sôn am y ddau ohonyn nhw yn…wel..getting it on. Mae ‘na lot o innuendo Carry-On style – dwi meddwl fod Gorwel wedi cael dipyn o sioc pan wnes i ddechrau canu hon.”

O’N I TRIO CAEL Y TEIMLAD YMA …. RHYWBETH FEL Y STWFF REALLY DRWg WNAETH DONOvAN ON Y 70’AU, STWFF DYLSE BYTH FOD WEDI CAEL EI WNEUD …”

Surf Rage Mwy o feriniadu cymdeithas i’w gael fan hyn – y tro yma yn cyfeirio at ddigwyddiadau tywyll a dirgel mewn cymuned glan môr dawel. "nes i fynd ychydig yn depressed ar ôl darllen erthygl yn y Guardian oedd yn sôn am surfers yn ymosod ar ei gilydd.” Y canlyniad ydy baled ar y piano wedi adeiladu o gwmpas y linell: "Don't steal my wave". First Time i Saw You Wyth munud hollol gnau. Os fyddai Kraftwerk wedi cynhychu acid-folk, dyma beth fyddai’r sw ˆn wedi bod. “Mae hon yn gweithio yn eithaf da yn fyw” meddai Euros. “nes i dapio’r keys ar y synth i lawr a jyst gadael o i redeg.”

safle we: Y SELAR 7


dewis

Yn dilyn llwyddiant colofn 10 uchaf ddiwethaf Dyl Meio berlau coll yr SRG ... dyma rhestr arall o 10 c n orau 2005 yn ei dyb E

Demo oedd hwn yn wreiddiol gan y boi efo sbectol sy’n Kentucky AFC, swnion eithaf tebyg i ddeunydd solo Gruff Rhys ... wel, efallai ar ôl iddo fod i Amsterdam am benwythnos! neis iawn oedd clywed "Dangos dy wyneb dod" yn cael ei ailadrodd yn gyson ar seindonnau Radio Cymru! Caneuon fel hyn dylent astudio, byddai pobl yn dysgu lot mwy na thrio rhoi condom ar satsuma neu beth bynnag maen nhw’n eu gwneud y dyddiau yma. Yr unig reswm nad yw’r gân hon ddim yn uwch yw oherwydd nad ydwyf eisiau meddwl am wyneb dod Huw KAFC yn rhy aml.....

9

SWCI BOSCAWEN - SWCI

OK, i ddisgrifio’r gan yma’n eithaf cyflym, bydden i’n dweud “MC Mabon goes drag!!!” Dydy hyn ddim yn ddisgrifiad o Miss Swci Boscawen ei hun ( mae hi yn edrych fel yr hogan ddrwg sydd ym mhob ysgol!) ond o steil y gerddoriaeth. Dyma un o’r caneuon Cymraeg fwyaf rhywiol ers i Margaret Williams rhoi gora i ganu. Yma cawn linell bass yn pwmpio, merched del yn canu a llinellau wedi’u dwyn gan Blondie - wrth gyfuno’r rhain mae yna effaith anhygoel. Mae’r ffaith fod y fideo wedi’i ffilmio mewn clwb ‘lap dancing’ hefyd yn help i werthu’r gân - er dydw i ddim yn disgwyl llai gan griw fel Mared Lenny, Gruff Meredith a Dave Wrench! Mae’r band yma hefyd yn werth ei gweld yn fyw!!! Agwedd a thambwrinau beth well?

8

Blwyddyn eithaf distaw gan y pync rocars yma, ond rhyddhawyd yr EP iasobe, wedi’i gynhyrchu gan Mathew or Keys a recordiwyd mewn ystafelloedd ymarfer yng nghaerdydd!!! Llwyddodd yr hogia gadw at beth maen nhw’n ei wneud orau, sef caneuon pync o’r radd flaenaf. Credaf mai insomnia y prif leisydd Endaf yw thema’r gân (‘Gwelwch Golwg’ ect ect) ...efallai fy mod i’n anghywir i ddweud hyn, ond os yw Endaf yn llwyddo creu cyfansoddiadau fel hyn wrth ddioddef o insomnia - gobeithio gwneith o’m cysgu byth eto! Mae’r Salwch yn fath o gân y dylwn chwarae yn ysbyty Gwynedd i godi’r cleifion!! "Y SALWCH!! Y SALWCH” yn bloeddio pob bore am saith... buasai’n anhygoel; a dwi’n eithaf siwr buasai pw ˆer y gytgan yn lladd rhyw 90% o afiechydon!

7

Llun - Aled Roberts

8 Y SELAR

SLEIFAR AR TEULU - CYNRYCHIOLI

Ar ôl i Lo-cut a Sleifar droi’n llwch, wnaeth Steffan Cravos benderfynu mynd a’i rapwyr Cymraeg gorau lawr i Lundain i recordio sesiwn John Peel a gafodd ei gomisiynu cyn i’r DJ arloesol ein gadael i’r gig mawr yn yr awyr, a dwi’n eithaf siw ˆr na fuasai wedi’i siomi. Dyma un o hen ganeuon Tystion wedi ei gymysgu gyda Frank Sinatra, a’r gân yma sy’n rhif 7, "Cynrychioli". Mae’r gân yn portreadu ac yn cynrychioli’r sin hip hop Cymraeg. Rhowch Sleifar, Ed Holden, Aron Elias, Cofi Bach, Tew Shady, Cynan Llwyd, John Gedru a Chef yn rapio dros guriadau’r Lladron a chewch glasur o gân. Yn anffodus nid yw’r gân yma wedi’i ryddhau ond un o’m hoff linellau o’r gân ydy llais John Gedru yn bloeddio "smocio ac yn yfed tan mae’r haul yn y nen, codi yn y bore fo trôns ar fy mhen!" Gwych, 7 munud o gân sy’n cynrychioli hanes hip hop Cymraeg o’r cychwyn (John Gedru) i’r newydd (Cynan Llwyd). Da iawn chi!

6 SWCI BOSCAWEN

KENTUCKY AFC - Y SALWCH

Llun - Owain Llˆyr

10

MR HUW - gWYNEB DOD

ALUN TAN LAN - BYW AR BEN FY HUN

Fel LP, mae’n siwr byddai’r gân yma’n rhif un neu dau. Mae’n record wych arall gan Mr Evans o ffarm Tan lan. Doeddwn i ddim yn hollol siwr pa gân i bigo fel y gorau, ond yn y diwedd Byw ar ben fy hun a ddewisais. Rwy’n cofio ei chlywed fel demo, fersiwn hollol wahanol efo band llawn yn chwarae, ac

gWYNETH CUDDIO’N Y gWRYCH

roeddwn i’n eithaf siomedig pan glywais fod Alun wedi gollwng y fersiwn yna. Ond pan glywais hon, roeddwn i’n gwybod fod Alun wedi gwneud y penderfyniad cywir. Mae ATL ar ei orau wedi’i stripio lawr efo ei lais a’r bas yn unig. Mae’n swnio’n eithaf tebyg i Rollercoaster gan Buddy Holly, efallai bod hyn yn cyfrannu at ddiniweidrwydd y gân. Dydw i ddim yn siwr beth yw gwir ystyr y gân ond mae’n neis ac yn gwneud i ferched eisiau ei briodi ac yn gwneud i ddynion eisiau ysgwyd ei law.

5

gWYNETH gLYN - CAN Y LLONg

Dwi’n gwybod fod "Adre" yn gân shit-hot, ond mae hon yn well yn fy marn i. Yeah yeah, iawn dwi’n gwybod y dylwn i fod yn niwtral a pheidio â rhoi pethau dwi di helpu cynhyrchu i mewn yn fy rhestr, ond stwffio fo, mae’r gân yma yn diwn a hanner. Pan glywais i’r gân yn cael ei chwarae am y tro cyntaf roeddwn i’n meddwl fod Gwyneth wedi leinio rhyw hen forwr a dwyn ei gân Gymraeg goll o oes y môr ladron. Buasai hon yn gallu bod yn gân draddodiadol. Mae’n sôn am ferch yn hiraethu ar ôl ei chariad sydd i ffwrdd ar y môr. Pwy bynnag yw eich cariad neu’ch partner, gallwch chi ddim help ond teimlo effaith y geiriau. Ac fel ydw i’n deall, ar ôl i Heather Jones glywed y gân, gofynnodd a buasai’n cael ei dwyn hi... Heather Jones!!!


Llun - Pesda Roc

4

POPPIES - SEx SELLS

Mae hon yn swnio fel cân sydd wedi dod yn syth o boced ‘The Jam’ neu ryw fand new-wave arall. Credaf mai cyfieithiad o fersiwn Saesneg ydi hi, ond dydy hynny ddim o bwys. Mae’r gitâr, bas a drymiau yn gweithio mor dda, buasai’n gweithio mewn unrhyw iaith, "Sex Sells, on n'est pas avendre!!" - chi’n gweld, mae’n swnion dda mewn Ffrangeg hefyd! Mae’n biti ei bod nhw’n dweud nag ydyn nhw ar werth, oherwydd dwi wedi gweld y sengl yn Cob Records, Siop Eifionydd, Spillers a llawer o lefydd eraill, felly maen nhw’n gwrthddweud rili dydyn? Hogia drwg!

3

gWILYM MORRIS - gWELD DY WYNEB

Llun - Einion Dafydd

Dydw i ddim yn gwybod pam, ond am ryw reswm dyma un o’r caneuon hynny sydd yn cychwyn pob "complimation" dwi di neud yn ddiweddar. Efallai bod y ffaith ei bod hi’n drac hyblyg. Mae’n gân neis i wrando arni wrth gerdded, mewn parti, wrth gael bath neu hyd yn oed wrth sgïo. Mae’n eithaf rhyfedd oherwydd dydy’r gân ddim yn drist, nac yn un hapus ond yn llawn emosiwn. Buasai’r gân yn gweithio’n arbennig dros un o fontages dodgy Hollyoaks! Braf clywed fwy a fwy o artistiaid Cymraeg yn cadw pethau’n syml. Buasai nifer wedi mynd dros ben llestri efo cân fel hyn ond mae Gwilym wedi llwyddo i gadw’r trac yn organig a syml gan adael ei harmonïau i

RHYS SPIKES - RADIO LUx

gRUFF PEN CÔN YN RHIF 1

gario’r gân. Hefyd, mae llais arbennig a dwfn Gwilym Morris yn hudo, os fyswn i’n ferch byddai’n apelio’n fawr a bydden i’n gaethwas rhywiol iddo ar ôl clywed y gân yma de.

siawns i lwyddo yn rhyngwladol. Mae’r gân yma’n profi ei bod nhw llawn cystal â Gruff Rhys, Euros Childs neu unrhyw fand arall sy’n y siartiau, wrth gyfansoddi cân pop.

2

1

RADIO LUxEMBOURg - LISA, MAgIC A PORFA

Fe wnes i ddweud wrth ryw fodryb hen ein bod ni’n mynd i wrando ar "Radio Luxembourg" yn ddiweddar ac fe aeth hi’n od i gyd a’n cyhuddo o drio ei drysu gan ei bod hi’n meddwl am orsaf radio sydd wedi gorffen ers blynyddoedd. Pobl hen de ... pwy faga nhw? Dydw i ddim yn deall ystyr y gân yma chwaith ond hefyd yn hapus nag ydw i’n gwybod - dydw i ddim eisiau i unrhyw beth ddinistrio'r ffordd rydw i’n meddwl am y gân yma. Dyma sengl orau’r flwyddyn i bawb dwi’n meddwl. Mae’r gytgan mor fachog â bird flu! Cynhyrchwyd gan Euros Childs o’r Gorkys ac mae ei ddylanwad yn amlwg iawn ar sw ˆn y gân - buasai’n medru bod yn un o ganeuon Gorkys Zygotic Mynci, ond wrth ddweud hynna, mae Radio Lux dal i swnio’n eithaf unigryw. Anaml iawn clywn theromin ar gân Cymraeg, ac anaml iawn y cewch chi "get away" efo geiriau sydd ddim yn neud synnwyr o gwbl, ond dyna maen nhw wedi llwyddo i’w wneud efo "Lisa, Magic a Porfa". Wrth feddwl am yr holl fandiau yn y 10 uchaf, credaf mai Radio Luxembourg sydd hefo’r

gRUFF RHYS - PWDIN WY 2

"Pwdin Wy, Pwdin Wy, gelyn yw dy Glwyf". Dim dyma’r geiriau mwyaf amlwg i gychwyn un o’r caneuon gorau Cymraeg 2005. Ond, fel mae Mawredd Mawr yn profi (Cân am oleudy a byw ar fynydd di bod yn rhif 1!!!), nid y geiriau sy’n bwysig ond teimlad y gân. Dwi’n cofio clywed hi am y tro gyntaf a jyst eistedd yna am oriau yn ei ail chwarae ac yn ei chwarae eto. Dwi’n adnabod sawl arall a wnaeth yr union yr un peth. A wnaeth hyd yn oed fy mrawd bach, sydd fod yn ‘typical townie’, cael ei doddi ganddo wrth iddo glywed y gân am y tro gyntaf. "dyna hi, dyna hi, dyna ddiwedd hi", does dim llawer o bobl yn gallu defnyddio geiriau mor syml i greu effaith mor enfawr. Mae’r gân yn gweithio’n well byth os ydych chi’n gwrando ar Pwdin wy 1 cynt. O’r cychwyn cyntaf mae’n drac hapus a bywiog ond yn gorffen mor drist. Credaf fod y geiriau yn gallu meddwl lot i rywun sydd wedi bod drwy ddiwedd perthynas a dwi’n trio meddwl am ryw jôc neu rywbeth digri i ddweud am y gân ond gallai ddim!! Mae o jyst yn anhygoel. Y SELAR 9


Pwy sy n cipio teitlTexas 2004 Radio Band ? Pwy gaiff y clod a r b sy ynghlwm wrth gael ei enwi yn Albym orau gan Y Selar?

10

BRIgYN 2 BRIgYN gWYNFRYN CYMUNEDOL

Ail albym y ddau frawd o Lanrug, Ynyr ac Eurig Roberts o dan yr enw Brigyn. Cyn sefydlu Brigyn roedd y brodyr yn rhan o Epitaff, band a allai ysgogi hunanladdiad mewn llai na dwy gân. Mae Brigyn yn well, lot gwell. Mae’r ddau’n defnyddio samplau, a churiadau electronig yn ogystal ag offerynnau traddodiadol fel y delyn er mwyn adeiladu’i sw ˆn unigryw. Mae’r naws hamddenol ar harmoniau, er yn ‘ganol y ffordd’ ar adegau, yn plesio. Mae’r band wedi derbyn cefnogaeth anferthol gan Radio Cymru ond mae’n hawdd gweld pam. Mae’r baledi’n swynol ac mae llais Ynyr yn arswydus mewn ffordd dda. Band gwahanol iawn i bopeth arall yn y deg uchaf, ond yn haeddu’i lle ymysg y goreuon. CÂN ORAU – BYSEDD DRWY DY WALLT

9

EDRYCH YN WELL O BELL MATTOIDZ RASP

Ers iddyn nhw ffurfio nôl yn 2002 mae’r bois o Grymych, Mattoidz wedi adeiladu dilyniant wrth gigio fel dynion ddim yn gall. Mae eu caneuon fel Sos Coch a’r Dyn Telesales wedi bod yn ffefrynnau byw ganddynt ers blynyddoedd bellach ac er bod dwy E.P wedi ei rhyddhau eisioes dyma’r tro cyntaf iddynt fentro rhyddhau albym. Mae eu harddull roc pynci a’u caneuon egniol yn eich tynnu drwy’r albym yn ddi-drafferth, ac mae’r themau o’r gwleidyddol i’r

10 Y SELAR

doniol i gyd yn bresennol. Mae e’n gerddoriaeth i dynnu pobl i ddanwsio mewn gigs neu sy’n gwneud i chi rhoi’ch troed lawr yn y car heb sylwi bod y nodwydd yn prysur godi. Llwyddodd y band i ennill gwobr Band y Flwyddyn yng nfwobrau Roc a Pop Radio Cymru, ac er bod hwnna’n rhyfedd iawn, mae’r albym yn hen ddigon da i haeddu lle yn y 10 uchaf. CÂN ORAU - PRYNU TY YN TYDRATH

8

TRAFFIg gWILYM MORUS RASAL

Daeth Traffig mewn yn rhif 3 yn 10 uchaf Y Selar yn 2004 ond doedd y fersiwn yna ddim yn un swyddogol. 7 cân yn unig oedd ar y CD-r yna a ddosbarthodd Gwilym ar ei lwit ei hun mewn gigs, yn hytrach na’r 12 sydd ar y fersiwn derfynnol. Mae’r caneuon acwstig, gwerinol eu naws sy’n llawn synnau anarferol yn wahanol iawn i stwff afro-beat a ffync Drymbago lle mae Gwilym yn brif leisydd. Mae ei lais nick Drake-aidd yn gweddu i’r math yma o gerddoriaeth, ac mae’r geiriau’n dangos ochr farddonol sensitif Gwilym. Mae Gwilym Morus yn un o’r garfan o gantorion / gyfansoddwyr gwerinol ei naws sydd yn tyfu’n ddyddiol bron. Does dim byd diflas am ei ganeuon, ac mae’n bosib gwahaniaethu rhwng bob cân. Mae gwrando ar yr albym yn brofiad pleserus. Mae caneuon fel Gweld dy Wyneb a Cyffwrdd bach yn ganeuon hyfryd ac mae’r albym yn llawn haeddu ei lle yn y 10 uchaf am yr ail flwyddyn yn olynnol. CÂN ORAU – TRAFFIg

7

MALWOD A MORgRUg DAN WARCHAE SAIZMUNDO SLACYR

Peidiwch a poeni, dydw i ddim am drio eich aryhoeddi fod Saizmundo’r rapiwr gorau erioed. O ran llif y geiriau dydy Saizmundo ddim yn agos at Tew Shady sy’n llyfnach na pan Dewi Pws ar ôl ei sandio. Yr hyn mae Saizmundo’n ei gynnig yw ergyd ar ôl ergyd i fyd cysurus y dosbarth canol Cymraeg a byd y cyfryngau yng nghymru. Mae’r Seizar yn troi yn yr union gylchoedd y mae’n targedu ac mae’r caneuon yn adlewyrchu’n onest yr union bethau sy’n gwylltio’r dyn blin o Lanuwchllyn. Mae caneuon fel Mr urdd, a’r gytgan “ Kickin’, kickin’i Mr urdd” yn tanlinellu penderfyniad Saizmundo i gicio yn erbyn y tresi. Mae yna ganeuon dwys hefyd fel ‘Pontypridd i Bagdad’a ‘Chwerthin ar fy ngelyn’ond wrth rhoi cic nerthol i fol y ‘sefydliad’mae Saizmundo ar ei orau. CÂN ORAU – DOCFEISTR

6

DYCHWELYD DAN AMOR CRAI

Albym gyntaf cyn-brif leisydd Gabrielle 25 ac mae’n deg dweud nad yw hon wedi derbyn digon o glod ers ei rhyddhau. Mae’r cyfuniad o draciau acwstic hamddenol a’r rhai a naws dawns cyflymach yn cyferbynnu’n effeithiol, ac yn dangos dawn Dan Amor i sgwennu caneuon sydd ymestyn dros ystod eang o genre’s. Gydag offerynnwyr fel nathan Williams a John Lawrence ar yr albym does dim syndod bod yna

safon. Mae Seren Bren a Gwen Berffaith yn ganeuon acwstig melodig gyda digon o fywyd ynddyn nhw i gadw sylw’r gwrandawyr. Dydy’r arbrofi gyda’r curiadau electroneg ddim yn gweithio 100% ond mae’n amlwg nad yw Dan Amor ofn newid ei arddull. Does dim dwywaith ei fod yn haeddu’i le ymhlith lefel uchaf y don o ganwyr/gyfansoddwyr sy’n bla ar hyn o bryd. CÂN ORAU – SEREN BREN

5

WELSH RAREBEAT AMLgYFRANNOg FINDERS KEEPERS RECORDS

Casgliad amlgyfrannog wedi ei ddewis gan y DJ Andy Votel ar y cyd gyda Gruff Rhys yw Welsh Rarebeat ac arno mae 25 o glasuron yr iaith Gymraeg. Os ydych chi wedi pori drwy gasgliad o hen recordiau eich rhieni ac wedi bod eisiau gwrando arnynt ond erioed wedi ffeindio’r amser i wneud, mae Andy Votel, Gruff Rhys a Dominic Thomas wedi arbed eich clustiau rhag y cachu ac wedi pigo’r goreuon drostoch chi. Casgliad o ganeuon a rhyddhawyd ar label Sain yw Welsh Rarebeat, ac mae bandiau fel Bran, Meic Stevens, Huw Jones, Tebot Piws, Edward H Dafis, Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog, Tich Gwilym a Heather Jones yn gwthio’i pig i mewn. Mae’r llyfryn sy’n dod gyda’r CD yn hynod o ddiddorol wrth gyflwyno hanes y bandiau ac hefyd wrth weld persbectif estronwr ar ganeuon hanesyddol yr SRG. Gyda 25 o ganeuon ar yr albym mae’n tueddu i fynd ychydig yn ddiflas mewn mannau, ond rydych chi’n cael gwerth eich harian wrth ei brynu. Clasur, yng ngwir ystyr y gair. CÂN ORAU - Y BRAWD HOUDINI


4

WYNEB DROS DRO gWYNETH gLYN SLACYR

Mae Gwyneth Glyn yn gallu gwneud bob dim, a dyma’i hymgais gyntaf i fentro i fyd y canu ‘ma. Mae Wyneb Dros Dro yn ddechrau da iawn i’w gyrfa yn yr SRG. Mae’r arddull werinol a’r canu gwlad sydd yn boblogaidd iawn yn yr SRG ar hyn o bryd yn amlwg drwy gydol yr albym. Gyda llais Gwyneth ag offerynnau llinynnol yn creu swn melodig hyfryd mae’r synnau sy’n taro’r glust yn hynod bleserus. Mae’r geiriau wedi ei naddu’n grefftus fel y buasech yn disgwyl gan fardd Plant Cymru. Mae’r gerddoriaeth, gyda banjo Alun Tan Lan, yn swynol tu hwnt, ac ar Angeline, yn cyferbynnu’n effeithiol gyda’r atgasedd sydd llifo drwy’r geiriau. Byddai mwy o amrywiaeth rhwng y caneuon yn ychwanegu at yr albym, ond mae Wyneb Dros Dro yn llawn haeddu’i lle yn rhif 4. CÂN ORAU - ANgELINE

3

YR ATAL gENHEDLAETH gRUFF RHYS PLACID CASUAL

Does dim angen unrhyw gyflwyniad ar Gruff Rhys. Prif leisydd y Super Furry Animals yn mentro ar ei liwt ei hun i ryddhau albym unigol. Fel y basech yn disgwyl gan ddyn sydd wedi cyfansoddi cannoedd o ganeuon dros y blynyddoedd mae hon yn albym llawn cymeriad ac yn dangas gallu Gruff i gyfansoddi alawon syml effeithiol. Mae’r themau yn amrywio o’r ysgafn i’r dwys i’r gweidyddol yn Epynt, ac

mae hoffter Gruff i chwarae ar eiriau i’w weld yn glir yn nheitlau’r caneuon a theitl yr albym. Mae’r caneuon wedi ei recordio yn syml tu hwnt i’w cymharu a pheiriannu cymhleth caneuon y Super Furry’s. Mae Gruff yn chwarae’r rhan fwyaf o offerynnau ei hun ag eithrio ambell i offeryn ar ambell i gân ac fe allwch wrando ar yr albym gyfan mewn llai na hanner awr. Ei fwriad wrth ailrecordio Chwarae’n Troi’n Chwerw, CPJ, oedd dinstrio’r gân fel rhyw gatharsis personol, ac mae’n llwyddo. Heblaw am hynny, hanner awr o fwynhad pur. CÂN ORAU - PWDIN WY 2

2

STRAEON Y CYMDOgION MIM TWM LLAI CRAI

Ail albym y dyn o Danygrisiau, Gai Toms, fel Mim Twm Llai ac oni bai am wychder annaturiol JigCal mi fyddai hon ar frig y goeden. Gwerin amgen gyda dylanwadau blues a reggae yw’r ffordd orau i geisio cwmpasu arddull Mim Twm Llai. Er i’r albym gyntaf O’r Sbensh ennill cefnogwyr di-ri i’r band ac amryw o wobrau a chlod i Gai Toms, does dim dwywaith bod Straeon y Cymdogion yn well. Mae’r albym (fel mae’r teitl yn awgrymu) yn sôn am gymeriadau gwahanol sydd yn trigo yng nghynefin Gai yn ardal Ffestiniog ac wrth ddod i adnabod pobl fel Sunshine Dan drwy’r caneuon mae’n amhosib peidio mwynhau. Mae Gai Toms yn sgwennu caneuon amrywiol o ran arddull ond cyson o ran safon. Ceir cyffyrddiadau o Gerdd Dant, rapio ac hyd yn oed defnyddio ‘bacslang’ ar y gan boblogaidd WbanCrw. Heb os, albym wych. CÂN ORAU - SUNSHINE DAN

1

JIgCAL SIBRYDION RASAL

O’r eiliad y tarodd synnau godidog JigCal y clustiau ym mis Awst 2005, roedd hi’n amlwg bod hon yn rhywbeth arbennig. unarddeg o ganeuon a rhyw dri chwarter awr o hyd neu efallai fod hud yn fwy addas. Mae rhai o’r caneuon yn hawlio’i lle fel clasuron yn barod. Cymerwch roc egniol VVV, Arthur a Dafad Ddu a’r baledi ysgafn Mynd Trwy’r To a Disgyn Amdanat Ti wedi’i eu cyplysu gyda chynhyrchu o safon uchel ac mae’r fformiwla yn ei le i greu bwystfil o albym. Gyda’r caneuon yn ddigon melodig a ‘catchy’ i gadw cynulleidfa o josgins o’r bar, a’u steil a’u hagwedd yn ddigon ‘cool’ i blesio gwybodusion mwy ‘edgy’ yr SRG mae’n bosib ein bod yn trafod yr unig fand all gystadlu gyda Frizbee am deitl band mwyaf Cymru. Dim yn unig albym y flwyddyn 2005, ond albym y ganrif hyd yma, ac mi fydd angen campwaith uffernol o dda i’w disodli.

CÂN ORAU - ARTHUR

Y SELAR 11


JAKOKOYAK

WEDI IDDO RYDDHAU’R EP ‘FLATYRE’, AETH Y SELAR ATI I DDARgANFOD MWY AM Y CYMERIAD ENIgMATIg SYDD Y TU ÔL I’R SYNNAU ELECTRONIg. ESYLLT WILLIAMS AETH I HOLI JAKOKOYAK...

YCRA CAM

JAKOK ae Rhys Edwards neu Jakokoyak yn byrlymu mewn i’r caffi - llygaid yn sgleinio ac yn wên i gyd, ei ddwylo’n oer. Mae’n oer iawn tu allan. Mae e wedi bod yn gwylio’r rygbi, mae’n gwisgo coch, ac mae’n edrych yn hapus, hapus wrth iddo archebu siocled poeth enfawr gyda marshmallows.

M

Bu llynedd yn flwyddyn hynod brysur i Jakokoyak; mynd i Japan i gefnogi Super Furry Animals; gigs dros Brydain i gyd; a recordio EP newydd. Mae Rhys hefyd yn rhan o’r tîm sy’n rhedeg label Peski a siop Sebon - y ddau ohonynt wedi mynd o nerth i nerth yn ystod 2005. Rhyfedd felly pan mae’n dweud fod ‘Flatyre’ EP Jakokoyak wedi’i sgrifennu “basically am fod yn bum, bach o gyw

12 Y SELAR

haul, ddim rili bod yn bothered am y peth a’n reit hapus i fod yn dy fyd dy hun” . Er nad yw Rhys yn anghyfforddus gyda syniadau eraill am ei waith, mae’n edrych yn syn pan dwi’n cynnig fod yr EP yn dangos diddordeb mewn adeiladu ar synhwyrau ac ychwanegu haenau. Mae’n edrych yn ddryslyd am ryw ddeg eiliad, am unwaith heb ddim i weud, “Funny pan ti’n cael pobl yn dehongli o. Dwi’n neud o mewn hanner awr mae’n eitha quick fel dwi’n neud y recording so mae’n funny pan ti’n cael interpretations. Dwi’m isho neud unrhyw beth rhy specific, jyst syniad yn hytrach na stori yw’r EP.” Ar ddiwedd y gan olaf mae llais yn dweud Diolch am wrando ar ran o ddarlith... fe allwch ei chwalu

a defnyddio’r tap i ryw bwrpas arall. “Taid fi sy’n siarad arno fo. O’dd Taid jyst yn yr attic neu yn y shed drwy’r amser yn recordio adar yn canu, yn sylwebu arnyn nhw a’n neud darlith - jyst pan oedd o’n hen. Yn ei byd bach ei hun, yn brysur yn neud dim a bod yn rili hapus yn neud hwnna jyst hwnna mae o amdan.” Penderfyniad pendant oedd neud EP yn hytrach nac albym i ddilyn ‘Am y Cyfan Dy Pethau Prydferth’, oherwydd bod “Dim rules efo EP. Ma set rules efo albym. Fatha un o’r petha’ dwi’n neud pan dwi’n ffigro allan beth i neud da’r albym nesa yw dwi’n casglu lot o ganeuon dwi’n licio a rhoi nhw mewn trefn albym. Dwi jyst yn neud loads nes dwi’n meddwl, reit sw’n i’n licio neud rhywbeth yn y model yna. Ti angen cael


JAKOKOYAK

Rhes tr 1 ??Eira 2 ? Glow 3 ? Panic

Y SELAR 13


JAKOKOYAK

pedwar hit - ma fformwla i neud albym ond ‘da EP alli di neud beth ti moyn.” Mae’n sôn fod EPs yn gallu bodoli fel cyfanwaith ar ei liwt ei hun a hefyd “S’dim digon o EP's - s'dim digon o singles chwaith, ond ma singles yn bethau hollol wahanol!” Wedi iddo sgrifennu’r caneuon a’i recordio nhw ar ben ei hun sut brofiad yw mynd allan a’i chwarae’n fyw ? “Dwi’n neud y tiwns wedyn meddwl - o na, sut ma’ neud o’n live?! Dyna pam dwi’m di neud lot (yn fyw) tra bo ni’n gweithio allan sut i neud e! Dwi dal yn arbrofi, mae’n ‘funny’ achos ar ôl i ti gael band a chael y sw ˆn, ti’n neud pethe sy’ ddim yn suitable i neud gyda band! Mae’n boen yn y tin ond hefyd yn eitha cyffrous achos all o fynd lawr unrhyw route! Falle fydd yr albym nesa yn electronic pur felly fydd na ddim band!!” Er bod Jakokoyak yn perfformio’n fyw gyda band mae Rhys hefyd yn gwneud setiau ar ei ben ei hun fel gwnaeth yn Japan pan roedd yn cefnogi'r Super Furry Animlas. “O’dd o’n scary ond rwan dwi’n ffendio fo’n exciting achos ti’n datblygu. Be ti’n neud efo band yw neud yn siwr fod popeth yn eitha syml, bod pawb yn gwybod beth ma' nhw’n neud s’dim lle i arbrofi. Fel hyn dwi’n ail greu'r caneuon yn fyw a buildio nhw lan drwy’r lap top a o’dd hwnna’n itha exciting.”

Pan yn bedair oed aeth Rhys a’i deulu i fyw yn Japan am bedwar mis “pan ei di i Japan ma jyst mynd i’r toiled yn sialens! Ma’r diwrnod jyst yn teimlo’n hirach o ran ... doedd na ddim Saesneg na dim byd i helpu chi -ond o’n i’m yn siarad Saesneg adeg yna chwaith!” Aeth nôl i’r wlad llynedd gyda’r bwriad gwreiddiol o chwarae mewn noson gydag artistiaid o’r label recordio Japaneaidd Macaroni Records. Pan glywodd Super Furry Animals ei fod allan yr un amser a nhw, netho nhw ofyn iddo’i cefnogi. Ffilmiodd Bandit raglen gyfan am ei daith. Mae’n disgrifio’r profiad fel “nyts, rili od, o’n i’m yn licio fo! Ti’n gwybod bod o'n mynd i ddigwydd ag o’dd o’n iawn ond bach yn uncomfortable yn cael pobl yn dilyn ti... ac mi roedden nhw’n ffilmio ti DRWY’r dydd, am wythnos gyfan!” O’dd y sylw’n neud i ti deimlo’n popstarish?“Dwi’n meddwl fod o’n funny dwi’n ddim byd, jyst nerd yn neud miwsic” . Mae’n cochi wrth i fi ei atgoffa ei fod wedi ymddangos yn siart 50 o Ddynion mwyaf Rhywiol Cymru yn y Wales on Sunday. “My arse de! O’n i’m yn gwybod dim byd amdano fo, a ges i gymaint o stic. O’dd un dwy flynedd yn ôl a dwi’n mynd i fynnu. Dwy flynedd nôl nes i jyst pipio mewn yn rhif 49 (o’dd Robert Earnshaw ar ôl fi!)” Pa rif oeddet ti tro hyn? “20 - dwi’n cofio’n iawn, mae fyny ar y wal yn tyˆ - cachu rwtsh!”

Mae’n chwerthin pan dwi’n cynnig ei fod am drio am rif un flwyddyn nesaf. Does gan Rhys fawr o ffydd yn y fath erthyglau ac mae’n teimlo’r un ffordd at adolygiadau sy’n rhoi labeli cerddorol i'w waith, y diweddara yw ‘folktronica’“nyts yn tydi. Ansoddeiriau ti ‘rioed di clywed - fel tase’n nhw’n cael i neud i fyny. Dwi’n convinced bo nhw’n defnyddio thesawrws, ma rhaid bo nhw! Fel tase nhw’n deud ‘Ma hwnna’n swnio’n nyts nawn ni rhoi o i mewn’! Ges i un anhygoel yn deud bo fi di rippio off Syd Barratt, bo fi obviously’n i nabod o ac wedi bod yn i dyˆ o ac wedi bod yn dwyn i holl recordiau o o’dd o heb ryddhau. O’n i’m yn gwybod pwy oedd Syd Barrett cyn i fi weld y review!” Ar beth felly mae’n gwrando? “Dwi rili mewn i petha Ffrenig o’r 60au neu petha fatha Serge Gainsburg, Stereolab pethau eitha electroneg ond poppy. Ma’r French yn genedl mor nyts - mae’n nhw’n cael get away da unrhyw beth - dwi wrth ym modd da’r French! Ma nhw’n naturiol stylish. Serge Gainsburg ydy’r enghraifft orau ynte - tase fo’n dod o’r Bala, fo sa’r diawl mwya hyll ti ‘rioed di gweld efo trwyn gwirion ond rho fo mewn siwt a gael o i siarad French…” Yn ddiweddar chwaraeodd Jakokoyak ym mharti pen-blwydd cyntaf rhaglen Huw Stephens ar Radio 1, Onemusic. Recordiwyd y rhaglen yn fyw o stiwdio Maida Vale, roedd Rhys wrth ei fodd yn y stiwdio ond dim gymaint â chwarae gyda Mogwai “O’dd o’n embarassing achos roedden ni a nhw reit drws nesa i’n gilydd, so o’dd o fatha offerynnau ni a nhw - Argos Catalouge oedd rhai ni, a oedd offerynnau nhw yn anhygoel! Premier league yn erbyn y GM Vauxhall Conference! O’dd o’n scary ond yn iawn. Yn Maida Vale roedd Bing Crosby wedi canu ei gan olaf felly o’dd ysbryd Bing yna.” Fydd Jakokyoak yn chwarae yn y Steddfod.

safle we:

14 Y SELAR


MAFFIAMR UNWAITH ETO MAE’R gOLOFN HYNOD BOBLOgAIDD LLYFU TIN YN EI ÔL ... Y TRO HWN, Y CYN DDARLLEDWR IAN gILL FYDD YN gWTHIO’I DAFOD MAIN RHWNg BOCHAU BROWN EI HOFF FAND. BAND OEDD YN LLADD POBL Ag YN DOD O’R EIDAL. WEL OK, DOEDD HWNA DDIM CWEIT YN WIR ... DUW A WYR BETH OEDD EI DIDDORDEBAU, OND R’ON NHW’N DOD O FETHESDA ... MAFFIA MR HUWS. Band roc Cymraeg, dyna sut y bydda’i‘n cofio Maffia Mr Huws - yn y drefn honno. Band yn gyntaf, ond hefyd y band cynta’. Anghofiwch am Edward H a Hergest a gweddill y darpar -gyfryngis, dyma pryd ddechreuodd pethau droi’n ddifyr. Band roc – yn dynn, llawn egni, dychymyg … roedd Maffia‘n fand oedd yn perfformio. A’r gair ola’‘na ? Anaml fyddai’n sentamentaleiddio; ond mi wnai pan glywai rywun yn sôn am Maffia. ‘Rargian, o’n i bron a phrynu ty yn Pesda ar un pwynt gymaint oedd ‘u dylanwad ar fy meddwl i. Er imi allu edmygu medrau cyfansoddi Jarman a Stevens, chefais i ‘rioed fy narbwyllo fod yr un o’r ddau yn teimlo’n hapusach bod ar lwyfan nag mewn stiwdio’n cyfansoddi. Efo Maffia ‘roedd y gwrthwyneb yn wir. Wrth eu gwylio, ‘roedd rhywun yn teimlo fel pumed aelod y band – yn rhan o’r perfformiad. Wrth gwrs, ‘roedd natur ddeinamic eu anthemau – “Gitar yn y tô” , “Tri cynnig i Gymro” “Ffrindiau” – yn mynnu’n bod ni’n ymuno yn yr hwyl; ac er fod chwarae tynn Gwyn, Sion a Deinol yn ennyn edmygedd y musos a fyddai’n sbecian ar eu perfformiadau o ochr y llwyfan, ‘does ‘na’m dwy waith fod rôl Hefin Huws fel lleisydd wedi bod yn allweddol. Codwr canu os fuo’un ‘rioed. nhw oedd y band cyntaf i weld manteision teithio’n gyson o gwmpas ysgolion y wlad; wrth

genhadu, ‘roeddynt hwythau yn gwella fel band. Tacteg sy’dal yn cael ei weithredu gan C2 a theithiau S4C hyd heddiw. Gwelwyd eu dyfeisgarwch hefyd wrth ryddhau y sengl 12” “Hysbysebion” . Talwyd amdani gan yr hysbysebion i’w gweld ar y clawr, fel petaent wedi rhagweld y berthynas anochel oedd i ddod rhwng cerddoriaeth a marchnata. Â hwythau bellach yn gweithio fel band proffesiynol, ac yn dal i wrando ar synnau EinglAmericanaidd o’u cwmpas, gwelwyd aelodau newydd yn ymuno yn ‘84/’85. neil Williams yn cymryd lle Hefin ac Alan Edwards yn ychwanegu deimensiwn newydd i’w sWn ar allweddellau. Wrth ryddhau’r sengl ‘nid diwedd y gân/ ‘newyddion heddiw’” , ‘roedd y band ar ‘u newydd wedd ar dop ‘u gêm. Bellach, roedd hyd yn oed rhaglenni fel ‘Old grey whistle test’yn ffeindio hi’n anodd ‘u hanwybyddu. Mater o amser fydda’i siawns, cyn iddynt fynd yn ‘u blaenau i goncro’r byd … ond jest ar y pwynt hwnnw, cafodd y band eu arswydo gan drasiedi. Yn ystod taith o Lydaw yn 1987, cafodd Alan Edwards ei ladd mewn damwain. Allwn i ond dychmygu faint o ergyd oedd y glec honno; fel y dwedais i ar y dechrau – band yn fwy na dim arall oedd Maffia. ‘Da ni angen rhai tebyg iddyn’nhw achos dim rwan ‘di’r amser i roi’r gitar yn y tô.

DISOG 1982 - Sesiwn Radio - Ffrindia 1983 - Sengl - Gitar yn y to 1984 - EP - Hysbysebion LP - Yr Ochor Arall Tap Amlgyfrannog - Ffordd Osgoi Bangor LP - Da ni'm Yn Rhan o’th gem fach di. 1985 - Sengl - nid Diwedd Y Gan EP - Maffia/Jarman Carcharorion Riddim 1987 - EP - Awe efo'r Micsar 1988 - LP - Twthpest Oson Ffrendli 1991 - LP Amlgyfrannog - Hei Mr DJ LP Amlgyfrannog - Hen Wlad y Lladd-dai

HOFF GANEUON IANGILL: 1. nid diwedd y gân

Y SELAR 15


frizbee

Frizbee’n ffynn BLAC BOI, CAERNARFON, AMSER CINIO, PAWB NEWYDD gLADDU. Frizbee - Band mwya Cymru ar hyn o bryd , heb os nac oni bai. Gaiff unrhyw un sy’n anghytuno e-bostio i drefnu ffeit tu ôl i rhyw shed neu dan rhyw bont yn rhywle … ond fi sy’n iawn, dim dowt. Mae’r triawd yma o Flaenau Ffestiniog wedi creu argraff ryfeddol ar y sîn ers ffurfio yn ystod Haf 2003. Mae’r gwaith a’r gigio di-flino wedi talu ar ei ganfed achos erbyn iddyn nhw rhyddhau ei ail halbym, Pendraw’r Byd, yn ystod mis Mai 2006, does dim un band arall

16 Y SELAR

all ddenu cynulleidfaoedd mor fawr a mor rheolaidd a Frizbee. Roedd Ywain Gwynedd [YG] yn dyn sy’n gyfrifol am rhoi’r ffriz yn Frizbee, eisioes wedi cael blas ar fywyd yn yr SRG gyda’r Anhygoel, band a ddaeth yn enwog am “fenthyg” cerddoriaeth Parklife, Blur gyda’r gan Parti yn dy Ben. Pan ddechreuodd Frizbee rhyw dair blynedd yn ôl doedd Owain Jones [OJ] a Jason [J] ddim yn gallu chwarae offeryn. Aeth Ywain ati i ddysgu i Owain sut i chwarae’r bas ac fe brynodd J set o ddryms o Quidz-in. YG : oeddan ni’n arfer ymarfer yn llofft wely J i gychwyn, oeddan ni yna lot, 2 ne 3 gwaith yr

wsos ... OJ : doeddan ni ddim yn gigio gymaint adeg yna so oedd gynna ni fwy o amser. YG : wedyn weekends oeddan ni’n tueddu i ddod nol i dyˆ J i gael parti diwedd noson, a dod a llond minibys o bobl hefo ni a cael rhyw gig bach fanna. OJ : Chwara tyˆ J a cael row gan bobl drws nesa… YG : …Tua 1, 2 o gloch bora…ag ydda nhw’n gweiddi “Cau dy ffycin geg !!” Ond rwan ma gynna ni ’stafall yn Porthmadog ond da ni ddim di iwsho fo eto. Wrth ateb cwestiynnau mae nhw i gyd yn neidio mewn ar draws ei gilydd ac yn tynnu ar ei


frizbee gYDA’I HALBYM, PENDRAW’R BYD, YN gWERTHU FEL TOCYNNAU I BARTI gWYLIO FIDEO’S YN NHY RHODRI OgWEN, ROEDD HI’N BRYD I‘R SELAR FFEINDIO MAS BETH OEDD gAN FRIZBEE I DDWEUD ...

nu! gilydd. Mae yna hwyliau da arnyn nhw. A pham ddim? Mae’r band yn broffesiynol ers hanner blwyddyn ac mae Rhys Mwyn, eu hasiant, yn sicrhau eu bod yn perfformio mewn gig os nad dwy bob penwythnos. Mae bywyd yn braf ar y tri.

OJ : Reit dda yndi! J :Da ni’n brysur uffernol YG : Pan nethon ni benderfynu troi’n broffeisynol nathon ni ddim meddwl dwywaith am y peth, ond doeddan ni ddim yn sylweddoli faint o waith sydd i neud.

OJ : da ni di bod yn broffesiynol ers tua hanner blwyddyn wan YG : do? ma o di mynd yn mega ffast do…. J : ma na lot o waith dosbarthu CD’s a ballu OJ : ond mae o reit ddiddorol hefyd. Mae’n swnio’n rhyfedd bod y band ei hunain yn

>>

AR Y FFORDD LAWR I’R DE MA gIN TI LOT O AMSER I SIARAD … A DA NI’N CYFRO BOB UN SUBJECT DAN HAUL … DA NI’M YN RHOI STIC I’N gILYDD DA NI JYST YN SIARAD AM SEx” - YWAIN gWYNEDD Y SELAR 17


siarad am “ddosbarthu CD’s a ballu” , ond mae Frizbee wedi rhyddhau ei holl gynnyrch mor belled ar Recordiau Cosh, label recordiau ei hunain. Yn ôl y band, y rheswm dros sefydlu’r label oedd am eu bod mor awyddus i ryddhau eu cynnyrch, ac wrth aros am gynnig gan label arall efallai y bysen nhw’n dal i aros hyd heddiw. Roeddynt yn benderfynnol o wneud bywoliaeth o’r band ac yn barod i fentro, ac mae hynny’n rhywbeth i’w edmygu. YG : Ag hefyd o’n i’n gwybod am Ger [Geraint Jones y peirianydd sain] yn Sylem ag onin gwybod bod o’n briliant, a nath o ddeud fod o awydd recordio’r albym hefo ni, so dyna nethon ni. Yn ddiweddar daeth diwedd ar fywyd stiwdio enwog Sylem ym Metws y Coed, a Pendraw’r Byd Frizbee oedd yr albym olaf i gael ei recordio yno. Mae llun ei hoffer yn y stiwdio a teyrnged i’r stiwdio ar gefn yr albym. Dyma lle recordiwyd bob un CD Frizbee mor belled, felly lle ewch chi hyn ymlaen? OJ : Mbo, sgynna ni ddim byd i recordio am dipyn, tan Mis Medi/Hydref oleia! Ond da ni di sôn bo ni awydd rhyddhau albym neu e.p. o ganeuon byw o gigs. Felly bydd stiwdio ddim yn broblem. Does dim cysylltiad rhwng enw’r albym ag ardal Pen Llyˆn, yn ôl Yws “son am deithio mae o, da ni di teithio gymaint, ti’n teimlo weithia fatha os ti am ddrefio ‘chydig bach mwy, fatha ers talwm, bo chdi’n mynd i ddisgyn off yr edge.” Recordiwyd Pendraw’r Byd mewn 10 diwrnod er mwyn cwblhau’r albym cyn i’r stiwdio gau. Bu’n rhaid iddyn nhw sgwennu un cân (Yr Awydd) mewn dwyawr er mwyn cael copi i J gael ymarfer cyn mynd i’r stiwdio ar ddydd Llun. Ar ôl clywed yr albym does dim dwywaith fod y caneuon yn safonol, ond ar ddiwedd yr albym roeddwn yn teimlo fy mod yn disgwyl mwy. Mae’r caneuon Pendraw’r Byd, Bien Venue, Heyla a’r trac cudd yn ganeuon gwych, mae’n drueni nad yw gweddill yr albym yn cadw yr un safon. Dydy’r arddull ddim wedi newid rhyw lawer ers Hirnos nôl yn 2004, Roc/Pop gitar a llais gwichlyd Ywain Gwynedd: OJ : Odd na gwpwl o ganeuon nethon ni newid eu steil nhw i siwtio’n steil ni ‘Yn Yr Haf’, a ‘Pendraw’r Byd’, a nethon nhw droi allan fel oeddan ni isho iddyn nhw. YG : Odd na rhai oedd reit agos i reggae a nawn ni byth berfformio nhw live achos bydd pobl ddim yn troi fyny i gigs ni i wrando ar reggae. Ma gynna ni loads o ganeuon ‘da ni di jamio nhw a sgwennu nhw ond dydyn nhw ddim really steil ni, so dwi’m yn gwybod be nawn ni hefo nhw ... … Beth am drio’i gwerthu nhw i Lisa Pedrick ? YG : na dydyn nhw ddim steil hi chwaith !!! Chi’n dod o ardal Ffestiniog, chi’n dechre sgwennu caneuon reggae, a chi hefyd wedi dechre chwarae gyda offerynnau pres. Ydych chi’n troi mewn i Anweledig ? OJ : na, sa raid i ni ffeindio fifteen o bobl eraill ! YG : Da ni di cael ein labeli fatha band pop ond da ni’n lico meddwl fod o fwy roc and roll. Grwp Pop y Flwyddyn ennillodd Frizbee yng ngwobrau RAP ond daeth dim enwebiad yn y categori Band y Flwyddyn, roedd hyn y syndod i lawer o bobl sy’n ymwneud ar SRG, sut oeddech chi’n teimlo am hyn ? J : O’n i’n meddwl bod on reit harsh, achos bo’ ni ‘di bod dros Gymru i gyd… ni oedd wedi cadw mwya prysur allan o’r un band arall dwi’n meddwl …

18 Y SELAR

OJ : Oeddan ni jyst isho chwara bob man oni’n gallu really, a da ni wedi … so dwi’m yn dallt be’ arall ‘sa ni ‘di gallu gneud i gael band y flwyddyn J : a gaethon ni rhif un yn Mawredd Mawr…. YG : yr unig beth nethon ni ddim neud oedd rhyddhau rhywbeth, so ella bo’ hwnna di cyfri yn yn herbyn ni. Ond nethon ni ddeud congratulations wrth Mattoidz a gyrru cardyn ! Mae nhw i gyd yn chwerthin yn uchel ar jôc Yws, mae nhw’n lico chwerthin. Rhan annatod o fod mewn band a teithio yw rhoi stic i gyd-aelodau, mae’n cadw traed pawb ar y ddaear ac yn ffordd gampus o basio amser. OJ :Da ni gyd yn haslo’n gilydd a da ni gyd mor hurt a’n gilydd ... YG : Ar y ffordd lawr i’r De ma gin ti lot o amser i siarad … a da ni’n cyfro bob un subject dan haul … OJ : a mwy…. YG : ia a mwy, ond sex di’r un mwya. Da ni’m yn rhoi stic i’n gilydd, da ni jyst yn siarad am sex ... OJ : … ond ma’r 2 ma yn syportio Man u a dwi’n syportio Liverpool. YG : A ma Ows Coch a fi’n jinjar a mae J’n blond ... J : Ond dwi’n jinjar ar y chin ‘ddo … ag ar y cedor ! (ma nhw i gyd yn chwerthin eto)

“ DA NI DI CAEL EIN LABELI FATHA BAND POP, OND DA NI’N LICO MEDDWL FOD O’NFWY O ROC A ROL”

Cyn i J gael cyfle i fynd mewn i fwy o fanylion am ei gedor sinsir sinistr, gofynnais gwestiwn arall ond cadwais at un o’i hoff bynciau. Pa un ohonoch chi sy’n cael mwya o sylw gan Groupies ? J : Ows dwi’n feddwl… OJ : ia fi de ! ( mae nhw i gyd yn piso chwerthin eto !) YG : na ma’r ddau yma’n ffycin meddwl na fi di o ond i setio’r record yn stret … nA. Fi’n sy’n cael y ffycin mwydryn yn dod ata i a sôn amdan [acen Josgin gorau] “Lle wyt ti’n prynu leads ?” so fi sy’n cael rheina. Weithia gei di gig lle mae na ddeg o bobl yn sefyll o flaen Ows Coch, sbio ar Ows Coch fel na (mae’n tynnu gwyneb breuddwydiol), yn Crymych oedd na lwyth yn gweiddi “Jason, Jason !!” so mae o reit … A chyn iddo orffen ei frawddeg mae’n stopio siarad ! Allai ddychmygu bod trio gwneud penderfyniadau rhwng y tri yma yn debyg i olygfa o C’mon Midffild rownd y bwrdd committee … OJ : Yws di Mr Picton… YG : Ows di Tecs a J di Wali ... (pawb yn chwerthin) OJ : Yes, fi di Bryn Fon ! A ma nhw’n piso chwerthin eto. un tebygrwydd rhwng Frizbee a Bryn Fon ydi bod eu cynulleidfaoedd yn ymestyn ar draws ystod eang o oedrannau. Mae’u caneuon a’u harddull hapus a hoffus nhw’n apelio at bawb. Mae hyn yn amlwg wedi dal llygad trefnwyr un o wyliau cerddorol mwya Cymru. Eleni Frizbee fydd prif atyniad prif lwyfan Sesiwn Fawr Dolgellau. Roedd Ywain Myfyr [pen bandit y sesiwn] wedi bod i wylio’r band yn y Clwb Rygbi yn nolgellau ac wrth weld ymateb gwallgo’r dorf cawson nhw gynnig chwarae yn Sesiwn llynedd. Yn sgîl poblogrwydd y perfformiad yna, yn ogystal â dwy neu dair noson wallgof arall yn y clwb rygbi, mae’r tri yn ffeindio’i hunain yn uchafbwynt yr wyl eleni. All bobl ddisgwyl unrhyw sypreisys wrthoch i chi yn y Sesiwn Fawr ? YG : Da ni’n gobeithio cael gitarydd ychwanegol ar gyfer honna, Chris o The Heights gobeithio. Dydy hyn ddim rhyw lawer o sypreis ar ôl iddo gael ei argraffu fan hyn! Ond dydy e ddim yn newyddion syfrdannol ‘ta beth. Mae cyfeillgarwch rhwng Frizbee a The Heights neu Gogz fel oedden nhw gynt yn mynd yn ôl blynyddoedd. Roedd Gogz yn eu tynnu nhw o Flaenau Ffestiniog a’u gorfodi i gigio gyda nhw. YG : ‘Aru Gogz fynd a ni rownd lot o lefydd a neud yn siwr bod ni mynd i gigio, a gethon ni lot o experience efo nhw…. OJ : nethon ni ddysgu lot wrthan nhw…. YG: a dwyn few riffs a petha ! ... Oes gobaith o glywed rhyw record ar y cyd rhwng Frizbee a The Heights yn y dyfodol ? YG : (Methu stopio chwethin) nethon ni sôn am neud can Dolig flwyddyn diwethaf ond nath o’m digwydd … odd o’n syniad stiwpid. Odda ni gyd yn sbio ar yn gilydd ag yn deud “ia nawn ni neud o” ond nath o’m digwydd. Er hyn, mae digon yn digwydd i Frizbee ar y funud. Mi fyddan nhw yn teithio Cymru yn hyrwyddo Pen Draw’r Byd yn ystod y misoedd nesa, ond dydy hyn yn ddim byd newydd i un o fandiau prysura Cymru. n OMJ

safle we: www.FRIZ?


Y SELAR 19

LLuniAu – EMMA GRiFFiTHS

OJ : YWS DI MR PICTON Yg : OWS DI TECS A J DI WALI !


uniongyrchol i’r cyfeiriad e-bost gyda ceisiadau am gopiau yn cyrraedd o Seland newydd, De’r Affrig ac Efrog newydd. Hefyd roedd llawer o fudiadau yn cysylltu ac yn gofyn am fwy o gopiau ac yn dilyn rhyddhau’r CD fe welodd y labeli gynnydd yn ei gwerthiant” Eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol mi fydd Dan y Cownter 2 yn cael ei lawnsio. 10 can arall wedi eu dewis gan Huw Stephens a 10000 o gopiau yn cael eu dosbarthu yn ystod Taith C2/Bandit. Pam felly bod angen CD arall eleni ? “ Dyw’r broblem ddim am ddiflannu dros nos. Wrth gynhyrchu CD newydd allwn ni ddangos bandiau newydd ffres. Rydyn ni hefyd wedi diweddaru a chynyddu maint y llyfryn sydd yn cyd-fynd a’r CD, achos bod mwy o bethau’n digwydd o hyd. Rydyn ni’n trio cyfleu gymaint o agweddau gwahanol a phosib o’r SRG, er mwyn dangos i bobl ifanc fod yna gerddoriaeth Gymraeg fydd yn apelio atyn nhw” meddai Guto Brychan.

“Daeth pwysigrwydd samplo’r gerddoriaeth allan dro ar ôl tro – mae pobl eisiau’r cyfle i drio cyn prynu.” Dyna oedd un o gasgliadau cwmni Beaufort ar ôl iddynt ymchwilio i’r SRG nôl ym mis Hydref 2004. Er mwyn ceisio gwynebu’r broblem uchod, rhyddhaodd y WMF [ Welsh Music Foundation] a Bwrdd yr iaith CD amlgyfrannog Dan y Cownter yn ystod Eisteddfod yr urdd y llynedd. Dewiswyd 10 o ganeuon gan y DJ Huw Stephens a dosbarthwyd 10,000 o gopiau am ddim drwy fentrau iaith, Yr urdd a ffynhonellau amrywiol eraill i godi’r ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg ymysg pobl ifanc 15 i 18 yng nghymru. Yn ôl Guto Brychan o’r WMF roedd y CD yn llwyddiant ysgubol “cafwyd dros 200 o ymholiadau

AM FWY O FAnYLiOn AM DAn Y COWnTER CYSYLLTWCH A:

POST@DAnYCOWnTER.COM

Y CANEUON : Radio Luxemburg – Pwêr y Fflwer Swci Boscawen – Adar y nefoedd Mim Twm Llai – Rhosyn Rhwng fy nannedd Genod Droog – Breuddwyd Oer Stitches – Dan Do Rich James – Tir a Môr Sibrydion – Blith Drafflith Y Diwygiad – 100 mlynedd Ryan Kift – Gola Ola Acid Casuals – Y Ferch ar y Cei yn Rio

D. I. tunes ?! Yn ystod gwyl fasnach Midem yn Cannes mis ionawr eleni arwyddodd cwmni Sain gytundeb byd-eang gydag iTunes. Mae hyn golygu bod gorfodaeth ar Sain ychwanegu catalog cyfan Sain, Crai a Rasal i siop iTunes - gan gynnwys popeth a rhyddhawyd ar y label ers y dechrau. Ond dim bandiau ac artisitiaid Sain yn unig fydd yn elwa o’r cytundeb newydd yma. Mi fydd gan Sain hawl i gyflwyno deunydd gan unrhyw label sydd wedi eu cofrestru gyda’r MCPS – PRS. Er bod dim labeli eraill wedi cytuno i ymuno ar fenter hyd yma, mae llawer wedi dangos diddordeb yn y cynllun.

20 Y SELAR

“iTunes sy'n arwain y farchnad yn y byd lawrlwytho ar hyn o bryd ac mae'n hanfodol bod y Gymraeg yn gallu bod yn rhan o'r datblygiad technolegol yma” meddai Ellen Davies o Sain. Ond beth fydd hyn yn ei olygu i ffans yr SRG ? “Y datblygiad mwya' cyffrous yw bod deunydd yr SRG ar gael yn yr un ffenest a cherddoriaeth Brydeinig/Americanaidd sydd yn y siartiau, a cherddoriaeth o weddill y byd ... gan nad oes categori penodol i gerddoriaeth Gymraeg ar iTunes mae'n golygu bydd rapiwr o Gymru yn yr un categori a rapiwr o Ffrainc, Lloegr neu America. Hefyd mae modd i unrhyw grwp greu linc

uniongyrchol o'i safle gwe nhw yn syth i dudalen y CD berthnasol ar iTunes!” Mae nifer o fantesision o lawrlwytho cerddoriaeth ddigidol. Os ydych yn hoff o ambell i gân ar ambell i CD ond ddim am wario’ch ceiniogau prin ar ganeuon byddwch yn ei sgipio o hyd, mi fydd y datblygiad yma yn newyddion da. O ran y labeli, mi fydd modd iddyn nhw gyhoeddi mwy o senglau ag E.P.’s heb orfod talu am ddyblygu na dosbarthu ac oherwydd bod y labeli yn arbed arian ar yr uchod mi fydd y gost i’r cwsmeriaid yn lleihau. Bydd caneuon yn costio 79c am un trac ac albym yn dibynnu ar nifer y

traciau. Yn ol Davies “Rydyn ni wrthi'n rhoi catalog Sain i fyny ar hyn o bryd ..sydd am gymryd tua 6 mis arall cyn gorffen .. ond ar gael nawr mae catalog RASAL i gyd ynghyd a phethau diweddaraf label CRAi a SAin.” Wrth i hyn ddigwydd mi fydd yna berlau coll yn gweld golau dydd am y tro cyntaf mewn blynyddoedd yn egsgliwsif i itunes. Yn newydd ac yn egsgliwsif ar iTunes ar hyn o bryd mae sengl Dan Amor Hwyr / O Hyd a CD newydd nar - Y narteithiwr 'Dychwelyd i'r Gyflafan' - i chwilio rhowch nar neu Dan Amor yn y blwch chwilio yn iTunes a dilyn y cyfarwyddiadau.


COWNTER DAN Y COWNTER

DAN ‘Y?DYN’ Roedd cyn-brif leisydd Gabrielle 25, Dan Amor wedi bod yn chwilio rownd yr SRG am fand newydd ers misoedd. Roedd Nathan Williams yn chwarae fel rhan o’i fand ond roedd rhaid iddo rhoi’r ffidil yn y to fel petai er mwyn canolbwyntio ar ei fand ei hun. Wrth iddo gefnogi Mim Twm Llai mewn gig un noson fe ddechreuodd siarad gyda Euron ‘Jos’Jones, ac mae’r gweddill erbyn hyn yn hanes. Mae’r tri sydd wedi ei dewis i ymddangos gyda Dan o hyn ymalen yn wynebau cyfarwydd. Mae Dion Hughes [dryms], Richard Durrell [bas] ac Euron

Jones [gitar] wedi chwarae gyda’i gilydd yn y gorffennol am gyfnod gyda Maharishi. Ond gyda’r tri yma yn chwarae i Dan Amor, ydi hyn yn golygu fod y diwedd wedi dod i Maharishi ? Yn ôl Gwilym Davies y prif leisydd “ydi ... ond paid a dweud wrth Jôs” mae’r ffordd mae’n chwerthin yn uchel ar ôl dweud hyn yn gwneud i ni feddwl mai jôc yw hyn ... ond efallai fod yna stori fan hyn at y rhifyn nesaf.

safle we:

Yn ogystal a lawnsio CD Dan y Cownter 2 yn yr Eisteddfod Genedlaethol mi fydd y WMF yn rhedeg stondin ar y maes o dan yr un enw. Mi fydd stondin Dan y Cownter reit drws nesaf i un o lwyfannau perfformio’r Maes lle bydd cyfle i chi weld 5 artist neu fand SRG yn chwarae’n fyw bob dydd. Mi fydd stondin Dan y Cownter yn cael ei redeg ar y cyd rhwng y WMF a labeli annibynol Cymru ac mi fydd yn gyfle i chi brynu cynnyrch labeli fel Boobytrap, Ciwdod, Rasal a Slacyr. Pwrpas y stondin fydd hybu gwerthiant a phroffeil labeli Cymraeg ar Faes yr Eisteddfod. Yn ôl Guto Brychan sydd yn trefnu’r prosiect “Dydy labeli lleia Cymru ddim yn gallu fforddio cael presenoldeb ar faes y Steddfod. Mae hyn yn golygu eu bod yn colli mas ar y cyfle i fanteisio ar un o gyfnodau prysura’r flwyddyn o ran gwerthiant cerddoriaeth Gymraeg.” Fel y llynedd, mae’r llwyfannau perfformio yn cymryd lle’r Babell Roc fel lle i weld perfformiadau cerddorol byw, ac mi fydd y stondin yma, drws nesaf, yn gyfle i brynu cynyrch y mwyafrif o’ch hoff artistiaid SRG o dan un to.

Fisyddben,byd Yn 2000 llosgwyd pafiliwn enwog Pontrhydfendigaid i’r llawr mewn tân. Er bod yr adeilad wedi ei ddinistrio roedd yr atgofion o un o leoliadau gigs enwocaf Cymru sy’n cael ei enwi droeon yn Blerwyttirhwng? Hefin Wyn, lle cynhaliwyd gigs fel Twrw Tanllyd, Pinaclau Pop a Rhyw Ddydd un Dydd dal yn fyw. Yn dilyn y tân yma ffurfiwyd cwmni Pafilwn Cyf er mwyn casglu arian i ailadeiladu’r neuadd. Wedi pum mlynedd o waith gan y cwmni yma, mae’r amser wedi dod i’r pafiliwn ar ei newydd wedd geisio ail greu’r dyddiau da. Mae gig gyda Dafydd iwan a Jess yn cael ei gynnal yno ar Orffennaf yr 8fed er mwyn dechrau’r gwaith, ac hefyd mae yna ddyn newydd tu ôl i’r llyw yn y ganolfan. Owain Schiavone yw rheolwr newydd y Pafiliwn ac mae ganddo gynlluniau mawr ar gyfer y lle “Does dim lle tebyg yng ngorllewin Cymru, a dim ond y CiA yn nghaerdydd all gystadlu a ni o ran maint. ‘Da ni am drio denu artistiaid byd enwog sydd yn teithio’r D.u.i chwarae yma,

bandiau fel y Super Furries a’r Kaiser Chiefs, y math yna o fandiau.Yr un math o fandiau sydd yn chwarae yn y CiA.” ’ Ond os wyt PAFILWIN BONT AR EI NEWYDD WEDD ti’n sôn am fandiau o’r maint yna, beth am dy fandiau arferol SRG di? Yn ôl Schiavone “Mae lle yn y Pafiliwn i 1800 i eistedd neu i 2000 sefyll a gwylio gig fel fydd yn Gig Mawr Bont. Mae modd hefyd i dorri’r ganolfan yn ddwy er mwyn creu lle i 500-1000 ddod i weld gig felly bydd modd cynnal gigs llai. Rydyn ni hefyd yn gobeithio cynnal sesiynnau acwstic yn bar. Ond mae’r pafiliwn yn le hyblyg iawn, fyddwn ni’n edrych mewn i’r posibilrwydd o gynnal nosweithiau bocsio, sioeau cerdd neu hyd yn oed Opera yma hefyd. Mae’n bwysig bod pethau’n digwydd yn gyson, er mwyn trio tynnu mwy o bobl leol drwy’r drysau. Mae system wresogi dda yna a to felly bydd modd cynnal digwyddiadau drwy’r flwyddyn.’

Mae gan Schiavone flynyddoedd o brofiad yn y maes gan mai fe oedd Swyddog Adloniant Cymdeithas yr iaith. Mae e wedi bod yn gyfrifol am drefnu gigs Eisteddfod dors y Gymdeithas ers blynyddoedd yn ogystal â threfnu nosweithiau misol naws yn Aberystwyth. Mae’r Pafiliwn ym Mhontrhydfendigaid, rhyw 20 munud o Aberystwyth a rhyw 10 munud o Dregaron yn ganolfan amlbwrpas, a gyda Schiavone’n sôn hefyd am “drio denu Eisteddfod yr urdd neu’r Genedlaethol, a trio sefyldu’r pafiliwn ar galendr gwyliau cerddorol Cymru” bydd hi ddim yn hir tan y bydd breuddwyd James Pantyfedwen a adeiladodd y pafilwn gwreiddiol yn blaguro a bod Pafiliwn Pontrhydfendigaid yn rhan annatod o’r SRG unwaith eto.

OWAIN SCHIAvONE

Y SELAR 21


M

ae yna draddodiad hir yng nghymru o gynnal cystadlaethau Brwydr y Bandiau. Flynyddoedd yn ôl roedd y noson wedi’i llenwi gan fandiau ysgol a oedd prin yn gallu chwarae eu hofferynnau ac yn canu caneuon roc trwm, tebyg i’w harwyr. Roeddwn i’n cael yr argraff mai cyfle i gynnal gig rhad ydoedd a chael y bandiau i berfformio am ddim. Ond, mae’r traddodiad wedi newid. Mae’r cystadlaethau wedi hen symud ymlaen oddi wrth cyfyrs diddiwedd nirvana a pherfformiadau erchyll. Mae’r diolch, am y naid yma, i gystadlaethau blynyddol o safon a gwobrau gwerth chweil gan sefydliadau fel Cymdeithas yr iaith Gymraeg, Mentrau iaith, C2 a’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r

bandiau buddugol yn gallu ennill £1000 neu’r cyfle i recordio mewn stiwdio broffesiynol a rhyddhau CD. Credai Owain Schavonie, Swyddog Adloniant Cymdeithas yr iaith, fod Brwydr y Bandiau yn hollbwysig o ran rhoi'r cyfle cyntaf i fandiau ifanc Cymraeg. "Yn aml iawn y cam cyntaf yw'r un anoddaf i fand ei wneud, efallai fod rhai yn sôn am ffurfio band yn yr ysgol neu yn y coleg ond byth yn gwneud hynny - mae'r gystadleuaeth yn rhoi targed a rheswm da iddyn nhw fynd ati i ymarfer a.y.b. Mae hefyd yn hollbwysig o ran cynnig y cyfle cyntaf i gigio, ac mae pob band yn gwybod pa mor anodd mae'n gallu bod i ffeindio gigs." Dywedodd Deiniol Thomas, Swyddog Maes Mentrau iaith Conwy, "Mae'r

gystadleuaeth hwn yn gyfle gwych i artistiaid dorri drwodd a chryfhau’r sîn gerddoriaeth yng nghymru. Mi fuaswn i wedi neidio ar y cyfle pan oeddwn i yn ifanc, ac hoffwn annog pawb sydd â diddordeb i gysylltu ar unwaith gyda'u Menter iaith lleol.” Llynedd, roedd safon y cystadlaethau yn arbennig o uchel ym mhob brwydr ac mae’r amser wedi dod i fwynhau safon uchel ein bandiau newydd. Mae dyfodol y sîn gerddoriaeth yng nghymru yn ddiogel, yn enwedig wrth i’r buddsoddiad mewn brwydrau bandiau a thalent ddwyn ffrwyth. Mae enillwyr llynedd wedi denu sylwadau ffafriol ac ymateb da gan gynulleidfaoedd. Lynsey Anne

N ’ E A M R E S AM N Y W D H T Y FFRW ENILLWYR BRWYDR Y BANDIAU 2005 PLANT DUW A BRWYDR Y BANDIAU EISTEDDFOD gENEDLAETHOL

22 Y SELAR

EnW’R BAnD: Plant Duw AELODAu'R BAnD: Conor Martin (llais, gitar), Rhys Martin (gitar, llais), Elidir Jones (bass, llais), Myfyr Prys (drymiau), Sean Martin (cornet, ffotograffydd, hwb ysbrydol) LLEOLiAD: Bangor SEFYDLWYD: Haf 2004 O BLE DDAETH YR EnW: Roedd y tri aelod gwreiddiol wedi bod yn llowcio absinthe ac yn dawnsio fel pobl o'u co yng nghlwb TJs yn ystod Eisteddfod Casnewydd 2004, ac y bore canlynol daeth dyn heibio gan eu llongyfarch ar y dawnsio. Disgynnodd ei lygadau ar lyfr Jack Kerouac ar y llawr. "'Da chi'n darllen Kerouac hefyd...'da chi'n blant i Dduw yn wir." MATH O GERDDORiAETH: Pync / ffync / doowop / blws / angerddol niFER Y GiGS HYD YMA: 12, efo mwy i ddod GiG GORAu HYD YMA: Brwydr y Bandiau Maes B / Cwps efo Ashokan, Skep / Clwb ifor efo Kentucky AFC, Dyfrig Evans CÂn EnWOCAF: Talach na iesu DYLAnWADAu’R BAnD: The Clash, Pixies, Red Hot Chili Peppers ymysg llawer eraill HOFF FAnD CYMRAEG: Kentucky AFC MAnYLiOn CYSWLLT: plantduw@hotmail.co.uk; www.geocities.com/plantduw


NO STAR, ENILLWYR BRWYDR Y BANDIAU MENTRAU IAITH CYMRU A C2 EnW’R BAnD: nostar AELODAu'R BAnD: Rob- prif lais +guitar, Sam-llais cefn + guitar, Gib - drums, Wil - guitar + allweddell, Mozz - bas. LLEOLiAD: Wrecsam PRYD SEFYDLWYD Y BAnD: Medi 2004 O BLE DDAETH YR EnW: Dau band saesneg yn cyfuno (nO retreat a black STAR) MATH O GERDDORiAETH: Rôc / Metel trwm GiGS HYD YMA: 20+? Dim syniad i fod

yn onest! GiG GORAu HYD YMA: Clwb ifor Bach,Caerdydd / Maes B yr Eisteddfod. Methu dewis. CÂn EnWOCAF: Bywyd DYLAnWADAu’R BAnD: Enwch band sy'n troi'r lefelau sain i 11 a mae nhw mwy na thebyg yn dylanwad i nostar HOFF FAnD CYMRAEG: Ashokan MAnYLiOn CYSWLLT: www. no-Star.co.uk

BRWYDR BANDIAU 2006 CYMDEITHAS YR IAITH gYMRAEg Mae Cymdeithas yr iaith Gymraeg wedi cyhoeddi cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2006 gyda’r rhagbrofion ym mis Gorffennaf a’r rownd derfynnol i’w chynnal ar nos Lun Eisteddfod Genedlaethol Abertawe fis Awst. Mi fydd y band buddugol yn cael chwarae gyda Frizbee, Genod Droog a Saizmundo ar nos Sadwrn ola’r steddfod yn ogystal a gwobrau eraill yn cynnwys sesiwn recordio gyda Rasal a sesiwn C2, fideo i Bandit a chyfres o gigs wedi eu trefnu gan Gymdeithas yr iaith.

MENTRAU IAITH CYMRU A C2

DERWYDDON DR gONZO, ENILLWYR BRWYDR Y BANDIAU CYMDEITHAS YR IAITH EnW’R BAnD: Derwyddon Dr Gonzo AELODAu'R BAnD: Cai Dyfan, Llion Gethin, ifan Tomos, ifan Jams, Berwyn Jones, Aaron Warren, Calvin Thomas LLEOLiAD: Ardal Llanberis PRYD SEFYDLWYD Y BAnD: Chwefror 3ydd 2005 O BLE DDAETH YR EnW: O'r awyr fel tocyn o ddiolchgarwch MATH O GERDDORiAETH: Ffync / Afrobeat / Blues / Soul / Hill Billy /Ska / Reggea / Samba niFER Y GiGS HYD YMA: tua 20ish GiG GORAu HYD YMA: Clwb Rheilffordd Bangor / Brwydyr y Bandiau yn Medi ac Amser CAnEuOn EnWOCAF: Ska-ba-ba-bwt / Modryb Bwled a Talwrn y Beirdd DYLAnWADAu’R BAnD: Drymbago, Fela Kuti, ummh, The Specials

HOFF FAnDiAu CYMRAEG: Drymbago, Genod Droog, Poppies a ummh MAnYLiOn CYSWLLT: chwethantwrcymraeg@hotmail.com

Yn ystod mis Ebrill eleni, cynhaliwyd y gystadleuaeth hon ac yn ol gwefan C2 “fe bleidleisiodd miloedd o bobl dros eu hoff band” . Band o Geredigion o’r enw Coda oedd yn fuddugol ac fe fyddan nhw’n cael y cyfle i recordio sesiwn C2, rhyddhau CD ar label Rasp, ffilmio fideo i Bandit, a pherfformio ym Maes B adeg Eisteddfod Abertawe. Band o Fangor a Sir Fôn, Ricochet, oedd yn ail a Llan Clan o Lan Ffestiniog oedd yn drydydd yn y gystadleuaeth.

EISTEDDFOD gENEDLAETHOL ABERTAWE A’R CYLCH Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynnal ei cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn Maes B unwaith eto eleni. Yn ogystal â hyn, cynhelir cystadleuaeth DJ hefyd; cyfle felly i chi arddangos eich doniau y tu hwnt i’r ystafell wely. Mi fydd y brwydrau yn digwydd ar y nos Lun gyda Plant Duw, ac ar y nos Fawrth yng nghwmni Winabego. Y SELAR 23


UNWAITH ETO MAE’R HAF AR EIN PENNAU NI, AC MAE’N YMDDANgOS FEL BOD MWY A MWY O WYLIAU YN CAEL EU TREFNU BOB BLWYDDYN. UNWAITH ETO ELENI MAE TREFNWYR gWYLIAU CYMRU I gYD WEDI BOD YN gWEITHIO’N UFFERNOL O gALED I DDENU CYMAINT A PHOSIB O DORFEYDD I’W gWYL ARBENNIg NHW. DYMA OLWg AR BETH SYDD AR gAEL I CHI FFANS FFYDDLON YR SRg YN YSTOD Y MISOEDD POETH SYDD I DDOD.

Pesda Roc Yn FRAS : Pentre honco Bethesda yn nyffryn Ogwen yn cynnal gwyl sydd wedi ei hatgyfodi’n ddiweddar ar ôl dod yn enwog yn ystod yr wythdegau. DYDDiAD : 17 a 18/06/06 LLEOLiAD : Clwb Rygbi Bethesda BAnDiAu : SADWRn - Wyrligigs, nar, Winabego, Genod Droog, Sibrydion, Mim Twm Llai, Geraint Jarman, Maffia Mr Huws. SuL - Hogiau’r Bonc, Côr Penrhyn, Boncathod, nathan Williams, Galasia, Frizbee, Bryn Fon a’r Band. PRiS: SAD - £15 SuL - £10

GwylyDyn Gwyrdd Yn FRAS : Ddim eich gwyl gerddorol ystrydebol. Artistiaid byd-enwog yn perfformio mewn gwyl yn Stad Glanusk, Aberhonddu, sydd ar agor i’r cyhoedd am y tro cyntaf erioed. DYDDiAD:18-20/08/2006 LLEOLiAD :Aberhonddu BAnDiAu : Jose Gonzalez, Donovan, Bert Jansch, John Renbourn, King Creosote, Gruff Rhys, James Yorkston, Euros Childs a mwy PRiS: £98 yn cynnwys gwersylla

Clwbwyl

Wakestock

Yn FRAS : Gwyl am wythnos o gwmpas y brifddinas yn cynnwys gigs, nosweithiau cwis, a nosweithiau o adloniant amrywiol mewn tafarndai a lleoliadau eraill.

Yn FRAS : Gwyl Donfyrddio mwyaf Ewrop a ddennodd dros 10000 o bobl i Ben Llyˆn y llynedd ac mae’n tyfu bob blwyddyn.

DYDDiAD: 17/06/2006 LLEOLiAD : Clwb ifor Bach BAnDiAu : Ashokan, Pala, Bob, Anubis, Gola Ola Rasputin PRiS: £6 MAnYLiOn : www.tafwyl.org

24 Y SELAR

DYDDiAD: 14,15/7/2006 LLEOLiAD :Abersoch BAnDiAu : Feeder, The Crimea, Cuban Brothers, DJ Yoda, Aswad, Sibrydiion PRiS: £25 y noson, £45 am y penwythnos cyfan £20 y pen i wersylla. MAnYLiOn :www.wakestock.co.uk


SesiwnFawr Dolgellau

Yn FRAS : Gwyl Werin

sydd wedi tyfu a thyfu dros y ddegawd ddiwethaf. Tair noson a 4 llwyfan a fydd yn rhoi cyfle i chi weld degau o fandiau o bob math. DYDDiAD: 20.21.22/07/2006 LLEOLiAD : Dolgellau BAnDiAu : GWEnER - Dan Lloyd a Mr Pinc, Genod Droog, Poppies, Freshly Ground, GLC SADWRn - Dan Amor, Fflur Dafydd, Mim Twm Llai, Radio Lux, Brigyn, Euros Childs, HEFYD - Alun Tan Lan, Gwyneth Glyn, Gwilym Morus, Sarah Louise, Ryland Teifi. Llwyfan Cyfle - Pala, BOB, Pwsi Meri Mew, nathan Williiams, Derwyddon Dr Gonzo, Cowbois Rhos

Yr Eisteddfod Genedlaet hol Yn FRAS: Anghofiwch am ryw gadair gachu neu rhyw goron Mici Mows, yn y nos mae gwir werth diwylliannol yr Eisteddfod. unwaith eto mi fydd Maes-b a Chymdeithas yr iaith yn trefnu llwythi o gigs sy’n denu miloedd o ieuenctid i feddwi’n gachu yn enw Cymru. DYDDiAD: 5-12 / 08/2006 LLEOLiAD : Parc Felindre Abertawe BAnDiAu :

cymdeithas Yr Iaith Bar 5 LLun: Sibrydion MAWRTH: Euros Childs MERCHER: Meic Stevens iAu: Radio Luxembourg GWEnER: Drymbago SADWRn: Frizbee

GlamorganArms LLun: Beirdd v Rapwyr MAWRTH: Huw Chiswell MERCHER: Bryn Fôn iAu: Geraint lovgreen GWEnER: Bob Delyn SADWRn: neil Rosser

Can arDan Yn FRAS : Gwyl newydd yn dod a holl sw ˆn a hwyl yr SRG i’r bobol rhyfedd yna yn y canolbarth. DYDDiAD: 1, 2/07/2006 LLEOLiAD: Llew Coch, Dinas Mawddwy BAnDiAu: Di Pravinho, Gola Ola, Hufen ia Poeth, Salero, Sarah Louise, Pwsi Meri Mew, Brigyn, Huw Chiswell, Frizbee a mwy PRiS : Am ddim MAnYLiOn: www.canardan.com

MAES?B LLWYFAN?1 LLun: Plant Duw + Brwydr y Bandiau MAWRTH: Winabego + Brwydr y Bandiau MERCHER: Meinir Gwilym iAu: Frizbee GWEnER: Bryn Fon SADWRn: Sibrydion

LLWYFAN?2 iau: Euros Childs Y SELAR 25


rap jon?z WEHEY Y FFERNOLS! CROESO I gOLFON ARALL AM RAP CYMRAEg gYDA FI JON-Z. MAE’N HAF, MAE’N BOETH, AC MAE gEN I DOMAN O CHWYS BÔLS YN Y TRACSIWT ˆ I CHI gYD ! MA. TA WAETH, DYMA’R DIWEDDARAF O ADRAN RAP YR SRg. JA RWL

MC Mae Gruff Meredith wedi bod yn gweithio fel dyn gwyllt yn creu un o’i brosiectau mwyaf diddorol, a hynny yr ochr draw i’r byd ym Matagonia, yr Ariannin. Mewn cydweithrediad gyda Label Rasal, mae Gruff wedi mynd ati i recordio albym gyfan ym Mhatagonia gyda cherddorion lleol y Wladfa, fel yr esboniodd Aled ifan, pennaeth y label: Meddai, “Daeth Gruff Meredith atai diwedd yr haf diwethaf hefo'r syniad o fynd allan i Patagonia i recordio albym. Roedd y prosiect o fynd allan i Batagonia i recordio albym hefo Greg Haver, Hector MacDonald, a cerddorion lleol yn syniad gwych yn greadigol.” Dywedodd hefyd ei fod yn gyfle i agor marchnad yn ne America i gerddoriaeth Gymraeg.

ym “Mae’n gyfle i ni fel label greu cysylltiadau mewn marchnad sydd heb ei gyffwrdd eto. Y gobaith felly yw y bydd yn yn gam cyntaf tuag at agor marchnad i gerddorion a cherddoriaeth o Gymru ym Mhatagonia, yr Ariannin ac hefyd gweddill De America.” Dyma neges drwy gyswllt lloeren gan Mr Meredith yr holl ffordd o’r Andes i bobl Cymru ac Ewrop yn rhoi

hanes ei helyntion Meddai,“Dwi yn Patagonia yn recordio albym am fis, "lle ma’r tywydd yn braf ar bywyd yn araf" a lle de ni’n neud albym MC Mabon, gatho ni gwpwl o beints efo Bryn Fôn w’thnos d’wetha mewn noson Cymry

Ariannin yn nhrelew, gath Theston (y drymiwr) a fi sgwrs Gymraeg efo cwpwl o hwdis mewn bys stop yn ganol Gaiman am ddau o gloch y bore a mai’n boeth.” Cadwch eich llygad am ddyfodiad yr albym hon! – Deian ap Rhisiart

CHWA Mi fydd albym hir-ddisgwyliedig Cofi Bach a Tew Shady yn cael ei rhyddhau Haf yma. Mi fydd yr albym o ddeg o draciau o dan yr enw Chwalfa yn cael ei rhyddhau ar label Boobytrap, y tro cyntaf i’r ddau rapiwr poblogaidd fentro cyhoeddi LP. Ar yr albym mi fydd y tri trac a recordiwyd ar gyfer sesiwn C2, 4 Wal, Gobzilla a’r bleindar Symud Ymlaen, ynghyd a saith cân newydd sbon gan gynnwys “Diffyg Parch,Be Fedrai Gynnig ? a MC Bigtime sy’n gân am yr MC yma nethon ni chwarae efo yn Gaerdydd, oedd jyst yn sbio lawr ar rappers eraill am bo nhw’n neud o’n Gymraeg a mi nath o godi gwrychyn pawb.” meddai Tew Shady. Mi fydd MC Phormula a 9Tonne o’r Diwygiad

hefyd yn ymddangos ar yr albym, sydd wedi ei recordio yn Stiwdio Drysfa a’i gynhyrchu gan Tew Shady ei hun. Pan ddechreuodd Cofi Bach a ew Shady roedd eu caneuon yn fwy electroneg na’r caneuon a glywyd ar y sesiwn C2 ond pa fath o arddull fydd i’w glywed ar yr albym ? “Gethon ni feedback da ar ôl y sesiwn, so da ni di cario ‘mlaen efo’r ethos yna o ddefnyddio offerynnau byw, a ’chopio’petha fyny. Mae na lot o ardduliau amrywiol, ma na elfennau roc mewn rhai caneuon a hip-hop pur mewn petha eraill. Ella neith pawb ddim licio pob dim ond gobeithio neith pawb licio rwbath!’

OS FYDD Y CANEUON NEWYDD CYSTAL A’R RHAI AR Y SEISWN C2 MI FYDD HAF 2006 YN HAF LLE BYDD RHAID I BAWB gAEL CHWALFA.

26 Y SELAR


rap jonzi

DEFFROA DY JON-Z SY’N HOLI MC SAIZMUNDO AM EI BROSIECT gWALLgOF DDIWEDDARAF Pan roedd MC Saizmundo a MC Mabon yn rhannu tyˆ yng nghaernarfon, ddwy flynedd yn ôl, daethant ar draws rhyw syniad ymhlith y llygod mawr a throlis Archfarchnad Morrisons, ger y Pier, ac yno esgorwyd ar greadigaeth y Docfeistr. Aeth Jon Z i holi MC Saizmundo ynghylch y prosiect newydd fydd yn datblygu’n albym lawn yn fuan mae’n gobeithio. Meddai, “Roedd Gruff Meredith a fi wedi sylwi ar ryw greadur morwrol mewn gwisg felyn yn syllu arnom yn y môr ger yr Angylsi Arms a sylwyd fod ei enw ar dw ˆr Doc Fictoria, felly penderfynon neud stori amdano. O hynny, daeth y trac y Docfeistr sydd ar albym Malwod a Morgrug i fodolaeth.” “Mae’r Docfeistr yn gymeriad mytholegol yn mynd yn ôl mewn hanes i gyfnod y morladron, does yna neb yn siwr lle mae o di dod achos mae yna chwedlau amdano, wedi hel ar hyd y canrifoedd. Dyna yn syml ydi’r boi yma. Mae’n foi rhyfedd iawn ac yn hollol sinistr a’i ddiddordebau yw mynd ar ôl hwrod yn y dociau.” Yn ôl Saizmundo y bwriad yw creu albym wallgo fydd yn

cynnwys nifer o artistiaid gwahanol a hynny mewn thema arbennig, fel yr esboniodd: “Mae Gwyneth Glyn, Gruff Rhys, John Hywel Morris o’r PRS a Cofi Bach a Tew Shady wedi cytuno i neud caneuon ar thema y môr. Fydd Gruff a Fi yn tynnu’r peth at ei gilydd gyda chymorth cynhyrchu Dyl Mei yn Stiwdio Blaen-y-Cae. Fydd yna naratif yn clymu’r peth i greu Opera rap cinematig ac operatig ei naws. Hefyd, bydd yna gymeriadau wedi’u seilio ar bobl adnabyddus Cymru” A fydd yna fwriad i wneud taith hyrwyddo? Meddai “Wel, mae yna botensial dibendraw efo hwn achos mae’n syniad unigryw a fedri di neud ffilm ohono – fatha ryw ‘comedi’ horror Cymraeg a gedri di neud tegannau, cyfres ag yn y blaen! Mae yna ddiwydiant yno! Fydd yr Arties wrth ei bodd efo fo er fod y Docfeistr yn hollol anffasiynol a ddim yn gelfyddydol o gwbl – Gwrthgrist!.” Byddant yn gobeithio gorffen y cyfanwaith erbyn dechrau’r Haf a’i ryddhau yn fuan wedyn. Deian ap Rhisiart

y SAIZ sy ’n bwysig

MENTER Fues i’n cymryd rhan mewn rhaglen beilot yn ddiweddar ac roeddem yn trafod pa gyfeiriad y dylai’r Sîn Roc Gymraeg ddilyn. Cynigiwyd ambell i syniad ond cyn cychwyn breuddwydio, mae’n rhaid cael y basics yn iawn. Dwn i ddim pam nad ydym, i ddechrau, yn gallu sicrhau fod yna system ddosbarthu, yn mynd a phob CD i bob siop recordiau bychain trwy Gymru a rhai siopau recordiau yn Lloegr fel Siop y Probe yn Lerpwl. Mae yna gyfle euraidd i ryw entrepreneur lenwi’r bwlch a mynd a’r maen i’r wal yn fanno. A beth am hyrwyddo’r CD? Wel mae yna duedd i ganolbwyntio ar y cyfryngau Cymraeg yn unig – Golwg, Y Cymro, Radio Cymru ayyb yn hytrach na gwthio’r ffiniau ymhellach. Rhaid dweud fod safle we Sebon yn gam ymlaen ar y we er mwyn sicrhau fod gwrandawyr newydd yn cael cyflwyniad i amrywiaeth o gerddoriaeth Gymraeg. Mae’r strwythur trefnu gigiau yn gallu bod yn fratiog iawn ar adegau yn enwedig yr elfennau sy’n cael cyflog da am drefnu gigs. i ddechrau, mae yna MiCi WEDi TREFnu GiG ddiogi wrth drefnu gigiau drwyddi draw ac eithrio Maes B, Cymdeithas yr GWAG i’R SEiZAR iaith, rhai labeli a feniws fel Clwb ifor. Fel arall, y bandiau sy’n gorfod gwneud y gwaith a mae hynny yn galed yn enwedig pan dach i’n gorfod perfformio hefyd! Ymysg y Mentrau iaith, ceir darlun amrywiol iawn, rhai da yn Abertawe a Llanrwst a rhai echrydus mewn llefydd eraill. Bum yn rhan o lein yp gyda Pep Le Pew mewn gig yn Machynlleth ddwy flynedd yn ôl, y trefnwyr oedd Menter iaith Maldwyn, a ni ddaeth neb, a dwi’n meddwl neb i’r gig er fod yr holl ganolfan hamdden wedi’i llogi. Roedd y Fenter wedi comisiynu Mici Plwm i wneud y gwaith o drefnu. Gyda phob parch, nid oedd Mici Plwm yn wreiddiol o’r ardal nac yn byw yno chwaith a ddim ei fai o oedd hynny, ond roedd y Fenter yn ddigon parod i subcontractio’r gwaith iddo. Mewn gwirionedd, gwaith Menter Maldwyn oedd trefnu’r gig a’i hyrwyddo, oherwydd maent yn cael cyflog i wneud hynny – i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg ym Machynlleth. Ond roedd yr holl beth yn shambyls. Mae yna feddylfryd ymysg rhai fod trefnu cant o gigs y flwyddyn yn llwyddiant ac yn cyrraedd targedau cyrhaeddiad (mae’n siwr fod o’n fuddiol i’w swyddi) er nad oes neb yn troi fyny. Pa fath o gyfraniad yw hynny i ddatblygiad yr iaith? i ddeud y gwir, roedd y pres a ddaeth o Gronfa ‘noson Allan’ y Cyngor Celfyddydau i drefnu’r noson honno yn cael ei wastraffu ar washout yng nghanolfan Hamdden Dyfi Mach. Mae rhai yn twyllo’u hunain yn meddwl fod trefnu gigs yn unig yn mynd i achub yr iaith. Mae nhw’n anghywir. Mae trefnu gig gwag yn wastraff arian llwyr ac yn neud dim i hybu Cerddoriaeth Gymraeg na’r iaith yn gyffredinol.

Y SELAR 27


senglau WYRILgIgS ROCARS CYMRAEg CIWDOD ’’ Band ifanc o Fethesda sy’n gwneud dim byd i guddio’r ffaith eu bod nhw’n ffans o’r Ramones ydi Wyrligigs. Ma nhw’n neud cover o Blitzkrieg Bop yn ei set ac yn gwisgo’r crys-t enwog i berfformio (a ffwc o beryg mai’r fersiwn Top Man o’r crys-t yw e - mae’n amlwg bod y Wyrligigs wedi astudio anthology y Ramones i’r dim). Ond, mae gan y Wyrligigs botential o fod yn fwy na teyrnged i Joey, Johnny, Dee Dee, Tommy a Marky. Ma nhw’n gallu chwarae ac yn gallu sgwennu caneuon, fel mae Rocars Cymraeg yn profi. Efallai gydag ychydig bach mwy o brofiad byw bydd y geiriau’n gwella. O ystyried ei fod yn ymdrech gyntaf mae Rocars Cymraeg yn dynn ac yn polished ac mae’r b-sides, Gwrthgymdeithasol a Dave Y Jynci, yn well caneuon na’r sengl ei hun. Ond, os am yrfa mae angen datblygu sw ˆn eu hunen. Angharad Griffiths

DAN AMOR HWYR/ O HYD CRAI – ITUNES YN UNIg

SWCI BOSCAWEN MIN NOS MONTEREY RASP

FLATYRE EP JAKOKOYAK PESKI

’’’’

’’’’

Mae'r ferch glam a thalentog yn ôl mewn steil, a'r steil hwnnw'n Blondie-aidd. Dydi Swci Boscawen byth yn siomi. Mae'r trac cyntaf, Min nos Monterey, sydd wedi'i ysgrifennu gan Gruff Meredith, David Wrench a Mared Lenny ei hun, yn bop gwych upbeat gydag agwedd. Mae'r melodi a'r gymysgedd o offerynau yn berffaith gydag arddulliau hen a modern wedi'u cymysgu'n anghygoel gan Wrench. Mae ei ffurf hanner canu ac hanner siarad yn gweddu i'r dim ac yn llifo i mewn i'r gytgan chwythlyd, rhywiol - gwych! Mewn cyferbyniad, mae'r ail drac, Adar y nefoedd, yn felodig ac araf gyda chytgan theimladwy fel creshendo naturiol yn llawn emosiwn. Mae ei steil hamddenol o ganu yn gweddu'r ymdeimlad cynnes, hiraethus sy'n llifo drwy'r gân. Does na ddim blino ar y gân yma. O'r diwedd, ma 'na ferch yn cynhychu pop arbennig a modern yma yng nghymru! Lynsey Anne

EP ARWEL WYN ROBERTS MEWN BYD MOR FAWR THE POP FACTORY ’

’’’ Dyma un o’r senglau cyntaf i gael ei rhyddhau yn ecsgliwsif ar itunes yn dilyn y ddêl rhyngthyn nhw a Sain. Os oeddech yn hoff o albym Dan Amor, Dychwelyd, yna mi fydd y sengl yma hefyd at eich dant. Mae e’n parhau i ledaenu’i ganeuon lan-dempo acwstic hamddenol ar yr SRG. John Lawrence sydd unwiath eto yn cynhyrchu caneuon Amor a cawn gyfraniadau gan Gwyneth Glyn a Gwilym Morus, gan bod rhaid i bob canwr/gyfansoddwr ymddangos ar waith ei gilydd siwr iawn. Mae’r sengl yma’n cwmpasu arddull Dan Amor yn berffaith. Mae’r trac agoriadol Hwyr gyda’i beat-box, a’r linell fas amlwg yn creu awyrgylch ddawns, sy’n dangos ochr mwy arbrofol Amor. Tra bod yr ail drac O Hyd gyda’i gitar acwstic hamddenol a’r dôn gofiadwy yn dangos y pegwn arall. Os nad ydych chi’n cael eich plesio gan oleia un o’r caneuon yma mi na i fwyta darn o gach…het rhywun. Lico fe lot. John Rhambo

28 Y SELAR

Arwel Mega (Arwel Wyn Roberts i’w fam)wedi rhyddhau E.P. yn dwyn y teitl afiach o ysdrydebol ‘Mewn Byd Mor Fawr’. Yn amlwg o’r teitl dydi’r boi heb ddalld ein bod ni erbyn hyn, yn byw mewn global village. Heb sôn am y teitl camarwaeiniol, ma’r clawr angen ei riportio i Gwerful yn Trading Standards hefyd. Caryl Parry Jones a Rob Reed sydd wrth wraidd y caneuon ar yr E.P. Be’am y miwsig? Wel, mae o’n union yr un math o gachu roedd Barry Manilow yn arfer wasgu allan o’i dwll dîn tra’n yfad Campari ar draeth y Copa Cabana nôl yn ‘76. h.y. mwsh melodromatig marwaidd Megatronic sy’n gneud i ddyn sgrechian ‘plis-paid-gadael-i-Caryl-dyberswadio-i-recordio-eto’. Rhybudd – fe fydd Arwel Mega yn chwys laddar yn y Popty cyn bo hir, yn trio dawnsio o flaen y Valley Girls deuddag oed. Ond ydi o’n hync haeddiannol i’r genod ifanc? Fydd Arwel Mega yn perswadio’r to iau bod Pop Cymraeg yn haeddu sylw? Ai fo ydi’r Bryn Fôn newydd? na, na a na eto. Wedi dweud hynny, mewn byd mor fach â Chymru mae yna le i Mypets Ar Lwyfan. A does dim gwell Pwped-Feisdres Pop na Caryl. Barry Chips

Mae bron i dair mlynedd ers rhyddhau ‘Am cyfan dy pethau prydferth’gan Jakokoyak, a hir fu’r ymaros am stwff newydd gan y dorf gynyddol a ddaeth i addoli’r casgliad hwnnw. Mae ‘Eira’yn adlais o ganeuon ‘Mutations’ Beck, gydag effeithiau’r blws a’r ymadroddus ‘Ti mor bell’yn mynd â ni i dir y Beta Band a’r sgwigls electronig ar y diwedd yn dwyn i gof wallgofrwydd arbrofol y Super Furries. Mae’r effeithiau blws-alt.country eto ar ‘Glow’yn digwydd o fewn awyrgylch sinematig freuddwydiol. ‘Ambient’Cymraeg. Mae ‘Panic’yn dywyll a hypnotaidd, fel ochr arall i geiniog ‘Paid â gadael nhw dynnu fi lawr’oddi ar ‘Am cyfan…’ Trac gwirioneddol hyfryd a iasol ar yr un pryd. Mae ‘Troi’yn bownsio i gychwyn fel y gwnaeth ‘Eiddil’gynt a llais bregus bachgen-ar-goll Rhys ymhell nôl yn y mics wedi ei amgylchynu gan biano, gitars ac electronica isel yn gyfanwaith taclus. Mae ‘nowhere’yn ein gadael yn yr union fan honno, yn arwydd cynnil o’r fan lle gallai Rhys Edwards fynd nesaf. Gobeithio na fydd raid disgwyl cyn hired am y cynnyrch ar ôl cyrraedd stop nesaf y siwrnai. Casgliad hudolus gan un o artistiaid pwysicaf y sîn. Shon Williams

NO STAR O’R DYFNDER Y DOWN RASAL ’’’ Dyma E.P. gyntaf y band ifanc yma o ardal Wrecsam a ennillodd Frwydr y Bandiau Mentrau iaith Cymru a C2 Radio Cymru y llynedd. O gordiau gitar egniol agoriadol Bywyd mae’n hawdd gweld pam daethant yn fuddugol y llynedd. Mae un peth yn sicr, mae no Star yn fand roc trwm. Er bod y basdads bach drwg wrth eu boddau yn gwneud gymaint o sw ˆn a phosib mae yna ganeuon cofiadwy ac mae Rob y canwr, yn, credwch neu beidio….canu yn hytrach na sgrechian a gweiddi. Mae yna waith gitar sydd yn ddigon i rhoi sdoncar i Dan Lloyd mewn mannau ac mae’r drymio o safon uchel o’r dechrau i’r diwedd. Mae’r trydydd trac, Dalan Poethion, yn epic o bum munud a hanner ac yn rhyw gyfuniad rhyfeddol o nothing Else Matters- Metallica a Goleuadau Llundain Dan Lloyd a Mr Pinc. Fydd y gerddoriaeth yma ddim at ddant pawb, ond mae digon yma i fy argyhoeddi bod lle sicr i no Star yr yr SRG. John Rhambo


DERWYDDON DR gONZO FFANDANgO RASAL ’’’ Ar ôl poeni fod un o fandiau mwyaf ifanc a chyffrous Cymru yn rhyddhau CD yn rhy gynnar, cefais fy siomi o'r ochr orau. Pwy yw Derwyddon Dr Gonzo? Disgynyddion Hanner Pei a Drumbago efallai. Mae gan y band arddulliau amrywiol ac maent wedi meithrin steil rhythmig, didrafferth Drymbago a natur ddigymell a ffwnc Hanner Pei, gan greu sain gwreiddiol sy'n hudo pawb mewn perfformiadau byw. Mae nerth a phwer Derwyddon Dr Gonzo wedi trosi i'r CD yn ddi-drafferth. Mae'r band yn barod i ryddhau deunydd er mai blwyddyn yn unig sydd ers iddyn nhw ffrwydro ar y sîn. Mae'r 7 trac gwerth eu clywed a does na ddim fillers chwaith. Mae Ffandango'n amrywiol ac yn drifftio o ganeuon pop i ffwnc i Affro-beat. Mae fy fferfyn, Modryb Bwled, yn anhygoel ac yn dangos aeddfedrwydd, talent ac amseriad rhagorol y band. Yr unig siom yw'r mics, teimlaf y gallai hwn fod llawer llyfnach rhywffordd, er efallai y buasai hyn wedi tynnu oddi wrth y sain byw sy'n treiddio drwy'r CD. Lynsey Anne

O FETHLEHEM I FANgOR gWILYM MORUS RASAL ’’ Bu'r cerddor Gwilym Morus ym Mhalesteina ychydig fisoedd yn ôl yn cyflawni ei brosiect ddiweddaraf. Yno, gweithiodd ar y cyd gyda dau gerddor brodorol o Fethlehem, Mohamed a Waseem, gan roi'r cyfle euraidd iddynt recordio eu deunydd yn broffesiynol. Proses fyddai wedi bod yn amhosibl fel arall oherwydd y tlodi aruthrol a'r sefyllfa wleidyddol fregus yn eu gwlad. Mae'r 4 trac ar y CD yn gymysgedd hudolus o gerddoriaeth draddodiadol Palesteina, rhythmau bangra tynn, a doniau lleisiol melfedaidd Gwilym. Mae'r naws ddwyreiniol, freuddwydiol i'w glywed yn y traciau i gyd, ynghyd ag elfennau o reggae a dub hyfryd. Dyma berl fach hollol 'mellow' sy'n gwbl unigryw o ran arddull i'r sîn Gymraeg ac yn sicr yn werth gwrando. Mae'r arian sy'n cael ei godi o werthiant y CD yn mynd tuag at gael Mohamed a Waseem drosodd i Gymru i wneud mwy o waith recordio gyda Gwilym a'i ffrindiau. Cai Dyfan

albyms FRIZBEE PENDRAW'R BYD CÔSH ’’’ Pendraw'r Byd yw trydydd CD Frizbee a'i halbym gyntaf ers iddyn nhw fynd yn fand llawn amser, proffesiynol. Does dim amheuaeth ei fod yn albym broffesiynol gyda harmoniau neis, ac mae'n hawdd gwrando arno, ond dydy e ddim yn gwneud argraff arnai chwaith. i fod yn onest o'n i'n disgwyl a gobeithio am fwy ar Pendraw'r Byd, boed yn amrywiaeth o ganeuon neu glywed y band yn cymryd risg. Rwy'n teimlo fel bod y band yn dal nôl lot gormod a dwi eisiau iddyn nhw fynd yn nyts a'i cholli hi, ond mae'n nhw wastad yn chwarae'n saff - dyma pam mae nifer yn teimlo fod Frizbee yn… .(sori am ddefnyddio'r term!)… fand canol y ffordd. Mae arddull eu caneuon yn dda a phroffesiynol, mae'n nhw'n gerddorion arbennig a thynn ac mae'r albym wedi'i gymysgu'n arbennig gan Geraint Jones. Mae gan Ywain Gwynedd lais unigryw a dwi eisiau clywed e'n gwneud pethau fwy arbrofol gyda'i dalent. Heyla yw'r trac gorau i fi, a'r unig gân sy'n gwneud rhywfath o argraff. Mae'n braf clywed ychydig o offerynau pres yng nghanol melodiau rhythmig gydag amseriadau amrywiol ac effeithiau. Yn bendant mae 'na farchnad fawr i Frizbee ond hoffwn i weld fwy o agwedd a phersonoliaeth yn y dyfodol. Lynsey Anne

EUROS CHILDS CHOPS WICHITA RECORDS ’’’ Chwi ffans siomedig sy’n crio ar ôl sylwi na newch chi glywed cynnyrch newydd gan y Gorky’s, peidiwch â phoeni, dydi Euros Childs ddim wedi troedio’n bell o idiom cyfarwydd y seicadelig-feistrwyr o Benfro, os o gwbl. Sy’n golygu bod yna lot o eiriau a chaneuon am Duw a wyr beth, ond fel arfer, mae’r cyfan yn hyfryd o ansylweddol. Mae na ryw falu awyr dros dair cân am ‘Stella is a Pigmy’ ddylai gael ei sgipio ar unwaith, ond mae ‘Dawnsio dros y Môr’, ‘Circus Time’, ‘Cynhaeaf’ a ‘Surf Rage’ i gyd yn llawn o’r eiliadau tawel arallfydol sydd ddim ond yn gwneud synnwyr pan mai llais, piano, gitar a harmonïau Euros sy’n eu chwarae. Mae’r adleisiau o gyfeiriad alt.country diweddar y Gorky’s yma hefyd (‘Donkey island’, ‘My Country Girl’) a bydd stomp glam-rocaidd ‘Hi mewn Socasau’ (cefnder i ‘Poddle Rockin’) yn siw ˆr o fod yn ffefryn byw. Shon Williams

sgoriadur ’’’’’ - campwaith ’’’’ - uffernol o dda ’’’ - werth gwrando ’’- gweddol ’- jyst peidiwch trafferthu

Y SELAR 29


Datblygiad Diwylliant Yn ôl y chwedl Ellis Sion Siamas o Lanfachraeth ger Dolgellau, oedd y cyntaf i gyflwyno’r Delyn deires i Gymru. Er mwyn talu teyrnged i Ellis mi fydd canolfan Werin Genedlaethol yn agor yn nolgellau yn ystod Pasg 2007, a’i enw fydd Tyˆ Siamas. Mabon ap Gwynfor fydd rheolwr y ganolfan newydd yma a’r bwriad yw codi proffil cerddoriaeth werin fel bod mwy o bobl yn deall cysyniad a thraddodiad cerddoriaeth werin Cymru. Yn ôl ap Gwynfor “Pwrps y ganolfan yw edrych ar hanes a treftadaeth cerddoriaeth werin yng nghymru. Fyddwn ni’n edrych i ddatblygu dosbathiadau yn y gymuned leol a digwyddiadau lleol i hybu cerddoriaeth werin Gymraeg, nid dim ond yn y dulliau Ffal-di-raldi-rol, ond dod ag elfen mwy cyfoes iddo fe’ Mi fydd yr arddangosfa amlgyfryngol yn rhoi cyfle i bobl drio offerynnau, yn ogystal ag awditoriwm fydd yn gallu dal hyd at gant o bobl ar gyfer gigs. Mae hanes cerddoriaeth werin yn gryf yn nolgellau gan mai fan hyn y cynhaliwyd Gwyl Werin gyntaf Cymru nôl ym 1959, a gwyl werin hefyd oedd y Sesiwn Fiawr i ddechrau, a dal hyd heddiw i ryw

Annwyl Selar,

raddau. Mi fydd Tyˆ Siamas yn dechrau cyfres o gigs gwerin ym mis Hydref i godi ymwybyddiaeth o’r ganolfan, a’r gobaith fydd mynd a rhannau o’r arddangosfa ar hyd a lled Cymru er mwyn lledaenu’r neges. Mae ap Gwynfor yn pwysleisio mai dim amgueddfa fydd Tyˆ Siamas ond arddangosfa “Mae amgueddfa yn cofio rhywbeth sydd wedi marw, dyw’n traddodiad gwerin ni yng nghymru ddim di marw o bell ffordd. Mae Beirdd a Rapwyr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd heddiw, lle mae gyda ti ddiwylliant draddodaidol yn mabwysiadu elfennau newydd, union yr un peth gyda cerddoraieth werin, mae e dal i ddatblygu ag esblygu a dyna beth fyddwn ni’n trio dangos gyda’r arddangosfa hyn.” Mi fydd Tyˆ Siamas ar Sgwâr Dolgellau yn agor yn 2007. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mabon ar: mabon@tysiamas.com

www.SRg.com 5 CÂN HANFODOL I CHI WRANDO ARNYN NHW AR Y WÊ

1

COFi BACH A TEW SHADY – SYMuD YMLAEn Sdompar o gan Eminem- aidd sy’n cael ei gyrru ymlaen gan y gitar roc sy’n gefndir i rapio hynod lyfn Tew Shady oedd yn rhan o sesiwn C2 y ddeuawd boblogaidd. www.bbc.co.uk/cymru/radiocymr u/c2/sesiwn/cofibachtewshady

2

PAPAGini – ALCOHOL = HYDER Can fer fachog gan y band ifanc o Fôn, yn ymwneud a merched ag yfed dan oed, recordiwyd ar gyfer sesiwn C2. www.bbc.co.uk/cymru/radiocymr u/c2/sesiwn/papagini GEnOD DROOG – BREuDDWYD OER Can araf emosiynol sydd yn

3

30 Y SELAR

ychwanegu enw Gwyneth Glyn i’r rhestr o enwogion yr SRG sydd ynghlwm yn y prosiect yn barod. www.myspace.com/genoddroog

4

RADiOFLYERS – POPETH i’R CHWiTH Band ifanc o Bwllheli sydd wedi derbyn adolygiadadu ffarfriol iawn ers dechrau ym mis Mai 2005. Can roc, llawn agwedd, sydd yn sicr o sticio yn eich pen. www.myspace.com/goradioflyers

5

GOLA OLA – DiM MWY Pynci pop pwerus egniol ar ei orau gan y band ifanc yma. Mi fydd albym ar ei ffordd yn fuan iawn, ond tan hynny mae’r safle yma yn cynnig traciau i chi gael blas. www.myspace.com/golaola

Sgwennu ydw i i gwyno am safon eich adolygiadau. Oes raid cynnwys yr ansoddeiriau 'ffantastig, unigryw, gwych, grêt' mor aml, yn enwedig yng nghyd-destun gwlychwyr gwely fel Gwilym Corris, Alan Tandani a Gwyneth Dafydd? Ai dyma yw pop arloesol sy’n adlewyrchu y profiad cyffrous o fod yn ifanc yn y Gymru gyfoes? Boooorin. Dani'n haeddu gwell, ac nid edrych nôl yn dragywydd a gwrando ar rhyw hen uffar blin fel Dave Datblygu mewn stafell dywyll yw'r ateb. Safon! Beiddgarwch! Deffrwch! Cofion Matthew Llwyd-Williams

Annwyl Selar, Llythr i nodi ambell beth er mwyn i Bandit, a Bandit ar Bamffled (y cylchgrawn hwn) a chronis eraill yr SRG i ddallt ambell beth anghenrheidiol er mwyn dyfodol yr SRG. Os ydi rhywbeth yn ganol y ffordd e.e. Vanta neu Dan Lloyd a Mr Pinc, nid yw hyn yn golygu ei fod yn wael, yn yr un modd dydy rhywbeth “gwahanol” e.e. Saizmundo neu Cofi Bach ddim yn golygu ei fod o’n dda. Mae’r hawl gan bawb i fwynhau’r gerddoriaeth maent yn ei hoffi. Ffwl stop. Dydy lol fel y cylchgrawn hwn a Bandit (efo’r ddau jarff gwirion yna sy’n cyflwyno, escape i ti Sarra Elgan, fy mlodyn bach i) ddim yn cefnogi holl genre’s yr SRG ac yn hytrach yn canolbwyntio ar be mae nhw’n ei ystyried yn ‘cool’. Sadiwch bobl, swydd y cylchgrawn hwn a’r rhaglen deledu yw rhoi trawsdoriad o’r SRG fel ac y mae, yn hytrach na pigo pethau y mae nhw’n ei hoffi. Ac yn fwy fyth, mi fyddai llawer iawn iawn mwy o bobl yn darllen a gwylio os byddai’r snobyddrwydd llwyr yma at gerddoriaeth ganol y ffordd Cymru yn stopio. Llawer mwy i ddweud ond da chi’m werth o. Yn flin a phryderus, un o hogia’ Llandygai.

Os oes rhywbeth yn eich gwneud chi’n ffiwmar, sgwennwch e-bost i golygydd@yselar.com




Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.