Rhif 42 | Awst | 2015
SナエNAMI
AR FRIG Y Dテ年
y-selar.co.uk Y Trナオbz | Y Cledrau | Brwydr y Bandiau
1
BA Perfformio Astudiwch yng
Nghanolfan Berfformio Cymru
YDD S
Gradd newydd gyffrous trwy gyfrwng y Gymraeg Dros gyfnod o ddwy flynedd yng Nghaerdydd Llefydd ar gael ar gyfer Medi 2015
Yma: Dysgu, Datblygu, Serennu Am fwy o wybodaeth: Eilir Owen Griffiths e.griffiths@uwtsd.ac.uk 01267 676709
www.ydds.ac.uk
y Selar
cynnwys
RHIF 42 | AWST | 2015
Golygyddol Gyda thymor y gwyliau cerddoriaeth bellach ar ei anterth, mae’n wych gweld fod rhai o hoff artistiaid Y Selar wedi cael y cyfle i berfformio yn rhai o wyliau mwyaf gwledydd Prydain; HMS Morris yn Glastonbury, Yr Eira yn T in the Park, Yws Gwynedd ym Mhentref Ieuenctid y Sioe Frenhinol... Ydi, mae’n braf gweld ein hartistiaid yn ehangu eu gorwelion ac yn cyflwyno’u cerddoriaeth i gynulleidfaoedd newydd, ond mae un peth sydd byth yn newid. Yr Eisteddfod Genedlaethol fydd uchafbwynt cerddorol y flwyddyn unwaith eto heb os. Gydag arlwy gwych ar y gweill ym Maes B, gigs Cymdeithas yr Iaith ac ar y Maes ei hun, heb sôn am gystadleuaeth Brwydr y Bandiau ar ei newydd wedd, fe fydd yna hen ddigon i’ch cadw’n ddiddig trwy gydol yr wythnos. Ond, rhag ofn i chi ddod o hyd i funud neu ddau yn rhydd, mae gennym rifyn llawn ar eich cyfer. Peidiwch â chymryd cyffuriau, yfwch yn gymhedrol, dawnsiwch a mwynhewch. Gwilym Dwyfor
4
8
^ nami Sw
4
O glawr i glawr
8
Trydar@y_reu
10
‘Ti di Clywed’... Anelog
12
^ bz Y Trw
14
Brwydr y bandiau
16
Y Cledau
20
Gorsedd Y Selar
23
Adolygiadau
24
12
Llun clawr: Kirsten McTernan
18
GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)
@y_selar
DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)
facebook.com/cylchgrawnyselar
MARCHNATA Ellen Hywel (hysbysebionyselar@gmail.com) CYFRANWYR Griff Lynch, Owain Gruffudd, Ifan Prys, Bethan Williams, Megan Tomos, Elain Llwyd, Lois Gwenllian, Cai Morgan, Miriam Elin Jones
y-selar.co.uk
Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.
M
ae gan y rhan fwyaf o fandiau Cymraeg ddau uchelgais, hed-leinio nos Sadwrn Maes B a rhyddhau albwm. Fe wnaeth Sŵnami y cyntaf o’r rheiny llynedd, ac yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni byddant yn cyflawni’r ail trwy ryddhau eu record hir gyntaf, yr hunan-deitlog, Sŵnami. Owain Gruffudd aeth am sgwrs ar ran Y Selar.
Mae taith Sŵnami o fand ifanc, addawol i un o fandiau mwyaf poblogaidd y Sin Gymraeg wedi bod yn un aruthrol o gyflym. A pha linyn mesur gwell o statws y band na’u safle ar lein-yp Maes B dros y blynyddoedd? Bedair blynedd yn ôl roedd Sŵnami yn enw diarth i ddilynwyr cerddoriaeth Gymraeg. Ar ôl ffurfio yng Ngholeg Meirion Dwyfor ychydig fisoedd ynghynt, fe enillon nhw gystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B yn Eisteddfod Wrecsam, 2011. Ddwy flynedd yn ôl, ar ôl haf llwyddiannus yn teithio Cymru
“Mae’r ymateb ’da ni ’di gael yn fyw, ac ar y we wedi bod yn anhygoel yn ddiweddar.”
SŴNAMI AR FRIG Y DÔN 4
y-selar.co.uk
cawsant gynnig slot yn cefnogi Hud ar noson agoriadol Maes B yn Ninbych. Ond pwy fyddai wedi dyfalu, flwyddyn yn ddiweddarach, mai nhw fyddai’r prif fand, yn cloi wythnos o weithgareddau yn Llanelli llynedd? “Ges i alwad gan Guto Brychan yn holi os oeddan ni ffansi
Lluniau: Kirsten McTernan
“Ma’ ’na rai caneuon tebyg i’n stwff arferol ni, tra ma’ ryw dair neu bedair sy’n fwy annisgwyl.”
chwarae ym Maes B ar y nos Sadwrn,” esbonia Ifan Davies. “Nes i gytuno, gan gymryd mai’r nos Sadwrn agoriadol oedd o’n feddwl. Felly, wrth gwrs, roedd hi’n sioc fawr pan nath o ddweud mai cloi’r nos Sadwrn olaf fysa ni. Roedd hynny wastad wedi bod yn nod i ni fel band, ond doeddan ni ddim yn disgwyl iddo ddigwydd mor sydyn.” “Oedd o’n brofiad anhygoel. Oeddan ni eisiau gwneud yn siŵr bod ni’n gwneud sioe ohoni ac yn gwneud ymdrech ym mhob agwedd o’r set, y caneuon, y sain, y goleuo ac ati.” ychwanegodd Lewis Williams. Eleni, bydd yr Eisteddfod yn cynrychioli carreg filltir arall i’r band wrth iddynt ryddhau eu halbwm cyntaf, Sŵnami. Hyd yn hyn, mae’r band wedi rhyddhau pedair sengl, yn ogystal â’r EP, Du a Gwyn, yn 2013, ond pam ei bod hi wedi cymryd gymaint o amser i’r hogia’ ryddhau eu LP cyntaf? Mae amryw o resymau yn ôl Ifan Ywain. “Dwi’n meddwl mai’r prif reswm ydi’r ffaith ein bod ni eisiau gneud yn siŵr fod o’n berffaith i ni. Doeddan ni ddim isho brysio. Ma’ pawb ’di bod yn brysur hefyd, efo gwaith a phrifysgol, ac am lot o’r amser oeddan ni ar chwâl rhwng Caerdydd, Bangor, Aberystwyth a Nottingham.”
“Doeddan ni ddim isho brysio.”
Datblygiad Mae sŵn y band yn sicr wedi datblygu dros y pedair blynedd ddiwethaf. Mae gwaith Gruff ar y synths yn dod yn fwyfwy amlwg, ac mae yna deimlad mwy electronig i rai o’r caneuon. Mae dylanwad rhai o fandiau indie-pop Saesneg cyfoes i’w glywed hefyd, fel mae Ifan Davies yn esbonio. “Ma’ ’na lot o ddylanwad bandia’ ’da ni’n licio gwrando arnyn nhw. ’Da ni’n ffans mawr o fandiau fel Phoenix, Two Door Cinema Club, Everything Everything a Circa Waves, a dwi’n meddwl fod hynny’n amlwg yn y sŵn.” Ond mae Ifan Ywain yn esbonio fod y band wedi bod yn arbrofi gyda synau newydd hefyd, ac y bydd ambell gân ar yr albwm yn swnio ’chydig yn wahanol. “Dwi’n meddwl fod ’na amrywiaeth eitha’ da arni. Ma’ ’na rai caneuon sydd yn swnio’n debyg i’n stwff arferol ni, tra ma’ ryw dair neu bedair sy’n fwy obscure ac annisgwyl.” Unwaith eto, draw at Rich Roberts yn stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth, aeth y band i recordio, cynhyrchydd
sydd â pherthynas dda iawn gyda’r band. Ond er eu bod yn recordio mewn amgylchedd cyfarwydd, roedd ’na un profiad newydd i’r hogia’ yn y stiwdio. Gerwyn Murray sy’n esbonio. “Er bod Huw Ynyr, sy’n chwarae efo ni pob hyn a hyn, draw yn Awstralia, oeddan ni’n keen i’w gael o i wneud ’chydig o backing vocals. Felly dyma ni’n llwyddo i gael stiwdio yn Awstralia, a chysylltu efo fo dros Skype i sortio pob dim. Oedd o’n brofiad newydd i Rich hefyd.” Ond nid y sŵn newydd yn unig sy’n creu argraff. Mae ’na waith celf trawiadol iawn ar glawr yr albwm, a ’chydig o hanes y tu ôl iddo, fel yr eglura Lewis. “Dwi’n meddwl mai duwiau Groegaidd oedd yr ysbrydoliaeth. Gruff, brawd Ifan Ywain, sydd ’di gneud y gwaith celf. Fo sydd ’di gweithio ar ein stwff ni o’r blaen, felly oedd o’n gwneud sens i’w ddefnyddio fo eto, achos oeddan ni’n hapus iawn efo’i waith o yn y gorffennol. ’Da ni isho cadw pob dim yn gyson.”
y-selar.co.uk
5
DROS Y GORWEL Rheswm arall dros brysurdeb diweddar y band yw’r ffaith iddynt fod yn rhan o flwyddyn gyntaf cynllun Gorwelion. Yn ôl Ifan Ywain, cynigodd y prosiect gyfleoedd unigryw i’r band ddatblygu ymhellach. “Mi fydd hi’n anodd efelychu’r flwyddyn gawsom ni hefo Gorwelion llynedd. Oedd o’n brofiad nath agor lot o ddrysau a rhoi lot o gyfleoedd i ni. Ond ’da ni’n ffodus iawn eleni fod Gorwelion yn parhau i gefnogi bandiau llynedd, felly ’da ni ’di cael chwarae mewn gwyliau fel Focus Wales a Truck Festival yn Rhydychen yn ddiweddar.” Un o’r cyfleoedd mwyaf unigryw gafodd y band yn ystod eu blwyddyn gyda Gorwelion oedd taith i’r Iseldiroedd i gynrychioli Radio 1 yn Eurosonic. Dyma ŵyl sy’n denu pob math o bobl o’r diwydiant cerddoriaeth yn Ewrop, gydag artistiaid fel Ella Eyre, James Bay a Catfish and the Bottlemen hefyd yn ymddangos yn Groningen eleni. “Oedd Eurosonic yn amlwg yn un o’r uchafbwyntiau,” meddai Ifan Davies. “Roedd yn gyfle i wneud cysylltiadau efo pobol o’r diwydiant mewn awyrgylch broffesiynol. Roedd o’n agoriad llygaid hefyd, gweld pa mor dda mae gofyn bod, i’w “gwneud hi”.” Golyga poblogrwydd Sŵnami mai nhw yw un o’r ychydig fandiau sy’n gallu denu torf dda i gigs a golyga hynny fod galw mawr amdanynt gan drefnwyr gwyliau a gigs ledled Cymru. “Mae’r haf yn mynd i fod yr un mor brysur eto eleni dwi’n meddwl,” meddai Lewis. “Roedd rhaid i ni wrthod ambell gig yn ystod y cyfnod recordio, ond ’da ni’n edrych ’mlaen i gigio’n rheolaidd dros yr haf. Dwi’n meddwl fod bron pob penwythnos yn llawn tan fis Medi. Mi fyddwn ni hefyd yn mynd ar daith I Ka Ching efo Yr Eira ac Y Reu.” Fel rhan o label I Ka Ching, mae’r band mewn dwylo diogel ac mae eu cymorth wedi bod yn amhrisiadwy yn ôl Ifan Davies. “Ma’ nhw wedi bod yn lot fawr o help i ni. ’Da ni ’di bod mor
6
y-selar.co.uk
brysur, nid yn unig efo gigs a recordio, ond efo ein bywydau tu allan i gerddoriaeth, felly mae cael cymorth i drefnu gigs, hyrwyddo a’n cadw ni mewn trefn ’di bod yn grêt.” Tu hwnt i’r gerddoriaeth, agwedd bwysig iawn i’r band ydi hyrwyddo eu hunain ar wefannau cymdeithasol. Gruff sydd yn bennaf gyfrifol am hynny ac mae o’n credu fod defnyddio’r we’n effeithiol yn hanfodol i unrhyw fand ifanc. “Mae cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn bwysig iawn i ni o ran hyrwyddo. Mae’n syml, ma’ popeth ar y we dyddiau yma. Felly ’da ni’n trio gadael i bobl wybod lle ’da ni arni, be’ ’da ni’n ei wneud trwy luniau a fideos ac ati. Ma’ gweld niferoedd views ac o le ma’ nhw’n dod yn anhygoel, miloedd o bobl o bob math o wledydd gwahanol.” Mae gwefannau fel Twitter, Facebook ac Instagram yn bwysig i’r hogia’ er mwyn cysylltu efo’r ffans hefyd ym marn Ifan Davies. “Mae’r ymateb ’da ni ’di gael yn fyw, ac ar y we wedi bod yn anhygoel yn ddiweddar. Dwi’n meddwl fod bandiau Cymraeg yn trio bod yn rhy cŵl ar adegau a ddim yn teimlo fod cadw cysylltiad efo’r ffans yn bwysig, ond ’da ni’m yn cytuno.”
SŴNAMI MEWN PWLL NOFIO? Unwaith eto eleni, bydd Sŵnami’n trin Maes B fel un o uchafbwyntiau’r haf, ond ydi’r band am geisio efelychu sioe gofiadwy llynedd? “O ran y caneuon, yn amlwg, mi fydd caneuon yr albwm newydd yn bwysig i’r set.” meddai Ifan Ywain. “’Da ni ’di bod yn cynllunio a gweithio lot ar effeithiau gweledol y set, felly fydd ’na ambell syrpreis ar yr ochr yna hefyd,” yn ôl Lewis. “’Da ni’n eitha’ obsessed efo visuals! ’Da ni’n trio cael caniatâd i ddod a phwll nofio bach i gefn y llwyfan i chillio efo ’chydig o boteli ar ôl y gig hefyd. Fydd hynny’n change o’r fan.”
Sain, Rasal, Gwymon a Copa Ar y cyd gydA rAsAl miwsig
Y Trwbz Yn y dechrau...
Albym cyntaf enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 Mentrau Iaith Cymru allan nawr
Calan Dinas
Sbardun
Ffidlau, gitâr, acordion a thelyn – a’r cyfan yn ffrwydro wrth i Calan berfformio ar eu trydedd albym
I’w cyhoeddi’n fuan… Patrobas
casgliad cynhwysfawr ar 2 cd o ganeuon Alun ‘Sbardun’ Huws, wedi eu dethol gan ei wraig Gwenno a’i gyfeillion Geraint Davies ac Emyr Huws Jones
Bydd Patrobas yn dychwelyd i stiwdio Sain dros yr haf i recordio gyda’r cynhyrchydd Aled Cowbois, cd allan yn yr Hydref
Terfysg
wedi bod yn stiwdio Sain yn recordio traciau newydd ar gyfer EP digidol ar label Copa
Ryland Teifi Senglau neSaf : Raffdam ac Y Galw
gweithio ar ddeunydd newydd ar gyfer albym ar label Gwymon, recordio yn iwerddon gyda’r Clancys
www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 sain@sainwales.com
stiwdioSAIN
Chwilio am stiwdio i recordio eich prosiect nesaf? • stiwdio recordio yn mesur 12m x 9m gyda rhannau acwstig byw a marw ac yn cynnwys bwth wedi’i ynysu o weddill y gofod • ystafell reoli mawr gyda system awyru a gofod ymlacio • digon o lefydd parcio gyda mynedfa cyfleus i’r stiwdio ar gyfer offer • defnydd o’r lolfa, cegin a chyfleusterau o fewn adeilad Sain • prisiau cystadleuol i logi’r stiwdio fel gofod ymarfer – £15 yr awr • modd llogi’r stiwdio gyda pheiriannydd neu heb – (dry-hire – rhaid cytuno i amodau o flaen llaw) • pris yn cynnwys defnydd o’r offerynnau Am gyfnod penodol mae cynnig arbennig ar y prisiau llogi stiwdio heb beiriannydd – £150 y diwrnod neu £600 am 5 diwrnod. Croeso i chi daro ebost neu godi’r ffôn i drafod unrhyw ymholiad gyda Siwan neu Sion – siwan@sainwales.com / sion@sainwales.com 01286 831 111 www.facebook.com/stiwdiosainstudios y-selar.co.uk
7
Anodd credu fod blwyddyn union wedi mynd heibio ers i drydydd albwm The Gentle Good, Y Bardd Anfarwol, gipio gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn ym mlwyddyn gyntaf y gystadleuaeth honno yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli. Pa amser gwell felly i ail ymweld â’r campwaith gan fynd O Glawr i Glawr?
THE GENTLE GOOD Y BARDD ANFARWOL
M
ae hanes a chefndir Y Bardd Anfarwol yn hynod ddiddorol, nid yn unig fel casgliad o ganeuon ond fel prosiect yn ei gyfanrwydd. Yn albwm cysyniadol am fywyd a gwaith Li Bai, bardd wythfed ganrif o Tsieina, ac yn ffrwyth llafur ymweliad chwe wythnos Gareth Bonello â’r wlad honno nôl yn 2011, go brin fod albwm tebyg i hwn yn y Gymraeg, nac mewn unrhyw iaith arall. Bydd ffans The Gentle Good yn gwybod fod Does fawr o syndod fod gwaith celf y Bubblewrap graen ar bopeth mae’n ei gynhyrchu, mae hynny’n Collective wedi denu ei sylw. Wedi’r cwbl, dyma label amlwg wrth edrych ar gloriau ei ddau albwm cyntaf sydd yn eu geiriau eu hun ar eu gwefan “yn dyheu am a ryddhawyd ar label Sain, When You Slept I Went ryddhau dim ond recordiau sydd yn edrych, yn swnio, Out Walking a Teathered For yn teimlo, yn arogli ac yn blasu’n The Storm. Buddsoddodd Gareth odidog.” “Roedd eu pwyslais lawer o amser ac ymdrech yn ei Wedi dweud hynny, ni fyddai ar yr ochr weledol drydydd albwm, ac yn naturiol Bubblewrap yn cydweithio â neb oni yn bwysig i mi.” felly roedd angen gwaith celf bai bod y gerddoriaeth yn ddigon teilwng unwaith eto. da, fel yr eglura un o sylfaenwyr y “Wnes i gysylltu gyda Bubblewrap pan oeddwn label, Richard Chitty. “Y gerddoriaeth, uwchlaw popeth yn chwilio am rywun i ryddhau Y Bardd Anfarwol sy’n penderfynu os wnawn ni ryddhau rhywbeth, ond ar ôl i fy nghytundeb gyda Sain ddod i ben,” eglura fel dylunydd, rydw i’n ystyried pwysigrwydd yr ochr Gareth. “Roeddwn yn gyfarwydd gyda nhw fel label esthetig hefyd. Rydw i eisiau rhyddhau cynnyrch sy’n lleol i mi yng Nghaerdydd ac fe wnaeth eu gwaith rhoi boddhad i’r holl synhwyrau.” celf ddal fy sylw. Roedd eu pwyslais ar yr ochr A phan ddaeth Richard i wybod fod Gareth yn weledol yn bwysig i mi, gan nad oes gen i’r sgiliau i chwilio am label i ryddhau ei albwm diweddaraf roedd wneud y math yna o waith fy hun!” yn benderfyniad hawdd. “Cefais fy nghyflwyno i Gareth
8
y-selar.co.uk
o glawr i glawr
“Gydag albwm cysyniadol dylai pob elfen weithio gyda’i gilydd,” gan John Rostron a gan fy mod i’n ffan enfawr o The Gentle Good roeddwn yn fwy na bodlon iddo ymuno â ni.” Er bod Gareth, yn cydweithio â’r un artist a fu’n gyfrifol am gloriau’r ddau albwm gyntaf, sef Dan Lazenby, roedd edrych mewn cymaint o fanylder ar olwg cynnyrch yn brofiad newydd iddo. “Roedd gennym yr her o drio adlewyrchu hanes albwm cysyniadol trwy gelf felly roedd rhaid i finne, Daniel a Richard gwrdd yn aml i sicrhau ein bod ar y trywydd cywir.” Yn sicr, roedd hwn yn brosiect unigryw ac uchelgeisiol iawn i fod yn rhan ohono ac er bod Gareth wedi cyflawni llawer ohono cyn mynd at Bubblewrap, roedd Richard yn awyddus iawn i ddysgu mwy. “Roedd y prosiect fwy neu lai wedi gorffen pan ddaeth Gareth ata’ i,” meddai Richard. “Roedd o wedi teithio i Tsieina, wedi astudio stori Li Bai, ac wedi dechrau chwarae rhai o’r caneuon yn ei set fyw. Ond roedd hanes y bardd yn fy niddori i hefyd ac roedd hi’n grêt ymchwilio’r hanes ymhellach wrth baratoi i ryddhau’r albwm. Edrychom ni ar lawer o hen lyfrau Tsieineaidd ac roedd hi’n glir o’r dechrau ein bod ni eisiau arddull draddodiadol Tsieineaidd i’r gwaith celf.” Gyda syniadau pendant yn ffurfio, tasg Dan Lazenby oedd eu troi’n realiti. “Roedd Dan yn wych,” meddai Richard. “Roedd o eisiau defnyddio hen dechneg printio sgrîn ac roedd hynny’n grêt gan ei fod yn ychwanegu ryw authenticity i’r holl beth. Gan fod stori Li Bai yn cynnwys llawer o deithio hyd a lled Tsieina roedd hi’n naturiol i’r darlun fod yn seiliedig ar dirlun y wlad.” Gyda darlun Dan yn barod, Richard wedyn oedd yn gyfrifol am ychwanegu’r argraffwaith a’r caligraffi dylunio gweddill y pecyn. “Roeddwn i’n hynod hapus gyda’r cynnyrch terfynol,” meddai. “Daeth popeth at ei gilydd yn wych ac roedd gweld y cwbl yn fawr neis ar feinyl yn eisin ar y gacen.”
CYSYNIAD
Roedd Y Bardd Anfarwol yn brosiect mawr ac aml haenog, a gwelodd Gareth gyfle i ddefnyddio’r gwaith celf, nid yn unig fel atodiad bach neis i edrych arno, ond yn hytrach yn rhan o gysyniad ehangach yr holl beth. “Roedd e’n bwysig bod yr albwm i gyd yn gweithio fel pecyn cyfan,” eglura’r cerddor. “Roeddwn yn gwybod byddwn yn gallu adrodd elfennau o hanes Li Bai trwy’r gwaith celf ac y byddai golwg y record yn helpu creu darlun mwy lliwgar i’r gwrandawyr. Roeddwn hefyd yn gobeithio y byddai’r record yn apelio at wrandawyr di Cymraeg, felly roedd hi’n bwysig bod ochr weledol yn cyfathrebu’r stori yn glir.” Does dim dwywaith fod y clawr yn ffurfio rhan anatod o’r cyfanwaith ac yn elfen bwysig yn llwyddiant yr albwm fel cysyniad “Gydag albwm cysyniadol dylai pob elfen weithio gyda’i gilydd,” eglura Gareth. “Gall gwaith celf helpu i glymu gwahanol elfennau a rhoi mwy o ddyfnder i’r caneuon. Pan mae’r elfennau i gyd o safon uchel ac yn gweithio gyda’i gilydd mae’n gallu codi profiad y gwrandawyr.” Does dim dwywaith fod Y Bardd Anfarwol yn gweithio yn hynny o beth ac mae’n hollol amlwg fod Gareth wrth ei fodd â’r cynnyrch gorffenedig. “Roedd e’n bleser gweithio ar brosiect mor ddifyr gyda Bubblewrap, Dan a Rich. Gallwn i ddim bod yn hapusach gyda’r gwaith terfynol, mae’n hynod drawiadol ac yn codi’r holl albwm i lefel uwch.” Mae’n anodd dadlau â hynny ac mae Richard eisoes yn edrych ymlaen at weithio gyda Gareth eto. Pan fydd hynny’n digwydd, dwi’n amau rhywsut nad ryw sengl ddigidol ffwrdd â hi fydd yn ein haros ond campwaith arall i’r holl synhwyrau. Wedi’r cwbl, dyma’r label sydd yn ein hannog i lyfu feinyl a’i rwbio ar ein hwynebau a’n boliau! “Tafod yn y boch ydi hynny,” eglura Richard diolch byth! “Dwi’n caru feinyl. Ar wahân i’r ffaith ei fod o’n swnio’n well (ac mae o) mae yna rywbeth boddhaol iawn am gael rhywbeth yn eich llaw. Nostalgia yw hyn yn rhannol, ond os ydych chi o ddifrif ynglŷn â’ch celfyddyd, dylech fod o ddifrif ynglŷn â sut y caiff ei gyflwyno.” Clywch clywch!
y-selar.co.uk
9
trydar
gyda @y_reu @Y_Selar Su’mai @y_reu, croeso i gyfweliad trydar @Y_Selar! ‘Da chi’n iawn?
â hynny am “be’ ydi ein sŵn”, ond yn hytrach jyst sgwennu be’ ’da ni’n ei deimlo ar yr adeg.
@y_reu Yo yooo! Grêt diolch! Sut ‘da chi?
@Y_Selar Felly sydd ora’. Pobl (gan gynnwys fi) sy’n licio bocsio pethau, wedyn ma’ rhywun fel @y_reu yn dod ac yn chwalu’n pen ni!
@Y_Selar Da iawn diolch, digon prysur, fel chitha’ yn ôl pob golwg! EP newydd sbon allan, beth all y gwrandawyr ei ddisgwyl yn Hadyn? @y_reu Wbath ffresh, digon gwahanol i stwff blaenorol. Dipyn o contrast rhwng y caneuon hefyd, ond eu bod nhw’n gwneud synnwyr efo’i gilydd! @Y_Selar Wedi bod yn gwrando dipyn ar ‘Mhen i’n Troi’, honno reit drwm, wedi bod yn ei throi hi fyny i un ar ddeg do?
@y_reu Haha! Dyna di’r peth, mae’r gwrandawyr wastad eisiau gallu labelu be’ ma nhw’n ei glywed tra bod yr artistiaid jyst eisiau’r rhyddid i arbrofi! @Y_Selar Ta waeth. ‘Da chi’n artist Gorwelion ers y tro diwethaf i ni siarad efo chi, llongyfarchiadau! Sut deimlad ydi hynny?
@y_reu Haha ma’ ‘na draciau caletach na honna ’de!
@y_reu Teimlad gwych, doeddan ni’m rili’n disgwyl cael ein dewis ond mae o wir yn meddwl lot i ni. Gobeithio cawn ni dipyn allan o’r profiad.
@Y_Selar Swnio fel casgliad cyffrous, sut all pawb gael eu gafael arno?
@Y_Selar Be’ ti’n meddwl yw’r peth pwysicaf gewch chi allan ohono fo?
@y_reu Fydd o ar gael ar iTunes a Spotify yn ddigidol ond ‘da ni’n rhyddhau’r EP fel copi caled hefyd, ein CD cynta’ ni!
@y_reu Jyst cael ein cerddoriaeth at glustiau ’sa heb glywed amdanom ni fel arall.
@Y_Selar Wedi rhyddhau senglau llwyddiannus iawn yn ddigidol wrth gwrs, ond mae rhyddhau EP cyntaf, a hynny ar CD, reit gyffrous ydi? @y_reu Yndi yn sicr, ‘da ni gyd yn rili hapus efo sut mae o ’di troi allan ac yn falch o’i gael o allan o’r diwedd! @Y_Selar Yn lle ac efo pwy fuoch chi’n recordio felly? @y_reu Gathon ni wsos efo Rich ym Mhenrhyndeudraeth ar ôl ’chydig o fisoedd o sgwennu a recordio demos adra! @Y_Selar A phawb yn hapus efo’r sŵn yn y diwedd?
@Y_Selar Mae o’n gyfla da heb os. Beth ydach chi’n ei feddwl o’r bandiau/artistiaid eraill ar y prosiect? @y_reu Mae o’n grêt cael rhannu’r project efo bandiau fel HMS Morris ac Yr Eira. @y_reu ‘Da ni’n ceisio dechrau prosiect remixio hefyd, ac yn gobeithio cydweithio efo rhai o artistiaid Gorwelion ar hwnnw. @Y_Selar Diddorol, edrych ymlaen at hynny. Ond nôl at @y_reu, lle allwn ni weld chi dros yr haf? @y_reu ‘Da ni’n cefnogi Sŵnami nos Iau Maes B, a mwy o gigs i’w cyhoeddi’n fuan. Edrych ymlaen at gael chwarae’r caneuon newydd yn fyw!
@y_reu Yn bendant! @Y_Selar Fel o’ ti’n sôn, sŵn gwahanol i stwff blaenorol, ac mae pawb yn sôn am yr amrywiaeth arddulliau ‘ma wrth ddisgrifio “sŵn” @y_reu ... @Y_Selar ... ond am wn i, y cyfuniad yma o arddulliau gwahanol a’r ffaith ei fod o mor unigryw ydi eich “arddull” neu eich “sŵn” chi erbyn hyn ia?
10
@Y_Selar Edrych ymlaen i’w clywed nhw! Gwaith celf yr EP yn edrych yn cŵl fyd. Beth yw hanes hwnnw? @y_reu Diolch. Fy [Math] chwaer a’i chariad sy’n gyfrifol am y cynllun, mae’r dyn bach yn cynrychioli’r cymeriad sy’n rhedag trwy themâu’r EP. @Y_Selar Mae o’n gweithio’n dda, digon o agwedd yn perthyn i’r clawr a’r gerddoriaeth!
@y_reu Falle wir! Ma’n cerddoriaeth ni gyd yn dod yn eitha’ naturiol, ac efo rhywbeth mor subjective â miwsig...
@Y_Selar Wel, pob lwc efo’r EP a gweddill eich blwyddyn efo Gorwelion. Reu
@y_reu Dwi’m rili’n teimlo ein bod ni’n poeni gymaint
@y_reu Ideal, nice wooon!
y-selar.co.uk
CWIS POP
Y SELAR
£9.95
CAFFI MAES-B, STEDDFOD MEIFOD
13:00, SADWRN 8 AWST Gwobrau gwych, hwyl a sbri, dewch yn llu!
#gigsmeifod @gigscymdeithas
a
gigs steddfod Meifod
Clwb Rygbi COBRA, Meifod 1 - 9 Awst 2015
01970 832304
www.ylolfa.com Allan cyn hir! Cofiant MEIC STEVENS gan Hefin Wyn
gigs steddfod Meifod
Clwb Rygbi COBRA, Meifod 1 - 9 Awst 2015
Sadwrn Awst 1af £12
PLETHYN ∙ COWBOIS RHOS BOTWNNOG SGILTI(SET DJ) ∙ GERAINT LØVGREEN ∙ GAI TOMS
a
Sul Awst 2il £12
MEIC STEVENS ∙ GARETH BONELLO
EFA SUPERTRAMP ∙ SGILTI ∙ JAMIE BEVAN Llun Awst 3ydd £8
CANDELAS ∙ CAPTEN SMITH ∙ Y GALW
YSGOL SUL ∙ SŴNAMI (SET DJ) ∙ SGILTI
cymdeithas.cymru/steddfod 01970 624501
MAES GWERSYLLA RHATAF Y STEDDFOD ar gae COBRA cymdeithas.cymru/gwersylla #campcymdeithas
Mawrth Awst 4ydd Am Ddim
a
ANN TASTIG - Trefnwyr nosweithiau "Iolo!", "Siwper Cêt ac ambell Fêt" ac "Yn y Coch" yn ôl gyda cherddi a chaneuon.
Mercher Awst 5ed £12
STEVE EAVES ∙ Y FFUG ∙ SGILTI BLODAU GWYLLTION ∙ LOBSGOWS ∙ DEGAWD Iau Awst 6ed £10
CLUSTIAU CŴN ∙ MR PHORMULA RADIO RHYDD ∙ ROUGHION Gwener Awst 7fed £10
MAFFIA MR HUWS ∙ BAND PRES LLAREGGUB GARETH POTTER (SET DJ) ∙ Y GWYRYF ∙ TYMBAL Sadwrn Awst 8fed £10
a cymdeithas.cymru/steddfod
BOB DELYN ∙ POBOL Y TWLL ∙ WELSH WHISPERER CLEDRAU ∙ KOOKAMUNGA ∙ HENEBION cymdeithas.cymru/steddfod facebook.com/gigscymdeithas
#gigsmeifod @gigscymdeithas
y-selar.co.uk
11
.. Ti d . d
PWY? Glaniodd Anelog ar donfeddi
.T d .. i d
y l C i we
Radio Cymru allan o nunlla heb i neb wybod llawer amdanynt. Daw’r grŵp o ddau deulu yn Sir Ddinbych; Lois (canu a synths) a Sion Rogers (dryms) o dref Dinbych, ac yna’r brodyr Cattell o bentref Nantglyn; Danny (canu a gitâr), Sam (canu a bas) ac Alfie (canu ac allweddellau/synths). Bu’r hogia’ mewn band heb Lois flynyddoedd yn ôl, gan chwarae’n lleol a recordio EP mewn sied gyda Robin Edwards (R. Seiliog). Aeth pawb ar wasgar wedi hynny, Sion i Seland Newydd a rhai o’r lleill i Lerpwl. Wedi dychwelyd o Lannau Merswy, dechreuodd Danny a Lois gasglu syniadau a recordio. Dyna sut y cychwynodd Anelog, a gyda phawb yn ôl yng Nghymru, buan iawn yr ymunodd y tri arall gan ffurfio’r lein-yp presennol.
A N E LO G
yw i Cl e
Gwrandew c yn ffan o H h os uw M, Kizzy Craw ford a Palenco
Swn? Yng ngeiriau Danny, “Cerddoriaeth pop gyda synau ^
electroneg a theimlad folk,” yw cerddoriaeth Anelog. “Cerddoriaeth sy’n cyffelybu rhediad araf bywyd yng Nghymru (i ni beth bynnag).”
Dylanwadau? Mae rhestr hir dylanwadau cerddorol Anelog yn cynnwys Sen Segur, Gorky’s, Super Furries, Shack, Beatles, Boards of Canada, Cocteau Twins, Radiohead, Slint, Judee Sill, Satie, Chopin a llawer mwy. Nid band neu artist yw eu dylanwad mwyaf diddorol serch hynny, fel yr eglura Danny. “Mae cefn gwlad ein hardal leol yn ddylanwad pwysig. Weithiau mae gen i le penodol yn fy meddwl pan dwi’n ysgrifennu cân, dim llefydd amlwg gyda golygfeydd ysblenydd, ond adeilad unig wedi chwalu, llwybr heb ei gyffwrdd ers misoedd neu jyst cornel cae. Dwi’n cymryd fy hun yn ôl i ’mhlentyndod, yn archwilio lleoedd sydd wedi cael eu hanghofio bron ac yn bwysig i neb arall ond fi.” Hyd yn hyn? Tydi Anelog heb gigio llawer, maent wedi canolbwyntio hyd yma ar ymarfer tuag at haf prysur o gigs a gwyliau. Nid yw hynny wedi rhwystro ‘Melynllyn’ ac ‘Y Môr’ rhag dod yn rhai o draciau mwyaf poblogaidd ein tonfeddi radio. “’Dy ni wedi gwneud sesiwn fyw ar sioe Georgia Ruth ac wedi cael radio play ar Radio Cymru, Radio Wales, Radio 6 a Radio 1,” eglura Danny.
Ar y Gweill? Bydd Anelog yn recordio sesiwn ar gyfer cyfres nesaf Ochr 1 a bydd cyfle i’w gweld mewn sawl gŵyl dros yr haf; Caught by the River Teifi, Crug Mawr a Gŵyl Rhif 6. Ynghyd â hynny, y cynllun yw parhau i ymarfer, chwarae gigs a recordio.
Uchelgais? “Fyse ni’n hoffi recordio albwm,” eglura Danny. “’Da ni’n credu bod y llais yn enwedig yn swnio’n well pan mae o wedi ei recordio ar dâp felly ’da ni’n gobeithio recordio albwm ar y ffurf yma. Mae albyms Judee Sill yn esiampl anhygoel o hyn, mae’n teimlo fel ei bod hi yn yr ystafell gyda chi.” “Fysen ni’n hoff iawn o deithio a pherfformio o gwmpas Ewrop. Y freuddwyd yw cael digon o bres i beidio gorfod danfon bwyd Tsieineaidd a chodi cerrig trwy’r dydd.” 12
y-selar.co.uk
Barn Y Selar ‘Melynllyn’ yw cân orau 2015 hyd yn hyn. Mae sawl cân dda arall ar eu Soundcloud hefyd, a bydd hi’n ddiddorol gweld os all Anelog drosglwyddo eu sain hudolus o’u hystafelloedd gwely i’w perfformiadau byw dros yr haf. Os lwyddan nhw i wneud hynny mae dyfodol disglair o’u blaenau.
y-selar.co.uk
13
Mae C2 Radio Cymru, Maes B a Mentrau Iaith Cymru wedi uno i greu un Frwydr y Bandiau eleni. Efallai mai da o beth yw hynny o ystyried mai cymysg fu llwyddiannau’r ddwy gystadleuaeth flaenorol dros y blynyddoedd. Aeth rhai o’r cyn enillwyr yn angof ond nid felly Y Trŵbz. Aeth Miriam Elin Jones am sgwrs gyda’r basydd, Morgan.
A D U A R H DEC
Z B W R YT ^
B
lwyddyn yn ôl, ni fyddai llawer o bobl yn ymwybodol o fodolaeth Y Trŵbz, heb sôn am fod wedi clywed am eu cerddoriaeth roc bachog. Ers ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 yn 2014, mae’r pedwarawd o ochrau Dinbych wedi mynd o nerth i nerth, a bellach maent yn rhyddhau eu halbwm cyntaf, Yn y Dechrau. Bu’r misoedd diwethaf yn brysur i’r band, fel y datgela dim ond sgwrs gyflym gyda Morgan Elwy, chwaraewr bas a threfnydd answyddogol Y Trŵbz. Yn ogystal ag ef, ffurfir y grŵp gan y drymiwr, Gruff Roberts, y gitarydd, Tommo Lloyd, a choronir y cwbl gan y prif leisydd, Mared Williams. Gellid dweud fod llais pwerus Mared wedi bod yn allweddol i lwyddiant y band. Wrth ofyn i Morgan am Mared fel unique selling point Y Trŵbz, cytuna, “definitely. Dwi’n meddwl fod Mared yn amazing. Mae ’di ennill yn y Genedlaethol a stwff, yn canu lot. Ma hi obviously efo talent.” Mewn sin gerddorol sy’n rhemp o fandiau roc ac indie gwrywaidd, mae llais Mared yn donic. Rhestra’r band ystod eang o ddylanwadau, sy’n amrywio o’r Foo
14
y-selar.co.uk
Fighters i Paolo Nutini. Fodd bynnag, un peth sy’n bendant, “Led Zeppelin yw favourite pawb,” a chlywn hynny’n ddigon clir yng ngherddoriaeth Y Trŵbz. Ymysg yr amrywiaeth o ddylanwadau hen a chyfoes, rhestra Morgan Bob Dylan a Johnny Cash yn arwyr personol, tra bod yn well gan Tommo gerddoriaeth electronig. “Mae o’n gwneud lot o electronic music ar ei laptop o,” datgela Morgan.
DECHRAU YN Y DECHRAU Naid fentrus oedd mynd yn syth i greu albwm, yn hytrach nag arbrofi gydag EP gyntaf fel nifer o fandiau ifanc eraill fel Y Ffug a Mellt. “Gyda digon o ganeuon, might as well,” ymresyma Morgan, wrth esbonio pam fod Y Trŵbz yn rhyddhau record hir ddeg cân. Ac ymddengys fod Yn y Dechrau yn arddangos holl ddylanwadau’r band i’r dim, gydag amrywiaeth eang yn nhôn y traciau. “Mae ’na lot o ganeuon roc, all out. A chaneuon hefyd sy’n tynnu nôl, achos obviously ’da ni ddim yn teimlo’r un peth o hyd.’ Esbonia Morgan arwyddocâd y trac cyntaf, teitl-drac yr albwm, “mae’n gân
sy’n meddwl am y byd fel mae o, a sut ‘da’n ni’n ei weld o, ac mae Tommo ’di dod fyny efo riff rili cŵl.” Mae’n ddechrau da a chyflwyniad cryf i’r albwm, ac yn dangos angerdd y band wrth iddynt gyflwyno myfyrdodau dwys iawn am y byd o’n cwmpas. “Mae’n sôn am fyd yn llawn pobl sydd ddim yn dallt ei gilydd.” Mae’r albwm yn un ddwyieithog gyda dwy gân Saesneg, ‘One Day’ a ‘Fox Song’ yn atalnodi’r casgliad. Gwelwn y sengl gyfarwydd, ‘Tyrd Yn Ôl’ (blast o riffs bachog a solos gitâr anhygoel) ar y record hefyd, trac a ryddhawyd yn rhan o Glwb Senglau Y Selar ym mis Rhagfyr y llynedd. Mae gan Morgan, wrth gwrs, ei ffefrynnau personol. “Lyfio ‘Tic Toc’. Cân eitha’ insane a chŵl. Riff Tommo, eto, yn amazing.” Mae ei hoff drac nesaf yn gwrthgyferbynnu’n llwyr gyda hynny. “Mae ’Difaru’ hefyd yn un da. Cân neis. Gorffen yn eitha’ romantic.” Er ei fod, wrth reswm, yn falch iawn o’r albwm, cyfaddefa Morgan, “mae’n weird siarad am fiwsig ti dy hun, achos mae’n wahanol i bawb. Mae be’ dwi’n ei ddweud yn gallu bod yn wahanol a meddwl rhywbeth gwahanol i rywun arall.”
“Mae ’na lot o ganeuon roc, all out. A chaneuon hefyd sy’n tynnu nôl.”
YN Y STIWDIO Recordiwyd Yn y Dechrau yn Stiwdio Sain, Llandwrog. “Stiwdio eitha’ mawr, eitha’ cŵl,” disgrifia Morgan. “Na’th o gymryd tua deg diwrnod ma’n siŵr, ond ar weekends, pan ro’dd pawb yn rhydd.” Roedd y broses recordio yn brofiad newydd i’r mwyafrif o’r band, ac yn gyfle i Tommo arbrofi gyda’r offer, ag yntau a’i fryd ar fynd i astudio cynhyrchu cerddoriaeth ym Manceinion y flwyddyn nesaf. “Doedd gennym ni’m producer na dim byd, jyst gwneud o’n hunain.” Cyfaddefa Morgan, “ro’n ni jyst yno yn y wheelie chairs yn meddwl, wow!” Nid oedd yr un ohonynt erioed wedi dychmygu y byddent yn cael y cyfle i recordio mewn stiwdio o’r fath, a sut
“O’DD O’N SWREAL, CLYWED DY GERDDORIAETH DY HUN FEL YNA.”
deimlad oedd hi, tybed, clywed Yn y Dechrau am y tro cyntaf? “O’dd o’n swreal, clywed dy gerddoriaeth dy hun fel yna.” Mae’n anodd dadlau nad yw ennill Brwydr y Bandiau yn gyfle gwych i unrhyw fand ifanc, ac mae Y Trŵbz yn sicr wedi manteisio ar bob cyfle ers ennill. “’Da ni ’di cael gwneud yr albwm ac wedi cael Cân yr Wythnos Radio Cymru ddwywaith. Hynna’n eitha’ cŵl, I suppose. Wedi cael eitha’ lot o gigs hefyd, ma’ Ruth Menter Iaith [Dinbych] wedi bod yn gweithio efo ni lot, a dwi’m yn meddwl bydde petha fel ’na’n digwydd heb Frwydr y Bandiau.” Er bod fformat y gystadleuaeth yn newid eleni, wrth i Maes B ac C2 gyfuno am y tro cyntaf, mae Y Trŵbz yn esiampl dda i enillwyr y gystadleuaeth newydd ei ddilyn. Mae’r dyfodol yn edrych yn ddigon llewyrchus i’r band, wrth iddynt restru nifer o gigs yn yr Eisteddfod ym Meifod. “Mae gennym dair gig, Caffi Maes B dydd Llun, ar y maes dydd Mawrth, a Maes B ei hun nos Fercher.” Ac wrth ofyn i Morgan beth sydd nesaf i’r band, dywed yn betrusgar, “Probably albwm arall... dwi’m yn gwbod actually. Ddylwn i ddim fod wedi deud hynna!”
y-selar.co.uk
15
BRWYDR Y BANDIAU
wedd. ydr y Bandiau ar ei newydd 2015 yw blwyddyn gyntaf Brw Mentrau Iaith C2 Radio Cymru, Maes B a Am y tro cyntaf eleni mae nt y bu dwy. un frwydr fawreddog lle gy Cymru wedi cyfuno i greu band hol ym mis Mai ac mae chwe art nb rha iau nd row d wy ali Cynh beth am derfynol ym Meifod. Felly wedi ei gwneud hi i’r rownd wyr yn well. ddod i adnabod y cystadleu
CADNO Pwy? Daw Cadno o Gaerdydd ac mae 5 aelod: Rebecca - Gitâr a llais Wil - Gitâr Cadi - Allweddellau Mali - Bas Pat - Dryms Ffaith ddifyr am unrhyw aelod: Mae Pat yn gallu cwblhau Rubik’s Cube mewn 60 eiliad! Disgrifiwch eich sŵn mewn 5 gair: Ffresh, amrwd, perthnasol, amrywiol, ansbaradigaethus. Hoff artistiaid yn y Sin Roc Gymraeg ar hyn o bryd? Bromas, Candelas, Y Ffug, Yr Ods, Mellt. Hoff fand o blith y 5 arall yn y rownd derfynol? Hyll. Uchafbwynt y gystadleuaeth hyd yma? Gwrando ar y rowndiau cynderfynol ar raglen C2 – gwych clywed yr amrywiaeth eang o fandiau newydd! Gobeithion am y rownd derfynol? Just gallu mwynhau ar y llwyfan, heb i Wil geisio dawnsio neu Becca anghofio geiriau!
16
y-selar.co.uk
RAFFDAM Pwy? Daw Raff Dam o ardal Talgarreg a Phontrhydfendigaid ac mae 3 aelod: Mari Mathias – Canu, gitâr a sgrifennu Dafydd Syfydrin – Drwm bas, tambwrîn, gitâr a threfnu cerddoriaeth Siôn Rees – Banjo, ukulele a mandolin
Sŵnami, Candelas a Super Furry Animals. Nid yw Siôn yn hoffi neb.
Ffaith ddifyr am unrhyw aelod: Mae Mari wedi chwarae rôl yn Mhobol y Cwm ac wedi cyfarfod Lady Gaga!
Hoff fand o blith y 5 arall yn y rownd derfynol? Cadno.
Disgrifiwch eich sŵn mewn 5 gair: Gwerin modern, egnïol, hwyl, gwreiddiol.
Uchafbwynt y gystadleuaeth hyd yma? Chwarae yn Y Lle yn Llanelli, cwrdd ag artistiaid eraill yn y sin Gymraeg, mynd trwyddo a chael y cyfle i chwarae yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Hoff artistiaid yn y Sin Roc Gymraeg ar hyn o bryd? Mae Dafydd yn ffan o Gai Toms ac Y Reu tra mae Mari yn hoffi Gwyneth Glyn, Y Tebot Piws, Meic Stevens, Y Bandana,
Gobeithion am y rownd derfynol? Ennill!
MAE EU CANEUON GWREIDDIOL YN UNIGRYW
CORDIA Pwy? Daw Cordia o Ynys Môn ac mae 6 aelod: Ffion Elin Davies – Piano a llais Ffion Wynn Davies – Llais Manon Fflur Roberts – Llais Luke Jones – Dryms Iddon Roberts – Bas Cadi Gwyn Edwards – Gitâr acwstig Ffaith ddifyr am unrhyw aelod: Mae’r chwech ohonom ni’n aros mewn tent gyda’n gilydd ar Faes B, dim campio, ond ‘glampio’. Disgrifiwch eich sŵn mewn 5 gair: Pop, hwyliog, unigryw, swynol, Cymreigaidd. Hoff artistiaid yn y Sin Roc Gymraeg ar hyn o bryd? Kizzy Crawford, Candelas a Bryn Fôn.
TERFYSG
Hoff fand o blith y 5 arall yn y rownd derfynol?! Terfysg. ’Da ni’n ffrindiau ers blynyddoedd ac wrth ein bodd gyda’i sŵn. Mae eu caneuon gwreiddiol yn unigryw, ac yn ein hatgoffa o Candelas a Sŵnami.
Pwy? O Ynys Môn ac mae 4 aelod: Dewi Erwan – Gitâr a llais Ioan Gwyn – Bas Sion Gwilym Roberts – Dryms James Rogers Jones – Synth Ffaith ddifyr am unrhyw aelod: Am amser hir, dodd y band ddim yn meddwl bod James yn bodoli’n ddigidol. Doedd o heb atab unrhyw neges yn y group chat ers tua naw mis, tan wythnos dwytha. Rydym i gyd yn falch ei fod o’n bodoli’n ddigidol rwan. Da ni’n prowd iawn ohono. Disgrifiwch eich sŵn mewn 5 gair: Trwm. Dylanwadau gwahanol i’r arfer. Hoff artistiaid yn y Sin Roc Gymraeg ar hyn o bryd? Mae Dewi’n hoff o’r Bandana, Ioan yn licio stwff Candelas a mr huw, a ’da ni’n’ siŵr bod James yn ffan o Elin Fflur. Hoff fand o blith y 5 arall yn y rownd derfynol? Rhaid bod yn gefnogol o’r band arall o’r Ynys felly mae Cordia yn ffefryn.
Hefyd, ’da ni’n eitha’ hoffi sŵn Hyll. Uchafbwynt y gystadleuaeth hyd yma? Gwneud cyfweliadau radio a chael chwarae yng Nghlwb Canol Dre, Caernarfon, eto. Mae pobl yn dechra dod i ’nabod y band, sy’n deimlad eitha’ gwahanol i’r arfer, ond ’da ni’m yn cwyno! Gobeithion am y rownd derfynol: Dwi’n meddwl fy mod i’n siarad ar ran y rhan fwyaf o’r cystadleuwyr pan dwi’n deud ‘sa’n anhygoel chwarae ym Maes B ar y nos Sadwrn! Ond, ’da ni’n gobeithio cael ’chydig o hwyl ar lwyfan y Maes a gobeithio’r gorau!
Uchafbwynt y gystadleuaeth hyd yma? Cael ein mentora gan y cerddor dawnus Mei Gwynedd cyn y rownd derfynol. Cafwyd nifer o tips diddorol! Gobeithion am y rownd derfynol? Ehangu a datblygu fel band. Wedyn recordio EP yn yr haf er mwyn i bawb yng Nghymru a thu hwnt glywed Cordia! y-selar.co.uk
17
A ‘MA SIAWNS GO DD I NI FOD YN Y CHWECH UCHAF’
LOST IN CHEMISTRY / AR GOLL MEWN CEMEG Pwy? Daw Lost in Chemistry / Ar Goll Mewn Cemeg o’r Barri ac mae 4 aelod: Dom - Gitâr rhythm a chanu Dan - Prif gitâr Jake - Dryms Ben - Gitâr fas a thipyn o lais cefndir
HYLL Pwy? Daw Hyll o Gaerdydd ac mae 3 aelod: Bedwyr ab Ion - Gitâr, llais, dryms a bas Iwan Williams - Gitâr, llais, dryms a bas Jac Evans - Dryms a bas Ffaith ddifyr am unrhyw aelod: Mae Bedwyr yn hanner gog, hanner hwntw, hanner Kaadiff, ac yn gallu siarad tair iaith swyddogol Cymru; Cymraeg, Saesneg a Gog! Disgrifiwch eich sŵn mewn 5 gair: Swnllyd, funky, rocky, punky, gwreiddiol. Hoff artistiaid yn y Sin Roc Gymraeg ar hyn o bryd? Sen Segur (R.I.P), Cowbois Rhos Botwnnog, Y Ffug. Hoff fand Jac yw Neil Rosser a’r Band. Hoff fand o blith y 5 arall yn y rownd derfynol?! Cadno – widdowt a dowt. Uchafbwynt y gystadleuaeth hyd yma? Perfformio yng Nghlwb Ifor Bach, bod o fewn pellter cyffwrdd i bobl enwog, golygus a phrydferth fel Osian Candelas, Mei Gwynedd a Casi Wyn! Hefyd, cael y cyfle i siarad gyda Lisa Gwilym ar y radio ac aros yn effro ar ôl amser gwely Bedwyr (9:30pm). Gobeithion am y rownd derfynol? Os fydd popeth yn mynd yn iawn yn ystod y rownd derfynol ma’ siawns go dda i ni fod yn y chwech uchaf! Efallai dod yn ail hyd yn oed... Neu ennill... Cael encore... Pwy a ŵyr?
18
y-selar.co.uk
Ffaith ddifyr am unrhyw aelod Mae Ben yn gwneud press ups cyn bob gig i bwmpio ei hunan i fyny! Disgrifiwch eich sŵn mewn 5 gair Hwylus, egnïol, bachog, melodig, ROC! Hoff artistiaid yn y Sin Roc Gymraeg ar hyn o bryd? Rydym yn meddwl bod Mellt yn eithaf anhygoel ac mae gan Y Ffug a Candelas ganeuon gwych hefyd. Hoff fand o blith y 5 arall yn y rownd derfynol? O’r rhai ni wedi eu gweld ma’ nhw i gyd yn eithaf anhygoel mewn gwirionedd. Hyll yn wych gan eu bod yn newid offerynnau, sy’n awesome, a ma’ sain unigryw gan Cadno hefyd felly ni ddim yn rhy siŵr. Uchafbwynt y gystadleuaeth hyd yma? Y rownd gyntaf yng Nghlwb Ifor Bach. Oedd e’n hwyliog, wedi ei drefnu’n dda a chawsom y cyfle i weld bandiau da iawn, ac wrth gwrs Y Bandana yn chwarae hefyd. Gobeithion am y rownd derfynol Yn amlwg, ein gobeithion yw ennill a chael y cyfle i chwarae Maes B, ond y profiad sy’n fwy pwysig i ni, mwynhau’r gystadleuaeth a chael amser da yn chwarae ein cerddoriaeth.
Gwefan o lenyddiaeth greadigol a beirniadol newydd, heb ffiniau na rheolau. Galwch draw. www.yneuadd.com @yneuadd Facebook.com/YNeuadd
y-selar.co.uk
19
yddio wrth dig’ ei or-ddefn ie yl gw is dd irbriodol Caiff ‘h ydd, ond mae’n w ne d yd un de ddisgrifio nc o hyd, mae s hwn. Er yn ifa pas iawn yn yr acho edi bod o gwm d Y Cledrau w bo l fe lo l im da te ar hi’n ’r band o r hwnnw, mae se am yr Yn s. r o’ ers oe lyniant da, ac wedi sefydlu di ddo yn l Llanuwchllyn ae af i beth n y ffans rhyw ntaf. cy EP diwedd, mae ga ddhau eu wrth i’r grŵp ry nd fy r felly i Y Sela Esgus perffaith n. am Sgwrs Sydy
U A I C A TR D D Y W NE U A R D E Y CL EP newydd? Beth yw enw’r Un Ar Ôl Y Llall. ? yr enw hwnnw A pham dewis , ‘Ailgân olaf ar yr EP Ma’n llinell yn y Ailadrodd’. ? rthi’n recordio Lle fuoch chi w en ellau ac yna gorff Tŷ Siamas, Dolg erfel. o Aerfen, Llandd pethau yn Stiwdi lyn Jones yrchu? Ifan Em Pwy fu’n cynh hefyd. - ac yn peiriannu ei fydd hi’n cael Ac ar ba label G. IN CH l I KA rhyddhau? Labe ? mae hi ar gael Ar ba fformat ddigidol. Copi caled ac yn
20
y-selar.co.uk
dwy’r ad mwyaf cofia Beth oedd profi p sio io? Chwilio am broses record cordio yn re h rt w lgellau kebab call yn No ffendio ni un.) Nhŷ Siamas. (Ni
, tiwn pwysicaf A rŵan, y cwes y ddisgwyl o ran beth allwn ni ei Tiwns di-baid. gerddoriaeth? ech chi doriaeth oedd Pa fath o gerd ystod y rando arno yn fel band yn gw , gitârs! io? Gitârs, gitârs cyfnod record dol Dim byd yn beno , es av pobl fel Big Le Kings of Leon, e Band of Skulls, Th o h yt llw Strokes a stwff eraill tebyg.
edi nc o hyd ond w Rydych chi’n ifa aros ers tipyn, pam bod o gwmpas ydd un de ch dhau ei cyhyd cyn rhyd u sia ei n ni ddim cyntaf? Doedde u rhywbeth dim rhuthro i ryddha neud. Roedd yn ond er mwyn gw atblygu’n sŵn bwysicach i ni dd beth o safon, a rhyddhau rhyw mwy o feddwl rhywbeth gyda tu ôl iddo.
nny dylanwadau hy Oes yna rai o’r ol? yn rf y cynnyrch te i’w clywed yn sŵn i r hir yn rhoi sylw Treuliom ni amse pob dweithio rhwng y gitârs ac ar y cy offeryn.
“RYDEN NI’N GWISGO DILLAD MEWN GIGS.”
EP? A pham dewis u cael Roedden ni eisia i lawr y caneuon yma bod yn eu n efo’i gilydd ga d. l casglia gweithio’n dda fe ôl hanes difyr y tu Oes yna unrhyw i’r yd Steffan Dafydd i’r gwaith celf? i ar y lw sy i ed wastad w artist. Ryden ni r gigs fe gy eu dylunio ar posteri mae o’n ynt. on oh yn hoff iawn Clwb Ifor Bach ac ct ra st do am ddarn ab Mi ofynnon ni id ’n hapus ni n de ry ’r teitl a oedd yn gweddu yniad. iawn gyda’r canl
io n ar gyfer lans Oes yna gynllu arae w i fyddwn ni’n ch swyddogol? M Awen en stondin siop set acwstig o fla aethol steddfod Genedl Meirion yn yr Ei od rn w di dydd Llun ym Meifod ar y rhyddhau’r EP.
ar u wyliau eraill Unrhyw gigs ne g Gi B, s ae haf? M y gweill dros yr , Gŵyl od df ith yr Eisted Cymdeithas yr Ia o gigs yn mis Awst a thip Crug Mawr, taith eraill yma ac acw. aniaeth rhwng Beth yw’r gwah ar w a Y Cledrau Y Cledrau yn fy n isgo dillad mew y ? Ryden ni’n gw ith rd bl o co n re gâ ff ho i Oes gennych ch n ni’n gigs. ? Dim felly - ryde am ph a casgliad, n câ b gair! po ae m ’r ffordd ni mewn pum hapus iawn gyda werthwch hi i G . h. rth recordio llol, hollol wyc wedi datblygu w Mae’n hollol, ho y trac “hit”? Mi fydd Pa un fydd yr ell?’ yn Fydda i Lawer Gw ‘Pwy Dd’udodd allai mai fel sengl, ond ef Hoff EP cael ei ryddhau EP randawyr, gw y n ga yn fr ffe au ryddhau eu cân arall fydd y Wrth i Y Cledr nd am eu oedd holi’r ba fe gawn ni weld! cyntaf, rhaid gorïau isod: nhw yn y cate au y nn yn ry f ef ya ff fw sialens Pa gân oedd y i es un yr ydych ch pa glo - Big Leav stiwdio neu EP Erioed? Si ff o H i? on fwyaf balch oh e Fydda raeg? Who th ‘Pwy Dd’udodd EP ddi-gym Roedd recordio ff o H broses eithaf tic Monkeys? i Lawer Gwell?’ yn Fuck Are Arc o i lla d fo wb gan ys rhwystredig i ba Arctic Monke d yn llai bo ei d yd w er d/ le i guddio oh raeg gan fan gweddill. Rydyn EP ddi-gym ’r ff na o ig H ed rrn ai du H ad key ymru? Ice Hoc ‘Dos i’r Ysgol’ G n o gâ r st o’ ti n ar iaw h yn falc h nimals edi cyfrannu wrt Super Furry A gan fod pawb w d od yg yn nno ddatbl yn y flwydd gyfansoddi a ho ff EP/albwm o H . mula io or rd fwyaf wrth reco Cymud - Mr Ph ddiwethaf? rffaith eithgaredd pe haf i aelod o Beth fysa’r gw Yr EP ddiwet yr EP? ar o rnd ra gw â hrynu? Bradw i gydfynd Cledrau ei p n Peugeot Y ew m o rm Be i eggub Dreifio o’r Bala l.] Band Pres Llar eraill ar gael – go rs ce ra y bo ae 206 [m i lawr yn y glaw. gyda’r ffenestri
y-selar.co.uk
21
Î Bê Ail Symudiad - Ad Drefnu/Whisgi a Soda Pris Gwerthu: £22.89 (4 cynnig) Disgrifiad Gwerthwr: Record feinyl 7” label Sain (76s). Record DIY Iaith Gymraeg KBD, Pync, Powerpop, Wave 1980. Cyflwr clawr: Da iawn (sgrifen bach ar y cefn) Cyflwr record: Da iawn Barn Y Selar: Mae recordiau Ail Symudiad, yn enwedig y stwff cynnar, yn gasgladwy iawn. Dyma record gyntaf y grŵp gwych o Aberteifi, ac er mai sengl sydd yma mae’r pris yn adlewyrchu gwerth eu recordiau i’r casglwyr.
Pererin – Tirion Dir Pris Gwerthu: £56.00 (5 cynnig) Disgrifiad Gwerthwr: LP gwerin prog / roc Cymraeg gwreiddiol prin iawn ar label Gwerin (SYW242) 1983 + mewnosodiad, agos at mint. Wedi’i lofnodi ar y cefn gan Emyr Afan! Barn Y Selar: Band arall casgladwy iawn o ddechrau’r 80au er nad yw’r record hon cweit mor werthfawr â’r LP flaenorol, Teithgan (1981). Mae’r ddwy record yma wedi’i hail-ryddhau ar CD a feinyl gan label Guerssen o Sbaen. Efallai bod llofnod Emyr Afan yn dod a gwerth hon i lawr fymryn (joooooc).
22
y-selar.co.uk
Gyda chymaint o recordiau Cymraeg diddorol yn gwerthu ar-lein dros yr wythnosau diwethaf, rydan ni wedi penderfynu atgyfodi Î-Bê yn arbennig ar gyfer rhifyn Steddfod Meifod.
Endaf Emlyn – Hiraeth Pris Gwerthu: £226.00 (18 cynnig) Disgrifiad Gwerthwr: Pressing gwreiddiol prin iawn o’r LP Cymraeg gwerin asid gwirioneddol ffantastig. Tebyg iawn i’w gyfoeswr Meic Stevens. Label Wren (WRL 537) 1971. Cyflwr Clawr: Da iawn / Da iawn + Cyflwr Record: Ardderchog Barn Y Selar: Un o’r LPs Cymraeg go iawn cyntaf, ac un o’r goreuon. Mae hon yn cael eu hystyried yn glasur, ac mae pob casglwr gwerth chweil angen copi yn eu casgliad. Os rhywbeth, byddai disgwyl i’r pris fod fymryn yn uwch.
Brethyn Cartref - Babi Doll Pris Gwerthu: £1.99 (1 cynnig) Disgrifiad Gwerthwr: EP 7” Cymraeg o 1969 ar label Recordiau’r Ddraig (6002). Record mewn cyflwr da a’r clawr yn dda iawn gyda mymryn o draul ar yr ymylon. 1 a 2 wedi’i hysgrifennu mewn inc ar y cefn a rhwyg 2cm o hyd yn y gornel dde waelod. Barn Y Selar: Ddim y pris gwerthu mawr sy’n arfer ymddangos yn Î-Bê ond roedden ni’n hoffi golwg hon, a heb roi sylw i Recordiau’r Ddraig o’r blaen. Tair chwaer o Ddyffryn Nantlle oedd Brethyn Cartref, a’r label yn cael ei redeg gan y Parch. D. Ben Rees yn Lerpwl.
A hithau’n Eisteddfod unwaith eto, uchafbwynt y calendr cerddorol yng Nghymru, rydym wedi penderfynu sefydlu Gorsedd Y Selar. Cyflwynir anrhydeddau Gorsedd Y Selar i gydnabod cyfraniad arbennig i’r sin gerddorieth Gymraeg.
GORSEDD
Y SELAR Y RHEOLAU Rhoddir y Wisg Las i gyfranwyr distaw y sin. Rhoddir y Wisg Werdd i’r cerddorion eu hunain. Dim ond rhywun sydd wedi ennill un o Wobrau’r Selar gaiff wisgo’r Wisg Wen.
ANRHYDEDDAU MALDWYN A’R GORORAU MICHAEL AARON – Gwisg Las i un o ffans mwyaf y sin am fod yn brif ail-drydarwr Y Selar. GARETH IWAN JONES – Gwisg Las wrth iddo roi’r gorau i fod gynhyrchydd rhaglen Lisa Gwilym, sydd wedi cipio teitl ‘Cyflwynydd Gorau’ Gwobrau’r Selar deirgwaith.
IOLO SELYF – Gwisg Werdd i brif leisydd Y Ffug am... wel, jysd am fod yn Iolo Selyf.
BILLY MORLEY – Gwisg Werdd i
Y STORM – Gwisg Werdd i’r band o
gitarydd Y Ffug am wneud pethau eitha’ anhygoel efo gitâr.
Ysgol OM Edwards, Llanuwchllyn, am chwarae i gynulleidfa o 10,000 yn 10 ac 11 oed!
LEWIS WILLIAMS – Gwisg Wen i’r drymiwr amryddawn am fod yn Offerynnwr Gorau Gwobrau Selar 2015 ac am lwyddo i jyglo bod yn ddrymar i ddau fand mwyaf y sin.
YWS GWYNEDD – Gwisg Wen am comeback y ganrif.
Griff ar Grwydr Mae hi’n job anodd ond mae’n rhaid i rywun ei gwneud hi... Mae Griff wedi bod ar grwydr yn ddiweddar, ar dir mawr Ewrop yn cyfarfod rhai o gerddorion alltud yr SRG. Yn ddiweddar ges i’r cyfle i ymweld â cherddorion Cymraeg, sydd bellach yn byw ar y cyfandir. Owain Ginsberg gynt o’r Heights, a bellach gyda We Are Animal; Mini, o Texas Radio Band a Losin Pwdr; ac Owain Trwbador. Mi fysa hi’n deg dweud ’mod i’n ffan o waith yr holl artistiaid. Nes i dyfu fyny yn addoli’r arwyr lleol, The Heights; roedd perfformiadau Texas Radio Band ar Bandit yn ffefrynnau; a ma’ Trwbador yn fyw yn wych. Braf felly oedd cael treulio diwrnod ym mywyd Owain yn Longueil-Sainte-Marie, tu allan i Baris; Mini yn Vitoria-Gasteiz, Gwlad y Basg; ac Owain Trwbador ym Merlin. Ma’n ddiddorol sut ma’ ardal neu fath o fywyd yn dylanwadu ar waith artistiaid. Gan fod Mini yn byw yng Ngwlad y Basg, mewn cyd-destun nid anhebyg i Gymru, mae ei angerdd i ganu yn ei famiaith wedi chwyddo. Ma’ hynny i weld yn amlwg yn y prosiect, Losin Pwdr, sy’n cyfuno synth pop arbrofol gydag alawon cofiadwy. Mae’n byw ym mhrifddinas Gwlad y Basg, felly mae’n cael ei atgoffa’n ddyddiol o hunaniaeth genedlaethol, a phwysigrwydd diwylliannau lleiafrifol, fel y byddai yng Nghaerdydd debyg. Mae Owain Ginsberg ar y llaw arall wedi gwneud cysylltiadau cerddorol yn Ffrainc a Gwlad Belg, sy’n rhoi mwy o sgôp a chynulleidfa Ewropeaidd i We Are Animal, mae’r band wedi teithio’r wlad gyda Joy Formidable. Mae bellach hefyd yn cynhyrchu caneuon ei gariad, Claire, sy’n Ffrances. Yn rhyfedd, gan fod yr ardal y mae’n byw ynddi yn un wledig, mae ei fywyd yn ddigon tebyg i’w fywyd yng ngogledd Cymru. Newydd symud i Ferlin mae Owain Trwbador, felly cawn weld pa effaith gaiff hynny ar ei waith. Mae o ar fin dechrau prosiect newydd sbon, ac yn prysur greu cysylltiadau ym myd cerddorol y ddinas. Mae’n galonogol iawn fod yr artistiaid yma yn dal i gyfrannu i’r SRG er eu bod yn byw bywyd yn bell ohoni. Mae hyn yn profi efallai, y dywediad gwych hwnnw, ‘gorau Cymro, Cymro oddi cartref’.
y-selar.co.uk
23
adolygiadau Les Soeurs Carw Braf ydi cael dweud fod sŵn yr EP yma wedi gwneud fy nghlustia’n hapus braf, felly ma’ rhaid i mi longyfarch y cynhyrchydd cyn cychwyn. Mae’r trac cyntaf, ‘Dagrau’, heb os fy hoff drac o’r EP, mor freuddwydiol o’r dechrau, a’r llais sydd â naws mor ddiniwed iddo’n fy ymlacio i’n llwyr. Mae hon yn adeiladu gyda haen ar ben haen o synau, a’r piano ‘go iawn’ yn y canol yn ychwanegu rhyw ddyfnder, oedd yn golygu bod fy mrên ymlaciedig dal yn mwynhau sypreis bob curiad neu haen newydd heb ddiflasu. Yn anffodus, doedd hyn ddim yn wir am weddill y traciau. O’n i’n ysu iddyn nhw adeiladu, neu newid cyfeiriad cyn y diwedd ond wnaethon nhw ddim, a gan fod pob un yn gorffen yn weddol debyg, ges i ’ngadael braidd yn siomedig. Er i mi wir fwynhau cael fy lluchio yn ôl i’r 80au hefo sŵn ‘Elevate’ a ‘Bysedd’, ’on i’n teimlo’n bechod nad oedd y steil ailadroddllyd nodweddiadol yma yn fy mhlesio i gymaint â’r trac cyntaf! Ella mai diffyg dealltwriaeth o’r math yma o fiwsig sy’n golygu mai
anhebygol fydda i o fynd yn ôl at yr EP cyfan, ond mi fydda i’n gwrando ar ‘Dagrau’ eto ac eto dwi’n siŵr! Elain Llwyd
Sŵnami Sŵnami Heb os, mae’r albwm yma yn un o gasgliadau mwyaf cyffrous yr haf wrth i Sŵnami lwyddo i’ch amsugno i fyd arall. Mae llawer o ddylanwadau wedi’u plethu trwy’r caneuon, wrth i elfennau cryf o gerddoriaeth roc, pop, electronig a seicedelig gael eu cyflwyno mewn ffordd hynod ddiddorol. Mae caneuon megis ‘Mewn Lliw’ yn fy atgoffa o waith diweddar Arctic Monkeys, tra mae ‘Magnet’ yn fy atgoffa o waith Tame Impala. O wrando ar y cynnyrch yn ei gyfanrwydd, ceir awgrym fod sŵn y band yn newid ac ehangu o’i gymharu â’r EP, Du a Gwyn, a ddaeth allan yn 2013. Ond mae’r riffiau bachog a’r alawon cofiadwy yn parhau i fodoli, a chredaf y bydd sawl cân ar y casgliad yma’n mynd yn sownd yn eich pen. Rwyf hefyd yn hoff iawn o’r ffaith fod trac Saesneg ar yr albwm, dwi’n credu ei bod hi’n bwysig ehangu gorwelion,
Hadyn Y Reu Does dim llawer o fandiau fyddai’n meiddio, nac yn mynd yn ddi-gosb, am ddechrau record gyda dyfyniad gan Charles Manson. Ond dyw Y Reu ddim yn fand arferol. Mae’r gân gyntaf ar yr EP, ‘Intro’, yn dechrau gyda sŵn adar bach ar ddiwrnod braf cyn i ni gael dyfyniad y llofrudd sy’n arwain at drac tywyll electronig, nid yn annhebyg i’r ddeuawd Ffrengig, Justice. Ond gyda’r llinell anfarwol, “Ond ffwcio hynna, dwi’n cal
a dangos i gynulleidfaoedd o du allan i Gymru fod safon y gerddoriaeth sy’n cael ei gynhyrchu yma llawn cystal ag unrhyw gerddoriaeth sy’n cael ei gynhyrchu unrhyw le arall, fel y mae Sŵnami wedi ei brofi yn barod. Edrychaf ymlaen at glywed yr albwm yn cael ei chwarae yn fyw. Gwrandewch a mwynhewch. Ifan Prys
Ffynhonnell Ffôl Terfysg Mae Terfysg yn fand bach difyr...yn dod o Ynys Môn, ond heb y ‘sŵn Môn’ ‘na sy’n gyfarwydd i ni. Beth sy’n sicr ydy bod Terfysg yn gasgliad o offerynwyr arbennig o ddawnus, ac mae gan Dewi Erwan, y ffryntman, goblyn o lais cry’. Y cynhwysion i gyd felly ac mae’r EP cyntaf yma’n dangos cryn addewid. Maen nhw’n dynn iawn, a’u sŵn yn un llawn efo digon o bôls. O’r ‘Intro’ roc trwm, awgrym o sŵn reggae ‘Rysian’, synths 80au ‘Castallan’, a’r rapio yn ‘Niweidio Nhw yn Ôl’ mae tipyn o amrywiaeth ar yr EP yma a dim o’i le ar hynny. Yr un peth sy’n gyson ydy’r drymio cadarn a gitâr fas pwerus sy’n gyrru’r holl ganeuon, gydag ambell
sesh Frosty Jacks fa’ma ia” cawn ein cludo dros ein pen a’n clustiau i mewn i wal o sŵn ‘Paid a Meddwl’ ac yna ‘Hadyn’ sy’n asio’r gitârs trwm a synau electronig yn gelfydd. Ond beth sy’n arbennig am Y Reu yw eu gallu i symud o un genre i un arall yn ddiymdrech heb golli hunaniaeth y band. Gyda’r ddwy gân epig sy’n cloi’r EP, ‘Mhen i’n Troi’ a ‘Gwell na Hyn’, mae Y Reu yn ennill eu lle fel y band i’w gweld yn fyw yr haf hwn, heb fod ofn mentro i fyd caneuon gwleidyddol. Fel maen nhw’n ei ddweud yn Nyffryn Nantlle – Reu dy fam reu. Ciron Gruffydd
GWRRHAID AND O
sbarc gan y gitâr flaen a’r synths. Gwerth nodi bod negeseuon gwleidyddol am anghyfiawnderau’r byd yma’n frith trwy’r EP a hynny’n dda i’w weld gan grŵp ifanc. Da rŵan hogia. Owain Schiavone
Un Ar Ôl Y Llall Y Cledrau Gallai’r Cledrau fod yn gefnder ifanc i fandiau fel Sŵnami a Candelas, digon rhwydd dychmygu Candelas yn canu sawl cân sydd yma. O’r trac cyntaf mae’r llais, y gitârs a’r dryms i gyd yn cydweithio’n dda, mae’r newid tempo yn dangos eu bod i gyd yn gyfforddus â’u hofferynnau a gyda’i gilydd. Er bod dau brif leisydd mae’r un hyder yn perthyn i bob cân, a’r cydweithio tynn yn aros. Mae’r EP yn agor yn llawn agwedd a hyder gyda ‘Be Sydd ar Ôl’, ac mae’r agwedd a’r hyder hwnnw’n aros. Mae e’ ar ei orau yn ‘Dos i’r Ysgol’ wrth i riff gitâr heriol agor a gosod y dôn o’r dechrau cyn dychwelyd sawl gwaith. Mae’r gân, a llinellau fel “dos i’r ysgol fel hogyn ufudd” wedi aros gyda fi a dwi’n credu’r geiriau, yn gallu eu gweld nhw’n herio unrhyw awdurdod. Mae ‘Pwy Dd’udodd Fydda i Lawer Gwell’ ac ‘Ail-Ailadrodd’ yn dechrau’n dawelach. Mae naws trymach i ‘AilAiladrodd’ gyda mwy o le i’r gitâr fas, ond eto dydy’r un o’r ddwy yn rhyw araf iawn ac ma’r ddwy yn pigo lan wrth fynd ‘mlaen, mewn tempo a melodi. Mae gan Y Cledrau allu cerddorol a geiriol ond mae angen iddyn nhw fentro, a gweld pa sŵn all ddatblygu. Gellid yn rhwydd eu hystyried yn fand pop-roc arall, ond os ydyn nhw’n barod i fentro a rhoi’r hyder sy’n eu cerddoriaeth ar waith gallwn ddisgwyl pethau mawr. Bethan Williams
Yn y Dechrau Y Trŵbz Albwm gyntaf fentrus sydd gan Y Trŵbz i’w gynnig i ni. Mae cân gyntaf y casgliad, ‘Yn y Dechrau...’ yn gyflwyniad teilwng i’r band, gyda deuawd hudolus rhwng Mared a Morgan a geiriau clyfar sy’n ystyried natur y ddynoliaeth, (Tipyn o gamp i fand ifanc!) Mae ‘Tic Toc’ hefyd yn drac tebyg, a’r sengl gyfarwydd ‘Tyrd yn Ôl’, y ddwy gân yn adleisio rhai o’r bandiau roc clasurol megis Led Zeppelin. Ar y llaw arall, mae gennych alawon tyner y traciau tawelach megis ‘Paid Aros am y Glaw’ ac ‘Enfys yn y Nos’ yn dangos
nad one trick pony mo’r band hwn. Credaf efallai y byddai wedi bod yn well cymysgu’r ddau drac Saesneg ymysg gweddill y casgliad, yn hytrach na’u gosod ar y diwedd fel rhyw fath o afterthought, ond peth bach digon pitw yw hynny. Dyma albwm sy’n rhemp o riffs sy’n bloeddio, wedi eu gwrthgyferbynnu â chaneuon tyner sy’n adeiladu at grescendo ‘November Rain’-aidd. Miriam Elin Jones
A Oes Heddwch? VIP Roughion Gwnaeth y sengl yma barhau i roi sypreisus i mi reit tan y diwedd. Bob tro o’n i’n meddwl fod yr adeiladwaith yn mynd i fynd un ffordd, roedd o’n ychwanegu sŵn neu effaith arall i’w droi mewn i rywbeth newydd eto. Dwi wrth fy modd yn clywed llais Christine, ein harchdderwydd presennol, mewn trac fel ‘ma ac mae’r recordiad o’i llais yn cael ei ddefnyddio i greu drop diddorol yn y trac. Mae o’n dangos gymaint am Gymry ifanc heddiw sydd allan yna’n arbrofi’n greadigol ond hefo’r cysylltiad cryf ‘ma i’r hen draddodiadau. Fedrai’m disgwyl i weld llond lle o bobl ifanc yn dawnsio’n wyllt i’r sengl yma yn oriau mân y bora… mwy na thebyg y bydda i yno hefyd! Elain Llwyd
ei chytgan, a dyna’n union y mae’r gân yma yn ei wneud i mi. Os oes modd i bedwar munud o gerddoriaeth gynrychioli tymor, yna mae sengl ddiweddaraf Dan Amor yn diffinio’r haf i mi. Does yna ddim byd cymhleth yma, dim ond alaw syml gitâr acwstig, ychydig o adeiladwaith neis dryms a phiano yn y cytgan a llais di ymdrech hawdd gwrando arno. Dwi’n gwybod be’ ’da chi’n ei feddwl... fe allai hwnna fod yn ddisgrifiad o unrhyw gân Dan Amor, ond be’ di’r otsh? Os ydi rhywbeth yn gwneud i’ch calon chi wenu, pam fysach chi eisiau iddo fo newid? Mi fyswn i’n gorffen efo ryw cliché diog tebyg i “yr unig gŵyn s’gen i ydi mai dim ond un trac sydd yma...” bla bla bla... Mae’r sengl yma’n haeddu gwell na hynny felly dwi am fod reit uniongyrchol efo chi. Mae ‘Penwythnos Heulog’ yn dda, prynwch hi, punt ydi hi! Gwilym Dwyfor
Penwythnos Heulog Dan Amor “Ti’n gwneud imi deimlo fel penwythnos heulog” yw llinell gyntaf
adolygiadau Paid â Deud Gildas Record hir o ‘gyfyrs’ sydd gan Gildas i’w gynnig yn Paid â Deud. Mae’r albwm yn cynnwys elfennau amrwd a thraciau ysgafn hyfryd, sy’n plethu i greu sain gwerinol i’w chraidd. Yn sicr, does yna ddim dadlau am allu cerddorol Arwel Lloyd. Gyda fersiynau acwstig a diniwed o glasuron Cymraeg a Saesneg, rhoddwyd twist cymharol fodern ar sŵn traddodiadol. Mae’r harmonïau penigamp
Heneiddio Uumar Am y tro cyntaf yn fy mywyd dwi’n gallu cyhoeddi fod ‘Heneiddio’ yn beth da. Mae teitl-drac sengl newydd Uumar yn gachboeth. Mae’r dryms a’r bas yn hoelio’r sylw’n syth o’r intro, cyn i’r gitârs ymuno am ddau funud o chwys pleserus. Does yna ddim byd arloesol yma, jysd ’chydig o chwarae caled gonest. Yn wir, mae ‘Heneiddio’ mewn mannau yn fy atgoffa o stwff Winebago neu Kentucky AFC bac-inddy-dê, sydd ddim yn beth drwg wrth gwrs. ‘Dan Fy Nhroed’ yw’r b-side ac nid cân dawns gyntaf mewn priodas mo hon chwaith. Lot o gitâr, lot o angerdd, lot o hwyl. Dydw i ddim mor hoff o’r vocals ar hon, does yna ddim byd yn bod arnyn nhw, dwi jysd ddim
yn plethu â’r gerddoriaeth syml, ailadroddus ac yn creu sŵn hollol wreiddiol a hudolus. Nodwedd apelgar ofnadwy i’r albwm yw’r naws hafaidd sy’n deillio o’r defnydd cyson o gitâr acwstig a thempo pwyllog. Mae’r prif leiswyr yn rhoi naws osgeiddig i’r traciau sy’n deilwng o sain garw’r crynswth offerynnol, yn benodol yn ‘Pererin Wyf’ a ‘Traffic Light Lady’. Heb os, mae Gildas yn plesio efo’r record yma - y dewis perffaith i ymlacio ar ddiwedd dydd gyda phaned. Megan Tomos
yn siŵr os oes eu hangen nhw, dwi’n meddwl ella fysa fo’n gweithio fel trac offerynnol. Mae’r dryms ar ‘Dan Fy Nhroed’ yn anhygoel ac ella fysa wedi bod yn well gadael llonydd i’r rheiny gael y sylw i gyd. Mae ‘Heneiddio’ yn fwy o gân a ‘Dan Fy Nhroed’ yn fwy o jam, a dyna pam dwi’n meddwl fod hon yn gweithio cystal fel sengl. Gwilym Dwyfor
Gwawrio Yr Adar ’Dw i’n siŵr fod gan Yr Adar botensial mawr i fod yn fand byw da gyda chaneuon cofiadwy, sy’n hawdd eu cydganu. Yn anffodus nid oedd yr EP hwn yn ategu hynny’n rhy aml. Gyda chymysgedd od o ganeuon nad ydyn
nhw bob tro yn gwneud synnwyr, mae eu hymgais recordio gyntaf yn swnio’n frysiog ac mewn gwir angen o chwistrelliad mawr o wreiddioldeb. Petai’r EP hwn yn demo (mae’n swnio felly weithiau), gallaf ddeall pam y byddai rhywun eisiau treulio amser mewn stiwdio efo’r band. Mae gan ‘Y Glaw’ a ‘Cig a Gwaed’ naws debyg i ganeuon a oedd yn boblogaidd yn y 90au sy’ dal ymhlith ffefrynnau’r cyhoedd heddiw. Dim ond i Yr Adar feithrin eu crefft a meddwl mwy am sut fand maen nhw eisiau bod cyn recordio albwm, mi fyddan nhw’n iawn. Ond ar hyn o bryd, maen nhw’n swnio fel fersiwn geiniog a dime o Y Bandana (gwrandewch ar ‘Mrs Lee’) gyda lovechild Martin Beattie ac Elfed Morgan Morris yn canu. Lois Gwenllian
Ble’r aeth yr haul Yr Ods Ro’n i’n ffan mawr o Llithro, albwm diwethaf Yr Ods – efallai albwm Gymraeg gorau’r bum mlynedd ddiwethaf i mi. Am resymau amrywiol, gweddol segur ydy’r band o’i gymharu â’r prif fandiau eraill fel Sŵnami, Candelas ac Y Bandana ac weithiau dwi’n teimlo nad ydyn nhw’n cael y gydnabyddiaeth maen nhw’n haeddu oherwydd hynny, achos yn gerddorol maen nhw’n wych. Ta waeth am hynny, ro’n i’n falch bod eu sengl newydd wedi’i dorri o’r un brethyn a rhai o ganeuon gorau Llithro. Mae’n agor gyda percussion bywiog sy’n awgrymu bod rhywbeth cyffrous i ddod, cyn i lais cyfarwydd Griff ymuno â’r adeiladwaith gyda “ble’r aeth yr haul, ble’r aeth yr haul... ble’r aeth y gwynt, ble’r aeth y gwynt” (ailadrodd geiriau wastad yn gweithio tydi). Ac yna rydan ni’n cyrraedd uchafbwynt gyda’r newid cywair clyfar ar gyfer y gytgan anthemig. Ydyn, mae’r Ods yn gallu sgwennu tiwn, ac mae hon yn un arall i’w casgliad helaeth. Owain Schiavone
Is -r a d
de
d ig io n
Dydd Sadwrn 10 Hydref Dydd Sadwrn 31 Hydref
2 015
Diwrnoda uA
ed i r go
Cofrestrwch nawr: abertawe.ac.uk/ar-frig-y-don
#arfrigydon Prifysgol Abertawe @Prif_Abertawe
30
UCHAF Y DU
26 52
Prifysgol Abertawe wnaeth y naid fwyaf o brifysgolion ymchwill y DU, gan neidio o safle 52 i safle 26
20
ar gyfer swyddi i raddedigion
UCHAF
Tabl canllaw The Times and The Sunday Times Good University Guide 2015
Lleoliadau gwaith a phrofiad rhyngwladol
Addysg a phrofiad myfyriwr Cymraeg a Chymreig ar draws ystod o bynciau
Prifysgol sy’n codi i’r brig
Addysg ragorol
fydd yn agor drysau i chi ar ôl graddio
www.abertawe.ac.uk @PrifAbertawe ac @AcademiHTeifi
5*QS
Cyrsiau cyfoes fydd yn eich paratoi ar gyfer byd gwaith
Cyfle i ehangu eich gorwelion mewn lleoliad heb ei ail
01792 205678
PrifAbertawe
Prifysgol Abertawe ac AcademiHywelTeifi