Y Selar - Tachwedd 2006

Page 1

rhifyn 8 . tachwedd . 2006

y Sela

AM DDIM

i e R Y

r y s u o r f f y fc a !” y i w a b m i “Band os nag on b e h SRG

TU MEWN – Gola Ola, Plant Duw, Genod Droog, Dau Cefn, a LLAWER MWY ! Selar ceri.indd 1

20/11/06 09:52:58


STORI RHYS MWYN

£9.95

hefyd...

www.ylolfa.com

}Þ`>Ê ÜiÃÌ> Ê>ÀLi }N Ü Ì Ê-Õ«« ÀÌ

ÜÜÜ° ÌÜ > °V ÊÊÊÊÞ ÊVÞv ÜÞ Ê N Ê«ÀiÃi ÌÃÊÊ

VÀ iÃÌ À >`ÊVÀ ÃÃiVÌ %"5)-*"% 0 %"*3 "-#6. ("/ 6/ 0 (:'"/40%%8:3 (03"6 $:.36

$:'-& (8:$) * 8&-% .*. 58. --"* :/ 1&3''03.*0 &* ("/&60/ .&8/ %6-- 6/*(3:8 " $&-&#3"5*0/ 0' 5)3&& "-#6.4 #: 0/& 0' 8"-&4 '*/&45 $0.104&34 " 3"3& $)"/$& 50 4&& .*. 58. --"* 1&3'03. )*4 40/(4 */ " 6/*26& 8":

5BDIXFEE ] /PWFNCFS

5)&"53 '"$) --"/(&'/* QN b b 4JPQ (VFTU B $XQXSEE $PSOFM -MBOHFGOJ

5)&"53 58. 0 3 /"/5 %*/#:$) %&/#*() QN b b 4JPQ $MXZE %JOCZDI

5)&"53 $0-8:/ #"& $0-8:/ #": QN b b XXX UIFBUSDPMXZO DP VL : .03-"/ "#&3:458:5) QN b b XXX NPSMBO PSH VL 5)&"53 : (30.-&$) $3:.:$) QN b b 10/5"3%"8& "354 $&/53& 10/5"3%"8& QN b b XXX OQU HPW VL UIFBUSFT --"/0'&3 )"-- $"&3%:%% $"3%*'' QN b b (6*-% )"-- "#&3)0/%%6 #3&$0/ QN b b 5BMV BS Z ESXT 1BZ BU EPPS /&6"%% %8:'03 18--)&-* QN b b 5)&"53 "3%6%8: )"3-&$) QN b b XXX UIFBUSBSEVEXZ DP VL

3IBHGZS ] %FDFNCFS

("-&3* $"&3/"3'0/ QN b b XXX HBMFSJDBFSOBSGPO DPN #ZEE IXO ZO DBFM FJ SFDPSEJP POE OJ GZEE ZO BNIBSV BS MJG Z QFSGGPSNJBE 5IJT OJHIU XJMM CF SFDPSEFE CVU XJMM OPU EJTUVSC UIF n PX PG QFSGPSNBODF

Üi à > }Õ>}i> ÌiÀ >Ì Ûi>V ÕÃÌ Vv V Õ ÌÀÞÀ V Ài}}>iL> >`à $:/):3$)*"% 4#&/4) 130%6$5*0/

Selar ceri.indd 2

20/11/06 09:53:02


TACH06 06

y Selar cynnwys genod droog

GOLYGYDDOL Dwrn un i ffwrdd. Dwrn pump i ffwrdd. Dwrn tri i ffwrdd. Dwrn pedwar ... TIPIT ! AAAAaaa, sori oni ynghanol hunllef frawychus lle ro’n i mewn rhyw ogof gyda’r boi bach na o Sgorio mewn menyg gwyn yn trio rhoi ei gerrig yn yn law i dan y bwrdd. Ta beth, a’i ddim i gysgu eto am sbel ma hwnna’n saff. Mae’n prysur agosau at ddwy flynedd ers sefydlu’r Selar ... felly penblwydd hapus i ni myn diawl i ! Mae’r Dolig yn prysur agosau ac mae’r SRG yn cael cyfnod uffernol o brysur y Nadolig yma. Mae bron iawn gymaint o CD’s yn cael eu rhyddhau Dolig yma a gafodd eu rhyddhau yn y Steddfod ac mae gigs yn cael eu trefnu ymhob cwr o’r wlad felly bachwch ar y cyfle i fwynhau gwledd o SRG cyn i chi ddechrau poeni am brynu anrhegion i bawb. Yn y rhifyn yma fe gewch chi gyfweliadau ecsgliwsif gyda’r band mwyaf cyffrous yn yr SRG Y Rei a’r pyncs popiog ifanc na o Benrhyndeudraeth, Gola Ola. Plant Duw, Pwsi Meri Mew, Genod Droog a llond bra Margaret Williams o ddanteithion eraill SRG-aidd yn arbennig i chi. Cawn weld beth mae Mr Huw yn wneud o ddydd i ddydd, edrychwn ymlaen at y CD’s sydd ar gael y Nadolig hwn, ynghyd â’r adolygiadau a’r cachu arall arferol. Mwynhewch y ffernols !

Ei da - Y Golygydd

mr huw

5

gola ola – cyfweliad gyda’r band sydd ddim byd tebyg i busted na mcfly ... onest!

6

plant duw – epil yr arglwydd neu feibion y diafol ?

7

mr huw – beth mae’r enigmatig mr huw yn gwneud a’i hunan tu ol i ddrysau caeedig?

8

Y REi – Aron yn profi bod modd i chi ddeall yr hyn sy’n dod o’i geg e !

11

genod droog – Lynsey anne aeth i lundain i weld band byw gorau Cymru ... yn lloegr.

gola ola Cynhyrchwyd gan gwmni RASAL Cyf, ariannwyd gan grant gan y Cyngor Llyfrau Cenedlaethol. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd - Defnyddir iaith gref mewn mannau, a iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y SELAR. Y SELAR 3

Selar ceri.indd 3

20/11/06 09:53:04


NEWYDDION

GIGS I ARDAL WYDDGRUG Yn ogystal â’r gigs mae Maes B eisoes yn eu trefnu yng Nghaerdydd a Bangor, mi fydd Maes B hefyd yn trefnu cyfres o gigs yn ardal Wyddgrug wrth i Steddfod flwyddyn nesaf agosau … er taw dim ond newydd fod mae un leni. Yn ôl Guto Brychan bwriad y gigs ydi “codi ymwybyddiaeth o Maes B cyn i’r steddfod ddod i’r ardal”. Mi fydd y gig cyntaf yn y Mercia Inn ar yr 22ain o Ragfyr gyda Radio Lux, Derwyddon Dr Gonzo, Mr Huw a Llan Clan DJ’s. Am fwy o fanylion cysylltwch a www.myspace/ maesb

LLYFA HON! Mae Cymdeithas yr Iaith yn trefnu cyfres o gigs o gwmpas Cymru fydd yn dwyn yr enw Taith Tafod. Ar daith gyntaf Y Ffyrc, sydd newydd fod ar daith yn hyrwyddo eu halbym Oes, fydd y prif fand, gyda chefnogaeth gan Kentucky AFC ac enillwyr Brwydr y Bandiau 2006, Amlder o Landeilo. Bydd y daith gyntaf yn ymweld â phob pegwn o Gymru gyda nosweithiau yng Nghaerdydd, Caerfyrddin, Aberystwyth, Bangor a’r Wyddgrug. Bydd y daith yn digwydd yn ystod pythefnos olaf Tachwedd, gydag un noson ym Mis Rhagfyr. Y gobaith yw y bydd ‘Taith Tafod’ yn datblgu’n ddigwyddiad cyson yn y calendr cerddoriaeth, gan barhau â’r berthynas agos rhwng Cymdeithas yr Iaith a’r SRG.

Dyddiadau Taith Tafod: Nos Iau 16 Tachwedd - Waterside, Caerfyrddin Nos Wener 17 Tachwedd - Clwb y Cynfilwyr, Wyddgrug Nos Wener 24 Tachwedd - Clwb Pêl-droed, Aberystwyth Nos Sadwrn 25 Tachwedd - Clwb y Rheilffordd, Bangor Nos Iau 7 Rhagfyr - Clwb Ifor Bach, Caerdydd

CD’s gan Siôn Corn! Mae cyfnod y Nadolig eleni yn angrhedadwy o ryfeddol o brysur yn yr SRG gyda llwythi o albyms yn cael eu rhyddhau. Dyma rai o’r CD’s fydd ar gael i’w stwffio i’ch hosanau ‘Dolig yma.

RYAN KIFT Rhyddhawyd yr albym ‘Ar goll’ gan Ryan llynedd a dyma’i ail albym ‘Mynd i’r Jel’, fydd yn cael ei ryddhau ar Rhagfyr yr 8fed gyda gig yn Nhy Newydd Sarn. Mwy o ganeuon acwstic melodig gan gyn brif leisydd Something Personal, wedi ei recordio yn Stiwdio Drysfa a’i gynhyrchu gan Gronw Roberts aka Tew Shady. Am ragflas mae Sesiwn C2 ar gael ar www.bbc.co.uk/ cymru/radiocymru/c2/ ^

COWBOIS RHOS BOTWNNOG Dyma fand sydd wedi denu sylw mawr gyda’u perfformiadau byw dros y flwyddyn ddiwethaf. Mi fydd y josgins o Ben Llyn yn rhyddhau eu halbym gyntaf hir ddisgwyliedig Dawns y Trychfilod ar label SbrigynYmborth/Slacyr o fewn yr wythnosau nesaf. www.myspace.com/cowboisrhosbotwnnog

DYFRIG EVANS Mi fydd cyn brif leisydd Topper a’r actor Dyfrig Evans yn rhyddhau ei albym unigol gyntaf ar label Rasal ar Ragfyr yr 8fed. Mi fydd yr albym ddwy-ieithog Idiom yn cael ei lawnsio ar Ragfyr y 1af. www.rasal. net

HEATHER JONES Albym newydd gan un o gewri’r SRG. Mi fydd Enaid yn albym werin/acwstig ac yn cynnwys cyfraniadau gan Gwyneth Glyn a Gwilym Morus - hefyd mae caneuon wedi eu cydgyfansoddi gan Meic Stevens, Geraint Jarman ac Yn yr Brigyn yn ymddangos ar yr albym a fydd ar label Sain. www.sainwales.com

MIM TWM LLAI Trydedd albym y dyn o Danygrisiau i ddilyn llwyddiant ysgubol O’r Sbensh a Straeon y Cymdogion. Mi fydd Eira Mawr yn cael ei ryddhau ar yr 2ail o Ragfyr yn y Galeri, Caernarfon a’r label Crai. Mi fydd taith hyrwyddo Croestoriad gyda caneuon oddi ar y dair albym yn gorffen yn y Galeri i gyd-fynd â lawnsiad y CD. www.mimtwmllai.co.uk

BOOTNIC Am fwy o fanylion ynglyn â’r daith, gallwch e-bostio owain@cymdeithas.com 4

Ail albym Bootnic, gydag arddull newydd y band. Mi fydd STWNSH yn cynnwys chwe chân Gymraeg a saith Saesneg, ac mi fydd yn cael ei hunan-ryddhau yn yr wythnosau nesaf, ar y label Olds-kool-records.

Y SELAR

Selar ceri.indd 4

20/11/06 09:53:10


CYFWELIAD Lluniau: Einion Dafydd

GWELD GWELD YY GOLA GOLA ......

OLA OLA !!

O’R CHWITH : DYLAN, ALEX, RICH

M

ae’r llafnau ifanc yn brysur. Mae Pro Evolution Soccer 6 ar Xbox 360 wedi ei lawnsio ers rhyw wythnos ac mae’n mynnu sylw, tra bod Rich (prif leisydd) yn cymryd saib i siarad gyda’r Selar, mae Dylan (bas) ag Alex (dryms) yn mynd ben-ben â’u gilydd yn yr ystafell fyw. Rwy’n darganfod fod Rich newydd golli 6-1 i Dylan llai na pum munud ynghynt, dyna pam felly mae e mor barod i siarad. Ffurfiwyd y band rhyw dair blynedd yn ôl ond ers i Dylan ymuno ar droad y flwyddyn mae Gola Ola wedi mynd ati i recordio’u halbym gyntaf Rhwng Oria a Munuda. Ymddangosodd Gola Ola ar raglenni Popty

a Sesiwn Hwyr cyn iddynt chwarae mewn gig. Mae’n swnio’n hurt, ond dyw e’n ddim byd newydd yn yr SRG. Sut ddiawl mae band yn mynd o unman i fod ar ddwy raglen deledu cyn ymddangos ar lwyfan (a hynny cyn dyfodiad MySpace)? Rich: Es i ar brofiad gwaith i stiwdio Dyl Mei a nes i recordio ambell gân am laff. Wedyn ges i gynnig mynd nôl efo band llawn i recordio tair cân, neud hwnna a nath Dyl anfon y CD off i’r cwmni teledu. Wedyn nath y ffôn ganu a cynnig neud fideo i Sesiwn Hwyr. Do’n i ddim wedi really meddwl am neud gigs, jyst malu awyr oeddan ni. Rhyfadd really bo ni’n cael y sylw. Felly yr hen Dyl Mei a’i fysedd bach tew, prysur sydd wrth wraidd dyfodiad Gola Ola. Felly mae’n siwr eich bo’ chi wedi recordio’r albym yn Chez Mei gyda’r dyn ei hun yn cynhyrchu, a’i fod ar label Slacyr? Rich: Ymm, na. Nethon ni recordio fo yn fy stiwdio i yn stiwdio Ferlas, a fi nath y cynhyrchu hefyd. Mae o allan ar label ni ein hunain label BlwPrint Records.

Fyse ti’n dweud fod McFly a Busted yn ddylanwad ar Gola Ola ?! Rich :Na no way ! Da ni’n gwrando ar betha pync Americanaidd fatha Green Day a Blink 182. ‘Da ni ‘di symud mlaen i wrando ar bethau mwy chillout, so ella nawn ni newid arddull erbyn yr albym nesa, gawn ni weld sut ma pobol yn ymateb i’r albym yma, gawn ni weld pan mae’r amser yn dod. Oeddan ni am neud rhywbeth oedd yn wahanol i’r holl fiwsig “canol y ffordd” sydd ar gael yng Nghymru.

Gyda’u harddull pynci pop pwerus a’u caneuon egniol, cofiadwy maent wedi cael eu labeli gan rhai fel y McFly neu’r Busted Cymraeg, sut fyddwch chi’n ymateb i’r honiadau yma? Rich: O what?! Mbo, dwi’m yn siwr! Alla i ddallt o lle mae nhw’n dod achos ni di’r peth agosa at hynny yng Nghymru ma siwr. Dwi’m yn licio nhw yn bersonol ond os ydi pobl yn meddwl hynna, jyst gadal iddyn nhw feddwl be ma nhw isho. Ond da ni’m yn keen arno fo o gwbwl. Gyda’r band newydd orffen sdint ar daith C2/Bandit, sut oedd pethe tu ôl llwyfan? Oedd gan Huw Evans broblem gyffuriau? Weloch chi Lisa

Gwilym yn ei bra? Sut oedd bywyd ‘on tour’? Rich: Reit boring really. Neud dim byd llawer, lot o sefyll rownd, byta lot o ginio ysgol ... afiach. Jyst chwarae ffwtbol efo hogia Frizbee. Sôn am ffwtbol, daw na weiddi mawr o’r ystafell arall lle mae Alex, y drymiwr sydd yn rhestru ei ddiddordebau fel “jyst dryms”, wedi curo Dylan y ffefryn o gôl i ddim. Mae’n rhaid i’r bechgyn ei heglu hi i Gaergybi i chwarae gig yn fynna heno, ond cyn iddyn nhw fynd, fel ddwedodd Mark Hughes “Jans am game?”

owain m-j Y SELAR 5

Selar ceri.indd 5

20/11/06 09:53:17


y canmol a’r canu N

ôl yn Haf tanbaid 2004 roedd Myfyr, Conor ac Elidir yn gwersylla yn Maes B yng Nghasnewydd, yn gwneud ffyliaid llwyr o’u hunain drwy ddawnsio fel brogaod ar speed mewn gig Drymbago. Y bore wedyn, dyma gyfaill yn pasio ac ar ôl gwneud sylwadau am eu dawnsio, gwelodd yr holl lyfrau a CDs o gwmpas y babell, oedd yn amlwg at ei ddant. “Da chi’n blant i Dduw yn wir” oedd ei ymateb. Wrth iddynt ryddhau eu sengl gyntaf ar label Ciwdod aeth y Selar ati i ddarganfod mwy am y band sydd yn honni bod yn Dduwiol. Yda chi’n blant i Dduw go-iawn? Mae sawl un o feddyliau mawr y byd wedi pendroni dros y cwestiwn yma am ganrifoedd, hyd yn oed cyn i Plant Duw ddod i fodolaeth. Os oes ‘na Dduw, gobeithio wir ei fod o’n cysidro ni’n blant iddo - ond os ydi o, lle mae fy mhres poced i? Ydi’n bosib cynnwys pedwar Meseia mewn band? Faint o angylion sy’n gallu dawnsio ar ben pin? Dwi’m yn gwbod. Yn sicr does na ddim ryw fath o limit ar faint o Feseiod sy’n gallu cael eu cynnwys mewn band. Tasa Iesu wedi

dechra un, a Buddha isio bod yn rhan o’r peth, a fo yn gallu chwarae’r delyn yn dda iawn, iawn, pa reswm sydd gan Iesu i’w daflu allan o’r band? Dim. A dyna’r ateb.

gynted a phosib tysa label yn bod mor neis a chynnig ryw fath o gytundeb i ni. Ac albym ar ôl hynny, gobeithio. A sengl arall ar ryw bwynt hefyd. Ac ella mwy ...

Pa mor uchel fedar y sengl newydd gyrraedd yn Siart C2? Does ‘na ddim owns o ots gan yr un ohonom ni. Mae’r holl ganeuon yn cael eu sgwennu i ni a neb arall - dyma’r union gerddoriaeth da ni wastad wedi bod isio ei glywed, ac os ydi pobol eraill isio clywed yr un math o stwff, cw^ l, os ddim, gawn nhw fynd off a gwrando ar eu stwff nhw hebdda ni yn swnian yn eu clustiau nhw.

Sut beth oedd tyfu fyny ym Mangor? Wnaeth tyfu fyny ym Mangor wneud y band yn hynod o freintiedig, canys i ni gael atebion i rai o gwestiynau mwyaf dyrys y byd tra’n byw yno - cwestiynau fel ‘You got 50p for me?’, ‘Wanna fight?’ a ‘Wharrya lyin’ for?’.

Oes casgliad mwy o ganeuon ar y ffordd? Gobeithio wir. Mae tua 40 o ganeuon wedi eu sgwennu, a chaneuon newydd wastad yn ymddangos fel plorod ar gefn mochyn, er dwi’m yn meddwl ein bod ni’n mynd i ryddhau nhw i gyd, da ni ddim isio bod yn fand sy’n gwahanu ar ôl sengl ac EP. Mae digon o stwff ganddo ni i lenwi cwpwl o recordiau, ac mae na stwff acwstig hefyd fysa’n braf ei ryddhau rywdro tysa amser yn caniatáu. Fysa ni’n licio dechra ar EP cyn

Beth fysa chi’n dweud yw prif ddylanwadau Plant Duw? In Utero gan Nirvana, Siamese Dream gan y Smashing Pumpkins, London Calling gan y Clash, Blood Sugar Sex Magik gan Red Hot Chili Peppers, a llawer, llawer mwy. Os am restr lawn o’r recordiau sydd wedi ein hysbrydoli, gyrrwch ebost at does.neb@ynmalio.com. Forward slash hwyl fawr.

Pa mor dal ydi ‘Talach Na Iesu’? Mae’r gân Talach Na Iesu ar CD yn tua 4 modfedd a hanner o ddiamedr. Ond Iesu ei hun? Wel, ar ôl gwneud ychydig o ymchwil, mae’n debyg ein bod ni’n dalach. Yn ôl y Turin Shroud, roedd o rhwng 5’11” a 6’2”, ond tasa hwn yn wir, fysa pawb wedi pwyntio bysedd a chwerthin, achos doedd pobol yr oes bron byth mor dal a hyn. Tua 5 troedfedd ydi’r consensws ar gyfer taldra Iesu dwi’n meddwl, ond wrth gwrs does dim ffordd o fod yn siw^ r. Bah! Dwi newydd ffeindio cân o’r enw ‘Taller Than Jesus’ gan rywun o’r enw Sean Waltman wrth ymchwilio i mewn i’r mater. Gobeithio wneith o ddim dod a llaw flewog y gyfraith yn ein herbyn ni.

Bari chips

“Dyma’r union gerddoriaeth da ni wastad wedi bod isio ei glywed ... “ 6

Y SELAR

Selar ceri.indd 6

20/11/06 09:53:19


CYFWELIAD

DIWRNOD YM MYWYD…MR HUW M

i rois y peiriant ymlaen a mynd am gachiad tra roedd o’n bwtio fyny. Chwarter awr yn ddiweddarach mi oeddwn i dau gachiad yn ysgafnach a doedd y peiriant heb lwytho. Felly, ei roi ymlaen, ei roi i ffwrdd, ei roi ymlaen, ei roi i ffwrdd. Da i ffycin ddim! Dyna pryd nes i sylweddoli bod y pethau dwi wedi recordio ar y peiriant ddim wedi eu bacio fyny. Yr eiliad yna nes i droi yn biws a dechrau cicio fy nghit dryms rownd y ‘stafell. Ar ôl dwy awr o wylltio a throi’r peiriant ymlaen ac i ffwrdd nes i roi’r ffidil yn y to er bo fi wedi cael fy nhemtio i roi 8-trac trwy’r ffenest. Felly dwi wedi colli’r

De. Gynta, brecwast ac ar ôl sbïo, brecwast heb lefrith … mmm sych. Munud nes i orffen fy reis crispis sych a rhoi naid yn y fan i fynd i Lanberis i bostio cwpwl o becynnau amheus, teimlais fod rwbath o’i le efo’r fan. Aaaghhhh, rwbath o’i le efo’r ger bocs. Diolch byth bod y bastad dan 3 mis o garanti a diolch byth bod gen i fan dros dro a fina efo gweithdy roc a pop i neud p’nawn ma.

9.39

fersiynau gwreiddiol o fy sengl, di colli popeth newydd oeddwn yn ei weithio ar, dwy gân at e.p. Mr Huw, cân olaf ar gyfer fy albym a dwy gân demo Kentucky AFC. Dim dyna’r diwedd chwaith. Ar ôl ffeindio rhywun i drwsio’r peiriant ddudodd o ella sa’r gerddoriaeth ar y peiriant yn gallu cael ei achub. Diwrnod ym mywyd Mr Huw - y diwrnod mwya’ cyffrous i fi eto ... be ellith fynd o’i le? Deffro bore ‘ma yn hynod gyffrous, aeth fy sengl gyntaf i ffwrdd ddoe ar ben ei hun bach i gael ei fastro lawr yn y

9.00

Efo chydig o amser i wastio waeth i fi gael fy nwylo’n fudur ddim a neud chydig o waith yn yr ardd. Torri gwellt ydi fy hoff weithgaredd yn yr ardd … ‘blaw am gladdu cathod drws nesa ar ôl i fi wenwyno darnau bach o salmon fyddai’n hoffi gadael yn yr ardd iddyn nhw.

11.00

13.40

‘Neighbours’ wrth gwrs.

RHAID GWELD Y PWSI! Mewn parti hurt yn dilyn eu gig yng Nghlwb y Bont Pontypridd, mae’r Pwsi Meri Mew yn mwynhau eu hunain ... lot. Maent yn cytuno, ar ôl lot o berswâd, i wneud cyfweliad i’r Selar. Fel Derwyddon Dr Gonzo mae Pwsi Meri Mew yn dod ag elfen gref o ffync yn ôl i ffasiwn yn yr SRG. Mae’r ddau fand yn ifanc, ag yn dod a lot fawr o hwyl i’w perfformiadau byw. Pwsi Meri Mew Movement oedd eu henwau o’r blaen ond

nawr dim ond Pwsi Meri Mew, lle aeth y ‘Movement’ ? Gaff: Pobl erill nath gychwyn hwnna. Pwsi Meri Mew Movement oedd enw rhyw brosiect drum ‘n’ bass o’n i’n neud yn Bethel tua saith mlynedd nôl.” Wel, disgrifia beth yw Pwsi Meri Mew felly ? Gaff: Pwsi Meri Mew ydi grw^ p o hogia yn dod at ei gilydd ac yn chwara weithia ffync, weithia reggae, blws, weithia hip-hop, weithia jive. Grw^ p o hogia yn chwara’r steils yna o fiwsig ‘de, ac yn mynd allan o bocad yn mynd o le i le. Chwara gigs a colli pres! Dechreuodd y band yn Aber ond erbyn hyn mae yna ddilyniant pendant i’r band yn y Gogledd yn ogystal. Mae’r

prif leisydd, Gaff, yn chwarae i Radio Luxembourg ac mae eu dyn samples, Rhys Spikes, wedi gadael Radio Luxemburg ac yn awr yn chware i Pwsi Meri Mew, sut ddigwyddodd hyn ? Matt: Be’ ddigwyddodd oedd, nath o gwrdd â rhyw ddynion yn car park Animalarium yn Borth, wrth neud rhyw ychydig o dogging a nath o ddod fel na. Doedd stad feddyliol y Pwsi’s ddim 100%. O’n nhw ffycd! A bod yn onest roedd yr hen John yn stryglo. Gofynnais

Gweithdy roc a pop. Llwyth o blant yn gwisgo du sydd mewn cariad efo emo a goth. Fysa gweithdy gwenu a chwerthin yn neud mwy o les iddyn nhw ac ella pnawn allan yn yr haul.

15.00

Cyrraedd adra ar ôl gweithdy, gwrando ar negeseuon ar y ffôn a chlywed bod Donal, sy’n mastro fy sengl, wedi ffonio. Mwy na thebyg i ddeud pa mor wych di’r caneuon a bod o wedi hynod fwynhau gweithio efo fi a methu aros i neud eto. Ffwc o beryg! Rw^ an, dwi’n goro byw heb fy mheiriant am Duw a w^ yr faint, croesi fy mysedd neith y CD weithio ar gyfer y mastro a dwi isho diod o lefrith. Sgen rhywun raff neu wn gai fenthyg?

17.30

SENGL NEWYDD Sengl newydd 7”, Gwynab Dod/Morgi Mawr Gwyn ar gael ddiwedd Tachwedd ar label Am.

iddyn nhw beth fyse nhw’n licio i nghwestiwn nesa i fod ? Gaff: Gofyn i fi be ‘di gravity ar Jupiter. John Rhambo: A’r ateb ? Gaff: Dwywaith un ni. Ar yr 20fed o Fai mi fydd Jupiter wedi orbitio’r ddaear dwywaith ers i fi gael yng ngeni. Felly da ni am neud gig i ddathlu’r ffaith yna yn Ty^ Newydd Sarn. ‘Di Hefin ddim hyd yn oed gwybod eto, ond da ni yn neud un. Gyda’i caneuon bachog yn swyno pobol i ddawnsio a’u perfformiadau byw egniol, mae gan Pwsi Meri Mew apêl amlwg. Mae eu gwybodaeth feistrolgar o Alan Partridge yn ddychrynllyd. Maent yn bwriadu recordio EP cyn hir a’r gobaith ydi albym i ddilyn ond mae’n rhaid eu gweld yn fyw i werthfawrogi atyniad y Pwsi.

John Rhambo Y SELAR 7

Selar ceri.indd 7

20/11/06 09:53:21


Yr etholedig

rei

Mae Aron Elias wedi bod yn rhan annatod o’r SRG ers ei ddyddiau fel prif leisydd Pep Le Pew. Mae’n un o gymeriadau mwyaf talentog a mwyaf diddorol y sîn. Wrth iddo lawnsio ei brosiect ddiweddaraf, Y Rei, aeth Bari Chips i’w holi ar ran Y Selar. O’n i’n arfar bod yn rebal yn fy achos Paid â cymryd sylw o fi Jusd rho fi yn y cefn Lle does yna neb yn gweld fi Yn clwad fy nymuniada’ Anwybodus ac arferol Dyna pam dwi off ddy rêls - ‘Rebal Heb Achos’ Aron Elias

C

ael ei hel i’r gornel am fod yn hogyn drwg. Dyna hanes Aron Elias Jones yn yr ysgol. Teimlo’n thic a gwylltio efo pawb. A dechra’ rebelio yn erbyn cael ei drin fel darn o gachu. “O ni’n mynd i exams yn stoned. Cymryd mushrooms yn rysgol, o ni’n hollol juvenile delinquent. Dyna oedd mam yn galw fi,” medda’ Aron. Dim ond un peth oedd yn cadw Aron yn yr ysgol – cerddoriaeth. Ar gyfer ei

“O ni wedi mynd yn bord efo cael fy nabod fel Aron Pep Le Pew, boi hip-hop Cymraeg. “ 8

Y SELAR

Selar ceri.indd 8

20/11/06 09:53:22


CYFWELIAD

arholiad ymarferol, dyma fo’n chwara’r 24th Caprice gan Paganini (ffîm tiwn The South Bank Show i chi’r Phycars Philistaidd sy’n darllan Y Selar) – a dyma’i berfformiad o’r darn clasurol – drwy amp ar gitâr drydan – yn chwalu pen yr athro cerdd, Mr Huw Gwyn. “Oedd report ysgol fi’n llawn o ‘U’s’ ag ‘F’s’, ond dyma Huw Gwyn yn sgwennu ‘Mae Aron yn un o gitarists gora’ gogledd Cymru’. Oedd hwnna’n hwb uffernol i fi.” Hwb arall oedd gweld Roni Size yn perfformio yn Glastonbury. “Welish i Roni Size yn neud Drum n Bass efo Double Bass. Dyma fi’n dechra ca’l y syniad o Pep Le Pew - micsho offerynna’ go-iawn efo sw^ n technegol.” Dyma ffurfio Pep Le Pew nôl yn Port, efo Dyl Mei. Ar gwrs perfformio yn Coleg Menai, Bangor, dyma Aron yn cyfarfod Edward Holden, a dyfodd i fod yn rhan o’r criw.

Yng Ngholeg Menai gafodd Aron Elias wybod fod o’n dyslecsig - nath esbonio lot am ei ddyddia’ ysgol. Doedd dim terfyn i’w ddawn gerddorol, a dyma fo’n cael lle yn Coleg Roc Paul McCartney yn Lerpwl. “O ni jesd isho lle yn Coleg Paul McCartney er mwyn profi i athrawon ysgol bo fi ddim yn thic,” meddai Aron, sydd dal yn flin efo’r ffordd gath o’i gamddalld yn ‘rysgol. Wrth i bethau brysuro efo Pep Le Pew, dyma Aron yn rhoi’r gorau iddi yn Lerpwl. “Rhwng Pep Le Pew a’r holl gymdeithasu, o ni’n byw’r bywyd roc a rôl, o ni byth yn Coleg.” Wedi dwy albym arloesol, daeth Pep Le Pew i ben pan gerddodd Aron i ffwrdd. “O ni wedi mynd yn bord efo cael fy nabod fel Aron Pep Le Pew, boi hip-hop Cymraeg. Oedd o’n laff byw bywyd bod mewn band – ond o ni isho brêc.” Wedi cael llond c*nt o’r gigio a’r partis,

ac yn dioddef o’r clwyf clust tinnitus, dyma Aron yn diflannu i Sbaen i fysgio efo’i gitâr glasurol. Yn Sbaen, sgwennodd Aron ganeuon mwy personol am ei deimladau, ei deulu, a’i ddyddiau ysgol. Caneuon fel ‘Ansicr’, ‘Boddi Tristwch’ a ‘Rebal Heb Achos’, sydd ar yr E.P. ‘Psycho Prydferth’ – casgliad cynta’ band newydd Aron Elias, Y Rei. Dau aelod arall y band newydd ydi Richard Roberts (Bass/Llais cefndir) ag Alex Moller (dryms) – hogia’ ifanc sydd hefyd yn chwarae efo Gola Ola. “Fel cerddorion, ma’ nhw’n amazing,” medda Aron am y ddau arall. Weithiau mewn sound-check cyn gig, fydd Aron yn dysgu cân newydd i’r ddau, i’w pherfformio’r noson honno. Oes yn wir, mae gan Y Dewin ddau brentis dawnus! Ac yn bwysicach na dim, mae Y Rei yn rocio. Mae dylanwad Pantera, Rage Against The Machine, Pearl Jam a Black Sabbath yn y miwsig – ond mae sdamp unigryw Aron yn amlwg. Mae’n dal i arbrofi efo sw^ n gitâr Sbaenaidd, yn cymysgu’r clasurol a’r newydd - yn union fel y gwnaeth o yn y dosbarth ddeng mlynadd nôl, yn chwarae Paganini ar ei flying V. Roedd angen claddu Pep Le Pew, yn ôl Aron. Ond roedd o’n angladd hapus. “Oedda ni angan brêc. Ma’ Dyl Mei efo projects fo, ag yn foi creadigol. Dwi efo syniada’ fi. Ond ‘da ni dal fel teulu, fatha cefndryd agos ... ella bod yna brotherly competitiveness. Ond ma’ hynna’n gwella pobol. Yn gystadleuaeth iach.” Genod Droog v Y Rei? Dyma i ni un ffeit lle mae pawb yn ennill. Tra’n sdydio yn Coleg Syr Paul McCartney yn Lerpwl, dyma ryw fodan yn gofyn i Aron chwarae bas iddi. Mi nath o wrthod, gan ychwanegu bod Dyl Mei yn foi cenfigennus. Flynyddoedd wedyn, dyma fo’n gweld yr hogan ar y teledu. “O ni’n isda o flaen teli yn gwylio Top Of The Pops, a dyma fi’n gweld hi a meddwl ‘dwi’n nabod honna’. O ni’n falch drosdi, ond ddim yn dyfaru,” cofia Aron. A’r fodan? Sandy Thom cofia, yn canu ‘I wish I was a punk rocker’.

BARI CHIPS Y SELAR 9

Selar ceri.indd 9

20/11/06 09:53:23


Dau Cefn Gwlad U

hyn o bryd does na neb yn gofyn inni neud gigs!” Ond mae Dau Cefn yn barod am gigs ac yn addo neud sioe iawn ohoni. “Os fydda ni’n chwarae, ‘da ni yn neud noson ohoni efo visuals a DJ a gewch chi shag a bob dim, jocian!. Ella fod ni’n gofyn am ormod o bres ond ti angen symud mlaen o wneud gigs am ddim.” Ond mae’n gweld fod angen cadw allan o wleidyddiaeth y Sin Roc Gymraeg a chanolbwyntio ar gocynau hitio erill.

“Dy’n wedi bod yn recordio ein stwff newydd mewn layby’s” “Mae angen cadw’r wleidyddiaeth ar gyfer slagio ffwrdd George Bush a herio’r status quo. Does nam pwynt bod yn bitchy, mae yna ormod o bethau gwaeth yn y byd i boeni amdano.” Maent yn gobeithio gorffen y Layby Sessions erbyn y flwyddyn newydd.

Deian ap Rhisiart

10

fforwm am roi adolygiad anffafriol i w^ yl y Faenol ar raglen radio Sneb yn Becso Dam. Digon teg medda chi, achos mae gan bawb hawl i farnu ond roedd un o’r cyfranwyr yn gofyn ‘pa hawl sydd gan Deian ap Rhisiart i ddeud hynny?’ Dwi am ateb ei gwestiwn yn fama. Credaf fod gan bob cyfrannwr hawl i ddweud eu barn hyd yn oed y cyfrannwr uchod ond mae gweiddi a chrio a chwyno pam ddylai pobl fel fi gael yr hawl i ddweud eu barn yn pathetig. Mae unrhyw sin roc fel hon yn gallu bod yn glostrophobig. Mae’n anodd bod yn gwbl ddiduedd a gonest wrth adolygu CD. Y broblem yw, fedrwch chi ddod wyneb yn wyneb â nhw ar y stryd fawr Bangor, ar ôl tynnu’u halbym yn ddarnau yn y rhifyn diwethaf o’r Selar. Ond fel na mai achos mae rhaid bod yn onest. Y peth sy’n chwerthinllyd yw fy mod i yn cael fy ystyried yn ffigwr

NDO

Dwi’n chwerthin weithiau wrth feddwl am slogan fforwm drafod Maes-e, - ‘heb y barnu na’r cystadlu’ achos yn syml - lle i farnu a chystadlu ydio! Ddim cymryd y piss o Maes-e ydw i yn fama ond tynnu sylw at yr hyn sy’n digwydd. Oes, mae angen beirniadaeth yn bendant. Ers dyfodiad fforymau trafod fel hyn, mae critics o fewn y SRG wedi codi fel madarch ar hyd a lled y wlad ac mae hynny yn beth da er mwyn codi’r safon. Wrth gwrs, mae’n deimlad annifyr i bawb fod ar y pen arall i feirniadaeth gas ond mae’n rhaid derbyn hynny ar y talcen weithiau a dal ati yn dawel i greu mwy o stwff. Dwi wedi bod yn euog fy hun o feirniadu artistiaid eraill trwy adolygiadau yn y Wasg ond weithiau dwi’n teimlo fod rhai o gyfranwyr Maes E yn colli’r pwynt. Yn ddiweddar, cefais fy meirniadu ar un o drafodaethau’r

N S AIZ F O L

MU

CO

n o’r bandiau sydd wedi cael prin dim sylw yn ddiweddar yw Dau Cefn. Mae’r ddau aelod sef Aled Roberts a Lynsey Mcpherson wedi bod o gwmpas ers 1999 fel Dau Cefn, ar fin rhyddhau eu cynnyrch diweddaraf dan y teitl Layby Sessions ar label Peski. Mae’r albym coeliwch neu beidio, wedi cael ei recordio mewn layby’s ar hyd y gogledd a’r canolbarth! Band sy’n cyfuno rap, cerddoriaeth ymlaciol a cherddoriaeth electronig yw Dau Cefn a rhyddhawyd

bosib ddim!! Fyse mwy na dau ohonan ni yn y band yn edrych doji iawn! Ond mae hyn yn well na gorfod talu i fynd i stiwdio a’r hasl sy’n dod efo hynny.” eu halbym gyntaf Cefnder: Ond mae Aled a Lynsey am Arbrofion Cynnar yn 2001. wneud yn sicr fod eu cynnyrch Aeth Y Selar i holi Aled newydd am fod o well safon na’r Roberts am fwy o hanes eu hyn sydd wedi bod. cynnyrch diweddaraf. Meddai, “Oedden ni jyst yn “Dy’n wedi bod yn recordio arfer dwyn caneuon gan bobl ein stwff newydd mewn eraill ar y dechrau ond rw^ an layby’s achos mae o wedi bod ‘dani am wneud albym da, yn haws cwrdd hanner ffordd proffesiynol, hollol Gymraeg mewn llefydd fel Caernarfon gyda Label Peski. Fydd yna fwy a Dolgellau. Gan fod yna jyst o eiriau a gwleidyddiaeth ar hon dau ohonan ni, mae neud y a llai o ailadrodd a fydd na ddim cyfan mewn car yn hawdd, jyst dwyn miwsig off CD gafon ni o twistio nobs a pwyso botwm cereal Wheatos chwaith!” a recordio - handheld studio! Ychydig iawn o Mae’n bosib ddown ni ar draws ymddangosiadau ar lwyfan y dogging sites newydd … ond mae’r band wedi gwneud ers blwyddyn a mwy, er hynny, perfformiodd Dau Cefn recordiad byw ar y gyfres newydd o Bandit. Ond pam y diffyg gigiau? Meddai, “Wel, ar y dechrau oedden ni yn arfer neud gigs am ddim bron a bod, a ddaethon ni i benderfyniad nad ydan ni am neud gigs am ffeifar. Ti’n teimlo weithiau fod y trefnwyr Gigs yn gweld fel bod nhw’n neud ffafr efo ti yn rhoi gig ag yn talu dim ond £5-10! Ond dydan ni ddim isio neud hynny ddim mwy, ‘da ni’n gerddorion sy’n neud bywoliaeth allan o fiwsig. Ac ar

dadleuol yng Nghymru ond fyswn i fel oen bach ymhlith bleiddiaid yn Lloegr! Dwi’n ymwybodol o safbwynt y ddwy ochr, hynny ydi’r artist a’r critic. Ond mae’n bwysig sicrhau fod yr artist yn cael beirniadaeth a gorau po fwya’ er mwyn iddo/i wella ei hun, a hefyd, petai yna ddim beirniadaeth yn dod o lefydd fel maes-e, Golwg, Y Selar ayb. yna, byddai’r holl Sin Roc yn troi yn Cul De Sac hunanfodlon a chyffyrddus. Y broblem yw, dwi’n teimlo fod elfennau ohoni wedi symud i fyw i’r cyfeiriad hwnnw yn barod.

Y SELAR

Selar ceri.indd 10

20/11/06 09:53:25


RAP-JON-Z

Y ddinas fawr ddroog! Llun: Einion Dafydd

W

rth grwydro o gwmpas Camden, Llundain, yn ystod penwythnos y Proms Trydanol, yn cyffroi am fynd i weld James Brown, The Who a Gulliemots yn y Roundhouse, profiad od iawn oedd cerdded dau funud lawr yr hewl i weld band Cymraeg yn y Barfly. Y Genod Droog oedd yno, wedi iddynt gael eu dewis ar BBC Radio Cymru nôl ym mis Awst, fel un o fandiau ‘Next Stage’ y Proms Trydanol cyntaf erioed. Roedd y Genod Droog yn un o naw band a gafodd eu dewis o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a enwir gan y Proms Trydanol fel talentau newydd gorau Prydain.

at eich perfformiad yn Llundain gyda’r trefnydd cerddorol Gill Edwards ac aelodau o Ensemble Cymru, pa fath o brofiad oedd hwnna? GE: Mi oedd hi’n dda cael dylanwad allanol i mewn i’r broses o greu cerddoriaeth hefo ni.

a pherfformio gydag aelodau o Ensemble Cymru ddylanwadu ar eich set yn Llundain? Beth oedd yn wahanol i’r arfer? GE: Roedd o’n neud inni swnio fatha un sw^ n mawr bendigedig! ‘Da ni fel arfer yn dibynnu ar sampler i greu’n math yma o sain.

Yn ystod y set, roedd aelodau o Ensemble Cymru yn perfformio gyda’r Genod Droog a dwi’n siw^ r mai dyma’r tro gyntaf i delyn fod ar lwyfan fach Barfly Llundain! Roedd y sain yn wych, pwerus a phroffesiynol a theimlais falchder dros y ffaith fy mod i’n adnabod y band yma a synnodd gymaint o’r gynulleidfa a dangos fod yna wir dalent yng Nghymru.

LA: Wnaethoch chi gymryd rhan mewn gweithdy i baratoi

LA: Sut wnaeth gweithio gyda’r trefnydd cerddorol Gill Edwards

Yn ystod y set wnaethon nhw berfformio’r ffefrynnau “Pwy sy’n ddrwg?” a “Breuddwyd Oer”; llwyddodd Ed Holden i beatboxio’n wych a wnaethon nhw orffen eu set hanner awr drwy wneud y conga drwy’r gynulleidfa a chyflwyno aelodau’r band. Honnwyd mai Rhys Mwyn oedd Ed Holden, James Brown oedd Gethin Evans a gorffennwyd y cyflwyniadau gyda Dyl Mei yn honni, “Sorry, I don’t know who I am!” Chi’n gwybod beth ma’ nhw’n dweud, allwch chi gymryd y dyn allan o Gymru ond mae drygioni’r Cymry yn parhau dros y ffin!

cd proms trydanol LA: Fel rhan o’r Proms Trydanol, mae ‘na bosibilrwydd y gallwch chi fynd ar daith o amgylch Prydain gyda’r bandiau eraill a chael bod ar CD aml-gyfrannog fydd yn cael ei chynhyrchu i gyd-fynd â’r daith. Ydych chi’n gwybod mwy am hyn eto? GE: Na, mae pobl BBC ‘ma yn hynod o gyfrwys. Datgelu dim, mae sgwrs ar e-bost fel gêm o pocer.

LA: Pa fath o brofiad oedd hi i gymryd rhan yn y digwyddiad yma? GE: Dyma un o’m mhrofiadau gora’ ar ôl cael fy ngeni, penblwydd 18 a 21, cael gradd, dringo K2 yn ‘97, teithio i Awstralia

a Thailand, mynd mewn submarine a rhedeg ras llyn Bala a dod yn 3ydd!!! LA: Roedd bandiau megis James Brown a The Who yn perfformio lan yr hewl yn y Roundhouse, oeddech chi’n genfigennus mai nad yn fanna oeddech chi‘ n perfformio?! GE: Oeddan! LA: Pa fath o leoliad oedd y Barfly yn Llundain ar gyfer gig o’r math yma? GE: Perffaith. Lle bach budur ac anghysbell, hefo lot o bobl o Loegr. LA: Beth sy’ nesa’ i’r band? GE: Cyfarfod â rhywun o Virgin, mae ganddyn nhw ddiddordeb rhyddhau sengl i ni dros y we. Hmm, drwg ydy’r Genod Droog am ddweud celwydd ond dwi’n amau mai dyma ran o’u hapêl, allwch chi ddim dibynnu arnynt i fod yn westeion nac yn atebwyr onest ond gallwch chi, heb os ac oni bai, ddibynnu arnyn nhw i ddangos eu personoliaethau cryf ac i gynnal perfformiad gwefreiddiol o ansawdd uchel.

Lynsey Anne Y SELAR 11

Selar ceri.indd 11

20/11/06 09:53:27


Cofi bach a tew shady Chwalfa boobytrap

Papagini Alcohol=Hyder Rasal itunes yn unig Band ifanc indie/pync o Lanfairpwll, Ynys Mon yw Papagini, ac maent wedi bod yn gigio’n rheoliadd ar syrcit Gogledd Cymru ers eu ffurfio yn 2004. Er iddynt recordio sesiwn C2 ychydig yn ôl dyma’r

sengl gyntaf iddynt ryddhau, ac arni mae pedair trac. Mae’r gân gyntaf Alcohol=Hyder yn ddechrau campus i’r sengl. Cân gitar egniol gyda rhyw sain amrwd, am feddwi a hel merched yw hi a hon yw’r gân orau o’r bedair o bell ffordd. Mae’r dair cân arall yn ganeuon trwm llawn

ankst a gyda’r fersiwn pynci o Sosban Fach gyda geiriau fel “ar gath wedi byta Joni Bach” yn dod a gwên i’r wyneb. Mae’r caenuon yn tyfu arnoch ac yn dangos bod gan y band ifanc yma lwyth o botensial. ❋❋❋❋❋

John Rhambo

rhaidgwrando! PSycho prydferth BLWPRINT Mae talent mwya’r SRG nôl, efo caneuon cachboeth sy’n swnio fatha Sdalwyn yn ffrwythloni cant o ferlod ar unwaith. Efo Y Rei, ma’ Aron Elias alias Aron Pep Le Pew wedi creu un o’r bandia’ roc trwm gora’ – mewn unrhyw iaith. Dwi’n dyffeio unrhyw un i wrando ar ganeuon ‘Psycho Prydferth’ a peidio meddwl ‘Biti bo gyno fi ddim talent fel’na’. Yn syml, ma’ Y Rei fel bwyell yn torri trwy ddiflastod bywyd, eu

12

corwynt clywedol fel bom ffrwydrol. Oes yna gi drain fwy rhywiol nag Aron Elias? Rwyf wedi teimlo ei dafod yn ymestyn o’r speaker gan achosi cryndod yn y cluniau. Mae tynerwch yma hefyd – cân emosiynol glwyfus ydi ‘Boddi Tristwch’, efo’i gitar acwstig Sbaenaidd. Ond y rocars sy’n sefyll allan.‘Mitsubishi’ – swnio fatha Bob Marley Porthmadog yn canu am ecsdasi ag iselder llyncu cyffuriau. A’r anghenfil ‘Psycho

Prydferth’ – sy’n profi unwaith ac am byth bod Y Diafol ei hun ym mlaenau bysidd Aron Elias. Yr unig newyddion drwg – dim ond 50 copi o’r E.P. gafodd eu gneud. Arhoswn yn eiddgar am yr albym felly. ❋❋❋❋❋

BARrI CHIPS

Mae albym gyntaf Cofi Bach a Tew Shady sef Chwalfa yn ffrwydrad gwych o fiwsig hip hop. Yr hyn sy’n plesio yn fwy na dim am yr albym hon yw ei bod yn hollol Gymreig o ran cynnwys a’i bod yn dibynnu ar brofiadau tebyg i’r gweddill ohonan ni yng Nghymru. Dyna dwi’n meddwl sy’n bwysig mewn rap ydi fod o’n rhoi lle i chi sôn am eich ffordd o fyw a’ch cefndir ac mae Cofi Bach a Tew Shady wedi taro’r hoelen ar ei phen. Un o uchafbwyntiau’r albym yw rapio tynnach na thynn y ddeuawd o’r Felinheli – rhaid imi ddweud, dydwi heb weld ei gystal erioed yn Gymraeg! Yn ôl y sôn, mae Gronw a Kerry yn treulio amser maith yn saernio’r geiriau ac mae ôl hynny ar hyd y gwaith hwn ac mae llyfnder y rapio yn dod a bywyd i’r gerddoriaeth. Y gân orau ar yr albym yw 4wal oedd yn rhan o’u Sesiwn i raglen Huw Stephens ar C2. Mae’r gân yma sy’n cynnwys Ed Holden a Endaf o Kentucky AFC, yn dywyll ac yn ymosodol gyda chytgan fachog iddi. Yr unig feirniadaeth sydd gen i yw, y dylid fod wedi cael ychydig mwy o amrywiaeth cerddorol i’r albym ond dyna ni. Ers rhyddhau eu sengl yn 2005, mae Gronw Roberts sef Tew Shady wedi mynd o nerth i nerth fel cynhyrchydd a dwi’n meddwl y dylai beirniaid Gwobrau Rap 2007 gymryd sylw o hynny! Gwych iawn. ❋❋❋❋❋

deian ap rhisiart

Y SELAR

Selar ceri.indd 12

20/11/06 09:53:29


ADOLYGIAD Llwyd Moment Retro Rasal itunes yn unig Sengl i’w lawr lwytho gan gyn aelod Ysbryd Chouchen, Erddin Llwyd. Mae yna gyffyrddiadau o harmoniau Chouchen i’w clywed o hyd, wedi eu cyplysu gyda dylanwad melodig y Super Furry’s. Mae’r geiriau yn cynnwys cyfeiriadau at bethau o gyfnod ifanc Erddin fel y Rubiks Cube, Austin Allegro, Hanner Awr Fawr a Siop Siafins wrth iddo fwynhau ei foment o edrych yn ôl. Mae e hefyd yn defnyddio sampl o arwyddgan Dallas i ychwanegu at y teimlad Retro y cyfeirir ato yn y teitl. Mae’r gân braidd yn drwm o dan ddylanwad y Super Furry’s, dim bod hynny’n feirniadaeth negyddol, gan ei bod hi’n anodd iawn ffeindio band Cymraeg sydd ddim wedi cael eu dylanwadu gan yr Anifeiliad erbyn hyn. ❋❋❋❋❋

John Rhambo

Amledd Cyfnod Cyntaf Thompsound music Albym gyntaf Rhian Williams a Billy Thompson dan yr enw Amledd ac mae’r casgliad o 12 cân sydd ar Cyfnod Cyntaf yn plesio ar y cyfan. Mae’r arddull roc gyda chyffyrddiadau gwerniol yn gweithio’n effeithiol gyda’r

gymysgedd o’r gitars a’r llinynnau i greu swn unigryw. Mae llais unigryw ac egni Rhian yn amlwg yn taro deuddeg o’r gân gyntaf Bod ar Wylie (yn dy wlad dy hun ). Mae hon yn ddechrau da i’r albym ac o gân i gân clywn ddoniau athrylithgar Billy ar y ffidil, gyda solo’s anhygoel ar bron bob un trac. Dyma un o broblemau Cyfnod Cyntaf, y diffyg amrywiaeth. Ar ôl gwrando ychydig o weithiau mae’r caneuon yn llifo o un i’r llall heb ddigon o newid yn yr arddull i hoelio’r sylw am y 54 munud cyfan. Y bedair gân gyntaf ar y CD yw’r goreuon, ar ôl hynny teimlaf mai braidd yn undonog oedd y gweddill. ❋❋❋❋❋

John Rhambo

cyffwrdd fi”. Braf gweld fod yr Ysgol Sul a mab Yr Hollalluog yn dal i ysbrydoli ieuenctid Cymru. Yn dilyn hyfrydwch syml ac uniongyrchol ‘Talach Na Iesu’, ma’ ‘Nerth Dy Draed’ yn bwdin braf. Ma’r ail gân yn brawf bod Plant Duw yn medru sgwennu tiwn felodig sy’n gwneud i rywun ddawnsio yn ei unfan. Mewn swyddfa. O flaen y ddynas llnau. Efo’r ddynas llnau ... “O ni’m yn gwbod y’ch bod chi’n pync rocar Sheena.” - “Ma’ dy Anti Sheena wedi gweld mwy na bwcad a mop yli washi.” ❋❋❋❋❋

barri chips

Radio Luxembourg Os chi’n lladd Cindy Am

Plant Duw Talach Na’r Iesu/ Nerth Dy Draed ciwdod Peth prin yn yr SRG ydi band gitârs diddorol efo edge. Yr arfer fel rheol ydi criw o hogia’ efo gwalldia hir shagi sydd mor wreiddiol â Ficar Mewn Drag. Ond dydi’r band yma o Fangor DDIM yn pedlo Gog Roc. Hwre – canwr sy’n poeri geiria’ allan ac yn swnio fatha fod o’n feddwl o. Dydi apathi erioed wedi swnio mor ddeniadol. A’r geiria’n ticlo hefyd: “Fi ydi’r bastard sy’ cant mwy talach na’r Iesu/Dio’m yn

Sengl gyntaf gan label newydd Am a phwy well na Radio Lux i agor catalog y label? Mae Radio Luxembourg wedi mwynhau blwyddyn o lwyddiant ysgubol yn 2006. Ers iddyn nhw chwalu pawb yng Ngwobrau RaP Radio Cymru fis Chwefror mae nhw wedi codi i fod fel rhyw fath o deulu brenhinol yr SRG. Ar y sengl Os Chi’n lladd Cindy mae dylanwad Euros Childs (y cynyrchydd) eto i’w glywed ar eu pop seicadelic llawn dychymyg, ond dim gymaint ag oedd ar ffefryn y bwci i ennill Mawredd Mawr 2007 Lisa Magic a Porva. Gyda’r fersiwn Pobol y Piws di-drydan sydd

cadwchglir MC PERYG FY NGHARTREFION Dyma albym gyntaf artist o’r enw MC Peryg, rapiwr ifanc o Aberystwyth sef Fy Nghartrefion. Tu fewn i’r clawr mae adnod o’r Testament Newydd sy’n esbonio yn syth fod MC Peryg yn berson crefyddol neu Gristion. Dwi’n credu fod y rapio yn dynn ac yn rhythmig iawn ar y cyfan, ond dwi’n teimlo weithiau fod yna odli gwael dim ond er mwyn ffitio’r rythm i’r rapio fel odli MC efo CD, tyd rwan MC! Hefyd, dwi’n credu fod yna ormod o gyfieithu ystradebau rap Los Angeles i’r

ar yr ail ochr mae’r band yn dangos eu bod yn gallu troi un o’u caneuon trymaf yn wledd acwstic heb golli’i hud. Mae’r caneuon yn uffernol o dda, mae nhw’n fand uffernol o dda, syml. Yr unig beth sydd o’i le yw ... dim ond ar feinyl mae e. So nhw di clywed am CD’s ne be ? ❋❋❋❋❋

John Rhambo

Gola Ola Rhwng Oria a Munuda BlwPrint Mae Gola Ola wedi creu albym pyncipop pwerus o’r radd flaenaf. Mae’r albym

Gymraeg o gwmpas y dyddiau ‘ma fel ‘cynrychioli’, ‘syth o Geredigion’ ac ati jyst i swnio’n cwl. Mae yna gymysgedd eang o genre cerddorol ynddi yn cynnwys cerddoriaeth ddawns, bangra ac electronig gyda elfen o roc. Mae’r cynhyrchu braidd yn shabby a fflat a dylai Mr Rhys Llwyd brynu meic gwell erbyn hyn yn hytrach na defnyddio’r un o Argos! Felly teimlaf y bysai’n well i MC Peryg rapio llai am grefydd gyda llai o ystradebau Americanaidd, a mwy am wleidyddiaeth… a gwell cynhyrchu. ❋❋❋❋❋

Deian ap Rhisiart

wedi ei chynhyrchu yn grefftus iawn gan Rich o’r band ac wedi ei recordio yn ei stiwdio ei hun. Mae’r Intro sy’n agor yr albym yn dangos yn union beth sydd i ddod. Caneuon Pop-pynci yn arddull bandiau Americanaidd fel Blink 182 sydd ar Rhwng Oriau a Munudau ac mae’r alawon yn gofiadwy a’r caneuon yn fachog tu hwnt. Mae’r ffefrynnau radio Dim Mwy a Cei Mi Gei yn agor yr albym yn wych. Mae drymio Alex yn asgwrn cefn hynod gryf i’r caneuon a does dim un cân wan ar yr albym. Yn ogystal â’r traciau pynci egniol mae Gwaedu Mwy na Gwaed yn faled acwstig ynghanol môr o bync. Dydi’r gân yma ddim cystal a phan mae’r tri yn rocio, achos dyna lle mae cryfder Gola Ola. ❋❋❋❋❋

GARETH GLOCHBEN Y SELAR 13

Selar ceri.indd 13

20/11/06 09:53:33


LLYTHYRAU

Gwyl Macs 2007 Llun: mary wycherley

ANNWYL Y SELAR

^

Annwyl Selar, Rydych chi, fel cylchgrawn cerddoriaeth i fod i dynnu sylw at fandiau gorau’r sîn. Yn eich rhifyn diwethaf roedd gennych gyfweliad gyda’r Poppies a Cowbois Rhos Botwnnog. Alla i ddeall, i ryw raddau fod y Poppies yn haeddu sylw ond Cowbois Rhos Botwnnog yn un o fandiau gorau’r wlad? Sa i’n credu. Mae yna ormod o fandiau gwael yn cael sylw yng Nghymru ac mae’r Cowbois yn un o rheina.

euros childs

Yn gywir

Dewi, ABERTAWE

Annwyl Selar, Rhaid dweud fy mod wedi drysu’n lan ar ôl darllen eich ‘Deg can serch orau’ yn rhifyn Awst. Beth oedd eich nod fan hyn? Os adlewyrchu caneuon serch cyfredol pam cynnwys Môr o Gariad, a gafodd ei rhyddhau 25 mlynedd yn ôl? Neu a ydych chi yn dweud mae Gweld dy Wyneb gan Gwilym Morus yw’r gân serch orau erioed yn hanes Cymru? Sgersli bilif! Beth yw pwynt gwneud rhestr os nad oes yna fethodoleg y tu ôl i’r dewis? Rydych yn gadael eich hun yn agored i gyhuddiadau o hyrwyddo caneuon ffrindiau ar draul pob synnwyr cerddorol. Gan edrych ymlaen i’ch rhestr nesaf - “ Fy neg hoff ffrind o’r gogledd.” Yn gywir

Iwan, Caerfyrddin

os oes rhywbeth yn eich gwneud chi’n ffiwmar, sgwennwch e-bost i golygydd@yselar.com

Angharad Williams oedd yna ar ran y Selar i weld sut beth oedd yr w^ yl.

Cyfranwyr Golygydd Owain Morgan-Jones

Dylunydd Dylunio GraffEG

14

Wedi llwyddiant ysgubol y Gw^ yl Macs cyntaf un mis Medi, mae gw^ yl mwyaf newydd Gorllewin Cymru yn mynd i fod yn fwy ac yn well yn 2007. Mae Gw^ yl Macs wedi cadarnhau eu bod wedi cael eu lle ar safle anhygoel Cae Sioe Caerfyrddin ar benwythnos cyntaf mis Medi 2007. Mae nhw hefyd yn ehangu’r w^ yl dros benwythnos cyfan, ychwanegu llwyfan arall a chyflwyno’r bandiau gorau a chryfhau’r elfen sglefrio. Dywedodd Euros Childs, cyn ddisgybl Bro Myrddin, a berfformiodd yn yr w^ yl eleni, “Mae ‘na ofyn mawr wedi bod am w^ yl fel Macs yng Nghaerfyrddin. Mae’n hen bryd!” Dywed Lleucu Meinir, trefnydd yr w^ yl. “Roedd yn braf cael gweld gymaint o ddiddordeb yn Macs ac rwy’n wir obeithio y bydd yr w^ yl yn tyfu i fod yn symbol cryf o beth sydd gennym ni i’w gynnig yng Nghymru. Mae gennym ffydd y bydd gennym ni enwau mawr ac elfennau gwahanol i wneud gw^ yl 2007 yn uchafbwynt yn nyddiadur pawb!”

Cyfranwyr Lynsey Anne, Saizmundo, John Rhambo, Angharad Williams, Bari Chips, Deian ap Rhisiart, Gareth Glochben.

“Cawsom ein dilyn gan law trwm yr holl ffordd o Feirionnydd i’r De. Wedi ha’ poeth yn fy nhent bach gwyrdd, doedd y syniad o osod tent yn y gwynt a’r glaw ddim yn apelio llawer. Er mai dim ond cynnar oedd hi, roedd cerddoriaeth yn dod o’r

prif adeilad - beudy anferth! Feddyliais i ddim o flaen llaw cael amserlen ar gyfer yr w^ yl a doedd dim math o boster yn unman chwaith wedi i mi gyrraedd, felly tipyn o drafferth oedd neidio o un llwyfan i’r llall i weld pwy oedd yn chwarae’n lle. Roedd bandiau yn dechrau’r un pryd yno, ac amhosib oedd ei dal hi ymhob man. Fel canlyniad, methais MC Sleifar ac MC Chef - dau o’m ffefrynnau yn y ‘lineup’. Artist arall yr oeddwn wedi edrych ymlaen at ei gweld oedd Swci Boscawen, ond oherwydd problemau sain, haws oedd clywed y ferch oedd yn canu tu ôl iddi. Roedd Swci ei hun yn edrych yn nerfus a wnaeth hi ddim ymlacio o gwbwl o flaen y gynulleidfa. Treuliais o leiaf chwarter awr yn gwylio’r sglefrfyrddwyr yn y gornel bellaf, a syniad da oedd cael atyniadau eraill. O ran y bandiau eraill yn y prynhawn, mwynheais i nhw i gyd ar y cyfan, er nad oedd eu setiau yn hir iawn. Roedd Euros Childs ar ei orau a phawb yn canu a dawnsio i ‘Cwch Banana.’ Rhagorol ydi’r unig air i ddisgrifio Killa Kella ac roedd hyd yn oed ffans lliwgar Nicky Wire yn cael hwyl. Bandiau eraill a greodd argraff arna i oedd Kentucky AFC, Texas Radio Band, Y Poppies, The Hot Puppies, ac roedd The Automatic’ yn hollol wych i gloi’r noson - a Gw^ yl Macs yn glo arbennig i’r ha!

Angharad Williams

Y SELAR

Selar ceri.indd 14

20/11/06 09:53:34


SRG Ar Mae YouTube yn cynnig cyfle gwych i fandiau gynhyrchu fidios eu hunain a’u dangos i’r cyhoedd. Er fod y broses o gynhyrchu fidios yn gymhleth, mae’n beth da fod mwy a mwy o fandiau yn creu eu fidios eu hun. Mae’r dewis o fidios sydd ar safle YouTube yn tyfu yn ddyddiol bron. Dyma rhai o’r pethau nethon ni ffeindio wrth ymchwilio. Teipiwch Sion Mali mewn i’r blwch chwilio ac fe gewch fidios cyllid isel o ganeuon gan Winabego ac Alcohol=Hyder, Papagini. Ond mae na hefyd fidios gan y bandiau eu hunain. Plant Duw – Tren Galsachindra www.youtube.com/watch?v=xBqi-B7olL4 Cowbois Rhos Botwnnog - Mussus Glaw www.youtube.com/watch?v=McuPa3IPIDc Teipiwch “Palfrensis” mewn i’r blwch chwilio ac fe gewch chi ddewis o fidios proffesiynol gan y cyfarwyddwr Daf Palfrey, sydd wedi eu dangos ar Bandit. Mae’r fidios yn cynnwys rhai gan Y Genod Droog mewn dillad chwaraeon a mwstashys doji, Sibrydion, Drymbago a Plant Duw.

TANYSGRIFIO I’R

SELAR

Hoffech chi gael copi newydd sbon danlli personol drwy’ch blwch post bob rhifyn? Gyrrwch e-bost gyda’ch cyfeiriad a’ch enw at golygydd@yselar.com er mwyn cael eich hychwanegu at fas-data Y Selar.

AM DD FELLY IM DDIM?PAM

Os ydych am anfon demo neu lythyr i gwyno, neu os am gyfrannu mewn unrhyw fodd gallwch anfon eich dileits i’r cyfeiriad isod: Y Selar Llawr Un, Canolfan Sain, Llandwrog Caernarfon Gwynedd LL57 5TG * Newn ni ddim anfon unrhyw bost heblaw rhifynnau godidog o’r Selar atoch chi, a nawn ni ddim ychwaith werthu eich manylion i gwmniau marchnata barus.

Barn y cyfranwyr unigol yw’r farn a gyhoeddir yn Y Selar. Nid yw eu safbwyntiau o reidrwydd yn adlewyrchu barn neu bolisiau Y Selar.

Mae yna ganeuon Sibrydion wedi eu gosod i gartwns rhyfedd ar y cyfeiriadau isod: Chiwawas – www.youtube.com/watch?v=rT6e-bptJF4 Audarme www.youtube.com/watch?v=5Qe9aS5HZaw Hel Clex www.youtube.com/watch?v=FmhqQW1X1og Hefyd gallwch weld fidio o sengl newydd Gruff Rhys, Candylion ar www.youtube.com/watch?v=_jOQZFfTTl4. Mae yna hefyd fidios o Datblygu, Llwybr Llaethog ac mae yna gyfres o luniau du a gwyn wedi eu gosod i Môr o Gariad, Meic Stevens ar www.youtube.com/ watch?v=DrQpyE3k-D0.

GADEwCH i NI WYBOD Os ffeindiwch chi rhywbeth diddorol am yr SRG ar wefan gadewch i ni wybod drwy ebostio golygydd@ yselar.com

Selar ceri.indd 15

20/11/06 09:53:36


Y Flaenoriaeth i Gerddoriaeth 8pm-1am Llun i Gwener bbc.co.uk/c2

Selar ceri.indd 16

20/11/06 09:53:40


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.