Rhif 39 | Tachwedd | 2014
wydd Pen-bl hapus r! Y Sela ig styned e n y f i Rh 0 Selar 1
YR EIRA y-selar.co.uk Estrons | Uumar | Lansio Gwobrau’r Selar
1
Elin FFlur l l E ua d l l aw n
DyDDiaD rhyDDhau : 10.11.14 NosoN laNsio : Nos iau 13.11.14 Galeri, CaerNarfoN am 8yh Tocynnau : £10 : 01286.685250
Daeth Elin Fflur i sylw’r genedl yn 2002 pan enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru, ac ers hynny mae wedi sefydlu ei hun fel un o brif sêr y byd pop yng Nghymru. Wedi canu gyda nifer o grwpiau, a recordio sawl deuawd enwog, fel cantores unigol mae Elin yn mynd o nerth i nerth. A chafodd gymorth a chyfeiliant nifer o gerddorion, cyfansoddwyr ac offerynwyr gorau Cymru ar y ffordd. Y rhyfeddod mawr yw fod chwe mlynedd wedi mynd heibio ers ei halbym ddiwethaf. Ond bu’n dal i ganu, ac yn dal i gyfansoddi yn y cyfamser, a bellach mae’n bryd inni groesawu albym newydd yn llawn dop o ganeuon newydd syfrdanol.
www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 sain@sainwales.com
POST YN RHAD AC AM DDIM WRTH ARCHEBU DRWY WWW.SAINWALES.COM
y Selar
cynnwys
RHIF 39 | Tachwedd | 2014
Yr Eira
4
Golygyddol
O glawr i glawr
8
Trydar @PALENCOband
10
Yr Eira, Estrons, Palenco, Uumar, Ysgol Sul… prin yr oedd y bandiau yma o gwmpas ddwy flynedd yn ôl heb sôn am ddeg. Pam felly mai’r bandiau yma sydd yn llenwi tudalennau rhifyn pen-blwydd Y Selar yn ddeg oed? Yn syml, gan mai bandiau ifanc newydd fel rhain fydd bandiau’r ddeg mlynedd nesaf gobeithio. Oes, mae gennym ni ddeunydd ychwanegol llawn nostalgia i ddathlu’r penblwydd, ac eitem O Glawr i Glawr arbennig gyda Sibrydion, ond tydan ni heb anghofio ethos Y Selar yng nghanol y dathlu. Tydi sin yn ddim byd os nad ydi hi’n sin fyw, a’r galon sy’n pwmpio’r gwaed a’r egni i unrhyw sin yw’r bandiau a’r artistiaid ifanc, brwdfrydig, gweithgar. Cawn ddathlu’r degawd diwethaf ar bob cyfrif, ond beth am werthfawrogi’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd hefyd ac edrych ymlaen at y dyfodol, am ddeg mlynedd arall o bosib… Pwy a ŵyr? Gwilym Dwyfor
Ti ’di clywed ...
11
Uumar
12
Estrons
14
Gwobrau Selar
18
Adolygiadau
20
4
8
Llun clawr: Rhys Llwyd
14
18
GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)
@y_selar
DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)
facebook.com/cylchgrawnyselar
MARCHNATA Ellen Davies (hysbysebionyselar@gmail.com)
CYFRANWYR Casia Wiliam, Griff Lynch, Bethan Williams, Owain Gruffudd, Ifan Prys, Ciron Gruffydd, Miriam Elin Jones, Cai Morgan, Lois Gwenllian
yselar@live.co.uk
Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.
Yn ystod deg mlynedd Y Selar, go brin i ni weld band newydd yn creu gymaint o argraff mewn cyfnod mor fyr ag Yr Eira. Yn cael sylw fel band newydd yn ‘Ti ’Di Clywed’ flwyddyn yn ôl, maent bellach yn un o fandiau amlycaf y sin, mae Yr Eira ‘wedi cyrraedd’. Owain Gruffudd aeth ar ran Y Selar i holi Lewys, Ifan a Guto am eu taith chwyrligwgan i amlygrwydd a’r EP newydd, Colli Cwsg.
Lluniau: Rhys Llwyd
4
y-selar.co.uk
M
ae hi’n anodd meddwl am fand wnaeth gymaint o argraff ar yr SRG mewn cyn lleied o amser ag y gwnaeth Yr Eira llynedd. Haf 2013, gyda’r band prin wedi cychwyn gigio na rhyddhau unrhyw ddeunydd, fe gipiodd un o’u traciau cynharaf sylw’r cyhoedd yn syth. Roedd eu dawn i ysgrifennu caneuon pop bachog yn amlwg, a daeth ‘Elin’ yn un o anthemau›r flwyddyn. “Mi oedd o’n rhyfadd gweld gymaint o sylw i’r gân,” meddai Lewys. “Mi wnaethom ni benderfynu rhyddhau ‘Elin’ ar-lein adeg Steddfod Dinbych, cyn gweddill caneuon ein Sesiwn C2. Unwaith i ni gyrraedd adra o’r Steddfod ac edrych ar Soundcloud, roedd pawb wedi mynd yn nuts amdani!” O fewn blwyddyn, fe wnaeth Yr Eira dyfu o fod yn fand ifanc addawol i fod yn un o grwpiau pop mwyaf poblogaidd y sin. Roedd yr aelodau i gyd yn wynebau cyfarwydd cyn i’r band ffurfio yn gynnar yn 2013. Roedd Trystan a Lewys yn aelodau o’r Ayes, Guto Howells yn drymio i brosiect unigol ei frawd, Osian, ac Ifan yn brif leisydd Sŵnami. Gyda’r holl brysurdeb felly, sut ddaeth Yr Eira at ei gilydd? “Es i draw at Ifan i neuadd JMJ i ddangos ambell gân o’n i ’di ‘sgwennu,” eglura Lewys. “Oedd Guto yno ’fyd, doeddwn i’m yn ei ’nabod o bryd hynny ond o’n i’n gwybod amdano fo a’i fod o’n chwara’ dryms, a nes i feddwl bod ’na botensial creu band. Dwi’m yn cofio’r ymarfer cynta’, er, yn fy nhŷ i oedd o masiwr!” “Yn wreiddiol, aelod dros dro oedd Ifan, doeddwn i ddim isho iddo fo fod yn aelod llawn gan ei fod o mor brysur efo Sŵnami. Ond ’sa hi ’di bod yn anodd cael gafael ar gitarydd sy’n gallu gneud be’ ’ma If yn ei wneud.”
YR EIRA WEDI CYRRAEDD y-selar.co.uk
5
Lluniau: Rhys Llwyd
“Ma’ criw o ffrindiau i mi ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi dechrau traddodiad o dynnu eu crysau yn ystod ‘Elin’!”
Rhwystr arall yn wynebu’r band yw lleoliadau. Gyda’r pedwar aelod yn astudio mewn gwahanol brifysgolion, yn Aberystwyth, Caerdydd a Bangor, nid yw’n bosib gigio pob penwythnos yn ystod y tymor. Ond, gall Lewys weld manteision yn hynny. “Ma’ rhan fwyaf o’r gigs yn ystod tymor naill ai yng Nghaerdydd neu Aberystwyth beth bynnag. Mae’r ffaith ein bod ni gyd mewn prifysgolion gwahanol yn gallu gweithio o’n plaid ni o ran ymateb y gynulleidfa, yn enwedig mewn gigs fel Rhyng-gol. Ma’ criw o ffrindiau i mi ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi dechrau traddodiad o dynnu eu crysau yn ystod ‘Elin’!” “‘Da ni’n dueddol o gigio mwy dros yr Haf beth bynnag” ychwanega Guto. “Ond, dwi’n meddwl bysa fo’n dda trio cael mwy o gigs ym Mangor yn ystod tymor, gan ’mod i ac Ifan yma beth bynnag. Mi wnaethom ni un yn yr hen siop Cob cyn y Nadolig llynedd. Gobeithio gwneith gig Y Selar yn Rascals
6
y-selar.co.uk
ysbrydoli pobl i drefnu mwy yma.” Mae Ifan yn cytuno fod potensial i wneud mwy ym Mangor. “Gan fod Bangor yn ddinas brifysgol, gyda lot o stiwdants Cymraeg, mae ’na gynulleidfa ar blât i rywbeth ddigwydd yma. A dwi’n meddwl fod angen hynny i ddigwydd a chael y bêl i rowlio.”
SENGL
Yn dilyn llwyddiant ‘Elin’, cân oedd ar restr fer Cân Orau 2013 Gwobrau Selar eleni, daeth cyfle i’r band ryddhau eu sengl gyntaf, Ymollwng / Yr Euog, a hynny ar un o labeli annibynnol mwyaf cyffrous y sin, I Ka Ching. “Fe wnaethon nhw holi os oeddan ni’n bwriadu rhyddhau unrhyw ddeunydd newydd yn y dyfodol agos,” eglura Lewys. “Mi oedd gennym ni ddwy gân oedda ni wedi bod eisiau eu rhyddhau, felly roedd o’n gyfle perffaith i gael y caneuon allan ac i gael I Ka Ching i
ôl Lewys, mae’r caneuon newydd yn dangos sut mae’r sŵn a geiriau’r band wedi datblygu dros y misoedd diwethaf. “Mae’r synau’n lot mwy aeddfed. Mae’r elfen o bop yn amlwg iawn, ond mae’n amlwg ein bod ni wedi arbrofi mwy hefyd, ma’ ’na sŵn eitha’ seicedelig i’r gitârs ar adegau.” “Ma’r EP yn cynrychioli be’ mae Yr Eira yn sefyll amdano,” ychwanega Ifan. “Dwi’n gobeithio fod yr EP yn siarad dros ei hun ac yn ein gwahaniaethu ni o’r bandiau indie-pop eraill sydd yn y sin. Dwi’m ’di clywed lot o bethau sy’n swnio fel hyn.” Mae’r band yn amlwg yn hapus gyda’r sŵn ar y casgliad newydd, sydd yn ganlyniad amser a gwaith caled, fel yr eglura Guto. “Ma’ ’na lot o amser wedi mynd mewn i’r EP, i ffeindio’r sŵn oeddan ni isho. Ma’ bob dim ’da ni ’di ryddhau yn y gorffennol wedi bod ar ffurf ddigidol felly bydd cael copi caled o’r EP yma’n rhywbeth eitha’ personol i ni. Mi fydd o’n rhywbeth i’w gadw.” Adleisio hynny a wna Lewys. “Mi fyddwn ni’n gallu edrych yn ôl arno fo mewn cwpwl o flynyddoedd fel llwyddiant. Ma’ ’na lot o feddwl wedi mynd i’r geiriau ar yr EP, mae’r caneuon yn lot fwy personol i mi a ma’ ’na stori tu ôl i bob cân.” Er bod yna dipyn o waith gigio a hyrwyddo i’w wneud gyntaf, mae Lewys eisoes â’i olygon ar ddychwelyd i’r stiwdio. “Mi fydd ’na gigio a gwneud y gwaith hyrwyddo, ond ’da ni hefyd am fynd yn ôl ati i sgwennu a cheisio datblygu syniadau. Mi fyddwn ni’n anelu am albwm tro nesaf, gan fod ’na dipyn o ganeuon wedi eu sgwennu’n barod.”
DATHLU’R DEG
helpu i’w hyrwyddo nhw. Gafodd y ddwy sengl ymateb da iawn.” “Ma’ Gwion [Schiavone] a Branwen [Williams] yn grêt efo ni. Nid yn unig ma’ nhw’n hyrwyddo’r deunydd ’da ni’n ei ryddhau, ond ma’ nhw’n helpu drwy gynnig gigs i ni, awgrymu grantiau posib ac yn hollbwysig ma’ nhw’n cadw mewn cysylltiad cyson efo ni i weld be’ ’di’r hanes a be’ ’da ni’n bwriadu’i neud.” “Digwydd bod, ma’ Gwion newydd drio ffonio fi yn ystod y cyfweliad yma!” meddai Ifan. “Mae’r label yn amlwg wedi anelu am fandiau ifanc, brwdfrydig sy’n barod i fynd allan a gweithio’n galed yn gigio a recordio. Dwi’n meddwl ’sa chi’n gallu cymharu’r label efo Rough Trade yn Llundain.”
COLLI CWSG
Yn dilyn llwyddiant y sengl, mae’r briodas ag I Ka Ching wedi parhau, gydag EP cyntaf y band, Colli Cwsg, bellach allan. Yn
Ond cyn hynny wrth gwrs, mae ’na fater bach o ddathlu deg mlwyddiant Y Selar, ac mi fydd Yr Eira yng nghanol y dathlu. Yn ogystal â chwarae yn y parti yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ddiwedd mis Hydref, bydd Yr Eira ym Mangor a Chaerdydd wythnos yn ddiweddarach i barhau â’r dathlu. ”’Da ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn,” meddai Ifan yn gyffrous. “Does ’na ddim lot o deithiau’n digwydd tu allan i’r haf yng Nghymru felly ma’ hynny’n rhywbeth cyffrous i fod yn rhan ohono fo. Ma’ teithio i ddinasoedd a threfi prifysgol yn helpu, ac mi ydan ni’n gobeithio bydd ’na gynulleidfaoedd da. Dwi hefyd yn edrych ymlaen at weld y bandiau eraill, dwi erioed ’di cael cyfle i weld Ysgol Sul ac Estrons yn fyw ond wedi mwynhau’r stwff sydd ar-lein. Mi fydd hi’n dda gweld bandiau yn ôl ar y ffordd yn gigio ar ôl cyfnod ychydig yn dawel yn dilyn yr haf.” “Mae’n dda dathlu’r Selar hefyd,” ychwanega Guto. “Mae’n rhan bwysig o’r sin. Mae’n dangos beth sy’n mynd ymlaen yn y sin a be’ ma’ pobol yn feddwl o’r bandiau.” Mae Ifan yn cytuno. “I gael sin iach mae angen pobl i drefnu gigs, i adolygu cynnyrch, pobl i ’sgwennu a blogio, felly mae cylchgrawn fel Y Selar yn dda i broffesiynoli’r sin a dangos bod hi’n rhywbeth byw.” Gydag Yr Eira ar y clawr, flwyddyn yn unig ers cael sylw fel band newydd, mae Lewys hefyd yn gwerthfawrogi cyfraniad Y Selar! “Fel gwnaeth Gwobrau’r Selar ddangos, mae’r SRG ar ei ffordd fyny a’r Selar yn help i hybu hynny. Mae bod yn y Selar wastad wedi bod yn darged. Pan oedd ’na dudalen amdanom ni yn ‘Ti ’di clywed’ oedd o’n deimlad grêt. Bydd hi’n fraint bod yn rhan o’r dathliadau yn ystod mis Tachwedd. y-selar.co.uk
7
Mae’n anodd coelio fod yna ddeg mlynedd ers i rifyn cyntaf Y Selar gael ei gyhoeddi. A gan gofio pwy oedd ar glawr y rhifyn hwnnw, mae’n anoddach fyth coelio fod cymaint o amser wedi pasio ers i un o fandiau amlycaf y degawd diwethaf lanio ar y sin. Fel ’efeilliaid cerddorol yn rhannu’r un pen blwydd felly rhaid oedd dathlu ar y cyd a rhoi sylw O Glawr i Glawr y rhifyn arbennig hwn i Sibrydion.
SIBRYDION
P
rosiect cymharol newydd, yn codi o lwch Big Leaves, oedd Sibrydion pan ymddangosodd y ddau frawd, Osian a Meilir Gwynedd, ar y clawr cyntaf hwnnw yn 2004, ac mae gan Mei atgofion melys o’r cyfnod. “Ha, deg mlynedd! Dwi’n cofio cael ein tywys lawr alleyway yn Grangetown, yn teimlo’n hungover, a thynnu ein llunia’. Y photoshoot gora wnaethon ni ella, ond haws hefo dau am wn i. Roedd hyn reit ar y cychwyn cyn i ni gael, yn gyntaf Fflos i mewn, ac wedyn Rhys a Daf.”
Ond nid nostalgia yw’r unig reswm dros roi sylw i waith celf y band hwn, achos maen nhw, dros y blynyddoedd, wedi cyflwyno cloriau gwych gyda’u cynnyrch cerddorol. “Ma’ cloria’ wastad wedi bod yn bwysig i mi,” eglura Mei. “Mae gan fy hoff LP’s i gyd ddelwedd gref, Stone Roses LP, Never Mind, Pills ‘n’ Thrills and Bellyaches (Mondays). A logo tafod y Stones hefyd, mae o’i gyd yn ychwanegu at ddelwedd
bandiau. Dyma pam nes i fwynhau arddangosaf Rhys Aneurin yn yr eisteddfod, cymaint o gloriau eiconig Cymraeg.” Mae gan Campfire Classics o 2009 glawr da, ac felly hefyd yr albwm o ailgymysgiadau dwyieithog, Sibrydion v Draenog, o 2012. Ond dim ond lle i roi sylw i’w tair albwm Gymraeg sydd yma y tro hwn.
“Dwi’n cofio cael ein tywys lawr alleyway yn Grangetown, yn teimlo’n hungover, a thynnu ein llunia’.”
8
y-selar.co.uk
o glawr i glawr JigCal
2005 oedd hi pan gafodd campwaith cyntaf Sibrydion, JigCal, ei rhyddhau gyda darlun Gethin Davies ar y clawr. “Ro’n i’n byw dros y ffordd i Gethin,” eglura Mei. “Wnaethon ni ddechra’ siarad, roedd o’n aelod o Ashokan, a dwi’m yn cofio sut yn union, ond ddoth o rownd i wneud y ddelwedd yma wnaeth aros gyda ni trwy ein gyrfa.” Wyneb gyda bysedd dros y geg yn gofyn am ddistawrwydd sydd yma, delwedd syml iawn ar un wedd ond un a ddaeth, fel yr awgrymodd Mei, yn un eiconig bron. “Fe gymerodd hi dipyn i gyrraedd lle oedd pawb yn hapus, ond unwaith ddoth Gethin i fyny hefo hwnna oedd hi’n eureka moment. Dwi’n licio bod y perspectives yn seicedelig, y llinellau ddyla’ fod yn agos ata’ chdi’n fwy main na’r rhai pellach er enghraifft.” Dwi’n cofio meddwl ar y pryd bod yna deimlad da i’r holl beth. Dyma gyfnod pan oedd mwy a mwy’n ffafrio’r steil yma o glawr (tebycach i lyfr bach), na’r hen jewel cases plastig hyll. Peth bach, dwi’n gwybod ond roedd o’n ategu’r teimlad o newydddeb oedd yn perthyn i Sibrydion. “Oedd o’n gyfnod cyffrous, lot o bethau’n newydd i ni, recordio mewn llofftydd yn newydd, band newydd, synau eclectig... nath yr albwm gymryd bywyd ei hun. O wrando yn ôl, rydan ni wedi dysgu gymaint ers hynny.” Rhan o ddatblygiad ac addysg y band efallai, ond does dim dwywaith fod JigCal yn sefyll ar ei thraed ei hun hefyd fel un o’r clasuron cyfoes Cymraeg, ac fe fydd ei chlawr yn aros yn y cof oherwydd hynny.
Simsalabim
Ddwy flynedd yn ddiweddarach ac roedd Sibrydion wedi tyfu, mewn statws yn y sin ac o ran niferoedd! Band pum aelod go iawn wnaeth ryddhau Simsalabim, a beth well fel clawr yr albwm honno na chofnod gweledol o hanes a datblygiad y band dros y ddwy flynedd ers JigCal. “Fi wnaeth y collage,” eglura Mei. “Dwi wastad wedi mwynhau’r ochr yma . O’n i’n licio cadw cofnod o gigs a dwi’n cofio cadw darnau o ffansin wnes i adeg ryw eisteddfod hefyd, ffansin Cachupisorhegmyndiawlicaudygeg, (oedd gen i fwy o amser ar fy nwylo’r adeg yno!) “Mae’r collage gwreiddiol dal gen i, ac mae o’n fawr, tua 3x5 troedfedd! Ma’ lluniau o deithiau Iwerddon, Cymru a Lloegr yma, atgofion da o gigio lot.” Yn wir, mae’r collage
yn pwysleisio mor weithgar fu’r band yn y cyfnod cynnar hwnnw. Wedi dweud hynny, mae Mei’n cyfaddef y bu rhaid twyllo mymryn: “Roedd Daf yn newydd i’r band, a doedd gen i ddim llawer o luniau ohono fo. Felly, yr un ohono fo mewn hoodie coch, wedi ei dynnu o lun fo hefo Iwan Cowbois mae hwnnw! Nes i jyst torri Iwan allan rhoi ni i mewn!”
Uwchben y Drefn
Collage oedd yr arddull pan ryddhawyd Uwchben y Drefn yn 2011 hefyd. Dyma’r cynllun mwyaf uchelgeisiol o blith y tair albwm, nid yn unig y clawr blaen ond y llyfryn i gyd. Mae ôl gwaith ar ochr weledol yr albwm hon yn ogystal â’r gerddoriaeth, ac mae Mei’n falch ohoni. “Hon ydi’r LP lle doth pob dim at ei gilydd. Er mai JigCal ydi’r un lle ddechreuodd pob dim, a’r agosa’ at fy nghalon, Uwchben y Drefn ydy LP gora Sibrydion, i mi.”
Rich Chitty oedd yr artist y tro hwn. Roedd y band eisoes wedi gweithio gydag ef ar elfen weledol rhai o’u sioeau byw felly cam naturiol oedd iddo ef gynllunio’r clawr. “Gafodd o free rein, a dwi mor hapus efo gwaith Rich. Mae o’n foi talentog iawn, ac yn gwneud llwythi o gloria’ ar ei label Bubblewrap, fel yr un newydd Gareth Bonello, sy’n stunning.” Ond beth yw union hanes darn Uwchben y Drefn? “Ath o i [ganolfan hen greiriau] Pumping Station a phrynu llwyth o magazines Look and Learn. Lot o hen ddelweddau o’r Beibl, sy’n cyd-fynd â thipyn o’r lyrics. A gan fod y rhain dros hyn a hyn o oed roeddan ni’n cael eu defnyddio, heb boeni am gael ein siwio!” Hynny wastad yn bwysig! Yn enwedig felly wrth ryddhau ar eu label eu hun am y tro cyntaf. Oedd hynny’n effeithio’r weledigaeth tybed? “Hon oedd rhyddhad cyntaf recordiau JigCal felly wnaethon ni wthio’r cwch allan. Ond 16 page CD? Dwi ddim yn gweld y label yn gwneud hynny eto, ond dwi’n falch ein bod ni wedi!” Fel rheolwr label sydd â chwarter canrif o brofiad fel cerddor hefyd mae’n ddiddorol clywed barn Mei am bwysigrwydd gwaith celf yn y diwydiant cerddoriaeth. “Mae hi’n bwysig cael delwedd gref. O ran rhedeg label, dwi’n meddwl fod ychydig o compromise. Oedd gen i syniad eithaf cryf ’mod i eisiau i EP cyntaf Mellt gael llun rock ‘n’ roll ohonyn nhw. Ma’ nhw’n ifanc ac yn edrych yn cŵl, ond roeddan nhw isho defnyddio’r graffiti, sy’n cŵl hefyd. Nes i roi leeway iddyn nhw’n fanna, ond ar eu EP nesaf dwi isho llun o’r pedwar, cyn iddyn nhw fynd yn hen!” Allwn i ddim gorffen heb holi am ddyfodol Sibrydion. Dwi ddim yn cofio iddyn nhw ddod i ben yn swyddogol ond maen nhw wedi bod yn ddistaw ers cwpl o flynyddoedd bellach felly beth yw’r sgôr? “Nath Sibrydion fynd am 10 mlynedd a gwneud 4 LP. Dyna beth oedd y syniad – dim senglau na EP’s, jyst LP’s, fel Led Zepp! Sgwennon ni dros hanner cant o ganeuon, a dwi’n actually dal yn hoffi tua 20 felly can’t be bad!” Ddim yn ddrwg o gwbl, ac fe fydd y CD’s hynny wastad yn agos ar dop y pentwr, felly hyd yn oed os na fydd mwy, fe fydd ôl-gatalog Sibrydion yn ffurfio rhan bwysig o unrhyw gasgliad gwerth ei halen am flynyddoedd i ddod, yn glywedol ac yn weledol. y-selar.co.uk
9
trydar
@PALENCOband @Y_Selar Su’mai @PALENCOband, croeso i gyfweliad Trydar @Y_Selar! ’Da chi’n cadw’n o lew?
felly mae ‘na ryw agwedd hamddenol dow dow i’r recordio hefyd. ’Da ni’n licio gwneud petha’ dow dow.
@PALENCOband Duw champion diolch. A chitha’?
@Y_Selar Mai’n help felly bod dau o’r aelodau’n rhedeg label tydi! Mae @klepdimtrep ’di bod yn brysur yn ddiweddar, amser cyffrous i chi?
@Y_Selar Reit dda diolch. Bath / Saethu Cnau allan ers tipyn bellach, sut ymateb a gafodd y sengl? @PALENCOband Ymateb da! Mi oedd Saethu Cnau yn rhan o Sesiwn C2 nathon ni ddechrau’r flwyddyn ac fe gafodd hi ymateb da bryd hynny hefyd. @PALENCOband Dwi’n meddwl ei fod o’n drac yr wythnos ar un pwynt. Swish ’de?
@Y_Selar Sôn am fod yn brysur, o’n i’n gweld dy fod di a Llyr ’di cael dipyn o hwyl yn creu gwaith celf y sengl eich hunain.
@Y_Selar Ia wir! Gwrando rŵan hyn fel mai’n digwydd, ‘di anghofio be’ o’n i’n neud deirgwaith! Ma’r ddau drac reit freuddwydiol a hawdd gwrando arnynt.
@Y_Selar Mae ’na fideo ohonoch chi ar wefan klep Dim Trep yn saethu cnau lliwgar at gynfas wen. Syniad pwy oedd hynny?
@Y_Selar Dwi’n dychmygu mai profiad reit freuddwydiol ydi sesiwn jamio Palenco, ryw fersiwn estynedig o’r ddau drac yma felly.
@PALENCOband Y ddau ohonom ni. Rhyw ymdrech i drio gneud rhywbeth gwahanol a chael laff hefo catapults a phaent. Sa’n dda cael gwneud rhywbeth fel’na eto.
@PALENCOband Mae Llŷr a finnau’n hoff o sgwennu caneuon breuddwydiol a hamddenol eu naws. @Y_Selar Be’n union ydi’r set-yp felly, ti [Dafydd] a Llyr yn cyfansoddi a’r tri arall yn dod i mewn wedyn ia? @PALENCOband Ia, mwy neu lai. Ond weithia ma’ Osh neu George yn ymuno hefyd. @PALENCOband O ran set-yp byw, ma’ gynnon ni George Amor ar bas, Gruff ab Arwel ar gitâr a keys ac Osian Huw ar dryms. Da ‘dy nhw fyd! @Y_Selar O’ ti’n sôn bod ‘Saethu Cnau’ wedi ei recordio ar gyfer C2, ‘Bath’ yn gân ddiweddarach felly? @PALENCOband Cafodd y ddwy eu sgwennu tua’r un cyfnod. Odd o wastad yn fwriad rhyddhau ‘Bath’ a ‘Saethu Cnau’ hefo’i gilydd. @PALENCOband Ond nathon ni benderfynu gwneud fersiwn ’chydig fwy hamddenol o ‘Saethu Cnau’ ar gyfer y sesiwn. @Y_Selar Mae’r ddwy’n gweddu’i gilydd yn dda. ’Da chi wrthi’n cyfansoddi ers tipyn bellach, allwn ni ddisgwyl mwy o stwff yn cael ei ryddhau’n fuan? @PALENCOband Do, ers dros ddwy flynedd mae’n siŵr. Y gobaith ydi ryddhau rhywbeth yn y flwyddyn newydd. @PALENCOband ’Da ni’n recordio popeth ein hunain
10
@PALENCOband Do. Wedi bod yn brysur iawn. Gobeithio cadw’n brysur a pharhau i weithio ar betha’ amrywiol...ond dow dow de.
y-selar.co.uk
@Y_Selar A rhyddhau ar feinyl 7”. Pam y fformat hwnnw? @PALENCOband Dwi’n meddwl fod y gerddoriaeth yn siwtio feinyl . Y natur hamddenol a breuddwydiol yna’n cyd-fynd yn dda efo’r feinyl yn troelli’n braf. @Y_Selar Gwir. Pan fyddwch chi’n rhyddhau nesa, rhywbeth tebyg allwn ni ei ddisgwyl o ran naws ta fyddwch chi’n arbrofi eto efo’r sŵn? @PALENCOband Pwy a ŵyr ar hyn o bryd! ’Da ni wedi cael ambell sgwrs o ran sŵn a naws yn ddiweddar a ’sa hi’n braf gallu newid mymryn ar bethau. @PALENCOband ’Da ni’n gobeithio dechrau recordio pethau eto’n fuan, felly cawn weld. @Y_Selar Dwi’n clywed elfennau o sŵn Jen Jeniro wrth wrando, sydd yn naturiol efallai o ystyried bod rhai ohonoch chi’n gyn aelodau. @PALENCOband R’odd Llŷr yn sgwennu dipyn i Jen Jeniro. Felly mae’n siŵr bod yna elfennau o sŵn JJ yn Palenco. @Y_Selar Unrhyw gynlluniau o ran gigio dros y gaeaf? @PALENCOband Dim byd ar y gweill ar hyn o bryd ond gobeithio daw rhywbeth yn fuan. @Y_Selar Gobeithio wir achos mae’r sengl gyntaf yn sicr yn codi awydd mwy! Pob lwc efo hynny a’r recordio dros y misoedd nesa, diolch @PALENCOband!
.. Ti d . d
Ysgol S ul
.T d .. i d
y w l C e i
yw i Cl e
PWY? Prin yr oedd neb wedi clywed am Ysgol Sul cyn iddynt gamu i’r llwyfan ar gyfer Brwydr y Bandiau Maes B yn Llanelli eleni. Doedd y triawd o ardal Llandeilo heb deithio’n bell ar gyfer y gystadleuaeth honno, ond ers ei hennill mae Iolo Jones (gitâr a llais), Llew Davies (dryms) a Cian Owen (gitâr fas) wedi teithio ar hyd a lled Cymru’n prysur wneud enw i’w hunain fel un o fandiau ifanc mwyaf cyffrous y sin.
Swn? Er mai tri cherddor ifanc sydd yma, mae Ysgol Sul yn ^
llwyddo i greu sŵn llawn, diddorol, fel yr eglura Llew. “Hoffwn i feddwl ein bod ni’n ychwanegu sŵn gwahanol a ffres i’r SRG. Petai genre penodol gennym, dwi’n credu taw rhywbeth yn yr un cwch a lo-fi indie gyda thinc o shoegaze fyddai’r genre honno.” Yn sicr, mae’r defnydd o bedalau’n nodweddu’r band gan gyfrannu’n helaeth at lawnder eu sŵn, ac mae eu cân fwyaf adnabyddus hyd yn hyn, ‘Aberystwyth yn y Glaw’, yn enghraifft berffaith o hyn.
Dylanwadau? O ystyried y sŵn nodweddiadol hwnnw, does fawr o syndod wrth glywed y band yn disgrifio rhai o’i dylanwadau, a braf clywed Llew hyd yn oed yn bathu term Cymraeg newydd wrth wneud hynny! “Llawer o bethau gwahanol ond yn bennaf pethau megis slacker rock Pavement ac esgid-rythu My Bloody Valentine, rhyw gyfuniad o surf rock a shoegaze i bob pwrpas.” Braf hefyd yw clywed cerddorion mor ifanc yn pellhau eu hunain rhag gormod o gymhariaethau, “wedi dweud hyn, hoffwn feddwl ein bod yn creu cerddoriaeth diddylanwad!” Hyd yn hyn? Does dim dwywaith beth oedd y digwyddiad pwysicaf yng ngyrfa fer Ysgol Sul hyd yn hyn. “Un o uchafbwyntiau’r haf i ni fel band oedd ennill Brwydr y Bandiau Maes B,” eglura Llew. “I bob pwrpas,
hwn oedd y tro cyntaf i ni’n tri chwarae gyda’n gilydd ar lwyfan mawr o flaen cynulleidfa fawr.” Ers hynny, mae’r cyfleoedd wedi llifo ac fe chwaraeodd y band mewn gwyliau fel Crug Mawr a Gŵyl Gwydir dros yr haf yn ogystal â gigs lleol yn y gorllewin ac un yng Nghlwb Ifor Bach wedi hynny.
Ar y Gweill? Mae’r cyfnod hwnnw pan mae cerddorion ifanc yn mynd i’r brifysgol yn aml yn amser tyngedfenol i fandiau naill ffordd neu’r llall. Gall wasgaru aelodau ar hyd a lled y wlad gan eu gwneud mor weithgar â Jim Royle ar ddiwrnod diog. Gall ar y llaw arall ddod â chyfleoedd newydd, a gyda 2/3 o Ysgol Sul bellach yn Aberystwyth mae digon ar y gweill gyda gigs mawr Y Selar a’r Rhyng-gol yn y dref yn y dyfodol agos. Bydd y triawd yn mentro i’r stiwdio hefyd gyda’r bwriad o ryddhau rhywbeth yn y flwyddyn newydd. “Cadwch eich clustiau ar agor, fe wnewch chi glywed mwy yn y dyfodol agos,” yw’r cyngor. Uchelgais? Mae uchelgais Ysgol Sul yn syml. “Parhau i gigio ac ysgrifennu caneuon.”
Barn Y Selar Amser am domen o puns yn chwarae ar yr enw Ysgol Sul o bosib? Na, maen nhw’n well na hynny. Dwi’n ffan, dwi’n hoff iawn o gymhlethdod ac aeddfedrwydd y sŵn. Mae’n anodd eu gweld nhw’n hed-leinio unrhyw nos Sadwrn Maes B ond mae mwy i fywyd na hynny. Dwi’n eu gweld nhw’n setlo rhywle rhwng y poblogaidd a’r amgen, ar ochr y ffordd yn hytrach na dros y gwrych ac yn y cae. Mae ganddyn nhw’n sicr y potensial i fod yn fand cryf iawn, a’r gallu cerddorol i fod yn llwyddiant, pa bynnag lwybr y byddant yn ei ddewis.
Gwrandewch os yn ffan o My Bloody
Valentine, Jen Jeniro a Sen Segur
UUMAR
SGWRS SYDYN
Beth yw enw’r EP newydd? Neb.
A pham dewis yr enw hwnnw? Mae hi’n gân ar yr EP, a hefyd yn enw eitha’ da i EP (yn ein barn ni). Lle fuoch chi wrthi’n recordio? Pedair cân yn Stiwdio 12 (Ffiws), Llangefni, ac ‘Anodd Derbyn’ yn yr Atrium yng Nghaerdydd. Pwy fu’n cynhyrchu? Ifan Jones (Candelas) wnaeth gynhyrchu pedair cân, ond Rhys y basydd wnaeth gynhyrchu ‘Anodd Derbyn’ yn yr Atrium gan mai fo oedd y myfyriwr yno! Ifan wnaeth mixio a mastro nhw i gyd. Ar ba label fydd hi’n cael ei rhyddhau? Fflach. Beth oedd profiad mwyaf cofiadwy’r broses recordio? Ar ôl y noson gynta’ ddaru ni fynd am gwpl o beints, ac oedd ’na griw o bobl yn gneud Morris dancing ar strydoedd Caernarfon. Oedd huna’n eitha’ cofiadwy. Oedd o hefyd yn grêt cael Lewis Williams (Sŵnami a Candelas) i chwara dryms i ni yn Llangefni. A’r cwestiwn pwysicaf, beth allwn ni ei ddisgwyl o ran y gerddoriaeth? Stwff
12
y-selar.co.uk
eitha’ trwm. ’Da ni gyd yn licio punk, yn enwedig Rhys y basydd! Dwi mwy fewn i grunge a ma’ Tom yn licio stwff seicedelig, a chyfuniad o bob dim ’di’r caneuon. Ma’r geiriau’n eitha’ tywyll ar adegau hefyd!
Sut mae hi’n cymharu o ran steil gyda stwff yr ydych chi fel aelodau wedi arfer ei recordio gyda bandiau eraill? Y gwahaniaeth mwya’ ydi fod pob aelod yn chwarae offeryn gwahanol i’r arfer. Dwi’n chwara gitâr tra dwi ’di arfer chwara bas [efo Bandana], ma’ Tom [ap Dan] yn cael canolbwyntio mwy ar greu melodi efo’r gitâr tra mae o ’di arfer gorfod canu, a ma’ Rhys yn chwara bas tra mae o ’di arfer efo’r gitâr yn Breichiau Hir. Oes gen ti hoff gân? Ma’ hi rhwng ‘Fy Mhen’ ac ‘Anodd Derbyn’. Ma’ ‘Fy Mhen’ yn eitha’ catchy dwi’n meddwl, ond gan mai Tom sy’n canu ar ‘Anodd Derbyn’ dwi’n cael neidio rownd y lle i gyd pan ’da ni’n chwarae’n fyw, ac mae hi’n punky iawn! Pa un fydd yr “hit”? Dwn’im. Pob un gobeithio! ‘Neb’ ydi’r un fwya’ tebygol ella, ond ma’n anodd deud! Pa gân oedd y sialens fwyaf yn y
stiwdio neu pa un yr ydych chi fwyaf balch ohoni? Ma’ ‘Keysey’ yn gân eitha’ cymhleth o ran rhythm y dryms a lot o gwestiwn ac atab yn digwydd efo’r gitârs, felly gymrodd hi dipyn i gael y naws iawn, ond ’da ni’n hapus efo’r canlyniad. Oedd rhaid i ni newid ‘Sgrech’ tra’n y stiwdio, ac mae honno ’di troi allan lot trymach na be’ oeddan ni’n bwriadu, ond mewn ffordd dda! Beth fysa’r gweithgaredd perffaith i gydfynd â gwrando ar yr EP? Dwi’n licio gwrando ar gerddoriaeth sydyn a thrwm wrth goginio, felly dyna fyswn i’n awgrymu! Oes yna gynllun ar gyfer lansio swyddogol? ’Da ni’n chwara yng Nghlwb Ifor Bach ddiwadd mis Tachwedd ac yn bwriadu defnyddio honno fel gig lansio, sy’n dda gan ein bod ni’n ystyried ein hunan fel band o Gaerdydd (’da ni gyd yn y brifysgol yma). Unrhyw gigs eraill ar y gweill? Cwpwl ar ôl ’Dolig, ond ddim dyddiadau pendant eto. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Uumar yn fyw ac Uumar ar record? Ma’r malu cachu sydd i’w gael ar lwyfan yn rwbath ti methu ei ddal ar record. Gwertha hi i ni mewn pum gair! Plis! Newch chi ddim difaru.
Selar
10
Rhybudd – iaith gret
DEGAWD Y SELAR 2004
Band: Texas Radio Band. Er i Kentucky AFC ennill 5 gwobr RAP...roedd hynny am y flwyddyn flaenorol mewn gwirionedd. Mi wnaeth TRB ryddhau’r albwm wych, Baccta Crackin y flwyddyn yma a hon oedd blwyddyn orau’r grŵp gwych o’r Gorllewin. Artist unigol: Alun Tan Lan. Dyma’r flwyddyn yr ymddangosodd Alun Tan Lan o nunlle (wel, ddoth o nôl o Werddon) a gigio fel nytar am y rhan fwyaf o’r flwyddyn. Beth ddigwyddodd?: Steddfod Casnewydd; Pesda Roc anferth gyda Super Furrys yn hedleinio; Gigs Abri yn y Toucan yng Nghaerdydd Cân: Ti (Si hei Lw) – Frizbee
2005
Band: Frizbee. Dyma’r flwyddyn y ffrwydrodd y triawd o Flaenau o fod yn grŵp addawol i fod yn grŵp mwyaf poblogaidd Cymru. Artist unigol: Gwyneth Glyn. Blwyddyn rhyddhau yr ardderchog Wyneb Dros Dro, a Gwyneth yn sefydlu ei hun fel un o ganwyrgyfansoddwyr mwyaf talentog y sin Beth ddigwyddodd?: Marw Tich Gwilym; taith unigol gyntaf Gruff Rhys; mymps Maes-B yn Steddfod Bangor! Cân: Lisa, Magic a Porfa – Radio Luxembourg
2006
Band: Genod Droog. O lwch Pep le Pew a Kentucky AFC y tyfodd y band byw anhygoel yma a ffrwydrodd ar y sin yn 2006 gyda’i sticer a balŵns mawr. Artist unigol: Euros Childs. Yn rhyddhau ei albwm unigol cyntaf, Chops, ac yn gigio’n rheolaidd yn ystod y flwyddyn anodd edrych tu hwnt i’r Gorky. Beth ddigwyddodd?: Cyhoeddi casgliad Dan y Cownter 2 wedi’i guradu gan Huw Stephens; cynnal Gŵyl Macs yng Nghaerfyrddin am y tro cyntaf; Meic Stevens yn bygwth perchennog gwesty efo gwn! Cân: Adar y Nefoedd – Swci Boscawen
2007
Band: Sibrydion. Blwyddyn rhyddhau eu hail albwm, Simsalabim, sef albwm y flwyddyn Y Selar, a’i seliodd fel Y prif grŵp Cymraeg. Artist unigol: mr huw. Blwyddyn o gigio caled a rhyddhau albwm arbennig o dda, Llond Lle O Hwrs a Lladron, oedd â “llwyth o gyfieithiadau rhywiol a tiwns cofiadwy”. Beth ddigwyddodd?: Rhyddhau albyms cyntaf Cowbois Rhos Botwnnog, Yucatan a Gwibdaith Hen Frân; cynnal Gŵyl Sŵn am y tro cyntaf; Genod Droog yn hedleinio Sesiwn Fawr; cynnal diwrnod siopau recordiau am y tro cyntaf. Cân: Madrach – Derwyddon Dr Gonzo
2008
Band: Radio Luxembourg. Y flwyddyn lle ddechreuodd pobl yng Nghymru, a thu hwnt, gymryd y grŵp o Aberystwyth yn wirioneddol o ddifrif. Artist unigol: Gai Toms. Newid ei enw llwyfan o Mim Twm Llai i Gai Toms, rhyddhau albwm gysyniadol werdd wych, Rhwng y Llygru a’r Glasu a defnyddio offerynnau wedi’i gwneud o jync mewn setiau byw. Parch.
SELAR 10 Beth ddigwyddodd?: Radio Luxembourg yn newid enw i Race Horses; Cymdeithas yr Iaith a Maes-B yn cydweithio i drefnu gigs Steddfod Glyn Ebwy; label Dockrad yn dod i ben; lansio Sadwrn.com Cân: Dolffin Pinc a Melyn – Jen Jeniro
2011
Beth Ddigwyddodd?: Clwb Ifor Bach yn 25 oed; Genod Droog yn rhyddhau eu halbwm cyntaf, ac yn chwalu; dechrau sgandal toriadau breindaliadau’r PRS (do, ma di llusgo mor hir â hynny!) Cân: The Hwsmon Incident – Eitha Tal Ffranco
2009
Band: Derwyddon Dr Gonzo. Blwyddyn fawr wrth i’w gigs byw anhygoel eu dyrchafu i fod yn un o fandiau mwyaf y sin. Eu halbwm Stonk! hefyd ar frig rhestr 10 uchaf Y Selar. Artist unigol: Fflur Dafydd. Rhyddhau ei halbwm gorau hyd yn hyn, sef yr albwm gysyniadol Byd Bach, cael siaced werdd swel i gymryd lle’r un las ‘Luke Skywalker’, a chyrraedd clawr Y Selar ym mis Rhagfyr – blwyddyn wych heb os! Beth ddigwyddodd?: Heather Jones yn cipio gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gwobrau RAP; cynnal Gŵyl Gwydir am y tro cyntaf yn Llanrwst a Nôl a Mlân am y tro cyntaf yn Llangrannog; Frizbee’n chwalu. Cân: Lle Hoffwn fod – Al Lewis Band
2010
Band: Y Niwl. Blwyddyn syrff a’r siwpyr-grŵp o’r gogs yn rhyddhau EP, albwm a chreu tonnau yng Nghymru a thu hwnt Artist unigol: Gildas. Agos iawn rhwng Gildas a The Gentle Good, ond Gildas sy’n mynd a hi am gamu o gysgod ei gyfaill Al Lewis a rhyddhau albwm ardderchog, Nos Da.
Band: Yr Ods. Hon oedd y flwyddyn yr aeddfedodd rhain o fod yn grŵp addawol i fod yn grŵp gwirioneddol dda diolch i’w halbwm gyntaf ardderchog, a rhif 1 rhestr albyms y flwyddyn Y Selar, Troi a Throsi. Artist unigol: Huw M. Blwyddyn rhyddhau ei albwm hyfryd, Gathering Dusk, a blwyddyn weithgar yn gigio’n rheolaidd. Hefyd yn derbyn yr anrhydedd o wneud cyfweliad Trydar cyntaf Y Selar! Beth Ddigwyddodd?: C2 yn recordio ‘sesiynau unnos’ am y tro cyntaf; Creision Hud yn rhyddhau sengl pob mis; Taith Slot Selar; rhyddhau bocs set ‘Ffoaduriaid’ Steve Eaves; ffurfio labeli I Ka Ching a Recordiau Lliwgar. Cân: Indigo – Creision Hud
2012
Band: Y Bandana. Selio eu lle fel un o brif fandiau’r sin gyda thair gwobr Selar, gan gynnwys ‘Cân y flwyddyn’ am y mega hit ‘Heno yn yr Anglesey’. Artist unigol: Gwenno. Wedi teithio’r byd gyda The Pipettes ac Elton John, daeth Gwenno nôl i Gymru i rannu ei synnu electroneg hyfryd, a rhyddhau’r EP gwych Ymbelydredd. Beth ddigwyddodd?: Siop Recordiau Cob ym Mangor yn cau; Gig Hanner Cant i nodi pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith; Arddangosfa ‘Datblygu 30’ yng nghaffi Waffle, Caerdydd; Airsax JJ Sneed! Cân: Heno yn yr Anglesey – Y Bandana
2013
Band: Candelas. Oes angen dweud mwy? Albwm y flwyddyn, Band y Flwyddyn, Anifail, gigs gwyllt a chynulleidfaoedd mwy gwyllt! Artist unigol: Georgia Ruth Williams. Lot o ferched wedi creu argraff dros y flwyddyn, ond gyda Week of Pines yn cipio’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Georgia greodd yr argraff fwyaf. Beth ddigwyddodd?: Llwybr Llaethog yn claddu ei gwobr Cyfraniad Oes Radio Cymru yn yr ardd; noson fyw gyntaf Gwobrau’r Selar yn Neuadd Hendre, Bangor; cân Masters in France ar hysbyseb Ikea. Cân: Anifail - Candelas
10 Albwm Swyddogol
10 ALBWM 10 Albwm Selar 10
Mi wnaethom ni drio llunio rhestr o 10 albwm gorau o gyfnod cyhoeddi Y Selar ... a methu. Felly mi wnaethom ni ofyn i chi helpu, ac mi wnaethoch chi bleidleisio yn eich cannoedd. Dyma 10 clasur 10 mlynedd Y Selar yn eich barn chi: Yr Atal Genhedlaeth – Gruff Rhys (2005) Anochel y byddai albwm unigol cyntaf cerddor Cymraeg amlycaf ei genhedlaeth yn gwneud y rhestr. “Fe allai’r dyn yma ganu darnau o lawlyfr injian wnio eich nain a dal i gael ei alw’n arwr yng Nghymru.” Trystan Pritchard. Rhifyn 2, Chwefror 2005 Cân – Ni yw y Byd Straeon y Cymdogion – Mim Twm Llai (2005) Gai Toms – un o gyfansoddwyr mwyaf talentog y 15 mlynedd diwethaf, a dyma mae’n siŵr ei gasgliad mwyaf cyflawn o ganeuon hyd yma. “Mae
Straeon y Cymdogion yn wirioneddol arbennig, cawn 12 trac acwstig gogoneddus o’r dwys i’r digri, o’r hwyliog fownsiog drac deitl i ddiamwntiau oesol fel ‘Cwmorthin’ a’i angerdd.” Hefin Jones. Rhifyn 4, Awst 2005. Cân – Cwmorthin Chwalfa – Cofi Bach a Tew Shady (2006) Yng nghanol degawd cyntaf y mileniwm roedd hip-hop Cymraeg ar ei anterth, ac efallai mai albwm gyntaf, ac unig albwm y ddeuawd o’r Felinheli sy’n crynhoi’r cyfnod yna’n fwy na’r un record rap arall. “Yr hyn sy’n plesio fwyaf am yr albwm hon yw ei bod yn hollol Gymreig o ran cynnwys a’i bod yn dibynnu ar brofiadau tebyg i’r gweddill ohonan ni yng Nghymru.” Deian ap Rhisiart. Rhifyn 8, Tachwedd 2008. Cân – 4 Wal
JigCal – Sibrydion (2005) Albwm cyntaf grŵp mwyaf cyson o dda 10 mlynedd Y Selar, sy’n cynnwys clasuron ‘Arthur’, ‘Dafad Ddu’ a ‘Disgyn Amdana Ti’. “Dim yn unig albwm y flwyddyn 2005, ond albwm y ganrif hyd yma, ac mi fydd angen campwaith uffernol o dda i’w disodli.” Rhifyn 6, Mehefin 2006. Cân – Arthur
Dyma’r 10 albwm sydd wedi dod i frig rhestr 10 uchaf albyms y flwyddyn Y Selar bob blwyddyn ers dechrau cyhoeddi’r cylchgrawn. 2004: Baccta Crackin’ – Texas Radio Band 2005: JigCal – Sibrydion 2006: Oes – Y Ffyrc 2007: Simsalabim – Sibrydion 2008: Y Capel Hyfryd – Plant Duw 2009: Stonk! – Derwyddon Dr Gonzo 2010: Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn – Cowbois Rhos Botwnnog; 2011: Troi a Throsi – Yr Ods 2012: Draw Dros y Mynydd – Cowbois Rhos Botwnnog 2013: Candelas
Bore Da – Euros Childs (2007) Albwm cyntaf ffryntman y Gorkys, a chlamp o record sy’n cynnwys caneuon pop cofiadwy fel ‘Bore Da’, ‘Siwgr, Siwgr, Siwgr’ a ‘Henry a Matilda Supermarketsuper’. “Dydy Euros Childs ddim yn byw bywyd arferol, mae’n byw bywyd trwy gerddoriaeth ac yn canu am bethau syml, dydd i ddydd fyddai’n swnio’n hurt petai rhywun arall yn canu amdanyn nhw ...ond sy’n gweithio’n berffaith yn ei ganeuon ef.” Owain Schiavone, Rhifyn 10, Ebrill 2007. Cân – Henry a Matilda Supermarketsuper Moelyci – Steve Eaves (2007) Un o hoelion wyth y sin ers y 1980au cynnar, ac o bosib yr albwm gorau o’r cyfan ganddo. “Mae’r elfen bersonol, deuluol i ganeuon fel ‘Ni sydd ar ôl’ a Nos da, Mam’, yn annwyl tu hwnt, a dirdynnol
SELAR 10 10 Record wan ‘Ti ‘nol – Rhydian Bowen “... gwenwch mae’n nos Wener ... a dwi ddim di clywed y CD yma ers nos Lun.” Goreuon Sobin a’r Smaeliaid: “Erchyll. Ymaith Satan! Ond mi werthith filoedd ar filoedd.” Draw Dros y Mynydd – Cowbois Rhos Botwnnog (2012) Trydydd albwm y brodyr o Ben Lly^ n, ac yr ail i gyrraedd y rhestr yma. Hon oedd ar frig rhestr 10 uchaf albyms 2012 Y Selar. “Er bod hi’n ddilyniant i’r albwm ddiwethaf, mae’r Cowbois wedi tyfu fyny...nid bod y band yn teithio’n bell o’u gwreiddiau gwerinol. Fel cyfanwaith, mae hi’n gam ymlaen i Cowbois Rhos Botwnnog.” Ciron Gruffydd. Rhifyn 30, Awst 2012. Cân – Ceffylau ar D’rannau
ar adegau. Albwm aeddfed, emosiynol, ardderchog gan feistr ar ei grefft.” Shon Williams. Rhifyn 12, Awst 2007. Cân – Ymlaen ma Canaan Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn – Cowbois Rhos Botwnnog (2010) Wedi nonsens hwyliog, ‘hillbilly punk’ (chwedl Iwan Huws mewn cyfweliad Selar un tro) Dawns y Trychfilod, roedd hi’n bryd i’r Cowbois droi’n ddifrifol. “I mi, mae gwrando ar Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn fel cael andros o sgwrs hir bersonol efo hen Ffrind. Hanesion o hapusrwydd, unigrwydd, ysfa, cariad a cholli cariad.” Casia Wiliam. Rhifyn 23, Rhagfyr 2010. Cân – Celwydd Gola ydy Cariad Llithro – Yr Ods (2013) Roedd albwm cyntaf Yr Ods, Troi a Throsi, drwch blewin o gyrraedd y rhestr yma ...ond roedd cyfanwaith campus Llithro yn
gyfforddus i mewn. “Er gwaetha’r teitl, nid yw safonau’r Ods wedi ‘Llithro’ ac mae’r ail albwm cystal, os nad gwell, na’r cyntaf. Er bod newid wedi bod yn y sŵn, yn aelodau’r band ac yn y cynhyrchydd, mae Llithro yn esiampl arall o allu Yr Ods i greu casgliad safonol iawn o ganeuon.” Owain Gruffudd. Rhifyn 34, Awst 2013. Cân – Gad mi Lithro Y Bardd Anfarwol – The Gentle Good (2013) Enillydd teilwng gwobr ‘Albwm y Flwyddyn’ yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, ac efallai’r prosiect cerddorol mwyaf diddorol o gyfnod Y Selar. “O’r nodyn cyntaf, mae rhywun yn cael y teimlad bod The Gentl Good yn cyflwyno rhywbeth arbennig iawn yn ei record ddiweddaraf. Mae’r record fel petai’n gam uwchben unrhyw record Gymraeg arall, a’r Bardd Anfarwol fydd y llinyn mesur i mi o hyn ymlaen.” Ciron Gruffydd. Rhifyn 35, Rhagfyr 2013. Cân – Yfed gyda’r Lleuad
Colli’r Amser – Garej Dolwen “Erbyn ‘Popeth yn Newid’, y bumed gân, mae’r clustiau yn gwegian a’r CD sydd angen ei newid.” Rhifyn 7. Arwel Wyn Roberts – Mewn Byd Mor Fawr “Mae o union yr un math o gachu roedd Barry Manilow yn arfer wasgu allan o’i dwll tîn tra’n yfad Campari ar draeth y Copa Cobana nôl yn ‘76” Ryan Kift – Porn Cinema “Mae’r gân yn rhyw gyfuniad o rhywbeth gan Celt wedi ei groesi gyda llais Brigyn-aidd a teg dweud nad ydy Ryan ar ei orau yma.” Something Personal – Wedi Chwalu’n y Cymylau ‘Mae llawer o ddŵr wedi llifo dan y bont yn y degawd ers sefydlu Something Personal, ond dyw’r albwm hwn heb ddangos unrhyw fath o ddatblygiad yn sŵn y band yn y cyfamser.” Goreuon Bryn Fôn “Prynwch hi os y chi’n hoffi Bryn Fôn, ond os nagych chi, ewch i brynu rhywbeth call, PLÎS.” Tro ar Fyd – Daniel Lloyd “Arbedwch eich pres i brynu eis crîm a da-das blantos.” Sarah Wyn a DJ Leighton– Paid Deud (bo fi’n rhy hwyr) “...y sin trance yn Ibiza yn y 1990au yw lle ac amser ‘Paid Deud (bo fi’n rhy hwyr)’. Y Cariadon – Santes Dwynwen “Roeddwn i’n methu gwneud pen na chynffon o’r sengl yma...Ai Sbŵff oedd hi, neu jysd cachu?” Rhifyn 36
John R Garet hambo a h Gloch Adoly ben gwyr dig
on ffra digon eth...a cas ar adega beth d u, ond digwy ddod adolyg wyr am d i ddau o lycaf c yfnod cynna r Y Se lar.
10 RHYFEDDOD Y SELAR Damwain geneteg Gruff Rhys ac Euros Childs Dim clem be oedd golygydd Y Selar wedi bod yn cymryd cyn mynd â rhifyn 12 i’r wasg ...ond dyma’r canlyniad.
2 rifyn 18 Bydd y rhai craff ohonoch wedi sylwi bod rhifyn rhif ‘18’ wedi ymddangos ddwywaith ar glawr Y Selar – ym mis Mehefin ac Awst 2009! Yn rhyfeddol, wnaeth neb sylwi ar y pryd a beth mae hyn yn golygu ydy mai’r rhifyn yma ydy’r deugeinfed rhifyn o’r Selar ...er mai 39 sydd ar y clawr!
Er bod proffesiynoldeb Ifan ‘Elfis’ Ifans Pwy sy’n cofio cwisfeistr, a’r DJ y tîm yn glir, mae ambell priodasau a disgos ffermwyr beth bach rhyfedd wedi ifanc o Geredigion a ymddangosodd ymddangos rhwng gyntaf yn Y Selar yn Awst 2009? Mi cloriau’r Selar dros gyflwynodd ei gwis y blynyddoedd.... mewn 4 rhifyn o’r Selar, a’r tro diwethaf i
ni ei weld roedd ar ei ffordd i ddechrau ‘karaoke speed dating yn yr Ivy Bush yn Llambed.
2 adolygiad Y Record Las Roedden ni mor hoff o ail gynnig criw Recordiau Lliwgar nes i ni gyhoeddi dau adolygiad o’r Record Las. Roedd y cyntaf gan Casia Wiliam yn rhifyn 31, a’r ail gan Cai Morgan yn rhifyn 33 ... a wyddoch chi beth? Fe roddodd y ddau 9 marc allan o ddeg i’r casgliad!
Y Selar ar Ebay Gredwch chi fod rhyw ddiawl bach wedi trio gwerthu cylchgrawn sy’n dweud ‘AM DDIM’ yn glir ar y clawr ar Ebay? Ac yn waeth na hynny, fe brynodd rhywun o am £6.50!
SELAR 10 10 GWERTH DILYN Jon-z a’i golofn rap Fel Ifan ‘Elvis’, dyma gymeriad bach digon rhyfedd ond annwyl arall. Pan oedd hip-hop Cymraeg ar ei anterth yng nghyfnod cynnar Y Selar, Jon-z oedd yn dod â’r diweddaraf o’r sin rap i dudalennau’r Selar.
BB SRG Cartŵn rhyfedd iawn iawn yn rhifyn 4 yn serennu Dyl Mei, Elin Fflur, Meic Stevens, Alun Tan Lan ac eraill. Doedd o ddim yn rhifyn 5!
‘Y cylchgrawn mwyaf amherthnasol erioed’ Canmoliaeth ffan mwyaf Y Selar, Rhys Mwyn, o’r cylchgrawn a argraffwyd yn falch ar glawr rhifyn 12.
Jiwcbocs y Josgin Rhywun tebyg iawn yr olwg i Dai Jones Llanilar oedd yn rhannu hoff draciau ei iPod gyda’r darllenwyr – yn eu mysg roedd ‘Tri Mis a Diwrnod’, Vanta; ‘Eldon Terrace’, DanLloyd a Mr Pinc; a ‘Tŷ ar Mynydd’, Maharishi.
Dros y blynyddoedd mae Dau i’w Dilyn a Ti Di Clywed... wedi bod yn cyflwyno artistiaid mwyaf addawol y sin i chi. Dyma’n 10 top tip gorau ni: 1 Yr Eira (rhifyn 35) 2 Sŵnami (rhifyn 27) 3 Siddi (rhifyn 21) 4 Y Reu (rhifyn 30) 5 Candelas (rhifyn 18 #1) 6 Y Bandana (rhifyn 17) 7 Gildas (rhifyn 17) 8 Casi Wyn (rhifyn 29) 9 Yr Ods (rhifyn 14) 10 Kizzy Crawford (rhifyn 32)
10 OEDD DDIM
Am bob artist neu fand addawol sydd wedi blodeuo, mae un wedi gwywo ...a dyma top fflops Y Selar: Deadly Saith (Rhifyn 26) – dead loss yn nes ati Helyntion Jôs y Ficar (Rhifyn 27) – Lewis di dod yn ddrymiwr amlycaf y sin, a’r lleill di ymuno â’r weinidogaeth? Y Cer (Rhifyn 23) – newid eu henw i Rosary yn hwyrach, ond doedd eu gyrfa ddim yn rosy yn anffodus! El Mondo (Rhifyn 19 ) – ‘CD ar y gweill’ meddai Dau i’w Dilyn...rydan ni’n gobeithio ei weld erbyn 2024 Steffan Huw (Rhifyn 19) – edrych yn addawol, be ddigwyddodd Steff? Y Ffrwydron (Rhifyn 18 #2) – dal yn disgwyl iddynt ffrwydro ar y sin Y Sais (Rhfyn 18 #1) – prosiect Owain Ginsberg...cyn iddo fo sylw bod Masters in France yn well na gradd yn Lloegr Offbeats (Rhifyn 16) – un o enillwyr mwyaf llwyddiannus Brwydr y Bandiau C2 Radio Cymru... Y Saethau (Rhifyn 25) – O leia ma rhai o’r rhain yn chwarae mewn bandiau eraill erbyn hyn Fan Alfresco (Rhifyn 22) – Awyr iach, neu wynt teg ar eu hôl nhw
10 record drytaf Î-Bê
y
10 9 8 7 6 5 4 3 2 1
Mae’r Olwyn yn Troi – Heather Jones - £31 (Rhifyn 35, Mehefin 2013) Eryr Wen – Manamanamwnci: £43 - (Rhifyn 37, Mehefin 2014) Teulu Yncl Sam – Sidan: £52.57 - (Rhifyn 30, Awst 2013) Haul ar yr Eira – Pererin: £121 (Rhifyn 34, 34) Hedfan – Brân: £132 (Rhifyn 32, Ebrill 2013) Teithgan – Pererin: £160 (Rhifyn 31, Rhagfyr 2013) Heather – Heather Jones: £171.66 - (Rhifyn 29, Mawrth 2012) Gog – Meic Stevens: £174.99 - (Rhifyn 31, Rhagfyr 2012) Maes B – Y Blew: £271.66 (Rhifyn 30, Awst 2012) Newyddion Da – Meic Stevens: £375 - (Rhifyn 36, Mawrth 2013)
10
DYFYNIAD
Cyfweliadau gydag artistiaid ydy asgwrn cefn Y Selar, a dros y blynyddoedd rydan ni wedi cyhoeddi degau o gyfweliadau cofiadwy iawn. Weithiau, mae ambell gyfweliad, ac ambell ddyfyniad yn arbennig, yn dal y sylw. Dyma ddeg o ddyfyniadau mwyaf cofiadwy archif Y Selar. “Damwain llwyr ydy hyn. O’n i di gorffen albym efo’r band. Oeddwn i ddim wedi meddwl gwneud albym fy hun, jyst recordio fo ar ddamwain.” Gruff Rhys, Rhifyn 2, Chwefror 2005 yn trafod ei albwm cyntaf, Yr Atal Genhedlaeth – dim ond Gruff allai wneud rhywbeth cystal trwy ddamwain! (Rhifyn 2) “Pan o’n i’n fychan oedd yr Urdd yn mynd ar fy nerfau, yn gwthio rhywun i wneud pethau nad oeddwn i’m o’i isio ...ac yn dympio chdi os nad oeddet ti’n ddigon da, felly cân i gael gwared ar yr Urdd ydi hi.” MC Saizmundo yn egluro’r gân ‘GBH Mister Urdd’ o’i albwm Malwod a Morgrug dan warchae (Rhifyn 3)
“Da ni ddim isho headlinio ffycin Steddfod neu Dolgellau roc neu be bynnag ydi o, fydda well gynna i gael ffwc o gig da yn syportio twmpath dawns neu rhywbeth” Marc Roberts (gynt o’r Cyrff a Catatonia) yn sôn am uchelgais ei brosiect newydd Y Ffyrc yn 2006. (Rhifyn 7)
“Dwi’n cofio mam yn dal fi hefo dirty mag pan oeddwn yn 12 oed. Nath hi hitio fi hefo’r mag tra oni yn trio rhoid coc fi yn ôl yn jeans fi.” Pwy ond Ryan Kifft! (Rhifyn 12) “Nes i feddwl bod e’n enw ridicilys am tua wythnos ond wedyn nes i feddwl, ffyc it!” Mared Lenny ar ddewis yr enw Swci Boscawen ar gyfer ei phrosiect cerddorol newydd. (Rhifyn 11)
“Ar y ffordd lawr i’r De ma gin ti lot o amser i siarad...a da ni’n cyfro bob un subject dan haul ...da ni’m yn rhoi stic i’n gilydd da ni jyst yn siarad am sex” Ywain Gwynedd yn disgrifio arferion teithio Frizbee. (Rhifyn 6)
“Oedda ni methu chwara ffwtbol, felly dyma ni’n dysgu sud i chwara gitars a ffurfio band...’Ma’n cool i neud miwsig weird!” Gruff Eitha Tal Ffranco (Y Niwl, Palenco yn ddiweddarach) ar ffurfio grŵp yn ifanc. (Rhifyn 14) “Dwi’n cofio pan oeddan ni’n cychwyn bo fi isho neud miwsic sydd mwya opposite a phosib i Bryn Fôn” Dafydd Owen o’r grŵp Bob yn disgrifio sŵn ei fand. (Rhifyn 18) “Da ni’n teimlo ‘chydig fel y ddafad ddu, yr yncl rhyfedd ne ti’n gweld bob Dolig, rhech annisgwyl yn capel a’r gîc sy’n cal i gloi yn y locyrs bob bore Llun.” Candelas yn egluro sut roedden nhw’n gweld eu hunain yn ffitio mewn i’r sîn ar ddiwedd 2011...cyn iddyn nhw ddod yn fand mwyaf poblogaidd Cymru! (Rhifyn 27)
“Roedd yr aftershow party yn Clwb Ifor a roedd Huw Stephens, Euros Childs a Dyl Mei yn dawnsio i Bon Jovi” Aneirin Karadog ar barti claddu Genod Droog, yn llwyddo i chwalu street cred Huw, Euros a Dyl trwy ddatgelu eu pleser cudd. (Rhifyn 16)
Dymuna gwasg y Lolfa Ben-blwydd Hapus iawn i gylchgrawn Y Selar yn 10 oed! Cy h o e d d w y r a c A rg r a f f w y r
www.ylolfa.com 01970 832 304
PENBLWYDD HAPUS SELAR ODDI WRTH
Nofelau Cyfres Copa Pum nofel fer, fachog a chyfoes am £2.95 yr un neu £10 am becyn
ffôn 01286 831.111 sain@sainwales.com
www.sainwales.com
Penblwydd hapus i’r Selar
yselar@live.co.uk
gan Sain, RaSal, Gw ymon a Copa
www.ylolfa.com 01970 832 304
Geiriau:Gwilym Dwyfor
SIARAD IAITH ESTRONS
F
e gymerodd hi ychydig ddyddiau i mi drefnu cyfweliad ag Estrons. Maen nhw’n newid drymiwr a basydd yn amlach na mae Edward H. yn chwarae ‘gig olaf’, ac roedd y prif leisydd, Taliesin, yn rhy brysur yn cael babi - digon teg! Llwyddais yn y diwedd i drefnu sgwrs â’r gitarydd, Rhodri, cyn ei gyfarfod mewn caffi ar City Road, Caerdydd. Dechreuais trwy holi dros toasted teacake am aelod diweddaraf Estrons, na nid y boi fydd ar y bas yn y gig nesaf, ond Bjorn, mab bach newydd Taliesin. “Ydi, mae hi a’i chariad newydd ddechrau teulu,” eglurodd Rhodri. “Oedden ni wedi trefnu ychydig o bethau dros yr haf ond s’dim ots. Mae’r band wastad wedi bod yn rhywbeth ry’n ni’n mwynhau ei wneud ar yr ochr a phan mae gennym ni amser. Ni’n trial ei wneud e’ gymaint â ni’n gallu ond ni’n sylweddoli fod bywyd yn digwydd.” Pa mor hir felly nes bydd Bjorn bach yn aelod o’r Estrons? “Pum mlynedd falle, pan ma’ fe’n ddigon mawr i chwarae tambwrîn!”
14
y-selar.co.uk
Nid dyna’r unig newyddion cyffrous i’r Estrons ar hyn o bryd, nhw yw artist cyntaf clwb senglau’r Selar hefyd! Bwriad y clwb yw rhoi cyfle cyntaf i fandiau ac artistiaid sydd heb ryddhau o’r blaen ac roedd hynny’n apelio at Rhodri. “Mae’r clwb yn trial helpu bandie sydd heb gael llawer o buzz amdanyn nhw eto. Yn draddodiadol mae bands yn gorfod gigio am flwyddyn neu ddwy ond mae hon yn ffordd dda o gael cerddoriaeth dda mas yn syth.” Soniodd Rhodri wedyn ei fod yn cofio’r cyffro flynyddoedd yn ôl pan oedd Ciwdod yn rhyddhau senglau ac mae’r gymhariaeth yn un ddiddorol. Un peth sy’n gyffredin rhwng y ddau yw eu bod yn canolbwyntio ar senglau. Holais Rhodri os oedd digon o senglau’n cael eu rhyddhau yn y Gymraeg. “Ma’ shwt gymaint o fandie, nid dim ond rhai Cymraeg, ond bandiau bach yn rhyddhau popeth sydd ganddyn nhw i Soundcloud neu free EP download cyn fod buzz mawr wedi bod amdanyn nhw. Ac er y caren i gael albwm at ei gilydd, wy’ jyst yn meddwl weithie’i bod hi’n well cael cwpl o senglau
mas a gweld shwt ma’ bobl yn teimlo cyn dod ag EP mas – a’i wneud e’n ddigwyddiad mawr wedyn.” ‘C-C-CARIAD!’ yw’r sengl dan sylw, cân a gafodd ei recordio’n wreiddiol ar gyfer sesiwn C2, ac yna ei hail fastro ar gyfer Y Selar. “’Wnaethom ni recordio jyst cyn i Tali gwympo’n feichiog. ’Oeddem ni wedi clywed gormod o ganeuon am gariad felly benderfynon ni sgwennu cân am ysgariad! ’Chydig bach o jôc ond ma’ hi’n eitha’ ffyrnig ac yn gân dda i orffen set.” Mae ffyrnig yn ddisgrifiad da ac mae llawer o’r diolch am hynny’n ddyledus i berfformiad lleisiol grymus llawn agwedd ac angerdd Talieisin. O ystyried cynnwys y gân a’r hyn ddigwyddodd ychydig wythnosau wedyn, awgrymais wrth Rhodri ei bod yn gân eithaf eironig! “Ydi! Ma’r gân am fam yn dweud wrth y tad, cer di a’r plant, gaf i’r gath a’r ci, ac yna ychydig wythnosau wedyn mae Tali’n disgwyl babi! Ma’n eitha’ doniol.”
y-selar.co.uk
15
O ble mae Estrons yn dod?
16
y-selar.co.uk
Swn ^
Set-yp syml tri offeryn sydd yma ond mae sŵn Estrons yn un llawn. Mae’n rhaid i’r clod am hynny fynd i Rhodri ar y gitâr, felly holais beth yw’r gyfrinach. “Fi’n dod o Lanbedr Pont Steffan,” oedd yr ateb braidd yn annisgwyl! “Dodd dim digon o bobl o gwmpas i greu bands gyda loads o gitârs, felly odd rhaid gneud be’ o’n i’n gallu ’da’r bobl odd ’da ni! Three-piece gyda llais oedd Java hefyd felly fi’n gyfarwydd â sgwennu caneuon felly. Fydden i ddim nawr yn gallu sgwennu cân ’da thair gitâr arni.” Gweithio gyda’r hyn sydd ganddynt o bosib, ond mae’r canlyniad yn gweithio. Dim dewis ond melodi cryf ar y gitâr sydd yn ei dro’n effeithio’r hyn mae’r dryms a’r bas yn gorfod ei wneud. Mae’r term unigryw yn cael ei ddefnyddio’n rhy aml ond mae’n wirioneddol anodd meddwl am fand i’w gymharu ag Estrons. Dychmygwch fy syndod felly wrth i Rhodri ddisgrifio rhai o’i ddylanwadau cynnar. “Nath llawer o fandie Cymraeg ddylanwadu fi pan o’n i’n ifanc, o’n i’n gigio gyda Mattoidz ac Ashokan! Odd e’n grêt pan yn bymtheg gweld bois yn gigio fel’na yn yr iaith Gymraeg. Nath e’ ddysgu i mi bod dim rhaid chwarae stwff canol y ffordd fel odd lot o fandie Cymraeg yn ei wneud ddeg mlynedd yn ôl.” Tydi Estrons yn sicr ddim byd fel Mattoidz ac Ashokan ond dydyn nhw sicr ddim yng nganol y ffordd chwaith. Ond, dim ond un ffordd sydd yna i chi benderfynu drosoch eich hun am wn i... (ciw plyg ofnadwy)... lawrlwythwch y sengl!
Lluniau: Ochr 1
Beth yw hanes Estrons felly? Fe fydd rhai’n cofio Rhodri o Java, a bu Taliesin gyda Threatmantics, ond beth am y gweddill? “Y syniad gydag Estrons oedd nad oedd y band cweit yn ffitio mewn fel Cymry Cymraeg yng Ngheredigion nac yn ffitio mewn gyda Saeson chwaith. Ma’ ryw bymtheg o bobl wedi mynd i mewn a mas o’r band dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Dechreuon ni gigio mewn ardaloedd fel Aberteifi ac Aberystwyth lle nad oedd lot yn digwydd, gigio lot gyda Blaidd.” Yna, gan gadw’n driw i natur mynd-a-dod aelodaeth y band, mae Estrons yn y brifddinas. “Symudon ni i Gaerdydd oherwydd bywyd, gwaith a phrifysgolion. Nath e’ jyst cadw i fynd gydag un neu ddau lineup change arall ond cadw’r enw.” Rhodri a’i gitâr yw’r unig aelodau parhaol mewn ffordd gyda’r dryms a’r gitâr fas yn cael ei chwarae gan bwy bynnag sydd ar gael! Rhodri a Taliesin sy’n cyfansoddi’r caneuon. “Dim ond fi sy’n aelod o’r dechrau, oedd gennym ni gantorion eraill yn y gorffennol cyn Talieisin. Wedyn mae’r gweddill yn newid bob yn ail fis, gan fod y bassist wedi priodi neu rywbeth felly!” Dwi’n cael y teimlad y bydd Estrons ar ganol gig a’r drymiwr yn cerdded allan hanner ffordd trwy gân! “Dwi wedi gorfod chwarae mewn bands eraill o achos hynny! Mae yna lot o hynny’n digwydd yn y sin Caerdydd, cerddorion yn helpu ei gilydd, a fi’n licio ’na.” Mae hynny’n codi cwestiwn diddorol am y cydbwysedd rhwng bod yn rhan o’r ‘sin Gymraeg’ a ‘sin Caerdydd’. Mae yna ambell fand yn y gorffennol fel Threatmantics a Violas efallai wedi bod yn amlycach yn sin ddwyieithog y brifddinas na’r sin Gymraeg ledled y wlad. Ro’n i’n awyddus i wybod os yw hi’n anodd cael eich derbyn i’r ddwy sin. “Ma’r Estrons yn fand dwyieithog, gigs y Selar yn Aberystwyth a Chaerdydd fydd y rhai uniaith Gymraeg cyntaf i ni. Ni heb gael ein derbyn yn y sin Gymraeg cyn hyn achos bod ni ddim yn canu’n uniaith Gymraeg, a weithie ni ddim yn cael ein derbyn mewn gigs achos ein bod ni’n canu’n Gymraeg.” “Ma’ sin roc dda yng Nghaerdydd, ma’ hi’n eitha’ bach ond yn llawer mwy llwyddiannus na rhai dinasoedd eraill... ond fi’n fustrated weithe bo’ ni ddim yn cael ein derbyn i’r naill na’r llall.” “Fi ’di hoffi’n ddiweddar gweld gwyliau fel Sŵn a gwyliau bach eraill yng Nghaerdydd yn cael bandiau Cymraeg i chwarae, fel Sen Segur a’r Ods, ma’ nhw’n chwarae’n uchel ar y bil ac mae’r sin Saesneg yn ymwybodol iawn o boblogrwydd y bands ’ma. Fi’n hoffi ’na, cwbl sydd angen nawr yw cael bandie dwyieithog Caerdydd yn rhan ohono fe!”
Dyddiadur Griff Dim colofn gan Griff y tro hwn, ond dyddiadur yn dilyn taith ddiweddar Yr Ods ar dir mawr Ewrop. Ma’ teithio i gigs mewn fan gyda saith arall yn anodd. Ma’ safon y sgwrs yn isel, y potensial am ffrae yn enfawr a’r arogl yn annioddefol. Mae’n bell o fod yn brofiad pleserus. Felly mi benderfynon ni y byddai’n syniad da gyrru’r holl ffordd i’r Almaen a Gwlad Pwyl, tua 16 awr o deithio. Y pethau ‘da chi’n neud yn enw pop Cymraeg? Berlin Gig yn y Marie Antoinette, ddim yn bell o ardal Fredrichshain a Kreuzberg. Ardal eithaf tlawd sydd wedi ffeindio’i hun yn ganolbwynt bywiog y ddinas ers dymchwel y wal. Yn gyfoeth o ddiwylliannau, artistiaid a phobl greadigol, mae ’na deimlad fod y bobl wyllt wedi ennill y frwydr yma rhywsut. ’Da ni’n cyfarfod trefnydd y gig, sef Tom o’r Fenni (!), sy’n byw a gweithio ym Merlin ers blwyddyn neu ddwy. Yma ‘da ni hefyd yn cyfarfod Carwyn Colorama sy’n byw yn ardal Mitte o’r ddinas. Fo sy’n cefnogi ni ar y gyfres o gigs o’n blaenau. Mae chwarae miwsig Cymraeg i lond stafell o bobl Almaeneg yn teimlo’n rhyfedd o naturiol. Bron fod yna lai o ‘barier iaith’ nag yn rhai o’n gigs ni yng Nghymru. ’Da ni’m yn deall chi, a ’da chi’m yn deall ni, felly ’da ni gyd yn deall ein gilydd. Poznań Ma’ Poznań rhyw 170 milltir o Ferlin ond yn nhermau autobahn a gyrru afreolus Gwion Llewelyn a Sam Roberts, rhyw dair awr. Yn Trochę Kultury ma’r gig heno, reit yng nghanol y ddinas, yn ardal fywiog Stary Rynek. Wedi cyrraedd y lleoliad mae’n eithaf amlwg nad oes llawer o drefn. Dydi’r gŵr sy’n ‘trefnu’, sef Conrad, heb wneud dim math o hyrwyddo. Ma’ ganddo fwy o ddiddordeb dod am sesh efo ni ar ôl y gig. Yn wir mae’n cynnig bo’ ni’n chwarae’n fuan er mwyn cael mwy o ‘amser êl’. Fo sydd hefyd yng ngofal y sain, a does ganddo ddim ond dau feicroffon. Dyna ni’r 4-part harmonies drwy’r ffenest. Ond mae’r gig yn troi allan yn wych. Ma’ ‘na griw o fyfyrwyr Pwyleg yn ymddangos o nunlle, a rhan fwyaf
o’r rhain, wedi dysgu Cymraeg. Dim un a chysylltiad â Chymru ond wedi eu trochi yn y Gymraeg pan fuodd Awen Schiavone yma i ddysgu Saesneg. Mae eu Cymraeg yn rhugl, a ma’ Gwyn Eiddior, sy’n gyfrifol am werthu’r feinyls, CD’s a chrysau T yn penderfynu fod y criw yn haeddu gostyngiad. Ma’ nhw’n cael tua phedair CD am 50 złoty, sy’n swnio’n lot, ond yn tua £5. Ar y £5 yma, ’da ni’n cael sesh wyllt efo Conrad. Funkhaus Berlin. ’Da ni’n cychwyn yn gynnar o Poznań, yn ôl ar yr autobahn i gyfeiriad Berlin, i stiwdios Funkhaus. Yr hen Rundfunk der DDR, sef canolfan ddarlledu Dwyrain Berlin o dan reolaeth yr Undeb Sofietaidd. Cafodd y bensaernïaeth brutalist ei gadael i ddadfeilio ddiwedd yr 80au, ond bellach mae’r adeilad wedi ei feddiannu mewn dull Berlin-aidd, ac yn gawl o artistiaid a cherddorion. Mae’r Alban wedi dweud ‘Na’ wrth ei hannibyniaeth y noson cynt, ac yn yr orsaf radio gadwedig yma heddiw, ’da ni’n recordio cân newydd o’r enw ‘Ble aeth yr Haul?’. Leipzig. Ma Leipzig yn ddinas o ryw hanner miliwn o bobl, tua dwy awr o’r brifddinas. Oherwydd sin greadigol ffyniannus, safon byw uchel a chostau byw rhad, mae’n cael ei ystyried yn ‘Berlin newydd’ neu ‘Hypezig’. Ma’ cyrraedd lleoliad y gig yn sioc i’r system. Nid neuadd, na hyd yn oed stafell bwrpasol mohoni, ond sgwot. Mae’r stafell ydan ni’n perfformio ynddi yn hanner ffordd rhwng ffrynt siop a stafell fyw, y gwifrau trydan yn griau rhydd yn hongian o’r to. Mae’r ferch sy’n trefnu (Lotte), wedi paratoi cawl vegan i bawb, mae poteli o gwrw am ddim a’r awyrgylch yn troi o fod yn un estron i un hynod groesawgar. Mae pawb yn eistedd ar y llawr neu ar soffas carpiog i wrando ar Carwyn yn perfformio ‘Dere Mewn’. Yna’n dawnsio i fand heavy metal / grunge sy’n chwarae am ’chydig rhy hir, cyn i ni chwarae. O sgwrsio gyda’r dorf wedyn mae’n dod i’r amlwg fod pawb oedd yno unai’n byw yn yr adeilad, neu ar y stryd honno. ’Da ni’n rhoi banner Cymru ar y wal, yn sgwrsio a chymdeithasu, cyn gadael y sgwot. Wiedersehen Deutschland, Danke. y-selar.co.uk
17
Wedi llwyddiant ysgubol nosweithiau Gwobrau’r Selar dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydan ni’n falch iawn i gyhoeddi’r drefn ar gyfer y gwobrau eleni. Byddwn ni unwaith eto’n cynnal digwyddiad byw ar gyfer Gwobrau’r Selar, a honno’n fwy ac yn well hyd yn oed na llynedd! Bydd Gwobrau’r Selar yn cael eu cynnal unwaith eto yn Aberystwyth eleni, a hynny yn Undeb y Myfyrwyr ar benwythnos 20 – 21 Chwefror. Cyn hynny wrth gwrs, mae’n rhaid dewis yr enillwyr, a dyma sut byddwn ni’n gwneud hynny eleni. SYSTEM BLEIDLEISIO Mae’r system bleidleisio yn debyg iawn i llynedd, a gyda’ch help chi, byddwn yn llunio rhestrau hir ar gyfer pob categori yn y bleidlais. • Yn gyntaf, bydd modd i unrhyw un gynnig enwebiad ar gyfer unrhyw un o’r categorïau rhwng hyn a 1 Rhagfyr. • Yn fuan wedi cau’r enwebiadau bydd ‘Panel Gwobrau’r Selar’ yn trafod yr enwebiadau ac yn penderfynu ar restrau hir ar gyfer pob categori.
LANSIO GWOBRAU’R SELAR 2014 18
y-selar.co.uk
•
•
Bydd y bleidlais yn agor ar 11 Rhagfyr gyda chyfle i bawb fwrw un bleidlais ar gyfer pob categori rhwng hynny a chau’r bleidlais yng nghanol mis Ionawr. Byddwn yn cyhoeddi rhestrau byr y gwobrau ar ôl i’r bleidlais gau, gyda’r enillwyr i’w cyhoeddi’n ecsgliwsif yng Ngwobrau’r Selar yn Aberystwyth!
PANEL GWOBRAU’R SELAR Bydd 10 o bobl ar Banel Gwobrau’r Selar, fydd yn gyfrifol am lunio rhestrau hir y gwobrau. Bydd 5 o’r panel yn gyfranwyr rheolaidd i’r Selar, a 5 yn ddarllenwyr selog o’r cylchgrawn – ac mae cyfle i chi fod yn un o’r 5 darllenwr lwcus! Os hoffech chi’r cyfle i fod ar Banel Gwobrau’r Selar yna anfonwch nodyn e-bost at gwobrau-selar@outlook.com erbyn 1 Rhagfyr gyda ‘Panel Gwobrau’r Selar’ fel pwnc i’r neges, a brawddeg yn egluro pam yr hoffech fod ar y panel.
CATEGORI NEWYDD
Llynedd, cyflwynodd Y Selar gategori newydd ‘ Fideo Cerddoriaeth Gorau’ i Wobrau’r Selar ac rydan ni am wybod os oes yna gategori newydd arall yr hoffech chi weld yn cael ei ychwanegu eleni. Trydarwch @Y_Selar neu e-bostiwch yselar@live.co.uk gyda’ch awgrymiadau.
ENWEBU Os ydych chi am gynnig enw i’w ystyried ar gyfer un o gategorïau Gwobrau’r Selar (rhestr categorïau isod) yna gyrrwch enwebiad at gwobrau-selar@outlook.com gan nodi ‘Enwebiadau’ fel pwnc i’r neges, erbyn 1 Rhagfyr. Bydd pob enwebiad, a llawer mwy, yn cael eu hystyried gan y panel. Byddwn yn cyhoeddi’r rhestrau hir ar 11 Rhagfyr, a bydd y bleidlais yn agor bryd hynny. Byddwn yn cyhoeddi’r rhestrau byrion y categorïau dros yr wythnosau’n arwain at benwythnos Gwobrau’r Selar ar 20-21 Chwefror. • • • • • • • • • • •
Record Fer Orau Cân Orau (i’w rhyddhau / cyhoeddi ar unrhyw fformat) Hyrwyddwr/wyr Gorau Gwaith Celf Gorau Cyflwynydd Gorau Artist unigol Gorau Band neu artist newydd Gorau Digwyddiad Byw Gorau Band y Flwyddyn Record Hir Orau Fideo cerddoriaeth gorau
Rhaid i’r holl enwebiadau cynnyrch fod wedi eu rhyddhau ym mlwyddyn galendr 2014 i fod yn gymwys, a rhaid i’r digwyddiad byw fod wedi digwydd yn 2014. Mae canllawiau llawn y gwobrau ar www.y-selar.com
ENILLWYR 2013 Rhag bod rhai ohonoch chi ddim yn cofio’n union beth ddigwydd ar y noson honno yn Aberystwyth ym mis Chwefror, dyma pwy enillodd beth yng Ngwobrau’r Selar 2013... Record Fer Orau: Du a Gwyn – Sŵnami Gwaith Celf Gorau: Llithro – Yr Ods Hyrwyddwr Gorau: Nyth Cân Orau: Anifail – Candelas Artist Unigol Gorau: Georgia Ruth Williams Cyflwynydd Gorau: Lisa Gwilym Band neu Artist Newydd Gorau: Kizzy Crawford Digwyddiad Byw Gorau: Gig Olaf Edward H Dafis, Steddfod Dinbych Fideo Cerddoriaeth Gorau: Gwreiddiau Sŵnami Record Hir Orau: Candelas – Candelas Band Gorau: Candelas y-selar.co.uk
19
adolygiadau Y Dydd Olaf Gwenno dyma gasgliad o ganeuon sy’n gwneud i chi feddwl. Mae’n cyfuno cerddoriaeth ysgafn gyda geiriau a ysbrydolwyd gan wleidyddiaeth ac yn cyflwyno cenhadaeth y gantores heb i ni sylwi, bron. Un o rinweddau mwyaf Gwenno yw ei bod hi’n unigryw. Mae hi’n dymchwel waliau a bocsys cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg mewn ffordd sy’n ymddangos yn ddiymdrech iddi. Hyd yn oed o fewn y genre mae hi’n gwneud pethau’n wahanol (ceir drymiau go iawn ar y traciau, sy’n annodweddiadol). Mae Y Dydd Olaf yn gasgliad o ganeuon sy’n ymddangos, ar yr wyneb efallai, yn bop synthetig, ond tu mewn i’r haenau cymhleth sy’n dal y caneuon at ei gilydd y mae pwll o emosiynau a syniadau dwfn. Fyddwn i ddim yn synnu pe bai Y Dydd Olaf yn denu sylw mawr, haeddianol, o du draw i glawdd Offa i Gwenno. Heb os, mae’r albwm hir ddisgwyliedig hon yn pylu’r llinellau rhwng genres ac yn fwy byth rhwng cerddoriaeth ‘nodweddiadol’ gwledydd. 9/10 Lois Gwenllian
Bath / Saethu Cnau Palenco mae ‘saethu cnau’ yn un o’r caneuon hynny sy’n sownd yn y pen oriau ar ôl i chi ei chlywed am y tro cyntaf. O’r nodyn cyntaf, mae’r trac yn tynnu sylw. Mae gitâr amlwg Llŷr Pari, gynt o Jen Jeniro a nawr o’r Niwl, yn cadw’r holl sŵn efo’i gilydd, ac mae’r darn offerynnol yn mynd â ni i fyd breuddwydion ac yn ôl. Mae ‘Bath’, wedyn, yn cael ei
Colli Cwsg Yr Eira heb os, dyma gyfanwaith sy’n sicr o aros yng nghof y gwrandawyr. Ers gwrando ar yr EP hon am y tro cyntaf y mae’r alawon cofiadwy a’r riffs bachog wedi bod yn sownd yn fy mhen. Llwydda Yr Eira i gynhyrchu sain unigryw a diddorol ac y mae eu gallu cerddorol fel band yn amlwg o wrando’n ofalus. Yn ogystal â hynny, mae’r dylanwad o arddulliau pop ac electronig yn gryf, a ‘Trysor’ yn fy atgoffa’n fawr o gynnyrch cynnar Yr Ods. Mae’r gitâr a’r llais yn elfennau cryf iawn yma ac yn ychwanegu at y naws arbennig y mae’r band yn llwyddo i’w gynhyrchu. Ar ben hynny llifa trefn yr EP yn hynod effeithiol, o ‘Cragen’ i ‘Colli Cwsg’, llwydda’r band i greu casgliad, sydd yn ei gyfanrwydd, yn wych i wrando arno. Hefyd, teimlaf fod y sŵn wedi aeddfedu llawer mewn blwyddyn o’i gymharu â’r Sesiwn C2 oedd yn cynnwys y traciau poblogaidd ‘Elin’ a ‘Cyffro Coll’. Do, mae Yr Eira yn sicr wedi tynnu fy sylw gyda’r casgliad hwn - mae ymhlith y cynnyrch gorau i gael ei ryddhau’r Hydref hwn. Mwynhewch. 8/10 Ifan Prys
arwain gan y bas, ac yn fy atgoffa o stwff Badly Drawn Boy, mewn ffordd benigamp ac mae adlais o roc syrff y Niwl yma hefyd. Mae llais Daf Owain yn gallu ymdebygu i lais Bob Dylan ar adegau – a does gen i ddim syniad os yw hynny’n fwriadol ai peidio – ond eto, pwy sydd ddim yn licio Bob Dylan? Os ’da chi, fel fi, yn hoffi’ch roc seicedelig fel Brian Jonestown Massacre, The Dandy Warhols neu Sen Segur mi fydd Palenco at eich dant chi hefyd. 9/10 Ciron Gruffydd GWRHAID
RAN
DO
Neb Uumar un o brif rinweddau
EP cyntaf Uumar yw’r ffaith fod y cyfan yn teimlo fel casgliad er bod yna amrywiaeth da yn arddull a naws y traciau. Un ffon hir o roc melys sydd yma ond mae ei flas yn newid o dro i dro. Dwi’n hoff iawn o ‘Anodd Derbyn’, hon yw tiwn fwyaf pynci’r casgliad, ac alla’ i ddim aros i’w chlywed hi’n cael ei chwarae’n fyw. Mae gan ‘Fy mhen’ wedyn, base line cŵl a riff gitâr fachog tu hwnt - cân gyda thomen o agwedd. Tydi ‘Keysey’ ddim mor gyffrous â rhai o’r lleill ar y gwrandawiad cyntaf, yn yr ystyr nad ydi hi’n mynd ar gan milltir yr awr, ond mae hi wedi ei hadeiladu a’i saernïo’n glyfar ac yn enghraifft berffaith o allu’r bois i amrywio pethau. Does dim syndod mai ‘Neb’ sy’n benthyg ei henw i deitl y casgliad gan fod y gytgan yn un mor gofiadwy, er nad yw’r trac yn ei gyfanrwydd yn un o fy ffefrynnau. Yna, mae ‘Sgrech’ yn cloi’r cwbl gyda riffs gitâr a bas pwerus eto ynghyd â lyrics graffig nodweddiadol Tom ap Dan! Mae hon yn ymdrech gyntaf dda iawn, felly tip i chi - gwrandewch ar Neb. 7/10 Gwilym Dwyfor
Gadael y Gorffennol Lowri Evans gadael y gorffennol
yw enw’r casgliad yma ond pan dwi’n edrych ar glawr y CD ac yn gweld Lowri Evans mewn ffrog flodeuog a sgidia cowboi yn cerdded trwy gae gyda’i gitâr ar ei chefn, dwi ddim yn gweld llawer o ystrydebau am ganu gwerin a gwlad cael eu chwalu. Beth am y gerddoriaeth felly? Diffyg wmff ydi fy mhrif gŵyn i, a phan dwi’n deud wmff, nid wmff yn yr ystyr drum solos gwyllt dwi’n ei feddwl, ond wmff o ran cynnig rhywbeth tu hwnt i’r cyffredin weithiau, rhywbeth gwahanol
ar ambell drac. Mae yna artistiaid gwerin mor dda yng Nghymru ar hyn o bryd, mae’n rhaid i unrhyw gynnyrch yn y genre yma fod yn arbennig i dynnu fy sylw. Ond dwi wedi clywed fersiwn well o ‘Tra bo dau’ mewn o leiaf dwy briodas eleni a tydi Côr Corlan yn ychwanegu dim byd at y recordiad newydd o’r unig gân Lowri Evans yr o’n i’n ei hadnabod cyn hyn, ‘Merch y myny’. ‘Mynyddoedd’ yw’r gân orau o bell ar y casgliad, mae’r cello ar hon yn neis a’r geiriau’n dda. Ond yn gyffredinol, mae angen mwy. 4/10 Gwilym Dwyfor
Cynnydd // Gwenwyn Sŵnami pwy a ŵyr pryd mae’r cerddorion yma’n cysgu achos ar ôl haf anhygoel o brysur yn gigio ledled Cymru fel un o fandiau Gorwelion y BBC maen nhw hefyd wedi llwyddo i ryddhau dwy sengl newydd – ‘Cynnydd’ a ‘Gwenwyn’. Mae’r ddwy gân yn fwy o’r hyn sy’n gyfrifol am lwyddiant ysgubol y band eisoes; curiadau cyflym, geiriau bachog a riffs bywiog. Mae Sŵnami bellach wedi hoelio’u sŵn roc ysgafn nodweddiadol, ac mae ‘Cynnydd’ a ‘Gwenwyn’ yn swnio’n broffesiynol, yn aeddfed ac yn bwysicach na dim, yn afaelgar. I mi mae ‘Gwenwyn’ yn swnio’n ychydig mwy mentrus. Mae’n agor yn llawn egni fel holl ganeuon Sŵnami ond mae’r trac wedyn yn arafu, yn suddo i sŵn metalig, llawn, cyn ail afael yn y rhythm, ac mae’r gân yn gorffen yn y cywair lleddf. Dwy gân wych arall fydd yn siŵr o roi gwên ar wynebau ffans Sŵnami ym mhobman. Ac ys dywed Americanwyr annoying – “if it ain’t broke, don’t fix it”. 7/10 Casia Wiliam
Tangnefedd Twmffat casgliad gwleidyddol
amrywiol yw’r diweddaraf gan Twmffat. Mae’r gerddoriaeth yn syml ond eto’n gyfeiliant llawn i’r geiriau, y stori a llais digamsyniol Ceri C. Y teitl drac – ‘Tangnefedd’, sy’n agor yn ddigon brawychus. Rhywbeth Beiblaidd sy’n dod i’r meddwl; llais yn herio fel rhyw greadur diafol-aidd a’r lleisiau cefndir, sydd yn gosod y riff i’r offerynnau’n gweddu’r naws eerie yn dda. Cyfalafwyr, Llywodraeth San Steffan a’r holl rymoedd sy’n llwyddo’n i’n twyllo yw’r ‘Diawl’ yn yr ail drac. Cyfeirio at dref yn Sbaen sydd wedi ei sefydlu fel co-operative mae ‘Marinaleda’, sy’n ein hatgoffa beth sy’n bosibl – “darn o dir sydd yn dyst ein bod yn mynnu byw” ond eto apathi yw’n hafiechyd ni. Mae’r gerddoriaeth yn ddigon syml eto, riff sydd yn parhau drwy’r gân ond sydd yn fwy up-beat a chyfandirol. Mae ‘Anti Lil’ wedyn yn dweud na allwn ni adael i bopeth ein cloi ni mewn bocs, mae’n newid cywair llwyr, yn werinaidd iawn. Yn y gân olaf y geiriau sy’n aros yw “ac os dwi’n gweiddi gawn nhw ddawnsio”. Yr awgrym yw os gwnawn ni weiddi digon uchel, gallwn ni newid y drefn. Dwi’n dawnsio i fît mwy popi, ac er bod rhaid ‘gwerthu allan’ a phrynu trwy gyfalafwyr anffodus (nes daw’r CD allan), mae’r ffaith ‘mod i’n dawnsio’n golygu bod hon yn gweithio - a’r mwyaf dwi’n gwrando, y mwyaf dwi’n dawnsio, canu a gweiddi . 8/10 Bethan Williams
Fukushima Ceffylau Lligwar mae’n rhaid i mi gyfaddef, cyn derbyn y record yma i’w hadolygu, doeddwn
i erioed wedi gwrando ar Ceffylau Lliwgar. Dwi ddim yn siŵr felly os oedd e’n beth da neu beidio i mi adolygu ei halbwm cyntaf ond un peth dwi’n sicr ohono ydy’r ffaith fy mod i wir wedi mwynhau. Er bod y sŵn wedi dyddio dipyn mae gan Fukushima gysondeb. Mae’n dynn, melodig ac amrywiol. Mae gan bron pob trac batrwm o ddechrau’n eithaf syml cyn datblygu i sŵn a chyfeiriad annisgwyl. Traciau canol y ffordd da sydd o dro i dro yn rhoi cic i’r pegwn amgen, sydd wir yn braf i’w glywed. Hawdd fyddai penderfynu cadw’r traciau yma’n syml ond gan iddynt fentro, maent wedi creu albwm unigryw i fod yn falch iawn ohoni. 7/10 Cai Morgan
Endaf Gremlin Endaf Gremlin albwm cyntaf y ‘supergroup’ Cymraeg - o’r diwedd! Ac mae’n ddifyr gweld y felys gybolfa o synau mae cymysgfa o aelodau Sibrydion, Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog, Yr Ods a Racehorses yn eu cyflwyno i ni ar record. Dwy anthem hafaidd sy’n agor y casgliad, ‘Pan O’n i Fel Ti’ a ‘Belen Aur’, y math o bop melodig sy’n aros yn eich pen trwy’r dydd. Esblyga’r casgliad yn floedd hegar, ‘Cân Wleidyddol’ - cic amlwg i’r hen rocers sy’n dal i fynnu bod angen dychwelyd at oes aur y canu protest. Gwelwn ambell i gân dywyllach gyffelyb, megis ‘Canlyniadau’, ond drwyddi draw, sŵn y synths a chaneuon pop cofiadwy sy’n britho’r casgliad. Hwiangerdd hudolus, ‘Uwch na’r Sêr’, a’i crescendo trawiadol sy’n dod a’r albwm i ben. Mae’n amlwg ar adegau pa aelod sydd wedi ysgrifennu pa gân. Ni fyddai ‘Banciau Bwyd’ allan o le ar albwm Yr Ods, ac mae ‘Frankie Wynn’ a ‘Falle, Falle’ yn nodweddiadol o steil Radio Lux/Racehorses. Ydy, mae’n gawl potsh o synau a dylanwadau, ond serch hynny,
adolygiadau dyma gasgliad gan gerddorion medrus a mentrus sy’n gwybod yn gwmws beth maent yn ei wneud. Heb os, dyma drac sain Haf 2014 a fydd yn dal i’ch cadw’n gynnes glyd drwy’r gaeaf. 8/10 Miriam Elin Jones
Cynt a’n Bellach // Dim Cyfrinach Candelas Mae Candelas erbyn hyn yn un o fandiau gorau Cymru – ar record ac wrth berfformio’n fyw. Felly, os does rhywbeth heb dorri, pam ei drwsio? Mae’r ddwy gân newydd - ‘Cynt a’n Bellach’ a ‘Dim Cyfrinach’ gan y band sydd newydd arwyddo gyda label I KA CHING, unwaith eto’n llwyddo i drosglwyddo ysbryd eu perfformiadau byw ar record. Mae’r riffs gitâr yn drwm ac yn heintus ac mae llais Osian Williams yn orchudd melfedaidd dros y cyfan. Mae mwy nag adlais o Queens of the Stone Age yn y canenuon, yn enwedig yn ‘Dim Cyfrinach’, ond dyw hynny ddim yn ddrwg o beth. A dweud y gwir, mae’n gwneud i mi hoffi’r band ’ma hyd yn oed yn fwy. Does dim amdani ond troi’r sŵn i fyny i un ar ddeg a dawnsio fel bod hi’n ddiwedd y byd. Da ’di Candelas. 7/10 Ciron Gruffydd
Gimig Mwnci Nel Mae hon yn albwm gerddorol iawn – caiff llwyth o offerynnau eu cymysgu, yn offerynnau traddodiadol fel ffidil, telyn ac ukulele ac yn synau synthesizer ac offerynnau taro, gyda lot o adeiladu synau ar ben ei gilydd. Mae’r cwbl yn cymysgu’n dda, fel y mae holl ganeuon yr albwm yn cymysgu i’w gilydd i greu casgliad sy’n gweithio. A mwy o gasgliad sydd yma na chaneuon unigol.
Y bîts a’r riffs sy’n clymu’r holl beth ac yn tynnu’r elfennau gwerinol, Indiaidd a hyd yn oed electro ar brydiau at ei gilydd. Yr offerynnau taro, ac mae eitha’ amrywiaeth ohonyn nhw, sy’n pwysleisio’r bît ac yn cadw pethau i fynd drwy’r rhan fwyaf o’r albwm. Yn ‘Catrawd Coesau’ mae hynny fwyaf amlwg – wrth i offerynnau ymuno ar yr off-beat ac mae lot o chwarae ynddi â sŵn llawnach. Mae’r bîts cryf yn golygu bod hi’n anodd eistedd yn llonydd wrth wrando ar hon. Gobeithio bydd e’n perfformio’n fyw – mae’n rhwydd dychmygu llond llawr o bobl yn symud gyda’i gilydd i’r synau ffync-aidd. Mewn sawl cân mae riff syml a pharhaus yn ffurfio cefndir i offerynnau eraill a llais Gwilym [Morus]. Mae sawl cân hefyd ble mae’r llais yn cael ei ddefnyddio fel offeryn a’r sŵn yn bwysicach na’r geiriau. Yn ‘Symud Ara’ mae lot o ailadrodd a digon rhwydd dychmygu symud ar donnau mewn llong yn ‘Llong ar y lli’. Yn fyw neu fel cyfeiliant cefndir dylai pawb allu mwynhau hon. 7/10 Bethan Williams
Aruthrol – The Joy Formidable Clwb senglau newydd gan y band mawr o ardal yr Wyddgrug yw Aruthrol. Cafodd ‘Yn Rhydiau’r Afon’ ei rhyddhau’n gynharach eleni a bellach mae’r ail yn y casgliad, ‘Tynnu Sylw’, allan ar record 7”. Rhaid nodi pa mor braf yw gweld band mor llwyddiannus yn rhyddhau deunydd Cymraeg. Mae’n ffasiynol iawn i fandiau droi at y Saesneg ar ôl profi ychydig o lwyddiant yn yr SRG, ond does dim llawer o fandiau wedi cael sengl yn 10 uchaf siart amgen America cyn rhyddhau eu deunydd Cymraeg cyntaf! Ar ben hyn, maent yn rhoi llwyfan i Gymry eraill trwy ryddhau trac gan fand
arall ar bob sengl. Roedd gan Colorama gân ar y gyntaf, a White Noise Sound ar yr ail. Ta waeth am hynny, beth am y gerddoriaeth? Adeiladwaith digon tebyg sydd yna i’r ddau drac, traciau tua chwe munud yn dechrau eithaf araf cyn datblygu’n raddol i crescendo o roc pur. Dwi’n mwynhau riff cytgan ‘Yn Rhydiau’r Afon’ ac mae yna ddarnau difyr yn y bridge hefyd ond mae yna gyfnodau diflas ar ddechrau’r gân sy’n ei gwneud yn rhy hir i mi erbyn y diwedd, er mai gorau po fwyaf dwi’n siŵr fydd agwedd unrhyw wir ffan. Mae’n well gen i ‘Tynnu Sylw’ gyda’i naws Asiaidd fysa ddim allan o le ar drac sain ffilm martial arts. Mae hon yn ‘cicio i mewn’ go iawn yn y munud olaf ac fe fyswn i wrth fy modd clywed The Joy Formidable yn ei pherfformio hi’n fyw. 7/10 Gwilym Dwyfor
Bwyd, Bwyd, Bwyd – Just Gethin Ym, dwi newydd wrando ar ‘Bwyd, Bwyd, Bwyd’, sengl gyntaf Just Gethin, a dwi’n gegrwth. Dwi ddim yn siŵr os ydi’r band yma o ddifrif neu jyst yn cael lot o hwyl. Mae’n anodd dweud. Mae enw’r band wedi ei ysbrydoli gan enw cymeriad o Bobol y Cwm, ac mae’r gân yn sôn am amryw fwydydd gwahanol. Chwarae teg mae wedi llwyddo i godi awydd bwyd arna i, ond, ydach chi’n cofio Derec Brown - Ha Ha Ha? Mae’r gân yn f’atgoffa i o’r caneuon oedd ar y tâp yna, tâp oedd yn un o ffefrynnau plant tŷ ni pan oedden ni’n fach, ac mae hynny’n dweud y cyfan. Fydd plant pump oed wrth ei boddau efo’r gân yma, a phobl efo mynshis. Fysa hi’n cael 9/10 gan Casia 5 oed, ond... 3/10 Casia Wiliam
www.twitter.com/prifysgolbangor www.facebook.com/PrifysgolBangor
PRIFYSGOL BANGOR YN ARWAIN AR Y GYMRAEG Ffôn: 01248 382005/383561 E-bost: marchnata@bangor.ac.uk
www.bangor.ac.uk
• Y gorau yng Nghymru ac yn y 7 uchaf ym Mhrydain* am foddhad myfyrwyr • Mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru • Neuadd Gymraeg a sicrwydd o lety i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf • Bywyd cymdeithasol Cymraeg heb ei ail. Aelodaeth am ddim o glybiau a chymdeithasau myfyrwyr • Ysgoloriaethau Mynediad a Bwrsariaethau ar gael *ymhlith prifysgolion traddodiadol sy’n cynnig ystod eang o bynciau
Gwlad yr Astra Gwyn 9.30 14 Tachwedd Trafferth mewn tacsi – comedi’n dilyn helyntion Trefor a’r criw. s4c.co.uk
Y Selar 2014_Final.indd 1
23/10/2014 17:03
Mae Gorwelion yn gynllun gan BBC Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes annibynnol, newydd yng Nghymru
Pob lwc iddyn nhw yn ngŵyl Eurosonic yn yr Iseldiroedd fis Ionawr. Ewch i’r wefan i ddilyn eu taith - bbc.co.uk/gorwelion
Sŵnami – un o 12 artist Gorwelion 2014
bbc.co.uk/gorwelion