Y Selar - rhifyn mis Mawrth 2017

Page 1

Rhif 48 | Mawrth | 2017

Yws

Gwynedd Y Band yn Bing Welsh Whisperer | Ffracas | 10 Uchaf Albyms Gorau 2016 y-selar.co.uk

1


WYTHNOS LAWN O GIGS, ADLONIANT A CHOMEDI . . .

gigs CYMDEITHAS BODEDERN

CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG YN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL MÔN

5-12 AWST 2017

hysbyseb 1/2 tudalen selar gigs steddfod cyig 2017.indd 1

26/01/17 18:59

AGORA DDRWS DY DDYFODOL TYRD I WNEUD CYMRAEG YM MANGOR

DEWIS HELAETH O GYRSIAU: • Cymraeg • Cymraeg Proffesiynol • Cymraeg gyda Newyddiaduraeth • Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol • Cymraeg Creadigol gyda Cherddoriaeth Boblogaidd • Cymraeg Cyd-anrhydedd

CYSYLLTA Â NI: 01248 382083 cymraeg@bangor.ac.uk www.bangor/ysgolygymraeg


y Selar

cynnwys

RHIF 48 | MAWRTH | 2017

Golygyddol Mae’r Gwobrau wastad yn amser da i ddal ein gwynt, cymryd cam yn ôl, asesu a gwerthuso cyflwr y sin. Casgliadau; dwi’n meddwl ei bod hi’n eithaf cryf o hyd. Mae canlyniadau’r gwobrau’n profi i’r llynedd fod yn flwyddyn ddigon llewyrchus ac er nad oes cymaint â hynny o gynnyrch newydd o gwmpas ar hyn o bryd fe welwch chi rhwng cloriau’r rhifyn hwn fod blwyddyn fawr ar y gweill gan rai o’n prif artistiaid. Tu hwnt i’r sin, mae’r byd wedi newid cryn dipyn ers i ni fod yma ddiwethaf. Ac er na fu hi’n flwyddyn wych i’r rhai creadigol rhyddfrydig yn ein plith, mae rhai o ddigwyddiadau’r deuddeg mis diwethaf wedi cynnig cyfle hefyd. Fe fydd hi’n ddiddorol gweld sut fydd y sin gerddoriaeth Gymraeg yn ymateb yn greadigol. Gwilym Dwyfor

7

8

Welsh Whisperer

4

Ti ‘di Clywed? Ffracas

7

Gwobrau’r Selar

8

Yws Gwynedd

10

Selar yn y Stiwdio

14

10 Uchaf Albyms Gorau ‘16

16

Adolygiadau

20

Gigio gyda’r Selar

22

Llun clawr: Kristina Banholzer

10

GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

@y_selar

DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

y-selar.co.uk

MARCHNATA Ellen Hywel (hysbysebionyselar@gmail.com) CYFRANWYR Ifan Prys, Bethan Williams, Elain Llwyd, Gethin Griffiths, Ani Glass, Megan Tomos, Rhys Tomos, Ceri Phillips, Lois Gwenllian, Miriam Elin Jones, Leigh Jones, Ciron Gruffydd

16

facebook.com/cylchgrawnyselar

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar. 3


Welsh Whisperer

4

y-selar.co.uk


Dychwelodd canwr gwlad a gwerin doniolaf Cymru gyda’i ail albwm cyn y Nadolig. Atgoffodd hynny ni nad ydym erioed wedi rhoi’r byd yn ei le gyda’r Welsh Whisperer felly dyma’r cyfle perffaith am Sgwrs Sydyn.

Yr albwm newydd allan ers cwpl o fisoedd, sut ymateb mae Y Dyn o Gwmfelin Mynach wedi ei gael? Grêt! Lot o bobl yn dweud faint ma’ nhw’n mwynhau gwrando ar y CD yn y car/tractor/gegin ayb. Wedi mynd lawr yn dda ar Radio Cymru a Radio Wales hefyd. Haleliwia. Lle fuost ti’n recordio a phwy wnaeth gynhyrchu? Wythnos yn Stiwdio Fflach yn Aberteifi gyda Lee Mason a Gruff Meredith (MC Mabon). Band llawn yn cynnwys Lee (gitarydd Lowri Evans), Wyn ac Osian (Ail Symudiad), Reuben Wilsdon-Amos (Dhogie Band) ac Angharad Morris. Aka YR HAMBON BAND! Y cwestiwn pwysicaf, beth all unrhyw un sydd heb wrando eto ei ddisgwyl? John ac Alun ar speed. Deall fod Bryan yr Organ wedi bod yn y stiwdio hefyd, sut brofiad oedd gweithio gydag ef? Unrhyw diva moments? Dim diva moments, dim ond alawon acordion aur a lot o regi. Dyma ail albwm Welsh Whisperer, sut mae hi’n cymharu â Plannu Hedyn Cariad? Mae’r caneuon yn fwy canu gwlad na rhai gwerinol PHC, ond o ran y vibe mae’n swnio’n dewach. Dros ddwy flynedd rhwng y ddwy record, ai caneuon cymharol newydd yw’r rhain neu rhai wedi eu hysgrifennu dros y cyfnod hirach hwnnw? Cafodd y rhan fwyaf eu hysgrifennu yn y misoedd yn arwain at recordio, ond o’n i wedi bod yn canu cwpwl ohonyn nhw’n fyw. Mae caneuon WW yn mynd a dod yn eithaf aml, mae rhai pethau’n sticio a rhai’n fflopio bigtime ac yn mynd i’r bin.

Beth yw’r broses recordio? Yw’r caneuon yn eithaf cyflawn o flaen llaw neu wyt ti’n mynd yno gyda sgerbwd a gweithio arnyn nhw yn y stiwdio? Y tro yma gyda band llawn yn y stiwdio roedd steil y caneuon yn newid wrth jamio. Cafodd y rhan fwyaf o’r traciau eu recordio bron yn fyw. Jamio, ymarfer a recordio ar ôl cwpwl o takes. Pa fath o gerddoriaeth oeddet ti’n gwrando arno yn ystod y cyfnod recordio? Boi o’r enw Seamus Moore. Gwglwch fe! Oes yna rai o’r dylanwadau hynny i’w clywed yn y cynnyrch terfynol? Mae rhai dylanwadau cerddorol yn dod o Iwerddon lle mae canu gwlad/ gwerin gyda hiwmor yn boblogaidd iawn. Mae pobl yno’n fwy parod i yfed deg peint a chael hwyl unrhyw noson o’r wythnos ond ers i fi ddechrau’r slap ’n tickle Cymraeg mae pobl wedi dechrau dod chwarae teg. Fe welsom ni ti’n cyd gyfansoddi gyda Hywel Pitts ar Y Lle yn ddiweddar, sut brofiad oedd hynny ac a oes cynlluniau i gydweithio eto? Ie roedd hwnna’n hwyl. Mae Y Lle yn awyddus i recordio mwy o’r Simon & Garfunkel Cymraeg felly mae hwnna’n gwd thing yndyw e? Yn ôl at yr albwm, oes gen ti hoff gân o blith y casgliad, a pham? Wnes i joio recordio ‘Ticlo ei Ffansi’. Mae ‘Loris Mansel Davies’ wedi cael tipyn o sylw gan unrhyw un sydd erioed wedi gyrru yn y wlad ’ma. Roedd recordio ‘Ceidwad y Beudy’ yn bonkers! Mae Jake Hollyfield o Uncles of Groove (gwglwch fe) yn gwneud mixes Ibiza style o sied yn Nhrefdraeth felly pwy well i mi gydweithio ag ef na’r Basshunter Cymraeg? Pa un fydd yr “hit”? O’n i’n meddwl bydde ‘Ticlo ei Ffansi’ yn mwynhau’r mwyaf o sylw (a dyw hi ddim yn rhy hwyr glei), ond mae nifer eraill wedi bod yn boblogaidd hyd yn hyn, ‘Loris Mansel Davies’, ‘Classifieds y Farmer’s Guardian’, ‘Cân yr Hambon’ a

‘Ni’n Beilo Nawr’. Rhaid diolch i Geraint Lloyd o flaen llaw am dalu’r morgais. Pa gân oedd y sialens fwyaf yn y stiwdio neu pa un wyt ti fwyaf balch ohoni? Rwy’n falch iawn o’r albwm, roedd e’n grêt gweithio gyda Lee sy’n ffan o ganu gwlad. Roedd ambell sialens ar hyd y daith gydag ail recordio lleisiau ac ychwanegu darnau gitâr ayb ond roedd yr holl beth yn lot o sbort! Beth oedd profiad mwyaf cofiadwy’r broses recordio? Unrhyw hanesion doniol neu droeon trwstan? Mae gweithio gyda Fflach a Tarw Du yn gofiadwy, wythnos o chwarae sili bilis. Un peth wi’n cofio yw Wyn Ail Symudiad yn stopio hanner ffordd trwy gân, gwneud siâp telesgôp gyda’i ddwylo a datgan ei fod e “wedi gweld e”... “Wedi gweld beth Wyn?”... “Crowd Tony ac Aloma, a ni’n mynd ar eu hôl nhw!” Ac wrth glywed y ceisiadau ar raglen Wil Morgan, falle ei fod e’n iawn! Beth fyddai’r gweithgaredd perffaith i gydfynd â gwrando ar yr albwm? Gyrru unrhyw le yng nghefn gwlad Cymru mewn pickup truck (minus Mansel Davies). A fu gig neu daith lansio? Roedd yr wythnos rhyddhau yn brysur gyda chyfweliadau teledu a radio ond dim gig lansio penodol. Fe benderfynom ni roi cyfle i’r siopau werthu CDs cyn y Nadolig a rhyddhau’n ddigidol a gwerthu trwy welshwhisperer.cymru ym mis Ionawr. Ma’ ishe prynu’n lleol! Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Welsh Whisperer ar record a Welsh Whisperer yn fyw? Dim llawer, mwy o dance moves yn fyw. Gwertha Y Dyn o Gwmfelin Mynach i ni mewn pum gair! Gwlad, gwlad, gwlad, Cymreig, hanfodol. Gigs ar y gweill 4/3 Gwesty’r Celt, Caernarfon (gyda Clive Edwards) 18/3 Gwesty Llanina (gyda John ac Alun a Dafydd Pantrod) 31/3 Canolfan Nefyn (gyda Patrobas) 5


CEFNOGI’R GERDDORIAETH NEWYDD ORAU YNG NGHYMRU BACKING THE BEST NEW MUSIC IN WALES bbc.co.uk/horizons 3 Horizon_200x140_Gwobrau_press.indd 1

01/02/2017 18:16

LLYFRAU GWYCH AM Y SRG! £14.99 £4.95

£14.95 £9.95

£9.95 £9.95

Poster Y Blew £5

Gwybodaeth am holl lyfrau’r wasg yn www.ylolfa.com

#LlyfrauDrosGymru

Cefnogi Cerddoriaeth Gymraeg

@bbcradiocymru bbc.co.uk/radiocymru

3 RC Y Selar ad 128 x 90mm.indd 1

23/01/2017 14:12


d ... e w

ac ffr

as

d. we .. T

di Cly i T

i di Cly

Pwy? Band ifanc o Lŷn yw Ffracas; Jac Williams (llais a bas), Sion Adams (gitâr), Owain Lloyd (dryms) a Ceiri Humphreys (gitâr). Er eu bod dal yn yr ysgol maent wedi bod o gwmpas ers blynyddoedd, fel yr eglura Jac. “Mi nath Sion, Owain a Ceiri ffurfio band i frwydr y bandiau’r Urdd yn 2012 tra roeddent yn yr ysgol gynradd, wedyn ail ddechra’ yn yr ysgol uwchradd efo fi’n canu a chware’r gitâr fas.” Sŵn? “Mae o’n gallu newid lot yn dibynnu ar mood neu bryd ’da ni’n sgwennu’r gân,” eglura Jac. “’Da ni’n gallu newid ein sŵn i siwtio gigs gwahanol. Ar y cyfan mae o reit chilled a laid back.” Y gwir amdani yw bod y rhan fwyaf o fandiau yn hoffi disgrifio’i sŵn fel “amrywiol” ond mae o’n berffaith wir yn achos Ffracas. Fysa ‘Cyffwrdd Paid Dweud’ ddim allan o’i lle ar record Ysgol Sul, mae yna nòd i SFA mewn arddull yn ogystal ag enw yn ‘Dacw Hi’ a dwi’n cael ychydig o

Big Leaves a’r Bandana yn ‘Fi Di’r Byd’. Ceir elfennau o amrywiol arddulliau ond mae’r naws ymlaciedig hwnnw y cyfeiriodd Jac ato’n llinyn cyson yn rhedeg trwy’r holl stwff. Dylanwadau? Yr hyn sydd yn drawiadol wrth i Jac restru rhai o ddylanwadau’r band yw pa mor aeddfed ac eangfrydig yw diddordebau cerddorol yr hogia’ ysgol. “Mi ydan ni gyd yn gwrando ar gymaint o stwff gwahanol, mae’n anodd deud yn bendant. New Order, Beach Fossils, Mac Demarco, SFA, The Strokes, Stone Roses, Beatles, Bowie. ’Swn i’n gallu mynd ymlaen am byth.” Hyd yn hyn? Mae Ffracas wedi gigio’n galed dros y deuddeg mis diwethaf gydag uchafbwyntiau Jac yn cynnwys “chwarae Steddfod, Clwb Ifor a gig olaf Y Bandana yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon. Sesiwn Gorwelion yn Steddfod a sesiwn C2 ar gyfer rhaglen Lisa Gwilym.” Chwaraeodd y band yn Sesiwn Fawr a Gŵyl Arall hefyd yn ogystal â llu o gigs lleol. Yng nghanol y fath brysurdeb mae’n anodd credu iddynt gael amser i ryddhau EP yn 2016 ond dyna’n union a wnaethant, gan wneud hynny’n gyfan gwbl ar liwt eu hunain hefyd! Ar y Gweill Efallai iddynt ryddhau eu deunydd cyntaf eu hunain ond

mae Ffracas wedi denu sylw label erbyn hyn. “’Da ni newydd ymuno â recordiau I KA CHING,” eglura Jac. “’Da ni’n edrych ymlaen at ryddhau senglau ac EP neu albwm yn y dyfodol agos. Gawsom ni ein henwebu mewn dau gategori yng Ngwobrau’r Selar hefyd a’n tipio fel un o’r tri band mwyaf cyffrous i gadw golwg arnynt yn 2017 gan Dyl Mei.” Ac mae Dyl Mei yn gwybod ei stwff. Uchelgais? Gyda chymaint o gynlluniau yn 2017 does fawr o syndod nad yw Ffracas yn edrych yn llawer pellach na hynny ar hyn o bryd. “Sgen i’m syniad lle fyddwn ni mewn wsos heb sôn am flwyddyn,” meddai Jac. “Gweld sut ma’ hi’n mynd nawn ni.” Barn y Selar Y ganmoliaeth fwyaf y gallaf ei rhoi i Ffracas yw nad ydynt yn swnio fel band ysgol. Mae yna ryw aeddfedrwydd yn perthyn i’r holl beth, y gerddoriaeth, y geiriau, yr holl becyn. Mae rhyddhau deunydd eu hunain yn dangos mentergarwch a’r gigio cyson yn profi eu parodrwydd i weithio’n galed. Arwyddion da.

GEIRIAU: GWILYM DWYFOR GWRANDEWCH OS YN FFAN O SEN SEGUR, YSGOL SUL A SUPER FURRIES

7


GWOBRAU’R SELAR 2016

Trwy gydol mis Rhagfyr, a dechrau Ionawr bu darllenwyr Y Selar yn pleidleisio yn eu cannoedd dros enillwyr Gwobrau’r Selar eleni. Nawr, mae’r dyfalu ar ben....dyma enillwyr Gwobrau’r Selar 2016.

CÂN ORAU (Noddir gan Ochr 1) RHESTR FER: Gweld y Byd Mewn Lliw – Band Pres Llareggub Cyn i’r Lle Ma Gau – Y Bandana Canfed Rhan - Candelas

CYFLWYNYDD GORAU (Noddir gan Heno) RHESTR FER: Tudur Owen Huw Stephens Lisa Gwilym

ENILLYDD: CYN I’R LLE MA GAU – Y BANDANA Wedi cyfnod cymharol dawel, ac aelodau’n gweithio ar brosiectau cerddorol eraill...neu ar fod yn ddoctoriaid...doedd hi ddim yn syndod i’r Bandana gyhoeddi eu bod nhw’n chwalu. Ond fe gawsom nhw flwyddyn gofiadwy i ffarwelio....a’r Gân Orau ydy eu gwobr gyntaf o’r flwyddyn honno.

ENILLYDD: LISA GWILYM Beth, dim Dyl Mei ar y rhestr fer! Gyda Dyl allan o’r pictiwr, ac er rhannu’r wobr yma gyda Huw Stephens llynedd, mae pethau nôl i normal eleni gyda Lisa’n ennill gwobr y ‘Cyflwynydd Gorau’ yn gyfforddus. BAND NEU ARTIST NEWYDD GORAU (Noddir gan Gorwelion) RHESTR FER: Chroma Magi Tudur Ffracas ENILLYDD: FFRACAS Categori cryf eto eleni wrth i ffatri bop Cymru ddal i gynhyrchu artistiaid ifanc talentog. Y pedwarawd o Bwllheli a ryddhaodd eu EP cyntaf, Niwl, yn ystod y flwyddyn ddaeth i’r brig. DIGWYDDIAD BYW GORAU (Noddir gan Stiwdio Gefn) RHESTR FER: Gig Olaf Y Bandana Maes B – Steddfod Y Fenni Gig Y Pafiiwn – Steddfod Y Fenni ENILLYDD: MAES B Categori agos eleni gyda dau ddigwyddiad cofiadwy iawn, a hanesyddol, yn gwthio Maes B yn agos iawn am y wobr.

8

y-selar.co.uk

HYRWYDDWR GORAU (Noddir gan Radio Cymru) RHESTR FER: Clwb Ifor Bach Maes B 4a6 ENILLYDD: MAES B Does dim amheuaeth mai Maes B ydy digwyddiad cerddorol mwyaf y flwyddyn, ac er tegwch, mae’n rhaid bod yn hyrwyddwr da os am lwyddo i ddenu miloedd o bobl ifanc i gae Cymreig randym bob mis Awst does! ARTIST UNIGOL GORAU (Noddir gan Rondo) RHESTR FER: Yws Gwynedd Gwilym Bowen Rhys Alys Williams ENILLYDD: YWS GWYNEDD Ia, ia – nid artist unigol wyt ti Yws, ond band. Y drwg ydy, mae pobl yn dal i dy enwebu di yn y categori yma, a phleidleisio drosta ti yn eu cannoedd...felly be fedrwn ni wneud? Er hongian ei sgidiau pêl-droed yn ddiweddar, dyma’i hattrick yn y categori yma!


GWAITH CELF GORAU (Noddir gan Y Lolfa) RHESTR FER: Fel Tôn Gron – Y Bandana 5 – I Ka Ching IV – Cowbois Rhos Botwnnog ENILLYDD: FEL TÔN GRON – Y BANDANA Dyma gategori sydd bob amser yn ddifyr, yn enwedig ers i atgyfodiad feinyl ddod i gynnig cynfas mwy i’r gweithiau celf. Syniad gwreiddiol, a doniol, Y Bandana wedi’i gyfuno â ffotograffiaeth Rhys Thomas ac yna gwaith dylunio Bedwyr ab Iestyn i wireddu’r cysyniad oedd y ffefryn. OFFERYNNWR GORAU (Noddir gan Coleg Ceredigion) RHESTR FER: Gwilym Bowen Rhys Merin Lleu Osian Williams ENILLYDD: OSIAN WILLIAMS Dau o ffryntmen amlycaf Cymru’n mynd benben, ond da gweld cydnabyddiaeth i’w dawn offerynnol yn hytrach nag eu dawn i adlonni. Y wobr yn mynd i Osian,

ac yn gydnabyddiaeth o’i gyfraniad i Siddi, Cowbois Rhos Botwnnog ac Alys Williams yn ogystal â Candelas.

gwahanu’r ddau ddaeth i’r brig. Ail wobr i Ffracas gan goroni blwyddyn gofiadwy i’r grŵp ifanc

BAND GORAU (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth) RHESTR FER: Candelas Y Bandana Sŵnami

FIDEO CERDDORIAETH GORAU (Noddir gan S4C) RHESTR FER: Sgrin – Yws Gwynedd Bing Bong – Super Furry Animals Suddo – Yr Eira

ENILLYDD: Y BANDANA Enillwyr y wobr yma dair gwaith yn y gorffennol yn 2011, 2012 a 2013 felly mae’n briodol mai nhw sy’n cipio’r wobr am y flwyddyn y gwnaethon nhw chwalu. Un o fandiau mwyaf poblogaidd y ddegawd, a band mwyaf poblogaidd darllenwyr Y Selar yn 2016.

ENILLYDD: SGRIN YWS GWYNEDD Mae artist yn amlwg yn gwneud rhywbeth yn iawn os ydy o’n gallu cael blwyddyn dawel, ond dal ennill dwy wobr Gwobrau’r Selar. Ers ennill y wobr yma llynedd, mae fideo ‘Sebona Fi’ wedi cael ei wylio dros 100,000 o weithiau ar YouTube.... tybed a fydd ‘Sgrin’ yr un mor llwyddiannus?

RECORD FER ORAU (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg) RHESTR FER: Tân – Calfari Niwl – Ffracas Propeller – Cpt Smith ENILLYDD: NIWL - FFRACAS Y bleidlais agosaf eleni, a dim ond llond llaw o bleidleisiau’n

GWOBR CYFRANIAD ARBENNIG Geraint Jarman RECORD HIR ORAU (Noddir gan Rownd a Rownd) Fel Tôn Gron - Y Bandana (Mwy ar t.16-17) y-selar.co.uk

9


Lluniau: Kristina Banholzer

Ers ffrwydro yn ôl ar y sin ychydig flynyddoedd yn ôl mae Yws Gwynedd wedi creu cryn argraff. Does fawr o syndod felly fod dipyn o edrych ymlaen at ei ail albwm a fydd allan yn y gwanwyn. Lois Gwenllian a lwyddodd, ar ran Y Selar, i ddal Yws rhwng ymweliadau â’r stiwdio i sgwrsio ychydig am y record newydd.

10

Yws

Bing, y band a Bob Monkhouse

y-selar.co.uk


A

r gyfer ei albwm Codi /\ Cysgu (2014), menter unigol fu’r broses gyfansoddi i Yws Gwynedd ar y cyfan. “Rhoi ’nhroed yn y dŵr yn ôl ydw i ar hyn o bryd, a gweld be’ ma’ pobl yn feddwl.” Dyna ddywedodd y canwr o Flaenau Ffestiniog wrth Golwg 360 yn dilyn ei sesiwn unigol gyntaf, ar raglen Lisa Gwilym dros dair blynedd yn ôl, ym mis Hydref 2013. Yr adeg hynny, prin y byddai Yws wedi coelio’r llwyddiant a ddaeth yn sgil yr albwm. Enillodd genhedlaeth o ffans newydd, plesiodd gannoedd a fu’n awchu am flas arall ar drac sain eu llencyndod - Frizbee - a chipio’r tair prif wobr yng Ngwobrau’r Selar 2015 am y gân orau, y record hir orau a’r artist unigol gorau. Sut felly mae rhywun yn mynd ati i greu ail record, ar ôl cystal llwyddiant? Cefais i sgwrs sydyn efo Yws am yr ail albwm hirddisgwyliedig. “Sori, mae hyn yn digwydd weithia’” meddai Yws. Cyfeirio mae o at y llinell ffôn wael rhyngom, roeddwn i’n ei glywed o, ond doedd o ddim yn fy nghlywed i. Felly, troi at FaceTime wnaethon ni. Gyda thap ar y cylchyn bach gwyrdd, roeddwn i yn y fideo ar gyfer ‘Sgrin’, yn siarad gydag Yws a’i wyneb yn ffrâm ddu’r teclyn symudol.

‘Sgrin’ ydy’r gân gyntaf i’w rhyddhau oddi ar yr albwm newydd. Ffrwyth sesiwn recordio o fis Ebrill y llynedd yw’r gân, medd Yws, “Aethon ni i stiwdio Bing, lle ’naethon ni ’sgwennu pedair cân mewn tri diwrnod.” Dyma oedd y cyntaf o dair sesiwn ble mae’r band wedi cyfansoddi gyda’i gilydd. Gofynnais i Yws, a’i dyna oedd y nod ar gyfer yr albwm, cyfansoddi fel band. “Ia, dyna oedd y nod. Yn Bing, roeddan ni’n eitha’ llwyddiannus efo be oedden ni wedi’i sgwennu, felly ’naethon ni benderfynu ei gario fo ’mlaen.” Hyd yn oed cyn ei ddyddiau fel artist unigol, roedd Yws yn cyfansoddi ar ei ben ei hun. Felly, pa mor wahanol ydy cyfansoddi fel band? “Mae ’na lai o bwysau arnaf fi, sy’n neis! Os faswn i’n ei sgwennu o [yr albwm] ar ben fy hun rŵan, dwi’n meddwl faswn i’n canolbwyntio gormod ar drio gwneud rhywbeth cŵl. Mae’r hogia’n cydnabod pa mor bwysig ydy’r tiwns hefyd.” Yr hogia ydy Rich Roberts, Emyr Prys Davies ac Ifan Sion Davies, a nhw sydd wedi bod yn rhannu’r llwyfan efo Yws ers iddo fo ail-gydio yn ei gitâr. O deithio Cymru benbaladr fel pedwarawd am ddwy flynedd, mae’n siŵr fod clustiau’r hogia wedi’u tiwnio i sŵn nodweddiadol Yws, ac felly dylai’r gerddoriaeth ddod yn naturiol.

“Odd Rich yn deud, faswn i probably byth yn sgwennu ‘Sebona Fi’ eto, achos fyswn i’n fforsho fy hun i beidio, ac maen nhw’n poeni na fysan ni’n gwneud fatha pedwar hefyd. ’Da ni’n ymwybodol o be’ ’da ni’n ei ’neud. Mae’n broses naturiol, ond ’da ni hefyd yn trio sgwennu petha’ poblogaidd.” Cyd-gyfansoddi Beth ydy’r broses felly, meddyliais. Gofynnais i Yws ddweud ychydig wrtha i am sut aethon nhw ati i ysgrifennu’r albwm. “Be sy’n ddiddorol am y band ydy bod Ifs yn 22, mae Ems yn 35, dw i’n 33 ac mae Rich yn 28, felly mae gen ti amrediad eang o oed. Mi ddaeth ’na un neu ddwy o’r tiwns yn naturiol, ond wedyn ’naethon ni feddwl, mae gynno ni gefndir gwahanol mewn cerddoriaeth. Mae pawb wedi licio petha gwahanol. Felly, ’aru ni drio ffendio rhyw fan cychwyn lle oeddan ni i gyd yn dweud ‘o ia, dw i’n licio’r rheina hefyd.’ “Dw i’n meddwl daeth ‘Sgrin’ allan o wrando ar Vampire Weekend. Mae eu chord changes nhw yn quirky, a rhythm eu geirau nhw’n rhywbeth oeddan ni’n ei licio. Mi oedd ’na un gân hefyd, lle ’naethon ni wrando ar Kings of Leon, a pha mor syml ydy eu caneuon nhw, weithia dim ond dau gord mewn pennill, yn hytrach

y-selar.co.uk

11


“Mae’r sŵn yn mynd i newid dipyn bach yn naturiol.”

na thaflu chwech i mewn achos bod chdi’n trio bod yn glyfar.” Disgrifiodd Yws y sesiynau cyfansoddi hyn fel “get togethers” bach, gan mai anaml y daw’r band at ei gilydd oni bai eu bod mewn gig neu bractis band prin. Datgelodd hefyd, fod ambell i gân newydd wedi’i chyfansoddi mewn gig. Meddyliais felly, a oedd Yws yn rhagweld y newid yn y broses gyfansoddi yn dylanwadu ar sŵn yr albwm. A fydd yr albwm yn wahanol iawn i Codi /\ Cysgu? “Na, mae’r sŵn yn mynd i newid dipyn bach yn naturiol, oherwydd bod If yn involved o’r cychwyn efo’r sgwennu. Felly dydy’r riffs gitâr ddim yn rhywbeth sy’n cael ei sgwennu dros rywbeth ’dw i wedi’i sgwennu’n barod. Mae If yn gallu bod yna, deud dydy’r cord yna ddim yn gweithio, 12

y-selar.co.uk

be’ am ei newid o i rwbath arall.” O’n sgwrs, alla i ddim peidio teimlo ei fod o’n hapus iawn efo’r bartneriaeth gyfansoddi hon. Nid yn unig eu bod nhw’n cyfansoddi fel band, ond mae Rich, drymar y band, yn cynhyrchu’r albwm. Rich gynhyrchodd Codi /\ Cysgu hefyd. Mae Yws yn hapus iawn i dderbyn cyngor ganddo, os ydy o’n dewis “cord sy’ ddim yn dda”, mae o’n fwy na bodlon dilyn cyfarwyddyd i “roi ei fys yn rywle arall” a thrio cord gwahanol. Ym mis Chwefror, dychwelodd y pedwar i Bing ar gyfer y drydedd sesiwn gyfansoddi yn y gobaith o sgwennu pedair cân arall ar gyfer yr albwm. Fel fi, mae’n siŵr eich bod chi’n awchu i gael gwybod pryd fydd yr albwm ar gael. Bydd Yws a’r band yn lansio’r albwm yn Pontio, Bangor ar y

7fed o Ebrill. Dyna ble fydd yr albwm ar gael am y tro cyntaf, “gobeithio” ychwanegodd Yws. Ar ôl hynny, bydd y pedwar yn mynd i Neuadd Buddug, Y Bala ar y 15fed o Ebrill ac maen nhw’n gobeithio cadarnhau dyddiad yn y de yn fuan. #DiolchoGalon Wrth i’n sgwrs ni ddirwyn i ben, mi holais Yws am y diwrnod #DiolchoGalon a oedd yn dathlu deugain mlynedd o BBC Radio Cymru. Bu ef, y Gerddorfa Genedlaethol Gymreig ac Alys Williams, ymysg eraill, yn Neuadd Hoddinot, yn cadw cwmni i leisiau cyfarwydd yr orsaf, a oedd yn darlledu o Ganolfan y Mileniwm drwy’r dydd. Mi gytunon ni ar ba mor hudolus ydy llais Alys Williams, pa mor hyfryd ydy sŵn cerddorfa


“Mae ’na lai o bwysau arnaf fi, sy’n neis!” a pha mor siomedig fu’r ddau ohonom ni i golli Gig y Pafiliwn yn Eisteddfod Y Fenni, llynedd. Ar ôl ennyd o dawelwch, cyn ffarwelio, “O, mae ’na un peth arall. Ond ’dw i ddim yn siŵr os dylwn i ddeud.” Os nad oedd hynny am oglais fy nghlustiau, wyddwn i ddim beth fyddai. Gyda chlust frwdfrydig, gwrandewais ar ei gyhoeddiad. Eleni, yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, bydd y Welsh Pops yn dychwelyd i’r Pafiliwn. Cyd-floeddiwn, ies! Ac mi fydd Yws a’i fand yn chwarae. Cyd-floeddiwn, ies! Cafodd y cyhoeddiad ei wneud ar Ddydd Miwsig Cymru, a dwi’n siŵr y bydd y newyddion yn plesio ffans cerddoriaeth boblogaidd Cymru ym mhobman.

Cwestiynau Cyflym Pa gân Yws Gwynedd ydy’r orau gen ti? ‘Sebona Fi’, ma’ ’di bod yn anhygoel faint ma’ pobl wedi ymateb i sentiment y gân. Pa fand ti wedi’i fwynhau fwyaf dros y flwyddyn ddiwethaf? Dwi fod i ddeud band ifanc newydd yn fan hyn... ond roedd gweld Topper yn ailffurfio yn freuddwyd i fi’n bersonol. Beth ydy dy hoff albwm di? Bob Dylan – Blood on the Tracks (yn newid i Street-Legal) Tasa chdi’n cael bod yn anifail, pa un fysa fo a pham? Dwi’n grediniol fy mod i ’di bod yn gath mewn bywyd arall. Pa box-set wyt ti’n ei gwylio ar hyn o bryd? Newydd orffen The Killing (Fersiwn Americanaidd), ond yng

nghanol Crazy Ex Girlfriend hefyd. Tasa chdi’n cael canu deuawd efo unrhyw un, efo pwy fasa fo? Alys Williams, dwi’n siŵr neith o ddigwydd, jyst aros am y rheswm iawn i’w neud o. Pa fwyd/snacs sy’n gorfod bod yn y stiwdio pan ’da chi’n recordio? Coffi posh (ma’ ’na beiriant Tassimo yna). Pa gân fysa chdi’n ei dewis yn soundtrack i ffilm o dy fywyd? Big Leaves – ‘Hanasamlanast’ Beth sy’n gneud i chdi chwerthin? Stuart Lee ar y funud. Beth yw’r jôc orau i chdi ei chlywed? “Pan nes i ddeud bo fi isio bod yn gomedïwr, nath pawb chwerthin. Wel ’di nhw ddim yn chwerthin ’wan!” Bob Monkhouse. y-selar.co.uk

13


sELAR YN Y STIWDIO enw: Tŷ Drwg LLE: Grangetown, Caerdydd Dyddiad Sefydlu: Tua 1999 Offer: Meddalwedd – Cyfrifiadur yn rhedeg Cubase, ers y Cubeat 1.0 ar yr Atari. 18 sianel o fewnbwn/allbwn analog sydd yn “hen ddigon ar gyfer y mwyafrif o stwff gan fod y gofod recordio reit fach”. Preamps – Focusrite ISA220 a Vortexion Mixer,

cywasgwr MXR 136, delay MXR 186 a sbring Roland RV-100. Meics – Rhestr hir ond dyma rai o ffefrynnau Frank. “Mae’r Neumann U87 a’r Rode NTV yn cael defnydd helaeth, mae’r U87 yn swnio’n ok a’r NTV fel parodi o ryw hen gyddwysydd vintage. Dwi’n ffan o feics dynamig ar gyfer popeth ar wahân i brif leisiau. Mae’r Sennheiser MD421 yn ffefryn a’r Beyerdynamic

Y tro hwn mae ein taith o gwmpas stiwdios recordio Cymru yn ymweld ag un o berlau cudd y sin. Gyda chynnyrch yn cynnwys albyms diweddaraf Geraint Jarman ac Alun Gaffey mae’n deg dweud fod allbwn Frank Naughton a Thŷ Drwg, os nad yn doreithiog, yn hynod safonol.

M201 fel SM57 sydd wedi tyfu fyny a stopio bod yn gymaint o idiot. Dwi’n defnyddio Coles 4038 weithiau ond mae o’n boen. Dwi wastad yn rhoi o leiaf un meic dynamig mewn lle rhyfedd yn yr ystafell wrth dracio dryms hefyd. Ac weithiau, mae o’n swnio’n dda.” Offerynnau: Rhestr faith o synths, samplers ac allweddellau yn cynnwys Fender Rhodes, Farfisa Beresford a Farfisa

Deffroad Leigh yn parhau Flwyddyn ers i’w ddeffroad cerddorol ddechrau, Leigh Jones sy’n dal i ddysgu pethau newydd wrth wrando ar SFA. Fe ddechreuais i ysgrifennu’r golofn yma llynedd ar ôl cael deffroad yn fy hunaniaeth Gymreig. Roedd hynny oherwydd dylanwad Super Furry Animals arnof fel Cymro estron. Fe ges i ddeffroad arall nad o’n i’n ei ddisgwyl ar ddiwedd y flwyddyn o’u herwydd nhw hefyd. Er i mi ddod o genhedlaeth lle’r oedd gwrando ar SFA yn hanfodol wrth dyfu i fyny, ches i ddim cyfle i’w gweld nhw’n chwarae’n fyw nes Rhagfyr llynedd. Fe wyliais i’r band yn chwarae Fuzzy Logic a Radiator yn y Roundhouse yn Camden -

14

y-selar.co.uk

hen sied trenau. Fel mae’r enw’n ei awgrymu, mae’n adeilad crwn â cholofnau dur yn ymestyn at y nenfwd. Fel arena ar raddfa fach, mae’r lle’n hollol haeddiannol o’i statws fel adeilad rhestredig. Mae pris aruthrol peint yno’n cael ei gyfiawnhau gan ba mor unigryw yw’r lle. Falle ‘mod i wedi bod yn byw efo mhen i fyny’n nhîn, ond fe ges i sioc enfawr wrth gyrraedd y gig. I mi, mae’r Furries yn fand sy’n bodoli tu allan i amser. Yn fand y mae pawb yn gwrando arnyn nhw wrth dyfu fyny. Ond roedd 99% o’r gynulleidfa yn y gig yma yn union yr un fath. Blôcs, gyda phob parch, oddeutu deugain mlwydd oed a oedd wedi cael caniatâd gan eu gwragedd i

Pianorgan. Mae yno sawl Roland (Juno 60, SH1000, SH2000 a V-Synth GT), Casio (FZ-10M a VZ-10M), Yamaha (D85, V50 a CS01) ac Akai (X7000, S5000) hefyd. Heb anghofio ambell Sequential Prophet, Korg, Siel Cruise, Ekosynth, Bontempi Pops, Alesis Fusion a dwy hen biano, “un ohonynt bron iawn mewn tiwn”! Hanes: Sefydlodd Frank Naughton y stiwdio yn

Leigh Jones

fynd allan ar noson yng nghanol yr wythnos oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw. Noson nostalgia i fwyafrif y gynulleidfa oedd hon. Roedd fy nealltwriaeth o hunaniaeth y band wedi troi wyneb i waered. Ond fe aeth fy agoriad llygaid newydd gam ymhellach na sylwi bod ffans y Furries yn hŷn - fe ddylai hynny fod wedi bod yn amlwg gan fod yr holl daith yn dathlu ugain mlwyddiant Fuzzy Logic. Yr agoriad llygaid oedd pa mor oddrychol yw cerddoriaeth. Doedd y Furries heb newid bywydau gweddill y gynulleidfa honno yn yr un ffordd â mi, ond be’ ’di’r ots? Roedd y caneuon yn bethau gwrthrychol i’n clymu ni efo’n gilydd am noson.


COLOFN ANI

Merch + Peiriant = ? Y diweddaraf i gyfrannu colofn wadd i’r Selar yw’r artist pop electroneg o Gaerdydd, Ani Glass. ei lleoliad presennol ar ddiwedd y 90au. “Cyn hynny, roedd gen i set-yp un ystafell yn Splott,” eglura. “Dyna le recordiwyd albwm MC Mabon, Mr Blaidd, a pheth o Hen Gelwydd Prydain Newydd a Toys gan Tystion hefyd. Yn wir, dwi’n meddwl mai Steffan Cravos [rapiwr Tystion] fathodd yr enw Tŷ Drwg.” Bellach yn Grangetown mae’r stiwdio’n cynnwys gofod recordio ac ystafell reoli mewn adeilad allanol. “Mae gen i linellau i’r tŷ hefyd, achos i fod yn onest, yn ystafell ffrynt y tŷ mae’r gofod gorau ar gyfer stwff acwstig.” Hyd yn Hyn: Er nad yw’n medru’r iaith, mae Frank wedi gweithio gyda rhai o enwau amlycaf y sin Gymraeg dros y blynyddoedd, pobl fel Geraint Jarman, MC Mabon, Tystion, Rogue Jones, Tigana, Alun Gaffey a Gwyllt. “Dydw i ddim yn siarad Cymraeg fy hun ond mae pobl yn ddigon caredig i egluro geiriau a’u hystyr i mi. Mae’r hynny o Gymraeg yr wyf yn ei ddeall yn dod o lyrics caneuon dwi’n eu hanner cofio! Mae’n gwneud recordio vocals yn anodd weithiau, ond dwi’n dod yn well am adnabod sŵn geiriau hyd

yn oed os nad ydw i’n deall eu hystyr.” Mae artistiaid eraill Tŷ Drwg yn cynnwys Soft Hearted Scientists, Ninjah, William Drake, Rob Lear, Howl Griff, Attack+Defend, Fredrick Stanley Star a llawer mwy. FfEithIAU Ddifyr Nid perchenog stiwdio a chynhyrchydd yn unig mo Frank. Fel sy’n amlwg o’i restr offer uchod mae o’n dipyn o gasglwr hefyd. “Dwi’n casglu hen geriach outboard rack, yn enwedig hen reverbs digidol ofnadwy. Yn bennaf achos eu bod nhw’n rhad gan nad oes neb eisiau’r stwff yma bellach. Er difyrrwch fy hun mae hyn yn fwy na dim gan mai dim ond y sbrings dwi’n eu defnyddio ar y cyfan.” Does dim lle yma i restru’r casgliad i gyd ond mae’n cynnwys sawl Lexicon, Roland a Yamaha ynghyd ag ambell Sony, Akai, Behringer, Ibanez a Zoom. “Dynacord DRP-16 a MXR 01a yw dau o’r rhai gwaethaf,” barna Frank. “Ond maen nhw’n swnio’n wych. Rwyf yn argymell y rheiny i unrhyw un sy’n cael plugin reverbs yn ddiffrwyth. Ond mae gan bob un ei gymeriad.”

Deunydd ychwanegol www.y-selar.co.uk

Wrth i mi fynd yn hŷn, cael mwy o brofiadau a dod yn fwy ymwybodol o’r byd o’m cwmpas, mae ’na un peth sy’n dod i’r amlwg ac sydd erbyn hyn wastad ar flaen fy meddwl; y disgwyliad cyffredinol gan gymdeithas y dyle menywod aros yn rhwym i’w “rôl” mewn cymdeithas. Beth yw ein “rôl”? Ai bod yn bert ac yn dawel? Neu yn swil a dymunol? Alla’i ddim siarad dros bawb o fewn rheswm, ond un peth alla’i hawlio yw fy mhrofiadau. Er enghraifft, ar ôl bob gig fe fydd o leiaf un dyn (tri ar un achlysur) yn dod draw i roi gwers ddwbl electroneg a theori cerddoriaeth i mi gan gymryd yn ganiataol felly eu bod yn gwbod yn well. Pethau tebyg i “Can I give you some advice about your machine?” (..that you’ve never used? NO!) neu “I know what you’re trying to do... I used to be a singer you know ” (BORE OFF!) AC YN Y BLAEN. Pam tybed? Byswn i byth yn ystyried rhoi ‘tips’ heb i rywun ofyn, yn enwedig i ddieithryn, a hyd yn oed wedyn byswn i byth mor sicr â chymryd yn ganiataol fy mod yn gwbod yn well. Felly dwi ’di dod i’r casgliad newydd taw fy rôl yw bod mor swnllyd, lliwgar, heriol a gwybodus ag sy’n bosib ac i gefnogi ac annog unrhyw un arall sy’n teimlo’r un peth. Celf yw’r unig beth sy’n neud synnwyr i mi a’r unig ffordd alla’i deimlo’n hyderus wrth gyfathrebu. Mae creu celf yn gyfle i fod yn glir ac yn gryno, rhywbeth nad yw’n gryfder i mi o ddydd i ddydd. Mae celf yn agor drysau ac yn ehangu gorwelion a dwi’n hynod ddiolchgar o’r profiadau dwi ’di eu cael hyd yn hyn. Wrth gwrs dwi’n llwyr ymwybodol nad oes dim byd athrylithgar am ganu pop electroneg ond dwi’n rhoi cynnig arni ac yn cael hwyl wrth wneud a dyna sy’n bwysig.

y-selar.co.uk

15


10 UCHAF ALBYMS GORAU 2016 Roedd 2016 yn flwyddyn dda o ran albyms Cymraeg. Ddim yn ein credu ni? Wel be os ddywedwn ni bod albyms Geraint Jarman, The Gentle Good, CaStLeS a Bendith heb gyrraedd 10 uchaf pleidleiswyr Gwobrau’r Selar? Yn union... ma’n rhaid ei bod hi’n flwyddyn ardderchog. Dyma ddeg dethol darllenwyr Y Selar eleni... 10. O Groth y Ddaear – Gwilym Bowen Rhys Label: Fflach: tradd Rhyddhawyd: Awst 2016 oedd blwyddyn ffarwelio Y Bandana, ond roedd hi hefyd yn flwyddyn sefydlu go iawn eu prif ganwr fel artist unigol. Newid cyfeiriad mawr i’r Bandana o ran sŵn – casgliad o ganeuon gwerin gwreiddiol sydd yma, ond gyda llais a chymeriad pwerus Gwilym yn serennu. 16

y-selar.co.uk

9. Gwna Dy Feddwl i Lawr – Mr Huw Label: Cae Gwyn Rhyddhawyd: Tachwedd Pumed albwm unigol basydd y grŵp Kentucky AFC, ac un sy’n dangos ychydig o newid cyfeiriad. Yr un pop tywyll sydd yma gyda geiriau crafog a’r sŵn low-fi cyfarwydd, ond mae wedi mynd am gynhyrchiad llawer glanach na’r arfer y tro hwn. “Yr hyn mae Mr Huw yn ei wneud yn effeithiol ydy gosod geiriau dwys a thrist ar gerddoriaeth hapus upbeat.” [Gwilym Dwyfor, Y Selar, Tachwedd 2016] 8. Y Dyn o Gwmfelin Mynach – Welsh Whisperer Label: Tarw Du Wel, be fedrwch chi ddweud am y Welsh Whisperer? Caru neu gasáu, rhaid cyfaddef ei fod o’n unigryw, ac yn llwyddo i wneud ei farc. Beryg ein bod ni’n cymryd cerddoriaeth braidd gormod o ddifrif weithiau, ac yn hynny o beth mae anti-dôt y baledwr o Benfro’n un i’w groesawu.

7. Anian – 9Bach Label: Real World Records Rhyddhawyd: Ebrill Trydydd albwm y grŵp gwerin cyfoes o’r gogledd, ac un sy’n ddilyniant addas i’r ardderchog Tincian a ryddhawyd yn 2014. “Cyfunir dylanwadau cerddorol o bob math ar Anian ac yn aml clywn ddylanwadau miwsig dwyreiniol a gwerinol yn asio’n grefftus... mae 9Bach, heb os, wedi llwyddo i gynhyrchu campwaith cerddorol arall” [Miriam Elin Jones, Y Selar, Mehefin 2016] 6. Alun Gaffey Label: Sbrigyn-Ymborth Rhyddhawyd: Chwefror Un o recordiau cynnar iawn y flwyddyn, ond un sydd heb fynd yn angof ymysg darllenwyr Y Selar. Albwm cyntaf cyn aelod Radio Luxembourg a Pwsi Meri Mew, ac un sy’n boddi yn ei sŵn ffync retro gwych ac oedd yn deilwng o’i le ar restr hir y Wobr Gerddoriaeth Gymreig. “Mae o’n grŵfi. O’r bas ffync-in brilliant ar


ddechrau ‘Palu Tyllau’ tan jazz araf melfedaidd ‘Fy Mhoced Cefn’, dyma gasgliad sy’n cydio” [Gwilym Dwyfor, Y Selar, Mawrth 2016] 5. Brython Shag Label: Sbensh Rhyddhawyd: Ebrill Wedi llwyddiant aruthrol eu grŵp cyntaf, Anweledig, dyma albwm cyntaf y prosiect sy’n gweld Ceri Cunnington a Gai Toms yn cydweithio unwaith eto. Fel y byddech chi’n disgwyl, casgliad da o ganeuon bywiog a bachog sy’n cael eu gyrru gan y gitâr blaen a llais Ceri. ‘Pinc Tu Mewn’ a ‘Walia Gwalia’ ydy’r uchafbwyntiau. 4. 5 – I Ka Ching Label: I Ka Ching Rhyddhawyd: Gorffennaf Casgliad aml-gyfrannog i ddathlu 5 mlynedd o label I Ka Ching a chasgliad go unigryw sy’n cynnwys cân newydd, neu fersiwn wahanol o gân gan bob un artist sydd wedi cyhoeddi cynnyrch gyda’r label dros y cyfnod hwnnw. “... mae’n glamp o albwm ag arno wledd o ganeuon, ac yn ddathliad teilwng o’r hyn mae I Ka Ching wedi ei wneud dros y pum mlynedd ddiwethaf” [Miriam Elin Jones, Y Selar, Awst 2016] 3. Kurn – Band Pres Llareggub Label: Recordiau MoPaChi Rhyddhawyd: Gorffennaf Cyn hyn roedd BPLl yn fwyaf adnabyddus am eu fersiwn gwreiddiol ac ardderchog o gampwaith y Super Furry Animals, Mwng. Mae’n debyg bod dipyn o bwysau arnyn nhw wrth ryddhau eu halbwm cyntaf o ganeuon gwreiddiol – nid yw’n siomi, gan brofi bod dawn gyfansoddi yn ogystal â dehongli. “Mae’n agor yn gryf, yn mynnu sylw ac yn llawn agwedd...Fydd bandiau pres byth yn swnio’r un peth” [Bethan Williams, Y Selar, Awst 2016]

pruddglwyfus Iwan yn ganolbwynt i’r cyfan. “Mae ‘Lle’r awn i godi hiraeth?’ yn uchafbwynt lleisiol hyfryd o hiraethus a geiriau ‘Mor ddrwg â hynny’ yn farddoniaeth bur” [Gwilym Dwyfor, Y Selar, Mehefin 2016] 1. Fel Tôn Gron – Y Bandana Label: Copa Rhyddhawyd: Mawrth Yn ddiarwybod ar y pryd, rhyddhau eu trydydd albwm oedd cymal cyntaf blwyddyn olaf Y Bandana. Yn dair

blynedd ers rhyddhau’r diwethaf, Bywyd Gwyn, roedd croeso mawr i ganeuon nodweddiadol fachog fel ‘Dant y Llew’, ‘Disgyn’ a ‘Cyn i’r Lle ‘ma Gau’. Ac wrth gigio’n galed dros y misoedd i ddilyn, seliwyd y casgliad fel ffefryn ymysg darllenwyr Y Selar a rhif 1 albyms 2016. “Mae Fel Tôn Gron heb os yn adlewyrchu dawn gerddorol y band, wrth i’r offeryniaeth gadarn a’r sŵn byw cyfoethog fodoli o’r nodyn cyntaf” [Ifan Prys, Y Selar, Mehefin 2016]

2. IV – Cowbois Rhos Botwnnog Label: Sbrigyn-Ymborth Rhyddhawyd: Mawrth Fel dywedodd rhywun, rhywdro – mae pethau da yn werth aros amdanynt. Bu’r pedair blynedd o aros ers trydydd albwm y Cowbois, Draw Dros y Mynydd, yn rai hir...ond roedd yn werth yr aros. Mae’r record yn gweld shifft yn sŵn y grŵp, ond mae’r safon mor uchel ag erioed a llais y-selar.co.uk

17


Yn y Stiwdio Yn gyfnod distaw o ran gigs a gwyliau, mae dechrau’r flwyddyn yn dueddol o fod yn amser prysur mewn stiwdios ar hyd a lled y wlad wrth i fandiau ac artistiaid anelu i ryddhau deunydd newydd yn y gwanwyn a’r haf. Bu Y Selar yn sgwrsio gydag ambell un sydd yn brysur yn recordio ar hyn o bryd.

18

Alys Williams

Yr Eira

Patrobas

Rydym yn hen gyfarwydd â doniau lleisiol Alys Williams diolch i’w gwaith gydag Ifan Dafydd, Candelas a Band Pres Llareggub. Newyddion gwych felly ei bod hi’n rhyddhau o dan ei henw ei hun eleni. Yn ymuno â hi yn y band y mae Branwen Williams, Gwion Llewelyn, Aled Huws ac Osian Williams. Offerynwyr dawnus pob un ac yn naturiol, bydd sgiliau cynhyrchu a pheiriannu Aled ac Osian yn cael defnydd. “Rydyn ni’n dal i ddod o hyd i’n traed o ran sŵn penodol, gan mai newydd ddod at ein gilydd ydyn ni. Ond mae’r caneuon yn gwyro o sŵn canu’r felan ‘Yr Un Hen Ddyn’ (wedi ei pherfformio ar Stiwdio Gefn a rhaglen Tudur Owen ar Radio Cymru) a chaneuon ffync. ’Da ni’n mwynhau mynd o’r bregus i’r bywiog. “Rydyn ni eisoes wedi rhyddhau fideo byw ohonon ni’n canu ‘Tyrd Ata I’ – ewch ar Youtube i weld – ac mae’r ymateb wedi bod yn ffafriol. Mi fyddwn ni’n rhyddhau ’chydig o senglau’n ddigidol wrth i ni fynd ymlaen, cyn dod â’r albwm allan.”

Mae Yr Eira wedi rhyddhau ambell sengl ers eu EP gwych, Colli Cwsg, yn 2014, ond 2017 fydd y flwyddyn ble cawn glywed albwm cyntaf y band. Steffan Pringle, sydd wedi gweithio gyda bandiau fel Houdini Dax ac Estrons, sydd yn cynhyrchu ac mae’r hogia’n recordio mewn amrywiol leoliadau. “’Da ni ’di bod i Stiwdio Drwm i roi’r dryms a’r bas i lawr ac yn bwriadu rhoi ychydig o gitârs i lawr yno hefyd,” eglura Lewys. “Gan fod pawb wedi gwasgaru ar draws y wlad mai’n anodd recordio bob dim mewn un lle, dwi wedi bod yn mynd i dŷ Steff i roi llais a gitârs lawr a fydd gweddill yr albwm yn cael ei recordio’n flêr fel’ma hefyd. “’Da ni’n arbrofi efo’r syna’ gitâr ac ar hyn o bryd ma’r tracia’n swnio’n wahanol iawn. Adlais bopaidd trwy’r albwm i gyd. Bas yn dal riffs bachog trwy amball gân! Ac amball i anthem yn eu plith hefyd gobeithio.” Y gobaith yw rhyddhau ambell sengl a fideo fel tameidiau i aros pryd dros y misoedd nesaf, gyda’r albwm i’w rhyddhau ar label I Ka Ching ar ddechrau’r haf.

Ychydig dros flwyddyn ers rhyddhau’r EP, Dwyn y Dail, mae’r band gwerin-roc wedi dychwelyd i’r stiwdio i recordio albwm. Treuliodd yr hogia’ gyfnod yn Sain ym mis Ionawr gydag Aled Cowbois yn cynhyrchu. “Mae’r caneuon ar yr albwm yn dangos cam pendant ymlaen o be’ gafodd ei recordio ar gyfer yr EP,” meddai Iestyn. “Digon o arbrofi ond ymgais i aros yn eithaf triw i’r profiad byw. Mae llawer o’r albwm wedi ei recordio’n hollol fyw yn y stiwdio er mwyn ceisio cyflawni hynny. O ran themâu, er bod yna nifer o ganeuon serch, mae ’na hefyd ganeuon mwy gwleidyddol eu naws yn ymateb i ddigwyddiadau diweddar fel sefyllfa’r ffoaduriaid, Brexit, ac etholiad Trump. Mae’r dylanwad yr ydan ni’n ei gymryd o gerddoriaeth werin yn plethu drwy’r pethau cyfoes hyn i gyd.” Er nad oes dyddiad pendant eto, bwriad Patrobas yw rhyddhau’r record hir cyn dechrau’r haf gan drefnu cyfres o gigs i’w hyrwyddo.

y-selar.co.uk


#apffrydio – gwasanaeth yn fyw! Y gwasanaeth ffrydio newydd yn benodol ar gyfer cerddoriaeth gan labeli Cymru – ap ar gyfer dyfeisiadau iOS ac Android ynghyd â fersiwn gwe tanysgrifiad misol Sylfaenol £6 Premiwm £9 mis o dreialu am ddim

#chwyldroffrydio #tâlteg #cefnogiartistiaid

Cofrestrwch ar y wefan am fis o dreial am ddim, yna lawrlwythwch yr ap i’ch dyfais o’r App Store neu’r PlayStore

twitter.com/aptoncymru facebook.com/aptoncymru instagram.com/aptoncymru www.apton.cymru apton@apton.cymru

MAE DY DDYFODOL YN DECHRAU YMA

DARLLENWCH EIN PROSBECTWS O’CH CYFRIFIADUR, TABLED NEU FFÔN

www.ceredigion.ac.uk

Holl newyddion diweddara y sîn ar

www.y-selar.co.uk

y Selar


adolygiadau Claddu 2016 Chroma O wrando ar Chroma yn fyw yn y gorffennol, dyma sengl sydd heb os yn adlewyrchu eu hegni a’u brwdfrydedd fel band. Er mai tri aelod sydd, mae’r sŵn yn anferth ac o bosib ychydig trymach na’u cynnyrch diwethaf, gan fy atgoffa’n fawr o waith bandiau megis Queens of the Stone Age a Royal Blood. Dyma driawd sy’n hyderus yn yr hyn maent yn ei gynhyrchu, ac o ystyried fod eu sain wedi datblygu, dyma driawd sy’n mwynhau creu cerddoriaeth. Er symlrwydd ‘Claddu 2016’, mae dawn gerddorol y band yn amlwg, gyda’r gerddoriaeth rymus a’r geiriau cadarn yn llwyddo i greu naws perffaith ar gyfer rave neu moshpit. Mae gan Chroma botensial anferth, ac mi fydd hi’n ddiddorol gweld i ba gyfeiriad y byddant yn mynd nesaf. Gwrandewch. Ifan Prys

Y Gwyfyn The Gentle Good Oes yna unrhyw beth na all The Gentle Good ei wneud? Dwi’n casáu gwyfynod, mae’r syniad o ddeffro efo un yn fy nghlust i’n troi arna’i. Ond ers gwrando ar y sengl a ryddhaodd y dewin o gitarydd o Gaerdydd ar gyfer #DyddMiwsigCymru mae gen i werthfawrogiad newydd o’r diawliad bach blewog. Bellach fe “hoffwn ’nabod y nos fel gwyfyn”, fe “hoffwn ’nabod yr haf fel gwyfyn”. Dwi ddim yn gwybod be’n union ydi o, y llais melfedaidd pruddglwyfus, y feistrolaeth ddiguro o’r gitâr neu gyfraniad hyfryd y llinynnau ychwanegol. Beth bynnag ydi o, mae o’n gweithio. Mi fysa’r boi yma’n gallu sgwennu mawlgan i wep hyll Donald Trump ac mi fyswn i efo fo. Wneith o ddim mo hynny diolch byth ond mae croeso i’r gwyfyn yma yn fy nghlust i unrhyw dro. Gwilym Dwyfor

Anrheoli Yws Gwynedd Ma’n rhaid i mi gyfaddef fy mod i’n cyffroi unrhyw dro mae Yws Gwynedd yn cyhoeddi cerddoriaeth newydd, a tydi ‘Anrheoli’ yn sicr ddim yn siomi. Dyma chi sengl llawn cyffro a llawenydd gyda rhythmau bachog a chytgan hynod egnïol. Unwaith eto, mae Yws yn llwyddo i arbrofi gyda synau electroneg a melodïau cymharol ysgafn, heb grwydro’n rhy bell o’i arferion cerddorol yr ydym i gyd yn eu caru. Mae naws hafaidd ac anthemig i’r gân sy’n torri’n rhydd o’r baledi cariad confensiynol ac yn hyrwyddo neges o ryddid a sefyll yn erbyn cyfyngiadau’r sefydliad, sy’n hynod berthnasol ar hyn o bryd. I mi, mae’r gân yn esiampl graidd o sŵn eiconig Yws Gwynedd ac yn un fydd sicr yn plesio torf mewn gig. Efallai na â’i mor bell a dweud fod hon yn un o weithiau gorau Yws Gwynedd, ond heb os mae’r gân yn un i godi ysbryd a rhoi gwên ar eich wyneb. Megan Tomos

I Afael yn Nwylo Duw Twinfield Mae hon yn gân electro-pop syml ond da. Mae’r bît agoriadol yn bryfoclyd, yn cael ei ail-adrodd drwy’r gân ac ar hwnnw mae popeth yn cael ei adeiladu. Mae’n ddigon syml fel bod y llais yn llawn effaith

Haul Adwaith Dwi’n licio Adwaith, maen nhw’n swnio fel plentyn siawns grŵp gwerin o Gymru a band arbrofol o’r Almaen yn yr 1970au. Ar yr wyneb, cân werin eithaf syml yw’r sengl ddiweddaraf yma ond mae cymaint o offeryniaeth gymhleth a harmoneiddio prydferth yn digwydd o dan hynny nes iddi droi’n rhywbeth llawer mwy. Mae hanes cerddoriaeth Gymraeg yn frith o ganeuon serch anaeddfed ond mae Adwaith yn

o’r dechrau. Er mai dim ond yn hanner cyntaf y gân y mae geiriau, wnes i ddim sylwi hynny nes i fi wrando arni dair neu bedair o weithiau gan fod y llais yn creu cymaint o argraff ac wedi aros gyda fi. Mae’n llawn agwedd a phendantrwydd. Rhwng hynny, y geiriau, y llais a naws gyffredinol y gân mae’n atgoffa rhywun o Datblygu. Wedi i’r llais dewi mae’r agwedd yn parhau drwy’r synau, ac mae’n anodd peidio symud eich pen, eich troed, neu’r ddau wrth wrando. Bethan Williams Y Dyn o Gwmfelin Fynach Welsh Whisperer Dydw i ddim cweit wedi “cael” Welsh Whisperer yn y gorffennol, ond teg dweud ’mod i wedi chwerthin yn uchel yn ystod albwm diweddaraf y cymeriad dychanol hefo tash! Mae yma gynhyrchu clyfar yn trio achub ambell gân syml, ond mae hi’n anodd dychmygu y gallai unrhyw beth achub ‘Cân yr Hambon’ sydd yn ddwy linell ddiddiwedd heb uchafbwynt na newid. Os mai dyna’r pwynt... nesh i’m “ei gael o”... a doedd

troi’r cwbl wyneb i waered fan hyn. Cân serch yw hi, ond nid un chwydlyd o hapus a neis, ac nid un dorcalonnus o drist chwaith. Yn hytrach, un rhywle yn y canol, un realistig, “o’n i’n caru ti shwd gymaint odd e’n blentynaidd”. Ceir cyffyrddiad o ddychan yn y gytgan ond mae’n ddigon cynnil nes bod modd gwerthfawrogi’r gân ar sawl lefel. Fy unig feirniadaeth yw bod ‘Haul’, fel y mae’r enw yn ei awgrymu, yn gân reit hafaidd. Ond eto, efallai mai rhan o’r dychan yw ei rhyddhau hi ym mis Chwefror! Gwilym Dwyfor


y geiriau ddim digon doniol i helpu. Cafodd ambell gân gigl bach gen i ar y gwrandawiad cyntaf, fel ‘Loris Mansel Davies’, sy’n ddychanol ac yn rhywbeth mae PAWB sy’n defnyddio’r A470 yn gallu uniaethu ag o. Amseru gwych hefyd ar gyfer rhaglen S4C! Mae ‘Ticlo dy Ffansi’ yn catchy, a gyda geiriau fel “Mae’r tash yn gallu ticlo’i ffansi drwy’r prynhawn”, does ’na’m llawer o’m byd i beidio licio deud y gwir nag oes? Mae’r Whisperer yn difrifoli mymryn i roi neges y ‘Cymro Olaf’ i ni, a ‘Clic, Clywch y Cneifiwr’ yn ddoniol i gneifiwr ella. Er bod alaw ‘Ni’n Beilo Nawr’ yn hwyliog ac yn newid cyweirnod tua’r diwedd i fodloni ffan miwsig pop fel fi, y broblem fawr ydi fod lot o’r caneuon yn disgrifio pobl a digwyddiadau bob dydd, ond heb yr ongl ddychanol sydd yn ‘Loris Mansel Davies’ a ‘Ticlo dy Ffansi’ i’w gwneud nhw’n ddoniol i gynulleidfa ehangach. Roeddwn i’n meddwl mai hysbys o’r we oedd cychwyn ‘Ceidwad y Beudy (Remix Twmpath Uncles of Groove)’ ond be’ fedra i ddweud? Pwy sy’ ddim yn licio parodi o gân enwog gan Bryn Fôn ’de?! Elain Llwyd Tu Ôl i’r Llun Cordia Ers eu llwyddiant yng Nghân i Gymru, rydym i gyd wedi clywed am Cordia. EP 5 cân yw ymgais gyntaf y grŵp ifanc o Fôn ac mae’n cynnwys mwy o amrywiaeth na’r disgwyl. Mae’r cyfuniad o leisiau’r bechgyn a thriawd pwerus, hyderus y merched yn arf bwysig ac yn rhan annatod o hanfod y band. Mae hynny’n caniatáu i bob trac gyflwyno seiniau newydd a gwahanol, sy’n sicrhau nad yw’r caneuon yn swnio’n rhy debyg ar y cyfan. Er cadw’n driw i sain pop Môn, sy’n eu gosod gyda grwpiau fel Calfari a Fleur De Lys, mae yna hyblygrwydd yn perthyn i’w cerddoriaeth sydd yn rhoi blas newydd ar gerddoriaeth yr

ynys. Er i’r gerddoriaeth a’r geiriau ymylu’n ormodol weithiau at ystrydebau arferol cerddoriaeth bop o’r fath, ceir ymgais glir i arbrofi â seiniau dyfnach, mwy atmosfferig, yn enwedig yn ‘Twyll’, sydd yn gwbl wahanol i’r gân radio-gyfeillgar, ‘Celwydd’. Ceir ymdeimlad nostalgic mewn mannau, gyda diweddglo ‘Dyddia’r Haf’ yn atgoffa rhywun o un o anthemau Eden, gallai Caryl Parry Jones fod wedi ei hysgrifennu’n hawdd. Nid yw’r EP cyntaf yn hawdd, mae darganfod llais artistig yn broses hir, ond, mae Cordia’n sicr wedi creu eu sain eu hunain yma. Gobeithio, ar ôl arbrofi a pherfformio’n gyson, y bydd y casgliad nesaf yn cynnig rhywbeth newydd eto. Gethin Griffiths Tonnau Panda Fight Mae ‘Tonnau’ gan Panda Fight yn gan bop-electronig funky sy’n eithaf syml ond effeithiol. Mae gwrando ar y gân yn gwneud i mi feddwl am ddiwrnod diog heulog o haf a’r fideo o’r gân ar Youtube yn cyd-fynd efo’r ddelwedd honno’n berffaith. Mae curiad cyson y drymiau yn cael ei gymeradwyo gan linell bâs bywiog, a’r prif synth yn arnofio uwchben y cyfan. Nid oes unrhyw brif ddatblygiad yn y gân, ond mae’r datblygiadau i’r prif synth a’r ychwanegiad cynnil o sain gitâr yn sicrhau nad yw’r trac yn rhy undonog. Cân dda i ddarllenwyr Y Selar wrando arni cyn parti yn hytrach nag yn hungover! Ar ôl gwrando ar hon mae pob temtasiwn o ganu carolau Nadolig wedi mynd a rŵan dwi’n awchu am yr haf. Rhys Tomos Bws Dŵr Rhodri Brooks Mae sioeau byw Rhodri Brooks ac Eugene Capper erbyn hyn wedi hen ennill eu plwyf ar y sin yng Nghaerdydd fel band sy’n llwyddo i gymysgu sawl steil cerddorol yn ddiymdrech gyda chaneuon

gwreiddiol cofiadwy. Dyw’r sengl hon gan Rhodri Brooks ddim yn siomi yn hyn o beth. Mae’r dôn fachog ond syml yn adlais o sŵn psych/gwerin modern Cymreig fel H Hawkline, deunydd cynnar Cate Le Bon a Gorky’s Zygotic Mynci. Ond dyw hynny ddim yn golygu nad yw’r cerddor yn ofn arbrofi. Mae ei lais ysgafn a throslais y ferch dros y trac yn adlewyrchu sŵn ar afon Taf yn llifo’n araf ar ddiwrnod braf o haf. Mae ‘na rywbeth cynnes, agos atoch chi i’r sengl, ac wrth wrando arni dros ddyddiau oer mis Ionawr, mae’n gwneud i rywun edrych ymlaen eto at ddal y Bws Dŵr o’r dre i’r bae pan ddaw’r misoedd hirddydd nôl eto i godi’n calonnau. Ciron Gruffydd Tyrd Ata I Alys Williams Mae ‘Tyrd Ata I’ gan Alys Williams wedi creu tipyn o gynnwrf ymysg ffans y gantores ers iddi ei rhannu ar Youtube. Heb os, mae penillion digyfeiliant y gân sydd wedi’i ffilmio’n cael ei chanu’n fyw yn Stiwdio Drwm, yn gadael i lais anhygoel Alys Williams serennu. Gyda phob cytgan mae lleisiau cefndirol yn gwau harmonïau heirddion ac yn wirioneddol hyfryd i wrando arnynt. Er, ni chredaf fod y cyfrwng yn gweddu i’r gân. Gan ei fod yn ddigyfeiliant, mae’r trac fymryn yn undonog ar fideo ac am nad oes ’na lawer yn digwydd ond camera (braidd yn amaturaidd) yn troi a throelli o amgylch y criw, a hwythau’n sefyll mewn cylch o amgylch y meicroffon, mae’n teimlo twtsh yn ddiflas. Ond, tamaid i aros pryd yw hwn, ac efallai y byddai’n well ei glywed yn rhan o gasgliad neu brosiect ehangach. Serch hynny, ni ellid peidio ag edmygu a chenfigennu wrth lais trawiadol Alys Williams, gyda’r trac hwn yn dystiolaeth bellach (os oedd ei angen) bod hon yn gantores a hanner. Miriam Elin Jones


r a d y g o i ’ g i G Selar Dyddiad: 27/12/2016 Lleoliad: Neuadd Ogwen, Bethesda Lein-yp: Yr Eira / Candelas / Band Pres Llareggub

Enw: Branwen Mair Llewellyn Oed: 30 O le: Llanuwchllyn neu Gaerdydd Hoff fand/artist? Cowbois Rhos Botwnnog. Band/artist newydd mwyaf cyffrous? Ani Glass. Lle ti’n mynd i gigs? Bach o bobman! Yn fwyaf diweddar, Clwb Ifor Bach, Tramshed, Chapter, The Moon Club. Gig cofiadwy diweddar? Sŵnami, Yr Ods a Candelas ym Mhafiliwn Eisteddfod Y Fenni. Lle ti’n prynu dy gerddoriaeth? Spillers, Caerdydd ac Awen Meirion, Y Bala. Yr albwm diwethaf i ti ei brynu? 2013, Meilyr Jones.

Enw: Lowri Mair Jones Oed: 30 O le: Ynys Môn (byw ym Methesda) Hoff fand/artist? Newid o ddydd i ddydd. Lle ti’n mynd i gigs? Neuadd Ogwen, Clwb Ifor Bach a gwyliau cerddorol. Gig cofiadwy diweddar? Nes i wir joio Eden ar lwyfan y maes yn Sdeddfod, er nad ydy hynny’n ddiweddar. Fel arall Meilyr Jones, artist byw arbennig. Lansiad albwm newydd Meinir Gwilym yn Noson 4a6. Lle ti’n prynu dy gerddoriaeth? Y we, siopau llyfrau Cymraeg ac mewn gigs. Yr albwm diwethaf i ti ei brynu? IV, Cowbois Rhos Botwnnog.

22

y-selar.co.uk

Mae i

Fe t h e sda h disgla anes i r i aw c e rd d O g we n ac e o ro l n gae rs i N l e euadd i had flyny newy ddoe ddu y dd yn c hy d i datbly ôl ma g gu’n e’r dr u e f we nog c e rd d di anolb oriae w y nt th Gy orllew i au mrae in un g y go w a it h fu’n s gledd eto. C gwrsi eri Ph o â’r g illips rh a n ynull mewn eidfa gig d a r ein iwe d d ar yn o.

Enw: Leusa Fflur Llewelyn Oed: 29 O le: Cwm y Glo Hoff fand/artist? Bon Iver. Band/artist newydd mwyaf cyffrous? Anelog. Lle ti’n mynd i gigs? Neuadd Ogwen. Gig cofiadwy diweddar? Super Furry Animals yn perfformio Radiator a Fuzzy Logic yng Nghaerdydd. Lle ti’n prynu dy gerddoriaeth? Awen Meirion a Palas Print. Yr albwm diwethaf i ti ei brynu? Albwm Bendith.

Enw: Meirion Llywelyn Davies Oed: 47 (Edrych yn dda dydw?) O le: Llanllechid Hoff fand/artist? MC Mabon. Band/artist newydd mwyaf cyffrous? Mmm, gwaith cadw fyny dydy?! Gwenno Saunders a sdwff newydd Sior Amor [Omaloma]. Lle ti’n mynd i gigs? Neuadd Ogwen rhan fwyaf. Gigs cofiadwy diweddar? Mr Huw a Dau Cefn yn Neuadd Ogwen (erioed wedi gweld Dau Cefn yn fyw cyn hynny, anfarwol). Roedd Beck ym Mhortmeirion yn reit dda ’fyd, dwy flynedd yn ôl. Lle ti’n prynu dy gerddoriaeth? Siop Ogwen, Bethesda; Palas Print, Caernarfon a’r we. Yr albwm diwethaf i ti ei brynu? Feinyl Hogia’r Wyddfa, Difyrru’r Amser am £1 mewn siop hen bethau ym Mhenmaenmawr. Ambell glasur ac yn fargen.


www.aber.ac.uk

Dyma le

Diwrnodau Agored 2017 • Dydd Mercher 12fed o Orffennaf • Dydd Sadwrn 16eg o Fedi • Dydd Sadwrn 14eg o Hydref • Dydd Sadwrn 11eg o Dachwedd

Diwrnodau Agored Ar-lein • Dydd Iau 6ed o Ebrill • Dydd Mercher 6ed o Ragfyr

www.aber.ac.uk/diwrnodagored

23


Mynd i'r brifysgol yn 2018? Mae arian ar gael i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgolion Cymru.

Ysgoloriaeth Cymhelliant

£1500

i astudio 33% o dy gwrs drwy'r Gymraeg

Dyddiad Cau: 8 Mai 2017

Cer i'n gwefan i ymgeisio heddiw! colegcymraeg.ac.uk/ysgoloriaethau /ColegCymraeg @ColegCymraeg #colegcymraeg


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.