Y SELAR BACH Y CYLCHGRAWN C ERDDORIA ET H CRY NO AR GY F E R PL ANT CY NR AD D • R H I F Y N 4
CYHOEDDI BANDIAU GWOBRAU’R SELAR Bob blwyddyn, mae cylchgrawn Y Selar yn trefnu noson arbennig yn Aberystwyth i gyflwyno gwobrau i fandiau, gigs a phethau eraill cerddorol y flwyddyn ddiwethaf. Mae Gwobrau’r Selar yn cael ei gynnal dros ddwy noson am y tro cyntaf eleni, sef
nos Wener 15 Chwefror a nos Sadwrn 16 Chwefror. Erbyn hyn rydym yn gwybod pa fandiau fydd yn chwarae ar y ddwy noson. Y grŵp o Aberystwyth, Mellt, fydd prif fand nos Wener y Gwobrau. Hefyd yn perfformio mae Y Cledrau, HMS Morris,
Alffa a Lewys. Mae bandiau gwych ar y nos Sadwrn hefyd – enillwyr gwobr ‘Band Newydd Gorau’ blwyddyn diwethaf, Gwilym, fydd y prif fand. Mae Mei Gwynedd, Los Blancos, Breichiau Hir, Wigwam ac Y Trŵbz hefyd yn perfformio.
ALFFA YN CYRRAEDD DWY FILIWN!